Neidio i'r cynnwys

Drysau Eraill/Adre'n ôl

Oddi ar Wicidestun
Gwilym Hiraethog Drysau Eraill

gan Robert Hughes Jones

Wrth fedd yr athro

ADRE'N OL.

I WELY poen yng nghlafdy'r dre
Yr aeth f'anwylyd.
Gwag yw'r aelwyd— gwag pob lle
Heb f'anwylyd.

Pan roed loes i 'mhriod wiw
Gan law-feddygon,
O, mi deimlais innau'r briw
Yn fy nghalon.

Brysia'n ol, fy ngwenno fâd,
Heb dy glwyfau.
Hyn yn unig rydd iachâd
I'm dolur innau.

Cedwir iti aelwyd lân,
Gynnes, gynnes.
Awgrym bach o wres y tân
Sy yn y fynwes.

Gyda'r meddyg Meddyg Mwy
Oedd mewn cyfrinach.
Canu clod y Meddyg Mwy
Yw'n dyled mwyach.


Nodiadau

[golygu]