Neidio i'r cynnwys

Elfennau Beirniadaeth Lenorol/Safonau beirniadaeth lenorol

Oddi ar Wicidestun
Beth ydyw beirniadaeth lenorol? Elfennau Beirniadaeth Lenorol

gan Joseph Harry

Cymwysterau beirniad llenorol

II SAFONAU BEIRNIADAETH LENOROL.

1. Oddiwrth y dyfyniadau a roddwyd ar ddiwedd y bennod flaenorol, gwelir bod lle i amrywiaeth barn ynglŷn â Safonau Beirniadaeth Lenorol; cymharer, er enghraifft, olygiadau Gosse (a), Amiel (c), Saintsbury (d), ac Anatole France (i). Dywaid yr olaf yn bendant nad oes i Feirniadaeth Lenorol ddeddfau sicr na barnedigaethau digyfnewid. Heb ddeddfau diffael, pa fodd y bernir yn ddifai? Heb Safonau sefydlog, cydnabyddedig, pa werth sydd ym meirniadaeth neb pwy bynnag? Heb ryw fath o awdurdod derfynol, ni chynnwys Beirniadaeth Lenorol, medd rhai, namyn cruglwyth anhrefnus ac anghyson o fympwyon personol. Pan anwybydder deddf, gwna pob un yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ei hun, gan ddadlau mewn hunan-amddiffyniad,—"Ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf."

2. Cydnabyddir heddiw yn dra chyffredinol fod deddfroddwyr llenyddol o ddyddiau Aristotl a Horas wedi gormesu gormod ar blant yr Awenau. Llyffetheirid hwynt gan reol a fformiwla o'u crud i'w coffin: e.e., mewn hen lawlyfrau ar farddoniaeth y drefn oedd,—Rheolau, Goddefiadau, Gwaharddiadau. Uchelgais bardd oedd gweithio o fewn terfynau'r traddodiadiau hyn. Mynnai ei Awen, fodd bynnag, yn awr ac eilwaith, ymegnïo at rywbeth amgenach—fel y dywed Pope—

"To snatch a grace beyond the reach of art."

Fe gofia'r darllenydd am wrthryfel Islwyn yn erbyn caethiwed y Rheolau:

'Barddoniaeth, O Farddoniaeth Pwy a roddes
I neb awdurdod ar y fath angyles
I bennu dy derfynau? Ymaith, Reol!"


3. Dylid cadw mewn cof, fodd bynnag, nad yw Beirniadaeth Lenorol mor ddiddeddf nac mor ddi-safon ag y maentumia rhai gwrthryfelwyr llenyddol diweddar. Beth am y Safonau a ganlyn?

(i) Cywirdeb Iaith: (a) Orgraff (b) Gramadeg (c) Cystrawen (d) Priod-ddull. Iaith ydyw'r cyfrwng a ddefnyddir gan y llenor a'r bardd i'w mynegi eu hun,—i gyflwyno'u teimladau a'u meddyliau i eraill. I wneuthur hynny'n artistig, rhaid arfer ffurfiau ar eiriau ac ymadroddion a brawddegau a ddeëllir gan eu darllenwyr; h.y., rhaid i'w hiaith gydymffurfio â rheolau ac â theithi cydnabyddedig yr iaith honno. Gellir, gan hynny, farnu eu gwaith wrth y safon elfennol hon. Ar yr un pryd, na cham-gymerer cywirdeb iaith yn unig am berffeithrwydd llenyddol.

(ii) Medruster Crefft. Mewn barddoniaeth, yn arbennig, ceir rheolau pendant ynglŷn à (a) Mesur (b) Corfan (c) Odl (d) Cynghanedd.

Wrth gwrs, y mae i bob bardd ryddid hollol i ganu ar y Mesur a'r Corfan a fynno, gan ddefnyddio'r Odlau a'r Cynganeddion a fo'n boddhau ei glust; neu fe all ddewis eu gosod oll o'r neilltu a chanu yn ôl ei ffansi, a gyrru ei ganig, fel cwch, i'r ystorm sydd yn sicr o ruthro arni. Tra ceisio ef addurniadau cerdd dafod,—tra cano ef mewn Mesur, etc.—disgwylir iddo gadw y rheolau ynglŷn â hwynt; ac nid oes ganddo le i gwyno na melltithio pan feirniedir ei waith gan ei ddarllenwyr yn ôl y Safon sicr hon. Yn wyneb rheol bendant, gorchwyl hawdd i unrhyw ddarllenydd craff ydyw ateb y cwestiwn—A yw'r peth yn gywir neu'n anghywir? A yw yn unol â'r rheol ai nid yw?

