Drysau Eraill/Dros gartrefi'n gwlad
Gwedd
| ← Plant y pentre | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Y gwirfoddolwr → |
1914-1918.
DROS GARTREFI'N GWLAD.
CLYWCH, mae ochain mawr a dychryn
Yng nghartrefi'n gwlad.
Ewch yn llu i flaen y fyddin,
Dros gartrefi'n gwlad.
Ceisia'r gelyn brwnt ein maeddu.
Ato, fechgyn glewion Cymru,
Dros gartrefi'n gwlad.
Dibris yw ei luoedd arfog
O gartrefi gwlad.
Rhuthrant yn eu nwydau halog
I gartrefi gwlad.
Beth pe deuent i'n hardaloedd?
Fechgyn annwyl, ewch yn filoedd,
Dros gartrefi'n gwlad.
1914