Dyma Frawd a anwyd inni

Oddi ar Wicidestun

Mae Dyma Frawd a anwyd inni yn emyn gan emynydd anadnabyddus (1776-1805)


Dyma Frawd a anwyd inni
Erbyn c'ledi a phob clwy';
Ffyddlon ydyw, llawn tosturi,
Haeddai gael ei foli'n fwy:
Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
Ffordd i Seion union yw;
Ffynnon loyw, bywyd meirw,
Arch i gadw dyn yw Duw.

Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
Dyoddefodd yno angeu loes,
Nerthodd freichiau ei ddienyddwyr
I'w hoelio'n greulon ar y groes;
Talodd ddyled pechaduriaid,
Anrhydeddodd ddeddf ei Dad,
Cyfiawnder sydd yn hardd-ddysgleirio,
A ninnau'n rhydd trwy'r cymmod rhad.


Ffynhonnell[golygu]

Angelfire