Neidio i'r cynnwys

Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Canonau beirniadaeth lenorol

Oddi ar Wicidestun
Realaeth ac ideolaeth Elfennau Beirniadaeth Lenorol

gan Joseph Harry

Ymarferiadau cyffredinol mewn beirniadaeth lenorol

XI
REALAETH AC IDEOLAETH

(Realism and Idealism)

1. Wrth Realaeth golygir disgrifio gwrthrychau fel y maent, fel y canfyddir hwynt gan y synhwyrau corfforol; h.y., efelychiad gwasaidd o'r hyn a welir, a glywir, a deimlir, a archwaethir, ac a aroglir.

Ac wrth Ideolaeth golygir darlunio gwrthrychau fel y delweddir hwynt gan ddychymyg yr artist, fel y canfyddir hwynt gan ei feddwl. Felly, cynnyrch Ideoliad artistig ydyw Ideolaeth. [Gwêl IX, 10, td. 127.]

2 A yw Realaeth yn bosibl? A ellir disgrifio gwrthrychau yn gyfangwbl fel y maent,—heb unrhyw elfen ideol yn y disgrifiad?

Y mae'n amlwg i'r sylwedydd mwyaf arwynebol na all Celfyddyd byth efelychu Natur yn hollol. Ni all na cherflun, na darlun, na cherdd adgynhyrchu holl ragoriaethau a phrydferthion y patrwm byw. Ni ellir darlunio coeden mor hardd ag y mae yn y maes dan dywyniad heulwen haf. Y mae'r ffotograff a wna'r haul drwy gyfrwng y camera yn llawer cywirach na'r darlun a dyn yr arlunydd â'i bensel; ac nid oes baent yn ei flwch i gystadlu â lliwiau'r enfys. Ni fedr y bardd na'r nofelydd gofnodi dialog mor realistig â ffonograff,—heb sôn am lais a goslef ac ystum y siaradwyr gwreiddiol.

Yn wir, ni all y Realydd roddi darlun o goeden, o flodeuyn, nac o ddyn, a rydd i ni ddegwm o'r mwynhad esthetig a gawn wrth weled y goeden, y blodeuyn, a'r dyn eu hunain. Y mae hyd yn oed gerddi serch Sappho yn gymharol ddof wrth gynhyrfiadau calon, a gweddnewidiad wynebau cariadon ym mhresenoldeb ei gilydd.

Yn ymyl Natur ei hun, adlun gwan ydyw'r efelychiad gorau o honi,—"fel lloergan wrth heulwen, fel dwfr wrth win"—"As moonlight unto sunlight, as water unto wine," ys dywaid Tennyson.

Yn fyr, yn y gwaith o efelychu y mae celfyddyd yn fethiant amlwg erioed yn ei holl ganghennau,—y ddrama, y delyneg, y nofel, y cerflun, y darlun.

3 Onid oes elfen ddelfrydol ymhob ffurf ar Gelfyddyd, yn arbennig mewn llenyddiaeth?

Onid yw delw meddwl yr artist ar bob gwaith a ddaw o'i law? e.e.:

(a) Cymerer tystiolaeth deg o dystion am ryw helynt. Er i bob un o honynt wneuthur ei orau i "ddywedyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir," ni cheir ganddynt adroddiad hollol gyffelyb o'r hanes. Paham? Adroddant, bob un, yr argraffiadau a wnaeth y peth ar eu meddwl hwy; ac yn eu hadroddiadau ceir elfennau a gyfrennir gan eu meddwl,—ceir delw meddwl pob un ar ei adroddiad. Cydnebydd pob darllenydd craff o'r pedair Efengyl y gwirionedd hwn; canys yn y pedwar darlun hyn o'u Hathro, ceir amliwiad arbennig meddwl Mathew, Marc, Luc, ac Ioan.

(b) Y mae'r un peth yn wirionedd am bob hanes,—llunnir a lliwir pob pennod gan ymwybyddiaeth bersonol yr awdur. Yn sicr, nid ysgrifennwyd hanes dim na neb erioed yn hollol fel y bu. Cyfranna meddwl a dychymyg yr hanesydd rywbeth i'w ddisgrifiad o bob digwyddiad rhyw ogwydd, rhyw naws, rhyw arlliw o eiddo ei feddwl a'i farn ef ei hun.

(c) Mewn rhamantau a nofelau ceir cyfraniadau cyffelyb. Yn yr holl ddisgrifiadau o wrthrychau, gwaith cymharol rwydd i Feirniad sylwgar ydyw taflennu ochr yn ochr, yr elfennau yn y darlun a gyfrennir gan y gwrthrych a chan feddwl yr Awdur.

(d) Mewn Barddoniaeth, yn arbennig, y mae'r elfen ideol yn berffaith amlwg; canys cynnyrch dychymyg y bardd ydyw'r rhan fwyaf o'r mater, a dyfais ei grebwyll a'i ddeall ydyw'r ffurf yn gyfangwbl. Wrth gwrs, ni lefarai arwyr Homer a Fyrsil yn y Mesur Chweban (Hexameter), na Satan Milton yntau yn y Mesur Moel. Dyfeisiau meddwl beirdd ydyw Mesur, Corfan, Odl, Cynghanedd, a'r holl ffurfiau ar Farddoniaeth,—e.e.; Emyn a Salm; Telyneg a Soned; Galarnad a Dychangerdd; Bugeilgerdd a Rhieingerdd; Pryddest ac Arwrgerdd; Cywydd a Rhupunt; Englyn a Thoddaid; Awdl a Dyri.

