Dychweledigion (Ibsen)/Yr Ail Act
| ← Yr Act Gyntaf | Dychweledigion (Ibsen) gan Henrik Ibsen wedi'i gyfieithu gan Thomas Gwynn Jones |
Y Drydedd Act → |
YR AIL ACT.
YR UN YSTAFELL.
Gorwedd y niwl o hyd dros y tir. Daw Manders y Gweinidog a Meistres Alving drwodd o'r ystafell fwyta.
MEISTRES ALVING (eto yn y drws): Gobeithio'ch bod chwi wedi gwneud pryd da, syr. (Gan edrych i mewn i'r ystafell fwyta.) Oni ddeui dithau, Oswald?
OSWALD (oddi mewn): Na ddof, diolch; mi af allan am ychydig.
MEISTRES ALVING: Ie, dos; y mae'r glaw wedi peidio yn awr. (Gan gau drws yr ystafell fwyta, mynd at ddrws y cyntedd, a galw): Regine!
REGINE (oddiallan): Ie, ma'm?
MEISTRES ALVING: Gwell i ti fynd i roi help gyda gwneud y pwysïau blodau 'n barod erbyn yfory.
REGINE: O'r goreu, ma'm, mi af.
MEISTRES ALVING (gan sylwi fod Regine yn mynd, yna yn cau'r drws).
MANDERS: Ni all ef ein clywed oddi yma?
MEISTRES ALVING: Na all, a'r drws yma wedi ei gau. Heblaw hynny, y mae yn mynd am dro.
MANDERS: Yr wyf wedi dychrynu. Ni wn i ddim sut y gellais gyffwrdd â thamaid o fwyd.
MEISTRES ALVING (gan geisio meistroli ei chyffro, a cherdded yn ol a blaen): Fedraf innau ddim amgyffred. Pa beth a wnawn?
MANDERS: Ie, pa beth a wnawn? Ni wn i, ar fy ngwir; mewn pethau o'r fath, yr wyf fi yn hollol ddibrofiad.
MEISTRES ALVING: Yr wyf yn hyderu, hyd yma, o leiaf, nad oes dim anffodus wedi digwydd.
MANDERS: Ie, y nefoedd a rwystro hynny! Ond mater difrifol ydyw sut bynnag.
MEISTRES ALVING: Rhyw wendid sydyn ar ran Oswald yw'r cwbl, gellwch fod yn sicr.
MANDERS: Ie, fel y dywedais, nid wyf i yn deall pethau fel hyn; ond ymddengys i mi fod yn rhaid
MEISTRES ALVING: Rhaid iddi fyned ymaith o'r tŷ hwn. A hynny rhag blaen. Y mae hynny yn gwbl eglur.
MANDERS: Ydyw, y mae felly.
MEISTRES ALVING: Ond i ba le? Nid allwn fod yn gyfrifol am ei
MANDERS: I ba le? Adref at ei thad, wrth reswm.
MEISTRES ALVING: At bwy, meddech chwi?
MANDERS: Ato ef—Ond, na, nid Engstrand ydyw—. Ond, arglwydd mawr! Meistres Alving, a oes bosibl? Hwyrach eich bod yn methu!
MEISTRES ALVING: Ysywaeth, nid methu yr wyf. Bu raid i Johanna gyfaddef y cwbl wrthyf,—ac ni allai Alving wadu. Nid oedd dim arall i'w wneud ond mygu'r peth rywsut.
MANDERS: Ie, dyna'r unig beth a ellid.
MEISTRES ALVING: Bu raid i'r eneth adael ei lle rhag blaen, a chafodd swm cymwys o arian, er mwyn tewi am byth. Ymdarawodd drosti ei hun wedyn, ac aeth i'r dref. Adnewyddodd ei chydnabyddiaeth â'r saer Engstrand; y mae'n debyg iddi roi ar ddeall iddo faint o arian oedd ganddi, ac ymhellach dywedodd rywbeth wrtho am ryw estron a fu yma yn ystod yr haf gyda'i long bleser. Yna, priodwyd Engstrand a hithau rhag blaen. Ie, chwi eich hun a'u priododd.
MANDERS: Ond sut y gallwn i wybod y pethau hynny? Cofiaf yn dda hyd heddyw fel y daeth Engstrand ataf i drefnu 'r briodas. Yr oedd yn edifeiriol iawn, ac yn achwyn yn chwerw yn erbyn y gwendid a'i gwnaeth ef a'i anwylyd yn feius.
MEISTRES ALVING: Ie, 'roedd raid iddo gymryd y bai i gyd ei hun.
MANDERS: Ond y fath ffalster ar ei ran! A hynny tuag ataf innau! Ni buaswn yn wir yn disgwyl hynny gan Jacob Engstrand. Cymeraswn ef mewn llaw, ac eto, gallai ymollwng felly. A gwaradwydd y fath ymrwymiad! O chwant arian! Pa faint, dybiech chwi, oedd y swm a dalwyd i'r eneth?
MEISTRES ALVING: Tri chant o bunnau.
MANDERS: Ond meddyliwch—ei rwymo ei hun â merch syrthiedig am ryw swm salw o drichant o bunnau!
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedech ynteu amdanaf fi, yn cymryd fy rhwymo â dyn syrthiedig?
MANDERS: Duw fo'n gwarchod! Beth a ddywedsoch? Dyn syrthiedig!
MEISTRES ALVING: Meddwl yr ydych, hwyrach, fod Alving yn lanach, pan euthum i at yr allor gydag ef, nag oedd Johanna pan briododd hi Engstrand?
MANDERS: Ond y mae'r ddau beth yn wahanol iawn i'w gilydd.
MEISTRES ALVING: Dim mymryn o wahaniaeth rhyngddynt, ond y gwahaniaeth mawr yn y pris—rhyw swm salw o drichant o bunnau—a ffortun fawr!
MANDERS: Sut y gellwch chwi osod dau beth mor anhebyg gyferbyn â'i gilydd? Gwnaethoch chwi yn ôl eich serchiadau eich hunan a chyngor eich perthynasau!
MEISTRES ALVING: Tybiech, mi gredaf, fod y peth y soniech amdano fel fy nghalon wedi mynd ar gyfeilorn y pryd hwnnw.
MANDERS (yn oer): Pe tybiaswn rywbeth o'r fath, ni buaswn i yn ymwelydd beunyddiol â thŷ eich gŵr!
MEISTRES ALVING: Sut bynnag, y mae'n gwbl sicr nad ymgynghorais i ddim â mi fy hun.
MANDERS: Ond eto, â'ch perthynasau nesaf; megis y mae'n ysgrifenedig, â'ch mam a'ch dwy fodryb.
MEISTRES ALVING: Ie, gwir yw hynny. Bwriodd y tair y draul a'r drefn i mi. O, ni fedrech chwi byth gredu mor glir y dangosent i mi na buasai gwrthod y fath gynnyg yn ddim ond ffolineb noeth. Pe gallasai fy mam ragweled a gwybod pa beth a ddeuai o'r holl ogoniant!
MANDERS: Am y trychineb hwnnw, ni ellir dal neb yn gyfrifol. Fe saif cymaint a hyn, o leiaf—priodwyd chwi yn unol â phob defod gyfreithlon.
MEISTRES ALVING (gan edrych drwy'r ffenestr): Och, ie, defod a chyfraith! Llawer tro y bum bron a chredu mai dyma achos pob anhapusrwydd ar y ddaear.
MANDERS: Meistres Alving, yr ydych yn pechu yn eich erbyn eich hun.
MEISTRES ALVING: Fe allai. Ond ni oddefaf i mo'r rhwymau a'r ystyriaethau hyn ddim yn hwy. Ni fedraf i ddim mwy. Rhaid i mi ymdrechu am ryddid!
MANDERS: Beth feddyliwch wrth hynny?
MEISTRES ALVING (gan guro ar wydr y ffenestr): Ni ddylaswn guddio bywyd Alving o gwbl. Ond y pryd hwnnw ni wyddwn i sut amgen i weithredu, ac ni fynswn hynny chwaith, o'm plegid fy hun. Felly llwfr oeddwn.
