Dychweledigion (Ibsen (testun cyfansawdd))
| ← | Dychweledigion (Ibsen (testun cyfansawdd)) gan Henrik Ibsen wedi'i gyfieithu gan Thomas Gwynn Jones |
Pennod Nesaf → |
| I'w darllen act wrth act gweler Dychweledigion (Ibsen) |

CYFRES Y WERIN
Golygyddion:
IFOR L. EVANS.HENRY LEWIS.
RHIF II.
Dychweledigion
Drama Deuluaidd yn dair Act
GAN
HENRIK IBSEN
Troswyd i'r Gymraeg gan
T. GWYNN JONES.
Cyhoeddwyd gan
MORGAN A HIGGS, HEATHFIELD ST., ABERTAWE.
Argraffwyd gan
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF., CAERDYDD.
AT WERIN CYMRU.
Bwriedir y Gyfres hon, a defnyddio geiriau'r Dr. Griffith Roberts yn y Rhagymadrodd i'w Ramadeg a gyhoeddwyd yn 1567, 'i ddyscu, helpu, diddanu, a pherffeiddio gwŷr fy ngwlad ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd.'
Cyfieithir i'r Gymraeg rai o brif glasuron Ewrob, fel y gwelo gwerin Cymru pa beth y mae'r byd yn ei feddwl. Cyhoeddir yn fuan gyfieithiad o rai o straeon goreu'r Ffrancwyr enwog Maupassant a Daudet; ac un o weithiau y Rwsiad Gogol. Hefyd cyhoeddir cyfieithiad o waith enwog Gerallt Gymro, Taith drwy Gymru.
Os ceir cefnogaeth i'r Gyfres, parheir i roi diwyg Gymraeg i gynhyrchion prif feddyliau cenhedloedd y byd—y Tsechiaid, y Rwsiaid, yr Eidalwyr, yr Ysbaenwyr yn wir, pob dim a fae a ffrwyth yntho,' hyd y gellir.
Copi yw'r wyneb-ddalen o honno sydd ar y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg, sef [[Yny lhyvyr hwnn|'Yn y lhyvyr hwnn' gan Syr John Prys, a ymddangosodd yn 1546.
CYFRES Y WERIN II
Dychweledigion
Drama Deuluaidd yn
dair Act
GAN
HENRIK IBSEN
Troswyd i'r Gymraeg gan
T. GWYNN JONES.

RHAGAIR.
Ganed Henrik Ibsen yn Skien, tref fechan yn Norwy, yn y flwyddyn 1858. Yn ei amser ef, yr oedd Norwy dan yr un goron â Sweden, ond daeth ei llenyddiaeth a'i diwylliant o Ddenmarc. Cymerth Ibsen ran yn gynnar yn y mudiad a geisiai annibyniaeth i'w wlad, ac iawn ddatblygiad ei genedl. Yr oedd yn wladgarwr mawr, ac yn eang iawn ei syniadau'r un pryd. Bu ar y cyntaf ynglŷn â chwaraedy yn nhref Christiania, ond aflwyddiant fu hwnnw. Bu Ibsen fyw am flynyddoedd lawer wedi hynny yn yr Eidal a'r Almaen. Yn ystod yr amser hwn enillodd ei weithiau iddo glod yr holl fyd llenyddol, a llwyddodd, gyda'i gyfoeswr Björnson i ffurfio llenyddiaeth genedlaethol, a gosod Norwy ar y blaen ymhlith gwledydd y byd. Bu farw ym mhrif ddinas Norwy, yn y flwyddyn 1906, yn hen wr adnabyddus a berchid gan bawb.
Dyn galluog, dyn eofn, dyn da ydoedd Ibsen—tebycaf gwr, ar lawer cyfrif, i un o'n hen dadau Puritanaidd Cymreig. Prif syniad ei ddysgeidiaeth yw Gonestrwydd. Dengys, gydag effaith ofnadwy, fel y mae ofni 'r gwir a cheisio 'i guddio, hyn yn oed gydag amcan da ac yn enw dyledswydd, yn magu celwydd, rhagrith ac anfoesoldeb, nad oes ddianc rhag eu lyniadau. Wedi darllen neu weled chwarae drama fel "Dychweledigion," odid nad arbedir llawer rhag yr hoced ofer a'r anwybodaeth hurt sy'n arwain i ddinistr mor ddychrynllyd. Dyweded rhagrith cymdeithasol a ddywedo, ni ddangosodd neb erioed megys y gwnaeth Ibsen mor anfeidrol salw ac atgas yw anonestrwydd ac Ac nid gwers i'r ieuanc yn ei anwybod yn unig yw hon chwaith, eithr lawn cymaint â hynny, i'r canol oed a'r hen yn eu dichell a'u trachwant.
"DYCHWELEDIGION."
Y teitl yn y Norwyeg yw "Gjengangere," yr un peth a "Revenants" yn Ffrangeg, sef ysbrydion neu ddrychiolaethau wedi dychwelyd ac yn cerdded eu hen lwybrau yn y byd. Gwn yr arferir "cerdded," mewn rhai tafodieithoedd am ystranciau tybiedig ysbrydion felly, ond ni chlywais erioed enw Cymraeg dealladwy arnynt, er y credaf y gallai fod yr hen eiriau "gwyllon" a "thremyniaid" yn cynnwys yr ystyr. Eto, annealladwy a fuasai pob un o'r rheiny. Gwir yw fod "dychweledigion" wedi mynd yn y ganrif ddiweddaf i olygu rhai wedi troi at grefydd, ac y mae hynny i ryw fesur yn erbyn ei arfer mewn ystyr arall. Eto, yn niffyg ei well, tybiaf nad digon yr arferiad hwnnw i beri gwrthod y gair yn y cysylltiad hwn. Y mae 'n sicr yn well na "Gespenster" a "Ghosts," a arferwyd yn y cyfieithiadau Almaeneg a Saesneg. Ceisiais droi'r ddrama i Gymraeg naturiol a dealladwy, heb ymadael mewn modd yn y byd oddiwrth feddwl yr awdur, ac heb amcanu cyfaddasu'r enwau. Os darllenir ac OS chwareuir hi, bydd glendid moes a chelfyddyd lenyddol Cymru ar eu mantais, yn ddiameu.
T. G. J.
- 16 Ionawr, 1920.
Y PERSONAU:
MEISTRES HELENE ALVING, gweddw 'r Capten Alving.
OSWALD ALVING, Paentiwr, ei mab.
Y GWEINIDOG MANDERS.
JACOB ENGSTRAND, Saer.
REGINE ENGSTRAND, morwyn yng ngwasanaeth Meistres Alving.
Digwydd y cwbl ym mhlasdy Meistres Alving, ar lan morgainc fawr yng ngorllewin Norwy.
YR ACT GYNTAF.
Ystafell helaeth; drws yn y pared chwith, a dau yn y de. Bwrdd crwn ar ganol yr ystafell, a chadeiriau wrtho; llyfrau, cylchgronau a phapurau newyddion ar y bwrdd. Ffenestr ar y chwith y tu blaen, soffa fechan yn ei hymyl, a bwrdd bychan ger llaw. Y pen draw ar lun tŷ blodau bychan, agored, a therfynau gwydr rhyngddo ag allan. Ar ochr dde 'r ystafell, drws yn arwain i'r ardd oddi allan. Drwy'r tŷ gwydr, gwelir morlan ddu, a glaw trwm yn ei lled guddio.
Saif Engstrand y Saer fry yn niws yr ardd. Ei goes chwith braidd yn grom; esgidiau pren am ei draed. Regine, a phiser gwag yn ei llaw, yn ei rwystro rhag dyfod ymhellach.
REGINE (dan ei llais): Beth fynnech chi? Cedwch draw. Yr ydych yn wlyb diferol.
ENGSTRAND: Dim ond glaw yr Hollalluog, fy mhlentyn.
REGINE: Glaw 'r gŵr drwg, meddaf i!
ENGSTRAND: Y tafod sydd gennyt, Regine! (Daw gam neu ddau i mewn) Ie, dyma oedd ar fy meddwl i
REGINE Cedwch ych traed yn llonydd, greadur! Y mae'r gŵr bonheddig ifanc yn cysgu uwch ben.
ENGSTRAND: Yn cysgu uwch ben? Ganol dydd glân gloew fel hyn?
REGINE: Pa waeth i chi am hynny?
ENGSTRAND: Mi fum neithiwyr mewn gwledd
REGINE: Mi gredaf yn rhwydd.
ENGSTRAND: Do, y mae rhyw wendid ynom ni, ddynion, fy ngeneth i
REGINE Ar fy ngair, y mae!
ENGSTRAND: — —a llawer temtasiwn sydd yn y byd hwn, wyddost—; ac eto, yr oeddwn i—Duw a'i gŵyr—wrth fy ngwaith fore heddyw am hanner awr wedi pump.
REGINE: Da iawn, da iawn, gresyn oedd ei adael fel hyn. Ni feddaf i mo'r amser at ryw rendezvous â chi yma.
ENSTRAND: Ni feddi mo'r amser i beth?
REGINE Ni feddaf fi mo'r amser i'w golli gyda chi. Felly, gwadnwch hi oddi yma!
ENGSTRAND (gan ddynesu ddau gam): Ar f'enaid i, nid af ymaith heb gael siarad â thi. Ganol dydd heddyw, mi fyddaf wedi gorffen fy ngwaith yn yr Ysgoldy yna, ac wedyn, mi fyddaf yn mynd adref heno gyda 'r llong.
REGINE (yn murmur): Gwynt teg i chi!
ENGSTRAND: Diolch i ti 'ngeneth i.—Yfory, byddant yn agor y Cartref yna, ac y mae'n debyg y bydd digonedd o ddiod i'w gael, weli di. Ond, ni chaiff neb edliw i Jacob Engstrand na fedr ef ddim gwrthod, pan fo galw am hynny.
REGINE: O ho!
EGNSTRAND: Ie, ac yfory, bydd yma lawer o bobl ynghyd. Disgwylir y Gweinidog, Manders, hefyd oddi acw.
REGINE Y mae ef yn dyfod heddyw.
ENGSTRAND: Felly, mi wyddost. Ac am hynny, mi ddeelli na rof i iddo gyfle yn y byd i redeg arnaf eto.
REGINE: Ai felly y mae'r gwynt yn chwythu?
ENGSTRAND: Pa wynt?
REGINE (gan graffu arno): Pa gast y mynnech chi ei chware â'r gweinidog Manders y tro hwn?
ENGSTRAND: Yn araf deg! Yn araf deg! A wyt ti o'th gof? Pa gast a chwareuwn i âg ef? O, na, bu'r Gweinidog yn rhy garedig lawer ataf i. Ond, weli di, mi fynnwn siarad â thi, er mwyn i mi fedru mynd adref heno.
REGINE: O'm rhan i—goreu bo cyntaf.
ENGSTRAND: Ie, ond yr wyf am dy gael di i'm canlyn, Regine.
REGINE: (yn synn): Fy nghael i i'ch canlyn? Beth yw'ch meddwl?
ENGSTRAND: Fy mod am dy gael i'm canlyn adref.
REGINE (gyda dirmyg): Na ddof, ni ddof i byth i'ch canlyn!
ENGSTRAND: O, cawn weled hynny eto!
REGINE Cawn; byddwch sicr y cawn weled. Myfi, wedi byw yma gyda Meistres Alving? Myfi, wedi bod yma fel un o'r teulu, megis? Myfi, fynd gyda chwi adref? A'r fath gartref? Pw!
ENGSTRAND: Beth gebystr yw hyn? A wrthodi di dy dad, eneth?
REGINE (yn isel, heb edrych arno): Llawer tro y dywedasoch nad wyf yn perthyn dim i chwi.
ENGSTRAND: Pw! Pa waeth i ti hynny?
REGINE: Pa sawl gwaith y buoch yn fy sarhau, ac yn dywedyd nad oeddwn ond? Pw!
ENGSTRAND: Na, na, nid arferais i erioed air mor atgas.
REGINE: O, mi wn yn eithaf da pa air a arferech.
ENGSTRAND: Ie, hm! Pan fyddwn yn fy mreci y byddai hynny. Ac y mae cymaint o demtasiynau yn y byd hwn, Regine.
REGINE Y mae arnaf ofn fod!
ENGSTRAND: Ac ni ddigwyddai hynny ond pan fyddai dy fam yn flin. Byddai raid i mi gael rhywbeth i'w phoeni hi, 'ngeneth i. Byddai bob amser mor fawreddog. (Gan ddynwared). "Gad i mi, Engstrand! Gad lonydd i mi. Myfi, fu am dair blynedd yn gwasanaethu gyda'r Capten Alving yn Rosenvold!" (Gan chwerthin). Duw fo'n gwarchod! Ni fedrai hi byth anghofio gwasnaethu 'r gŵr mawr yma!
REGINE: Fy mam, druan!—Ni buoch fawr o dro yn ei phoeni i farwolaeth.
ENGSTRAND (gan ymsythu): O, naddo, debyg iawn! Arnaf i y bydd y bai bob amser.
REGINE (braidd yn is, gan droi draw): Ah!—a dyna 'r goes, wedyn!
ENGSTRAND: Beth a ddywedaist, eneth?
REGINE: Pied de mouton.
ENGSTRAND: Ai Saesneg yw hynny?
REGINE: Ie.
ENGSTRAND: Ie, ie; cefaist dy ddysg yma, do, do, a bydd hynny yn fantais fawr i ni, Regine.
REGINE (wedi ychydig ddistawrwydd): Beth yw'ch amcan, ynteu, yn ceisio fy nghael i i'r dref?
ENGSTRAND: Ai gofyn yr wyt ti beth a fynn tad â'i unig blentyn? Onid wyf i yn weddw ac ar fy mhen fy hun?
REGINE: Dyna ddigon o ryw ragrith fel yna! Pam y mynnech fi oddiyma?
ENGSTRAND: Wel, dylit ddeall fod gennyf rywbeth newydd mewn golwg.
REGINE: Yr ydych wedi ceisio lawer gwaith o'r blaen, ond i'r gwellt yr aeth hi bob tro.
ENGSTRAND: Felly y bu; ond y tro hwn, mi synni, Regine!—Diawl a'm 'sgubo i
REGINE (gan daro'i throed yn y llawr): Dim tyngu yma!
ENGSTRAND: Taw, taw! 'Rwyt ti yn dy le, yn hynny, 'ngeneth i! Mi fynnwn ddywedyd wrthyt, ynteu, fy mod wedi rhoi tipyn o arian o'r neilltu tra bum yn gweithio ar y Cartref newydd yma.
REGINE: Yn wir? Wel, dyna lwc i chi.
ENGSTRAND: Ond sut y gall dyn ddodi ei arian i ddodwy mewn lle fel hyn?
REGINE: Wel, ac wedyn?
ENGSTRAND: Ie, weli di, mi feddyliais am roi'r arian mewn rhywbeth a dalai i mi. Tafarn ar gyfer pobl y môr
REGINE: Pw! Twt!
ENGSTRAND: Tafarn dan gamp, wyt ti 'n deall: nid rhyw gaban i longwyr cyffredin. Nage, myn f'einioes i—tŷ fydd hwn ar gyfer capteiniaid a swyddogion—a phobl felly, wyt ti 'n deall?
REGINE: A pha beth a wnawn i yno?
ENGSTRAND: Helpu, debyg iawn. Dim ond o ran golwg, fel y mae'n hawdd iti feddwl. Diawch, fydd hi ddim yn galed arnat ti, 'ngeneth i. Cei wneud fel y mynnech di.
REGINE: Debyg iawn, wir!
ENGSTRAND: Ond rhaid i ni gael ystafell ar gyfer merched yn y tŷ, y mae hynny cyn gliried â'r dydd. Ac yna, bydd yno le o'r goreu fu 'rioed gyda'r nos, rhwng canu a dawnsio, a phethau felly. Deall di yn awr, bydd yno bobl sy'n hwylio ar hyd a lled y byd. (Dynesa ati.) Paid â bod yn ffol yn awr, Regine, a phaid â sefyll yn d' oleuni dy hun. Beth a dâl iti aros yma? A fydd hynny o ryw les yn y byd i ti, a'r wreigdda Alving yma wedi gadael iti ddysgu cymaint? Mi glywais y byddi 'n mynd i'r Cartref newydd yma gyda'r plant. A fydd hynny yn rhywbeth iti, tybed? A wyt ti mor awyddus a hynny am ymboeni ynghylch y taclau budron?
REGINE: Nag ydwyf; pe digwyddai 'r peth a fynnwn i,—yna—Hwyrach y daw hynny! Hwyrach y daw hynny!
ENGSTRAND: Hwyrach y daw pa beth?
REGINE Ni waeth i chi ba beth. A ydych wedi cynilo llawer o arian yma?
ENGSTRAND: A rhoi 'r cwbl gyda'i gilydd, fe allai fod gennyf o dri i bedwar cant o bunnau.
REGINE: Go lew hynny!
ENGSTRAND: Digon i'w rhoi ar dro, 'ngeneth i.
REGINE: A oeddych yn meddwl ynteu am roi peth o'r arian i mi?
ENGSTRAND: Na, Duw a'i gŵyr, feddyliais i ddim am hynny, naddo.
REGINE Roech chi ddim unwaith gymaint a rhyw gerpyn o ddillad imi?
ENGSTRAND: Tyred gyda mi i'r dref yn awr, a chei gymaint o ddillad âg a fynni!
REGINE: Ach! Pe bai arnaf chwant am bethau felly, mi a'u gwnawn a'm llaw fy hun.
ENGSTRAND: Na, gweddai hynny yn well i law tad, Regine. Mi allaf eto gael tŷ bychan glanwaith yn Heol y Porth Bach. Ni raid wrth lawer o arian parod at hynny, a gallwn godi math o Gartref i forwyr, weli di?
REGINE: Ond nid af i ddim i'ch canlyn! Nid oes a fynnwyf â chi. I ffwrdd â chi!
ENGSTRAND: Diawl gwyllt! Nid hir y byddit ti gyda mi, 'ngeneth i. Ac yno, waeth heb! Pe gwyddit sut i ymddwyn. A thithau mor landeg âg yr wyt ers blwyddyn bellach
REGINE: Yn awr?
ENGSTRAND: Dôi yno swyddog cyn bo hir— ie, capten, fe allai
REGINE: Ni phriodwn i un o'u bath. Nid oes gan bobl y môr ddim savoir vivre.
ENGSTRAND: Ddim beth?
REGINE: Mi adwaen bobl y môr, meddaf. Nid dynion i'w priodi ydynt hwy.
ENGSTRAND: Gad i'r priodi, ynteu. Mi dâl y peth mewn ffordd arall. (Yn gyfrinachol). Dyna i ti—y Sais—oedd ar y llong bleser—talodd hanner canpunt; ac nid oedd hi ddim tlysach na thithau.
REGINE (gan symud tuag ato): Allan â chi.
ENGSTRAND (gan gilio): Aros, aros; a drewit fi?
REGINE GWnaf! Os soniwch am fy mam, mi 'ch trawaf. Allan â chi, meddaf! (Gyrr ef allan drwy ddrws yr ardd) A pheidiwch â chlecian y drws; y mae 'r gŵr ieuanc, Meistr Alving
ENGSTRAND: Yn cysgu, ydyw, mi wn. Syndod mor ofalus wyt ti am y gŵr ieuanc Alving (Yn isel.) Ho ho, nid ef yw'r dyn wedi 'r cwbl?—ef—?
REGINE: Allan! ac ar frys! Rhaid eich bod o'ch cof, ddyn! Nage, nid y ffordd yna. Dacw Manders y Gweinidog yn dyfod. I lawr hyd risiau'r gegin â chi!
ENGSTRAND (tua'r dde): Ie, ie, mi af rhag blaen. Ond siarad di âg ef, y gŵr sy'n dyfod. Dyna'r dyn a ddyfyd wrthyt pa beth yw dyled plentyn i'w dad. Ac unwaith eto, mi yw dy dad, wyddost. Mi allaf brofi hynny o lyfr y plwyf. (A allan drwy'r ail ddrws, Regine yn ei agor iddo, a'i gau ar ei ol.)
Edrych Regine yn frysiog yn y drych, sych ei hwyneb a'i chadach poced, tynha 'i chadach gwddf; ynd, ymbrysura gyda'r blodau eto.
MANDERS Y GWEINIDOG (a'i gôt uchaf amdano, glawlen yn ei law, côd fechan wrth gengl dros ei ysgwydd, yn dyfod i mewn drwy ddrws yr ardd i'r tŷ gwydr): Dydd da, Miss Engstrand.
REGINE (gan droi'n llawen ac mewn syndod ato): O! ai chwi sydd yna? Dydd da, Barchedig Syr! Y mae'r llong, ynteu, wedi cyrraedd?
MANDERS: Eisoes wedi glanio. (Daw i'r ystafell) Y mae'r glaw diddiwedd yma yn flin iawn.
REGINE: (gan ddynesu alo): Ond y mae'n dywydd iawn i bobl y tir, syr.
MANDERS: Ydyw, yn hynny yr ydych yn eich lle, yn sicr. Yr ydym ni, bobl y dref, yn dueddol i anghofio (gan droi i dynnu ei got).
REGINE: Oni allaf helpu? Dyna fo!—Ach, mor wlyb yw hi! Mi a'i dodaf yn y cyntedd. A'r ymbarel eto—gadewch i mi ei hagor fel y sycho. (A allan gyda'r pethau drwy'r ail ddrws i'r dde. Cymer y gweinidog y gôd a dyd hi gyda'i het ar gadair. Daw Regine yn ei hol.)
MANDERS: Ha, dyna rywbeth, cael to a chlydwch eto. Wel, a ydyw popeth yn iawn yma?
REGINE: Ydynt, diolch i chwi.
MANDERS: Ond fod digon i'w wneud y bore, onid oes?
REGINE: O, oes, y mae rhywbeth neu gilydd yn galw o hyd.
MANDERS: Ac y mae Meistres Alving gartref, mi dybiaf?
REGINE Ydyw, ydyw; y mae hi ar hyn o bryd i fyny yn y llofft, wedi mynd â chwpanaid o de i'r mab.
MANDERS: O, ie, dywedwch i mi—clywais ar y lanfa fod Oswald wedi dyfod adref.
REGINE: Do, daeth echdoe. Heddyw yr oeddym yn ei ddisgwyl i ddechreu.
MANDERS: Ac y mae'n iach lawen, mi obeithiaf?