(iii) Coethder Arddull. Gŵyr pob llenor mai Arddull ydyw'r anhawsaf i'w deffinio, a hyd yn oed i'w hegluro, o holl nodweddion darn o lenyddiaeth. Teimla pawb, er hynny, swyn cyfrin "y peth yma" fel dylanwad yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost, gan ei gydnabod fel un o anhepgorion pwysicaf pob ffurf ar lên.

Amrywia Arddull awduriaid oblegid nifer a achosion; e.e.,

(a) Yn ôl natur athrylith cenhedloedd a theithi eu hiaith.

(b) Yn ôl natur athrylith yr awdur a ddefnyddio'r iaith honno.

(c) Yn ôl natur y mater yr ymdrinir ag ef.

(d) Yn ôl yr amcan mewn golwg yn yr ymdriniaeth.

Os addysgu ydyw'r amcan, ysgrifennir Rhyddiaith; os diddori, Barddoniaeth; ac os darbwyllo, Rheitheg. Megis y dywed Anatole France: "Il n'y a pas qu'un langage propre à une epoque. Il y a un langage propre à chaque écrivain de genie. Sa façon était bonne, mais il se trompait en croyant qu'elle était la seule bonne": h.y., "Nid oes namyn un iaith briod i bob cyfnod. . . . Y mae iaith briod i bob ysgrifennydd o Athrylith. Yr oedd ei Arddull ef yn dda, eithr fe'i twyllodd ei hun wrth gredu mai honno ydoedd yr unig Arddull dda."

Er yr holl amrywiadau uchod, edwyn teimlad pob darllenydd, a chydnebydd barn pob llenor Arddull goeth pan ddelont dan ei swyn; ac ystyriant eu profiad o'r "peth byw " yn safon i feirniadu wrthi pan osoder gwaith llenyddol newydd yn eu dwylo.[1]

(iv) Purdeb Chwaeth. Math o gydwybod lenorol ydyw Chwaeth bur. Gwahaniaetha rhwng prydferthwch a hacrwch, dewis bethau heirdd a gwrthyd bethau gwrthun; hawlia "wefus bur" a "chalon lân" yn y llenyddiaeth a hoffir ac a gymeradwyir ganddi.

Cydnebydd Cydwybod safon ym myd Moes a Chrefydd; gwahaniaetha rhwng y da a'r drwg. Ar ôl nifer o arbrofion personol, dargenfydd ei pherchennog, hwyr neu hwyrach, y cyd-dystiolaetha â chydwybodau goreugwyr ein hiliogaeth,—patriarchiaid a phroffwydi, salmwyr a saint yr oesau. Yna ffurfia'i brofiad ef ei hun ynghyda'r cyd-dystiolaethau lluosog hyn gorff o wybodaeth ymarferol a wasanaetha fel maen-praw, fel safon, yn wyneb argyfyngau dyrus bywyd o ddydd i ddydd.

Symbylir a safonir Deall dyn gan orchestweithiau meddyliol, fel y ceir hwynt mewn cyfrolau yn delio â Rhesymeg, Mesuroniaeth, Gwyddor, ac Athroniaeth.

Symbylir a safonir Ewyllys dyn gan y cymhellion aruchelaf a weithredai yn hanes dewrion y ffydd ac arwyr y gad fel y cofnodir hwynt yn ysgrythurau gwahanol grefyddau, ac yng nghroniclau rhyfeloedd gwahanol wledydd, hen a diweddar. A symbilir a safonir Teimlad a Chwaeth dyn gan gynhyrchion aeddfetaf plant yr Awen Wir, fel y ceir hwynt mewn llên a chân, mewn llun a lliw. Yn y modd hwn y tyf ac yr ymddatblyga Cydwybod Esthetig y bardd a'r llenor, oni wypo, megis drwy reddf, pa bethau sydd bur, pa bethau sydd hawddgar, pa bethau sydd ganmoladwy." [2]

(v) Gwerth y Meddylwaith. Seilir pob gwaith llenyddol, fel popeth a lunia Celfyddyd, ar feddylwaith i raddau mwy neu lai. Yn wir, dyna nôd angen Celfyddyd yn ei holl ganghennau,—sef, ymgais i fynegi meddyliau a theimladau dyn mewn ffurfiau prydferth.

