Drama Enoc Huws (testun cyfansawdd)
| ← | Drama Enoc Huws (testun cyfansawdd) gan Thomas Howells, Pentre Rhondda a Joseph Milwyn Howells |
→ |
I'w darllen act wrth act gweler Drama Enoc Huws |


DRAMA:
ENOC HUWS
(Seiliedig ar Ffug-chwedl enwog Daniel Owen).
GAN
T. HOWELLS, L.T.S.C.,
A
J. MILWYN HOWELLS,
PENTRE RHONDDA.
GYDA
RHAGAIR
GAN Y
PARCH. DANIEL DAVIES,
PENTRE RHONDDA.
GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1913.
Digitized by Google
Original from HARVARD UNIVERSITY
DALIER SYLW.
Rhaid cael caniatad i berfformio y Ddrama hon ymlaen llaw bob tro. Mae i Gwmni ei chware heb ganiatad yn drosedd yn erbyn Deddf Hawlfraint.
Gellir cael caniatad i'w pherfformio am gydnabyddiaeth (fee).isel.
Ymofyner â'r Cyhoeddwyr yn unig.
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, GWRECSAM.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.
|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |
RHAGAIR.
YN ei ragymadrodd i'w lyfr, "Enoc Huws," fe sylwa Daniel Owen ar y datblygiad amlwg nodweddai lenyddiaeth Gymreig yr hanner can mlynedd blaenorol ; yr oedd yn uwch ei safon ac yn llawer mwy toreithiog. Erbyn heddyw, y mae yna feusydd newyddion wedi eu hennill i'n llenyddiaeth, a'r olaf ar un cyfrif ydyw maes y ddrama. Erys cymaint o newydd-deb ynglŷn â hwn fel y petrusa rhywrai ei gydnabod, a sibrydir mai nid arwydd o ddatblygiad ydyw, yn hytrach i'r gwrthwyneb.
Credwn ei bod yn rhy gynnar eto i basio unrhyw farn derfynol ar y ddrama, gan mai yn awr y ca ei chydnabod gennym. Onid oes gan y ddrama ei chenhadaeth atom fel cenedl ? Ai nid arwydd ydyw fod Cymru yn chwilio am ei delfrydau ? Fe orwedd yna haenau o wirionedd mewn chwedloniaeth bur grea angen am eu dwyn i sylw, a'u hargraffu ar feddyliau gwerin ein gwlad. Nid oes angen ar i Gymru fod yn llai moesol a chrefyddol drwy agor ei drws i'r ddrama, gan mai gwirionedd ac nid ffug orwedd yn sylfaen i'r cyfan. Nid dwyn y chwareudy i gynteddoedd cysegr yr Arglwydd amcenir, yn hytrach codi chwaeth ein pobl at y pur a'r dyrchafol.
Hyn, yn ddiameu, gymhellodd fy nghyfeillion i drefnu "Drama Enoc Huws." Wedi darllen y llyfr hwn yn fanwl, a'i weld yn cael ei bortreadu ar y llwyfan, gallaf ei gyflwyno yn y modd cynhesaf i sylw pobl ieuainc Cymru. Nid oes yma ddim yn ymylu at fod yn ddi-chwaeth, ond yn ffyddlon i fywyd drwyddo. Gall y piwritan pennaf ei ddarllen, ac edrych heb bigiadau cydwybod ar y portread o hono ar yr esgynlawr.
I mi, dau angenrhaid llwyddiant y ddrama yng Nghymru ydyw y rhai hyn,--(a) Rhaid i'r ddrama ei hun i fod o nodwedd uchel, a'i hamcan i ddiwyllio y bywyd Cymreig; (b) Fod y personau gymer at y gwaith o bortreadu yn gymeriadau teilwng, a'u bywyd yn gyfryw grea awyrgylch iach.
- Dilyned llwyddiant y ddrama "Enoc Huws."
DANIEL DAVIES.
- Pentre Rhondda,
- Medi 25, 1913.
- Pentre Rhondda,
CYFARWYDDIADAU.
(1) Gofaler dewis personau cymwys i bortreadu y gwahanol gymeriadau.
(2) Astudied pob un y cymeriad a gynrychiola yn fanwl. Rhaid i bob perfformiwr golli ei hunaniaeth personol yn y person a gynrychiola, cyn byth y gall obeithio cael argraff briodol ar y gynulleidfa. Ymdrecher i fod yn naturiol, — yn "true to nature."
(3) Bydder yn ofalus i ddewis gwisgoedd priodol. Dillad wisgid rhyw ychydig dros hanner can mlynedd yn ol[1] sydd eisieu ar gyfer y Ddrama hon. Gofaler peidio gwneuthur clowns o hen gymeriadau doniol, ysmala, Cymru Fu. Gwisger Capten Trefor a'r teulu yn drwsiadus a ffasiynol. Dillad trwsiadus, ond syml, fydd eisieu ar Enoc Huws, Mr. a Mrs. Denman; pan yn dyfod o'r siop i'r gegin, gwisga Enoc Huws siaced liain gwyn. Fel crydd y gwisga Tomos Bartley, heb gôt, a ffedog ledr o'i flaen, a gwisga Sem Llwyd fel mwnwr. Pais a betgwn, shawl fach a ffedog stwff wisga Marged a Barbara Bartley, ond y bydd eisieu cap gwyn ar ben Barbara.
(4) Dylai pob un fod yn barod yn ymyl i gymeryd ei ran cyn y daw yr adeg iddo ymddangos ar y llwyfan, fel na choller dim amser yn ofer.
(5) Os bydd prinder cymeriadau, gall yr un personau gynrychioli Capten Trefor a Tomos Bartley; Sem Llwyd a Jones y Plismon; Mrs. Denman a Kit, &c.
Y PETHAU ANGENRHEIDIOL I'R PERFFORMIAD.
YSTAFELL TYNYRARDD.—Tair neu bedair cadair esmwyth. Bwrdd mawr a gorchudd lliwiedig arno. Canhwyllbren pres. Inkstand, papur ysgrifennu, potel o whisky (neu rywbeth o'r un lliw). Clock.
YSTAFELL SUSI.—Amryw esmwyth-gadeiriau. Bwrdd crwn prydferth (loo-table). Sofa, Jewel Case, Cist Ddillad.
CEGIN SIOP Y GROES a THY DENMAN.—Un gadair freichiau, amryw gadeiriau cyffredin. Bwrdd mawr a llian gwyn arno. Llestri tê, tebot, torth o fara. Brws llawr, procer, a Beibl.
Y TWMPATH.—Bwrdd bach, neu hen ford gron, ddefnyddid yng Nghymru flynyddoedd yn ol. Mainc grydd, morthwyl, esgidiau, &c. Canwyll a chanhwyllbren. Ychydig o hen gadeiriau. Tri cwpan, tebot a thorth.
Gellir cael benthyg golygfeydd pwrpasol ar rollers gyda wings yn cyfateb am delerau rhesymol gan Mr. Daniel Evans, Secretary, The Rhondda Premier Dramatic Society, 3 Glyncoli Road, Treorchy. Mesurant 20 troedfedd wrth 15 troedfedd.
GOLYGFEYDD.
ACT I.
GOLYGFA 1—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
"2.—CEGIN SIOP Y GROES.
"3.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
"4.—Y LAWNT O FLAEN Y TY.
"5.—YSTAFELL SUSI.
"6.—TY MR. DENMAN.
ACT II.
GOLYGFA Y TWMPATH.
ACT III.
GOLYGFA 1.—CEGIN SIOP Y GROES.
"2.—YR HEOL.
"3.—CEGIN SIOP Y GROES.
"4.—YR HEOL.
ACT IV.
GOLYGFA 1.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
"2.—Y LAWNT O FLAEN Y TY.
"3.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
"4.—Y CAPEL.
CYMERIADAU.
| ENOC HUWS | • • • • • | Siopwr |
| CAPTEN TREFOR | • • • • • | Capten Gwaith Mwn |
| MRS. TREFOR | • • • • • | Gwraig Capten Trefor |
| SUSI | • • • • • | Merch Capten Trefor |
| MR. DENMAN | • • • • • | Siopwr |
| MRS. DENMAN | • • • • • | Gwraig Denman |
| SEM LLWYD | • • • • • | Mwnwr |
| TOMOS BARTLEY | • • • • • | Crydd |
| BARBARA BARTLEY | • • • • • | Gwraig Tomos Bartley |
| MARGED | • • • • • | Morwyn Enoc Huws |
| KIT | • • • • • | Morwyn Tynyrardd |
| JONES Y PLISMON | • • • • • | . |
| Y PARCH. OBEDIAH SIMON. | • • • • • | Gweinidog |
| YR AMERICANWR | • • • • • | Taid Enoc Huws |
DRAMA:
ENOC HUWS
ACT I.
GOLYGFA 1.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
- (CAPTEN TREFOR yn eistedd wrth y bwrdd, yn ysgrifennu, ei ben yn gorffwys ar ei law chwith, a'i bin ysgrifennu yn ei law dde. Yn sydyn, rhydd heibio ysgrifennu ac ymddengys mewn penbleth mawr. Yn ei ymyl y mae gwydr a photelaid o "Scotch Whisky," o'r hon у суmеr у CAPTEN lawer dracht. Wrth ben arall y bwrdd eistedda MRS. TREFOR yn gwnio. Mewn cadair esmwyth wrth y tân eistedda MISS. TREFOR yn diwyd weithio rhyw gywreinwaith gyda darn bychan o Ivory" ac edafedd wen. Sylwa MRS. a MISS. TREFOR nad oedd y CAPTEN yn ysgrifennu, ac amneidia y naill ar y llall. Yn ddisymwth, teifl y CAPTEN ei ysgrifbin ar y bwrdd, cwyd ar ei draed, a cherdda yn ol a blaen. Edrycha y fam a'r ferch arno yn frawychus. Meddai'r CAPTEN mewn llais cynhyrfus, gan daro y bwrdd)—
CAPTEN TREFOR.—"Fedra i ddim ysgrifennu, a threia i ddim chwaith, 'rwyf wedi blino a glân ddiflasu ar y gwaith, byth na symudo i!"
SUSI.—"Tada, ga i ysgrifennu yn eich lle chi?"
CAPTEN TREFOR.—"Cei, cei, os medri di ddweyd mwy o gelwyddau na fi."
SUSI."—The idea, dada!"
CAPTEN TREFOR.—"The idea, faw! be wyddoch chi am yr helynt yr ydw i ynddo o hyd yn ceisio cadw pethau i fynd ymlaen? Be'sy' gynnoch chi eich dwy i feddwl am dano heblaw sut i rifflio arian i ffwrdd, a sut i wisgo am y crandia, heb feddwl fawr am yfory? Ond y mae hi wedi dwad i'r pen, ac mi fydd diwedd buan arna i ac ar eich holl ffylal chithe, byth na symudo i, a mi fydd."
MRS. TREFOR (yn gyffrous). "O, Richard bach! O, Richard! 'roeddwn i'n disgwyl o hyd iddi ddwad i hyn. Mi wyddwn o'r goreu y bydde i chi ddrysu yn eich synwyre wrth stydio cimint ar geology. (Yn troi at MISS. TREFOR). Susi, ewch i nol y doctor ar unweth!"
CAPTEN TREFOR (yn edrych yn fygythiol ar SUSI).—"Doctor y felldith! Beth sy' arnoch chi, wraig? Ydach chi'n meddwl mai ffwl ydwi? Drysu yn fy synwyre yn wir ! Fe ddrysodd ambell un ar lai o achos."
MRS. TREFOR (yn gyffrous iawn).—"Ac yr ydech chi wedi drysu, ynte, Richard bach? Wel, wel, be nawn ni 'rwan? Susi, ewch i nol y doctor yn y munud!" (SUSI yn neidio ar ei thraed, y CAPTEN yn troi y fath olwg fygythiol arni nes peri iddi syrthio yn ol i'w chadair).
CAPTEN TREFOR.—"Wyddoch chi beth, wraig? Mi wyddwn eich bod wedi cysgu'n hwyr pan oeddan nhw'n rhannu ymenydd, ond feddyliais i erioed fod gynnoch chi can lleied o hono. 'Does fawr beryg i chi ddrysu yn eich synwyr, oblegid, byd a'i gŵyr, 'does gynnoch chi ddim o hono."
MRS. TREFOR.—"Nag oes siwr, nag oes, 'does gen i ddim synwyr, dydw i neb, dydw i ddim byd! Dydw i'n dallt dim geology, a mi faswn yn leicio gweld y wraig sydd yn dallt geology. 'Rydw i yn cofio amser pan oedd rhwfun oedd yn cyfri ei hun yn glefar iawn, yn meddwl fod gen i synwyr yr adeg honno, ne faswn i ddim yn gwrando arno fo. A 'does gen i ddim synwyr yrwan, dim, nag oes, ddim!" (Yn cuddio ei hwyneb yn ei ffedog ac yn wylo).
CAPTEN TREFOR (yn mynd i'w hymyl ac yn rhoddi ei law yn dyner ar ei braich).—"Sarah, maddeuwch i mi, mi wn mai ffwl ydw i, a mod i wedi anghofio fy hun. Mi ddylaswn wybod na wyddoch chi na Susi ddim am fusnes. Ond bydae chi'n gwybod am yr helynt yr ydw i ynddo 0 hyd, hwyrach y gwnaech chi faddeu i mi. Sarah, peidiwch a chrio; dyna ddigon, dyna ddigon, gwrandewch arna i."
SUSI.—"Tada, gobeithio nad ydech chi ddim yn mynd i sôn am fusnes, am syndicate, a Board of Directors, a geology, a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan 'y mam a finne mo bethe felly."
CAPTEN TREFOR.—"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi. Sarah, wnewch chi wrando arna i?"
MRS. TREFOR.—"Os gwnewch chi siarad fel rhw ddyn arall, a pheidio colli'ch tempar." (Yn sychu ei llygaid ac yn ail ddechreu gwnio).
CAPTEN TREFOR.—"Wel, mi dreiaf. Chwi wyddoch, Sarah, fy mod mewn cysylltiad â gwaith Pwllygwynt ers blynyddoedd. Y fi fu yn offeryn i gychwyn y gwaith, y fi, gyda un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae yn rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael cynhaliaeth oddiwrth y gwaith, ac fod y gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymdogaeth. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn brin o gysuron bywyd, nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu wedi codi ein hunain, ac edrychir arnom yn lled barchus. Mi wyddoch pa fath dŷ oedd gennym cyn hynny. Nid tŷ a stabal a couch—house oedd o, aie? Nid yr un un oeddwn innau yr adeg honno ag ydw i heddyw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, Williams' Court, a Capten Trefor, Tynyrardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan yn eistedd ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod,—yr oedd yn cael tipyn o flas ar • foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor ar yr Efengyl yn y sêt a'r glustog arni? Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chwi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor ddyfod yn Capten Trefor? Mi wn fy mod wedi cadw y cwbl oddiwrthych chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw yn hwy. 'Does dim ond dinystr yn ein haros." (Yn cymeryd dogn cryf o'r "Scotch Whisky," yn eistedd i lawr, yn tanio "cigar" ac yn dechreu ysmocio).
Y CAPTEN eto.— "Pan gychwynais Bwllygwynt, mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnai. Yr oedd yn y gwaith 'olwg'ragorol. Ni chefais unrhyw anhawster i ffurfio cwmpeini. Gyda chymorth Mr. Fox o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl arianog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i amryw o'n cymdogion, megis Hugh Bryan ac ereill, dlodi eu hunain er mwyn cael shares yn y gwaith, ac yr oeddwn innau yn rhoi ar ddeall iddynt fy mod yn gwneud ffafr a hwynt drwy adael iddynt gael shares am unrhyw bris. Ffurfiwyd cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o bunnau. Fe ddarfu i ni ei wneud yn point i beidio agor ond can lleied ag a fedrem ar y gwaith rhag i'w dlodi ddod i'r golwg, a chymerwyd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem ar y lan mewn buildings a machinery, ac yn y blaen. (Yn cymeryd dracht o Whisky.) Ydach chi yn 'y n'allt i, Sarah ? Mi wn wnewch chi mo fy nghrogi i. Pan gaem bob sicrwydd fod tipyn o blwm mewn rhan o'r gwaith, fe fyddem yn gadael llonydd iddo fel arian yn y banc, ac yn ei gadw nes byddai y cwmpeini ymron torri ei galon, a phan ddeallem eu bod ar fedr rhoi y gwaith i fyny, fe fyddem ninnau yn mynd i'r banc ac yn codi digon o blwm i roi ysbryd newydd ynddynt i fynd ymlaen am spel wedyn. Wedi eu cael i ysbryd reit dda, fe fyddem yn ail ddechreu cynilo, felly o hyd, ac felly o hyd, ar hyd / blynyddoedd, a minnau yn gorfod reportio fel hyn a reportio fel arall,—dyfeisio y celwydd yma un wythnos a'r celwydd arall yr wythnos wedyn, er mwyn cadw pethau i fynd ymlaen, nes yr ydw i wedi mynd heb yr un celwydd newydd i'w ddweyd, a thâl i mi ddim fynd dros yr hen rai, achos y mae y cwmpeini yn eu cofio yn rhy dda. Mae y shareholders trymaf wedi glân ddiflasu a chynddeiriogi, ac wedi penderfynu nad ant gam ymhellach."
MRS. TREFOR.—"Wel, Richard, ydach chi ddim yn deyd nad oes yna blwm ym Mhwllygwynt ? Mi'ch clywes yn deyd gantoedd o weithiau wrth Mr. Denman fod yno wlad o blwm, ac y byddech yn sicr o ddod ato ryw ddiwrnod."
CAPTEN TREFOR.—"Rhyngoch chwi a fi, Sarah, mi gymraf fy llw nad oes ym Mhwllygwynt ddim llond fy het i o blwm. Ond wneiff hi mo'r tro, wyddoch, i bawb gael gwybod hynny. Dydio fawr o bwys am bobl Llunden, ond y mae'n ddrwg gen i dros Denman. Mae o'n gymydog, ac wedi tlodi ei hun yn dôst. Yn wir, mae gen i ofn y bydd Denman can dloted a finnau rai o'r dyddiau nesaf yma."
MRS. TREFOR (mewn dychryn mawr)—"Can dloted a chithe, Richard? Ydach chi ddim yn deyd y'ch bod chi yn dlawd?"
CAPTEN TREFOR.—"Can dloted, Sarah, a llygoden eglwys, ond just yn unig y pethau a welwch o'ch cwmpas. Yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi (Yn edrych ar SUSI, SUSI wedi syrthio i gysgu). Susi! sut y medrwch chi gysgu tra mae'ch mam a finnau yn son am ein hamgylchiadau ?"
SUSI (yn rhwbio ei llygaid). "Mi wyddoch, tada, na dda gen i ddim clywed son am fusnes."
