Dyddlyfr 1941/Hydref
| ← Medi | Dyddlyfr 1941 gan William Ambrose Bebb |
Tachwedd → |
Hydref
Hydref 4. Bore Sadwrn, a dydd cannaid. Gorffen yn yr ysgolion, ac ail ddechrau yn y Coleg. Cyfarfod â'r myfyrwyr newydd—swil ac ofnus, o Dde a Gogledd, o Lansannan i Ystalyfera. Dim un wedi cael gwers erioed ar Hanes yr Oesoedd Canol, a'r mwyafrif heb wneud Hanes Cymru o gwbl! Gwrhydri Ysgolion Canol Cymru!
Hydref 8. Gwaith y Coleg ar lawn hwyl ers dyddiau. Teirawr y bore heddiw. Llythyr neu ddau: un oddi wrth "B,"—maith, trist, maith. Cwyno am y maglau sydd yn y fyddin, a cheisio dianc i fyd o'i greadigaeth ei hun. Aderyn gwyllt mewn cawell. Druan annwyl!
Y llall oddi wrth "ddyn dieithr a garai ddiolch o galon am 'Ddyddiadur 1940' . . . . Gweinidog ieuanc, dinod. . . yn ceisio gwasanaethu'r Methodistiaid Wesleaidd ar fryniau Maldwyn. . . .Nid siarad drosof fy hun yn unig yr wyf. Cyfarfûm ag aml gyfaill a dystiai iddo gael yr un mwynhad. . . . Ac os byddwch yn dyfod i'r cyffiniau hyn, ni bydd y tŷ hwn yn ddigroeso i un y cefais gymaint o fwynhad o'i lyfr. . . . Yr eiddoch yn ddiolchgar. Gwilym R. Tilsley."
O garedigrwydd! Pwy fuasai'n meddwl am drigain tudalen o lyfr Cymraeg yn ennyn y fath feddyliau serchog a diolchgar? Am bump o'r gloch, cychwyn taith tua Chaergybi, i annerch Ysgol Undydd ar yr Ysgol Sul. Rhyw ddwyawr o dramwyo'n felys drwy Langefni, a chyrraedd Caergybi erbyn saith. Ysgoldy Hyfrydle'n hynod lawn, gan weinidogion yr enwadau, caredigion yr Ysgol Sul, &c. Cynulleidfa eiddgar a gwresog, a'u gwrando yn astudrwydd effro. Mor hawdd yw siarad yma! Awr o lifo allan mewn gwŷn esmwyth. A thrafodaeth wych ar y diwedd. Pam na byddai fy phiol yn llawn? Maddau hyd yn oed eu gweniaith deg am ddarlith odidog," a chanu'n iach i'r saint. Cyrraedd adre tuag un ar ddeg, a Luned yn fy nisgwyl gyda'r swper bach blasusaf erioed!
Hydref 15. Yn y tŷ hyd tua hanner y bore; marcio llyfrau, traethodau, etc. Yn y cyfamser, damwain fechan,—y forwyn, wrth olchi'r lloriau, yn dymchwel bwcedaid o ddŵr. Dai'n gyffrous iawn, ac yn gweiddi am ei "gôt macintonsh (!) newydd,"—rhag ofn y dilyw, mae'n debyg.
I'r Coleg, a darlithio tair awr. Dychwelyd adre, ac agor y papurau, y Faner, etc. S.L. yn wir afaelgar. Ers cantoedd ni welodd Cymru'r fath newyddiadura. Newid gwaith: darllen amryw adroddiadau Cyngor Dinas Bangor. Sychion iawn.
Am chwech, tua'r Brifysgol: darlith gan yr Esgob David Mathews ar yr Archesgob John Williams. Gŵr lled fyr ydyw'r Esgob, rhwydd-dew a bywiog; wyneb annwyl, a gwên gyfrwysgall yn gwawrio drosto'n aml; llais tyner, swynol. Gogoniant y ddarlith, ei chywair. Fel yn ei lyfrau, campwr ar greu awyrgylch. Hanesydd o'r iawn ryw, wedi ei lwyr drwytho yn ysbryd ei gyfnod. Hyfrydwch pur, gweled meistr celfydd wrth ei waith.
