Dy babell Di, mor hyfryd yw
| ← Ti, O! Dduw, y gweddai mawl | Dy babell Di, mor hyfryd yw gan Edmwnd Prys |
Moliannu'r Arglwydd, da iawn yw → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
325[1] SALM LXXXIV. 1-5, 7, 10, 12.
M.S.
1 DY babell Di, mor hyfryd yw,
O! Arglwydd byw y lluoedd;
Mynych chwenychais weled hon,
Rhag mor dra thirion ydoedd.
2 Mae f'enaid i, fy Iôn, mewn blys,
I'th gysegr lys dueddu;
Fy nghalon i, a'm cnawd sy yn Nuw,
Yn Nuw byw'n gorfoleddu.
3 Aderyn to a gafodd dŷ,
A'r wennol fry i'w chywion
Le wrth dy allor Di i'w trin,
Fy Nuw a'm Brenin tirion.
4 O! gwyn ei fyd a drig i'th dŷ,
Caiff dy foliannu ddigon;
Ac ynot sy'n ymgadarnhau,
A'th lwybrau yn ei galon.
5 Ânt rhagddynt bawb o nerth i nerth,
Nes cael yn brydferth ddyfod
At Dduw i 'mddangos ger ei fron,
Yn Seion, ei breswylfod.
6 Gwell yw na mil un dydd i'th dŷ.
Am hynny mwy dewisol
Im fod ar riniog y drws tau,
Na phlasau yr annuwiol.
7 O! Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
Anfon i lawr dy gymod;
Dedwydd yw'r dyn a roddo'i gred
A'i holl ymddiried ynod.
—Edmwnd Prys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 325, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930