A chymryd barddoniaeth yn enghraifft, gellir egluro hyn fel y canlyn:

Os saif A1 A1, A1, . . . am wrthrychau a gweithrediadau Natur,

A2 A2 A2 . am argraffiadau, meddyliau, a theimladau dyn yn eu gŵydd,

A3, A3, A3, . Am fynegiadau o'r cyfryw mewn cerddi gan fardd,

yna, nôd pennaf Celfyddyd ydyw gofalu bod y gyfres A2, A2, A2, .yn ffrwyth sylwadaeth fanwl a chywir o brif nodweddion A1, A1, A1,. a bod A3, A3, A3, yn adgynhyrchion ffyddlawn a phrydferth o A2, A2, A2, . . . I'r graddau y llwydda'r bardd i wneuthur hyn, i'r graddau hynny'r ystyrrir ei waith yn gelfydd, neu'n ddarn o gelfyddyd.

-

Pan fo A3=A2=A1, ceir gorchestwaith perffaith.

Gyda llaw, sylwer y dilyn creadigaethau bardd yr un drefn â chreadigaeth Duw,—"Yn gyntaf yr anianol, ac wedi hynny'r ysbrydol."

Fel eglureb, darllener "Mab y Mynydd,"—cerdd yng Nghaniadau'r Allt gan Eifion Wyn. Sonnir yn y gerdd hon am amryw wrthrychau a gweithrediadau Natur: e.e., mynydd, lluwch, gwynt, ci, gwaed, bugail, glas y nef, gwawr, creyr, ceunant, defaid, llechwedd, dôl, sidan, ŵyn, myllt, marian, hyrddod, nant, maen, mynor, torch, blodau, beddrod, grug. Dyma A1 A1 A1. Parodd pob un o'r gwrthrychau hyn argraffiadau, meddyliau, a theimladau yn ysbryd y bardd. Dyma A2 A2 A2 . . . Dan eu swyn corfforodd y bardd yr arweddau hyn (A, A, A, . . .) ar ei ymwybyddiaeth mewn geiriau cyfaddas, ffigurau awgrymiadol, a brawddegau llawn teimlad, a'r cwbl mewn penillion llawn o fiwsig, mewn cerdd lawn o brydferthwch. Dyma A3 A3 A3. Gwelir bod i'r safon hon ran o sefydlogrwydd Natur, y sydd, fel ei Hawdur, "Yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Barned y darllenydd drosto ei hun pa mor agos y daw A3 i A1. Yr agosrwydd hwn i'r safon yw gwerth y gerdd.

(vi) Gwreiddioldeb y Gwaith. Wrth farnu'r meddyliau a'r teimladau a fynegir, y cynllun a ddilynir, a'r modd y gwneir y gwahanol adrannau'n is-wasanaethgar i'r diweddglo a gyrhaeddir, gellir darganfod ai gwreiddiol ai efelychiad yw'r gwaith, a red y ffrwd o ffynnon y mynydd neu o lyn y gwastadedd.

Cymer Beirniaid Llenorol diweddar bob gwaith newydd i'w law â meddwl agored, yn barod i dderbyn unrhyw argraffiadau a fynno'r awdur eu gwneuthur arnynt, heb ragfarn o gwbl yn erbyn y newydd nac yn ffafr yr hen. Gwyddant oll nad yw hyd yn oed Homer a Fyrsil, Dante a Shakespeare, Dafydd ap Gwilym ac Islwyn wedi dihysbyddu cyfrinion yr Awen." Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae'n dyfod, nac i ba le y mae'n myned;" felly y mae pob un a enir ag Athrylith ynddo. Ni ŵyr neb pa ffurf lenyddol a gymer Athrylith; ac oblegid hynny, ni ellir gosod i lawr restr o reolau anffaeledig ynglŷn â mathau o lên, fel y gwnaeth Beirniaid y cynoesoedd, gan gyfyngu perffeithrwydd llenyddol o fewn cylch y cyfryw fathau. Dylid cofio nad cynnyrch cyd-ymffurfiad â safonau neilltuol, yn bennaf, ydyw prydferthwch Llenyddol,—nac unrhyw fath o brydferthwch, o ran hynny.

