Drain a Blodau (testun cyfansawdd)
| ← | Drain a Blodau (testun cyfansawdd) gan Arthur Morgan |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Drain a Blodau |


Drain a Blodau,
sef
Gweithiau Barddonol.
♣
ARTHUR MORGAN
(ANEURIN LLWYD),
CWMYSTWYTH.
♣
DOLGELLAU:
ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS.
1912.
RHAGYMADRODD.
Anwyl Gyd-genedl,—
Gwedi troi heibio amryw gymhellion o eiddo fy hoff gyfeillion, ond nid heb feddwl am danynt eilchwyl, daethum o'r diwedd' i'r penderfyniad i wneuthur y gyfrol seml hon yn hysbys i'r cyhoedd, gan obeithio y bydd i bob darllenydd' ieuangc a hen, gyfranogi o'r un pleser a gafodd yr Awdwr wrth gyfansoddi ei chynwys, a'u parotoi i'r wasg.
Yr eiddoch,
ARTHUR MORGAN.
Dyfyniadau o Gymeradwyaethau y Wasg
'Cwyn Coll.'—Rhagorol, yn lân ac i'r pwynt, ac yn glynu wrthom ar ol eu darllen. Melus, moes mwy.
'Gwanwyn Serch.'—Melus fel y dil mel; mor wir y dywed y bardd, onid e. ein bod yn byw mor ddi-feddwl—
'A hydref mor agos i wanwyn.'
S.—Yr Haf.—Cyfres o bennillion rhagorol yw y rhai hyn. Y mae y disgrifiad yn dda, ac yn cael ei roddi mewn iaith goeth, a'r accen a'r odlau yn cael gofalu am danynt yn fanwl. Y mae yn hyfrydwch genym weled a darllen gwaith y bardd hwn, gan mor ragorol y gwna ei waith. Y mae swyn yn ei waith sydd yn peri i ni ei ddarllen yn fanwl, ac yr ydym yn llawenhau yn ei lwyddiant. Deued yma yn fuan etto.
'Roedd gwi'ber yn y nŷth.'—Cân ddarllenadwy, fel pobpeth a ddaw o Law y bardd a'i neges yn ddychryn enaid i bob hen langc. A ddarlleno ystyried.
'Rwy'n cofio am y tro.'—Mae barddoni i'r bardd hwn môr hawdd ag anadlu. Gwelir hyn yn amlwg yn y ganig dlos hon. a dylai ei darllen yn ystyriol fod yn wers i lawer bachgen yn Nghymru. ' Melus, moes mwy.
B.—'Cenfigen'.—Cana y bardd hwn gyda llawer iawn o feddylgarwch. Y mae galluoedd ei feddwl yn ddihysbydd, a chanddo gyflawnder o iaith—y geiriau goreu i osod allan y meddyliau hyny yn eu grymusder, a bâr i bwy bynag a'i darlleno i deimlo ei fod o ddifrif. Ceir ganddo amryw o linellau fel hyn—ar ffurf diarhebion; megys—
'Draenen lêm yn ffugio'r rhosyn
Dan ddylanwad ysbryd drwg.'
'Cydymdeimlad wedi rhewi,
Barn a rheswm dan dy draed.'
'Pa sawl beddrod anamserol
Dorwyd o dy achos di?'
Os ymrŷdd y bardd hwn i gyfansoddi gwna ei farc yn amlwg yn y man. Cofion ato hyd y penelin.
'Teisen Nadolig fy Mam.'—Bydd yr hen fam yn falch o syniad uchel y bardd am dani fel cogyddes. Mae y gân, fel y deisen, yn flasus. Eraill i dd'ilyn.
'Does neb fel mam.'—Tyner a melus odiaeth. Pwy na wylai yn hidl, mewn diolchgarwch pur wrth gofio gofal digyffelyb mam.
'Ffordd i lwyddiant.'—Cymeradwy ac addysgiadol iawn. Rhwydd hynt i'r cynghorion ar eu hunion i galon darllenwyr ieuaingc—y Faner.
M. ac S.—Y Goeden a Blanodd fy Nhad.—Pennillion rhagorol, yn darllen fel Salm. Cana yn rheolaidd, gan wneyd detholiad o'r geiriau goreu yn yr iaith i osod allan ei feddyliau. Mae 'Pengoch ' yn dweyd ' ar air a chydwybod ' pe bae yn agos ato buasai yn curo ei gefn am ei gân ragorol.
S.—'Y Merthyr.'—Pedwar pennill tlws: y syniadau yn glir, a'r iaith yn gref a glân. Brysied y bardd yma etto.
Swn brwydr glywir yn nhelyn y bardd y tro hwn; diau ei fod yn taro llinyn y Cymro y dyddiau hyn yn mrwydr fawr gormeswyr pena' ein hynys.
'Trem yn ol.'—Trem swynol dros ben; 'true to nature,' ys dywed Wil Bryan, a chroesaw i'r bardd yn adseinio y llethrau.
S.—Dyffryn Milwyn—Darn campus ydyw hwn. Y mae y bardd wedi ymroddi i waith, ac yn dyfod allan yn ei rymusder, gan ymdaith yn amlder ei rym. Ceir ganddo ddisgrifiad byw a gorphenol o'r dyffryn.
Y mae ei syniadau yn aruchel, a'r cyflead yn chwaethus, a'r iaith yn farddonol. Synir ni gan ei fedr deithyddol, a'r modd y mae yn cyfleu ei meddyliau.
Ar ei ymweliad cyntaf â Parnasws darfu i ni ei hoffi yn fawr, oblegid eangder a nodweddion ei syniadau. Buom yn hir yn disgwyl ei ail ymweliad; ond yr oeddym yn ofni ei fod wedi myned i ryw gyfeiriad arall; ond er llawenydd i ni, wele ni wedi cyfarfod etto. Yr ydym yn llongyfarch ei awen am y modd rheolaidd a phriodol y mae y dyffryn wedi ei bortreadu i ni—y syniadau, yr iaith, yr accen, a'r odlau—oll yn orphenol. Melus, moes mwy.
S.—Dim.—Ie, dim ydyw dim. chwedl Robert Thomas, Llidiardau. Dyma feddyliwr dan gamp. Nid yw ei odliadau yn dda. Yn y penill cyntaf ceir nen, yn odl;i gyda nen, ac yn y pennill olaf—rym a dim; ond y mae hwn yn fardd da, ac os a yn mlaen, gwna wrhydri yn y man. Cofion ato.
S.—Afon Ystwyth.—Cân odidog ydyw hon. Y mae y bardd hwn mor gyflawn o eiriau odliadol a'r hen Ddoctor William Owen Pughe, gynt. Y mae y disgrifiad a rydd o'r afon yn ddifyrus i'w ddarllen, yr iaith yn goeth—geiriau goreu yr hen Gymraeg, a'r rhai hyny yn ymdoddi i'w gilydd gyda swyn, mewn sain berorol i'r glust a'r galon Gymraeg. Y mae y pennill olaf yn cynnwys moes-wers ragorol i'r ieuengctyd hawddgaraf i ddilyn yr afon, a gwrandaw ar eu halawon, &c. Llongyfarchwn yr awen am ei chân; nid rhyfedd ei bod yn fddugol. Cofion lawer ato. Deued yn fuan etto.
S—Tic yr Oriawr.—Y mae yn dda iawn genyf gyfarfod â'r bardd hwn unwaith etto. Y mae yn canu yn feddylgar a threfnus; yn llenor gwych, fel y dengys ei waith; ac yn fardd o anian. Y mae y gân hon yn werth ei darllen. Deued yma yn fuan etto.
M ac S—Cariad.—Testyn tlws, ac y mae awen y bardd yn ymhoywi ar ei hedyn euraidd i'w ddisgrifio, a llwydda i raddau helaeth iawn. Yr ydym yn mawrihau ei awen o herwydd rhagoriaeth ei ganig swynol. Croesawn ef i 'Parnasus' yn fuan etto.
S—Celwydd bob gair.—Y mae y bardd hwn yn adwaen y byd yn dda, a rhydd ddisgnifiad byw ac eglur o hono onewn iaith goeth, ac y mae yn diweddu yn rymus ac effeithiol.
S—pennillion y D.D.—Wedi digio yn enbyd y mae y bardd wrth y teitl; ond y mae yn cadw yn weddol mewn tymmer ac iaith wrth drafod y testyn. Nid yw y rhai hyn i fyny â'r rhelyw o gynhyrchion y bardd. Tipyn o hwyl, yn ddiau, sydd mewn golwg.
S—Cariad Crist.—Pennillion campus 'sydd gan y bardd hwn; y mae y symmudiadau yn gryfion gloywon, a barddonol. Gwyr yn dda pa fodd i wneyd pennill. Y mae yr awen a'r odl yn orphenol.
'I'r lan.'—Dyma gyffyrddiad y gwir fardd. O! mor felus! Mae gorhoian y croesaw yn llenwi'r llethrau.
Rhagorol, yn wefreiddiol drwyddi; rhagor o'i. thebyg yw dymuniad ein calon.
Yn y llwyni rhain, ddarllennydd!—oeda
Gyda chnydau'r meusydd;
Cais wênau y "blodau" blydd,
A "drain" blodau'r awenydd.
Hael awen hyd nôs-welyau—ei thir,
Gân ei thég garolau;
Boed eto'n dod, glôd yn. glau
I awdwr "drain a blodau."
Crwydra dros y maes ddarllenydd,
Sylll ar ffrwythlawn gnwd Awenydd,
Cerdd yn ddwys mewn myfyrdodau,
Fe dry'r drain. yn "gnwd o flodau."
DRAIN A BLODAU.
EISIEU MWY.
Eisieu mwy yr wy' o hyd—eisieu byw,
Eisieu bod mewn iechyd;
Eisieu mawr yw eisieu myd—ymroddi
I gofio'r weddi a'i gyfarwyddyd.
Cyfarwyddyd nefol olau—i fyn'd
I fwynhau y seintiau;
Rhag y drwg a'i rwyg droiau
I fôr o hedd i'w fawrhau.
Arglwydd Iôr, fy mrawd gorau—dyro'n awr
Dy rinwedd i'm clwyfau;
A derbyn fi, briddyn brau,
Baich ydwyf o bechodau.
Drwy guro am drugaredd—'r wy'n meddwl
Maddeuir fy nhrosedd;
O! dyro haul, Awdwr hedd,
Drwy niwlog dir anialedd.
Ar fy neulin er fy nolur—plygaf,
Pa le gwell i flagur;
Ceisiaf etto er cysur
Gadw o'r pwll gyda'r pur.
Wele fi o waelaf fod—Iesu mawr,
Eisieu mwy o'th gysgod;
Arwain wan bererin od
Draw i randir y Drindod.
PRYDFERTHWCH.
Cyn i bechod wneuthur difrod
Ar diriogaeth natur dyn,
'Roedd cymmundeb o brydferthwch
Rhyngddo ef a Duw ei hun;
Perarogli wnai ei fywyd
Hyd nes boddio calon Duw,
Wrth wel'd darlun o'i gymmeriad
Yn y byd yn dechreu byw.
Nid oedd gofid, poen, na chystudd
Wedi cyffwrdd dim a'i hedd,
Ac ni welodd neb yn tywallt
Deigryn cariad ar un bedd:
Cysgai'r nos mewn diniweidrwydd,
Dan brydferthwch gwawl y lloer;
Heb arwyddion cysgod angeu
Ar ei ruddiau'n welw oer.
'Rol di-huno gyda'r wawrddydd,
Rhodiai gydag ysbryd llon,
Ac ni wyddai beth oedd henaint
Chwaith na blinder dan ei fron:
Er yn ddyn nid oedd yn gwybod
Etto am bigiadau'r ddraen,
Nefoedd o brydferthwch welai
Yn ymagor draw o'i flaen.
Cafodd gydmar bywyd. addas,
Tecach fil na'r lili dlos,
Ond yn cuddio dan ei harddwch
Yr oedd sarph dywylla'r nos;
Daeth a boreu hir ofidus.
Iddo i'r baradwys wen,
Gwedi iddo orphen bwyta
O brydferthwch ffrwyth y pren.
Bum yn chwilio am brydferthwch
Yn fy nhrallod wedi hyn,
Heb ei gael' yn llanw'i ystyr,
Ond ar ben Calfaria Fryn:
Cariad Duw wrth geisio dangos
Ei brydferthwch yn y Nef,
Fynnodd ddod i'r croesbren garw
Yn rhyferthwy'r storom gref.
Dedwydd yw y gwr sy'n teimlo
Fod y croesau iddo'n falm,
Gydag ysbryd maddeugarwch
Dan ei fron yn canu salm;
Hawdd yw canu pan fo'r Nefoedd
Ar y ddaear gyda dyn,
A'i ffenestri yn agored
I gyfeiriad Duw ei hun.
'Roedd ewyllys dyn mor brydferth,
Megis eiddo Duw ei hun,
Cyn i bechod anufudd-dod
Wlawio llygredd ar ei ffun;
Ond er hyny dal i wyro
Mae ewyllys dyn o hyd,
A gadawa wir brydferthwch
Am bleserau coll y byd.
Draw ar fryniau anfarwoldeb
Wele'r saint yn dechreu byw,
Ar ol gwledda mil o flwyddi
Ar brydferthwch cariad Duw;
Oddiuchod daw'r bendithion
Sy'n prydferthu'r anial cras,
Ni wrthodir neb a'u ceisio
Ar eu glun wrth orsedd gras.
Gorsedd ddwyfol ei dylanwad,
Agos ydyw attom ni;
Erys 'hon pan fyddo'r ddaear
A'i gorseddau'n colli'u bri;
Y mae cariad Duw mewn heddwch
Yn blodeuo 'gylch ei dor,
A'i faddeuant yn rhagori
Ar brydferthwch llanw'r môr.
Dringaf, dringaf ar fy neulin
Heibio i brydferthwch sêr,
Heibio'r haul a'r lleuad welw
Welir yn y wybren dêr;
Treulio allan wna'u prydferthwch
Megis eiddo goreu'r llawr,
Sydd o'm hamgylch yn prydferthu
Llwybrau'r greadigaeth fawr.
Llawer storm sy'n chwythu'n erwin
Dros fy oes nes peri braw,
Ond mae gennyf un a'm ceidw
Etto'n brydferth yn Ei law;
Glynaf, glynaf wrth Ei gariad,
Doed a ddelo i fy rhan,
Credaf ynddo os yw'm henaid
Heddyw'n garpiog llesg, a gwan.
Nid yw'r llwydrew oer yn ofni
Gwywo dail y lili wen,
Nid yw'r storm yn ofni difa
Addfed ffrwyth yr irdwf bren;
Minnau'r gwaelaf un o'r lluaws,
Ar fy nhaith drwy demlau cerdd,
Sydd yn ofni attal tyfìant
Bywyd hardd y ddalen werdd.
Holi, holi mae y gwlithyn
Am brydferthwch blagur-dardd,
"Chwilio gem a chael y gwmon,"
Dyna dynged llawer bardd;
Holi, holi mae'r afradlon
Am fwynderau'r estron wlad,
Chwilio perl a chael y cibau
Gwedi gadael tŷ ei dad.
Holi, holi wna'r bydolddyn
Am ei hunan is y Ne',
Chwilio mêl a chael y wermod,
Croes i'w natur yn ei le;
Holi, holi bydd ei falchdter
Am yr aur a'r sidan gwyn,
Chwilio palas, cael y "Bwthyn
Bach to gwellt" wrth droed y bryn.
