Drysau Eraill/Croesi'r afon
Gwedd
| ← Fy mam yn huno | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Dewi Sant → |
CROESI'R AFON.
MEWN breuddwyd gwelodd Bunyan
Bererin blin ar daith
Yn griddfan dan ei feichiau
Wrth ddringo'r rhiwiau maith;
A'i fynwes brudd yn llawn o ofn
Wrth nesu at yr afon ddofn.
Ond pan ddaeth awr y croesi
Diflannu wnaeth y braw.
Afonig dawel welai,
A chartre'r ochor draw.
A dyrchu cân a wnaeth y gŵr
Wrth weld mor fychan oedd y dŵr.