Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Beth ydyw beirniadaeth lenorol?
| ← Cynnwys | Elfennau Beirniadaeth Lenorol gan Joseph Harry |
Safonau beirniadaeth lenorol → |
ELFENNAU BEIRNIADAETH LENOROL
I BETH YDYW BEIRNIADAETH LENOROL?
1. Y mae llawer math o Feirniadaeth Lenorol; e.e.:
(i) Beirniadaeth Ddinistriol. Yn y ffurf hon ar Feirniadaeth, prif Amcan y Beirniad ydyw nodi beiau iaith ac arddull y gwaith a fo dan sylw, camsyniadau ynglŷn â'r ffeithiau a gofnodir, diffygion y damcaniaethau a dreithir, ac anghywirdeb y casgliadau a dynnir;—yn fyr, darnio'r gwaith yn chwilfriw, gan ei gondemnio i ebargofiant am byth. Neu, a newid y ffigur, ni wna'r Beirniad ddim amgen na chwilota am "y gwybed meirw" a ddigwyddo fod yn y gwaith, gan eu taenu o flaen y darllenydd nes peri "i ennaint yr apothecari ddrewi" yn ei ffroenau ef.
(ii) Beirniadaeth Adeiladol. Cais y Beirniad yn y ffurf hon ar Feirniadaeth nid yn unig ddangos diffygion ym meddylwaith a saernïaeth y gwaith a feirniedir, eithr, hefyd, gyfannu'r hyn a fo o werth ynddo, awgrymu defnyddiau i lanw lle'r diffygion a noda. Dichon y gwna'i ordd, yn y naill law, lawer bwlch yn y mur, ond mortera'i lwyarn, yn y llall, feini gwerthfawr" yn yr adwyau.
(iii) Beirniadaeth Hanesyddol. Gorchwyl pennaf y cyfryw Feirniadaeth ydyw dirnad prif gwrs llên cyfnod ar ôl cyfnod, ac olrhain cyd-berthynas mater a ffurf llenyddiaeth unrhyw oes â phrif weithiau llenyddol oesau blaenorol, megis y cais daearyddwr ddarganfod ffynhonnell a rhediad rhyw afon a'r mân ffrydiau a red iddi ar bob llaw.
(iv) Beirniadaeth Werthfawrogol. Yn y ffurf hon ar Feirniadaeth, ymhyfryda'r Beirniad yn bennaf mewn dangos rhagoriaethau'r darn o lenyddiaeth a gymeradwya i sylw ei ddarllenwyr. Esbonia gynllun y gwaith, a'r modd yr is-wasanaetha pob adran i weithio allan y cyfryw gynllun i ddiweddglo cyfaddas. Dyfynna enghreifftiau lluosog a tharawiadol i egluro athrylith ac arddull yr awdur, gan eu cyfuno â'r fath fedr ag a ennyn awydd yn y darllenydd am ddarllen y cwbl o'r gwaith. Math o brofwr gwinoedd ydyw'r Beirniad hwn; a hoff ganddo bob amser ydyw cymeradwyo'r gwin gorau y gŵyr am dano i'w gyfeillion.
(v) Beirniadaeth Destunol. Darllen llawysgrifau gweithiau hen awduriaid ydyw gorhoffedd Beirniad yn y gangen hon o Feirniadaeth. Drwy gasglu, cymharu, a chyferbynnu gwahanol gopïau, cais benderfynu'r testun cywiraf o waith yr awdur a astudir ganddo. Gofyn y gorchwyl gyfuniad o lafur, manylder, amynedd, a barn nas ceir ond yn anfynych yn yr un person. Rhaid i'r sawl a'u meddo fod yn llyfrbryf wrth natur.
2. Ym marn mwyafrif mawr o bobl, yr elfen ddinistriol ydyw'r amlycaf mewn Beirniadaeth Lenorol. Pan sonier am Feirniad, ac yn enwedig pan ddefnyddier y gair Saesneg Critic, meddylir, yn gyffredin, am berson gorofalus am gadw rheolau, gor-awyddus am "bigo beau" a gor-barod i gondemnio pawb a phopeth na chytunant â'i safonau ac â'i farn ef. Gesyd y fath Feirniad y pwys i gyd ar "y mintys, a'r anis, a'r cwmin," gan adael heibio'r pethau trymach,"-Athrylith, gwreiddioldeb, a gwirionedd. Yn wir, pan gofier am brif nodweddion Beirniadaeth Lenorol o'r hen ffasiwn yng Nghymru a Lloegr,—ac y mae rhai o'i gwehelyth eto'n fyw—hawdd ydyw esgusodi'r Werin am ei syniad anghywir ac anghyflawn ynglŷn â gwaith Beirniad a Beirniadaeth.
