Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Rhamantyddiaeth
| ← Clasuryddiaeth | Elfennau Beirniadaeth Lenorol gan Joseph Harry |
Beirniadaeth lenorol yng Nghymru → |
V
RHAMANTYDDIAETH
1. Cyfeiriwyd droeon yn y penodau blaenorol at y mudiad a elwir Rhamantyddiaeth yn llên gwahanol wledydd a gwahanol gyfnodau. Y mae'n fudiad mor bwysig fel y gofyn ymdriniaeth helaethach er galluogi Beirniad Llenorol i sylweddoli ei werth a phrisio ei ddylanwad.
| Awdur | Oes | Ysgol | Prif Weithiau Beirniadol |
|---|---|---|---|
| Thomas Wilson | c. 1525-1581 | RI | Art of Rhetoric |
| John Cheke | 1514-1557 | RI | Beirniadaeth ar Sallust |
| Roger Ascham | 1515-1568 | CI | Toxophilus: a Schoolmaster |
| George Gascoigne | 1525-1577 | RI | Notes of Instruction |
| Edmund Spenser | 1552-1599 | CI | Five Letters |
| Gabriel Harvey | 1545-1630 | RI | Four Letters |
| Philip Sydney.. | 1554-1586 | RI | Apology for Poetry |
| William Webbe | bl. c. 1580 | CI | Discourse |
| George Puttenham | bl. c. 1580 | RI | Art of English Prose |
| Thomas Campion | 1567-1619 | CI | Observations on the Art of English Poesy |
| Samuel Daniel | 1562-1619 | RI | Defence of Rhyme |
| Wm. Alexander | 1567-1640 | CI | Anacris |
| Ben Jonson .. | 1573-1637 | CI | Discoveries (Timber, Explorata, Sylfa). |
| Wm. Davenant | 1606-1668 | R2 | Preface to Gondibart; Examen |
| John Dryden | 1631-1700 | R2 | Essay on Dramatic Poesy; Prefaces |
| Thomas Rymer | 1646-1713 | C2 | Tragedies of the last Age; Prefaces |
| Jeremy Collier | 1650-1726 | C2 | Profaneness and Immorality of the English Stage
|
| Edward Byssche | bl c 1700 | R2 | Art of English Poetry |
| Charles Gildon | 1665-1724 | C2 | Complete Art of Poetry |
| John Dennis | 1657-1734 | C2 | The Impartial Critic |
| Joseph Addison | 1672-1719 | C2 | Best Known English Poets; Spectator |
| Jonathan Swift | 1667-1745 | C2 | Battle of the Books; Tale of a Tub |
| Alexander Pope | 1688-1744 | C2 | Essay on Criticism; Imitation of Epistle of Horace |
| Hugh Blair | 1718-1800 | C2 | Lectures on Rhetoric and Belles Lettres |
| Henry Home Kames | 1696-1782 | C2 | Elements of Criticism |
| George Campbell | 1709-1796 | C2 | Philosphy of Rhetoric |
| James Harris | 1709-1780 | C2 | Philosophical Enquiries |
| Samuel Johnson | 1709-1784 | C2 | Lives of the Poets |
| Thomas Gray | 1716-1771 | R2 | Lettres; Observation; Metrum |
| Wm Shenstone | 1714-1763 | R2 | The Schoolmistress |
| Thomas Warton | 1688-1745 | R1 | Observations on the Faery Queen; History of English Poets |
| Joseph Warton | 1722-1800 | R1 | Essay on Pope |
| Richard Hurd | 1720-1808 | R2 | Lettres on Chivalry and Romance |
| Wm Mitford | 1744-1827 | R1 | Principles of Harmony in Language |
| Laurence Sterne | 1713-1768 | R1 | Tristram Shandy |
| Earl of Shaftesbury | 1671-1713 | C2 | Advice to an Author |
| David Hume | 1711-1776 | R2 | Simplicity and Refinement in Writing |