Holi, holi mae'r ddynoliaeth
Am brydferthwch celf a dysg,
Chwilio clod a chael marwolaeth
Anamserol yn eu mysg.
Methodd llu o engyl Gwynfa
Ddal prydferthwch goreu'i ryw,
Magwyd balchder yn eu calon
Barodd iddynt golli Duw.
Ar derfynau gwlad y ddaear
Wele hwy yn agor bedd,
I brydferthwch y ddynoliaeth
Greodd Duw ar ddwyfol wedd.
O! brydferthwch cyfareddol,
Mor ddeniadol wyt i gyd;
Tra bo'r ddaear yn ffnvythloni,
Harddwch ddeil i lanw'r byd;
Deil y gwlithyn i arianu
Dail y 'blodau yn y cwm,
Ac i greu barddoniaeth newydd
Ar lechweddau'r mynydd llwm.
Deil yr haul o'r uchelderau
I arialu'r rhoslwyn brith,
Ac fe rydd ei wres i'r ddaear
Yn gyfnewid am y gwlith;
Ar ei gorsedd bell gyrhaeddol,
Yn cydbesi gyda'r sêr,
Y mae'r lleuad yn prydferthu
Llwybrau'r nos o'r wybren dêr.
Llifo, llifo mae yr afon
Nos a dydd mewn llawen hwyl,
A niferu o berorion
Ar ei glan yn cadw gwyl;
Chwery'r awel fwyn ei thelyn
Gyda'i murmur yn y côr,
Tra mae'r nifwl gwyn boreuol
Yn prydferthu'i thaith i'r môr.
Dacw ddeilen dan ei harcholl
Ar ei glan yn welw syn,
Gwedi'i herlid o'i pharadwys
Yn amddifad dros y bryn;
Daeth y storm i dori'r undeb
Rhwng y pren a'r ddeilen wyw,
A phydferthwch ei gwyrddlesni
Wedi colli delw Duw.
Hyn fu tynged y briallu
A'r rhosynau mwyaf tlws,
Welais gyntaf yn prydferthu
Llwybrau naboed gylch fy nrws;
Tyfu'n gryfion yn y gwanwyn
Dan belydrau'r haulwen braf;
A'u prydferthwch yn macliludo
Un ac oll pan ddarffo'r hâf.
Hen Feibl mawr fy mam,
A'r merthyr yn y fflam;
Byw fyddant hwy:
Pan wywa'r blodau i gyd
Ar derfyn oes y byd,
Byw fyddant hwy.
Prydferthwch y creigiau yn ymyl y môr,
Yw datgan cadernid anfeidrol yr Iôr.
Ac eiddo y corwynt wrth ysgwyd y coed,
Yw methu dadwreiddio y derw erioed.
Prydferthwch cymmeriadyw calon ddi-frad,
A honno yn cadw gorchymynion ei thad.
Ac arall cael undeb heb arfer y cledd,
A'i ddaufin yn rhydu gan henaint i'r bedd.
Prydferthwch y ffynnon wrth fyn'd ar ei rhawd,
Yw llifo ei dyfroedd i phiol y tlawd.
Nid rhyfedd fod y frwynen,
A hithau'n eiddyl wan,
Yn cadw swyn bodolaeth hâf
Yn ieuangc ar ei glan.
Mae undeb rhwng prydferthwch
Y ddaear las a'r nen,
Mae undeb rhwng caniadau
Yr adar ar y pren;
Pe byddai modd cael undeb
Rhagorach rhwng y byw;
Blodeuai cymdeithasau'r byd
Yn fwy ar ddelw Duw.
O Dduw y mae prydferthwch
Y ddae'r i gyd a'r nen,
O Dduw y mae prydferthwch
Y coed a'r lili wen.
Pan gaffo Duw ein llanw
A'i fywyd pur i gyd,
Daw blodau gwynion gras y nef
I berarogli'r byd.
Y CWMWL.
(Cyd-fuddugol yn Goginan y Groglith, 1907)
Daearol darth yn esgyn i'r laswawr froydd têr
Yw'r cwmwl ansefydlog, orchuddia fyd y ser;
Ei dduwch sy'n arwyddo brawychus dymestl flin,
A'i wynder yn arwyddo fod yn canlyn dawel hin;
Crwydredig yw ei hanes, a'i gerbyd wrtho ynglŷn,
Yn cyflym deithio llwybrau gwynt, fel meddwl gwamal dyn;
Ei sylwedd sydd yn lleitbig, a chanmoladwy iawn,
Ac wrtho rhaid eî fam o hyd cyn rhoi ei ffrwyth yn llawn.
Plumlumon er mor uchel, mae'r Wyddfa'n uwch i'r nen,
A'r cwmwl fel henafgwr wallt yn wendorch gylch ei phen;
Fel gemau gwisg priodas mae'r sêr ar doriad gwawr,
Yn dwfn arianu'i dywell fron uwch ben eangder mawr;
Y lleuad, trwy'i rigolau, oleua yn y nos,
Tra'i gysgod yn tramwyo'r bryn, a brig y graig a'r rhos;
Caredig gymmwynaswr, mae'n gwlitho'r mill araul,
Mor dda yw cwmwl yn yr hâf i leddfu gwres yr haul.
Mae weithiau'n anweledig—nid oes ond awyr iach,
A'r eangderau drodd yn nef gan fawl ehedydd bach;
Yr haul wrth fvned heibio draw i'r gorllewin Haith
A'i sugnodd ef i oeri gwrid ei wyneb ar ei daith;
O'r gogledd daw un arall, y gauaf oer, di-hedd,
Fel rhyw ysbiwr gvda'r hwyr, a dychryn ar ei wedd;
Mae prudd-der yn ei lygad tra'i wên yn welw syn,
A'i ddagrau'n rhewi ar ci rudd yn ddail o eira gwyn.
'Mae deddf y Nef yn rhwymyn o gylch ei odreu crwn,
Nid oes ond ei ewyllys Ef all agor dorau. hwn;
Pan fo gwyryfon natur yn colli'u tegwch braf,
Mae gweddi'r ffydd yn ddistaw bach yn nghanol sychder hâf,
Yn dringo rhiwiau'r cwmwl, i'r wlad tu hwnt i'r llen,
Ac ar y ffordd ni feiddia'r mellt flaen-ddeifio'i haden wen;
Daw yn ei hol â bendith dymmhorol yn ei llaw,
A bydd pob eiddil flagur dardd yn moli'r dafnau gwlaw.
Y GORNANT.
Llifo'n frysiog mae y gornant
Mewn tangnefedd tua'r môr,
Llifo dros y creigiau geirwon
Gyda digon nerth yn 'stor;
Llifo cyn i'r blod'yn ieuangc
Wneyd ei gartref yn y wlad,
Llifo cyn i fôd rhesvmol
Golli'i fifordd i dŷ ei Dad.
Merch y ffynnon loyw landeg
Gwelaist lawer tro ar fyd,
Cyn i amser gychwyn siglo'r
Mil blynyddoedd yn ei gryd;
Er it gwrdd âg anhawsderau
Melus etto yw dy gân,
Di-ofidiau yw dy donau
Wrth fyn'd dros y graian mân.
Ton yn galw ton i ddawnsio
Ar y meini mawrion trwm,
Gyda'u murmur yn adseinio
Drwy ddistawrwydd pell y cwm;
Plygu'n wylaidd ar dy lanau
Mae'r glaswelltyn irdwf cain,
Mor daweled yn ei fywyd
Dan gysgodau'r llwyni drain.
Oes mae llwybrau'r hyd dy lenydd,
Llwybrau'n myd yr awyr iach,
Cerddaf arnynt gyda'r hwyrnos
I wel'd nŷth aderyn bach;
Yna mae y llon ei lygad
Yn mwynhau ei ddedwydd fyd,
Ni ddaw neb i ofyn ardreth
Am ei fwthyn bychan clyd.
Gornant fwyn mae genyt galon
Yn nirgelion daear Duw,
Hwnt i nebun ellir canfod
Eigion cudd dy darddiad byw;
Mae dy hanes drwy yr oesau
Yn deffroi y meddwl gwan,
Meddwl am y caredigrwydd
Sy'n dwyfoli'th ewyn can.
Y GOEDEN A BLANODD FY NHAD.
'Rwy'n cofio awr dy blanu,
Goeden dlos,
Cyn machlud haul y wybren
Gyda'r nôs;
Yn blanig' ystwyth union,
Merch y wig,
A gobaith y dyfodol
Ar dy frig.
Ce'st glawdd yr ardd i'th noddi
Rhag y gwynt,
A godwyd gan dy blanwr
Ddyddiau gynt:
'Rwyt heddyw'n uchel odiaeth,
Myrdd o ddail
Chwareuant ar dy gangau
Bob yn ail.
Yn nghysgod dy gadernid
Minnau sydd
Yn hoffi cael tawelwch
Hwyr a dydd;
I syllu ar dy fawredd
Is y nen,
Yn cyfarch byd anfarwol
Uwch fy mhen.
Oddi rhwng dy frigau tirfion
Clywodd mau
Aderyn du yn canu
Amser hau;
Pe gallwn ddal y bychan
Un o'r llu,
Mi wylwn ddagrau diolch
Ar ei blu.
Am iddo ef gyssegru
Yn y wlad,
Y goeden hardd a blanwyd
Gan fy nhad,
Rhof finnau ar fy nhelyn
Dyner dant,
Yn ddiol'chg'arwch calon
Tros fy mant.
MAE'R BLODYN ETTO'N FYW.
Wrth ymyl ffrydlif loyw
Adwaenwn lecyn glâs,
Ac arno tyfai blodyn tlws
Dan nawdd y borwellt frâs;
Bu'm llawer tro yn chwareu
Ar drothwy'i swynol fyd,
Pan oedd fy awen yn rhy wan
I ganu yn ei chryd.
Brydhawngwaith dechreu Ebrill
Daeth adgof am a fu,
I'm harwain tua'r fangre hoff
Lle tyfa'r blodyn cu;
'Doedd yno ddim ond ysbryd
Y gauaf ar bob llaw,
Ac ambell i aderyn bach
Yn canu yn y gwlaw.
Bu'm yno fel ysbïwr
Yn rhodio ennyd awr,
Gan wneyd ymchwiliad am ei fedd
Eneiniodd gwlith y wawr;
Sibrydai'r awel wrthyf
Ar ei gwanwynol hynt,
Fod awr ei adgyfodiad gwyn
Ar wawrio megys cynt.
Pan ydoedd Mai yn cadw
Ei gyngherdd yn y coed,
Daeth i fy meddwl fod! y byd
Mor ieuangc ag erioed;
Prydferthwch fel yn synu
Ger bron daioni Duw,
Ac yn ei ganol ger y ffrwd
Mae'r blodyn etto'n fyw.
TYRED WANWYN.
Tyred wanwyn,
Mae'r aderyn,
Ar y brigyn
Gyda'i delyn,
Yn dy ddisgwyl, tyr'd.
Gwrid y rhosyn
Ddena'r gwenyn,
A'r pêr wlithyn
Sugna'r egin,
Tyred, wanwyn tyr'd.
Eurawg huan
A rydd gusan
Ar rudd anian,
Gwerddlas goedlan,
Tyred, wanwyn tyr'd.
Pêr garolau
Yn y borau,
Ganant awdiau
Ar y brigau,
Wanwyn, anwyl, tyr'd.
Melus odiaeth
I'w 'u peroriaeth,
Trefn Rhagluniaeth
Ro'dd ddysgeidiaeth
Iddynt, wanwyn, tyr'd.
Fry mae'r hedydd
Uwch y gweunydd,
Uchel fynydd
'N seinio' clodydd,
Tyred, wanwyn, tyr'd.
Oes mae swynion
A chyfrinion
Yn dy galon
Eurawg goron,
Tyred, wanwyn, tyr'd.
Nis gall calon
Daearolion
Am dy swynion
Ddiolch digon,
Tyred, wanwyn, tyr'd.
Brieill cochion
Glân teleidion,
Gruddiau lwvsion
Lliw Rhianon,
Ydynt, wanwyn, tyr'd.
Croesaw iti
Ebai'r lili
Lân y gerddi,
Paid ac oedi,
Tyred, wanwyn, tyr'd
Maws awelon
Rydd i'r cleifion,
Wanwyn tirion,
Arall galon,
Tyr'd yn fuan, tyr'd.
Nos da heno
Rhaid noswylio,
Gan obeithio
Y câf ddeffro
Ar draeth y gwanwyn gwyrdd.
GYDA'R HWYR.
Mi welais goeden unig,
Gyda'r hwyr,
A'r dail yn wyrddlas irdeg,
Gyda'r hwyr;
Ac ami 'roedd aderyn,
A hwnw'n ddu bigfelyn,
Soniarus oedd ei delyn,
Gyda'r hwyr;
A'i nefoedd ar y brigyn
Gyda'r hwyr.
Mi welais rosyn prydferth,
Gyda r hwyr,
Yn gwywo yn y llwydrew,
Gyda'r hwyr;
Edrychais dan ei aeliau,
A gwelais gysgod angau,
Yn dyweyd heb dori geiriau,
Gyda'r hwyr,
Mai byr yw f'einioes innau
Gyda'r hwyr.
Mi welais fwthyn glanwedd,
Gyda'r hwyr;
Wrth droed y bryn cyfagos,
Gyda'r hwyr;
O'i fewn 'roedd merch amddifad,
A deigryn yn ei llygad
Yn dod o ddyfnder cariad,
Gyda'r hwyr,
Dolurus oedd ei theimlad,
Gyda'r hwyr.
Mi welais yn y fynwent.
Gyda'r hwyr,
Ddwy fedd o dan yr ywen,
Gyda'r hwyr;
Darllenais ar y meini,
Hoff enwau ei rhieni,
Ac yno ce's oleuni,
Gyda'r hwyr,
Ar galon bron a thori
Gyda'r hwyr.
Mi welais fam rinweddol,
Gyda'r hwyr,
Yn rhodio'r byd siomedig
Gyda'r hwyr;
Tra'i phriod yn y dafarn,
A'i serch fel darn o haiarn,
Dan warth y ddiod gadam,
Gyda'r hwyr,
A'i wyneb tua'r gollfarn,
Gyda'r hwyr.
Mi welais weithiwr diwyd,
Gyda'r hwyr,
Yn trin y ddaear onest,
Gyda'r hwyr,
Ger llaw ei wyneb gwladol,
A hwnw'n chwys dyferol,
'Roedd egin glâs yn canmol,
Gyda'r hwyr,
Holl lafur ei orphenol,
Gyda'r hwyr.
UGAIN OED.
Yn frysiog, frysiog cerddais,
Yn hogyn ar fy nhaith,
Cyn sylweddoli fod y byd
Yn llawn o droion maith;
Yn mlaen 'r oedd nôd fy mywyd
Tra'n ysgafn ar fy nhroed,
Gan dybied1 byddwn i yn ddyn
'R ol cyrhaedd ugain oed.
Drain a Blodau.
Aeth blwyddyn ar ol blwyddyn
At rif y rhai a fu,
A chodais gestyll, uchel, heirdd,
Heb un ysmotyn du;
Tu cefn i'm holl fwriadau
'Roedd bwriad Duw erioed,
Yn dirgel chwalu seiliau pridd
Fy nghestyll ugain oed.