MANDERS: Llwfr?
MEISTRES ALVING: Pe gwybuasai pobl rywbeth, dywedasent: Druan gŵr, hawdd deall ei fod yn byw 'n anghymedrol, a chanddo yntau wraig a'i gadawodd.
MANDERS: A buasai cryn lawer o wir yn y dywediad hefyd.
MEISTRES ALVING (gan graffu arno): Pe buaswn i fel y dylaswn fod, yna cymeraswn Oswald, a dywedaswn wrtho: gwrando, fy mab, dyn gwaradwyddus yw dy dad
MANDERS: Ond, arglwydd trugarog!
MEISTRES ALVING: Ac yna dywedaswn wrtho bopeth a ddywedais wrthych chwithau—bob tipyn!
MANDERS: Meistres Alving, yr wyf bron ag arswydo rhagoch!
MEISTRES ALVING: Mi wn, mi wn hynny yn dda! Rwy 'n arswydo fy hun rhag y meddwl. (Try oddiwrth y ffenestr.) Mor llwfr oeddwn!
MANDERS: A llwfr y gelwch eto, os gwnewch eich dyletswydd a'ch rhwymedigaeth. Ai angof gennych y dylai plentyn barchu ei dad a'i fam?
MEISTRES ALVING: Peidiwn â chymryd y peth mor gyffredinol. Gofynnwn: A ddylai Oswald barchu a charu'r Capten Alving?
MANDERS: Onid oes rhyw lais yn eich calon fel mam, yn erfyn arnoch beidio â dinistrio 'r ddelw bur ym meddwl eich mab?
MEISTRES ALVING: Beth ynteu am y gwirionedd?
MANDERS: A pha beth ynteu am y ddelw, y ddelw berffaith?
MEISTRES ALVING: Ach—y ddelw, y ddelw! Pe na bawn i mor llwfr âg wyf!
MANDERS: Na fwriwch y ddelw allan, Meistres Alving—fe edifarhewch yn chwerw am hynny. Ac yn arbennig ynglyn âg Oswald. Ysywaeth, nid oes ganddo ef ormod o ddelwadau yn ei fryd. Ond hyd y sylwais i, y mae ei dad yn ddelwad perffaith iddo hyd yma.
MEISTRES ALVING: Yr ydych yn iawn yn hynny.
MANDERS: Byddech yn eich llythyrau ato yn ceisio deffro a meithrin yr ystyriaethau hyn yn ei feddwl?
MEISTRES ALVING: Byddwn; byddai dyletswydd ac ystyriaeth yn fy ngyrru at hynny. O'r herwydd mi fum o flwyddyn i flwyddyn yn atal fy nhafod. Ah! mor llwfr, mor llwfr fum!
MANDERS: Gadawodd hynny argraff ffodus ar feddwl eich mab, Meistres Alving, ac ni wiw i chwi ar gyfrif yn y byd chwalu honno.
MEISTRES ALVING: Hm!—pwy ŵyr a yw honno yn rhywbeth iddo bellach! Ond ni fynnaf fath yn y byd o gymdeithas rhyngddo â Regine, dan unrhyw amgylchiadau. Ni chaiff beri trallod i'r eneth druan, beth bynnag.
MANDERS: Na; Arglwydd mawr, byddai hynny yn beth ofnadwy!
MEISTRES ALVING: Pe gwyddwn a yw ef o ddifrif, ac a fyddai hynny yn hapusrwydd iddo
MANDERS: Sut? A pha beth wedyn?
MEISTRES ALVING: Ond ni byddai hynny yn hapusrwydd iddo; ac nid yw Regine yn gymwys chwaith.
MANDERS: Wel, beth wedyn? Beth yw eich meddwl?
MEISTRES ALVING: Pe na bawn mor druenus o lwfr âg ydwyf, buaswn yn dywedyd wrtho: Prioda hi, neu trefnwch rhyngoch fel y mynnoch, ond na bydded twyll yn y peth!"
MANDERS: Ond, arglwydd trugarog—! Priodas gyfreithlon, ynteu! Peth mor ofnadwy!—na chlywwyd sôn am ei debyg!
MEISTRES ALVING: Ie. Na chlywwyd sôn am ei debyg, meddech? A'ch llaw ar eich calon, Meistr Manders, oni thybiwch chwi fod yn y gwledydd o gwmpas lawer cwpl sy 'n perthyn cyn agosed?
MANDERS: Nid wyf yn eich deall o gwbl!
MEISTRES ALVING: O, yr ydych yn fy neall yn burion.
MANDERS: Wel, meddwl yr ydych am ryw amgylchiadau lle gallai hynny. Na, ysywaeth, ni bu bywyd teuluaidd erioed mor bur ag y dylai fod. Ond nid yw 'r peth yr ydych yn anelu ato yn awr ond peth nad all dyn ei wybod—o leiaf, gyda sicrwydd. Yma, ar y llaw arall—; a'ch bod chwi, y fam, yn barod i'ch mab—!
MEISTRES ALVING: Ond nid parod wyf. Ni fynnwn mo'r peth am unrhyw bris yn y byd; dyna yn union yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd.
MANDERS: A hynny yn unig am eich bod yn llwfr, fel y dywedech. Pe na baech mor llwfr, meddech—Duw fo'n gwarchod!—peth mor arswydus!
MEISTRES ALVING: Ie, dywedir ein bod i gyd fel ein gilydd yn hanfod o berthynasau felly. A phwy a ordeiniodd beth felly i'r byd, Meistr Manders?
MANDERS: Ni soniaf fi am y fath gwestiwn wrthych, Meistres Alving: nid ydych yn y cyflwr priodol i'w drin o ran meddwl. Ni feiddiwch ddywedyd ei fod yn fwy na llwfrdra ar eich rhan—!
MEISTRES ALVING: Eto, cewch glywed fy meddwl! Yr wyf yn ofnus a phetrus, am fod rhywbeth drychiolaethus yn glynu ynof, fel na allaf fyth fod yn gwbl rydd.
MANDERS Beth y galwasoch ef?
MEISTRES ALVING: Rhywbeth drychiolaethus. Pan glywais Regine ac Oswald yna, yr oeddwn fel pe gwelswn ddrychiolaethau o'm blaen. Ond yr wyf bron a chredu, Meistr Manders, mai drychiolaethau ydym i gyd-y drychiolaethau dychwel, sy'n dyfod yn ôl i gerdded eu hen lwybrau. Nid y peth a etifeddasom ar ôl ein tadau a'n mamau yn unig sydd yn gweithio ynom; ond pob math ar hen dueddiadau meirwon, pob math ar hen obeithion a phethau felly. Nid ynt yn byw ynom, ond glynant wrthym, ac ni fedrwn gael ymwared rhagddynt. Hyd yn oed pan gymerwyf bapur yn fy llaw i'w ddarllen, byddaf fel pe bawn yn gweled drychiolaethau yn ymgripio rhwng y dalennau. Y mae drychiolaethau dychwel ym-hobman. Rhaid eu bod cyn lluosoced â'r tywod ar lan y môr. Ac yna, yr ydym oll gyda'n gilydd yn ofni 'r goleuni mor druenus.
MANDERS: Aha! Dyna effaith eich darllen. Ffrwyth gwych, mewn gwirionedd! Och, y pethau gwaradwyddus, gwrthryfelgar a phenrydd hyn!
MEISTRES ALVING: Yr ydych yn methu, annwyl Syr. Chwychwi eich hun yw'r dyn a'm harweiniodd i i feddwl, ac yr wyf yn diolch i chwi am hynny!
MANDERS: Myfi!
MEISTRES ALVING: Ie; pan fynsoch fy ngyrru yn ôl i'r hyn a alwech yn Ddyletswydd a Rhwymedigaeth; pan ganmolech fel peth iawn a gwir yr hyn yr oedd fy holl enaid i yn ei erbyn fel peth cwbl wrthun. Am hynny y mynnais brofi eich dysgeidiaeth yn fy nherfynau fy hun. Ni feddyliais ond am ddatod un cwlwm bychan, ond wedi i mi ddechreu arni, ymddatododd y cwbl.—Ac yna gwelais nad oedd y cyfan ond pwyth peiriant!