REGINE Ydyw, diolch i chwi. Ond ei fod wedi blino yn arw ar y daith, achos trafaeliodd yr holl ffordd o Baris yma heb aros yn unman—yr wyf yn meddwl, yn wir, na newidiodd mo'i draen unwaith ar hyd y ffordd. Felly, y mae 'n cysgu ychydig, ac am hynny rhaid i ninnau beidio â chodi 'n lleisiau.
MANDERS: Ar bob cyfrif, yn isel, isel.
REGINE (gan symud cadair): Onid eisteddwch chwi, syr, a'ch gwneud eich hun yn gysurus? (Eistedd yntau. Dyd hithau ystôl dan ei draed). Dyna fo. A yw popeth yn iawn, syr?
MANDERS: Diolch! Diolch; mi eisteddaf yma yn gyfforddus. (Edrych arni.) A wyddoch chwi, Miss Engstrand, credaf eich bod wedi tyfu er pan welais chwi ddiweddaf.
REGINE: A gredwch chwi, Syr? Dywed y feistres garedig yma hefyd fy mod yn gryfach.
MANDERS: Yn gryfach? Ydych, hwyrach, ychydig;—llawn ddigon. (Seibiant byrr.)
REGINE: A gaf i alw ar Meistres Alving?
MANDERS: Diolch, diolch, nid oes frys, fy ngeneth i.—Wel, dywedwch i mi, Regine, pa fodd y mae eich tad yma?
REGINE: Diolch i chwi, syr, y mae yn lled dda.
MANDERS: Y tro diweddaf y bu yn y dref, daeth i edrych amdanaf.
REGINE Yn wir? Bydd yn falch iawn bob amser gael siarad â'r gweinidog.
MANDERS: Ac mi fyddwch chwithau yn galw i edrych amdano yn aml yma?
REGINE: Myfi?—Byddaf, wrth reswm, pan fo gennyf hamdden.
MANDERS: Nid yw'ch tad yn ddyn cadarn iawn, Miss Engstrand. Y mae arno angen arbennig am law i'w arwain.
REGINE: Oes, oes, rhaid i minnau ei rhoi iddo!
MANDERS: Rhaid cael rhywun yn agos ato, rhywun a garo ef, ag y rhoddo bwys ar ei farn. Cyffesodd hynny yn onest ddigon wrthyf y tro olaf y bu acw.
REGINE: Ie, soniodd am yr un peth wrthyf innau hefyd. Ond ni wn i a fedr Meistres Alving wneud hebof, yn enwedig yn awr, a'r holl waith gyda'r Cartref newydd o'n blaenau. Ac at hynny, mi fydd yn anodd iawn i mi ei gadael hi, a hithau wedi bod mor dda wrthyf erioed.
MANDERS: Ond dyletswydd plentyn, fy ngeneth i. Wrth reswm, rhaid i ni yn gyntaf gael barn eich meistres.
REGINE: Wn i ddim a weddai i mi—yn yr oed yma—edrych ar ôl tŷ dyn o'i fath ef.
MANDERS: Ond, Miss Engstrand annwyl, am eich tad eich hunan yr ydym yn sôn!
REGINE: Ie, purion,—ac eto,—pe bawn i mewn tŷ da, a chyda dyn gweddus
MANDERS: Ond, Regine annwyl
REGINE:dyn y byddai gennaf ymddiried ynddo, ac y gallwn edrych ato fel tad
MANDERS: Ie. Ond, fy mhlentyn annwyl i
REGINE Yna, mi allwn yn hawdd fynd i'r dref. Y mae hi, yn wir, yn unig ofnadwy yma,—ac mi wyddoch chwi, syr, beth yw bod yn unig yn y byd. Mi allaf ddywedyd ar fy ngwir fy mod i yn barod a diwyd, ac o'r goreu o ran ewyllys. Oni wyddoch chwi am ryw le felly i mi, syr?
MANDERS: Myfi? Na wn, yn wir.
REGINE: Ond, Meistr Manders annwyl, cofiwch amdanaf, syr, pe bai—pe bai
MANDERS (gan gyfodi): Wrth reswm, mi gofiaf, Miss Engstrand.
REGINE: Ie, ac yna, pe bawn
MANDERS: Onid ewch chwi i alw ar Meistres Alving?
REGINE: Mi ddaw yn union, syr (gan fyned allan i'r chwith).
MANDERS (gan roi tro neu ddau o gwmpas yr ystafell: saif am ennyd yn y pen draw, a'i ddwylaw ar ei feingefn, gan edrych i'r ardd draw. Yna, daw yn ei ol at y bwrdd, cymer lyfr yn ei law ac edrych ar y teitl, rhydd dro sydyn, edrych ar y llyfr drachefn): Hm,-ie, ie! (Daw Meistres Alving i mewn drwy'r drws chwith. Daw Regine ar ei hol, ac a allan rhag blaen drachefn drwy'r drws de.) Dydd da, Meistres Alving. Dyma fi, fel yr addewais.
MEISTRES ALVING: Yn union fel yr oeddych yn addo—i'r funud!
MANDERS: Ond, credwch fi, yr oedd yn anodd iawn gennyf ddyfod. Y mae'r holl ddyletswyddau a'r galwadau pwysig sydd arnaf
MEISTRES ALVING: Caredicaf yn y byd oedd arnoch ddyfod mor gynnar. Eto, fedrwn ni ddim rhoi sylw i bethau cyn cinio. Ond pa le y mae 'ch bag chi?
MANDERS (yn frysiog): O, mae'r pac i lawr yn y siop. Yno yr wyf am fwrw 'r nos.
MEISTRES ALVING (gan fygu chwerthiniad): Oes dim modd eich darbwyllo eto 'r tro yma i fwrw'r nos yn fy nhŷ i?
MANDERS: Na, na, Meistres Alving; diolch yn fawr i chwi; mi arhosaf yno fel arfer. Y mae'r lle mor gyfleus i mi ddal y llong i fynd yn f'ôl.
MEISTRES ALVING: Wel, mi gewch eich ewyllys. Ond mi fuaswn i yn meddwl y buasem ni, sy'n hen bobl bellach, yn ddigon
MANDERS: Duw fo'm gwarchod, mor gellweirus ydych! Ond y mae'n naturiol i chi heddyw fod yn llawenach nag erioed. Ar un llaw, dyna 'r ŵyl yfory—ac ar y llall, dyma Oswald wedi dyfod adref.
MEISTRES ALVING: Ie, meddyliwch mor hapus wy!! Y mae dwy flynedd a throsodd er pan fu o adref o'r blaen. Ac at hynny, addawodd yntau aros yma drwy'r gaeaf gyda mi.
MANDERS: Yn wir? Y mae hynny 'n dda ac yn garedig iawn arno. Ac y mae'n sicr fod bywyd yn Rhufain a Pharis yn denu llawer mwy arno na'r bywyd tawel sydd yma.
MEISTRES ALVING: Ydyw, ond welwch chi, yma, y mae gyda 'i fam! O, fy machgen annwyl—y mae o yn hoff o'i galon o'i fam!
MANDERS: Ydyw, debyg iawn, peth rhy drist fyddai meddwl fod y byw ar wahan, a holl swyn celfyddyd, yn ddigon i ladd y teimladau naturiol.
MEISTRES ALVING: Ie, yr ydych yn iawn. Ond, diolch i Dduw, 'does dim perigl gydag Oswald. Yr wyf yn awyddus am weld a fuasech yn ei adnabod eto. Mi ddaw yn union deg; gorwedd y mae, i orffwyso ychydig. Ond, eisteddwch, da chwi, Meistr Manders.
MANDERS: Diolch. A yw 'n gyfleus i chwithau hefyd?
MEISTRES ALVING: O, ydyw! (Eistedd wrth y bwrdd.)
MANDERS: O'r goreu. Yn awr, mi gewch weled (a at y gadair lle gorwedd y gôd, a thyn fwndel o bapurau o honi; eistedd wrth ben arall y bwrdd, a chais le clir i'w bapuran). Dyma i chi yn gyntaf—(ymetyl). Dywedwch i mi, Meistres Alving, sut y daeth y llyfrau hyn yma?
MEISTRES ALVING: Y llyfrau hyn? Llyfrau y byddaf i yn eu darllen ydynt.
MANDERS: A fyddwch chwi yn darllen pethau o'r fath?
MEISTRES ALVING: Byddaf, wrth reswm.
MANDERS: Ac a fyddwch yn teimlo mewn difrif fod darllen y fath bethau yn eich gwneud yn well neu yn ddedwyddach?
MEISTRES ALVING: Byddaf yn teimlo yn dawelach.
MANDERS: Rhyfedd yw hynny. Pa fodd?
MEISTRES ALVING: Wel, am y byddaf yn aml yn cael eglurhad a chadarnhad ar bethau fydd yn rhedeg drwy fy meddwl fy hun. A dyma'r gwir, Meistr Manders,—nid oes dim newydd yn y llyfrau hyn, nid oes ynddynt ddim ond y pethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu meddwl a'u credu. Nid yw 'r hyn sydd ynddynt ond y pethau na fyn y rhan fwyaf o bobl fod yn onest yn eu cylch, neu na fynnant wybod amdanynt.
MANDERS Arglwydd mawr! A gredwch chwi, mewn difrif, fod y rhan fwyaf o bobl?
MEISTRES ALVING: Credaf, yn ddiamau. MANDERS: Ond nid yma, yn ein gwlad ni? Nid yn ein plith ni?
MEISTRES ALVING: O, ie, yn sicr, yma, yn ein plith ni!
MANDERS: Wel, rhaid i mi ddywedyd!
MEISTRES ALVING: Pa beth, ynteu, sydd gennych i'w ddywedyd yn erbyn y llyfrau hyn?
MANDERS: I'w ddywedyd? Ni chredwch fy mod i yn ymdrafferthu i astudio 'r fath bethau drwyddynt.
MEISTRES ALVING: Y mae hynny ynteu, cystal â chyfaddef na wyddoch ddim pa beth yr ydych yn ei gondemnio.
MANDERS: Darllenais ddigon am y pethau hyn fel y gallaf eu condemnio.
MEISTRES ALVING: Ie, ond eich barn chwi eich hun
MANDERS: Wraig annwyl, y mae llawer peth mewn bywyd y mae'n rhaid i ddyn ymddiried i arall amdano. Felly y mae hi am y byd hwn, a da yw hynny. Oni bai am hynny, beth a ddoi o gymdeithas?
MEISTRES ALVING: Ie, ie, hwyrach eich bod yn iawn yn hynny.
MANDERS: At hynny, nid wyf yn gwadu nad allai fod llawer rhagoriaeth ar lyfrau o'r fath. Ni waharddwn i mo honynt ychwaith, pe mynnech wybod am rediad y syniadau sydd i'w cael yn y byd oddi allan, yn ôl a glywaf, y byd y gadawsoch i'ch mab aros ynddo cyhyd. Ond
MEISTRES ALVING: Ond?
MANDERS (gan siarad yn is): Ond ni byddis yn sôn am y pethau hynny, Meistres Alving. Ond, yn ddiau, ni ddylai dyn roddi cyfrif i bawb am yr hyn a fo yn ei fynwes ef ei hun.
MEISTRES ALVING: Na ddylai, yn sicr; dyna fy marn innau hefyd.
MANDERS: Ystyriwch, ynteu, faint o'ch rhwymedigaethau ynglyn â'r Cartref newydd yma sy 'n perthyn i'r safonau oedd gennych pan oedd eich golygiadau ar faterion moesol yn groes iawn i'r hyn ydynt bellach,—hyd y gallaf i farnu.
MEISTRES ALVING: Ie, ie, y mae hynny yn eithaf gwir. Ond, a gawn ni sôn am y Cartref
MANDERS: Ie, soniwn am y Cartref. Ie—doeth iawn! Ac yn awr, awn dros y busnes. (Egyr fundel a thyn rai papurau allan). A welwch y rhai hyn?
MEISTRES ALVING: Ai dyna'r gweithredoedd?
MANDERS: Ie, ac mewn trefn i gyd. Credwch fi, gwaith anodd fu eu cael erbyn yr amser. Bu raid i mi wasgu amdanynt. Y mae'r awdurdodau bron yn boenus o gydwybodol mewn pethau fel hyn. (Gan chwilio ymhlith y papurau). Welwch chwi, dyma 'r weithred yn trosglwyddo'r tir, yn ôl y gyfraith, gyda 'r adeiladau newyddion, yn dai, ysgol, tŷ i'r athrawon, a chapel. A dyma'r gydnabyddiaeth swyddogol. Sylwch, os gwelwch yn dda. (Gan ddarllen). Rheolau Cartref y Plant "Er cof tragywydd am y Capten Alving"—
MEISTRES ALVING (wedi edrych ar y papur): Ie, dyna fo.
MANDERS: Dewisais y teitl Capten yn hytrach nag Ysgwier—y mae'n fwy dirodres.
MEISTRES ALVING: Ie, ie, yn union fel y barnoch.
MANDERS: A dyma lyfr cyfrif yr arian llog, a osodwyd o'r neilltu ar gyfer costau cadw 'r Cartref.
MEISTRES ALVING: Diolch lawer; ond, er mwyn cyfleustra, cedwch chwi 'r arian.
MANDERS: Gyda phleser. Fy meddwl i yw mai goreu i ni, ar y cyntaf, fydd gadael yr arian yn y Banc Cynilo. Nid yw'r llog yn rhyw ddeniadol iawn-pedwar y cant, a chwe mis o rybudd cyn eu codi. Os gallwn ni yn ddiweddarach gael gwell telerau—a rhaid i ni gael pob sicrwydd a diogelwch, wrth reswm—cawn sôn am hynny eto.
MEISTRES ALVING: Cawn, cawn, f'annwyl syr, chwi a ŵyr oreu.
MANDERS: Sut bynnag, mi gadwaf fy llygaid yn agored. Ac yn awr unwaith eto, mynnwn sôn wrthych am un peth arall.
MEISTRES ALVING: A pha beth yw hwnnw?
MANDERS: A fynnech chwi insiwrio 'r adeiladau ai peidio?
MEISTRES ALVING: Rhaid eu diogelu felly, wrth reswm.
MANDERS: Yn araf, araf, ynteu. Ystyriwn y mater dipyn yn fwy gofalus.
MEISTRES ALVING: Mi fyddaf o'm rhan i bob amser yn insiwrio popeth, yr adeiladau a'r dodrefn, yn gystal a'r beudai a'r celfi.
MANDERS: Debyg iawn. Ar eich eiddo 'ch hun. Felly y byddaf innau. Ond, welwch chwi, peth arall yw hyn. Bydd y Cartref, megis, wedi ei gysegru at amcan uwch.
MEISTRES ALVING: Bydd, bydd, ond am hynny
MANDERS; O'm rhan fy hun, wrth reswm, ni welwn i ddim byd o'i le mewn diogelu rhag damwain o bob math.
MEISTRES ALVING: Felly yn union y buaswn innau yn meddwl.
MANDERS: Ond beth fyddai barn y lliaws yn y wlad o gwmpas am hynny? Gwyddoch chwi bethau felly yn well na mi.
MEISTRES ALVING: Hm—llais y—
MANDERS: A oes yma farn gyhoeddus go gref, barn gyhoeddus wirioneddol, felly, y gallem fyned yn ei herbyn?
MEISTRES ALVING: Beth yw'ch meddwl chwi, ynteu, wrth sôn am farn gyhoeddus wirioneddol?
MANDERS: Wel, meddwl yr oeddwn i yn y lle cyntaf am ddynion mewn sefyllfa mor annibynnol a dylanwadol fel na fedrwn ni beidio â rhoddi rhywfaint o bwys ar eu barn.
MEISTRES ALVING: Y mae yma lawer o rai felly, a fuasai 'n myned yn erbyn, hwyrach, pe bai
MANDERS: Dyna hi, mi welwch! Yn y dref, y mae tyrfa o bobl felly. Meddyliwch yn awr am holl ganlynwyr fy nghyd-weinidogion! Byddai yn hawdd i ddyn yn ddifeddwl ddyfod yn erbyn peth fel hyn, pe baem heb ystyried yn ei gylch ymlaen llaw.
MEISTRES ALVING: Ond gyda golwg arnoch chwi, annwyl syr, sut bynnag y bo, fe wyddoch
MANDERS: Gwn, gwn; y mae gennyf argyhoeddiadau fy hun, y mae'n wir. Eto, ni fedrem ni ddim rhwystro pobl rhag rhoi esboniad anghywir a niweidiol ar bethau. A gallai hynny beri llawer o ddrwg i'r Cartref ei hun.
MEISTRES ALVING: Wel, pe bai pethau felly, yna
MANDERS: Heblaw hynny—pethau anhyfryd—ni fedraf i yn hawdd—yn wir, mi allwn fy nghael fy hun mewn sefyllfa boenus iawn. Yng nghylchoedd blaenaf y dref, telir sylw mawr i bwnc y Cartrefi hyn. Cyfodir y Cartref, mewn ystyr, er lles y dref, ac y mae'n ddiau y rhydd lawer o gymorth tuag at ysgafnhau treth y tlodion. Yn gymaint âg mai finnau fu eich cynghorwr, ac a wnaeth y trefniadau drosoch, naturiol i mi ofni mai yn f'erbyn i yn gyntaf y cyfodai eiddigedd a malais.
MEISTRES ALVING: Wel, ni bydd raid i chwi wynebu hynny.
MANDERS: Heb sôn am yr ymosod a fyddai arnaf, yn ddiameu, mewn rhyw bapurach a chyhoeddiadach
MEISTRES ALVING: Dyna ddigon, annwyl Syr; y mae'r ystyriaethau hyn yn ddigon.
MANDERS: Hynny yw, fynnech chwi ddim i ni insiwrio?
MEISTRES ALVING: Na, gadawn iddo.
MANDERS (gan wyro 'n ol ar ei gadair): Ond beth pe digwyddai ryw anffawd? 'Does wybod yn y byd—A allech chwi wedyn gyfarfod y golled?
MEISTRES ALVING: Na allwn. Dywedaf hynny yn blaen. Na allwn, ddim.
MANDERS: Ie, ond wyddoch chwi, Meistres Alving,—yr ydym yn cymryd cyfrifoldeb go fawr arnom ein hunain.
MEISTRES ALVING: A dybiwch chwi ynteu y gallwn ni ddim amgen?
MANDERS: Na, dyna 'r union wir; ni allwn ni ddim amgen. Ni wiw i ni gamarwain neb; ac ni wiw i ni beri dim tramgwydd i'r awdurdodau chwaith.
MEISTRES ALVING: Na wiw, i chwi fel gweinidog, yn sicr.
MANDERS: Yr wyf i hefyd yn tybio y dylem gyfrif bod lwc dda i sefydliad fel hwn—ie, ei fod dan ofal a nawdd arbennig.
MEISTRES ALVING: Gobeithiwn hynny, sut bynnag, Syr!
MANDERS: A adawn ni ynteu i bethau fod felly?
MEISTRES ALVING: Ie, gadawn.
MANDERS: O'r goreu. Fel y mynnoch. (Gan ysgrifennu.) Felly—i fod heb ei insiwrio.
MEISTRES ALVING: Y mae braidd yn beth nodedig eich bod wedi sôn am y mater hwn heddyw
MANDERS Meddyliais lawer gwaith o'r blaen am sôn amdano wrthych
MEISTRES ALVING: A neithiwyr ddiweddaf yn y byd, bu agos i ni gael tân yma.
MANDERS: 'Does bosibl!
MEISTRES ALVING: Dim byd o bwys. Aeth twr o ysglodion ar dân yng ngweithdy 'r Saer.
MANDERS: Yn y lle y mae Engstrand yn gweithio?
MEISTRES ALVING: Ie. Dywed y dynion ei fod ef yn aml yn ddiofal iawn gyda'r goleu.
MANDERS: Y mae ganddo gymaint o bethau yn ei ben,—cymaint o demtasiynau. Diolch i Dduw, fel y clywais, y mae o yn ymdrechu byw yn ddifai yn awr.
MEISTRES ALVING: Yn wir? Pwy a ddywedodd hynny?
MANDERS: Y fo 'i hun a roes sicrwydd i mi. A gweithiwr medrus ydyw hefyd.
MEISTRES ALVING: O, ie, cyhyd âg y bydd yn sobr.
MANDERS: Ie, y gwendid anffodus hwn! Ond dywed fod yn rhaid iddo yfed weithiau, oherwydd ei goes ddrwg. Y tro diweddaf y bu gyda mi yn y dref, teimlais yn ddwfn drosto. Daeth acw i ddiolch i mi am y gwaith a gefais iddo yma, oedd yn rhoi cyfle iddo fod yn agos at Regine.
MEISTRES ALVING: Anaml iawn, ynteu, y bydd yn ei gweled hi.
MANDERS: O, na, bydd yn ei gweled bob dydd, dywedodd hynny wrthyf ei hun.
MEISTRES ALVING: O, wel, fe allai hynny!
MANDERS: Y mae ef yn teimlo yn fawr fod arno eisiau rhywun i'w gadw o fewn terfynau, pan ddaw'r demtasiwn arno. Y peth sy'n peri i ddyn dosturio wrth Jacob Engstrand yw ei fod mor ddiymadferth a'i fod yn achwyn arno 'i hun ac yn cyfaddef ei wendid. Pan oedd acw y tro diweddaf, dywedodd wrthyf—gwrandewch, Meistres Alving,—y buasai 'n llawenydd calon iddo gael Regine eto gydag ef gartref
MEISTRES ALVING: (yn gyffrous): Regine? MANDERS: Ni wiw i chwi fod yn erbyn.
MEISTRES ALVING: O, yn erbyn y byddaf, a'm holl egni. Heblaw hynny, caiff Regine waith yn y Cartref.
MANDERS: Ond, cofiwch mai ef yw ei thad
MEISTRES ALVING: Mi wn yn dda ba fath dad fu ef iddi. Na, nid aiff hi byth yn ei hôl ato, ond ar fy ngwaethaf i.
MANDERS (yn cyfodi): Ond, na chynhyrfwch, da chwi. Truan fel yr ydych yn camddeall Engstrand. Byddai yn wir yn ddrwg gennych
MEISTRES ALVING (yn dawelach): Yr un pryd, cymerais Regine ataf, ac yma yr erys hi. (Gwrendy). Tawn, annwyl Syr, na soniwn ragor am y peth hwn! (Gwen yn goleuo ei hwyneb). A glywch chwi! Y mae Oswald ar y grisiau. Bellach, soniwn amdano ef.
