Neidio i'r cynnwys

Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Cymwysterau beirniad llenorol

Oddi ar Wicidestun
Safonau beirniadaeth lenorol Elfennau Beirniadaeth Lenorol

gan Joseph Harry

Clasuryddiaeth

III CYMWYSTERAU BEIRNIAD LLENOROL.

I. Yn ôl Edmund Gosse: "A Critic is one who exercises the art of Criticism, who sets himself up, or is set up, as a judge of literary and artistic merit."

Yn ôl Benjamin Disraeli: Critics are the men who have failed in literature and art."

Ergyd llawchwith yw deffiniad Disraeli ar ddosbarth o feirniaid neu adolygwyr a arferai gynt ddatgan eu barn am weithiau eu cydymgeiswyr llenyddol mewn erthyglau llawn o fustl a gwenwyn. Yn y diwedd, fe'i gwenwynodd y rhywogaeth honno ei hunan, a bu farw heb adael epil,—gydag ambell eithriad.

Deffiniad Gosse ydyw'r tecaf a'r cywiraf o ddigon, yn enwedig o Feirniad Llenorol diweddar. Ceir amryw fathau o'r cyfryw Feirniad. Dyma'r rhai pennaf o honynt:

(i) Y Beirniad Clasuryddol. Seilia hwn ei farn ar ganonau a dyfarniadau ei ragflaeniaid yn yr hen oesoedd. Penderfyna werth pob darn o lenyddiaeth yn ôl yr ateb a gaiff i'r cwestiynau,—A ydyw'r gwaith yn ôl y Rheolau? A ydyw'n dyfod i fyny â'r Safon draddodiadol? A ydyw'n unol â'r Patrwm? Tebyg i farnwr mewn llys gwlad ydyw'r Beirniad hwn.

(ii) Y Beirniad Rhamantyddol. Seilia hwn ei farn ar yr argraff a wna darn o lenyddiaeth ar ei feddwl ac ar ei deimlad ef ei hun. Penderfyna werth y gwaith yn ôl yr ateb a gaiff i'r cwestiynau,—A rydd y gwaith fwynhad i mi? A ddeffry ynof ymdeimlad o brydferthwch? A ydyw'n wir i mi ac i Natur? Fel yr awgrymwyd mewn pennod flaenorol, tebyg i brofwr gwinoedd ydyw'r Beirniad hwn.

(iii) Y Beirniad Hanesyddol. Seilia hwn ei farn ar berthynas y gwaith a'i awdur ag ysbryd ac amgylchiadau yr oes a'u cynhyrchodd hwynt ill dau. Penderfyna werth y gwaith yn ôl yr ateb a gaiff i'r cwestiynau,—Sut y saif yn ei berthynas â ffurfiau ar lên a fodolai o'i flaen? Beth yw ei berthynas â ffurfiau ar lên a gydoesai ag ef, a'i ddylanwad ar lenyddiaeth yr oesoedd dilynol? Tebyg ydyw'r Beirniad hwn i ddadansoddwr fferyllol.

(iv) Y Beirniad Eneidegol. Seilia hwn ei farn ar y datguddiad a rydd y gwaith o arweddau a gweithrediadau ymwybyddiaeth ac is-ymwybyddiaeth yr awdur. Penderfyna'i werth yn ôl yr ateb a gaiff i'r cwestiynau,—Pa faint o feddwl, a theimlad a chymhellion yr awdur ei hun a gynnwys? Paham yr ysgrifennodd ar y pwnc hwn, ac yn y ffurf hon? Pa beth, iddo ef, ydyw elfennau prydferthwch? A ydyw wedi llwyddo i'w mynegi mewn geiriau cyfaddas? Yn fyr, i ba raddau y mae'r gwaith yn fywgraffiad enaid yr awdur ei hun? Tebyg ydyw'r Beirniad hwn i ddaearegydd a duria ei ardd, haen ar ôl haen, mewn ymchwil am adnoddau dirgelaf gwreiddiau, cyff, blagur, blodau, a ffrwythau popeth a dyf ynddi! Cais wybod faint o'r ddaear sydd yn y blodau a'r ffrwyth, gan anghofio cyfraniadau'r nefoedd,—pelydr yr haul, awelon y gwanwyn a'r haf, gwlith y wawr a'r hwyr, a'r cynnar a'r diweddar wlaw.

Cyfuna Beirniad Llenorol diweddar nodweddion gorau'r pedwar math uchod. Arfer ei farn fel y cyntaf, ei deimlad fel yr ail, ei wybodaeth hanesyddol fel y trydydd, a'i chwilfrydedd gwyddonol ac athronyddol fel y pedwerydd.

