Drysau Eraill/Alwen hoff
Gwedd
| ← Cynhwysiad | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
'Ddoi di, Dei? → |
I
PORTH YR AWEN
ALWEN HOFF.
RHEDAF atat unwaith eto,
Alwen hoff.
Mwyn yw rhodio ar dy lennydd,
Eistedd wrth dy lynnau llonydd;
Bron nad wylwn o lawenydd,
Alwen hoff.
Mwy wyt ti na'r holl afonydd,
Alwen fach.
Credwn gynt yn nyddiau mebyd
Nad oedd hafal it drwy'r hollfyd,
Afon fawr wyt heddyw hefyd,
Alwen fach!
******
Treuliais fore mewn cyfaredd
Ar ei glan.
Canai'r adar ar y bryniau,
Canai'r awel yn y cangau,
Canai'r afon—canwn innau
Ar ei glan.
Nid oedd llaid na phyllau aflan
Yn ei lli.
Graean mân a cherrig gwynion
Welais i yng ngwely'r afon.
O, na allswn olchi 'nghalon
Yn ei lli.