| Wm Wordsworth | 1770-1850 | R2 | Lyrical Ballads (Preface) |
| S T Coleridge | 1772-1834 | R2 | Biographia Literaria |
| Robert Southey | 1774-1843 | R2 | Reviews |
| Charles Lamb | 1775-1834 | R2 | Agnalia; Elia; Lettres |
| J H Leigh Hunt | 1784-1869 | R2 | Imagination and Fancy |
| Wm Hazlitt | 1778-1830 | R2 | Lectures on the English Poets |
| Wm Blake | 1757-1827 | R2 | Notes on Reynolds |
| Walter Scott | 1771-1832 | R2 | Romance and Drama; Periodical Criticism |
| Thomas Campbell | 1777-1844 | C2 | Lectures on Poetry |
| P Byssche Shelley | 1792-1822 | R2 | Defence of Poetry |
| W Savage Lander | 1775-1864 | C3 | Conversations |
| Francis Jeffrey | 1773-1850 | C2 | Edinburgh Reviews |
| Henry Hallam | 1777-1859 | C2 | Literature of Europe |
| John Wilson "Christopher North" | 1785-1854 | R3 | Specimens of British Critics |
| Thomas de Quincey | 1785-1859 | C2 | Rhetoric; Style |
| J Gibson Lockhart | 1794-1854 | R1-C2 | Peter's Lettres; Reviews |
| Hartley Coleridge | 1796-1849 | R2 | Biographia Borealis Northern Worthies |
| George Brimley | 1819-1857 | C3 | Essays; Poetry and Criticism |
| E S Dallas | 1828-1879 | C3 | The Gay Science |
| M Arnold | 1822-1888 | C3 | Preface (1853); Essays in Criticism |
| Walter Pater | 1839-1894 | R3 | Studies in the History of the Renaissance |
| J A Symonds | 1840-1893 | R3 | Essays Speculative and Suggestive |
| Henry Duff Traill | 1842-1900 | R3 | The New Fiction |
| Edmund Gurney | 1847-1888 | R3 | Power of Sound; Appreciation of Poetry |
| G Saintsbury | 1845- | R£ | History of Criticism |
"Byw a fedraf heb fodrwy,
Ar fy mys nis rhof hi mwy."
3. Prif Erthyglau Credo Rhamantyddiaeth.
(i) Rhaid astudio pob cyfnod o lenyddiaeth. Meddant oll wersi i'r Beirniad.
(ii) Ni all un cyfnod o lenyddiaeth roddi gorchymynion i gyfnod arall. Medd pob cyfnod ei ddeddfau ei hun. Gellir, wrth gwrs, gael deddfau cyffredinol a gynnwys reolau y naill gyfnod a'r llall.
(iii) Ni ddylid lluosogi rheolau'n ddianghenraid. Dylid sylfaenu unrhyw reolau a wneir ar Arfer yr awduron gorau mewn barddoniaeth a rhyddiaith a berthyn i bob cyfnod.
(iv) Nid yw "Unoliaeth" ei hun yn "Unffurfiaeth." Amrywia yn ôl y Math o farddoniaeth, ac weithiau o fewn y Math ei hun.
(v) Nid yw y Math ei hun ychwaith yn anghyfnewidiol; cwyd is-fathau'n fynych.
(vi) Rhaid barnu lên, fel popeth arall, wrth ei ffrwyth. "A gasgl rhai rawnwin oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall?"
(vii) Rhoddi mwynhad ydyw amcan llenyddiaeth. Ei henaid ydyw Dychymyg; ei chorff ydyw Arddull.
(viii) Y mae'r profiadau o hoffter a boddhad yn ffeithiau mewn Beirniadaeth i bob darllenydd.
(ix) Nid yw'r testun o bwys; y pennaf peth ydyw'r Ymdriniaeth.
(x) Nid yw llên yn ddarostyngedig i ddeddfau Moesoldeb; y mae, er hynny, i ddeddfau Moesau Da. Nid yw'n angenrheidiol bod bardd da neu ysgrifennydd rhyddiaith dda'n ddyn da; gresyn, ysywaeth, na fyddai.
