Drain a Blodau/Y Goeden A Blanodd Fy Nhad
| ← Y Gornant | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Mae'r Blodyn Etto'n Fyw → |
Y GOEDEN A BLANODD FY NHAD.
'Rwy'n cofio awr dy blanu,
Goeden dlos,
Cyn machlud haul y wybren
Gyda'r nôs;
Yn blanig' ystwyth union,
Merch y wig,
A gobaith y dyfodol
Ar dy frig.
Ce'st glawdd yr ardd i'th noddi
Rhag y gwynt,
A godwyd gan dy blanwr
Ddyddiau gynt:
'Rwyt heddyw'n uchel odiaeth,
Myrdd o ddail
Chwareuant ar dy gangau
Bob yn ail.
Yn nghysgod dy gadernid
Minnau sydd
Yn hoffi cael tawelwch
Hwyr a dydd;
I syllu ar dy fawredd
Is y nen,
Yn cyfarch byd anfarwol
Uwch fy mhen.
Oddi rhwng dy frigau tirfion
Clywodd mau
Aderyn du yn canu
Amser hau;
Pe gallwn ddal y bychan
Un o'r llu,
Mi wylwn ddagrau diolch
Ar ei blu.
Am iddo ef gyssegru
Yn y wlad,
Y goeden hardd a blanwyd
Gan fy nhad,
Rhof finnau ar fy nhelyn
Dyner dant,
Yn ddiol'chg'arwch calon
Tros fy mant.