Neidio i'r cynnwys

Erthyglau, Pregethau a Chaniadau/Y Mab Afradlawn

Oddi ar Wicidestun
Mynydd Seion Erthyglau, Pregethau a Chaniadau

gan John John Roberts (Iolo Caernarfon)

Adferiad

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dameg y Mab Afradlon
ar Wicipedia

Y MAB AFRADLAWN.

"Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.—Luc xv. 20.

GWNEIR y bennod hon i fyny o dair o ddamegion: un y Ddafad Grwydredig, un y Dryll Arian Colledig, ac un y Mab Afradlawn. Cyfarfyddwn ynddynt â llawer o amrywiaeth o bersonau ac amgylchiadau, o wrthddrychau a phethau; ond rhaid fod yn ymdreiddio drwyddynt hwy, yn gystal a thrwy holl oruchwyliaethau a gweithredoedd yr Arglwydd, ryw egwyddorion o unoliaeth. Dichon nad ydyw yr unoliaeth yma, mwy nag mewn cylchoedd ereill, mor amlwg ag ydyw yr amrywiaeth; ond y mae yn bod. Gwahaniaethant yn eu manylion; cytunant yn eu hanfodion. Ymweithia ysbryd bywyd a threfn drwy yr holl ranau, ac ymgyfeiriant i gyd drwy hynny at un amcan goruchel. Gwelir gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy flaenaf a'r olaf; ond nid oes unrhyw annghysondeb rhyngddynt. Ar ochr ddwyfol yr Efengyl y rhoddir arbenigrwydd yn y ddwy gyntaf; ar yr ochr ddynol iddi y gosodir arbenigrwydd yn y ddiweddaf. Yn ol y naill, Duw sydd yn gwneyd y cwbl; yn ol y llall, dyn sydd yn gwneyd y cwbl. Ac yn achubiaeth pob dyn mewn oedran, y mae y ddau yn cydweithio y mae Duw yn galw, a dyn yn ufuddhau. Felly, cyhyd ag y darllenwn y damegion hyn ar wahan, gwirioneddau hannerog a welwn ynddynt. Trwy wneyd hynny, cenfydd rhai ddiffygion yn Nameg y Mab Afradlawn—y gem llenyddol hwn. Daliant nad oes ynddi Gyfryngwr nac lawn, ac ymofynant am lawn yn y llo pasgedig; a chânt un wrth eu bodd ynddo. Nid wyf fi yn gweled unrhyw angen am y fath beth yma. Os ystyriwn y gwahanol ranau yn ngoleuni eu gilydd, cawn olwg gyflawn ar y gwirionedd; cydymddysglaeria gras Duw a dyledswydd dyn o flaen ein golygon. Dysgir yn rhan flaenaf y drydedd ddameg hon bedair ffaith fawr: ymadawiad dyn â Duw—ymadawiad dyn âg ef ei hun—dychweliad pechadur ato ef ei hun—dychweliad pechadur at Dduw. Y mae y ddwy gyntaf yn wir am bob dyn; ac y mae y pedair yn wir am bob credadyn.

