Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Beirniadaeth lenorol yng Nghymru
| ← Rhamantyddiaeth | Elfennau Beirniadaeth Lenorol gan Joseph Harry |
Arddull → |
VI
BEIRNIADAETH LENOROL YNG NGHYMRU
1. Fel y dengys y tabl a ganlyn, ceir yr un ddwy elfen, Clasuryddiaeth a Rhamantyddiaeth, yn llên ac ym Meirniadaeth Lenorol Cymru, hefyd. Cofier y defnyddir y gair clasuryddiaeth" wrth sôn am lên Cymru i olygu'r Hen Draddodiad Cymreig, a'r ymlyniad wrth yr arfer o feirniadu wrth Reol a Phatrwm,—prif nodwedd Clasuryddiaeth yn hanes llên pob gwlad.
PRIF FEIRNIAID LLENOROL CYMRU
(a) CYFNOD CYNNAR="YR HEN YSGOL."
| Awdur | Oes | Ysgol | Prif Weithiau Beirniadol. |
|---|---|---|---|
| Dafydd ap Gwilym | bl.1340-1390 | R1 | Perffeithio Mesur Cynydd |
| Dafydd ab Edmwnd | c. 1425-1500 | C1 | Cynganeddion a Mesurau-Eisteddfod Caerfyrddin, 1451 |
| Tudur Aled | c. 1465-1526 | C1 | Rheolau Tudur Aled |
| Simwnt Fychan | c. 1530-1606 | C1 | Pum Llyfr Kerddwriaeth-Eisteddfod Caerwys, 1588 |
| W. Salesbury | c. 1520-1600 | C1 | A Dictionary in Englyshe and Welshe |
| Sion Dafydd Rhys | c. 1534-1609 | R1 | Welsh Grammar |
| Huw Morus | 1622-1709 | R1 | Mesurau Rhyddion |
| Goronwy Owen | 1722-1769 | C1 | Llythyrau |
| Lewys Morys | 1700-1765 | C1 | Llythyrau |
| W. Williams, Pantycelyn | 1717-1791 | R2 | Y bardd rhamantus, a'r bardd modern cyntaf yn Ewrop |
| Iolo Morganwg | 1741-1814 | C1 | Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain |
| Caledfryn. | 1801-1869 | C1 | Drych Barddonol; Gramadeg; Beirniadaethau |
| Eben Fardd | 1802-1863 | C1 | Beirniadaethau |
| Hiraethog | 1802-1883 | C1 | Beirniadaethau |
| Lewis Edwards | 1809-1887 | C1 | Traethodau Llenyddol a Diwinyddol |
| Dafydd Morganwg | 1832-1905 | R2 | Ysgol Farddol "; Beirniadaethau |
| Silvan Evans | 1818-1903 | C1 | Llythyraeth yr Iaith Gymraeg; Geiriadur |
| Emrys ap Iwan | 1851-1906 | R2 | Gramadeg Cymraeg; Homiliau |
(b) CYFNOD DIWEDDAR="YR YSGOL NEWYDD"
| Awdur | Ysgol | Prif Weithiau Beirniadol |
|---|---|---|
| Syr Edward Anwyl 1867-1914 | C2 | Prolegomena to Welsh Poetry; Erthyglau |
| Syr John Morris Jones | C2 | Welsh Grammar; Cerdd Dafod; Beirniadaethau; Erthyglau |
| T. Gwynn Jones.. | R2 T | Rhagymadrodd (Tudur Aled) Erthyglau; Beirniadaethau |
| W. J. Gruffydd | R2 | Erthyglau ac Adolygiadau (yn y Llenor) |
| Ifor Williams | R2 T | Rhagymadroddion; Erthyglau; Adolygiadau |
| Henry Lewis | R2 T | Rhagymadroddion; Erthyglau; Adolygiadau |
| Saunders Lewis | R3 | A School of Welsh Augutans; Pantycelyn; Erthyglau |
| R. T. Jenkins | R2 | Erthyglau; Adolygiadau |
| G. J. Williams | R2 | Cywyddau'r Ychwanegiad; Erthyglau |
| J. Hubert Morgan | R2 | Erthyglau ar Feirniadaeth (yn y Llenor) |
| D. R. Davies | R3 | Y Ddrama yng Nghymru (yn y Llenor) |
| D. T. Davies | R3 | Y Nofelau Newydd (yn y Llenor) |
Am ystyr C, C, R, R, R, gwêl td. 51.
Saif T—Beirniadaeth Destunol.
[Gwêl I, I (v), td. 11.]