CAPTEN TREFOR (yn gyffrous).— "Fe fydd raid i chwi, fy ngeneth, ymorol am fusnes i chwi eich hun rai o'r dyddiau nesaf. Ie, Sarah, yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi yn byw mewn fool's paradise. Yr ydym yn dlawd, dalltwch y fact yna. Mae dialedd o arian wedi mynd trwy fy nwylaw; ond 'does dim bendith wedi bod arnynt, maent wedi mynd i rywle, a chwi wyddoch eich dwy lle mae llawer ohonynt wed imynd. Waeth i ni edrych y ffaith yn ei gwyneb,—yr ydym yn dlawd, ac fe fydd Pwllygwynt a'i ben ynddo cyn pen mis."
SUSI.—"O mam!"
CAPTEN TREFOR (mewn llais uchel a chynhyrfus).—"Mamiwch chi fel y mynnoch, a rhyngoch chi a fi, miss, fe ddylech chi fod yn fam eich hun cyn hyn, yn lle rhoi rhyw airs i chi eich hunan. Rhaid i chi ddyfod i lawr beg neu ddau a chymeryd rhywun y gellwch gael gafael arno, pe na byddai ond miner cyffredin."
SUSI—"The idea, tada!"
CAPTEN TREFOR.—"The idea 'r felldith! ydach chi ddim yn rialeisio eich sefyllfa? Oes dim posib pwnio dim yn y byd i'ch pen chwiban chwi?"
MRS. TREFOR.—"Richard, cedwch eich tempar. Os dyna ydi ein sefyllfa, os tlawd yden ni, ar ol yr holl flynyddoedd o gario ymlaen, be ydach chi'n feddwl neud?"
CAPTEN TREFOR.—"Dyna chi, yrwan, Sarah, yn siarad fel gwraig synwyrol. Dyna ydyw y cwestiwn, Sarah. Wel, dyna ydyw fy mwriad, cadw i fyny yr appearance cyd ag y medraf, a dechreu gwaith newydd gynted ag y gallaf. (Curo wrth y drws. Yn mynd i edrych pwy oedd yno). Wel, dyma Mr. Denman! Dewch i fewn. Soniwch am ac y mae o'n siwr o ymddangos. Yr oeddem just yn siarad am danoch yrwan, eisteddwch i lawr, syr."
MR. DENMAN.—"Beth wnaeth i chi siarad am dana i?"
CAPTEN TREFOR.—"Wel, deyd yr oeddwn i—ond dyma chi, Mr. Denman, Ladies, hwyrach y carech chi fynd i ystafell arall. (SUSI a MRS. TREFOR yn mynd allan. Y CAPTEN yn eistedd yn y gadair gyferbyn â MR. DENMAN, ac yn estyn 'cigar' iddo). Ie, dyna oeddwn i'n ddeyd, Mr. Denman, cyn i chi ddyfod i mewn mai campus o beth fydd eich gweld chi, sef yr unig un o'n cymdogion sydd wedi dal i gredu ym Mhwllygwynt, mai campus o beth fydd eich gweld ryw ddiwrnod yn ŵr bonheddig. Yr ydych yn haeddu hynny, Mr. Denman, mi gymra fy llw, os haeddodd neb erioed."
MR. DENMAN.—"Os na ddaw hynny yn fuan, yr wyf yn debycach o lawer o ddiweddu fy oes yn y workhouse. A oes gennych chi ryw newydd am Bwllygwynt? Fath olwg sydd acw 'rwan?"
CAPTEN TREFOR.—"Wel, 'does gen i ond yr hen stori i'w hadrodd wrthych, Mr. Denman, ac nid yr hen stori chwaith. Mae acw well golwg yrwan nag a welais i ers tro. Ac eto, mae gen i ofn deyd gormod, rhag y cawn ein siomi. Mae yn well gen i bob amser ddeyd rhy fychan, na deyd gormod. Ond mi ddwedaf hyn, ac wrth gwrs, nid wyf yn cymeryd arnaf fy mod yn anffaeledig, ond can belled ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd, mae acw well golwg yrwan nag a welais i o'r blaen. Ond rhyngoch chwi a fi, fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae y Saeson yma yn rhoi y gwaith i fyny, a hynny pan ydym o fewn dim i gyrraedd y plwm. Ac fe fyddai hynny yn bechod o beth."
MR. DENMAN.—"Wyddoch chi be, Capten, bydae'r Saeson yna, fel yr ydach chi yn eu galw nhw, yn rhoi y gwaith i fyny fory, fydde hynny ddim yn ddrwg gen i mewn ffordd o siarad. Nid am nad ydw i'n credu fod yno blwm—na, mae gen i ffydd o'r dechre ym Mhwllygwynt. Ond bydaswn i'n gwybod y buasai raid i mi wario cymaint o arian, fuaswn i erioed wedi ymuno â'r cwmpeini. Feddyliais i erioed y buasai raid i mi wario mwy na rhyw gant neu ddau, ond erbyn hyn y mae yn agos y cwbl sy' gen i wedi mynd, a fedr fy mhoced i ddim dal."
CAPTEN TREFOR.—"Yr wyf yn gobeithio nad ydych yn meddwl y gwnawn i eich camarwain yn fwriadol, fodd bynnag ? Ac am eich poced, wel,—yr ydym yn gwybod yn go lew am honno. Pe buasai gan Capten Trefor boced Mr. Denman, fe fuasai yn cysgu yn ilawer tawelach heno. Mae gennych dai a thiroedd, Mr. Denman, ac os rhowch i fyny eich interest yn y gwaith, chwi a edifarhewch am bob blewyn sydd ar eich pen. Mae gennyf innau shares yn y gwaith, ond cyn y rhown i fyny yrwan, mi werthwn fy nghrys oddiam fy nghefn."
MR. DENMAN.—"Y mae gennyf bob ffydd ynnoch chi, Capten. Yn wir, faswn i 'rioed wedi meddwl am gymeryd shares yn y gwaith oni bai fy mod i yn eich adnabod chi, a'n bod ni'n dau yn aelodau yn yr un capel. Na, beth bynnag a ddaw o Bwllygwynt, mi ddywedaf eich bod chi yn onest. Ond mater rhaid fydd arna i roi fyny. Waeth i mi ddeyd y gwir, yr wyf wedi mortgagio y tai a'r tiroedd agos i'w llawn werth, oddigerth y tŷ yr ydw i yn byw ynddo, a ŵyr y wraig acw ddim am hynny. Bydae hi yn gwybod, fe dore'i chalon. Fe ŵyr am y prinder arian sydd acw, a mod i wedi cario dialedd i Bwllygwynt; ac y mae hi'n rhincian, rhincian o hyd, ond bydae hi'n gwybod y cwbl, mi fydde'n rhaid i mi hel 'y mhac."
CAPTEN TREFOR.—"Mae'n ddrwg gennyf eich clywed yn siarad fel yna. Ond yr wyf yn gobeithio ac yn credu y gwelaf y dydd y byddwch yn deyd y cwbl i Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol. Ond y mae'r cwbl yn dibynnu ar a fydd gan y cwmpeini ffydd ac amynedd i fynd ymlaen."
MR. DENMAN.—"Bydae'r cwmpeini yn rhoi y gwaith i fyny, be nae chi, Capten, ai mynd i fyw ar eich arian ?
CAPTEN TREFOR.—"Nid yn hollol felly, Mr. Denman, ond yn hytrach ail gychwyn."
MR. DENMAN.—"Pwllygwynt?"
CAPTEN TREFOR.—"Ie, Pwllygwynt, pe buasai gennyf ddigon o arian. Pe buasai gen i ddigon o foddion, mi fuaswn yn prynnu Pwllygwynt. Ond gan nad oes gen i ddim quite ddigon i hynny,—yn wir, ddim yn agos digon,—mi fuaswn yn cychwyn mewn lle arall. Mae fy llygad ar y lle ers tro. Eithaf peth, Mr. Denman, ydyw bod yn barod ar gyfer y gwaethaf. A ngwaith iy ca'i o fod, gydag ychydig ffryndiau, ac ni cha'i y Saeson yna roi eu bŷs yn y brywes hwnnw. Gwaith a fyddai i ddod i dalu yn fuan. Ond fe fydd rhaid i mi gael ychydig ffryndiau o gwmpas cartre' i gymeryd shares. Un o'r ffryndiau hynny fydd Mr. Denman."
MR. DENMAN.—"Lle mae eich llygad arno, Capten, mod i mor hy' a gofyn?"
CAPTEN TREFOR.—"Wel, yr ydym yn hen ffryndiau, a mi wn na wnewch chwi ddim gadael i'r peth fynd ymhellach ar hyn o bryd, beth bynnag. Cofiwch nad yrwan y mae y lle wedi dyfod i fy meddwl i gyntaf; na! mae o yn fy meddwl i ers blynyddoedd,—yr wyf wedi breuddwydio llawer yn ei gylch. O ran y meddwl, y mae'r peth yn hen,—mae'r bydle'n fywiog, mae'r engine yn chwyrnu, mae'r troliau yn cario'r plwm i Lanerchymor, ac eto mae'r borfa yn lâs ar wyneb y tir! Yr ydych yn deall fy meddwl, Mr. Denman? Yn y meddwl y mae'r gwaith yn hen, ond mewn reality, y mae y dywarchen heb ei thorri. Yn fy meddwl,—(yn cau ei lygaid am ychydig), yr wyf yn gweld y cwbl ar lawn waith,—mae yn hen, hen, yn fy meddwl i, ond yn newydd i'r byd, yn wir, yn anwybyddus, yn ddirgelwch hollol!"
MR. DENMAN.—"Hwyrach fy mod yn rhy hy', ond dydach chi ddim wedi deyd eto ".
CAPTEN TREFOR.—"Mr. Denman, peidiwch ag arfer geiriau fel yna, 'does dim posib i chi fod yn rhy hy' arnaf. Fel y dywedais, yr ydym yn hen ffryndiau, a 'does gen i ddim eisieu cadw dim oddiwrthych,—dim, dim. Ac os oes rhywun i fod yn gyfrannog a mi yn y fentar hon, Mr. Denman ydyw hwnnw."
MR. DENMAN.—"Yr wyf yn bur ddiolchgar, Capten, ond y mae arnaf ofn nad allaf fi fentro dim yn ychwaneg. Nid oes gennyf ddeg punt arall i'w gwario heb wneud cam â fy nheulu."
CAPTEN TREFOR.—"Yr ystyriaeth yna yn bennaf, er nad yn hollol, sydd yn fy ngorfodi i'ch gosod ar yr un tir a mi fy hun gyda'r fentar newydd. Cofiwch fydd yno ddim Saeson i'n rheoli. Gwaith fydd,—arhoswch, ddarfu i mi ddim dweyd eto wrthych am enw y lle y mae fy llygad arno."
MR. DENMAN.— "Naddo."
CAPTEN TREFOR.—"Wel, dyna ydyw'r lle,—daiff o ddim pellach, ar hyn o bryd, Mr. Denman? Wel, dyna'r lle, Coed Madog! Coed Madog!! Coed Madog!!! Ie, gwaith fydd Coed Madog i ennill arian, ac nid i'w taflu i ffwrdd ar bob anialwch. Yr ydych chwi a minnau, Mr. Denman, wedi gwario digon, ac y mae'n bryd i ni ddechreu ennill. Ond y mae'n rhaid gwario rhyw gymaint. Felly, mae'n rhaid i ni gael rhywrai i gymeryd shares. Yr ydych yn adnabod dynion yn well na mi, ac yn gwybod eu hamgylchiadau. Os gallwn wneud daioni i gyfeillion y capel, goreu oll, ond os bydd raid mynd at enwadau ereill, fydd mo'r help. Pwy fyddant, Mr. Denman?"
MR. DENMAN.—"Wel, Capten, o'n pobol ni, fedra i feddwl am neb tebycach na Mr. Enoc Huws, Siop y Groes, a Mr. Lloyd, y twrne."
CAPTEN TREFOR.—"Rhyfedd! fel y mae ein meddyliau yn cydredeg. Am Mr. Huws y meddyliais innau gyntaf. Wn i beth am Mr. Lloyd, ond y mae Mr. Huws, fe ddywedir, yn ddyn sydd wedi gwneud llawer iawn o arian. Mae yn ŵr ieuanc parchus, ac o safle uchel fel masnachwr, yn ddiameu yn grefyddol, ac os gallwn roi rhywbeth yn ei ffordd gyda'r gwaith, fe fyddwn yr un pryd yn gwneud daioni i'r capel. Ond y pwnc ydyw a allwn ni ei gael i weld lygad yn llygad â ni. Mae mining yn beth dieithr iddo yn ddiau, a chyda rhai felly, nid hawdd ydyw dangos pethau yn eu lliwiau priodol. A wnewch chwi ei weld, Mr. Denman?"
MR. DENMAN.—"Yr wyf yn meddwl mai y cynllun goreu a fyddai i chwi anfon am dano yma heno."
CAPTEN TREFOR (yn taro ei law ar y bwrdd, yn eistedd i lawr ac yn dechreu ysgrifennu).—"Y mae y dalent o daro yr hoel ar ei phen gennych, Mr. Denman. Mi anfonaf air ato'r munud yma."
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 2.— CEGIN SIOP Y GROES.
- (MARGED y forwyn wedi paratoi super. ENOC HUWS yn dod i mewn o'r siop, yn gafael yn y gadair ac yn eistedd wrth y bwrdd).
ENOC HUWS.—"Marged, mae'n biti o beth fod fy 'stumog i mor ddrwg, achos yr ydach chi wedi gwneud swper splendid, fase dim posib iddo fod yn well. Bydaswn i'n gwybod y basech chi'n gwneud swper mor dda, mi faswn i wedi gwadd rhwfun yma; ond y mae gen i ofn y bydd raid i mi fynd at y doctor i gael rhywbeth at fy 'stumog."
MARGED.—"Ydi, mae'r swper yn suffisiant i un dyn byw, a mi na i dipyn o dê wermod i chi, mistar, achos i be 'rewch chi at y doctor pan fedra i neud cystal ffisig ag yntau a gwell?"
- (ENOC HUWS, ar ol ymgeisio, yn meth methu a bwyta; yn aros yn llonydd am ennyd, â golwg ddigalon yn edrych i'r tân. MARGED wedi syrthio i gysgu yn y gadair freichiau. ENOC HUWS yn codi ar ei draed, yn mynd yn wyliadwrus ac yn edrych yng ngwyneb MARGED, er gweld os oedd yn cysgu, ac wedi cael sicrwydd ei bod, gwena, aiff yn ol i'w gadair, estyna ei bibell oddiar y "mantlepiece," ac wedi ei thanio, eistedda drachefn, a chan amneidio a'i law at MARGED).
ENOC HUWS.—"All right, Jezebel! Ond y mae byw fel hyn yn humbug perffaith. Dyma fi wedi bod wrthi fel black drwy'r dydd, ac i ba beth? Mae pob gwas sy' gen i yn fwy hapus na fi. Diolch na ŵyr neb sut fyd sy' arna i. Bydae pobol yn digwydd dod i wybod, fedrwn i byth ddangos fy wyneb, mi awn i'r 'Merica, neu rywle, mi gymra fy llw. A pham y rhaid iddi fod fel hyn? 'Dydw i ddim yn dlawd,—yr ydw i'n gwneud yn well nag ambell un, a 'rydw i'n meddwl, bydawn i'n cynnyg fy hun—wel, 'rydw i'n agos yn siwr y medrwn i gael—ond waeth heb siarad! Ai nid y ffaith fy mod i'n pendroni bob nos ynghylch Miss Trefor ydi'r achos o fy holl anghysuron? Digon gwir! Ond yr wyf am roi pen ar hynny heno,— pen am byth bythoedd. Piti na faswn i yn ŵr bonheddig. Mae'i thad, fe ddywedir, yn gyfoethog, ac yn meddwl llawer o honi. Digon naturiol. Felly 'rydw innau. Capten Trefor, faint o bris yr ydach chi'n roi ar Miss Susi? Felly, Enoc Huws ydi'r highest bidder! Ond golygwn, for the sake of argument fod hynny yn bosibl, ac hyd yn oed yn debygol, beth fyddai y canlyniad? Revolution yn fy holl amgylchiadau. Yn y lle cyntaf, fe fyddai yn rhaid troi Marged i ffwrdd,—(yn edrych at MARGED ac yn amneidio â'i law),—ac fe fyddai yn rhaid cael dau blismon i hynny, fe fyddai'n rhaid ail ffyrnisho'r tŷ hefyd, o'r top i'r gwaelod, os nad cael darn newydd ato, ac fe ai'r tipyn arian sy' gen i, a holl brofit y busnes, i gadw style i fyny. Ond, dyna ffaith sobor i'w dweyd, pe byddai hynny yn bosibl, fe gai pob ffyrling fynd am fyw gyda hi a'i galw yn Mrs. Huws ddim ond am un flwyddyn, ac os bu ffwl erioed, Enoc Huws ydi hwnnw! Ond aros di, Enoc, chei di ddim bod yn ffwl ddim yn hwy, mi rown ben ar y meddyliau gwâg yma ar ol heno. (Curo wrth y drws). Holo! pwy sy' na 'rwan? Ydi'r siop ddim wedi bod yn agored trwy'r dydd, tybed? A'r un rhai ydyn' nhw bob amser. Yr hen Fusus Bennett, neu 'rhen Murphy, mi gymra fy llw." (Rhagor o guro wrth y drws. MARGED yn deffro ac yn ymlusgo yn araf at y drws dan rwbio ei llygaid).
MARGED.—"Dowch i mewn, y ngeneth i. Mistar, (yn peswch),—O'r anwyl dirion! 'rydach chi wedi bod yn smocio yn ddigydwybod,—'rydach chi'n siwr o ladd eich hun rw ddiwrnod. Dyma lythyr oddiwrth Capten Trefor, a ma'r eneth yma isio ateb!" (Yn estyn y llythyr. ENOC HUWS, gyda llaw grynedig, yn agor y llythyr. MARGED a'r eneth yn ymddiddan â'u gilydd. ENOC HUWS yn troi ychydig o'r neilltu ac yn darllen y llythyr).
ANWYL SYR,
"Os nad ydyw yn ormod o'r nos, ac os nad ydych yn rhy flinedig ar ol eich gwahanol oruchwylion, ac os nad oes gennych gwmni nas gallwch yn gyfleus eu gadael, teimlwn yn ddiolchgar i chwi pe cerddech can belled ag yma, gan fod gennyf eisieu ymddiddan gair â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau. Disgwyliaf air gyda'r gennad.
Yr eiddoch yn gywir,
"RICHARD TREFOR."
- (ENOC HUWS yn aros ennyd, yn ymddangos mewn penbleth, yn eistedd i lawr wrth y bwrdd yn ysgrifennu ateb. MARGED yn dod ymlaen at ei ochr).
MARGED.—"Be' sy' gan y Capten eisio gynnoch chi, Mistar?"
ENOC HUWS (yn gwta).—"Busnes."
MARGED.—"Busnes yr amser yma o'r nos? Pa fusnes sy' gynnoch chi i neud 'rwan?"