I. YMADAWIAD DYN A DUW.

Dangosir hynyma drwy y gydmhariaeth o fab yn cefnu ar ei dad: A'r ieuangaf, &c. Yn eu hieuenctid y gwna y nifer lïosocaf o bobl y camgymeriadau mwyaf a wnant o gwbl; ac ymddyga miloedd o honynt mor ffol yn y blynyddoedd rhwng pymtheg a phump-ar-hugain oed, fel ag i niweidio eu hunain am weddill eu hoes. Gallwn dynu rhai addysgiadau oddiwrth yr amgylchiad hwn: (1) Prin y gall yr ieuanc feddu llawer o synwyr. Nid wyf drwy hyn yn awgrymu dim tramgwyddus: y mae ambell i fachgen yn gallach nag ambell i ddyn. Cymaint a feddyliaf yw hyn—nad yw y llanc ugain oed mor ddoeth ag y bydd, os gwna gyfiawnder âg ef ei hun, yn ddeugain oed. Un rheswm am hynny ydyw, fod yn yr ieuanc fwy o deimlad nag o reswm, a mwy o nwyd nag o farn. Ymddeffry teimlad ynom yn gynar, a chyrhaedda i rym mawr yn foreu; yn raddol yr ymegyr rheswm; ac nid yw pob meddwl yn ymddihuno i gyd yn y byd hwn. Y mae y llanc mor lawn o nwyd ag y bydd byth; yn araf y daw i feddiant o farn. Gwyddis hefyd nad ydyw dyn, fel rheol, byth yn ymddiried cymaint yn ei ddoethineb a phan y bydd brinaf o honi. Cofia llïaws o honom gyda galar am y cyfnod brwdfrydig a hyderus hwnw, pryd yr oeddym yn siarad yn anffaeledig, ac yn penderfynu cwestiynau ag yr ydym heddyw yn cilio yn ddychrynedig oddiwrthynt. Yn y cyfeiriad hwn y gorwedd un o brif beryglon ieuenctyd. Eu dyledswydd, o ganlyniad, ydyw arafu, ymgynghori â rhieni ac athrawon, a gwylied. (2) Ac ar ol ychydig ddyddiau, &c. Gwelwn yn y geiriau hyn un gwahaniaeth rhwng teimlad a rheswm: y mae y cyntaf bob amser ar frys, ac y mae y diweddaf bob amser yn bwyllog. Y mae chwant yn ddïeithriad ar dân; y mae meddwl yn ystyried cyn penderfynu materion pwysig. (3) A gasglodd y cwbl: nid oedd yn bwriadu dyfod yn ol byth, onide gadawsai rywbeth ar ei ol. Gwesgir llïaws o lanciau i adael eu cartrefi, ac ni ddychwela llawer o honynt iddynt drachefn; ond nid ydyw penderfynu wrth gychwyn na ddeuant iddynt mwyach, yn arwydd ddaionus na dymunol. (4) A gasglodd y cwbl yn nghyd: ystyr hyn yn bresennol fyddai—ei fod wedi troi ei feddiannau yn arian. Rhoddion yr Arglwydd i ni ydyw arian, ac y mae yn eu rhoddi i ni er mwyn i ni eu defnyddio. Y maent yn bethau hynod o hawdd eu gwario; ond y mae yn bwysig i ni eu treulio mewn dull teilwng o honom ni ein hunain, a chymeradwy yn ei olwg Ef. Gweddus ydyw i ni edrych yn eu gwyneb, a mynu eu gwerth am danynt. Ni ddylem ymadael â hwynt os na bydd rheswm a chydwybod yn cymeradwyo hynny. Ni feddai y llanc hwn gymaint o ddoethineb ag a feddai o gyfoeth; a pheth peryglus ydyw llawer o olud gyda phrinder o synwyr. Peryglus meddaf, oblegyd nis gallwn wario arian am oferedd heb wario rhywbeth arall, pwysicach. Pe taflai dyn gan' punt i'r môr, ni chollai, am a wn i, ddim ond can' punt. Pe treuliai y cyfryw swm ar wagedd, treuliai lawer ychwaneg: treuliai ei hun—ei burdeb, ei dynerwch, ei dangnefedd. Y mae y sawl sydd yn prynu llygredigaeth, yn cyneu tân yn ei galon, ac yn hau drain yn ei gydwybod ei hun. Nis gall neb gellwair â drygioni heb wenwyno ei hun, heb gryfhau yr anifail ynddo a thynu y diafol iddo, ei hun. (5) Ystyrier y 14eg adn.: Pa fodd y cododd newyn mawr drwy y wlad hono y fynyd yr aeth yr Afradlawn heb ddim? Nid ydyw yn gwestiwn caled. Ceir yn hanes dynolryw atebiad llawn iddo. Y mae y geiriau yn ddarluniad byw o honynt. Tra y daliai cyfoeth y llanc, yr oedd gan ereill lawer o bethau tai llawnion, drysau agored, a gwynebau siriol; mor fuan ag yr aeth ef yn dylawd, collasant y cyfan. Felly y mae y ddynoliaeth o hyd. Cyhyd ag y gall ein cyd-ddynion ddisgwyl rhywbeth oddiwrthym, meddant allu i gyfranu rywfaint i ni: wedi yr elo dyn yn dylawd, yn arbenig os aiff felly drwy ynfydrwydd a phechod, ni fydd ar neb eisiau ei weled.

