Dyddlyfr 1941/Tachwedd
| ← Hydref | Dyddlyfr 1941 gan William Ambrose Bebb |
Rhagfyr → |
Tachwedd
Tachwedd 11. Pedair darlith y bore. Difyr, a hanner awr o gerdded rhwng y ddwy gyntaf a'r ddwy olaf. Darlith arall yn yr hwyr. Diwrnod sbriwus, a darllen drwy'r llythyrau yn newid gwaith o'r iawn ryw. Amryw ohonynt, ac un neu ddau er cyn heddiw. I gyd oddi wrth gyfeillion anweledig, anadnabyddus. Un di-enw, "waeth pwy," chwedl yntau yn diolch am Y Baradwys Bell, ac yn awgrymu i mi drin 1710 neu 1750; "ac wrth gwrs, yn edrych ymlaen am 1941. "Diolch o galon iddo, "waeth pwy" ydyw. Yna, merch,—Myra Davies, o ganol Lloegr, yn canmol y Dyddlyfr Pythefnos a Dyddiadur 1940. Yr oedd hi ym Mharis, meddai, yr un amser â minnau, ac yn "cofio am y "gawod wyllt o law taranau. Oherwydd iddo gynhyrfu ynof y teimladau dwysaf, bu raid imi roi heibio'r Dyddlyfr fwy nag unwaith . . . Diolch. . —Y nesaf, gŵr a adawodd "yr ysgol elfennol ryw 30 mlynedd yn ôl," S. T. Edwards o Wrecsam. Ei ddiolch ef yn estyn dros Fachlud y Mynachlogydd, Dyddiadur 1940 a'r Baradwys Bell, ac yn sôn am "fanteisio ar y cyfle cyntaf i bwrcasu eraill o'ch llyfrau". . . Mawr dda iddo!
Wedyn, un arall o'm hen fyfyrwyr, sydd yn y fyddin, yn credu "ei bod yn ddyletswydd arnaf eich llongyfarch am ddau lyfr . . . , y Baradwys Bell a'r Pererindodau . . . Cefais flas a chysur wrth eu darllen . . . yn enwedig gan fy mod yng nghanol Saeson . . . sy'n meddwl nad oes neb bron yn gallu siarad Cymraeg a mod i'n dod o anial o le, heb unrhyw gysylltiad a'r byd. Mae'n hen bryd i'r syniad yna ddod o'u pennau . . . . Ni feddyliais gymaint o Gymru erioed o'r blaen." A rhaid " i'r twymgalon hwn" ddiolch i chwi hefyd am y gwersi difyr a gawsom. Er fy mod yn eistedd yn dawel yn y gornel, yr oeddwn yn eu mwynhau yn fawr. . . Thomas Henry."
Y Tom gwylaidd, brysied yn ôl.
Yn olaf, llythyr tra gwahanol. Di-enw, a'i bostio ym Mhenygroes. Yn lle'r cyfeiriad, hyn:—" Pererindodau." Atolwg, beth sydd? Dim ond hyn, i rywun ofyn iddo "a fuaswn yn licio darllen eich llyfr." Yntau'n gwneud. . . yn amheus . . . am mai llyfr ar Lydaw ydoedd . . . ac yn ofni na chawn fawr o hwyl arno." "Wedi edrych dros y Rhagair . . . bu rhaid cario ymlaen. Gwyddwn eich bod yn un o bobl bwysig y Blaid, ac yn gyfaill y gŵr diwylliedig, Mr. Saunders Lewis, y Quisling Babyddol (sic) a weddia yn daer am droedigaeth ei gyd genedl yn ol at babyddiaeth.
Wel, fe wyr y Llydawiaid pabyddol erbyn hyn eu bod yn fwy moesol na'r Cymry Efengylaidd, cysetlyd hefyd.
Gwelodd mab i mi lawer o'r offeiriaid dra chrefyddol yma—(a chwitha yn disgwyl iddynt wylltio a gwrido wrth i chi ei holi, (sic) simpleton)-yn Ynys Malta yn y rhyfel 1914/18, dywedodd mai dynion tewion, bler oeddynt yn byw yn fras ar ddiniweid—rwydd y brodorion ag un ohonynt ar gyfer pob 10 o'r ynyswyr, a bod yn bosibl ei (sic) harogli o bell, ond i chwi, Mr. Cynffonwr, goleuni y byd ydynt i'r Llydawyr. . .
Anodd genych ddychmygu am Paris heb y Notre Dame, ar un mor anodd i filoedd feddwl am Paris heb y tai "Red Lamp," ond cofiwch bod a wnelo y Babaeth a sefydlu y naill le fel y llall, mae gwledydd Pabyddol yn trwyddedu Puteindra."
