Erthyglau, Pregethau a Chaniadau/Mawl i'r Ysbryd Glan
| ← Yr Ysbryd Glan | Erthyglau, Pregethau a Chaniadau gan John John Roberts (Iolo Caernarfon) |
Yr Angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glan → |
MAWL I'R YSBRYD GLAN.
O Ysbryd hollalluog! sanctaidd, cu,—
Mor lawn o gariad at bechadur du,—
Mor ostyngedig ar binaclau bod,—
Chwenychwn fyw a marw er dy glod!
Athrylith bur y Duwdod mawr ei hun,
Ac awyr beraidd haf y nefoedd gun,
Tydi yw anadl creadigaeth flydd,
A bywyd prydferth pob creadur sydd.
Darperaist gorff i Grewr bydoedd glân,
A nerthaist Ef mewn cyfyngderau tân:
Wyleiddiaf Dduw! ymguddio mae i gyd—
Datguddio Arall yw ei waith o hyd.
Oleuni sanctaidd, gwefr gwirionedd Duw,
Tywyna heddyw ar ddynoliaeth wyw!
Ogoniant byw yr Eglwys ymhob oes,
Cyfrana iddi rinwedd pur y Groes!
Ddiddanydd llariaidd pob pererin blin,
Trosglwydda fywyd i fy enaid crin,
A thro dy riddfan dieithr dan fy mron,
Yn fawl i Grist yn nos y ddaear hon!
Ymdraidd drwy yspryd fy nghenedlaeth fall,
A chywilyddia ei bydolrwydd dall!
Secinah cymanfaoedd Cymru fu,
O cadw Iesu byth ar flaen ein llu!