Neidio i'r cynnwys

Dros y Gamfa/Tylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a'r Tylwyth Teg

Oddi ar Wicidestun
Colli'r Rhaffau Dros y Gamfa

gan Fanny Winifred Edwards

Ffoi! Ffoi!! I Ba Le?

XI. Tylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a'r Tylwyth Teg

Pan yr oedd Tylwyth y ddwy gadwen yn llefaru y geiriau hyn, yr oedd Hywel a'r Tylwyth Chwim yn prysur nesau, er yn ddiarwybod iddynt en hunain, at goeden y rhaffau. Yn ffodus i Hywel, yr oedd y braw a'r pryder a'u meddianent yn peri iddynt fod yn fwy esgeulus ohono ef, a gadawsant iddo grwydro ychydig lathenni oddiwrthynt, ond nid yn hollol o'u golwg, ac yr oedd yntau wedi disgyblu ei lygaid a'i ysgogiadau i'r fath raddau nes gwneud ei hunan bron mor chwim â hwythau. Yn wir, llwyddai i gael y blaen arnynt heibio i bob trofa, gryfed oedd ei awydd am gael dod o hyd i'r rhaffau ei hunan. Ac o'r diwedd, wedi hir chwilio a chraffu, y foment yr aeth heibio rhyw dwmpath o ddrain, gwelai y rhaffau yn gorwedd yn daclus gyda'i gilydd wrth fôn y goeden. Safodd yn syth i fyny â'i galon yn curo fel calon aderyn bach newydd ei ddal, ac edrychodd yn ddyfal i gyfeiriad arall. Gyda'u craffter arferol, sylwodd y Tylwyth Chwim ar amrantiad arno yn syllu, a gofynnodd amryw ohonynt yn gynhyrfus,—"Beth weli di?" Ac ebe Hywel yr un mor gynhyrfus gan gyfeirio â'i fys,—"Beth sydd ar lawr wrth fôn y goeden acw?" Gan ei fod yn dalach na hwy, tybient ei fod yn gallu gweled rhywbeth oedd allan o'u golwg, ac ymaith â hwy ar draws ei gilydd at y goeden, a ffwrdd a Hywel am y rhaffau, gan eu cipio i fyny a'u gwthio i'w fynwes yn gynt nag y gellir ei ddisgrifio, ac yna fel saeth ar ôl y Tylwyth Chwim, gan gymryd arno gydofidio â hwy, pan ganfyddodd ei fod wedi gwneud camgymeriad, ac nad oedd hanes o'r rhaffau.

Erbyn hyn yr oedd y ddau anfonwyd gan Dylwyth y ddwy gadwen yn neshau at derfynau gwlad y Tylwyth Teg, ac ebe'r un oedd yn gwybod y ffordd yno,—"Yr ydym o fewn ychydig i gyrraedd pen ein siwrne. Wyt ti'n dechreu arogli arogl y blodau sy'n tyfu yng ngerddi y Tylwyth Teg?"

"Ydwyf, ac y mae cystal a gorffwys i mi."

"Ac i minnau. Ond nid yw hyn yn rhyfedd. Y mae y blodau cryfaf eu harogl wedi eu plannu ar fin y terfynau, er mwyn i'r rhai fydd yn teithio heibio gael teimlo yn llai blinedig. A diau eu bod yn cyrraedd eu hamcan. Y mae pob cam wyf fi yn ei roddi yn fy ngwneud yn fwy ysgafndroed."

"Felly finnau. Ond dyna sy'n rhyfedd, clywais nas gall y Tylwyth Chwim oddef yr arogl; ac na ddaw yr un ohonynt yn agos iddo. Gwnant bopeth er ei osgoi."

"Clywaist y gwir. Ond nis gall neb ond hwy eu hunain gynnal y sawyr afiach sydd yn llenwi'r awyr o gwmpas porth eu llys hwy."

"Hawdd gennyf gredu hynny. Diameu ei fod fel popeth arall sy'n perthyn iddynt. Ond dywed i mi, pa goed yw y rhai acw sy'n disgleirio cymaint yng ngoleu'r lloer?"

"Dacw y coed arian. Tu ôl iddynt y mae y porth. Gad i ni redeg atynt, gwelaf y dail yn ysgwyd ac yn sisial fel y byddant pan y bydd y Tylwyth Teg yn mynd heibio. Efallai y cyrhaeddwn y porth ar unwaith a fy nghyfeillion, Tylwyth y gwlith."

Ond er cyflymu eu camrau nid ydynt yn gallu cyrraedd hyd nes yr oedd y rhan olaf o'r Tylwyth Teg wedi mynd drwy y porth. Ond cawsant groeso cynnes gan y rhai oedd yn ei wylio, a llecyn esmwyth a dymunol i eistedd yng nghanol y blodau a'i ffurfiai, blodau o liw coch, neu yn fwy cywir, o bob amrywiaeth sydd yn y lliw coch, nes gwneud y porth edrych fel y bydd yr awyr o gwmpas yr haul pan y machluda ar noson deg. Ac wedi clywed eu neges, y mae y rhai oedd yn gwylio yn anfon am Dylwyth y gwlith atynt. Fel yr oeddynt yn aros ac yn mawrygu y fraint o gael dod i le mor hyfryd, dechreua rhywun ganu megis yn y pellter tu mewn i'r llys. Ac fel y neshai y canwr at y porth, meddai un wrth y llall,—

"Dyna'r gân fydd ein harweinydd yn ganu."

"Ie, ond pwy fuasai'n disgwyl clywed cân a chymaint o'r lleddf ynddi mewn lle mor hyfryd. Nid yw mor syn gen i iddi gael ei chanu tu ôl i'r ogof risial, ymhell o'r llys prydferth yma."

