Neidio i'r cynnwys

Erthyglau, Pregethau a Chaniadau/Bywyd Fy Ysbryd I

Oddi ar Wicidestun
Dymuniad Erthyglau, Pregethau a Chaniadau

gan John John Roberts (Iolo Caernarfon)

Glyn Cysgod Angau

BYWYD FY YSPRYD I.

"Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy yspryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi."—ESAIAH XXXviii. 16.

YN rhan flaenaf y bennod hon (1-8), mynegir hanes clafychiad ac adferiad gwyrthiol Hezeciah, a chawn fanylion ychwanegol am yr amgylchiadau hyn yn 2 Bren. xx. 1-11. Ysgrifenodd y brenin ar ol gwella, hanes ei enaid, a phrofiadau a gweddïau ei galon, yn ei gystudd, fel y gallent fod o wasanaeth iddo ar ol hynny. Cynhwysir hwy yn 9—14. Y mae yr adnodau dylynol (15-20) yn ymffurfio yn salm o ddiolchgarwch a mawl. Cofnodir ynddynt syniadau a bwriadau ac addewidion ei ysbryd dan effaith yr adgofion am ei glefyd, ac yn y mwynhad o waredigaeth mor ryfeddol. Y mae y testyn ar hyd y bennod hon yn ddrwg, ac adnod doredig iawn yw yr 16eg; ond gwnaeth y cyfieithydd ei waith arni yn bur foddhaol. Cyfeiria at y 15eg: "Canys dywedodd wrthyf, ac efe a'i gwna,"—addawodd a chyflawnodd. A thrwy hyn—drwy y trugareddau a gyfrana yr Arglwydd, ar y naill law, a thrwy ymrodiad "araf "—gwyliadwrus a dichlynaidd, eu derbynwyr, ar y llall, y mae dynion, mewn ystyr naturiol, yn byw ac yn ymadfywio o bob clefyd a chystudd. Yn gyffelyb, drwy y bendithion a drosglwydda Duw o hono ei hun i eneidiau drwy eu ffydd hwynt, y derbyniwn hefyd y bywyd uchaf oll—bywyd ysbrydol a thragwyddol. yn yr holl bethau hyn," neu ynddynt hwy yn unig neu yn hollol," y mae bywyd fy yspryd." Cyfrana Yspryd bywyd" (Dat. xi. 11) fywyd ysbryd i bechaduriaid; ond nid ydyw daioni dwyfol yn dileu yr angen am ofal ac ym—drech ddynol.

"Bywyd fy yspryd i"—ymddysgleiria yr ymadrodd hwn, o ganol mesur o aneglurdeb, i olwg pawb mewn prydferthwch digyffelyb. O holl ymadroddion grasol a newyddion—byth newyddion yr Ysgrythyrau, ni cheir odid yr un mwy goludog a bendigedig na hwn. Deil gydmhariaeth â "goleuni y bywyd" yn Ioan. A phe cawsid un cyffelyb iddo mewn unrhyw lyfr dynol, buasai llenorion anianol y byd yn son yn ddiddiwedd am dano. Y mae yn esiampl arbenig o gyfoeth ac o allu y Bibl i ymagor ac ymddyrchafu, i ganlyn cynnydd a dyrchafiad pob cenedl a chyfnod. Gwel pob dyn rywbeth yn yr ymadrodd hwn: ni wêl yr un dyn y cwbl sydd ynddo. Canfyddai gwladwr eyffredin ryw ardderchowgrwydd yn un o ddar—luniau Turner; ond canfyddai arlunydd, gyda llygaid diwylliedig, lawer iawn mwy ynddo. Felly hwnyma, y mae o ran ei ystyr yn ymëangu ac yn ymddyfnhau yn barhaus, yn ol fel y mae llygaid y ddynoliaeth yn ymloewi ac yn ymgryfhau i edrych i fewn iddo. Boddlonai ddyhëadau uchaf oes seml, anllythyrenog, Hezeciah; gwel saint cryfion a choeth yr oes ddysgedig ac athronyddol hon fwy na digon ynddo; a chaiff ysbrydoedd dyrchafedig y Mil Blynyddoedd ddyfroedd nofiadwy ynddo.