Cawn yn y gwr ieuanc hwn ddarlun o drigolion y ddaear i gyd. Un o'r ffeithiau amlycaf a mwyaf cyffredinol yn hanes ein rhywogneth ydyw—ein hymadawiad â Duw: Canys nid oes dyn ni phecha." Gan nad faint o amrywiaeth a welir mewn cenedloedd ac oesoedd, ac wahaniaeth rhwng teuluoedd a phersonau, y mae dynol—ryw i gyd ar yr un tir yn y golygiad hwn, "oblegyd pawb a bechasant." Y mae hyn yn wir am y natur ddynol ac am bob person unigol: Es. liii. 6. Gellir sylwi hefyd fod ein hymadawiad â Duw yn un o'r ffeithiau boreuaf yn ein hanes—hanes y ddynoliaeth a hanes pob dyn neillduol. Mor bell yn ol ydyw Eden! Ac mor wanaidd ydyw adgofion pob un o honom am ei ddiniweidrwydd ef ei hun! Y mae pob dyn yn droseddwr o'r groth. Y mae yn bechadur mor fuan ag y mae yn greadur. Pan gaiff afael arno ei hun gyntaf, cael ei hun, fel y mae y sawl sydd yn cyfodi ac yn myned allan drwy ei hûn yn cael ei hun wrth ddeffro—yn prysuro oddiwrth ei gartref, yn ymbellhau oddiwrth Dduw y mae. Ni raid mynegi mai ymddyeithriad ac ymddirywiad moesol ydyw yr ymadawiad hwn. Mesur ein pechod ydyw mesur ein hymfudiad oddiwrth yr Arglwydd. Y mae dyfnder ein cwymp yn cyfateb i ddyfnder ein llygredigaeth. Pellder yn ansawdd yr enaid, ac nid mewn lle, ydyw y "wlad bell" hon. Y mae hi yn gyfansoddedig o dywyllwch, drygioni, daear—oldeb, hunanoldeb; nis gallwn o ganlyniad, fesur ei phellder mewn llatheni a milldiroedd. Yr ydym o ran lle yn yr agosrwydd mwyaf at ein Creawdwr, oblegyd yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod ynddo bob eiliad; a byddwn felly yn oesoesoedd. Er nad ydym ni yn ei weled Ef, y mae Efe, ar bob amrantiad, yn ein gweled ni. Cymer ein gwrthryfel yn ei erbyn oddiarnom y cymhwysderau i fanteisio ar yr amlygiadau a rydd Efe o hono ei hun; oblegyd drwy feddu goleuui ynom y gallwn werthfawrogi goleuni oddiallan i ni. Onid ydyw llygad mor bwysig a haul? Ac yr ydym wrth bechu yn ei erbyn Ef, yn pechu yn ein herbyn ein hunain—yn pechu ein synwyrau ysbrydol oddiwrthym. Oherwydd hynny, er iddo Ef fod yn haul yn ein ffurfafen foesol, gallwn ni fod yn greigiau dilygaid o dan ei belydron.

Dyma ydyw sefyllfa pechaduriaid,―nyni oll a adawsom Dduw a droisom ni yn ol ato? Y mae lle i ofni na wnaethom i gyd; ac y mae y rhai sydd wedi dychwelyd yn petruso ateb yn gadarnhaol, oblegyd y maent yn ei golli mor aml. Un o brofedigaethau mwyaf y credadyn ydyw, ei fod yn methu ymgadw gyda'r Arglwydd—methu ei garu a methu byw iddo. Os felly, beth am yr annuwiol! Enaid wedi gadael ei Greawdwr—mor ddifrifol ydyw y syniad! Pa beth ydyw afon yn gadael ei ffynonell, ac yn ymgolli yn yr anialwch crás, fel nad yw yn cyrhaedd y môr byth, wrth ysbryd yn myned yn ddibaid ac yn ddi-ddiwedd ar encil dragwyddol, oddiwrth Dduw! Hosëa xiv.