(Daw Oswald Alving i mewn drwy'r drws chwith. Hugan ysgafn amdano, het yn ei law, yntau yn mygu pibell fawr.)
OSWALD (gan sefyll yn y drws): Maddeuwch i mi—tybiais fod rhywrai yn yr ystafell ysgrifennu. (Daw yn nes.) Dydd da, meistr Gweinidog.
MANDERS (gan graffu arno): Ah!—Y mae hyn yn rhyfeddol!
MEISTRES ALVING: Ydyw, beth feddyliech chwi o hono, Meistr Manders!
MANDERS: Mi ddywedwn,—mi ddywedwn—Na, ond ai fo sydd yma mewn gwirionedd?
OSWALD: Ie, syr, mewn gwirionedd—y mab afradlon.
MANDERS: Ond, fy nghyfaill ieuanc annwyl
OSWALD Bellach hefyd, y mab a ddaeth yn ei ôl.
MEISTRES ALVING: Meddwl y mae Oswald am yr amser yr oeddych chwi gymaint yn erbyn iddo fynd yn baentiwr.
MANDERS: Yng ngolwg dyn, dichon llawer cam edrych yn un amheus, ac eto, yn ddiweddarach—Lysgwyd law ag Oswald). Croeso, croeso! Na, f'annwyl Oswald—os caf eich galw eto wrth eich enw bedydd?
OSWALD: Sut amgen y mynnech chwi fy ngalw?
MANDERS: Da iawn. Dyna 'r oeddwn i ar fedr ei ddywedyd, na thybiwch fy mod i yn condemnio celfyddyd yn ddiamod. Na, mi gredaf fod yn yr alwedigaeth honno lawer peth a geidw'r dyn oddi mewn heb ei ddinistrio.
OSWALD: Gobeithiwn fod.
MEISTRES ALVING (gan wenu yn hapus): Mi wn amdano fo, fod ei ddyn oddi mewn yn gystal a'i ddyn oddi allan yn ddigon diogel, edrychwch arno yn awr, Manders.
OSWALD (gan gerdded yn ol a blaen): Ie, ie, f'annwyl fam. Ond gadawn hynny.
MANDERS: Yn awr, mewn gwirionedd,—nid oes amheuaeth am hynny. Ac yr ydych hefyd wedi dechreu gwneuthur enw i chwi eich hun. Byddai'r papurau yn fynych iawn yn canu eich clodydd. Eto, yn ddiweddar, mi dybiaf, ni bu lawer iawn o sôn amdanoch.
OSWALD (gan sefyll yn ymyl y blodau): Ni bum yn abl i baentio rhyw lawer iawn yn ddiweddar.
MEISTRES ALVING: Rhaid hyd yn oed i baentiwr gymryd gorffwys weithiau.
MANDERS: Rhaid, yn sicr. Rhaid iddo felly ei baratoi ei hun, a chasglu nerth at ei waith mawr.
OSWALD Rhaid. 'Mam, a gawn ni ginio cyn bo hir?
MEISTRES ALVING: Ym mhen rhyw gwta hanner awr. Y mae ganddo chwaeth at fwyd, i Dduw y bo'r diolch.
MANDERS: A chwaeth at dybaco hefyd!
OSWALD: Cefais hyd i hen bibell fy nhad fry yn yr ystafell, ac yna
MANDERS: Aha! Dyna hi eto?
MEISTRES ALVING: Pa beth?
MANDERS: Wrth i Oswald ddyfod i mewn yma, a'r bibell yn ei enau, yr oedd yr un ffunud i mi a phe buasai ei dad yn fyw o'm blaen.
OSWALD: Na, yn wir?
MEISTRES ALVING: O, sut y gellwch ddywedyd hynny! Tynnu ar f'ôl i, yn sicr, y mae Oswald.
MANDERS: Ie, ond y mae rhyw dro ar y gwefusau, ar gongl y genau, sy'n peri i ddyn gofio yn ddiameu am Alving—yn enwedig âg yntau'n mygu.
MEISTRES ALVING: Dim o'r fath beth. I'm bryd i, y mae rhyw dro offeiriadol ar enau Oswald.
MANDERS: O, oes, O, oes; y mae'r un tro yn union ar enau amryw o'm cyd-weinidogion.
MEISTRES ALVING: Ond cymer y bibell allan, fy machgen i—ni wiw bod mwg tyba co yma.
OSWALD Rhag blaen. Nid oedd arnaf ond eisieu dwyn ar gof i chwi fy mod unwaith, yn blentyn, wedi bod yn mygu'r bibell hon o'r blaen.
MEISTRES ALVING: Tydi?
OSWALD: Ie. Bychan iawn oeddwn i ar y pryd. Ond yr wyf yn cofio myned at fy nhad i'w ystafell un noswaith, ac yr oedd yntau mor llawen, ac wedi ei blesio gymaint.
MEISTRES ALVING: Taw, nid wyt yn cofio dim am y blynyddoedd hynny.
OSWALD: Ydwyf; yr wyf yn cofio 'n dda fel y cymerodd fi ar ei lin, ac y gadawodd i mi fygu'r bibell. "Myga, fachgen," meddai, myga, fel dyn!" A mygais innau â'm holl egni, hyd nes teimlo fy mod yn wyn yn fy wyneb, a'r chwys yn ddafnau breision ar fy nhalcen. A chwarddai yntau yn galonnog
MANDERS Felly y byddai yn union.
MEISTRES ALVING: Annwyl syr, wedi breuddwydio y mae Oswald.
OSWALD Nage, fy mam, nid breuddwyd na dim tebyg. Yna—onid ydych yn cofio hynny?—daethoch chwithau yno, a'm cymryd ymaith i'r ystafell fagu. Yno, euthum yn sal, a sylwais eich bod chwithau yn wylo.—A fyddai fy nhad yn gwneud rhyw gastiau felly yn aml?
MANDERS: Yn ei ieuenctid, dyn rhyfeddol am ddigrifwch ydoedd
OSWALD: A gwnaeth gymaint yn y byd yma. Cymaint o ddaioni a lles—ac eto, nid oedd yn hen!
MANDERS: Ie, f'annwyl Oswald Alving, yr ydych mewn gwirionedd wedi etifeddu enw dyn da a theilwng. Gobeithio y bydd hynny yn symbyliad i chwi
OSWALD: Mi fydd felly, yn wir.
MANDERS: Sut bynnag, ffodus iawn oedd i chwi ddyfod adref erbyn diwrnod y coffau amdano.
OSWALD: Ychydig y gallaf i ei wneud er ei fwyn er hynny.
MEISTRES ALVING: Y goreu yw y caf ei gadw yma cyhyd eto.
MANDERS: Ie, yn ôl fel y clywaf, yr ydych yn bwriadu aros gartref drwy 'r gaeaf.
OSWALD Arhosaf yma ni wn i ba hyd, syr—Ah! da yw bod adref eto!
MEISTRES ALVING: Ie, onid e, fy machgen?
MANDERS (gan edrych yn dyner arno): Aethoch yn gynnar allan i'r byd, f'annwyl Oswald.
OSWALD: Do, yn wir. Weithiau, byddaf yn meddwl fy mod wedi mynd yn rhy gynnar.
MEISTRES ALVING: O, naddo. Ni wna hynny ond lles i fachgen iach a gweithgar. Ac yn enwedig i'r sawl a fo'n unig blentyn. Ni ddylai hwnnw aros gartref gyda'i dad a'i fam, a chael ei andwyo.
MANDERS: Dyna fater y gellid dadleu arno, Meistres Alving. Y cartref yw ac a fydd y lle priodol a'r cysgod goreu i blentyn.
OSWALD: Yn hynny o beth, rhaid i mi ddywedyd fod y gweinidog yn union yn ei le.
MANDERS: A welwch chwi, yn awr, beth yw meddwl eich mab eich hun? Gallwn, gallwn yn Pa beth yw'r rhwydd sôn am ei ddyfodol. canlyniadau i fod iddo? Y mae ef o chwech i saith ar hugain oed bellach, ac ni chafodd erioed gyfle i ddysgu adnabod cartref trefnus.
OSWALD Gyda 'ch cennad, syr—yr ydych yn methu yn awr.
MANDERS: Ai ê? Yr oeddwn i yn meddwl mai ymhlith pobl y gelfyddyd yma y buoch yn troi.
OSWALD Y mae hynny yn wir hefyd.
MANDERS: Ac felly, y rhan fwyaf, gyda phobl ieuainc, mi dybiaf.
OSWALD: Ie, y mae 'n wir.
MANDERS: Ond, mi dybiwn na byddai gan y rhan fwyaf o'r bobl hyn ddim moddion i sefydlu teulu a chael cartref iddynt eu hunain.
OSWALD: Yn ddiameu, y mae llawer o honynt heb ddigon o arian i fedru priodi.
MANDERS: Dyna 'n union yr hyn a ddywedwn innau.
OSWALD: Ond er hynny, gellwch gael Cartref. Ac felly y bydd gan ambell un; a chartref trefnus a chysurus iawn hefyd.
(Gwrendy Meistres Alving yn aiddgar, nodia weithiau, ond ni ddywed air.)
MANDERS: Ond nid sôn yr oeddwn i yn awr am ryw gasgliad o bobl ieuainc felly. Wrth sôn sam gartref, am gartref teulu yr wyf i yn meddwl, lle bo gŵr a'i wraig a'i blant yn byw.
OSWALD: Ie, neu ŵr a'i blant a mam ei blant.
MANDERS (gan gyffroi a tharo ei ddwylaw yn ei gilydd): Arglwydd trugarog
OSWALD Beth sydd?
MANDERS: Byw gyda'i gilydd gyda mam ei blant!
OSWALD: Ie! Neu a fyddai well iddo droi mam ei blant ymaith?
MANDERS: Sôn yr ydych ynteu am gysylltiadau anghyfreithlon! Am y pethau a elwir yn briodasau gwylltion?
OSWALD: Ni welais i erioed ddim byd gwyllt iawn ym mywyd y bobl hyn gyda'i gilydd.
MANDERS: Ond sut y mae'n bosibl i—i ddyn gweddol gywir, neu ferch ieuanc fo'n ei pharchu ei hun, fyw fel hyn—a hynny yng ngŵydd pawb!
OSWALD: Ond beth a wnant? Paentiwr ifanc, tlawd,—geneth ifanc, dlawd. Costiai lawer o arian iddynt pe mynnent briodi. Pa beth a wnant, ynteu?
MANDERS: Pa beth a wnant? Wel, Meistr Alving, mi ddywedaf i chwi pa beth y dylent ei wneud. Dylent o'r dechreu ymgadw ar wahan, dyna a ddylent.
OSWALD: Ni byddai nemor werth ar siarad fel yna wrth bobl ieuainc a'u gwaed yn boeth, ac a fo'n caru ei gilydd.
MEISTRES ALVING: Na, ni byddai nemor werth!
MANDERS: A bod yr awdurdodau yn goddef y fath beth! Y gellir gwneud y fath beth yn gyhoeddus! (Saif o flaen Meistres Alving.) Yn awr, onid oedd wir achos i mi fod yn bryderus am eich mab? Mewn cylchoedd lle goddefir anfoesoldeb agored, ac y mae hyd yn oed y gyfraith yn gadael iddo—
OSWALD Mi ddywedaf rywbeth wrthych, syr. Byddwn yn ymweled bob dydd Sul â theuluoedd felly
MANDERS: A hynny hefyd ar ddydd Sul!
OSWALD: Debyg iawn. Dyna 'r dydd y gall dyn ddifyrru tipyn arno ei hun. Ond ni chlywais i erioed yn eu mysg air amhriodol, ac ni welais ond ychydig erioed o ddim y gallai dyn ei alw yn anfoesoldeb. Naddo; a wyddoch chwi ba bryd ac ym mha le y cefais i hyd i anfoesoldeb yn y cylchoedd hyn?
MANDERS: Na, diolch i Dduw, ni wn i ddim.
OSWALD Felly, mi fyddaf mor hy a dywedyd wrthych. Mi a'i gwelais pan fyddai un neu arall o'r gwŷr priod a'r tadau, a osodir allan fel patrwm i bobl, wedi dyfod acw i weled ychydig trostynt eu hunain—yna, bydd y paentwyr yn cynnyg eu cymryd gyda hwy i'r gwahanol dafarnau lle'r ant eu hunain. Dyna 'r pryd y dysgwn ni bethau! Gall y gwŷr bonheddig hyn sôn wrthym am bethau a lleoedd na byddwn ni erioed wedi breuddwydio amdanynt.
MANDERS: Beth? A feiddiwch chwi mewn difrif ddywedyd fod gwŷr priod oddi yma yn myned?
OSWALD: Oni chlywsoch chwi erioed ynteu mo 'r gwŷr priod hyn, ar ol dyfod adref, yn sôn am ddirfawr anfoesoldeb gwledydd estron?
MANDERS: Do, debyg iawn
MEISTRES ALVING: Clywais innau hynny hefyd.
OSWALD: Ie, gellir, yn hawdd dderbyn eu gair. Y maent weithiau yn bobl brofiadol! (Gan wasgu ei ddwylaw ar ei ben.) O—y bywyd glân, rhydd acw,—fod yn rhaid pardduo cymaint arno!
MEISTRES ALVING: Ni wiw iti gynhyrfu cymaint arnat dy hun, Oswald, y mae hynny yn peri drwg i ti.
yn
OSWALD: Yr ydych yn eich lle, fy mam. Y mae peri drwg i mi. Welwch chwi, y blinder melltigedig yma ydyw 'r drwg. Mi af am dro bach yn awr cyn cinio. Maddeuwch i mi, syr; fedrwch chwi ddim deall y peth, ond y mae'n dyfod drosof unwaith eto. (A allan drwy'r ail ddor ar y dde.)
MEISTRES ALVING: Fy machgen druan!
MANDERS: Ie, da y gellwch ddywedyd hynny! Mor bell y mae ef eisoes wedi mynd! (Edrych Meistres Alving arno mewn dist awrwydd. Cyfyd Manders, a cherdda o gwmpas.) Galwodd ei hun yn fab afradlon. Ie, druan,—druan! (Edrych Meistres Alving arno o hyd.) A pha beth a ddywedwch chwi am hyn oll?
MEISTRES ALVING: Fod Oswald yn iawn ym mhob peth a ddywedodd.
MANDERS (gan sefyll yn synn): Iawn? Iawn! Gyda 'r fath egwyddorion!
MEISTRES ALVING: Manders, yr wyf innau, yma, ar fy mhen fy hun, wedi dyfod i feddwl yr un fath. Ond ni bum erioed yn ddigon hy i ddywedyd hynny. Ond bellach, gall fy mab siarad drosof.
MANDERS Gwraig mewn cyflwr gresynus ydych, Meistres Alving. Eto, rhaid i mi siarad o ddifrif â chwi. Ond nid eich cynghorwr, nid cyfaill ieuenctid eich diweddar ŵr a chwithau, sydd o'ch blaen yn awr. Y gweinidog sydd yma! A saif o'ch blaen yn yr ennyd drymaf yn hanes eich bywyd.
MEISTRES ALVING: A pha beth sydd gan y gweinidog i'w ddywedyd wrthyf?
MANDERS: Rhaid i mi ysgwyd ychydig ar eich cof, Meistres Alving. Y mae 'r achlysur yn un cymwys. Yfory, bydd deng mlynedd er pan gladdwyd eich gwr. Yfory, agorir y Cartref a godwyd er cof amdano; yfory, byddaf innau yn siarad o flaen torf o bobl;—ond heddyw, mi siaradaf â chwi eich hun.
MEISTRES ALVING: Da iawn, syr, siaredwch!
MANDERS: Oni chofiwch eich bod chwi, cyn pen y flwyddyn ar ôl priodi, yn sefyll ar ymyl y dibyn? Eich bod chwi wedi gadael eich tŷ a'ch cartref eich bod wedi gadael eich gwr; ie, Meistres Alving, wedi ei adael, ei adael, ac yn gwrthod mynd yn eich ôl ato, er maint a erfyniai ac a grefai?
MEISTRES ALVING: Ai angof gennych chwithau mor gwbl druenus oeddwn yn ystod y flwyddyn honno?
MANDERS: Dyna union ysbryd trybini bob amser, ei fod yn wastad yn ceisio hapusrwydd mewn bywyd. Pa hawl sydd gennym ni ddynion. i hapusrwydd? Na, gwneuthur ein dyledswydd a ddylem, Meistres Alving! A'ch dyletswydd chwi ydoedd dal yn dynn at eich gŵr, unwaith wedi i chwi ei ddewis ac wedi eich rhwymo mewn cwlwm cysegredig âg ef.
MEISTRES ALVING: Gwyddoch yn dda ba fath fywyd a arweiniai Alving yn ei ieuenctid, mor anghymedrol ydoedd.
MANDERS: Gwn, ysywaeth, am y sôn oedd amdano; a myfi fyddai'r olaf i esgusodi ei ymddygiad yn ystod ei ieuenctid. Ond ni osodwyd y wraig megis barnwr ar ei phriod. Eich dyled chwi oedd dwyn y groes yn ostyngedig, croes a osodwyd arnoch gan ewyllys uwch. Ond yn lle hynny, bwriasoch ymaith y groes mewn digofaint, gadawsoch y syrthiedig, y dylasech ei gynnal, aethoch ymaith gan wneuthur gwawd o'ch enw da a'ch clod eich hunan, ac heblaw hynny, o glod un arall hefyd.
MEISTRES ALVING; Un arall? Nid ydych yn meddwl, ynteu, ond am un arall.
MANDERS: Di feddwl i'r eithaf oedd arnoch geisio cysgod gennyf i.
MEISTRES ALVING: A chwithau yn weinidog? Ac yn gyfaill i'r teulu?
MANDERS: Yn union am y rhesymau hynny.—Ie, diolchwch i'ch Arglwydd a'ch Duw, fy mod i wedi cael y nerth angenrheidiol,—fy mod wedi eich dwyn yn ôl o'ch gwylltineb, ac wedi medru eich arwain drachefn i lwybr dyletswydd, yn eich cartref at eich priod cyfreithlon.
MEISTRES ALVING: Ie, Manders, eich gwaith chwi oedd hynny!
MANDERS: Nid oeddwn i ond offeryn yn llaw 'r Goruchaf. Ac oni bu o'r fendith fwyaf i holl ddyddiau 'ch bywyd fy mod i wedi gallu eich plygu dan iau dyletswydd ac ufudd-dod? Onid fel y dywedais wrthych y pryd hwnnw y bu wedi hynny? Oni adawodd Alving ei wendidau heibio, fel y daeth yn hŷn? Oni threuliodd ef ei fywyd gyda chwi yn gariadus ac heb gywilydd? Oni ddaeth ef yn gymwynaswr i'r holl wlad, ac oni ddyrchafodd ef chwithau gymaint fel yr oeddych yn gyfrannog yn ei holl weithredoedd? Ac hefyd yn cyfranogi yn effeithiol ynddynt—o, mi wn hynny yn dda, Meistres Alving, ac mi rown y glod i chwi.—Ond eto, mi ddof at yr ail gam gwag mawr yn eich bywyd.
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedwch chwi am hwnnw?
MANDERS: Ac fel y gwadasoch ddyletswyddau gwraig unwaith, felly y gwadasoch ddyletswyddau mam.
MEISTRES ALVING: Ah!
MANDERS: Y mae rhyw ysbryd pen-gryf, afiach, ynoch ar hyd eich oes. Bu eich holl deimladau a'ch holl ymdrechion yn tueddu at benrhyddid ac anghyfreithlondeb. Ni fedrech un amser orchfygu cymaint â thuedd at rywbeth. Pa beth bynnag mewn bywyd a fyddai yn cyfyngu neu yn gwasgu rhywfaint arnoch, yr ydych yn ddiarwybod ac yn ddifeddwl wedi ei fwrw ymaith fel baich y gallech wneuthur fel y mynnech âg ef. Nid oedd wrth eich bodd fod yn wraig—a gadawsoch eich gŵr. Poenus oedd gennych fod yn fam, a gyrasoch eich mab ymaith at estroniaid.
MEISTRES ALVING: Do, y mae'n wir, gwneuthum hynny.
MANDERS: A bellach, dyma chwithau yn estron iddo yntau.
MEISTRES ALVING: Na, na, nid gwir mo hynny!
MANDERS: Ie, gwir yw. Rhaid eich bod yn gweled hynny. Ac fel y daeth yn ei ôl atoch! Meddyliwch am hynny, Meistres Alving! Gwnaethoch gam â'ch priod;—gwelwch hynny bellach, ac yn awr, cyfodwch y cartref yma er cof amdano o'r herwydd. Hwyrach eich bod hefyd yn deall eich bod wedi gwneuthur cam â'ch mab; fe ddichon ei bod hi eto yn ddigon buan i'w arwain yn ei ôl o'r ffordd gyfeiliorn. Gofelwch amdano eich hun, a chywirwch ynddo pa beth bynnag a fo'n gofyn ei gywiro. Yna (gan ysgwyd ei fys) yn wir, Meistres Alving, byddwch yn fam gyfrifol!—Wrth ddywedyd hyn wrthych, yr wyf fi wedi gwneuthur fy nyletswydd. (Erys yn ddistaw gryn ennyd.)
MEISTRES ALVING (yn araf, a chan ei rheoli ei hun): Dyma chwi wedi dywedyd eich meddwl yn awr, ac yfory byddwch yn siarad ar goedd am goffadwriaeth fy mhriod. Yfory, ni byddaf i yn siarad; eto, mi fynnwn ddywedyd ychydig wrthych, yn union fel y dywedasoch chwithau wrthyf innau.
MANDERS: Purion—rhoddi esgusodion dros eich ymddygiad
MEISTRES ALVING: Nage, dim ond adrodd pethau.
MANDERS: Wel?
MEISTRES ALVING: Y mae'r cwbl a ddywedasoch wrthyf amdanaf fi a'm priod a'n bywyd gyda'n gilydd, a'r modd y dygasoch fi yn fy ôl, fel y dywedech, i lwybr dyletswydd y mae hyn oll yn beth nas gwyddoch chwi o'ch gwybodaeth eich hun. O'r ennyd honno, ni ddaethoch chwi— ein cyfaill a'n hymwelwr beunyddiol—ddim dros ein rhiniog unwaith.
MANDERS: Aethoch chwi a'ch priod o'r dref yn fuan wedyn.