I. "Bywyd fy yspryd i": dyma un o fendithion mawrion yr Efengyl i bechaduriaid—bywyd; a hi yn unig sydd yn cynnyg y fath nwydd gwerthfawr am arian neu am ddim. Gwahodd trigolion y ddaear i dderbyn bywyd y mae ymhob oes a thrwy bob iaith. Geilw ar ddynion byw i gyfranogi o fywyd: onid yw ei holl wrandawwyr hi yn fyw? Pa briodoldeb sydd yn hynny? Y mae yn ymddygiad hollol resymol, oblegyd y mae mewn dyn awydd am barhad, ac am feddu mwy o bob bywyd sydd ynddo; ac y mae yn nyfnder enaid llawer un ddymuniad am fywyd ag y mae yn gwbl amddifad o hono. Y mae y ddau gyntaf yn naturiol; ond yn mha ystyr y mae un bywyd yn awyddus am fywyd arall, neu y gall un creadur chwennych bod neu fyned yn greadur arall? Awgrymir rhywbeth tebyg i hynny yn y Bibl: Rhuf. viii. 19-23: onid ydyw y greadigaeth—mynyddoedd a dyffrynoedd, yn hiraethu am gyflwr uwch ac am sefyllfa ragorach? Os ydynt, gwnant hynny yn ddystaw iawn. Duw yn unig sydd yn deall ubain coedwigoedd a chyfandiroedd. Os ydyw mwsog a throellgoryn yn ymofidio am na buasent yn blodeuo ac yn perarogli, nid ydyw dyn yn clywed eu hocheneidiau. Y mae ef ei hun yn anesmwyth ac yn boenus—yn blino yn barhaus arno ei hun Nid ydyw grug a rhedyn yn ymddangos mewn unrhyw ing oblegyd na buasent yn balmwydd neu yn ffynnidwydd. Y mae pechadur yn ymgnoi ac yn ymlosgi yn aml am na buasai yn rhywbeth mwy ardderchog nag ydyw. I bob golwg, y mae eithin yn hollol foddlawn ar y natur a roddodd eu Creawdwr iddynt; ac nid ydyw mïeri yn ymddigio oherwydd na buasent yn dderw neu yn gedrwydd. Gwnawn ni lawer o rywbeth tebyg i hynny; gan nad ydym yn hyn neu arall yn gyfoethog neu yn enwog, ni fynwn fod yn ddim. Creadur dyrus, llawn o anghysonderau, ydyw dyn; gydag uchelgais gref a dyhëadau dyfnion, y mae ynddo dueddiadau grymus i ymddirywio. Gyda chwantau gwylltion sydd yn ei dynu i gyfeiriad yr anifail, y mae ynddo awydd angerddol i fod yn gerub. Duw yn unig sydd yn alluog i ddeall ac i ddiwallu pechadur. Efe a ddichon ddarllen ei anghenion dyeithr, a deongli ei ddymuniadau poethion. Ac y mae, oddiar gyfoeth ei drugaredd, yn ei wahodd yn barhaus yn yr Efengyl i dderbyn bywyd newydd, iach, a wna o hono greadur sanctaidd, dedwydd, a gogoneddus.

Gwyddom rywbeth am wahanol rywogaethau o fywyd. Mewn un pegwn, cawn y bywyd llysieuol. Y mae hwn, er yn lanach a phrydferthach na ni, yn mhell islaw i ni. I raddau bychain iawn y gallwn gyfranogi o hono ef. Gall ein cyrff dderbyn cynnaliaeth o hono, a gall ein heneidiau. dderbyn hyfrydwch oddiwrtho; ond nid ydyw yn perthyn i ni. Nis gallwn drwy unrhyw foddion droi yn llysiau. Yn y pegwn cyferbyniol, y mae y bywyd dwyfol, Y mae hwn gymaint uwchlaw i ni, fel nas gellir drwy unrhyw ymgeledd ein gwneyd yn gyfranogion o hono—o fywyd arbennig y Jehofah. Nis gallwn, o ganlyniad, byth dyfu yn dduwiau. Gall dyn feddu tri math o fywyd—yn ei gorff, yn ei enaid, ac yn ei ysbryd: bywyd anianyddol—yr un un ag sydd yn yr ych ac yn y march; bywyd anianol, a bywyd ysbrydol. (1) Medd pob dyn sydd ar y ddaear y cyntaf; ac nis gall, gan nad faint o bechadur ydyw, golli hwn, tra bydd anadl ynddo. Trwy hwn y mae yn bod, yn symud, ac yn gweithio; ac, er nad yw wrtho ei hun yn ddigon i ni, y mae gwerth mawr arno. Gwyn ei fyd y gwr sydd yn meddu mesur helaeth o hono! Ymdraidd yn ysbrydiaeth hyfryd drwy ei natur i gyd. Ymffurfia yn wallt ar ei ben, yn loewder yn ei lygaid, yn wrid ar ei ruddiau, yn nerth yn ei ewynau, ac yn nwyfiant drwy ei holl gyfansoddiad. Er hynny, os nad oes genym un arall, y mae trychineb wedi cymeryd lle yn ein hanes,—rhaid ein bod wedi colli un arall, pwysicach. Er mai nid un bywyd a roddodd Duw i ddyn, y mae colli un yn amgylchiad difrifol. Tybia ddau beth: dyfodiad i fewn yn gystal a mynediad allan. Wrth iddo ef fyned allan o greadur, ymweithia llygredigaeth ar unwaith i fewn iddo. Y mae enciliad bywyd yn ddechreuad dirywiad a dadgyfansoddiad. O dan yr amodau hyn o amddifadrwydd o fywyd glân ac o arglwyddiaeth drygioni, y cais pechadur ymlwybro drwy y byd. Felly, os nad oes ynom ni fywyd rhagorach nag sydd yn y march, rhaid fod ynom elfenau mwy ysgeler nag sydd ynddo ef. Os nad oes ynom fywyd ardderchocach nag sydd yn yr oen, prin y gall yr un o honom fod mor ddiniwed ag oen. Nis gall dyn ymddirywio hyd at fod yn anifail, ac aros yn anifail; rhaid iddo fod yn rhywbeth uwch neu yn rhywbeth is nag anifail. Onid ydyw yr anifail a anwyd yn ddyn yn fwystfil? Onid ydyw y bwystfil a fu yn ddyn—yn ddiafi? Gweddus ydyw i ni ystyried hyn, ac ymddifrifoli wrth ben y mater. Ymddengys i mi mai y defnydd goreu allwn ni wneyd o fywyd anianyddol ydyw, ei dreulio i ymofyn am gwell.

