Neidio i'r cynnwys

Dyddlyfr 1941 (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Dyddlyfr 1941 (testun cyfansawdd)

gan William Ambrose Bebb

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dyddlyfr 1941
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Ambrose Bebb
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
1941
ar Wicipedia

DYDDLYFR 1941

Profwyd heb os nac onibai nad oes lenyddiaeth fwy derbyniol gan werin Cymru na dyddiaduron Mr. Bebb.

Y mae 'Dyddlyfr 1941 cystal os nad gwell na'r un a ymddangosodd o'r blaen. Y mae'n gronic byw o ddigwyddiadau'r flwyddyn ac yn gydymaith disglair i Loffion o Ddyddiadur 1940.


Cyfeirier pob Archebion, Gohebiaeth, Llawysgrifau i
LLYFRAU'R DRYW
Llandebie
Sir Gaerfyrddin

PRIS SWLLT A THAIR



LLYFRAU'R DRYW

Golygyddion Cyffredinol:
ANEIRIN AP TALFAN
ALUN T. DAVIES, M.A., LL.B.


DYDDLYFR 1941




LLYFRAU CYMRAEG I'R LLUOEDD ARFOG
wedi i chwi orffen â'r llyfr hwn efallai yr hoffech ei anfon i Ysgrifennydd y Pwyllgor Cenedlaethol Cymreig er Darparu Llyfrau Cymraeg i'r Lluoedd Arfog, sef:—
W. LLEWELLYN DAVIES, Ysw.,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
ABERYSTWYTH



Argraffiad Cyntaf-Rhagfyr, 1942

Gwnaethpwyd ac Argraffwyd dros Llyfrau'r Dryw, Llandebie, gan Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., 356-60 Stanley Road, a 56-62 South Castle Street, Liverpool 1.



LLYFRAU'R DRYW


DYDDLYFR 1941
W. AMBROSE BEBB


Llandebie
Sir Gaerfyrddin

Er cof
annwyl iawn
am
HUW ELIS JONES
(mab Yr Athro a Mrs. D. James Jones)
Bangor.

A! fyrred fu ei oriau,
Rhy bur oedd i hir barhau;
Gan nad oedd gnawd a'i haeddai,
Er ceined ef, o'r cnawd âi.
[T.G.J.]


DYDDLYFR 1941

Ionawr[1]

Ionawr 1. Flwyddyn Newydd! Flwyddyn Newydd! Crŷn fy nwylo wrth dy gyfarch. Ymgryma fy meddwl o flaen dy rag-wybodaeth di. Flwyddyn Newydd! Pa arwydd a roddaist ar ein talcen? Neithiwr, dygais fy mhlant adre o "barti" cyfoed iddynt. Yn y brith olau a daenai dy chwaer anfad arnom cyn marw, gwaeddai "Sali'r-drws—nesa'-ond-dau," a fforddolion eraill,—" Blwyddyn Newydd Dda!" Ninnau,—" Blwyddyn Newydd Dda, Sali ";

'Blwyddyn Newydd Dda ichi! . . ."

Yr un geiriau gan Luned a minnau i'n gilydd am hanner nos. Yr un rhai i'r plant ben bore heddiw! Yr un rhai ganddynt hwythau wrth lamu dros garreg y drws i'th freichiau, ie, hyd at Dai gyda'i "Flwyddy' Newy' Da!"

Da? ai du?

Ti a'i gwyddost cyn rhedeg dy rawd, cyn llifo allan o'th grombil dy hun, fel pryf copyn o'i fol yntau.

Dechreui'n ddrwg, yn ddu dan gysgod dy chwaer farw, yr hen flwyddyn a noswyliodd yn ddi-alarnad gan ddynion.

Flwyddyn Newydd!—ai "newydd" ydwyt? Onid newydd-hen? Hen! Parhad o'r hen, o'r hir a'r maith a'r methiannus orffennol.

Dechreui'n goch gan waed; a phapurau dy fore cyntaf yn llawn lluniau o'r difrod yn Llundain nos Sul.

Newydd? Na: caeth wyt tithau fel ninnau; caeth gan ffolineb a ffyrnigrwydd dy chwiorydd o'r gorffennol a chynddaredd dynion lloerig.

Minnau, paham y glynaf wrth yr arfer o ysgrifennu o ddydd i ddydd? Paham? Cryfach arfer na phwyll. Arwydd o'm caethiwed innau i'm doe ac echdoe. Caethion oll!

Pa werth sydd mewn geiriau a hyrddir i lawr o ddydd i ddydd, yn boeth, yn brin o bwyll gan brysurdeb lawer? Pytiau o frawddegau rhwng pytiau o ysbeidiau.

Petrus fynd rhagof . . . er y cwbl i gyd.

Dechrau, fel tithau. Parhau doe ac echdoe. Dirwyn! . . . Paratoi Dyddlyfr 1940 heddiw ac yfory; mynd i Gyngor y Ddinas; darlithio i'r Dosbarth W.E.A. Ionawr 3. Torri'r rhwymau, ac i'r wlad, pe na bai ond am ddeuddydd neu dri. Yno am ennyd o ryddid! Yno am eli i'r galon! "Onid oes driagl yn Gilead?"

Ers dyddiau y mae'r awydd yma, yn y fynwes aflonydd hon. Dim ond am newid lle, ymgom, golygfeydd a meddyliau. Gwelaf y bobl, yr ardal, yr aelwydydd, i gyd cyn symud cam oddi yma.

O! nid mor hawdd mynd! Gadael fy nheulu bach ar amser fel hwn? Ymryddhau, a gadael y gofal i gyd ar Luned? A'r dreigiau'n trywanu o'r awyr? Echnos ym Mhentre Berw,—neu Holland Arms, fel y dywedir yn Sir Fôn! Heno, ym mhle? A nos yfory pwy a ŵyr? Nid chware bach yw gadael cartref ar adeg fel hon. Flwyddyn Newydd! Goeli di fi? A wnei di gymwynas fach â mi? Helpu Luned i edrych ar ôl ein "nythaid teg o benaethau "? Dyna'i gyd!

Bore oer. Oer a heulog. Di-gwmwl, digymar fore o aeaf. Eira ar fynydd. Mynd. Nesu at y blawd gwyn yn Rhyd-ddu. Yr Wyddfa'n eglur agos, ac yn anymwthgar arglwyddes ar ei chymdogion; Pont Aberglaslyn yn distaw—synnu at y trochionog drymru is ei chanllaw. O'r Gellilydan hyd at Drawsfynydd, trwch o eira, a rheng drefnus o blu yn disgyn arno. Y tai oll yn neuaddau gwynion;—pren a pherth yn unig yn ddu. Cwpanaid o de cynnes yn Nolgellau, a chwrdd ag un o'm hen fyfyrwyr, merch wendeg yn dysgu yn Lloegr. Hwylio'n esmwyth at wyrthiau Tal-y-llyn, a heibio i greithiau hagr Corris. Machynlleth am dri. Ei cherdded i gyd, a myrdd o gofion yn fy ngherdded innau:—yma y bu fy nhad-cu am flwyddyn, oherwydd ei orfodi o'r Pentre Mawr, Llanbrynmair, am nad oedd yn petruso lladd petris ei feistr tir; yma Llawdden, acw Owain Glyn Dwr; yma . . . acw . . . Allan at y Felin Gerrig, ac yna'n ôl am de.

Gadael cyn chwech, a chyrraedd pentre bach Tal-y-wern toc wedyn, a llwydni'r nos yn crynhoi am ei unigedd soniarus. I fyny'r "wtra" a tharfu hepian y cŵn ar ffald Cilwinllan. Croeso!

"Mi ddaethoch, do? . . . Dewch i fyny . . . mae'ch llaw chi'n oer, Ambrose . . ."

Tân coed gwresog, a glynu wrtho bawb ohonom, fel y glŷn yr oriau wrth ei gilydd. Hirnos aeaf o siarad diddan ar aelwyd loyw Gymreig, beth fwynach sydd i ddynion?

Ionawr 5. Diogi ddoe, bob yn ail ag ystwytho coesau i ddringo i ben y Ffridd, ac i roddi tro am drigolion Tal-y-wern. Miniog oer drwy'r dydd, a'r tân coed yn galw'n ôl o bobman. Nesu ato, a swpera ar yr uwd oddi ar ei fflamiau. Heddiw'r bore, i'r Capel ym Melinbyrhedyn, capel a bensaernïwyd gan dad fy nhad-cu, er mai ffermwr ydoedd. Cerddaf ar drwch o fanblu, ac ni welaf ddim ond eu hamdo purwyn ym mhob-man. Lleng, a aeth yn llen. Drosti, chwa iasol. I'r capel. Yntau'n rhewi. Pa ryfedd? naw sydd yma. Ple mae'r cant? Mentro eistedd, megis ar ia. Clecian dannedd, a disgwyl am y pregethwr. Wele'n dyfod, ac yn ddigon edifeiriol. Cyfyd ei lygaid, a'i galon. O! fe hoffai wresogi, a'n gwresogi ninnau. Maddeuwn y cwbl iddo wrth weld ei ddymuniad da. Onid digon ar fore o'r fath?

Daw gyda mi i Gilwinllan am ei ginio, bachgen o'r Coleg, ar ôl pregethu mewn capel gwledig. Meiriola dan groeso fy modryb a chwerthiniad f'ewythr. Ar ôl cinio hebryngaf ef tua Darowain, ac yna llithraf dros y llwybrau gwynion i Lwyngronfa. Te a swper yno, a llond gwlad o siarad synnwyr, a'm rhoi i ar ben y ffordd," "yn synhwyrol unwaith eto," chwedl fy ewythr.

Ionawr 6. Bore dydd Llun, gorfod troi'n ôl. "D'oedd e mo'r gwerth ichi ddod," meddai 'modryb. Peidiwch â'i choelio! Myfi sy'n gwybod, a'r prawf ydyw—adnewyddiad corff ac ysbryd. Ffarwelio ac i ffwrdd. Yn ôl dros yr un ffordd â dydd Gwener. Y dydd yn gwrthod agor mwy nag un llygad, ac yn cuchio'i orau â'r llall. Collodd yr eira ei lendid, a disgwyl am gefnogaeth oddi fry; ond ni ddaw. Ceidw'n sych tra chwyrnellwn yn droellog am Fangor. Cyrraedd erbyn pedwar. Pawb yn iach, ond Lowri,—sy'n ei gwely gan y clwy pennau. Dawnsia'r lleill i'm cwrdd gyda'r newydd, a'r efeilliaid yn ychwanegu, "'chawn ni ddim mynd i'r ysgol n'awr, gawn ni, Dada?" a phob un o'r ddau yn sigl-'i-ben-a'i-gwt. Am sŵn, 'te! gan ddechrau ar unwaith! Blas ar de, er hynny, a blys am bob newydd. Dim o bwys, ond bod pibellau dŵr yr holl dai nesaf wedi rhewi ddoe, ac un dyn bach yn eithaf dig am na ddigwyddodd yr un peth yma! O na rewed ar y cyfiawn a'r anghyfiawn, yw ei weddi ef. Ust! distaw bach y dywed Luned hyn, mewn dameg bron, rhag ofn i'r plant ei gyhoeddi yn yr heolydd. Y mae clustiau mawr gan foch bach! . . . a thafodau, yn enwedig. A dau bâr o bob un gan Fererid!

Ionawr 9. Gwag-swmera a darllen ysgafn, er pan ddeuthum adre—Deg Pregeth, Catiau Cwta, Still Glides the Stream, etc. Dengar iawn yw dwy gyfrol gyntaf Llyfrau'r Dryw. Cain a glân eu gwedd, a'r Catiau'n dirf a doeth. Croeso i'r Gyfres! mil o groeso! Darllen am Syr John Rowland gan "Celt " heddiw. Clywswn am ei farw yn Llwyngronfa, gyda syndod a siom. "Hen gorffyn yw John," fyddai gair un o wŷr Tregaron amdano, bob amser, gan awgrymu ei anwyldeb, ei hoffusrwydd di-wenwyn. Un felly ydoedd—syml, dengar, chwerthinog, "di-wynt" a di-ymchwydd. Cymro gwyllt a byrbwyll, twym-galon a ffyddlon i'r Ysgol Sul. Ffyddlon i'w fam weddw, ffyddlon i'w bwthyn bach, ffyddlon i'r dre fechan a'i phobl ddi-sylw! Do! a rhoddi esiampl ardderchog i ninnau, blant Tregaron. Do! Myn Duw, onis canmolaf! Yn iach i'th gof a'th guriad calon!

Ionawr 10. Wedi cinio, dyfod un o'r hen fyfyrwyr heibio—D. R. Jones. O'r fyddin am wythnos, a Dai bach yn llamu i'w gôl. Yn ei gwmni, llamu o'r oriau hefyd, difyr oriau hyd de a throsodd. Mor llawen o weled ei ruddiau cochion a'i lygaid duon! Pa faint mwy llawenydd ei dad gweddw? . . . Hawddamor, a brysied eto!

Tua naw heno, y faeden grech yn gwdihwan; yr awyr yn llawn corddiadau a gwibiadau awyrblaniau, ôl a blaen, blaen ac ôl, hyd hanner nos. O'r diwedd, cilio, pellhau, a'r dychryn ar eu hôl. A'r Gwdihŵ'n cyhoeddi ymwared i un rhan o'r wlad. Nos dawch!

Ionawr 12. Sul. I'r capel. Di-eneiniad! a gwedd hyderus iawn gan y pregethwr uwchben y tipyn ystrydeb di-fywyd a adroddai. Ar y mwyaf o Saesneg hefyd. Sibrwd wrthyf fi fy hun:—A yw pregethwyr Cymru'n darllen llenyddiaeth Gymraeg o gwbl?

Wedi cinio, a'm dosbarth heb ddychwelyd o'r Gwyliau, mynd â Dewi am dro. Y bychan penfelyn yn ei mân-gamu hi'n hynod asbrïog drwy haul y prynhawn. Pranc ebol a phwt o sgwrs . . . a dyna ddyn bach o bwys! O! ac am imi wybod hynny, gan droi a throsi o'r tu mewn i'w got fach felen, a throelli llygaid ataf, dan y ffluwch cudynnau! I'r capel eto heno, megis ail-gyfle i'r pregethwr. Gymaint yn well na'r bore, o ran naws, grym ac argyhoeddiad! Glanach iaith hefyd, a'r cymariaethau nid o lyfrau Saesneg ond o fywyd Cymru. Onid oeddwn i'n falch! Pwy'n falchach?

Ionawr 14. Ail-ddechrau gwaith Coleg. Ddoe, cwpla hel defnydd ar gyfer Dyddiadur 1940, a'i ddanfon ymaith i Abertawe. Neithiwr, dychwelodd y myfyrwyr. Heddiw'r bore, troi allan o'r tŷ dipyn cyn naw, a'r dydd yn "dywyll, oer aneiri," mymryn o gesair a mwy o'i naws. Ymollwng i gam-a-naid y gwaith: pedair darlith y bore, ac un gyda'r nos.

Yna, i'r drws nesaf, i gyd-drefnu gyda'r cymdogion ynglŷn â gwylio tân, pe digwyddai iddo ddisgyn ar y "Ffriddoedd" yma. Peidied, ar bob cyfrif!

Yn ôl at y pentan, a chlywed sibrwd am gyrch awyr ar Amlwch. Sibrwd . . . canys ni ddywed y papurau ddim. Tewi â sôn, cuddio newyddion, yw eu gorchest hwy ers amser. O ben i ben, o wefus i wefus, y cerdda newydd y dyddiau hyn, megis yn y dyddiau cyn bod papurau.

Ionawr 15. Tair darlith. Ciniawa yn y Coleg. Clywed hefyd mai gwir yw'r sibrwd am Amlwch. Nos Sul y digwyddodd, noson gannaid olau. Ni laddwyd neb: dyna un cysur, a thestun diolch. Ond clwyfwyd un, merch, mae'n debyg, er nad yn ddrwg iawn.

Chwi, nosweithiau cannaid olau! rhaid inni ddysgu eich casáu chwi!

Ionawr 17. Eira! Y cyntaf i ddisgyn ym Mangor. Haenen fel lliain main ddoe, llen dew heddiw. Yr holl wlad yn burwyn, a'i lloriau wedi eu gwyngalchu. Brigau'r coed yn sypiau o swyngyfaredd. O lendid ennyd awr!

Y plant yn rhyfeddu at ei wynder hyd ddrws y tŷ a hyd y ffenestri. Synnu, gwefreiddio, petrus afael yn yr arian byw, a neidio i'w ganol. Dai'n canlyn-o hirbell. "Baw!" meddai ef, "baw gwyn," "ma fe'n oel, Mama!" (ni fedr Dai ei "r" eto).

Hwy i'r ysgol-ond Dai, wrth gwrs; minnau i'r Coleg. Llythyr i mi yno, ac wedi gorffen fy ngwaith, ei ddarllen. Llythyr a llyfr, oddi wrth hen fyfyriwr. Llyfr o gerddi o'i waith ei hun. Sais o Sir Gaerloyw. Enw'r llyfr, Poems, newydd ei gyhoeddi gan y Fortune Press, a'i enw yntau arno— Leonard Clark. Fe'i cofiaf yn dda. Yma ddeng mlynedd yn ôl. Bellach, ers blynyddoedd yn un o Arolygwyr Ysgolion ei Fawrhydi. Agor ei lythyr. Wele damaid o'i gynnwys:—"What awful days we live in! Yet we have our memories. And mine, of you and Bangor are very sweet ones. Your grand and inspired History teaching, your championship of all things Welsh, your understanding and deep religion are things I dream about when most sad. I have not forgotten my Welsh hymns, and I sing them to myself in Dartmoor sometimes, etc."

Ffrwd o weniaith. Gweniaith deg, onide? Rhy deg! Ai teg ei dangos i lygad y byd? Cuddio beiau, cyhoeddi rhinweddau. Gwir,—glaswened faynno. Ni'm dawr! Dônt a'u cyfran o gysur ar ddyddiau fel y rhain. Eu heiddo hwy yn gymaint â dim, yw'r Dyddiadur hwn.

Ionawr 19. Llanast o eira, a daroganus wynt dolefus yn llefain ei hiraith yn y coed a thrwy dyllau'r clo. "Tywydd caled," medd pawb, â'r gŵr sy'n dod â llefrith yn gyntaf un, bob bore.

I'r capel am ddeg. Gŵr bychan, llygaid gweinion, yn traethu'n hy wrth gynulliad tenau:—a oedd mwy na dwsin ar y llawr? I'r Ysgol Sul: fy nosbarth yn gryno wedi dychwelyd:—19 o ffyddloniaid! Gweddill yr holl Ysgol yn ddim ond 37! Sobrwydd mawr!—-mewn eglwys o bedwar i bum can aelod. Ing yr Ysgol Sul yn gweiddi drwy Gymru: "O Gymru, o Gymru, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd fel y casgl yr iâr ei chywion: ac nis mynnech!"

Ionawr 20. Anferth o "dywydd mawr!" Sbriwus am-dani—os am ennill gwres! Ysboncio tua'r Coleg, nes bod gwrid y gwaed yn llosgi'n gosi ar fy wyneb. Ymhoywi yno hefyd rhag rhynnu. Oddi allan, y gwynt yn chwyrlïo; oddi mewn, yr ystafell ddarlithio yn ysgwyd megis llong ar fôr. Gorffen cyn cinio, a thua thre . . . hwyrnos ddelfrydol i ddarllen I bought a mountain. Ei fwynhau'n ddirfawr, yn enwedig y bennod ar yr hyrddod. Yn honno, gwir awyrgylch y mynyddoedd, a chwa'r bywyd Cymreig.

Ionawr 22. Yr eira wedi meiriol, a'r ddaear unwaith eto yn y golwg. Can diolch; a chan annerch i tithau'r ddaearen deg! Ni buost gyn hardded ers tro, na chyn anwyled. Dy las yn ffoli'm llygaid, a'r tanfeydd o wyn yma a thraw ar dy wyneb yn hudoliaeth pur. Dygaf y glas a'r gwyn gyda mi i'm tair darlith, a dawnsiant fel tes siglennydd dan gysgod fy amrannau.

Yn y Coleg, derbyn llythyr. Oddi wrth Syr Artemus Jones:—

Annwyl Mr. Bebb,
Clywais Ifor Williams yn clodfori eich llyfr, DYDDLYFR PYTHEFNOS, ryw amser yn ôl, ac yr wyf wedi newydd orffen ei ddarllen. Llongyfarchiadau calonnog! . . . Y mae'n ddarn o lenyddiaeth werthfawr, ac yn ddiddorol iawn, iawn. Er mwyn y Saeson, hoffwn weled argraffiad dwyieithog ohono. Yr eiddoch yn gywir,

Thomas Artemus Jones.

Wel? Yn gyntaf, chware teg iddo, a llawer diolch. Yn ail, os ef a hoffai ei gyfieithu, o'r gorau!

Ionawr 26. Sgaprwth o fore Sul oer. I'r capel: R. H. Hughes, Caergybi, yn pregethu. Testun: "Chwi yw halen y ddaear." Deallus, diddorol, ac ôl meddwl astud. Gwir amheuthun.

Yr Ysgol am ddau: dau ddwsin o'm di-gymar fyfyrwyr, a bywiogrwydd o drin a thrafod pynciau, hyd ganiad y gloch am dri. Drachefn i'r capel. Pregeth ar ffydd. Llawn cystal â'r bore. Golau, treiddgar, pwrpasol iawn. Effro hefyd, ac yn sôn am "adeiladu"—adeiladu yng Nghymru. Mor syml â hynny! Ac eto mor newydd,—gan nad yw'r pregethwyr yn sôn dim am Gymru. Ni wawria ar eu llygaid mai yng Nghymru yn unig y gallwn ni adeiladu. Llygaid yr ynfyd. . . ar bellafoedd y ddaear.

Yn y tŷ, Mererid a Dai yn glaf o'r clwy pennau, neu'r Dwymyn Doben. Ysgafn, ysgafn . . . ac ni fynn yr un o'r ddau sôn am aros yn y gwely. A cholli cwmni a chware? Dim perygl!

Ionawr 28. O'r bore gwyn! Haul a gwres am y tro cyntaf ers misoedd. Bron â bod yn fore o wanwyn. Pedair darlith y bore, dwy i'r bechgyn, dwy i'r merched. Rhwng y ddau Goleg, ar fy ffordd drwy'r caeau, clywed . . . ust! . . . oen? . . . ie; bref oen bach, y gyntaf eleni. Hen lef. . . ond sy'n newydd bob blwyddyn. Hen, newydd. "Hi hen,—eleni y ganed."

Ciniawa yn y Coleg, ar "lobs-sgows" yn niffyg cig. Nid un o'm hoff fwydydd i, o lawer. Ond beth dâl, a chig mor brin? Heb sôn am wyau! Wyau? . . . a'r Saeson yn eu sgubo nhw o'r wlad!

Ionawr 30. Diwrnod ysgafn; dwy ddarlith yn unig. Ond swrn o waith yn y tŷ.

Y papurau'n llawn o hanes marw Metaxas, prif weinidog gwlad Groeg. Disyfyd ergyd, a dymchwel argae. Marw gwleidydd gwir fawr, un o'r dyrnaid bach yn y ganrif hon. Cyniweirydd ei genedl, gwregyswr ei hegnïon. Dangosodd ef a'i bobl ddewrder a dycnwch a milwriaeth godidog. Onid y Groegiaid a'r Ffiniaid a wnaeth gampau gwrolaf y rhyfel, hyd yn hyn,—y gweiniaid yn trechu'r treiswyr? Colli ei harwr megis colli byddin, i'r Groegiaid. Duw a'u gwaredo!

Chwefror

Chwefror 11. Gwedi mis, fwy neu lai, o lonyddwch, wele aflonyddwch; a'r faeden sgrech yn hwtian ei dychryn o fôr i fynydd. Echnos bu'n myfyrwyr yn eu celloedd am deirawr. Dyfod i'r dosbarth drannoeth â'u llygaid yn hanner cau. Druain â'r merched! A'r bechgyn:—sonnir am alw i'r fyddin y rhai 19 oed. Wb! Pwy fydd ar ôl? Yn en—wedig os gelwir y deunawoed!