MEISTRES ALVING: Do; ac eto, ni ddaethoch chwi yma unwaith tra bu fy ngŵr fyw. Pethau ynglyn â'r cartref yma a barodd i chwi ddyfod i'm gweled gyntaf.
MANDERS (yn isel ac ansicr): Helen, os cerydd yw hyn i fod, rhaid i mi ofyn i chwi ystyried
MEISTRES ALVING:—y parch oedd yn ddyledus i'ch sefyllfa, ie. Ac heblaw hynny, yr oeddwn innau yn wraig a redodd i ffwrdd oddiwrth ei gŵr! Rhag myned i dai mor amharchus, ni ddichon neb fod yn rhy ofalus!
MANDERS Annwyl—Meistres Alving, y mae hyn yn ormodiaeth ofnadwy.
MEISTRES ALVING: Ie, ie, ie, gadawn hynny. Dyma'r hyn y mynnwn i ei ddywedyd: pan sonioch am fy mywyd priod i, dibynnu yr ydych ar bethau a glywsoch oddiallan, a dim mwy.
MANDERS: Wel, ie; a pha beth am hynny? MEISTRES ALVING: Ond yn awr, Manders, yr wyf am ddywedyd y gwir i chwi. Cymerais fy llw y caech chwi ei wybod rywbryd. Dim ond chwychwi!
MANDERS: A pha beth yw'r gwir, ynteu?
MEISTRES ALVING: Y gwir yw fod fy ngwr wedi marw mor ddrygionus ag y bu fyw erioed!
MANDERS (gan geisio gafael ar gadair): Beth a ddywedsoch?
MEISTRES ALVING: Ar ol pedair blynedd ar bymtheg o fywyd priod, cyn waethed ei dueddiadau, o leiaf, âg ydoedd cyn ein rhwymo wrth yr allor.
MANDERS: A'r gwendidau ieuenctid hynny—y gŵyriadau,—y llithradau, os mynnwch, yr ydych yn eu galw yn fywyd drygionus!
MEISTRES ALVING: Dyna air y meddyg ei hun.
MANDERS: Eto nid wyf i yn eich deall.
MEISTRES ALVING: Nid rhaid i chwi.
MANDERS: 'Rwyf wedi synnu. Nad oedd eich holl fywyd priod—eich bywyd i gyd am lawer blwyddyn gydag ef, yn ddim amgen na rhyw bwll wedi ei guddio!
MEISTRES ALVING: Dim amgen. Yn awr, gwyddoch y gwir.
MANDERS: Nid allaf synio am y fath beth. Ni fedraf mo'i amgyffred! Mo'i ddeall! Ond sut yr oedd, ynteu, yn bosibl fod—? Sut y gellid cadw 'r peth yn gudd?
MEISTRES ALVING: O ddydd i ddydd, dyna. fu fy mrwydr ddiderfyn i. Pan aned Oswald, bu Alving dipyn gwell am ychydig. Ond ni pharhaodd hynny yn hir. Ac yna, bu raid i mi ymladd gymaint arall, ymladd am fy mywyd, rhag i neb wybod pa fath ddyn oedd tad fy mhlentyn. Heblaw hynny, gwyddoch mor ddeniadol y medrai Alving fod. Y mae'n ymddangos na fedrai neb feddwl ond da amdano. Un oedd ef o'r dynion hynny y mae eu geirda yn well na'u buchedd. Ond eto, Manders—cewch wybod hynny hefyd—yna, daeth y peth atgasaf o'r cwbl.
MANDERS: Dim atgasach fyth?
MEISTRES ALVING: Dioddefais y cwbl, er y gwyddwn yn dda pa beth a ddigwyddai yn gudd oddi allan i'r tŷ hwn. Ond yna, daeth y gwaradwydd i'r golwg rhwng y parwydydd hyn
MANDERS Beth? Yma?
MEISTRESS ALVING; Ie, yn ein tŷ ni ein hunain. Yna (gan estyn ei llaw tuag at y drws cyntaf ar y dde) yn yr ystafell fwyta y deuthum i wybod am y peth gyntaf. Yr oeddwn yn gwneud rhywbeth yno, ac yr oedd y drws yn hanner agored. Clywais un o'r morwynion yn dyfod o'r ardd, gyda dwfr i'r blodau.
MANDERS: Yna?
MEISTRES ALVING: Yr un pryd, clywais swn Alving yn dyfod. Clywais ef yn siarad yn ddistaw â hi. Ac yna clywn—(gyda chwerthiniad ysgafn). Ah, y mae'n swnio yn fy nghlustiau 'r funud yma mor boenus a gwrthun!—clywn fy morwyn fy hun yn sisial-" Gollyngwch fi, syr! Gadewch lonydd i mi!"
MANDERS: Y fath ysgafnder diesgus ar ei ran! O, nid oedd ond rhyw ysgafnder, Meistres Alving, credwch fi.
MEISTRES ALVING: Gwybûm yn fuan pa beth oedd i'w ddisgwyl. Gosododd yr ysgwier ei fryd ar yr eneth, a bu canlyniad i hynny, Meistr Manders.
MANDERS (mewn dychryn): A hynny oll yn y tŷ hwn! Yn y tŷ hwn!
MEISTRES ALVING: Gwelais lawer o bethau yn y tŷ hwn. Er mwyn ei gadw yn y tŷ gyda'r hwyr—drwy'r nos—byddai raid i mi fod yn gydymaith iddo yn ei gyfeddach yn ei ystafell ei hun. Yno, byddai raid i mi eistedd fy hun gydag ef, a chlecian gwydrau ac yfed, a gwrando ar ei siarad gwag, gan dreulio fy holl nerth wrth ymdrechu âg ef a cheisio ei lusgo i'w wely
MANDERS (gan ymwingo): Dioddef yr holl bethau hyn!
MEISTRES ALVING: Fy machgen bychan, drosto ef y dioddefwn. Ond fel y daeth y gwaradwydd olaf, drwy fy morwyn fy hun—; yna, tyngais i mi fy hun dyma 'r diwedd! Ac yna, cymerais yr awdurdod i'm llaw fy hun yn y tŷ—yr holl awdurdod—arno ef yn gystal ag ar bawb arall. Yr oedd gennyf erfyn yn ei erbyn bellach, chwi welwch; ni feiddiai wrthwynebu. Yna yr oedd Oswald yn tyfu. Yr oedd yn ei seithfed flwydd, ac yn dechreu sylwi a holi, fel y bydd plant. Ni allwn oddef hyn, Manders. Teimlwn y gwenwynid y plentyn os anadlai awyr y cartref aflan, llygredig hwn. Am hynny, danfonais ef ymaith. Ac yn awr, fe ddeellwch paham na bu a'i droed oddi mewn i'r tŷ byth wedyn tra fu byw ei dad. Ni ŵyr neb faint a gostiodd y cwbl i mi.
MANDERS: Mewn gwirionedd, dysgasoch adnabod bywyd.
MEISTRES ALVING: Ac ni allaswn byth ei ddioddef, oni bai'r gwaith oedd gennyf. Ie, gallaf ddywedyd fy mod wedi gweithio! Helaethu a gwella 'r ystâd, yr holl drefniadau llesol y clodforid ac y canmolid Alving o'u plegid, a dybiwch chwi ei fod ef yn malio gronyn amdanynt? Efe, a orweddai ar ei fainc esmwyth drwy'r dydd, gan ddarllen rhyw hen gronicl! Na; ond mi soniaf am hynny wrthych hefyd; myfi fyddai yn ei ddifyrru pan ddoi ei oriau ysgeifn; myfi oedd yn gorfod dwyn yr holl faich pan syrthiai drachefn i'w anghymedroldeb, neu pan fyddai mewn trueni a salwch ar unwaith.
MANDERS: Ac er cof am y dyn hwn, dyma chwi yn codi'r cartref!
MEISTRES ALVING: Dengys hynny i chwi rym cydwybod ddrwg!
MANDERS: Cydwybod ddrwg? Pa beth yw eich meddwl?
MEISTRES ALVING: Ofnwn o hyd i'r gwir ddyfod i oleu dydd ryw ddiwrnod ac i bobl ei gredu. Felly, byddai'r cartref yn sicr o ladd pob sôn, a chadw pob amheuaeth draw.
MANDERS: Ac yn ddiameu yr yr ydych wedi cyrraedd eich nod, Meistres Alving.
MEISTRES ALVING: Ac yna, yr oedd gennyf reswm arall. Ni fynnwn i Oswald, fy machgen annwyl, etifeddu dim ar ôl ei dad.
MANDERS: Felly, o eiddo Alving y mae'r?
MEISTRES ALVING: Ie. Y mae'r symiau a roddais heibio o flwyddyn i flwyddyn at y cartref hwn—cyfrifais hwy yn fanwl—yn gyfartal i'r swm a roddai'r Capten Alving yn ei amser at ryw amcanion da.
MANDERS: Yr wyf yn deall
MEISTRES ALVING:
ALVING: Dyna'r arian pryniant. Ni fynnaf i ddim o'r arian hynny fyned i law fy mab. Ar fy ôl i y caiff ef y cwbl a gaiff.
(Daw Oswald Alving i mewn drwy'r ail ddrws ar y dde, wedi tynnu ei het a'i got uchaf.)
MEISTRES ALVING (gan droi ato): Ddoist ti eisoes yn d'ôl, fy machgen annwyl i?
OSWALD: Do. Pa beth a wnaiff dyn yn y glaw tragywydd yma? Ond yr wyf yn deall y cawn ginio. Da iawn hynny!
REGINE (yn dyfod o'r ystafell fwyta, a pharsel ganddi): Dyma barsel i chwi, meistres (gan ei roddi iddi).
MEISTRES ALVING (gan roi cip olwg ar y gweinidog): Y caneuon erbyn yfory, mae'n debyg.
MANDERS: Hm!
REGINE Y mae'r cinio eisoes yn barod.
MEISTRES ALVING: O'r goreu; mi ddown yn awr; dim ond agor—(dechreua agor y parsel).
REGINE (wrth Oswald): Meistr Oswald, ai gwin goleu ai tywyll a gymerwch chwi?
OSWALD: Y naill a'r llall, Miss Engstrand. REGINE: Bien! O'r goreu, Meistr Alving (a i'r ystafell fwyta).
OSWALD: Rhaid i mi ei helpu hi i dynnu'r cyrc (a i'r ystafell fwyta, ac egyr y drws ar ei ol).
MEISTRES ALVING (wedi agor y parsel): Ie dyma'r caneuon erbyn yfory, Meistr Manders.
MANDERS (gyda llaw grynedig): Pa fodd y gallaf yfory draddodi f'araith gyda theimlad ysgafn, nid!
MEISTRES ALVING: O, mi gewch eich traed tanoch yn fuan!
MANDERS (yn isel, fel na chlywer yn yr ystafell fwyta): Ie, rhaid i mi fedru, rhag i ni beri tramgwydd.
MEISTRES ALVING: (yn isel ond yn gyflym): Ie. Ond yna, daw diwedd ar y gomedi hir a chas. O fore yfory ymlaen, bydd yr un fath i mi a phe na bai'r gŵr marw wedi byw yn y tŷ hwn erioed. Ni bydd neb arall yma ond fy mab a'i fam. (O'r ystafell fwyta, clywir swn cadair yn syrthio; yr un eiliad, clywir-)
REGINE (yn chwyrn, ond yn yn isel): Oswald—Oswald! A wyt ti o'th gof? Gad lonydd i mi!
MEISTRES ALVING (yn gynhyrfus iawn): Ah! (cychwynna megis mewn dychryn tua'r drws hanner agored. Clywir Oswald yn pesychu ac yn hymian canu. Swn tynnu corcyn potel).
MANDERS (yn gyffrous): Ond beth sydd! Beth sydd, Meistres Alving?
MEISTRES ALVING (yn gryg): Drychiolaethau! Y ddau yn y tŷ gwydr—dacw hwy yn mynd o gwmpas!
MANDERS: Beth a ddywedwch? Regine?—Hi ydyw—?
MEISTRES ALVING: Ie. Dowch. Dim gair! (Cydia ym mraich y gweinidog, ac a gan ymroncio tua'r ystafell fwyta).
YR AIL ACT.
YR UN YSTAFELL.
Gorwedd y niwl o hyd dros y tir. Daw Manders y Gweinidog a Meistres Alving drwodd o'r ystafell fwyta.
MEISTRES ALVING (eto yn y drws): Gobeithio'ch bod chwi wedi gwneud pryd da, syr. (Gan edrych i mewn i'r ystafell fwyta.) Oni ddeui dithau, Oswald?
OSWALD (oddi mewn): Na ddof, diolch; mi af allan am ychydig.
MEISTRES ALVING: Ie, dos; y mae'r glaw wedi peidio yn awr. (Gan gau drws yr ystafell fwyta, mynd at ddrws y cyntedd, a galw): Regine!
REGINE (oddiallan): Ie, ma'm?
MEISTRES ALVING: Gwell i ti fynd i roi help gyda gwneud y pwysïau blodau 'n barod erbyn yfory.
REGINE: O'r goreu, ma'm, mi af.
MEISTRES ALVING (gan sylwi fod Regine yn mynd, yna yn cau'r drws).
MANDERS: Ni all ef ein clywed oddi yma?
MEISTRES ALVING: Na all, a'r drws yma wedi ei gau. Heblaw hynny, y mae yn mynd am dro.
MANDERS: Yr wyf wedi dychrynu. Ni wn i ddim sut y gellais gyffwrdd â thamaid o fwyd.
MEISTRES ALVING (gan geisio meistroli ei chyffro, a cherdded yn ol a blaen): Fedraf innau ddim amgyffred. Pa beth a wnawn?
MANDERS: Ie, pa beth a wnawn? Ni wn i, ar fy ngwir; mewn pethau o'r fath, yr wyf fi yn hollol ddibrofiad.
MEISTRES ALVING: Yr wyf yn hyderu, hyd yma, o leiaf, nad oes dim anffodus wedi digwydd.
MANDERS: Ie, y nefoedd a rwystro hynny! Ond mater difrifol ydyw sut bynnag.
MEISTRES ALVING: Rhyw wendid sydyn ar ran Oswald yw'r cwbl, gellwch fod yn sicr.
MANDERS: Ie, fel y dywedais, nid wyf i yn deall pethau fel hyn; ond ymddengys i mi fod yn rhaid
MEISTRES ALVING: Rhaid iddi fyned ymaith o'r tŷ hwn. A hynny rhag blaen. Y mae hynny yn gwbl eglur.
MANDERS: Ydyw, y mae felly.
MEISTRES ALVING: Ond i ba le? Nid allwn fod yn gyfrifol am ei
MANDERS: I ba le? Adref at ei thad, wrth reswm.
MEISTRES ALVING: At bwy, meddech chwi?
MANDERS: Ato ef—Ond, na, nid Engstrand ydyw—. Ond, arglwydd mawr! Meistres Alving, a oes bosibl? Hwyrach eich bod yn methu!
MEISTRES ALVING: Ysywaeth, nid methu yr wyf. Bu raid i Johanna gyfaddef y cwbl wrthyf,—ac ni allai Alving wadu. Nid oedd dim arall i'w wneud ond mygu'r peth rywsut.
MANDERS: Ie, dyna'r unig beth a ellid.
MEISTRES ALVING: Bu raid i'r eneth adael ei lle rhag blaen, a chafodd swm cymwys o arian, er mwyn tewi am byth. Ymdarawodd drosti ei hun wedyn, ac aeth i'r dref. Adnewyddodd ei chydnabyddiaeth â'r saer Engstrand; y mae'n debyg iddi roi ar ddeall iddo faint o arian oedd ganddi, ac ymhellach dywedodd rywbeth wrtho am ryw estron a fu yma yn ystod yr haf gyda'i long bleser. Yna, priodwyd Engstrand a hithau rhag blaen. Ie, chwi eich hun a'u priododd.
MANDERS: Ond sut y gallwn i wybod y pethau hynny? Cofiaf yn dda hyd heddyw fel y daeth Engstrand ataf i drefnu 'r briodas. Yr oedd yn edifeiriol iawn, ac yn achwyn yn chwerw yn erbyn y gwendid a'i gwnaeth ef a'i anwylyd yn feius.
MEISTRES ALVING: Ie, 'roedd raid iddo gymryd y bai i gyd ei hun.
MANDERS: Ond y fath ffalster ar ei ran! A hynny tuag ataf innau! Ni buaswn yn wir yn disgwyl hynny gan Jacob Engstrand. Cymeraswn ef mewn llaw, ac eto, gallai ymollwng felly. A gwaradwydd y fath ymrwymiad! O chwant arian! Pa faint, dybiech chwi, oedd y swm a dalwyd i'r eneth?
MEISTRES ALVING: Tri chant o bunnau.
MANDERS: Ond meddyliwch—ei rwymo ei hun â merch syrthiedig am ryw swm salw o drichant o bunnau!
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedech ynteu amdanaf fi, yn cymryd fy rhwymo â dyn syrthiedig?
MANDERS: Duw fo'n gwarchod! Beth a ddywedsoch? Dyn syrthiedig!
MEISTRES ALVING: Meddwl yr ydych, hwyrach, fod Alving yn lanach, pan euthum i at yr allor gydag ef, nag oedd Johanna pan briododd hi Engstrand?
MANDERS: Ond y mae'r ddau beth yn wahanol iawn i'w gilydd.
MEISTRES ALVING: Dim mymryn o wahaniaeth rhyngddynt, ond y gwahaniaeth mawr yn y pris—rhyw swm salw o drichant o bunnau—a ffortun fawr!
MANDERS: Sut y gellwch chwi osod dau beth mor anhebyg gyferbyn â'i gilydd? Gwnaethoch chwi yn ôl eich serchiadau eich hunan a chyngor eich perthynasau!
MEISTRES ALVING: Tybiech, mi gredaf, fod y peth y soniech amdano fel fy nghalon wedi mynd ar gyfeilorn y pryd hwnnw.
MANDERS (yn oer): Pe tybiaswn rywbeth o'r fath, ni buaswn i yn ymwelydd beunyddiol â thŷ eich gŵr!
MEISTRES ALVING: Sut bynnag, y mae'n gwbl sicr nad ymgynghorais i ddim â mi fy hun.
MANDERS: Ond eto, â'ch perthynasau nesaf; megis y mae'n ysgrifenedig, â'ch mam a'ch dwy fodryb.
MEISTRES ALVING: Ie, gwir yw hynny. Bwriodd y tair y draul a'r drefn i mi. O, ni fedrech chwi byth gredu mor glir y dangosent i mi na buasai gwrthod y fath gynnyg yn ddim ond ffolineb noeth. Pe gallasai fy mam ragweled a gwybod pa beth a ddeuai o'r holl ogoniant!
MANDERS: Am y trychineb hwnnw, ni ellir dal neb yn gyfrifol. Fe saif cymaint a hyn, o leiaf—priodwyd chwi yn unol â phob defod gyfreithlon.
MEISTRES ALVING (gan edrych drwy'r ffenestr): Och, ie, defod a chyfraith! Llawer tro y bum bron a chredu mai dyma achos pob anhapusrwydd ar y ddaear.
MANDERS: Meistres Alving, yr ydych yn pechu yn eich erbyn eich hun.
MEISTRES ALVING: Fe allai. Ond ni oddefaf i mo'r rhwymau a'r ystyriaethau hyn ddim yn hwy. Ni fedraf i ddim mwy. Rhaid i mi ymdrechu am ryddid!
MANDERS: Beth feddyliwch wrth hynny?
MEISTRES ALVING (gan guro ar wydr y ffenestr): Ni ddylaswn guddio bywyd Alving o gwbl. Ond y pryd hwnnw ni wyddwn i sut amgen i weithredu, ac ni fynswn hynny chwaith, o'm plegid fy hun. Felly llwfr oeddwn.
MANDERS: Llwfr?
MEISTRES ALVING: Pe gwybuasai pobl rywbeth, dywedasent: Druan gŵr, hawdd deall ei fod yn byw 'n anghymedrol, a chanddo yntau wraig a'i gadawodd.
MANDERS: A buasai cryn lawer o wir yn y dywediad hefyd.
MEISTRES ALVING (gan graffu arno): Pe buaswn i fel y dylaswn fod, yna cymeraswn Oswald, a dywedaswn wrtho: gwrando, fy mab, dyn gwaradwyddus yw dy dad
MANDERS: Ond, arglwydd trugarog!
MEISTRES ALVING: Ac yna dywedaswn wrtho bopeth a ddywedais wrthych chwithau—bob tipyn!
MANDERS: Meistres Alving, yr wyf bron ag arswydo rhagoch!
MEISTRES ALVING: Mi wn, mi wn hynny yn dda! Rwy 'n arswydo fy hun rhag y meddwl. (Try oddiwrth y ffenestr.) Mor llwfr oeddwn!
MANDERS: A llwfr y gelwch eto, os gwnewch eich dyletswydd a'ch rhwymedigaeth. Ai angof gennych y dylai plentyn barchu ei dad a'i fam?
MEISTRES ALVING: Peidiwn â chymryd y peth mor gyffredinol. Gofynnwn: A ddylai Oswald barchu a charu'r Capten Alving?
MANDERS: Onid oes rhyw lais yn eich calon fel mam, yn erfyn arnoch beidio â dinistrio 'r ddelw bur ym meddwl eich mab?
MEISTRES ALVING: Beth ynteu am y gwirionedd?
MANDERS: A pha beth ynteu am y ddelw, y ddelw berffaith?
MEISTRES ALVING: Ach—y ddelw, y ddelw! Pe na bawn i mor llwfr âg wyf!
MANDERS: Na fwriwch y ddelw allan, Meistres Alving—fe edifarhewch yn chwerw am hynny. Ac yn arbennig ynglyn âg Oswald. Ysywaeth, nid oes ganddo ef ormod o ddelwadau yn ei fryd. Ond hyd y sylwais i, y mae ei dad yn ddelwad perffaith iddo hyd yma.
MEISTRES ALVING: Yr ydych yn iawn yn hynny.
MANDERS: Byddech yn eich llythyrau ato yn ceisio deffro a meithrin yr ystyriaethau hyn yn ei feddwl?
MEISTRES ALVING: Byddwn; byddai dyletswydd ac ystyriaeth yn fy ngyrru at hynny. O'r herwydd mi fum o flwyddyn i flwyddyn yn atal fy nhafod. Ah! mor llwfr, mor llwfr fum!