(xi) Cymhwyster cyntaf Beirniad ydyw gallu i dderbyn argraffiadau, a'r ail ydyw gallu i'w mynegi.
(xii) Ni all dim aflun nac aflan fod yn brydferth. Fe'i cyfiawnha ac fe'i rheoleiddia Prydferthwch ei hun bob amser.
(xiii) Ymhob oes, gofyn Athrylith am argraffiadau synhwyrus newyddion, pleserau meddyliol newyddion, ffurfiau mynegiant newyddion. Fel Rousseau dywaid: "Je ne suis fait comme aucun de ceux que j'ai sus. Mais si je ne vaux mieux, au moins je suis autre," h.y., "Ni'm gwnaethpwyd fel neb a welais erioed. Eithr onid wyf yn well, yr wyf, o leiaf, yn wahanol." Dyna arwyddair Rhamantyddiaeth ar hyd yr oesau,—"Yr wyf, o leiaf, yn wahanol."
4. Hawlia Rhamantyddiaeth famiaith y genedl fel cyfrwng llenyddol. Dyma'i brwydr gyntaf yn hanes llên pob cenedl. Tybid gynt fod Groeg a Lladin yn rhagori ar fam—iaith pob cenedl arall yn Ewrop,—mewn urddas, mewn nerth, mewn coethder, mewn prydferthwch; ac mewn canlyniad esgeulusid a dirmygid Iaith y Werin gan bobl o ddiwylliant. Defnyddiai gwŷr o Athrylith y Lladin fel eu hiaith lenyddol ymhob gwlad yn Ewrop. Fel y gwelir oddiwrth y tabl ar td. 51, canfu Dante ffolineb y fath arferiad, ac ysgrifennodd ei lyfr "De Vulgari Eloquio"=Iaith y Werin,"—o blaid defnyddio iaith gyffredin yr Eidal mewn llenyddiaeth. Gan mai apêl at bobl ddysgedig ydoedd, ysgrifennodd y llyfr yn y Lladin; ond pan ymgymerodd a chyfansoddi ei orchestwaith barddonol—"La Divina Commedia"—ysgrifennodd yn yr Eidaleg, iaith ei famwlad. Ymladdwyd yr un frwydr yn Ffrainc, yn yr Ysbaen, yn yr Almaen, ac yn Lloegr. Nid yw'r frwydr ar ben eto yng Nghymru,—ac nid oes broffwyd a wŷr pa hyd y pery'r frwydr ychwaith. Ymddengys rhai o Athrawon y Brifysgol dipyn yn ansicr ar y mater, canys cyhoeddant eu llyfrau weithiau yn y Saesneg, ac weithiau yn y Gymraeg; e.e., "A Welsh Grammar" a "Cerdd Dafod" gan y Syr John Morris—Jones, "A School of Welsh Augustans" a "Pantycelyn" gan Saunders Lewis.
Y mae, fodd bynnag, yn llawenydd i bob llenor yng Nghymru pan welo gymaint o ffrwyth y Dadeni Diweddaraf, yn arbennig yn yr ymgais dra lwyddiannus a wneir gan gynifer o ysgrifenwyr galluog i ysgrifennu eu hiaith eu hunain gyda'r un medr ag yr ysgrifennai llenorion Groeg a Rhufain yr eiddynt hwy yn y dyddiau gynt, a chyda'r un ystwythder ag yr ysgrifenna Llenorion Ffrainc, yr Eidal, a Lloegr yr eiddynt hwythau. Pan feddianner cenedl gan Ysbryd Rhyddid a Rhamant, daw hoywder i'w meddwl a gloywder i'w hiaith.