2. Parodd, o leiaf, bedwar o'r awduriaid yn y cyfnod cynnar ddylanwadau creadigol ar eu hoes ac ar yr oesau dilynol; sef,
(i) Dafydd ab Edmwnd: Ystyriai ei gyfoeswyr Ddafydd ab Edmwnd y bardd a'r Beirniad mwyaf a gynhyrchodd Gwynedd erioed. Ef oedd y pennaf o'r ffurfiolwyr Cymreig; credai mewn rheol a ffurf lenyddol yn bennaf peth. Ef a drefnodd y Cynganeddion a'r Mesurau yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1451, fel y dengys y tabl; ac a ddug i mewn i'r Awdl a'r Cywydd y cymeriadau" a dyfeisiadau eraill e.e.,
Cymeriad Llythrennol=pob llinell yn dechrau â'r un llythyren.
Cymeriad Cynganeddol=geiriau cyntaf pob llinell yn cynganeddu â'i gilydd.
Cyrch Gymeriad gair olaf yn y pennill yn dechrau'r pennill nesaf, a'r gair olaf yn yr awdl yn un â'r gair cyntaf.
Effeithiodd rheolau D. ab Edmund ar lên Cymru am ddau can mlynedd. Rhoesant derfyn ar y naturioldeb hudlawn a nodweddai farddoniaeth D. ap Gwilym a'i gyfoeswyr. Crewyd ganddynt gyfnod o ffurfioldeb trymaidd, difywyd.
(ii) Goronwy Owen: Adferodd ac adfywiodd Goronwy yr Hen Draddodiad Cymreig, gan fabwysiadu egwyddorion Beirniadaeth a ffynnai'n gyffredinol yn ei oes ef drwy wledydd y cyfandir. Dyfeisiodd arddull gyfaddas i'w awen a'i ddamcaniaethau arbennig. Ceir ei ddamcaniaethau ac awgrymiadau ar y modd i'w sylweddoli, yn ei lythyrau ef ac yn llythyrau ei noddwr—Lewys Morys. Yn y dyddiau hynny, nodweddid Llên Ewrop a'i Beirniaid gan unrhywiaeth chwaeth, barn a dyhead. Tra parhaodd yr unfrydedd hwn, yr oedd yn bosibl mesur gwerth a theilyngdod cymharol gweithiau llenyddol,—drwy eu cymharu â'r rheolau cydnabyddedig. Eglura hynyma'r ysbryd dogmatig a ffynnai ym meirniadaeth lenorol y canrifoedd clasurol yn Ffrainc, yn Lloegr, ac yng Nghymru. Goronwy Owen a Lewys Morys, medd Saunders Lewis, a ddug y cyfryw Feirniadaeth i Gymru,—gyda nifer o bethau Beirniadol eraill. [Gwêl Llenor, cyf. IV, Rhif 1, td. 31-33.]
(iii) W. Williams, Pantycelyn: "Y bardd rhamantus, a'r bardd modern, cyntaf yn Ewrop," medd Saunders Lewis. [Pantycelyn, td. 17]. "Yr oedd ei ffilosoffi ef, ei dyb am natur ac amcanion barddoniaeth yn groes i holl ddamcaniaethau'r Estheteg Gymreig," fel y deëllid ac y dysgid hi gan Ddafydd ab Edmwnd a'i ddilynwyr, a chan Oronwy Owen a'i gefnogwyr. Creu ceinder, symbol o berffeithrwydd, oedd delfryd y beirdd clasurol. Gan hynny yr oedd eu parch i'r Gymraeg yn ddiderfyn, ac i eiriau unigol a oedd yn elfennau melyster." "Nid felly i Bantycelyn. Ni pharchai ef eiriau o gwbl, ond eu darnio a'u hanafu. Y mae'n debyg gennyf mai'r llinell hon yn Theomemphus,
'Yn Constant fawr inople.'
yw'r llinell waethaf mewn barddoniaeth Gymraeg." [eto td. 32] "Nid er mwyn melyster na diddanwch," y canai Pantycelyn, "ond er mwyn 'traethu maes ei brofiadau'." "Cywirdeb, nid ceinder, yw ei amcan mewn barddoniaeth. Mynegi'n gyflawn y profiadau dirgelaf na cheisiodd neb o'i flaen eu rhoi mewn geiriau." [eto td. 33.]
(iv) Lewis Edwards. Torrodd ei Draethodau Llenyddol a Diwinyddol ef dir newydd ym Meirniadaeth Lenorol Cymru. Creodd ysgol newydd o Feirniaid Llên a Diwinyddiaeth. Yn wir, rhoes "Traethodau'r " Doctor a "Llythyrau Hen Ffarmer" Gwilym Hiraethog batrymau newyddion o Ryddiaith i Lenorion y genedl oddiar hynny hyd heddiw.