(e) Yn yr un ffunud, gellir ystyried pob gwaith llenyddol fel cyfuniad o nodweddion y gwrthrych a ddisgrifir, a neilltuolion Meddwl, Awen a Dychymyg yr awdur a'i disgrifia.

[Gwêl II, 3 (v) td. 23, a IX, 10, td. 127.]

Yn wir, ni all hyd yn oed Zola, er ei fedrused, ddisgrifio pethau'n "realistig," ond fel moddau ar ei ymwybyddiaeth ef ei hun; canys ni all neb ddisgrifio pethau ond fel y maent i'w feddwl ef. Ei feddwl ef ei hun ydyw'r drych y gwêl pawb bopeth drwyddo; ac y mae'r drych yn rhan bwysig, o bosibl y bennaf, o bob "drychfeddwl "o'i eiddo.

4. Gyda llaw, atgofir ni gan yr enw Zola am un o brif ffaeleddau Realaeth, hen a diweddar, sef, ei hoffter o'r hyn sydd anweddus, o'r hyn sy wrthun, ac o'r hyn sy ffiaidd. Ymddigrifa'n fynych mewn budreddi o bob math. Yn ei adolygiad o 'la Terre' (Zola), dywaid Anatole France: "Mais le pire defaut de la Terre', c'est l'obscénité gratuite," h.y., "Eithr bai gwaethaf 'la Terre' ydyw bryntni di-alw-amdano." [La Vie littéraire, I. td. 233.]

Gan gymaint hoffter ysgrifenwyr realistig o fanylion trythyll a budr, y mae'r geiriau realaeth a ffieiddra erbyn hyn bron a bod yn gyfystyron.

Fodd bynnag, drwy gydsyniad cyffredinol cefnogwyr Celfyddyd, ni chaniateir anwedduster o unrhyw fath yn Nheml yr Awenau. Llecha'r anghenfil aflan, er hynny, mewn hofelau a lleoedd amheus yn ei chyffiniau. Gwrthdystia greddf pob artist o'r Awen Wir yn erbyn pob gwrthuni ac aflendid; a hynny am y rheswm syml mai gwaith Celfyddyd ydyw dehongli Natur a Bywyd fel ag i roddi mwynhad esthetig i'r sawl a'u myfyrio; ac ni all darlunio a dehongli ffieiddbethau beri'r cyfryw fwynhad.

Gwyddys y perthyn i ddyn ac anifail "aelodau anhardd," eithr "angenrheidiol," a bod eu gweithrediadau yn anhepgorol er budd a boddhad dyn a chadwraeth yr hil; ond ni sonnir am danynt mewn cymdeithas ddiwylliedig, ac ni roddir amlygrwydd iddynt mewn na llên na llun. "Aelodau anhardd" ydynt; ac oblegid hynny nid oes iddynt le ym myd Estheteg, ac yn arbennig mewn llenyddiaeth. O wawrddydd gwareiddiad hyd heddiw, gwnïa Celfyddyd ddail y ffigysbren, neu ryw ddeunydd arall, yn arffedogau i'w cuddio; canys ni chamgymera'r gwir artist nwyfiant nwydus y cnawd am fwynhad esthetig yr ysbryd; cytuna ef a Shelley,—"All obscenity implies a crime against the spiritual nature of man," ac â J. A. Symonds,—"Civilization only accepts art under the condition of its making for the nobler tendencies of human nature, ac ag Anatole France,—"Il y a chez les hommes un incessant desir, un perpétuel besoin d'orner la vie et les êtres," h.y., Y mae mewn dynion ryw ddymuniad dibaid, rhyw awydd parhaus i addurno bywyd a gwrthrychau."

5. Cyfieithwch a beirniedwch:

(a) Sculptor and painter and poet are indeed bound to pass beyond the model. There is always the subjective ingredient.—J. A. SYMONDS.

(b) Sophocles used to say that he depicted men as they ought to be, Euripedes as they are. Polygnotus painted men better than they are; Panson, worse than they are; Dionysius, as they are.—ARISTOTL.

(c) Everything which man can do in imitation of Nature falls short of the fact, as fact.—J. A. SYMONDS.

(d) The artist does not make things as they are, but as they exist for his consciousness; and all his realistic skill must finally subserve the expression of the thought and emotion which he himself contains. —J. A. SYMONDS.

(e) There are many things allowable, nay, laudable, in act, which it is unpermissible to represent in figurative art, or to dwell upon in poetry. —J. A. SYMONDS.

(f) Representations of obnoxious features of human life stirs in us what education tends to curb, and express what humane culture teaches us to withdraw from observation. J. A. SYMONDS.

(g) The Decalogue is not art, but it is the guide-post which points to where the source of art springs.—COVENTRY PATMORE.

(h) The highest poetry, like the highest morality, is the product of a thoroughly healthy mind.—LESLIE STEPHEN.

(2) That which exists in nature is something purely individual and particular; Art, on the contrary, is essentially destined to manifest the general.—HEGEL.

Nodiadau

[golygu]