(2) Medd pechadur rhyw fath o fywyd yn ei enaid. Er nad ydyw ef yn alluog i weled ac adnabod sylweddau ysbrydol a dwyfol, y mae yn deall ac yn barnu gyda llawer o gywirdeb bethau amserol a bydol. Er iddo fod yn Nabal gyda golwg ar y Nef, gall fod yn Solomon gyda golwg ar y ddaear. Y mae ynddo fwy neu lai o allu i ddewis a gwrthod, i garu a chashau. Y mae ei natur yn gyforiog o deimladau byw, o wyniau cryfion, ac o nwydau angerddol, y rhai a ymweithiant yn achlysurol drwy ei aelodau i bob ffurf o lygredigaeth a gwaradwydd. Cynhyrchant ynddo weithiau dymhestloedd a gythryblant ei gyfansoddiad hyd ei waelodion. Ymffurfiant ar brydiau yn dân yn ei enaid, yr hwn a ysa ei nerth, a lysg ei serchiadau, ac a ddeifia ei ogoniant i ffwrdd. Profant hefyd yn fynych yn gynnorthwyon gwerthfawr, a chyflawnant lawer o orchestion cymeradwy. A rhyw fath o fywyd ydyw hyn i gyd. A ddylai dyn feddu rhyw un rhagorach, neu a ydyw hwn yn ddigonol iddo? A! os na fedd un uwch a gwell na hwn, rhaid ei fod wedi colli un uwch a gwell. Y mae y bywyd anianol hwn yn y diafol, ac y mae ynddo ef mewn helaethrwydd mawr; ac oblegyd ei fod yn llawnach nag ereill o hono, y mae gymaint yn fwy ei drueni nag ereill. Ie, y mae y bywyd llygredig, gwenwynedig, hwn, yn rhyw fath o fywyd tragwyddol. Pery yr enaid drwyddo mewn bod, ac yn llawn o yni, am byth. A ydyw y meddiant o hono, ynddo ac arno ei hun, yn un dymunol? A fydd meddu cof i ddwyn ar gof yn ddibaid i ni y cyfleusterau fyddwn wedi gamddefnyddio,—rheswm i ddangos i ni y bydd ein colledigaeth yn anadferadwy,—ewyllys halogedig yn ymroddi i bechu yn oes oesoedd, a chydwybod wedi troi yn sarff, i ddial arnom byth byth—oedd, yn fantais i ni yn nhragwyddoldeb? A! byddai y meddiant o honynt yn sicrhau ein trueni. Oni ddelai bodolaeth o dan y fath amgylchiadau, yn faich annyodd—efol? Nis gallaf ddychymygu am ddim mwy ofnadwy na chreadur o ddyn wedi blino arno ei hun, ac yn methu cael ymwared o hono ei hun,—er ymguro yn erbyn pob craig boeth, yn methu diddymu ei hun! Os na chawn ni amgenach bywyd na hwn, byddai yn well i ni golli hwn hefyd. Yn niffyg un rhagorach na hwn, y fendith fwyaf allem ni dderbyn, fyddai disgyn y mynyd hwn i ddiddymdra!