Am y rheswm hwn, ni ddylid beirniadu'n gyfangwbl ffurfiau ar lenyddiaeth wrth safonau clasuron Groeg a Rhufain. Fel y dywedodd Esgob Hurd (1720—1808):

"If you judge Gothic Architecture by Grecian rules, you find nothing but deformity, but when you examine it by its own the result is quite different."

Mewn llenyddiaeth ddiweddar, arferir ffurfiau ar farddoniaeth, rhyddiaith a Drama nas ceir mewn llên hynafol,—rhai ffurfiau na wyddai Aristotl, Longinus a Horas ddim byd am danynt. Ergyd hapus a llednais oedd hwnnw o eiddo Dryden: Had Aristotle seen our plays, he might have changed his mind." Y mae math newydd, a ffurf newydd ar lên o hyd yn bosibl.

(vii) Barn Ddiwylliedig. Ceir ymhob gwlad ac ymhob cyfnod nifer o bobl oleuedig

sydd a'u hewyllys" yn llên eu cenedl—eu hun ac eiddo cenhedloedd eraill, ac "yn myfyrio yng nghynhyrchion Athrylith "ddydd a nos.

Drwy gyfrwng erthyglau ac adolygiadau ar lyfrau, ymffurfia'r myfyrwyr diwyd a doeth hyn, megis heb yn wybod iddynt eu hunain, yn fath o Lys Llên, gan ddatgan barnedigaethau pwyllog ar ffurfiau neilltuol ar lenyddiaeth, ac ar bynciau a berthyn i lenyddiaeth yn gyffredinol. Er yn annelwig, heb ganddo na man cyfarfod nac enw o fath yn y byd, gwasanaetha'r Llys hwn amcanion pwysig; e.e.:

(a) Corffora opiniwn ddiwylliedig.

(b) Diogela hynawsedd llenorol,—yr hyn a eilw Matthew Arnold yn urbanity.

(c) Crea a cheidw awyrgylch lenorol bur.

(d) Hyrwydda ffurfiau ar ddiwylliant a ennill serch a theyrngarwch pawb a ddêl o fewn cylch ei ddylanwad.

(e) Goleua farn a chydwybod lenorol cenedl.

(f) Yn fyr, gesyd safon i feddwl a theimlad a barn pob ymgeisydd am sylw y cyhoedd at ei waith.

Yn Ffrainc, cymerth y Llys hwn, yn y flwyddyn 1635 drwy orchymyn y brenin, ffurf weledig, gorfforol, dan yr enw l'Académie française; ac y mae wedi parhau mewn bod ac mewn gwaith, er holl chwyldroadau politicaidd a chymdeithasol y wlad, oddiar y pryd hwnnw hyd heddiw. I waith aelodau dysgedig y sefydliad hwn, yn feirdd a llenorion o fri a barn, y priodolir ystwythder, bywiogrwydd a chymhwyster yr eang Ffrangeg," 'iaith y bardd a'r gŵr bonheddig," fel cyfrwng llenyddol nad oes ei ragorach yn y byd.

(viii) Clasuron, Hen a Diweddar. Medd llenyddiaeth pob iaith nifer o weithiau a ystyrrir yn batrymau o fynegiant meddwl a theimlad, a astudir o oes i oes oherwydd y swyn arhosol sydd ynddynt.

Beth sy'n cyfrif am eu hireidd-der a'u newydd-deb digyfnewid? Dyma rai o'r atebion y gellir eu rhoddi:

(a) Ymdriniant â rhyw wirioneddau cyffredinol (universal truths); nodweddir hwynt gan absenoldeb popeth lleol, plwyfol,—"the absence of the note of provinciality," ys dywaid M. Arnold.

