Neidio i'r cynnwys

Dyma iechydwriaeth hyfryd

Oddi ar Wicidestun
Wele wrth y drws yn curo Dyma iechydwriaeth hyfryd

gan William Jones, Y Bala (1764-1822)

Deuwch, hil syrthiedig Adda
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

306[1] Iechydwriaeth Ddigonol.
87. 87. 47.

1 DYMA iechydwriaeth hyfryd
Wedi'i threfnu gan fy Nuw—
Ffordd i gadw dyn colledig,
Balm i wella dynol-ryw:
Dyma ddigon
I un euog fel myfi.

2 Wele foroedd o fendithion!
O am brofi eu nefol flas;
Ni bydd diwedd byth ar lawnder
Iechydwriaeth dwyfol ras:
Dyma ddigon:
Gorfoledda f'enaid mwy.

William Jones, Y Bala (1764-1822)


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 306, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930