Neidio i'r cynnwys

Drysau Eraill (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Drysau Eraill (testun cyfansawdd)

gan Robert Hughes Jones

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Drysau Eraill



DRYSAU ERAILL:

I— PORTH YR AWEN
II— PYRTH ATGOFION



Alwen Hoff.

"Treuliais fore mewn cyfaredd
Ar ei glan.
Canai'r adar ar y bryniau,
Canai'r awel yn y cangau,
Canai'r afon-canwn innau
Ar ei glan."

Wyneb ddalen

DRYSAU
ERAILL



GAN
R. H. JONES
[Awdur "Drwy Gil y Drws," &c.)



LERPWL
HUGH EVANS A'I FEIBION
356, 358 STANLEY ROAD
1923


RHAGAIR.

I TI, ddarllenydd hynaws,
Y nyddais chwedl a chân,
I'w darllen yn nhawelwch
Tlws gymoedd Cymru lân.
Os rhont i ti adloniant,
Os rhont it fwyniant iach,
Bydd hyn yn dâl i minnau
Am lunio'r gyfrol fach.

R. H. JONES.


8 Earlston Road,
Wallasey, Cheshire.
1923.


CYNHWYSIAD
I. PORTH YR AWEN.


I
PORTH YR AWEN

ALWEN HOFF.

RHEDAF atat unwaith eto,
Alwen hoff.
Mwyn yw rhodio ar dy lennydd,
Eistedd wrth dy lynnau llonydd;
Bron nad wylwn o lawenydd,
Alwen hoff.

Mwy wyt ti na'r holl afonydd,
Alwen fach.
Credwn gynt yn nyddiau mebyd
Nad oedd hafal it drwy'r hollfyd,
Afon fawr wyt heddyw hefyd,
Alwen fach!

******
Treuliais fore mewn cyfaredd
Ar ei glan.
Canai'r adar ar y bryniau,
Canai'r awel yn y cangau,
Canai'r afon—canwn innau
Ar ei glan.

Nid oedd llaid na phyllau aflan
Yn ei lli.
Graean mân a cherrig gwynion
Welais i yng ngwely'r afon.
O, na allswn olchi 'nghalon
Yn ei lli.


'DDOI DI, DEI?

'DDOI di, Dei, i blith y blodau ?
'Ddoi di, Dei?
Dyma flodyn bach yn wylo,
Rhywun hwyrach wedi'i frifo.
Dagrau mawr sydd ar ei rudd o.
'Wel di, Dei?

Pwy fu'n plannu'r blodau gwylltion?
'Wy'st ti, Dei?
Dada pïau'r rhôs a'r pansi.
Fo a fi fu yn eu plannu.
Blodau'r ddôl, pwy blannodd rheiny?
'Wy'st ti, Dei?

Dacw nhw yn mynd i'r gwely;
'Wel di, Dei?
Cau eu llygaid heb un pryder;
Plygu'u pen i ddweyd eu pader.
'Ddoi di adre? 'N awr yw'r amser.
'Ddoi di, Dei?


RHIANNON.

RIANNON, ddelw dy rieni—Heulwen
Yr aelwyd lle y trigi.
Dy dirion fam wirioni.
A dotia tad atat ti.


ADRE I'M BRO.

YN nhawelwch y nos fe ddaeth breuddwyd i'm rhan.
Prysuraf i'w draethu mewn trefn.
Breuddwydiais fy mod yn mynd adre i'm bro—
Adre i Dal Y Cefn.

O ysgwydd Ffridd Goch cefais drem ar y fan.
I lawr hyd y llwybyr â fi.
A oes yno lwybyr yn awr, nis gwn—
'R oedd llwybyr yn fy mreuddwyd i.

Ymlaen hyd y ffordd. Nid priffordd mo hon—
Lydan, gadarn, lefn.
Ond y ffordd fach gul o adwy Ffridd Goch
I fyny at dŷ Tal Y Cefn.

'R oedd ôl yr olwynion yn rhychau mawr;
A'r pyllau gan mwyaf yn llawn.
Ond i fachgen mewn hiraeth am weled ei fam
Mae'r pyllau a phopeth yn iawn!

'R wy'n awr wrth y tŷ. Ar y gair dacw 'mam,
Yn hoew ac ieuanc drachefn.
Rhyw ddarlun gwir dlws ohoni oedd hwn,
Efo'r shôl fach wen dros ei chefn.


Ei neges oedd edrych a oeddwn yn dod.
Heb fy ngweld troes yn ol tua'r tŷ.
A chyn imi lwyddo i'w dal wrth y drws
Fe ddiflannodd y breuddwyd cu.

Os methais gyrhaeddyd hyd adre'r tro hwn;
Os methais, o ddiffyg un cam;
Rhyw ddydd cyn bo hir mi a ddeuaf drachefn—
'R wy'n siŵr o ddod adre, 'mam.


EMYN PRIODAS.

DDUW y cariad, rho Dy wenau
Ar y ddeuddyn yma'n awr.
Heulwen deg fo ar eu haelwyd—
Goreu'r nef a goreu'r llawr.
Gwin Dy gariad
Dyro iddynt ar y daith.

Ti yn unig all ein huno
Yn y rhwymau o'r iawn ryw.
Dysg ni, Iôr, i garu'n gilydd,
Fel bôm oll yn deulu Duw.
Gwna'n calonnau
Yn allorau cariad pur.


I AM COMING, MOTHER.

CILIAI'R dydd o'r llwyni coed.
Tawai cerddi'r adar.
Clywais wan wylofus lef,
I am coming, mother.

Plentyn tirion teirblwydd oed
Welais yn ei alar :
Plentyn wedi colli'r ffordd—
I am coming, mother.

Hi ymhell mewn ymchwil flin
Am ei mebyn hawddgar.
Pell neu agos, 'r un yw'r cri—
I am coming, mother.

Arglwydd da, er pelled wyf,
Ar ol hirfaith grwydro;
Ac er gwaned yw fy nghri,
Gwn Dy fod yn gwrando.


GWILYM HIRAETHOG.

HIRAETHOG, enwog emynydd,—llenor
Yn llawn o ddarfelydd.
Hiraethog fel areithydd
Oesau'r llawr yn fawr a fydd.


ADRE'N OL.

I WELY poen yng nghlafdy'r dre
Yr aeth f'anwylyd.
Gwag yw'r aelwyd— gwag pob lle
Heb f'anwylyd.

Pan roed loes i 'mhriod wiw
Gan law-feddygon,
O, mi deimlais innau'r briw
Yn fy nghalon.

Brysia'n ol, fy ngwenno fâd,
Heb dy glwyfau.
Hyn yn unig rydd iachâd
I'm dolur innau.

Cedwir iti aelwyd lân,
Gynnes, gynnes.
Awgrym bach o wres y tân
Sy yn y fynwes.

Gyda'r meddyg Meddyg Mwy
Oedd mewn cyfrinach.
Canu clod y Meddyg Mwy
Yw'n dyled mwyach.


WRTH FEDD YR ATHRO
[Y Diweddar Broffeswr J. M. Davies, M.A.].

ADDURNIR ei fedd â blodau
Heblaw blodau'r ddôl a'r ardd—
Blodau atgofion parchedig
Am filoedd o droeon caredig;
A'r rhain yw y blodau hardd.

Fe dywelltir dagrau distaw
(Un distaw oedd ef ei hun);
Dagrau am yr Athro medrus,
Am y cennad melys, melys;
Dagrau ar ol y dyn;

Dagrau am y cyfaill diffuant,
Galar am y priod a'r tad.
Mae'r "Orsedd " yn holi amdano,
A " bechgyn y Coleg " yn wylo
Wrth gofio'i gynghorion mâd.

Ond gwell na hiraethu mewn dagrau
Yw ymson mewn cywair llon.
Diolchwn am wên yr Athro.
Pwy byth all anghofio honno?
Rhyw ernes o'r wên sydd arno
Mewn gwynfyd y funud hon.


Coffhâwn am yr oedfa wlithog;
Mawrygwn ei englyn a'i gân;
Rhown flodau ar ei feddfaen unig
I ddïolch am ddynoliaeth garedig,
I ddïolch am y gŵr bonheddig,
I ddiolch am y galon lân.


Y CYMRY IAWN

CÂR y Cymry lân ymgomwest
(Iddynt nid oes blas ar loddest);
Carant ddŵr, a charant ddirwest—
Dyna'r Cymry iawn.

Carant awr fin hwyr i ddarllen;
Carant gerdd, boed brudd neu lawen;
Carant dlysion flodau'r awen—
Dyna'r Cymry iawn.

Hoffi mwyniant pen mynyddoedd;
Hoffi hwyliau cymanfaoedd;
Hoffi'r ddaer wrth garu'r nefoedd—
Dyna'r Cymry iawn.



Y GATH FACH.

'R OEDD cath fach, fach,
Efo dau lygad glas
Yn byw un tro
Yng nghegin y plas.

Ym mharlwr y ffrynt
'R oedd geneth wen, ddel,
A dau lygad glas
Ganddi hithau, 'r un fel.

I Gwen nid oedd chwaer
(Gwelai'r amser mor faith).
'D oedd gan pwsi'r un chwaer
I chwarae ychwaith.

Cyn bo hir aeth y ddwy
Yn ffrindiau mawr, mawr;
Chwareuent drwy'r dydd
Drwy ymrolio hyd lawr;

Neu dynnu pen llinyn
Hyd ymyl y bwrdd,
Ac yna yn sydyn
Ei gipio i ffwrdd;

Neu ddangos blaen bys
Rhwng cadair a gwal;
A'r gath bron gwirioni
Wrth fethu â'i ddal.


Ond darfu y chwarae.
Daeth galar i'r plas.
A dagrau a lifent
O ddau lygad glas.

'R oedd mam y gath fach
Gan hiraeth yn brudd,
A'i chynffon yn gwyro
Tua'r llawr drwy y dydd.

"Paid clio," 'be Gwen,
Rhyw felwdd 'r wyf i
Ma wedi mynd adle
Ma dy gas fach di."


Y GRAITH.

YM more di-brofiad bywyd,
A mi heb wybod y gost,
Chwareuais ag erfyn miniog
A'm clwyfodd o'r diwedd yn dost.
I wella fy archoll caed meddyg mewn pryd,
Ond mae'r graith i'w gweld ar fy llaw o hyd—

I'w gweld ymhen trigain mlynedd,
Er gwaethaf y draul a'r gwaith;
A pho fwyaf a olchir arni
Amlycaf i gyd yw y graith.
Mae Meddyg all wella'n harchollion bob un,
Ond mae'r creithiau'n dragwyddol fel Duw Ei Hun.


TŶ YR ARGLWYDD.

AF drachefn i Dŷ yr Arglwydd.
Syllaf ar ei furiau cain.
Marmor gwyn yw meini Bethel.
Dewis feini Duw yw'r rhain.

Pletha 'nghalon dwym ei breichiau
Am y Tŷ mewn hoffter mawr.
Lle mwy cu a man mwy cyfrin
Nid oes ar y ddaear lawr.

Pan fo'r Tŷ yn dawel, dawel,
Drysau'r byd i gyd ynghau,
Clywaf weithiau gân angylion
O'r tragwyddol yn neshau.

Af drachefn i fan y fendith.
Llecyn glân yw'r fangre gu.
O, am ysbryd parch a gweddi
Wrth ymgrymu yn y Tŷ.


FY MAM YN HUNO.

'R OEDD 'mam yn ei dydd mor heinyf
Ag undyn gyfarfum erioed;
Yn nwyfus mewn gair ac mewn meddwl,
A hynod o chwim ar ei throed.