(b) Portreadant ryw brofiadau elfennol.

(c) Cyfleant y cyfryw wirioneddau a phrofiadau mewn iaith seml, arddull goeth, ac awyrgylch gydnaws.

(d) Deffrôant a diddorant ddarfelydd a dychymyg myfyrwyr o genhedlaeth i genhedlaeth.

(e) Cadwant eu rhinweddau esthetig,—ni ddiflanna arogl eu pêrlysiau, ac ni phaid eu melwlith na haf na gaeaf.

(f) Safant braw Beirniadaeth a Phrofiad o oes i oes,—ym mhob gwlad, ym mhob iaith. Heb gaethiwo Athrylith na barn, apeliant at natur orau pawb, at ddeall, ewyllys, neu serch darllenydd pob cyfnod. Yn fyr, safonant ei feddwl, ei deimlad a'i farn.

Cyfeiliornad Beirniadaeth Lenorol o'r hen ffasiwn ydoedd tybio mai clasuron Groeg a Rhufain oedd yr unig weithiau o'r fath, a'u hystyried, mewn canlyniad, fel yr unig batrymau llenyddol. Y mae Beirniadaeth Lenorol ddiweddar, fodd bynnag, wedi llwyr chwilfriwio'r dyb hon. Addefir, bellach, y ceir gorchest weithiau a fedd yr holl nodweddion uchod, (a)-(f), mewn amseroedd diweddarach, a hyd yn oed "yn y dyddiau diweddaf hyn,' gweithiau a restrir, fel yr hen glasuron, gyda'r pethau a erys yn drysorau'r ddynoliaeth am byth. Deuant dan ddisgrifiad Saintsbury: "All masterpieces of art, small or great, move and have their being, 'sub specie aeternitatis'; ac oblegid hynny, caiff pob llenor a beirniad, hwyr neu hwyrach, brofiad M. Arnold: "The more we know about a classic, the more we shall enjoy it."

(ix) Synnwyr Cyffredin. Wrth synnwyr Cyffredin golygaf y gallu i adnabod y natur ddynol, craffter i sylwi ar ymddygiadau pobl, ac i ddyfalu eu cymhellion, y gallu i bwyso tystiolaethau, a thynnu'r casgl- iadau cywir oddiwrthynt. Pe llefarai Beirniad â thafodau dynion ac angylion a gwybod o hono'r dirgelion oll a phob gwybodaeth, . . . a heb fod ganddo synnwyr cyffredin, y mae fel efydd yn seinio neu symbal yn tincian. Rhaid i bob gwaith llenyddol ddal praw'r craffaf ei lygad a'i glust, a barn y symlaf a'r diniweitiaf ei galon. Y mae llawer o wirionedd yn sylw J. A. Symonds: A sensible unlettered girl is a better critic than the learned simpleton who uses the stores of a vast library to bolster up some baseless paradox." Yn wir, gellir disgrifio'r gynneddf feirniadol fel dirnadaeth ddiwylliedig mewn person a gynysgaeddwyd â Synnwyr Cyffredin ac â dychymyg iach.

(x) Mwynhad Esthetig. Nodweddir pob darn gwirioneddol o gelfyddyd gan ryw elfen o ddieithrwch a bair, fel blagur y pren alwys, fesur o syndod ynom; ond yr elfen hanfodol bwysicaf ydyw'r gallu a fedd i roddi i ni fwynhad, a thaflu rhyw hud hyfryd drosom am y tro.

Amcan pennaf pob ffurf ar y gelfyddyd lenorol ydyw cyfrannu'r cyfryw fwynhad, a chreu ffynonellau newyddion o hono. Yn wir, cais llenyddiaeth greu Byd Newydd y gall y meddwl ffoi iddo, megis ag i noddfa, rhag gormes y byd materol. Am y Byd Newydd hwn y dywedodd Goethe, wrth sôn am ei fywyd llenyddol:

"Im Ganzen, Guten, Wahren, resolut zu leben,"
"Resolved to live in the Whole, the Good, the True,"
"Wedi penderfynu byw yn y Cwbl, y Da, y Gwir,"


—"the brightest enthusiasms the world has to shew," meddai Walter Pater.