3. Erbyn hyn, fodd bynnag, disgwylir hyd yn oed i'r Werin adolygu a helaethu ei barn am natur ac amcan Beirniadaeth Lenorol; canys ymhlith pobl ddiwylliedig,—dosbarth sydd wedi cynhyddu'n ddirfawr ymhob gwlad yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, gan gynnwys nifer fawr o bobl y Werin,—y syniad a goleddir heddiw am Feirniadaeth ydyw cyfuniad cytbwys o'r elfennau a nodwyd uchod dan (i)-(iv). Ystyrrir (v) Beirniadaeth Destunol, am y rhesymau a roddwyd, fel cangen arbennig, a gadewir hi dan ofal yr ychydig sy'n gymwys at y fath waith.
4. Wrth astudio'r dosbarthiad uchod, gwelir y gwahaniaetha Beirniadaeth Lenorol yn ei gwaith a'i hamcan oddiwrth bob ffurf ar Wyddoniaeth. Ni fedd gorff o wybodaeth gyfundrefnol; ni chyfyngir ei hymchwil gan unffurfiaeth o unrhyw fath; ac ni chofnodir ei chasgliadau mewn geiriau pendant nac mewn ffurfiau terfynol. Llwydda amryw o'r Gwyddorau a'r Celfyddydau i gyrraedd perffeithrwydd hollol mewn rhai pethau: e.e., mewn Rhifyddeg, gellir gwneuthur cyfrif cwbl gywir, ac mewn Cerddoriaeth, gellir taro nodyn neu gord perffaith. Eithr mewn Llên a Beirniadaeth Lenorol y mae caffael gwell na'r gorau o hyd yn bosibl. Y mae perffeithrwydd llenyddol a beirniadol yn anodd, efallai'n amhosibl. Gellir dywedyd am bob un o oreugwyr Llên a Beirniadaeth fel y dywedodd Swinburne am Fyron: "He rarely wrote anything worthless or faultless," neu fel y dywedodd Amiel am Victor Hugo: "Ceir plwm yn gymysg â'i aur bob amser."
Er hynny, gwasanaetha Beirniadaeth Lenorol fel math o lawforwyn i'r holl wyddorau a gais ymwisgo mewn llên o unrhyw fath. Unwaith y gofyn y Gwyddorau a'r Celfyddydau y cwestiwn,—"A pha beth yr ymddilladwn?," ac yn arbennig y cwestiwn,—"Pa fodd yr ymddilladwn?," daw Beirniadaeth Lenorol ymlaen gan ddatgan barn aeddfed a gwerthfawr mewn ateb. Y mae ganddi hi lais a llaw mewn dewis a llunio'r "ffasiwn" lenyddol ymhob cangen o wybodaeth.
5. Ond maes neilltuol Beirniadaeth Lenorol ydyw'r ymchwil am yr egwyddorion y sylfaenir Llenyddiaeth Greadigol arnynt,—ymgais i ateb y cwestiynau: Pa beth sy'n cyfansoddi prydferthwch llenyddol? Pa fath lenyddiaeth a rydd fwynhad i'r darllenydd a phaham? Beth ydyw cyfrinach guddiedig gorchestion clasurol, hen a diweddar? Beth ydyw perthynas mater a ffurf, meddwl ac arddull mewn llenyddiaeth? Fel ffrwyth y cyfryw ymchwil, pwysleisia Beirniadaeth y drychfeddyliau gorau yn llenyddiaeth y byd, gan ymdrechu eu dal beunydd o flaen llygaid darllenwyr hyd oni welont eu gwerth, ac, yn y diwedd, eu derbyn a'u defnyddio fel arian bath,—yn dwyn delw ac argraff barn a gwirionedd.
6. Gellir nodi, gyda llaw, mai yn ddiweddar yn hanes llên pob gwlad yr ymddengys Beirniadaeth Lenorol. Cymer llenyddiaeth cenedl oesoedd lawer i ymddatblygu, ac i gynhyrchu gorchestweithiau, clasuron mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Ac wedi cael corff o lenyddiaeth, cynhyrchion athrylith llawer oes, y mae gan Feirniadaeth ddefnyddiau i ymdrin â hwynt, i'w myfyrio, a thynnu casgliadau oddiwrthynt a ffurfia sail atebion i'r holiadau uchod.
Yn hyn o waith, dilyn Beirniadaeth y dull gwyddonol, yn gyntaf oll, casgl ac astudia'r ffeithiau fel y ceir hwynt yng ngweithiau gorau awduriaid gorau pob cyfnod; ac yna chwilia am yr egwyddorion a orwedd dan y ffeithiau, ac a gyfrif am werth arhosol gweithiau Athrylith.