Ond henaint â'i faich a ddaeth arni,
Gan drethu ei chryfder yn fawr.
Wrth dynnu yn nês at y noswyl
Ei mwyniant oedd eistedd i lawr.

Yn glyd yn ei chadair freichiau,
Efo cap bach gwyn ar ei phen,
Hi hunai yn dawel a dedwydd
Dan orchudd ei ffedog wen.

Mi'i gwelais hi gannoedd o weithiau
Yn huno fel hyn wrth ei bodd.
Pa ryfedd im neithiwr freuddwydio
Ei gweled yn huno'r un modd?

Gorffwysai'n y gegin nen-isel
Gyda'i haelwyd o gerrig glân,
Y fantell fawr, lydan, gysgodol,
A setl bob ochor i'r tân.

Yn fy mreuddwyd deffroais hi'n dyner.
Cydgerddem o gwmpas y tŷ.
Ond tynnodd fi'n ol at ei chadair
I orffwys drachefn fel y bu.


Mam.

Huno wnai 'mam yn fy mreuddwyd,
Megis yn nyddiau y llawr.
"Huno," ddwed carreg y fynwent.
"Huno," ddwedai'r Iesu Mawr.

Dymunaf yn fynych wrth orwedd
Gael breuddwyd amdani hi.
Os gwn i fydd 'mam yn breuddwydio—
Breuddwydio amdanaf i.


CROESI'R AFON.

MEWN breuddwyd gwelodd Bunyan
Bererin blin ar daith
Yn griddfan dan ei feichiau
Wrth ddringo'r rhiwiau maith;
A'i fynwes brudd yn llawn o ofn
Wrth nesu at yr afon ddofn.

Ond pan ddaeth awr y croesi
Diflannu wnaeth y braw.
Afonig dawel welai,
A chartre'r ochor draw.
A dyrchu cân a wnaeth y gŵr
Wrth weld mor fychan oedd y dŵr.


DEWI SANT.

SAIF Dewi'n gynllun tra rhed dŵr
O ŵr yn caru Gwalia.
Nid clod y cledd ond lles ei wlad
A gerid ganddo'n benna'.
Yng ngrisial lif y loew nant
Ceir drych o gariad Dewi Sant.

Mae ysbryd Dewi'n fyw o hyd.
Lle byddo Cymry gonest
Yn brwydro dros eu gwlad a'u hiaith
Bydd yntau yn yr ornest.
Mewn tref a gwlad, ar fryn a phant,
Ymladdwn frwydrau Dewi Sant.

Gwneir difrod gan y ddïod gref.
Fe leddir myrdd o Gymry.
Yn enw'n gwlad, yn enw'n Duw,
Awn rhagom i'w gorchfygu;
A dysgwn ddirwest bur i'n plant,
'Ran yfwr dŵr oedd Dewi Sant.

Mae iaith y Brython yn ei bri
Er gwaethaf gwawd yr estron.
Henafol iaith! Anwylaf iaith!
Mor swynol yw d'acenion.
Cymraeg dros byth fo iaith ein plant,
'Ran Cymro glân oedd Dewi Sant.


CÂN PROFIAD
Mrs. Ann Jones, Liscard, wrth nesu at ei chant oed.

RHOF glod i Dduw am bopeth
Dderbyniais ganddo erioed.
Tywysodd fi drwy'r anial
I ymyl canmlwydd oed.

Fy llaw rof uwch fy llygaid
I dremio i'r pellter maith.
Rhyfeddaf hyd y llwybyr
Dramwyais ar y daith.

Bu gennyf gynt gyfeillion—
Gwyr mawr o nôd a bri.
Mae gennyf ffrindiau eto
Sy'n dirion wrthyf i.

O, Iesu, Ffrind fy mywyd,
Ymafael yn fy llaw,
Ac arwain fi pan fynnech
Drwy'r glyn i'r ochor draw.

Er bod blynyddoedd lawer
Yn faich i mi yn awr,
Fydd canmlwydd ddim ond munud
Ym mro y gwynfyd mawr.


BRYNIAU MEBYD.

HENFFYCH fryniau bore bywyd.
Hardd yw'ch gwedd ar hirddydd haf.
Gwelais chwi drwy ddrychau atgof;
Heddyw gweld heb gyfrwng gaf.

Sengais drumiau bryniau eraill—
Ambell fryn o uchel fri.
Ond er tlysed rhai ohonynt,
Chwi yw bryniau 'nghalon i.

Fryniau hoff fy maboed dedwydd,
Cyrchu atoch heddyw wnaf.
Yn fy hiraeth am gyfoedion
Mwyniant yn eich cwmni gaf.

Megis chwithau carwn godi
'Mhen uwchlaw holl darth y llawr.
Megis chwithau'n amyneddgar
Ddistaw ddisgwyl am y wawr.


CYMER FI.
(Ar sefydliad y Parch. R. J. Pritchard, B.A., yn weinidog eglwys Mynydd Seion, Ponciau).

YN oriau bore bywyd
Daeth cri at lencyn mâd
I wrthod ffyrdd esmwythyd,
A gadael tŷ ei dad.
Llais mwyn yr Iesu oedd y cri
Yn tyner erfyn, "Dilyn Fi."


"Mae gennyf braidd newynog
Hyd oer lechweddau'r byd,
Ac eraill mewn dyrysni
A'u traed yn waed i gyd.
'R wy'n erfyn help. A ddeui di ?"
A'r llanc atebodd, "Cymer fi."

"Nid moeth yw bywyd bugail.
Mae'r swydd yn drom i'w dwyn.
'D oes dim ond dwylo cariad
All ymgeleddu'r ŵyn.
"Y llanc a swynwyd gan y cri,
A dwedodd eilwaith, "Cymer fi."

Ar Benmaen Mawr yng nghyntaf
Y gwelwyd ôl ei draed;
A phrofion o'i ymroddiad
Yn gynnar yno gaed.
Ond cri drachefn o Fynwy bell
A'i galwodd i wasanaeth gwell.

Pan yno ar Fynydd Seion
Yn porthi'r praidd â maeth,
O Fynydd Seion arall
Taer alwad ato ddaeth.
O bell y bugail glybu'r llef,
A daeth â'i deulu gydag ef.


Mawr lwydd fo ar ei lafur
Dan wenau'r Bugail Mwyn,
I ddwyn y praidd i borfa,
A chyfarwyddo'r ŵyn.
Cânt hwy ei fryd a'i serch bob un—
Mae ganddo oen bach Gwyn ei hun.


WRTH FIN YR AFON.

MEWN bro sy'n gu i'm calon,
A'i ddrws wrth fin yr afon
Saif Tŷ i Dduw—Tŷ tawel, tlws,
A'i ddrws wrth lif yr afon.

I Dduw am rad faddeuant
Y saint a gynnes ganant;
A'r afon fach wrth ddrws y Tŷ
Yn uno yn y moliant.

Offrymir gweddi ffyddiog
Am galon bur, ddihalog;
A thrwy y drws daw murmur llon
Yr afon lân, risialog.

Mewn eglwys fawr gadeiriol
Ceir goreu'r gelf gerddorol.
Ond mawl i Dduw 'min afon fyw
Yw'r seiniau mwyaf swynol.


Alwen Hoff.

"Graean mân a cherrig gwynion
Welais i yng ngwely'r afon,
O, na allswn olchi 'nghalon
Yn ei lli."


AR DDYGWYL DEWI SANT.

MEWN estron fro mae'n gu cael cwrdd
Yn Gymry pur o gylch y bwrdd
I drafod llên a chân.
Pa genedl sydd â gloewed sant?
Pa urddas mwy na bod yn blant
I Ddewi'r galon lân?

Ble ceir y Cymry o'r iawn ryw?
Fe haerwn ni fod llu yn byw
Mewn llawer estron dir.
Mae'n Dewi ni ar ŵyl fel hon
Yn ennyn sêl mewn llawer bron
I ymladd dros y gwir.

'R oedd llygaid Dewi draw o bell
Drwy'r niwl yn canfod dyddiau gwell.
Mae'r rheiny wedi dod.
Darfyddodd bri yr arfau dur.
Mae'r bri yn awr ar heddwch
A phawb sydd is y rhôd. pur

Mae Arthur eilwaith yn ein plith.
Wrth graffu ar y bore wlith
Fe welir ôl ei draed.
Awn rhagom, Gymry, tua'r wawr.
Ymlaen cawn fuddugoliaeth fawr,
Heb golli dafn o waed.


WRTH FEDD Y PROFFWYD.
(Y Diweddar Barch. Samuel Roberts, Dinbych).
"A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai prophwyd ffyddlawn yr Arglwydd oedd Samuel."

FE'I galwyd gan Dduw i broffwydo.
O Dan hyd Beerseba yr aeth,
A neges y nef ar ei wefus;
A'i thraethu'n angherddol a wnaeth.

'R oedd dyfnder yr afon fordwyol,
A swynion y " dyffryn " a'r "nant,"
A bythol gadernid y "bryniau
Ym mhregeth y proffwyd a'r sant.

Mor fwyn ydoedd bloedd ei hyfrydlais
(Dychmygaf ei chlywed yn awr).
A loes heb ei disgwyl a gafwyd
Pan dorrwyd y proffwyd i lawr.

Iddo ef Cymanfa oedd bywyd.
Pregethai i gyrddau llawn.
Ond cais oddi fry a ddaeth ato
I fynd adre 'r ol oedfa'r prynhawn.

Rhaid plygu i drefn Y Goruchaf.
Y Meistr yn unig a ŵyr
Y rheswm na chafodd Ei gennad
Ddim aros tan oedfa yr hwyr.


Y BEDD A'R BLODYN.

YM mynwent Dwygyfylchi
Mae beddrod bychan, tlws.
Y môr o draw yn süo;
A Phenmaen Bach yn gwylio
Y beddrod tawel, tlws.

Ac ar y bedd mae blodau—
Rhosynnau coch a gwyn.
Nid blodau wedi'u torri,
Ond blodau byw yn tyfu,
Gan berarogli'r glyn.

Pan ddelo'r dydd i minnau
I huno mwy mewn hedd,
Mi garwn allu credu
Y bydd rhosyn bach yn tyfu
Yn dawel ar fy medd.


Y MEDDYG.

'R OEDD Mynydd Hiraethog yn huno
Yn dawel dan gwrlid gwyn,
A'r bugail a'i gi yn lluddedig
Wrth ddringo llechweddau y bryn.

Ond torrwyd distawrwydd y wenfro
Gan ffrwydriad echryslon gerllaw.
Lle gynt yr oedd hedd a llonyddwch,
Yn awr yr oedd cyffro a braw.

Dau fachgen yng ngwanwyn eu gyrfa
Dan glwyfau ofnadwy a gaed,
Yn gorwedd ar wely o eira
A gochid yn gyflym gan waed.

"Y meddyg! Y meddyg, heb oedi!
Carlamer i'w gyrchu bob cam."
"Ni ellir ei gyrchu ar geffyl;
Mae'r cyfrwy gan arall, 'mam."

Dos, dos!" A'r marchog di-gyfrwy
I'w hirdaith gychwynnai ar frys.
Ymlwybrent o luchfa i luchfa,
A'r ceffyl yn furum o chwys.


'Mhen oriau cyrhaeddodd y meddyg
Â'i nodwydd i bwytho y cnawd.
A'r chwaer fechan ddewr ddaliai'r gannwyll
I helpu i achub ei brawd.