MANDERS: Gadawodd hynny argraff ffodus ar feddwl eich mab, Meistres Alving, ac ni wiw i chwi ar gyfrif yn y byd chwalu honno.
MEISTRES ALVING: Hm!—pwy ŵyr a yw honno yn rhywbeth iddo bellach! Ond ni fynnaf fath yn y byd o gymdeithas rhyngddo â Regine, dan unrhyw amgylchiadau. Ni chaiff beri trallod i'r eneth druan, beth bynnag.
MANDERS: Na; Arglwydd mawr, byddai hynny yn beth ofnadwy!
MEISTRES ALVING: Pe gwyddwn a yw ef o ddifrif, ac a fyddai hynny yn hapusrwydd iddo
MANDERS: Sut? A pha beth wedyn?
MEISTRES ALVING: Ond ni byddai hynny yn hapusrwydd iddo; ac nid yw Regine yn gymwys chwaith.
MANDERS: Wel, beth wedyn? Beth yw eich meddwl?
MEISTRES ALVING: Pe na bawn mor druenus o lwfr âg ydwyf, buaswn yn dywedyd wrtho: Prioda hi, neu trefnwch rhyngoch fel y mynnoch, ond na bydded twyll yn y peth!"
MANDERS: Ond, arglwydd trugarog—! Priodas gyfreithlon, ynteu! Peth mor ofnadwy!—na chlywwyd sôn am ei debyg!
MEISTRES ALVING: Ie. Na chlywwyd sôn am ei debyg, meddech? A'ch llaw ar eich calon, Meistr Manders, oni thybiwch chwi fod yn y gwledydd o gwmpas lawer cwpl sy 'n perthyn cyn agosed?
MANDERS: Nid wyf yn eich deall o gwbl!
MEISTRES ALVING: O, yr ydych yn fy neall yn burion.
MANDERS: Wel, meddwl yr ydych am ryw amgylchiadau lle gallai hynny. Na, ysywaeth, ni bu bywyd teuluaidd erioed mor bur ag y dylai fod. Ond nid yw 'r peth yr ydych yn anelu ato yn awr ond peth nad all dyn ei wybod—o leiaf, gyda sicrwydd. Yma, ar y llaw arall—; a'ch bod chwi, y fam, yn barod i'ch mab—!
MEISTRES ALVING: Ond nid parod wyf. Ni fynnwn mo'r peth am unrhyw bris yn y byd; dyna yn union yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd.
MANDERS: A hynny yn unig am eich bod yn llwfr, fel y dywedech. Pe na baech mor llwfr, meddech—Duw fo'n gwarchod!—peth mor arswydus!
MEISTRES ALVING: Ie, dywedir ein bod i gyd fel ein gilydd yn hanfod o berthynasau felly. A phwy a ordeiniodd beth felly i'r byd, Meistr Manders?
MANDERS: Ni soniaf fi am y fath gwestiwn wrthych, Meistres Alving: nid ydych yn y cyflwr priodol i'w drin o ran meddwl. Ni feiddiwch ddywedyd ei fod yn fwy na llwfrdra ar eich rhan—!
MEISTRES ALVING: Eto, cewch glywed fy meddwl! Yr wyf yn ofnus a phetrus, am fod rhywbeth drychiolaethus yn glynu ynof, fel na allaf fyth fod yn gwbl rydd.
MANDERS Beth y galwasoch ef?
MEISTRES ALVING: Rhywbeth drychiolaethus. Pan glywais Regine ac Oswald yna, yr oeddwn fel pe gwelswn ddrychiolaethau o'm blaen. Ond yr wyf bron a chredu, Meistr Manders, mai drychiolaethau ydym i gyd-y drychiolaethau dychwel, sy'n dyfod yn ôl i gerdded eu hen lwybrau. Nid y peth a etifeddasom ar ôl ein tadau a'n mamau yn unig sydd yn gweithio ynom; ond pob math ar hen dueddiadau meirwon, pob math ar hen obeithion a phethau felly. Nid ynt yn byw ynom, ond glynant wrthym, ac ni fedrwn gael ymwared rhagddynt. Hyd yn oed pan gymerwyf bapur yn fy llaw i'w ddarllen, byddaf fel pe bawn yn gweled drychiolaethau yn ymgripio rhwng y dalennau. Y mae drychiolaethau dychwel ym-hobman. Rhaid eu bod cyn lluosoced â'r tywod ar lan y môr. Ac yna, yr ydym oll gyda'n gilydd yn ofni 'r goleuni mor druenus.
MANDERS: Aha! Dyna effaith eich darllen. Ffrwyth gwych, mewn gwirionedd! Och, y pethau gwaradwyddus, gwrthryfelgar a phenrydd hyn!
MEISTRES ALVING: Yr ydych yn methu, annwyl Syr. Chwychwi eich hun yw'r dyn a'm harweiniodd i i feddwl, ac yr wyf yn diolch i chwi am hynny!
MANDERS: Myfi!
MEISTRES ALVING: Ie; pan fynsoch fy ngyrru yn ôl i'r hyn a alwech yn Ddyletswydd a Rhwymedigaeth; pan ganmolech fel peth iawn a gwir yr hyn yr oedd fy holl enaid i yn ei erbyn fel peth cwbl wrthun. Am hynny y mynnais brofi eich dysgeidiaeth yn fy nherfynau fy hun. Ni feddyliais ond am ddatod un cwlwm bychan, ond wedi i mi ddechreu arni, ymddatododd y cwbl.—Ac yna gwelais nad oedd y cyfan ond pwyth peiriant!
MANDERS (yn ddistaw a chrynedig): Ai dyna 'r cwbl a enillwyd drwy ymdrech chwerwaf fy mywyd?
MEISTRES ALVING: Y gorchfygiad tristaf yn eich bywyd yn hytrach!
MANDERS: Dyna fuddugoliaeth fwyaf fy mywyd, Helen; y fuddugoliaeth arnaf fy hun.
MEISTRES ALVING: Trosedd yn erbyn pob un o honom ydoedd.
MANDERS: Fy mod i wedi gorchymyn i chwi gan ddywedyd: "Wraig, dos adref at dy ŵr priod," pan ddaethoch ataf megis un o'i chof, a dywedyd: Dyma fi, cymerwch fi!" Ai trosedd oedd hynny?
MEISTRES ALVING: Yn fy ngolwg i, ie!
MANDERS: Nid ydym yn deall ein gilydd.
MEISTRES ALVING: O leiaf, ddim yn hwy.
MANDERS: Nac erioed, erioed, ni feddyliais i unwaith amdanoch yn fy meddwl dirgelaf ond fel gwraig fy nghyfaill.
MEISTRES ALVING: A gredwch chwi hynny eich hun?
MANDERS: Helen!
MEISTRES ALVING: Y mae dyn yn ei adael ei hun allan o'r cyfrif mor rhwydd!
MANDERS: Nid myfi. Yr un un wyf fi âg oeddwn erioed.
MEISTRES ALVING: (mewn ton wahanol): Ie, ie, ie;—na soniwn ragor am yr hen amser. Ond dyma chwi dros eich pen a'ch clustiau mewn cyfrifoldeb a swyddi; a minnau yn myned o gwmpas ac yn ymladd â drychiolaethau gweledig ac anweledig.
MANDERS: Mi 'ch cynorthwyaf i yrru'r rhai gweledig ymaith. Wedi gwrando gyda dychryn ar y cwbl a glywais gennych heddyw, ni allaf i ateb i'm cydwybod a gadael geneth ieuanc ddiniwed yn eich tŷ.
MEISTRES ALVING: Oni thybiech mai dyna'r goreu, pe gallem ofalu amdani? Hynny yw—drwy briodas dda.
MANDERS: Yn ddiameu. Hyd y gwelaf i byddai hynny yn beth i'w ddymuno iddi ar bob ystyriaeth. Y mae Regine yn awr yn yr oed, pryd y bydd—wel, nid wyf i yn deall yn iawn, ond
MEISTRES ALVING: Y mae Regine wedi tyfu yn rhy gynnar.
MANDERS: Yn union felly, onid e? Pan oeddwn i yn ei pharatoi at fedydd esgob, yr oeddwn yn meddwl ei bod hi o ran corff wedi datblygu yn rhyfeddol. Ond i ddechreu, sut bynnag, rhaid iddi fynd adref, dan ofal ei thad—. Na, nid yw Engstrand—Ag yntau-âg yntau wedi cuddio'r gwir rhagof yn y fath fodd! (Curo trwm ar ddrws y cyntedd.)
MEISTRES ALVING: Pwy all fod yna yn awr? Dowch i mewn!
ENGSTRAND (yn ei ddillad goreu, yn y drws): Maddeuwch i mi, 'r wy'n erfyn arnoch, ond—
MANDERS: Aha! Hm—
MEISTRES ALVING: Ai chwi sydd yna, Engstrand?
ENGSTRAND: Nid oedd neb o'r morwynion yn y golwg, ac am hynny mi fum mor hy a churo ar y drws.
MEISTRES ALVING: Ie, ie. Dowch i mewn. A fynnech chwi siarad â mi?
ENGSTRAND: (yn dyfod i mewn): Na, diolch yn barchus i chwi. Byddai 'n dda gennyf gael gair bach â'r gweinidog.
MANDERS: (gan gerdded yn ol a blaen): Hm! Siarad â mi a fynnech? Aie?
ENGSTRAND: Ie, byddai 'n dda gennyf
MANDERS (gan sefyll o'i flaen): Yn awr, a gaf fi ofyn, pa beth a fynnech?
ENGSTRAND: Wel, syr, yr ydym wedi gorffen i lawr acw yn awr. Diolch lawer i chwi, Meistres Alving.—Ac yn awr, gan fod popeth yn barod, a ninnau wedi bod cyhyd yn gweithio gyda'n gilydd mor gysurus acw, mi dybiais y byddai 'n weddus a phriodol iawn i ni heno gael rhyw wasanaeth bach i orffen.
MANDERS: Gwasanaeth? I lawr yn y Cartref?
ENGSTRAND: Ie, ond os na bydd yn gyfleus i chwi, syr
MANDERS: O, byddai, wrth reswm, mi dybiaf, ond—hm—
ENGSTRAND: Cynheliais wasanaeth acw fy hun lawer gwaith gyda'r hwyr
MEISTRES ALVING: Yn wir?
ENGSTRAND: Do, o bryd i bryd. Rhyw fath o gyfarfod adeiladol, fel y gelwir. Ond dyn cyffredin a disylw ydwyf fi, a dim dawn ynddo—Duw a'm diwygio!—ac felly mi feddyliais, gan fod y gweini-dog yma, y byddai
MANDERS: Ie, welwch chwi, Engstrand, rhaid i mi ofyn cwestiwn i chwi. A ydych chwi yn yr ysbryd priodol ar gyfer cyfarfod o'r fath? A ydyw eich cydwybod yn rhydd ac ysgafn?
ENGSTRAND: Duw a'n helpo, Meistr Manders, waeth i ni heb drafferthu sôn am y gydwybod.
MANDERS: Ond son amdani a wnawn. Beth sydd gennych i'w ateb i mi?
ENGSTRAND: Ie, y gydwybod-hi all weithiau fod yn ddrwg ei chyflwr.
MANDERS: Yr ydych chwithau yn canfod hynny ar dro hefyd! Ond atebwch i mi yn ddidwyll,—sut y mae pethau ynglyn â Regine?
MEISTRES ALVING (yn gyffrous): Meistr Manders!
MANDERS (yn dawel): Gadewch i mi
ENGSTRAND: Ynglyn â Regine! Arglwydd! fel y rhoisoch fraw i mi! (Gan edrych ar Meistres Alving.) Onid yw popeth yn iawn gyda Regine?
MANDERS: Gobeithio hynny. Ond fy meddwl i yw, sut y mae pethau rhyngoch chwi a hithau? Cyfrifir mai chwi yw ei thad. Yn awr, ynteu?
ENGSTRAND (yn amheus): Wel—hm—Meistr Manders, mi wyddoch yr hanes fel y bu rhwng Johanna druan a minnau.
MANDERS: Dim rhagor o gelu 'r gwir. Yr oedd eich diweddar wraig wedi cyfaddef yr holl wir wrth Meistres Alving cyn gadael ei gwasanaeth.
ENGSTRAND: Mewn gwirionedd, a wnaeth hi hynny?
MANDERS: Dyma chwi wedi 'ch dal, Engstrand.
ENGSTRAND: A hithau, wedi tyngu a rhegi mor
MANDERS: Rhegi?
ENGSTRAND: Na, dim ond tyngu, mewn ffordd, ond mor groew ac agored.
MANDERS: Ac ar hyd y blynyddoedd hyn, cuddiasoch y gwir rhagof. Rhagof fi, a ymddiriedodd mor llwyr ynoch.
ENGSTRAND: Do, ysywaeth, gwneuthum felly.
MANDERS: A haeddais i hynny oddiar eich llaw, Engstrand? Oni bum i bob amser yn barod i roi cyngor a chefnogaeth i chwi, hyd y gallwn? Atebwch! Onid felly y bu?
ENGSTRAND: Buasai 'n ddrwg iawn arnaf lawer tro, oni bai amdanoch chwi, syr.
MANDERS: Ac eto, dyma 'r tâl a gefais. Dyfod âg anwiredd i mi i'w ddodi yn llyfr yr eglwys, a chadw rhagof ar hyd y blynyddoedd yr esboniad dyledus i mi ag i'r gwirionedd. 'Does dim esgus dros eich ymddygiad, Engstrand; ac o hyn allan, ni bydd a wnelwyf â chwi!
ENGSTRAND (gan ucheneidio): Ie, felly y mae'n rhaid iddi fod!
MANDERS: Sut y gellwch chwi ynteu eich cyfiawnhau eich hun?
ENGSTRAND: Oni wnaeth hi'r gwaradwydd yn fwy fyth drwy glebran amdano? Syr gosodwch eich hun yn lle Johanna druan
MANDERS: Myfi!
ENGSTRAND: Arglwydd mawr—nid yn union yr un fath yw fy meddwl. Meddwl yr oeddwn i, syr, pe buasai gennych rywbeth y buasai arnoch gywilydd i ddynion ei wybod, fel y dywedir. Ni ddylem ni ddynion farnu merched truain yn rhy galed, syr.
MANDERS: Ond nid dyna f' amcan i. Yn eich erbyn chwi yr wyf yn achwyn.
ENGSTRAND: A gaf fi fod mor hy a gofyn un cwestiwn bach, syr?
MANDERS: O'm rhan i, gofynnwch.
ENGSTRAND: Onid iawn a daionus i ddyn gyfodi un wedi syrthio?
MANDERS: Wrth reswm.
ENGSTRAND: Ac a ddylai dyn gadw ei air ar ôl ei roddi?
MANDERS: Debyg iawn y dylai. Ond
ENGSTRAND: Wedi i Johanna fod yn anlwcus gyda'r Sais hwnnw-neu hwyrach mai dyn o'r America neu Rwsia oedd, ran hynny—wedi hynny, hi ddaeth i'r dref. Druan bach! Yr oedd hi wedi fy ngwrthod eisoes, unwaith neu ddwy y pryd hwnnw, nid oedd hi yn gweled dim ond yr hyn fyddai 'n deg yr olwg arno, ac yr oeddwn innau druan â'r drwg yma ar fy nghoes. Fel y cofiwch, syr, mi fentrais i dŷ dawnsio, lle 'r oedd morwyr yn mynd i yfed a thyrfu. Ac fel yr oeddwn innau yn eu rhybuddio i ddechreu bywyd newydd
MEISTRES ALVING (wrth y ffenestr): Hm!
MANDERS: Ie, mi wn, Engstrand. Taflodd y cnafon chwi i lawr y grisiau. Clywais yr hanes lawer gwaith gennych. Y mae 'ch clod yn eich clwyf.
ENGSTRAND: Nid wyf yn ymffrostio dim am hynny, syr. Ond dyma'r hyn y mynnwn ei ddywedyd. Daeth Johanna ataf, a chyfaddefodd ei hanffawd gan feichio wylo. Rhaid i mi gydnabod, syr, fod ei chlywed yn boen i'm henaid.
MANDERS: Mewn gwirionedd, Engstrand? A pha beth wedyn?
ENGSTRAND: Wel, dywedais wrthi: y mae'r Americanwr yn hwylio 'r môr mawr yma ac acw. A thithau, Johanna, meddwn, cefaist gwymp, ac yr wyt yn greadur colledig. Ond y mae Jacob Engstrand, meddwn, sydd a'i ddau droed tano—mewn ffordd o siarad y dywedais i hynny, syr—
MANDERS: 'Rwy'n deall yn burion. Ac wedyn?
ENGSTRAND: Wel, cytunais â hi, a phriodais hi, fel na chai pobl ddim gwybod am ei hanffawd gyda'r estron.
MANDERS: Da y gwnaethoch hynny, ond nid allaf gydnabod fod yn addas i chwi dderbyn arian am
ENGSTRAND: Arian? Myfi? Dim un ffyrling!
MANDERS (gan droi at Meistres Alving): Ond ENGSTRAND: Ach, ie—arhoswch funud; anghofiais beth. Yr oedd gan Johanna rhyw gwpl o sylltau. Ond ni fynnwn i wybod dim am hynny; Pw! meddwn, Mamon! Pris gwaradwydd, yr aur melltigedig—neu hwyrach mai arian papur ydoedd—bwriwn ef yn ôl yn wyneb yr Americanwr, meddwn. Ond yr oedd ef wedi mynd, ac yn hwylio 'r môr mawr, syr.
MANDERS: Aie, Engstrand?
ENGSTRAND: Oedd siwr. Ac yna, cytunodd Johanna a minnau fod yr arian i'w gwario ar y plentyn. Felly y bu, a gallaf roi cyfrif am bob swllt ohonynt.
MANDERS: Y mae hynny yn newid cryn lawer ar yr amgylchiadau.
ENGSTRAND: Dyna'r hanes o bant i bentan, syr. Ac mi feiddiaf ddywedyd fy mod i wedi bod yn dad gonest i Regine, hyd y gallai fy nerth—ond, ysywaeth, nid wyf ond dyn gwan.
MANDERS: Wel, wel, f'annwyl Engstrand
ENGSTRAND: Ond mi ddylwn ddywedyd hyn, fy mod wedi dwyn y plentyn i fyny mewn parch, wedi cyd fyw yn gariadus â Johanna druan, a chadw disgyblaeth ar yr aelwyd, megis y mae'n ysgrifenedig. Ond ni fedrwn i byth fynd at Meistr Manders a'm canmol fy hun wrtho, a dywedyd fy mod innau wedi gwneud gweithred dda unwaith yn fy oes. Na, pan fo Jacob Engstrand wedi gwneud rhywbeth, tewi a bod yn ddistaw y bydd. Ysywaeth, ni bydd hynny yn digwydd yn aml. phan fyddaf yn dyfod at y gweinidog heb law hynny, bydd gennyf gymaint i'w ddywedyd am fy ngwendidau a'm drygioni. Dyna paham y dywedais gynnau—gall y gydwybod boeni dyn yn arw, o dro i dro.
MANDERS: Rhowch eich llaw i mi, Jacob Engstrand.
ENGSTRAND: Arglwydd mawr, syr!
MANDERS: Dim llyfon! (Gan ysgwyd ei law.) Popeth yn iawn!
ENGSTRAND: Ac os caf ofyn eich pardwn, syr—
MANDERS: Chwi? Nage, fel arall. Myfi a ddylai ofyn pardwn—
ENGSTRAND: Nage! Duw fo'n gwarchod!
MANDERS: Ie, yn wir Ac yr wyf yn ei ofyn o ewyllys calon. Maddeuwch i mi am eich cam-ddeall gymaint. A rhoed Duw i mi gyfle yn fuan i roi praw o'm hedifeirwch a'm hewyllys da—
ENGSTRAND: A wnaech chwi hynny, syr?
MANDERS: Gyda'r hyfrydwch mwyaf—
ENGSTRAND: Wel, dyma gyfle. Gyda'r arian a gynilais yma, yr wyf yn meddwl am agor tŷ i forwyr yn y dref.
MEISTRES ALVING: Yn wir?
ENGSTRAND: Ydwyf, math o gartref fydd. Y mae cymaint o demtasiynau ar ffordd morwyr pan ddont i'r lan. Ond gyda mi, mewn tŷ felly, byddent megis tan olwg tad.
MANDERS: Beth a ddywedwch chwi, Meistres Alving?
ENGSTRAND: Ni fedraf wneud ond ychydig i ddechreu, Duw a'm helpo; ond pe bai ryw gymwynaswr i roi llaw i mi, felly—
MANDERS: Ie, sylwn yn fanylach ar y peth eto. Y mae 'ch bwriad yn taro fy meddwl i yn anghyffredin.—Ond, ystyriwch y peth yn fanwl a rhoddwch drefn arno, trowch y goleuni arno, fel y gwelom yn iawn. Yna, cawn dreulio awr weddi gyda'n gilydd, Engstrand; wedi hynny, mi obeithiaf y byddwch yn yr iawn ysbryd.
ENGSTRAND: Byddaf, mi gredaf innau hefyd. Ac yn awr, da y boch, Meistres Alving, diolch i chwi am bopeth. Gofelwch am Regine (gan sychu deigryn). Plentyn Johanna—hm, mae'n beth rhyfedd, yn wir—ond y mae hi fel pe bai 'n perthyn i mi fy hun yn gymwys, ydyw yn wir (gan ben-gamu, a allan drwy ddrws y cyntedd.)
MANDERS: Yn awr, beth a ddywedwch chwi am y creadur, Meistres Alving? Dyna esboniad arall a gawsom ganddo.
MEISTRES ALVING: Ie, yn ddiameu!
MANDERS: Chwi welwch fel y dylem ofalu rhag condemnio pobl. Wrth reswm, y mae 'n bleser mawr drachefn i ddyn weled ei fod wedi cam-ddeall. Beth yw'ch meddwl chwi?
MEISTRES ALVING: Meddwl yr wyf mai plentyn mawr ydych ac a fyddwch, Manders.
MANDERS: Myfi?
MEISTRES ALVING: (gan ddodi ei dwy law ar ei ysgwyddau): Ac y mae arnaf awydd hefyd ddodi fy nwylaw am eich gwddf.
MANDERS (gan gilio yn ei ol yn chwyrn): Na, na! Na ato Duw! y fath awydd
MEISTRES ALVING (gan chwerthin): Ach! Y mae arnoch eich ofn eich hun ger fy mron!
