Enwogion Ceredigion/Evans, Daniel, Capel Drindod
Gwedd
| ← Evans, Daniel (Daniel Ddu o Geredigion) | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Evans, David, Llechwedd Deri, . → |
EVANS, DANIEL, Capel Drindod, gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a aned yn y flwyddyn 1774. Teithiodd lawer iawn o Dde a Gogledd. Gwr tawel, crefyddol, a thra chymmeradwy oedd. Treuliodd oes lafurus a defnyddiol. Bu farw ym Mehefin, 1845, yn 71 mlwydd oed. Wyr iddo yw y Parch. E Phillips, Castell Newydd Emlyn.