II. Math arall o fywyd ydyw yr un ysbrydol. Medd dynolryw i gyd y ddau ddiweddaf; rhai o honynt yn unig sydd yn meddu hwn, ac nid yw yn eiddo i neb o honynt wrth naturiaeth. Naturiol yw y ddau hynny; ac nis gall y naturiol, gan nad faint a ddysgir ac a goethir arno, byth ddyfod yn ysbrydol: Ioan iii. 3-7. Y mae mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag sy rhwng planhigyn a choeden, a mwy nag sy rhwng draenen a derwen. Gwahaniaethant yn eu hanfod ac yn eu hansoddau. Y mae cymaint o bellder rhwng bywyd ysbrydol ac un anianyddol ag sy rhwng rhedynen a march, neu rhwng ëog ac eryr. Rhagora gymaint ar yr anianol ag y gwna y nefol ar y daearol, neu yr angel ar y pechadur. Efe ydyw yr unig un ag y mae yn werth gan y Bibl ei alw yn fywyd (1 Ioan v. 12). Beth a wyddom am dano? Carwn, mewn trefn i feithrin ynom fwy o awydd am dano, egluro ychydig arno. Pa faint a wyddom am fywyd mewn ystyr gyffredinol? Y mae yn debyg mai yr hyn a dynai sylw gyntaf ynddo ef, fel pethau ereill, oedd rhyw deithi neu gynneddfau perthynol iddo. Wrth i ddynion weled y rhai hynny, deffroid eu chwilfrydedd, ac arweinid hwy (yn unol â gweithrediad naturiol y meddwl, drwy yr hyn y mae athroniaeth yn dechreu yn fynych mewn rhyfeddod) wrth syllu ar dyfiant, cyfnewidioldeb, prydferthwch, bywyd,—i wneuthur ymofyniadau pellach yn ei gylch. Gofynent pa fodd y dechreuodd, neu o ba le y tarddodd; a gofynai ambell un pa beth ydyw. Ond gan nad faint o ystyriaeth a gafodd y pwnc hwn mewn amserau a aethant heibio, ni dderbyniodd erioed gymaint ag yn yr oes hon. Bywyd—yddiaeth ydyw un o wyddorau penaf y ganrif hon. Wele dri o faterion: tarddiad, natur, a nodweddion bywyd—ysbrydol yn gystal a naturiol; ond materion ydynt, yn arbennig un o honynt, ag y mae yn bur anhawdd traethu llawer o wirionedd sicr arnynt. Ymdrechaf daflu allan rai awgrymiadau cywir yn eu cylch.

1 Tarddiad bywyd ysbrydol.—Tueddir meddwl dyn i ryw raddau ymhob oes a gwlad, i ymdrechu olrhain dech—reuad ac achosion pethau, ac y mae ei ymdrech erbyn hyn wedi ei choroni â mesur helaeth o lwyddiant. Y mae wedi darganfod ffynhonnell llawer afon—yn nghors a dagrau brwyn y cwm. Y mae wedi bwrw ar ymddang—osiadau dyeithrol a ddychrynent ein henafiaid, lewyrch mor gryf fel yr ymddangosant i ni yn hollol naturiol. Nis gall hen farddoniaeth anian ddal golygon tanbaid Gwydd—oniaeth. Nid oes mwyach ysbryd yn y mynydd, na Thylwyth Teg yn y dyffryn. Yr un pryd, er ei holl fuddug—oliaethau, nid ydyw y meddwl dynol, er ceisio ei oreu yn hir, wedi gallu hyd yma esbonio tarddiad a chychwyniad bywyd. Nid ydyw, yn ei nerth ei hun, wedi llwyddo i daflu nemawr o oleuni ar y mater hwn. Deallwn i gyd mai o fywyd yn unig y gall bywyd hanu, ac nis gwyr athronwyr lawer chwaneg yn y cyfeiriad hwn. Cyflwynasant hwy, o bryd i bryd, nifer luosog o dybiau i sylw y byd o berthynas i hyn; ond ychydig o honynt a dderbynir heddyw fel gwirioneddau diamheuol. Cyferfydd y gwyddonwyr hynny ag ydynt yn gwrthod, neu yn ddyeithr i, ddysgeidiaeth y Bibl ar y pwnc, ag anhawsterau mawrion; cânt eu hunain yn aml mewn tywyllwch; gwrthwynebant eu gilydd a gwthddywedant eu hunain yn fynych, yn yr oes hon. Iddynt hwy, y mae y cwestiwn o berthynas i ddechreuad bywyd, yn bygwth profi yn un anatebadwy.

Ar y llaw arall, y mae yr ymofyniad hwn i bawb a dderbyniant yn grediniol ddatguddiad yr Ysgrythyrau, yn un cydmhariaethol hawdd. Y datguddiad hwnnw ydyw, fod y bywyd uchaf oll—y Bywyd Dwyfol, yn ddiddechreuad, ac mai Duw ydyw achos a ffynhonnell pob rhyw a math arall o fywyd yn y nefoedd ac ar y ddaear, "Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd." Fel mai Efe a ddygodd y greadigaeth i fod, Efe hefyd a anadlodd yn ei ffroenau hi anadl einioes, ac a ddygodd drwy hynny bob creadur a llysieuyn i fod. A chyda golwg ar fywyd ysbrydol, o hono Ef mewn modd arbennig y deilliodd hwn. O hono Ef y tarddodd pob bywyd; ond tarddodd hwn o ddyfnderoedd pellach ac is ynddo nag unrhyw un arall; oblegyd hynny y mae yn rhagori ar bob un arall. Blagur ei nerth yw y bywyd llysieuol, ac anadl ei ddoethineb yw y bywyd anifeilaidd; ond y mae yr ysbrydol yn anadl ei galon, yn oleuni ei feddwl, yn wres ei gariad, yn brydferthwch ei sancteiddrwydd. Dyma fywyd goreu y Nef; ymlifa ini o Dduw ei hun. Erbyn hyn, y mae y bywyd hwn, nid yn eigion pell yr hanfod ddwyfol, ond yn yr agosrwydd mwyaf atom—yn Iesu Grist. Ystyrier yr ysgrythyrau canlynol: Ioan i. 4, iii. 16 a 36, vi. 40, 47, 48, 51, 54, 57, x. 10, xvii. 3; Gal. ii. 20; Col. i. 19, ii. 9, &c. Awgrymant luaws o gwestiynau, ac ni byddai yn hawdd egluro pa fodd yn fanwl y mae bywyd yr Iesu yn dyfod yn fywyd i ni; ond y mae y ffaith ei fod yn amlwg. Y mae y dynion sydd yn credu ynddo, yn cyfranogi o hono—o fywyd yn gystal ag o gyfiawnder y Gwaredwr. Sugnant bron yn ddïar—wybod iddynt eu hunain, oleuni a chariad, nerth a thangnefedd, allan o hono. Ymegyr eu heneidiau wrth ymddiried ynddo a chymdeithasu ag Ef, i sancteiddrwydd a phrydferthwch rhyfeddol. Tyfant yn feunyddiol mewn tebygolrwydd ac ymgysegriad iddo, a thyfant yn y diwedd i wynfyd a gogoniant tragwyddol: "A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i."