Beth a ddigwydd? Y taro mawr ar ddyfod? Fe'i bygythir beunydd. O Ffrainc daw sibrwd am galedi; ac am Hitler yn gwasgu ar Pétain. Cŵn Annwn ym mhobman!

Eto i gyd, cawod hyfryd o Wanwyn yn yr awyr; ei hoen yn dryloyw ar hirfryn a phant, a'i ysgafnder yn hanner-llesmeiriol. Lleinw fy mron, fy mryd, fy nau lygad. Lleinw'r mudandod mawr uwchben â llawenydd adar y bore; a'r wybren â chymylau tyner, a golau. Lleinw'r ddaear ag araf gynnwrf deffro a bywyd. Gweld blagur ar goed am y tro cyntaf eleni,—glas ir ar frigau duon. Gwyrth y glas!

Mor hawdd yw gweithio. Pum darlith, beth yw hynny, a'r greadigaeth yn llifeirio'n dirf gan asbri newydd? Dyfod proflenni Dyddiadur 1940 hefyd, gan roddi sbonc arall i'r dydd tua'i ddechreunos. Yn y dyddiau ingol hyn, y mân radau sydd megis mynyddoedd o gysurwyr. Croeso calon!

Chwefror 15. Bore Sadwrn: dwy ddarlith yn unig—Hanes. Codi cefn ac yn ôl at y teulu bach. Cwpanaid o goffi, a darllen y papurau yn y gad—Gamlan glochog, bob yn ail a chyfrannu fy hun at y gad a'r gloch!

Wedi cinio, ymwelwyr. Ha! gyfeillion; ha! wŷr, frodyr! Dau o'r hen fyfyrwyr, a'u llygaid yn serennu. Do: mi soniais amdanynt yn Nyddiadur 1940; do, fel "A" a "B." Ond ni wyddant hwy—nid eto, o leiaf. Dyma nhw, ar ôl eu holl ofidiau, a'u holl dafodi. "A" yn loyw yn ei ddiwyg llu-awyr, er cymaint â gasâ y llu a'u diwyg. "B" yn ei ddillad ei hun, "diolch i Dduw am hynny," meddai gyda gwên ddireidus.

Pob un yn ei gadair ers meityn, ac yn ei dweud hi. Eneidiau gwylltion, pam lai? Wedi trai, torri trwyddi,—am y fyddin, am y milwyr, am y swyddogion, am y caethiwed, y gwastraff, yr anfedrusrwydd. Mintai ddall dan ofal y dall. O'r stori drist, o lygad y ffynnon, heb yr un llygedyn o oleuni o gwbl. Oes, un Rwsia. Deil y ddau i'w hedmygu fel cynt, ac i'w hastudio fel mab yn astudio moddau ei gariad. Prynhawn difyr, a the i'w orffen, cyn eu hebrwng at y trên a'u dwg drachefn i ganol eu gofid. Y fath wastraff ar egni ac ieuenctid!

Chwefror 19. Ar ganol un o'm darlithiau heddiw, sgrechodd y Gwdihŵ. Dal ati hyd ddiwedd yr awr. Ond ni chefais neb i'r ddarlith a'i dilynai—pawb wedi carlamu i'r cilfeydd!

Tua thre, darllen y Faner, etc. Llawn o dorchi llewys yn erbyn Golygydd y Llenor. Onid anfad o beth? Cymry'n ymryson â'i gilydd ynghylch yr hen ryfel melltigedig 'ma, a—

Lloegr yn well o'n llygru ni.

Yr hen, hen gân!

Chwefror 21. Dwy awr o ddarlithio i'r bechgyn a'r merched ynghyd,—gwreiddiau'r Diwygiad Protestannaidd.

Clywed sibrwd,—dim ond sibrwd, erchyll sibrwd—am ymosodiad cïaidd ar Abertawe. Neithiwr ac echnos, meddir, a sôn am alanas fawr. Gwae ni!

Minnau'n derbyn proflenni ail ran Dyddiadur 1940 oddi yno . . . o'r fflamau tân. Wedi eu danfon cyn y cyrch, yn siwr iawn.

Chwefror 22. Wedi'm darlithiau, gweld un o'r hen fyfyr—wyr. Yntau yn y fyddin. Hogyn egwan, amddifad hefyd. A fu pridd mor frau mewn brethyn milwr erioed?

Esgyn dros y boncyn ac adre. Newyddion? Oes, y faint fyd a fynnoch chi,—Gorchestion mawr yr R.A.F. Prin sôn am ddisgynfa'r fflamau tân ar Abertawe. Teirnos y buont yno, er hynny, teirnos o fraw a gweiddi a gwae. Tynged a barn; "mal lladron disôn . . ."

Myfi'n darllen drwy'r proflenni, ac yna'n eu cyfeirio tuag Abertawe, gan bryderu a oes yno orsaf i'w derbyn, cyfeillion i'w derbyn. Pryderu. . . am eiriau; a dynion mewn tân, a dinistr a ffoedigaethau! Ffoant i bentrefi'r Cymoedd, a'r rheini'n llawn gan ffoaduriaid o Loegr. Nid oes le iddynt roddi pen i lawr—yn eu gwlad eu hunain! Myn Crist, oni wybuost Tithau . . .?

Mawrth

Mawrth 1. Bore Sadwrn, dwy ddarlith, y naill ar y modd i ddysgu Hanes, y llall ar Lywelyn Fawr. Difyr odiaeth.

Clywed eto,—clywed, nid darllen, am ladd mil a hanner o bobl yn yr ymosod ar Abertawe. Dinas wedi ei difa, meddir. Ddynion ynfyd!

Mawrth 5. Tair darlith: un ar Hanes, dwy ar y Sgrythur. Ciniawa yn y Coleg, a brasgamu'n ôl i'r "Ffriddoedd." Dai bach yn byrlymu ei eiriau teg i'm croesawu, "Dai caliad Dada," "Na, Dai caliad Mama!"

Mymryn o lonydd i ddarllen, toc,—Y Faner. Rhifyn da iawn; ysgrif wych gan Aneurin ap Talfan, yn disgrifio Blitz Abertawe. Gwych, nes bod iasau yn cerdded o'r pen i'r traed; llythyr gan J.E.D. yn ateb Golygydd y Llenor. Cyfrwys iawn, medrus gyfrwys, ond ar y mwyaf o dinc dagreuol. Paham dadlau o gwbl? Paham yr ymrwygo'n barhaus? . . . am yr hyn nid yw fara i ni!

Am chwech i Gyfarfod o Gyngor y Ddinas: llawn mwy dynol ac amcanus nag arfer. Llwyddo i gael ganddo fynegi cydymdeimlad ag ingoedd Abertawe a Chaerdydd, ac i fynnu gwybod a hoffent inni agor Cronfa yma. Caerdydd;—ie, cerddodd rhyw ansicr sibrwd am ei dioddef hithau, Mai "melltigedig " oedd yr ymosod arni echnos. Bob yn bwt, ac o dafod i dafod, y daw'r newyddion hyn, a'r sôn am ddynion yn ddarnau, ac am famau'n gwallgofi. Dduw'r Nef, Dy blant Di! Nid adar y to, y rhai a borthi Di, ond Dy blant, sydd yn "rhagori llawer arnynt hwy."

Mawrth 7. Llythyr gan gyfaill:—"Am fater y Faner, a ydych chwi wedi meddwl bod holl arweinyddion y Blaid yn awr yn Ffascistiaid agored?" Naddo! Pell o hynny,—er y gallasent fynegi'n groywach eu cas at Hitleriaeth a'i holl felltith.

Ar ganol pryd te, dyfod fy llyfr newydd i law—Dyddiadur 1940. O'r llawenydd, wedi'r oedi mawr gan y cyrchoedd awyr ar Abertawe a Chaerdydd, a llosgi tŷ Aneurin i'r llawr. Ei agor â dwylo'n crynu, a dangos y cyflwyniad—"I'r Efeilliaid, Hywel a Mererid"—i'r ddau. Llygaid yn pefrio wrth weld eu henwau mewn llyfr. "Hywel a fi!" medd un; "Mererid a fi " medd y llall, am y balchaf. Yna: Mererid:—"Gawn ni e, i ysgrifennu ynddo fe, nawr?" A Hywel, "A gwneud lluniau ynddo fe, yntê, Dada?"

Luned yn egluro'r sefyllfa iddynt, a minnau'n dangos y llun ar y cefn i Dai. "Pwy yw hwn, Dai?" Fel bollt,—"Da . . . da!"—gan chwarae ei droed ar goes y gadair i fyny ac i lawr, a'r droed arall wedyn, a'i lygaid yn pelydru arnom

Ac felly y cododd pawb o gylch y bwrdd, gan nesu'n dwrryn bach pranciog o gylch y llyfr bach. Lowri braidd yn brin ei sêl, eto'n cofio iddi hithau gael un wedi ei gyflwyno iddi.

Mil o ddiolch i'r brodyr o Landebie, a bendith ar eu hanturiaeth odidog, y ddewraf un er dechrau'r rhyfel.

Mawrth 8. Wedi cinio, i Gyngor y Ddinas. Defod bwysig—cyflwyno "Braint" y Ddinas i Syr John Lloyd. Seremoni urddasol, a'r areithiau i gyd, ond rhyw un, yn weddus a theilwng. Un bai,—pob araith ond un yn Saesneg. Honno'n ddifai ffraeth. Am y llall, tewch â sôn. Wedi elwch,—blerwch!

Dyfod tad Luned yma, Mr. Pierce Roberts o Langadfan, a'r ferch ieuengaf, Nest. Nest ddi-ddichell a di-doriad, cannwyll llygad ei thad, a llond gwlad o ddireidi. A'r tŷ llawn sydd yma, 'te!

Edrydd Mr. Roberts fel yr oedd y tŷ'n crynu pan oedd Abertawe dan y lach. Yn ucheldir Sir Drefaldwyn! Crynu bob un o'r tair nos, am oriau, a hwythau'n tybio mai Aberystwyth oedd tani.

Mawrth 11. Heno, wedi pum darlith, a dwy awr o Bwyllgor Trethi, dringo ac adre. Swpera. Ust.! Awyrblan? "Dyna nhw eto," medd Luned. "Ie: gewch chi weld, ac fe ddaw cri'r Seiren."

Do: fe ddaeth, a diasbedain.

Trwy'r drws, ac allan. Noson gannaid olau, ddi-gwmwl, a lleuad yn cerdded ei phreswylfeydd di-lwgr. I fyny'r ffordd at y "Friars." Luned yn galw . . . " Ambrose, dyma nhw, welwch! Tân mawr!" Troi yn fy ôl. . . . Sbïo. Ie: tân, tafodau a fflamiau yn dringo ac yn drysu drwy'i gilydd, . . .draw tua'r Waunfawr neu Ryd-ddu. "Y Cefn Du," medd A.R. Syllu yn fud a hanner dall, ar wrid yr oddaith fflam-goch. Ymwrando . . . â sŵn ffrwydriadau a saethu, . . .bwm! bom! . . .chwa o adlais. Distawrwydd dwfn, a'r tân yn llosgi'n farwor. Tawch, a diffodd! Digwydd, darfod. Gwaredigaeth!—o safnau'r ffwrn dân.

Mawrth 12. Newydd da! Ar fynydd noeth y disgynnodd y tân neithiwr, heb anaf i ddyn na chreadur. Darlithio'n ysgafn fy mron. Llythyr i mi yn y Coleg-oddi wrth T.I.E., yn diolch am Ddyddiadur 1940. Eisoes, wedi ei ddarllen ddwywaith; ac yn edrych ymlaen, medd ef, am Ddyddiadur 1941. Y llythyr cyntaf am y llyfr bach. D'oedd dim bai arno fe!

Mawrth 14. Adre erbyn un, a chiniawa. A ninnau oll wrth y bwrdd, dyma'r Faeden. Cyffro, ond heb ddychryn gormod, ag eithrio Dai, sy'n hel swp o ddagrau i grio. Gafael amdano, "dere di, Dai bach. Paid â chrio, 'ngwas bach i . . . " Sych y dagrau â'i lewys ac â chefn ei law. Anadla'n iach ac anghofio'r cwbl. Ar ben yr awr, daeth y "sŵn da," chwedl Dai; â'r plant i'r ysgol yn gopog iawn.

Rhwng saith a naw, yn fy Nosbarth W.E.A., yn sôn am fywyd pob dydd yn Nyddiau'r Tuduriaid. Mor anghofus o'r byd a'r bywyd sydd yr awr hon! Dyna dorri ar ein trafodaeth. Tewch â sôn . . . y Faeden sgrech! Penderfynu chwalu.

Adre am swper, ac yn ôl i'r ffordd. Edrych i fyny. Trwch o fân gneifiau yn tapestrïo'r wybren rhyngom â maith gyniwair gwrdi-gwrdi'r awyrblaniau. Ninnau'n mynd a dyfod, dyfod a mynd, ôl a blaen, fforddolion yn rhynnu mewn cotiau mawr. Pob un yn troi i'w dŷ yn awr ac eilwaith, i dwymo'i ddwylo; a G.R. yn dra gofalus i fynd i wrando newyddion hanner nos! Tuag un y bore, chwalu, a Luned wedi aros i lawr drwy'r amser i'm disgwyl.

Mawrth 19. Bechgyn a merched yr ail flwyddyn yn yr ysgolion yn dysgu. Ninnau'n ymweld â hwy bob yn ail â darlithio i'r lleill. Wedi tair darlith y bore, i Lanfair Fechan. Gwrando ar ddwy neu dair o wersi. Purion.

Cip ar y papurau. Heddiw yr adroddant ganlyniadau'r "cyrchoedd " a hebryngwyd dros ein pennau yr wythnos ddiwethaf. Hyn—nos Fercher a nos Iau, tua Lerpwl, lladd 500, clwyfo'n dost 500 arall; nos Iau a Gwener lladd 500 ar lannau Clyde, clwyfo 800. Gwaed y gwirion! O ryfela, rhyfela, ddydd a nos, a'r nos yn bennaf, ac yn erbyn gwragedd a phlant. "Rhyfel yw rhyfel" oedd yr hen arfer, gyda'i anrhydedd a'i sifalri. Bellach, rhyfel yw uffern, un arall o ddarganfyddiadau'r Ugeinfed Ganrif. Llygad am lygad, dan yr hen oruchwyliaeth; uffern am uffern, dan y newydd. Er mwyn rhyddid? . . . cyfiawnder? . . . gweriniaeth? Taw â sôn. Dychwelyd dan y nenbren. Sŵn plant piau hi; pob un a'i gam a'i gymwys, a Dai wedi dyfeisio enw newydd ar Siop Woolworth, y "Siop Goch." Onid cymwys?

I law, pwtyn o lythyr o'r De, yn "diolch am 1940' a'r Pythefnos, ac yn rhoddi'r unfed gorchymyn ar ddeg i lawr—Cedwch ymlaen am y Rhyfel . . ." Pwy? Di-enw, ond hyn—"Waeth pwy?"

Mawrth 24. I Ysgolion Llandudno drwy'r dydd. Prifathro un ohonynt yn flin am imi "daflu cwmwl" dros ysgol neu ddwy yno, yn Nyddiadur 1940. Cyfyd oddi wrth y bwrdd, a dengys y frawddeg imi. "'Dyw hi ddim yn deg! . . . yr argraff nad oes gweithio o blaid y Gymraeg. Gwn, mi wn! Oni wn i'n dda? . . . fod cystal gweithio yn ei ysgol ef ag yr un yn y ddwy Sir? A Chymry da yn Llandudno? Ar bob cyfrif, a glewion yn y gad bob un. Na, nid dihidio bawb yn Llandudno.

Mawrth 25. I Ysgolion Penmaenmawr a Chapel Ulo. Ar ginio, darllen llyfr Maurois: Why France Fell. Tra diddorol, ond ingol dost. Ei gerydd yn gytbwys gyrhaeddgar, a'i bawen yn dyner fel palf cath, wrth sôn am Loegr. Hawdd deall na bydd iddo groeso yno. Bydd llyfr Elie Bois, Truth on the Tragedy of France, yn llawer mwy derbyniol yno. Onid oes gair a ddywed?—Cân di bennill mwyn i'th nain, fe gân dy nain i tithau.

Cip ar y papurau hefyd:—Si bod Iwgo-Slafia am arwyddo cytundeb â'r Echel, er ofni rhwyg yn y Llywodraeth, a thwrf yn y wlad. Beth nesaf? Hitler i ymosod ar Roeg, ac arllwys ei luoedd aml-arfog am ei phen? Rwsia? . . . a ddaw hi o'i chragen? . . . ac ym mha liwiau?

Mawrth 29. Daeth yn wyliau eto. Marcio papurau,—penyd-wasanaeth! A gynlluniwyd, a ddaeth i ben,—Coup d'Etat yn Iwgo-Slafia. A'r papurau Seisnig, parchusaf, yn ei alw yn "deyrnged i gymeriad a gwir weriniaeth yr Iwgo-Slafiaid." Atolwg, penaethiaid y fyddin a'i gwnaeth! Gwyn eu byd y gwirion a ymbortha ar y ffiloreg hon.

Diwrnod pyglyd, pigoer, a'r mynyddoedd yn guchiog dan lwythi o eira. Gwaethaf dydd, y Sadwrn. Y plant yn ennill eu gwres wrth neidio a rhedeg, galw a gweiddi, a'r Dewi dwyflwydd gystal â'r un. Nid na ddaw i mewn weithiau i dwymo'i ddwylo cochion. Daw, ar golli ei anadl, a Luned yn ei gymell i wisgo cap yn dynn dros ei ben a'i glustiau . . . onidê "bydd Dai bach yn mynd yn sâl, a marw, a "bydd dim Dai bach i gael wedyn." Yntau'n codi ael, a gollwng,—"bydd Mama'n gallu plynu Dai bach alall yn y . . Siop Goch!" I'w ryfeddu!

Canol y prynhawn, dwm! . . . dwm! . . . Cyngor y Dref yn gorymdeithio'n drystiog, i agor yr Wythnos Arfau." Pobl yn heigio o bob cwr. Minnau'n marcio. Rhaid i'r plant gael mynd, debyg iawn. A'r forwyn mor falch â hwythau. Eu llygaid yn serennu gan y sŵn meddw. Dwmp di-damp i'w ganol. Dônt yn ôl toc, am y ffraethaf, pwt gan un a phwt gan y llall; a Dai wedi sylwi'n arbennig ar "y dyn â ffroc ganddo." Milwr mewn kilt!

Mawrth 31. Cawr o fore gwyllt. Mawrth yn "mynd allan" fel llew. Cer'! Naw wfft i'r marcio 'ma, hefyd.

Dau lythyr: un oddi wrth Orsaf Feistr "Cyffordd Dyfi," yn diolch am y Dyddiadur. Diolch? ac yntau wedi talu amdano!

Y llall oddi wrth "A," dim ond deunaw tudalen! A'i dweud hi, 'te, yn garlamus. Melltith ar y Blaid Lafur; melltith ar y Rhyfel! Bendith y Nefoedd ar Gomiwnyddiaeth, ac ar Rwsia! etc.

Ebrill

Ebrill 2. Gyda'i goleuad hi, dau neu dri o lythyrau. Yn eu plith, Darlun a Chân yn anrheg gan Olygyddion "Llyfrau'r Dryw" i'r plant. Hwythau'n toddi gan falchter, ac mewn brys i weld y lluniau bob un cyn mynd i'r ysgol. Wedi gweld eu cefnau, minnau'n ei ddarllen, gyda blas. Yn wir, "dwli ar ambell un o'r cerddi, a'r lluniau. Canol y bore, cnoc ar y drws. Luned: "rhyw becyn i chi." "I fi?.. O ble?" "Llandderfel." Torri'r llinyn, tynnu'r papur, agor. Pwys o 'fenyn! . . . Ust! distaw bach, rhag ofn. Dyma dorri'r gyfraith gydag eneiniad. Yn gorwedd wrth y pwys 'menyn y mae llythyr. Pwy? Taw piau hi . . . dim gair, ond hyn. Un o'r hen fyfyrwyr, merch hefyd. Sôn am ryw fwynhau Dyddiadur 1940. . . ac am ryw gymwynasau â hi gynt. . . . Ac felly, "dyma ni'n danfon pwys o 'fenyn yn anrheg ichi, fel arwydd fechan o'm gwerthfawrogiad o'ch caredigrwydd . . ." O'r anrheg deg, a'r meddwl caredig,—yn y dyddiau di-fenyn hyn!

Yn ôl at fy narllen—Fumée, o waith Tourgueneff, a'i orffen gyda mwynhad perffaith. Am chwech, i Gyngor y Ddinas. Gwrthwynebu cais Cwmni Daimler i godi ffactri arfau ym Mangor. Llef un yn llefain, yn rhwygo a rhegi . . . Ofer!

Ebrill 6. Bore Sul, Sul y Blodau. O'r enw teg! Newyddion cynhyrfus: yr Almaen wedi cyhoeddi rhyfel ar Iwgo-Slafia a Groeg, er pump o'r gloch y bore. Cyn i'r Wawr dorri. Cyn i'r blodau golli eu trochiad gwlith. Gorau'r dydd, gorau'r digwydd!

Yn awr am gyflafan, a'i hamseru i'r union adeg. Ddoe, echdoe, yr Almaenwyr wedi cymryd Benghazi. Gorchest ddi-orchest, medd y papurau, am y gorau. Hanner munud . . . onid gorchest odidog, pan gymerodd y Saeson yr un lle? Wele'r annisgwyl,—eu gwthio yn ôl i'r Aifft ar fwy o garlam nag y daethant oddi yno. Hai ati am laddfeydd bellach!—bron i'r un dydd ag y dechreuodd llynedd yn Nenmarc a Norwy. Y llynedd, tua'r Gogledd a'r Gorllewin, eleni i'r Dehau a'r Dwyrain. Ewrop oll yn y crochan berwi!

Nos Sul: mynd i'r Graig, i ddadlau dadl yr Ysgol Sul. Llond y lle o werin gwlad, yn ddeallus ac eiddgar. Dianc i freuddwydio ar fy nhraed ar fy ffordd yn ôl. A'm rhwygo gan y Faeden Sgrech. Greddfol edrych i fyny. Y lleuad sydd bron â bod yn llawn!

Ebrill 9. Newyddion drwg ar gefn newyddion drwg; yr Almaenwyr wedi torri trwy amddiffynfeydd y Serbiaid a'r Groegiaid gan eu gwahanu, a chyrraedd y môr mewn un lle. Salonica ar fin syrthio. Yr un modd yng Ngogledd Affrica, carlamu o Benghazi tua Tobruk . . . dau le go ddibwys, medd y papurau erbyn hyn. O'r newid cân!

Allan i'r cae, gyda Hywel a Mererid a Dai, i "weld y me—me, . . . yn blysur, blysur . . . yn bwyta'r cae," a Dai'n cyhoeddi hynny nerth ei ben. "Paid Dai! Ust! inni gael dal un yn cysgu." "O'l gole, Dada." Nesu at gyrliau gwynion yn cysgu. Wrth ei gwt. Naid a phaic. Bant age! Dim modd,

Dai bach. Dychwelyd tua'r tŷ, a Dai eisiau da-da.

"D'oes dim ar gael, 'ngwas bach i . . ."

"Dai isie gweld! . . . "

Gweld amdani. O siop i siop. Dim. Tua thre yn eithaf hir ei wep. "Lle buost ti, Dai?" medd Luned. "Efo Dada . . . . Yn siop nad oes da-da!"

Ebrill 11. Dydd Gwener y Groglith,—fel yr eglura Lowri i'r efeilliaid, y ddau mor gall â'i gilydd.

Mererid: Dydd Gwener y Groglith? . . . Ie, mi wn i. Mi weles i enw e ar bapur mawr, yn y dre.

Luned: Pa bapur, Mererid?

Mererid: Papur mawr odd e . . . o flaen capel . . .

Luned: 'Wyddoch chi be sy'n 'i meddwl hi? . . . Poster yn cyhoeddi Cyfarfod Pregethu'r Wesleaid!

Mererid: Ond . . .oedd . . . oedd enw Dydd Gwener y Groglith arno fo, beth bynnag. Oedd, wir, Mama.

Hywel (fu gyda'i bethau ei hun drwy'r amser): Heddiw ma' Iesu Grist yn marw!