Paragraff arall ar fy nisgrifiad o Eglwys Quimper, a'm "cyfareddu" ganddi: "ond dyna sy'n rhyfedd bod miloedd a miliynau o bobl erioed llawn cyn galled a chwithau wedi bod yno, a gweld dim ond rhwysg a gloddest paganaidd pabyddol. . . .'Beibl y tlodion,' ai e, Mr. Protestant. Ofnaf fod y Tad Mc Grath ai griw wedi eich blyffio yn iawn pan oeddynt yn eich goglais chwi ag eraill wrth ddysgu yr Iaith Gymraeg mor selog tua Bangor yna. Cofiwch mae gofyn tipyn o asgwrn cefn i fod yn Brotestant, medr pob hurtyn fod yn Babydd. . . Mae y frawddeg olaf tudalen 107 yn profi yn bendant nad ydych Athraw na Chynghorwr diogel-darllenais ymlaen i'r diwedd gyda thipyn o ymdrech.
Fe fydd enw Syr O. M. Edwards yn fyw yng Nghymru pan y bydd enwau fel Bebb, Daniels a Lewis wedi ei (sic) llwyr anghofio."
Dyna! Melys, moes mwy . . . ? Pedair tudalen: dyfynnais fwy na thraean. Y pigion efallai,—pigion mewn dau ystyr. Perl o lythyr bach pigog, anynad. Perl mewn adfyd! O'r hen ŵr mwyn, pam na roddaist dy enw wrth waith dy law? . . . yn enwedig gan i ti sôn am y "tipyn asgwrn cefn sydd yn eisiau ar Brotestant?" Meddwl am dy golled, yn amddifadu'r byd o enw un arall o'r arwyr mawr . . . o BEN Y GROES!
Tachwedd 16. Bore Sul, broc a budr. Tua'r capel. Siomi—am nad oedd y gŵr a gyhoeddwyd yno. Di-siomi, am fod gŵr na ddisgwyliwn yn ei le,—y Prifathro J. M. Jones, Bangor, yr anwylaf o holl Brifathrawon Cymru. Brithlwyd o bryd a gwedd, sioncyn ystwyth, yn llawn asbri bachgennaidd. Fy ffodused,—cael gwrando arno, a chael gwledd annisgwyl i glust a llygad. Gweddïa . . . am i Dduw faddau inni ein pryder a'n balchter, am iddo gofio bechgyn a merched pob gwlad, am . . . ; a gwres yn cerdded trwy'r llais llwyd. Pregetha . . . ar Farc iii, 14-15: Crist yn dewis y disgyblion. Y pwnc yw: ffordd Crist o weithio. Nid Ei ddelfrydau, ond Ei ffordd, Ei ddull, Ei foddion. Sef, ymddiried mewn ychydig, cymdeithas bersonol ag ychydig, o berson i berson, o galon i galon. Nid y lluoedd, nid y gyfundrefn fawr. Hyn, a'r profion a'r enghreifftiau, oedd y bregeth. Nid pregeth ychwaith, ond llefaru rhwydd, siarad byrlymus; ymryddhau o feddyliau'r galon, a'u hebrwng i ben eu taith gyda mynych bwyslais llef ac ystum. Taclusrwydd meddwl, croyw, gloyw.
Wedi cinio, i'r Ysgol Sul. Dosbarth o ddau ddwsin, fel arfer; myfyrwyr disiomedig, yn llawn i'r fyl o chwilio meddyliau, a'u chwalu.
Drachefn i wrando ar J.M.J. Testun: Marc eto-nodweddiadol?—Marc 2, xxvii, Y Sabath a wnaethpwyd er mwyn dyn . . ." Cyn nodi'r testun, gair o gŵyn mai un o arwyddion dirywiol y dyddiau hyn ydoedd "dibrisio dyn," "colli parch i ddyn." Yna yn dilyn y testun, a sylwi ar newydd-deb y genadwri sydd ynddo. Un o'r mwyaf chwyldroadol a gwreiddiol o holl eiriau Crist. Dyna gywair y bregeth—parch Crist i ddyn, i'r dynion cyffredin o'i ddeutu, y claf o'r parlys. "Y dyn bach, dinod," Dehongli, egluro, enghreifftio, darbwyllo, pwysleisio . o gam i gam, a'ch ennill i'r pen. Grymus o bregeth ddwys-bigog, a sel santaidd yn ei chyniwair yn eirias drwodd. Mwynhad cwbl i feddwl a chalon. Ar fy llw, un o bregethwyr mawr Cymru.