2. Natur bywyd ysbrydol.—Gan nad faint o rwystrau sydd ar ein ffordd i olrhain tarddiad bywyd, cyfarfyddwn rai lluosocach a mwy wrth geisio egluro ei natur. Ni lwyddodd neb erioed i wneuthur hynny, ac nis gall dyn anturio ar orchwyl caletach, Y mae bywyd fel yr enaid—y peth mwyaf adnabyddus i ni, a mwyaf dyeithr i ni—agosaf atom, a phellaf oddiwrthym. Ei natur ef yw cyssegr sancteiddiolaf anian; ac hyd yn hyn ni threidd—iodd yr un offeiriad i fewn iddo. Gallwn yr un pryd, er mor anwybodus raid fod pawb o honom yn ei gylch, synied rywfaint am dano.

"Bywyd fy yspryd i"—pa beth ydyw? Gan nad beth yw, rhaid ei fod yn symud ymaith yr hyn a achosodd farwolaeth yr enaid ar y cyntaf. Yn gynt neu hwyrach, y mae yn rhwym o ddileu pechod, ac felly y mae o angen—rheidrwydd yn tybied maddeuant. cyfiawnhad, mabwysiad. Yn mhellach, gan mai oddimewn, mewn modd arbennig, y mae eisteddle bywyd, ac mai at gyfnewidiadau yn nghyf—lwr allanol pechadur y cyfeirir yn y geiriau diweddaf, rhaid ei fod yn cynnwys rhywbeth ychwanegol. Goddefir i mi hwyrach ei alw yn egwyddor newydd, sanctaidd, lywodraethol, yr hon sydd yn bywhau yr ysbryd, yn cyf—eirio gweithgarwch y galon, yn cynhyrchu teimladau pur ac amcanion dyrchafedig, ac yn achosi ymarweddiad difrycheulyd a chymeradwy. Gallwn, er lleied a wyddom am dano, daflu rywfaint o oleuni arno drwy eiriau fel y rhai canlynol:—

(1) Y mae o ran ei natur yn ysbrydol ac yn sanctaidd. Gan ei fod yn fywyd, rhaid ei fod yn bur—y mae pob gwir fywyd felly; a chan mai bywyd ar gyfer ysbryd ydyw hwn, rhaid ei fod yn sanctaidd, yn gystal ag yn ysbrydol, o ran ei ansawdd. Cyferfydd, o ganlyniad, ag eisiau mwyaf a phenaf pechadur, oblegyd y mae wrth ymweithio i mewn iddo, yn diwallu anghenion ac yn boddloni dymuniadau dyfnaf, ac yn meddyginiaethu galluoedd ardderchocaf, ei natur. Ymddengys fod gwahanol rywogaethau o bysgod yn byw ac yn ymgadw mewn gwahanol ddyfnderau yn y môr. Yn gyffelyb, y mae ynom ninnau lawer o rywogaethau o gynneddfau, o anghenion, a dymuniadau rhai uwch a rhai îs. Y mae rhai o honynt mor agos i wyneb ein heneidiau, fel y mae gwrthrychau ac amgylchiadau daearol—dyddiau heulog neu farchnadoedd bywiog, yn eu digoni; rhai ereill is ag y mae llenyddiaeth neu glod dynion yn eu diwallu; rhai ereill is fyth ag y mae caredigrwydd a chymdeithas yn eu boddloni. I lawr yn nyfnderoedd ein bod, y mae galluoedd ac anghenion a dymuniadau mor fawrion, fel nad all dim a berthyn i ddaear ac amser weinyddu unrhyw ymgeledd na hyfrydwch iddynt. Y maent mewn llawer enaid yn ysig a gorthrymedig, ac yn rhy weiniaid a bloesg i allu cymaint ag ocheneidio a griddfan yn ddigon uchel i glust—iau anianol a chnawdol eu clywed. Trosglwydda y bywyd ysbrydol a sanctaidd hwn iachawdwriaeth iddynt i gyd; lleinw yr enaid â thangnefedd a gobaith, a pharotoa ef ar gyfer gwynfyd a gogoniant perffaith.