Wedi iddo orffen, ei ffaglu hi i lawr i Gyngor y Ddinas. Dadlau yn erbyn gwerthu'r tir gorau sydd ar ganol y dref i'r Llywodraeth. Llwyddo—am ennyd, er cryfed yw apêl y geiniog. Bodlon iawn; a dringo'n ôl tua'r Ffriddoedd, ac i'm haelwyd wresog.
Hydref 22. Bore oerdeg, iach. Llythyrau: un oddi wrth hen fyfyriwr, a'n gadawodd yr haf diwethaf. Yn y fyddin bellach, Cymro da o Ddinorwig, yn awr yn Lowestoft. Teimla'n unig, unig, ac yn awyddus i ysgrifennu at rywun sy'n dal i "fyw y bywyd yr amddifadwyd fi ohono."
Anobeithiol iawn i mi ar y cychwyn. Yna daeth gwaredigaeth, yn ffurf cannwyll, a llyfrau a phapur-cannwyll, i oleuo'r babell fin nos, llyfrau i ddwyn Cymru a'i llên ger fy mron, a phapur i ohebu â chyfeillion am adeiladu Cymru wedi'r rhyfel. . . . Nid yw'r hen ryfel yma a'i holl lanast ond bychan o'i gymharu â'r gwaith sydd gennym i ddyfod. . .codi ymaith greithiau'r heldrin oddi ar wyneb Cymru.
Daw hiraeth arno, llethol hiraeth . . hyd yn oed am y Coleg a'r dosbarthiadau, ie, am y darlithiau ar Lyfr Job a goludoedd yr Epistolau." Gorffen drwy ofyn am gyngor, "sut y gallaf lenydda orau."
Hyn gyda chofion cynnes, John H. Morris."
Cyngor? Pa gyngor sydd? Eto, rhoddaf gyngor iddo,—i? . . . i gadw Dyddlyfr . . . i ddanfon ambell ysgrif i'r papurau Cymraeg, ac i "Heddiw." A oes gyngor arall? Dalied i feddwl a meddwl " am adeiladu Cymru wedi'r rhyfel."
Hydref 24. Dwy awr o Goleg, dwy awr o ysgrifennu'r "Newyddion" . . . i . . . ? "Newyddion" Cymru yw'r rheini. Y newyddion eraill yn chwyrnias enbyd: bod yr Almaenwyr o fewn 35 milltir i Foscow; ac yn Llydaw, eu bod yn bwriadu llofruddio hanner can gŵr yn dâl am yr un Almaenwr a laddwyd yno! Can llygad am ddau. Aruthr gynnydd oddi ar ddyddiau'r Hen Oruchwyliaeth!
Wedi cinio, Luned yn fy atgoffa mai Diwrnod Ffair y Borth ydyw. Amau braidd, gan na welais na march na meriyn ar y ffordd i'r Coleg. Digon gwir, er hynny. Canys, ar ganol fy narllen yn nhawelwch yr ardd, clywaf. . . clywaf, yn wir i wala, weryrad march oddi ar ffordd y Borth. Naid calon, pen a llygad am y cyntaf. Dim ond atgofus lef ffair a ffald, "atgof atgof gynt." Ennyd o bêr adfer y gorffennol; ac ennyd o synhwyro fy awyrgylch wedyn, a sylweddoli bod cryn brysurdeb yn yr awyr . . . gan y planiau. Amddiffyn y Ffair, yn ddiau; rhag ofn i'r Arglwydd Ho Ho weithredu'i fygythiad flwyddyn yn ôl!
