Neidio i'r cynnwys

Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Clasuryddiaeth

Oddi ar Wicidestun
Cymwysterau beirniad llenorol Elfennau Beirniadaeth Lenorol

gan Joseph Harry

Rhamantyddiaeth

IV CLASURYDDIAETH

1. Soniwyd yn y bennod flaenorol am Feirniad Clasuryddol; gofynnir pennod gyfan, o leiaf, i egluro'r cyfryw gyfenw.

Saif C = Clasuryddiaeth Hynaf (Early Classicism)
C2 = Clasuryddiaeth Newydd (Neo-Classicism)
C3 = Clasuryddiaeth Ddiweddar (Modern Classicism)
R1 = Rhamantyddiaeth Foreaf (Early Romanticism)
R2 = Rhamantyddiaeth Newydd (Neo-Romanticism)
R3 = Rhamantyddiaeth Ddiweddar (Moderm Romanticism)


Awdur Oes Ysgol Prif Weithiau Beirniadol
Aristotl 384-322 C.C. C1 Poetics—Cerdd Dafod, Rhetoric—Rheitheg
Theophrastus c. 372-287 C.C. С1 Exegesis—Esboniadaeth
Dionysius Halicarnasus 50-7 C.C. C1 Rheithegwyr (Affrica)
Plutarch 46-120 O.C. C1 Ysgrifeniadau Amrywiol
Lucian.. c. 120-180 O.C. R1 Vera Historia; Lexiphanes
Longinus c. 213-273 O.C. R1 The Sublime—Yr Aruchel
Cicero 106-43 C.C. C1 De Oratores—Rheithegwyr
Horas 65-8 C.C. C1 Ars Poetica—Cerdd Dafod
Quintilian c. 35-95 O.C. C1 Institutio Oratoria—Rheolau Rheitheg
Dante 1265-1321 O.C. R1 De Vulgari Eloquio—Iaith y Werin
Patrizzi 1529-1597 O.C. R1 Della Poetica—Cerdd Dafod

2. Dwy Duedd yn Hanes Llên a Chelfyddyd.

Fel y dengys y tabl uchod, ceir dwy duedd, o'r dechreuad, yn hanes celfyddyd yn gyffredinol, ac yn hanes llenyddiaeth yn neilltuol. Tuedd geidwadol ydyw'r naill; cais hon bwysleisio rhagoroldeb cynhyrchion meddwl a llaw Athrylith Groeg a Rhufain yn eu cyfnodau disgleiriaf, gan eu hystyried fel safonau a phatrymau i Athrylith pob oes ar eu hôl. Tuedd ryddfrydol ydyw'r llall; hawlia hi annibyniaeth i Athrylith pob cyfnod i fynegi ei meddwl a'i phrofiadau ei hun yn ei ffordd ei hun. Adwaenir y duedd flaenaf wrth yr enw Clasuryddiaeth, a'r olaf wrth yr enw Rhamantyddiaeth.

3. Prif Erthyglau Credo Clasuryddiaeth:

(i) Ynglŷn â natur a nodwedd barddoniaeth, Aristotl ydyw'r Arweinydd.
(ii) Efelychiad o Natur ydyw barddoniaeth.
(iii) Gwneir yr efelychiad hwn
(a) Drwy gopio Natur fel y mae, neu
(b) Drwy ddyfeisio pethau yn unol â deddfau Natur a Rheswm.
(iv) Rhaid i'r bardd ddifyrru ac addysgu,-rhoddi mwynhad ac addysg.
(v) Rhaid cadw at y gwahanol Fathau o farddoniaeth, heb wyro dim oddiwrthynt fel patrymau.

(vi) Rhaid ysgrifennu Dramâu, yn enwedig Trasiedi, yn ôl Deddfau Aristotl, fel ag i gynnwys tri math o Unoliaeth,
(a) Gweithrediad (Action)
(b) Amser (Time)
(c) Lle (Place)
(vii) Caniateir rhyddiaith mewn Comedi.
(viii) Caniateir peth rhyddid yn rheolau'r Arwrgerdd.
(ix) Y mae'r Mathau eraill o farddoniaeth yn israddol i'r rhain.
(x) Yn ei holl ymwneuthur â'r Mathau hyn, rhaid i'r bardd edrych ar Arfer yr Hynafiaid,—Homer, Fyrsil, etc.
(xi) O'u hastudio'n fanwl, ceir bod yr Hynafiaid wedi rhagflaenu Athrylith pob oes ymhob peth o bwys, a'u bod wedi gwneuthur eu gwaith mor rhagorol fel mae'r unig ffordd, bellach, i lwyddiant llenyddol ydyw eu hefelychu hwynt.
(xii) Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, esgeuluso Rheolau Cerdd Dafod Horas,—ei Ars Poetica."