Meddyliais cyn eu codi
Y cawswn hir fwynhau
Awyrgylch glir, heb noson ddu,
Uwchben fy mywyd brau;
Yn nghanol llon ddedwyddwch
Attaliwyd rhwysg fy nhroed,
A chefais brofi llawer siom
Cyn cyrhaedd ugain oed.
Ar lwybr cyfeiliornad
Cofleidiais bleser ffôl,
Ond nid mor gryf 'r ol clywed llais
Y Nefoedd ar fy ol;
Er cymmaint y ceryddon
A gefais i erioed,
Nid yw fy oes yn wyn i gyd
Tu draw i ugain oed.
TREM YN OL.
Mewn lluest ar y mynydd
Yn llengcyn deuddeg oed,
Bu'm unwaith yn bugeilio'r praidd,
Ac yno nid oedd ysbryd blaidd,
Yn cysgu dan fy nhroed.
Yn foreu, foreu, cefnais
Ar fwthyn gwyn fy nhad,
A chollais lawer deigryn,
Yn nghanol brwyn a rhedyn,
Mynyddoedd gwyllt fy ngwlad.
Fe'm parchwyd gan estroniaid,
A chefais ofal mam,
Mewn morwyn oedd yn meddu
Ar galon fu'n hiraethu,
Ar ol ei rhai di-nam.
Ce's wenau Duw i ddringo'r
Llechweddau at fy ngwaith,
A chroesaw nentydd g'loywon,
I dyfu'n fugail tirion,
Gofalus ar fy nhaith.
Ce's lawer odfa ddifyr
Ar gefn y merlyn clên,
Tra Tango'r ci yn dilyn,
A'i dafod megys llinyn,
Yn hongian dros ei ên.
Bu aml i dro yn mesur
Y mynydd yn ddi-hun,
Wrth geisio dal 'sgyfarnog,
Fe ddaeth yn wrthddrych enwog
'Rol methu dal yr un.
Ce's lawer odfa arall
Uwch creigiau gwlad y gân,
Odfaon defaid Cymru,
Yr wyn a'r myllt yn brefu,
Ar fin y llynoedd glân.
Odfaon cymau hyrddod
Mwy grymus oeddynt hwy,
Y naill yn nerthol daro,
A'r llall a'i waed yn llifo,
A'i dalcen dan ei glwy'.
Mae'r bryniau etto'n aros
A bywyd yn eu gwên,
Lle tŷf y meillion diddig,
Dan nawdd y gwlith caredig,
A minnau'n myn'd yn hen.
Mae genyf barch i'r llwybrau
Sy'n arwain drwy y ddôl,
Ond mwy yw'm serch at lwybrau
Henafol y mynyddau,
Wrth roddi trem yn ol.
CELWYDD BOB GAIR.
'Ail blanwyd moron cochion mawr
Yn ngardd Tŷ Draw rhyw dro,
A thyfodd un i lawr i lawr,
Yn ddyfnach nag un pwll glo;
'Roedd cylch ei fôn yn filldir gron
A'i ddail yn ddwy o hyd,
A threuliwyd mil o flwyddi bron
Cyn bwyta hwn i gyd.'
Taw sôn y filain, ebai'r llall
Gan roi arswydol rêg,
'M welais i hen ddafad ddall
A phedair clust ar ddeg
Yn llyngcu dwy erfinen fawr
Fel gwyneb Cymru wen,
A daeth i'r golwg cyn pen awr
Ddau lygad glâs o'i phen.'
'Dim byd i'r hyn a welais i,
Medd arall gyda gwên.
Mi welais i pwy ddydd i chwi
Ddau gi yn llusgo'r trên,
Llusgasant ef filldiroedd maith
A digon nerth yn 'stor;
Gan faint eu syched 'rol y gwaith,
Fe sychodd rhai'n y môr. '
'Aeth dro yn ol hen lengcyn call
I rodio gyda merch,
Parablu ydoedd yn ddi-ball
Am ddyfnder pydew serch;
Wrth geisio cusan, fel mae'n rhaid,
Fe syrthiodd iddo'n syth,
A thystia wyres nain fy nhad
Mai yno mae e' byth.'
Mor blaen yw celwydd, onid ê,
Mor ddu a gwisg y frân,
Ac hebddo nid oes flâs ar dê
Gan deulu Modryb Sian:
Rhyw gastell yn y gwagle coll,
Heb iddo sail mewn sarn,
A dydd y prawf fe ddymchwel oll
Yn swn taranau'r farn.
MARWOLAETH Y MEDDWYN.
Rhodio dibyn colledigaeth
Bu y meddwyn tlawd,
Rhwng parwydydd y tafarndai,
O! druenus frawd;
Aeth y 'blŷs yn drech na'i allu
'Gongcro'r ddiod gref,
Ac wrth ddilyn y gyfeddach
Collodd deyrnas nef.
Aeth y sarph dan wraidd ei enaid,
Cafodd yno le,
'Boeri gwenwyn ar diriogaeth
Brynwyd gan y ne';
Gwywodd blodau gras a chariad
Dan y damniol drwyth,
Ffarwel obaith, mwy ni welir
Rhai'n yn tyfu ffrwyth.
Wrth erchwynion gwely'r meddwyn,
Nid oes angel gwyn,
Haul Cyfiawnder wedi machlud
Dros anobaith fryn;
Pleser wedi troi yn ofid,
Tywyll ydyw'r bedd,
A goleuni'r farn yn gwisgo
Dychryn ar ei wedd.
Dawn gweddiau ei rieni
Erys yn ei glyw,
Ac yn dwyn adgofion bywyd
Ofer fu yn byw;
Gwel'd y nos yn cau am dano
Sydd yn clyblu'i fraw,
Tra'r cyfeillion goreu feddai
Wedi cilio draw
Mellt y Ddeddf yn oleuedig
Yn ei fynwes brudd,
Ac yn agor bedd i gladdu
Ei deimladau cudd;
Gwraig y dafarn ni ddaw ato,
Trödd ei golwg draw,
Gormod gwarth sydd yn ei gwyneb
'Ddod i ysgwyd llaw.
Deffro mae'i gydwybod euog,
Fu yn cysgu'n hir,
Ni bydd diwedd ar ei deffro
Draw yn ngwlad y cûr;
Tragwyddoldeb annherfynol
Mwy o boenau trist,
Ofer ceisio am drugaredd
A maddeuant Crist.
TERFYSGWYR PWYLLGORAU SEION
Awen eiddil, ymostynga
Ar dy ddeulin 'n awr,
Diosg dy sandalau gwynion
Cyn rhoi'th droed i lawr;
Gwrandaw'n astud a di-gyffro,
Attal godi'th law,
Gwyddost fod gwahaniaeth dybryd
Rhwng dwr glân a baw.
Amlwg ydyw fod y beilchion
Wedi bod cyn hyn,
Mewn trafodaeth â'r materion.
Cyn cynnhyrfu'r llyn;
Gorchwyl anhawdd rho'i attalfa
Ar ddieflig hynt,
Wedi gadael y synwyrau
Fyned gyda'r gwynt.
P'le mae'r weddi daer glybuwyd
Hanner awr cyn hyn,
Prin y credir iddi gyrhaedd
Troed Calfaria fryn;
Collodd yno'i hanadl olaf,
Cloddiwyd iddi fedd,
Nos ei hangladd nid oedd deigryn
Fry wrth fwrdd y wledd.
Mae corwyntoedd croes yn dyfod
Dros frwmstanaidd don,
Ac yn chwythu tân terfysgoedd
Yn mhob pwyllgor bron;
Mae'r ymgecru a'r croes-dynu
Yn rhoi loes i'r glew,
Trais ar enaid yw bod eiliad
Dan gilddannedd llew.
Nid yw'r coed yn tyfu ffrwythau
Ar y ceryg noeth,
Byth ni thŵf grasuşau'r nefoedd
Mewn ymladdfa boeth;
Lle mae enaid edifeiriol
Fe geir hefyd ddyn,
Lle mae gras a charind rawdol,
Pawb fydd yn gyttun.
Nid yw'r ffordd i'r Ddinas Noddfa'
Heb gymmeriad Cain,
Mae llofruddion yn cysgodi
Dan y llian main;
Gall fod llawer Judas hefyd
Gyda gwyneb trist,
Yn guddiedig yn mhlith defaid
Anwyl Iesu Grist.
Ar y gadair hardd lywyddol
Mae eu llygaid byw,
Pe caent fyned iddi unwaith
Fflamient gorlan Duw;
Nid yw sebon cwmni'r fagddu
'N gosod neb mewn swydd,
Ond yn magu dwfn gasineb
Tuag ato'n rhwydd.
Rhaid i Seion wrth bwyllgorau
A chynnorthwy'r llawr,
Er mwyn cadw ar i fyny
Devrnas Iesu mawr;
Mae terfysgoedd a chynnhenau
Yn tristhau y gân,
Ac yn gwneyd i'r sancteiddiolaf
Guddio'i wyneb glân.
Gythraul canu di-anrhydedd
Ti yw'r gwaethaf un,
Fagodd uffern ar ei haelwyd
Obry'n wael ddi-lûn;
Ti ge'st lawer enaid prydferth
Dan dy draed yn sarn,
Rhaid i hwnw yn ei garpiau
Mwy wynebu'r farn.
Nid cerddorion sy'n gyfrifol
Am d'ymweliad di,
Odid nid y gwir gantorion
Ond y balch o fri;
Sydd yn byw ar gregin gweigion
Ffugiol berlau'r llwch,
Ac mae tawch eu bryntni'n glynu
Ar eu genau'n drwch.
Enaid gochel rhag cwerylon
Y terfysgwyr ffôl,
Fel b'o genyt goffadwriaeth
Teilwng ar dy ol;
Ymneilldua i ddistawrwydd
Hen gilfachau'r bryn,
Ti gei yno gwmni'r Iesu
Ar y ffordd i'r glyn.
GELYNION Y FENDITH.
Dymunodd lliaws yn eu hoes
Am gael diwygiad tirol,
A thori min cilddanedd llym
Y gallu cryf gormesol;
Ni chreodd Duw y ddaear faith
I fod yn eitfeddiaeth
I'r gwŷr blonegog, boliog, bras,
Sy'n byw ar waed dynoliaeth.
Edrychant ar y gweithiwr tlawd
Fel rhyw ysgymmun fodyn,
Heb ddeall fod ei barch yn uwch
Yn ngolwg serch y Duwddyn;
Trysordy aur ac arian rhai'n
Yw'r dyn sy'n gwneyd ei oreu,
Nes chwysu'i enaid er mwyn byw
I gadw seirff y cloddiau.
Mae Llwyd o Wynedd ar y maes,
A gwên yn lloni'i wyneb,
A gwae'r Arglwyddi balch difudd,
Am wrthod ei Gyllideb;
Alltudier yr holl giwed hy'
I begwn pell y gogledd,
I fyw neu farw gyda'r eirth,
Nes dofi eu cynddaredd.
Mewn dysg a deall mae ein gwlad
Yn prysur ymeangu,
A'i meibion dewr a roddant her
Na fynant mo'u gorthrymu;
Mae Duw Gedeon etto'n fyw,
Ymladdwn hyd yr eitha,'
Nes ennill hawl i'r blewyn glâs,
A rhyddid i bysgota.
Ymrestrwn yn Rhyddfrydwyr pur
Dan faner Llwyd o Wynedd,
I ymladd dros iawnderau Tŷ'r
Cyffredin a'i anrhydedd;
Pe rheidrwydd profi blás y cledd,
O! gwyliwn rhag bradychu
Ein gilydd yn y frwydr fawr
Gyhoeddodd Tŷ'r Arglwyddi.
Nid eiddo'r lord,' y syr, na'r duc,
Yw dwr afonydd Gwalia,
Nid eiddynt hwy'r hwyaden wyllt,
Na ieir y mynydd ucha';
Y tir, y tir a greodd Duw
I'w bobl yn ddi-wahaniaeth,
Ymdrechwn yn yr ymgyrch hon
Wanychu trais arglwyddiaeth.
Pleidleisiwn oll dros Fasnach Rydd,
Yn hon mae iachawdwriaeth,
I wella amgylchiadau'r tlawd,
A mathru Diffyndollaeth;
Mae llais y wlad dros gael rhyddhâd,
A diangc o'r caethiwed,
I Ganaan hardd y blewyn glâs,
Y fendith arnom gwened.
TYLWYTH Y GLEP.
Ofnadwy gethern ydyw rhai'n
Sy'n duo pob cymdeithas,
A'u cymmeriadau'n llawn o ddrain
Cenfigen bigog lwydlas;
Pe byddai gan y dosbarth hyn
Adenydd gwynt i godi,
Hedfanent dros anfarwol fryn
I uffern ar ol 'stori.
Anfoesol wybed wedi ffoi
O wlad yr anwireddau,
A'u holl ddoethineb wedi troi
Yn frwmstan dan eu sawdlau;
Nis gall tafodau'r criniawl wellt
Am eiliad fod yn Honydd,
Pe rhwymid hwy a llinyn mellt
Parhäent i dd'wedyd celwydd.
Proffesant rodio'r llwybr cul
Yn nghanol cyfrwys chwedlau,
A ffüg sancteiddrwydd ddaw â'r Sul
I gyfarch eu gwynebau;
Gallesid tybio fod eu bryd
Ar wrandaw y gwirionedd,
A chlêdd digofaint yr un pryd
Yn fflamio ar ei orsedd.
A phwnge y dydd fydd boreu Llun
Sylwadau y pregethwr,
Fe gafodd hwn a hwn,' medd un,
'Ei ddarilen trwyddo neithiwr;
Mi sylwais ddigon ar y gŵr,'
Pwy ydoedd ef?' dywedwch,
"Wel, Meistr hwn a hwn, bid siwr:
Ond peidiwch d'weyd, gochelwch.
Ha, ha, crechwenai'r fyddin gref,
Roedd eisieu rhywbeth arno,
Mi sylwais innau arno fo,
Yn wir yr oedd o'n gwrido;
Tawelwch, pwy yw hwn sy'n dod?
Ac i ba le mae'n myned?
I'r siop ger llaw, yn sicr o fod;
Beth yw ei neges, tybed?"
Cychwyna un, cychwyna'r llall,
Ar ol y negeseuwr,
Wel, dyma chwi, lwynogod call,
Yn gofyn i'r masnachwr,
'Beth ydyw pris peth hyn a'r peth?
Ai ydyw wedi codi?
Mi alwaf etto,' i ba beth?
I ddim ond disgwyl 'stori.
A glywsoch chwi am ferch a'r ferch
Sy'n myned i briodi?"
'Wel, naddo'n siwr, pwy aeth â'i serch?
Dywedwch 'nawr heb oedi;
Ai ydyw hi fel hyn a'r fel?
Neu ydyw hi fel arall?
A ydyw ef yn ddyn go swell?
Wel, nag yw i chwi'n deall.
Mi glywais i gan modryb Bett
Fod ammo chydig gloffni,
A'i wallt yn gwynu dan ei het,'
'Oes arian ganddo Pegi?'
'Fe ddywed rhai fod ganddo gant
Neu ddau o arian sychion,
Heb law meddiannu hwth Tŷ nant,
O! fath ffolineb gwirion.