II. YMADAWIAD DYN AG EF EI HUN.

Rhaid fod yr afradlawn hwn wedi gadael ei hun cyn y gallasai (adn. 17eg) ddyfod ato ei hun; ac y mae hynny yn ffaith am bob pechadur. Gadael ei hun—pa fodd y dichon creadur wneuthur y fath beth! Buasai Paul yn deall yr ymadrodd, oblegyd tystiolaetha fel hyn, "Yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â'r cnawd, cyfraith pechod:" rhaid, gan hynny, ei fod ef yn fath o ddau ddyn. Y mae pawb—annuwiolion a duwiolion, felly i raddau mwy neu lai. Y mae ymhob dyn rywbeth uwch ac is, a gwell a gwaeth, cynneddfau ardderchog ar y naill law, y rhai sydd yn cyfansoddi ei bersonoliaeth, yn gwneuthur creadur cyfrifol o hono, ac yn ei gysylltu â'r angel; ac, ar y llall, gwyniau ysgeler a nwydau llygredig, y rhai sydd yn ei ddarostwng ac yn ei ddiraddio at yr anifail. Ymddengys, yn unol â hyn, mai yr hyn a wna y sawl sydd yn gadael ei hun ydyw, gadael ei feddwl a dylyn ei gnawd—gwrthryfela yn erbyn egwyddorion uchaf a goreu ei natur, ac ymollwng o dan arglwyddiaeth ac i wasanaeth ei thueddiadau isaf a gwaethaf.

Dysgir yr un gwirionedd yn 1 Bren. viii. 47: "Os dychwelant at eu calon, &c." Rhaid i ddyn adael ei galon cyn y gall ddychwelyd ati. A gwyddom fod y galon yn rhywbeth mor bwysig, fel y mae yr hwn sydd yn ymadael â hi, yn ymadael mewn gwirionedd âg ef ei hun. Felly y mae yn anianyddol,—cynyrcha unrhyw ddyryswch ynddi hi ddyryswch drwy yr holl gyfansoddiad.

Nis gall y crëadur direswm sydd yn cael ei amddifadu o honi, barhau yn greadur—try yn fater difywyd. Yn gyffelyb mewn ystyr foesol, y mae y sawl sydd yn colli ei galon, yn colli ei hun yn yr ystyr uchaf yn colli ei enaid. Fel mai wrth iddi dderbyn llewyrch yr haul y mae y lleuad yn bod yn bod yn brydferth, ac yn bod yn 'ymarferol i ni, ac nad ydyw heb hynny yn ddim gwell na thalp o ddefnydd tywyll, marw, ac oer yn yr ëangder pell,—felly hefyd gyda golwg ar ddyn: o dan wenau ac yn nghymdeithas Duw yn unig y gall ef hanfodi mewn un—rhyw fri, ac ateb unrhyw ddybenion teilwng. Wrth iddo gefnu arno Ef, ymedy âg ef ei hun, ac ymlygra yn ol mesur ei ymbellhad oddiwrtho. Wrth bechu yn ei erbyn Ef, daw ei reswm yn dipyn o gallineb daearol ac o gyfrwystra pechadurus; syrth ei ewyllys i gaethiwed o dan arglwyddiaeth nwydau llygredig; try ei gydwybod yn fath o sarph ddall, fud, fyddar; ac ymddirywia ei holl natur.