ENOC HUWS.—"Mae'r Fly Wheel Company wedi mynd allan o'i latitude, a mae rhywbeth y mater efo'r bramoke."
MARGED (yn cymeryd gafael yn nodyn CAPTEN TREFOR ac yn ceisio ei ddarllen).—"Mi faswn inne yn leicio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes." (Yn estyn atebiad Enoc i forwyn Tynyrardd).
ENOC HUWS (yn gwisgo ei esgidiau ac yn siarad rhyngddo ag ef ei hun)." Yr ydach chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwdsach! (Yn codi ar ei draed ac yn ail ddarllen llythyr CAPTEN TREFOR). 'Mae gennyf eisieu ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau.' Beth all fod ystyr y geiriau hyn?" (Yn rhoi'r llythyr yn ei logell ac yn cerdded allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 3.— YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
- (CAPTEN TREFOR a MR. DENMAN yn eistedd ac yn ymddangos yn ymddiddan â'u gilydd. Curo wrth y drws. Y CAPTEN yn codi i weld pwy sydd yno).
CAPTEN TREFOR.—"Nos da, dowch i mewn, Mr. Huws, (ENOC HUWS yn dod i mewn), eisteddwch i lawr, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, er mae'n rhaid i mi ddweyd, dydi hynny ddim yn compliment mi wn, fy mod wedi eich gweld yn edrych yn well. Gweithio yn rhy galed yr ydych. Mae eich busnes yn fawr, ac y mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ol. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws, mi fyddaf bob amser yn deyd mai nid gwneud arian ydyw popeth yn yr hen fyd yma."
ENOC HUWS (yn fyrr ei wynt).—"Yr wyf yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi—Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir' rydwyf wedi colli 'ngwynt allan o bwff—fel y byddan nhw yn deyd—a minnau ddim yn rhw Samson o ddyn."
CAPTEN TREFOR.—"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws, achos nid yw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma o'r nos. Y fi ddylasai ddod atoch chi, oblegid y mae a fynno y mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi nag â chwi. Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, dydi'r mater yr wyf eisieu cael ymddiddan â chwi ddim yn beth newydd i mi; a Mr. Denman ydyw yr unig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman?"
MR. DENMAN.—"Ie, ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn i yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon am danoch yma heno."
CAPTEN TREFOR.—"Yr wyf gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws, wedi sicrhau virgin ground, fel y dywedir."
ENOC HUWS.—"Diolch, os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf fi just a ffeintio."
CAPTEN TREFOR.—"Ond y cwestiwn yw a fyddwch chwi yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hynny."
ENOC HUWS.— "Twbi shwar y byddaf yn foddlon." (Yn ffeintio).
CAPTEN TREFOR (yn neidio ar ei draed ac yn gafael yn ENOC HUWS).—"Mr. Huws, mae arnaf ofn nad ydych yn teimlo yn iach, mae eich gwedd yn dangos hynny yn eglur,—(MR. DENMAN a'r CAPTEN yn ei roddi i orwedd ar y soffa), dowch ymlaen yma, syr, gorweddwch ar y soffa am funud, yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r 'stumog, hwyrach, allan o order. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru. Susi, (SUSI yn dyfod i mewn),—dowch a thipyn o frandi yma ar unwaith."
ENOC HUWS.—"Na, na, mi fyddaf yn alright yn union dêg."
CAPTEN TREFOR.—"Mae'n rhaid i chwi gymeryd rhywbeth i'ch dadebru, yr ydych wedi gorwneud eich hun."
- (SUSI yn dyfod i mewn gyda gwydriad llawn o frandi; yn tybio mai i'r CAPTEN yr oedd. Yn gweld ENOC HUWS yn gorwedd ar y soffa yn mynd ato).
SUSI." O! Mr. Huws bach! 'rydach chi'n sâl? O! mae'n ddrwg gen i, ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch. (Yn rhoddi ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben. ENOC HUWS yn cymeryd dogn o'r brandi; ei boethder yn peri i'r dwfr neidio i'w lygaid.) Peidiwch a chrio, Mr. Huws, mi ddowch yn well toc! Dowch, cymrwch o i gyd. (Yn rhoddi y gweddill iddo). Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, a mi ddowch yn well yn y munud." (Yn rhoddi ei ben i lawr ar y soffa).
ENOC HUWS (yn floesg).—"Thank you."
CAPTEN TREFOR (yn dyfod at ei ochr ar ol aros ennyd)." Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"
ENOC HUWS (yn codi ar ei eistedd).—"All right, garech i mi ganu cân i chwi?"
CAPTEN TREFOR.—"Ha, ha, ha, mi wyddwn y gwnaethai tropyn ddaioni i chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham na wnaiff o ddaioni i minnau? Ac wedyn chwi ellwch chwi fynd, Susi, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd ymlaen." (SUSI yn mynd allan).
ENOC HUWS.—"Certainly, yr ydw i yn barod i entro unrhyw agreement resymol; ac yr ydw i yn addo i chwi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down i hynny, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno."
CAPTEN TREFOR.—"Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws, gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pam y dylai gŵr fel y chi—(SUSI yn dyfod i mewn ac yn estyn gwydriad o frandi i'r CAPTEN, yntau yn ei ddodi ar y bwrdd). Thank you, Susi, chwi ellwch chwi fynd 'rwan. Ie, dyna pam y dylai gŵr fel y chwi gael rhywun i gymeryd rhan o'ch baich a'ch gofal, ac i edrych ar ol eich cysuron. Dyna yw eich angen mawr, Mr. Huws. Beth a ddaethai o hono i, syr, oni bai am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd ers llawer dydd."
MR. DENMAN.—"Chlywes i neb erioed yn gosod y peth yn fwy teidi. Un garw ydach chi, Capten."
CAPTEN TREFOR.—"Na, 'does dim eisieu i ddyn fod yn un garw i ddarganfod y gwirionedd yna, ac yr wyf yn mawr hyderu y bydd Mr. Huws ei hun yn brofiadol o'r peth cyn nemawr o fisoedd. Ond y mae'n bryd i ni ddod at y pwnc."
ENOC HUWS.—"Ydi, ac yr ydw i'n berffaith barod, a goreu po gyntaf y down ni i understanding efo'n gilydd."
CAPTEN TREFOR.—"Wel, yr wyf wedi ymdroi yn lled hir cyn dyfod at y pwnc."
ENOC HUWS (y naill ochr)." Gynddeiriog."
CAPTEN TREFOR.—"Ond buaswn wedi dyfod ato yn gynt oni bai wel, 'does dim eisieu son am hynny eto. Ond dyna ydyw y pwnc, Mr. Huws. Chwi a wyddoch, nid oes neb a ŵyr yn well, ac eithrio Mr. Denman a fy hunan hwyrach, fod Gwaith Pwllygwynt wedi ac yn bod yn brif gynhaliaeth y gymdogaeth y gwelodd rhagluniaeth yn dda i'ch llinynau chwi a minnau ddisgyn ynddi. Ond y tebygolrwydd ydyw y bydd diwedd buan ar Bwllygwynt, pryd y cymer le, ai ymhen mis ai ynte blwyddyn. Y mae y cwbl yn dod i hyn, Mr. Huws, i mi ei roi i chwi mewn cneuen, am nad allaf gael fy ffordd fy hun o drin y gwaith, ac fod y Saeson sydd yn byw yn Llunden yn meddwl y gwyddant hwy sut i weithio Pwllygwynt yn well nag un sydd wedi treulio mwy na hanner ei oes tan y ddaear. Y pwne yw hyn,—'does dim yn well na bod yn barod ar gyfer y gwaethaf."
ENOC. HUWS.—"Mi welaf ffordd mae'r gwynt yn chwythu 'rwan."
CAPTEN TREFOR.—"Ac yr wyf fi, nid er mwyn fy hun, meddaf,—yr wyf wedi sicrhau virgin ground, neu, mewn geiriau ereill, lle y gallwn gydag ychydig gynorthwy, agor gwaith newydd,—nid ar yr un scale, mae'n wir, a Phwllygwynt, ond gwaith, gydag ychydig gannoedd o bunnau o gôst, a ddeuai i dalu am dano ei hun mewn byrr amser. Yn awr, Mr. Huws, fe ddarfu i Mr. Denman a minnau benderfynu rhoi y cynhygiad cyntaf i chwi, oddiar yr egwyddor o nes penelin nag arddwn! Ond peidiwch addaw yn rhy fyrbwyll, cymerwch noswaith i gysgu dros y mater, oblegid ni ddymunwn am ddim ar a welais arfer dylanwad amhriodol arnoch,—yn wir, byddai yn well gennyf i chwi wrthod, os na fedrwch ymuno â ni yn yr anturiaeth hon o wirfodd calon."
ENOC HUWS.—"Yr oeddwn yn dyfalu o'r dechreu mai gwaith mine oedd gennych, Capten Trefor, mewn golwg, ac fel y dywedais pan fydd pwnc o fusnes ar y bwrdd, yr wyf bob amser yn barod i entro i unrhyw agreement resymol,hynny yw, os ymddengys yn rhesymol ac yn debyg o droi allan yn llwyddiannus, ni byddaf yn ol o'i daclo. Ond y mae'n rhaid i'r peth ymddangos i mi yn rhesymol cyn yr ymyraf ag ef. Hwyrach pan ddown i berthynas agosach, os byth y daw i hynny, fel y dywedais o'r blaen, y bydd y fentar yn ymddangos yn oleu i minnau. Mi gymraf eich cyngor, Capten Trefor, mi gysgaf dros y mater, a chawn siarad am hyn eto. Mae'n ddrwg gennyf glywed am Bwllygwynt, ac y mae'n bwysig i mi, ac i ereill, fod rhywbeth yn cael ei ddarparu ar gyfer y gwaethaf fel y dywedasoch."
CAPTEN TREFOR.—"Mae'n dda gennyf eich clywed yn siarad fel yna, Mr. Huws. Mae yn well gennyf eich clywed yn dweyd yr ystyriwch y mater na phe buasech yn datgan eich parodrwydd i gymeryd shares cyn deall pa beth yr oeddech yn ei wneud. Pa beth a roeswn i heno pe bai Cwmpeini Pwllygwynt o'r un ysbryd ac ansawdd meddwl a chwi, Mr. Huws? Hynny ydyw, yn agored i wrando ar reswm. Ond mi adawn y mater yn y fan yna heno.
(ENOC HUWS yn rhoddi ei het am ei ben, ac yn paratoi i fynd allan. CAPTEN TREFOR yn galw). Susi, dewch i ddangos Mr. Huws allan. Nos da, Mr. Huws." (Yn ysgwyd dwylaw. SUSI yn agor y drws ac yn hebrwng ENOC HUWS allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 4.—Y LAWNT O FLAEN Y TY.
- (MISS. TREFOR ac ENOC HUWS yn cerdded ochr yn ochr).
SUSI.—"Cymerwch ofal rhag cael anwyd, Mr. Huws, a 'rydw i yn gobeithio eich bod, erbyn hyn, wedi dod atoch eich hun yn reit dda."
ENOC HUWS.—"Cystal ag y bum erioed. Miwn o hyn allan lle i ymorol am y doctor os digwydd i mi fynd yn sâl. Wn i ddim beth ddaeth drosto i,—hwyrach mai hyrio gormod ddaru mi. Cymerwch chwithau ofal, Miss Trefor, a pheidiwch aros allan yn yr awyr oer; mi fedraf ffeindio'r gate yn burion."
SUSI (yn cerdded o flaen ENOC HUWS).." O, dydw i ddim yn delicate."
ENOC HUWS.—"Dydw innau ddim chwaith, ond faddeuwn i byth i mi fy hun pe cymerech chwi, Miss Trefor, anwyd wrth ddyfod i agor y gate i mi."
SUSI.—"Gobeithio na chewch chwi byth achos i fod yn anhrugarog atoch eich hun. Os ydw i heb yr un fonet, mae gen i ben caled, wyddoch, Mr. Huws."
ENOC HUWS.—"Gobeithio nad ellir dweyd yr un peth am eich calon, Miss Trefor."
SUSI.—"Fydd 'y nghalon i, Mr. Huws, byth yn gwisgo bonet, achos dydi hynny ddim wedi dod i'r ffasiwn eto."
ENOC HUWS.—"Nid y fonet oedd yn fy meddwl, Miss Trefor, ond y c'ledwch."
SUSI.—"Mae hynny yn bur resymol, Mr. Huws, achos y mae'n hawddach dychmygu am gledwch yn y meddwl nag am fonet yn y meddwl."
ENOC HUWS.—"Un arw ydach chi, Miss Trefor."
SUSI.—"Thank you, Mr. Huws, un arw fyddwn ni yn Sir Fflint yn galw un fydd yn nodedig o hyll, neu wedi ei marcio yn drom gan y frech wen,—tebyg i Marged, eich housekeeper chwi."
ENOC HUWS.—"Digon gwir, Miss Trefor, ond chwi wyddoch fod i rai geiriau ddau ystyr."
SUSI.—"Dau ystyr, Mr. Huws, dywedwch fod i bob gair hanner dwsin o ystyron gennych chwi, y dynion, achos dydach chi byth yn meddwl y peth ydach chi'n ddeyd, nac yn deyd y peth ydach chi'n feddwl, pan ddaw'ch geiriau a chwithau i wynebau eich gilydd."
ENOC HUWS.—"Mi ddywedaf hyn, mai angel ydach chi, Miss Trefor."
SUSI.—"Hyh! angel syrthiedig wrth gwrs ydach chi'n feddwl, achos y mae dau ystyr i'r gair. Wel, bydaswn i yn gwybod y basech chi, Mr. Huws, mor gas wrtho i, chawsech chi ddyferyn o frandi, a mi gawsech farw ar y soffa, y dyn brwnt gynnoch chi. Nos dawch, Mr. Huws." (Yn rhedeg i'r ty. ENOC HUWS yn gwneud ymgais i'w dal).
ENOC HUWS.—"Yr hen jaden glyfar! A bydase hi heb 'i gloęwi hi, wn i ddim be faswn i'n fedryd ddweyd mewn atebiad iddi. (Yn cerdded yn ol a blaen am ennyd, ас yn ymddangos megis mewn penbleth). Na, dydi hi ddim mor unapproachable ag oeddwn i'n meddwl. Dydio ddim ond rhyw ffordd sydd ganddi. Wel, ond fum i'n ffwleyn! Tybed ddaru'r Capten ddallt mai am Miss Susi yr oeddwn i'n meddwl tra 'roedd o'n siarad am waith mine? Mi fu just i mi 'i henwi hi fwy nag unweth. Y fath lwe na ddaru mi ddim! Y fath joke fase'r peth! Y fath joke ydi'r peth! Be bydae rhai o'r chaps yma ddim ond cael gwynt ar y stori! Y fath wledd fyddai hi! Ac eto, dydw i ddim yn hollol dawel fy meddwl,—fedra i ddim peidio ofni fod yr hen dderyn wedi spotio mod i yn meddwl am Miss Trefor, tra 'roedd o yn son am waith mine. Ac mor debyg! Ond pwy, tu yma i'r haul, fase'n dallt at be 'roedd o'n dreifio, efo'i 'yn wir,' ac 'mewn geiriau ereill,' ac 'fel mater o ffaith?' Mae pob brawddeg ganddo cyd a blwyddyn, ac yn cym'ryd gwynt dyn yn lân. Mae un peth yn 'y mlino i'n sobor,'Peidiwch a chrio, Mr. Huws bach,' medde hi. Ymhell y bo 'nyna! Crio; dyn yn fy oed i yn crio am 'i fod o'n sâl! Dyna ddaru hi feddwl, mi wn. Dario 'nyna! Ond y felldith brandi hwnnw 'naeth i'r dagrau ddod i fy llygaid i! Bydaswn i'n marw fedrwn i mo'u stopio nhw. Wel, ond oedd o can boethed a lwmp o dân Uff, mi gymra fy llw! A hithe yn meddwl mai rhyw fabi yn crio am ei fam oeddwn i. Os lladdiff rhywbeth fi yn 'i golwg hi, y crio neiff. . . . Ymhell y bo! mi fase'n well gen i na chan punt dase'r crio yna heb hapno. Mi gymra fy llw 'i bod hi'n edrach arnai fel rhyw lwbi—labi! Ond fe fydd raid i mi gymeryd shares yn y fentar newydd, bydase'r fentar yn Jericho mi fase'n dda gen i! I be yra ii daflu fy mhres i ffwrdd ar rywbeth na wn i ddim am dano? Swindle ydi'r rhan fwyaf o'r gweithydd mines yma. Ac eto, mae'r Capten yn dad i Susi, ac yn ddyn gonest ac anrhydeddus—am—wn—i. Bydae o'n deyd mai yn y lleuad y mae o am fentro, fe fydd raid i mi gymeryd rhyw ychydig o shares. Ond mi dreiaf fod yn wyliadwrus yn y dechre', nes cael gweld a fydd rhyw obaith i mi am Susi. Heb Susi, dim mentro; Susi, a mi fentraf yn Jupiter, byth o'r fan yma." (Yn cerdded allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 5.—TYNYRARDD,—YSTAFELL SUSI.
- (SUSI yn eistedd mewn cadair ac yn ymddangos mewn myfyr dwys).