Luned: Hanes trist, ynte? On'd ydy' e'n drist? Lowri: Ond yw e'n ddim ots. Fe godith eto Ddydd Llun!

Wedi te, i'r dywededig gyfarfod pregethu. Tŷ llawn—y Parch. Roger Jones yn pregethu. Gŵr allan o'r cyffredin, ei wedd a'i ddawn. Wyneb go welw, go hir, gyda gên ymwthgar, a cheg enfawr. Llygaid brych-lwydion, a'r gwyn yn dra amlwg. Talcen helaeth, llais cyfoethog. Ei swyn yw ei anghyffredinedd. Pregethu'n rhesymegol, eto'n hwylus, hwyliog ac efengylaidd, a'i uchelfannau'n wir huawdl. Un o gedyrn y pulpud, yn ddiau.

Ebrill 13. Sul y Pasg. Luned yn mynd i'r Eglwys Gadeiriol, i'r Gwasanaeth Cymun—yr un Cymraeg, wrth gwrs. Dyfod adre yn bur anfodlon. Ar y Gwasanaeth? O na! 'roedd hwnnw'n ddifai, er na rydd yr Eglwys yr un pwysigrwydd iddo ag i'r Gwasanaeth Saesneg. Ni bydd Côr yr Eglwys Gadeiriol yno. Ni bydd yr Archesgob. Eiddo'r Gwasanaeth Saesneg ydynt hwy! O anfoes! Os rhwysg o gwbl, pam nad yn y Gwasanaeth Cymraeg? . . . yn y gwasanaeth pwysicaf hwn? Lluchia Luned y geiriau:—"Eglwys Gymraeg yw hon i fod. . . . Ond gwasanaeth eilradd a roddir i ni!"

Nac amheued neb ei ffyddlondeb hi i'r Eglwys! Ond y peth a'i cynhyrfodd bennaf oedd gweld Saeson yn dyfod i mewn yn hy cyn diwedd y Gwasanaeth Cymraeg. Chwerthin ar ei gilydd, clochtar yn uchel gan yr hen ffifflenni bach mwyaf difoes erioed. Hanner gair i Eglwys gall!

Ebrill 15. Yr Almaen yn dal i ffyrnigo'i sarn drwy wlad Groeg; heblaw Salonica, dau neu dri phorthladd arall yn ei dwylo. Mwy carlamus fyth yng Ngogledd Affrica. Rwsia'n gwneud cytundeb â Siapan. Ystyr hyn, os gwn i?

Y gorchwyl hyfryd sydd gen i! Ceisio cyfieithu gwaith y bardd Llydaweg, Jean Calloc'h, i Gymraeg. O! ers dyddiau! Gwaith araf, bid siwr, ond hoffus.

Dyfod ynghyd i giniawa, a gwasgar drachefn. Dyma ymwelydd, diddan ŵr o Lyn Dyfrdwy, ar ei ffordd yn ôl o Bwyllgor Canol y Blaid. Siwgr candi o lais, yn adrodd hanes y cyfeillion oll, ac yn synnu at f'enciliad i. Difyrred ei weled a'i glywed. Ar ganol ei stori fwyn, dyfod un o'r hen fyfyrwyr yma—yr annwyl D. R. Jones, a Dai bach yn llamu ar ei liniau. Erys yno am hydoedd, heb air o'i ben, megis angel ym mharadwys. Dirwyn ystorïau, a D.R. yn sôn am awyrblan Almaenaidd a drawodd ysgwydd y mynydd ger Aber fore ddoe, gan ladd un ac anafu dau. Y ddau hynny newydd gyrraedd Bangor, a llond yr heolydd o gynnwrf am gael un olwg arnynt. Cwpanaid o de gyda'n gilydd, a chilio o'r ddau ymwelydd. Minnau i'r ardd i balu, fforchio a hau. Wedi deg, y planiau'n chwyrnu a chorddi am oriau, a'r Sgrech yn galw pobl o'u tai. Tua Gogledd Iwerddon heno am sbleddach!

Ebrill 17. Amryw o lythyrau, i gyd yn diolch am y Dyddiadur. Pwy feddyliai! Neu, efallai, pwy a gredo i'm hymadrodd? Y cyntaf yn ŵr o awdurdod yn y Brifysgol—J.J.—ac yn mynd allan o'i ffordd i ddweud pethau fel hyn am y pwtyn llyfr: "Darllenais drachefn a thrachefn . . . llawer iawn o ddiolch. Agosatrwydd, didwylledd, angerdd. Y mae ynof awydd mawr am eich gweled chwi ac Eluned ynghanol eich tyaid o blant digyffelyb . . .

Brysied, brysied, a myrdd o groeso! Odid na wel nad mor ddigyffelyb y plant, ond am sŵn! Tymhestloedd ohono!

Yr ail, yn ŵr o barchus, arswydus swydd. Yntau'n fawr ei glod i'r llyfryn bach, " llyfr a gedwir gennyf ar hyd fy oes, . . . y darlun gorau ohonot ti . . . dy enaid . . . Wrth ei ddarllen, fe ddaeth ton ar ôl ton o hiraeth am dy weled . . ." Dilyw o fawl anghymedrol. Ac wedi'r mawl, hawl: "Tybed nad yw'r amser wedi dod i ti feddwl am ail gydio yn y gwaith?" Terfyna'i lythyr yn danbaid frwd:—

"Diolch filwaith, fy nghyfaill hoff
Bendith arnat a'th eiddo . . .
Cofion cynnes, B. O.

Ar y diwedd, y nodyn hwn yn gwynio:—"Mae Legonna yn y Carchar, a Gwyn Jones; bydd eraill cyn bo hir. Ni elli di wneud dim i Ffrainc ar hyn o bryd, ond fe elli i'r bechgyn hyn, ac i Gymru."

Pwy a ddyry lais i mi ateb? Ai di-fater gennyf fod y bechgyn yng ngharchar? Na ato Duw! A allaf wneud rhywbeth iddynt? Beth? . . . crio? gweiddi? bloeddio? llefain? lleisio ag utgyrn . . . seithwaith. Parod! A hyd at ddengwaith seithwaith. Ond nis rhyddheir. Pa leshad? Ac oni leisiais i gymaint â neb, ddydd a nos, yn ddiflino . . . am bymtheng mlynedd, ac ar y cyntaf yn unig? Fy nhystion sydd leng, a dyma un mewn llythyr heddiw. O Landrillo, gan hen fyfyriwr. O! nid dyna'i amcan! Dim ond canmol y Dyddiadur, a sôn am atgofion o ddyddiau coleg, etc. Gwrando, gyfaill. "Nid ofer fu eich llafur yn hau y dyddiau hynny . . . Cefais symbyliad gennych i ymroi mwy i Gymru a'i phethau' ac nid yw'n edifar gennyf."

Fy ymffrost! Ymaith ag ef, bob gronyn ohono. Ymaith! A wyf fodlon ar fy ateb iti, B.O.? Pell o fod. Dos rhagot, ti a'th gymdeithion. Minnau a'ch clodforaf, ac ni orffwysaf. Ar aelwyd Cymru y mae llawer o drigfannau. Henffych well!

Orig yn yr ardd, a blasu ei phridd,—y "baw," chwedl Dai, gan gogran ei orau glas. "Dai a Dada bia'l baw, yntê Dada?" a ffluwch â'i gnawd teg dros y gwelyau, a thrwy'r rhychiau, ar garlam cellweirus. I'r tŷ yn faw o'i drwyn i'w draed, a'r sioncyn yn torri drwyddi:—"Baw Dada ddalu, Mama; baw Dai a Dada."

Ebrill 18. Adroddiadau ysgubol am y cyrch ar Lundain, y gwaethaf hyd yn hyn, meddir. Lluniau'r difrod yn datgan dyhirwch dyn, neithiwr, echnos. Yfory ym Merlin, yn ddiau. Nos i nos a ddengys wybodaeth . . . yn elyn i ddyn a'i ddiwylliant!

Neithiwr hefyd, Iwgo-Slafia wedi ei gorfodi i ymostwng mewn llwch a gwaed. Druan fach: cyn pen pythefnos o darfu ar ei heddwch. Ei phrif-ddinas yn garnedd, a Dawns Angau yn ei heolydd hi. Yfory, ei malu'n falurion. Pa leshad iddi heddiw y Coup d'Etat ddoe? Gweniaith Lloegr, a chytundeb Rwsia?

Rhaid i'r gwan ddal y gannwyll,
I'r dewr i wneuthur ei dwyll.


Ebrill 20. Bore Sul. I'r "Tŷ." Pregeth a swmp ynddi, gan y Parch. Ffestin Williams ar Ioan i, 11—"At ei eiddo ei hun y daeth." Swmp a sylwedd, am Grist a'i Groes a'i Atgyfodiad, a'i wrthod gan y byd hyd heddiw. Gwe o feddyliau preiffion.

Eilwaith yr hwyr, ar Ioan xvi, 31—"A ydych chwi yn awr yn credu?" Credu: beth i'w gredu? Duw yn y byd . . . a'r rhyfel yn ei lenwi? Pa fath Dduw? Eiddo'r Iddew, Duw Jacob . . . ? Ai eiddo Crist?—Duw'r Tad, Tad Pawb, pob enaid . . . ie, yr Almaenwyr oll. Wedi credu, gweddïo. Gweddïo beth? . . . Buddugoliaeth? Nage! Heddwch?—i genhedloedd gwrthnysig! Eto, nage! Beth, ynteu? . . . DELED DY DEYRNAS. Manylu, dehongli, mawrhau hyn hyd y diwedd. Dewr o bregeth amserol, beiddgar a meddylgar, a grym argyhoeddiad yn ei chorddi hi. Ysgydwad i eneidiau crebachlyd!

Lleisiau'r byd am ruthro o'r peiriannau dur yn ddyfnach i mewn i'r tir santaidd, i ddaear Groeg, Monastir, Thermopylae . . . cymryd gafael o Larissa, a dringo i Fynydd Olympus, cartref y mabol gampau, cysegr y Deml i Zews!

Ebrill 25. Darlithio'r bore. I Ysgol—wedi cinio. Och am ysgol! Blinaf, beiaf, ceryddaf, o dro i dro . . . yn ofer!

Edrych yn y drych hwn dro
Gyrr galon graig i wylo.


Dychwelyd ar frys: gwasanaeth yr Urdd ym Mangor heno, yn yr Eglwys Gadeiriol. Dau Gymro fydd yno, wedi pererino o gwmpas Eglwysi Cadeiriol Cymru. Heno ym Mangor.

Cyrraedd adre. Luned a'r plant yn fy nisgwyl, ar binnau. Llond ffordd ohonom yn ei ffodotian hi ar lusg a throt tua'r Eglwys. Heibio'r drws, ac i mewn, i ehangder yr addoldy. Llu bach mewn lle mawr. O! mor ychydig. Minteioedd bach rhwyfus o blant, ar goll, megis, yn yr ehangle, a'r garreg ateb yn atsain eu siw a'u miw drwy'r gwacter. Nemor neb arall, heblaw eu "harweinyddion." O'r Colegau,—dim un enaid byw! O'r eglwysi, neb ond un, neb ond y Parch. John Hughes! O'r Eglwys Gadeiriol ei hun . . . prin ddigon at y gwasanaeth, un . . . dau . . . tri. . . pedwar . . . Mae'r Esgob? . . . maddeuwch . . . yr Archesgob? Gydag eira llynedd!?

Pa waeth? Yr ym ni yma, a digon i'r dydd ei degwch. Dechrau, drwy ganu . . . "O am ras i garu Iesu."

Yn nesaf, y ddau bererin, Ednyfed Thomas a Maxwell Evans, yn dwyn y Faner—Baner Urdd Gobaith Cymru—i mewn drwy'r Porth Gorllewinol. Llygadu tuag yn ôl, megis ar firagl yn troedio ar lawr hyglyw'r adeilad . . . pit-pat . . . pit-pat . . . gan nesu atoch yn araf, araf, gyda'r Faner enfawr hardd o'r tu blaen iddynt. Agosach, agosach . . . ar eich cyfer, . . . heibio, ymlaen, y Faner a'i chludydd. Gwefr i gorff, gwlith dan amrant! Ie: dim ond darn o sidan. Eto, arwydd o Gymru, ac anadl einioes y genedl yno. Cyfriniaeth un o ddirgelion egnion y ddynoliaeth. Rhagddynt,—at yr allor, a'i gosod hi i led-orwedd yno. Dyma binacl y gwasanaeth, a'i wir sagrafen.

Yn dilyn, darlleniad o Eseia lv; emyn,—" Fy Nuw, fy addfwyn Iesu;" gweddi, emyn eto,—" Iesu, ffynnon Dwyfol Hedd;" ac, yn olaf, anerchiad gan y Deon. Y cwbl yn weddusddwys ac urddasol. Gwasanaeth i'w hoffi, i'w gofio'n hir, hir. Ple'r oedd yr Archesgob?

Ebrill 28. Yr Almaenwyr wedi cyrraedd . . . i Athen a Chorinth! Rhyfel y Balcanau drosodd, mewn tair wythnos syfrdan. Yn nesaf, yr ynysoedd. Ynysoedd Groeg, Ynysoedd Groeg. Pa hyd, Creta? Pa hyd?

Tua Sir Fôn â mi, a Gwynt y Dwyrain newydd godi. Difyr o daith, ar ôl gollwng llond bws o sŵn "plant cadw" i lawr ger Llanfair Pwll. Yr haul yn taro'n gynnes ar y gwydr rhyngof a Menai. Y mynyddoedd yn feddal dyner o dan gysgod o niwlen denau. Melfedaidd hyd yn oed. Awel y bore'n fain, a'r cwmni'n llawn o ieuenctid y dydd. Yma, acw, disgyn ein myfyrwyr ni, bob yn ddau, bob yn dri . . . yn Llanfair, yn y "Bryn," yn y Dwyran, yn Niwbwrch. "Bore da," medd pob twr wrth ddisgyn, a mynd â'u tocyn cinio gyda hwy tua'r ysgol, lle bydd gweithio caled nes eu cludo'n ôl gyda'r hwyr. Disgyn finnau, yn olaf i gyd. Ac ymroddi, 'te, i baladr o ddiwrnod diwyd! Ers dyddiau yn edrych ymlaen ato. Wele'i dreulio ar gyrrau Môn, i mewn ac allan o ysgol i ysgol, a'i gloywi hi rhyngddynt.

Eisoes allan o Drefdraeth, a'm cudyn at Niwbwrch. Tair milltir? Efallai, fwy neu lai, ond lledrith i gyd—y ffordd drofaog, ddi-gysgod, y corstir gwastad, llef y gylfinhir a chwiban y chwibanogl, a'r haul sy'n cynhesu min y dwyreinwynt. Cam a charlam, nes clywed . . . ? . . . clustfeinio: Ie . . . " Gw-. . . cw' . . draw, yn aneglur o'r pellter. Cerdded yn fy mlaen, yn glust i gyd, a'm calon yn uchel. Toc, un tinciad arall. Sefyll. Nid oes eilwaith. Swildod y caniad cyntaf? Digon o ryfeddod, er hynny, fel gwrid pob rhyfeddod newydd. Ymollwng i'm cerdded, ac i'm cofion . . . " Wrth ddychwel tuag adre, Mi glywais gwcw lon . . ."

Cyrraedd Niwbwrch, a chloch y tŵr yn taro un ar ddeg, a phlant yr ysgol yn tewi â'u cloch hwythau. Cyfarch Mr. Roberts, yr ail athro, a hoffi ei glywed yn annerch gwynt y Dwyrain fel "Gŵr wrth y dydd ydy' o!" am ei fod yn gostegu gyda'r nos. Tywyllu'r drws am ennyd, ac i mewn at Mr. Thomas. Torri mwy na gair neu ddau ag ef; ac yna rhagof, o ddosbarth i ddosbarth. Blaguro yn awyrgylch hawddgar a hyfryd yr ysgol hon.

Wedi gorffen, Mr. Thomas yn fy nghymell i'w dŷ am ginio, er na chewch chi ddim rhyw lawer o sgram!" Meddai ef,—a Mrs. Thomas yn gofalu bod yno "sgram," er hynny, heblaw orig ddifyr o ymgom, heb "werthu lledod i gilydd" (i ddefnyddio un o ymadroddion Mr. Thomas am wenieithio neu ganu pennill mwyn i'th nain . . .).

Gadael fy nghyfeillion, a'i ffaglu hi am y Dwyran. Dros y glesni, dros gamfeydd a chaeau a chloddiau . . . dyna deg! Ennyd yno rhwng rhidens o gerddi a lluniau o Hanes Cymru; ac yn ôl i'r ffordd, a thua'r "Bryn,"—Brynsiencyn. Pum milltir o lonyddwch, heb neb yn nes i'r ffordd na llafurwyr y meysydd. Neb ond y mudion huawdl,—cawodydd o flodau drain duon ar y perthi mân, disgleirdeb o flodau'r 'menyn ym môn y cloddiau, ac ambell sypyn swilach o friallu; ymhellach, ambell gip breiniol ar bigyn uchaf tŵr Eglwys Llangaffo, ac ymhellaf oll esgyniad y mynyddoedd mawr mewn esmwythter llyfndew, moethus a melfedaidd.

I Ysgol y Bryn, i wrando gwersi difai, ac i glywed y plant yn mynegi eu serch at Fôn, at Gymru, at "Gartrefi Cymru," a'r mapiau ar y muriau yn drysorau gwerthfawr o flaen eu llygaid.

Fy phiol sydd lawn: tair Ysgol hoffus Gymreig, wyth milltir o gerdded. Digon i'r dydd ei degwch. Fe'i dygaf gyda mi tua thre.

Ebrill 30. Egyr y dydd gyda gogoneddus lythyr mawrfrydig oddi wrth y bardd, Cynan.

Newydd orffen darllen 1940: Lloffion o Ddyddiadur.' Rhaid anfon hyn o air yn frwd o'r galon i ddiolch i chi, ac i'ch llongyfarch ar gampwaith.

Fel yna'n union yr hoffwn innau sgrifennu rhyddiaith Gymraeg-pe medrwn, pe meiddiwn. Gosodasoch genedlaethau i ddod tan ddyled i chwi—yn gystal a'r genhedlaeth hon o Gymry—am ddarlun mor ddiffuant o'r galon ddynol trwy ddyddiau argyfyngus—amser cannu, diwrnod nithio . . .

I mi, y pethau bychain, annwyl, tyner, personol a theuluaidd sy'n rhoi gloywder pur ar y cwbl, megis gloywder dagrau'r gwlith ar ardd flodau. . . .

Darllenaf, darllenais. Rhyfeddaf, rhyfeddais. Dyfynnaf, dyfynnais, yn agos i'w hanner. Ymddiheuraf, mewn sachliain a lludw. Llythyr i'w gadw, a'i gau fel crair santaidd. I'w gau a'i guddio. Paham ei ddatguddio, a'i gyhoeddi gerbron gwlad? . . . Dim ond hyn. . . fel y gwelo pawb nad ofer yw ysgrifennu Cymraeg heddiw; bod i'r llenor Cymraeg y tâl a'r wobr mwyaf ar a eill neb ei obeithio, sef parch a chlod eich cyd-lenorion, ie, a'r werin. Fe'ch gŵyl llu, fe'ch gwêl llawer. Onid yw'r meddwl ei hun yn ogleisiol obeithiol? Nid diofalhau a ddylem, ond dyfalhau.

Mai

Mai 3.

Pan ddêl Mai a'i lifrai las . . .
Mynnwn, pes Duw a'i mynnai
Pes deuddeg mis fai Mis Mai.


Pan ddel . . . Ddoe, echdoe, nid oedd ond prin Fai. Gwres gan heulwen, yn wir, a gwrid ar flagur, ond y dwyreinwynt a'i ddannedd yn finiog.

Heddiw, peidiodd, ac wele glamp o Fai o'n cwmpas. Bore Sadwrn. I'r Coleg ac nid i'r Ysgolion. Dwy ddarlith, a diwedd yn gynnar. Llwybreiddio dros gaeau'r Ffriddoedd tua'r trothwy. Y wlad mewn boddfa o len desog, denau, a'r mynyddoedd mwyaf yn hanner celu dani, ag eithrio ambell danfa o wyn eira yn disgleirio fel dysglau Marsli.

Cip ar y papurau: yr un chwedl, bod y milwyr Prydeinig wedi gorffen ei gloywi hi o dir Groeg. Pa nifer? . . . Dyna ddiwedd ar un smonnaeth arall. Ple'n nesaf?

Allan i'r ardd i ddarllen, ymysg pethau eraill, llythyr a gefais yn y Coleg. Hen fyfyriwr eto, a adawodd y Coleg ym mis Gorffennaf, 1936. Eglura pwy ydyw, a denfyn lun. Fel pe bai fodd i mi anghofio'r paladr mawr a gloyw hwnnw, Ifan Williams o Lerpwl! Byth!—na'i faint, na'i wên, na'i lais. Ymddiheuro yna am nad ysgrifennodd ataf o'r blaen er pan adawodd y Coleg. Ymddiheuro? a rheitiach gwaith ganddo, o lawer. Weithian, yn y fyddin. Ifan, o bawb! Er mis Mehefin . . . "nid anghofiaf y dydd byth, yr 20fed o Fehefin. . . . Coeliwch fi nid own lai nag ofni, gan nad own yn un am ymladd na rhyfel erioed,—er fy mod mor fawr!!

I'r fyddin ag Ifan, o'i anfodd, i Warrington, Manceinion, tua Llundain.. "a chwe mis yn ôl, fy symud unwaith eto i'r hen Gymru annwyl, ger Llanelli."

Gweithio yn yr adran Feddygol, "gwaith glân a dymunol iawn, ond pan fyddwn yn gorfod rhoi help gyda'r difrod a wneir mor fynych o'n cwmpas yma."

"ond heno rhaid imi ysgrifennu atoch. . . . Yr oeddwn yn Llanelli ddoe pan welais lyfr bach mewn ffenestr siop— Lloffion o Ddyddiadur. . . . I mewn â fi i'w brynu; wedyn yn ôl i'r camp i fynd ar night duty.' A heddiw cefais gyfle i'w ddarllen, a rhaid imi eich llongyfarch ar roi y gwerth swllt gorau imi a gefais erioed. Coeliwch fi, fe ddaeth aml i lump' i'm gwddf wrth ei ddarllen, yn enwedig pan oeddych yn sôn am y darlithoedd a'r Coleg. R'wy'n teimlo bum mlynedd yn iau yn barod . . .

Gwelais un darn ynddo oedd yn codi fy nghalon yn ofnadwy, lle'r oeddych yn ei rhoi hi i Bwyllgor Addysg Sir Fôn am erlid Gwilym Owen (mi gredaf mai ato ef yr oeddych yn cyfeirio) o'i hysgolion. Wel, mae'n falch iawn gennyf ddweud wrthych mai i dŷ 'nhad a mam yn Lerpwl yr aeth Gwilym pan welodd nad oedd ar Fôn mo'i eisiau,—y Nadolig diwethaf. Crwydrodd Lerpwl am wythnosau yn chwilio am waith ac yn y diwedd cafodd waith fel Hospital Assistant yn un o Ysbytai Lerpwl. A rwan mae'n dod yn ei flaen yn iawn yno, gan alw ar y teulu bach bob wythnos yn ddi-feth, ac felly yn helpu i lenwi'r gwacter a adewais i yn fy nghartref tua blwyddyn yn ôl.

Yn ei flaen tipyn am y Ddrama—Adar o'r Unlliw—a wnaed yma yn 1936, ganddo ef, Emlyn James, Ilid Williams, "Elis Hughes o Lanbabo (Deiniolen ddylwn ddweud!)," ac Ifan yn Esgob; tipyn o hanes y bechgyn erbyn hyn. . a gorffen drwy obeithio am lythyr yn ôl: "D'oes dim mwy gwerthfawr na llythyr gan fachgen yn y fyddin."

O'r deuddeg tudalen hawddgar, a'u llond o atgofion melys! Diolch yn enwedig am yr wybodaeth ynghylch Gwilym Owen. Erbyn hyn, be ddywedi di, Sir Fôn? Ai da gennyt yrru un o'th athrawon gorau i grwydro heolydd Lerpwl?