Afreidiol ydyw mynegi nad yw dynolryw i gyd yn pechu yn yr un dull, nac i'r un graddau. Y mae rhai yn gybyddion, ac ereill yn afradloniaid; rhai yn feilchion, ac ereill yn halogedig. Medd llawer o honynt wybodaeth a dawn; ond nid ydynt yn adnabod ac yn caru yr Arglwydd. Enilla rhai o honynt anrhydedd y ddaear, a chariant ryw fath o ddylanwad daionus ar ei thrigolion; ond nid ydynt yn ymdeimlo â thragwyddoldeb, nac yn gweled y Nef. Erys llawer yn bechaduriaid rhesymol a charedig yn annuwiolion moesol a pharchus, ar hyd eu hoes. Ymlygra ereill yn aruthr, gadawant y rhesymol, y moesol, y dynol; a deuant yn ddaearol, yn gnawdol, yn anifeilaidd, yn gythreulig. Tra y mae y pellder oddiwrth feddwl ysbrydol a nefol at un anianol a bydol yn anfesuradwy, nid ydyw y gwahaniaeth rhwng y ddau ddosbarth rhag—grybwylledig, neu rhwng unrhyw annuwiolion, yn fawr iawn. Y maent i gyd ar yr un lithrigfa. Gall y sawl sydd yn amddifad o ffydd ddyfod yn unrhyw beth—yn fwystfil neu yn ddiafol. Nodweddir pob dyn pell oddiwrth Dduw ac oddiwrth ei enaid ei hun, gan ddifaterwch a dideimladrwydd. Yn y sefyllfa hon o anystyriaeth, y mae nos dywyll yn ymgau am dano; ac efe a syrth i gysgu ac i freuddwydio. Breuddwydia ei fod yn wybodus, yn oludog, yn anrhydeddus; ond breuddwydio y mae! Gallwn fwynhau yr olwg ar gwsg priodol—ar faban iach yn cysgu yn mynwes mam brydferth, neu ar gredadyn yn huno mewn tymhestloedd yn nghysgod yr Hollalluog. Ond beth a ddywedwn am enaid annuwiol yn cysgu! Mor arswydus i feddwl ysbrydol yw yr olwg arno! Dyma y ffaith am filoedd o bobl yn y deyrnas hon. Y mae cannoedd o ddynion yn myned o Gymru i uffern yn eu cwsg! Meddylier am y rhagrithiwr—nid ydyw yn gwneyd dim gwell na cherdded ar hyd haen o rew ar wyneb llyn diwaelodion! Y mae y dyn bydol, difeddwl a dideimlad, yn cysgu ar blanc yn y môr! Onid yw y sawl sydd yn feddw neu yn llygredig, yn cyweirio ei wely yn ffau y llew! Y mae y pechadur moesol, cyfoethog, mawr ei barch ac eang ei ddylanwad, yn huno mewn ty sydd ar dân! A ellir dychymygu am rywbeth mwy difrifol ac ofnadwy!

III. DYCHWELIAD PECHADUR ATO EF EI HUN.

Dysgir y mater hwn yn y geiriau canlynol, "A phan ddaeth atto ei hun." Gwel 1 Bren. viii. 46-53, &c. Yr ochr ddynol i achubiaeth pechadur a osodir allan drwy ymadroddion fel hyn; dangosir yr ochr ddwyfol iddi drwy y gair argyhoeddiad, ac ereill cyffelyb. Tra y gallwn, ac y dylem, wahaniaethu, ni ddylem byth ysgaru rhwng y pethau hyn, oblegid gwahanol elfenau yn yr un cyfnewidiad ydynt. Ymweithia y Dwyfol i fewn i a thrwy y dynol; ac y mae y dynol yn ymadnewyddu o dan effeithiau y Dwyfol. O dan ddylanwad yr Ysbryd Glân y gall pechadur edifarhau. Wrth weled ei fod wedi colli y ffordd, cymer ei arwain i rodfeydd y Brenin. Trwy gael ei ddwyn i ganfod ei berygl ac i deimlo ei eisiau, y gellir ei achub yn unol âg egwyddorion ei natur fel creadur moesol. Rhaid ei oleuo cyn y gall dderbyn maddeuant. Felly, er nad oes unrhyw haeddiant mewn argyhoeddiad ac edifeirwch, cymhwysant annuwiolion i dderbyn a gwerthfawrogi haeddiant y Gwaredwr. Gellir gwneyd tri sylw pellach ar hyn:—