(2) Oherwydd ei fod yn ysbrydol ac yn sanctaidd, y mae y bywyd hwn hefyd yn ddwyfol—yn ddwyfol yn ei natur oblegyd ei fod yn ddwyfol yn ei darddiad. Duw ydyw ei ffynhonnell. Oddiwrtho Ef y daeth bydoedd a sêr; daw hwn o hono. Gwaith ei fysedd Ef yw moroedd a mynyddoedd; ond nid ydyw yn creu bywyd. Cyfranu hwnnw o hono ei hun y mae, a hwn ydyw y goreu a gyf—ranodd erioed. Ceidw un uwch iddo Ef ei hun; hwn ydyw yr ardderchocaf a ddichon creadur dderbyn. Dysgir drwy y Testament Newydd fod y credinwyr, mewn modd arbennig, yn hiliogaeth Duw, a bod egwyddorion ei gymeriad Ef yn blanedig yn eu calonnau hwy: 2 Petr i. 3—4; 1 Ioan iii. 9, iv. 4 a 9, v. 1 a 18. Yn hynny y mae ein gobaith—drwy gyfranogi o ras ac anian y Jehofah y gall pechadur ddyfod yn drwyadl ddynol, yn gwbl wynfyd—edig, ac yn hollol ogoneddus.

(3) Gan fod y bywyd hwn yn ddwyfol, yn gystal ag yn ysbrydol a sanctaidd, rhaid ei fod hefyd yn dragwyddol a nefol. Y mae yn ddiball yn ei rym ac yn ddiderfyn yn ei barhad. Nis gall ei etifeddion heneiddio, na gwanhau, na blino, yn oesoesoedd: Es. xxxv. 10, xl. 31; Rhuf. viii. 33-39. O'r Nef yr hanodd, ac ymgyfeiria yn feunyddiol at y Nef. Nid ydyw mor rymus a phrydferth yn bresennol ag y bydd yn y dyfodol, oblegyd y mae mewn amgylchiadau mor anfanteisiol. Nid ydyw ei ddalen mor werdd yn y byd hwn ag ydyw yn ei fyd ei hun, ac nid ydyw ei ffrwyth yma mor beraidd ag ydyw yno, oblegyd bywyd nefol o dan amodau daearol ydyw yn mhawb a welsom ni erioed. Ond wedi cyrraedd ei fro gynhenid, dengys yn amlwg ei fod o'r un natur a Phren y Bywyd ei hun. Gymaint ydyw ein braint! Deuwn drwy ffydd yn gyfranogion o rinweddau y Jehofah, y rhai a alluogant bechaduriaid i fyw ar y ddaear i ryw raddau fel y mae yr angylion yn byw yn y Nef. Dysgant gredinwyr ag sydd yn awr mor wylaidd a chrynedig, i deimlo gartref yn mhlith cerubiaid paradwys. Ymdreiddiant drwy hen chwiorydd ag sydd yn bresennol mor ofnus a hurt fel yr ymddyrysent ymhob dinas yn y byd, yn hunanfeddiant gwynfydedig gerbron gorseddfainc Duw. Y fath ragolygon dysglaer a ymagorant o flaen y saint! Gydag eneidiau llawnion o fywyd sanctaidd, ac amgylchiadau perffaith fanteisiol a hyfryd, a thragwyddoldeb dinos a didymhestl, pa beth mewn dedwyddwch a gogoniant (1 Ioan iii. 2) a fyddant!

III. Nodweddion bywyd.—Ymddengys cynneddfau yr un ysbrydol drwy eiddo y naturiol. Crybwyllaf bedair neu bump o honynt. (1) Gwelir bywyd glân o bob rhyw a math, ac ymhob man, yn amcanu parhau a chryfhau ei hun. Y mae pob creadur syml a phur yn caru byw, ac yn ymdrechu byw. Cawn ef yn manteisio yn feunyddiol ar yr amgylchiadau y bydd ynddynt, gan geisio tynu cynnaliaeth iddo ei hun o bob peth, a throi pob peth addas yn rhanau o hono ei hun. Leied o greaduriaid direswm sydd yn blino ar eu heinioes, ac yn cyflawni hunanladdiad! Bywyd wedi ymddirywio yn wallgofrwydd ac yn gynddaredd drwy bechod, yn unig sydd yn gwneuthur hynny. Meddylier am lysieuyn, gyda chymaint o ymroddiad y mae drwy yfed o wlith y wawr, drwy anadlu iddo ei hun nwyon yr awyr, a goleuni a gwres yr haul, a thrwy yru ei wraidd i lawr i'r ddaear, a sugno ei brasder iddo ei hun, yn ymdrechu cadarnhau ei hun! Yr un peth a wna yr anifail wrth bori y glaswellt—try ef yn waed a chnawd, yn ewynau ac esgyrn, ynddo ef ei hun. Yr un modd y gwna y bywyd ysbrydol. Y mae y dyn sydd yn ei feddu, oddiar brofi dymuniadau newyddion, yn amlygu ymdrechion newyddion i'w diwallu. Gwelir ef yn dylyn moddion gras, yn darllen y Bibl, yn gweddïo, ac yn myfyrio, ac yn gwneyd pob peth llesol iddo ei hun, sydd yn ddichonadwy iddo. A gwna y cwbl, nid yn unig nac yn benaf, oddiar ufudd—dod i unrhyw orchymyn nac annogaeth allanol, ond oddiar reddf fewnol y gryfaf mewn bod—oddiar awydd i gynnal a chyfnerthu ei fywyd ei hun.