Y meddyg gofalus, 'r ol gorffen,
Betrusai, â'i drem tua'r llawr;
Ac meddai, "Mae gobaith y bachgen
Yn 'sbyty y ddinas fawr."

Ers oriau cyn gwawr yr oedd goleu
Mewn ffermdy a adwaen yn dda;
A dynion di—dâl am y goreu
Yn agor y ffordd drwy yr ia.

Mae'r llanc mewn gwlanenni tewion
Yng nghongl y cerbyd yn awr.
Ond beth am y siwrnai hirfaith,
Y storom a'r eira mawr?

Un march nid yw'n ddigon i'r cerbyd.
Mae'n methu â'i syflyd yn lân.
"Rhowch dresi ar Brown ar unwaith,
A bachwch hi ar y blaen;


A chydiwch yn ochor y cerbyd
I'w rwystro i ddymchwel i lawr."
Fel yna cychwynnwyd y bachgen
O'r mynydd i'r ddinas fawr.

Ond cysur y llanc yn ei loesion
Oedd gwybod ei fod yn neshau
At feddyg o Gymro digymar
A allai ei gwbwl iachau.

Diolchwn i Dduw am feddygon
All wella doluriau y llawr.
Awgryma eu grasol driniaethau
Rinweddau Y Meddyg Mawr—

Y Meddyg, o gariad at eraill,
A gollodd Ei waed ar y bryn—
Y gwaed sydd yn puro eneidiau
Yn glaer fel yr eira gwyn.


IDWAL BACH.
(Cerrig y Drudion).

Dyddiol chwaraewr diddig—Pwt o fêl!
Pet ei fam bob cynnig!
Idwal bach, y del ei big,
Yw "cariad" mwya' Cerrig.


Pentre Llyn Cymer.

PLANT Y "PENTRE."
(Yng nghwrdd canmlwyddiant eglwys Pentre Llyn Cymer, Medi 1923)

DRWY fore gefnu ar fy mro
Mi gollais nawdd y cartre.
Ond mwyniant mewn atgofion gawn.
Ac er mewn dinas, teimlo wnawn
Yn un o blant y "Pentre."

Bu meddwl am y ffyddlon rai
Sy'n erw Duw yn huno
I mi yn nerth ar lawer awr
Pan deimlwn rym temtasiwn fawr,
A minnau bron diffygio.

Dychmygwn weld addoldy hoff
Ag afon wrth ei riniog.
Dychmygwn glywed gyda'r gwynt
Weddïau dwys y dyddiau gynt
Fel engyl yn fy annog.

Doi'r bont i'm cof, â'i chanllaw gref
I rwystro'r plant i gwympo.
Bu'r eglwys, hithau, dymor maith,
I mi yn ganllaw ar fy nhaith,
I gadw 'nhraed rhag llithro.

Hawddamor, eglwys ganmlwydd oed.
Wyt ieuanc fyth, a hawddgar.
Y saint o'th fewn fo'n loew lân,
A Duw o'th gylch yn fur o dân
Hyd ddiwedd oesau'r ddaear.


1914-1918.

DROS GARTREFI'N GWLAD.

CLYWCH, mae ochain mawr a dychryn
Yng nghartrefi'n gwlad.
Ewch yn llu i flaen y fyddin,
Dros gartrefi'n gwlad.
Ceisia'r gelyn brwnt ein maeddu.
Ato, fechgyn glewion Cymru,
Dros gartrefi'n gwlad.

Dibris yw ei luoedd arfog
O gartrefi gwlad.
Rhuthrant yn eu nwydau halog
I gartrefi gwlad.
Beth pe deuent i'n hardaloedd?
Fechgyn annwyl, ewch yn filoedd,
Dros gartrefi'n gwlad.

1914


Y GWIRFODDOLWR.

MOLWN ar goedd y milwr—o'i wirfodd
Ddwg arfau rhyfelwr.
Ond tâl da a ga y gŵr
Wrth rwymo hen orthrymwr.

1915.


JOHN Y DDÔL.

PAN fathrwyd Belgium yn y llaid
Gan elyn brwnt, ffroenuchel,
Y cyntaf un oedd John Y Ddôl
I uno yn y rhyfel.
'D oedd neb i'w gael mor dyner fron.
Aeth lladd y plant i galon John.

Y weddw fam mewn bwthyn llwyd
Adawyd wrthi'i hunan.
A weithiau 'chydig iawn o fwyd
A welid ar ei phentan.
Dioddefai gyni heb nacâd
I John gael ymladd dros ei wlad.

Ei gwynfyd yn ei thrallod blin
Oedd trin ei hoff lythyrau;
Eu mynych ddarllen bob yn air
Drwy olrhain y llythrennau.
Pa beth yw'r guddfan wrth ei bron?
Ha, dyna le llythyrau John.

Anfonai'r llanc lythyrau lu
I leddfu ei phryderon.
A phwy all draethu loes y fam
Pan beidiodd John ag anfon ?
Drwy gydol nos bu gweddw'r
Ddôl Yn llefain am gael John yn ol.


Mi'i gwelais dranoeth wrth ei drws.
Dim gair oddiwrth fy machgen!
Daeth llythyr Saesneg; dyma fo;
'D yw hwn ddim gwerth i'w ddarllen.
Nid llythyr Saesneg wna fy nhro.
Rhaid im gael gair oddiwrtho fo.

Dangosais hwn i Lady'r Plas
Y bore wrth fynd heibio.
Edrychodd arno; troes ei chefn,
Ac ail edrychodd drwyddo.
'Maddeuwch im,' medd hi yn syn,
"'D wy'n gweled dim drwy'r gwydrau hyn."

Darllenais innau. Ow, y loes!
Ymladdwn gyda 'ngalar.
"A fearless soldier," ebe'r gŵr;
"He died to save another.
Your noble son, I'm proud to say,
Has played the man, and gone away."

Edrychais ar ei gruddiau llwyd,
A'i llygaid llym gan gyni.
'R oedd traethu'r gwir i gyd yn gamp.
A hyn ddywedais wrthi—
Nac wylwch mwy; molienwch Dduw;
'D oes dim o'i le; mae John yn FYW.


YN AWR Y FRWYDR.

O BOB rhyw fro heddychol,
O bob rhyw aelwyd glyd,
Rhown floedd i lonni'r bechgyn
Sy'n gwaedu dros y byd.

Y gelyn creulon, bostfawr,
A heria ddaear gron.
Mae gweniaith ar ei dafod,
Ond dichell sy'n ei fron.

Fe dwyllodd Rwsia ehud.
Myn gael y byd yn sarn.
Mae Belgium a Rowmania
A Serbia dan ei garn.

Dynesa atom ninnau.
Pair hyn i'n henaid fraw.
O, Dduw, rho nerth i'n bechgyn
I gadw'r gelyn draw.

Pan rwymir ysbryd gorthrwm
Sy'n sarnu hawliau dyn,
O, Iesu Mawr, gwna lwythau'r llawr
Yn deulu it Dy Hun.

Gwanwyn 1918.

HEDDWCH!
(11 Tachwedd, 1918).

EWCH, cenwch glychau'r pentre
I alw'r plant ynghyd—
Y plant fu'n gwaedu ar ein rhan
Ym mhedwar ban y byd.

Mor bêr fydd cân y clychau
I glustiau'r bechgyn mâd.
Ffarwel i ffosydd Fflanders mwy!
Ffarwel ofnadwy gâd!

Parhewch i ganu'r clychau.
Daw rhai o'r plant ynghyd.
'Ddaw eraill ddim. Fe glywsant hwy
Gloch fwy y gloewach fyd.


HEB DDOD ADRE.

PAN ddychwelodd y dewrion adre
Rhoed croeso ar uchel gainc.
Ond 'r oedd llu yn y dorf yn galaru
Am y dewrion eraill hynny
Aethai adre yn syth o Ffrainc.
O, ryfel ofnadwy, ti roist inni glwy.
'Does eisiau byth sôn am ryfeloedd mwy.

'Ddaeth pawb ddim yn ol i'w cynhefin :
'Ddaeth John ddim yn ol i'w le.
Bu'n eilun yr holl ardaloedd,
Ac yn obaith y cymanfaoedd.
'Ddaeth John ddim yn ol i'w le.

Gresyn yw gweled gwron Ffrainc
Mor fynych mewn gwarth o flaen y Fainc.

Gwnaeth hwn wrhydri digymar—
Anhygoel i lawer un.
Pob cymrawd oedd iddo'n gyfaill;
Fe waredai bobol eraill
Heb ofal amdano ei hun.
'R oedd yr hyn a wnaeth dros eraill yn grand.
Ond heddyw John sydd yn No Man's Land.

Ewch i'w nôl o, fechgyn y trenches.
Mae'n glynu'n y llaid mor dyn.
Sibrydwch yn dyner wrtho
Fod Y CAPTEN yn disgwyl amdano,
A swydd am ei oes os myn.
Mae'r aelwyd a'r eglwys, y ddaear a'r ne,
Yn credu y daw John yn y man i'w le.


II.
PYRTH ATGOFION


N'ÂD FI GRWYDRO.
PEN. I.

UN o'r pethau sy'n glynu dynnaf wrthyf o holl atgofion bore oes yw 'mhrofiad chwerw o erwinder yr hin tua'r Nadolig yn y flwyddyn 1873, os wy'n cofio'n gywir. Y flwyddyn honno daethai'r gaea'n gynnar. Erbyn canol Rhagfyr yr oedd y ddaear cyn galeted â bwrdd, a "gwynt traed y meirw" yn rhuo'n y simdde ddydd a nos. 'R oedd rhai o weunydd fy nghartre cyn wlyped fel na feiddid myned iddynt efo ceffyl a throl rhag ofn "glynyd," ond ar sychter haf neu ar rew mawr. Y gaeaf hwnnw 'r oedd y rhew y fath fel y cariem dail i'r rhannau gwlypaf efo trol a deuben mor ddibryder a phe buasai'r wedd yn cerdded "yr Holyhead," fel y gelwir ffordd Telford yn y rhannau hynny. 'R oedd y domen ar y buarth yn galed fel craig, a rhaid oedd cael trosol dur i'w thorri; a bod yn ofalus efo'r trosol hefyd i beidio â dal gafael gormod yn yr unman neu fe ddeuai croen y llaw i ffwrdd yn llarpiau, y cyrn a'r cwbl.

Yr adeg yma 'r oeddwn i rywbeth rhwng hogyn ysgol a chowmon. Fe ŵyr y cyfarwydd ei bod yn ofynnol golchi maip cyn eu malu'n fwyd i wartheg. Erwined oedd yr hin y Nadolig hwnnw fel y gorfodid ni i gadw'r maip yn y 'sgubor o dan haenau o wellt. Golchid hwy yng nghafn y pistyll. Y funud hon gwelaf fy hunan, gyda dwylo dulas, yn cychwyn efo berfaid o faip i gafn y pistyll. Rhaid oedd torri'r rhew i wneud lle iddynt. Daliai'r pistyll i redeg er gwaetha'r hin; ond yr oedd tua throedfedd o rew wedi ymffurfio'n bigyn wrth ei drwyn. Gan fod y ffos tu isa i'r pistyll wedi rhewi rhedai'r dŵr i rywle rywle. Ac fel canlyniad 'r oedd plymen anferth yn cyrraedd o'r cafn cyn ised â llidiart y Bere. Gwae'r dyn a ddodai ei droed arni yn y nos. Amheued y neb a fynno gwymp Adda, yr oedd cwymp y dyn hwn yn sicr. Ond i ddod yn ol at y maip. 'R oedd gennyf ysgub fawr afluniaidd o rug y mynydd gyda'r hon yr ysgwriwn hwynt yn y cafn nes eu bod yn lân. Yna, gwae fi, rhaid oedd eu codi â dwylo noethion bob yn ddwy o'r dŵr i'r ferfa. Nid oes ond deugain llath, os oes hynny, o bistyll Tal Y Cefn Ucha i ddrws cefn y 'sgubor. Ond, coeliwch fi, 'r oedd y maip yn sgleinio fel marbles yn y ferfa cyn i mi gyrraedd y drws, a chrensient gan rew wrth i mi eu malu. O, ie, gaeaf i'w gofio oedd hwnnw.

