Drain a Blodau/Y Graig Fawr
Gwedd
| ← Ar y Traeth | Drain a Blodau gan Arthur Morgan |
Tic Fy Oriawr → |
Y GRAIG FAWR.
Goludog yw gwaelodion—y graig fawr,
Gwyrawg fud, ei throion;
A llwyfan serth prydferthion
Y grug hardd, yw y graig hon.
O oes i oes y Saeson—ofynant
Am fwnau'i choluddion;
Man oer llaith, y mwnwyr llon
Ymchwiliant am ei chalon.