(2) Un arall o nodau bywyd ydyw, tuedd i amddiffyn ei hun a gwrthsefyll ymosodiadau arno ei hun. Gellid cyfeirio at esiamplau afrifed o hyn. Cawn fod bywyd mewn bwystfilod a physgod, ehediaid ac ymlusgiaid, yn ymwisgo mewn lliwiau mor debyg i bob peth sydd yn ei amgylchynu, fel mai drwy anhawster mawr y gall unrhyw ymosodydd eu gwahaniaethu. Mewn ereill, ymffurfia yn synwyr cryf i ganfod, ac felly i ochelyd, enbydrwydd; mewn ereill, yn gyflymder i ddianc oddiwrtho, ac mewn ereill yn arfogaeth i ymladd ac i orchfygu eu gorthrym—wyr. Gwelir hyn i raddau helaethach mewn dyn, ac mewn graddau uwch fyth yn y Cristion. Mor graff i rag—weled, ac mor fedrus i ysgoi peryglon, yw bywyd ysbrydol! Y mae gras yn arogli llygredigaeth o bell. Aiff pysgodyn marw gyda'r llif—ymrwyfa un byw yn ei erbyn. Felly am y bywyd hwn, ymdraidd drwy eneidiau yn oleuni i adnabod diafliaid yn ngwisgoedd angylion, yn sancteidd—rwydd i gashau pob rhith drygioni, yn gadernid i wrth—sefyll hudoliaethau, yn nerth i orchfygu temtasiynau, ac yn wroldeb o Dduw i ddarostwng ei holl elynion. Ephes. vi. 10—18.

(3) Nodwedd arall berthynol i fywyd ydyw, ymdrech i fwrw ymaith bob peth croes a niweidiol iddo ef ei hun. Gwelir ef ymhob man, yn ol ei ryw ac yn ol ei rym, yn diarddel pob peth gwrthwynebol iddo ei hun. Medd elimination yn gystal ag assimilation. Cawn esiamplau o hyn yn nail crinion a ffrwythau llygredig y coed; syrth llawer o honynt yn nhymhestloedd yr Hydref, a syrth y gweddill o honynt o flaen bywyd newydd y gwanwyn. Gwyddom i gyd fod adar yn bwrw eu plyf, ac anifeiliaid yn bwrw eu hen flew drwy yr ysbrydoliaeth sydd ynddynt. Cladd dyn byw ei berthynas anwylaf wedi iddo farw. Onid ydym ni yn bwrw ymaith ein cyrff ein hunain? Perthyna hyn hefyd i fywyd ysbrydol, ac y mae yn un o arwyddion amlycaf y bywyd hwnnw. Mor fuan ag y daw pechadur yn feddianol arno, arddengys duedd a gallu i ymlanhau oddiwrth eiriau budron ac arferion drygionus, oddiwrth feddyliau annuwiol a dychymygion halogedig, ac i esgymuno ymaith bob peth anghymeradwy yng ngolwg Duw. Ac y mae ei fuchedd yn gwellhau oblegyd fod ei galon yn gwellhau. Yn wahanol i neidr yn y coed, yr hon, er bwrw ei chroen, sydd yn cadw ei cholyn, gan barhau yn neidr, y mae y credadyn yn ymddyosg oddiwrth ei ymarweddiad drygionus am fod tueddiadau drygionus ei ysbryd yn gwanhau.

(4) Cynhwysa y nodweddion blaenorol fod bywyd yn lan, yn bur, ac yn syml. Dengys y neillduolion hyn, gan nad yn mha le y trig, a pha beth bynag fydd ei amgylchiadau,—ai ffos, ai môr, ai mynydd—ai enwog ai dinod, a fydd. Gwelir hyn mewn modd arbennig yn y bywyd ysbrydol: y mae yn burdeb dwyfol yn llaid y byd, ac yn ogoniant nefol yn mwthynod y ddaear. Mor obeithiol a thawel, mor lariaidd ac annibynol, mor ostyngedig a gwrol, ydyw! Yn gyson â hyn i gyd, y mae bywyd yn tyfu, a hynny am ysbaid yw y peth goreu a all wneyd. Dysgwylir am waith neu gynnyrch oddiwrtho; ond braint a bri penaf pob creadur am enyd yw ymagor ae ymgryfhau. Gwna bywyd naturiol hynny am dymhor; ond gwelir pob rhyw a math o hono ef, yn gynt neu hwyrach, yn sefyll, yn ymddirywio, ac yn troi yn ol. Ymnewidia yr oen chwareus yn fuan yn ddafad drymaidd a rhyddiaethol. Nid yw y bywyd ysbrydol yn agored i wanychu na chrino byth. Deil i dyfu a chryfhau, i ymlenwi o ddedwyddwch, ac i amlygu gogoniant cynnyddol, yn oes-oesoedd. Heblaw hyn oll, y mae bywyd yn brydferth. Felly y mae mewn dail a blodau, mewn adar, pysg, anifeiliaid, &c. Mor brudd a thylawd a fyddai y ddaear heb ei swynion! Os ydyw y naturiol felly, cydnabyddir fod urddas a hawddgarwch yr un ysbrydol yn llawer purach a rhagorach. Ac os ydyw ef yn dlws ac arddunol yng ngauaf ystormus y ddaear, gymaint mwy gogoneddus ydyw yn ei fro ei hun—yn nhragwyddol haf y Nef!

