Drysau Eraill/Dewi Sant
Gwedd
| ← Croesi'r afon | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Cân profiad → |
DEWI SANT.
SAIF Dewi'n gynllun tra rhed dŵr
O ŵr yn caru Gwalia.
Nid clod y cledd ond lles ei wlad
A gerid ganddo'n benna'.
Yng ngrisial lif y loew nant
Ceir drych o gariad Dewi Sant.
Mae ysbryd Dewi'n fyw o hyd.
Lle byddo Cymry gonest
Yn brwydro dros eu gwlad a'u hiaith
Bydd yntau yn yr ornest.
Mewn tref a gwlad, ar fryn a phant,
Ymladdwn frwydrau Dewi Sant.
Gwneir difrod gan y ddïod gref.
Fe leddir myrdd o Gymry.
Yn enw'n gwlad, yn enw'n Duw,
Awn rhagom i'w gorchfygu;
A dysgwn ddirwest bur i'n plant,
'Ran yfwr dŵr oedd Dewi Sant.
Mae iaith y Brython yn ei bri
Er gwaethaf gwawd yr estron.
Henafol iaith! Anwylaf iaith!
Mor swynol yw d'acenion.
Cymraeg dros byth fo iaith ein plant,
'Ran Cymro glân oedd Dewi Sant.