Neidio i'r cynnwys

Erthyglau, Pregethau a Chaniadau/Mynydd Seion

← Natur Eglwys Erthyglau, Pregethau a Chaniadau

gan John John Roberts (Iolo Caernarfon)

Y Mab Afradlawn →

MYNYDD SEION.

Mwyach nid yw rhu taranau
Sinai yn cynyrchu ofnau,—
Troant ar y llethrau sanctaidd
Yma yn alawon peraidd;
Ymnewidia mellt y Gyfraith
Yn enfysau tlysion gobaith;
Yn grynedig, o dymhestloedd,
Daethum i gyffiniau'r nefoedd.

Bryn Calfaria ei dywyllwch
Heddyw sy'n oleuni heddwch,
Dysg ei holl riddfannau duon
I mi ganu Salmau gwynion;
Drwy rinweddau dwyfol glwyfau
Dringaf Seion ar fy ngliniau;
Caf drwy goron ddrain blethedig
Goron bywyd gwynfydedig.

Ymflagura pob bendithion
Ar lechweddau heulog Seion,
Dydd o haf blodeuog, newydd,
Brofaf ar ei gopa beunydd;
Marw arno mae mhechodau,
Ac ymwella mae fy mriwiau;
Yfaf gariad o'i ffynhonau;
Tyfaf yn ei beraroglau.

Clywaf yma, mewn nefolion
Leoedd, gathlau gwaredigion;
Ymdywynnu ar fy ngwyneb
Mae goleuni tragwyddoldeb;
Mynydd gweddnewidiad dynion,—
Troant arno yn angylion,—
Mynydd eu hesgyniad hefyd—
I ogoniant ac i wynfyd.


Nodiadau

[golygu]