Mewn awydd mae y rhai'n heb goll
Am weled pawb yn syrthio,
Arswydol ofn ddaw arnynt oll
Wrth weled un yn llwyddo:
Diflasdod gerdda dros eu gwen
Fel barug wrth fyn'd heibio,
A gwelir llawer un go hen
Fel pe ar fin llesmeirio.
O eppil clep ceir llawer un
Yn marw fel drychiolaeth,
Heb gwmni neb ond angeu'i hun
I groesi glyn marwolaeth.
Mae Haul Cyfiawnder byd a ddaw
Yn cilio rhag eu harswyd,
A'r glân gerubiaid oll mewn braw
Yn diangc am eu bywyd.
Troer heibio'r lleibio i gyd,
A chladder y genfigen,
Fel adlewyrcho fwy o'r byd
Ysbrydol ar ei pherchen;
Os byw i Grist, byw iddo'n llwyr,
Ac nid i wrachaidd chwedlau,
Fel gallwn farw pan ddêl hwyr
Mewn bedd ar randir angau.[1]
'ROEDD GWIBER YN Y NYTH.
Mi gerais eneth landeg,
A hi yn ugain oed,
Un ddêl, a ffel, mor bêr ei chân
Ar fwyalch yn y coed;
Hi feddai lygaid serchog,
A chorph gwir luniaidd syth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
Di—brisais gyfleusderau,
I wneyd daioni mwy,
A rhoddais frâth i galon un
Oedd eisoes dan ei chlwy';
Yn mlaen y mynwn fyned
Er cael y fun ddi-lyth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
Edrychai mor ddiniwed
A'r wawr pan nad yw'n brudd,
Heb arlliw o gasineb
I'w ganfod ar ei grudd;
Blodeuog oedd ei bywyd
Fel sêr y nef ddi-lyth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
Ffyddlonach un nis medrwn.
Ei chwilio drwy y fro,
'Roedd pob addewid megys deddf
Yn aros yn ei cho';
Dros fywyd un mor ddengar
Mi ro'wn fy olaf chwyth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nŷth.
Appwyntiais ddydd priodas,
A llawen oedd y ferch,
Gan roddi modrwy am ei bys
Wrth ymyl allor serch;
Dychwelais tuag adref
Heb gryndod yn fy chwyth,
Ychydig wyddwn i er hyn
Fod gwiber yn y nyth.
'Rol teithio mlaen am ddyddiau
'R hyd ffordd y bywyd gwyn,
Tebycach gwen ei gwyneb nawr
I lwydrew oer y bryn;
'Doedd modd boddloni balchder
Y briodferch ddi-lyth,
A dyma'r pryd dadguddiwyd i'm
Fod gwiber yn y nŷth.
Prin digon fy ennillion
I wisgo'i balchder ffol,
Heb son am dalu'r ddyled fawr
Adawodd ar ei hol;
'Rwy'n cwyno mewn cadwyni
O herwydd hyny byth,
A dyma uffern gweithiwr tlawd
Cael gwiber yn y nŷth.
YR HEN FERCH
Taenwyd newydd un prydnawnwaith
Gan berth'nasau teulu'r Bryn,
Fod genethig wedi ei geni
Rywbryd yn y boreu gwyn,
O fewn bwthyn Bryn Llewelyn
Gyda gwraig brydweddol iach;
Mawr y cyrchu ydoedd yno
Er mwyn gwel'd yr eneth fach.
Tra lliosog yr anrhegion
Gafodd hi yn ddeufis oed,
Aur ac arian, a dilladau,
Goreu welodd neb erioed;
Tyfu wnaeth yn blentyn glandeg
Yn ddifai ar fron ei mam,
Yntau'r tad a wyliai drosti
Yn ofalus rhag cael cam.
Deunaw mis bu'i chryd yn siglo,
Mwy neu lai yn sugno'r fron,
Deuddeg mis cyn d'od i gerdded
Fel hen wraig ar bwys ei ffon;
Pymtheg mis cyn d'od i siarad,
Dwyflwydd oed yn ysgwyd pen,
Ond fe'i gwelwyd hi yn deirblwydd
Wedi gwisgo doli bren.
Bu yn chwareu â theganau
Rai blynyddoedd wedi hyn,
Daeth yn hoff o gasglu blodau
R hyd y meusydd, dôl, a bryn;
Bu yn myn'd i'r ysgol ddyddiol
Yn ddifyrus gyda'r plant,
Dysgai 'i gwersi mor naturiol
A rhedegog ddwr y nant.
Aeth i'r Ysgol Ganolraddol,
Da gan lawer glywed hyn,
Daeth yn ol yn ferch Saesnigaidd
Wedi gwisgo yn ei gwyn;
Dotiai llawer llange penfelyn
Ar darawiad un mor hardd,
Nid oedd gweithiwr a'i boddlonai,
Pe bae hwnw'n angel fardd.
Cafodd lawer wingc priodas
Pan yn un ar hugain oed,
Ond fe dorodd ddirmygedig
Feddrod iddynt dan ei throed;
Rhaid oedd cael y cwmmwl goleu
Fagodd y gorllewin gwyn,
Braidd yn oer oedd calon hwnw
Fyw yn myd y cwlwm tyn.
Aeth blynyddoedd tywyll heibio
Yn ei hanes yn y byd,
Cwrddodd â siomedig droion,
Rheiny yn ofidiau i gyd;
Deffrodd llawer ddofn ochenaid
O fewn bron y wyryf dlos,
A phob un fel pe am rwygo
Ei theimladau gyda'r nos.
Heddyw'n trydar fel colomen
Mae dan fondo gofid erch,
Ar hyd llwybrau gwyllt anobaith
Yn grwydredig mae ei serch;
Ceisia gadw'i hun yn ieuange,
A dynwared osgo'r wech,
Mwy yw cariad yr hen langciau
At y darnau saith a chwech.
Nid yw gwisgoedd gwych sidanog,
Na breichledau drudfawr aur,
Yn rhoi mwy o bris ar fywyd
Yr hen langces yn y ffair;
Bellach rhaid i hon foddloni
Byw yn ngwmni'r ci a'r gath,
Dyma'i thynged, mi derfynaf,
Rhag rhoi iddi arall frath.
RHIANON Y BRYNIAU.
Tyred rianon y bryniau
Anwylyd fy serch wyt ti;
Tyred i fro y caniadau
Gwladfa berorol y lli',
Cawn weled y blodion
Dan sang yr awelon
O bell am ein cyfarch ni.
Tyred rianon y bryniau
Rhyd lwybrau'n cyn-dadau gynt,
Mae arogl pur eu bywydau
Yn swyno odliadau'r gwynt,
O wyddfod y cyhoedd
Dringasant i'r nefoedd
Ymdrechwn ddynwared eu hynt.
Tyred rianon y bryniau,
Os garw yw ffordd yr allt;
Cei deimlo awel y llethrau
Yn troelli'th fodrwyog wallt;
A gweled pellderau
Y môr lle mae'r llongau
Yn nofio ei donnau hallt.
Tyred rianon y bryniau
Esgynwn yn nês i'r nen;
Distawodd llef y taranau,
A pheidiodd y mellt uwchben;
Cawn wledd ar y mynydd
Wrth wrandaw'r ehedydd
Yn chwareu ei delyn wen.
Y PULPUD.
Gris ddifai, i'r groes ddwyfol—ydyw hardd,
Bulpud hên arhosol,
Haul y Nef ni chilia'n ol
O'i wyn fwriad anfarwol.
PENILLION Y 'D.D.
Sylweddolwch wraidd fy nhestyn,
Chwi bregethwyr yr oes hon,
Na feddyliwch am funydyn
Fod cenfigen yn fy mron
Wrth eich gweled
'N cario cynffon fawr D.D.
Chwiliwch eich calonau'n ddyfal
A oes genych rywbeth mwy,
Cael eich hunain yn gyfartal
A doctoriaid mawr y plwy':
Balchder, balchder,
Sydd with wreiddyn cwt D.D.
Beth yw amcan y colegau
Sydd yn britho cyrau'r wlad
Onid trwytho'r byd, yn ddiau,
A dysgeidiaeth, pwy a wâd:
Hefyd, ennill
Losgwrn droellog fawr D.D
Os bydd genych ddau gyhoeddiad
Un mewn capel bach, di-nód,
Ewch i arall, os bydd galwad,
Tingc yr aur i lanw'r god:
Pwy yw rheiny?
Gwŷr ennillodd gwt D.D.
Yn y preseb gwêl yr Iesu
Mewn cadachau digon gwael,
Calon hwn oedd yn cynnhesu
At bechadur rhan yn hael:
Dyma Athraw
Heb un gynffon fawr D.D.
Na ofalwch beth a wisgwch
Pan yn myned ar eich taith,
Gyda gwyneb llon cyferchwch
Fod iselaf yn eich iaith:
Nid yn hollol
Felly gwelais wŷr D.D.
Pan yn teithio mewn cerbydres
Gyda llengcyn gwyneb mwyn,
Iaith ei fam oedd yn anghynnes
Yn y gwydrau uwch ei drwyn:
Pwy oedd hwnw?
Gŵr ennillodd gwt D.D.
Beth yw hanes hen bregethwyr
Cymru yn y dyddiau gynt?
Taraw'r oeddynt oll â gwewyr
Bechaduriaid ar eu hynt:
Llu achubwyd
Trwy'r Efengyl heb un gwt.
Rho'ist dy fywyd, Iesu tirion!
Dros bechadur gwael y llawr,
Codaist, hefyd, apostolion
I draethu'th genadwri fawr:
Nid oedd ganddynt
Gynffon lusgol fawr D.D.
Dysga etto, Iesu tirion!
Hoff bregethwyr yr oes hon,
Rhaid cacl rhywbeth heb law cynffon
I ddwyn pechadur at dy fron:
Tân ysbrydol
Argyhoedda'r deitl hon.
Tyr'd bechadur: tyr'd i 'mofyn
At yr Iesu gwt D.D.,
Hon a'th geidw rhag y gelyn
Pan mewn dyffryn tywyll, du:
Beth yw hono?
Double D.—Dim damnio mwy.
CARIAD.
Nid yw cariad byth yn blino
Dringo rhiwiau'r byd,
Nac yn troi yn hir o gwmpas
Ochrau derw'r cryd;
Mewn ymdrechfa saif yn wron,
Er mor gyfyng yw,
Gwaeda serch ei hun yn farwol
Cyn rhoi 'fyny byw.
Nid yw cariad byth yn marw,
Mwy na'r enaid trist,
Gwna ei nŷth dan glaerwen aden
Angel, Iesu Grist;
Gorsaf ydyw'r bedd i gariad
Alw ar ei daith,
Cyn myn'd adref i ogoniant,
At ei dd'wr'nod gwaith.
Dan gawodau llwydrew siomiant
Tyfu wna o hyd,
Gwena'n siriol, megys baban
Ieuangc yn ei gryd;
Gyda mynwes llawn tynerwch
Hoelia'i feddwl gwyn
Ar y gwrthddrych fyddo'n garu
Rhyd dramwyfa'r glyn.
Cana'r 'hedydd bach boreuol
Weithiau Salmau pêr,
Pan fo'r gwlith yn lleitho'i edyn
Yn ngoleuni'r sêr;
Cariad sydd yn hoff o ganu
Yn y cywair llon,
Ond fe ddaw cyweirnod lleddfol
Droion dan ei fron.
Nis gall hin dymmhestlog ddymchwel
Craig ar fin y môr,
Mwy na darnio telyn seraph
Yn y nefol gôr;
Cadarn fel y graig yw cariad,
Byth ni syfl o'i le,
Gwena'i flodau'n dangnefeddus
Yn y 'storom gre'.
Pan fo pryder yn ymgroni
Yn ei fynwes wen,
Sêr gobeithion sy'n ymloywi
Ei ddihalog nen;
Mae'i olygon fel pelydrau
Haul uwch brigau'r coed,
Nid oes angen gwydrau arno
'N bedwar ugain oed.
Araf iawn, ond penderfynol,
Ydyw ar ei droed,
Methodd digder anfoddlonrwydd
Sarnu hwn erioed;
Cerdd dros fawrion anhawsderau
Heb arwyddion chwys,
Ac ni welodd neb wir gariad
er bron barnol lys.
Pob symmudiad glân o'i eiddo
Dry y nos yn ddydd,
A phob brawddeg gyfrinachol
Grea fwy o ffydd;
Ffyddlawn yw i'r addewidion
Fagodd yn ei fron,
A'r llw oesol ddeil i wrido
Ar y fodrwy gron.
Ffiaidd ganddo'r twyll ddyhirod,
Plant y gelyn du,
Wnaeth archolli byw deimladau
Llawer geneth gu;
Saif yr elfen hon heb ddryllio
Yn yr afon gref,
Saif ei enw yn anfarwol
Ieuangc yn y nef.
CARIAD CRIST.
Hoff oedd gan y Cariad dwyfol
Dd'od o'r nefoedd wen i lawr,
Er mwyn chwilio am berl enaid
Oedd ar goll mewn dyfnder mawr ;
Dyfnder pechod,
Dyma'r dyfnder cafodd ef.
Dyma'r Cariad ymgnawdolodd
A chymmerodd agwedd gwas,
Tua'r llysoedd ca'dd ei arwain,
O flaen awdurdodau câs;
Yno'n sefyll
Yn ddi-gyffro'n Gariad pur.
Hwn yw'r Cariad fu yn chwysu
Gwaed yn Gethsemane ardd,
Beiau'r byd oedd yn dirwasgu
Ar ei enaid dwyfol, hardd;
Nis gall teimlad
Fyth amgyffred maint ei boen.
Dacw frenin y tywyllwch
Etto'n d'od i ben y bryn,
Gyda'i gawell saethau temtio,
I wrthsefyll Cariad gwyn;
Côr o engyl
Wylient fry ar gantau'r nef.
Ymladd gorchest ar y gelyn,
Colli gwaed, a dioddef loes,
Ond fe brofodd gair 'Gorphenwyd'
Yn effeithiol ar y Groes;
Cariad etto
'N llwyr orchfygu ar y bryn.
Gair Gorphenwyd,' megys taran,
Dorodd ar ddistawrwydd nef,
Nes oedd engyl, ar amrantiad,
Oll yn canu'n fyddin gref,
Buddugoliaeth!'
Un o brif anthemau'r nef.
Dyma'r Cariad sydd yn llosgi
Heddyw'n mynwes llawer un,
Ac mae'r nef mewn hwyl yn diolch
Am 'fath drefn i gadw dyn;
Ninnau, hefyd,
A ddiolchwn gyda hwy.
Y MERTHYR.
(Buddugol yn Tal-y-bont, 1907).
Diangol ydyw enaid
Y merthyr yn y fflam,
Nis gall y Nef foddloni
I'w burdeb oddef cam;
Haws fyddai hollti'r moroedd
Yn ddwyran ar wahân,
Na llosgi penderfyniad
Y merthyr yn y tân.
Yn ufudd dvd ei fywyd
Yn aberth dros ei Dduw,
Tra'i ffydd fel craig yn herio
Ystormydd garwa'u rhyw;
Mae'r gobaith sy'n ei galon
Yn cadw draw y trist
O'i wedd, sy'n gwisgo delw
Cymmeriad Iesu Grist.
