Neidio i'r cynnwys

Drysau Eraill/Heddwch

Oddi ar Wicidestun
Yn awr y frwydr Drysau Eraill

gan Robert Hughes Jones

Heb ddod adre

HEDDWCH!
(11 Tachwedd, 1918).

EWCH, cenwch glychau'r pentre
I alw'r plant ynghyd—
Y plant fu'n gwaedu ar ein rhan
Ym mhedwar ban y byd.

Mor bêr fydd cân y clychau
I glustiau'r bechgyn mâd.
Ffarwel i ffosydd Fflanders mwy!
Ffarwel ofnadwy gâd!

Parhewch i ganu'r clychau.
Daw rhai o'r plant ynghyd.
'Ddaw eraill ddim. Fe glywsant hwy
Gloch fwy y gloewach fyd.


Nodiadau

[golygu]