MANDERS (yn ddistaw a chrynedig): Ai dyna 'r cwbl a enillwyd drwy ymdrech chwerwaf fy mywyd?
MEISTRES ALVING: Y gorchfygiad tristaf yn eich bywyd yn hytrach!
MANDERS: Dyna fuddugoliaeth fwyaf fy mywyd, Helen; y fuddugoliaeth arnaf fy hun.
MEISTRES ALVING: Trosedd yn erbyn pob un o honom ydoedd.
MANDERS: Fy mod i wedi gorchymyn i chwi gan ddywedyd: "Wraig, dos adref at dy ŵr priod," pan ddaethoch ataf megis un o'i chof, a dywedyd: Dyma fi, cymerwch fi!" Ai trosedd oedd hynny?
MEISTRES ALVING: Yn fy ngolwg i, ie!
MANDERS: Nid ydym yn deall ein gilydd.
MEISTRES ALVING: O leiaf, ddim yn hwy.
MANDERS: Nac erioed, erioed, ni feddyliais i unwaith amdanoch yn fy meddwl dirgelaf ond fel gwraig fy nghyfaill.
MEISTRES ALVING: A gredwch chwi hynny eich hun?
MANDERS: Helen!
MEISTRES ALVING: Y mae dyn yn ei adael ei hun allan o'r cyfrif mor rhwydd!
MANDERS: Nid myfi. Yr un un wyf fi âg oeddwn erioed.
MEISTRES ALVING: (mewn ton wahanol): Ie, ie, ie;—na soniwn ragor am yr hen amser. Ond dyma chwi dros eich pen a'ch clustiau mewn cyfrifoldeb a swyddi; a minnau yn myned o gwmpas ac yn ymladd â drychiolaethau gweledig ac anweledig.
MANDERS: Mi 'ch cynorthwyaf i yrru'r rhai gweledig ymaith. Wedi gwrando gyda dychryn ar y cwbl a glywais gennych heddyw, ni allaf i ateb i'm cydwybod a gadael geneth ieuanc ddiniwed yn eich tŷ.
MEISTRES ALVING: Oni thybiech mai dyna'r goreu, pe gallem ofalu amdani? Hynny yw—drwy briodas dda.
MANDERS: Yn ddiameu. Hyd y gwelaf i byddai hynny yn beth i'w ddymuno iddi ar bob ystyriaeth. Y mae Regine yn awr yn yr oed, pryd y bydd—wel, nid wyf i yn deall yn iawn, ond
MEISTRES ALVING: Y mae Regine wedi tyfu yn rhy gynnar.
MANDERS: Yn union felly, onid e? Pan oeddwn i yn ei pharatoi at fedydd esgob, yr oeddwn yn meddwl ei bod hi o ran corff wedi datblygu yn rhyfeddol. Ond i ddechreu, sut bynnag, rhaid iddi fynd adref, dan ofal ei thad—. Na, nid yw Engstrand—Ag yntau-âg yntau wedi cuddio'r gwir rhagof yn y fath fodd! (Curo trwm ar ddrws y cyntedd.)
MEISTRES ALVING: Pwy all fod yna yn awr? Dowch i mewn!
ENGSTRAND (yn ei ddillad goreu, yn y drws): Maddeuwch i mi, 'r wy'n erfyn arnoch, ond—
MANDERS: Aha! Hm—
MEISTRES ALVING: Ai chwi sydd yna, Engstrand?
ENGSTRAND: Nid oedd neb o'r morwynion yn y golwg, ac am hynny mi fum mor hy a churo ar y drws.
MEISTRES ALVING: Ie, ie. Dowch i mewn. A fynnech chwi siarad â mi?
ENGSTRAND: (yn dyfod i mewn): Na, diolch yn barchus i chwi. Byddai 'n dda gennyf gael gair bach â'r gweinidog.
MANDERS: (gan gerdded yn ol a blaen): Hm! Siarad â mi a fynnech? Aie?
ENGSTRAND: Ie, byddai 'n dda gennyf
MANDERS (gan sefyll o'i flaen): Yn awr, a gaf fi ofyn, pa beth a fynnech?
ENGSTRAND: Wel, syr, yr ydym wedi gorffen i lawr acw yn awr. Diolch lawer i chwi, Meistres Alving.—Ac yn awr, gan fod popeth yn barod, a ninnau wedi bod cyhyd yn gweithio gyda'n gilydd mor gysurus acw, mi dybiais y byddai 'n weddus a phriodol iawn i ni heno gael rhyw wasanaeth bach i orffen.
MANDERS: Gwasanaeth? I lawr yn y Cartref?
ENGSTRAND: Ie, ond os na bydd yn gyfleus i chwi, syr
MANDERS: O, byddai, wrth reswm, mi dybiaf, ond—hm—
ENGSTRAND: Cynheliais wasanaeth acw fy hun lawer gwaith gyda'r hwyr
MEISTRES ALVING: Yn wir?
ENGSTRAND: Do, o bryd i bryd. Rhyw fath o gyfarfod adeiladol, fel y gelwir. Ond dyn cyffredin a disylw ydwyf fi, a dim dawn ynddo—Duw a'm diwygio!—ac felly mi feddyliais, gan fod y gweini-dog yma, y byddai
MANDERS: Ie, welwch chwi, Engstrand, rhaid i mi ofyn cwestiwn i chwi. A ydych chwi yn yr ysbryd priodol ar gyfer cyfarfod o'r fath? A ydyw eich cydwybod yn rhydd ac ysgafn?
ENGSTRAND: Duw a'n helpo, Meistr Manders, waeth i ni heb drafferthu sôn am y gydwybod.
MANDERS: Ond son amdani a wnawn. Beth sydd gennych i'w ateb i mi?
ENGSTRAND: Ie, y gydwybod-hi all weithiau fod yn ddrwg ei chyflwr.
MANDERS: Yr ydych chwithau yn canfod hynny ar dro hefyd! Ond atebwch i mi yn ddidwyll,—sut y mae pethau ynglyn â Regine?
MEISTRES ALVING (yn gyffrous): Meistr Manders!
MANDERS (yn dawel): Gadewch i mi
ENGSTRAND: Ynglyn â Regine! Arglwydd! fel y rhoisoch fraw i mi! (Gan edrych ar Meistres Alving.) Onid yw popeth yn iawn gyda Regine?
MANDERS: Gobeithio hynny. Ond fy meddwl i yw, sut y mae pethau rhyngoch chwi a hithau? Cyfrifir mai chwi yw ei thad. Yn awr, ynteu?
ENGSTRAND (yn amheus): Wel—hm—Meistr Manders, mi wyddoch yr hanes fel y bu rhwng Johanna druan a minnau.
MANDERS: Dim rhagor o gelu 'r gwir. Yr oedd eich diweddar wraig wedi cyfaddef yr holl wir wrth Meistres Alving cyn gadael ei gwasanaeth.
ENGSTRAND: Mewn gwirionedd, a wnaeth hi hynny?
MANDERS: Dyma chwi wedi 'ch dal, Engstrand.
ENGSTRAND: A hithau, wedi tyngu a rhegi mor
MANDERS: Rhegi?
ENGSTRAND: Na, dim ond tyngu, mewn ffordd, ond mor groew ac agored.
MANDERS: Ac ar hyd y blynyddoedd hyn, cuddiasoch y gwir rhagof. Rhagof fi, a ymddiriedodd mor llwyr ynoch.
ENGSTRAND: Do, ysywaeth, gwneuthum felly.
MANDERS: A haeddais i hynny oddiar eich llaw, Engstrand? Oni bum i bob amser yn barod i roi cyngor a chefnogaeth i chwi, hyd y gallwn? Atebwch! Onid felly y bu?
ENGSTRAND: Buasai 'n ddrwg iawn arnaf lawer tro, oni bai amdanoch chwi, syr.
