Eistedd Mewn Berfa (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Neidio i: llywio, chwilio
Tra’r oeddwn yn rhodio un diwrnod,
A’r haul yn tywynnu mor llon,
Mi ddeuthum ’nol hir bererindod
I bentref ar ochr y fron;
A gwelwn ryw hogyn segurllyd
Yn eistedd mewn berfa fel dyn,
Gan wneud pob ymdrechion a allai
Ar ferfa i yrru ei hun;
Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn
Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.


Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain
Yn gadael ei fwyall neu’i ordd,
I sefyll tu allan i’w weithdy
I siarad â phawb ar y ffordd;
Neu holi am weithdai’r gymdogaeth
A hanes y gweithwyr bob un,
Heb feddwl am weithio ei hunan
Y gwaith sy’n ei weithdy ei hun;
Mae hwnnw’n lled debyg bob amser i ddyn
Sy’n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.


Ceir ambell amaethwr dioglyd
Na welwyd erioed arno frys,
Mae’n well ganddo orwedd pythefnos
Na cholli dyferyn o chwys;
Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf
Tra’r haul yn tywynnu ar fryn,
Ond creda mewn gadael ei feusydd
I ofal y gweision a’r chwyn;
Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy’n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.


Pan welir masnachydd neu siopwr
Yn gadael eu masnach trwy’r dydd,
I ofal prentisiaid a chlercod,
Nid ’chydig y difrod a fydd;
Ond odid na chlywir yn fuan
Am feili yn dod i roi stop,
A’r writ mae’n ei roi i’r perchennog
Sy’n dweyd, “Aeth yr hwch trwy y siop;”
Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy’n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.


Mawrth 2, 1876.