2. A beth ydyw cymwysterau'r cyfryw Feirniad? Ymhlith y pennaf, gellir enwi'r rhai canlynol:

(i) Gwybodaeth eang, fanwl. Dyma'r cyntaf peth sy raid i Feirniad ei feddu. Ofer a diwerth ydyw barn nas seilir ar wybodaeth ddigonol. Os bydd gwybodaeth Beirniad yn amherffaith, bydd ei farn weithiau'n anaeddfed, ac yn fynych yn annheg.

Er barnu, rhaid gwybod. Y gweithiau perffeithiaf yn hanes Beirniadaeth Lenorol ydyw eiddo Aristotl a Longinus; a'r rheswm am hynny ydyw gwybodaeth fanwl a chywir yr awduriaid hyn o holl lenyddiaeth eu hoes a'r oesau blaenorol. Fel yr hen Feirniaid hyn, dylai pob Beirniad fod yn gyfarwydd â llên, hen a diweddar, ei genedl ei hun, o leiaf. Gorau oll os gŵyr, hefyd, brif deithi llên rhai cenhedloedd eraill.

Mewn Moes a Chrefydd, y mae anwybodaeth weithiau'n esgusodi'r pechod; ond mewn llên y mae'n bechod o'r fath waethaf, yn hollol anesgusodol. Perthyn i'r un dosbarth a'r "pechod anfaddeuol."

Ar yr un pryd, dylid cofio na wna gwybodaeth, er ei phwysiced, y tro yn lle'r gynneddf feirniadol. Llawforwyn y gynneddf honno ydyw dysg.

"Pechod parod" rhai Beirniaid ydyw cam-feirniadu agweddau ar fater a ffurf gwaith ar ryw bwnc na wyddant nemor ddim am dano. Wrth gwrs, gall Beirniad call ei achub ei hun, bob amser, rhag syrthio i'r fath amryfusedd,—drwy anwybyddu'r hyn y mae'n anwybodus o hono! Nid oes eisiau gwybodaeth eang na manwl i fod yn ddistaw.

(ii) Barn bwyllog, gytbwys, annibynnol. Fel ffrwyth y cyfryw wybodaeth a myfyrdod dwys, ceir, fel rheol, farn bwyllog, gytbwys annibynnol.

Ni frysia Beirniad doeth i ddatgan ei opiniwn ar unrhyw fater; canys gŵyr ef yn well na neb mai'r gŵr a edmygo'n ddifarn ydyw'r cyntaf i gondemnio'n ddireswm. Deil y dafol yn deg; ni lwytha un glorian yn unig â diffygion nac â rhagoriaethau, yn ôl mympwy'r foment. Ac uwchlaw pob dim, arfer ryddid personol hollol ddilyffethair. Er y gŵyr am holl ogwyddiadau Ysbryd ei Oes, ymgeidw rhag gormes eu cyfaredd. Ni ddylanwada gwleidyddiaeth na diwinyddiaeth, athroniaeth na gwyddoniaeth, sect na chymdeithas ar ei farn lenorol ef. Dylai Beirniad ymgadw rhag syrthio'n ysglyfaeth i fympwy o unrhyw fath; canys pan feistroler dyn gan ryw un drych-feddwl, tuedda'n fynych i fod yn gyfyng yn ei welediad, ac yn unochrog yn ei feirniadaeth. Dylai meddwl Beirniad yn ogystal a'i fyfyrgell feddu ffenestri o risial, yn wynebu i bob cyfeiriad.

Baidd, weithiau, wahaniaethu hyd yn oed oddiwrth Aristotl a Longinus, oddiwrth Quintilian a Scaliger, oddiwrth Patrizzi a Chastelvetro, oddiwrth Dryden a Johnson, oddiwrth Sainte-Beuve ac Arnold, oddiwrth y Syr John Morris—Jones a W. J. Gruffydd, ac oddiwrth T. Gwynn Jones a Saunders Lewis. Eithr ceidw mewn cof, ar yr un pryd, fod yr hyn sy dda yng ngweithiau'r Beirniaid hyn o'r un nodwedd â'r hyn sy dragywydd yn Natur ei hun. Fel y dywedodd rhywun am y gwirionedd a drig ym marn pob doeth,—"La Mort n'y mord,"—h.y., "Angau nis cny."

(iii) Eangfrydedd a Hyblygrwydd Meddwl. Gochel Beirniad Llenorol call bob rhith o bendantrwydd, coegni, ac anffaeledigrwydd. Ceidw feddwl agored, parod i newid ei farn yn wyneb goleuni ych—wanegol ar ryw bwnc, gan gofio dywediad Cicero, "Nemo doctus unquam muta—tionem consilii inconstantiam esse dixit,—h.y., "Ni ddywedodd neb doeth erioed fod newid barn yn anghysondeb," neu yn ôl cyfieithiad rhydd M. Arnold,—Change of mind is not inconsistency." Ceir enghraifft ddiddorol o hyn yn un o lythyrau Cowper: "I have been reading Gray's works, and think him the only poet since Shakespeare entitled to the character of sublime. Perhaps you will remember that I once had a different opinion of him. I was prejudiced."

