Erthyglau, Pregethau a Chaniadau/Cyfarchiad
| ← Erthyglau, Pregethau a Chaniadau | Erthyglau, Pregethau a Chaniadau gan John John Roberts (Iolo Caernarfon) |
Y Cynwysiad → |
AT FY NGHYDWLADWYR.
I CHWI, Gymry tirion, o bob gradd a rhyw, ac o bob galwedigaeth a phlaid, y dymunaf gyflwyno hyn o gyfrol. Rhoddasoch yn barod groesaw i ddau lyfryn o fy ngwaith; a gobeithiaf nad wyf yn cymeryd yn rhy hyf arnoch wrth gynyg i chwi y trydydd. Ni pherthyn i mi ddywedyd nemawr ddim am dano. Gwelir ei fod o ran mater a thôn yn gwbl grefyddol. Er nad oes unrhyw berthynas neillduol rhwng ei wahanol ranau, efallai y canfyddir ynddynt fymryn o olyniad meddyliol. Cefais i beth budd wrth geisio ei feddwl, a gradd o flas droion wrth draddodi rhai darnau o hono; a hyderaf y bydd yn profi yn rhywfaint o adeiladaeth a hyfrydwch i chwithau.
Teimlaf yn dra rhwymedig i MR. GWENLYN EVANS am ymgymeryd â chyfrifoldeb ei gyhoeddiad.
Gan ddymuno daioni uchaf fy nghenedl a gogoniant fy Ngwaredwr, y gorphwys,
Yr eiddoch,
Yn bur,
J. J ROBERTS.
- Porthmadog,
- Medi, 1900.