Erglyw, o Dduw! fy llefain i

Oddi ar Wicidestun

Mae Erglyw, o Dduw! fy llefain i yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Erglyw, o Dduw! fy llefain i,
Ac ar fy ngweddi gwrando,
Rhof lef o eitha'r ddaear gron,
A'm calon yn llesmeirio.


Dwg fi i dalgraig uwch na mi,
Ac iddi bydd i'm derbyn;
Cans craig o obaith, tŵr di-fost,
I'm fuost rhag y gelyn.


O fewn dy babell y bydd byth
Fy nhrigfan dilyth, dedwydd;
A'm holl ymddiried a fŷn fod
Yn nghysgod dy adenydd. .