MANDERS (gan eistedd wrth y bwrdd): Y mae gennych o leiaf ffordd mor anghyffredin o ddywedyd eich meddwl!—mi gasglaf y papurau, a chadwaf hwy yn y gôd (gan wneuthur hynny). Dyna hwy. Ac yn awr, da y boch chwi. Arhoswch chwi yma, rhag ofn y daw Oswald yn ei ol. Dof innau heibio eto yn ddiweddarach. (Cymer ei het ac a allan drwy ddrws y cyntedd.)
MEISTRES ALVING (gan ucheneidio 'n ddwfn; edrych allan drwy'r ffenestr, cerdda 'n ol a blaen hyd yr ystafell; cychwynna tua 'r ystafell fwyta; saif yn y drws, a rhydd lef megys mewn dychryn): Oswald! A wyt ti wrth y bwrdd o hyd?
OSWALD (yn yr ystafell fwyta): Dim ond gorffen mygu sigâr.
MEISTRES ALVING: Oni chymeri di dro bach?
OSWALD: Yn y fath dywydd? (Clywir gwydr yn tincian. Gad Meistres Alving y drws yn agored, ac eistedd gyda'i gwaith gwnio ar yr esmwythfainc wrth y ffenestr.)
OSWALD: Onid Manders y gweinidog a aeth allan funud neu ddau yn ôl?
MEISTRES ALVING: Ie, aeth i lawr cyn belled â'r Cartref.
OSWALD: Hm! (Swn gwydrau yn tincian eilwaith.)
MEISTRES ALVING (a golwg pryderus): Oswald bach, dylit fod yn ofalus gyda 'r gwin yna. Y mae'n gryf iawn.
OSWALD: Y mae'n dda ei gael ar dywydd mor llaith.
MEISTRES ALVING: Oni byddai well gennyt ddyfod ataf fi yma?
OSWALD: Ni cheir mygu yna.
MEISTRES ALVING: Gwyddost yn dda y cei fygu sigâr yma!
OSWALD: O, caf, yna mi ddof. Dim ond un diferyn bach arall. Dyma fo! (Daw drwodd gyda'i sigâr, a chau'r drws ar ei ol.—Saib ferr.) I ba le yr aeth y Gweinidog?
MEISTRES ALVING: Dywedais wrthyt eisoes—i lawr i'r Cartref.
OSWALD: O, ie, 'rwy 'n cofio.
MEISTRES ALVING: Ni ddylit aros mor hir wrth y bwrdd, Oswald.
OSWALD (gan ddal y sigâr y tu cefn iddo): Ond, fy mam, yr wyf yn teimlo mor siriol yno. (Gan ei hanwylo.) Cofiwch yn awr, gymaint o beth yw i mi, newydd gyrraedd adref, gael eistedd wrth fwrdd fy mam, yn nhŷ fy mam—a bwyta ymborth iawn fy mam.
MEISTRES ALVING: Fy machgen annwyl i!
OSWALD (braidd yn ddisylw, gan symud o gwmpas a mygu): Ac heblaw hynny, sut yr ymdarawaf yma? Nid oes gennyf ddim ar y ddaear i'w wneud
MEISTRES ALVING: Dychmyga rywbeth i'w wneud
OSWALD: Yn y tywydd trymllyd hwn? Dim heulwen drwy gydol y dydd? (Cerdda 'n ol a blaen.) Och, ie—hynny—bod heb allu gweithio—!
MEISTRES ALVING: Hwyrach nad dyfod adref oedd y peth goreu i ti.
OSWALD: Eto, fy mam, yr oedd yn rhaid i mi ddyfod.
MEISTRES ALVING: Ie, ond buasai 'n ddeng waith gwell gennyf fi heb y pleser o'th gael adref, na'th fod ti
OSWALD (gan sefyll wrth y bwrdd): Ond dywedwch i mi, 'Mam, mewn difrif, a ydyw 'n gymaint o bleser i chwi fy nghael i adref?
MEISTRES ALVING: A ydyw 'n bleser i mi!
OSWALD (gan wasgu papur newydd yn ei law): Mi dybiwn fy hun na byddai wahaniaeth i chwi ai byw fyddwn ai peidio.
MEISTRES ALVING: Oes gen ti 'r galon i ddywedyd hynny wrth dy fam?
OSWALD: Yr oeddych gynt yn medru byw yn iawn hebof.
MEISTRES ALVING: Do, bum fyw hebot,—y mae 'n wir. (Seibiant. Trymhâ'r gwyll. Cerdda Oswald yn ol a blaen, wedi dodi 'r sigâr o'r neilltu.)
OSWALD (gan sefyll o flaen ei fam): 'Mam, a gaf fi eistedd yn eich ymyl?
MEISTRES ALVING (gan wneud lle iddo): Cei, eistedd, fy machgen annwyl i.
OSWALD (gan eistedd): Rhaid i mi ddywedyd rhywbeth wrthych, 'Mam.
MEISTRES ALVING (yn awyddus): Wel?
OSWALD (gan rythu llygaid): Fedraf fi mo'i ddioddef yn hwy!
MEISTRES ALVING: Beth? Beth yw?
OSWALD (fel o'r blaen): Nid oedd gennyf ddigon o blwc i ysgrifennu atoch; ac yn awr, er pan ddeuthum adref
MEISTRES ALVING (gan gydio yn ei fraich): Oswald! beth sydd?
OSWALD: Ddoe a heddyw, mi geisiais yrru'r peth i ffwrdd o'm meddwl, a'm rhyddhau fy hun. Ond waeth heb.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi): Rhaid iti siarad yn blaen, Oswald!
OSWALD (gan ei thynnu ato): Dowch, 'mam, a cheisiaf esbonio i chwi. Cwynais fy mod wedi blino ar ôl y daith
MEISTRES ALVING: Do, a beth wedyn?
OSWALD: Ond nid dyna 'r drwg. Nid rhyw flinder cyffredin
MEISTRES ALVING (gan geisio cyfodi): Wyt ti ddim yn wael ynteu, Oswald?
OSWALD (gan ei thynnu ato drachefn): Dowch, 'Mam. Cymerwch y peth yn dawel. Nid wyf mewn gwirionedd yn wael—nid y peth a elwir yn gyffredin yn waeledd. (Gan ddodi ei ddwylaw o bobtu i'w ben). 'Mam, fy ysbryd i sydd wedi darfod wedi ei andwyo—ni allaf byth weithio eto! (Cuddia ei wyneb a'i ddwylaw, dyd ei ben ar ei glin, a thyrr i feichio wylo.)
MEISTRES ALVING (yn welw a chrynedig): Oswald! Edrych arnaf! Na, na, nid gwir hynny!
OSWALD (gan edrych yn synn arni): Ni allaf byth weithio eto! Byth!—byth! Marw yn fyw! 'Mam, fedrwch chwi ddychmygu am rywbeth mor arswydus?
MEISTRES ALVING: Fy machgen druan! Sut y daeth yr aflwydd hwn arnat?
OSWALD (gan gyfodi yn syth): Ie, dyna yn union yr hyn na fedraf fi mo'i ddeall na'i amgyffred. Ni bum i erioed yn byw bywyd ofer. Mewn ystyr yn y byd. Ni buasech yn disgwyl hynny amdanaf, 'Mam! Ni wneuthum i mo hynny!
MEISTRES ALVING: Naddo, mi wn, fy machgen!
OSWALD: Ac eto, daeth y peth hwn arnaf! Yr aflwydd arswydus hwn!
MEISTRES ALVING: Ond, mi ddoi yn well eto, fy machgen annwyl i. Nid yw ond effaith gweithio'n rhy galed. Gelli fod yn sicr.
OSWALD (yn drist): Felly y gobeithiwn innau ar y dechreu; ond nid dyna 'r gwir.
MEISTRES ALVING: Dywed y cwbl wrthyf o'r dechreu i'r diwedd.
OSWALD: Mi wnaf.
MEISTRES ALVING: Pa bryd y teimlaist oddi-wrtho gyntaf?
OSWALD: Yn fuan wedi i mi fod adref y tro diweddaf a mynd yn fy ôl i Baris. Cefais gur ofnadwy yn fy mhen—yn fy ngwegil y rhan fwyaf, mi gredaf. Fel pe buasai gylch o haearn am fy ngwar a'm pen yn fy ngwasgu.
MEISTRES ALVING: Ac yna?
OSWALD: Ar y dechreu, gobeithiwn nad oedd ond y cur y byddwn yn ei gael yn fy mhen pan oeddwn yn blentyn?
MEISTRES ALVING: Ie, ie.
OSWALD: Ond nid dyna ydoedd. Deellais hynny yn fuan. Ni allwn weithio mwy. Yr oeddwn ar fedr dechreu paentio llun newydd mawr; ond yr oeddwn fel pe buasai pob nerth wedi darfod ynof; yr oeddwn fel pe buaswn wedi fy nifetha; ni allwn ddwyn fy meddyliau at ei gilydd; dim gobaith—popeth yn troi mewn cylch. Ah, cyflwr ofnadwy ydoedd! O'r diwedd euthum at y meddyg—ac yna, ganddo ef, cefais y gwir.
MEISTRES ALVING: Beth yw dy feddwl di?
OSWALD: Un o'r meddygon goreu yn y ddinas ydoedd. Bu raid i mi adrodd fy mhrofiad iddo; ac yna, dechreuodd ofyn lliaws o gwestiynau i mi, cwestiynau y tybiwn i nad oedd a wnelent ddim â'r peth. Nid oeddwn yn deall pa beth a fynnai 'r dyn
MEISTRES ALVING: Wel?
OSWALD: Ac o'r diwedd, dyma a ddywedodd: Cawsoch y cyfansoddiad pydredig hwn cyn eich geni;—ie, dyna 'r union air a lefarodd—" ver-moulu."
MEISTRES ALVING (yn synn): Beth oedd ei feddwl?
OSWALD: Nid oeddwn innau yn deall ar y dechreu, a gofynnais iddo egluro ei feddwl. Ac yna, dywedodd yr hen Gynig—(gan gau ei ddwrn)-Ah!-
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedodd?
OSWALD Meddai: Dielir pechodau'r tadau ar y plant.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi yn araf): Pechodau 'r tadau!
OSWALD: Bu agos i mi a'i daro i lawr—
MEISTRES ALVING (gan gerdded o gwmpas yr ystafell): Pechodau 'r tadau!—
OSWALD (gan chwerthin yn drist): Ie, beth dybiwch chwi o hynny? Dywedais wrtho yn y fan nad allai hynny fod. Ond a dybiwch chwi ei fod yn fy nghredu? Dim perigl; daliodd at ei farn; ac eto, wedi i mi ddangos eich llythyrau iddo, a chyfieithu 'r darnau oedd yn sôn am fy nhad—
MEISTRES ALVING: Yna?
OSWALD: Yna, bu raid iddo gydnabod ei fod wedi methu;—ac yna, deellais y gwir. Y gwir ofnadwy Dylaswn fod wedi cadw draw rhag y bywyd ieuanc llawen a dedwydd gyda 'm cymdeithion. Bu yn ormod i'm nerth. Wedi f'andwyo fy hun, felly!
MEISTRES ALVING: Oswald! Na, na! Paid â chredu hynny!
OSWALD: Nid oedd esboniad arall yn ddichonadwy, meddai ef. Dyna'r peth sy'n ofnadwy. Wedi f'andwyo tra bwyf—drwy fy niofalwch fy hun. Yr holl bethau tlysion a mawr y gallaswn eu gwneud yn y byd yma—ni wiw i mi feddwl amdanynt unwaith—nid allaf feddwl amdanynt! Och, na fedrwn ddechreu bywyd o'r newydd eto—dadwneud y cwbl! (gan ymdaflu ar yr esmwyth-fainc a chuddio ei wyneb a'i ddwylaw.)
MEISTRES ALVING (yn gwasgu ei dwylaw, gan gerdded o gwmpas mewn ymdrech amlwg, ond heb ddywedyd gair).
OSWALD (ar ol ychydig ddistawrwydd, gan ymgynnal ar ei benelinoedd): Pe buasai 'n rhywbeth wedi ei etifeddu,—rhywbeth na buaswn yn euog o hono fy hun. Ond hyn! Dedwyddwch dyn ei hun—ei iechyd-popeth yn y byd—ei ddyfodol—ei fywyd gwario'r cwbl mor waradwyddus, mor ddiddiolch, mor ofer! Ofnadwy!
MEISTRES ALVING: Na, na, fy machgen annwyl i; y mae hynny yn amhosibl! (gan blygu uwch ei ben). Nid yw cyn waethed arnat ag yr wyt yn ofni.
OSWALD: O, ni wyddoch—(gan neidio ar ei draed). Ac wedyn, 'Mam, fod yn rhaid i mi beri 'r holl helbul yma i chwi! Pa sawl gwaith y dymunais ac y gobeithiais nad oeddych yn fy ngharu gymaint!
MEISTRES ALVING: Myfi! Oswald, fy unig fab! Yr unig un sydd gennyf yn y byd; yr unig un y mae f'enaid wedi ymglymu amdano!
OSWALD (gan afael yn ei dwy law a'i chusanu): Ie, ie, mi welaf y cwbl. Pan fyddaf adref yma, gyda chwi, mi welaf hynny. A dyna'r peth chwerwaf i mi, yn wir.—Ond, bellach, dyma chwithau 'n gwybod. Na soniwn ragor am y peth heddyw. Ni wiw i mi byth feddwl yn hir amdano (gan gerdded yn ol a blaen). Dowch a rhywbeth i mi i'w yfed, 'Mam!
MEISTRES ALVING: Yfed? Beth a fynni di eto i'w yfed?
OSWALD: O, waeth beth! Oes dim pwnsh oer yn y tŷ?
MEISTRES ALVING: Oes;—ond Oswald annwyl—
OSWALD: Peidiwch a'm gwrthod, 'Mam. Byddwch yn garedig! Rhaid i mi gael rhywbeth i chwalu 'r meddyliau poenus hyn (gan fyned i'r ystafell flodau). Ac eto—mor dywyll yw hi yma!
MEISTRES ALVING (yn canu 'r gloch, ar y dde).
OSWALD: A'r glaw di derfyn yma! Wythnos ar ôl wythnos—mis cyfan—dim pelydryn o heulwen i'w weled! Nid wyf yn cofio gweled heulwen yma erioed.
MEISTRES ALVING: Oswald! Yr wyt ti yn meddwl ynteu am fy ngadael eto!
OSWALD Hm (gan lyncu ei anadl). Nid wyf yn meddwl am ddim. Ni allaf feddwl (yn isel). Rhoddais y goreu i hynny.
REGINE (o'r ystafell fwyta): Oeddych chwi yn galw, ma'm?
MEISTRES ALVING: Oeddwn, tyred â'r lamp yma.
REGINE; Rhag blaen. Ni byddaf fawr o dro yn ei goleuo. (A ymaith.)
MEISTRES ALVING (gan fyned at Oswald): Oswald, paid â chelu dim rhagof.
OSWALD: Nid wyf yn celu dim, 'Mam (gan fyned at y bwrdd). Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dywedyd digon wrthych eisoes.
REGINE (yn dwyn y lamp, a'i dodi ar y bwrdd).
MEISTRES ALVING: Regine, gelli ddyfod a hanner potelaid o win gwyn i ni.
REGINE: O'r goreu, ma'm. (A ymaith.)
OSWALD (gan ddodi ei ddwylaw ar ben ei fam): Diolch Mi wyddwn na fedrai mam ddim gwrthod ei phlentyn.
MEISTRES ALVING: Oswald annwyl, sut y gallwn i wrthod unpeth i ti?
OSWALD (yn fywiog): A yw hynny yn wir, 'Mam? A ydych chwi o ddifrif?
MEISTRES ALVING: Sut? Beth?
OSWALD: Na fedrech wrthod unpeth i mi?
MEISTRES ALVING: Ond Oswald annwyl—
OSWALD: Yn ddistaw!—
REGINE (yn dwyn hanner potelaid o win, a dau wydr, ar blat, ac yn eu dodi ar y bwrdd): A gaf i agor y—?
OSWALD: Na, diolch, mi wnaf hynny fy hun. (Regine yn mynd ymaith.)
MEISTRES ALVING (yn eistedd wrth y bwrdd): Pa beth oedd hynny—na ddylwn ei wrthod i ti?
OSWALD (gan gydio yn y botel i'w hagor): Yn gyntaf, gwydr—neu ddau. (Tynn y corcyn, tywallta win i un gwydr, yna cais dywallt i'r llall.)
MEISTRES ALVING (gan atal ei law): Diolch—dim i mi.
OSWALD: Wel, i mi ynteu! (Lleinw'r gwydr ac yf i gyd, lleinw drachefn ac yf i gyd; yna eistedd wrth y bwrdd.)
MEISTRES ALVING (yn ddisgwylgar): Wel?
OSWALD (Heb edrych arni): Gwrandewch arnaf. Yn fy meddwl i, yr oeddych chwi a Manders y Gweinidog yn ddistaw iawn amser cinio.
MEISTRES ALVING: A sylwaist ti hynny?
OSWALD: Do. Hm—(wedi ychydig ddistawrwydd) Dywedwch i mi—beth yw'ch meddwl o Regine?
MEISTRES ALVING: Beth yw fy meddwl?
OSWALD: Ie. Onid yw hi yn ardderchog?
MEISTRES ALVING: Annwyl Oswald, nid wyt yn ei hadnabod cystal â mi.
OSWALD: Wel?
MEISTRES ALVING: Ysywaeth, bu Regine yn llawer rhy hir gyda'i thad adref. Dylaswn fod wedi ei chymryd yma, ataf yn llawer cynt.
OSWALD: Ie; eto, onid yw hi yn ardderchog i'w gweled, 'Mam? (Gan lenwi gwydr.)
MEISTRES ALVING: Y mae llawer o feiau mawrion yn Regine
OSWALD: Oes, mae'n sicr; beth am hynny? (Gan yfed eto.)
MEISTRES ALVING: Ond eto yr wyf yn meddwl llawer o honi, a chymerais y cyfrifoldeb am dani. Ni fynnwn i am bris yn y byd i ddim ddigwydd iddi.
OSWALD (gan neidio i fyny): 'Mam! Regine yw fy unig waredigaeth!
MEISTRES ALVING: Beth yw dy feddwl di wrth hynny?
OSWALD: Ni fedraf ddioddef yr ingoedd enaid hyn yn hwy fy hun.
MEISTRES ALVING: Onid yw dy fam gennyt i'w cyd-ddioddef â thi?
OSWALD: Ydyw, mi obeithiaf, a dyna paham y deuthum adref atoch. Ond ni thâl hynny ychwaith. Mi welaf na thâl. Fedraf i ddim dioddef bywyd yma!
MEISTRES ALVING: Oswald!
OSWALD: Rhaid i mi arwain bywyd gwahanol, 'Mam. Ac am hynny, rhaid i mi eich gadael. Nid wyf am i chwi weled fy helbul.
MEISTRES ALVING: Fy machgen druan! Ond Oswald, cyhyd ag y byddi mor wael ag yr wyt
OSWALD: Pe na bai ond y gwaeledd yn unig, mi arhoswn gyda chwi, 'Mam. Yna, chwi fuasai'r cyfaill goreu.
MEISTRES ALVING: Ie, onid gwir, Oswald? Onid myfi yw?
OSWALD (gan gerdded o gwmpas yn anesmwyth): Ond dyma 'r poenau hyn—yr edifeirwch—ac yna yr ing ofnadwy, angeuol. O-yr ing ddychrynllyd!
MEISTRES ALVING (gan fyned ato): Ing?—Pa ing? Beth yw dy feddwl di?
OSWALD: Och! peidiwch â gofyn i mi eto. Nid wn i ddim. Ni allaf ei ddisgrifio.
MEISTRES ALVING (yn mynd i'r dde ac yn canu'r gloch).
OSWALD: Beth a wnewch?
MEISTRES ALVING: Mi fynnaf fod fy machgen yn hapus, dyna a fynnaf! Ni chaiff fynd o gwmpas a grwgnach yma. (Wrth Regine, a ddaw i'r drws.) Ychwaneg o win-potel lawn. (A Regine ymaith.)
OSWALD: 'Mam!
MEISTRES ALVING: Meddwl yr oeddit hwyrach na wyddom ni yma yn y wlad ddim sut i fyw?
OSWALD: Onid yw hi 'n brydferth i'w gweled? Fel y mae hi wedi tyfu! A chyn iached â'r gneuen!
MEISTRES ALVING (gan eistedd wrth y bwrdd): Eistedd, Oswald, a gad i ni siarad yn dawel.
OSWALD (gan eistedd): Wyddoch chwi ddim, fy mam, fod gennyf ryw gam i wneud iawn amdano i Regine.
MEISTRES ALVING: Tydi!
OSWALD: Neu ryw dro bach difeddwl—fel y buasech yn ei alw. Cwbl ddiniwed, er hynny. Pan oeddwn i adref y tro o'r blaen
MEISTRES ALVING: Ie?
OSWALD Byddai hi yn fy holi mor fynych am Baris, a minnau yn dywedyd hyn a'r llall wrthi am y lle. Ac yr wyf yn cofio i mi ofyn iddi un diwrnod oni buasai hi yn hoffi myned yno
MEISTRES ALVING: Ac yna?
OSWALD: Aeth cyn goched â'r tân, ac yna dywedodd Buasai, buasai wrth ei bodd pe cawsai fyned yno.—Wel, meddwn innau, hawdd trefnu hynny, neu ryw eiriau tebyg.
MEISTRES ALVING: Beth wedyn?
OSWALD: Wrth reswm, yr oeddwn i wedi anghofio 'r cwbl; pan ofynnais iddi echnos a oedd yn dda ganddi fy mod i aros cyhyd gartref
MEISTRES ALVING: Ie?
OSWALD:—lle gwelai hi fi mor anfynych, dyma hi yn gofyn: Beth am fy nhaith innau i Baris?
MEISTRES ALVING: Ei thaith hithau!
OSWALD: Ac felly mi ddeellais ei bod hi wedi cymryd y peth o ddifrif; ei bod hi yn meddwl amdanaf ar hyd yr amser, a'i bod wedi dechreu dysgu Ffrangeg.
MEISTRES ALVING: Dyna'r rheswm felly
OSWALD: 'Mam,—yr eiliad hwnnw, pan welais yr eneth landeg, daclus ac iachus yn sefyll o'm blaen—cyn hynny nid oeddwn i wedi sylwi arni,—fel yr oedd hi 'n sefyll o'm blaen, fel pe buasai a'i breichiau yn agored i'm cofleidio—
MEISTRES ALVING: Oswald!