Yng ngoleuni mwyn y Byd Newydd hwn, beirniedir darn o waith Celfyddyd,—cerflun, darlun, telyneg, cân—wrth bedair safon; sef,

(a) Gafael meddyliol yr awdur yn ei wrthrych.

(b) Ei amgyffrediad o brydferthwch.

(c) Ei fedr technegol.

(d) Y mwynhad a ddyry ei waith gorffenedig; y pedair safon hyn, a'r pwysicaf o'r rhai hyn ydyw'r Mwynhad Esthetig.[3]

(xi) Awyrgylch Gydnaws. Medd y Byd Newydd hwn, hefyd, ei awyrgylch arbennig ei hun. Teimlir ei naws ym mhob llyfr o werth,—fel awyr pen mynydd, bywioga'n synhwyrau a chrea ynom awch at fwydydd iach. Yn wir, y mae'r awyrgylch a grea bardd neu lenor ym meddwl y darllenydd yn llawer mwy pwysig na'r hyn a ddywedir ganddynt. Dyma'r peth gorau a gawn gan awdur. Dyma'r peth a bair i ni ddywedyd—"Da yw bod yn ei gwmni "; canys pan anadlom yr un awel ag ef, awn, fel ef, yn "eneidiau byw." Rhown heibio "bethau bachgennaidd,"—meddyliwn a theimlwn, deallwn a llefarwn mwyach wrth yr un safon ag ef. "Try enaid dyn yn un â'r hyn a wêl,"—ac a anadlo.

(xii) Delfryd Llenyddol. Y mae i bob Celfyddyd ei delfryd a ddena fryd y sawl a'i gwêl, gan ddeffro awydd angerddol ynddo i ymestyn at berffeithrwydd. Boed fardd neu lenor, boed gerflunydd neu gerddor, boed arlunydd neu bensaer, gwêl yr artist ei waith dan dywyniad goleuni a ddisgyn arno o wyneb ei Ddelfryd,—"y gwawl na bu erioed ar fôr na thir."

At y safon hon y cyfeiria Tennyson yn y cwpled:

That type of perfect in his mind
Can he in Nature never find."


Yr un safon oedd ym meddwl Marlowe pan ganodd,—

"If all the pens that ever poets held
Had fed the feeling of their masters' thoughts,
And every sweetness that inspired their hearts,
Their minds and muses on admired themes,—
If all the heavenly quintessence they still
From their immortal flowers of poesy,


Wherein, as in a mirror, we perceive
The highest reaches of human wit,
If these had made one poem's period,
And all combined in beauty's worthiness
Yet should there hover in their restless heads
One thought, one grace, one wonder, at the least,
Which into words no virtue can digest.
—O "Tamburlaine."


Profiad Marlowe yw profiad pob bardd. Barn fiwsig pob llinell o'i waith wrth drydar y durtur sy'n hofran, ôl a gwrthol, mewn ymchwil am le i nythu, "yn ei ben aflonydd". Cais ei awen ddal hud yr aderyn gŵyl bob gwanwyn. Pan fo hi o fewn ychydig i lwyddo yn ei hymgais, wele, ffy'r gwanwyn,—a'r durtur! Am fisoedd meithion, ni chlyw'r bardd druan, o wŷll y nos, namyn hwt tylluan. Dychwel y gwanwyn eilchwyl, a bydd pen a chalon y bardd mor aflonydd ag erioed. Cais eto eilio cân fel y durtur,—daw'r hen Ddelfryd yn ôl gyda swyn adnewyddol.

Cyffelyb oedd profiad Iolo Goch:

Un natur â'r turtur teg,
Egwan wyf, ag un ofeg.[4]
Ni chwsg yr edn hyflednais,
Ni chân ar irfedw, lân lais.


(xiii) Naturioldeb. Wedi'r cyfan, mewn llên fel ym mhopeth arall, ARFER a NATUR ydyw'r awdurdodau terfynol—"CUSTOM that is before all law; NATURE that is before all art," fel y dywedodd Samuel Daniel yn ei Defence of Rhyme" (1603).