SUSI.—"'Rydw i'n bump—ar—hugain oed, a dydi'r gwr bonheddig ddim wedi dwad eto! Ddaw o ddim bellach, ne mi fase wedi dwad cyn hyn. Hwyrach fod nhw wedi dallt, o mlaen i, fod fy nhad yn dlawd. O'r brenin anwyl! y fath syc! Sobor! Pam na fase fo'n deyd yn gynt, yn lle cadw mam a finne yn t'w'llwch? Agadeli ni gario mlaen ar hyd y blynyddoedd! Be ddeidiff pobol? a be nawn ninne? (Yn codi ar ei thraed). Wel, os tlawd yden ni, tlawd y dyle ni ymddangos, humbug ydi ymddangos a dim byd ond ymddangos. (Yn tynnu ei watch o'i llogell). Mae gen i flŷs lluchio'r watch aur yma allan drwy'r ffenest. Dim chwaneg o honoch chi,(yn eu tynnu oddiam ei garddyrnau), bracelets a gold brooch. Dydach chi ddim yn gweddu i bobol dlawd. Ac eto, yr ydach chi yn bur bropor! a dyma i chi gusan o ffarwel! (Yn eu dal yn ei llaw ac yn eu cusanu, ас уп eu gosod yn eu 'case' ar y bwrdd). Gorweddwch yn eich wadding nes y bydd yn rhaid eich gwerthu i gael bwyd! (Yn codi i fyny ac yn edrych arnynt yn y 'case'.) Y pethe bach tlws! un cusan eto,—(yn eu cusanu),— a dyna y cauad dros—eich—gwyneb! (Yn eu gosod ar y bwrdd, ac yn cau arnynt yn araf). O! yr ydw i fel 'roedd y nhad yn deyd, wedi rhoi airs i mi fy hun. Ond dim chwaneg; faswn i ddim wedi cario ymlaen bydase nhad wedi deyd yn gynt mai tlawd oedden ni. Mi wisga ffroc gotyn! Mae'ma un yn rhywle. Mae hi dipyn allan o'r ffashwn erbyn hyn ddyliwn, ond mi fedraf ei haltro. (Yn chwilio am dani mewn bocs). Lle mae hi? Weles i moni ers gwn i pryd. Sealskin? (Yn dal i fyny siaced "Sealskin"). Wel, rhaid dy droi dithau yn bres ryw ddiwrnod, ddyliwn. Lle mae'r hen ffroc yma? Ddylies i 'rioed fod gen i gymin o ddillad! Mi fydda 'r cwsmer goreu a gafodd Mr. Lefiticus, y pawnbroker, ers blynyddoedd. Yn eno'r anwyl, ddaru mi rhoi hi i rwfun? Na, dyma hi! Wel, yr hen ffroc. (Yn canu) Should old acquaintance be forgot? Mae nhad yn leicio nghlywed i yn canu honyna, ond dim chwaneg o ganu i mi. Wyt ti'n 'y nghofio i, yr hen ffroc? 'Rwyt ti'n edrach yn go rinclyd, ond yfory mi dy rown di ar gefn cader o flaen tân, i dynnu y rhincyls o honot ti. Be ddyliet, yr hen ffroc, o gael mynd i'r capel unweth eto? 'Rwyt ti wedi dy amddifadu o foddion gras ers talwm, on'd wyt ti? (Yn codi ei llawes i fyny). Rheswm! mae 'ma le i mi fyw yn dy lewys di, a mae dy wasg di tua milltir yn rhy hir. Ond dyna, yr hen froc, lle'r wyt ti yn 'y nghuro i,—pan â i yn hen, fydd o ddim diben fy rhoi i ar gefn cader o flaen tân i dynnu'r rhincyls o 'ngwyneb i! (Yn rhoddi y ffroc yn ol yn y bocs ac yn eistedd yn y gadair). Yr idea! Ie, y nhad yn son am i mi gymeryd miner cyffredin. Na, na, byth! na, na'n dragywydd! bydawn 'dloted a Job. Be oedd y baboon gan Enoc yn feddwl wrth ddeyd mai angel oeddwn i? Oedd o'n meddwl rhywbeth? Ond dda gen i mo'r Sant,—mae o'n rhy dduwiol, yn rhy lonydd. Bydase fo'n hanner dyn, mi fase'n trio cael cusan gen i wrth y gate; ond bydase fo'n gneud hynny, mi faswn yn rhoi slap iddo yn ei wyneb. On' rois i dôs iawn i'r hen Rechabite! Mi fu agos iddo dagu! Y baboon! A finne'n deyd,—'Peidiwch a chrio, Mr. Huws bach.' Hwyrach 'y mod i'n ddrwg, ond mi fyddaf yn leicio deyd rhwbeth i flino hen lanciau,— rhwbeth, bydawn i'n medrud, a dyne waed o'u calen nhw. Ond mae Enoc yn well na miner cyffredin. Poverty has no choice bydae hi'n dwad i hynny. Mae gyno fo brês, lot, mae nhw'n deyd. Dyna un good point. Ond mae o mor hen ffash! A mae hi wedi dwad 1 hyn, Susi? Wel! wel! Fy idea i wastad oedd os na phriodwn i er mwyn arian oedd bod dros 'y mhen a nghlustie mewn cariad efo rhwfun, a thaflu fy hun drwy'r ffenest i'w freichiau dri o'r gloch y bore, a rhedeg i ffwrdd i briodi efo special licence! 'Does gen i ddim mynedd efo rhai sy'n priodi'n sad yn y capel, mae'n gas gen i gweld nhw. Aceto, hwyrach mai felly y bydd hi hefo finne. Efo 'miner cyffredin?' Byth bythoedd, bydae raid i mi foddi fy hun! Be oedd 'y nhad isio, tybed, efo Enoc? I sycio fo i fewn ddyliwn, 'run fath a Hugh Bryan, druan, a Mr. Denman. (Yn codi ar ei thraed). Ond y mae'n rhaid gwneud rhywbeth rhag llwgu." (Yn mynd allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 6.—TY MR. DENMAN.
- (MRS. DENMAN yn eistedd yn gwnio. Y swper ar y bwrdd yn barod, yn troi i edrych ar y cloc, ac yn mynd i'r drws i edrych os oedd DENMAN yn dyfod. DENMAN yn dyfod i mewn braidd yn llechwraidd. Yn gafael mewn newyddiadur oedd yn ymyl. Yn cynneu pibell ac yn dechreu smocio. MRS. DENMAN yn taflu golwg fygythiol iawn arno).
MRS. DENMAN.—"Wel, Denman! Denman! sut mae gynnoch chi wymed i ddwad i'r tŷ yr adeg yma ar y nos?"
MR. DENMAN (yn ddidaro).—"Oeddech chi'n disgwyl i mi ddwad heb yr un gwyneb?"
MRS. DENMAN.—"Oes gynnoch chi ddim cwilydd, mewn difri', Denman, fod yn colma hyd dai pobol dan berfedd y nos? Fyddwch chi'n gweld rhwfun arall yn gwneud hynny?"
MR. DENMAN.—"Lot."
MRS. DENMAN.—"Lot? Pwy ydyn' nhw, ysgwni? Ydyn' nhw yn rhwfun a rhyw gownt o honyn' 'u hunen?
MR. DENMAN.—"Ydyn."
MRS. DENMAN.—"Ydyn ddyliwn, rhwfun 'run fath a chi'ch hun. Ydyn' nhw yn rhwfun yn hidio rhywbeth am eu gwragedd a'u teulu?"
MR. DENMAN.—"Ddaru mi ddim gofyn iddyn nhw."
MRS. DENMAN.—"Naddo, ddyliwn, mi wn hynny heb i chi ddeyd i mi. Ydach chi'n meddwl 'y mod i'n mynd i aros dan berfeddion arnoch chi i ddwad i'r tŷ?"
MR. DENMAN.—"Ddaru mi 'rioed ofyn i chi neud hynny."
MRS. DENMAN.—"Naddo, a bydae chi'n gofyn, dydw i ddim am neud."
MR. DENMAN." Purion."
MRS. DENMAN.—"Symol purion. Oes gynnoch chi 'run tŷ'ch hun i fod ynddo'r nos?"
MR. DENMAN.—"Eighty—two High Street."
MRS. DENMAN.—"Diar mi! mor dda 'rydach chi'n cofio'r numbar! Fyddwch chi ddim yn camsynied weithiau?"
MR. DENMAN.—"Fum i erioed mor lwcus."
MRS. DENMAN.—"Lwcus, ydach chi'n deyd yn 'y ngwymed i, Denman, fod chi wedi blino arna i?"
MR. DENMAN.—"Blino ar un mor ffein a chi?"
MRS. DENMAN.—"Ie, deydwch yn blaen, Denman, achos mi wn mai dyna ydi'ch meddwl chi, deydwch yn blaen nad ydach chi'n hidio dim am dana i. Dydw i dda i ddim ond i slafio fel 'rydw i wiriona. Welsoch chi fi ryw dro yn mynd i dai'r cymdogion i golma?"
MR. DENMAN.—"Erioed? Fuoch chi erioed yn nhy Mrs. Price dan unarddeg o'r gloch y nos? Diar mi, naddo!"
MRS. DENMAN.—"Am unweth,—unweth yn y pedwar amser, yr eis i dŷ Mrs. Price i gael paned o dê. Ydach chi'n edliw hynny i mi, Denman? Ydach chi am i mi fod a'm mhen wrth y post ar hyd y blynydde?"
MR. DENMAN.—"Dim o gwbl; mi faswn yn leicio i chi fynd i edrach am Mrs. Jones y Siop, hanner dwsin o weithiau yn y mis, ond fyddwch chi byth yn mynd."
MRS. DENMAN.—"Ydach chi'n edliw hynny i mi hefyd, Denman? Mi gymra fy llw na fum i ddim ond dwywaith yn nhŷ Mrs. Jones ers pythefnos. Os ai i rywle, mi ga hynny ar draws fy nannedd yn syth!"
MR. DENMAN.—"Draws y'ch dannedd?
MRS. DENMAN.—"Llai o'ch speit chi, Denman, 'roedd gen i gystal dannedd a chithe hyd yn ddiweddar. A be ddisgwyliech chi i fam i bump o blant? Ydach chi'n disgwyl i mi fod yn ferch ifanc o hyd? Ond 'does gynnoch chi ddim parch i mi, mae hynny'n ddigon plaen. A lle'r ydach chi wedi bod heno, Denman? Lle—y—buoch—chi?"
MR. DENMAN.—"Efo niod, wrth gwrs. Ydach chi ddim yn 'y ngweld i wedi meddwi?"
MRS. DENMAN.—"Na, mi wn na fuoch chi ddim efo'ch diod, ond fase waeth i chi fod efo'ch diod na bod efo'r hen Gapten y felldith ene, achos mi wn o'r gore mai yno y buoch chi. Ai nid yno y buoch chi, Denman?"
MR. DENMAN.—"I be 'rydach chi'n gofyn a chithe'n gwbod?"
MRS. DENMAN.—"Mi gymra fy llw mai yno y buoch chi. Deydwch y gwir, Denman, ai nid yno y buoch chi?"
MR. DENMAN.—"Twbi shwar, ddaru chi 'rioed gym'ryd llw drwg."
MRS. DENMAN.—"Ond wyddwn ni gystal a daswn i efo'ch chi mai efo'r hen felldith gwaith mine ene 'roeddech chi. 'Rydw i wedi deyd a deyd nes ma nhafod i'n dwll—."
MR. DENMAN.—"Be, eich tafod chi'n dwll?"
MRS. DENMAN.—"Beiwch chi fel y mynnoch chi, yr ydw i wedi deyd digon, os digon ydi llawer, am i chi roi pen ar yr hen fentro y felldith ene. Os ydi pobl erill sydd yn 'u sidane yn medrud rifflo'u pres ar fentro, 'does dim isio i chi, dyn ar 'i ore, hel pob ceiniog a'u taflu nhw i Bwllygwynt, na welwch chi byth wymed y delyn o honyn' nhw. A 'rydach chi wedi'n gwneud ni cyn dloted, nad oes gynnon ni geiniog i ymgrogi. Be ydach chi'n feddwl, Denman? Pryd ydach chi'n meddwl stopio hel pob ceiniog i'r hen Gapten y felldith ene? (MR. DENMAN yn cychwyn i fynd i'r gwely). A dyma chi 'rwan yn mynd i'r gwely heb fynd ar eich glinie! Crefyddwr braf yn wir!
MR. DENMAN (mewn tymer).—"Hwdiwch, ddynes, os gwnewch chi addaw cadw y tafod yna yn llonydd am ddau funud, mi geisiaf innau ddarllen pennod." (Yn gafael yn y Beibl).
MRS. DENMAN.—"O, dydw i, ddyliwn, i gael deyd dim! Rhaid i mi fod yn ddistaw a diodde'r cwbwl, fel bydawn i garreg. Wel, mae hi wedi dwad i rwbeth! Ydi, dydw i neb, nag ydw, neb, er 'y mod i'n fam i bump o blant. Ie'r plant, druen! 'does neb yn hidio dim am danyn' nhw. Mae'n dda fod gynyn nhw fam, ne be ddeuthe o honyn' nhw? Mae rhw bobl yn gallu bod yn ddigon diofal, fel bydae nhw'n perthyn dim byd iddyn' nhw! Wel, fe ddaw rhwbeth ar ol hyn, daw, daw, ond mi wn hyn, na fydda i ddim yma'n hir. Wrth hir guro ar y garreg mae hi'n siwr o dorri, bydae rhwfun yn hidio am hynny! Ond hwyrach y gwela nhw 'ngholli i, er saled ydw i! Mae Rhwfun yn gwbod y cwbwl, a mi geiff pawb gyfiawnder yn y diwedd. Caiff, caiff! (MR. DENMAN yn ymddangos fel pe na bae yn clywed). Mae rhw rai yn gallu gwrando'r cwbl fel bydae dim byd yn 'u blino nhw. Mi fase'n dda gen i fedrud gwneud hynny. Ond y Brenin Mawr a ŵyr, ie, Fo sydd yn gwbod." (Yn torri allan i wylo yn uchel).
(Y LLEN YN DISGYN].
Diwedd yr Act Gyntaf.
ACT II.
GOLYGFA.—Y TWMPATH.
- (TOMOS BARTLEY yn rhoi "polish" ar esgid oedd newydd ei gorffen. Gesyd sawdl yr esgid yn erbyn ei gylla a rhwbia hi yn egniol am ennyd. Cwyd ei ben a chan gau un llygad, deil ymyl yr esgid rhyngddo a'r ganwyll oedd yn ei ymyl. SEM LLWYD yn dyfod i fewn.)
TOMOS BARTLEY.—"Helo, Sem, lle buoch chi'n cadw, ddyn? 'Rydw i wedi bod yn y'ch disgwyl chi drw'r dydd. A chithe ddim yn gweithio, fase waeth i chi roi'ch clun i lawr yma na phendwmpian gartre. Eisteddwch i lawr, Sem, mi fydda wedi gorffen yr esgid yma mewn dau funud, ac ono mi gawn smogen a mygòm." (SEM LLWYD yn eistedd i lawr).
SEM LLWYD.—"Raid i ddyn sy'n medru darllen, er 'i fod o allan o waith, ddim pendwmpian, Tomos."
TOMOS BARTLEY.—"Twbi shwar, 'rydw i'n rhy at o feddwl fod pawb 'run fath a fi fy hun. Os na fydda i'n gweithio ne'n smocio, ne'n byta, mi fydda'n cysgu; dyna just y pedwar peth ydw i'n neud yn yr hen fyd yma."
SEM LLWYD.—"Rhw hen fyd go sâl fydde fo bydae pawb 'run fath a chi, Tomos."
TOMOS BARTLEY.—"Siampal! ac eto, 'rydw i'n reit cyfforddus, a dydw i ddim yn gweld y rheini sy'n sgolors yn rhw helynt o bethe,—'rydw i lawn cystal fy off a rhan fwya o honyn nhw, diolch i'r Brenin Mawr am hynny. Achos os ceiff dyn fwyd a diod ac iechyd, be chwaneg sy' gyno fo isio?
SEM LLWYD.—"'Rydach chi'n anghofio, Tomos, fod gan ddyn feddwl ac enaid, ac y mae isio porthi'r enaid cystal a'r corff."
TOMOS BARTLEY.—"Twbi shwar, ydach chi ddim yn meddwl 'y mod i mor ddwl a hynny, Sem? Achos i be yr yden ni'n mynd i'r capel 'blaw i gael profigwns i'r ened? Deyd yr ydw i, Sem, na feder dyn ddim byw ar ddoethineb. Achos dyma chi a finne, 'rwan, y fi yn ddyn dwl a chithe'n sgolor, ac er 'y mod i blwc yn hŷn na chi, mi gymra fy llw y pwysa i ddau o honoch chi, Sem, er y'ch holl ddoethineb, achos 'rydach chi'n edrach mor dila, ddyn, a bydae chi'n byw ar bot past." (SEM LLWYD yn cael pangfa ofnadwy o beswch. TOMOS BARTLEY yn rhoddi heibio ei waith ac yn mynd ymlaen i ochr SEM LLWYD. Edrycha yn syn i'w lygaid).
TOMOS BARTLEY.—"Wyddoch chi be, Sem? 'Daswn i ddim yn y'ch nabod chi, a gwbod bod chi 'run fath ddeng mlynedd yn ol ag ydach chi 'rwan, faswn i'n rhoi'r un ffyrling am eich bywyd chi. Wel, ond ydach chi'n pesychu, ddyn, fel bydae chi'n mynd i farw! Cym'rwch smogen, Sem, gael i'r pwl fynd drosodd. Barbra!"
BARBARA BARTLEY.—"Be ydach chi isio, Tomos?"
TOMOS BARTLEY.—"Gwna paned o goffi i ni, a thipyn o facyn i iro tipyn ar du mewn Sem yma, ne chawn ni ddim byd o hono fo, gei di weld. (BARBARA BARTLEY yn gosod llian ar y bwrdd ac yn dyfod a'r llestri a'r bwyd i'r bwrdd). Sem, wyddoch chi pwy rôth y blwch baco ene i mi? (Yn estyn y blwch i SEM LLWYD). 'Llennwch y peth sydd ar y ceuad."
SEM LLWYD.—"Mi wela." (Yn darllen yr argraff ar y ceuad).
Presented
to
Thomas Bartley, Esq.,
By his humble admirer,
W. Bryan.
TOMOS BARTLEY.—"Pry' garw oedd y bachgen hwnnw, ys gwn i lle mae o 'rwan? Sem, 'rydw i wedi meddwl gofyn i chi gantodd o weithie, ond 'y mod i'n anghofio, pwy ddusgyfrodd baco? Ddyliwn fod chi'n gwbod, Sem?"
SEM LLWYD.—"Indigo Jones."
TOMOS BARTLEY.— "Aie! Rhw enw go od hefyd, mae fol bydae 'i hanner o'n Gymro. Ai Cymro oedd o, Sem?
SEM LLWYD.—"Ie, debyg."
TOMOS BARTLEY.—"Wel, bendith ar ei ben o, medda i! Oes gynnoch chi rhw aidi', Sem, faint o amser sy' er hynny?"
SEM LLWYD.—"Rhw aidi'? ddyliwn fod gen i, tua phymtheg cant o flynyddoedd yn ol."
TOMOS BARTLEY.—"Dyn fo'n gwarchod! A mae cymin a hynny, Sem? Wyddoch chi be, mae ambell i smogen wedi 'i chael er hynny!"
SEM LLWYD.—"Oes, Tomos, i mae. Ie, tuag amser batel Waterlŵ y dusgyfrwyd y baco."
TOMOS BARTLEY.—"Hoswch chi, Sem, ydach chi'n peidio i phonsio ni 'rwan? Ond oedd brawd i nhad ym matel Waterlŵ pan oeddan nhw'n ymladd yn erbyn Boni."
SEM LLWYD.—"Hwyrach hynny. Son yr ydw i am y fatel yn erbyn Polion, bymtheg cant o flynyddoedd yn ol."
TOMOS BARTLEY.—"Ho, deydwch chi hynny, 'chlywes i 'rioed son am y fatel honno. Pwy aeth a hi, Sem?"
SEM LLWYD.—"Y ni, debyg."
TOMOS BARTLEY.—"Ie, ddyliwn. Ond gan ein bod ni efo'r pwnc, ai gwir ydi'r stori, Sem, fod gwas Indigo Jones 'ma, pan welodd o 'i feistar yn smocio'r tro cynta', wedi twlu bwceded o ddŵr am 'i ben o?"
SEM LLWYD.—"Mae traddodiad felly'n bod, Tomos, ond welis i 'run hanesydd o ymddiried yn son am hynny."