O ran adeg genedigaeth, Beirniadaeth ydyw'r olaf o'r celfyddydau llenyddol; er hynny, diwedda, yn ôl pob tebygolrwydd, fel gwialen Aron, drwy lyncu'r lleill i gyd.
7. Yn raddol, goleua Beirniadaeth Lenorol farn pobl, dyrchaif eu chwaeth, a chrea ynddynt awydd am brofi ffrwyth aeddfetaf athrylith pob gwlad. Ac ambell waith, ymddengys Beirniad craff ei feddwl, annibynnol ei farn, ac o athrylith feiddgar, a bair chwyldroad megis mewn un dydd mewn rhyw faes llenyddol. Dan ei ordd chwilfriwir hen eilunod, a cherfir gan ei gŷn ddelwau newyddion o'r mynor gwynnaf yn eu lle. I Feirniadaeth Lenorol ddiweddar nid oes dim yn gysegredig; gesyd ei llaw yn ddiofn ar bob arch y dywedir bod "crochan aur a manna,' a memrwn ynddi. Myn weled beth ydyw'r trysor a guddir ymhob coffr.
8. Nid ymfodlona Beirniaid diweddar ar wybodaeth ail law. Yn hytrach, hawliant ryddid i arfer eu llygaid, eu teimlad a'u barn eu hunain, gan ymddiried yn gyfangwbl yn yr hyn a dystiolaetha eu calon a'u rheswm iddynt ynglŷn â phob arwedd ar lenyddiaeth. Ceisiant ganfod peth fel y mae ynddo ei hun; nodant ac elfennant yr argraffiadau a wna arnynt hwy yn bersonol; a gwnânt ymgais ddiffuant i drosglwyddo'u teimlad a'u barn i'w darllenwyr.
Gwelir, felly, mai math o hunan-fywgraffiad enaid gonest ydyw Beirniadaeth Lenorol ddiweddar. Fel y dywed Anatole France: "Le bon critique est celui qui raconte les aventures de son âme au milieu des chefs-d'oeuvres," h.y., "Y Beirniad da ydyw hwnnw a edrydd anturiaethau ei enaid ymhlith gorchestweithiau."
Gellir ychwanegu'r â'r Beirniad da gam ymhellach, sef gwneuthur ei orau, nid yn unig i fynegi ei deimlad a'i farn, eithr, hefyd, i esbonio paham y teimla ac y barn fel y gwna; rhydd reswm dros y ffydd sydd ynddo. Dadlenna feddwl ei awdur; dehongla'i brofiad ei hun; a chais greu cyffelyb brofiad yn ei ddarllenydd.
9. Cyfieithwch a beirniedwch y dyfyniadau canlynol:
(a) It may be laid down as the definition of Criticism in its pure form, that it should consist in the application, in the most competent form, of the principles of literary composition. Those principles are the general æsthetics upon which taste is founded; they take the character of rules of writing.—EDMUND GOSSE.
(b) Criticism is a disinterested endeavour to learn and propagate the best that is known and thought in the world.—M. ARNOLD.
(c) The true critic supplies all the world with a basis. He represents the public judgment, that is to say, the public reason, the touchstone, the scales, the crucible, which tests the value of each man, and the merit of each work.—AMIEL (Cyfieithiad M. ARNOLD).
(d) Criticism is an endless process of correcting impressions, or at least of checking and auditing them till we are sure they are genuine, co-ordinated and consistent.—G. SAINTSBURY.
(e) To feel strongly the charm of an old poet and then to interpret that charm, to convey it to others, this is the way of Criticism. —C. LAMB.
(f) The real work of Criticism is to interpret the workings of the human spirit by its monuments in art and letters.—J. A. SYMONDS.
(g) Without Literary History, Literary Criticism in the proper sense is impossible.—G. SAINTSBURY.
(h) The way to perfection is through a series of disgusts . . . Ennui ever attaches itself to realisation, even the realisation of perfection. -W. PATER.
(2) Notre critique ne s'élèvera-t-elle jamais à la rigoureuse majesté de la science. Elle flottera toujours dans l'incertitude. Ses lois ne seront point fixes, ses jugements ne seront point irrévocables,—h.y., Nid ymddyrchaif ein Beirniadaeth fyth i urddas llym Gwyddoniaeth. Nawf beunydd mewn ansicrwydd. Ni bydd ei deddfau'n sefydlog, na'i barnedigaethau'n rhai nas newidir.—ANATOLE FRANCE.
(j) Criticism stands like an interpreter between the inspired and the uninspired, between the prophet and those who hear the melody of his words, and catch some glimpse of their meaning, but understand not their deeper import.—T. CARLYLE.