Drysau Eraill/Y Cymry iawn
Gwedd
| ← Wrth fedd yr athro | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Y gath fach → |
Y CYMRY IAWN
CÂR y Cymry lân ymgomwest
(Iddynt nid oes blas ar loddest);
Carant ddŵr, a charant ddirwest—
Dyna'r Cymry iawn.
Carant awr fin hwyr i ddarllen;
Carant gerdd, boed brudd neu lawen;
Carant dlysion flodau'r awen—
Dyna'r Cymry iawn.
Hoffi mwyniant pen mynyddoedd;
Hoffi hwyliau cymanfaoedd;
Hoffi'r ddaer wrth garu'r nefoedd—
Dyna'r Cymry iawn.