5. Bu pob darn o gelfyddyd yn rhamantaidd yn ei ddydd. Bu cerddi Homer a cherfluniau Pheidias i gyd yn newydd a nwyfus, rywbryd, yn eu hanes. Cynhyrfent, y pryd hwnnw, deimladau dieithr a phleserus yn eu hedmygwyr; bodlonent yr ysbryd rhamantaidd yn oes eu creadigaeth. Felly, hefyd, am weithiau Aeschylus, Sophocles, ac Euripides; Herodotus a Xenophon; Fyrsil, Horas a Livy; a phob gwaith arall a ddaeth, yng nghwrs amser, yn glasurol. Rhamantydd, yn ddiau, ydoedd y bardd a ganfu Wener gynt, am y tro cyntaf, yn codi o ewyn y môr; a Rhamantydd, hefyd, ydoedd y cerflunydd a'i corfforodd gyntaf yn ei holl brydferthwch mewn mynor gwyn.
6. Gwerth Clasuron Rhamantyddiaeth. Ceir, felly, nifer fawr o orchestweithiau a ddengys yr un nodweddion hanfodol â chlasuron yr Hynafiaid a nodwyd yn adran II, 3 (viii), td. 27. Amrywiant lawer yn eu natur a'u ffurf; trig ynddynt, er hynny, " ysbryd y peth byw" a roes fodolaeth i'r clasuron hynaf. Dewis Awen pob cyfnod ei gwisg briod ei hun; fel "tecaf morwyn yn y byd,"—chwedl y Mabinogion,—dewis, gan mwyaf, wisg o bali llathr." Fel Awen Dryden a ddisgrifiwyd mor hapus gan Addison,—
"She wears all dresses, and she charms in all."
Oni weithio dan reol, hen neu ddiweddar, try'r Athrylith hoywaf, fodd bynnag, yn anhywaith, fel anner heb iau. Y gwir ydyw bod yn rhaid i Athrylith o bob math weithio o fewn terfynau, dan amodau, yn ôl rhyw reolau. Darganfu Goethe, Athrylith Rhamantaidd bennaf ei oes, y gwirionedd hwn, a chrynhôdd ei brofiad o hono yn y cwpled,—
"Wer grosses will muss sich zusammenraffen,—
In der Beschränkung zeigt sich erst der Meister."
h.y.,
A fynno lwydd a'i tyn ei hun ynghyd,—O fewn rhyw ffin y tyf meistradoedd byd."
Dante ydoedd yr Athrylith fwyaf rhwng Homer a Shakespeare. Yn ei lyfr "De Vulgari Eloquio," y cyfeiriwyd ato mewn paragraff blaenorol, gesyd bwyslais arbennig ar gywirdeb iaith, coethder ymadrodd, arddull gain, a pherseinedd odl mewn barddoniaeth. Dengys hanes llên yr ennill gweithiau'r sawl a ddilyno egwyddorion sylfaenol Rhamantyddiaeth, fel Dante a Goethe, safle uchel ymhlith y cynhyrchion a elwir yn "glasurol"; canys cydnebydd yr holl fyd llenyddol y perthyn prif weithiau'r ddwy athrylith hyn, er y gwahaniaethant yn ddirfawr oddiwrth ei gilydd a'r Hynafiaid yn eu mater a'u ffurf, i'r dosbarth uchaf o lenyddiaeth; h.y., i'r un dosbarth â Chlasuron yr Hynafiaid. Clasuron Rhamantyddiaeth ydynt.
Ceir ynddynt nid yn unig yr un nodweddion, gan mwyaf, â'r hen glasuron, eithr, hefyd, nodwedd briod iddynt hwy eu hunain, sef, chwilfrydedd am brofiadau dieithr. Corfforant Brydferthwch a Dieithrwch; a'r cyfuniad hwn ydyw eu nodwedd wahaniaethol. Fel y dywaid W. Pater: "The essential elements of the Romantic Spirit are curiosity and the love of beauty."