Nos da—i'r ynys dywell!"

Mai 4. Bore Sul o'r tecaf, a'r Gog yn agor genau'r dydd Santaidd, a rhoddi cyweirnod iddo. Diwrnod pen-blwydd Luned, hefyd. Yr un fel â ddoe—ac yfory—iddi hi, yn llawn gofal a gwaith.

Tua'r capel: . . . di-galon.

Am ddau, at fy nosbarth: niferus a hoenus.

Oddi yno gyda'r plant am dro. Prynhawnddydd perffaith,—ond yr efeilliaid yn ddifater ohono, gan edrych ymlaen at barti pen blwydd "Miles." Wedi gwneud ei hôl yno, Mererid yn anelu at Luned:—" Beth gawsoch chi i de, Mama?" Duw rhai yw eu bol.

Yn ddiweddarach dipyn, am dro i'r caeau, dros y "ffrioedd." Cerddorfa o adar yn llenwi'r awyr â sain nefol; a choed a pherthi mewn amlder lliwiau ieuainc. Nid lifrai las eto, ond lifrai o felyn a llwyd ar berthi, a phlu gwyddau bach o fanddail ar frigau—mwg euraid yn gymysg â thawch o lesni ir, a haen o edafedd aur. Mai yn ei holl addewid, a'i ddi-afrad gyfoeth. Gwynfyd!—yn gyrru ar ffo bob gofid o'r galon. Diwrnod pen blwydd Luned. Gwyn ei fyd!

Gwyn—pe cai ei fyd ei hun. Cyn iddo noswylio, fe'i trywenir gan waedd. . . yn adrodd hanes cyrch y nos neithiwr ar Lerpwl—"y gwaethaf hyd yn hyn." A chofia Luned iddi glywed ysgydwad ar ôl ysgydwad neithiwr y nos, a drysau'r tŷ'n clecian.

Gwynfyd a gwae. . . wyneb yn wyneb!

Heno eto. Yn fy ngwely'n ymborthi ar riniau'r dydd, dyma'r Faeden Sgrech yn cyrraedd fel saeth, a Dai bach yn ymysgwyd yn ei gwsg, gan nesu ataf, cydio, a llefain . . . " Da-da " . . . yn ei gwsg, heb ddeffro. Ni chwsg helgwn y nefoedd, ac ni adawant lonydd i blant yn eu hun.

Mai 6. Heddiw, fel doe ac echdoe, golau, heulog a chynnes ar hyd y dydd, a'r bore a'r hwyr yn rhuddfelynion gan haul a cherdd. Gwaith mor ysgafn â chwarae, darlithiau megis oriau o desni haul. Mynd i'r gwely beunos yn sŵn myrdd o longau awyr; codi bob dydd i glywed am gynhaeaf y nos-weithiau cannaid hyn.

Heno eto, dawns angau drwy'r awyr. I'r gwely am hanner nos, a gorfod codi'n union wedi rhoddi pen ar obennydd. Pedair awr o gerdded i fyny ac i lawr, i lawr ac i fyny, yn ôl a blaen. Bwhwman dan y ffurfafen dlos. Awr o wrando ar y gethern yn mynd: awr o dawelwch tra byddant wrth eu gwaith-draw. . . yn Lerpwl, Belfast: awr o wrando ar eu dwndwr yn dychwelyd o'u cyflafan. Pwy heno a laddwyd, a ddarniwyd, a losgwyd, a gladdwyd yn fyw? Dim ond y meddyliau erchyll hyn sy'n clwydo yn y pen a'r galon, ddydd ar ôl dydd. Pa hyd? Yfory . . . a thrennydd . . . cawn glywed hanes.

Mai 8. Clywed! Clywaf i Lerpwl oddef y gurfa greulonaf un a gafodd mewn chwe noson ddilynol. Am hanner nos, torrwyd ar lonyddwch y nos dawel gan y Faeden Sgrech, fel pob nos ers wythnos. Am bedair awr yr ysgyrnygodd y cŵn eu dannedd ar wragedd a phlant.

A ddihangodd o'r farn a ffy. Ffoedigaethau ofnadwy y dychrynedig . . . i'r Rhyl, i Abergele, i Golwyn ac i Gonwy, i Fangor ac i Fôn—i Gymru! Di gartref y ffônt, di-ddillad, di-bilyn i guddio cnawd. Curant wrth ddrysau'r rhai a ddirmygent gynnau. Curant, ac fe agorir drysau i'w gwaredu, i dosturio wrth doster eu profedigaethau. Agorir, gwrandewir ar eu hadroddiadau torcalonnus am gyflafannau cig-noeth . . .

Mai 10. Bore Sadwrn tesog, teg. I'r Coleg am ddwy awr. Wedyn i'r tŷ i weithio gyda'm llyfrau, ac i ddarllen allan yn yr haul. Y plant ar wasgar, yn hel eu gwynfyd o fan i fan, ac yn dychwelyd bob yn un ac un i'w cinio a'u te. Ond Dai. Erys ef i "chwale gyda Dada" tua phen y drws, a gwneud myrdd o ddiwydrwydd o'r ffordd i'r tŷ, o'r tŷ i'r ffordd, i fyny ac i lawr, dwmp, damp, drib drab, ac i'r ardd.

Helfa o newyddion, blith-draphlith, croes-ymgroes, gan hwn a'r llall, hon a hon . . . " fuo yn Lerpwl ddoe:" "Lle ofnadwy 'no"; "yn chwalfa i gyd": gallu gweld dros y dinistr o "Lime Street at yr Afon; Mae'n nhw'n ffoi odd 'no wrth y miloedd ar filoedd . . cannoedd wedi dod i Fangor heddiw eto!"

Yn ddistawach: "glywis i fod Martial Law yno. Peidiwch â deud wrth neb. Ond dyna glywis i, gan,ac mi odd hi wedi bod yno. Choelia'i ddim nad yw'r byd ma'n wallgo . . . " Gwir ai gau, ni wn. Gormod o wir, yn ddiau.

Heno, i'r Coleg, i fod ar "ddyletswydd" am wythnos, gan gysgu yno bob nos. Ysgwn i a ga'i gysgu?

Mai 13. Pum darlith . . . diwyd a difyr.

Pum? newydd. . . dyfal a dyrys: dyfal—y cyrch diwethaf ar Lundain, gan chwalu'r Senedd-dy, ac anafu y Westminster Abbey a'r British Museum: dyrys—Herr Hess, un o gyfeillion Hitler, wedi dianc o'r Almaen i Brydain. Dyna ichi!" medd cyfaill go sigl 'i gwt a larts 'i ben, "dyna i chi newydd da. Dei caton i! Dyna'r cynta i adael y llong sydd ar suddo!" gan siglo'i fraich mewn cynghanedd â'i gynffon. Tybed? Ai abwyd i ffyliaid? O! ni honnaf ddim gwybodaeth ond chwarddaf am ben y llu damcaniaethau. Haf bach Mihangel: o'r damcanu bach delaf erioed ar ganol y drin. Dyrys, onid cyfrwys?

Mai 17. Nos Wener. Tra la la! Fy wythnos ddyletswydd bron â darfod, heb gael fy neffro gan y Faeden yr un noson. Wedi wythnos o godi beunos, onid hyfryd?

A ninnau â dau o'r myfyrwyr yn gwylio gennym bob nos, gwylio, gwylio bob yn ddau, bob nos; gwylio ar y llawr, er mwyn i'r lleill gael llonydd i gysgu ar y llofft. Bob nos, cyn dringo dros y derw trwm tua'm gwely, gofynnaf ganddynt fy ngalw . . . os cân y Gwd-i—. . .

Yr un modd heno. Dringaf drwy'r anferth babell dderw, ac af i gysgu. Cysgu amdani! Awr, dwy

Deffro. Cnoc ar y drws. Un o'r ddau sy'n gwylio, mae'n siwr . . . "Mr. Bebb! mae'r Gwdihŵ wedi mynd!"

Codi, ac i lawr . . . at y ddau. Y ddau Warden yn cyrraedd hefyd," John," afrifed ei waith, a "Deiniol"—anwylsant gloyw. Miss Williams yn estyn cwpanaid o de. Ei hyfryted, am ddau o'r gloch y bore!

Allan. Golau fel dydd, tawel fel bedd.

Awr o ddisgwyl. Am beth? . . . Dyna Gnocell Porthaethwy, ac ar ei hôl Sgrech Bangor, y Gwdih . . .

Cysgod y perygl drosodd. "Tw-whit, tw-hw!" ac yn ôl i'r gwely.

Mai 20. Yn ôl, gartref, eto. Pedair darlith y bore. Wedi cinio, darllen llyfr Gaxotte ar Ffredric Fawr. Gwych o lyfr, a nefoedd o Fai o'm deutu, fry ac obry.

Wedi te, i'm pumed darlith. Ar fy ffordd, cwrdd â Lowri, Mererid a Hywel yn dod adre o'r dre, fel llinyn o'r tu ôl i'w gilydd, ac yn brysur yn sugno bob un ei wialen o 'Spanish.'

Wel: be gawsoch chi?—

Mererid: "Licris bôl, dwy am geiniog."

Ymlaen at fy nosbarth. Difyr iawn, ond bod un arall o'm myfyrwyr wedi gadael. O un i un yr ânt, byth a beunydd, beunydd a byth, o'u myfyrdod i'w merthyrdod.

Dychwelyd drwy'r caeau, a'r plant ar fin mynd i'r gwely. Dai â'i gnawd teg yn y bath, ac yn dynwared canu corn, 'i chalon hi . . . Bi.. bi.. bi. . b.. bib . . . !

Dai: "Ma' Dai'n gylu cwch, Dada!"

Hywel: "D'oes dim eisie canu corn mewn cwch, oes e, Dada?"

Mererid: "Oes! . . . i ddanfon y pysgod o'r ffordd! Mi clywes i e'n gneud pan o'n ni'n mynd gyda'r trip Ysgol Sul i Fiwmaris."

Dai: Bi . . . bi . . . bi.. bi-b . . . !"

Mai 22. Dai bach yn deffro mor fore ag arfer. Ond yn flin, heddiw. Minnau'n ffôl yn ei geryddu, er mor ysgafn. Y meddal bach yn crïo'n arw—ni eill ddioddef imi ei geryddu o gwbl—ac yn bloesg ddannod imi—"Dada drwg." Traidd fel saeth i'm calon. Ein dau'n di-ddigio am y cyntaf! Cyn bo hir, Luned yn codi, ac yn 'mofyn Dai. Sylwa fod cawod wynt, neu chwa o frech, dros ei gorff. Brech!—prun? Braw!

Digon o eglurhad ar ei flinder ysbryd.

Ceisio ganddo aros yn ei wely. Cystal i chi ofyn gan yr Haul aros yn ei wâl. Codi bawb, a Dai'n bwyta gystal â'r un. Pigog a blin, er hynny. Galw cymdoges garedig i mewn—Mrs. A.R. Cynghori galw'r meddyg.

Dyfod: modio Dai bach, a'i edrych yn ofalus, ac yntau'n crïo dan driniaeth y gŵr dieithr. Sibrwd y meddyg—"Y Dwymyn Goch!" Gedy, a meiriola Luned yn ffynnon o ddagrau. Cuddiaf fy rhai i ar y ffordd i'r Coleg. Darlithiaf am y tro olaf am wythnos. Darlithio, a Dai, yn y cyfamser, yn cael ei gymryd ymaith. Dychwelyd am un. Cegin dawel. Byrddaid distaw o lygaid cochion! Gwaeth na'r cwbl, lle gwag.

Ac mae'r 'deryn bach wedi mynd? . . ."

Luned: "Do . . o, mi wnes fy ngore i'w baratoi e ar gyfer dyfodiad yr Ambiwlans. 'Fynne fe ddim clywed. . "Na Dai mynd yn yl Ambalŵns! Dai, ddim isie mynd," a chrïo, a thorri'i galon.

Wedi ei dyfod, cafodd Luned nerth rywsut i fynd ag ef at y cerbyd, ac yntau'n gwingo a chrïo. Ei roddi i'r famaeth, a gorfod troi'n ôl, heb ei bachgen.

Ar y gair y cyrhaeddodd y lleill o'r ysgol. Anferth siom iddynt, a bloeddio crio hwythau. Newydd fod wrthi'n sychu eu dagrau pan gyrhaeddais i. O'r chweg i'r chwerw, mewn munud awr!

Pawb yn ddi-air o'i ben. O dipyn i beth, Mererid yn holi—Fydd Dewi'n fabi pan ddaw e adre?" A Hywel: "Fydd e'n medru cerdded?" (Luned yn dyfod adre o'r Ysbyty gyda baban newydd ei eni yw'r unig brofiad sydd ganddynt o ysbyty!). Min nos.

Luned a minnau'n rhodio tua'r Ysbyty i holi yn ei gylch. "Wedi tawelu . . . o'r diwedd. Cysgu'n awr!"

Mai 24.' Heddiw, fel ddoe—ac yfory—Luned ac Enid a minnau'n mynd i roi tro am y Dai bach. At y ffenestr, a dyna'i gyd. Nid digon, ond llawer. Ceisio ymguddio hefyd, rhag iddo'n gweled ac ymollwng i dorri ei galon. Dyna a ddigwyddodd ddoe, a chrïo dros y lle, fy nisyn bach gloyw. Heddiw'n cysgu â'i ben oddi wrthym. Ninnau ar flaenau'n traed yn dal anadl a syllu ar ei wegil aur a'i ben melyn. Ar y ffordd, gweled Dail Robin, Blodyn Taranau a'r Goes Goch, clywed rhegen yr ŷd, a gweld y wennol gyntaf. Henffych well iddynt oll, am gyfrannu'n unfryd i godi calon.

Pa ddiddordeb yn y newyddion? y pedwerydd dydd o gyflafan yn Ynys Creta,—crud Diwylliant y Groegiaid gynt. Pythefnos wedi trechu Groeg, meddiannodd yr Almaen holl ynysoedd y Môr Aegêaidd. Papurau Lloegr yn benwan wyllt. . . yn ceryddu Darlan yn ddidrugaredd, fel pe bai ei fyd e'n esmwyth! ac yn sôn am osod gorfodaeth filwrol ar Iwerddon. Ara' bach!

Mai 26. Codi'r bore, ac edrych ymlaen, fel pob dydd, at y tro am Dai. Mynd, Luned ac Enid a minnau. Cyrraedd, a chlywed ei grio. Dai wedi'n gweld am ei fod mewn gward newydd, a ninnau heb wybod. Morwyn yn rhedeg ato i'w gysuro. Ofer.

"Dai isie Dada: Dai isie Mama!"

Estyn dilledyn neu ddau i'r forwyn eu rhoddi iddo:

Dai ddim isie! Dai isie Mama . . . isie Dada!"

Dod ato'i hun toc, sychu'i ddagrau â dillad y gwely, ac edrych arnom yn hanner swil a hanner dig. Dai bach!

Gorfod ei throi hi, a thua thre. Ymgladdu i waith i geisio anghofio gofid. Darllen proflenni "Pererindodau." Cychwyn llyfr newydd Dyddiadur Can' Mlynedd yn ôl—1841. syniad yn fy mhen ers tro, dyfod ar ddeffro, ryw fore.

Churchill yn rhoi heibio'r bwriad o orfodi Ulster. Ei drechu'n lân, gan undeb moesol cenedl. Unoliaeth genedlaethol—O na feddai Cymru ar hwn!

Mai 31. Dydd olaf y Mis Mai. Bore hawddgar gan haul cynnar yn ymdreiddio drwy darth tesog. Tai bach Glan Adda yn ddwfn yn y glyn, yn anadlu eu mwg i fyny drwy'r tarth; dynion a merched yn rhodio'n ysgafndroed o'r "Ffriddoedd" i'r dref islaw; a dau nodyn y Gwcw'n disgyn drwy'r lledrith uwchben. Luned yn y tŷ, yn chwarae "dau droed bach" â'r babi, Owain, a fydd yn flwydd oed mewn tridiau. Eistedd allan yn llonydd gyfrannog o'r holl odidowgrwydd, sy'n ireiddio meddwl, corff ac enaid. Y meddwl yn gwibio o hyd ac o hyd at y drum ger Minffordd. Yno mae Dai bach yn garcharor.

Awn ato! Awn a gwelwn: gweled gwên, y wên gyntaf er pan ddaeth yma. O! Nid y wên fawr, orfoleddus, ddireidus arferol. Ond gwên, er hynny, gwên Dai bach ei hun. Dychwelwn yn llawenach o lawer. "O! ma' fe yn gwella 'nawr!"

Mehefin

Mehefin yr Ail. Y Llungwyn tlws ei enw. Teg hefyd, onibai am awelon miniog. Dydd o ŵyl, yn anad dim. Codwn ac awn, Luned a'r plant a minnau, bawb, wedi cinio. Y babi yn y pram, pentwr o fara-'menyn, dwy gacen, potelaid o laeth—llefrith, os mynnwch. Bant! yn un llinyn o gwmni llon. Galw gyda Dai bach. O'r sioncyn bach cyrliog, ac mor falch o'i lyfrau lliw a'r "gogi" (siocled)!

Bachgen pwy?—"Dada . . Mama! Dai yn galiad Dada a Mama."

Gadael, yn lled ysgafn galon, ac i Berfeddgoed. Gloddest o liwiau ar bob llaw, a gwyrthiau i'r plant ar bob clawdd, blodau o bob lliw a llun, a nythod adar, efallai. Chwilio'n ofalus am le cysgodol at ein te. Dyma fo, a'r eistedd gorffwysgar am y disgwyliedig bryd yn yr agored. Y Gog yn arllwys ei chathl hithau. Bochio ac yfed fel cewri, ac yna dringo'r clogwyni a'r cnapiau, rhedeg a champro, nes bod pob un wedi cael llond ei fol ohoni. Troi tuag adre wedyn. "O! welsom ni'r un nyth!" medd Lowri. Naddo. Ond dyma . . . yn y clawdd . . . nyth robin goch. A chwech wy ynddi. Wel, am ryfeddu, a llygaid Mererid fel dau lyn disglair, llonydd. Ar y ffordd adre, Sali'n gofyn i'r plant: ""Welsoch chi'r tŷ, o'r top, fancw? Mererid: "Naddo! am nad oedd 'na neb gartre!!" Cyrraedd, swpera, a mynd â llond llygaid o ryfeddodau gyda hwy i'r gwely.

Mehefin 3. Codi'n foddfa o chwŷs: annwyd ers dyddiau, ond heddiw'n llawer gwaeth. Pum darlith, a phob cymal yn llawn gwŷn. Ac ymlusgo i weld Dai, wrth gwrs! A'i wên wannaidd yn hen ddigon o dâl. Luned, yn y cyfamser, yn siopa yn y dre. Pob siop—y "Siop Goch" yn enwedig—a phob heol, yn orlawn o bobl. 'Wyddoch chi pam? Heddiw, ie, heddiw, y daw'r dogni ar ddillad i rym. Y gwahaniaeth? I ni, dim. Dim yw dim. Chwedl Luned, bydd mwy o "gwponau" gennym nag o geiniogau.

Heddiw hefyd yw dydd pen-blwydd Owain bach. Y blwyddyn bach ag ef! Dim te arbennig iddo fe. Dim, ond anrheg o forthwyl sinc bach del. Wrth ei fodd. I'r teg, tegan!

I'r hŷn, hunan! . . . O! dim ond llond ei ddillad o Weini—dog dwysdrem yn poeni, poeni, . . . a phoeni, . . . am ei . . . radd. Tewch!..

Mehefin 6. Dal i godi'n chwŷs bob bore, i gerdded o ddarlith i ddarlith, ac i ddringo'r drum at Dai bach,—ac afal gan Enid iddo. Afal? Pwy a ŵyr y crwydro a'r cerdded, y chwilio a'r chwilota, cyn cael yr un? Dim un o gwbl ym Mangor, pe baech chi'n rhoi'ch crys amdano! Ei gael, er hynny, ac Enid a Dai am y balchaf.

At y pentan, yn swp sâl. Dau lythyr yn calonogi'r claf. Un oddi wrth ŵr hollol ddieithr. Gweinidog gan y Bedyddwyr yn Sir Fynwy,—yn "diolch yn gynnes am eich gair diddorol dros y radio heddiw," yn sôn am "fwynhad arbennig wrth ddarllen eich Dyddiadur," . ac yn gobeithio "y cewch hamdden i roddi rhagor o ffrwyth eich sylwadaeth graff a'ch Cymraeg bendigedig. . . Dyn annwyl! Daw o'r Borth, ond llafuria "ymhlith Saeson, neu o leiaf Gymry wedi colli eu hiaith, a'm cariad at Gymru a phethau Cymreig yn aros. A'r saint .. yn parhau yn Gymreig eu hysbryd. Y mae gobaith eto!"

R. MENAI JONES.

Gobaith, oes. Gobaith! y rhin sy'n cadw llwch a fflam wrth ei gilydd.

Y llall, gan hen fyfyriwr, oedd yma wyth a naw mlynedd yn ôl,—"Griff Davies." Yn y fyddin, ond wedi bod gartref yn y Bermo,—"a chefais siwrne ardderchog yng nghwmni'ch Dyddiadur, o'r Bermo i Lundain. Mor fyw yr ymddanghosech o'm blaen fel yn y dyddiau difyr gynt."

Hen fyfyriwr yn seboni ei gyn-athro! Efallai. Ond ni chais am ffafr na gwobr. A gwobr na ffafr nid oes gennyf. Os sebon, sebon o'r galon. Ac nid sebon, ychwaith, ond llond calon o ddiolch yr alltud am y mymryn lleiaf o haul ar fryn. A mwy o ddiolch nag y gallai llenor o Gymro ei ddymuno byth. Os llenydda, llenydda i ysgafnhau baich dy gyd-Gymro yn y nos fagddu hon, i oeri tafod yn y ffwrn dân.

Heno, salach na sâl. Peswch yn f'ysigo, pigiadau dan y gesail dde. Anodd plygu i orwedd. Peidio â'm tro dyddiol at y trysor, Dai? â'm gwaith gyda'r myfyrwyr, ar yr awr olaf o flaen arholiad? ac â'm llafur ar Ddyddlyfr 1841, y Baradwys Bell? Na! oni'm llwyr orfodir.

Mehefin 9. Peidio a orfu. Yn y gwely, â'r meddyg yn cyhoeddi—Pliwrisi! Yr hen elyn unwaith eto. Daro dy ben di!

Nid mor ddrwg, ychwaith. Un cysur mawr: o'm gwely gallaf weld yr hafn yn y graig ym Mynydd Bangor, yno, tu hwnt i'r postyn teligraff ar ŵyr, i'r union fan y mae Dai bach yn gorfod treulio ei gyfnod gorweddiog yntau. Meddal? O! os mynnwch, ie.

A Luned yn cyrraedd yn ôl oddi wrtho, yn llawn o'i hanes, ac amdano'n holi, ohono'i hun:—

"A Dada'n mendio? . . ."

"A Dada'n codi? . . . "

Chwarddwch, goegwyr, chwarddwch! Yng ngwlych â'm llygaid i.

Cael pwl o ddarllen rhwng y gobennydd a'r golau,—Atgofion Tri Chwarter Canrif, Traethodau'r Dr. Lewis Edwards, As we were.

Mehefin 12. Wedi codi! . . . mymryn bach ddoe, mwy heddiw. Llwynogod o foreau bach eithaf anghynnes. Eu llygedynnau haul, er y cwbl, yn wyrth o groeso. Mentro i'r ardd, mentro i fyny at Dai. Gwên a gwrid, dyna dâl! "A Dada wedi mendio!" "Bachgen pwy?" "Dada."

Ail ddechrau darllen y papurau. Tynged Creta yn hen stori bellach. Heddiw, araith Darlan: Mai pwysig i Ffrainc gydweithredu â'r Almaen. Ffrainc? Pa Ffrainc? Yr hon sydd yn y llwch, yn gwaedu, yn dioddef, yn gaeth, yn garcharor? Cyd-weithredu! Yn gymwys fel y cydweithreda'r oen â'r blaidd a'i llyncodd. A! gŵymp!

Rhaid i'r gwan ddal y gannwyll
I'r dewr i wneuthur ei dwyll.