(5) Gellir crynhoi nodweddion ereill bywyd fel hyn y mae ynddo duedd a grym i gynhyrchu. Cawn ffrwyth ar y coed, plu ar y paun, llaeth gan y fuwch, gwaith a gwasanaeth oddiwrth farch a dyn. Yn gyson â hyn, traws-sylwedda bethau cyffredin yn bethau ardderchog—pridd, awyr, lleithder, gwres, yn gedrwydd, yn eryrod, yn ychain pasgedig. Yn gyffelyb, y mae y bywyd ysbrydol yn traws-ffurfio pechaduriaid yn frodyr i angylion. Try annuwiolion yn gymeriadau dilychwin. Gwna hen feddwyn yn ffynhonnell dylanwad pureiddiol. Galluoga hen droseddwr i gyflawni gweithredoedd anmhrisiadwy, ac i adael ar ei ol esiamplau bendigedig. Tardd perarogl oddiar fywyd. Meddylier am arogl maes ar foreu yn nechreu haf, neu arogl perllan lawn o flodau neu o aeron, mor hyfryd ydyw! Gymaint yn fwy hyfryd ydyw persawrion bywyd ysbrydol! Gwasgara ef beraroglau y Nef drwy anialwch y ddaear. Medd pob bywyd naturiol duedd a gallu i luosogi ei ryw ei hun. Y mae yn yr afal had yn gystal a phereidd-dra. Yr un modd, er nad all sant genhedlu saint, y mae o hyd yn ymgymhwyso i fod yn offeryn i ddwyn yr amcan dyrchafedig o amlhad duwiolion i ben: Gal. iv. 19. Hynny yw dymuniad cryfaf ei galon, a sylweddolir ei ddymuniad yn aml. Bywyd ysbrydol—pwy a ddichon fynegi ei werth! Onid oes llawer o bethau yn rhy dda i ni allu traethu eu gwerth? Y mae gras felly mewn modd arbennig. Pa faint oedd gwerth Moses yn y cawell, neu Grist yn y preseb! Pa faint yw gwerth nefoedd neu werth Duw! Hynny ydyw gwerth bywyd ysbrydol. Nis gall ei berchen flino arno ei hun yn dragywydd.

(6) Nodweddir y bywyd hwn gan awydd i fyned yn ei ol. Duw ydyw ei ffynhonnell. Oddiwrtho Ef, fel y mae yr afonydd yn tarddu o'r môr, y cychwynodd holl ffrydiau bywyd allan. Cawn fod y dyfroedd yn dychwelyd yn gynt neu hwyrach i'r eigion. Y mae hynny yn un o nodweddion amlycaf dwfr. Ofer ydyw gosod unrhyw atalfeydd ar ei ffordd. Pe troid dyferyn o hono yn agerdd, ac y gyrid ef yn y cyflwr hwnnw i ymdaith am ennyd drwy y ffurfafen, neu pe carcherid ef am oes neu ganrif yng nghalon mynydd o rew, gwelid ef, mor fuan ag y deuai yn ddwfr yn ei ol, yn cyfeirio ei gamrau tua'r dyfnder y daeth allan o hono. Dïau nad yw yr Arglwydd yn dysgwyl pob rhywogaeth o fywyd a gychwynodd oddi-wrtho, yn ei ol. Ac y mae ar ambell i greadur—ofn ei wynebu. Ond y mae y bywyd ysbrydol yn gyfryw ag y myn fyned yn ei ol—nid i gael ei lyncu i fyny ynddo Ef, fel y llyncir yr afon yn y môr, ond i fwynhau Duw am byth. Mor fuan ag yr ailenir pechadur, paid y ddaear a bod yn gartref iddo; daw yn ymdeithydd yn ei fro ei hun. Gan nad faint o dangnefedd a ddyry crefydd, rhydd hefyd ar y ddaear lawer o ryw fath o anesmwythder. Llenwir calon ei pherchenog â dymuniadau am wlad well a byd rhagorach. Unwaith, buasai fferm dda neu fasnach lwyddianus bron yn ei ddigoni; ond y Nef yn unig a ddichon ei foddloni mwyach.

Nodiadau

[golygu]