Drysau Eraill/Plant y pentre
| ← Idwal bach | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Dros gartrefi'n gwlad → |

PLANT Y "PENTRE."
(Yng nghwrdd canmlwyddiant eglwys Pentre Llyn Cymer, Medi 1923)
DRWY fore gefnu ar fy mro
Mi gollais nawdd y cartre.
Ond mwyniant mewn atgofion gawn.
Ac er mewn dinas, teimlo wnawn
Yn un o blant y "Pentre."
Bu meddwl am y ffyddlon rai
Sy'n erw Duw yn huno
I mi yn nerth ar lawer awr
Pan deimlwn rym temtasiwn fawr,
A minnau bron diffygio.
Dychmygwn weld addoldy hoff
Ag afon wrth ei riniog.
Dychmygwn glywed gyda'r gwynt
Weddïau dwys y dyddiau gynt
Fel engyl yn fy annog.
Doi'r bont i'm cof, â'i chanllaw gref
I rwystro'r plant i gwympo.
Bu'r eglwys, hithau, dymor maith,
I mi yn ganllaw ar fy nhaith,
I gadw 'nhraed rhag llithro.
Hawddamor, eglwys ganmlwydd oed.
Wyt ieuanc fyth, a hawddgar.
Y saint o'th fewn fo'n loew lân,
A Duw o'th gylch yn fur o dân
Hyd ddiwedd oesau'r ddaear.