Drysau Eraill/N'âd fi grwydro Pen II
| ← N'âd fi grwydro Pen I | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
N'âd fi grwydro Pen III → |
PEN II.
PAN oedd Gwilym oddeutu pedair ar ddeg oed cynhaliwyd cymanfa ganu yng Ngherrig y Drudion—treflan gyfagos. Bu paratoi mawr ar ei chyfer yn yr holl ardaloedd cylchynol. Yn eu plith yr oedd ardal Glyn Myfyr. Dyma'r adeg y tynnwyd sylw'r wlad gyntaf at lais eithriadol Gwilym Glan Alwen. Nid oedd neb yn yr holl amgylchoedd yn meddu llais mor swynol ag ef. Y nesaf ato, fe ddichon, o ran melyster oedd eiddo Winnie Owen, Tŷ'n Y Ffordd (mae Tŷ'n Y Ffordd, ddarllenydd, yn taro ar Bedair A Dimai; ac os gwyddost ti am enw digrifach ar dyddyn yn rhywle na hyn, da di, gâd i mi gael gwybod). Pleser digymysg i'r arweinydd yng Nglyn Myfyr oedd paratoi'r côr gogyfer â chymanfa fawr Cerrig Y Drudion.
O'r diwedd, y dydd hir-ddisgwyliedig a ddaeth. Trefnid yng nghapel Tŷ'n Rhyd, lle y cynhelid y gymanfa, fod plant pob ardal i gael eistedd efo'i gilydd. 'R oedd gŵr o enwogrwydd nid bychan y dyddiau hynny wedi ei wahodd i arwain y gymanfa. Sylwodd hwnnw'n bur fuan, fel y gallesid disgwyl, fod yno lais neu ddau dan gamp yn y côr oedd yn y gongl bellaf ar y llaw dde. Ar ambell nodyn o bwys, lle'r oedd y geiriau a'r gerddoriaeth yn galw am amlygrwydd, codai'r gŵr enwog ei ddwy law fel arwydd i'r plant i ymlonyddu ar y nodyn hwnnw nes y byddai syniad eithaf yr awdur wedi'i sylweddoli. Ac ar ddiwedd ambell dôn fyddai wedi mynd yn dda, gwelid gwên foddhaus ar wyneb yr arweinydd. A dywedai'r gŵr gan bwyntio'n awgrymiadol at y gongl bellaf ar y ddehau iddo, "Da, 'mhlant i."
Y dôn olaf yng nghyfarfod yr hwyr oedd yr hen St. Peter, ar y geiriau, "O, sancteiddia f'enaid, Arglwydd." Cododd yr hwyl i'w huchafbwynt yn ystod y datganiad hwn. A phan ddeuthpwyd at y byrdwn,
N'âd fi grwydro,
N'âd fi grwydro,
Draw nac yma o fy lle.
bu rhaid ei ddyblu a'i dreblu. Nid oedd tân "diwygiad Richard Owen " wedi llwyr ddarfod o'r wlad, a chanwyd
N'âd fi grwydro,
o leiaf hanner dwsin o weithiau cyn ymadael. Mawr fu'r sôn am y gymanfa hon yn ystod yr wythnosau dilynol.
Er ei bod yn ymyl hanner nos pan gyrhaeddodd teulu Glan Alwen adre yr oedd Marged Parry ar ei thraed yn eu disgwyl; a chafodd dâl da am eu haros. 'R oedd Gwilym wedi'i lwyr lyncu gan y gymanfa. Adroddodd yr hanes gyda brwdfrydedd mawr wrth ei fam. Sylwodd hithau fod rhyw argraff rhyfedd wedi cael ei gynhyrchu arno'r diwrnod hwnnw. Gan fod plant Tŷ'n Y Ffordd wedi troi i mewn gwnaeth Marged Parry i Winnie a Gwilym ganu'r geiriau
N'âd fi grwydro, etc.,
yn union fel y canesid hwy yn y gymanfa, gan ddyblu a dyblu. A chafwyd ymron gymaint o hwyl ar aelwyd Glan Alwen ag a gawsid yn y gymanfa fawr yng Ngherrig Y Drudion. Erbyn y diwedd 'r oedd llygaid Marged Parry fel dwy ffynnon orlawn, a dagrau llawenydd yn llifo i lawr ei gruddiau.
Ebr hi, yn y man, "Wel, wyddoch chi be, 'r ydech chi'n canu'n dlws o'ch dau. Da, 'mhlant i," heb freuddwydio, drwy drugaredd, beth oedd yn aros un ohonynt.
Yn fuan ar ol hyn anfonwyd Gwilym at ewythr iddo oedd yn siopwr cefnog yn Lerpwl. Nid cynt yr oedd yno nag y tynnwyd sylw'r cantorion at ei lais rhagorol. Gwelid ei enw'n fuan iawn fel datgeiniad mewn cyngherddau Cymreig yn y ddinas; ac anfonai yntau'r newyddiadur adre er mwyn i'w fam gael gweld yr hanes. Mwyniant pennaf Marged Parry oedd darllen y paragraff drosodd a throsodd drachefn.
Hyd yma nid oedd y llanc wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol i wneuthur datgeiniad o radd uchel. Ond mawr glod i'r hen ewythr, fe roddes i Wilym bob rhwydd-hynt i ymberffeithio, a thalodd yn annisgwyliadwy o ddirwgnach am bob cost i sicrhau iddo'r diwylliant cerddorol goreu'n bosibl. Drwy hyn gosodwyd ef ar ben y llwybr—serth, mae'n wir; ond sicr, serch hynny, i bob perchen talent—sydd yn arwain i ben bryn enwogrwydd.
Er fod y newyddiadur a anfonid bob wythnos, ac yn amlach na hynny, i Lan Alwen, yn awr mewn iaith nas deallid o gwbl gan Marged Parry, fe ddarllenai hi bob gair o'r hanes yn ei ffordd ei hun. Ond y cwbl a ddeallid ganddi, a dweyd y gwir, oedd enw'r bachgen. A dyna lle byddai'n chwilio am enw Gwilym. A phan ddeuai o hyd iddo dywedai'n hyglyw ambell dro, Dyma fo." Ac ymhellach ymlaen dywedai wedyn, "Dyma fo . . . . Dyma fo . . . . Dyma fo eto!"
Tra y parhaodd Gwilym yn fachgen da, a thra y parhaodd ei fam i glywed oddi wrtho'n rheolaidd, 'r oedd llawenydd Marged Parry yn llifo dros yr ymylon. Ond (ac y mae'n resyn gorfod rhoi ond yn y fan yma) —Ond beth pe byddai i Wilym—ei hannwyl a'i hunig blent yn anghofio'i fam? Beth wedyn?