Yr oedd yr afon—ac nid oedd ond un afon i mi y dyddiau hynny—'r oedd afon Alwen fel ffordd fawr, a phlant yr ysgol yn ei cherdded i fyny ac i lawr.

Ond rhaid i mi beidio ag anghofio crybwyll am y defaid. Druain ohonynt! 'R oedd pob swp o rug a thwmpath o frwyn wedi'u claddu gan yr eira a'u cloi gan y rhew; oblegid rhwng y Nadolig a'r Calan deuthai heth fawr o eira; ac yn debig i hyn y daeth. Un diwrnod symudodd y gwynt i "Lanhingel," a dechreuodd fwrw, nid hanner-cranau, ond coron bob tro, am ddeuddydd a dwynos. Dilynwyd hyn ar y trydydd prynhawn gan gafod fechan o law oer. Erbyn hyn yr oedd haen wastad o droedfedd o eira yn gorchuddio'r wlad o ben y mynydd i lan yr afon. Ond 'r oedd arwynebedd yr eira'n llaith ar ol y gafod law, a gobeithid bod meiriol a gwared o'r tywydd mawr yn ymyl. Ond yn ystod y nos troes y gwynt yn ei ol i Graig Bron Bannog, a rhewodd yn ffyrnicach nag o'r blaen, os oedd yn bosibl. Erbyn y bore'r oedd y lleithder a adawsai'r gafod wedi rhewi'n blisgyn tew, caled, dros wyneb yr holl wlad. Wel, druain o'r defaid yn awr! Digon prin y gallai dynion cryf—ion ymlwybro, heb sôn am ddefaid, gan fod y plisgyn rhew'n tarro'r grimog yn yr un fan bob cam nes peri dolur. Yr unig ffordd oedd torchi rhaffau gwair am y coesau, o'r fferau hyd at bennau'r gliniau, a gwisgo 'sgidiau mawr—'sgidiau crydd Clawdd Newydd. Erbyn heddyw, ysywaeth, mae'r crydd gwlad wedi diflannu, a'i le wedi ei gymryd gan drafaeliwr mewn 'sgidiau, chwedl y Llyfrbryf.

Ond gwelaf fod perigl i mi wrth ymdroi fel hyn i golli pen fy stori. Dyna beth ddigwyddodd, wyddoch, i'r pregethwr hwnnw druan. Collodd ei afael ymhen llinyn ei bregeth; ac mewn llai na phum munud ar gloc y capel yr oedd wedi llwyr ddihysbyddu ei destun. Edrychai pawb ar ei gilydd mewn syndod. Sychodd yntau ei chwys—chwys, nid am iddo boethi wrth lefaru, ond chwys am nad oedd ganddo ddim rhagor i'w lefaru. Yna mewn ffwdan troes i'r drydedd salm ar hugain, a chanfu adnod a chanddo bregeth arni.

"Wel, frodyr a chwiorydd," meddai, gan ei bod hi wedi dwad i hyn, hwrach ma'r peth gore alla i neud ydi ail-dextio." Felly y gwnaeth, ac felly y gwnaf innau.

Sôn yr oeddwn, onid ê, am y plisgyn teneu, caled, miniog, yn anafu'r grimog bob cam gymerid. Ond beth am goes fach, fain, yr oenig druan? O, 'rwy'n cofio'i gweld hi ar yr achlysur yma'n cael ei thorri fwyfwy, nes o'r diwedd bod y gwaed yn rhedeg. Ac y mae'r atgof am yr arliw coch a welais y dyddiau hynny ar lwybrau'r defaid yn dwyn i'r meddwl gwpled Eben Fardd:

Llithrig yw'r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y marmor gwyn.

Yn ystod yr wythnosau blinion y parhaodd yr ystorm erwin gwnaethom ein goreu i gario ymborth iddynt, un â'i gowled a'r llall â'i faich, ar hyd y llechweddau. Ond er popeth a wnaed fe drigodd llu ohonynt, a buwyd am wythnos gron yn blingo'r meirw.

Dioddefwyr mawr eraill y gaeaf hwnnw oedd yr adar bach. Galeted oedd hi arnynt fel y deuent i dai annedd yn ddibetrus i bigo bwyd. 'R oedd gŵr Glan Alwen wedi bod yn cymryd tamaid wrtho'i hunan oddiar y ford fach gron yn ymyl y tân, ac wedi codi i agor y drws allan am eiliad, a dyna Robin Goch heibio iddo, ac yn syth i garreg yr aelwyd i bigo'r briwsion.

Ond, ebe rhywun, paham yr oedd gŵr Glan Alwen wrtho'i hunan y prynhawn hwnnw, a chanddo yntau wraig ?

Wel, at hynny'r oeddwn yn dod. Yn wir, dyna'r lle y dechreua hynny o stori y sy gennyf. Nid Robin Goch oedd yr unig un a ddeuthai i Lan Alwen y diwrnod hynod hwnnw. Ni chlywsid cri baban bach ar yr aelwyd hon o'r blaen ers agos i hanner can mlyn—edd. Ond pan ddaeth y bychan hwn welsoch chwi 'rioed y fath groeso a gafodd. Cyn pen yr wythnos 'r oedd pawb yn dotio ato, a chyn pen y mis 'r oedd popeth yn y tŷ yn gorfod rhoi ffordd iddo.

Un o'r rhai oedd wedi gwirioni fwyaf arno ydoedd Nain. 'R oedd hi yn nain i fam y babi, petai waeth. Ond Nain y gelwid hi gan bawb. Byth ni chyfaddefai ei bod yn hen—" dechre mynd i oed " yr oedd, meddai hi. Wyth fydda i y tro nesa," ebr hi, gan gogio nad oedd wyth a phedwar ugain nac yma nac acw. Serch hynny yr oedd Nain wedi " dechre mynd i oed ers plwc byd; ac erbyn hyn yr oedd yn bur ffwndrus ar brydiau. Fel y gwelwyd llestr dŵr neu gunnog odro ambell dro ar ol hir draul yn gwisgo'n dwll ac yn dechreu colli; felly Nain; 'r oedd ei meddwl hithau o'r diwedd wedi gwisgo'n dyllau mewn mannau. Mae gennyf go' plentyn cael fy anfon gan fy mam ar neges i Lan Alwen oddeutu'r adeg yma. Euthum at y drws, a churais yn ysgafn, gan ddisgwyl clywed y gwahoddiad arferol, "Dowch i mewn.'

Ond er curo ddwywaith a thair, a hynny drymach, drymach, nid oedd neb yn ateb. O'r diwedd mentrais godi'r glicied, a cherddais yn araf i'r tŷ. Ar yr aelwyd gwelais Nain yn siglo crud Gwilym bach. Ychydig o sylw a gymerodd hi o'm dyfodiad, a methais â chael nemor o drefn ar ddim a ddywedai, er ei bod yn mwmian rhywbeth wrthi'i hun yn ddi-dor. Yn y man, daeth mam y babi i mewn, a chododd y bychan er mwyn i mi gael ei weled a'i gusanu (Cofiaf hyd heddyw mor drwsgl y gwneuthum hynny bach o orchwyl). Er bod y baban ym mreichiau ei fam ers meityn bellach, sylwais fod Nain druan yn dal i siglo'r crud! Wrth fy ngweld yn synnu at hyn sibrydodd y fam wrthyf mai felly y byddai Nain beunydd ben.

Pan ddywedais y stori ar ol myned adre clywais adrodd hanesyn arall am Nain Glan Alwen a'r babi. Ymddengys i dad a mam y bychan gael braw mawr rwng dau a thri ryw fore dua'r adeg yma pan gawsant fod gwely bach Nain yn wag a'r gwrthbanau'n oerion. Ar ol chwilio cafwyd hi yn y gegin wedi gwisgo amdani fel arfer, wedi cynneu clamp o dân, wedi goleu cannwyll wêr, a hithau'n ddiwyd siglo'r crud gwag ar yr aelwyd.

Ac nid Nain oedd yr unig un oedd yn dotio ar Wilym. 'Roedd y tad wedi colli'i ben hefyd. Ond fe ddylid cofio hyn—Er mai'r "gŵr ifanc" y gelwid ef ddydd ei briodas ddwy flynedd cynt, " yr hen lanc" oedd ei enw gan bawb y diwrnod cyn y briodas. Felly 'r oedd cryn gwrs o ffoledd hen" yn edmygedd y tad o'i gyntafanedig. Beth a geir i'w ddweyd am y fam? Wel, chwarae teg iddi i feddwl na bu baban erioed cyn broped â'i baban hi.

Hawdd yw deall felly i Wilym gael "byd da yn helaethwych beunydd" rhwng pawb. A gafodd ef ormod o anwes ac o'i ffordd ei hun fel yr unig blentyn sy fater arall. Tyfodd yn hogyn glandeg, cryf, ac
Gwilym a'r pysgodyn

ysgafndroed. Pan yn ddeg oed gallai chwarae marbles gyda'r goreu—a chwarae cecri hefyd! Nid anfynych y gwelid ef ym misoedd poethion yr haf, â'i lewys yn wlybion hyd at ei geseiliau, wedi bod yn pysgota o dan y cerrig mawr yn yr afon. Yn wir, llithrodd ei hunan i'r afon aml i dro wrth ymladd i ddal brithyll. Ar un o'r achlysuron hyn syrthiodd ar ei ben i ddŵr dwfn. Ond yr oedd y brithyll mawr, serch hynny, yn ddiogel yn ei law pan ymlusgodd allan o'r llyn.

Dichon mai dyma'r cyfle goreu i gydnabod nad oedd Gwilym yn hogyn mor dda bob amser ag y buasid yn dymuno iddo fod. Bachgen blysig, nwyd—wyllt, oedd wrth natur. Parai hyn ofid i'w dad a phryder i'w fam. Ond o'i iawn drin yr oedd llinynnau tyner odiaeth yng nghalon y bachgen. 'R oedd ei gariad at ei fam yn ddihareb. Pan ddigwyddai iddo ei digio byddai bron â thorri'i galon; a gwelid " ffrwythau addas i edifeirwch yn ei ymddygiad am ddyddiau lawer ar ol hyn.


PEN II.

PAN oedd Gwilym oddeutu pedair ar ddeg oed cynhaliwyd cymanfa ganu yng Ngherrig y Drudion—treflan gyfagos. Bu paratoi mawr ar ei chyfer yn yr holl ardaloedd cylchynol. Yn eu plith yr oedd ardal Glyn Myfyr. Dyma'r adeg y tynnwyd sylw'r wlad gyntaf at lais eithriadol Gwilym Glan Alwen. Nid oedd neb yn yr holl amgylchoedd yn meddu llais mor swynol ag ef. Y nesaf ato, fe ddichon, o ran melyster oedd eiddo Winnie Owen, Tŷ'n Y Ffordd (mae Tŷ'n Y Ffordd, ddarllenydd, yn taro ar Bedair A Dimai; ac os gwyddost ti am enw digrifach ar dyddyn yn rhywle na hyn, da di, gâd i mi gael gwybod). Pleser digymysg i'r arweinydd yng Nglyn Myfyr oedd paratoi'r côr gogyfer â chymanfa fawr Cerrig Y Drudion.

