Drysau Eraill/Cymer fi
| ← Cân profiad | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Wrth fin yr afon → |
CYMER FI.
(Ar sefydliad y Parch. R. J. Pritchard, B.A., yn weinidog eglwys Mynydd Seion, Ponciau).
YN oriau bore bywyd
Daeth cri at lencyn mâd
I wrthod ffyrdd esmwythyd,
A gadael tŷ ei dad.
Llais mwyn yr Iesu oedd y cri
Yn tyner erfyn, "Dilyn Fi."
"Mae gennyf braidd newynog
Hyd oer lechweddau'r byd,
Ac eraill mewn dyrysni
A'u traed yn waed i gyd.
'R wy'n erfyn help. A ddeui di ?"
A'r llanc atebodd, "Cymer fi."
"Nid moeth yw bywyd bugail.
Mae'r swydd yn drom i'w dwyn.
'D oes dim ond dwylo cariad
All ymgeleddu'r ŵyn.
"Y llanc a swynwyd gan y cri,
A dwedodd eilwaith, "Cymer fi."
Ar Benmaen Mawr yng nghyntaf
Y gwelwyd ôl ei draed;
A phrofion o'i ymroddiad
Yn gynnar yno gaed.
Ond cri drachefn o Fynwy bell
A'i galwodd i wasanaeth gwell.
Pan yno ar Fynydd Seion
Yn porthi'r praidd â maeth,
O Fynydd Seion arall
Taer alwad ato ddaeth.
O bell y bugail glybu'r llef,
A daeth â'i deulu gydag ef.
Mawr lwydd fo ar ei lafur
Dan wenau'r Bugail Mwyn,
I ddwyn y praidd i borfa,
A chyfarwyddo'r ŵyn.
Cânt hwy ei fryd a'i serch bob un—
Mae ganddo oen bach Gwyn ei hun.