Drysau Eraill/Wrth fin yr afon
Gwedd
| ← Cymer fi | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Ar ddygwyl Dewi Sant → |
WRTH FIN YR AFON.
MEWN bro sy'n gu i'm calon,
A'i ddrws wrth fin yr afon
Saif Tŷ i Dduw—Tŷ tawel, tlws,
A'i ddrws wrth lif yr afon.
I Dduw am rad faddeuant
Y saint a gynnes ganant;
A'r afon fach wrth ddrws y Tŷ
Yn uno yn y moliant.
Offrymir gweddi ffyddiog
Am galon bur, ddihalog;
A thrwy y drws daw murmur llon
Yr afon lân, risialog.
Mewn eglwys fawr gadeiriol
Ceir goreu'r gelf gerddorol.
Ond mawl i Dduw 'min afon fyw
Yw'r seiniau mwyaf swynol.

Alwen Hoff.
"Graean mân a cherrig gwynion
Welais i yng ngwely'r afon,
O, na allswn olchi 'nghalon
Yn ei lli."