Drysau Eraill/Y graith
Gwedd
| ← Y gath fach | Drysau Eraill gan Robert Hughes Jones |
Tŷ yr Arglwydd → |
Y GRAITH.
YM more di-brofiad bywyd,
A mi heb wybod y gost,
Chwareuais ag erfyn miniog
A'm clwyfodd o'r diwedd yn dost.
I wella fy archoll caed meddyg mewn pryd,
Ond mae'r graith i'w gweld ar fy llaw o hyd—
I'w gweld ymhen trigain mlynedd,
Er gwaethaf y draul a'r gwaith;
A pho fwyaf a olchir arni
Amlycaf i gyd yw y graith.
Mae Meddyg all wella'n harchollion bob un,
Ond mae'r creithiau'n dragwyddol fel Duw Ei Hun.