Am saith, i'm Dosbarth Hanes Wythnosol, Dosbarth Sesiwn y Brifysgol, yng Ngholeg Bala-Bangor. Astudrwydd mawr, a minnau'n traethu'n fras ar Ruffydd Jones, Llanddowror. Cyn gorffen, clywed dadwrdd trwm unwaith neu ddwy, trwmdwmp, tamp, twmp, twrwp . . . twp! Pawb wedi eu siglo i'w craidd, a'u calon yn eu dwrn. Eto, dal i roddi rhan o'u sylw i'r dosbarth. Dilyn y drafodaeth, gan lanw a threio, ac yn y trai, cofio'r dadwrdd.
Och! y Sgrech yn dyrchafu ei hudo dolefus, ac yn ei dreiddio i'r dosbarth. Heb air o enau, heb syflyd gwefus, cyfyd y merched, megis gan raid tywyll, anorfod, ac ânt allan. Y mae'n chwarter i naw. Arhoswn ni'r dynion hyd ben yr awr. Allan â ninnau. Wrth y drws, ffluwch o fflachiad, yn llenwi'r awyr ag anferth oleuni coch, porffor, coch-ddu. Drwyddo, chwa o ergyd yn trywanu . . . trr-wp, tr-rr-p, gan grynu seiliau'r Ddinas. Ennyd, a thywyllwch, a thawelwch.
"Beth allai fod?" medd un.
"Bom o'r awyr. . .?. . neu'r gynnau o Benmaenmawr?"
"Ie, gynnau Penmaenmawr .. os nad oedd yn nes?" . . . gan edrych i lawr i waelod Bangor, a thros Faes Geirchen.
Gwedi elwch, tawelwch, a'r nos eilwaith yn cau ei düwch amdanom. Gwasgar mewn amheuaeth ac anwybod, a phob un tua'i dŷ ei hun. Minnau'n cyrraedd at fy eiddo . . .
Llygaid cochion gan Lowri, a Sis y forwyn; a Luned newydd gyrraedd o'r dosbarth i'w cysuro. Gweddill y teulu'n cysgu'n braf. Pytiau o eiriau cyfarch . .
"Welsoch chi . . . ? Glywsoch chi? . . . Oeddech chi wedi cyrraedd? . . . Beth oedd e? Bom? . . . Ie, bom. Bom! 'gewch chi weld! . . . Ym mhle? . . . Na: nes lawer na Phenmaenmawr. Llawer yn nes. . . . Nid mor bell o Fangor, gewch chi weld."
Caf: mi gaf weld, neu glywed . . . y bore, yn y Coleg.
Hydref 25. Bore Sadwrn, Pentwr o lythyrau. Dim amser i'w hagor 'nawr. I'r Coleg erbyn chwarter i naw. Dwy ddarlith. Wedyn clywaf. Clywaf . . . mai un o faestrefi Bangor ei hun a'i cafodd hi. Maes Geirchen. Yn ddrwg? Yn ysgafn? Ansicr . . . ond si am ladd tri neu bedwar, anafu mwy, a dinistrio llawer o'r tai. Gwae! Tro Bangor a ddaeth. Yn ôl tua thre, a'r newydd drwg gyda mi. Na: wedi cyrraedd o'm blaen, gyda dyn y llaeth, a hwn a'r llall. Nid oes newydd arall. A gwraig y drws nesaf wedi bod yn adrodd am yr ofn a ddaeth drosti hi—ofn, braw, dychryn, llefain, ysgrechain . . .
Araf ymleddfu, a chydio yn y llythyrau. Dau o'r mwyaf diddorol. Un oddi wrth hen athro imi, prifathro Ysgol Sir Tregaron, yn clymu geiriau teg iawn am Y Baradwys Bell.
A'r llall? O'r llall rhyfeddol a goludog hwn! Oddi wrth Gymraes na wn i ddim ond ei henw, na dim o'i henw hyd heddiw. I lawr ag ef yn ei grynswth:—
Riffli,
Ger Abersoch, Sir Gaernarvon
- Hydref 23ain, 1941.