Pan ystyrier nifer a gwerth cynhyrchion yr Ysbryd Rhamantyddol yn llenyddiaeth pob cenedl mewn rhyddiaith a barddoniaeth, a'i orchestion mewn Celfyddyd yn gyffredinol rhaid dyfod i'r casgliad ei fod wedi ei gyfiawnhau ei hun ers canrifau; a phan gofier, yn arbennig, am yr amrywiaeth diderfyn o ffurfiau newyddion a grewyd gan athrylith farddonol yr oesau diweddar, teimlir awydd gofyn gyda S. T. Coleridge: "Why pass an Act of Uniformity against the poets?"
7. Gwrth-ddadleuon yn erbyn Rhamantyddiaeth. O bryd i bryd, gwrthwynebir llenyddiaeth a Beirniadaeth Rhamantyddol â'r dadleuon a ganlyn:
(i) Onid yw maen praw Beirniadaeth Rhamantyddol yn ansefydlog, yn ansicr, ac oblegid hynny'n anfoddhaol? Os y mwynhad a ddyry darn o lenyddiaeth sydd i benderfynu ei werth, cyfyd y cwestiwn ar unwaith," Mwynhad i bwy?" Boddheir plant ac ieuenctid dibrofiad a phobl anniwylliedig yn gyffredinol, yn fynych, gan lenyddiaeth wael. A yw eu boddhad a'u barn hwy'n gyfwerth â boddhad a barn llenor o brofiad?
(ii) Onid oes braw sicr, uwchlaw amheuaeth, yn bosibl,—praw na ddibynna ar dymheredd personol?
(iii) Wele, mor anghyson ac aflywodraethus ydyw gwahanol bleidiau Rhamantyddiaeth!
(iv) Ni ddigonir fyth y wanc anniwall am newydd-deb.
(v) Y mae gorhyder rhai Rhamantyddwyr, weithiau, yn annioddefol. Tybiant eu bod hwy a'u cyfoeswyr yn llawer doethach na'r tadau. Wrth glywed eu lleferydd a darllen eu gweithiau, gellid meddwl mae hwynt-hwy ydyw'r "cyntaf dynion," ac mai gyda hwy y ganed doethineb. Mae eu hanffaeledigrwydd lawer pryd yn fwy nag eiddo'r Hynafiaid, druain!
(vi) Syrth Rhamantyddiaeth beunydd, gorff ac enaid, yn ysglyfaeth i Ysbryd yr Oes,—y Zeit-Geist, gefell Mephistopheles. A dyma'r ffurf waethaf ar feddiant cythreulig,—y ffurf a yrrodd foch Gadara gynt yn bendramwnwgl dros y dibyn i'r môr!
Bu adeg pan ddyfalai Beirniaid Rhamantyddol am atebion i'r gwrth-ddadleuon uchod; erbyn hyn, fodd bynnag, chwarddant yn eu hwyneb ac ânt ymlaen â'u gwaith; canys, fel yr Atheniaid gynt, "ni chymerant hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd."
8. Cyfuniad o'r Ddwy Elfen ydyw'r Delfryd Gorau i Feirniad Llenorol. Cyfunir elfennau gorau Clasuryddiaeth a Rhamantyddiaeth gan rai awduriaid,—cywirdeb iaith, coethder arddull, purdeb chwaeth, a hoenusrwydd ysbryd y naill â meddwl chwilfrydig, awen anturiaethus, dychymyg hoyw, a nwyfiant ysbryd y llall. Llwyddodd Goethe, er enghraifft, i wneuthur hyn, yn ei fuchedd ac yn ei weithiau. Cyfunodd antur ac amrywiol agweddau eneidegol Rhamantyddiaeth â gloywder, rhesymoldeb ac awyddfryd am brydferthwch Clasuryddiaeth; unodd mewn glân briodas Ysbryd Rhamant â Diwylliant Helenaidd,—y briodas honno rhwng Faust a Helena y ganwyd o honi'r plentyn prydferth Euphorion,—Celfyddyd y 19 ganrif. Rhoes Clasuryddiaeth y pwyslais i gyd ar efelychu Natur; rhydd Rhamantyddiaeth y pwyslais ar y Natur Ddynol; cyfunodd Goethe'r ddau bwyslais. Ac ymddengys i mi mai dyna'r llwybr mwyaf llwyddiannus a diogel i Feirniad Llenorol diweddar i'w gerdded. Ni thâl anwybyddu'r naill Natur na'r llall; bodola'r ddwy; a hawliant sylw ac ystyriaeth pob llenor, pob bardd, a phob Beirniad, a phob artist arall, hefyd, o ran hynny.
