Drain a Blodau/Y Gauaf
| ← Teisen Nadolig Fy Mam | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Peidiwch Diwreiddio'r Blodyn → |
Y GAUAF.
Ar goryn y mynydd
Mae'r gwynt yn oer,
Tra'r cymyl yn orchudd
Dros wên y lloer;
Mae'r neint wedi rhewi
Wrth odreu'r bryn,
A'r nos yn pryderu
Ar lan y llyn.
Ar waelod y dyffryn
Saif nifwl gwyn,
Ond gwynach yw'r eira
Ar lethr y bryn;
Mae'r graig ar ei gorsedd
Ger llaw yr allt,
A'r troellwynt gauafol
Yn cyrlio'i gwallt.
Di-addurn yw'r meusydd
Heb flodau cain,
A noeth ydyw lletty
Y dryw mewn drain;
Os collodd y dolydd
Eu hafol swyn,
Mae'r gwanwyn yn aros
Ar lesni'r brwyn.
Ceir ambell i frwynen
Mewn storom gref,
Yn cadw'i chymmeriad
Mor bur a'r nef;
Diflanodd y rhosyn
A'r lili wen,
Cyn crino o'r ddeilen
Ar frig y pren.
Y banau cyfagos
Sy'n llwyd eu gwedd,
Fel gweddwon hiraethus
Ar lan y bedd;
Pan gollodd yr adar
Yr hafaidd wawl,
Fe beidiodd eu hysbryd
A chanu mawl.
Mi welaf y brithyll
Mewn gloyw ddw'r,
Yn nofio'n hamddenol,
Heb gadw stwr;
Fe gysga'r gwybedyn
Mewn marwol hedd,
Pan ddychwel y gwanwyn
Daw'n rhydd o'i fedd.