Neidio i'r cynnwys

Dy nerthol air, Iôn, oddi fry

Oddi ar Wicidestun
← Fy lloches glyd, a'm tarian gref Dy nerthol air, Iôn, oddi fry

gan Richard Jones o'r Wern

Mae yn y gair oleuni glân →
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

277[1] Cysuron y Gair.
8M. S.

1 DY nerthol air, Iôn, oddi fry,
A bery yn oes oesoedd;
Tydi sydd wedi cadarnhau
Dy eiriau yn y nefoedd.

2 Mor werthfawr yw dy air a'i rin
Mewn cystudd blin a chroesau;
Fe droir wylofain trist yn gân
Ar lwybyr glân dy ddeddfau.

3 Gobeithiaf yn y gair o hyd
Yng nghanol byd o ddychryn;
Mae'n gysgod rhag y gwynt a'r gwres,
Mae'n lloches rhag y gelyn.

Richard Jones y Wern, Llanfrothen



Ffynhonnell

[golygu]
  1. ↑ Emyn rhif 277, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930