Drysau Eraill/I am coming, Mother
Gwedd
| ← Emyn priodas | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Gwilym Hiraethog → |
I AM COMING, MOTHER.
CILIAI'R dydd o'r llwyni coed.
Tawai cerddi'r adar.
Clywais wan wylofus lef,
I am coming, mother.
Plentyn tirion teirblwydd oed
Welais yn ei alar :
Plentyn wedi colli'r ffordd—
I am coming, mother.
Hi ymhell mewn ymchwil flin
Am ei mebyn hawddgar.
Pell neu agos, 'r un yw'r cri—
I am coming, mother.
Arglwydd da, er pelled wyf,
Ar ol hirfaith grwydro;
Ac er gwaned yw fy nghri,
Gwn Dy fod yn gwrando.