O'r diwedd, y dydd hir-ddisgwyliedig a ddaeth. Trefnid yng nghapel Tŷ'n Rhyd, lle y cynhelid y gymanfa, fod plant pob ardal i gael eistedd efo'i gilydd. 'R oedd gŵr o enwogrwydd nid bychan y dyddiau hynny wedi ei wahodd i arwain y gymanfa. Sylwodd hwnnw'n bur fuan, fel y gallesid disgwyl, fod yno lais neu ddau dan gamp yn y côr oedd yn y gongl bellaf ar y llaw dde. Ar ambell nodyn o bwys, lle'r oedd y geiriau a'r gerddoriaeth yn galw am amlygrwydd, codai'r gŵr enwog ei ddwy law fel arwydd i'r plant i ymlonyddu ar y nodyn hwnnw nes y byddai syniad eithaf yr awdur wedi'i sylweddoli. Ac ar ddiwedd ambell dôn fyddai wedi mynd yn dda, gwelid gwên foddhaus ar wyneb yr arweinydd. A dywedai'r gŵr gan bwyntio'n awgrymiadol at y gongl bellaf ar y ddehau iddo, "Da, 'mhlant i."

Y dôn olaf yng nghyfarfod yr hwyr oedd yr hen St. Peter, ar y geiriau, "O, sancteiddia f'enaid, Arglwydd." Cododd yr hwyl i'w huchafbwynt yn ystod y datganiad hwn. A phan ddeuthpwyd at y byrdwn,

N'âd fi grwydro,
N'âd fi grwydro,
Draw nac yma o fy lle.

bu rhaid ei ddyblu a'i dreblu. Nid oedd tân "diwygiad Richard Owen " wedi llwyr ddarfod o'r wlad, a chanwyd

N'âd fi grwydro,

o leiaf hanner dwsin o weithiau cyn ymadael. Mawr fu'r sôn am y gymanfa hon yn ystod yr wythnosau dilynol.

Er ei bod yn ymyl hanner nos pan gyrhaeddodd teulu Glan Alwen adre yr oedd Marged Parry ar ei thraed yn eu disgwyl; a chafodd dâl da am eu haros. 'R oedd Gwilym wedi'i lwyr lyncu gan y gymanfa. Adroddodd yr hanes gyda brwdfrydedd mawr wrth ei fam. Sylwodd hithau fod rhyw argraff rhyfedd wedi cael ei gynhyrchu arno'r diwrnod hwnnw. Gan fod plant Tŷ'n Y Ffordd wedi troi i mewn gwnaeth Marged Parry i Winnie a Gwilym ganu'r geiriau

N'âd fi grwydro, etc.,

yn union fel y canesid hwy yn y gymanfa, gan ddyblu a dyblu. A chafwyd ymron gymaint o hwyl ar aelwyd Glan Alwen ag a gawsid yn y gymanfa fawr yng Ngherrig Y Drudion. Erbyn y diwedd 'r oedd llygaid Marged Parry fel dwy ffynnon orlawn, a dagrau llawenydd yn llifo i lawr ei gruddiau.

Ebr hi, yn y man, "Wel, wyddoch chi be, 'r ydech chi'n canu'n dlws o'ch dau. Da, 'mhlant i," heb freuddwydio, drwy drugaredd, beth oedd yn aros un ohonynt.

Yn fuan ar ol hyn anfonwyd Gwilym at ewythr iddo oedd yn siopwr cefnog yn Lerpwl. Nid cynt yr oedd yno nag y tynnwyd sylw'r cantorion at ei lais rhagorol. Gwelid ei enw'n fuan iawn fel datgeiniad mewn cyngherddau Cymreig yn y ddinas; ac anfonai yntau'r newyddiadur adre er mwyn i'w fam gael gweld yr hanes. Mwyniant pennaf Marged Parry oedd darllen y paragraff drosodd a throsodd drachefn.

Hyd yma nid oedd y llanc wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol i wneuthur datgeiniad o radd uchel. Ond mawr glod i'r hen ewythr, fe roddes i Wilym bob rhwydd-hynt i ymberffeithio, a thalodd yn annisgwyliadwy o ddirwgnach am bob cost i sicrhau iddo'r diwylliant cerddorol goreu'n bosibl. Drwy hyn gosodwyd ef ar ben y llwybr—serth, mae'n wir; ond sicr, serch hynny, i bob perchen talent—sydd yn arwain i ben bryn enwogrwydd.

Er fod y newyddiadur a anfonid bob wythnos, ac yn amlach na hynny, i Lan Alwen, yn awr mewn iaith nas deallid o gwbl gan Marged Parry, fe ddarllenai hi bob gair o'r hanes yn ei ffordd ei hun. Ond y cwbl a ddeallid ganddi, a dweyd y gwir, oedd enw'r bachgen. A dyna lle byddai'n chwilio am enw Gwilym. A phan ddeuai o hyd iddo dywedai'n hyglyw ambell dro, Dyma fo." Ac ymhellach ymlaen dywedai wedyn, "Dyma fo . . . . Dyma fo . . . . Dyma fo eto!"

Tra y parhaodd Gwilym yn fachgen da, a thra y parhaodd ei fam i glywed oddi wrtho'n rheolaidd, 'r oedd llawenydd Marged Parry yn llifo dros yr ymylon. Ond (ac y mae'n resyn gorfod rhoi ond yn y fan yma) —Ond beth pe byddai i Wilym—ei hannwyl a'i hunig blent yn anghofio'i fam? Beth wedyn?

PEN. III.

NID oes angen hysbysu'r sawl a ŵyr am ddinas Llundain y gwneir aberth mawr gan y Cymry sy'n trigo yno i adeiladu addoldai Cymreig, a chadw'r drysau'n agored i'w cydwladwyr hoff a ddylifant yno o Gymru bob blwyddyn—bechgyn a genethod a fuasai'n mynd ar gyfeiliorn diadfer, rai ohonynt, oni buasai am gyfleusterau i addoli Duw yn iaith ac yn null eu tadau. Teithir milltiroedd lawer gan y Cymry ffyddlon hyn bob Saboth er mwyn cadw'r eglwysi Cymreig yn fyw ym mro'r estron. Ceir un o'r cysegroedd hyn yng nghymdogaeth Oxford Street. Bob nos Fawrth, haf a gaeaf, cynhelir yma gyfarfod yn dechreu am wyth. Cyfarfod gweddi un wythnos, a chyfeillach yr wythnos ddilynol. Noson y cyfarfod gweddi oedd yr un y cyfeirir ati'n awr. Nid oedd ond nifer bychan wedi dyfod ynghyd, ond nodweddid pob un o'r rhain gan ffyddlondeb mawr i achos y Meistr. Deg oedd eu rhif y noson hon—tri o frodyr a saith o chwiorydd, sef dwy wraig briod, pedair o chwiorydd ieuainc mewn gwasanaeth, a hospital nurse. Gwelir felly mai un digon cyffredin oedd y cyfarfod gweddi'n y capel bach. Eto'r oedd rhywbeth anghyffredin iawn yn y cwrdd. Clywid rhyw gryndod dieithr yn llais pob un o'r tri a gymerth ran.

Bachgen ieuanc oedd newydd ail ymuno â chrefydd oedd yr olaf o'r tri.

Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r lan,
'N enwedig dal fi lle 'r wy'n wan,

oedd ei emyn ef. A dyna wefr ryfedd aeth drwy'r ystafell fach, ddistaw, wrth ei glywed yn pwysleisio'r agwedd bersonol, "Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r lan." Yna aeth ar ei ddeulin; ac yn yr ymadroddion symlaf yn bosibl tywalltodd ei galon hyd y gwaelodion ger bron Duw. 'R oedd y dyfroedd wedi bod yn cronni'n raddol o ddechreu'r cyfarfod. Yn awr torrodd yr argaeau. Ni chymerth gweddi'r llanc ond rhyw bum munud ar ei heithaf. Ond O, bum munud! Yna hysbysodd yr hen flaenor annwyl oedd yn arwain fod y cyfarfod yn awr ar ben, os na charai un o'r chwiorydd roddi pennill allan i'w ganu cyn ymadael. Heb oedi dyma'r nurse ar ei thraed, ac mewn llais tlws, ac oslef dyner, lediodd yr hen bennill hwnnw—pennill a ganesid y nos Fawrth flaenorol, petasai waeth am hynny. Heno'r oedd blas newydd ar bopeth—

O, sancteiddia f'enaid, Arglwydd,
Ym mhob nwyd ac ym mhob dawn;
Rho egwyddor bur y nefoedd
Yn fy ysbryd llesg yn llawn;

a phan ddaeth at y byrdwn, methodd yn glir â myned ymlaen; ond llwyddodd ym mhen amser,

N'âd fi grwydro,
Draw nac yma o fy lle.

Ar ol ei ganu'n wresog, wresog, a'i ddyblu na wyddai neb pa sawl gwaith, aeth y cwmni bach a fuasai'n Nhŷ Dduw allan i'r heol brysur.

Ymddengys iddi fod yn glawio'n drwm iawn yn ystod y cyfarfod ("fe gawsid rhai defnynnau i lawr tu mewn hefyd"), ac yr oedd un neu ddau o ddieithriaid wedi bod yn llechu rhag y storm ym mhorth y capel bach; ac un ohonynt, fel y gwelwyd ar ol hynny, wedi bod yn gwrando â'i holl enaid ar ganu'r dôn ddiweddaf.

Fel 'r oedd y nurse ar ymadael, daeth hwnnw 'mlaen, a gofynnodd yn foesgar iddi yn Gymraeg,

Onid y chi ydi Miss Winnie Owen ?"

"Ie," ebe hithau; ac ar darawiad ychwanegodd, "O, Gwilym, y chi sy ma?"

"Ie, Winnie bach," meddai yntau, gan estyn ei law iddi. Ymaflodd hithau ynddi, a daliodd ei gafael yn hir mewn hunananghofrwydd. Yna mewn llais dwys, Gwilym, ma'n dda gen i'ch gweld chi. 'R oedd ych ffrindie i gyd wedi'ch colli chi es blynyddoedd. Welson ni ddim crybwylliad amdanoch chi yn y papure es nas gwn i pryd. Ble de chi wedi bod, Gwilym ?"

"Peidiwch â gofyn hynne, Winnie," ebr yntau. Edrychodd hithau'n awr ar ei wisg a'i wedd. Nid oedd y naill na'r llall o lawer yr hyn y dymunasai iddo fod.

"Sut y ma nhw yng Nglyn Myfyr?" gofynnodd yn y man, â'i lygad yn betrusgar arni.

"Digon symol, wir," ebr hithau, gan dremio arno drwy ddagrau erbyn hyn. "'R oedden nhw'n deyd yn y llythyr ges i heddiw'r bore ma digon cwla ydi'ch mam es tro byd. Ma hi'n crugo'n arw yn ych cylch chi, Gwilym. Ne felly ma pawb yn deyd."

Syrthiodd gwedd Gwilym. Ymhen munud neu ddau cafodd ddigon o reolaeth arno'i hun i ofyn, "Be ddeyde 'mam pe bawn i'n mynd adre fel rydw i i edrych amdani hi, Winnie?"