Ar edyn ffydd mae'i weddi
I'r nef yn rhoddi llam;
Nis gellir rho'i attalfa
Ar gariad byth mewn fflam;
Mae'n gwenu yn yr oddaeth
Dan gysgod cariad Duw,
Ac ar ei lwch mae sobrwydd
Yn tystio merthyr yw.
Blodeuyn etholedig.
A'i ddail yn fythol wyrdd,
A ffrwythau y gwirionedd
Yn tyfu arno'n fyrdd;
Os llosgwyd ei allanol
Gan ddigder dynolryw,
Fe erys byth ei fewnol
Yn berl yn nghoron Duw.
'DOES NEB FEL MAM.
'Rwy'n teimlo'n llawen ar fy nhaith
Fod genyf fam;
Ei gofal drosof sydd yn fawr-
'Does neb fel mam;
Er i mi gael fy magu'n dlawd,
'Roedd genyf gyfoeth gwell na brawd,
Sef cariad mam.
Meddyliais groesi'r moroedd llaith,
Nis gwn pa ham,
A throi fy ngwyneb 'n ol cyn hir
I dŷ fy mam;
Gorchfygwyd fy mwriadau'n llwyr
Pan welais ddeigryn gyda'r hwyr
Ar rudd fy mam.
Pan wyf ar wely cystudd blin,
Pwy sydd fel mam?
Yn fuan gwrendy ar fy nghri,
'Does neb fel mam;
Teimladau sydd yn llanw'i bron,
A rhei'ny'n d'od dros nawfed don
Tynerwch mam.
FFORDD I LWYDDIANT.
Os am lwyddo yn y byd
Rhaid gofalu
Am y geiniog fel y bunt
Gaiff ei charu;
Os na roddir yn y gôd
Erbyn drygfyd,
Nid yw'r god yn addaw rho'i
Tâl mewn bywyd.
Os am lwyddo yn y byd
Bydd yn ddiwyd,
Dyro achles vn dy dir
Pan mewn iechyd;
Dos i edrych am dy braidd
Boreu 'fory,
Paid a gorphwys yn rhy hir
Yn dy wely.
Os am lwyddo yn y byd,
Nid yw'n orchest,
Iti gofio ffordd y Nef,
Bydd yn onest;
Os am gadw'r beili draw
O dy fwthyn,
Cofia beunydd ar dy rawd
Y morgrugyn.
Os am lwyddo yn y byd
Dos ar fyrder
I gashau boneddig ddull
Meibion balchder;
Iachawdwriaeth fyddai rho'i
Rhai mewn beddrod,
Sydd yn byw ar dwyllo'r wlad-
Dyma bechod.
Os am lwyddo yn byd
Bydd yn dirion,
Paid cribddeilio'r gweithiwr tlawd
O'i ennillion;
Fel y gallo yntau fyw
Yn ddiddyled;
Egwyddorion yn y farn
Bwysa'th dynged.
Os am lwyddo yn y byd
Na fydd barod
I enllibio'r Cristion gwan,
Dal dy dafod;
Gosod nôd o flaen dy daith,
Gwna ddaioni;
Ffordd i uffern ydyw byw
Mewn drygioni.
Os am lwyddo yn y byd,
Bydd yn wron,
Brwydra'n mlaen i'r sanctaidd dir
Drwy'th elynion;
Cais ddoethineb, câr y gwir,
Na fydd greulon,
Dyro le i'r Ysbryd Glân.
Yn dy galon.
Os am lwyddo yn y byd
Gochel gynnen,
Gochel frâd a rhagrith ffol,
A'r genfigen;
Saif o blaid cyfiawnder pur,
Hwn a'th geidw
Rhag it' fyn'd dan lid yr Iôr
Y dydd hwnw.
TEISEN NADOLIG FY MAM.
Ceir llawer iawn yn prynu
Teisenau drudfawr, glân,
Mor ddwys a'r plwm, mor drwm a'r dur,
Er teimlo gwres y tân;
Yn mhlith teisenau goreu'r dref,
Nis gwybydd man pa ham,
Mai gwell yw genyf dafell blaen
O deisen Nadolig fy mam.
Ychydig iawn o ffrwythau
Mae hi yn arfer ro'i,
Tri phwys o flawd i wneuthur torth,
A hono'n hawdd ei chnoi;
Mae'n hynod flasus gyda thê,
A'i chrystyn sydd ddi-nam;
A delw o'r hen ffasiwn gynt
Yw teisen Nadolig fy mam.
'Does ynddi ddafn o lefrith,
Na gwirod poeth y tân,
Fe ga'dd y blawd ei wlychu'n dda
A dwr y ffynnon lân;
Meluswyd hi â siwgr llwyd
O'r mwyaf, ebai Sam,
Wel barned ef, mae'n dda gen' i
Am deisen Nadolig fy mam.
Y GAUAF.
Ar goryn y mynydd
Mae'r gwynt yn oer,
Tra'r cymyl yn orchudd
Dros wên y lloer;
Mae'r neint wedi rhewi
Wrth odreu'r bryn,
A'r nos yn pryderu
Ar lan y llyn.
Ar waelod y dyffryn
Saif nifwl gwyn,
Ond gwynach yw'r eira
Ar lethr y bryn;
Mae'r graig ar ei gorsedd
Ger llaw yr allt,
A'r troellwynt gauafol
Yn cyrlio'i gwallt.
Di-addurn yw'r meusydd
Heb flodau cain,
A noeth ydyw lletty
Y dryw mewn drain;
Os collodd y dolydd
Eu hafol swyn,
Mae'r gwanwyn yn aros
Ar lesni'r brwyn.
Ceir ambell i frwynen
Mewn storom gref,
Yn cadw'i chymmeriad
Mor bur a'r nef;
Diflanodd y rhosyn
A'r lili wen,
Cyn crino o'r ddeilen
Ar frig y pren.
Y banau cyfagos
Sy'n llwyd eu gwedd,
Fel gweddwon hiraethus
Ar lan y bedd;
Pan gollodd yr adar
Yr hafaidd wawl,
Fe beidiodd eu hysbryd
A chanu mawl.
Mi welaf y brithyll
Mewn gloyw ddw'r,
Yn nofio'n hamddenol,
Heb gadw stwr;
Fe gysga'r gwybedyn
Mewn marwol hedd,
Pan ddychwel y gwanwyn
Daw'n rhydd o'i fedd.
PEIDIWCH DIWREIDDIO'R BLOD'YN.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn,
Sy'n byw ar ael y bryn,
Gadawer iddo dyfu
I berarogli'r glyn,
Er iddo gael ei blanu,
A'i gadw'n glyd mewn gardd;
Gall hiraeth dori'i galon,
A difa gwrid y swynion
Sydd ar ei ruddiau cochion,
A cholli'i goron hardd.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn
Siriolaf is y ne',
Gall natur beidio tyfu
Un arall yn ei le;
Er iddo gael ymgeledd
Y garddwr yn ei bryd,
Gall rhewynt oer, gauafol,
Cyn dyfod hin ddymunol,
Ddinystrio holl ddyfodol
Ei obaith gwyn i gyd.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn,
Efe yw tlws y tir;
Edmygir ei sirioldeb
Gan sêr y wybren glir:
Pan gyfyd haul y boreu,
A'r lleuad gyda'r nos,
Arsyllant ar y mawredd
Fodola yn ei symledd,
Lle nad oes arwydd chwerwedd
Ar liw ei ddalen dlos.
Peidiwch diwreiddio'r blod'yn
Sy'n llawn o ddelw Duw;
Yn nghanol byd siomedig
Cydymaith awen yw;
Mae ganddo genadwri
O fewn ei ddistaw fron;
Dadguddir ei chyfrinion
Yn nagrau'r pererinion
Wrth golli eu hanwylion
O lwybrau'r ddaear hon.
GOLYGFA O BEN Y DRAWSALLT.
Ar deg uchelfanau'r Drawsallt un boreu,
Tra'r gwlith yn ronynau ar bob blod yn gwyn,
Esgynais yn fywiog, a chefais odidog
Olygfa ddi-halog ar ddoldir a bryn;
'Roedd anian yn gwenu, a'r nentydd yn canu,
A'r wybren yn synu uwch glâs dwfn y môr,
A'r eurawg awelon yn sisial alawon
Yn nglustiau perorion y tlŵs bluog gôr.
Mor gain yr olygfa! draw, draw mae'r hen Wyddfa,
Yn disgwyl y gaua' i dd'od etto'n ol,
Hi ddeil ei hysgwyddau yn ddiflin dan bwysau
Y trymion gymylau rhag syrthio i'w chôl;
Brenhines y Gogledd, a'r Gader yn eistedd
Yn ymyl ei gorsedd, rhy gadarn yw hon
I allu dynoliaeth i ddwyn ei brenhiniaeth,
A roed gan Ragluniaeth yn gudd yn ei bron.
Rhaid gadael mynyddoedd, a d'od i'r dyffrynoedd,
Lle gwelir coedwigoedd â'u dail bythol wyrdd
Yn cyfarch 'r hil ddynol a'u gwenau mor siriol,
I'r farian wybrenol edrychant yn fyrdd;
Claerwynion gymmylau dywalltant eu dagrau
I olchi holl ruddiau'r blodionos o'r bron,
A chadach yr heulwen, drachefn, ddaw i'r weren
Yn unol â'i elfen, i'w sychu yn llon.
Bythynod gwyngalchog rhwng bryniau meillionog,
A heddwch yn foriog dros wyneb y tir;
Dros erchyll gwympiadau, rhwng bywyd ac angeu,
Disgyna'r rhaiadrau, eu gwel'd 'r wyf yn glir;
Ac, hefyd, o'i chopa'r wy'n gwel'd Bwlch yr Oerfa,
O tano'n ymguddfa i'r pysgod mae llyn;
Yr haul sy'n machludo, a'r nos yn prysuro,
Rhaid gosod diweddglo, yn ddiau, ar hyn.
MYFYRDOD Y FYNWENT.
Ar dwmpath gwyrdd uwch murmur nant
Eisteddais gyda'r nos,
I synfyfyrio ar y pant
Lle tyfai mill a rhos;
'Roedd gruddiau glwys y blodau cain
Yn gwisgo delw Duw,
Ac arnynt chwarddai'r awel fain
Rhwng ceingciau hardd yr yw.
Dych'mygais glywed llais o'r nef
Yn sibrwd yn fy nghlyw,
'Cei etto weled 'storom gref
Yn d'od, os byddi byw,
I wywo'r blodau prydferth hyn
Sy'n awr yn harddu'r fro,
A hwyrach llawer fydd cyn hyn
Mewn mynwent oer dan glo'.
Ger llaw dan aden pingcyn craig
'Roedd nŷth aderyn bach;
Ac heibio'i ddrws wrth fyn'd i'r aig
Telorai'r ffrydlif iach;
Unigedd dwys, hyfrydol yw
Cael eistedd enyd awr
I syllu ar weithredoedd Duw
Dros wyneb dae'r mor fawr.
Fy amcan oedd wrth fyn'd i'r llan
Cael myn'd o dwrf y byd,
A throdd fy amcan yn y man
Yn siomiant, ond nid i gyd;
Nis gallwn mwyach ganu'n llon
Wrth wel'd yr eneth brudd;
Daeth ataf gyda chlwyfus fron,
Nis gallai fod yn gudd.
Amddifad oedd, ond gwelai Dad,
Ar orsedd wen y nef;
Ac vno 'roedd ei rhiaint mâd
Yn gwrandaw ar ei llef;
Dau rosyn iechyd, gwridgoch iach,
Ddechreuent droi yn wyn,
A chwympo wnaeth yn ara' bach
I briddell oer y glyn.
Mae'r teulu'n awr mewn hûn o hedd
O dan dywarchen werdd;
Asgellog gör uwch ben ei bedd
Delorant fwynaidd gerdd;
Mi welaf etto drwy y gwyll
Caf finnau yn y man
Wynebu delw angau hyll
Rho, Iesu, nerth i'r gwan.
GWANWYN SERCH.
Blodeuo wna'r llenyrch dan leni'r coed
Fel tirfion serchiadau y deunaw oed.
Blodeua'r clogwyni ar lan y môr,
A melus yw canu y pluog gor.
Tyfu i wywo wna'r blodau o hyd,
Tyfu i ddarfod mae pobpeth y byd.
Ac hwyrach di-feddwl yw llawer merch
Fod hydref yn agos i wanwyn serch.
Yn nghanol cysuron gall siomiant dd'od
A newid cyfeiriad troion y rhod.
Mae llwybrau ieuengctyd yn arwain 'mlaen
Drwy dymmor cariadlawn i haf di'staen.
Meddyliant mewn iechyd am einioes faith,
Gwadant eu hoedran ar gychwyn y daith.
Ar ymdaith dragwyddol o'i ieuange gell
Mae'r meddwl o hyd am ddyfodol gwell.
Dymunol yw pobpeth yr adeg hon
Tra ceidwy bad ar wyneb y don.
O! wanwyn deniadol, O! wanwyn serch,
Agored i 'stormydd yw calon merch.
Rhaid croesi peryglon wrth fyn'd a d'od,
Ennill a cholli cyn cyrhaedd y nôd.
Ni welwyd un gauaf erioed ar fryn
Heb wanwyn yn dilyn yr eira gwyn.
Ni welwyd un gwanwyn heb auaf oer
Yn taflu'i gysgodion dros wawl y lloer.
Gall awel y mynydd gusanu'r llyn
Heb ddeall fod brâd yn ei ewyn gwyn.
Gall serch heb ei ddofi gusanu mûn
Heb ddeall fod sarph ar fynwes ei hun.
O! wanwyn hudolus, O! wanwyn serch,
Rhaid medi ei flodau cyn deall merch.
CWYN COLL.
Cyfeillion anwyl imi sydd
Mewn gweryd oer yn huno,
Tra'n aros uwch eu beddau mud.
Nis gallaf lai na wylo.
Cyfeillion ieuaingc boreu oes
Fu gyda mi'n cyd-rodio,
Eu cwmni yma ni chaf mwy,
Nis gallaf lai na wylo.
Cyfeillion tirion ar eu taith
Fu gyda mi'n cyd-weithio,
Eu gwenau guddiwyd yn y bedd,
Nis gallaf lai na wylo.
Cyfeillion serchog glân eu gwawr
Mor felus ydyw cofio,
Na chefais ynddynt dwyll na brad,
Nis gallaf lai na wvio.
Cyfeillion oedd yn caru'u gwlad,
A pharchent iaith y Cymro,
Wrth deimlo'r golled ar eu hol
Nis gallaf lai na wylo.
Cyfeillion hoff o'r Ysgol Sul,
A'u doniau yn amrywio,
Eu cân ddistawodd yn y glyn,
Nis gallaf lai na wylo.
Cyfeillion ieuaingc dorwyd lawr
Tra'u llafur yn blodeuo,
Rhy anhawdd deall meddwl Duw,
Nis gallaf lai na wylo.
Cyfeillion oedd yn caru byw
Er gwneyd i'r da fyn'd rhagddo,
Er iddynt farw er mwyn byw,
Rhy anhawdd peidio wylo.
CYMRU DAN Y GWLITH.
Dringo bryn y Gweddnewidiad
Dan y nefoledig wlith,
Y bu Cymru uchel-freintiol
Gyda'r Ysbryd yn eu plith;
Tlws syniadau'r efengylwyr
Yn arwisgo llwybrau'r nef,
A'u hamenau yn cofleidio
Grym ei addewidion ef.