MANDERS: Ac eto, dyma 'r tâl a gefais. Dyfod âg anwiredd i mi i'w ddodi yn llyfr yr eglwys, a chadw rhagof ar hyd y blynyddoedd yr esboniad dyledus i mi ag i'r gwirionedd. 'Does dim esgus dros eich ymddygiad, Engstrand; ac o hyn allan, ni bydd a wnelwyf â chwi!
ENGSTRAND (gan ucheneidio): Ie, felly y mae'n rhaid iddi fod!
MANDERS: Sut y gellwch chwi ynteu eich cyfiawnhau eich hun?
ENGSTRAND: Oni wnaeth hi'r gwaradwydd yn fwy fyth drwy glebran amdano? Syr gosodwch eich hun yn lle Johanna druan
MANDERS: Myfi!
ENGSTRAND: Arglwydd mawr—nid yn union yr un fath yw fy meddwl. Meddwl yr oeddwn i, syr, pe buasai gennych rywbeth y buasai arnoch gywilydd i ddynion ei wybod, fel y dywedir. Ni ddylem ni ddynion farnu merched truain yn rhy galed, syr.
MANDERS: Ond nid dyna f' amcan i. Yn eich erbyn chwi yr wyf yn achwyn.
ENGSTRAND: A gaf fi fod mor hy a gofyn un cwestiwn bach, syr?
MANDERS: O'm rhan i, gofynnwch.
ENGSTRAND: Onid iawn a daionus i ddyn gyfodi un wedi syrthio?
MANDERS: Wrth reswm.
ENGSTRAND: Ac a ddylai dyn gadw ei air ar ôl ei roddi?
MANDERS: Debyg iawn y dylai. Ond
ENGSTRAND: Wedi i Johanna fod yn anlwcus gyda'r Sais hwnnw-neu hwyrach mai dyn o'r America neu Rwsia oedd, ran hynny—wedi hynny, hi ddaeth i'r dref. Druan bach! Yr oedd hi wedi fy ngwrthod eisoes, unwaith neu ddwy y pryd hwnnw, nid oedd hi yn gweled dim ond yr hyn fyddai 'n deg yr olwg arno, ac yr oeddwn innau druan â'r drwg yma ar fy nghoes. Fel y cofiwch, syr, mi fentrais i dŷ dawnsio, lle 'r oedd morwyr yn mynd i yfed a thyrfu. Ac fel yr oeddwn innau yn eu rhybuddio i ddechreu bywyd newydd
MEISTRES ALVING (wrth y ffenestr): Hm!
MANDERS: Ie, mi wn, Engstrand. Taflodd y cnafon chwi i lawr y grisiau. Clywais yr hanes lawer gwaith gennych. Y mae 'ch clod yn eich clwyf.
ENGSTRAND: Nid wyf yn ymffrostio dim am hynny, syr. Ond dyma'r hyn y mynnwn ei ddywedyd. Daeth Johanna ataf, a chyfaddefodd ei hanffawd gan feichio wylo. Rhaid i mi gydnabod, syr, fod ei chlywed yn boen i'm henaid.
MANDERS: Mewn gwirionedd, Engstrand? A pha beth wedyn?
ENGSTRAND: Wel, dywedais wrthi: y mae'r Americanwr yn hwylio 'r môr mawr yma ac acw. A thithau, Johanna, meddwn, cefaist gwymp, ac yr wyt yn greadur colledig. Ond y mae Jacob Engstrand, meddwn, sydd a'i ddau droed tano—mewn ffordd o siarad y dywedais i hynny, syr—
MANDERS: 'Rwy'n deall yn burion. Ac wedyn?
ENGSTRAND: Wel, cytunais â hi, a phriodais hi, fel na chai pobl ddim gwybod am ei hanffawd gyda'r estron.
MANDERS: Da y gwnaethoch hynny, ond nid allaf gydnabod fod yn addas i chwi dderbyn arian am
ENGSTRAND: Arian? Myfi? Dim un ffyrling!
MANDERS (gan droi at Meistres Alving): Ond ENGSTRAND: Ach, ie—arhoswch funud; anghofiais beth. Yr oedd gan Johanna rhyw gwpl o sylltau. Ond ni fynnwn i wybod dim am hynny; Pw! meddwn, Mamon! Pris gwaradwydd, yr aur melltigedig—neu hwyrach mai arian papur ydoedd—bwriwn ef yn ôl yn wyneb yr Americanwr, meddwn. Ond yr oedd ef wedi mynd, ac yn hwylio 'r môr mawr, syr.
MANDERS: Aie, Engstrand?
ENGSTRAND: Oedd siwr. Ac yna, cytunodd Johanna a minnau fod yr arian i'w gwario ar y plentyn. Felly y bu, a gallaf roi cyfrif am bob swllt ohonynt.
MANDERS: Y mae hynny yn newid cryn lawer ar yr amgylchiadau.
ENGSTRAND: Dyna'r hanes o bant i bentan, syr. Ac mi feiddiaf ddywedyd fy mod i wedi bod yn dad gonest i Regine, hyd y gallai fy nerth—ond, ysywaeth, nid wyf ond dyn gwan.
MANDERS: Wel, wel, f'annwyl Engstrand
ENGSTRAND: Ond mi ddylwn ddywedyd hyn, fy mod wedi dwyn y plentyn i fyny mewn parch, wedi cyd fyw yn gariadus â Johanna druan, a chadw disgyblaeth ar yr aelwyd, megis y mae'n ysgrifenedig. Ond ni fedrwn i byth fynd at Meistr Manders a'm canmol fy hun wrtho, a dywedyd fy mod innau wedi gwneud gweithred dda unwaith yn fy oes. Na, pan fo Jacob Engstrand wedi gwneud rhywbeth, tewi a bod yn ddistaw y bydd. Ysywaeth, ni bydd hynny yn digwydd yn aml. phan fyddaf yn dyfod at y gweinidog heb law hynny, bydd gennyf gymaint i'w ddywedyd am fy ngwendidau a'm drygioni. Dyna paham y dywedais gynnau—gall y gydwybod boeni dyn yn arw, o dro i dro.
MANDERS: Rhowch eich llaw i mi, Jacob Engstrand.
ENGSTRAND: Arglwydd mawr, syr!
MANDERS: Dim llyfon! (Gan ysgwyd ei law.) Popeth yn iawn!
ENGSTRAND: Ac os caf ofyn eich pardwn, syr—
MANDERS: Chwi? Nage, fel arall. Myfi a ddylai ofyn pardwn—
ENGSTRAND: Nage! Duw fo'n gwarchod!
MANDERS: Ie, yn wir Ac yr wyf yn ei ofyn o ewyllys calon. Maddeuwch i mi am eich cam-ddeall gymaint. A rhoed Duw i mi gyfle yn fuan i roi praw o'm hedifeirwch a'm hewyllys da—
ENGSTRAND: A wnaech chwi hynny, syr?
MANDERS: Gyda'r hyfrydwch mwyaf—
ENGSTRAND: Wel, dyma gyfle. Gyda'r arian a gynilais yma, yr wyf yn meddwl am agor tŷ i forwyr yn y dref.
MEISTRES ALVING: Yn wir?
ENGSTRAND: Ydwyf, math o gartref fydd. Y mae cymaint o demtasiynau ar ffordd morwyr pan ddont i'r lan. Ond gyda mi, mewn tŷ felly, byddent megis tan olwg tad.
MANDERS: Beth a ddywedwch chwi, Meistres Alving?
ENGSTRAND: Ni fedraf wneud ond ychydig i ddechreu, Duw a'm helpo; ond pe bai ryw gymwynaswr i roi llaw i mi, felly—
MANDERS: Ie, sylwn yn fanylach ar y peth eto. Y mae 'ch bwriad yn taro fy meddwl i yn anghyffredin.—Ond, ystyriwch y peth yn fanwl a rhoddwch drefn arno, trowch y goleuni arno, fel y gwelom yn iawn. Yna, cawn dreulio awr weddi gyda'n gilydd, Engstrand; wedi hynny, mi obeithiaf y byddwch yn yr iawn ysbryd.