Dwg profiad helaeth o wahanol opiniynau dair bendith gydag ef: sef (a) Hyblygrwydd meddwl, (b) Ymgadarnhad yn yr opiniwn a ymddengys yn orau, a (c) Goddefgarwch yn wyneb opiniynau distadl a diwerth. Gŵyr Beirniaid diweddar sut i "oddef ffyliaid yn llawen, gan fod eu hunain yn synhwyrol," yn ôl cyngor a siampl yr Apostol Paul.

(iv) Gonestrwydd Barn a Theyrngarwch i Argyhoeddiad. Y mae elfennau personol, o angenrheidrwydd, yn bresennol ymhob beirniadaeth. Eglura J. A. Symonds yr elfennau hyn â'r diagram a ganlyn:

A B
b c d e
Saif A = yr Awdur Saif B= y Beirniad
b = ei dymheredd d= ei dymheredd
c= ei gylchfyd e= ei gylchfyd

Gwelir, felly, y cynnwys perthynas A a B, yr awdur a'r Beirniad, gyfuniad o'r elfennau b, c, d, e,—elfennau etifeddol, daearyddol, cenedlaethol, addysgol, moesol, gwleidyddol, crefyddol, llenyddol, gwydd—onol, athronyddol. Rhyfedd mor gy—mhleth yw cylchfyd pob un!

Dan ddylanwad yr elfennau amryfal hyn, y mae bron yn amhosibl i unrhyw Feirniad ffurfio barn hollol amhersonol am unrhyw waith. Am yr un rhesymau, ni chytuna dau Feirniad nemor byth yn holl fanylion eu beirniadaeth ar yr un gwaith.

Er gwaethaf y gwahaniaeth a ddichon fod yn eu tymheredd a'u cylchfyd, gall Beirniad ffurfio barn onest am waith rhyw awdur, a glynu'n deyrngarol ac anrhydeddus wrth y farn honno, er, efallai, i'w gyd-feirniaid a hyd yn oed i'w gyfeillion mwyaf mynwesol ddatgan barn wrthwynebol.

Nid yw awdur na Beirniad yn gyfrifol am eu tymheredd na'u cylchfyd; y maent, er hynny, y naill fel y llall, yn gyfrifol am eu barn,—y mynegiad o'u meddwl a'u teimlad, ffrwyth yr argraffiadau a dderbyniant oddiwrth eu tymheredd a'u cylchfyd. Y maent yn gwbl gyfrifol am onestrwydd y cyfryw fynegiad,—am gysondeb yr hyn a ysgrifennant â'r hyn a feddyliant ac a deimlant,—am gyfatebiaeth ddiamwys rhwng eu gair â'u profiad.


(v) Craffter, Bywiogrwydd a Chywirdeb Dirnadaeth, sef y gallu i wahaniaethu rhwng y gwirionedd a'i wisg, rhwng y meddwl a'i addurn, rhwng y cnewyllyn a'r mesglyn. Yn fyr, rhaid i Feirniad feddu ac arfer Synnwyr Cyffredin.[1]

(vi) Ymdeimlad o Brydferthwch. Rhaid i Feirniad, hefyd, feddu'r synnwyr arbennig a genfydd geinder ac a deimla swyn darn celfydd o ryddiaith neu farddoniaeth. Yn y Saesneg gelwir y gynneddf yn artistic sense. Drwy arfer y gynneddf hon, hefyd, y galluogir y Beirniad a'i meddo i ganfod a gwrthod popeth gwrthun,—mewn gair neu ymadrodd, mewn syniad neu awgrym, mewn ffigur neu eglureb. Fel y dywaid Ofydd, "Videt meliora probatque," h.y.," Gwêl a chymeradwya'r pethau gwell. Mewn gwirionedd, dyna ydyw prif swyddogaeth Beirniad Llenorol,—darganfod a chymeradwyo'r "pethau gwell a'r pethau gorau" mewn llenyddiaeth o bob math, hen a diweddar. Gan faint ei hoffter at brydferthwch, chwilia am gyfrinach yr awdur—y llenor neu'r bardd, a astudir ganddo, cais ei deall a gwna ei orau i'w dehongli i'r byd. Yn fyr, dyna dair agwedd ar ddyletswydd Beirniad,—chwilio, deall, dehongli yr hyn sy wir, yr hyn sy brydferth, yr hyn sy dda. Geilw Anatole France yr hoffter greddfol hwn at wirionedd, at brydferthwch ac at ddaioni, "quelque naturelle amitié pour le beau et le bien," h.y., "rhyw gyfeillgarwch naturiol at y prydferth a'r da."