"Nac ydyw, ond os mai cân o hiraeth ydyw fel y clywsom, feallai——"

Cyn iddo gael hamdden i orffen yr hyn fwriadai ddweyd, y mae y gân yn tewi a'r canwr yn dod i mewn i'r porth, a phan y gwelodd hwy daeth ar redeg atynt gan ofyn,—

"A ydych wedi dod ar neges oddiwrth Dylwyth y ddwy gadwen?"

Ac er bod tinc o bryder yn ei llais, yr oedd mor llawn o fiwsig bron a phan y canai, ychwanegodd,—

"Dywedwch bopeth a wyddoch amdano wrthyf."

Yna y maent hwythau, wedi eu cymell fel hyn, yn adrodd yn fanwl holl hanes Tylwyth y ddwy gadwen, gan ymhelaethu ar ei ymdrechion i gael Hywel o afael y Tylwyth Chwim, ac i groesi eu cynlluniau, ac yn diweddu gyda dweyd eu neges ym Mhorth y Tylwyth Teg. Wedi gwrando yn astud ar yr hyn ddywedent y mae hithau yn ateb fel hyn,—

"Mae eich geiriau yn felus iawn i mi. O hyn allan 'rwyf am obeithio y bydd i Dylwyth y ddwy gadwen lwyddo yn ei waith ac ennill ffafr ein brenhines yn ôl. Ac yn awr 'rwyf am fynd ati ac adrodd wrthi yr hyn glywais gennych. Nid wyf yn ameu wedi iddi ei glywed, nad anfona rywbeth i'w gynorthwyo yn ei waith. Nis gwn i ddim am wisg y Tylwyth Chwim, ond fe ddaw Tylwyth y gwlith atoch gyda hyn, a chewch wybod bopeth yn ei chylch ganddynt hwy. Deuaf finnau yn ôl cyn bo hir; arhoswch amdanaf." A chyda dweyd y geiriau yma prysura'n ôl i'r llys, ac yn fuan wedi hynny cyrhaedda Tylwyth y gwlith y porth. Wedi iddynt yn serchog gyfarch Tylwyth y Coed a chael gwybod eu neges, hysbysant ef o bob cyfrinion a berthynai i wisg y Tylwyth Chwim, ac yn eu sicrhau y gallent yn hawdd orfodi Hywel i'w gwisgo. Pan yn diolch yn gynnes iddynt am eu parodrwydd i roi gwybodaeth iddynt, y mae y Tylwyth Teg yn dod yn ôl i'r porth ac yn ei llaw flodyn mawr melyn, melyn, mor danbaid nes ymddangos fel blodyn o aur, ac meddai,—

"Mae ein brenhines ar ôl clywed hanes Tylwyth y ddwy gadwen wedi llawenhau yn fawr, ac yn gofyn i chwi fynd a'r blodyn yma iddo i'w osod yng nghanol y tusw dail ar ben ei wialen. Pan wêl y blodyn yn cau, bydd hynny yn arwydd iddo ei fod yn ymyl y Tylwyth Chwim, ond pan egyr y blodyn yn llawn, gall fod yn sicr y bydd pellter mawr rhyngddynt. Hefyd, yr wyf wedi cael caniatad i ddweyd wrthych fod Caradog wedi dod yn ôl i'r goedwig. Mae amryw ohonom wedi ei weled lawer gwaith, ac edrycha fel pe eto ar yr un neges. Aiff drwy y coed gan syllu ar eu brigau, ond nid ydym wedi cael cyfle i'w helpu hyd yn hyn. Y mae gennyf un peth arall i'ch hysbysu; y mae cadwen Caradog yn ddiogel gennyf, ac yr wyf yn disgwyl cael ei chyflwyno i'w pherchennog cyn bo hir."

"Diolch yn fawr i chwi am eich caredigrwydd," ebe Tylwyth y Coed, "ac am y blodyn, bydd hwn o help dirfawr i ni, a diolch i chwi hefyd am yr hyn ddywedsoch am Garadog. Mae ein harweinydd wedi pryderu llawer yn ei gylch wedi iddo gael ei gario dros y gamfa, ac wedi gofidio nid ychydig wrth feddwl y gallai y gadwen fod ym meddiant y Tylwyth Chwim. Bydd clywed hyn yn newydd wrth fodd ei galon, ac er mor hyfryd ydyw yma, rhaid i ni yn awr brysuro ato."

"Na! na!" ebe y Tylwyth Teg, "arhoswch i chwi gael profi ein mêl. Mae o'r math melysaf."

"Mae'n sicr ei fod. Ond nis gallwn oedi moment. Mae ein Tylwyth yn aros yn bryderus amdanom, ac yn methu trefnu na symud cyn cael canlyniad ein hymweliad ni atoch. Rhaid mynd, ffarwel."

Dilynodd y Tylwyth Teg hwy i'r fynedfa i'r porth, ac yn sŵn eu cân, y maent hwythau yn rhedeg am y goedwig. Ond er rhedeg, nid oeddynt wedi cyrraedd y gweddill o'r Tylwyth cyn iddynt ddechreu anesmwytho yn eu cylch, ac i nifer ohonynt gychwyn i'w cyfarfod. Ond pan welsant y blodyn, a chlywed pwy oedd wedi ei anfon, ac i ba beth, ac hefyd pan adroddwyd wrthynt yr oll a glywodd eu cyfeillion yn y llys, rhoddodd y pryder le i ysgafnder a hoen. Ac nid y newydd lleiaf ei werth i Dylwyth y ddwy gadwen oedd clywed fod cadwen Caradog yn ddiogel, ei fod yntau yn y goedwig, a bod yn bosibl eto gael cyfle i brofi iddo gywirdeb ei dylwyth a'r Tylwyth Teg.

Nodiadau

[golygu]