Deiliaid codwm anfad Eden
Ar eu deulin wrth ei draed,
A'u di-halog ddymuniadau
Yn ymolchi yn y gwaed;
Hedfan i ardaloedd gwynfyd
Yr oedd colommenod ffydd,
Ac yn disgyn 'r hyd heolydd
Aur gogoniant gwlad y dydd.
Gwanwyn myfyrdodau'r enaid
Yn blodeuo'r anial chwith,
Ac yn tyfu mewn addoliad
Fywyd newydd dan y gwlith;
'R efrau wedi'u troi yn lili,
Gwrid sancteiddrwydd ar eu gwedd,
A duwioldeb ar eu hemrynt
Yn dyferu gras a hedd.
Dagrau gloywon edifeirwch
'R hyd eu gruddiau'n rhedeg lawr,
A'u gogoniant mewn cyffesu
Ger ei fron eu beiau mawr;
O! sancteiddiol fyw olygfa
Bythgofiadwy yn ein plith,
Ydoedd gweled derw Basan
'N gorfod plygu dan y gwlith.
Pererinion gorthrymderau
Fu o dan gymmylau'r nos,
Oedd yn meddu ar brofiadau
Fel y mêl ar fin y rhos;
Miloedd o dalentau'n deffro
Gladdwyd gan yr oes yn fyw,
Ar gyfandir diolchgarwch
Yn bendithio enw Duw.
Eos bêr y ddwys eiriolaeth,
A maddeuant lon'd ei chân,
Yn cyfranu rhad fendithion
I anghenion Cymru lân;
Awdwr bywyd pob daioni
Eisieu rho'i mae'th gariad di,
Dyro etto'r gwlith ysbrydol,
Eisieu mwy sydd arnom ni.
I'R LAN.
I'r lan,
'R wy'n ceisio dringo,
Er yn wan.
Drwy anhawsderau mwy na'u rhi'
O dwrf y byd, i
Galfari.
I'r lan,
Yn llaw fy Ngheidwad,
Er yn wan;
Mi lynaf mwy, nes try fy nghri
Yn Salm o fawl, ar
Galfari.
I'r lan,
'R wy'n teimlo f'enaid,
Er yn wan,
Wrth Orsedd Gras yn agos i
Gymdeithas Duw, ar
Galfari.
I'r lan,
Uwch law cystuddiau,
Yn y man,
Câf ddiange rhagddynt drwy y lli'
I ddiolch byth, am
Galfari.
PWY SYDD YN GORWEDD YMA?
Pwy sydd yn gorwedd yma
O fewn ei argel fedd?
Atteba'i enw ar y maen,
Y baban bach mewn hedd;
Y baban fu yn chwareu
Yn llon o gylch ei gryd,
A wywodd cyn i wanwyn oes
Addurno llwybrau'i fyd.
Pwy sydd yn gorwedd yma?
Un yw na chafodd gam,
Fu'n dysgu siarad am y nef
Rhwng breichiau'i anwyl fam;
Bu engyl Duw yn gwylio
Ei gystudd yn y byd,
A'i dagrau'n gwynu'r cwmwl du
Deyrnasai uwch ei gryd.
Pwy sydd yn gorwedd yma?
Y baban teir-blwydd oed,
Mae serch yn nhrymder nos y glyn
Yn chwilio ol ei droed;
Siomedig yw gobeithion
Ar fryniau'r anial dir,
Tra cariad ar yr aelwyd wâg
Yn gwel'd y dydd yn hir.
Pwy sydd yn gorwedd yma?
'Rwy'n teimlo ger y fan,
Awelon cyssegredig fyd
Yn perarogli'r llan;
Sibrydant eu cyfrinion
Ar lan yr afon gref,
Rhaid deall trefn Rhagluniaeth Duw
Cyn deall iaith y nef.
Pwy sydd yn gorwedd yma
O afael poen a chlwy'?
Rhy oer oedd gwlad y cystudd mawr
I'w gadw awr yn hwy;
Wrth gofio'i ddiniweidrwydd
Mae'r fynwes dan ei briw,
A dymuniadau boreu'i hoes
Yn oedi ar y rhiw.
Pwy sydd yn gorwedd yma?
Nis gallaf wel'd ei wedd,
Ond clywaf swn dwy galon drom
Yn tori ar ei fedd;
Y tad a'r fam drallodus
Gafaelwch yn y llyw,
Mae enaid gwyn eich baban hoff
Dan ofal cariad Duw.
PLANHIGYN Y GRAIG.
Llwm yw dy fyd, blanhigyn mwyn,
Ar dra-serth graig yn tyfu,
Ac arnat drwy y gauaf oer
Mae'r deifiol wynt yn chwythu;
Amddifad wyt o lesni'r nen,
Ti gollaist dy ogoniant,
Ond cymmer gysur yn y nos,
Mae bywyd dan dy amrant.
Cauedig yw dy lygaid llon
Dan gysgod y mynyddoedd,
Mae ynot ryw awyddfryd gudd
Am dyfu tua'r nefoedd;
Mae caredigrwydd gwanwyn gwyrdd
Yn aros ar dy frigau
Yn gymmysg ág arwyddion blin
Tymmhestloedd y tymmhorau.
Daw'r 'hedydd bach o'i nyth gerllaw,
A'i fron yn ddibryderon,
I ganu ar dy gangen wan,
A'r gwanwyn lon'd ei galon;
Gwyn yw dy fyd blanhigyn hardd,
Os ydyw'n llwm heb flod'yn,
Mae gofal Duw am danat ti
Yn moliant yr aderyn.
'Rwyt yma mewn unigedd pell,
Rhwng deufyd o dawelwch,
Yn dwyn nodweddion plentyn Duw
Yn nghanol yr anialwch;
Mae'th wreiddiau'n glwm o fewn y graig,
Na syflir gan ddrychinoedd,
Mi garwn innau wreiddio mwy
I fynwes Craig yr Oesoedd.
Ffarwel, blanhigyn ieuange, hoff,
A wnei di eiriol drosof?
Rhy anwyl wyt i'm golwg mwy
Dy ollwng di yn anghof;
Bum innau unwaith fel tydi,
Yn ieuangc ac yn heini;
Ond 'n awr 'r wy'n gwyro dan fy maich
I'r beddrod di-oleuni.
"Y BWTHYN OCHR-LLECHWEDD."
Y Bwthyn Ochor-llechwedd.
Nid hyn yw'r hyn a fu,
'Does yma ddim ond olion prudd
Ffarwelio ar bob tu;
Mae'r drws yn gauad heb un clo,
O'i fewn nid yw y gân;
Y fantell simdde dan ei rhwyg,
A'r aelwyd heb ddim tân.
Y Bwthyn Ochor-llechwedd.
Fu gynt yn nŷth i'r bardd,
A'i goffadwriaeth sydd yn llawn
O wyn y lili hardd;
Mor fyred ydyw oriau aur
Ar aelwyd mebyd braf,
Aeth heibio fel cysgodau'r hwyr
Dros derfyn hirddydd hâf.
Y bwthyn Ochor-llechwedd
'Rwy'n hoffi myn'd am dro,
Ar hyd y llwybrau drwy yr ardd
Am ennyd dan ei dô;
Parwydydd moelion yma sydd,
Heb ddarlun chwaer, na brawd,
Heb ddarlun tad, na mam, na dim,
Ond cegin wag a thlawd.
Y bwthyn Ochor-llechwedd
Machludo wnaeth dy fri,
Mae gwybod dyn wrth dremio'n ol
Mewn tristwch ger y lli;
Daearwyd deiliad ola'r bwth
I beidio dychwel mwy,
Hen wragedd selog dros y gwir,
Fu gynt ar ras y plwy.
Y bwthyn Ochor-llechwedd
Daw'r adar mân mewn hwyl,
I frigau'r coed, gerllaw dy fur,
Drwy'r hâf i gadw gwyl;
Ymolchant dan ddyferion gwlith
Y gwanwyn yn ddi-glwy',
A chefnant ar dy gloddiau llwm
Heb neb i'w cyfarch mwy.
Y bwthyn Ochor-llechwedd,
Blodeuog yw y tir,
O gylch y ffynon dan y graig,
A'i dyfroedd fyth yn glir;
Mae'r llwybr yn arwain tua'i glan
Dros wyneb daear fras,
Ac olion traed fydd arno'n hir
Yn tyfu'n borfa las.
DYFFRYN MILWYN.
O! ddyffryn hardd, mil harddach wyt dy hunan
Na holl ddyffrynoedd heirdd y byd yn gyfan;
Dy wyneb mwyn yn llawn o dlysni anian,
A'th draed a wisgwyd a sandalau arian......O ffrwd dafod arian, rho fenthyg dy fiwsig,
I ro'i ysbryd barddoniaeth i gychwyn fy nghanig,
A deffro fy awen i roddi disgrifiad-
O'r dyffryn addurnol, a'i ryfedd adfywiad;
Mae'r bryniau henafol fel milwyr yn gwylio,
Rhag ofn i gorwyntoedd y dwyrain ddadwreiddio
Y gwyrddlas blanhigion, a'u golwg i'r nefoedd;
A'u cangau llydanfrig gusanant y dyfroedd;
A hithau, y Domen; yn uwch ei hysgwyddau;
Heb wybod am gystudd yn myd y gofidiau;
Ei choryn a wisgwyd a blodau lliwiedig,
Pwy wyr nad oes ynddi drysorau cuddiedig;
'Rwyt tithau, Bryn Dafydd, yn llamu o falchder,
A'r gwaenydd yn synu wrth weled dy uchder,
Mae amser yn dyfod i doddi'r mynyddoedd,
A'u gwneuthur yn debyg i wyneb y nefoedd,
Y dderwen fawreddog yn nghanol pob tywydd
Gysgoda ffenestri hardd fwthyn Tynewydd;
Fe'i gwelwyd hi'n fesen fach, eiddil a heiddwan,
Ond heddyw yn herio bygythion y daran,
Y geunant friallawg sydd beunydd yn chwerthin
Dan gysgod yr haulwen a'r creigiau ysgethrin;
Hoff alaw yr aber a'r gornant ddifyrus
Gydgordiant a'u gilydd mewn tôn orfoleddus,
A'r ffrydlif gynddeiriog yn bwyta'r ceulanau,
Nes dyfod i'r golwg ysgythrog dalp-greigiau,
Disgyna yn nwydwyllt i'r dyfnion rigolau,
Nes gwneuthur o'i chwmpas glaerwynion gymmylau,
Yr hwdiawg fynyddoedd yn feichiog o gnydau;
Y gwartheg a'r defaid a dorant eu heisiau;
Cyd-gerddant yn llawen i Milwyn i yfed
Ei dyfroedd iachusol i dori eu syched.
Y fellten wen-lachar a wibia drwy'r dyffryn;
A hithau, y daran, yn bygwth y clogwyn;
Ac yntau y nifwl pen llwyd-wyn, ar edyn
Ddaw i orphwys yr hwyrnos yn nghadair y dyffryn,
Ond buan fe'i gwelir yn myned yn union-
Yn ngherbyd yr awel, heb gymmhorth olwynion,
Y lleuad wenfelen a'r seren aur gerniog
Ar ael y ffurfafen yn edrych yn serchog;
A chymmyl bolwynion, o'u heuraidd gostrelau,
Yn llenwi cwpanau y ddaear a'u dagrau;
A'r crasboeth haul felyn o'i 'stafell danbeidiol,
Ddaw allan i sugno y gwlithyn boreuol.
Hoff aur lygaid y dydd, fel perlau mewn enfys,
A wisgant y dyffryn yn ail i Baradwys.
Yr eiddew ymglymant am freichiau'r planhigion,
A'u gwreiddiau mewn daear, yn rhwym yn y cyffion;
Y dderwen amwisgant a'u dail fythol wyrddion,
Nes codi cywilydd ar fryn Ceredigion,
Ah! ddyffryn, hawdd gelli di wisgo sidanau,
Am danynt o'th logell ni thelaist 'r un ddimai;
Mae'r dwylaw a'th wisgodd ar orsedd y nefoedd,
Yn edrych i lawr ar ei brydferth weithredoedd,
Y pluog alawon gyd-gasglant yn dyrfa
I'th goedwig urddasol i gadw cymmanfa:
Mawrygant dy enw tra byddo glaswelltyn,
Yn tyfu yn iraidd yn ngardd Esgairfilwyn;
Y gwcw sionarus, a'i thraed yn blethedig,
Yn canu anthemau ar goeden uchelfrig,
Aderyn pig-felyn, uwch blodau cu marian,
Yn chwareu ei dannau rhwng gwiail lliw arian;
Tawelwch deyrnasa drwy'r dyffryn i'r gwaelod,
Mae'r fronfraith yn taflu eu lleisiau i'r cysgod,
Y gornant heb rwgnach, a reda i'r moroedd;
Er rhedeg am oesoedd, mae digon o ddyfroedd
I dori anghenion trigolion y dyffryn,
I Dduw byddo'r diolch am iddo ei hestyn,
Y maesydd yn llamu wrth weled y gwanwyn
Yn gwisgo blodionos ar fynwes y dyffryn,
Corwyntoedd y gauaf ddaw etto i hyrddio
Y blodau tryliwiawg i'r beddrod yn gryno;
Llaw fawr y Goruchaf ganfyddaf yn gerfiawg
Ar wyneb y dyffryn a'r creigiau daneddawg;
Holl natur yn siarad yn uchel a swynol
Ein bod ni i farw i fyw yn dragwyddol.
DIM.
Buddugol yn Cwmystwyth, 1903.
Rhyfygu 'rwyf wrth geisio myn'd
I'r tragwyddoldeb draw,
Gan syllu yn wael fodyn mud
Uwch dyfnder dim is law;
Yn gorwedd yn ei gryd 'roedd dim
Cyn bod un blaned wen,
Pa rai a grëwyd oll o ddim
Gan Ddwyfol allu'r nen.
O ddim y creodd Iesu glân
Y greadigaeth fawr,
A phob anifail gwyllt a gwâr
Sy'n trigo ynddi 'nawr,
O ddim gwnaeth ffordd i'r gwibiawl fellt
Dd'od ar eu hedyn chwim,
A brochus lais y daran gref
Sy'n dilyn gwneud o ddim.
O ddim y ffurfiodd wyneb hardd
I'r hen ddaearen ddwys;
O ddim y bwriodd iddi ddrud
Drysorau dan ei chŵys.
'Rol ennill uchel glod y byd,
A golud yn ei rym;
Nid ydynt hwythau namyn oll
Ond nesaf peth i ddim.
YR HAF.
Buddugol yn Cwmystwyth, 1904.
Os ydyw'r haf yn huno
Yn encilfeydd y glyn,
A'i holl ogoniant wedi ffoi
Yn ddistaw dros y bryn,
Mae'i swyn yn para i aros
Yn beraidd ar fy nghlyw,
A'i enw yn anfarwol sydd
Ar frig gwyrddlesni'r ŷw.
Gwyryfon natur welais
Yn ngardd y rhoslwyn brith,
Yn trwsio'u gruddiau ieuaingc glwys
Yn nrych arianaidd wlith;
Y gwenyn suo-ganent
Mewn gwisgoedd sidan cain.
Wrth sugno mêl o enaid gwyn
Blodeuog lwyni drain.