ENGSTRAND: Byddaf, mi gredaf innau hefyd. Ac yn awr, da y boch, Meistres Alving, diolch i chwi am bopeth. Gofelwch am Regine (gan sychu deigryn). Plentyn Johanna—hm, mae'n beth rhyfedd, yn wir—ond y mae hi fel pe bai 'n perthyn i mi fy hun yn gymwys, ydyw yn wir (gan ben-gamu, a allan drwy ddrws y cyntedd.)
MANDERS: Yn awr, beth a ddywedwch chwi am y creadur, Meistres Alving? Dyna esboniad arall a gawsom ganddo.
MEISTRES ALVING: Ie, yn ddiameu!
MANDERS: Chwi welwch fel y dylem ofalu rhag condemnio pobl. Wrth reswm, y mae 'n bleser mawr drachefn i ddyn weled ei fod wedi cam-ddeall. Beth yw'ch meddwl chwi?
MEISTRES ALVING: Meddwl yr wyf mai plentyn mawr ydych ac a fyddwch, Manders.
MANDERS: Myfi?
MEISTRES ALVING: (gan ddodi ei dwy law ar ei ysgwyddau): Ac y mae arnaf awydd hefyd ddodi fy nwylaw am eich gwddf.
MANDERS (gan gilio yn ei ol yn chwyrn): Na, na! Na ato Duw! y fath awydd
MEISTRES ALVING (gan chwerthin): Ach! Y mae arnoch eich ofn eich hun ger fy mron!
MANDERS (gan eistedd wrth y bwrdd): Y mae gennych o leiaf ffordd mor anghyffredin o ddywedyd eich meddwl!—mi gasglaf y papurau, a chadwaf hwy yn y gôd (gan wneuthur hynny). Dyna hwy. Ac yn awr, da y boch chwi. Arhoswch chwi yma, rhag ofn y daw Oswald yn ei ol. Dof innau heibio eto yn ddiweddarach. (Cymer ei het ac a allan drwy ddrws y cyntedd.)
MEISTRES ALVING (gan ucheneidio 'n ddwfn; edrych allan drwy'r ffenestr, cerdda 'n ol a blaen hyd yr ystafell; cychwynna tua 'r ystafell fwyta; saif yn y drws, a rhydd lef megys mewn dychryn): Oswald! A wyt ti wrth y bwrdd o hyd?
OSWALD (yn yr ystafell fwyta): Dim ond gorffen mygu sigâr.
MEISTRES ALVING: Oni chymeri di dro bach?
OSWALD: Yn y fath dywydd? (Clywir gwydr yn tincian. Gad Meistres Alving y drws yn agored, ac eistedd gyda'i gwaith gwnio ar yr esmwythfainc wrth y ffenestr.)
OSWALD: Onid Manders y gweinidog a aeth allan funud neu ddau yn ôl?
MEISTRES ALVING: Ie, aeth i lawr cyn belled â'r Cartref.
OSWALD: Hm! (Swn gwydrau yn tincian eilwaith.)
MEISTRES ALVING (a golwg pryderus): Oswald bach, dylit fod yn ofalus gyda 'r gwin yna. Y mae'n gryf iawn.
OSWALD: Y mae'n dda ei gael ar dywydd mor llaith.
MEISTRES ALVING: Oni byddai well gennyt ddyfod ataf fi yma?
OSWALD: Ni cheir mygu yna.
MEISTRES ALVING: Gwyddost yn dda y cei fygu sigâr yma!
OSWALD: O, caf, yna mi ddof. Dim ond un diferyn bach arall. Dyma fo! (Daw drwodd gyda'i sigâr, a chau'r drws ar ei ol.—Saib ferr.) I ba le yr aeth y Gweinidog?
MEISTRES ALVING: Dywedais wrthyt eisoes—i lawr i'r Cartref.
OSWALD: O, ie, 'rwy 'n cofio.
MEISTRES ALVING: Ni ddylit aros mor hir wrth y bwrdd, Oswald.
OSWALD (gan ddal y sigâr y tu cefn iddo): Ond, fy mam, yr wyf yn teimlo mor siriol yno. (Gan ei hanwylo.) Cofiwch yn awr, gymaint o beth yw i mi, newydd gyrraedd adref, gael eistedd wrth fwrdd fy mam, yn nhŷ fy mam—a bwyta ymborth iawn fy mam.
MEISTRES ALVING: Fy machgen annwyl i!
OSWALD (braidd yn ddisylw, gan symud o gwmpas a mygu): Ac heblaw hynny, sut yr ymdarawaf yma? Nid oes gennyf ddim ar y ddaear i'w wneud
MEISTRES ALVING: Dychmyga rywbeth i'w wneud
OSWALD: Yn y tywydd trymllyd hwn? Dim heulwen drwy gydol y dydd? (Cerdda 'n ol a blaen.) Och, ie—hynny—bod heb allu gweithio—!
MEISTRES ALVING: Hwyrach nad dyfod adref oedd y peth goreu i ti.
OSWALD: Eto, fy mam, yr oedd yn rhaid i mi ddyfod.
MEISTRES ALVING: Ie, ond buasai 'n ddeng waith gwell gennyf fi heb y pleser o'th gael adref, na'th fod ti
OSWALD (gan sefyll wrth y bwrdd): Ond dywedwch i mi, 'Mam, mewn difrif, a ydyw 'n gymaint o bleser i chwi fy nghael i adref?
MEISTRES ALVING: A ydyw 'n bleser i mi!
OSWALD (gan wasgu papur newydd yn ei law): Mi dybiwn fy hun na byddai wahaniaeth i chwi ai byw fyddwn ai peidio.
MEISTRES ALVING: Oes gen ti 'r galon i ddywedyd hynny wrth dy fam?
OSWALD: Yr oeddych gynt yn medru byw yn iawn hebof.
MEISTRES ALVING: Do, bum fyw hebot,—y mae 'n wir. (Seibiant. Trymhâ'r gwyll. Cerdda Oswald yn ol a blaen, wedi dodi 'r sigâr o'r neilltu.)
OSWALD (gan sefyll o flaen ei fam): 'Mam, a gaf fi eistedd yn eich ymyl?
MEISTRES ALVING (gan wneud lle iddo): Cei, eistedd, fy machgen annwyl i.
OSWALD (gan eistedd): Rhaid i mi ddywedyd rhywbeth wrthych, 'Mam.
MEISTRES ALVING (yn awyddus): Wel?
OSWALD (gan rythu llygaid): Fedraf fi mo'i ddioddef yn hwy!
MEISTRES ALVING: Beth? Beth yw?
OSWALD (fel o'r blaen): Nid oedd gennyf ddigon o blwc i ysgrifennu atoch; ac yn awr, er pan ddeuthum adref
MEISTRES ALVING (gan gydio yn ei fraich): Oswald! beth sydd?
OSWALD: Ddoe a heddyw, mi geisiais yrru'r peth i ffwrdd o'm meddwl, a'm rhyddhau fy hun. Ond waeth heb.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi): Rhaid iti siarad yn blaen, Oswald!
OSWALD (gan ei thynnu ato): Dowch, 'mam, a cheisiaf esbonio i chwi. Cwynais fy mod wedi blino ar ôl y daith
MEISTRES ALVING: Do, a beth wedyn?
OSWALD: Ond nid dyna 'r drwg. Nid rhyw flinder cyffredin
MEISTRES ALVING (gan geisio cyfodi): Wyt ti ddim yn wael ynteu, Oswald?
OSWALD (gan ei thynnu ato drachefn): Dowch, 'Mam. Cymerwch y peth yn dawel. Nid wyf mewn gwirionedd yn wael—nid y peth a elwir yn gyffredin yn waeledd. (Gan ddodi ei ddwylaw o bobtu i'w ben). 'Mam, fy ysbryd i sydd wedi darfod wedi ei andwyo—ni allaf byth weithio eto! (Cuddia ei wyneb a'i ddwylaw, dyd ei ben ar ei glin, a thyrr i feichio wylo.)