Am ganrifau, ystyrrid y Safonau a osodir i fyny yn y Gredo uchod fel pethau cysegredig. Er enghraifft, mewn erthygl yn yr "Edinburgh Review" ychydig flynyddoedd yn ôl, ceir y sylw hwn:

Poetry has this much at least in common with religion, that its standards were fixed long ago by certain inspired writers, whose authority it is no longer lawful to call in question."

4. Gwerth Clasuron Hynafol. Addefir, â brwdfrydedd, gan lenorion a beirdd pob cyfnod fod gorchestweithiau llenyddol yr Hynafiaid yn Glasuron gwerthfawr, a'u bod yn meddu'r holl ragoriaethau a nodwyd ar dudalen 27 (viii). Gelwir hwynt weithiau'n fwngloddiau aur; ond y maent yn llawer mwy gwerthfawr na hynny. Saif Llenyddiaeth Groeg a Rhufain mewn llawer ystyr ar ei phen ei hun. "Ni chyffelybir hi i'r aur o Ophir, nac i'r onix gwerthfawr nac i'r saphir. Nid aur a grisial a'i cystadla hi; na llestr o aur dilin fydd gyfwerth iddi. Y mae gweithiau'r Hynafiaid yn drysordai o'r pethau ceinaf ym myd meddwl; ac er bynthycio eu trysorau gan oes ar ôl oes, erys yr ystôr yn ddihysbydd.

Fel y gwyddys, yn ei feirniadaethau ar yr Awdlau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dyfynnir yn barhaus gan y Syr John Morris-Jones awgrymiadau Aristotl ynglŷn â nod angen cerdd gelfydd, gyflun, gyflawn, sef prif gynnwys y paragraff yn y "Poetics" lle y dywaid yr hen Feirniad Groegaidd fod yn rhaid i Ddrama,—a mathau eraill o farddoniaeth,—feddu "Dechrau, Canol, a Diwedd." Gan yr ymddengys nad yw pawb o lenorion a beirdd Cymru, hyd yn hyn, wedi derbyn yr awgrym i'w astudio nes ei ddeall a'i arfer, mantais iddynt, efallai, fydd cael y paragraff yn ei gyfanrwydd, gyda gair o eglurhad syml arno.

Dyma gyfieithiad S. H. Butcher o hono:

"A whole is that which has a beginning, a middle, and an end. A beginning is that which does not itself follow anything, by causal necessity, but after which some—thing naturally follows, or comes to be. An end on the contrary, is that which itself naturally follows some other thing, either by necessity, or as a rule, but has nothing following it. A middle is that which follows something as some other thing follows it. A well constructed plot, therefore, must neither begin nor end at haphazard, but conform to these principles."

A dyma rydd—gyfieithiad o hono i'r Gymraeg:

Medd pob cyfanwaith llenyddol Ddechrau, Canol, a Diwedd. Wrth 'Ddechrau' golygir y darn nad yw yn dilyn dim byd o angenrheidrwydd fel ei achos, eithr gwasanaetha fel achos i rywbeth a ddaw'n naturiol, fel effaith, ar ei ôl. Ar y llaw arall, wrth Ddiwedd golygir y darn a ddilyn yn naturiol ar ôl rhywbeth arall naill o angenrheidrwydd, neu fel rheol, eithr heb ddim i'w ddilyn. Ac wrth Ganol' golygir y darn a ddilyn ddarn arall fel y dilynir yntau gan ddarn. Ni ddylai cyfanwaith llenyddol, gan hynny, na dechrau na diweddu ar ddam—wain; eithr dylai gyd—ymffurfio a'r egwyddorion hyn."

Neu, mewn diagram, fel hyn:

Ceir achosion B yn A; ac achosion C yn B. Wrth gwrs, blaenorir A gan ryw achosion, a dilynir C gan ryw effeithiau; eithr nid oes angen nodi'r naill na'r llall,—bydd y darn celfyddyd yn gyfanwaith heb fanylu na sôn dim am danynt hwy. Y prif bwynt ydyw hwn,—Wedi dechrau

ag A,

Rhaid i B fod yn ganlyniad anocheladwy A,

a C——————————B.