Llefaru'n odidog, er hynny,—am i'r Almaen "godi'n uwch na'i buddugoliaeth," a Ffrainc "yn uwch na'i darostyngiad." Celwydd tlws. Gofyn am fara, Gofyn am fara, a derbyn sarff. HITLER i godi'n uwch na'i fuddugoliaeth!

"Pinsia fi."

I beth?"

"Ond i edrych ydw i'n fyw ac yn effro . . . Ddyn glân . . . !" chwedl Williams am yr Hen Siandri.

Mehefin 16.

Un, dau, tri . . .
Meddai Clychau Aberdyfi.

Tra, la, la! Yn y wlad, ers deuddydd! Cynghorodd y meddyg fi i fynd, i orffen fy mendio. Dyna oedd mynd â'r gair o 'mhen i! Y Gymwynas!

Deuddydd wedi darfod, ysywaeth. Rhaid troi'n ôl heddiw, o Gilwinllan a'r ardal hoff.

Bore gloyw: tywyn haul yn chwarae mig yn nail y dderwen fawr cyn imi godi. Allan i'r ffald cyn bwyta,—llawr o ddaear greigiog rhwng glesni coed, caeau a dail; ei cherrig a'i llwch yn tesi i wyneb haul. Adar y bore ar frwysg hynt yn trydar gwe o gerdd uwchben; pryfed yn suo heibio; ieir yn diddig gogran eu "go-go" suol; gwyddau ifainc, newydd fwrw eu melyn, yn llafar hepian yn y tes; lloi bach yn ateb brefiadau ei gilydd rhwng clwyd y cae a'r tu-ôl i ddrws y cut; nant fechan Gwinau yn dyfal ddwndwr heibio; yr oen swci'n llwybreiddio ei gyrliog gam tua'r weirglodd; a'r wedd geffylau wedi mynd i lyfnu'r tir coch. Minnau ar ben y gamfa wrth y tŷ-mawn yn mwynhau fy niogi diwyd, ac yn dotio at ryfeddol lonyddwch cysurlawn a siriol yr holl fangre boblog. . . . Sŵn llestri'n symud eu lle yn y tŷ . . . a'm modryb yn galw: Ambrose: dowch ichi gael eich bwyd!"

Mynd, a'i fwynhau yntau. Toc, byddaf wedi canu'n iach i'r cwbl, ac i dridiau mawr o drugareddau—Cilywinllan, Talywern, Melinbyrhedyn, Llwyngronfa, Rhiwgriafiol, Darowain, etc.

Mehefin 19. "Yfory!" meddem i gyd ddoe.

"Heddiw!" sy'n dawnsio ar wefus pob un heddiw. Heddiw y dychwel Dai o dŷ ei gaethiwed,—heddiw'r bore, am ddeg o'r gloch. Nid oes modd cychwyn yn ddigon buan. Cyrraedd. Dai bach nid yn yr ysbyty, ond yn y tŷ sydd wrth ei dalcen, gyda'r Famaeth. Ein galw i mewn, am y tro cyntaf heb ffenestr na drws rhyngom ag ef. Ar ein gliniau o'i flaen, a chlebran a chlebran. Yntau'n hanner swil a hanner direidus. Ei godi i'n breichiau. Braint, braint! cael clymu dwy fraich amdano, ei wasgu'n dynn, ei gofleidio, ei gusanu. Ar fy mraich ag ef i'r cerbyd, a hyd at ddrws ei gartref.

Minnau tua'r Coleg i ail-gychwyn fy ngwaith, mor llawen â'r gog.

Mehefin 20. Darlithio ben bore. Gweithio yn yr ardd wedyn, a Dai bach yn gwegian o gwmpas, a phwt bach o'i hanes yn yr Ysbyty,—y crïo, y caredigrwydd a'r caredigion . . . Bob yn bwt y daw'r cwbl.

Min nos, torri'r glaswellt. Tap-tap ar y ffordd, a sefyll wrth y llidiart,—Mlle Cariou, yn aros i siarad. Y ddawn ganddi, yn fân ac yn fuan. Cipiaf ambell boeryn poeth o'r tywalltiad,—am "helyntion yn Llydaw, saethu Llydawr yng Nghoncarneau, un arall yng Nghemper, eraill . . . hwnt . . . ac yma; . . . Llydaw yn ganolfan yr elyniaeth at yr Almaenwyr. . . . Mme. Darlan yn cael ei hwtian yn St. Malo . . . ni feiddiai Darlan fynd i Brest. . . . Llydaw'n driw, ond yr hen genawon cenedlaethol 'na, Mordrel, Debauvais y rheini wedi agor y ffordd i'r Boches. . . . Y cnafon! . . . Cynhyrfus o stori fach, at fferu'ch gwaed. Minnau'n fud. Mud!—yn gwrando ac yn dychmygu. Mud, heb gael gair oddi yno ers blwyddyn. A'r fath flwyddyn? Na bai modd imi gael un cip olwg ar y tir annwyl a'm llu cyfeillion! "Dwy adain colomen . . . "

Mehefin 21. Canol haf, a'i awr anterth. Ei wawr yn agor ei gannaid ddydd drwy ddwyreiniol rith o niwl gwan, a'i haul cynnar a hwyr yn troi amlinell lom Eryri yn gyfresi o ddannedd-llif gloyw. Ei wres yn llosgi craig a chlogwyn, ac yn llenwi'r dyffryndir â'i dawch poeth.

Nerth Dai bach yn pallu yn y tes; Mererid yn llosgi ei chorff hanner noeth yn ei wyneb; Lowri'n blino, ac yn mynd i'r tŷ i guddio. Minnau'n gwrido'n loywgoch yn ei ganol.

Mehefin 22. Bore Sul: tua'r capel. Purion.

Dychwelyd at y teulu bach "fflonsh." Môr a mynydd o lawenydd. Yna, Enid yn dyfod â'r newydd—y Newydd. Yr Almaen wedi ymosod ar Rwsia er pump o'r gloch y bore! Cad-Gamlan newydd! Bore Sul eto!

Hitler a Stalin! Dau ormeswr Poland, dau leidr, dau anwir, dau anwar! Wedi cwympo allan o'r diwedd. Dau frawd, dau efaill; gelynion Crist, Crefydd, Diwylliant a Gwareiddiad y Gorllewin; malurwyr tegwch, tiriondeb, tangnefedd. Dau ysbeiliwr, heb ddigon o ysbail iddynt fyw'n gytun ar Gyfandir Ewrop. Dau doster di-dostur!

Beth a fynn Hitler?—ŷd? olew? tragwyddol heol?

Pa fodd y saif Stalin,—a'i lu awyr honedig aruthrol, a'i fyddinoedd ystadegol aneirif? A ymladdant? A fydd rhwyg a chwyldro? Milwyr gorau Stalin fydd ffyrdd drwg, corsydd anial a meithder o ehangdir. A'r ddau Gadfridog traddodiadol anorchfygol—Cadfridog Ionawr, a Chadfridog Chwefror! Ond eu bod yn bell, bell—chwe mis a mwy i ffwrdd. Dal hyd hynny fydd ei iachawdwriaeth ef.

Mehefin 23. I'r Coleg am hanner y bore. Môr o hyfrydwch yn y gwaith. Tua'm bwthyn erbyn cinio.

Goleddu golwg ar y papurau. Bras odiaeth! Datganiad Hitler, Datganiad Molotoff. Hitler: gwir ac anwir mewn gwe anwar a gwallgo. Cruglwyth o dwyll a dig dall. Molotoff: yn galw'i frawd yn gelwyddgi ac yn lleidr pen ffordd! Dyna ddel! A gwir bob gair: . . . Ond, araf bach, 'nawr, araf, araf, bach-pwy a gydladrataodd . . . ym Mholand? yn Ffinland?—Esthonia? Rwmania? Pwy ond y lefiathan arall, y bwystfil-o-ychydig-yn-uwch-na'r-bwystfil cyntaf? Pwy-ond Undeb Sosialaidd y Gwledydd Sofietaidd?

Ac yn awr, ar fore Sul—O! mae gennych eich dau barch i'r Sul—wele'r ddau leidr yn ymddangos i'w gilydd yn eu lliw priod, ac yn ymlarpio. Dwy flynedd yn ôl, yr ymgofleidio dwylo-mwnwgl, yr ymgyflwyno i gyfeillgarwch . . parhaus tragywydd!"

Llyna deg—yn llawn o dwyll!"

I chwi a'ch bath y credodd gwledydd Ewrop ers chwarter canrif, gan ddawnsio i gerdd eich gwallgofrwydd,—o'r Plas Gwydr yn Versailles i'r Pla Sgubol dros Gyfandir Ewrop. Do! Molotoff, defnyddiodd Hitler dy Rwsia di a Stalin, i lygru tiroedd a dynion ym Mholand, Belgium, Ffrainc. Yn awr, tery Rwsia, gan weryru ar ei luoedd parod i garlamu tua'r sbleddach "olaf" ar gig a gwaed. Ni'm dawr am Stalin. Ond caraf ei bobl,—wedi eu clywed a'u gweled yn cerdded allan o dudalennau Gogol, Tourguenoff, Pouchkine, Tolstoi a Gorki . . . Hwy a waedir yn awr, a'u gwythiennau hwy a bistylla rin eu calon a'u cyrff i'r ddaear a garant. Eu tir hwy a dorrir, eu gwenithdir a andwyir, eu cartrefi a deflir yn garneddau. Eu mamau a'u chwiorydd a'u plant a leddir, a labyddir, a dreisir. . . .

Mehefin 25. Darlithio'r darlithiau olaf am y flwyddyn Golegol hon. Llawen a lleddf. Pentwr o farcio toc.

Gorffen Y Baradwys Bell, a Dai bach a minnau'n mynd i'w bostio. Darllen y Faner. S.L. heb fod ar ei orau, o lawer.

Y newyddion? Pob ochr yn honni buddugoliaethau enfawr. Hawdd y gallant, gyda'r fath filoedd o finteioedd, a'r fath feithder o diroedd. Digon o le i chwarae â rhif a mesur! Un peth nodweddiadol: nid at Sosialaeth y Sofiet yr apelia arweinwyr Rwsia, ond at wladgarwch, serch at dir a chartref, yr hen reddfau naturiol, dyfnion a dynol.

Gorffennaf

Gorffennaf 3. Bore-godi i farcio papurau. I'r Coleg i arolygu—yr arholiad olaf un. Dyma nhw, yn colli'r chwŷs olaf yng ngwasanaeth y Coleg. Yna'n rhyddion, yn "gwhwri" ac yn prancio fel ebolion, ac wedi dwyn awyrgylch eu cartref hyd at ddrysau'r Coleg.

Minnau'n ôl at fy marcio, a dibaid gawod o law gwlithog yn gwlychu safnau crasboeth y ddaear. Gorffen am heddiw, ac allan i dasgu fy llawenydd o'm cwmpas. Ymweled â'r annwyl P.M.J., ac oriau mwynion yn ei gwmni melys. Oriau o sôn am Ffrainc, a'i llên a'i llenorion, ei gwestai a'i gwindai. Oriau o gipio grawnsypiau o'r Baradwys Goll. Oriau cyntaf y gwyliau haf,—oriau iraidd, oriau rhiniol, oriau gwengar. Euraid oriau!

Gorffennaf 5. Oriau celyd o farcio papurau. Diwrnod bach diflas, a'i chwaon aml yn 'mhoeli dail y coed, a'u troi'n guchiog—fel y bydd ceffyl yn tynnu cuwch dros ei wyneb wrth blygu ei glustiau.

Prin gip ar y papurau. Heblaw—be sydd? dim ond honiad a gwrth-honiad. Ac apêl Stalin am i'w bobl losgi eu holl feddiannau wrth gilio'n ôl. Traddodiadol eto. Bendith ar y Rwsiaid!

Gorffennaf 7. Sul. I'm capel fy hun y bore, ac i gapel arall yr hwyr. Y Parch. Philip Jones yn pregethu yno.

Capel llawn, dan ei sang. Draw yn y pellter, henwr hoyw a wyneb gwelw, llym, a thrwyn cam, eryraidd, llygaid miniog, gleision, ac ar ei ben hirwallt wedi glasu'n sidanaidd. At ei gilydd, pryd a gwedd dieithriol, ac arlliw Sipsïaidd ar ystwythter rhyfeddol ei ystumiau. Darllen yn floesg isel, drychiolaethol bron, gydag ymchwydd dieithr yn ei lais. Gweddïo'n lled ystumgar am i Dduw beidio â "gado'r genedl fechan hon." Pregethu ar Fathew, vi, 12: "Maddau i ni ein dyledion . . ."

Tri phen:

i. Maddeuant Duw'n cynnwys maddeuant dyn;
ii. Maddeuant Duw'n cynhyrchu maddeuant dyn.
iii. Maddeuant Duw'n cynllunio maddeuant dyn. Rhybuddio ei wrandawyr ei fod am bregethu mewn "Modern Welsh"!!, sef yw hynny, hanner Cymraeg a hanner Saesneg! Dyma ni, felly—" stil," " ffrinds," scapo," "ots "—" roedd Mr. Matthews yn hoffi'r gair "ots." Bloesg isel o hyd. "A ydych yn fy nghlywed i?" Pregethu'n bennaf ar y pen cyntaf: di-brinder maddeuant Duw. Nid fel natur, ond amryw rywiau ar bren y bywyd "; nid afal yn unig ond oren, peren, Cynnwys faddeuant dyn, fel y cynnwys y môr y llanw a'r haul oleuni. Duw'n rhoi rhyddid i ddyn, ond yn gwrthod rhai pethau e.e., "Na fydded i ti dduwiau eraill;" "Cadw yn sanctaidd y dydd Saboth." Arwyddion o'i hawl: swllt yr hawl. Amryw ddarluniau'n dilyn, gweddus a gwreiddiol i gyd:—pechod, fel gwialen bysgota . . gafael! (ystum berffaith),—tynnu . .; y tonnau'n taro'r graig, a hithau'n taflu'r dafnau oddi ar ei "gwallt " (gwych ystum). . . .

Haleliwia . . . ar gân.

Britho'r bregeth yn fwy ac yn fwy â geiriau Saesneg. Yna, brawddegau cyfain. Cyfarch yr "young men" a'r "young ladies." . . . "I love you. I want to stir you." Eisiau iddynt ysgrifennu'r "Top Line." Myrdd o ystumiau. Gorffen: "God bless you!"

Deunydd da, dawn fawr. . .

Gorffennaf 11. Dyheu am fynd i'r wlad ers dyddiau a dyddiau. Tua Thregaron, â'r hin mor deg, ac wedi bod heb law ers wythnosau lawer. Rhaid i Dai gael dod, a dyna ben!

Cyfaill yn ein cludo i Aberystwyth. Bore ireidd-deg, a'r wlad yn wledd o lawndwf tewfrig. Y "ladi wen" yn mud-syllu i lawr ar y rhyfeddodau wrth Bont Aberglaslyn. Tua Llanfrothen, y clogwyni creigiog yn porffor-darthu yr holl awyrgylch. Yn y Gelli-lydan, gorchest o de ac enllyn gan Nain Luned, a Dai'n wir sychedig. Adnewyddu corff ac ysbryd i ddotio ar y milfil swynion gyda min y ffordd,—blodau'r sgawen a brenhines y weirglodd, rhos gwyllt a bysedd y cŵn. Brenhines y weirglodd-bu hi'n gydymaith lled gyson i Siôn a minnau ar garlamus daith i Gluny unwaith! A'r bysedd cŵn-a oes wlad yn y byd â chynifer ohonynt â Chymru? Trwy degwch cyson hyd at Dregaron.

Gorffennaf 12. Codi'n hwyrach nag arfer a gorfod gwisgo'm dyn bach. Am y tro cyntaf erioed, ac yn unig yn ôl ei gyfarwyddyd ef! Gorchwyl anodd, anodd, ond hynod bleserus. Braint, yn wir! Pa ryfedd fod mamau'n caru eu plant wrth eu bwydo a'u gwisgo, ac edrych ar ôl holl anghenion eu cyrff? Dyna fraint!

Bwyta ar frys, a Dai'n tynnu arnaf i fynd "am dlo bach." Awn!—gan nad oes dim o'r gwair wedi ei ladd eto. Awn, o gam i gam, yn bellach, bellach, at gyffiniau Tregaron, ac i lawr drwy ei haraf ddyfalwch. Wrth y bont, siarad â thwr yma ac â thwr arall. Pawb yn cwyno . . . am y tywydd, o bopeth! "Rhy sych, rhy sych o lawer," medd y Sadler hirgloff; gewch chi weld y bydd hi'n golledus iawn i'r ffarmwrs os na ddaw glaw'n fuan. Dim glaw ers chwech wythnos!"

Gadael y Sadler glew, a thros y bont, ac i'r sgwâr.

Ymlaen . . . at Golofn Henry Richards. "Dai eisie eiste!" Eistedd. Troi llygaid, sbïo. Tri segurddyn yn dadlau'n wresog, a'r gair "Stalin" yn codi fel tawch oddi ar eu pennau; plant bach diwyd yn mynd ar negeseuau bore dydd Sadwrn; brain yn crawcian ym mlaen tŵr yr Eglwys. Cofio: am fyrdd o bethau yma, am chwarae a champro, am "gwat tlws" fan hyn a'r fan draw, am frwydrau mynych rhwng plant y ddwy ysgol, am ymladdfeydd y cewri tu allan i'r tafarnau yn ymyl, am y ceffylau bach ar Ffair Garon a'r Ffeiriau Cyflogi, am "edrych dwylo" ac am "wneuthur siwgleriaeth," ac am Dai Cilcennin a'i gampau gwyrthiol ar air a gweithred . . . ac am . . .

Codi, a symud tuag adre, a difyrru Dai hyd ddiwedd y dydd. Wedi ei roi ef yn ei wâl yn unig y caf gyfle i fras-gamu dros y caeau, a dringo drwy'r rhedyn i ben y banc.

Gorffennaf 15. Wedi dod! Y glaw! Cafwyd tyrfu a tharanu am oriau y nos o'r blaen. Glaw beunydd, er hynny. Yr aflwydd, ni cheir ymhel dim â'r gwair.

Dai'n galw drwy'r dydd am rywbeth, tro bach, pensel, llun, a phapur,—"i 'phennu (ysgrifennu) at Mama!" I'r dre eto,—at Mr. G. T. Lewis, prifathro cyntaf yr Ysgol Sir. Caf hanes dechrau'r Ysgol Sir ganddo ef, a'r bechgyn cyntaf, bechgyn dros ugain oed, yn dyfod i'r Ysgol yn syth o gydio yn nau gorn yr aradr, ac eto'n dod ymlaen yn rhyfedd. Sieryd hefyd am y cyn-Weinidog, yr hen Forgan Ifans dduwiol:—amdano'n pysgota gyda Davies, Llundain (Rhuddwawr) a'r ddau'n methu dal dim. Davies: "D'ych chi ddim gwell na finne heddi." "Nagw wir," meddai M.I." Yna, mi benderfynes i guro fe. Ac mi weddïes: 'O, Arglwydd, gad i mi ddal un,—un bach, dim ond un. Mi fydda' i'n fodlon wedyn.' Ac yn wir i chi, ar y gair, dyma un i'r ddalfa, clobyn mawr hefyd. Yr own i wedi ca'l y trecha' ar Davies. . .Oes! ma' ateb i weddi,—i bob gweddi, Mr. Lewis."

Tro arall, amdano'n hwyr yn dod i'r Seiat. Ei wraig yno, a'r blaenoriaid yn gofyn—"A yw Mr. Ifans yn dod heno?" "Ydy' " . . . ma fe' yn dod, r'wy'n siwr; d'wn i ddim pam ma' fe mor hwyr."

Disgwyl. Tua chwarter wedi saith, dyma fe'n dod yn gynhyrfus-Morgan Ifans, o bawb!—gan sychu'r chwys oddi ar ei wyneb. Cyfyd toc, a llifo allan: "Fe fu bron i Satan fy nhrechu'n lân heddi . . . R'own i'n pysgota . . . o ddau o'r gloch ymla'n. Dim un yn dod; dim un. Yna, tua phump, . . . un, ac ar ôl hwnnw un arall, ac un ac un o hyd o hyd, gyson . . . gyson. A phan edrychais ar fy wats, r'oedd hi newydd droi saith. A dyma fi'n dweud . . . ' ma' fe wedi 'ngha'l i heddi'! . . . Naddo! . . . 'cheith e' ddim'! Ac mi redais bob cam i'r Seiet. . . . Dyna wers i fi. 'Physgota' i byth mwy." Ac ni wnaeth.

Ymlaen â mi oddi yno, i dŷ Mr. Powell, y prifathro presennol, ac i dŷ Mr. Griffith, un arall o'r athrawon. Oriau hyfryd iawn, a Dai'n treulio rhannau helaeth ohonynt yn pori yn y gerddi! "Duwcs annwyl dad bach!" ys dywed ef.

Gorffennaf 21. Dai a minnau yn y trên ar ein ffordd yn ôl. Dim lwc ar y tywydd wedi iddo dorri. Dwy awr o fydylu gwair un prynhawn, a'r glaw'n cau amdanom yn ddisyfyd iawn. Odid na chawn ormod ohono. Nid da rhy o ddim.

Gorffennaf 26. Wedi ymeneinio'n ôl i'm hen gynefin ers dyddiau. Deffro yn sŵn Dai'n gweiddi-"Tŷ Mama!" a mynd am dro cyn bwyta. Boreau digon heulog, a difyr i ddarllen yn yr ardd. Y papurau'n llawn o'r rhyfel, o dudalen i dudalen;—y bumed wythnos o dywallt moroedd gwaed yn Rwsia, a'r ymosodiadau o'r awyr wedi dechrau ar Foscow. Lledu ei grafangau beunydd a byth,—Siapan yn agor ei safnau am draflwnc yn Indo-Sina. Gyda chennad Ffrainc, meddir. O Ffrainc! A'r Amerig yn cael plwc go ddrwg o ddig, o arswyd a braw. Ofn! Cam yn nes i'w rhyfel hwy? Cyn bo hir, rhyfel byd.

"Yf win!" Yf yr haul, o leiaf. Yf, llynca . . . o rin y gwres sy'n treiddio drwy ysblander o grwybr bore a huling o niwl gloyw. "Ychydig wridog win, a llyfr o gân "—Os nad o gân, o gamp a gorawen:—The Spanish Tudor, gan Prescott. Llyfr newydd, a champwaith gyda hynny. Pum can tudalen, a sglaen ar bob un.

At fy ngwaith: darllen proflenni'r Baradwys Bell ddwywaith drosodd; ymlaen â'm bwriad i ysgrifennu Hanes Ymfudwyr Llanbrynmair yn 1795. Blino, ac awr o chwysu yn y pridd. Darllen dau o Lyfrau'r Dryw—Gyda'r Glannau a Storiau Gwallter Map. Difyr a da. A'r Llenor. Da yntau, drwyddo draw: er na chytunaf â'r ysgrif—"Y Rhyfel a'r Dewis." Nid gwir dweud nad oes gwahaniaeth rhwng osgo'r Cymry a'r Saeson at y rhyfel. Oes: a sylfaenol. Nid yw'r brenin, nid yw'r ymerodraeth, yn golygu dim byd bywydol, dim byd eglur ac agos i'r Cymry. Yna'r awgrym bach cynnil ond pigog hwnnw—y dioddefa ein "diwylliant yn dost, efallai hyd angau, os gwelir na wnaeth ei noddwyr ddim i hyrwyddo'r ymdrech, . . . paham y dylai gael byw." Fy mhen a'm calon a wrthryfela yn erbyn hyn. O'r colyn!

Awst

Awst 6. Braidd yn gyniweiriol aflonydd . . . wedi addo siarad mewn cyfarfod yn yr Eisteddfod 'fory.

Oherwydd hynny, rhaid cael te pen blwydd Dai heddiw—er mai fory yw ei ddiwrnod ef. Diwrnod mawr!