TOMOS BARTLEY.—"Mi greda hynny'n hawdd, achos pwy fase'n ffasiwn ffwl? Peth arall ydw i isio ofyn i chi, Sem, ym mhw wlad y daru'r Indigo Jones yma ddusgyfro'r baco? ddyliwn mai yn rhai o'r gwledydd tramor ene?"
SEM LLWYD.—"Ie, Tomos, yn Bristol."
TOMOS BARTLEY.—"Ho, felly, dene sut y mae cymin o son am faco Bristol, ond dydw i'n hidio fawr am dano fo,—well gen i f' hun faco Caer, ond pawb at 'i ffansi, fel y deydodd y dyn hwnnw wrth roi cusan i'r gaseg. Ond dene ddigon ar nene. Y gwaetha arna i ydi ar ol i mi gael gwybodaeth i sicrwydd ar bethe fel hyn, y mod i yn 'u hanghofio nhw'n union. Ond deydwch i mi,—mae o 'n taro i meddwli, oedd ene ddim rw saer maen go glyfar ers talwm o'r enw Indigo Jones, ddaru neud tŵr Llunden, Pont Llanrwst, Castell Rhuddlan, Castell Caernarfon, a lot o bethe fel ene, mae rhw aco gen i glywed am ddyn tebyg arw i'r Indigo Jones 'ma?"
SEM LLWYD.—"Mae'r pethe ydach chi'n son am danyn nhw, Tomos, wedi 'u gneud cyn y cyfnod Cristionogol,—o dan yr hen oruchwyliaeth,—rai miloedd o flynyddoedd cyn i Indigo Jones gael ei eni, ac felly 'does dim sail i gredu yr hanes."
TOMOS BARTLEY.—"Gwarchod pawb! ac fel y clywch chi bobol yn siarad sy' ddim yn sgolors, nac yn gwbod dim am hanesyddiaeth! Ond dowch i ni ddwad nes gartre, Sem, achos yr ydw i wedi sylwi pan aiff pobol i son am bethe sy' cyn co' dyn, nad ydi nhw ddim yn byticlar yt ol am rhw fil neu ddwy o flynyddoedd. Deydwch i mi oes ene rw sein i Bwllygwynt ene ail gychwyn?"
SEM LLWYD.—"Dim, Tomos, cyn belled ag y gwn i, ac yr ydw i'n gwbod cymin a neb ar y pen ene.'
TOMOS BARTLEY.—"Nag oes, ddyliwn, y syndod ydi fod o wedi dal cyd. Wyddoch chi be, Sem, mae'n rhaid fod yr hen waith ene wedi costio dialedd o arian i rwfun, a mi wranta fod lot o honyn nhw, erbyn hyn, yn rhegi 'u manars yn braf, ac yn barod i dywlu'r hen Drefor i lawr y shaft, achos mi gymra fy llw mai fo sydd wedi boddro nhw."
SEM LLWYD.—"I boddro nhw, Tomos? be 'dach chi'n feddwl? Bydase'r Capten wedi cael 'i ffordd ei hun, a fy ffordd inne hefyd, o ran hynny, mi fase Pwllygwynt yn talu'n iawn, achos y mae yno wlad o blwm, bydase nhw'n mynd ato yn y ffordd iawn."
TOMOS BARTLEY.—"Gwlad o blwm, Sem? Peidiwch a siarad nonsens, ddyn glân. Os oes yno wlad o blwm, pam na fasech chi'n dod a thipyn o hono fo i'r lan? Wyddoch chi be, Sem, dydw i ddim yn meddwl fod lot o bobol mwy twyllodrus na meinars ar chwyneb y ddaear. Weles i erioed waith mein na ddeyde'r meiners fod yno wlad o blwm, ond fod nhw heb fynd ato, ne fod y dŵr yn 'u rhwystro nhw, ne rhw godyl fel ene. Ac os bydd gwaith wedi stopio, mi fydd y bai ar bawb 'blaw nhw'u hunen, fforswth. Wyddoch chi be, Sem, mi fydd gynnoch chi'r meinars ma aped mawr i'w roi rw ddiwrnod. A 'rydw i'n credu yn 'y nghalon fod yr hen Drefor ene, er 'i fod o'n aelod efo ni, waethed sort a'r un a welis i, ond 'i fod dipyn yn respectol. Creuddwch at y bwyd, Sem." (SEM LLWYD, TOMOS a BARBARA BARTLEY yn nesu at y bwrdd ac yn dechreu bwyta).
SEM LLWYD.—"Pob parch i chi yn y'ch tych hun, Tomos, ond wyddoch chi fawr am waith mein. Hwyrach y synwch chi, Tomos, pan ddeyda i fod meinars yn amal yn gwbod i sicrwydd fod digon o blwm yn y fan a'r fan, ond na fedra nhw ddim mynd ato, ac yn amal, er y gwyddan nhw y gallan nhw fynd ato, na chan nhw mo'u ffordd eu hunen i fynd ato, gan rwrai ereill sy'n 'u rheoli nhw, a'r rhai hynny yn amal na wyddan nhw ddim mwy na chithe am waith mein. A chyda golwg ar Capten Trefor, mi ddeyda hyn, na welis i neb erioed, a 'rydw i wedi gweld llawer,—y sydd yn gystal meistr ar 'i waith. Fe ŵyr i'r dim sut i weithio gwaith mein, pe cai o 'i ffordd ei hun, a mae'r Capten a finne bob amser o'r un meddwl."
TOMOS BARTLEY.—"Mae'n well gen i, i chi fod o'r un meddwl a fo na fi. Rhyngoch chi a fi, leicies i 'rioed mo'r dyn. Nath o 'rioed ddim byd i mi, ond edrach dipyn yn sgoiwedd arna i, ond dda gen i mono, waeth gen i bydae 'i ddwy glust o'n clywed. Rhw ŵr boneddig heb 'run stâd ydw i'n 'i weld o. Mi weles ambell un o'i sort yn f'oes, dynion yn mynd ar gefn 'u ceffylau ar gôst y cwmpeini ond yn dwad i'w clogs yn y diwedd. Peth arall, leicies i 'rioed mo'r dyn yn y capel; mae o'n dwad yno fel bydae o'n gneud ffafar i'r Brenin Mawr, ac, fel bydae, y tore'r Brenin Mawr i fyny bydae o'n cadw odd'no. Dda gen i mo'r sort, Sem. Mae isio i ni gyd fod 'run fath yn y capel, a phawb i'w le ar ol mynd allan. A pham na weddie'r dyn? Dyn gwbodus a thafodog fel y fo? Ond welis i 'rioed mo'r dyn ar 'i linie, a mae hynny yn ddigon o brŵff gen i fod rhwbeth y mater efo cydwybod y dyn, achos dydio ddim yn nerfws, mi ŵyr pawb hynny. Gewch chi weld, Sem, os byddwn ni byw ac iach, y cawn ni weld y dyn ene wedi colli 'i blu."
SEM LLWYD.—"Tomos, 'rydw i'n synnu atoch chi'n siarad fel ene am ddyn parchus fel y capten,—dyn sy' wedi gwneud cymin i'r ardal yma. Be ddeuthe o honom ni 'blaw am ddynion fel Capten Trefor? Mi fasen wedi llwgu."
TOMOS BARTLEY.—"Llwgu neu beidio, Sem, 'rydw i'n mawr gredu y base'n gwlad ni yn well off o'r hanner heb rw wâg ladron fel ene sy'n byw ar foddro a thwyllo poblach ddiniwed ar hyd y blynyddoedd. Ond mi rown stop arni fan ene, Sem, ne mi awn i ffraeo. Deydwch i mi oes ene rw wir yn y stori fod merch y Capten ac Enoc Huws yn codlo rhwbeth?"
SEM LLWYD.—"Wel, hwyrach y medrwn i roi tipyn o oleuni ar hynny bydawn i'n dewis, ond y mae pobol yn amal yn siarad dan 'u dwylo, Tomos."
TOMOS BARTLEY.—"A mae rhwbeth yn y peth, ynte?"
SEM LLWYD.—"Ddeydes i mo hynny."
TOMOS BARTLEY.—"A chelwydd ydi'r cwbwl, ynte?"
SEM LLWYD.—"Ddeydes i mo hynny chwaith."
TOMOS BARTLEY.—"Wel, be ydach chi'n ddeyd, ddyn? Wyddoch chi be, Sem, 'rydach chi'r meinars ma wrth siarad am y pethe mwya' sumpyl yn trio 'u gneud nhw can dwlled a bol y fuwch ddu, na ŵyr neb ar chwyneb y ddaear lle 'rydach chi o'i chwmpas hi."
SEM LLWYD.—"Dydi'r pethe sy'n ymddangos yn sumpyl i rai pobol ddim yn sumpyl i bawb, Tomos. A dydi dyn ddim yn sypôsd i ddeyd popeth a ŵyr o, ne mi fydde pawb galled a'u gilydd. Ac heblaw hynny, Tomos, y mae i bethe eu hamser, ac i amser ei bethe."
TOMOS BARTLEY.—"Wel, wyddoch chi be, Sem, yr ydach chi'n un doeth hefyd! Mi fydda inne, fel ffwlcyn, yn deyd popeth wn i 'n ffrwt, a mi fum yn synnu lawer gwaith na faswn i wedi dwad i scrap cyn hyn."
SEM LLWYD.—"Thale hi ddim i bawb fod felly, Tomos. Pe baswn i 'n un felly, mi fase ambell i gynllun wedi'i andwyo cyn iddo addfedu. Mi fydd ambell un yn trio tynru oddiarna i, ond mi fydda'n cymyd pwyll, ac yn cadw'r cwbwl i mi fy hun nes daw'r amser priodol."
TOMOS BARTLEY.—"'Rydach chi, felly, Sem, yn meddwl fod rhwbeth yn y stori am ferch y Capten ac Enoc Huws, ond fod yr amser heb ddwad i ddeyd hynny?"
SEM LLWYD.—"Ddeydes i ddim ffashwn beth, Tomos, ond mi ddeyda hyn, fod o'n biti o beth pan ddeidiff rhwfun rwbeth wrthoch chi in confidence, na fasech chi wedi dysgu 'i gadw fo i chi'ch hun. Ond mae hynny i'w briodoli, yn ddiame, i ddiffyg addysg ym more'ch hoes."
TOMOS BARTLEY.—"Digon tebyg, wir, Sem, achos pan ddeidiff rhwfun rwbeth wrtha i, ac yn enwedig os deyda
nhw wrtha i am beidio deyd hynny wrth neb arall, mae o'n dechreu llosgi yn 'y mrest y munud hwnnw."
SEM LLWYD.—"Piti mawr ydi hynny, Tomos. A chyda golwg ar y peth yr yden ni wedi hintio ato, mi ddeyda hyn, mai y rhai sydd yn gwbod leiaf am y peth sydd yn siarad yn fwya ffri yn 'i gylch, a'r rhai sy'n gwbod y cwbwl sy'n deyd dim."
TOMOS BARTLEY.—"Ho!"
SEM LLWYD.—"Be bydae ni'n deyd fel hyn, 'rwan, mae Enoc Huws yn un sydd wedi gwneud llawer o arian, a mae arno angen am wraig. Mae Miss Trefor yn ferch ifanc sydd wedi cael addysg dda, a fydde raid i neb fod gwilydd o honi. Purion. Be bydae y ddau yn priodi, be fydde gan neb i ddeyd am hynny? Ne, be bydae ni'n deyd fel hyn, na ddaru Enoc Huws erioed feddwl am Miss Trefor, na hithe am dano yntau. Be fydde hynny i neb arall? Ydach chi'n nallt i, Tomos? "
TOMOS BARTLEY.—"Digon prin yr ydw i'n y'ch canlyn chi, Sem. Ai deyd yr ydach chi nad oes dim yn y peth?"
SEM LLWYD.—"Ddeydes i ddim ffashwn beth, Tomos."
TOMOS BARTLEY.—"Ho, deyd yr ydach chi, ynte, fod rhwbeth yn y stori?"
SEM LLWYD.—"Ddeydes i ddim o'r fath, Tomos, a pheidiwch a deyd wrth neb 'y mod i wedi deyd ffashwn beth."
TOMOS BARTLEY.—"Give it up, ynte. Ond deyd y gwir yn y'ch gwyneb chi, Sem, yr ydw i'n leicio'ch sgwrs chi yn anwedd bob amser, ond yr ydw i'n medru dallt pawb, rwsut, yn well nag ydw i'n y'ch dallt chi, Sem. Wni ddim be ydi'r achos o hynny, ond dene'r gwir am dani. Mi wn mod i'n ddwl, siampal."
SEM LLWYD.—"Wel, be bydae ni'n edrach ar y peth fel hyn, ynte; mae gan Enoc Huws arian,—'does neb yn ame hynny. Mae gan Capten Trefor wybodaeth a phrofiad; a be os ydi'r ddau yn consyltio â'u gilydd gyda golwg ar ryw fentar newydd? "
TOMOS BARTLEY.—"Ai gesio 'rydach chi, Sem?"
SEM LLWYD.—"Gesio? Nage, fydda i byth yn gesio, Tomos, a dda gen i mo'r bobol sy'n gesio heb sail yn y byd am y pethe mae nhw'n ddeyd."
TOMOS BARTLEY.—"A mae hi'n ffact, ynte, fod y Capten ac Enoc ar gychwyn mentar newydd?
SEM LLWYD.—"Ddeydes i ddim fod o'n ffact, Tomos. Pan mae rhwbeth yn ffact, 'does dim isio'i ddeyd o,—mae o'n eglur i bawb. Ond y mae rhw bethe nad oes neb ond y rhai sydd yn gallu gweld ymhellach na'u trwynau yn 'u gwybod nhw. Mi wyddoch hyn, Tomos, nad oes neb yn gwybod cymin o feddwl y Capten a fi. Ydach chi'n 'y nallt i, Tomos?"
TOMOS BARTLEY.—"Wel, ydw, os ydw i hefyd. Y'ch meddwl chi ydi hyn, Sem,—fod Capten Trefor o'i chwmpas hi yn trio sycio Enoc Huws i mewn i gychwyn mentar newydd?"
SEM LLWYD.—"Dim ffashwn beth, Tomos, a chymerwch ofal na ddeydwch chi wrth neb mod i'n deyd hynny."
TOMOS BARTLEY.—"Mae'n dda gen i glywed hynny, Sem, achos y mae gen i barch calon i Enoc Huws. 'Rydw i'n credu bob amser mai dyn syth a gonest ydi Enoc Huws. Mae o'n fachgen sydd wedi dwad yn 'i flaen yn ods, a hynny mewn ffordd gyfiawn. Wyddoch chi be? yr ydw i wedi prynnu dialedd o fwyd moch gan Enoc, a welis i 'rioed ddim o'i le arno. Mae nhw'n deyd i mi, Sem, y medre Enoc Huws fyw ar 'i arian pan fynne fo. A dene sy'n od,—mae o'n un o'r rhai gore yn y capel. Wn i ddim sut y mae hi hefo chi, y Sentars acw, ond efo ni, os bydd dyn yn dwad yn 'i flaen dipyn efo'r byd 'ma, welwch chi gip arno yn y capel, ond tipyn ar y Sul. Ond am Enoc, anamal mae o'n colli moddion. Gobeithio'r anwyl nad ydio ddim yn mynd i ddechreu mentro, achos er mor dda y mae o wedi gwneud, fydde'r hen Drefor fawr o dro yn lluchio'i bres o i lawr i shafft gwaith mein, na wele fo byth 'u lliw na'u llun nhw, 'run fath ag y gnath o efo pres Hugh Bryan, druan. Wyddoch chi be, Sem, 'rydw i'n cofio Hugh cystal off a neb yn y fan yma, cyn iddo fynd i grafangau yr hen Drefor."
SEM LLWYD.—"Peth garw iawn, Tomos, ydi i ddyn siarad am rwbeth allan o'i lein. 'Dydw i'n ame dim, Tomos, nad y chi ydi'r crydd gore yn y wlad yma, ac fel judge ar fochyn, mi wn na churiff neb mo honoch chi. Ond y mae gwaith mein allan o'ch lein chi, mi newch adde' hynny, Tomos?"
TOMOS BARTLEY (yn codi ei lais).—"Be haru chi, ddyn? Ond oedd gen i chwarter owns o waith y top, ac on waries i bum punt ar hugen yno na welis i byth wymed y delyn o honyn nhw, heblaw be waries i am ddiod! On fedde gynon ni gyfarfod yn y Brown Cow bob nos Lun cynta' o'r mis i edrach dros bethe, ac i dalu'r arian, ac hyd i'r nosweth ddwaetha, yr oedd y meinars yn deyd ar 'u gwir fod yno well 'golwg ar y gwaith nag a fu 'rioed, ag y bydde ni gyd yn fyddigions, a finne fel ffwl yn talu am lasus rownd, wrth feddwl mor gyfoethog fyddwn i. Yr hen geriach!
SEM LLWYD (yn codi ar ei draed i ymadael).—"Tomos, ddeydes i ddim gantodd o weithie na chaech chi ddim plwm yng Ngwaith y Top?"
TOMOS BARTLEY (yn codi ar ei draed).—"Doeddach chi, Sem, ddim yn gweithio yn y Top nac yn cyfarfod yn y Brown Cow. Bydase chi yn un o honyn nhw, 'does neb ŵyr be fasech chi'n ddeyd. Ond 'dawn ni ddim i ffraeo. Ydach chi ddim am 'i chychwyn hi mor gynnar, ydach chi, Sem?"
SEM LLWYD.—"Ydw, Tomos, mae hi'n dechre mynd yn hwyr."
TOMOS BARTLEY (yn hebrwng SEM LLWYD i'r drws).—"Wel, brysiwch yma eto. (Yn agor y drws ac yn edrych allan). Be neiff hi heno, ddyliech chi, Sem, ai rhewi?"
SEM LLWYD.—"Nage, os na throiff y gwynt yn fwy i'r gogledd, ac eto, hwyrach mai rhewi neiff hi." (Tomos BARTLEY yn dyfod yn ol ac yn eistedd yn y gadair).
BARBARA BARTLEY.—"Tomos, be ddeydodd Sem am y siarad sy am ferch y Capten ac Enoc Huws?"
TOMOS BARTLEY.— "Y nefoedd fawr a wyr. Mi ddeydodd barsel o bethe y ddwy ochr fel dase, ac eto, wn i ddim ar chwyneb y ddaear be ddeydodd o. Mi ddyffeiwn Eutun y twrne i wybod be fydd Sem wedi ddeyd a bod yn siwr. Ond y mae gan Sem, wel di, lawer yn 'i gropa."
BARBARA BARTLEY.— "Mae gyno fo lawer o facyn yn 'i gropa heno, beth bynnag. A waeth gen i heb ddyn na wyddoch chi ddim be fydd o wedi ddeyd."
TOMOS BARTLEY.—"Waeth i ti befo, mi fydda i'n cael llawer o ddifyrrwch wrth dreio gesio beth fydd o'n ddeyd. Mae Sem yn ddyn gwbodus iawn. Welest ti mor handi 'roedd o'n rhoi hanes y baco i ni. Ond yr ydw i wedi anghofio'n barod sut deydodd o. Be oedd enw'r dyn ddusgyfrodd y baco, dywed?"