Annwyl Mr. Bebb,
A fedrwch ddychmygu gwraig fferm heb na morwyn na "Hoover" i'w helpu, yn eistedd i lawr ar ôl anfon y plant i'r ysgol, heb symud na phlât na chwpan oddi ar y bwrdd brecwast, heb gymaint â rhoi glo ar y tân na dwr yn y tegell, yn ddigydwybod sbio ar ddau gyw iar hyfach na'u brodyr, wedi mentro i mewn i'r gegin i chwilio am damaid, yn codi ei llygaid ambell dro tua'r ffenestr, rhag ofn i'r gwr ddod tua'r tŷ yn ddiarwybod, ac yn barod i stwffio—beth?—Dyddiadur 1940—o dan glustog y setl?
Dyna ddigwyddodd y bore yma. Prynais bump o lyfrau'r Dryw ym Mhwllheli ddoe, ac wfft i'r gwaith nes imi eu darllen. Cinio ffwrdd â hi heddiw i'r gwas a'r mistar: pwy bia'r bai, chi ynte fi?
- Diolch yn fawr; Gwladys Williams.
Hwyrach.
Y cinio yn plesio'r gwas i'r dim, am fod yn hawddach hel tatws ar ôl pryd ysgafn, yn cynnwys cwpaned o de. Dowch a Luned a'r plant i roi tro yma yn y Gwanwyn,—man hyfryd yn ymyl y môr, a diolch fyth, yn ddigon pell o bentref snobyddol, di-enaid . . .
- G.W.
Gem o lythyr, onidê? Ai Gymraeg mor groyw â rhin y galon a'i hysgrifennodd. Llythyr byr, a ddyry well disgrifiad o werin Cymru na miloedd o areithiau doctoraidd. Pam na charwn werin fy ngwlad?—Down, mi ddown, Luned a minnau, i ymweled ag arglwyddes y Riffli. Am y plant, d'wn i ddim. Lle mae'r garafan? Canol y prynhawn, mynd tua Maes Geirchen, fel yr hed brân, dros Fynydd Bangor. Ar y bryn, edrych i lawr ar y dreflan fach,—tai ar chwâl, degau heb do, heb dân, degau'n mygu'n dawel. Iddo. Llawnder o bobl yn synlusgo o gwmpas. I lawr drwy Ffordd y Castell. Ei holl ffenestri'n deilchion, a'i thai isaf yn sgerbydau cefn-noeth. Yno, tyrfa o ddynion yn siarad â'i gilydd dan eu dannedd, eraill mor brysur â lladd nadroedd, yn cludo dodrefni'n llwch allan i'r ffordd, curo hoelion, tynnu llechi rhyddion. . . . Yn is, y twll lle disgynnodd y naill fom; newydd ei gau. Iasol fel bedd. Ar ei gyfer, rhes o dai'n rhidyll o'r llawr i'r llofft, eu trawstiau a'u swmerau'n yfflon, a'u to'n agored. Y tŷ pen ar lithr chwâl. Yn uwch, cerpyn o . . . ? . . . o gôt!
"Welwch chi ddarn o gôt . . . fancw . . . ar ben . . . y tŷ 'na . . . ?