"Ac yna y daw y diwedd,"—dylid tewi, heb ychwanegu sylwadau na thynnu casgliadau o unrhyw fath yn y byd.

Brithir ysgrifeniadau Aristotl a'r Hynafiaid eraill ag awgrymiadau o nodwedd y paragraff uchod, ynghydag enghreifftiau lluosog yn corffori'r cyfryw awgrymiadau mewn rhydd-iaith a barddoniaeth yn llawn ceinion arhosol eu gwerth.

5. Prif fai'r Clasurydd ydyw gor-deyrngarwch i'r Hynafiaid, hyd yn oed ar y draul, lawer pryd, o aberthu ei brofiad a'i farn ei hun. Dellir ef gan ddisgleirdeb rhyw Oes Aur,—ys dywaid G. Saintsbury,—"bewitched by the idea of a Golden Age, when all poets were sacred, and all critics gave just judgment."

O ddyddiau Aristotl hyd amser La Harpe,—yn wir, hyd un cyfnod yn mywyd M. Arnold—yr oedd erthyglau credo Clasuryddiaeth yn debyg iawn i Ddeddf Sinai; taranai beunydd, "Na wna hyn" ac "Na wna yna"; neu Gwna'r peth hwn yn y dull hwn yn unig," a "Gwna'r peth arall yn y ffordd hon yn unig." A gwae'r gŵr a feiddiai anufuddhau. Tywyllid ei wybren gan gymylau duon a dywalltai, cyn hir, eu llidiocaf mellt ar ei ben ef a'i waith.

Yn ddiddadl, yr oedd rhyw resymau dros holl orchymynion caethion yr Hynafiaid, a rhesymau rhagorol dros lawer o honynt; ond anghofiodd olynwyr yr Hen Feirniaid a'u pleidwyr nad oedd y gorchymynion na'r rhesymau'n anffaeledig nac yn anfarwol; eithr tueddent, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, i osod mwy o bwys ar y llythyren nag ar yr ysbryd,—yr un fath ag ysgolion Hillel a Shillel a Shamai gynt yn eu hesboniadaeth o Ddeddf Moses. "Y mae'r llythyren yn lladd, a'r ysbryd yn bywhau" yng nghylchoedd llên a chân megis ag yng nghylchoedd Moes a Chrefydd.

Gellir cymhwyso geiriau Tennyson at Feirniadaeth Glasuryddol—sef beirniadaeth yn ôl Rheol a Phatrwm: {center block|

"Our little systems have their day,
They have their day and cease to be."

}}
6. Cyfieithwch a beirniedwch y dyfyniadau canlynol:

(a) Les ouvrages ancients ne sont pas classiques parce qu'ils sont vieux, mais parce qu'ils sont énergiques, frais, et dispos.—SAINTE-BEUVE.

h.y., Nid am eu bod yn hen y mae'r gweithiau hynafol yn glasuron, eithr am eu bod yn llawn egni, ireidder a hoywder.

(b) (i) We cannot, in the present conditions. of culture, affirm that any monuments of art are absolutely authoritative.

(ii) Classical antiquity and romance cannot supply perennial nutriment for modern Art—J. A. SYMONDS.

(c) Judge the work presented, not according to abstract rules, derived or supposed to be derived, from ancient classical authority, nor according to its agreement or disagree—ment with the famous works of the past. —G. SAINTSBURY.

(d) The theory or idea or system which requires of us the sacrifice of any part of our experience, in consideration of some interest into which we cannot enter, or some abstract theory not identified with ourselves, or what is only conventional, has no real claim upon us.—W. PATER.

(e) Aristotle's judgments are based on literary models which, perfect as they are in their kind, do not exhaust the possibilities of literature.

—S. H. BUTCHER.

(f) (i) In almost all countries the most ancient poets are reputed the best.

(ii) Early writers are in possession of Nature, and their successors of Art.
(iii) No man was ever great by imitation.—S. JOHNSON.

(g) (i) Breadth, centrality, with blitheness and repose, are the marks of Hellenic culture. Is that culture lost?

(ii) Can the blitheness and universality of the antique ideal be communicated to artistic productions which shall con—tain the fulness of the experience of the modern world?—W. PATER.

Nodiadau

[golygu]