MEISTRES ALVING (yn welw a chrynedig): Oswald! Edrych arnaf! Na, na, nid gwir hynny!
OSWALD (gan edrych yn synn arni): Ni allaf byth weithio eto! Byth!—byth! Marw yn fyw! 'Mam, fedrwch chwi ddychmygu am rywbeth mor arswydus?
MEISTRES ALVING: Fy machgen druan! Sut y daeth yr aflwydd hwn arnat?
OSWALD (gan gyfodi yn syth): Ie, dyna yn union yr hyn na fedraf fi mo'i ddeall na'i amgyffred. Ni bum i erioed yn byw bywyd ofer. Mewn ystyr yn y byd. Ni buasech yn disgwyl hynny amdanaf, 'Mam! Ni wneuthum i mo hynny!
MEISTRES ALVING: Naddo, mi wn, fy machgen!
OSWALD: Ac eto, daeth y peth hwn arnaf! Yr aflwydd arswydus hwn!
MEISTRES ALVING: Ond, mi ddoi yn well eto, fy machgen annwyl i. Nid yw ond effaith gweithio'n rhy galed. Gelli fod yn sicr.
OSWALD (yn drist): Felly y gobeithiwn innau ar y dechreu; ond nid dyna 'r gwir.
MEISTRES ALVING: Dywed y cwbl wrthyf o'r dechreu i'r diwedd.
OSWALD: Mi wnaf.
MEISTRES ALVING: Pa bryd y teimlaist oddi-wrtho gyntaf?
OSWALD: Yn fuan wedi i mi fod adref y tro diweddaf a mynd yn fy ôl i Baris. Cefais gur ofnadwy yn fy mhen—yn fy ngwegil y rhan fwyaf, mi gredaf. Fel pe buasai gylch o haearn am fy ngwar a'm pen yn fy ngwasgu.
MEISTRES ALVING: Ac yna?
OSWALD: Ar y dechreu, gobeithiwn nad oedd ond y cur y byddwn yn ei gael yn fy mhen pan oeddwn yn blentyn?
MEISTRES ALVING: Ie, ie.
OSWALD: Ond nid dyna ydoedd. Deellais hynny yn fuan. Ni allwn weithio mwy. Yr oeddwn ar fedr dechreu paentio llun newydd mawr; ond yr oeddwn fel pe buasai pob nerth wedi darfod ynof; yr oeddwn fel pe buaswn wedi fy nifetha; ni allwn ddwyn fy meddyliau at ei gilydd; dim gobaith—popeth yn troi mewn cylch. Ah, cyflwr ofnadwy ydoedd! O'r diwedd euthum at y meddyg—ac yna, ganddo ef, cefais y gwir.
MEISTRES ALVING: Beth yw dy feddwl di?
OSWALD: Un o'r meddygon goreu yn y ddinas ydoedd. Bu raid i mi adrodd fy mhrofiad iddo; ac yna, dechreuodd ofyn lliaws o gwestiynau i mi, cwestiynau y tybiwn i nad oedd a wnelent ddim â'r peth. Nid oeddwn yn deall pa beth a fynnai 'r dyn
MEISTRES ALVING: Wel?
OSWALD: Ac o'r diwedd, dyma a ddywedodd: Cawsoch y cyfansoddiad pydredig hwn cyn eich geni;—ie, dyna 'r union air a lefarodd—" ver-moulu."
MEISTRES ALVING (yn synn): Beth oedd ei feddwl?
OSWALD: Nid oeddwn innau yn deall ar y dechreu, a gofynnais iddo egluro ei feddwl. Ac yna, dywedodd yr hen Gynig—(gan gau ei ddwrn)-Ah!-
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedodd?
OSWALD Meddai: Dielir pechodau'r tadau ar y plant.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi yn araf): Pechodau 'r tadau!
OSWALD: Bu agos i mi a'i daro i lawr—
MEISTRES ALVING (gan gerdded o gwmpas yr ystafell): Pechodau 'r tadau!—
OSWALD (gan chwerthin yn drist): Ie, beth dybiwch chwi o hynny? Dywedais wrtho yn y fan nad allai hynny fod. Ond a dybiwch chwi ei fod yn fy nghredu? Dim perigl; daliodd at ei farn; ac eto, wedi i mi ddangos eich llythyrau iddo, a chyfieithu 'r darnau oedd yn sôn am fy nhad—
MEISTRES ALVING: Yna?
OSWALD: Yna, bu raid iddo gydnabod ei fod wedi methu;—ac yna, deellais y gwir. Y gwir ofnadwy Dylaswn fod wedi cadw draw rhag y bywyd ieuanc llawen a dedwydd gyda 'm cymdeithion. Bu yn ormod i'm nerth. Wedi f'andwyo fy hun, felly!
MEISTRES ALVING: Oswald! Na, na! Paid â chredu hynny!
OSWALD: Nid oedd esboniad arall yn ddichonadwy, meddai ef. Dyna'r peth sy'n ofnadwy. Wedi f'andwyo tra bwyf—drwy fy niofalwch fy hun. Yr holl bethau tlysion a mawr y gallaswn eu gwneud yn y byd yma—ni wiw i mi feddwl amdanynt unwaith—nid allaf feddwl amdanynt! Och, na fedrwn ddechreu bywyd o'r newydd eto—dadwneud y cwbl! (gan ymdaflu ar yr esmwyth-fainc a chuddio ei wyneb a'i ddwylaw.)
MEISTRES ALVING (yn gwasgu ei dwylaw, gan gerdded o gwmpas mewn ymdrech amlwg, ond heb ddywedyd gair).
OSWALD (ar ol ychydig ddistawrwydd, gan ymgynnal ar ei benelinoedd): Pe buasai 'n rhywbeth wedi ei etifeddu,—rhywbeth na buaswn yn euog o hono fy hun. Ond hyn! Dedwyddwch dyn ei hun—ei iechyd-popeth yn y byd—ei ddyfodol—ei fywyd gwario'r cwbl mor waradwyddus, mor ddiddiolch, mor ofer! Ofnadwy!
MEISTRES ALVING: Na, na, fy machgen annwyl i; y mae hynny yn amhosibl! (gan blygu uwch ei ben). Nid yw cyn waethed arnat ag yr wyt yn ofni.
OSWALD: O, ni wyddoch—(gan neidio ar ei draed). Ac wedyn, 'Mam, fod yn rhaid i mi beri 'r holl helbul yma i chwi! Pa sawl gwaith y dymunais ac y gobeithiais nad oeddych yn fy ngharu gymaint!
MEISTRES ALVING: Myfi! Oswald, fy unig fab! Yr unig un sydd gennyf yn y byd; yr unig un y mae f'enaid wedi ymglymu amdano!
OSWALD (gan afael yn ei dwy law a'i chusanu): Ie, ie, mi welaf y cwbl. Pan fyddaf adref yma, gyda chwi, mi welaf hynny. A dyna'r peth chwerwaf i mi, yn wir.—Ond, bellach, dyma chwithau 'n gwybod. Na soniwn ragor am y peth heddyw. Ni wiw i mi byth feddwl yn hir amdano (gan gerdded yn ol a blaen). Dowch a rhywbeth i mi i'w yfed, 'Mam!
MEISTRES ALVING: Yfed? Beth a fynni di eto i'w yfed?
OSWALD: O, waeth beth! Oes dim pwnsh oer yn y tŷ?
MEISTRES ALVING: Oes;—ond Oswald annwyl—
OSWALD: Peidiwch a'm gwrthod, 'Mam. Byddwch yn garedig! Rhaid i mi gael rhywbeth i chwalu 'r meddyliau poenus hyn (gan fyned i'r ystafell flodau). Ac eto—mor dywyll yw hi yma!
MEISTRES ALVING (yn canu 'r gloch, ar y dde).
OSWALD: A'r glaw di derfyn yma! Wythnos ar ôl wythnos—mis cyfan—dim pelydryn o heulwen i'w weled! Nid wyf yn cofio gweled heulwen yma erioed.