OSWALD: Yna, mi welais yn glir mai ynddi hi yr oedd fy ngwaredigaeth;—mai ynddi hi y mae llawenydd bywyd!
MEISTRES ALVING (yn synn): Llawenydd bywyd?—A ddichon hynny ddwyn gwaredigaeth?
REGINE (gan ddyfod o'r ystafell fwyta, gyda'r gwin): Maddeuwch i mi fod cyhyd—bu raid i mi fyned i lawr i'r seler (dyd y botel ar y bwrdd).
OSWALD: Dowch â gwydr arall.
REGINE (gan edrych yn synn): Y mae gwydr eich mam ar y bwrdd, syr.
OSWALD: Ydyw, ond dowch â gwydr i chwi 'ch hun, Regine. (Cyffry Regine, a thry led olwg ar Meistres Alving.) Wel?
REGINE (yn isel a phetrus): A fydd Meistres Alving yn fodlon?
MEISTRES ALVING: Tyred â'r gwydr, Regine. (A Regine i'r ystafell fwyta.)
OSWALD (gan edrych ar ei hol): A sylwasoch chwi fel y mae hi'n cerdded? Mor chwim a hoenus!
MEISTRES ALVING: Ni thâl hyn ddim, Oswald.
OSWALD Mae 'r peth wedi ei wneud, fel y gwelwch. Ni waeth heb ddywedyd dim yn ei erbyn, bellach. (Daw Regine i mewn a gwydr gwag yn ei llaw). Eisteddwch, Regine.
(Edrych Regine ar Meistres Alving.)
MEISTRES ALVING: Eistedd. (Eistedd Regine ar gadair wrth ddrws yr ystafell fwyta, a'r gwydr gwag yn ei llaw o hyd.) Oswald, pa beth yr oeddit yn mynd i'w ddywedyd am lawenydd bywyd?
OSWALD: Ie, llawenydd bywyd, 'Mam—ychydig a wyddoch am dano yn y tŷ hwn. Ni byddaf byth yn ei brofi yma.
MEISTRES ALVING: Ddim hyd yn oed pan fyddi gyda mi?
OSWALD: Na byddaf byth, pan fwyf gartref. Ond nid ych chwi yn deall hynny.
MEISTRES ALVING: Eto, eto, gobeithiaf y dof i ddeall yn y man—yn awr!
OSWALD Dyna—ie, dyna lawenydd gwaith hefyd. Ie, yr un peth yw hynny, yn y bôn. Ond ni wyddoch ddim am hynny yma chwaith.
MEISTRES ALVING: Hwyrach dy fod yn iawn yn hynny. Oswald, gad i mi glywed rhagor.
OSEWALD: Ie, fy meddwl i yw mai 'r peth a ddysgir i chwi yma yw hyn—mai melltith a barn pechod ydyw gwaith, ac nad yw bywyd ond rhywbeth truenus, ac mai goreu i ddyn po gyntaf y caffo wared o hono.
MEISTRES ALVING: Glyn gofidiau, ie. Ac eto, gwnawn ef yn gywir a gonest.
OSWALD: Ond ni ŵyr pobl draw acw ddim am beth o'r fath. Nid oes yno neb yn credu 'r fath ddysgeidiaeth. Yno, llawenydd digymysg ydyw hyd yn oed braslunio unrhyw beth. Fy mam, oni sylwasoch fod popeth a baentiais i erioed yn tynnu at lawenydd bywyd? Bob amser ac yn gyson ynglyn â llawenydd bywyd. Drosodd acw, ceir goleuni, heulwen, a dydd Sul dilyffethair—a dynion âg wynebau siriol hapus. Felly, y mae arnaf ofn aros gartref yma gyda chwi.
MEISTRES ALVING: Y mae ofn arnat? Rhag pa beth yr ofni yma gyda mi?
OSWALD: Ofni rhag i'r peth sy'n llosgi ynof dorri allan yn anfoesoldeb yma.
MEISTRES ALVING: A wyt ti'n meddwl y gallai hynny ddigwydd?
OSWALD: Yr wyf yn ddigon sicr. Er i ddyn fyw yr un bywyd yma âg acw—eto, nid yr un bywyd yw.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi, wedi gwrando 'n synn, a golwg feddylgar ar ei hwyneb): Bellach, gwelaf gysylltiad pethau â'i gilydd.
OSWALD Beth a welwch?
MEISTRES ALVING: Gwelaf yn awr am y tro cyntaf. Ac yn awr, mi feiddiaf siarad.
OSWALD (gan gyfodi): Fy mam, nid wyf yn eich deall.
REGINE (hefyd wedi cyfodi): Gwell i mi fyned, hwyrach?
MEISTRES ALVING: Nage, aros. Bellach, mi allaf siarad. Bellach, fy mab, cei wybod y cwbl. Ac yna, cei dy ddewis. Oswald! Regine!
OSWALD: Ust. Y gweinidog
MANDERS (gan ddyfod i mewn drwy'r cyntedd): Ha, felly! Cawsom awr deimladwy iawn i lawr acw.
OSWALD Felly ninnau.
MANDERS: Rhaid helpu Engstrand gyda'i gartref i forwyr. Rhaid i Regine fyned gydag ef a'i gynorthwyo
REGINE Na raid, diolch i chwi, syr.
MANDERS (gan sylwi ei bod hi yno): Beth?—Yma? A chyda gwydr yn ei llaw?
REGINE (gan ddodi 'r gwydr heibio yn chwyrn): Maddeuwch—!
OSWALD: Y mae Regine yn myned gyda mi, syr.
MANDERS: Yn myned gyda chwi!
OSWALD: Ie, fel fy ngwraig,—os myn hi hynny.
MANDERS: Ond, Arglwydd trugarog—!
REGINE: Nid arnaf fi y mae'r bai, syr.
OSWALD: Neu hi erys yma-os arhosaf fi.
REGINE (yn siomedig): Yma!
MANDERS: Meistres Alving, yr ydych yn fy arswydo i!
MEISTRES ALVING: Ni ddigwydd y naill na'r llall, canys bellach gallaf siarad yn blaen.
MANDERS: Ond, ni wnewch chwi mo hynny! Na, na, na!
MEISTRES ALVING: Medraf, ac mi wnaf! Ac er hynny, ni syrth unrhyw ddelw chwaith.
OSWALD: Fy mam, pa beth yr ydych yn ei guddio?
REGINE: O, meistres! Clywch! Y mae'r bobl yn gweiddi i lawr acw. (A i'r tŷ gwydr, ac edrych drwy'r ffenestr.)
OSWALD (wrth y ffenestr ar y chwith): Beth sydd o'i le? O ba le y daw 'r goleu acw?
REGINE (yn gweiddi): Mae'r cartref ar dân!
MEISTRES ALVING: Ar dân!
MANDERS: Ar dân? Amhosibl. Yr oeddwn i yno funud yn ôl.
OSWALD Pa le y mae fy het i? Na, mi wnaf hebddi—Cartref coffa fy nhad! (Rhuthra allan drwy ddrws yr ardd.)
MEISTRES ALVING: Rhywbeth i mi dros f'ysgwyddau, Regine! Och, y cynneu y mae!
MANDERS: Ofnadwy!—Meistres Alving, dyma'r farn yn fflamio uwch ben y tŷ cyfeiliornus hwn!
MEISTRES ALVING: Ie, ie, yn ddiameu. Tyred, Regine. (A Regine a hithau allan drwy'r cyntedd.)
MANDERS (gan blethu ei ddwylaw): A'r lle heb ei insiwrio! (canlyna 'r lleill).
Y DRYDEDD ACT.
YR UN YSTAFELL.
Pob drws yn agored. Y lamp eto 'n oleu ar y bwrdd. Tywyllwch oddiallan, ond o'r tu cefn, i'r chwith, gwelir llewych gwan.
(Saif Meistress Alving, a hugan mawr dros ei phen, yn y tŷ gwydr, gan edrych allan. Saif Regine y tu cefn iddi, hithau a hugan drosti.)
MEISTRES ALVING: Y cwbl wedi llosgi! I lawr hyd y gwaelod!
REGINE: Y mae'r seleri yn llosgi eto.
MEISTRES ALVING: Ac Oswald heb ddyfod yn ôl! Nid oes dim yn y byd i'w achub eto?
REGINE: Onid gwell i mi fyned a'i het iddo?
MEISTRES ALVING: Oni ddododd ei het am ei ben?
REGINE (gan edrych i'r cyntedd): Naddo, dyma hi
MEISTRES ALVING: Gad iddi. Rhaid iddo ddyfod yn ei ôl yn union. Mi af i edrych amdano fy hun (a drwy ddrws yr ardd).
MANDERS (yn dyfod drwy'r cyntedd): Onid yw Meistres Alving yma?
REGINE: Y mae hi newydd fyned allan i'r ardd.
MANDERS: Dyma noswaith fwyaf ofnadwy fy mywyd!
REGINE: Ie, onid anffawd ddychrynllyd fu, syr?
MANDERS: Och! peidiwch â sôn amdani! Feiddiaf fi ddim meddwl am y peth!
REGINE: Ond sut y gallai 'r peth ddigwydd—?
MANDERS Peidiwch â gofyn i mi, Miss Eng-strand! Sut y gwn i? Hwyrach y mynnech chwithau hefyd? Onid digon oedd, fod eich tad—?
REGINE: Beth amdano ef?
MANDERS Och! oni wnaeth ef fy mhen i'n hollol gymysg
ENGSTRAND: (gan ddyfod o'r cyntedd): Ha, syr
MANDERS (gan droi 'n chwyrn): Dyma chwi yma ar f'ôl i eto!
ENGSTRAND: Ie, a'm tynno i!—O, Arglwydd trugarog! Ond dyma hanes ofnadwy, syr!
MANDERS (gan fynd yn ol a blaen): Truenus, truenus!
REGINE Beth sydd, ynteu?
ENGSTRAND: Wyt ti'n gweled, y gwasanaeth hwnnw fu'r achos (yn isel).
Eto, y mae 'r aderyn yn ein llaw wedi'r cwbl, fy ngeneth i! (Yn uchel.) A bod bai arnaf fi, a bod y gweinidog hefyd ar fai!
MANDERS: Ond yr wyf yn rhoi fy ngair i chwi, Engstrand
ENGSTRAND: Ni bu neb ond chwi, syr, yn ymhel â'r goleu yno.
MANDERS: Ie, felly y dywedwch. Ond ni fedraf fi ddim cofio fod goleu yn fy llaw i o gwbl tra bum yno.
ENGSTRAND: Ond gwelais innau chwi yn sicr, syr, yn cymryd y goleu ac yn ei lanhau a'ch bysedd, ac yna yn taflu 'r lludw i ganol yr asglodion.
MANDERS: A welsoch chwi hynny?
ENGSTRAND: Do, a'm llygaid fy hun.
MANDERS: Ni fedraf yn fy myw gredu hynny. Ni byddaf byth yn arfer trin y goleu â'm bysedd.
ENGSTRAND: Ie, peth anhylaw yw hynny, yn wir. Ond, a oes berigl ynglŷn a'r anlwc, syr?
MANDERS (gan gerdded yn anesmwyth o gwmpas): Och! Peidiwch â gofyn i mi!
ENGSTRAND (gan fyned ar ei ol): Syr, oeddych chwi ddim wedi insiwrio 'r lle?
MANDERS (gan symud o hyd): Nag oeddwn, nag oeddwn, nag oeddwn, meddaf!
ENGSTRAND (gan ei ganlyn): Ddim wedi insiwrio! Ac yna, mynd a llosgi'r cwbl! Arglwydd, arglwydd, y fath anlwc!
MANDERS (gan sychu'r chwys oddiar ei dalcen): Ie, da y gellwch ddywedyd hynny, Engstrand!
ENGSTRAND: A bod hyn oll wedi digwydd i sefydliad elusennol, a fuasai 'n lles i'r dref a'r wlad, fel y dywed pobl. Ni bydd y papurau yn rhyw garedig iawn at y gweinidog, mi gymraf fy llw, syr!
MANDERS: Dyna'n union yr hyn sydd yn fy meddwl innau. Dyna'r gwaethaf o'r cwbl. Yr holl ymosod a'r beio a fydd—! Och, y mae'n ofnadwy dim ond meddwl amdano!
MEISTRES ALVING (gan ddyfod o'r ardd): Ddaw ef ddim oddiwrth y tân.
MANDERS: Ach, ai chwi sydd yna, Meistres Alving!
MEISTRES ALVING: Bellach, fydd dim galw am eich araith fawr, Manders!
MANDERS Ach, buasai'n wir yn dda gennyf—
MEISTRES ALVING (yn drist): Goreu oedd i bethau ddigwydd fel y bu! Nid oedd y Cartref hwn i fod tan fendith.
MANDERS: A ydych yn meddwl felly mewn gwirionedd?
MEISTRES ALVING: A ydych chwi yn meddwl yn amgen?
MANDERS: Anlwc ofnadwy oedd er hynny.
MEISTRES ALVING: Cawn sôn am y peth yn fyrr ac yn derfynol, fel mater o fusnes.—Engstrand, a ydych yn disgwyl am y gweinidog?
ENGSTRAND (yn y cyntedd): Ydwyf.
MEISTRES ALVING: Felly, eisteddwch am ychydig.
ENGSTRAND: Diolch, mi allaf sefyll.
MEISTRES ALVING (wrth Manders): Felly, yr ydych am fyned gyda 'r llong nesaf?
MANDERS: Ydwyf. Bydd yn hwylio ym mhen yr awr.
MEISTRES ALVING: Ni fynnaf i glywed un gair yn rhagor am y peth. Bellach, y mae gennyf rywbeth arall i feddwl am dano.
MANDERS: Meistres Alving
MEISTRES ALVING: Cyn bo hir, mi yrraf lawn awdurdod i chwi drefnu'r cwbl fel y gweloch yn oreu.
MANDERS: Mi wnawn hynny o ewyllys calon. Fel y mae waetha 'r modd, bydd yn rhaid newid llawer ar amcan cyntaf y rhodd.
MEISTRES ALVING: Mae'n eglur.
MANDERS: Felly, mi gredaf mai goreu gadael i'r tir fynd i'r plwyfolion. Nid yw 'r meysydd a'r gweirgloddiau heb eu gwerth eto. Gellir bob amser eu troi hwy at ryw amcan a dalo. A dyna'r arian rhyddion, a adawsom wrth gefn, hwyrach y gallaf roi'r rhai hynny at ryw amcan neu gilydd a fo o ryw les i'r wlad.
MEISTRES ALVING: Fel y mynnoch! Ni waeth gennyf i ar y ddaear!
ENGSTRAND: Cofiwch am fy nghartref i ar gyfer morwyr, syr!
MANDERS: Gwnaf, yn sicr, cyn gynted âg y bydd yn barod. Ond rhaid ystyried rhagor am y peth.
ENGSTRAND: A grogo ystyriaeth, na raid!
MANDERS (gan uchneidio): Ac ni wn i ddim, ysywaeth, pa hyd y bydd a wnelwyf fi ddim â'r peth hwn, na pha un a fydd y farn gyhoeddus yn fy ngorfod i'w adael ai peidio. Dibynna 'r cwbl ar ganlyniad yr ymchwiliad ynghylch achos y Tân.
MEISTRES ALVING: Beth?
MANDERS: Ac ni ellir dywedyd ymlaen llaw beth fydd y canlyniad hwnnw.
ENGSTRAND (gan ddynesu): O, gellir, yn ddigon sicr, gellir dywedyd. Dyma Jacob Engstrand
MANDERS: Ie, ie, ond—?
ENGSTRAND: Ac nid dyn ydyw Jacob Engstrand i adael cymwynaswr ynghanol ei helbul, fel y dywedir.
MANDERS: Ie, fy nghyfaill, ond pa fodd?
ENGSTRAND: Y mae Jacob Engstrand fel angel gwarchod, syr!
MANDERS: Na, na, ni allwn i byth gytuno â hynny.
ENGSTRAND: O, bydd popeth yn iawn. Mi wn am un a gymerodd fai un arall arno eisoes.
MANDERS (gan gydio yn ei law): Jacob! Dyn anghyffredin ydych! Wel, chwi gewch help gyda'ch Cartref i Forwyr, gellwch fod yn dawel am hynny. (Engstrand heb allu diolch, gan deimlad. Manders yn dodi 'r gôd ar ei gefn.) Ac yn awr, rhaid mynd. Awn gyda'n gilydd.
ENGSTRAND (wrth ddrws yr ystafell fwyta, yn isel, wrth Regine): Tyrd gyda mi, eneth. Cei fyw fel tywysoges.
REGINE (gan dafu ei phen yn ol):
ol): Merci. (A i'r cyntedd, i estyn côt uchaf y gweinidog.)
MANDERS: Da y boch chwi, Meistres Alving. A rhodded Duw y daw ysbryd trefn a gwedduster yn fuan iawn i'r tŷ hwn!
MEISTRES ALVING: Da y boch chwithau, Manders. (A i'r tŷ gwydr, lle daw Oswald i mewn drwy'r drws o'r ardd.)
ENGSTRAND (a Regine ac yntau yn cynorthwyo'r gweinidog i wisgo 'i gôt uchaf): Da boch di, fy ngeneth. A phe bai rywbeth yn digwydd iti, gwyddost pa le i gael hyd i Jacob Engstrand (Yn isel.) Yn Heol y Porth Bach, hm!—(wrth Meistres Alving ac Oswald.) A'r enw ar y cartref i Forwyr fydd "Cartref y Capten Alving." Ac os medraf drefnu 'r tŷ hwnnw fel yr wyf yn meddwl, bydd yn deilwng o'r diweddar gapten, mi rof fy ngair i chwi.
MANDERS (yn y drws): Hm-hm! A ydych chwi yn dyfod bellach, Engstrand? Da boch, da boch i gyd! (A Engstrand ac yntau allan drwy'r cyntedd.)
OSWALD: Am ba dŷ yr oedd yn sôn?
MEISTRES ALVING: Math o gartref, y mae Manders ac yntau yn mynd i'w godi.
OSWALD Fe lysg hwnnw i'r llawr, yr un fath â'r cwbl yma.
MEISTRES ALVING: Beth sy'n peri iti ddywedyd hynny?
OSWALD Fe lysg popeth. Ni phery dim sy'n coffau am fy nhad. Yr wyf finnau yn mynd o gwmpas gan losgi. (Regine yn edrych yn ddychrynedig arno.)
MEISTRES ALVING: Oswald! Raid iti ddim aros yn hir iawn yma, fy machgen druan!
OSWALD (gan eistedd wrth y bwrdd): Yr wyf bron a gobeithio eich bod yn iawn.
MEISTRES ALVING: Gad i mi sychu dy wyneb Oswald. Yr wyt yn wlyb diferol. (Sych ei wyneb a'i chadach poced.)
OSWALD (gan syllu'n synn draw): Diolch, 'Mam. MEISTRES ALVING: Onid wyt ti wedi blino, Oswald? Onid gwell iti fynd i gysgu?
OSWALD (mewn ing): Na, na!—dim cysgu! Ni byddaf byth yn cysgu! Dim ond rhyw hanner huno weithiau. (Yn boenus.) Mi ddaw yn ddigon buan!
MEISTRES ALVING (gan edrych yn anesmwyth arno): Ond yr wyt yn wael, fy machgen annwyl i.
REGINE (yn synn): A yw Meistr Alving yn wael?
OSWALD (yn ddiofal): Ac yna, fe gaeir pob drws. O! yr ing marwol yma!
MEISTRES ALVING: Cae'r drysau, Regine. (Regine yn cau 'r drysau, ac yn sefyll wrth ddrws y cyntedd. Tynn Meistres Alving yr hugan oddi amdani. Gwna Regine yr un peth. Dwg Meistres Alving gadair i ymyl Oswald, ac eistedd.) Yn awr, mi eisteddaf gyda thi yma
OSWALD: Ie, gwnewch. A chaiff Regine aros yma hefyd. Rhaid i Regine fod gyda mi bob amser. Fe wnaech chwi gymwynas â mi, oni wnaech, Regine?
REGINE: Nid wyf yn deall
MEISTRES ALVING: Gwneud cymwynas?
OSWALD: Ie-pan fo rhaid.
MEISTRES ALVING: Oswald, onid yw dy fam gyda thi, i roi pob help iti?
OSWAID: Chwi?—(Chwardd.) Na, fy mam, ni wnaech chwi mo'r gymwynas honno. (Chwardd yn chwerw). Chwi! ha-ha! (Syll yn graff arni.) Er hynny, chwi fyddai 'r nesaf hefyd! (Yn angerddol.) Pam na ddywedi "ti" wrthyf, Regine? Pam na elwi fi Oswald?
REGINE (yn isel): Nid wyf yn meddwl y byddai wrth fodd eich mam.
MEISTRES ALVING: Mi rof gennad iti wneud hynny yn union deg. Yn awr, eistedd yma gyda ni. (Eistedd Regine yn ddist aw yr ochr arall i'r bwrdd.) Ac yn awr, mi dynnaf y baich chwerw oddiar dy enaid tithau fy machgen druan gwirion
OSWALD: Chwi, 'Mam?
MEISTRES ALVING:—y cwbl yr wyt ti yn ei alw yn edifeirwch, gofid a gwaradwydd
OSWALD: A fedrwch chwi, tybed?
MEISTRES ALVING: Medraf, Oswald, bellach. Soniaist gynneu am lawenydd bywyd, ac yna gwelais innau fy holl fywyd mewn goleuni newydd.
OSWALD (gan ysgwyd ei ben): Nid wyf fi yn deall hynny.
MEISTRES ALVING: Dylasit adnabod dy dad, fel yr oedd yn ddyn ieuanc. Ynddo ef yr oedd llawenydd bywyd—os mynni di!
OSWALD: Ie, mi wn hynny.
MEISTRES ALVING: Yr oedd dim ond golwg arno cystal a dydd o wanwyn. A'r egni diatal a'r bywiowgrwydd oedd ynddo!
OSWALD: Ac yna—?
