Neidio i'r cynnwys

Drysau Eraill/Ar ddygwyl Dewi Sant

Oddi ar Wicidestun
Wrth fin yr afon Drysau Eraill

gan Robert Hughes Jones

Wrth fedd y proffwyd

AR DDYGWYL DEWI SANT.

MEWN estron fro mae'n gu cael cwrdd
Yn Gymry pur o gylch y bwrdd
I drafod llên a chân.
Pa genedl sydd â gloewed sant?
Pa urddas mwy na bod yn blant
I Ddewi'r galon lân?

Ble ceir y Cymry o'r iawn ryw?
Fe haerwn ni fod llu yn byw
Mewn llawer estron dir.
Mae'n Dewi ni ar ŵyl fel hon
Yn ennyn sêl mewn llawer bron
I ymladd dros y gwir.

'R oedd llygaid Dewi draw o bell
Drwy'r niwl yn canfod dyddiau gwell.
Mae'r rheiny wedi dod.
Darfyddodd bri yr arfau dur.
Mae'r bri yn awr ar heddwch
A phawb sydd is y rhôd. pur

Mae Arthur eilwaith yn ein plith.
Wrth graffu ar y bore wlith
Fe welir ôl ei draed.
Awn rhagom, Gymry, tua'r wawr.
Ymlaen cawn fuddugoliaeth fawr,
Heb golli dafn o waed.


Nodiadau

[golygu]