Per oslef geinwedd eos
A ddathlai'i hafaidd gân,
Yn gymmhlith a murmuron dwfn
Yr aber loyw, lân;
Y grûg teleidwiw urddent
Y bannau heirdd, di-lŷth,
Tra'r haul yn dal goleuni claer
I'r hedydd wneud ei nŷth.
Eithinawg fryniau talion,
Blodeuog yma a thraw,
A'u gwenau'n annerch delw'r lloer
Ar fin y neint gerllaw;
Y coedydd talgryf, tirfion,
A'u cangau'n gwyro'i lawr,
Fel pe yn methu cynnal pwys
Eu ffrwyth addfedol wawr.
Toreithiog eang feusydd
Dan fendith nefoedd wen,
Ar ogwydd hardd blygedig, ddwys,
Yn moli haul y nen;
Am anfon ei belydrau
Dan wraidd y gauaf dig,
A'i gladdu'n sŵyngyfaredd pêr
Cynghanedd côr y wig.
Deilios y ciros cochion,
waed ar ael y berth,
Gofleidiant y dyffrynoedd bras
Gerllaw y gelltydd certh,
Sy'n rhedeg tua'r gogledd,
Ac eraill tua'r de,
A'u breichiau fel pe'n cynnal pwys
Cymylau trwm y ne.
Prin oedd y gwlith yn disgyn
Dros wefus gwybren dêr,
Prin oedd yr awel falmaidd, fwyn,
Yn goglais gwenau'r sêr,
Pan oedd y gwyllt raiadrau
Yn galwu plant o'r bron,
I adrodd eu paderau'n llawn
Cyn cychwyn am y don.
Trwmlwythog niwl penllwydwyn
Lesmeiriai'n ngwres y dydd,
A'i droi yn faeth wnai'r hyfwyn hâf,
I gynnal blodau blydd;
Ardderchog hâf, mae'th wenau
Yn fôr o swynol gerdd,
A diluw o farddoniaeth goeth
Geir ar bob deilen werdd.
Melynwyn wenith dilys.
Ymdonai'n ddi-ystaen,
A'i dywysenau aeddfed, llawn,
Yn goron ar eu blaen;
Cyfoethog yw tymmhorau
Yr haf o'r lili wiw,
A delw eu Creawdydd glân
Yn gwenu yn eu lliw.
A gwyllt fynyddoedd cribog
Ddyrchant eu penau clir
A'r meillion, fel cadwyni aur,
O gylch eu gyddfau hir;
Y defaid gwlanog huliant
Eu huchel fanau iach,
A rhwng twmpathog lwyni brwyn
Cysgoda'r wynos bach.
Y gloyn byw di-dwrw,
A gwybed man y llwch,
Nofiant ar donau'r awyr lâs,
Heb angor wrth eu cwch;
Rhyw goleg anianyddol
Yw'r haf, o drefniant Duw,
Ac ynddo cawn aml wers yn rhad
I ddysgu'r ffordd i fyw.
I ddysgu byw yn ddiwyd
Tra pery hâf ein hoes,
A byw mewn undeb hyd ein bedd
Os daw i'n cwrdd rhyw groes;
Mewn undeb mae y lili,
A meillion mân y rhos,
Mewn undeb mae yr adar bach,
Sy'n canu gyda'r nos;
Molianu eu Creawdwr
Yw gwaith y rhai'n i gyd,
A pharod wyf i ganu, O!
Na byddai'n hâf o hyd.
DEIGRYN HIRAETH.
Mae bedd o fewn y fynwent draw,
A bedd o dan fy mron;
A chryndod hiraeth yn fy llaw
Fel staen yn crynu'r don.
Daeth gwanwyn gwedi'r gauaf erch
I ddeffro blodau'r ddôl;
Ond collais un o flodau'm serch
Ddaw hwnw byth yn ôl.
O deimlad dwys, ni fedr iaith
Ddesgrifio fy nhristhad;
'Rwy'n mynych holi ar fy nhaith
Pa le mae f'anwyl dad.
Cydymaith tyner ydoedd ef
Drwy'i fywyd imi'n rhan;
A phlanodd lu o salmau'r Nef
Ar dir fy enaid gwan.
Mor anhawdd ydoedd yn y glyn
Ei ollwng ef yn rhydd;
Er teimlo fod gafaelion tyn
Fy serch yn colli'r dydd.
Mae gafael gryfa'r ddynolryw
Ar lan 'r Iorddonen wen,
Yn tori'n ddwy pan fyddo Duw
Yn agor cwr y llen.
Ei enaid aeth dan ofal Duw
I heddwch pur y nef;
A ganlyn, cyn ffarwelio, yw:—
Ei eiriau olaf ef.
Mor beraidd i'r Credadyn gwan
Yw hyfryd enw Crist:
Mae'n llaesu ei boen, yn gwella'i glwy',
Yn lladd ei ofnau trist.
Y GRAIG AR FIN Y MOR
Y bachgen ieuangc deunaw oed
Adawodd dy ei dad;
Heb unrhyw achos, ond er mwyn
Cael myn'd i'r estron wlad;
Anturiwr oedd y bachgen dewr,
Heb ganddo bres yn 'stor,
A rodd ffarwel brydnawngwaith hâf
I'r graig ar fin y mor.
Fe rôdd ei fryd ar fyn'd i'r tir
Obeithiodd gael mwynhau,
O'i chyfoeth, a'i meddianau drud
Sydd yno yn parhau;
Dibryder oedd ar fwrdd y llong,
Ac etto'n mhell o'r ddor,
Lle cafodd weled gynta 'rioed
Y graig ar fin y môr.
Ei serch oedd fawr ar dy ei dad
Adawodd ar ei ol,
Ac ni feddyliodd ar ei daith
Ddynwared cwmni ffol;
Awyddai am gael gweled mwy
O ryfeddodau'r Ior,
Heb golli'i serch i olwg hardd
Y graig ar fin y môr.
'Rol croesi myrdd o donnau llaith
Daeth arno adeg wan,
Pan gofiodd nad oedd ganddo ffrynd
I'w gyfarch ar y lan;
Ymlaen yr aeth trwy ganol mwy
O ryfeddodau'r Ior,
A chadw wnaeth ei feddwl am
Y graig ar fin y mor.
Cyraeddodd ben ei siwrnai draw
Ymhell o dir ei wlad,
Pa gofio gwell all plentyn wneud
Na chofio tŷ ei dad;
Anfonodd nodyn dros y don,
Ac arno enw'r Ior,
A'i cadwodd wedi cefnu ar
Y graig ar fin y môr.
Mae'n rhaid i gariad mam a thad
Gael gweled goleu dydd,
Mae'n rhaid i serch gael dangos, pa
Mor gryfed yw ei ffydd:
Bu gobaith lawer noson oer
Yn sefyll ger y ddor,
Mewn pryder dwys yn edrych dros
Y graig ar fin y môr.
Cynyddu wnaeth y bachgen dewr
Mewn llwyddiant yn y byd;
Ac wedi hir flynyddoedd, trodd
Yn ol i'w gartref clyd;
Llawenydd mam a thad oedd fawr,
A mwy na gwerth y stor
Enillodd, wedi cefnu ar
Y graig ar fin y môr.
UNIGEDD.
Cyd-fuddugol yn Pontrhydygroes, 1910.
Unigedd y mynyddoedd
Dihalog yw ei swyn,
Lle chwery'r awel hoyw, rydd,
Ei thelyn rhwng y brwyn;
Bu llawer calon ieuange
Gystuddiol, heb y gân,
Yn wylo'i phrofiad gyda'r hwyr
Ar ei bellderau glân.
Unigedd y gwylltineb,
A gardd llygaeron iach;
Magwrfa cenedlaethau fyrdd
O blant yr 'hedydd bach,
O wynfyd cyfareddol
A'i dyfiant yn ddi-ffûg;
Mae ffordd i gyfrinachau Duw
Drwy harddwch blodau'r grug.
Unigedd glân yr afon
Dan fendith haul y nen,
A gloyw yw rhodfeydd y wawr
Yngwawl y lili wen;
Paradwys y briallu,
A mawl aderyn du,
A phryddest heb un odl ar goll
Yw'r gwlithyn ar ei blu.
Unigedd oer y beddrod,
Hwn fydd ein holaf gryd,
A'i bellder yn rhy ddwfn i'r haul
Oleuo'i dywyll fyd;
Unigedd ydyw'r galon,
Heb gariad Iesu Grist,
A bywyd heb oleuni yw'r
Unigedd mwyaf trist.
CWYN SERCH.
Myfanwy lon, mae fy mron
O dan rhyw don yn curo,
Dros ba hyd y caiff y byd
I fod yn gryd i'm siglo?
Mewn hiraeth mawr 'r wyf yn awr,
A gwrid fy ngwawr yn llwydo,
O eisiau'th gael, dirion ael,
Yn briod hael mewn bywyd.
Dan wenau sêr hawddfyd nêr
A ddo'i di'r bêr anwylyd?
Os wyf yn dlawd ar fy rhawd
Mae genyf frawd ariangar,
A'i eiddo fydd im' rhyw ddydd,
Os byw a fydd dy gydmar;
Mae ganddo dai, drudion rai,
A thir di-fai, a gwartheg;
Yn byw'n hen lange ar y bange,
A'i wange yn fawr am chwaneg.
Os deui di gyda fi
Bydd rhan i ti o'r rhoddion:
Ond nid yw pres yn fawr lles
Er dwyn yn nes dy galon.
A yw'th law am gilio draw,
Fel cynnar wlaw o'r ddaear,
A'm gadael i gyda'r llu
Yn unig i fy ngalar?
Pa le mae swyn d'eiriau mwyn
Fu'n cadw'r cŵyn o'm calon?
A'th siriol wedd gadwai'r hedd
Ar ddifalch sêdd fy nwyfron.
Ti fy mûn, wyt harddaf un
'Ran lliw a llun a weles,
O dan yr haul mewn mawr araul
Nid oes dy ail mewn hanes,
Y fûn ddi-nam, merch dy fam,
O! dywed paham na ddeui?
Cei fyn'd a d'od is y rhod,
A chario'r god, os myni;
Ac hapus iawn fydd dy nawn
Wrth dân o fawn y mynydd.
Er hyn i gyd nid yw'r byd
Yn noddfa glyd i deithydd,
Gall daw loes i glwyfo'th oes,
A hono'n groes i natur,
A lleddfu glân nodau'th gân,
Ac oeri tân dy gysur;
Cŵsg, flodyn gwyn, ar y bryn,
Daw niwl y glyn i'th wylio
Ond cofia di, rian gu,
Mai nid y fi sy'n cwyno.
TELYNEG GYDA'R WAWR.
Gyda'r wawr, i ben y mynydd
Af am dro i wel'd y wlad,
Gwlad y bryniau a'r dyffrynoedd,
Gwlad y nentydd gloywon, mâd;
Gwlad y gân,
O! mor lan
Ydyw dail ei meillion mân.
Gyda'r wawr, i ben y mynydd
Af am dro i wel'd yr haul,
Yn y dwyrain draw yn codi
Gyda'i rudd yn goch araul;
Pur ei liw.
Delw Duw
Mewn disgleirdeb ynddo'n byw.
Gyda'r wawr, i ben y mynydd
Af am dro i wel'd y lloer,
Ar ei hymdaith i'r gorllewin,
Uwch y mor brawychus oer;
Ond er hyn
Dw'r y llyn
Heno gaiff ei goleu gwyn.
Gyda'r wawr, ar ben y mynydd
Tery yr awelon iach,
Eu molawdau rhwng y creigiau
Yn nghymmanfa'r adar bach;
Lion di-rith,
Yn y gwlith
Gwlychant eu hadenydd brith.
Gyda'r wawr, ar ben y mynydd
Mae barddoniaeth bur yn byw,
A meddyliau heb eu canfod
Yn mhrydferthwch daear Duw;
Ar fy nhaith
Ceisiaf iaith
Fedr ganmawl Duw a'i waith.
Gyda'r wawr, ar ben y mynydd
Tlysni anian äiff a'm bryd,
Lle câf newydd hwyl i ganu
Ar y ffordd i arall fyd;
Os byw gâf,
Flodau braf
Hâf a gauaf canu wnaf.
'RWY'N COFIO AM Y TRO.
A mi yn fugail defaid
Mewn lluest flwyddi'n ol,
'Roedd genyf awydd d'od yn ddyn
Trwy rodio llwybrau ffol;
Yn nghwmni'r wyn a'r defaid,
A broydd hardda'r fro,
Dechreuais gablu enw Duw—
'Rwy'n cofio am y tro.
Euogrwydd fy nghydwybod
Oedd fwy na lled y cwm,
Heb ddeigryn edifeirwch pur
Ar dir fy ysbryd llwm;
'Doedd genyf barch i fywyd
Aderyn llwyd y tô,
Heb sôn am barchu deddfau Duw—
'Rwy'n cofio am y tro.
Wrth ddringo llethrau'r mynydd
Un boreu yn yr haf,
Tra'r awel yn cusanu min
Pelydrau'r haulwen braf;
Gerllaw i hen adfeilion
Diaddurn gefail go',
Mi drois yn llofrudd halog du—
'Rwy'n cofio am y tro.
Yn nghysgod craig gyfagos
Y canai 'deryn du,
A'r gwlith yn adlewyrchu'r wawr
Yn loyw ar ei blu;
A chareg finiog lleddais
Y pêr ganiedydd, do;
O! na chawn fedd i gladdu mai—
'Rwy'n cofio am y tro.
Y DDAFAD.
Cyd-fuddugol yn Blacnrheidiol, 1911.
Ddafad lân, o anian heini—a'i gwlan
Yn llaes glôg am dani,
Hudol ei brêf; a deil bri
Ei rhinwedd, i'w choroni.
Y TWRCH DAEAR.
Un ar antur naturiol—a diwyd,
Yw'r twrch daear, greddfol
Ei chastiau, ymorchestol
Erioed yw ar ei thraed ôl.
Y GOF.
Pwyntiwr einion, teyrn y pentan—garia
Gywrain gelfwaith allan,
Brawd enwog, brwd ei anian;
A mab y mŵg ymhob man.
AR BEN Y BRYN.
O! auaf oer, O! 'storom gref,
Ar ben y bryn,
A chariad puraf nef y nef
A'i flodau'n wyn.
Fe gofir tri o'r gloch prydnawn
Calfaria fryn,
Mae'r groes a'r bedd i Iesu Grist
Yn ddwyfol wyn.
Mae coron ddrain a hoelion dur
Calfaria fryn,
Yn harddach fil na sêr y nef
I gariad gwyn.
Mae'r lleidr achubwyd ar y groes
Yn berl y bryn,
Ond perl holl berlau nef y nef
Yw'r Iesu gwyn.
Fe rodd ei fywyd dros y byd
Ar ben y bryn,
A chalon ieuangc dan ei fron
A'i sedd yn wyn.
Gorphenwyd trefn i gadw dyn
Ar ben y bryn,
Trwy golli'i waed boddlonodd Ef
Gyfiawnder gwyn.
Mae gwanwyn bywyd Mab y Dyn
Ar ben y bryn,
Heb nos na llwydrew byth ar ddail
Ei flodau gwyn.
CENFIGEN.