'R oedd clywed "Gwilym bach Glan Alwen" yn siarad amdano'i hun fel mab afradlon yn ei garpiau yn fwy nag y medrai " Winnie Tŷ'n Y Ffordd " ei ddal. Ond fel hospital nurse meddiannodd ei hun yn y man, a dywedodd, "Be ddeyde'ch mam, Gwilym? Wel, mi wyddoch be ddeyde hi, os medre hi i ddeyd o hefyd!"

Nos drannoeth, cyrhaeddodd Gwilym Parry aelwyd ei hen gartre ar lan afon Alwen.

Gormod o orchwyl i mi yw disgrifio'r tyner, tyner. Ymfodlonaf gan hynny ar dynnu gorchudd gwyn dros gyfarfyddiad Gwilym a'i fam. A digon yw dywedyd iddo dreulio wythnos wrth erchwyn ei gwely, yn sôn yn fynych am gariad ac edifeirwch, ac yn canu rhai o hoff emynau Marged Parry.

Dechreuodd ei fam wella o'r awr honno allan, a chafodd fyw am lawer o flynyddoedd ar ol hyn, a'r rheiny oll fel y blynyddoedd gynt pan oedd phïol ei llawenydd yn llawn.

Cyn hir aeth Gwilym yn ei ol i Lundain, a phrofodd ar unwaith ei fod yn ddyn sobr drachefn; ac yn un y gellid rhoddi'r ymddiriedaeth lwyraf ynddo i gadw ei gyhoeddiadau ym mhrif gyngherddau Llundain fel yn ei ddyddiau goreu. Cyn pen y flwyddyn yr oedd wedi dringo i binacl uwch o enwogrwydd na'r un y syrthiasai ohono. Dyma nodyn bychan o golofn gerddorol y TIMES i brofi ei adferiad:

We welcome Mr. Gwilym Parry's return and rejoice to find him in quite his best form. A feature of his recent performances has been an exquisite touch of pathos and fervour which greatly enhances the charm of his renditions.

Mae Nurse Owen wedi hen dorri'i chysylltiad â Guy's Hospital; ac os nad yw'r darllenydd yn ddigon craff i ddyfalu beth a ddaeth ohoni, wel, wir, nid arnaf i mae'r bai. I'w gynorthwyo gallaf ddweyd hyn—Pan yn canu, naill ai ym mro'i mebyd neu ynteu yng nghyngherddau Cymreig Llundain, gwell yw ganddi bob amser gael ei henw ar y rhaglen fel Nurse Winnie Owen nag ymfalchio fel Mrs. Gwilym Parry. Ac ymhlith tlodion tlotaf Llundain fe'i gwelir yn ddieithriad yng ngwisg syml yr ysbyty, a sonir amdani gydag anwyldeb bob amser ganddynt fel yr " Hospital Nurse."

Am Wilym Parry ei hun, gwn y bydd yn dda gan y darllenydd ddeall ei fod yn gwefreiddio cyngherddau mawr y brif ddinas gymaint ag erioed; ac yn fynych yn rhoddi'i wasanaeth uchelbris yn rhad i achosion teilwng; a bod ei gân, ynghyd â'i ddatganiad ohoni, bob amser yn sefyll am yr hyn sydd fwyaf pur a dyrchafol. A phe digwyddai i rywun sy'n darllen y nodiadau hyn fod mor ffodus a gweled gŵr bonheddig tal, golygus, rhadlon, yn pysgota ar hyd glannau afon Alwen ryw hirddydd haf, yn enwedig os clywai ef yn mwmian canu rhyw hen alaw Gymreig, gallai deimlo'n sicr nad oedd wedi cwrdd â neb llai na Gwilym Parry, y tenorydd bydenwog; a gallai fod yr un mor sicr fod prïod wen ei fynwes, "Winnie Tŷ'n Y Ffordd," heb fod ymhell.

YR HEN GWPWRDD TRIDARN.
PEN. I.

BYDD trigolion bro dawel Glyn Myfyr yn eu gwelâu lawer noson cyn i breswylwyr dinas Llundain orffen eu tê; a byddant ar eu traed fore trannoeth gyda bod segurwyr a segurwragedd y West End yn dechreu cael blas ar gysgu.

Ardal lonydd, fynyddig, ar gwr yr ucheldir a elwir Mynydd Hiraethog yw Glyn Myfyr. Mae hi mor bell o gyrraedd y trên fel mai ar dro siawns—ar ryw noson dawel—yn unig y clywir ei chwiban o bell. Erbyn heddyw mae cerbydau'r modur wedi cylymu pentrefi'r wlad wrth ei gilydd yn rhyfeddol. Ond yn y cyfnod y cyfeirir ato yn y brith atgofion hyn nid oedd sôn am ddim o'r fath. Yr adeg honno eid ar deithiau hirfaith ar ddeudroed, neu fel y dywedid mewn ysmaldod, mynd i'r fan ar fan "efo trên dau." A phwy allai gyfrif pris y glo dan amgylchiadau felly, pan gymerid diwrnod cyfan efo gwedd driphen i gludo llwyth bychan o'r dre agosaf? Bendith fawr i ardaloedd fel hyn yw bod mawndir wrth law; a gwneir defnydd helaeth iawn o hwnnw. Dau gynhaeaf sydd yn Nyffryn Clwyd, er enghraifft; ond yng Nglyn Myfyr mae tri—cynhaeaf gwair, cynhaeaf yd, a chynhaeaf mawn. Ac nid yw mor syn, erbyn meddwl, i Wil Tŷ'n Y Mynydd, ar ei weddi ddydd diolch am y cynhaeaf grybwyll am y mawn wrth y Brenin Mawr.

Ces y fraint pan oeddwn hogyn o fod unwaith yn y Sasiwn ar Green y Bala. Gan fod y tair milltir ar ddeg i fynd a'r tair ar ddeg yn ol braidd yn fwy nag yr arferem ei gerdded, trefnwyd bod nifer ohonom —breswylwyr yr ardal—i gael ein cludo'n ol a blaen mewn gwagen fferm drom yn cael ei thynnu gan ddau geffyl gwedd. Cofiaf y Green heddyw'n dda, a'r dorf fawr astud; ond mae'r pregethau i gyd wedi dianc, ond un; a dim ond un sylw o honno sy'n aros. Eisteddwn o fewn hyd braich ymron i'r pulpud a godasid ar y maes. Ond yr oeddwn yn union y tu ol iddo. A chan ei fod wedi ei fyrddio i mewn ar dair ochr ni chefais olwg o gwbl ar y pregethwr y tro hwnnw. Er mai hogyn gwlad oeddwn clywswn lawer o sôn am Owen Thomas, Lerpwl. Yn y blynyddoedd hyn yr oedd yn ei anterth. Fel y cofir, gellid rhannu llawer o'i bregethau i ddwy ran—yr esboniadol, yr hyn a wnai mor ddihafal, a'r ymddiddanol. Ac y mae'n rhaid mai tua diwedd ei bregeth y gwnaeth y sylw sy wedi glynu. Yr amser oedd min yr hwyr ar hirddydd haf, tawel. Gwrandewch arno gyda'i lais clochaidd, treiddgar, yn yn pwysleisio'r gair "honni."

Mae Iesu Grist yn honni—ydi mae O'n honni—bod yn Waredwr, 'mhobol i. Ma gen i isio i chi sy'n sefyll o dan y coed ene fy nghlywed i:—Mae'r lesu'n honni—YN HONNI—bod yn Waredwr. 'R wyt tithe yma heddiw, ynd wyt ti, John? Wel, ma gen i awdurdod i ddeyd wrtha ti yn Sasiwn y Bala, er dy fod di'n fachgen drwg yn amal, fod yr Iesu'n honni bod yn Waredwr i tithe, 'machgen i."

Y cof nesaf sy gennyf yw bod yn un o nifer fawr yn y wagen ar y ffordd adre, a'r ddau hen geffyl gwedd efo'u bacsiau blewog mawr yn ymlwybro'n araf ar hyd y ffordd garegog. Erbyn ei bod hi rhwng hanner ac un 'r oedd amryw ohonom yn mynych bendwmpian yn y wagen. Cyraeddasom Gerrig Y Drudion o'r diwedd. Ond yr oedd gennym ryw dair neu bedair milltir i'w cerdded wedyn, a'r rheiny hyd lwybrau anodd eu dilyn, drwy ffosydd a phyllau mawnogydd. Beth bynnag, cyraeddasom adre o Sasiwn y Bala 187— ychydig cyn i'r wawr dorri. Dyna sut y teithiem yng Nglyn Myfyr es talwm.

Ac nid diffyg cyfleusterau teithiol oedd ein hunig helbul. Un arall o'n hanfanteision mawr fel ardal oedd absenoldeb trefniant priodol i ddosbarthu'r llythyrau a ddeuai i'r gymdogaeth.

Gwraig oedd y postman (os goddefir y gwrthddywediad) yng Nglyn Myfyr y dyddiau hynny; Elliw Williams wrth ei henw. Cychwynnai Elliw'n fore—ymhell cyn dydd yn y gaeaf—i Gerrig y Drudion i gyfarfod y "Mêl bach," a dychwelai tua deg ar yr amser, ar ol cerdded rhyw bum milltir (dywedwyd "ar yr amser" am fod clociau'r ardal i gyd tua thri chwarter awr yn ffast; a pho'r uchaf yr eid i'r mynydd-dir ffastia'i gyd oedd y clociau).

Gadawai Elliw'r llythyrau yn y Siop oddieithr llythyrau'r Person. Gorfodid hi i drampio milltir arall ar bob tywydd i dŷ'r gŵr hwnnw i drosglwyddo'i lythyrau ef heb iddo orfod croesi'r rhiniog. Nid grwgnach yr wyf yn erbyn y trefniant i'r gŵr parchedig gael ei lythyrau wrth ei ddrws, oblegid 'r oedd Elis Wyn o Wyrfai'n un o'r dynion hyfwynaf, heblaw bod yn un o feirdd gloewaf ei gyfnod. A byth er rhyw fore yn Awst 1868 pan ysgydwodd ef law i groesawu rhyw grwtyn bach i ysgol ddyddiol Llanfihangel Glyn Myfyr am y waith gyntaf erioed y mae fy mharch iddo, ac i'w goffadwriaeth, wedi bod yn fawr. Yn unig gofyn yr wyf pa gysondeb oedd ei fod ef yn cael ei lythyrau wrth y drws pryd nad oedd ei gymdogion yn cael yr eiddynt hwy.

Llawer gwaith y gwelais Elliw Williams yn ymlwybro'n flinedig o'r Persondy tuag adre, wedi teithio milltiroedd meithion er pan gychwynasai'n y bore gyda'i bag lledr dros ei hysgwydd. Digwyddais fod wrth y Persondy un bore pan gyrhaeddodd "Elliw'r Post." Curodd yn drwm ar ddrws y tŷ fel un â'i hamser yn brin, ac heb y duedd leiaf ynddi at unrhyw lol. Atebwyd y bore hwnnw gan y forwyn newydd. "Oh, thank you, Mrs. Williams," ebr hi'n rhodresgar; ac ychwanegodd, "I see you have dirtied your boots this morning, Mrs. Williams. The roads must be damp, I suppose."