MEISTRES ALVING: Oswald! Yr wyt ti yn meddwl ynteu am fy ngadael eto!
OSWALD Hm (gan lyncu ei anadl). Nid wyf yn meddwl am ddim. Ni allaf feddwl (yn isel). Rhoddais y goreu i hynny.
REGINE (o'r ystafell fwyta): Oeddych chwi yn galw, ma'm?
MEISTRES ALVING: Oeddwn, tyred â'r lamp yma.
REGINE; Rhag blaen. Ni byddaf fawr o dro yn ei goleuo. (A ymaith.)
MEISTRES ALVING (gan fyned at Oswald): Oswald, paid â chelu dim rhagof.
OSWALD: Nid wyf yn celu dim, 'Mam (gan fyned at y bwrdd). Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dywedyd digon wrthych eisoes.
REGINE (yn dwyn y lamp, a'i dodi ar y bwrdd).
MEISTRES ALVING: Regine, gelli ddyfod a hanner potelaid o win gwyn i ni.
REGINE: O'r goreu, ma'm. (A ymaith.)
OSWALD (gan ddodi ei ddwylaw ar ben ei fam): Diolch Mi wyddwn na fedrai mam ddim gwrthod ei phlentyn.
MEISTRES ALVING: Oswald annwyl, sut y gallwn i wrthod unpeth i ti?
OSWALD (yn fywiog): A yw hynny yn wir, 'Mam? A ydych chwi o ddifrif?
MEISTRES ALVING: Sut? Beth?
OSWALD: Na fedrech wrthod unpeth i mi?
MEISTRES ALVING: Ond Oswald annwyl—
OSWALD: Yn ddistaw!—
REGINE (yn dwyn hanner potelaid o win, a dau wydr, ar blat, ac yn eu dodi ar y bwrdd): A gaf i agor y—?
OSWALD: Na, diolch, mi wnaf hynny fy hun. (Regine yn mynd ymaith.)
MEISTRES ALVING (yn eistedd wrth y bwrdd): Pa beth oedd hynny—na ddylwn ei wrthod i ti?
OSWALD (gan gydio yn y botel i'w hagor): Yn gyntaf, gwydr—neu ddau. (Tynn y corcyn, tywallta win i un gwydr, yna cais dywallt i'r llall.)
MEISTRES ALVING (gan atal ei law): Diolch—dim i mi.
OSWALD: Wel, i mi ynteu! (Lleinw'r gwydr ac yf i gyd, lleinw drachefn ac yf i gyd; yna eistedd wrth y bwrdd.)
MEISTRES ALVING (yn ddisgwylgar): Wel?
OSWALD (Heb edrych arni): Gwrandewch arnaf. Yn fy meddwl i, yr oeddych chwi a Manders y Gweinidog yn ddistaw iawn amser cinio.
MEISTRES ALVING: A sylwaist ti hynny?
OSWALD: Do. Hm—(wedi ychydig ddistawrwydd) Dywedwch i mi—beth yw'ch meddwl o Regine?
MEISTRES ALVING: Beth yw fy meddwl?
OSWALD: Ie. Onid yw hi yn ardderchog?
MEISTRES ALVING: Annwyl Oswald, nid wyt yn ei hadnabod cystal â mi.
OSWALD: Wel?
MEISTRES ALVING: Ysywaeth, bu Regine yn llawer rhy hir gyda'i thad adref. Dylaswn fod wedi ei chymryd yma, ataf yn llawer cynt.
OSWALD: Ie; eto, onid yw hi yn ardderchog i'w gweled, 'Mam? (Gan lenwi gwydr.)
MEISTRES ALVING: Y mae llawer o feiau mawrion yn Regine
OSWALD: Oes, mae'n sicr; beth am hynny? (Gan yfed eto.)
MEISTRES ALVING: Ond eto yr wyf yn meddwl llawer o honi, a chymerais y cyfrifoldeb am dani. Ni fynnwn i am bris yn y byd i ddim ddigwydd iddi.
OSWALD (gan neidio i fyny): 'Mam! Regine yw fy unig waredigaeth!
MEISTRES ALVING: Beth yw dy feddwl di wrth hynny?
OSWALD: Ni fedraf ddioddef yr ingoedd enaid hyn yn hwy fy hun.
MEISTRES ALVING: Onid yw dy fam gennyt i'w cyd-ddioddef â thi?
OSWALD: Ydyw, mi obeithiaf, a dyna paham y deuthum adref atoch. Ond ni thâl hynny ychwaith. Mi welaf na thâl. Fedraf i ddim dioddef bywyd yma!
MEISTRES ALVING: Oswald!
OSWALD: Rhaid i mi arwain bywyd gwahanol, 'Mam. Ac am hynny, rhaid i mi eich gadael. Nid wyf am i chwi weled fy helbul.
MEISTRES ALVING: Fy machgen druan! Ond Oswald, cyhyd ag y byddi mor wael ag yr wyt
OSWALD: Pe na bai ond y gwaeledd yn unig, mi arhoswn gyda chwi, 'Mam. Yna, chwi fuasai'r cyfaill goreu.
MEISTRES ALVING: Ie, onid gwir, Oswald? Onid myfi yw?
OSWALD (gan gerdded o gwmpas yn anesmwyth): Ond dyma 'r poenau hyn—yr edifeirwch—ac yna yr ing ofnadwy, angeuol. O-yr ing ddychrynllyd!
MEISTRES ALVING (gan fyned ato): Ing?—Pa ing? Beth yw dy feddwl di?
OSWALD: Och! peidiwch â gofyn i mi eto. Nid wn i ddim. Ni allaf ei ddisgrifio.
MEISTRES ALVING (yn mynd i'r dde ac yn canu'r gloch).
OSWALD: Beth a wnewch?
MEISTRES ALVING: Mi fynnaf fod fy machgen yn hapus, dyna a fynnaf! Ni chaiff fynd o gwmpas a grwgnach yma. (Wrth Regine, a ddaw i'r drws.) Ychwaneg o win-potel lawn. (A Regine ymaith.)
OSWALD: 'Mam!
MEISTRES ALVING: Meddwl yr oeddit hwyrach na wyddom ni yma yn y wlad ddim sut i fyw?
OSWALD: Onid yw hi 'n brydferth i'w gweled? Fel y mae hi wedi tyfu! A chyn iached â'r gneuen!
MEISTRES ALVING (gan eistedd wrth y bwrdd): Eistedd, Oswald, a gad i ni siarad yn dawel.
OSWALD (gan eistedd): Wyddoch chwi ddim, fy mam, fod gennyf ryw gam i wneud iawn amdano i Regine.
MEISTRES ALVING: Tydi!
OSWALD: Neu ryw dro bach difeddwl—fel y buasech yn ei alw. Cwbl ddiniwed, er hynny. Pan oeddwn i adref y tro o'r blaen
MEISTRES ALVING: Ie?
OSWALD Byddai hi yn fy holi mor fynych am Baris, a minnau yn dywedyd hyn a'r llall wrthi am y lle. Ac yr wyf yn cofio i mi ofyn iddi un diwrnod oni buasai hi yn hoffi myned yno
MEISTRES ALVING: Ac yna?
OSWALD: Aeth cyn goched â'r tân, ac yna dywedodd Buasai, buasai wrth ei bodd pe cawsai fyned yno.—Wel, meddwn innau, hawdd trefnu hynny, neu ryw eiriau tebyg.
MEISTRES ALVING: Beth wedyn?
OSWALD: Wrth reswm, yr oeddwn i wedi anghofio 'r cwbl; pan ofynnais iddi echnos a oedd yn dda ganddi fy mod i aros cyhyd gartref
MEISTRES ALVING: Ie?
OSWALD:—lle gwelai hi fi mor anfynych, dyma hi yn gofyn: Beth am fy nhaith innau i Baris?
MEISTRES ALVING: Ei thaith hithau!
OSWALD: Ac felly mi ddeellais ei bod hi wedi cymryd y peth o ddifrif; ei bod hi yn meddwl amdanaf ar hyd yr amser, a'i bod wedi dechreu dysgu Ffrangeg.