Tua hanner dydd, Lowri'n dyfod â'r gacen arbennig o'r siop, mewn blwch mawr. Codi'r caead:—cacen gron, a Pawb ar dantaith hufenog, gwresowgbinc ar ei hwyneb. flaen traed yn ymdyrru i'w hedmygu, a Dai yn fwy na'r un. "O! welwch gacen Dai!" medd ef, gan ddawnsio o gwmpas, a Luned yn darllen iddo'r ysgrifen sydd arni—"Dai yn Dair Oed." Yn fuan wedi cinio, disgwyl am y gwesteion bychain —Enid a Gareth, a Sionyn fab "Siôn." Clandro a chowlio. Allan â phob tegan, i'w ddangos a'i guddio bob yn ail, a phob camp a chware. Dwy awr orfoleddus drystiog. Ond ar binnau am de.

Cyd-eistedd,—byrddaid o gegau agored. Gosod tair cannwyll ar y gacen siop. Dacw'r llall, o waith Luned, a thri lliw arni! "Duwcs annwyl dad bach!" Hwyl, 'te! Hwyliau! Toc, goleuo'r tair cannwyll, a galw ar Dai i . . . chwythu! Chwap! ac allan â nhw. Yna, claddu clebar a dantaith ar ras. Wedyn, oll â ni i'r cae chwarae, i roi tro ar ôl tro i bob un o'r plant, ar y 'swing.' Miri a moethau hyd saith o'r gloch. Llonyddu a blino o'r plant, a gwasgar . . . i barhau eu dawns bert dan amrannau cwsg.

Awst 7. Treulio'r bore yn gwag-swmera tipyn, a rhyw feddwl gronyn neu ddau am anerchiad y prynhawn 'ma.

Chwarter i dri. Cymryd y trên am yr Eisteddfod. Cyrraedd Bae Colwyn ar fyr, a cherdded oddi yno i'r Hen Golwyn. Sbonc a sbardun, a dyma fi yng ngolwg y Neuadd. Lled ffordd o dorfeydd am ganllath oddi wrthi. I ganol y dorf ddiderfysg. O! mor ddof a diderfysg, yn aros a disgwyl, disgwyl ac aros, ar y goes dde, ar y goes chwith.

Codi pen, ac ymholi—"beth am yr ochr arall i'r adeilad?" Bant â mi. Neb! Neidio mymryn o gledrau, a dyma'ch gwas chi wrth ddrws y Neuadd. A'r dorf yn dal i disgwyl," ac "aros-trigo!"

Minnau'n cael" braint a briwsion" dan gysgod eu hamynedd hwy. O'm deutu, y Bi-Bi-Eciaid niferus a'u ceir gloywon; swyddogion medalog yr Eisteddfod yn tor-heulo yn nhes ei gilydd; ac ambell feirniad yn sleifio allan o'r neuadd, fel cwningod o'u tyllau. Braint! Braint!

A'r briwsion:—mai disgwyl am y "gŵr bach" oedd y dyrfa oddi allan (synnu mwy at eu hamynedd); mai canu emynau "i ladd amser " yr oedd y dyrfa yn y Neuadd. (Synnu dim, gan fod "yr Orsedd " yn droedfainc i'w draed).

Dyma yrru y gwr bach" i'n plith mewn cerbyd mawreddog, a chodi cilgwth o drot ar garnau y Gorseddogion i gael cil-llygad o gip ar ei fawrhydi.

I mewn â minnau—i'r cefn. Llawn dop, a myrdd o laes—ystumio ar y llwyfan. Codi o'r gŵr bach, a fflachio goleuni arno. Yntau'n bochio ar y fath rysedd o orffwylledd. Tic.. tic. . tic. Toc, a dyma ddechrau'r araith. Llais tyner, melys a swynol. Brawddegu'n araf, araf, gydag ambell acen lediaith. Araf, anhwylus, crafu am air. Ystrydeb yn dilyn ystrydeb. . . ac yn arwain i fol Jonah! Dim swmp, dim gafael, dim tanio. Gorffen—mewn di-wreichion fachlud.

Awst 8. I Seiat y Llenorion, Luned a minnau. Gadael y plant am unwaith yng ngofal y forwyn.

I mewn, a'r Neuadd yn lled lawn. Y Cadeirydd, I.W., newydd godi ar ei draed. Ffraethebu ar Seiadau, a mynd rhagddo i sôn am waith y Brifysgol, a'r Eisteddfod. Darllen testun y ddadl—"Bod mwy o angen llenyddiaeth i'r ychydig nag i'r lliaws ar Gymru heddiw."

R.T.—araith arabus, ffraeth, wedi ei pharatoi'n ofalus. Tra arabus, a gwych. Cyfrwys odiaeth, ac yn cydnabod lle'r ychydig, y dethol, hyd yn oed yng Nghymru. O'r tu allan iddynt, y lliaws, y werin a'r miloedd—na ddarllenant Gymraeg, etc. Dim llenyddiaeth gennym ar eu cyfer hwy. I'w denu at Gymraeg rhaid wrthi. Pa fath? "Stwff!" Ni ellir gorfodi plant i siarad Cymraeg! Tewch, da chi! Onid goruchwyliaeth y gorfodi—mewn llawer dull a modd—a ddenodd blant Cymru i ddysgu Saesneg, etc.? Dyna wendid mawr y ddadl. Cyfle S.L.!

Yn nesaf, S.L. Nid mor ffraeth . . . o lawer; ond gellir cael mwy na digon o ffraethineb. Nid ar ei orau, ychwaith. Nid mor hawdd ei sefyllfa, yn wir; gan i R.T. lawn gydnabod pwysigrwydd "yr ychydig." Ymdrech deg i droi'r byrddau ar R.T. Caiff ei gyfle . . . gyda'r "stwff" (er nad yn hollol deg, gan na ddadleuodd R.T. dros i lenorion ddarostwng eu safon). A'i gyfle gorau gyda'r gorfodi. Ei awr, ei gyfle!—a'i ddefnyddio'n dra meistrolgar.

Dadl dda, hyd yn hyn, ond a ddifethir gan . . . " yr ychydig!" Yn gyntaf, Ll.O. a gyfyd i darfu ar enaid pob ceinder. Tarfiad, a cherydd a thwrf. Yna ennyd annifyr o dawelwch. Cyfyd y Cadeirydd, i annog dadleuwyr eraill, gan awgrymu iddynt wneud yr anerchiad a ddylasai ef ar y dechrau. Y diofalwch ysgyfala!

Saib . . . a môr o wynebau'n troi'n ôl. Draw, ymhell yn ôl, ar ei draed y mae gŵr bach, cydnerth, a'i ben moel a'i wyneb heulog yn codi uwchlaw'r llond neuadd syfrdan. Trwy ei wên grynedig, daw'r geiriau hyn—"ei fod ef am ufuddhau i gais y Llywydd, sef dweud y gair a ddylasai ef fod wedi ei ddweud. . . . Dim ond un frawddeg. . . Fy mod i'n credu mai cywilydd o beth oedd na phenodwyd S.L. yn ôl i'w swydd. a'm bod yn ymrwymo i wneud popeth er sicrhau hynny'." A dyma chwa iasol yn disgyn fel rhew dros yr holl le. Gwrid y Cadeirydd yn ei adael, a phob pefredd o'i lygaid, pob arabedd, pob ffraethineb, pob areulder. Codi'n llesg . . . at flaen y llwyfan, i gwyno oherwydd defnyddio'r lle at y pwrpas hwnnw. Wedi ei lorio'n lân, druan bach. Mae'r ffraethineb?

Ymgais gan hwn ac arall i ddod â'r Seiat yn ôl at ei phwnc. Dim modd; hithau wedi ei llorio. Llusg, tau. Ar y ffordd allan, pawb yn trafod y lloriwr, rhai'n canmol ei wroldeb, a rhai'n mingamu ceryddon o bob math. Yntau wedi rhedeg ar frys i ymddiheuro i'r Cadeirydd. Y cyndyn toddedig! Ai, fe ai . . . i roddi ei einioes i lawr yn ei le, pe bai raid. Wedi deifio, edifarhau. Pam nad arbedai? Oddi allan, deuoedd a thrioedd, ceraint a chaseion, yn dadlau'r pwnc wedyn. Uchel wau drwy'i gilydd, ymnyddu, datod cwmni, ffurfio cwmni, cwrdd â chyfeillion. Yn eu plith, Mr. a Mrs. Pugh Morgan, a'u merch wyth oed yn dweud wrth Luned iddi hi ddarllen Dyddiadur 1940 i gyd, gan adrodd darnau ohono. A dweud ar yr anadl nesaf—"Ond 'weles i mo Ddyddiadur 1941 eto!" Prin!

'Awst 9. Segura darllen—Cyfansoddiadau'r Eisteddfod,—pur siomedig; The Road to Bordeaux: Llun torcalonnus o Ffrainc yn ystod Mehefin flwyddyn yn ôl; y frwydr anghyfartal, rhwng Paris a Soissons, ac yna'r ffoedigaethau dilywiol hyd y ffyrdd tua'r Deheudir. Arswyd y byd!

Llythyr: oddi wrth chwaer y bachgen a ryddhawyd "—yn wir, yn wir!—o wasanaeth Pwyllgor Addysg Sir Fôn. Ymddiheura am ei Chymraeg gwallus, "er ein bod yn Gymry glân, a phob amser yn siarad Cymraeg. Clywsai gan gyfaill y buasai'n "well gennych gael llythyr Cymraeg yn llawn gwallau nag un Saesneg perffaith." Gwallus fydd hwn, "am ei fod y llythyr Cymraeg cyntaf i mi ei ysgrifennu."

Eglura pwy ydyw,—chwaer Gwilym Owen—"sydd yn wael ar y pryd hwn yn Walton Hospital ers tair wythnos. Cystitis sydd arno . . . Ei Mam wedi "cael pleser mawr wrth ddarllen y dyddiadur, ac yr oedd eich geiriau caredig wedi codi ei chalon. Nid rhyw lawer o garedigrwydd sydd i gael wrth wrthwynebu unrhyw beth, ac nid ydyw fy mam yn heddychwr. Y mae pethau fel yna ar ôl ei hoes hi. Ond y mae Gwilym yn iawn yn ei golwg hi, er i'r byd i gyd fod yn hollol wahanol. A phan fydd rhyw heulwen fach fel eich geiriau chwi yn dod, y mae'r byd yn ail wenu.

Ac nid yn unig am y geiriau hyn yr oedd wedi mwynhau'r llyfr, ond am hanes y plant. Mae'n nhw'n union fel yr oeddych chwithau'n blant bach! Syndod mawr i 'Mam."

Llawen drist. Do: daeth cyfaill ataf dros fis yn ôl i sôn amdano yn y tŷ uchod, a'r fam yn datgan ei diolch am air neu ddau o glod i'w mab. Oni lawenychai fy nghalon? Yn awr, ei bachgen yn yr ysbyty! Wedi ei erlid o Fôn, o Fôn i heolydd Lerpwl, i chwilio am waith. Ac yn wael mewn ysbyty!

Awst 12. Gorfoledd o fywyd yn llifo trosodd: Hywel a Mererid a'r trydan yn eu cerdded ers dyddiau. Heddiw, mynd i Langadfan am bythefnos o wyliau. Er y bore bach, yn wyllt-awyddus am gychwyn, ac yn rhag-fochio'r llawenydd a'r syndod sy'n ystôr. Luned yn eu hebrwng hanner y ffordd, i'r Gellilydan, ac yn eu cysgod yn cael diwrnod segur,—os segur hefyd.

Minnau'n ceisio diddanu Dai, drwy ei gylch-arwain, gorff a meddwl, i borfeydd eraill. Difyr a diwyd: bagad gofalon bugail!

Awst 15. Pob un ei dro. Wele fy nhro innau i fynd eto tua'r wlad. Mynd â Lowri gyda mi; fe gaiff hi dair wythnos. Nid bod y dydd yn hyfryd. O! nage!—un mwrllach tywyll o gymylau duon yn llusgo'n isel, a'r wlad yn llawn caeau o wair yn drist ar lawr mewn tanfeydd di-galon, diflas, a hyd yn oed o gaeau amlach fyth heb eu lladd. Rhwng Maentwrog a Thrawsfynydd, cawod enbyd yn rhedeg o'n blaen, a ninnau'n llithro i mewn iddi. Cau fel hanner nos amdanom, hyd Ddolgellau, a Thalyllyn a Chorris. Goleuo tua blaenau Dyfi, a chyrraedd Machynlleth erbyn tri. Cerdded o gysgod i gysgod drwy ei gwlybaniaeth hithau . . . at hwn a'r llall. Mr. John Thomas, Mr. Trefor Jones, Mr. Wili Evans, a chwrdd ag eraill.

Gadael y dre cyn chwech, a chyrraedd Cilwinllan tua saith . . . nage! maddeuwch, chwech ar gloc Cilwinllan, sy'n mynnu cerdded yr un fath heddiw ag yn y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth gyntaf allan o law John Tibbot o'r Drenewydd, "Clock Maker and Watch Maker."

Awst 18. Ers tridiau dyma fi yng Nghilwinllan, yn crwydro bob dydd drwy'r gwynt a'r glaw, hwnt, yma, acw—i Dalywern, i Ddarowain, i Gemaes Road ac i Fathafarn. Glaw neu beidio, "ŵtregydd" gwlybiau neu beidio, ni rwystrant ddim ohonof. Croeso ym mhobman: drysau'n agor, a llestri'n swnian eu ffordd tua'r bwrdd.

Heddiw, melyn haul ar fy nghodiad. Y fath ryfeddod! Faint o ddal sydd arno? "Ma'r gwynt o le go lew, o gyfeiriad Glan Dyfi 'ma "-medd Defi John. "Falle daw hi i fynd at y gwair . . . 'chawsom ni'r un diwrnod ato ers wythnos."

Dal . . deil. Ac ar ôl cinio, dyma Defi John, a Denis, a'm hewythr a minnau at y gwair. Ei droi o ystod i ystod, a'i ysgwyd wedyn . . . a chadw llygad ar y tywydd o hyd. "Mae wedi diraenu llawer . . . Mae'r gwynt wedi mynd i le go ddrwg . . . mae'r gwylanod wedi dod i fyny eto," medd y naill ar ôl y llall, a'i bwys ar ei gribin. Dal, drwy'r cwbl, ac ar ôl te, mynd ati i gywain. Cael deulwyth neu dri'n weddol dda: gyn lleied! Ac eto, ar dywydd fel hwn, y mae llawenydd am un mwdwl a ddaw i mewn i ddiddosrwydd.

Awst 20. Naddo: ni ddaliodd y tywydd ddim. Trannoeth, rhesi ar resi o gawodydd enbyd. Trwy eu canol cerddais innau dros yr hen ffordd, ffordd y porthmyn, i Lanbrynmair. Yma am ddeuddydd neu dri bellach. Hen ardal fy nhad a'i deidiau. Paham na theimlwn innau beth serch carennydd tuag ati? Fe'i cerddaf o gwr i gwr, i fyny ac i lawr, ôl a blaen. Hai ati! tridiau sydd gennyf, a glaw wrth fy sodlau'n gyson.

Heddiw, at y Ddôl fach, ac i fyny i'r ddau Gwmcarnedd. Rheswm da paham, a minnau'n gwybod am ymfudo oddi yno i'r Amerig yn 1795. Amser a hamdden, ac mi sgrifennaf yr hanes rywdro. Gwyn fy myd,—caf laeth enwyn hyfryd, newydd ei wneud, yn y naill, a chinio a chwmni merch barablus yn y llall. Eilwaith i'r ffordd â mi, ac i lawr at yr Hen Gapel,—ac i mewn, wrth gwrs. Ar fy nyfod allan, gweld dyn yn pwyntio mur y fynwent. Canlyn fi â'i lygaid. Y mae'n amlwg am sgwrs, a holi. Holi cyfrwys, holi heb holi. Dywed ei enw—Wiliam Peate; a rhaid i minnau fodloni ei gywreinrwydd. Ambrose Bebb ydy' f'enw i." "Duwc annwyl dad, nefol ddaioni!" medd y cyfaill syfrdan, gan estyn ei ddwy law i'w hysgwyd. Prin y tawai wedyn, . . . am yr ardal am S.R . . . . Yr oedd ganddo "gof bach" am glywed S.R. yn pregethu. Gwahanu'n gyfeillion mwyaf fu erioed. Disgyn i'r ffordd, a dringo i'r Diosg. Ci yn cyfarth, merch yn rhoi llam i'r tŷ i gyhoeddi'r newydd, a dyma wahodd i mewn, a llond cegin o groeso gan Mr. a Mrs. Lewis. Wele fi yng nghartref S.R. a'i frodyr. O flaen y drws, llond cwpwrdd o lyfrau'n gwenu oddi ar eu cefnau—o Eiriadur Charles hyd at y Geiriadur Beiblaidd. Cyfoeth o amrywiaeth! Ac yn cynnwys holl lyfrau'r "Clwb" a "Llyfrau'r Dryw." Nid addurnwyr segur, cofiwch; fel y caf ddigon o brawf cyn pen yr awr. Teulu tra darllengar, heb ddim amheuaeth; un o'r teuluoedd sy'n addurn yng nghoron y werin Gymreig.

Ymgomio'n ddiwyd â'n gilydd. Sieryd Mr. Lewis Gymraeg graenus, dengar dros ben,—Cymraeg gloyw a melys Cwm Nant yr Eira. Ei glaned a'i hawddgared, o flaen llygad y tân, ar brynhawngwaith gwlyb!

Yn naturiol, siaradwn am y Diosg ei hun, ac am ddisgrifiad SR. o'r lle. Gwnaeth S.R. gryn gam ag ef, wrth ei alw'n lle cleiog. "Yr wyf i yma ers ugain mlynedd," medd Mr. Lewis, ac ni ddeuthum at dir cleiog eto! . . . Mi all y Diosg godi cystal gwenith Gwanwyn â'r un fferm oddi yma i Fachynlleth. D'ydwy'i ddim yn ofni cystadlu am hynny. . . . Ddweda'i ddim am wenith gaeaf. . . ."

Adroddodd Mr. Lewis amdano yng Nghyfarfod yr Undeb ym Machynlleth rai blynyddoedd yn ôl, a'r Parch. D. O. yn siarad am S.R. "Yn wir, r'oedd e'n codi cywilydd arna'i 'mod i'n byw yn y Diosg, ag yntau'n disgrifio'r lle 'ma fel un na fedrai neb fyw arno!"

Diau na buasai'r siaradwr hwnnw yn nes i'r Diosg na disgrifiad S.R. ohono. Parchwn S.R. ar bob cyfrif, ond na roddwn goel ar bob peth a ddywed—hyd yn oed am y Diosg.

Aros i de. Dim dau ddewis o gwbl, a Mrs. Lewis a'i merch wedi ei baratoi, a Mr. Lewis yn ymuno â hwy yn y cymell. Te amdani, a'r cewri meibion yn ymuno â ni. Ymgom fer arall, ac i lawr i'r ffordd, ac i Benybont. Bant â mi drachefn i'm taith i'r Bryn Aerau Uchaf, fu unwaith yn gartref i'm teulu. Dychwelyd i Benybont, wedi gwneud diwrnod lled dda o "waith."

Yfory tua'r Pen Cae Du a Phlas Rhiwsaeson a'r Bont, a thrennydd i'r Bont eto, a'r Pennant ac i ben y Dylifai "Stae "—Pen Ffordd Las yn Gymraeg. Wedyn llwybreiddio'n ôl i Gilwinllan, gan alw yn y Tŷ Nant a Rhosdyrnog. Enfys o ddyddiau, er gwaethaf eu llonaid o law.

Awst 27. Mymryn o waith wedi dychwelyd: dim ond darllen proflenni'r Pererindodau a rhyw fân lythyra. Cip ar y papurau. Dal i golli tir a wna'r Rwsiaid dros yr holl faes. Dim arwyddion ymddryllio, nac ymollwng i ddigalondid. Dalient! Y mae amser o'u plaid. Darllen y Faner: S.L. yn braff a miniog; Dr. Gwenan Jones yn gampus ar Addysg.

Medi

Medi 4. Dydd o degwch ar ei hyd, heb gysgod o gwmwl yn un lle, nes dyfod ffluwch o "wallt-y-forwyn" fin y dechreunos, a gwrid y machlud yn yr hwyr. Myrdd o flaguro yn yr haul, ar ôl myrdd o grebachu yn y glaw a'r oerfel. Mynnwn, pe Duw a'i mynnai, dri-channydd o des yn y flwyddyn! Ac na bo rhyfel ar y gorwel, na'r gair ar wefusau dynion. Yn lle hynny, ni'n gad na dydd na nos. Caea'n erchyll warchae ar Leningrad heddiw, ac ymestyn yn golofnau o fwg a thân hyd gyrrau Odessa. . . .

Dwy flynedd i ddoe y cil agorodd ei safnau . . . a minnau newydd gyrraedd adre o degwch bro Llydaw a Ffrainc!

Medi 13. Neithiwr seinio o'r Faeden Sgrech. Prin ddeffro a brysio i gysgu'n ôl. Codi i ddiwrnod bach diddrwg ddidda o fyllni diog.

Yfory yw chweched pen blwydd yr efeilliaid. Ond gan fod Sis, y forwyn—a'i chwaer, sydd gyda "Siôn"-yn cael eu pen blwydd heddiw, beth well na dathlu'r cwbl heddiw? Heblaw. . . y Sul fydd hi 'fory!

Dathlu amdani, a'r ddau'n codi allan yn blygeiniol i chwythu eu cyrn yn yr heolydd . . . ac yn y tai! Torri gyddfau o redeg a gweiddi, a Mererid yn arwain y gân:—"Ma' Hywel a fi'n ca'l ein pen blwydd heddiw . . . drwy'r dydd. R'ym ni'n chwech oed. . . ." Hywel: "Nage! Fory'r ym ni'n chwech, nid heddiw . . . " Mererid: "Ie: ond heddiw rym ni'n i ga'l e, am mai heddiw mae Sis yn 'i ga'l e." . . .

Dai hefyd yn eilio'r gân a'r gweiddi a'r clochtar, ac yn hawlio rhan yn y dathliad. Te mawr, dwy gacen olygus, a'r cyfarchion ar un ohonynt:—"Hwyl Fawr i Hywel a Mererid." Chwe channwyll, wrth gwrs, deuddeg par o gegau, a sŵn deuddeg dwsin. Dai'n hawlio'r chwyth cyntaf, diffodd dwy, Mererid un, a Hywel y gweddill. Yna Luned yn canu:—

"Mae Hywel a Mererid yn chwe blwydd oed. . ."

Medi 15. Araf agor o'r dydd, yn desog erbyn deg, ac erbyn hanner dydd yn loyw odidog. Diwrnod olaf y gwyliau haf, diwedd y dyddiau o rodio'n rhydd, o ddarllen ar fy nghyfer, ac o segur ysgrifennu'n hamddenol dawel. Chwithdod mawr ar eu hôl.

Rhof fy more olaf i'm gwaith, a'r prynhawn i Dai a Luned. Awn i hel mwyar duon i dir Eithinog. Prynhawn hirfelyn, tyner, a'r haul yn pelydru ar addfedrwydd o las, ac yn chwarae hud a lledrith dros wyneb y ddaear. Ninnau ymysg y mieri, pob un i'w gyfair ei hun, a Dai'n llafurus drotian o'r naill i'r llall. Weithiau ar goll yn lân gan eithin a drain, ac yn gweiddi "Da-da! Ma-ma!" ac yn sgythru ei goesau byrion drwy'r mân brysgwydd. Hel ambell fwyaren o dro i dro, yn enwedig y rhai cochion, celyd, a'i ddannedd yn crwnsian drwyddynt fel dannedd buwch drwy faip. Oriau mabinaidd, araul a gorffwysol, heb dinc ond tinc mabiaith, heb ddiwy—drwydd ond diwydrwydd segur, mabol a hamddenol. Clo perffaith i wyliau haf.