Pan gadarnheir barn bersonol gan Ramadeg a Rheswm, gan Draddodiad a Natur, a chan awdurdod gweithiau ac awduriaid y perthyn eu clod nid i un wlad nac i un oes, gellir teimlo'n hyderus bod y cyfryw farn mor gywir ag y dichon barn ddynol fod.

Gan y mynega llên yr hyn a amgyffredwyd, a feddyliwyd ac a deimlwyd gan awdur ynglŷn â Natur, Dyn, ac ef ei hun,—y byd, bywyd, a'i enaid ei hun—hola Beirniad, gan gadw mewn cof yr holl safonau uchod, uwch ben y gwaith: A ydyw amgyffredion yr awdur yn deg, yn gywir, yn dreiddgar, yn graff? A ydyw ei ddehongliad o Fywyd a Natur yn cyfateb i'r ffeithiau? A ydyw'r gwaith mewn cytgord â meddyliau gloywaf, â theimladau glanaf, ac â barnau aeddfetaf goreugwyr yr hil? Pa fath bersonoliaeth a gorfforir yn y gwaith? A ydyw'r awdur yn berson o dymheredd ac athrylith gyffredin neu anghyffredin? Beth ydyw ei hawl i sylw,—pa arwedd newydd ar Ddyn neu Natur neu Lên a ddangosir ganddo? Sut y saif yn ei berthynas â ffeithiau ac egwyddorion sylfaenol y Natur Ddynol? Ag ysbryd ei oes ac â'i genedl? A pha beth ydyw ei gyfraniad arbennig i gyfanswm diwylliant yr oesau? A haedda'i ddelw le yn Nheml y Celfyddydau Cain, a'i lwch orffwysfan ym Mynachlog Westminster?

Gwelir mai "haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur" nag i neb cyffredin fyned i mewn i deyrnas Llên trwy'r pyrth uchod. Nid rhyfedd bod disgyblion gynt ac eto'n "synnu'n ddirfawr gan ddywedyd wrthynt eu hunain,—" A phwy a all fod yn gadwedig?"

4. Cyfieithwch a beirniedwch y dyfyniadau a ganlyn:

(a) Over-legislation has been the bane of official criticism, and originality, especially in works of creative imagination, has been comdemned because it did not conform to existing rules. —Gosse.

(b) The end of all literature is, if one considers it attentively, nothing but a criticism of Life. . . . In poetry, however, the Criticism of Life has to be made con—formably to the laws of poetic truth and beauty: truth and seriousness of sub—stance and manner, felicity and perfection of diction and manner, as these are exhibited in the best poets, are what constitutes a Criticism of Life made in conformity with the laws of poetic truth and poetic beauty. —M. ARNOLD.

(c) It is evident that none of the rules of Composition are fixed by reasonings a priori.—DAVID HUME.

(d) Criticism no longer judges by absolute standards; it applies the standards of the author's own environment.—J. T. SHOTWELL.

(e) Nothing which has ever interested the human mind can wholly lose its vitality.—WALTER PATER.

(f) (i) Imitate the ancients, but imitate them only in what is good. —Voss.

(ii) To copy Nature is to copy the Ancients. —POPE.

(g) To judge Shakespeare by Aristotle's rules is like trying a man by the laws of one country, who acted under those of another.—POPE.

(h) I never knew any genius cramped by rules; I have known great geniuses miserably err by neglecting them.—JAMES HARRIS.

(2) The world which art creates for us is like the Greek Elysium.—J. A. SYMONDS.

(j) The beautiful is the object of a disinterested satisfaction.—KANT.

(k) The test of true literature, and its only justifiable Imprimatur, is the "thumb-mark of the artisan."—ROSEBERY.

(2) The standards of one literature may, or rather must, require very considerable alteration before they can apply to another.—G. SAINTSBURY.

(m) Nothing is more disastrous than to take as model some illustrious artist whose tricks are more easily assimilated than his excellences.—SYMONDS.

(n) Truth! there can be no merit, no craft at all, without that.—W. PATER.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwêl Pen. VII, td. 89.
  2. Gwêl Pen. VIII, td. 98.
  3. Gwêl Pen. IX, td. 105.
  4. Gofeg—mind, speech, utterance.