3. Yn y cyfnod Diweddar,—" Yr Ysgol Newydd," ceir nifer o ysgrifenwyr bwyiog a beiddgar o blaid y safbwynt Rhamantyddol mewn Beirniadaeth Lenorol. Eglurir golygiadau'r "ysgol" hon, o bryd i bryd, mewn erthyglau diddorol a heriol, braidd yn brofoclyd, weithiau, yn y "Llenor ": e.e.,
- (i) "Gwrthryfel ac Adwaith;" "Yr Awen ar Ddisberod;" Nodiadau'r Golygydd; ac Adolygiadau lawer, gan W. J. Gruffydd.
- (ii) "Safonau Beirniadaeth;" "Yr Eisteddfod a Beirniadaeth," gan Saunders Lewis.
- (iii) "Rhai Tueddiadau ym Meirniadaeth Lenyddol Cymru," gan J. Hubert Morgan.
- (iv) "Beirniadaeth Lenyddol," gan Duncan C. Mactavish (Cyf. T. Bassett).
- (v) "Y Ddrama yng Nghymru," gan D. R. Davies.
- (vi) "Y Nofelau Newydd," gan D. T. Davies.
Gellir casglu beth ydyw golygiadau arbennig yr ysgrifenwyr hyn oddiwrth y dyfyniadau o'r ysgrifau uchod a roddir yn a paragraff nesaf. Rhoddir hwynt fel "gwersi ymarfer i'r Beirniad Llenorol ieuanc sydd wedi meistroli'r prif egwyddorion a eglurwyd ym mhenodau blaenorol y gwaith hwn."
4. (a) Beirniedwch y dosbarthiad ar yr awduriaid a wneir yn y tabl (b) td. 77, h.y., bernwch a ydyw'r C, C, R, R, R, a T yn ddisgrifiad gweddol gywir o'r ysgrifenwyr y safant ar eu cyfair?
(b) (i) Mewn Gwrthryfel y mae bywyd, a phopeth sydd yn gweithio yng nghyfeiriad bywyd.
- (ii) Yr ieuanc a ŵyr a'r hen a dybia.
- (iii) Trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel Cynhyddol yn erbyn awdurdod; neu mewn geiriau eraill, twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn.—W. J. GRUFFYDD.
(c) (i) Nid yw Beirniadaeth ffurfiol ond ieuanc. Ac fel popeth ieuanc y mae'n naturiol iddi golli'r ffordd.
- (ii) Ni a welwn fod y ddwy ysgol ("yr Hen "a'r" Newydd" yng Nghymru) yn unfryd wrth ddywedyd mai chwilio am ba bethau bynnag sydd gain yw gorchwyl Beirniadaeth Lenyddol. . . . Mi addefaf fod y syniad hwn mor hen â dechreuad Beirniadaeth; serch hynny, mi gredaf mai cyfeiliornad ydyw.
- (iii) Y mae pob safon yn hwyr neu hwyrach yn rhwystr ar ffordd celfyddyd.
- (iv) Un o freuddwydion byd yr anwadalu yw'r dychymyg am safonau a saif.
- (v) Yr wyf yn credu bod popeth sy'n gelfyddyd, boed gân neu gerflun, yn beth unig, arbennig, ac yn gwbl ddigymar: Ffrwyth unigedd enaid yw celfyddyd . . . mynegiant o ber—sonoliaeth yr Awdur.
- (vi) Dyna un rheswm—nid yr unig reswm—paham na ddichon y werin adnabod llenyddiaeth.
(vii) Y mae'n amlwg na all dyn cyffredin' ddeall yr anghyffredin ond ymhen amser maith; a'r anghyffredin yw hanfod llenyddiaeth.
(viii) Gan hynny, y mae'n eglur imi na ellir dim barnu Celfyddyd wrth safonau o gwbl. Canys od yw campwaith yn beth ar ei ben ei hun, heb iddo un gwir gymar, sut y gellwch chwi ei ddosbarthu ef ag eraill? Ni cheir fyth safon heb ddosbarth.
(ix) Y mae hanes llenyddiaeth pob gwlad yn profi'n gyson fod yn rhaid dinistrio safonau fu rywdro'n ddefnyddiol.
(x) Mae Beirniadaeth Lenyddol hithau yn aml yn llenyddiaeth. Cynnwys, felly, elfen bersonol. Ond rhaid i farn, i ddedfryd, fod yn amhersonol, neu ynteu nid yw hithau namyn mympwy, peth personol.
(xi) Fe addef pawb mai niweidiol ddigon a fu dylanwad "Barddas" Aristotl ar gwrs llenyddiaeth.
(xii) Nid oes a wnelo'r Beirniad Llenyddol ddim â barnu llenyddiaeth na'i safoni hi.
(xiii) Gwaith Beirniad Llenyddol yw cyfansoddi llenyddiaeth. Cyfansoddi llenyddiaeth am lenyddiaeth a wna efô, rhoi helyntion ei brofiad yng nghyfandiroedd celfyddyd. [cf. Sylw Anatole France yn adran I, 8, td. 15).