(vii) Mynegiant gofalus, cryno, cynhwysfawr. Fel "Pregethwr" llys Solomon, rhaid i'r. Beirniad Llenorol "ystyried a chwilio allan, a threfnu diarhebion lawer; a rhaid iddo'n arbennig "chwilio am eiriau cymeradwy," fel y byddo'r hyn a ysgrifennir ganddo "yn uniawn, sef geiriau gwirionedd." Dylai, hefyd, gofio'r "gair doeth" hwnnw o eiddo'r Esgob Hurd: "The source of bad criticism, as universally of bad philosophy, is the abuse of terms.

(viii) Cydnawsedd Ysbryd. Ffolineb ydyw i Feirniad gymryd mewn llaw waith na fedd unrhyw ddiddordeb ynddo; a chamwri ag awdur ydyw gosod ei waith dan feirniadaeth gŵr o ysbryd hollol anghydnaws ag ef ac â'i waith. Fe gofia'r darllenydd am y myfyriwr ieuanc hwnnw,—mathematical wrangler—a ddarllenodd "Goll Gwynfa" Milton ar arch ei Athro, er adloniant i'w feddwl ar ôl ei arholiadau llethol mewn Celfyddyd Rhif a Mesur. Pan ofynnwyd iddo am ei farn ar y gerdd, atebodd: "This book is nonsense; it 'proves' nothing." Ni wybu'r myfyriwr medrus hwn—yr athrylith ddisglair hon—am linell Pope y dywaid ynddi fod yn rhaid beirniadu mewn ysbryd cydnaws ag eiddo'r awdur,—

"With the same spirit that the author writ."

(ix) Gallu i ennyn Meddylgarwch a dyrchafu Chwaeth y darllenydd. Wedi'r cwbl, dyma neges pob Beirniad cydwybodol,—deffro meddwl y darllenydd i ddirnad a barnu drosto ef ei hun; puro ei chwaeth nes ymhoffi o hono yng nghynhyrchion gorau Athrylith pob gwlad; a dehongli iddo, drwy enghreifftiau, ddeddfau cyfrin Estheteg, fel y gallo ef eu cymhwyso ei hunan pan darlleno bob ffurf ar lenyddiaeth a ddaw o bryd i bryd dan ei ddwylo.

Dargenfydd pob Beirniad, ar y dechrau, mai neges ddi-ddiolch ydyw hon. Yn wir, bydd yn dra ffodus os dianc yn ddisen; canys ni char pobl gymryd eu dysgu! Cofier sylw treiddgar Anatole France wrth un o'i gyd-feirniaid llenyddol: "Vous forcez les gens â penser, et c'est un tort qu'on ne vous pardonnera point," h.y., Gorfodi bobl i feddwl, ac y mae hynny'n fai nas maddeuir iti o gwbl."

3. Cyfieithwch a beirniedwch y dyfyniadau canlynol:

(a) A bad critic is a more dangerous person than a bad poet.

(b) (i) The popular notion of a critic is that he is a sort of "nigger"—overseer, whose business is to walk about and distribute lashes. . . The pedantic snarl is the one unpardonable sin of a critic.

(ii) Diffuseness, a bad fault everywhere, is an absolutely fatal one in critical literature that wishes to live. —G. SAINTSBURY.

(c) (i) The true critic must divest his mind from what is transient and ephemeral, must fasten upon abiding relations.

(ii) In their desire to be original, or to appear original, critics too often forget the paramount necessity of being true.

(iii) The critic is separate from the specialist in any line of art or literature or philosophy; and nothing is more false than the assumption that specialists should only be judged by specialists.

(iv) The chief danger of criticism in its present stage . . . is that the critic should be insufficiently upon his guard against subjective fancies, paradoxes of opinion, and supersubtleties of ingenuity.—J. A. SYMONDS.

(d) The corruption of a poet is the generation of a critic.—DRYDEN.

(e) (i) Poets would grow negligent if critics had not a strict eye on their miscarriages.

(ii) Critics are like wasps that rather annoy the bees than terrify the drones.—RYMER.

(f) True criticism appeals to the intellect.—C. PATMORE.

(g) Celui qui a de l'imagination sans érudition a des ailes et n' a pas de pieds: —JOUBERT.

h.y., Y mae gan y sawl a feddo ddychymyg heb addysg adanedd, eithr nid oes ganddo draed.

(h) (i) L'inspiration du critique n'a point d'ailes; mais elle marche droit et ferme: h.y.,

Ni fedd ysbrydiaeth y Beirniad adanedd; eithr cerdda'n union a chadarn.

(ii) Nous jugeons tout â notre mesure et cette mesure change sanscesse, h.y., Barnwn bopeth yn ôl ein mesur a chyfnewidia'r mesur hwn yn ddibaid.—ANATOLE FRANCE.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwêl II, 3 (ix), td. 29.