Neidio i'r cynnwys

Drysau Eraill/Emyn priodas

Oddi ar Wicidestun
Adre i'm Bro Drysau Eraill

gan Robert Hughes Jones

I am coming, Mother

EMYN PRIODAS.

DDUW y cariad, rho Dy wenau
Ar y ddeuddyn yma'n awr.
Heulwen deg fo ar eu haelwyd—
Goreu'r nef a goreu'r llawr.
Gwin Dy gariad
Dyro iddynt ar y daith.

Ti yn unig all ein huno
Yn y rhwymau o'r iawn ryw.
Dysg ni, Iôr, i garu'n gilydd,
Fel bôm oll yn deulu Duw.
Gwna'n calonnau
Yn allorau cariad pur.


Nodiadau

[golygu]