Ti, genfigen, merch galanas
Llwyd a salw yw dy lun,
Byth ni dd'wed dy siarad diflas
Cefais ddigon i'm fy hun;
Chwennych eiddo dy gymmydog,
Chwennych bod o uchel ffawd,
Myn'd â'th berchen wnei yn bwyllog
Lawr i fedd y dyn tylawd.
Ar dy dir llygredig diffaeth
Byth ni thŷf blodeuglwm gras,
Ac mae'th awyr yn rhy fyglyd
I egwyddor fyw yn fras;
Blŷs dy drachwant sy'n diffoddi
Pob gwreichionen cariad pur,
Serch yn gruddfan dan ei boenau
Yn nyfnderoedd llid dy gur.
Marwor tanllyd pwll di-waelod
Yn pardduo'r enaid gwyn,
Ac nid oes i ti dderbyniad
Gyda'r Gŵr fu ar y bryn;
Hoff yw genyt droi'n glustfyddar
Ar ddoethineb elfen gâs,
Tlotach wyt nag ysbryd cysgod
'N tramwy llwch anialdir crâs.
Draenen lem yn ffugio'r rhosyn
Dan ddylanwad ysbryd drwg,
Pigo cynnen mewn cymdeithas
Yw dy waith, a thynu gŵg;
Bod yn arglwydd ydyw eisiau
Dy berchenog yn mhob man,
V'r hunanol eisieu 'ngweled
Ydyw iaith ei fenydd gwan.
Cydymdeimlad wedi rhewi,
Barn a rheswm dan dy draed,
Heddwch draw ar randir anghof
Wedi'i gladdu yn ei waed;
Anghyfiawnder fyn deyrnasu,
Brâd fyn guddio dan dy fron,
Môr dialedd yw dy fynwes,
A chynddaredd ar ei don.
Pa sawl beddrod anamserol
Dorwyd o dy achos di,
Faint o waed y cyfiawn yfaist
Er mwyn porthi'th ddamniol gri;
Pa sawl un a deimlodd bwysau
'I hunan ar y grogbren syn,
Pan oedd llinyn oer marwolaeth
Am y gwddf yn crogi'n dyn.
Pwy groeshoeliaist ar Galfaria,
Elli di ro'i atteb 'n awr,
Hawdd y gelli ro'i, attebiad-
Iesu Grist, y Ceidwad mawr;
Bu dy ddwylaw du'r pryd hwnw
'N gwisgo'i ben â'r goron ddrain,
Ac i'r fynwes ddwyfol gyraist
Hyd y carn y bicell fain.
Boed dy drigfan gyda'th dlodi
Yn ngwaelodion annwn fedd,
Paid a cheisio byth argraphu
Dy gysgodau ar fy ngwedd;
Balchder hunanoldeb rhagfarn,
Enllib malais uchel bôst,
Dyma nhw dy hen berth'nasau
Wnaeth i lawer wylo'n dôst.
Y BABAN.
Pwy na châr y baban bach
Llon diniwed;
Sy'n ymroddi gydol dydd
Ddysgu cerdded;
Cerdd a'i ddwylaw ar wahan
Ofna gwympo;
Llawer codwm sydd yn gwneud
Iddo wylo.
Gwridgoch yw ei ruddiau iach
Sy'n dynwared,
Lliw afalau yn yr hâf
Crynion addfed;
Rhes o ddanedd glanwedd mân
Oll yn wynion;
Pâr o lygaid siriol fel
Mwyar duon.
Euraidd wallt o gylch ei ben
Hardd modrwyog;
Angel hoff yr aelwyd yw
Glân a serchog;
Llawn o yni yw bob awr
A bywiogrwydd;
Penaf dalent baban yw
Diniweidrwydd.
Ceisio efelychu'i dad
Mae y tyner;
Cyn cyrhaeddyd oedran gwyn
Tair a hanner;
Rhaid cael morthwyl yn y llaw
Gyda hoelen;
Ac wrth geisio curo'i phen
Cura'i dalcen.
Gwyr pa fodd i foddio'i fam
Drwy ro'i cusan;
Gwyr pa fodd i foddio'i dad
Drwy fyn'd allan,
'R hyd y maesydd gyda'r hwyr
I hel blodau;
Ac i chwilio nŷth y dryw
Rhwng y brigau.
Peidiwch curo'r baban bach
Famau Cymru;
Ceisiwch gadw'i dyner fron
Rhag caledu;
Pwy a wyr na ddaw yn fardd
Neu'n wyddonwr,
Neu y gwelir ef ryw ddydd
Yn bregethwr.
Os yr ydych am gael parch
Yn eich henaint,
Denwch ef a chariad mam,
Dyma'r enaint,
Sydd yn tyfu yn y byd
Blant caredig,
Wna eich cofio chwithau pan
Yn fethedig.
DAU A DWY.
Dau deulu a dwy delyn—dau fach gwair,
Dwy foch goch Llywelyn;
Dwy gôg hardd, a dau gi gwyn,
Dwy fuches, a dau fochyn.
AFON YSTWYTH.
Buddugol yn Cwmystwyth, 1903.
Rhwng bryniau talfrigog a dyffryn godidog
Mae'r Ystwyth ddolenog yn rhedeg i'r môr,
Dros greigiau ysgythrog a glenydd meillionog
Y doldir toreithiog, 'n ol trefniant yr Iôr;
Ei dyfroedd tryloywon, pan gyll ei golygon
Ar fryn Ceredigion yn canu mae hi,
Tra'r haul yn noswylio, a'r daran yn rhuo,
A'r gwynt yn areithio, yn teithio mae hi.
Wrth gychwyn ei gyrfa yn araf y llifa
Dros wyneb y borfa, melfedog ei liw,
Gan ddechreu ymdroelli yn gyflym a gwisgi,
A myna briodi a'r afon du—liw
Yn mreichiau eu gilydd pwy welir mor ddedwydd?
'Does neb ond y prydydd, yn nghwmni ei fun;
Yn canu penillion a thywallt ei galon,
A thraethu'i gyfrinion cuddiedig ei hun.
Celfyddyd gan ddynion ni thorodd ei chalon,
Ufudd—dod yn union a ro'es iddynt hwy;
Arweiniwyd ei dyfroedd rhyd lethrau'r mynyddoedd,
Ac amryw fân gelloedd, i weithfa y plwy';
Olwynion peirianau, ynghyd â melinau,
A dry ar echelau, gan amlder ei grym;
Hi ylch y meteloedd yn lanwedd â'i dyfroedd,
A chluda i'r llynoedd fudreddi di—rym.
Ei glanau teleidion goronwyd a meillion,
A'r helyg melynion gusanant ei grudd,
A'r pysgod chwarëus a welir yn nwyfus
Ar wely cysurus, heb ofid liw dydd.
Y defaid diniwed, er tori eu syched,
Dd'ont iddi i yfed o'r mynydd ger llaw,
A'r nentydd grisialog a redant yn fywiog
I'r Ystwyth ddolenog, i gyd ysgwyd llaw.
Dadwreiddia goedwigoedd, a charia laweroedd
O wrtaith i'r cymmoedd caregog is-law;
Diffrwythder ddiflana bywiogrwydd deyrnasa,
A'r blodau gofleidia yr awel o draw,
Murmuron yr afon, a swyn cynghaneddion
Y pluog alawon gysegrant y fan,
A'r gormant adseiniol o'r mynydd yn ddyddiol
A dreigla yn wrol i weini ei rhan.
Ewynbyst claerwynion, dan faenol fargodion,
Ddisgynant i'r eigion, o olwg y byd,
Dyrwyga y creigiau, a mala'r ceulanau,
Mewn dwfn weithrediadau mae'r Ystwyth o hyd.
Perllanau cyfoethog, a gerddi rhosynog,
A maesydd toreithiog, a geir ar ei glan;
O! ryfedd Ragluniaeth, a drefnodd ddarpariaeth
I fod yn gynhaliaeth i'r cryf ac i'r gwan.
Ieuengctyd hawddgaraf, o galon dywedaf,
Cymmerwch yn araf, na ddodwch eich bryd
Ar bethau gwageddus a dry yn ffuantus;
Ond cerddwch yn ofnus wrth fyned trwy'r byd;
Dilynwch yr afon, gwrandewch ei halawon
Yn swyn ei murmuron, 'n bod ninnau yn myn'd
I'r môr anweledig, heb lan y weledig,
Sef nef gysegredig, a'r Iesu yn ffrynd.
TUCHANGERDD: MELLDITH CYSUR
GWRAIG ANNYNAD.
Mae Efa'n gorphwys yn y bedd
Er's rhai canrifoedd meithion,
Ac Adda'i phriod yr un modd
Yn llwch yn ei gwaelodion;
Gadawsant feibion ar eu hol
A merched glana'r ddaear,
A llawer mab sy'n gweled trwy
'R rhai hyn achosion galar.
Mae gan y pryfyn copyn nŷth
Ac ogylch gywrain rwydau,
A gwae y gloyn byw os aiff
Yn agos i'w grafangau;
Gwell iddo hedfan wrtho'i hun
A sugno mêl o'r blodion,
A chadw draw o rwydau'r nŷth
Rhag colli ei gysuron.
Mae croen y neidr yn ddisglaer glir
Trwy holl dymmhorau'r flwyddyn,
A chanddi lygad swynol byw
I ddenu serch aderyn;
O dan ei gwên mae colyn brâd
A hwnw'n llawn o wenwyn,
Ac nid oes feddyg trwy'r holl fyd
All wella'i frathiad sydyn.
Priododd Adda'r unig ferch
A grewyd yn ngardd Eden,
Llawenydd a ogleisiai'i fron
Ar ol gweithredu'r fargen;
Ar ben eu digon 'r oedd y ddau
Y nghanol amryw ffrwythau,
Gorchymyn gawsant beidio cwrdd
A'r afal yr afalau.
Aeth Efa, druan ferch, ryw nawn
I edrych am yr afal,
A thorodd dros orchymyn Duw—
'Doedd neb yn ceisio'i hattal;
'Rol cael ei thwyllo gan y sarph
Aeth 'n ol yn llawn o bechod,
Ac Adda gymm'rodd ran o'r wledd,
Er mwyn boddloni'i briod.
Dadfeiliodd cysur cyn bo hir
Ar ol cyflawni'r lladrad,
A hithau droes fel llawer un
Yn awr yn wraig annynad;
Pe gwisgid rhai â flian main
A sidan coch ysgarlad,
Haws wed'yn dofi natur llew
Na phlesio gwraig annynad.
Aeth llawer bachgen ieuange iach
I'r môr pan oedd yn dawel,
Anhysbys iddo'r storom fawr
Ymguddiai hwnt i'r gorwel;
Dechreuodd byd y sêr bruddhau,
A'i ofid a'i yn ddyfnach,
A rhwng ergydion storm a braw
Haul cysur nid oedd mwyach.
I fôr anwadal mynwes merch
Anturiodd llawer bachgen,
Ac ni freuddwydiodd yn ei ddydd
Fod yno arall elfen;
Hwyliodd mor bell ag allor serch
Ar fordaith ddi—ofidiau,
Ond cyn pen wythnos cododd storm
Ar ganol Bay of Biscay.
Aeth llawer un o achos gwraig
Annynad flin yn feddwyn,
A chwilio am gysuron gwell
Ar hyd y byd yn grwydryn;
Y nef a wyr beth fydd fy rhan
O fewn y byd anwastad,
Beth bynag gaf gobeithio'r wyf
Na chaf fi wraig annynad.
AR Y TRAETH.
Daw hâf a gauaf ar y traeth,
Ond llwm o hyd yw'r tywod,
Heb arno un blodeuyn gwan
Yn tyfu i brydferthu'r lan;
Lle gwelir olion difrod.
Daw haf a gauaf ar y traeth,
A gwanwyn tyner heulog,
A mynych daw'r adeiniog gôr
I'r goedlan werdd ar draeth y môr
I ganu yn odidog.
Daw hâf a gauaf ar y traeth,
A hydref anymunol,
I wlawio barug ar y don
Ac ymlid swyn ei miwsig llon
Gan roddi lle i'r lleddfol.
Daw haf a gauaf ar y traeth,
A stormydd yn eu hamser;
A chlywir swn organau'r aig
Yn taro'n nerthol ar y graig
Fel pe yn herio'i chryfder.
Daw haf a gauaf ar y traeth,
A llawer nos bryderus;
I galon gwraig y morwr sydd
Yn disgwyl gweled toriad dydd
A thawel hin dymherus.
Y GRAIG FAWR.
Goludog yw gwaelodion—y graig fawr,
Gwyrawg fud, ei throion;
A llwyfan serth prydferthion
Y grug hardd, yw y graig hon.
O oes i oes y Saeson—ofynant
Am fwnau'i choluddion;
Man oer llaith, y mwnwyr llon
Ymchwiliant am ei chalon.
TIC FY ORIAWR.
Tic fy oriawr, rhanu'r ydwyt
F'einioes frau yn ddarnau mân,
Trwst buander dy gerddediad
Barodd imi wneuthur cân;
Diwyd, diwyd, 'r wyt ti'n cerdded
Yn ddi—flino nos a dydd,
Nid oes gorphwys yn dy hanes,
Forwyn ffyddlawn, oriawr rydd.
Tic fy oriawr, ti sy'n galw
Arnaf 'godi gyda'r wawr,
I gyflawni fy ngorchwylion
Yn y byd 'r wyf ynddo'n awr.
Gwylio'r wyt fy symmudiadau
Gyda'r fath ddyfalwch dwys;
Llawer gwaith ti wne'st gondemnio
Fy nghymmeriad ar dy bwys.
Tic fy oriawr, gyda'r hwyrnos
Ti'm gollyngi etto'n rhydd,
I orphwyso gwedi lludded
Ar ol llafur maith y dydd;
Mae dy lais yn sibrwd wrthyf,
Rhagot dos, fy anwyl ffrynd;
Mae'r gorphenol wedi'th adael,
Bellach, 'mlaen rhaid iti fyn'd.
Tic fy oriawr, lloni f'ysbryd
Yr wyt weithiau ar fy nhaith,
Ond pryd arall 'r wyt ti'n gwisgo
Prudd-der dros fy ngruddiau llaith;
Wrth fy ngwel'd yn prysur ddringo
Pegwn uchaf f'olaf awr,
Pryd bydd raid i mi ffarwelio
A thydi a goreu'r llawr.
Tic fy oriawr, O! mor gyflym
'Rwyt ti'n rhifo oriau'r dydd,
Anniflanol yw sirioldeb
Dy wynebpryd lle y bydd;
Llawer cyfaill hoff hebryngaist
Tua'r fynwent oer ei gwedd,
Llawer deigryn hiraeth syrthiodd
Tra'n dy gwmni am y bedd.
Tic fy oriawr, dirgel ydwyt,
Mewn ystafell euraidd, glyd,
Wedi'th gau rhwng dorau arian
Gan gelfyddyd wech y byd;
Gelwir arnaf unwaith etto
Pryd yw gorphen hyn o gân,
Ac i'r gwely af o'r golwg,
Oer yw'r aelwyd heb ddim tân.
DOF YN OL I DY FY NHAD.
Gwarth y galon yw gwrthgiliad—a byw
O dan boen diraddiad;
Dof yn ol i dy fy Nhad,
Yw swm fy ymresymiad.
Dolgellau Argraffwyd gan E. W. Evans.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Nid oes gyfeiriad, at neb rhyw wrthddrych arbenig yn y gân hon, fel y tybia rhai.—YR AWDWR.
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.