Prin y gallai Elliw ei deall, ac yr oedd yn gwbl analluog i'w hateb. Troes ar ei sawdl, a chan frasgamu tuag adre drwy ganol y llaid, dywedodd, yn fwy wrthi'i hunan nag wrthyf i, "Y ditw bach; fase fawr iddi ddwad cyn belled â'r Siop erbyn deg bob bore i arbed
Elliw wrth dŷ'r Person.

rhyw fymryn arna i. Ond be ddeydodd hi am "damp," dywed? Budron fase'i 'sgidie lastic hithe hefyd, myn dyn i, pe base hi wedi cerdded y ffor y bum i heddiw. Damp tan draed, wir; allswn i feddwl i bod hi!" Toc wedi tri bob dydd gwelid Elliw'n ail wisgo'i chôt ucha i fynd â llythyrau Glyn Myfyr i Gerrig Y Drudion i gyfarfod y "Mêl bach" am Gorwen. Ac hyd yn oed ar ol cyflwyno'r rheiny drosodd yng Ngherrig Y Drudion 'r oedd ganddi i gerdded yn ol, a hynny yn fynych drwy eira hyd at ben ei glin; brydiau eraill drwy lawogydd mawrion dros un o'r trumiau moelaf a mwyaf digysgod y gwn amdanynt. Nid am ryw fis neu ddau y gwnaeth hi hyn, ond am yn dyn at ddeugain mlynedd, a hynny ar bob math ar dywydd ymron. Yn wir, 'r oedd yn ddywediad yn yr ardal pan fyddai hi'n rhyw heth fwy enbyd na'i gilydd, Ma hi'n ormod o dywydd heddiw i Elliw fynd i gwarfod y "Mêl bach."

Bu agos i mi gael fy llithio i ddweyd iddi wneuthur yr hir galedwaith hwn am ddim. Na, i fod yn fanwl, derbyniai Elliw Williams, yn ol y peth glywais, y swm o swllt y dydd!

Gwelir felly mai prin y gellir dweyd mai ar Elliw 'r oedd y bai nad oedd y llythyrau'n cael eu dosbarthu, ond eu bod yn cael eu gadael yn y Siop i gymryd eu siawns.

Coffa da am Elliw'r Post. Tyfed blodau ei bro'n ddiwarafun ar ei bedd. Hi gerddodd yn agos i 100,000 o filltiroedd yng ngwasanaeth ei gwlad. Haedda orffwys bellach, os haeddodd neb erioed.

PEN. II.

CYN mynd ymlaen i sôn am gymeriadau eraill oedd yn byw yng Nglyn Myfyr yn y dyddiau hynny, fe ddichon na byddai unrhyw niwed mewn cyfeirio at un peth dipyn yn chwerthinllyd a ddigwyddodd yn hanes Elliw Williams. Erbyn hyn 'r oedd hi wedi cyrraedd oedran teg; ac nid oedd ei chynheddfau mor nwyfus a chwim ag yr arferent fod. Nid oes crybwyll wedi cael ei wneuthur—a oes?—fod i Elliw Williams ŵr, sef, John Williams; John y gwŷdd, fel y'i gelwid. Clywais iddo fod yn wehydd da, a diwyd, yn ei ddydd. Ond nid oes gennyf i gof ei weled yn gwneud dim erioed oddigerth smocio. Smociai'n galed ryfeddol. Euthum lawer tro at ddrws y tŷ bychan y preswyliai Elliw ac yntau ynddo, a thybiwn ar yr olwg gyntaf nad oedd neb i mewn. Ond ar ol oedi nes cynefino â'r awyrgylch, gwelwn John Williams drwy dawch y colofnau mwg yn croeslegsio'n hapus ar y setl. Ni wn i mi gwrdd â neb, cynt nac wedyn, yn gallu cynhyrchu cymaint o fwg â John y gwŷdd. Wrth daflu 'ngolwg yn ol ar draws y blynyddoedd, y mae dau ofyniad yn cynnig eu hunain imi—Oni ddylasai hen ŵr oedd yn gallu ysmygu mor nerthol fod yn abl i wneud o leiaf beth gwaith, wrth ei bwysau, fel y dywedir? Neu a oedd rhyw berthynas hanfodol rhwng ei fod yn ysmygu mor enbyd a'r ffaith ei fod yn rhy wantan i weithio?

Os oedd ambell gymydog yn amheus a oedd John lawn mor fusgrell ag y dywedid ei fod, yr oedd Elliw yn driw fel dur iddo. Ei hateb bob amser i ymholiad yr ardalwyr, "Sut ma nhw acw heddiw, Elliw Williams?" oedd, "Symol iawn ydi John—heddiw eto." Clywais yr atebiad ugeiniau o weithiau. A dweyd y gwir, 'r oedd ei hateb wedi mynd yn beth hollol ystrydebol ganddi; a dywedai ef yn fynych, mi gredaf, heb ystyried o gwbl i ba raddau'r oedd yn wir.

Un diwrnod ffair yng Ngherrig y Drudion, fel yr oedd yr hen greadures yn troi tuag adre yr eildro, torrodd William Tal Y Fan ati'n sydyn, a gofynnodd iddi yn un o'r ffitiau direidi hynny fyddai'n dod drosto, Sut ma John Williams acw'r dyddie yma, Elliw Williams?" "O, symol iawn ydi John druan, heddiw eto," oedd ei hateb parod, pryd yr oedd John y gwŷdd yn ei fedd ers blynyddoedd!

Fel yr awgrymwyd gadawai Elliw y llythyrau bob bore yn y Siop i aros i'w perchenogion alw amdanynt. Cedwid y Siop yn y cyfnod hwn gan Cadwaladr Ellis —gŵr o athrylith, ac yn ddiwinydd tan gamp. Ond fel 'r oedd gwaetha'r modd arweiniwyd ef gan ei ffawd, nid i gadair yr athro, ond i geisio cadw "siop bach pob peth," at yr hyn orchwyl nid oedd ganddo na thuedd na thalent. Beth feddyliai siopwyr taer y dyddiau hyn—pobl nad yw'n ormod trafferth ganddynt droi ei siop tu chwith allan os gwelant obaith i'r cwsmer brynu rhywbeth a ddwg fymryn o elw iddynt hwy—Beth feddyliai'r cyfryw o ymddiddan fel hyn a fu lawer tro rhwng Cadwaladr Ellis a minnau yn nyddiau fy machgendod

"Cnegwerth o fferins, 'sgwelwch chi'n dda, Dwalad Ellis."

"A, dyn!" 'R oedd hwn yn air mynych ganddo, a chlywais rai o'i gyfeillion mewn oslef o anwyldeb yn cyfeirio ato fel "Yr hen A, dyn." Beth bynnag am hynny, dyma'i atebiad i'm cais am geiniogwerth o dda-da—" A, dyn! Be sy ar y bachgen? Ma dimeuwerth o fferins yn hen ddigon i ti ar unweth."

Pob canol dydd byddem ni, blant yr ysgol, yn tyrru i'r Siop i ofyn a oedd yno lythyrau wedi dod i ni efo'r post. Neu os byddai yno lythyr i'r fferm agosaf atom, cynhygiem eu cymryd. Dyna'r fel y'u dosberthid rywlun yn yr ardal. 'R oedd sicrwydd gweddol y cyrhaeddai'r llythyr ben ei siwrnai rywdro cyn amser swper os byddai plentyn o'r tŷ hwnnw'n mynychu'r ysgol; a chaniatâu, wrth gwrs, na chollid mohono ar y ffordd wrth chwarae. Ond am y tai lle nad oedd plant ysgol, nid oedd sicrwydd o gwbl pa bryd y derbynient hwy eu llythyrau Sul dilynol efallai.

Yn amser cynhaeaf, pan fyddai pawb yn rhy brysur i feddwl colli darn diwrnod i fynd i'r Siop, a phan fyddai'r ysgol wedi'i thorri i fyny, a'r plant gartre'n cribinio, byddai llythyrau'r ardal yn bentwr yn y Siop am ddyddiau lawer. Ond gynted ag yr ail agorid yr ysgol dyna'r lle y byddem bob canol dydd yn haid yn y Siop drachefn.

"Oes ma lythyr i ni heddiw, Dwalad Ellis?" ebe un

"Ma nhad wedi peri i mi fod yn siŵr o ofyn i chi oes ma lythyr iddo fo heddiw, Dwalad Ellis," ebe'r llall.

"A, dyn! be sydd ar y bachgen; ond tydi dy frawd wedi bod yma'n gofyn rŵan jest."

Rhaid i mi'n awr wneuthur cyfaddefiad i mi fod â llaw fechan yn un o'r troeon mwyaf iselwael a ddi-gwyddodd yng Nglyn Myfyr erioed. Bechan bach oedd Siop Cadwaladr Ellis. Ac erbyn y rhoddid dau bwn o flawd, baril o baraffin, casgen o siwgwr, a chydaid o gurrants, heb sôn am ddegau o bethau llai, yn ychwanegol at ddwsin o blant iach y wlad, mewn lle bychan felly, ni ryfedda neb, mi wn, pan ddywedaf y byddai'r Siop yn llawn hyd at y drws bob amser cinio, ac nad oedd yn ddichonadwy i'r siopwr o'r fan lle y safai tu ol i'r counter weled beth oedd yn myned ymlaen yn y gongl bellaf. Yn awr, ar fy ngwir, ni wn pa un ohonom stwffiodd ei fys y tro cyntaf oll i dorri twll tu cefn i'r sach gurrants. Ond cofiaf yn dda fel yr aeth y si ar led fel tân gwyllt fod llond llaw o gurrants i'w gael i'r sawl elai yn y fintai fawr bob canol dydd i'r Siop. Ond wrth i ni barhau i faweidio i grombil y sach, dechreuodd honno o'r diwedd ddangos olion y lladrad. Syrthiodd llygad ei pherchennog ar ei hystum; gwnaeth ymchwiliad i'r achos o'i hanallu i sefyll yn gefnsyth fel cynt; a chanfu'r rheswm. Diau gennyf i'n hymddygiad annheilwng archolli ei fron yn fwy na'r ymdeimlad o'r golled bersonol a gawsai. Ymddengys iddo ddyfod i'r casgliad mai ei ddyletswydd oedd gweinyddu'r gosb â'i law ei hun.

Dododd ei wialen fesur mewn man cyfleus erbyn y buasai ei heisiau. Daeth canol dydd. Daeth plant yr ysgol yn llu mawr fel arfer. Llithrodd yntau allan drwy ddrws arall â'i wialen yn ei law, a daliodd hwynt o'r tu ol. 'R oedd lladrad yn eu dwylo, ac euogrwydd lond eu calon. Rhoddodd gweir arswydus iddynt, heb fod yr un ohonynt yn teimlo ei fod yn cael gronyn mwy na'i haeddiant. Fel y digwyddodd hi, nid oeddwn i yno y bore hwnnw. Fy ngholled i'n ddiau oedd hynny.

PEN. III.

MAE pob Cymro sy â'i wallt wedi gwynnu tipyn yn cofio y byddai ymhob ardal yn yr Henwlad ddyddiau fu saer a gof, crydd a theiliwr. Ein teiliwr ni yng Nglyn Myfyr oedd Eben Jones. Ac eto nid ni oedd pïau fo 'chwaith. Teiliwr benthyg ydoedd. Perthynai i ardal arall. Deuai ef a'i fab atom am dymor, a lletyent yn Nhŷ'r Capel. Gwelid Eben yn ei fan goreu pan fyddai mewn dadl. Ymresymai'n gadarn a gwresog. Ar ol y cyfarfod canu neu'r cyfarfod darllen elai twrr o'i gyfeillion gydag Eben Jones i'w lety, ac ail agorid un o'r dadleuon. Erys yr hen air yn wir mewn llawer cylch mai hawdd yw cynneu tân ar hen aelwyd. Nid cynt y crybwyllid pwnc y ddadl nad oedd mor eiriasboeth ag y bu o gwbl. 'R oedd gan Eben ryw lwmp rhyfedd ar ei dalcen. Byddai weithiau'n fychan, bryd arall yn fawr. Hawdd bob amser oedd mesur poethder dadl oddiwrth faint y lwmp. A mae hyn yn dwyn hanesyn bach i'm cof. Ymddengys bod gan Eben Jones, fel y mae gan bawb, ryw fan gwan; chyfeiriwyd at ei "fan gwan un tro yng nghlyw bachgen bach Tŷ'r Capel. Drannoeth, sylwodd y crwt wrth ei fam yn ddiniwed, "Ynd oedd gwan' Eben Jones yn fawr neithiwr, 'mam?"