MEISTRES ALVING: Ac yna, bu raid i'r plentyn bywiog hwn—canys nid oedd ddim amgen na phlentyn y pryd hwnnw—fyned i ryw dref fechan, lle nad oedd llawenydd iachus, dim ond difyrrwch i'w gael. Yno, yr oedd raid iddo aros, heb unrhyw amcan mewn bywyd—nid oedd ganddo ddim ond swydd. Ni welodd erioed waith y gallasai â'i holl egni ymdaflu iddo; nid oedd ganddo ond galwedigaeth. Ni chafodd gymdeithas a fedrai ddangos iddo pa beth yw llawenydd bywyd. Nid adwaenai ond cyfeddachwyr a segurwyr
OSWALD: 'Mam!
MEISTRES ALVING: Felly, digwyddodd yr hyn yr oedd yn rhaid ei ddigwydd.
OSWALD: A pha beth oedd hynny?
MEISTRES ALVING: Dywedaist ti dy hun eisoes heno pa beth a ddigwyddai iti ped arhosit yma.
OSWALD: Ai meddwl hynny yw fod fy nhad—?
MEISTRES ALVING: Ni chafodd dy dad truan erioed ddrws agored i'r egni bywyd anghyffredin oedd ynddo. At hynny, ni ddygais innau'r gwanwyn i'w gartref.
OSWALD: Na chwithau chwaith?
MEISTRES ALVING: Dysgwyd i mi rywbeth am Ddyletswydd a phethau o'r fath, a chredais ynddynt hyd heddyw. Nid oedd dim ond Dyletswydd fy nyletswydd i a'th ddyletswydd dithau—
Oswald, y mae arnaf ofn fy mod wedi gwneud y cartref yn annioddefol i'th dad truan.
OSWALD: Paham na buasech yn ysgrifennu rhywbeth am hyn ataf?
MEISTRES ALVING: Hyd yr awr hon, ni welais erioed mo'r peth yn y fath oleuni fel y gallaswn sôn amdano wrthyt ti, ei fab.
OSWALD: Ie-ond sut yr edrychai i chwi hyd yma?
MEISTRES ALVING (yn araf): Ni welwn ond hyn—fod dy dad wedi ei andwyo cyn dy eni di erioed.
OSWALD (yn gyffrous): Ah!—(cyfyd a cherdda at y ffenestr.)
MEISTRES ALVING: Ac yna, o'r naill ddydd i'r llall, meddyliwn am yr un peth, fod Regine yn perthyn i'r teulu hwn—fel—fy mhlentyn fy hun!
OSWALD (gan droi yn chwyrn): Regine!—
REGINE (gan neidio ar ei throed, a chyda llais cyffrous): Myfi?
MEISTRES ALVING: Ie. Bellach, gwyddoch eich dau.
OSWALD: Regine!
REGINE: Felly, yr oedd fy mam hefyd yn—
MEISTRES ALVING: Yr oedd llawer o ddaioni yn dy fam, Regine.
REGINE: Oedd, ond er hynny yr oedd hi—Tybiais hynny fy hun, weithiau;—ond—meistres, caniatewch i mi ymadael?
MEISTRES ALVING: A fynni di fynd, Regine?
REGINE: Mynnaf, yn sicr.
MEISTRES ALVING: Y mae'n naturiol fod gennyt ewyllys o'r eiddot dy hun, ond
OSWALD (gan fyned at Regine): Eto, a fynni di fyned? Yr wyt ti'n perthyn i'r teulu yma.
REGINE: Merci, Meistr Alving!—bellach, mi allaf yn wir ddywedyd Oswald. Ond nid yn y ffordd yma yr oeddwn i yn meddwl am hynny.
MEISTRES ALVING: Regine, ni bum yn agored gyda thi
REGINE Naddo, ysywaeth! Pe gwybuaswn fod Oswald yn wael, yna—. A chan na ddichon fod dim difrif rhyngom ein dau—. Na, ni allaf i aros yma yn y wlad, ac ymboeni ynghylch pobl gleifion.
OSWALD: Nid hyd yn oed un yn perthyn mor agos i ti?
REGINE: Na fedraf, a dywedyd y gwir. Rhaid i eneth dlawd fanteisio ar ei hieuenctid, onide, buan y gwel ei hun ar wely gwellt. Ac y mae llawenydd bywyd ynof innau hefyd, meistres!
MEISTRES ALVING: Oes, ysywaeth; ond paid â myned ymaith, Regine.
REGINE: Wel, nid oes mo'r help. Os tynnu ar ôl ei dad y mae Oswald, tynnu ar ôl fy mam yr wyf innau.—A feiddiaf i ofyn, Meistres Alving, a ŵyr y gweinidog Manders y pethau hyn?
MEISTRES ALVING: Gŵyr Manders y cwbl.
REGINE (gan roi hugan amdani): Felly, rhaid i mi frysio, gael i minnau ddal y llong. Gallaf eto fynd ar unwaith â'r gweinidog. Ac at hynny, mi dybygwn hefyd fod gennyf gymaint o hawl i'r arian hynny âg sydd ganddo yntau-y saer tlawd!
MEISTRES ALVING: Rhoddir yr arian iti, Regine.
REGINE (gan edrych yn oeraidd): Meistres Alving, gallasech adael fy nwyn i fyny fel plentyn dyn o safle uchel; buasai hynny yn gweddu yn well i mi (gan daflu ei phen yn ol). Ond ni waeth am hynny yn awr. Y mae'r cwbl drosodd, ac nid oes dim pwys! (Gan fwrw golwg ar y botel win.) Hwyrach y caf eto unwaith yfed gwin gyda phobl fawr!
MEISTRES ALVING: A phe bai arnat eisieu cartref eto, Regine, tyred ataf fi.
REGINE: Na, diolch i chwi, Mistres Alving, fe edrych y gweinidog ar fy ôl i. A phe bai 'n ddrwg iawn arnaf, mi wn eto am dŷ yr wyf yn perthyn iddo.
MEISTRES ALVING: A pha dŷ yw hwnnw?
REGINE Cartref y Capten Alving.
MEISTRES ALVING: Regine,—gwelaf yn glir yn awr—fe ei dithau i lawr!
REGINE: Ah, twt!—Da boch (ymgryma, ac a ymaith drwy'r cyntedd).
OSWALD (gan sefyll wrth y ffenestr, ac edrych allan): A aeth hi?
MEISTRES ALVING: Do.
OSWALD (gan furmur wrtho'i hun): Mae'n debyg mai ofer oedd hyn.
MEISTRES ALVING (gan fynd ato a dodi ei llaw ar ei ysgwydd): Oswald, fy machgen annwyl i,—a barodd y peth boen fawr i ti?
OSWALD (gan droi ati): Y peth hwn am fy nhad?
MEISTRES ALVING: Ie, am dy dad anffodus. Yr wyf yn ofni yn awr ei fod wedi cynhyrfu gormod arnat.
OSWALD Paham? Yr oedd, yn naturiol iawn, yn gryn syndod; ond yn y bôn, nid yw nac yma nac acw i mi.
MEISTRES ALVING (gan dynnu ei llaw yn ol): Nac yma nac acw!—fod dy dad mor ofnadwy o anffodus?
OSWALD: Yn naturiol, y mae gennyf gydymdeimlad âg ef, fel â phawb arall ond
MEISTRES ALVING: Arall?—Dy dad ti dy hun!
OSWALD (yn ddiofal): Ie, tad—tad—tad! Nid adnabûm i erioed mo 'm tad. Nid oes gennyf i ddim Cof amdano ond ei fod unwaith wedi achosi i mi fynd yn sâl iawn.
MEISTRES ALVING: Y mae'n ofnadwy meddwl y fath beth! Oni ddylai plentyn er hynny feddu serch at ei dad?
OSWALD: Pan na bo ganddo ddim i ddiolch i'w dad amdano? Pan nad adnabu mono erioed? A ydych chwithau yn wir eto 'n dal yn dynn at yr hen goelion, chwi, y sydd ond hynny mor oleuedig?
MEISTRES ALVING: Ac nad yw hynny ond ofergoel!
OSWALD: Ie, rhaid i chwi gydnabod hynny hefyd, 'Mam. Dyma un o'r syniadau y dylid eu dymchwel yn y byd ac yna
MEISTRES ALVING (gan grynu): Ysbrydion yn dyfod yn ôl!
OSWALD (gan gerdded drwy'r ystafell): Ie, gellwch mewn gwirionedd eu galw felly!
MEISTRES ALVING (yn gweiddi): Oswald,—yna, nid wyt yn fy ngharu innau chwaith?
OSWALD: Ond yr wyf yn eich adnabod chwi—
MEISTRES ALVING: Wyt, yn f'adnabod—ond, ai dyna'r cwbl?
OSWALD: Ac mi wn hefyd fel yr ydych yn fy ngharu i; am hynny rhaid i mi fod yn ddiolchgar. Gellwch heblaw hynny fod o gymaint o help i mi, pan fyddaf yn wael.
MEISTRES ALVING: Gallaf, oni allaf, Oswald? Gallaf. Ach, bron na allwn fendithio 'r gwaeledd yma, sydd wedi dy yrru di adref. Eto, mi welaf yn eglur—ni feddaf mohonot, rhaid i mi yn gyntaf dy ennill di.
OSWALD (yn ddidaro): Ie, ie, ie; nid yw'r pethau hyn yn ddim ond ffordd o siarad. Ni wiw i chwi anghofio, fy mam, mai dyn gwael wyf i. Ni allaf ymboeni cymaint ynghylch ereill—y mae gennyf ddigon i'w wneud ynglyn â mi fy hun.
MEISTRES ALVING (yn isel): Mi fyddaf yn fodlon a gofalus.
OSWALD: Ac yn llawen a siriol, fy Mam!
MEISTRES ALVING: Ie, fy machgen annwyl i, yr wyt yn dy le. (Gan fyned ato.) A ydwyf bellach wedi symud yr holl boen a'r gofid oddi arnat ti?
OSWALD DO. Ond pwy a dynn yr ing oddi arnaf?
MEISTRES ALVING: Yr ing?
OSWALD (gan gerdded yn ol a blaen): Buasai Regine yn gwneud hynny yn rhwydd.
MEISTRES ALVING: Nid wyf yn dy ddeall. Beth am yr ing, ac am Regine?
OSWALD: A yw hi 'n hwyr o'r nos, fy Mam?
MEISTRES ALVING: Cynnar yn y bore yw hi. (Gan edrych allan drwy'r ty gwydr.) Y mae 'r dydd eisoes yn dechreu goleuo cribau 'r mynyddoedd. A bydd heddyw yn ddiwrnod clir, Oswald!—Cei weled yr haul cyn hir.
OSWALD: Bydd yn dda gennyf am hynny! Ach, y mae eto gymaint y gallaf fyw er ei fwyn, ac ymbleseru ynddo
MEISTRES ALVING: Mi obeithiwn innau fod!
OSWALD: Os na fedraf weithio, eto
MEISTRES ALVING: O, mi fedri weithio eto yn fuan, fy machgen annwyl. Bellach, ni bydd y meddyliau poenus hyn i bwyso ac i wasgu arnat.
OSWALD: Na bydd, da yw eich bod wedi tynnu'r dychmygion hyn oddiar fy meddwl. A phe gallwn i eto ddim ond cael gwared o hyn-(eistedd ar yr esmwythfainc.) Ond yn yn awr, gadewch i ni glebar tipyn, 'Mam.
MEISTRES ALVING: Ie, gad i ni wneud hynny. (Symuda gadair i ymyl y fainc, ac eistedd yn agos ato.)
OSWALD: A thra bom wrthi, cyfyd yr haul. Ac yna cewch chwithau wybod. Ac wedyn ni chaf innau mo'r ing ofnadwy yma.
MEISTRES ALVING: Pa beth y caf ei wybod?
OSWALD (megis heb ei chlywed): 'Mam, oni ddywedasoch wrthyf neithiwyr nad oes dim yn y byd nas gwnaech er fy mwyn, pe gofynnwn i chwi?
MEISTRES ALVING: Do, mi ddywedais hynny!
OSWALD: Ac mi gedwch at eich gair, 'Mam?
MEISTRES ALVING: Gelli fod yn sicr o hynny, fy machgen annwyl i. Er dy fwyn di yn unig yr wyf i yn byw.
OSWALD: Ie, ie, felly, mi gewch glywed.—Mi wn, fy mam, fod gennych chwi enaid cryf a dewr.—Rhaid i chwi fod yn gwbl dawel pan glywoch.
MEISTRES ALVING: Ond a ydyw 'n rhywbeth mor ofnadwy—!
OSWALD: Ni wiw i chwi weiddi. A glywch chwi? A addewch chwi hynny? Mi eisteddwn yn gwbl dawel, a siaradwn. Addewch hynny i mi, 'Mam.
MEISTRES ALVING: Gwnaf, gwnaf, mi addawaf i ti, ond dywed y peth!
OSWALD: Yn awr, rhaid i chwi ddeall ynteu—am y blinder yma, ac na wiw i mi feddwl am weithio—nad dyna 'r gwaeledd gwirioneddol
MEISTRES ALVING: Beth yw'r gwaeledd gwirioneddol?
OSWALD: Y gwaeledd a gefais i fel etifeddiaeth (gan bwyntio at ei dalcen, a dywedyd yn isel) dyma lle y mae.
MEISTRES ALVING (bron heb allu siarad): Os-wald!—na-na!
OSWALD: Peidiwch â gweiddi. Ni fedraf ddim dioddef hynny. Ie, fy mam, i mewn yma y mae, yn aros ac yn ymguddio. Ac fe ddichon dorri allan unrhyw bryd, unrhyw awr.
MEISTRES ALVING: O, ddychryndod—!
OSWALD: Byddwch dawel.—Dyna fel y mae arnaf i
MEISTRES ALVING (gan neidio ar ei thraed): Nid gwir mo hynny, Oswald! Nid oes bosibl! Ni all fod!
OSWALD: Cefais un ergyd pan oeddwn oddi—cartref. Aeth drosodd yn fuan. Ond pan wybûm beth a ddigwyddodd i mi, daeth ing wyllt, gyn-ddeiriog drosof-a deuthum adref atoch chwi cyn gynted âg y gallwn. MEISTRES ALVING A dyna ydyw'r ing!
OSWALD Ie, ac fel y gwelwch, 'does dim dychmygu mor atgas ydyw. O, na buasai'n ddim ond rhyw afiechyd marwol cyffredin! Felly, ni buasai arnaf ofn marw, er y buaswn yn ceisio byw cyhyd âg y gallaswn.
MEISTRES ALVING Ie, ie, Oswald, rhaid i ti wneud hynny hefyd!
OSWALD: Ond y peth hwn! Mor ofnadwy o atgas! Bod eto fel plentyn bychan; bod yn rhaid ei fwydo felly—O—'does dim disgrifio arno!
MEISTRES ALVING: Caiff y plentyn ei fam, addewais i ti.
OSWALD (gan neidio i fyny): Na, byth! Dyma 'n union yr hyn na fynnaf mono! Ni fedraf ddim goddef y meddwl y gallwn, hwyrach, fyw am flynyddoedd felly—mynd yn hen ac yn llwyd. A dichon i chwithau farw o'm blaen (gan eistedd ar gadair ei fam.) Ac nid yw'n debyg o achosi marwolaeth, meddai'r meddyg. Galwodd ef yn feddalwch yr ymennydd—neu rywbeth tebyg (chwardd yn brudd). Enw yn gweddu i'r dim, onid e? Rhaid i mi feddwl o hyd am ryw ddilladau cochion, esmwyth—am rywbeth llyfn a meddal i'w gyffwrdd.
MEISTRES ALVING (gan lefain): Oswald! Oswald!
OSWALD (gan neidio ar ei draed a cherdded yn ol a blaen): Ac erbyn hyn, dyma chwi wedi gyrru Regine ymaith oddiwrthyf. Pe buasai hi gyda mi, buasai yn gwneud y gymwynas â mi yn rhwydd!
MEISTRES ALVING (gan fyned ato): Beth yw dy feddwl di, fy mhlentyn annwyl? A oes ryw wasanaeth yn y byd nas gwnawn i iti?
OSWALD Pan gefais yr ergyd y soniais amdani, dywedodd y meddyg—os doi drachefn-ac fe ddaw—na byddai dim gobaith i mi mwy.
MEISTRES ALVINC: Ac yr oedd yn ddigon calon galed i ddywedyd hynny
OSWALD: Myrnais wybod ganddo. Dywedais wrtho fod yn rhaid i mi drefnu pethau—(chwardd yn gyfrwys). Ac yr oedd hefyd. (Tynn flwch bychan o'i logell.) 'Mam, a welwch chwi hwn?
MEISTRES ALVING: Beth yw?
OSWALD Powdr morphia.
MEISTRES ALVING (mewn dychryn): Oswald, fy anwylyd—?
OSWALD: Y mae yma ddeuddeg pelen fach. MEISTRES ALVING (gan geisio gafael ar y bluch): Dyro'r blwch i mi, Oswald!
OSWALD: Na rof, eto, 'Mam. (Rhydd y bluch yn ei ôl yn ei logell.)
MEISTRES ALVING: Ni allwn i byth ddal hynny!
OSWALD: Rhaid ei ddal. Pe buasai Regine yma gyda mi, dywedaswn wrthi sut y mae arnaf— a buaswn yn crefu arni wneud y gymwynas hon â mi. Gwnaethai hynny, yr wyf yn sicr.
MEISTRES ALVING: Na wnaethai, byth!
OSWALD Pan ddaethai 'r aflwydd arnaf, ac iddi hithau fy ngweled yn gorwedd yn ddiymadferth fel plentyn bach, yn ddi-wella, yn golledig, yn ddiobaith—heb unrhyw wellhad dichonadwy—
MEISTRES ALVING: Ni wnaethai Regine byth hynny!
OSWALD Gwnaethai, fe wnaethai Regine. Yr oedd hi mor rhyfeddol o ysgafn ei theimlad. Ac at hynny, buasai yn blino yn fuan ar edrych ar ôl creadur gwael fel finnau.
MEISTRES ALVING: Yna, diolch i Dduw nad yw hi yma mwy!
OSWALD: Yn awr, 'Mam, rhaid i chwi wneud y gymwynas hon â mi.
MEISTRES ALVING: Myfi!
OSWALD Pwy sydd nes i mi na chwi?
MEISTRES ALVING: Myfi! Dy fam!
OSWALD: Am hynny yn union!
MEISTRES ALVING: Myfi, a roes fywyd i ti!
OSWALD: Ni ofynnais i am y bywyd hwnnw i chwi. A pha fath fywyd a roisoch i mi? Ni fynnaf fi mono! Gellwch ei gymryd drachefn!
MEISTRES ALVING: Help! help! (gan redeg i'r cyntedd).
OSWALD (ar ei hol): Peidiwch â'm gadael! I ba le yr ewch?
MEISTRES ALVING (yn y cyntedd): I alw am feddyg, Oswald. Gad i mi fynd!
OSWALD (hefyd yn y cyntedd): Nid ewch chwi ddim allan. Ac ni ddaw neb i mewn. (Gan gloi'r drws.)
MEISTRES ALVING (yn dychwelyd i mewn): Oswald! Oswald! fy mhlentyn!
OSWALD (gan ei chanlyn): A oes gennych galon mam tuag ataf—chwi, sy'n fy ngweled mewn ing mor arswydus!
MEISTRES ALVING (ar ol edrych arno, a chan ei meistroli ei hun): Dyma fy llaw i ti arno!
OSWALD: A rowch chwi—?
MEISTRES ALVING: Pan fo rhaid. Ond ni bydd raid. Na, na, nid oes bosibl!
OSWALD: Gobeithiwn, fy Mam. A gadewch i ni fyw gyda 'n gilydd, cyhyd âg y gallom.—Diolch, fy mam! (Eistedd ar y gadair, a lusgodd Meistres Alving at yr esmwythfainc. Tyrr y wawr. Llysg y lamp o hyd.)
MEISTRES ALVING (gan agoshau ato yn ofalus): A wyt ti'n dawelach yn awr, fy mhlentyn?
OSWALD: Ydwyf.
MEISTRES ALVING (gan blygu uwch ei ben) Oswald. Dychymyg ofnadwy sydd gennyt. Dim ond dychymyg! Bu'r holl gynhyrfiadau hyn yn ormod i ti. Ond fe daweli eto. Gartref gyda 'th fam, fy machgen annwyl i. Ti gei bopeth a fynni, yn union fel cynt, pan oeddit yn blentyn bychan.—Weli di! Bellach, y mae'r aflwydd drosodd. Ac yn fuan ddigon. Ach, mi wyddwn hynny. Ac a weli di, Oswald, y diwrnod hyfryd sy'n dyfod draw? Heulwen ddisglair loew. Cei weled y wlad yn iawn bellach. (A at y bwrdd, a diffodd y lamp. Gwelir yr ysblentydd a chribau 'r mynyddoedd draw yn disgleirio yn yr haul.)
OSWALD (yn eistedd ar y gadair a'i gefn tuag at y ffenestr, heb sylwi, dim ond dywedyd): 'Mam, rhowch yr haul i mi.
MEISTRES ALVING (wrth y bwrdd, gan edrych mewn dychryn arno): Beth a ddywedaist?
OSWALD (drachefn yn hurt a gwag): Yr haul. Yr haul.
MEISTRES ALVING (gan neidio ato): Oswald, beth sydd arnat?
OSWALD (fel pe'n ymollwng i'w gilydd ar y gadair; pob gewyn yn ymlacio; ei wyneb yn colli pob argraff; y llygaid yn ddwl ac wedi sefyll.)
MEISTRES ALVING (yn crynu gan fraw): Beth yw hyn? (Yn llefain.) Oswald! Pa beth sydd arnat ti! (Gan benlino yn ei ymyl a'i ysgwyd.) Oswald! Oswald! Edrych arnaf! Onid wyt yn f' adnabod?
OSWALD (a llais gwag fel o'r blaen): Yr haul—Yr haul.
MEISTRES ALVING (yn neidio yn wyllt ar ei thraed, yn troi a'i dwy law yn ei gwallt ac yn gweiddi): 'Does fodd dioddef hyn. (Gan sisial yn ddychrynedig.) Pa le y maent, tybed? (Gan deimlo ei fynwes yn chwyrn.) Yma! (Cilia ddeugam yn ol, a llefa.) Na; na-na!—Eto!—Na, na! (Saif ddeugam oddiwrtho, a'i dwylaw ar ei phen, a rhytha arno mewn braw mud.)
OSWALD (heb symud, fel o'r blaen): Yr haul.—Yr haul.
DIWEDD.
CAERDYDD:
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF.

Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.