(xiv) A chaniatau bod Beirniadaeth yn llenyddiaeth, y mae'n eglur nad oes dim angen am gydweled.
(xv) Er na chredaf i mai barnu yw gwaith Beirniad, yr wyf yn hwyrfrydig i ddywedyd nad oes safon yn bod. Wedi'r cyfan, y mae rhai llyfrau yn glasuron. Ond beth yw hynny? Yn sicr, nid llyfr gwell na llyfrau eraill, oblegid nid oes i'r gair "gwell" ddim ystyr mewn llenyddiaeth. . . . Ni bu gan ddau lenor erioed yr un amcan; ac oblegid hynny ni ellir eu cymharu o gwbl.
(xvi) Amser yn unig a farn lenyddiaeth, a safon amser yw'r unig safon a saif.—SAUNDERS LEWIS.
(d) (i) Nid yr artist gorau ydyw'r Beirniad gorau bob amser.
- (ii) Y mae ambell fardd glew yn anobeithiol fel Beirniad.
- (iii) Ni chafwyd cydwelediad cyffredinol i osod terfynau i Feirniadaeth lenyddol; nes y ceir hynny, nid oes hawl i'w chyfrif yn wyddor.
- (iv) Ai anghywir dywedyd bod i bob Beirniad llên ei ddamcaniaeth fechan ei hun?
- (v) Y mae'n amlwg bod rhoi gorfod ar ddyn i feirniadu yn unig yn ôl fformiwla arbennig yn gyfystyr â dywedyd y dylai ddychmygu hefyd yn ôl hwnnw.
- (vi) Od yw gwaith artist yn fynegiant personol, y mae'n llawn cyn wired hefyd am feirniadaeth.
- (vii) Os dywedir nad oes i gelfyddyd reolau, neu, a myned ymhellach, ganonau pendant, nid oes reolau i feirniadaeth ychwaith, neu, o leiaf, ddim ond y rheini sydd amlwg.
- (viii) Yr hyn sydd yn gwneuthur rhamant, yn ystyr letaf y gair, ydyw'r cyferbyniad ymwybodol rhyngddo â rheswm.
- (ix) Od ydyw'r nofel i ddehongli yn uniongyrchol, yna cyfuniad artistig o'r Rhamantus a'r Realistig fel y gwelir mewn bywyd sydd yn ein cyffwrdd a'n cyffro.
- (x) Rhaid i'r Beirniad, efallai, helaethu sail ei feirniadaeth, ac edrych ar yr elfennau clasurol a rhamantus mewn llên fel mynegiant naturiol o'r cyferbyniad bywydol sydd yn natur dyn.
- (xi) Ni ddylem ofni gwneuthur protest yn erbyn y Beirniad sydd heb na gweledigaeth na barn aeddfed, ond yn unig fympwy cibddall a pharch at draddodiad pa mor anwir bynnag y bo hwnnw.—J. HUBERT MORGAN.
5. Beirniedwch y golygiadau canlynol o'r Llenor:
- (i) Yr eilbeth yw rheswm ym myd llenyddiaeth fel ym myd bywyd.
- (ii) Od yw ein safon wrth feirniadu llenyddiaeth i fod yn sicr rhaid i bawb ei llunio drosto'i hun, gan adeiladu ar y sylfaen syml ein bod yn hoffi rhai pethau ac yn teimlo bod rhywbeth o'i le ynglŷn â phethau eraill.
- (iii) Fe ddylai cymharu'n dyfarniadau â'i gilydd ac ag eiddo dynion eraill ddatblygu ynom chwaeth synhwyrol, bawb iddo'i hun.
- (iv) Y mae clasuron nad oes neb bron yn eu darllen.
- (v) Od yw dyn i ddiwyllio ei chwaeth ni all dderbyn dim ond sylwedd ei brofiadau ei hun.
- (vi) Mewn llenyddiaeth ni all fod gwerth moesol, dim ond gwerth artistig.
- (vii) Bai mawr celfyddyd ramant, ein teip diweddar ni, ydyw ei gwastraff ar egni; a'i rhinwedd ydyw gwrthod yn ystyfnig gyfyngu ar faes llenyddiaeth, ac ymfodloni ar y gred bod meistrolaeth yn hawdd.
- (viii) Rhyddfrydwr llenyddiaeth ydyw'r ysgrifennwr rhamant.
- (ix) Wrth feirniadu, gwell yw anwybyddu'r pleidiau a rhoddi'r pwys ar ffeithiau ac nid ar enwau.
- (x) Lle nid oes chwaeth at wir farddoniaeth nid oes chwaeth at wir lenyddiaeth.
- (xi) Fe all Athrylith wrth gyflwyno ei ffeithiau mewn ffurf newydd a chyda grym diymwad dorri ar draws ein terfynau.—DUNCAN C. MACTAVISH.