"I'fan gwan' o?" Be wy ti'n feddwl, dywed?" ebr hithau.

'Ond y lwmp coch sydd ar i dalcen o yn te?" oedd ateb y bach.

Ychydig o hwyl a gai Eben un amser os na chai sefyll wrth ddadleu. Os yn eistedd y digwyddai fod pan ddechreuai'r ornest ddadleuol, codai'n ebrwydd ar ei draed, ac wynebai'r siaradwr, pwy bynnag ddigwyddai hwnnw fod ar yr eiliad. Gosodai'i fraich chwith i orffwys ar draws ei feingefn, a defnyddiai'r dde weithiau i bwynto bys i helpu'r ymresymiad, dro arall caeai ei ddwrn ar ei wrthwynebydd; nid gyda'r bwriad o'i daro, bid siŵr, ond fel alegori mai sylw tarawgar ydoedd yr olaf a wneithid ganddo.

Yr oedd yn Nhŷ'r Capel, fel y cofiaf yn dda, setl wrth ochr y tân, a bwrdd derw cadarn wedi'i osod o'i blaen. A dyna ddifyrrwch a gai'r cwmni pan lwyddid drwy gyd-ddealltwriaeth i osod Eben i eistedd ar y setl wrth y pared gyferbyn â phen pella'r bwrdd derw. Pan boethai'r ddadl, ac y deuai chwant ateb at Eben, rhuthrai i geisio codi. Ond gan ei fod yn dra chorffol, a'r bwrdd derw'n agos ato, methai'n glir faes ag ymunioni, a syrthiai'n ol ar y setl. Cymerai hyn le lawer gwaith yn olynol, a phawb yn chwerthin yn iachus wrth weled yr ymresymwr cryf a'r ysgrythyrwr cadarn wedi'i gornelu—o leiaf, mewn un ystyr.

Rhyw noson enbyd ym mis Ionawr yr oedd ffermwr yn croesi un o drumiau Hiraethog ar gefn ei ferlyn. 'R oedd haenen drwchus o eira claer ar y mynydd ers wythnos; a'r prynhawn hwnnw deuthai ail ystorm. Prin iawn y gallai'r teithiwr gadw'i lygaid yn agored gan faint yr odi-lluwch. Teithiai'n ochelgar rhag colli'i lwybr ar y mynydd agored. Yn sydyn tybiodd ei fod yn clywed llef wan o bell. Ymhen ennyd daeth y llef egwan eilwaith. Gwyddai'r gŵr yn dda am bob sŵn arferol ar Fynydd Hiraethog yn Ionawr. Adwaenai glebar ieir y mynydd, efo'u obe, obe, obe; adwaenai frefiadau'r defaid o nodyn ucha'r oenig hyd at islef y famog hynaf. 'R oedd cri'r gylfinhir, a pi-wit y gornchwigl yn gwbl hysbys iddo. Ond nid yr un o'r rhain a darawai ar ei glust yn awr. Disgynnodd oddiar gefn y merlyn; a chan grwcwd yn ymyl Prince, yr ochr bellaf oddiwrth y gwynt, clustfeiniodd, a dyna'r "llef ddistaw fain" fel o'r blaen. Ar hyn dododd y marchog ddau fys un llaw, ac un bys y llall yn ei safn a chwibanodd, y modd y gall bugail wneud; ac er ei syndod atebodd y llef o rywle yng nghanol y mynydd diarffordd. Gadawodd y marchog ei lwybr a'i neges, a dechreuodd dywys ei farch yn ofalus odiaeth, oblegid pwy wyddai'n well nag ef fod pyllau mawnogydd dyfnion a chorsydd siglenog yn gorwedd yn llechwraidd o dan yr eira gwyn oedd o'i ddeutu? Drwy chwiban ac ateb, cyrhaeddodd o'r diwedd at y fan. Yn yr eira dwfn gwelai ddau ddyn mewn cyflwr adfydus—Eben Jones a'i fab. Cychwynasent o Lyn Myfyr yn gynnar ar y dydd byr, â'u hwynebau tua'u cartre dros y mynydd moel; ond collasent eu ffordd yn llwyr, a cherddasent o gors i gors yn ddiamcan am oriau meithion. Diffygiasai'r llanc, a chariesid ef gan ei dad nes llwyr fethu ohono yntau. Mewn anobaith gweiddasai'n hir am ymwared, a thrwy drugaredd deuthai'r llef i glustiau'r teithiwr. Heb ymdroi gosodwyd y llanc ar gefn yr anifail, a cherddodd y perchennog un ochr i'r merlyn a'r tad yr ochr arall i gadw'r gŵr ifanc rhag cwympo. Dyna'r modd y deuthant o gam i gam i'r ffermdy y cychwynasai'r marchog ohono deirawr cyn hynny. Daeth cynhesrwydd ac ymgeledd ag ymwybyddiaeth yn ol i'r llanc.

Bore drannoeth, gyda'r wawr, gwelid y ffermwr a'i holl dylwyth yn prysur gario ymborth i'r defaid druain oedd ar wasgar hyd lechweddau'r mynydd-dir. Ond y mwyaf ewyllysgar ohonynt oll, a'r mwyaf awyddus i gario'r baich trymaf at y ddiadell bellaf oedd Eben Jones, y teiliwr.

Parhaodd ein hen gyfaill i dalu ymweliadau cyfnodol â'n hardal am flynyddoedd lawer ar ol hyn. Ambell wythnos gweithiai'n Nhŷ'r Capel, brydiau eraill yn yr amaethdai cylchynol. Ond byth ar ol noson enbyd yr odi-lluwch a'r gors anobaith gofalai beidio â mentro'r mynydd ar dywydd mawr; a rhybuddiai eraill i gadw draw am eu bywyd. Sylwais hefyd y byddai'r lwmp ar ei dalcen yn fwy bob amser pan sonid am golli ffordd ar fynydd nag ar unrhyw adeg arall.

Rhai blynyddoedd ar ol y digwyddiad uchod pan ar ymweliad â'n hardal, daeth cais ato i fyned i deilwra mewn ffermdy bychan na buasai'n gweithio ynddo o'r blaen. Pan gyrhaeddodd y tŷ cafodd Lowri Wyn yn llawn ffwdan. Gwir nad oedd teiliwr wedi bod yn aros yn ei thŷ erioed o'r blaen; ac y mae'n syn, dyweder a fynner, fel mae mymryn bach, bach, o ddyrchafiad bydol yn codi i ben ambell ohonom.

Ond nid balchter yn unig oedd yn cyfrif am gyffro Lowri Wyn. Cyn gynted ag yr aethpwyd drwy'r seremoni arferol o holi ynghylch iechyd y naill a'r llall, ac o ladd ar y tywydd, dyma Lowri'n estyn hen lythyr llychlyd i Eben. Ond cyn gollwng ei gafael ynddo aeth ymlaen i egluro.

"Ddoe dweutha'n y byd," ebr hi, "pan oedden ni'n symud yr hen gwpwr tridarn ma i chwilio am rwbeth ne'i gilydd, be welen ni ond dau lythyr ynghanol y llwch a'r llanast, wedi mynd o'r golwg na ŵyr neb sut. Rhaid i bod nhw ono es blynyddoedd. A phan ges i gen yr eneth ma i ddarllen y drecsiwn oedd arnyn nhw mi ddalltes mai y chi oedd pïa un, a gŵr y Ffor Las y llall. Dalla i ddim dirnad sut yr aethon nhw i'r fan lle cafwyd nhw. Hwrach ma'r plant pan oedden nhw yn arfer mynd i'r ysgol es talwm ddoth â nhw o'r Siop gan feddwl mynd â nhw i'r Ffor Las gyda'r nos, ond i'r llythyrau lithro tu nol i'r hen gwpwr a mynd yn ango.

Beth bynnag am hynny, dyma'ch llythyr chi, Eben Jones."

Edrychodd Eben arno'n hir, gan ei droi a'i drosi, fel pe buasai hynny'n rhyw help. 'R oedd olion henaint mawr arno. Dyma beth oedd ar yr amlen:—

i Eben Jones
y teiliwr
yn ffor las.

ac wele gynnwys y llythyr a fuasai ar goll am bum mlynedd:—

Ma robin catrin Robets tan rallt yn mynd i'w briodi bythefnos i foru ac ma gyno fo isio i chi neud dillad priodas iddo fo mi ddeudes i y gyrwn i air ato chi ac mi pyrswadies o ma chwi oedd y teiliwr y galle fo ddipendio mwya arno fo o bawb dwaenwn i felly mi rydw i'n gadel arno chi i beidio â siomi'r llanc beth bynnag newch chi ma Elliw'n methu'n glir â dallt o ble rydw i'n cael baco ar y slei o hud diolch yn fawr i chi eben Bach am gofiom dana i ar hud y blynyddoedd ran peth Ofnadwy ydi bod heb baco.

reiddoch yn adfer
John Wiliams cofiwch chi beidio â siomi robin eben.

Darllenodd y teiliwr y llythyr mewn syndod fwy nag unwaith. Weithiau deuai tonnau o hiraeth drosto wrth gofio'i hen gydymaith diddan John y gwŷdd, yr hwn oedd yn ei fedd ers rhai blynyddoedd bellach. Pryd arall deuai rhuthr o chwerthin ato wrth feddwl am drybini Robin Tan 'Rallt wrth weled dydd ei briodas yn neshâu a'r teiliwr yn cadw draw. Yng ngoleuni'r llythyr hwn gwelai'n hollol glir paham 'r oedd Robin wedi bod mor sych wrtho ers hydoedd maith, a phrysurodd y cyfle cyntaf a gafodd i egluro'r anffawd iddo, a bu'r ddau yn glos iawn byth ar ol hynny.

Cyfeiriwyd nad llythyr Eben Jones oedd yr unig un fu ar goll tu ol i'r hen gwpwrdd tridarn. Fel y bu gwaetha'r modd 'r oedd llythyr gŵr Y Ffordd Las yn ymwneud â materion pwysicach hyd yn oed na dillad priodas Robin Catrin Roberts. Achosodd hwn anhwylustod mawr, a cholled. Yn y diwedd aed â'r achos i lys y wlad. Yno tystiodd Cadwaladr Ellis i'r hen wreigan onest a gofalus, Elliw Williams y Post, drosglwyddo'r llythyr iddo ef, ac iddo yntau, hyd eithaf ei gof, ei ymddiried i un o blant yr ysgol yn ol arfer y wlad. Derbyniwyd y dystiolaeth, a datganodd y llys na fu dim diofalwch bwriadol ar ran neb, ac mai ar y drefn yn unig yr oedd y bai. Newidiwyd y drefn " ymhen ychydig o wythnosau ar ol hynny. Ac wrth weled y llythyrau'n cael eu dosbarthu'n swyddogol o dŷ i dŷ pan fyddaf yno ar fy ngwyliau teimlaf bob amser mor ddyledus yw trigolion y fro i Hen Gwpwrdd Tridarn Lowri Wyn.



Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.