MEISTRES ALVING: Dyna'r rheswm felly
OSWALD: 'Mam,—yr eiliad hwnnw, pan welais yr eneth landeg, daclus ac iachus yn sefyll o'm blaen—cyn hynny nid oeddwn i wedi sylwi arni,—fel yr oedd hi 'n sefyll o'm blaen, fel pe buasai a'i breichiau yn agored i'm cofleidio—
MEISTRES ALVING: Oswald!
OSWALD: Yna, mi welais yn glir mai ynddi hi yr oedd fy ngwaredigaeth;—mai ynddi hi y mae llawenydd bywyd!
MEISTRES ALVING (yn synn): Llawenydd bywyd?—A ddichon hynny ddwyn gwaredigaeth?
REGINE (gan ddyfod o'r ystafell fwyta, gyda'r gwin): Maddeuwch i mi fod cyhyd—bu raid i mi fyned i lawr i'r seler (dyd y botel ar y bwrdd).
OSWALD: Dowch â gwydr arall.
REGINE (gan edrych yn synn): Y mae gwydr eich mam ar y bwrdd, syr.
OSWALD: Ydyw, ond dowch â gwydr i chwi 'ch hun, Regine. (Cyffry Regine, a thry led olwg ar Meistres Alving.) Wel?
REGINE (yn isel a phetrus): A fydd Meistres Alving yn fodlon?
MEISTRES ALVING: Tyred â'r gwydr, Regine. (A Regine i'r ystafell fwyta.)
OSWALD (gan edrych ar ei hol): A sylwasoch chwi fel y mae hi'n cerdded? Mor chwim a hoenus!
MEISTRES ALVING: Ni thâl hyn ddim, Oswald.
OSWALD Mae 'r peth wedi ei wneud, fel y gwelwch. Ni waeth heb ddywedyd dim yn ei erbyn, bellach. (Daw Regine i mewn a gwydr gwag yn ei llaw). Eisteddwch, Regine.
(Edrych Regine ar Meistres Alving.)
MEISTRES ALVING: Eistedd. (Eistedd Regine ar gadair wrth ddrws yr ystafell fwyta, a'r gwydr gwag yn ei llaw o hyd.) Oswald, pa beth yr oeddit yn mynd i'w ddywedyd am lawenydd bywyd?
OSWALD: Ie, llawenydd bywyd, 'Mam—ychydig a wyddoch am dano yn y tŷ hwn. Ni byddaf byth yn ei brofi yma.
MEISTRES ALVING: Ddim hyd yn oed pan fyddi gyda mi?
OSWALD: Na byddaf byth, pan fwyf gartref. Ond nid ych chwi yn deall hynny.
MEISTRES ALVING: Eto, eto, gobeithiaf y dof i ddeall yn y man—yn awr!
OSWALD Dyna—ie, dyna lawenydd gwaith hefyd. Ie, yr un peth yw hynny, yn y bôn. Ond ni wyddoch ddim am hynny yma chwaith.
MEISTRES ALVING: Hwyrach dy fod yn iawn yn hynny. Oswald, gad i mi glywed rhagor.
OSEWALD: Ie, fy meddwl i yw mai 'r peth a ddysgir i chwi yma yw hyn—mai melltith a barn pechod ydyw gwaith, ac nad yw bywyd ond rhywbeth truenus, ac mai goreu i ddyn po gyntaf y caffo wared o hono.
MEISTRES ALVING: Glyn gofidiau, ie. Ac eto, gwnawn ef yn gywir a gonest.
OSWALD: Ond ni ŵyr pobl draw acw ddim am beth o'r fath. Nid oes yno neb yn credu 'r fath ddysgeidiaeth. Yno, llawenydd digymysg ydyw hyd yn oed braslunio unrhyw beth. Fy mam, oni sylwasoch fod popeth a baentiais i erioed yn tynnu at lawenydd bywyd? Bob amser ac yn gyson ynglyn â llawenydd bywyd. Drosodd acw, ceir goleuni, heulwen, a dydd Sul dilyffethair—a dynion âg wynebau siriol hapus. Felly, y mae arnaf ofn aros gartref yma gyda chwi.
MEISTRES ALVING: Y mae ofn arnat? Rhag pa beth yr ofni yma gyda mi?
OSWALD: Ofni rhag i'r peth sy'n llosgi ynof dorri allan yn anfoesoldeb yma.
MEISTRES ALVING: A wyt ti'n meddwl y gallai hynny ddigwydd?
OSWALD: Yr wyf yn ddigon sicr. Er i ddyn fyw yr un bywyd yma âg acw—eto, nid yr un bywyd yw.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi, wedi gwrando 'n synn, a golwg feddylgar ar ei hwyneb): Bellach, gwelaf gysylltiad pethau â'i gilydd.
OSWALD Beth a welwch?
MEISTRES ALVING: Gwelaf yn awr am y tro cyntaf. Ac yn awr, mi feiddiaf siarad.
OSWALD (gan gyfodi): Fy mam, nid wyf yn eich deall.
REGINE (hefyd wedi cyfodi): Gwell i mi fyned, hwyrach?
MEISTRES ALVING: Nage, aros. Bellach, mi allaf siarad. Bellach, fy mab, cei wybod y cwbl. Ac yna, cei dy ddewis. Oswald! Regine!
OSWALD: Ust. Y gweinidog
MANDERS (gan ddyfod i mewn drwy'r cyntedd): Ha, felly! Cawsom awr deimladwy iawn i lawr acw.
OSWALD Felly ninnau.
MANDERS: Rhaid helpu Engstrand gyda'i gartref i forwyr. Rhaid i Regine fyned gydag ef a'i gynorthwyo
REGINE Na raid, diolch i chwi, syr.
MANDERS (gan sylwi ei bod hi yno): Beth?—Yma? A chyda gwydr yn ei llaw?
REGINE (gan ddodi 'r gwydr heibio yn chwyrn): Maddeuwch—!
OSWALD: Y mae Regine yn myned gyda mi, syr.
MANDERS: Yn myned gyda chwi!
OSWALD: Ie, fel fy ngwraig,—os myn hi hynny.
MANDERS: Ond, Arglwydd trugarog—!
REGINE: Nid arnaf fi y mae'r bai, syr.
OSWALD: Neu hi erys yma-os arhosaf fi.
REGINE (yn siomedig): Yma!
MANDERS: Meistres Alving, yr ydych yn fy arswydo i!
MEISTRES ALVING: Ni ddigwydd y naill na'r llall, canys bellach gallaf siarad yn blaen.
MANDERS: Ond, ni wnewch chwi mo hynny! Na, na, na!
MEISTRES ALVING: Medraf, ac mi wnaf! Ac er hynny, ni syrth unrhyw ddelw chwaith.
OSWALD: Fy mam, pa beth yr ydych yn ei guddio?
REGINE: O, meistres! Clywch! Y mae'r bobl yn gweiddi i lawr acw. (A i'r tŷ gwydr, ac edrych drwy'r ffenestr.)
OSWALD (wrth y ffenestr ar y chwith): Beth sydd o'i le? O ba le y daw 'r goleu acw?
REGINE (yn gweiddi): Mae'r cartref ar dân!
MEISTRES ALVING: Ar dân!
MANDERS: Ar dân? Amhosibl. Yr oeddwn i yno funud yn ôl.
OSWALD Pa le y mae fy het i? Na, mi wnaf hebddi—Cartref coffa fy nhad! (Rhuthra allan drwy ddrws yr ardd.)
MEISTRES ALVING: Rhywbeth i mi dros f'ysgwyddau, Regine! Och, y cynneu y mae!
MANDERS: Ofnadwy!—Meistres Alving, dyma'r farn yn fflamio uwch ben y tŷ cyfeiliornus hwn!
MEISTRES ALVING: Ie, ie, yn ddiameu. Tyred, Regine. (A Regine a hithau allan drwy'r cyntedd.)
MANDERS (gan blethu ei ddwylaw): A'r lle heb ei insiwrio! (canlyna 'r lleill).