Medi 19. Rheng o ddyddiau goludog yn dilyn ei gilydd—O Fedi gogoneddus! Minnau'n ymweled â'r ysgolion bob dydd—tua Phenmaenmawr a Chapel Ulo. Beunydd allan drwy'r we fore i'r wlad, i olwg caeau, adlodd a sofl, a miraglau'r Medi campweithiog hwn. Llonyddwch araf a hydrefol ym mhobman: gweithiwr yn codi sgubau neu'n casglu sofl, ffermwr yn llithro gyda'r clawdd â'i wn dan ei fraich, morwyn deg yn hel mwyar duon, mintai o deulu niferus yn cywain meillion gwlithog, ac un o'r "brodyr" ym Mhenmaenmawr yn tocio perth ei ardd. Pellach, trumiau, yn fronnydd ac yn drwynau, yn ysmudol ddyrchafu eu cefnennau'n lluniaidd dros ysgwydd ei gilydd; coed y llethrau'n blaendarddu allan drwy fŵg o niwl, i foddi eu brig yn yr haul bore. Llong neu ddwy'n mud symud ar gulfor gwydr, a chorn neu ddau'n mygu o'r gwaith ar ben y Penmaenmawr. Y gwynfydedig dangnefedd! Paradwys i dde ac i chwith.

Dan fy llaw, y papur—cennad uffern. Kief wedi mynd i ddwylo'r Almaen. Mor bell, mor bell. Ni chymyla ddim ar ffurfafen neb . . . dim. Pawb yn mynd i'w ffordd yn ddigon di-sôn-amdano. Eto,—araf yw cynnydd yr Almaen. Nid rhyfel fflach-guerre-éclair-'mo hwn yn Rwsia iddi hi.

Medi 22. Y godidog degwch yn parhau. Ddoe yn Sul perffaith, gan rin haul y Gŵr biau'r byd, a rhin pregeth y mwynddyn o Borthmadog. Y Llun heddiw yn rhagori ar ei holl ragflaenwyr. O gyfres o ddyddiau gwybrol! O'r tegwch trybelid!

Llond llygaid a mynwes ohono cyn symud cam. Yna, i'w ganol, a thua'r Penmaenmawr. Cefnu arno am ennyd, i wylio dros y bechgyn yn yr ysgolion. Pob un â'i ddosbarth, ei wers, ei hwyl a'i anhwyl. Ciniawa'n dawel a diddig ym Mhlas y Foelas ar de a bara-ymenyn ac wy—wy, ie, wy, yr amheuthun moethus hwnnw, erbyn heddiw. Pryd bach hyfryd, a'm llygaid yn gwledda yr un pryd ar dreflan wasgaredig Dwygyfylchi yn mwy na hanner ymguddio yn y coed; ar y môr yn ymestyn at Graig y Gogarth, ar y tir yn goleddfu i fyny at yr Allt Wen a'r Penmaen Bach; ac ar y ffordd drofaog yn cordeddu i'r lan tua Bwlch Sychnant. Disgyn ar fflach i ganol y cwbl: y pentref mewn cilfach glyd, a rhyw naws bellennig yn hofran drosto'i gyd,—ei hendai gwynion, ei ddau dafarndy distaw, ei goed derw a'i gân gwenyn, yr afon dawel a'i llyfnion feini a'i llu pomprenni. Gwynfyd calon o le bach annwyl, megis un o'r pentrefi wrth draed yr Alpau. Paradwys!—onibai am y giwed Saeson sydd yma ym mhobman . . . hyd yn oed yn "Yr Hen Felin."

Adre erbyn te, a Luned newydd gyrraedd ag esgidiau newydd i bob un o'r plant-a rhai gwynion i'r iengaf. Hwythau'n clochtan drwy'i gilydd, gan ruthro i'w dangos i mi, a Dai'n dangos rhai Owain hefyd,—"rhai gwynion," meddai. Ac ychwanega Mererid: "rhai gwynion. . . iddo fe gael priodi. . . . "Priodi? . . . priodi pwy, Mererid?" Dim ateb, ond Dai'n byrlymu allan . . . "Dai'n priodi Dada. . . "

Hydref

Hydref 4. Bore Sadwrn, a dydd cannaid. Gorffen yn yr ysgolion, ac ail ddechrau yn y Coleg. Cyfarfod â'r myfyrwyr newydd—swil ac ofnus, o Dde a Gogledd, o Lansannan i Ystalyfera. Dim un wedi cael gwers erioed ar Hanes yr Oesoedd Canol, a'r mwyafrif heb wneud Hanes Cymru o gwbl! Gwrhydri Ysgolion Canol Cymru!

Hydref 8. Gwaith y Coleg ar lawn hwyl ers dyddiau. Teirawr y bore heddiw. Llythyr neu ddau: un oddi wrth "B,"—maith, trist, maith. Cwyno am y maglau sydd yn y fyddin, a cheisio dianc i fyd o'i greadigaeth ei hun. Aderyn gwyllt mewn cawell. Druan annwyl!

Y llall oddi wrth "ddyn dieithr a garai ddiolch o galon am 'Ddyddiadur 1940' . . . . Gweinidog ieuanc, dinod. . . yn ceisio gwasanaethu'r Methodistiaid Wesleaidd ar fryniau Maldwyn. . . .Nid siarad drosof fy hun yn unig yr wyf. Cyfarfûm ag aml gyfaill a dystiai iddo gael yr un mwynhad. . . . Ac os byddwch yn dyfod i'r cyffiniau hyn, ni bydd y tŷ hwn yn ddigroeso i un y cefais gymaint o fwynhad o'i lyfr. . . . Yr eiddoch yn ddiolchgar. Gwilym R. Tilsley."

O garedigrwydd! Pwy fuasai'n meddwl am drigain tudalen o lyfr Cymraeg yn ennyn y fath feddyliau serchog a diolchgar? Am bump o'r gloch, cychwyn taith tua Chaergybi, i annerch Ysgol Undydd ar yr Ysgol Sul. Rhyw ddwyawr o dramwyo'n felys drwy Langefni, a chyrraedd Caergybi erbyn saith. Ysgoldy Hyfrydle'n hynod lawn, gan weinidogion yr enwadau, caredigion yr Ysgol Sul, &c. Cynulleidfa eiddgar a gwresog, a'u gwrando yn astudrwydd effro. Mor hawdd yw siarad yma! Awr o lifo allan mewn gwŷn esmwyth. A thrafodaeth wych ar y diwedd. Pam na byddai fy phiol yn llawn? Maddau hyd yn oed eu gweniaith deg am ddarlith odidog," a chanu'n iach i'r saint. Cyrraedd adre tuag un ar ddeg, a Luned yn fy nisgwyl gyda'r swper bach blasusaf erioed!

Hydref 15. Yn y tŷ hyd tua hanner y bore; marcio llyfrau, traethodau, etc. Yn y cyfamser, damwain fechan,—y forwyn, wrth olchi'r lloriau, yn dymchwel bwcedaid o ddŵr. Dai'n gyffrous iawn, ac yn gweiddi am ei "gôt macintonsh (!) newydd,"—rhag ofn y dilyw, mae'n debyg.

I'r Coleg, a darlithio tair awr. Dychwelyd adre, ac agor y papurau, y Faner, etc. S.L. yn wir afaelgar. Ers cantoedd ni welodd Cymru'r fath newyddiadura. Newid gwaith: darllen amryw adroddiadau Cyngor Dinas Bangor. Sychion iawn.

Am chwech, tua'r Brifysgol: darlith gan yr Esgob David Mathews ar yr Archesgob John Williams. Gŵr lled fyr ydyw'r Esgob, rhwydd-dew a bywiog; wyneb annwyl, a gwên gyfrwysgall yn gwawrio drosto'n aml; llais tyner, swynol. Gogoniant y ddarlith, ei chywair. Fel yn ei lyfrau, campwr ar greu awyrgylch. Hanesydd o'r iawn ryw, wedi ei lwyr drwytho yn ysbryd ei gyfnod. Hyfrydwch pur, gweled meistr celfydd wrth ei waith.

Wedi iddo orffen, ei ffaglu hi i lawr i Gyngor y Ddinas. Dadlau yn erbyn gwerthu'r tir gorau sydd ar ganol y dref i'r Llywodraeth. Llwyddo—am ennyd, er cryfed yw apêl y geiniog. Bodlon iawn; a dringo'n ôl tua'r Ffriddoedd, ac i'm haelwyd wresog.

Hydref 22. Bore oerdeg, iach. Llythyrau: un oddi wrth hen fyfyriwr, a'n gadawodd yr haf diwethaf. Yn y fyddin bellach, Cymro da o Ddinorwig, yn awr yn Lowestoft. Teimla'n unig, unig, ac yn awyddus i ysgrifennu at rywun sy'n dal i "fyw y bywyd yr amddifadwyd fi ohono."

Anobeithiol iawn i mi ar y cychwyn. Yna daeth gwaredigaeth, yn ffurf cannwyll, a llyfrau a phapur-cannwyll, i oleuo'r babell fin nos, llyfrau i ddwyn Cymru a'i llên ger fy mron, a phapur i ohebu â chyfeillion am adeiladu Cymru wedi'r rhyfel. . . . Nid yw'r hen ryfel yma a'i holl lanast ond bychan o'i gymharu â'r gwaith sydd gennym i ddyfod. . .codi ymaith greithiau'r heldrin oddi ar wyneb Cymru.

Daw hiraeth arno, llethol hiraeth . . hyd yn oed am y Coleg a'r dosbarthiadau, ie, am y darlithiau ar Lyfr Job a goludoedd yr Epistolau." Gorffen drwy ofyn am gyngor, "sut y gallaf lenydda orau."

Hyn gyda chofion cynnes, John H. Morris."

Cyngor? Pa gyngor sydd? Eto, rhoddaf gyngor iddo,—i? . . . i gadw Dyddlyfr . . . i ddanfon ambell ysgrif i'r papurau Cymraeg, ac i "Heddiw." A oes gyngor arall? Dalied i feddwl a meddwl " am adeiladu Cymru wedi'r rhyfel."

Hydref 24. Dwy awr o Goleg, dwy awr o ysgrifennu'r "Newyddion" . . . i . . . ? "Newyddion" Cymru yw'r rheini. Y newyddion eraill yn chwyrnias enbyd: bod yr Almaenwyr o fewn 35 milltir i Foscow; ac yn Llydaw, eu bod yn bwriadu llofruddio hanner can gŵr yn dâl am yr un Almaenwr a laddwyd yno! Can llygad am ddau. Aruthr gynnydd oddi ar ddyddiau'r Hen Oruchwyliaeth!

Wedi cinio, Luned yn fy atgoffa mai Diwrnod Ffair y Borth ydyw. Amau braidd, gan na welais na march na meriyn ar y ffordd i'r Coleg. Digon gwir, er hynny. Canys, ar ganol fy narllen yn nhawelwch yr ardd, clywaf. . . clywaf, yn wir i wala, weryrad march oddi ar ffordd y Borth. Naid calon, pen a llygad am y cyntaf. Dim ond atgofus lef ffair a ffald, "atgof atgof gynt." Ennyd o bêr adfer y gorffennol; ac ennyd o synhwyro fy awyrgylch wedyn, a sylweddoli bod cryn brysurdeb yn yr awyr . . . gan y planiau. Amddiffyn y Ffair, yn ddiau; rhag ofn i'r Arglwydd Ho Ho weithredu'i fygythiad flwyddyn yn ôl!

Am saith, i'm Dosbarth Hanes Wythnosol, Dosbarth Sesiwn y Brifysgol, yng Ngholeg Bala-Bangor. Astudrwydd mawr, a minnau'n traethu'n fras ar Ruffydd Jones, Llanddowror. Cyn gorffen, clywed dadwrdd trwm unwaith neu ddwy, trwmdwmp, tamp, twmp, twrwp . . . twp! Pawb wedi eu siglo i'w craidd, a'u calon yn eu dwrn. Eto, dal i roddi rhan o'u sylw i'r dosbarth. Dilyn y drafodaeth, gan lanw a threio, ac yn y trai, cofio'r dadwrdd.

Och! y Sgrech yn dyrchafu ei hudo dolefus, ac yn ei dreiddio i'r dosbarth. Heb air o enau, heb syflyd gwefus, cyfyd y merched, megis gan raid tywyll, anorfod, ac ânt allan. Y mae'n chwarter i naw. Arhoswn ni'r dynion hyd ben yr awr. Allan â ninnau. Wrth y drws, ffluwch o fflachiad, yn llenwi'r awyr ag anferth oleuni coch, porffor, coch-ddu. Drwyddo, chwa o ergyd yn trywanu . . . trr-wp, tr-rr-p, gan grynu seiliau'r Ddinas. Ennyd, a thywyllwch, a thawelwch.

"Beth allai fod?" medd un.

"Bom o'r awyr. . .?. . neu'r gynnau o Benmaenmawr?"

"Ie, gynnau Penmaenmawr .. os nad oedd yn nes?" . . . gan edrych i lawr i waelod Bangor, a thros Faes Geirchen.

Gwedi elwch, tawelwch, a'r nos eilwaith yn cau ei düwch amdanom. Gwasgar mewn amheuaeth ac anwybod, a phob un tua'i dŷ ei hun. Minnau'n cyrraedd at fy eiddo . . .

Llygaid cochion gan Lowri, a Sis y forwyn; a Luned newydd gyrraedd o'r dosbarth i'w cysuro. Gweddill y teulu'n cysgu'n braf. Pytiau o eiriau cyfarch . .

"Welsoch chi . . . ? Glywsoch chi? . . . Oeddech chi wedi cyrraedd? . . . Beth oedd e? Bom? . . . Ie, bom. Bom! 'gewch chi weld! . . . Ym mhle? . . . Na: nes lawer na Phenmaenmawr. Llawer yn nes. . . . Nid mor bell o Fangor, gewch chi weld."

Caf: mi gaf weld, neu glywed . . . y bore, yn y Coleg.

Hydref 25. Bore Sadwrn, Pentwr o lythyrau. Dim amser i'w hagor 'nawr. I'r Coleg erbyn chwarter i naw. Dwy ddarlith. Wedyn clywaf. Clywaf . . . mai un o faestrefi Bangor ei hun a'i cafodd hi. Maes Geirchen. Yn ddrwg? Yn ysgafn? Ansicr . . . ond si am ladd tri neu bedwar, anafu mwy, a dinistrio llawer o'r tai. Gwae! Tro Bangor a ddaeth. Yn ôl tua thre, a'r newydd drwg gyda mi. Na: wedi cyrraedd o'm blaen, gyda dyn y llaeth, a hwn a'r llall. Nid oes newydd arall. A gwraig y drws nesaf wedi bod yn adrodd am yr ofn a ddaeth drosti hi—ofn, braw, dychryn, llefain, ysgrechain . . .

Araf ymleddfu, a chydio yn y llythyrau. Dau o'r mwyaf diddorol. Un oddi wrth hen athro imi, prifathro Ysgol Sir Tregaron, yn clymu geiriau teg iawn am Y Baradwys Bell.

A'r llall? O'r llall rhyfeddol a goludog hwn! Oddi wrth Gymraes na wn i ddim ond ei henw, na dim o'i henw hyd heddiw. I lawr ag ef yn ei grynswth:—

Riffli,
Ger Abersoch, Sir Gaernarvon

Hydref 23ain, 1941.

Annwyl Mr. Bebb,

A fedrwch ddychmygu gwraig fferm heb na morwyn na "Hoover" i'w helpu, yn eistedd i lawr ar ôl anfon y plant i'r ysgol, heb symud na phlât na chwpan oddi ar y bwrdd brecwast, heb gymaint â rhoi glo ar y tân na dwr yn y tegell, yn ddigydwybod sbio ar ddau gyw iar hyfach na'u brodyr, wedi mentro i mewn i'r gegin i chwilio am damaid, yn codi ei llygaid ambell dro tua'r ffenestr, rhag ofn i'r gwr ddod tua'r tŷ yn ddiarwybod, ac yn barod i stwffio—beth?—Dyddiadur 1940—o dan glustog y setl?

Dyna ddigwyddodd y bore yma. Prynais bump o lyfrau'r Dryw ym Mhwllheli ddoe, ac wfft i'r gwaith nes imi eu darllen. Cinio ffwrdd â hi heddiw i'r gwas a'r mistar: pwy bia'r bai, chi ynte fi?

Diolch yn fawr; Gwladys Williams.

Hwyrach.

Y cinio yn plesio'r gwas i'r dim, am fod yn hawddach hel tatws ar ôl pryd ysgafn, yn cynnwys cwpaned o de. Dowch a Luned a'r plant i roi tro yma yn y Gwanwyn,—man hyfryd yn ymyl y môr, a diolch fyth, yn ddigon pell o bentref snobyddol, di-enaid . . .

G.W.

Gem o lythyr, onidê? Ai Gymraeg mor groyw â rhin y galon a'i hysgrifennodd. Llythyr byr, a ddyry well disgrifiad o werin Cymru na miloedd o areithiau doctoraidd. Pam na charwn werin fy ngwlad?—Down, mi ddown, Luned a minnau, i ymweled ag arglwyddes y Riffli. Am y plant, d'wn i ddim. Lle mae'r garafan? Canol y prynhawn, mynd tua Maes Geirchen, fel yr hed brân, dros Fynydd Bangor. Ar y bryn, edrych i lawr ar y dreflan fach,—tai ar chwâl, degau heb do, heb dân, degau'n mygu'n dawel. Iddo. Llawnder o bobl yn synlusgo o gwmpas. I lawr drwy Ffordd y Castell. Ei holl ffenestri'n deilchion, a'i thai isaf yn sgerbydau cefn-noeth. Yno, tyrfa o ddynion yn siarad â'i gilydd dan eu dannedd, eraill mor brysur â lladd nadroedd, yn cludo dodrefni'n llwch allan i'r ffordd, curo hoelion, tynnu llechi rhyddion. . . . Yn is, y twll lle disgynnodd y naill fom; newydd ei gau. Iasol fel bedd. Ar ei gyfer, rhes o dai'n rhidyll o'r llawr i'r llofft, eu trawstiau a'u swmerau'n yfflon, a'u to'n agored. Y tŷ pen ar lithr chwâl. Yn uwch, cerpyn o . . . ? . . . o gôt!

"Welwch chi ddarn o gôt . . . fancw . . . ar ben . . . y tŷ 'na . . . ?

"Côt un o'r dynion a laddwyd. Darn o'i gôt, 'na'i gyd! wedi ei chwythu'n ulw, ulw, ulw mân . . . oddi wrth ei gilydd. . . yma a thraw. Newydd gael 'i fraich mewn gardd . . .draw 'na. Pwy? . . . Un o bobol y Bi Bi Ec . . . yn dod adre yn ei gerbyd; mae'n debyg iddyn' nhw weld i ole 'fo, a thaflu bom . . . Disgynnodd yn lled agos iddo, . . . chwythu ei gar ac yntau. A'r tŷ 'na! . . . ar lawr, 'welwch. Gwraig fach ynddo fo, a phlentyn pum niwrnod oed ganddi, y ddau'n achub. Ond ei mam, a redodd amdani, yn cael ei lladd! A'r dyn o'dd newydd droi allan fel Warden. . . Heblaw'r rhai a anafwyd . . . 'ŵyr neb faint. . . . Alle fod yn waeth . . . "

O'r chwedl drist! A phawb yn ei hadrodd, a phob clust yn clywed rhyw gymal ohoni, i dde a chwith, gan un a dau a dwsin. Ymsymud dros ddarnau o'r chwalfa, a'r ymgasglu cynebryngol ym mhob cyfeiriad. Merched yn cymell ei gilydd i ddyfod i'w tai hwy ym Mangor. Derbyn a gwrthod, bob yn ail â sychu dagrau, a gwahodd yr edrychwyr i'r tai. "Dewch i chi gael gweld," medd un. Camu dan y drws, o garnedd i garnedd: y ffenestri'n gareion, y muriau'n graciau, y dodrefn yn bentwr rhyddion dan lwch a gwydr, y gwelyau'n garfan o dorion, y cloc mawr, ar ei led orwedd, wedi tewi â'i dician. Y gŵr a'r wraig yn cadw gwên ar eu hwynebau, a dwyffrwd o eiriau ar eu tafodau:—

" . . . roeddem ni newydd fynd dan y grisiau . . ac yno y buom ni, a'r tŷ'n crynu amdanom ni . . . a'r gwydr yn syrthio'n deilchion . . . . Oni bai. . . Duw a ŵyr . . . lle i ddiolch . . . oes . . . ond 'allem ni ddim meddwl mynd i'r gwely wedyn . . . Diolch i chi am ddod i mewn . . . gair bach o gysur yn help."

Allan, ac i ben arall y dreflan. Yr un gân. . . .

Sobr o le bach trist, lle'r oedd ddoe bentref mor glyd â'r un, yn anadlu ac yn mygu'n dawel yn ymyl coedwig yn araf felynu yn ias yr Hydref.

Hydref 29. Codi, a gwneud peth gwaith cyn bwyta. Dyrchafu fy llygaid tua'r mynyddoedd: haenan wen o eira drostynt oll, y gyntaf wedi diflannu'r danfa olaf ym Mehefin.

Tair darlith. Difyr a diddan.

Min nos, tua'r Gerlan, i ddarlithio eto. Gadael Bangor toc wedi chwech, a'r dydd yn britho'n gyflym. Y "Bws Glas " yn llawn o Gymry naturiol, agos ac annwyl, yn siarad bant â hi, drwy'i gilydd, fel hen gyfeillion. Yr un fath ag yn Ffrainc a Llydaw,—o felys atgof. Ac am "Ffrainc a'i Phobl " y gofynnwyd i mi ddarlithio hefyd,—cawod o atgofion yn paratoi'r ffordd yn gyfriniol i mi. Hawdded fydd siarad, bellach! Disgyn, a dringo i dŷ'r Parch. T. Nefyn Williams, a'i weld ar ei aelwyd gyda'i wraig a'i blant. Wrth fy modd! Tua'r Capel, i Ystafell "Y Ford Gron." Llawn: gan wŷr a gwragedd, bechgyn a merched; a thanllwyth o dân yn rhoddi gwrid ar eu hwynebau. Aelwyd arall, yn wir; a "Thom Nefyn" yng nghanol ei bobl, yn ben ac yn bont, a'i ddynoliaeth annwyl yn tasgu hyfrydwch a diddigrwydd o'i ddeutu. Beth na roddwn i am gael gweld "Cymdeithas " mor fyw, mor wresog, ym Mangor? Os mynni deimlo diwylliant, ffo o'r Dinasoedd! Dos i'r wlad, dringa i'r mynyddoedd! Dos. . . dringa . . . Esmwythed yw darlithio i galon a deall plant y bryniau! Yna, dychwelyd i dŷ T.N.W. am felysbryd tawel. Cloi'r noson rywiog gan gampus o deithio adre,—y Bws Glas yn dywyll, dywyll, y wlad oer yn wen a golau, a lloer gannaid yn cerdded ei llewych drosti. Mor debyg i'r noson olaf y teithiais yn y trên o Vannes i Baris, yr oriau olaf cyn y Rhyfel!

Tachwedd

Tachwedd 11. Pedair darlith y bore. Difyr, a hanner awr o gerdded rhwng y ddwy gyntaf a'r ddwy olaf. Darlith arall yn yr hwyr. Diwrnod sbriwus, a darllen drwy'r llythyrau yn newid gwaith o'r iawn ryw. Amryw ohonynt, ac un neu ddau er cyn heddiw. I gyd oddi wrth gyfeillion anweledig, anadnabyddus. Un di-enw, "waeth pwy," chwedl yntau yn diolch am Y Baradwys Bell, ac yn awgrymu i mi drin 1710 neu 1750; "ac wrth gwrs, yn edrych ymlaen am 1941. "Diolch o galon iddo, "waeth pwy" ydyw. Yna, merch,—Myra Davies, o ganol Lloegr, yn canmol y Dyddlyfr Pythefnos a Dyddiadur 1940. Yr oedd hi ym Mharis, meddai, yr un amser â minnau, ac yn "cofio am y "gawod wyllt o law taranau. Oherwydd iddo gynhyrfu ynof y teimladau dwysaf, bu raid imi roi heibio'r Dyddlyfr fwy nag unwaith . . . Diolch. . —Y nesaf, gŵr a adawodd "yr ysgol elfennol ryw 30 mlynedd yn ôl," S. T. Edwards o Wrecsam. Ei ddiolch ef yn estyn dros Fachlud y Mynachlogydd, Dyddiadur 1940 a'r Baradwys Bell, ac yn sôn am "fanteisio ar y cyfle cyntaf i bwrcasu eraill o'ch llyfrau". . . Mawr dda iddo!