BARBARA BARTLEY.—"Wni ddim, na waeth gen i chwaith."
TOMOS BARTLEY.—"'Rydw i'n meddwl yn siwr mai Bendigo Jones y galwodd Sem o, dae fater am hynny. Y peth gore i ni 'rwan ydi nhuddo'r tân a mynd i gadw."
[Y LLEN YN DISGYN].
Diwedd yr Ail Act.
ACT III.
GOLYGFA 1.—CEGIN SIOP Y GROES.
- (MARGED yn eistedd wrth y tân a golwg anfoddog arni, ac yn siarad wrthi ei hun).
MARGED.—"Y mae terfyn i f'amynedd i hefyd. Faint o amser sydd, ys gwn i, er pan ddeydodd o wrtha i y gwnawn i wraig ragorol, a'i bod yn biti fy mod i heb briodi? A faint o amser sydd er pan bresantiodd o fi â'r fodrwy hon? A dydi o byth wedi yngan gair oddiar hynny. Ond mi fynna siarad â fo heno pan ddaw adre. Yr ydw i wedi blino'n lân ar fyw fel hyn, yn gweitied iddo fo, yr wyf. Mi fynnaf ddealltwriaeth glir ar y mater heno. (ENOC HUWS yn dyfod i mewn, yn eistedd yn ei gadair. MARGED yn estyn ei slippers iddo ac yn edrych yn ffyrnig yn ei lygaid). Wel, mistar, be ydach chi yn feddwl neud?"
ENOC HUWS (yn edrych yn swil tua'r llawr).—"At be yr ydach chi yn cyfeirio, Marged?"
MARGED.—"At be yr ydw i yn cyfeirio? On' wyddoch o'r gore at be yr ydw i yn cyfeirio. Isio gwbod ydw i be 'dach chi'n feddwl neud, achos y ma'n bryd i chi neud rhwbeth."
ENOC HUWS.—"Wel, yr ydw i braidd yn gesio at be yr ydach chi'n cyfeirio, ac mi wnaf gyfaddef fod yn bryd i mi wneud rhywbeth, a gobeithio na fydd hi ddim fel hyn o hyd. Ond fedr dyn ddim cael ei ffordd ei hun bob amser, chwi wyddoch, Marged."
MARGED.—"Be sy'n rhwystro i chi gael y'ch ffordd y'ch hun? 'Rydach chi wedi cael ffordd y'ch hun os gwn i pryd, a be sy'n rhwystro i chi gael y'ch ffordd y'ch hun 'rwan?"
ENOC HUWS.—"Dydech chi ddim yn gwbod popeth, Marged."
MARGED.—"Mi wn hynny yn burion, mi wn nad ydw i'n dallt dim am fusnes; a ddaru chi weld rhwfun rw dro oedd yn gwbod popeth? 'Rydw i'n meddwl y gwn i sut i gadw tŷ cystal a neb a welsoch chi erioed eto, beth bynnag."
ENOC HUWS.—"'Rwyf bob amser yn deyd, fel y gwyddoch chi, Marged, nad oes eisieu eich gwell fel housekeeper. Ydw i ddim wedi deyd hynny laweroedd o weithiau, Marged?
MARGED.—"Beth arall fedrech chi ddeyd?"
ENOC HUWS.—"Gwir iawn, ond dyna oeddwn i yn mynd i ddeyd, 'rydach chi wedi hintio y mod i yn hir yn gwneud rhywbeth, ac felly yr ydw i. Miwn eich bod yn teimlo'n unig yn yr hen dŷ yma ar ben eich hun, yn enwedig ers pan ydw i wedi dechreu mynd i Dynyrardd, ac yn aros allan yn hwyr. Nid da bod dyn ei hunan, medde'r Beibl, ac nid da bod merch ei hunan chwaith. Ond pa help sy' gen i am hynny? Mi wn eich bod chi wedi blino yn disgwyl i mi briodi. Ond y gwir am dana i ydi hyn, waeth i mi siarad yn blaen,—dydw i ddim wedi son am hyn wrth neb arall,—mae'n digwydd weithiau i ddyn fod am flynyddoedd cyn llwyddo yn ei gais, a'r gwir ydyw,—'newch chi ddim sôn am y peth wrth neb, newch chi, Marged?"
MARGED." Nana, soniais i air wrth neb erioed."
ENOC HUWS.—"Wel, y gwir ydyw, 'dydw i damed nes efo Miss Trefor heddyw nag oeddwn i yn y cychwyn. Mae hi yn eneth anhawdd iawn i'w hennill. Yr wyf, mi wnaf addef, yn ei charu yn f. (MARGED yn rhoddi sgrech anaearol, ac yn syrthio mewn llewyg. ENOC HUWS yn ceisio ei dal, ac yn yr ymdrech, MARGED yn ei daro yn ei lygad gan roddi iddo bâr o lygaid duon. ENOC HUWS yn rhuthro allan ac yn gweld y plismon, yn gwaeddi),—Mr. Jones, dowch i mewn ar unwaith, Mr. Jones bach."
JONES Y PLISMON (yn dyfod i mewn yn araf a digyffro).—"Ве ydi'r helynt, Mr. Huws, beth ydi'r gwaeddi sydd yn eich tŷ chi?"
ENOC HUWS.—"Ond Marged yma sy' mewn ffit. Dowch ymlaen, dowch ymlaen ar unwaith." (JONES Y PLISMON yn cerdded ymlaen yn hamddenol a throedtrwm).
JONES Y PLISMON (yn edrych ar MARGED ac yna ar ENOC HUWS).—"Mae'n ymddangos, Mr. Huws, mai chi sydd wedi cael y gwaethaf yn yr ysgarmes. (MARGED yn neidio ar ei thraed cyn i ENOC HUWS ateb. Yn edrych yn ffyrnig ar ENOC HUWS).
MARGED.—"Y dyn drwg gynnoch chi. (Yn gweld y Plismon, yn troi ato yn eofn). Be 'dach chi isio yma? Be 'dach chi yn busnesa? Ewch allan oddma, mewn wincied, ne mi ro ole trwoch chi efo'r procar 'ma. Ydach chi'n mynd? (JONES Y PLISMON yn gwenu; yn amneidio ar ENOC HUWS i'w ddilyn i'r drws).
JONES Y PLISMON.—"Yr hen game, Mr. Huws, yr hen game." (ENOC HUWS yn rhy grynedig i'w ateb yn troi'n ol ac yn eistedd yn ei gadair).
MARGED.—"Be oeddech chi isio efo'r syrffed ene yma? Oeddach chi'n meddwl y nghymryd i i'r rowndws? Mi dyffeia chi! Ydio ddim yn ddigon i chi nhwyllo i a gneud ffwl o hono i, heb nol y plismon yma?
ENOC HUWS (yn grynedig; credai fod JONES Y PLISMON yn gwrando)."Marged, Marged, peidiwch a gwaeddi, yr wyf yn crefu arnoch."
MARGED.—"Peidio gwaeddi? Peidio gwaeddi? Mi waeddaf faint a fynna i, a chewch chi mo fy stopio i. Oes gynnoch chi ofn i bobl glywed? Oes, mi wn! Ond mi geiff pawb glywed—mi'ch sposia chi i bawb, a chewch chi ddim gneud ffwl o hono i, mi'ch dyffeia chi."
ENOC HUWS.—"Sut yr ydw i wedi gneud ffwl o honoch chi, Marged?"
MARGED.—"Sut? sut? sut?—ym mhob sut! Ddaru chi ddim deyd fod yn biti mod i heb briodi, ac y baswn i'n gneud gwraig splendid? Ddaru chi ddim deyd gantoedd o weithiau na fasech chi byth yn dymuno gwell housekeeper?"
ENOC HUWS.—"Do, a mi ddeydaf hynny eto, ond sut yr ydw i wedi gneud ffwl o honoch chi?"
MARGED.—"Y dyn drwg gynnoch chi! Sut mae gynnoch chi wymed i ofyn ffashwn beth i mi? Oeddach chi ddim yn rhoi ar ddallt i mi bod chi'n meddwl am danai? Ac os nad oeddach chi, pa fusnes oedd gynnoch i ddeyd ffashwn beth?"
ENOC HUWS (yn wrol).—"Marged, yr ydach chi wedi twyllo eich hun. 'Rois i 'rioed sail i chi feddwl y fath beth, mi gymra fy llw, a feddylies i erioed fwy am eich priodi nag am briodi boa-constrictor."
MARGED.—"Wel, y dyn melldigedig! be yn y byd mawr oeddach chi'n feddwl wrth roi i mi yr holl bresantau, heblaw gneud ffwl o hono i? Ac i be y baswn i'n gwrthod codiad yn 'y nghyflog 'blaw fod chi wedi cystal a deyd mai fi fase'ch gwraig chi? Peidiwch a meddwl y cewch chi droi yn eich tresi fel ene, mi wna i chi sticio at eich gair. Ac edliw Boaz y conductor i mi, neiff nene mo'r tro, Mr. Huws. Mi wn pan oeddwn i'n perthyn i'w gôr o, i fod o wedi meddwl am dana i, ond drychis i 'rioed arno fo, a faswn i ddim yn edrych arnoch chwithau, 'blaw mod i'n dechre mynd i dipyn o oed, achos yr ydw i wedi gwrthod y'ch gwell chi, syr, gantoedd o weithiau. A deyd yn 'y ngwymed i y'ch bod chi'n caru yr hen lyngeren ene o Dynyrardd. Y ffifflen falch, ddi-ddaioni! Mi ddeyda iddi pwy a be ydi hi pan wela i hi nesa, a mi wna! A mi geiff glywed ffasiwn un ydach chithe hefyd, y dyn twyllodrus gynnoch chi! Y chi'n galw'ch hun yn grefyddwr? Crefyddwr braf yn wir, pan fedrech chi dwyllo geneth 'myddifad ddigartre! Ond rhoswch chi dipyn bach! mi geiff pawb wybod y'ch hanes chi, a mi gewch dalu'n ddrud am hyn. Os na sefwch chi at eich gair, mi fynna'ch torri chi allan o'r seiat, a mi'ch gwna chi can dloted a Job, na fydd gynnoch chi 'run crys i roi am y'ch cefn—a mi wna—cyn y bydda i wedi darfod efo chi, y dyn drwg dau wymedog gynnoch chi."
ENOC HUWS.—"Marged, mi fydde'n well gen i i chwi blannu y gyllell yna,—(yn pwyntio at y gyllell fara ar y bwrdd),— yn 'y nghalon i na gwrando un gair amharchus am Miss Trefor. Deydwch y peth a fynnoch am dana i,—neu trewch fi yn fy mhen â'r procar yna os leiciwch, ond peidiwch a deyd yr un gair,—yr un sill am Miss Trefor. Y hi ydi'r eneth oreu a phrydferthaf yn y byd, mi gymra fy llw! Mae ei henw yn rhy bur i'ch anadl llygredig chi ei swnio, a difai gwaith i chi a fyddai glanhau ei hesgidiau. A son y mod i wedi gwneud ffwl o honoch chi. 'Drychwch yma, gwrandewch be 'rydw i'n ddeyd wrtho'ch chi, bydase neb ond y fia chithe ac un baboon yn y byd, ac i mi orfod priodi un o honoch, fe gawsech chi, Marged, fod yn hen ferch! Dydw i'n hidio'r un daten am danoch chi; a dalltwch, dydw i ddim am ddiodde dim chwaneg o'ch tafod drwg chi, a fe fydd raid i chi hel y'ch pac oddiyma ar unwaith!" (MARGED wedi ei syfrdanu gan eofndra ENOC HUWS. Yn cael ail ymosodiad o'r "hysteria." Ni chymer ENOC HUWS un sylw o honi. Aiff i'r gwely).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 2.— YR HEOL.
ENOC HUWS (yn cerdded yn ol a blaen o flaen y ty. JONES Y PLISMON yn dyfod tuag ato).—"Bore da, Mr. Jones."
JONES Y PLISMON.—"Oeddech chi'n galw, Mr. Huws?"
ENOC HUWS.—"Nac oeddwn, ond gadewch i ni gael ymgom fach."
JONES Y PLISMON.—"Maddeuwch fy nghamgymeriad, mi feddyliais eich bod yn fy ngalw, a'ch bod am siarad â fi am yr helynt neithiwr."
ENOC HUWS.—"Yr oedd hynny yn ddigon naturiol. Ddaru chi son am yr helynt wrth rywun, Mr. Jones?"
JONES Y PLISMON.—"Dim peryg, Mr. Huws, neiff hi mo'r tro i blismon son am bopeth y mae yn ei weld ac yn ei glywed yma ac acw; na, dim peryg."
ENOC HUWS.—"Ddaru chi ddeyd dim wrth eich gwraig?"
JONES Y PLISMON.—"Wrth fy ngwraig, Mr. Huws, ha, ha, ha, na, fydda i byth yn deyd dim wrth unrhyw wraig, ond pan na fyddaf eisieu talu i'r Town Crier."
ENOC HUWS.—"Y mae'n dda gen i glywed hynny, ond yr wyf yn hynod anffortunus."
JONES Y PLISMON.—"Peidiwch blino dim ynghylch y peth, dydio ddim ond common case, Mr. Huws. Chwi synech pe dywedwn i wrthych y cwbl a wn i am bethau sydd yn digwydd mewn teuluoedd respectable, na ŵyr y byd ddim am danynt. Mi fyddaf bob amser yn dweyd na ddylai yr un dyn sydd mewn busnes, ac yn enwedig os bydd yn cadw tŷ, fod heb briodi. Y natur ddynol ydyw y natur ddynol dros yr holl fyd, syr."
ENOC HUWS (yn edrych yn llygaid JONES Y PLISMON)."Mr. Jones, ydach chi ddim yn meiddio awgrymu dim am burdeb fy nghymeriad, ydach chi?"
JONES Y PLISMON.—"'Rwyf yn eich adnabod ers blynyddoedd, Mr. Huws, a byddai yn ddrwg gennyf awgrymu dim o'r fath beth. Ond yr ydym ni, y plismyn, yn gweld cymaint nes y byddaf ar adegau ymron colli ffydd ym mhawb, ac ymron a dweyd nad oes un cyfiawn, nac oes un. (ENOC HUWS yn cael ei orchfygu gan ei deimladau, yn torri allan i wylo. JONES Y PLISMON yn rhoddi ei law ar ysgwydd ENOC HUWS). Mr. Huws, peidiwch a bod yn ffol, raid i chi ddim ofni yr aiff y stori ddim pellach o'm rhan i."
ENOC HUWS (yn sychu ei lygaid).—"A allaf fi wneud cyfaill o honoch chi, a allaf fi ymddiried ynnoch, Mr. Jones, os dywedaf y cwbl wrthoch?"
JONES Y PLISMON.—"Pan fydd rhywun yn ymddiried secrets i mi, syr, mi fyddaf yn eu rhoi yma,—(yn pwyntio at ei fynwes), ac yn eu cadw dan glo."
ENOC HUWS.—"Wel, chwi wyddoch am fy helynt i, gymaint wyf wedi oddef oherwydd tymherau a gormes Marged. Yr wyf wedi gwneud a fedraf er mwyn heddwch, ond nid oes dim yn tycio. Yn awr, pa gyngor ellwch chi ei roi i mi? Mi roddaf unrhyw beth i chwi, Mr. Jones, os gellwch fy helpio allan o'r helynt hwn."
JONES Y PLISMON.—"Yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun, Mr. Huws, y gwn pan fydd dyn yn dweyd y gwir. Yr wyf wedi cael tipyn o brofiad y ffordd yna, ac y mae gwirionedd i'w weld ar wyneb eich ystori. Mae'n ddrwg gennyf drosoch, Mr. Huws, ac os medraf wneud rhywbeth i'ch cael allan o'r helynt yma, mi a'i gwnaf. A wnewch chi ymddiried y mater i mi, Mr. Huws?"
ENOC HUWS.—"Yr ydych yn garedig iawn, Mr. Jones, ac os medrwch chi roi help i mi ddod allan o'r drybini yma, mi a dalaf yn anrhydeddus i chi."
JONES Y PLISMON.—"Peidiwch a son am dâl, Mr. Huws. Mae rhyw bobl yn meddwl mai tâl sydd gan bob plismon o flaen ei lygaid bob amser. Maent yn camgymeryd, syr. Dydw i ddim yn dweyd y galla i lwyddo, ond y mae gen i dipyn o brofiad efo pethau fel hyn. A wnewch chi, Mr. Huws, adael i mi gael fy ffordd fy hun?"
ENOC HUWS.—"'Rwyf yn rhoi fy hun yn eich llaw, Mr. Jones, gan eich bod mor garedig."
JONES Y PLISMON.—"Purion. Mae gen i idea. A ydi'r llances yn ymyl? Ydi hi wedi codi?"
ENOC HUWS.—"O ydi, ers meityn, mae hi yn y gegin."
JONES Y PLISMON.—"A ydi hi yn anllythrennog?"
ENOC HUWS.—"Feder hi air ar lyfr."
JONES Y PLISMON.—"O'r gore, Arhoswch chi yma nes y bydda i'n galw am danoch, ac os llwyddiff yr idea, ac os bydda i'n galw am danoch chi, cofiwch edrych yn filain a phenderfynol, os gellwch."
GOLYGFA 3.— CEGIN SIOP Y GROES.
JONES Y PLISMON (yn cerdded i fewn i'r gegin; yn siarad mewn llais uchel)." Waeth i chi heb siarad, Mr. Huws, mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd. (MARGED yn sefyll ar ganol y gegin a'r 'brush' llawr yn ei llaw, a golwg fygythiol arni. JONES Y PLISMON yn mynd ymlaen ac yn eistedd wrth y bwrdd; yn chwilio ei logellau am bapur; yn tynnu allan bâr o 'handcuffs' gloew a'i 'staff,' ac yn eu gosod ar y bwrdd; yn lledu darn o bapur ar y bwrdd ac yn dechreu siarad).—Yrwan am y gyfraith ar y mater. Eich enw chi ydi Marged Parri, onide? "
MARGED (yn ddiofn).—"Mi wyddoch o'r gore be ydi fy enw i."
JONES Y PLISMON.—"Purion. Beth ydi eich oed, Marged Parri?"
MARGED.—"Pa fusnes sy gynnoch chi efo f'oed i?"
JONES Y PLISMON.—"Marged Parri, wyddoch chi'ch bod yn llaw y gyfraith, ac fod yn rhaid i chwi ateb pob cwestiwn cyn mynd o flaen y magistrate ddeg o'r gloch bore heddyw? Be ydi'r gloch yrwan. (Yn edrych ar y cloc). O, mae digon o amser.'
MARGED.—"Be sy nelo'r gyfraith a fi?" (Pwyso'n drymach ar y "brush".)
JONES Y PLISMON.— "Be sy nelo'r gyfraith â chi, yn wir. Oni wyddoch chi eich bod wedi torri y gyfraith, yr hon a elwir Act of Parliament for the prevention of cruelty to animals?"