Camsyniad, yn ddiddadl, ydyw anwybyddu cynhyrchion llenyddol yr Hynafiaid, a ffolineb ydyw eu dirmygu. Camsyniad mwy ydyw dwrdio beirdd a llenorion ieuainc am eu gogwyddiadau Rhamantyddol; ac ynfydrwydd o'r fath waethaf ydyw pentyrru marwor tanllyd ar eu pen yn y byd hwn, a bygwth cafod o wreichion Gehenna arnynt yn y byd arall. Rhodder rhyddid i bob Athrylith, o bob oed, i feddwl a theimlo a barnu drosti ei hun, ac i fynegi ei gweledigaethau a'i phrofiadau ei hun yn ei hiaith ei hun. Cafodd pob Athrylith yn oesoedd cynharaf y byd y cyfryw ryddid; ac am y rheswm hynny, o bosibl, y gwnaethant gystal gwaith.
9. I ba ysgol y perthyn y golygiadau canlynol? Cyfieithwch a beirniedwch hwynt:
(a) This poem has no beginning, no middle, and no end.
(b) The theory of imitation is now utterly exploded.—E. S. DALLAS.
(c) The poet must leave the exhausted past and fix his attention on the present.
(d) The Greeks regarded the whole, we the parts.—M. ARNOLD.
(e) We believe in the brilliant things that arise under the poet's pen as he goes along.
(f) Open almost any two pages out of three in Shakespeare, and "the grand style" smites you in the face as God's glory smote St. Stephen's.—G. SAINTSBURY.
(g) Give me the steed Whose generous efforts bore the prize away, I care not for his grandsire or his dam.—JAMES HURDIS.
(h) (i) What we have to do is to be for ever curiously testing new opinions, and courting new impressions, never acquiescing in a facile orthodoxy of Comte, or of Hegel, or of our own.
- (ii) Not the fruit of experience, but experience itself is the end.
- (iii) At its best, Romantic literature in every period attains classical quality.
(iv) The demand of the intellect is to feel itself alive.—W. PATER.
(i) (i) It is possible to do great work for art through many different styles, and with very various technical equipments.
- (ii) Art flourishes best where the free play of personality is possible.
- (iii) Art should be free in its choice of subject, free in its choice of style.
(iv) The conflict of Romanticism with Classicism liberates taste.—J. A. SYMONDS.
(j) (i) The true critic asks himself the question,—" Do I think this good or bad?"—not Is it good or bad according to this or that scheme or schedule?'
- (ii) It is rare to find two critics of competence liking the same things; it is rarer still to find them liking the same things for the same reasons.—G. SAINTSBURY.
(k) If things are found to please, they cannot be faults; let the pleasure which they produce be ever so unexpected and unaccountable.—HUME.
(1) (i) Je ne crois pas que les formes du beau soient épuisées et j'en attends de nouvelles; h.y., Ni chredaf y dihysbyddwyd ffurfiau prydferthwch, a disgwyliaf am rai newyddion.
- (ii) Un grand artiste porte en soi l'instinct généreux de la vie. Il crée et ne detruit pas; h.y., Dwg artist mawr ynddo ef ei hun reddf hael bywyd. Crea ac ni ddinistria.
- (iii) L'humanité, quand elle se sentait jeune, donnait une âme â toutes choses; h.y., Pan deimlai dynoliaeth yn ieuanc, rhoddai enaid ymhob peth.—ANATOLE FRANCE.