Wedyn, un arall o'm hen fyfyrwyr, sydd yn y fyddin, yn credu "ei bod yn ddyletswydd arnaf eich llongyfarch am ddau lyfr . . . , y Baradwys Bell a'r Pererindodau . . . Cefais flas a chysur wrth eu darllen . . . yn enwedig gan fy mod yng nghanol Saeson . . . sy'n meddwl nad oes neb bron yn gallu siarad Cymraeg a mod i'n dod o anial o le, heb unrhyw gysylltiad a'r byd. Mae'n hen bryd i'r syniad yna ddod o'u pennau . . . . Ni feddyliais gymaint o Gymru erioed o'r blaen." A rhaid " i'r twymgalon hwn" ddiolch i chwi hefyd am y gwersi difyr a gawsom. Er fy mod yn eistedd yn dawel yn y gornel, yr oeddwn yn eu mwynhau yn fawr. . . Thomas Henry."

Y Tom gwylaidd, brysied yn ôl.

Yn olaf, llythyr tra gwahanol. Di-enw, a'i bostio ym Mhenygroes. Yn lle'r cyfeiriad, hyn:—" Pererindodau." Atolwg, beth sydd? Dim ond hyn, i rywun ofyn iddo "a fuaswn yn licio darllen eich llyfr." Yntau'n gwneud. . . yn amheus . . . am mai llyfr ar Lydaw ydoedd . . . ac yn ofni na chawn fawr o hwyl arno." "Wedi edrych dros y Rhagair . . . bu rhaid cario ymlaen. Gwyddwn eich bod yn un o bobl bwysig y Blaid, ac yn gyfaill y gŵr diwylliedig, Mr. Saunders Lewis, y Quisling Babyddol (sic) a weddia yn daer am droedigaeth ei gyd genedl yn ol at babyddiaeth.

Wel, fe wyr y Llydawiaid pabyddol erbyn hyn eu bod yn fwy moesol na'r Cymry Efengylaidd, cysetlyd hefyd.

Gwelodd mab i mi lawer o'r offeiriaid dra chrefyddol yma—(a chwitha yn disgwyl iddynt wylltio a gwrido wrth i chi ei holi, (sic) simpleton)-yn Ynys Malta yn y rhyfel 1914/18, dywedodd mai dynion tewion, bler oeddynt yn byw yn fras ar ddiniweid—rwydd y brodorion ag un ohonynt ar gyfer pob 10 o'r ynyswyr, a bod yn bosibl ei (sic) harogli o bell, ond i chwi, Mr. Cynffonwr, goleuni y byd ydynt i'r Llydawyr. . .

Anodd genych ddychmygu am Paris heb y Notre Dame, ar un mor anodd i filoedd feddwl am Paris heb y tai "Red Lamp," ond cofiwch bod a wnelo y Babaeth a sefydlu y naill le fel y llall, mae gwledydd Pabyddol yn trwyddedu Puteindra."

Paragraff arall ar fy nisgrifiad o Eglwys Quimper, a'm "cyfareddu" ganddi: "ond dyna sy'n rhyfedd bod miloedd a miliynau o bobl erioed llawn cyn galled a chwithau wedi bod yno, a gweld dim ond rhwysg a gloddest paganaidd pabyddol. . . .'Beibl y tlodion,' ai e, Mr. Protestant. Ofnaf fod y Tad Mc Grath ai griw wedi eich blyffio yn iawn pan oeddynt yn eich goglais chwi ag eraill wrth ddysgu yr Iaith Gymraeg mor selog tua Bangor yna. Cofiwch mae gofyn tipyn o asgwrn cefn i fod yn Brotestant, medr pob hurtyn fod yn Babydd. . . Mae y frawddeg olaf tudalen 107 yn profi yn bendant nad ydych Athraw na Chynghorwr diogel-darllenais ymlaen i'r diwedd gyda thipyn o ymdrech.

Fe fydd enw Syr O. M. Edwards yn fyw yng Nghymru pan y bydd enwau fel Bebb, Daniels a Lewis wedi ei (sic) llwyr anghofio."

Dyna! Melys, moes mwy . . . ? Pedair tudalen: dyfynnais fwy na thraean. Y pigion efallai,—pigion mewn dau ystyr. Perl o lythyr bach pigog, anynad. Perl mewn adfyd! O'r hen ŵr mwyn, pam na roddaist dy enw wrth waith dy law? . . . yn enwedig gan i ti sôn am y "tipyn asgwrn cefn sydd yn eisiau ar Brotestant?" Meddwl am dy golled, yn amddifadu'r byd o enw un arall o'r arwyr mawr . . . o BEN Y GROES!

Tachwedd 16. Bore Sul, broc a budr. Tua'r capel. Siomi—am nad oedd y gŵr a gyhoeddwyd yno. Di-siomi, am fod gŵr na ddisgwyliwn yn ei le,—y Prifathro J. M. Jones, Bangor, yr anwylaf o holl Brifathrawon Cymru. Brithlwyd o bryd a gwedd, sioncyn ystwyth, yn llawn asbri bachgennaidd. Fy ffodused,—cael gwrando arno, a chael gwledd annisgwyl i glust a llygad. Gweddïa . . . am i Dduw faddau inni ein pryder a'n balchter, am iddo gofio bechgyn a merched pob gwlad, am . . . ; a gwres yn cerdded trwy'r llais llwyd. Pregetha . . . ar Farc iii, 14-15: Crist yn dewis y disgyblion. Y pwnc yw: ffordd Crist o weithio. Nid Ei ddelfrydau, ond Ei ffordd, Ei ddull, Ei foddion. Sef, ymddiried mewn ychydig, cymdeithas bersonol ag ychydig, o berson i berson, o galon i galon. Nid y lluoedd, nid y gyfundrefn fawr. Hyn, a'r profion a'r enghreifftiau, oedd y bregeth. Nid pregeth ychwaith, ond llefaru rhwydd, siarad byrlymus; ymryddhau o feddyliau'r galon, a'u hebrwng i ben eu taith gyda mynych bwyslais llef ac ystum. Taclusrwydd meddwl, croyw, gloyw.

Wedi cinio, i'r Ysgol Sul. Dosbarth o ddau ddwsin, fel arfer; myfyrwyr disiomedig, yn llawn i'r fyl o chwilio meddyliau, a'u chwalu.

Drachefn i wrando ar J.M.J. Testun: Marc eto-nodweddiadol?—Marc 2, xxvii, Y Sabath a wnaethpwyd er mwyn dyn . . ." Cyn nodi'r testun, gair o gŵyn mai un o arwyddion dirywiol y dyddiau hyn ydoedd "dibrisio dyn," "colli parch i ddyn." Yna yn dilyn y testun, a sylwi ar newydd-deb y genadwri sydd ynddo. Un o'r mwyaf chwyldroadol a gwreiddiol o holl eiriau Crist. Dyna gywair y bregeth—parch Crist i ddyn, i'r dynion cyffredin o'i ddeutu, y claf o'r parlys. "Y dyn bach, dinod," Dehongli, egluro, enghreifftio, darbwyllo, pwysleisio . o gam i gam, a'ch ennill i'r pen. Grymus o bregeth ddwys-bigog, a sel santaidd yn ei chyniwair yn eirias drwodd. Mwynhad cwbl i feddwl a chalon. Ar fy llw, un o bregethwyr mawr Cymru.

Rhagfyr

Rhagfyr 7. Sul, a'r diwytaf ers tro. Codi am chwech, a dal trên toc wedi saith. Am y Rhyl, o bob man! Rhad ar y Rhyl! Eithr nid un yw'r Rhyl, ond lleng. Ac y mae rhagor rhwng neges a neges yno, rhwng perwyl a pherwyl. Heb sôn am gyfaill i'ch derbyn, y ffyddlonaf" M.J." Bydd: mi fydd yn fy nerbyn. Teithiaf yn dawel drwy'r bore anwydog, a'i gawodydd trystiog o gesair syberbur. Trên tywyll, a phob rhan ohono'n gell unig. Disgyn i olau oer rhyw leuad newydd gilio a haul heb ymddangos. Gwynt y Rhyl yn ysgyrnygu ei ddannedd ar un a feiddiodd ddweud yn fach am y lle. Wb! Ond dyma M.J., ac ymddiflannu i mewn i'w gerbyd. Tanllwyth o dân, cwpanaid o de. O'r tân! o'r te! Yn nesaf, i Gapel Heol Clwyd a cheisio siarad fy ngorau ar yr Ysgol Sul. Yna hwylio i'r tŷ. Nage! cerbyd "M.J." yn pwdu'n lân, ac yn pallu symud cam. A dyna'r gweinidog rhadlon i'r adwy, gan ein cludo i dŷ "M.J." am ginio, ac yna am y trên.

Cyrraedd Bangor ryw fân funudau cyn dau, a bras-neidio i fyny tua'r tŷ. Wedi dyfod i'w olwg, Dai bach yn clecian ei fân gamau fel y gwynt i'm cyfarfod, a'i gudynnau melyn yn cwafrio yn yr awel. Ei bêr lais yn galw," Dada! . . . Da . . . da!" Llwnc o de poeth, ac i'r Ysgol Sul ar garlam, at fy nosbarth nwyfus a niferus. Dyfod â phedair ohonynt i de, a throi'n ôl i'r cyfarfod hwyr. Wedi'r gwasanaeth dechreuol gan y gweinidog, esgyn i'r pulpud, a threulio tri chwarter awr o fyrlymu clod yr Ysgol Sul, o bentyrru anair ar ei "charedigion" meirw a'i gelynion agored, ac o apelio'n danbaid am aberth ac ymdrech newydd yn ei phlaid;—tri chwarter awr o dywallt enaid, meddwl, ystum, llais, ar ran un o Sefydliadau pwysicaf Cymru. O na ddeffroid y genedl gyfan o blaid yr unig ysgol Gymraeg a gynhyrchwyd gennym ni! . . .

Rhagfyr 8. Darlithio'r bore: gwersi yn Ysgol Glanadda yn y prynhawn. Yr hwyr, "dyletswydd " yn y Coleg.

Am naw, gwrando'r newyddion: am ymosod o Siapan ar yr Unol Daleithiau, am Loegr a'i morynion yn cyhoeddi rhyfel ar Siapan. Siapan y gelyn newydd, y Widdon felenddu, ddyfeisgar! Pwy a'i dug hi allan o'i pharadwys dawel a boddog ei hun? a'i gorfododd â grym arfau i dderbyn "gwareiddiad" y Gorllewin a'i werthoedd materol? Onid yr Unol Daleithiau? Onid Lloegr? Chwi a heuasoch yr hadau, a dyma fedi'r cynhaeaf! Hadau gwaed—cynhaeaf gwaed ar waed,—ar waed. Rhyfel byd cyfan! A'n gwaredo? A'n gwaredo!

Rhagfyr 15. Yr arholiadau wedi dechrau ers dyddiau. Y bore heddiw, arolygu hyd hanner dydd. Marcio fel lladd nadroedd hyd amser te. Yna, i'r Pwyllgor Iechyd, am awr a hanner go ddiwyd. Dringo'n frysiog wedyn i Gyfarfod Plant y Capel. Wedi dechrau, a'r lle'n llawer llawnach nag arfer. Pawb o'm teulu i yma, ond Owain. Dai'n fy ngweled ac yn galw. I'm breichiau; ac eistedd ein dau yn ymyl Huw Elis Jones annwyl, | sy'n fawr ei foethau i Dai bob amser. Gwrando . . . ar ganu, adrodd, canu, adrodd. . . Disgwyl . . . am " Ddrama'r Geni " o waith Luned; disgwyl . . . am ymddangosiad y cymeriadau, o'r tu hwnt i'r llen, . . . yn enwedig gan fod Lowri, Hywel a Mererid yn eu plith.

Dyfod . . . Lowri fel Mair; gwyn a syber, a'i llafar yn groyw bur. Yn nesaf, y Bugeiliaid, Hywel, Mererid, Goronwy: cymen, gweddus, a'u lleisiau plant yn tincian fel mân glychau. Gwir wyrthiol wrth yr hyn oeddynt ar yr aelwyd neithiwr. Yr un modd y lleill. Tlws odiaeth, a gwir ryfeddod i'r gynull—eidfa. . . . Ei ffaglu hi yna am y Coleg, i orffen fy nydd—gwaith yno. A'r olygfa ar yr actorion bach yn fy nilyn hyd fy ngwely!

Rhagfyr 20. Ha! wŷr, frodyr, Gwyliau! Y Gwyliau! Gan bwyll bach, erys y marcio. Ers dyddiau, dyma'm gwaith, o fore hyd nos. Heddiw y gwelaf y diwedd arno.

Dwylo rhyddion yna! Mân ffodotian o gwmpas ysgrifennu "Newyddion" a mynd â hwy i'r argraffydd. Y dref yn llawn, a phob cwr ohoni ar gerdded. Pobl yn llusgo drwy'i gilydd a'u hesgyll yn llydain gan feichiau yn eu dwylo, dan eu ceseiliau . . . ac yn nwylo eu plant. Di-ddiwedd dreiglo trymlwythog, ac amhosibl i'r main â mi nofio trwyddynt. Trafferthus o gerdded. Gorfoleddus yr un pryd. Y mae Ysbryd yn y tir, ysbryd llawenydd yng nghanol gorthrymder meddwl—YSBRYD Y NADOLIG!

Rhagfyr 23. Yr ysbryd yn holl bresennol o fore hyd nos,—yn y bore gan gnocio llawer trymach nag arfer y cludydd llythyrau; yn sŵn y plant sy'n stablan i mewn ac allan o fore hyd nos; yn ymlusgiad pobloedd i fyny o'r dref i Faes Tryfan â'u breichiau'n llawn; yn y llythyrau a'r cardiau a'r pecynnau sy'n cyrraedd amryw weithiau yn y dydd—er bod un o'r pecynnau mwyaf wedi colli ei ffordd! . . . yn ymgais y plant i chwilio am gelyn, heb weld dim ond " y cymylau'n cwrdd â'r ddaear," . . . ie., yng nghrediniaeth Sis, y forwyn, nad yw'r dyddiau byrion hyn ddim yn llai na hirddydd haf! Ac yn fy nioglyd ddarllen innau ar bapurau a llyfrau ysgeifn:—Straeon y Pentan, Y Dreflan, Lona, Hunangofiant Tomi, a rhyw nofel Americanaidd—The Trees. Tra diddorol.

Gyda'r dechreunos, Luned a Sis yn addurno'r tŷ, a gosod y Goeden Nadolig i fyny, a'r plant yn rhwyfus neidio o gwmpas, prancio, ymnyddu trwy'i gilydd. Gwisgo'r addurniadau am eu pennau, ac ymramantu:—

Lowri: Fi yw Brenhines y Tylwyth Teg.

Mererid: 'Na, fi ydy' o! Lowri: 'Ydy o, wir!

Mererid: 'Ydy' hi, 'te! Fi ydy' hi.

Dai: Na fi ydy' hi!

Yn hwyrach, dyfod yn gylch am y tân i ganu. Dai ar fy nglin i, ac yn rhyw ymuno â'r gân bob yn ail â chwarae dau fys yn ei gudynnau aur, arwydd sicr bod y Meistr Cwsg yn dawnsio am ei lygaid. Cyd-ganu:—

"Pwy sy'n dwad dros y bryn? . . .
"Mae'r saith ryfeddod yn dy sach . . ., etc.

Carol neu ddwy:—

"Mae'r bugeiliaid wedi cychwyn
"Iesu yn y preseb . . ." (cyf. gan Luned).

Gorffen gyda "stori fawr,"—hanes Siôn Corn yn cychwyn o wlad yr Eira, a'i wraig yn ei helpu i wisgo amdano; mynd i'w slêd, neu gar-llusg (y plant yn taeru na fedr ddyfod mewn llong awyr, rhag ofn i "Heclar" (chwedl Dai) ei saethu ar y ffordd!) . . .ac yn y blaen i bob tŷ o bwys (h.y., i'r plant) ym Mangor.

Rhagfyr 25. Brenin y Dyddiau—Dydd Nadolig!

Oriau cyn ei ddyfod, ar gefn nos dywyll, Hywel yn fy neffro, ac yn holi:—"Dada, ga' i fynd i weld be ma' Siôn Corn wedi ddod?"

"Ganol nos? . . . bachgen! Cysga!"

Cysgu'n ôl . . . am hir. Yr un cais wedyn! "Rhy fore, 'ngwas i!" Yn nesaf, Lowri'n cyniwair yr holl le, â'r un cais:

"Faint o'r gloch yw hi?" "Saith."

"O'r gorau 'te."

Bant â nhw, i lawr dros y grisiau, a thrwy ddrws y gegin, ac am y peiriau sanau. Ennyd o ddarganfod am y distawaf. Wedyn, y torri allan a'r gorohian,—o'r hynaf i'r lleiaf, ar draws ei gilydd:—

Lowri: "O! Nedw! . . . Nedw!"

Mererid: "Llyfr i finne,—Dail Difyr! . . . a Siocled! . . .

Hywel "Castell i fi . . . welwch. Castell iawn!"

Dai: "Wagen i Dai; wagen, a da-da ynddi, a... Blith draphlith—"O! siocled i minne, Da-da

Eu darbwyllo o'r diwedd i ddychwelyd i'w gwelyau, bob un â rhywbeth at ei ddant, a llond ceg o gnoi, grymial, crensian, ymlefaru. Pa obaith am gysgu bellach? Codi. Bore penddu, tywyll, ond hynod dyner. Tawelwch mawr, dwfn oddi allan; prysurdeb trystiog, oddi mewn . . . ie, cecrus a sgrechgar yn aml. Y plant ar eu gogoneddus waethaf.

Darllenaf . . . y drydedd bennod o Luc, o barch i awdur holl ysgafnder ysbryd y Nadolig, a Marie Chapdelaine, oherwydd ei hoffi pan ddarllenais ef gyntaf amryw flynyddoedd yn ôl.

Allan o sŵn y plant. Y mynyddoedd yn ddu gan niwloedd yn crafangu fel nadroedd cantroed. Pigo dafn neu ddau, a dod yn gawod law. Am dro bach. Mor dawel, mor llonydd, mor heddychol . . . oni bai am. . . ffenestri tai, a'r hen eiriau hyn arnynt—"Stirrup Pump in This House" . . . ie, ac am "gell gysgodi" yma a thraw. Dihangfa nid oes! Dim ond gwallgofrwydd dynion yn crechwen am ben geni Tywysog Heddwch. Lladdant, ym-laddant . . . dan anghofio eu cyff; dinistriant yr Harddwch a wnaeth eu dwylo mewn dyddiau doethach. Yn fy ôl i drwst y plant! Ciniawa'n llafar, a gwasgaru hyd amser te. Blino, a gweiddi am gân, am garol, am stori. I'w crysau nos â nhw, ac ystwytho'u cnawd gwyn tua'r gwely, gan glochtan eu nos da" hyd at y gobennydd. Tawelwch fel y bedd wedyn, a Luned a minnau'n darllen, hi y Marie Chapdelaine a orffennais, a minnau Les Hommes de la Route. Diwedd da i'r dydd a'i goroni wedyn â chip neu ddau ar Lythyrau'r Felin—O! Lythyrau'r Felin!

Rhagfyr 28. Bore Sul, bore oer, gan wynned y mynyddoedd. Tua'r capel. Y Parch. Cwyfan Hughes, Amlwch, yn pregethu. Ar Fathew, 3, 11—"Bedyddio â thân." Graenus a glân, os yn syml. Dyfynna hefyd o Forgan Llwyd. Onid dieithr hynny! Pwy o'n pregethwyr sy'n darllen Morgan Llwyd? Pwy, yn wir? A gymerwch chwi gyngor? Darllenwch Forgan Llwyd. Gair i gall!

Am chwech, i Gapel Pen Rhiw, Porthaethwy. I beth? I bregethu! Myfi? Myfi. Paham? O! nid am fy mod yn dduwiol. Ond oherwydd eich bod chwi'n gwrthod gwneud, chwi sydd gennych drwydded pregethu, chwi, bregethwyr, am nad oes dim . . . tâl! Nid y tro cyntaf imi fod yma, eleni hyd yn oed. Ni soniwn amdano oni bai am . . . cewch weld yn y man. Ar fy ffordd i mewn, tybio imi weld rhywun a adwaenwn yn dda. Tybio . . . ac eto, pa fodd? Mynd drwy'r gwasanaeth orau y medrwn, a'r bregeth yn burion. Ond yn y cefn, o hyd yr wyneb, a'r dyb, a'r syndod. Gwrando adnodau'r plant, a dyna'r diwedd. Rhywun yn oedi, oedi. Ie: rhaid mai ef ydyw, ef . . . Gwilym Owen, hen fyfyriwr, erlidiedig o Sir Fôn oherwydd ei gydwybod. Ato! "Wedi clywed eich bod chi'n pregethu yma."

"Ond o ble daethoch chi?" . . . "Yma'r wy' i rwan!"

"Yn dysgu yn yr Ysgol? . . . "

"Nage . . . yn siop . . . !"

Y siom, a'r ing! Gwrandewch, chwi Bwyllgor Addysg Sir Fôn. Unig fab mam weddw, a "ryddhawyd" gennych chwi o'ch gwasanaeth oherwydd ei gydwybod, a alltudiwyd—yr unig un-gennych chwi. Cerdded heolydd Lerpwl am waith, yn glaf yno am fisoedd, yn dychwelyd gartref, yn cael gwaith gan gigydd yn . . . ac yn olaf, mewn siop yn y Borth! O erlidwyr! O ynfydion! O ormeswyr mab y wraig weddw!

'Rhagfyr 31. Y ddeilen olaf o'r Flwyddyn 1941. Fel doe ydyw pan wynebais gyntaf arnat, pan gyferchais di. Doe a diwedd! Du dy ddechrau, a du dy ddiwedd. Du—o ewyllys dynion. Daethost-dos! Dos, a'r du gennyt. Wyneb yn wyneb y cyfarchodd Luned a minnau "Flwyddyn Newydd Dda" i'n gilydd ar dy drothwy. Wyneb yn wyneb, a'th gefn atom, y diolchwn am weled yr olaf ohonot. Wyneb yn wyneb y cyfarchwn well i'th chwaer sy'n dyfod. Daw hithau i'th gysgod di, ac i'th le di. Daw; a'i gofid a'i galar gyda hithau,

Gofid a ddygaist gyda thi, gofid a gwae i gannoedd ar gan—noedd, i genhedloedd ar genhedloedd. Pam y mynnwn innau ddianc rhag fy rhan i o'r gwae cyffredinol, o wae yr holl ddynoliaeth? Gadewaist imi fywyd ac afiaith, bywyd a'i ryfeddol gyfleoedd, bywyd, y tegan brau a'r trysor drud. Gadewaist imi lu o'r pethau sy'n werthfawr yn fy ngolwg, sy'n ymddangos yr unig bethau gwerth eu hanwylo, fel y mae parhad y rhyfel yn sarnu dan draed y naill ddelfryd ar ôl y llall. Dos! Ffo! A gad i'm wylo am a gollais yn ystod dy fywyd di.

Oh! qu'as tu fait, toi que voilà
Pleurant sans cesse?
Dis, qu'as tu fait, toi que voilà
De ta jeunesse?

Beth a wnaethost, dydi, dydi,
Sy'n crïo mor ddiwyd?
D'wed a wnaethost, dydi, dydi,
Â'th dirf ieuenctid?


W. AMBROSE BEBB.

Y mae Mr. Ambrose Bebb yn Gymro ac yn Ewropead. Ysgrifennodd lyfrau ar hanes Cymru fel "Machlud y Mynachlogydd" a "Cyfnod y Tuduriaid" ac hefyd lawer o lyfrau ar Lydaw. Ef a ddehonglodd Lydaw i Gymru. Edmygai Charles Maurass a'r L'Action Francaise, am y credai y gwnai'r mudiad hwnnw gydnabod Llydaw fel cenedl.

Yn Llyfrau'r Dryw cychwynnodd ar fath newydd o lenyddiaeth, sef y Dyddiadur. Llwyddodd Mr. Bebb i fynegi ei ddawn yn y ffurf hon, ei ddawn lenyddol doreithog, diatal a bywiog.

Nodiadau

[golygu]
  1. Nid oes toriad "penawdau misol" yn y llyfr fel y cyhoeddwyd. Maent wedi eu cynnwys yma er mwyn hwyluso'r trawsysgrifio

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.