MARGED.—"Be wn i be'di hynny?"
JONES Y PLISMON.—"Dydw i ddim yn mynd i gyfieithu i chi. Mi gewch ddyn i gyfieithu i chi pan ewch chi o flaen gŵr y plas. Atebwch fi. Beth yw eich oed?"
MARGED (yn anewyllysgar)." 'Rydw i'n bymtheg ar hugain."
JONES Y PLISMON.—"A'r rest. Deydwch y gwir, Marged Parri. Onid ydych yn bump a deugain? (Dim ateb oddiwrth MARGED). Very good. (Yn ysgrifennu ac yn siarad). I—Marged— Parry—aged—forty—five—years last-birthday. Purion. Yrwan, Marged Parri, gwrandewch arna i. Wedi gweld a chlywed yr hyn gymerodd le yn y tŷ hwn neithiwr rhwng unarddeg a hanner nos, fy nyledswydd fel Plismon oedd chwilio i mewn i'r mater, gan ei fod, yn ol cyfraith Prydain Fawr a'r Iwerddon yn Breach of Public Peace. Yn awr, wedi i mi gael ychydig eiriau gyda chi, Marged Parri, mi fyddwn yn barod i ddwyn yr holl achos o flaen Gŵr y Plas yn y County Hall. Ond i ddechreu, eisteddwch i lawr, Marged Parri, achos mi fydd raid i chi sefyll mwy na digon pan ewch i'r Hall. Yr wyf yn deall eich bod yng ngwasanaeth Mr. Huws, Grocer, Siop y Groes, ers rhai blynyddoedd. Yn ystod y tymor hwnnw, a gawsoch chi ryw gamdro gan Mr. Huws. Gofalwch sut yr atebwch?"
MARGED.—"Ddeydais i 'rioed mod i wedi cael cam dro gan Mr. Huws."
JONES Y PLISMON.—"Purion. Ond gadewch i mi ei roi i lawr mewn ysgrifen. (Yn ysgrifennu ac yn brygawthan rhywbeth yn Saesneg). Yna, be gwtrin oedd eich meddwl chi wrth alw Mr. Huws yn fy nghlywedigaeth i neithiwr yn ddyn drwg, melldigedig? Mae eich case wedi ei benderfynu yn barod,—yr ydych yn euog o defamation of character, cyfraith a wnaed yn amser George the Fourth, a'r gosb am ei thorri ydyw dwy flynedd o garchar gyda llafur caled. Yr ydych hefyd wedi rhyfygu meddwl, ac nid yn unig meddwl, ond cystal a dweyd, fod Mr. Huws a'i lygaid arnoch i wneud gwraig o honoch. Yr idea. Hen wrach aflawen, ddiolwg, fel y chi yn meiddio meddwl,—yn meiddio dychmygu, fod gŵr bonheddig fel Mr. Huws, gŵr ieuanc cefnog, hardd, respectable, yr idea! fod gŵr felly yn meddwl am danoch chi! Mae'n rhaid eich bod wedi glân ddrysu, ddynes. Mae eich meistr yn gwybod y gallai eich rhoi yn y jail, a hynny dan Act of Toleration for the High Court of Chancery. Ond y mae Mr. Huws yn feistr tyner, nid yw yn dymuno eich rhoi yn y carchar, a fy nghyngor i ydyw eich rhoi yn Seilam Dinbych. Yn awr, Marged Parri, ydych chi yn barod i ofyn am faddeuant Mr. Huws? Cofiwch y bydd yn rhaid i chi fod mewn un o dri lle, yn Siop y Groes, yn eneth edifeiriol, neu yn y jail, neu yn seilam Dinbych. Ym mha un o'r tri yr ydach chi am fod, Marged Parri?
MARGED.—"Well gen i fod yma, a 'dwy'n siwr na neiff Mr. Huws mo ngyrru i ffwrdd."
JONES Y PLISMON.—"Purion, ond rhaid yw gwneud cytundeb. (Yn agor y drws ac yn galw. Dowch i mewn, Mr. Huws. (ENOC HUWS yn dod i mewn yn llipa a chrynedig). Yn awr, Mr. Huws, yr wyf wedi egluro y gyfraith i Marged Parri,—cyfraith Prydain Fawr a'r Iwerddon, mewn perthynas a'r helynt a all ddigwydd mewn tŷ o fusnes fel eich tŷ chwi. Mae Marged Parri yn gwybod erbyn hyn lle byddai hi yr adeg yma fory, oni bai eich bod chi yn ddyn trugarog. Ac y mae yn edifarhau am ei throsedd, ac yn addaw seinio cytundeb y bydd, o hyn allan, yn ufudd i'ch gorchymyn. A ydach chi, Mr. Huws, yn teimlo y gellwch edrych dros ben yr insult, y cam yr ydach wedi ei gael oddiar law un sydd wedi derbyn cymaint o'ch caredigrwydd?"
ENOC HUWS.—"Yr wyf yn meddwl y medraf."
JONES Y PLISMON.—"Yr ydych yn un o fil, syr. Mi welais rai dwsinau yn cael eu rhoi yn y jail am ddwy flynedd am drosedd llai. Yn awr, Marged Parri, a ydach chi'n edifarhau, ac yn gofyn maddeuant Mr. Huws am—wel, am beth sydd yn rhy atgas i'w enwi? (Aros am ateb). Mae'n rhaid i mi gael ateb, Marged Parri, neu wneud fy nyledswydd." (Yn codi ar ei draed ac yn gafael yn yr "handcuffs ").
ENOC HUWS.—"Mr. Jones."
JONES Y PLISMON.—"Mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd, Mr. Huws. Os nad yw Marged Parri yn barod i ofyn eich maddeuant, ac addaw byhafio ei hun, 'does dim ond jail neu seilam Dimbech i fod. Be ydach chi'n ddeyd Marged Parri? Un gair am dani."
MARGED (yn hanner crio).—"Ydw." (ENOC HUWS yn sychu ei lygaid).
JONES Y PLISMON.—"Purion. Y mae'n dda gen i weld Marged Parri yn ddigon call i edifarhau am ei bai, ac addaw diwygio; achos welais i erioed ferch yn cael ei chymeryd i'r jail na fydde hi farw yno yn fuan, achos y mae nhw yn eu trin yn ddychrynllyd, choeliwch chi byth. Yrwan, (yn eistedd wrth y bwrdd),—dowch yma a seiniwch y papur yma, achos y mae'n rhaid gwneud popeth fel y mae'r gyfraith yn gofyn."
MARGED—"Fedra i ddim s'fenu.
JONES Y PLISMON.—"Mae'r gyfraith yn caniatau i chi roi croes. (MARGED yn dod at y bwrdd o'i hanfodd ac yn rhoi croes). Yrwan, Mr. Huws, faint o gyflog sydd yn ddyledus i Marged Parri?"
ENOC HUWS.—"Pum punt a chweigen, 'rwyf yn meddwl."
JONES Y PLISMON.—"Dowch a nhw yma bob dime."
MARGED.—"Beth am y codiad?
JONES Y PLISMON.—"Yr ydach chi wedi fforffedio y codiad drwy gamymddygiad, ac y mae'n rhaid i chi ennill eich caritor yn gyntaf, cyn son am y codiad."
ENOC HUWS.—"Hwyrach."
JONES Y PLISMON.—"Mr. Huws, talwch chi yr arian sydd yn ddyledus i'r forwyn, achos y mae'n rhaid mynd ymlaen yn ol y gyfraith. (ENOC HUWS yn estyn yr arian i JONES Y PLISMON, yntau yn eu rhoddi i MARGED). Wel, yrwan, y mae'n rhaid i mi fynd. Ond y mae gen i eisieu gair yn breifat gyda chi, Mr. Huws, ynghylch y gyfraith sydd yn rheoleiddio tŷ o fusnes fel eich tŷ chwi." (Y ddau yn mynd allan).
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 4.— YR HEOL.
- (JONES Y PLISMON AC ENOC HUWS yn dyfod i'r golwg).
ENOC HUWS.—"Wyddoch chi be, un garw ydach chi, Mr. Jones. Wni ddim be faswn i wedi wneud oni bai i chi ddigwydd dod heibio."
JONES Y PLISMON.—"Yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich gosod ar dir diogel unwaith eto. Bydd eich cysur dyfodol yn dibynnu'n hollol arnoch chi eich hun. Mae hi mor ignorant a meipen, ac ar ei hignorance y daru i mi weithio,—dyna oedd yr idea. Yn awr, Mr. Huws, mi gymra fy llw, syr, bydae chi'n troi yn dipyn o deirant am wythnos, y bydde'r hen wenhwyfar fel oen i chi. Bloeddiwch dipyn arni 'rwan ac yn y man, a gwnewch iddi wneud pethau nad oes angen am eu gwneud, just i ddangos mai chi ydi'r mistar. Oni bai eich bod yn grefyddwr, mi faswn yn eich annog i roi ambell i regfa iddi nes bydd hi'n dawnsio."
ENOC HUWS.—"'Rydach chi'n deyd reit wir, Mr. Jones, ac mae'n rhaid i mi dreio, er y bydd yn anodd, bod yn fwy o feistr."
JONES Y PLISMON.—"Mi ddof i mewn 'rwan ac yn y man, megis, i weld ydi popeth yn mynd ymlaen yn iawn. Mi cadwiff hynny hi danodd (KIT, morwyn Tynyrardd, yn dyfod ymlaen a nodyn yn ei llaw, yn ei estyn i ENOC HUWS, yntau yn ei ddarllen ac yn ymddangos mewn penbleth).
ENOC HUWS.—"Wel, dyma hi eto!"
JONES Y PLISMON.—"Beth sydd yrwan, Mr. Huws? Ychwaneg o brofedigaethau?"
ENOC HUWS.—"Ie, gwahoddiad oddiwrth Miss Trefor i fynd yno heno i swper, i gyfarfod ein gweinidog, a sut y medra i fynd a dau lygad du gen i? Yr ydw i'n anlwcus,—fu neb erioed mor anlwcus."
JONES Y PLISMON.—"Fe ellwch fynd yn reit hawdd. A oes genoch chi bîff heb ei gwcio yn y tŷ?"
ENOC HUWS.—"Oes, 'rwyf yn meddwl."
JONES Y PLISMON.—"O'r gore. Mi wn na ddaru i chi gysgu fawr neithiwr. Wedi cael brecwast, torrwch ddau sleis o bîff cul, a rhowch un ar bob llygad, yna ewch i'ch gwely hyd ddau o'r gloch, ac os medrwch gysgu, gore oll. Erbyn yr amser bydd eisieu i chi fynd i Dynyrardd, bydd y cleisiau dan eich llygaid wedi diflannu, a mi fyddwch yn all right. Rhag gwastraffu, fe wnaiff y ddau sleis burion cinio i'r gath wedyn."
ENOC HUWS.—"Ha, ha, ha. Wel, yn wir, Mr. Jones, un garw ydach chi. Welis i erioed eich sort chi. Mi treiaf o, beth bynnag."
JONES Y PLISMON.—"Mae o'n siwr o ateb y diben. A 'rwan. rhaid i mi fynd, Mr. Huws, achos mae hi'n Review Day."
ENOC HUWS.—"Hoswch, wn i pryd y do'i allan o'ch dyled chi, cymerwch hwn 'rwan." (Yn rhoi sofren yn ei law).
JONES Y PLISMON (yn edrych ar y sofren yn ei law ac yn troi llygad cellweirus ar ENOC HUWS).—"'Rydach chi'n rhy haelfrydig, Mr. Huws. Ydach chi am i mi reteirio o'r force ar unwaith? Wel, 'does gen i ond diolch yn fawr i chi, a chofiwch fy mod i at eich gwasanaeth, Mr. Huws."
ENOC HUWS.—"Peidiwch a son, fe gawn siarad eto. Good morning."
[Y LLEN YN DISGYN].
Diwedd y Drydedd Act.
ACT IV.
GOLYGFA 1.—YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
- (CAPTEN TREFOR, MR. DENMAN, a'r PARCHEDIG OBEDIAH SIMON yn eistedd ac yn ymgomio a'u gilydd. Curo wrth y drws).
KIT (y forwyn, yn dyfod i fewn).—"Y mae Sem Llwyd wrth y drws, Capten, yn gofyn am gael eich gweld chi."
CAPTEN TREFOR.—"Dywedwch wrtho am ddyfod i mewn, Kit."
SEM LLWYD (yn dyfod i fewn yn ei ddillad gwaith, a golwg gyffrous arno, gan ddal telpyn o blwm yn ei law).—"Plwm o'r diwedd, syr, yr ydym wedi taro ar faen yng Nghoed Madog heno!"
MR. DENMAN.—"Hwre, Coed Madog."
CAPTEN TREFOR.—"Mi wyddwn ei fod gerllaw. Eisteddwch i lawr, Sem."
- (Curo wrth y drws. KIT yn mynd i edrych pwy sydd yno. ENOC HUWS yn dyfod i fewn).
KIT.—"Wel, Mr. Huws, lle 'dach chi wedi bod tan 'rwan? Mae Miss Trefor yn gofyn o hyd os ydach chi ddim wedi dwad."
- (Pob un ond SEM LLWYD yn codi i ysgwyd llaw).
CAPTEN TREFOR.—"Mi wranta, Mr. Huws, eich bod chi yn canfod ein bod dipyn yn llawen yma heno, ac nid ydym felly heb reswm, ac mi wn, pan glywch y rheswm, y byddwch chwithau yn cyd."
SUSI.—"O, tada, yr ydach yn hir yn deyd y newydd wrth Mr. Huws."
CAPTEN TREFOR.—"Susi, dydw i ddim wedi byw i'r oedran yma, tybed, heb wybod sut i siarad a sut i ymddwyn yng nghwmni boneddigion. Er y byddaf yn hoffi mynd o gwmpas pethau yn fy ffordd fy hun, mi dorraf fy stori yn ferr,—mae gennym newydd da, Mr. Huws, mae Sem Llwyd wedi dod a newydd i ni gwerth ei glywed, maent wedi taro ar faen yng Nghoed Madog!" (Susi yn mynd allan).
ENOC HUWS.—"Beth, wedi dod i blwm yn barod?"
CAPTEN TREFOR.—"Dyna'r ffaith, syr, onide Sem?" (SEM LLWYD yn rhoddi nod cadarnhaol).
ENOC HUWS.—"Hwre! brafo ni, cwmni Coed Madog."
CAPTEN TREFOR.—"Esgusodwch ein ffolineb, Mr. Simon, ac nid ffolineb chwaith, oblegid nid oes dim yn fwy naturiol, syr, nag i rai fel Mr. Huws, Mr. Denman, a fy hunan lawenhau, mor naturiol ag oedd i Columbus lawenhau pan welodd y ddeilen ar y dŵr."
PARCH. OBEDIAH SIMON.—"Perffaith naturiol, ac yr wyf yn cydlawenhau â chwi, Capten Trefor."
CAPTEN TREFOR.—"Mi'ch credaf, just y peth a fuaswn yn ddisgwyl oddiwrth wr o amaethiad a dysg fel chi. Gallai hyn ymddangos yn ynfyd i rywrai, ond yr wyf yn credu fy mod yn mynegu calon a theimlad Mr. Huws a Mr. Denman,—dynion sydd yn gwybod rhywbeth am y charm o fentro, ac am y charm uwch o ddarganfod. Ai nid felly y mae pethau yn sefyll, Mr. Huws?"
ENOC HUWS.—"Ie, ond gadewch glywed am y darganfyddiad. Faint ydach chi wedi ei ddarganfod, Sem Llwyd?"
CAPTEN TREFOR.—"Esgusodwch fi, Mr. Huws, mi af i lawr i'r gwaith fy hunan yfory, a chewch report cyflawn. Mae'n ddiameu gennyf fod Sem wedi rhedeg yma â'i wynt yn ei ddyrnau y foment y gwelodd y trysor gloew, ac nid ydyw mewn position mi wn i roi idea priodol i chwi am y darganfyddiad."
SEM LLWYD.—"Yr ydach chi yn llygad eich lle, Capten."
SUSI (yn dyfod i fewn).—"Y mae y swper yn barod." (Y cwmni yn mynd i'r parlwr; SEM LLWYD a'r CAPTEN yn aros ar ol).
CAPTEN TREFOR.—"Dydio fawr o beth, feddyliwn, Sem?"
SEM LLWYD.—"Nac ydi, syr, prin gwerth son am dano, fel y cewch chi weld yfory; ond yr oeddwn i'n meddwl na fase fo harm yn y byd i mi ddwad yma i ddeyd."
CAPTEN TREFOR.—"Chwi wnaethoch yn reit, Sem. Y gwir ydyw, ddaeth newydd erioed mewn gwell amser, rhyngoch chi a fi. Mae Denman ymron a rhoi fyny'r ysbryd; 'does gan Denman, druan, fawr o arian i'w spario. Mae gan Mr. Huws bwrs lled hir. Gobeithio'r tad y cawn ni rywbeth acw'n fuan, dae o ddim ond er mwyn Denman ac er eich mwyn chwi y gweithwyr a'ch teuluoedd."
SEM LLWYD.—"Wn i beth ddaethai o honom ni 'blaw am Goed Madog."
CAPTEN TREFOR.—"Digon gwir. Ond beth yw eich barn chi, Sem, a beth ydi barn y dynion am y lle?
SEM LLWYD.—"Wel, syr, mae gan y dynion, ac y mae gen innau ffydd, y cawn ni blwm yno ryw ddiwrnod."
CAPTEN TREFOR.—"Gweddiwch am i'ch ffydd droi yn olwg, a'r olwg yn fwynhad. Mi ddof i lawr acw bore fory, Sem, os byddaf byw ac iach. A 'rwan, rhaid i mi fynd at y cyfeillion yma. Peidiwch a chodi, Sem, mi ddwedaf wrth Kit am ddwad a pheint o gwrw i chi a thipyn o fara a chaws." (Yn mynd allan).
SEM LLWYD.—"Thanciw, syr."
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 2.—Y LAWNT O FLAEN Y TY.
- (ENOC HUWS a Susi yn cerdded ochr yn ochr. ENOC HUWS a'i gôt fawr am dano a'i ffon yn ei law).
ENOC HUWS.—"Nid wyf yn meddwl, Miss Trefor, fod llawer o sail i'ch ofnau am eich mam. Mae hi yn siarad yn bert ryfeddol."
SUSI.—"Gobeithio nad oes, Mr. Huws, ond mae gen i presentiment cas na fydd mam fyw yn hir. Fedr hi ddim dioddef profedigaethau na dal gwynt croes. Ond yr wyf i 'n meddwl fy mod i fy hun wedi dysgu cymaint a hyn yn ddiweddar, beth bynnag, sef na ddysges i ddim nes i mi ddysgu diodde', a diodde' yn ddistaw."
ENOC HUWS.—"Ddaru mi 'rioed wybod, Miss Trefor, eich bod wedi diodde' dim,—'roeddwn i bob amser yn meddwl eich bod yn berffaith iach."