"Côt un o'r dynion a laddwyd. Darn o'i gôt, 'na'i gyd! wedi ei chwythu'n ulw, ulw, ulw mân . . . oddi wrth ei gilydd. . . yma a thraw. Newydd gael 'i fraich mewn gardd . . .draw 'na. Pwy? . . . Un o bobol y Bi Bi Ec . . . yn dod adre yn ei gerbyd; mae'n debyg iddyn' nhw weld i ole 'fo, a thaflu bom . . . Disgynnodd yn lled agos iddo, . . . chwythu ei gar ac yntau. A'r tŷ 'na! . . . ar lawr, 'welwch. Gwraig fach ynddo fo, a phlentyn pum niwrnod oed ganddi, y ddau'n achub. Ond ei mam, a redodd amdani, yn cael ei lladd! A'r dyn o'dd newydd droi allan fel Warden. . . Heblaw'r rhai a anafwyd . . . 'ŵyr neb faint. . . . Alle fod yn waeth . . . "
O'r chwedl drist! A phawb yn ei hadrodd, a phob clust yn clywed rhyw gymal ohoni, i dde a chwith, gan un a dau a dwsin. Ymsymud dros ddarnau o'r chwalfa, a'r ymgasglu cynebryngol ym mhob cyfeiriad. Merched yn cymell ei gilydd i ddyfod i'w tai hwy ym Mangor. Derbyn a gwrthod, bob yn ail â sychu dagrau, a gwahodd yr edrychwyr i'r tai. "Dewch i chi gael gweld," medd un. Camu dan y drws, o garnedd i garnedd: y ffenestri'n gareion, y muriau'n graciau, y dodrefn yn bentwr rhyddion dan lwch a gwydr, y gwelyau'n garfan o dorion, y cloc mawr, ar ei led orwedd, wedi tewi â'i dician. Y gŵr a'r wraig yn cadw gwên ar eu hwynebau, a dwyffrwd o eiriau ar eu tafodau:—
" . . . roeddem ni newydd fynd dan y grisiau . . ac yno y buom ni, a'r tŷ'n crynu amdanom ni . . . a'r gwydr yn syrthio'n deilchion . . . . Oni bai. . . Duw a ŵyr . . . lle i ddiolch . . . oes . . . ond 'allem ni ddim meddwl mynd i'r gwely wedyn . . . Diolch i chi am ddod i mewn . . . gair bach o gysur yn help."
Allan, ac i ben arall y dreflan. Yr un gân. . . .
Sobr o le bach trist, lle'r oedd ddoe bentref mor glyd â'r un, yn anadlu ac yn mygu'n dawel yn ymyl coedwig yn araf felynu yn ias yr Hydref.
Hydref 29. Codi, a gwneud peth gwaith cyn bwyta. Dyrchafu fy llygaid tua'r mynyddoedd: haenan wen o eira drostynt oll, y gyntaf wedi diflannu'r danfa olaf ym Mehefin.
Tair darlith. Difyr a diddan.
Min nos, tua'r Gerlan, i ddarlithio eto. Gadael Bangor toc wedi chwech, a'r dydd yn britho'n gyflym. Y "Bws Glas " yn llawn o Gymry naturiol, agos ac annwyl, yn siarad bant â hi, drwy'i gilydd, fel hen gyfeillion. Yr un fath ag yn Ffrainc a Llydaw,—o felys atgof. Ac am "Ffrainc a'i Phobl " y gofynnwyd i mi ddarlithio hefyd,—cawod o atgofion yn paratoi'r ffordd yn gyfriniol i mi. Hawdded fydd siarad, bellach! Disgyn, a dringo i dŷ'r Parch. T. Nefyn Williams, a'i weld ar ei aelwyd gyda'i wraig a'i blant. Wrth fy modd! Tua'r Capel, i Ystafell "Y Ford Gron." Llawn: gan wŷr a gwragedd, bechgyn a merched; a thanllwyth o dân yn rhoddi gwrid ar eu hwynebau. Aelwyd arall, yn wir; a "Thom Nefyn" yng nghanol ei bobl, yn ben ac yn bont, a'i ddynoliaeth annwyl yn tasgu hyfrydwch a diddigrwydd o'i ddeutu. Beth na roddwn i am gael gweld "Cymdeithas " mor fyw, mor wresog, ym Mangor? Os mynni deimlo diwylliant, ffo o'r Dinasoedd! Dos i'r wlad, dringa i'r mynyddoedd! Dos. . . dringa . . . Esmwythed yw darlithio i galon a deall plant y bryniau! Yna, dychwelyd i dŷ T.N.W. am felysbryd tawel. Cloi'r noson rywiog gan gampus o deithio adre,—y Bws Glas yn dywyll, dywyll, y wlad oer yn wen a golau, a lloer gannaid yn cerdded ei llewych drosti. Mor debyg i'r noson olaf y teithiais yn y trên o Vannes i Baris, yr oriau olaf cyn y Rhyfel!