SUSI.—"Ac felly yr ydw i. Ond yr ydych chi yn cofio gwaith Gurnal? Mi wn innau rywbeth am ddioddefiadau enaid. 'Rwyf wedi diodde' tipyn o'ch achos chi, Mr. Huws."
ENOC HUWS.—"O'm hachos i, Miss Trefor?
SUSI.—"Ie, o'ch hachos chi. Mi wn eich bod yn gwario llawer o arian yn barhaus ar waith Coed Madog, ac mai nhad sydd yn eich perswadio i wneud hynny. Ac er eich bod yn gyfoethog, mae'n hawdd iawn i chi, mewn amser, wario y cwbl sy' gynnoch chi ar waith mine, ac heb gael dim yn ol, fel daru Hugh Bryan, druan, wneud, ac fel y mae Mr. Denman agos a gwneud. A fedra i ddim bod yn dawel, Mr. Huws, heb eich rhoi chi ar eich gwyliadwriaeth."
ENOC HUWS.—"Y mae arnaf ofn, Miss Trefor, eich bod mewn tymer brudd heno, a'ch bod wedi anghofio y newydd a gawsom gan Sem Llwyd heno."
SUSI.—"Na, dydw i ddim wedi anghofio newydd Sem Llwyd; ac os ydio'n wir, 'rwyf yn llawenhau er mwyn fy nhad a chwithau a Mr. Denman. Ond peidiwch rhoi llawer o bwys arno,—'rwyf wedi clywed llawer o newyddion tebyg, a dim byd yn dod ohonynt. Carwn wybod faint ydych wedi wario!"
ENOC HUWS.—"O, rhyw dri chant o bunnau, 'rwy'n meddwl."
SUSI.—"Gwarchod pawb, 'roeddwn yn ofni hynny."
ENOC HUWS.—"Ond dydw i ddim ond un o dri, Miss Trefor."
SUSI.—"Ie, yr un o'r tri sydd yn morol am yr arian,—y chi, Mr. Huws, ydi'r banc."
ENOC HUWS.—"Nid wyf yn dallt eich meddwl, Miss Trefor."
SUSI.—"Fy meddwl ydi hyn, Mr. Huws, ac y mae'n rhaid i mi gael ei ddweyd, fedra i ddim bod yn dawel fy nghydwybod heb ei ddweyd, mai chwi sydd yn ffeindio'r arian, ac ma nhad sydd yn 'u gwario nhw, achos 'does gan 'y nhad yr un bunt o eiddo'i hun i'w gwario."
ENOC HUWS.—"'Rydach chi'n smalio, Miss Trefor."
SUSI." Fum i erioed yn fwy difrifol, Mr. Huws. Yr oeddwn yn ofni o hyd eich bod yn credu ein bod yn gyfoethog, ond y gwir ydyw ein bod yn dlawd, ac yn dlawd iawn, a dyna, mi wn, sydd yn lladd mam. A chyda golwg ar newydd Sem Llwyd, 'does gen i ond gobeithio er eich mwyn chi ei fod yn wir. Ond dydw i'n rhoi dim pwys ar yr hyn a ddywed Sem. Mae o wedi dweyd llawer o bethau tebyg o'r blaen, a'r cwbl yn troi'n ddim byd."
ENOC HUWS.—"Miss Trefor, yr ydach chi'n jokio,—dydach chi ddim yn meddwl deyd wrtha i nad ydi'ch tad yn dda arno?"
SUSI.—"Mae fy nghalon yn rhy brudd i jokio, Mr. Huws. Nid yn unig nid yw fy nhad yn dda arno, ond y mae mewn dyled, ac os na ddaw gwawr o rywle, wela i ar hyn o bryd ddim gobaith iddo allu talu ei ddyled."
ENOC HUWS.—"'Rydach chi wedi fy synnu, Miss Trefor, ac eto, 'rwyf yn teimlo'n llawen."
SUSI.—"Yn llawen, Mr. Huws. Ydi clywed ein bod yn dlawd yn fforddio llawenydd i chwi? Syr! dydach chi ddim y dyn ddarú mi feddwl eich bod chi."
ENOC HUWS.—"Hwyrach hynny, ond mi obeithiaf y cewch fi yn well dyn nag y daru i chi erioed synio am danaf!
- (MISS. TREFOR a golwg wgus yn cychwyn i'r ty. ENOC HUWS yn sefyll o'i blaen ac yn éi rhwystro).
ENOC HUWS.—"Aroswch i mi esbonio fy hun."
SUSI.—"Nid oes angen i chi wneud hynny, yr wyf yn gweld trwoch fel trwy ffenestr. 'Roeddach chi, mi wn, yn credu ein bod yn dda arnom; 'rydach chi'n cofio fel y bydde nhad yn eich patroneisio, ac fel y byddwn innau, yn fy ffolineb, yn eich cytio. Ond, meddwch 'rwan, y mae'r byrddau wedi troi, mae nhyrn inne wedi dwad, mi wna iddi'n nhw sing small. Wel, mae hyn yn eitha naturiol, ond y mae o'n mean ynnoch, Mr. Huws, yn dro sal mewn dyn fel chi. (Yn ceisio mynd heibio iddo i'r ty, ENOC HUWS yn ei rhwystro). Gadewch i mi fynd, Mr. Huws, os gwelwch yn dda."
ENOC HUWS.—"Nid cyn y byddwch mewn gwell tymer. Gyda'ch holl insight, ac er mor graff yr ydych chi, 'rydach wedi fy ngham esbonio, gadewch i mi egluro fy hun." (Yn aros yn sydyn).
SUSI.—"Ewch ymlaen, Mr. Huws, achos 'does gen i ddim llawer o amser i aros."
ENOC HUWS.—"Wel, mewn ystyr, mi ddwedaf eto yr un peth, a gadewch i mi grefu arnoch i beidio rhedeg i ffwrdd cyn i mi orffen fy 'stori. Mewn un ystyr, mae'n dda iawn gennyf mai tlawd yw eich sefyllfa. Mi wn fy mod wedi eich brifo yn fawr pan ddywedais hyn. Ac nid wyf heb ofni, Miss Trefor, pan ddwedaf fy rheswm, y byddwch wedi digio wrthyf am byth." (Yn aros ac yn ymddangos mewn dyryswch).
SUSI." Ewch ymlaen, Mr. Huws, 'does neb efo mam ond Kit, a mi fydd yn galw am danaf yn union."
ENOC HUWS.—"Wel, byddai yn anodd gennyf gredu nad ydach yn gwybod fy meddwl cyn i mi ei ddeyd. 'Does dim posib nad ydach chi wedi deall ar fy ymddygiad ers llawer o amser bellach fy mod yn coleddu rhyw deimlad tuag atoch nad ydyw cyfeillgarwch yn enw arno. Mi wn ei fod yn rhyfyg ynnof, ond 'dallai ddim wrtho. Yr wyf yn eich caru, Miss Trefor, ac yn eich caru mor fawr,— (yn mynd ar ei liniau o'i blaen),—fel nad allaf ddychmygu fod yn bosibl caru yn fwy."
CAPTEN TREFOR (o'r golwg).—"Susi, lle'r ydach chi, ngeneth i, (yn dyfod ymlaen), mae'ch mam eich eisieu, Susi. (Yn canfod ENOC HUWS). Holo, Mr. Huws, 'roeddwn yn meddwl eich bod wedi mynd adref ers meityn. Ond pobl ifainc yw pobl ifainc, syr, o hyd. 'Rydw innau yn cofio'r amser, syr, ha, ha, ha, ha! Aroswch, Mr. Huws, hidia i ddim byd am ddod i'ch hebrwng gartref, 'rwyf eisieu tipyn o fresh air."
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 3.— YSTAFELL YN NHYNYRARDD.
- (Y CAPTEN yn eistedd yn y gadair freichiau, SUSI yn dod i mewn).
SUSI.—"Nhad, mae gen i eisio deyd rhywbeth wrthoch chi, 'newch chi ddim digio 'newch chi?"
CAPTEN TREFOR.—"Digio wrthoch chi, fy ngeneth fach, am ba beth y gwnawn i ddigio wrthoch? "
SUSI.—"Mi obeithiaf nad ydw i wedi gwneud dim drwg,ac heb i mi gwmpasu dim,—yr wyf wedi addaw priodi Enoc Huws."
CAPTEN TREFOR (ennyd o ddistawrwydd).—"Duw a'ch bendithio i'ch dau! Pa bryd y daru i chi, Susi, roi eich addewid iddo?
SUSI.—"Mae rhai wythnose os nad misoedd erbyn hyn."
CAPTEN TREFOR.—"Hym. Nid wyf yn dweyd dim yn erbyn y peth,—'does gennyf yr un gwrthwynebiad pwysig i chwi briodi Mr. Huws. Ond mewn ffordd o siarad, Susi, mi fuaswn yn disgwyl i chwi ymgynghori a'ch tad cyn mentro i gytundeb mor ddifrifol. Ond na hidiwch am hynny."
SUSI.—"Yr oeddwn ar fai, nhad, a mae'n ddrwg gen i na faswn wedi siarad â chwi yn gyntaf. Ond y mae'r peth wedi ei wneud, a gobeithio y gwnewch chi faddeu i mi, ac na wnewch chi ddim dangos dim gwrthwynebiad."
CAPTEN TREFOR.— "Nid oes gennyf ond dweyd, fy ngeneth, fel y dywedais o'r blaen, Duw a'ch bendithio i'ch dau. Ond mewn ffordd o siarad, mi welais yr amser, do, mi welais yr amser, y buasai yn arw gennyf i neb, gan nad pwy a fuasai, gael addewid gan ferch,—unig ferch, Capten Trefor, heb yn gyntaf ymliw, ac ymliw drachefn â'i thad. Ond, nid Capten Trefor yw Capten Trefor erbyn hyn, mae pawb, ysywaeth, yn gwybod hynny, a'i ferch ei hun heb fod yn eithriad, ac wedi ymddwyn felly. Ond y mae Mr. Huws yn ffortunus."
SUSI.—"Nhad, ddaru mi ddim bwriadu eich brifo wrth beidio ymgynghori a chi, a mae'ch geiriau yn fy lladd. Ac hyd yn oed yn awr, os byddwch bob amser fel yr ydach heno, yn sobr, yn garedig a mwyn, mi alwaf fy addewid yn ol, os ydach chi'n deyd wrtho i am wneud hynny."
CAPTEN TREFOR.—"Beth, merch Capten Trefor yn torri ei haddewid? Na, fy ngeneth anwyl, pe buasech wedi rhoddi eich addewid i'r meinar tlotaf sydd yn darn lwgu yng Nghoed Madog, mi fuaswn yn eich gorfodi i'w chyflawni, os buasai hynny o fewn fy ngallu. Nid yw torri addewid yn hanes Capten Trefor nac yn deilwng o prestige y teulu."
SUSI.—"'Dydw i ddim yn bwriadu eich gadael, nhad, mae hynny yn ddealledig rhwng Mr. Huws a minnau. Cewch yr un bywioliaeth a ninnau, a mi wn y gellwch ymddiried ar garedigrwydd Mr. Huws. Yn wir, yr wyf yn ystyried mai fi ac nid Mr. Huws sydd yn lwcus."
CAPTEN TREFOR.—"Yr wyf yn meddwl, Susi, os try pethau allan fel yr wyf yn disgwyl, na bydd raid i mi ddibynnu ar garedigrwydd neb pwy bynnag. Ar yr un pryd, peidiwch a meddwl fy mod yn diystyrru eich ymlyniad wrthyf. Ac am Mr. Huws, yr wyf yn ei adnabod yn lled dda, ac ni fydd yn ddrwg gennyf edrych arno fel mab yng nghyfraith. Beth ydyw y rheswm, Susi, na fuasai Mr. Huws yma heno? Oblegid ar ol yr ymddiddan sydd wedi cymeryd lle heno, yr wyf mewn ffordd o siarad, yn teimlo rhyw fath o hiraeth am ei weled."
SUSI.—"Yr oedd yn deyd fod rhywbeth yn galw am dano, ac nad allai ddod yma heno. Ond fe ddaw nos yfory, gan fod y briodas i gymeryd lle yr wythnos nesaf."
CAPTEN TREFOR.—"Wel, er fod yn chwith gennyf feddwl, 'does gennyf ond dweyd,— Duw a'ch bendithio. (SUSI yn mynd allan, y CAPTEN yn siarad âg ef ei hunan). Mi ddwedaf wrtho yfory mai oferedd ydyw iddo ef a minnau wario ychwaneg o arian ar Goed Madog. Fy nyledswydd fel dyn gonest ydyw dweyd wrtho; 'does yno fwy o olwg am blwm nag sydd yng nghas y cloc yma. Mae'n dda gan 'y nghalon i fod pethau wedi diweddu mor dda. Ond nid yw hyn ond prawf arall fy mod yn adnabod dynion yn weddol,—mi wyddwn ers blynyddoedd fod gan Mr. Huws feddwl o Susi, a diolch i Dduw ei bod mor lwcus. Yr oeddwn yn dechreu pryderu beth a ddeuai o honi, druan."
[Y LLEN YN DISGYN].
GOLYGFA 4.— Y CAPEL.
- (Y GWEINIDOG i fewn yn barod, daw y GWAHODDEDIGION i fewn a chymerant eu lle, yna y PRIODFAB a'i WAS, ac yn ddiweddaf oll daw CAPTEN TREFOR a MISS. TREFOR yn pwyso ar ei fraich. Yna saif y PRIODFAB a'r BRIODFERCH o flaen y GWEINIDOG).
GWEINIDOG.—"Yr ydym yn cyfarfod ym mhresenoldeb Duw i uno y ddau berson hyn mewn priodas, yn ol arfer gyffredinol Eglwys Crist a chyfraith ein gwlad; i argraffu ar eu meddyliau arwyddocad a chysegredigrwydd y rhwymyn priodasol, ac i ddeisyf bendith ein Duw a'n Tad ar eu rhan. Os gŵyr neb, gan hynny, am unrhyw achos cyfiawn neu reswm digonol fel na ellir yn gyfreithlawn uno y ddau hyn mewn priodas, dyweded yr awr hon, neu bydded ddistaw am byth." (Cwyd hen wr, gwyn ei wallt a'i farf, a chrum ei war, o blith y gwyddfodolion, a dywed),—
AMERICANWR.—"Mi wn i am achos cyfiawn!" (Yr holl wyddfodolion yn codi ar eu traed mewn cynnwurf a chyffro mawr, ac yn troi i edrych ar y gŵr).
GWEINIDOG.—"Beth ydyw ystyr hyn, syr?"
AMERICANWR.—"Mi ddywedaf i chwi, syr. Cymro ydwyf, fel y gwelwch. Gadewais Gymru flynyddoedd lawer yn ol. Gyrrwyd fi o'r wlad hon gan amgylchiadau profedigaethus. Nid oeddwn yn dlawd, ystyrrid fi dipyn yn gefnog. Yr oedd gennyf un ferch, ac mi gredaf nad oedd geneth brydferthach a mwy rhinweddol yn y gymdogaeth. (Yn tynnu ei napcyn ac yn sychu ei lygaid). Esgusodwch fi, syr, y mae'r amser yn dod yn fyw i fy meddwl. Ar ol afiechyd byrr, bu farw fy ngwraig. Yr oedd hyn yn ergyd ofnadwy i mi,—teimlwn fy mod yn mynd yn fwy unig bob dydd. Ond yr oedd gennyf fy merch yr hon oedd yn fwy o werth na'r byd. Yr oedd gennyf fusnes lled fawr, a chennyf ŵr ieuanc medrus yn edrych ar ei hol, pan oeddwn i, oherwydd profedigaethau, yn analluog i dalu nemawr sylw i fy amgylchiadau. Ymhen amser, deuais ataf fy hun, ac mi ddechreuais edrych i mewn i fy llyfrau, a gwelais fod y gŵr ieuanc wedi fy nhwyllo o dri chant o bunnau! Deallodd yntau fy mod wedi darganfod y twyll, a phan wnes ymholiad am dano, cefais ei fod wedi gadael y wlad. Ond nid dyna'r oll; ceisiwch ddychmygu fy nheimladau pan ddeallais nad digon gan y dyhiryn oedd lladrata tri chant o bunnau oddi arnaf, ond ei fod hefyd wedi twyllo a darostwng fy merch. Yr oedd ŵyr bach wedi ei eni i mi cyn i mi wybod na drwgdybio dim. Yn yr amgylchiad pruddaidd hwn, bu farw fy anwyl ferch. Am beth amser, yr oeddwn fel dyn gwallgof, ac yn fy ngwallgofrwydd, gwerthais bopeth oedd ar fy elw. Wedi rhoi y plentyn dan ofal rhyw hen wreigan, a rhoi rhywbeth iddi am ei thrafferth,—dim chwarter digon,—aethum i'r America. Wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn y wlad honno, nid oeddwn yn hapus, penderfynais ddychwelyd i Gymru i edrych am fy ŵyr, os oedd o'n fyw. Nid oeddwn wedi dychmygu nac yn dymuno dod o hyd i'w dad. (CAPTEN TREFOR yn crynnu ac mewn cyffro mawr). Credwn y buasai y diafol wedi gwneud pac o hono ef ers talwm, oblegid mi a'i rhoddes i'w ofal cyn mynd o'r wlad. Ond y mae yn hir iawn yn ei nol. (Gan bwyntio at ENOC HUWS), Y chwi, Enoc Huws, yw fy ŵyr, a'ch tad yw y dyn, os teilwng o'r enw dyn,—sydd yn galw ei hun yn Capten Trefor. (Yr holl gwmni megis wedi eu parlysu). Nid dyna yw ei enw bedydd. Ei wir enw ydyw Enoc Huws, ac ar ei enw ef y galwyd chwithau gan yr hen Mrs. Amos. Adwaenais ef y noson gyntaf y daethum i'r gymdogaeth. Ie, ac y mae'n ddrwg gennyf ddweyd, un o'r scoundrels gwaethaf ar wyneb y ddaear yw eich tad chwi eich dau. (MISS TREFOR yn syrthio mewn llewyg i freichiau ENOC HUWS). Mae hyn mi wn yn ergyd ofnadwy i chwi, er fy mod i yn edrych arno fel peth hynod ragluniaethol i mi ddyfod yma i atal brawd a chwaer rhag priodi. Ac oni bai am danoch chwi a'i ferch brydferth, mi rhown o'n ddigon sâff cyn nos yfory, y dyhiryn melldigedig!"
GWEINIDOG.—"Ai gwir hyn, Capten Trefor?"
CAPTEN TREFOR.—"Ie, myn" (Yn rhoddi cam ymlaen, yn tynnu "pistol" o boced ei gôt, ac yn saethu ei hun, yn syrthio ar ei gefn i'r llawr yn farw).
GWEINIDOG.—"Gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi!"
[Y LLEN YN DISGYN].
Y DIWEDD.

Nodiadau
[golygu]- ↑ 1860au
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.