1. Gwelwn mai o dan ddylanwad newyn y daeth yr Afradlawn ato ei hun; ond cofiai wrth ddyfod am y llawnder a adawsai: "Pa sawl gwas cyflog, &c.?" Yn ngoleuni ei adgofion am olud a gogoniant ei sefyllfa wreiddiol, y gwelai warth a thrueni ei gyflwr presennol. Wrth feddwl am raslonrwydd ei dad, ac am ddigonolrwydd ei gartref, ymwrolodd, er pelled oddiwrthynt ydoedd, i geisio myned yn ol; "Mi a godaf, &c." Yr un modd, y peth mwyaf priodol i bob crwydryn moesol ydyw ymofyn am yr hen lwybrau. Y peth doethaf all y dyn annuwiol, caled, llygredig, a ddygwyd i fyny mewn teulu crefyddol, wneuthur ydyw, dychwelyd—dychwelyd ato ei hun yn yr ystad oreu a phuraf, yn y cyfnod mwyaf diniwed, a fu arno erioed. Eled yn ol i foreu gwyn ei einioes, pryd yr oedd angylion yn ymddangos iddo yn ei freuddwydion, a phan yr oedd gwlith y nef heb sychu oddiar lwybrau ei fywyd. Galwed yn ol ddyledswydd deuluaidd ei hen gartref. Cofied am dano ei hun yn dringo ar lin ei dad, i ddyweyd adnodau wrtho, ac i wrando ar ei gynghorion, ac am dano ei hun yn plygu wrth ochr ei fam, i adrodd y gweddïau a ddysgasai iddo, ac i dderbyn ei bendithion. Ac odid fawr na bydd iddo wrth wneuthur hyny, gywilyddio, edifarhau, ac ymdrechu adfeddianu diniweidrwydd a gobeithion ei ieuenctid.

2. Y mae dyn wrth ddyfod ato ei hun, yn dyfod at ei reswm. Ac nis gall unrhyw bechadur wneyd dim yn well na dychwelyd at, ac aros gydag unrhyw weddillion o feddwl a synwyr a ddichon fod yn glynu yn ei natur. Galluogir ef drwy hyny i adnabod ei hun i ryw raddau. Ac wrth i oleuni gwelw ac anwadal ei enaid gael ei gryfhau gan lewyrchiadau dwyfol, y mae yn canfod ei hun fel y mae mewn gwirionedd. Gwel mor ddwfn ydyw ei dylodi, ac mor wrthun ydyw ei falchder, ae y mae yn cywilyddio,—mor ddisail ydyw ei gysuron, ac mor ddïwraidd ydyw ei obeithion, ac y mae yn dychryn. Gwel, mewn gair, ffolineb ei bechod; ac y mae yn bwysig dros ben i ni ddeall a theimlo fod drygioni yn ffolineb—y ffolineb mwyaf sydd yn bod. Tra y mae crefydd ynddi ei hun yn rhe—symol, ac yn gwneyd dyn, yn ol fel y mae yn enill dylanwad arno, yn fwy dynol a rhesymol yn barhaus; y mae pechod yn ynfydrwydd, ac y mae yn gwneyd dyn, yn ol fel y mae ei arglwyddiaeth arno yn cynnyddu, yn fwy ynfyd a diryw—iedig o hyd. Gweled hyn y mae pechadur wrth ddyfod ato ei hun, neu gael ei argyhoeddi,—gweled fod bywyd o segurdod ac o anlladrwydd, o falchder ac o gybydd—dod, yn wallgofrwydd yn gamddefnyddiad o amser ac o alluoedd mawrion, yn annghymhwyster ar gyfer tragwyddoldeb, ac yn arwain i warth a newyn annherfynol. Daw i deimlo fod y fath fywyd yn farwolaeth—yn farwolaeth ysbrydol, ac yn rhagredegydd i farwolaeth dragwyddol. Dysgir ef mewn canlyniad i edifarhau oblegyd ei bechod, ac i gashau a gadael ei ddrygioni. Toddir ei natur fel aur mewn tân, nes y bwria ymaith ei sorod, ac y derbynia yn naturiol iddi ei hun ddelw ei Chreawdwr.

3. Wrth i ddyn ddyfod ato ei hun, y mae yn dyfod at ei gydwybod ac nis gall ddyfod at gydymaith gwell. Nid ydyw yn ei dderbyn yn siriol, oblegyd ei fod wedi dirmygu cymaint ar ei gwaharddiadau; ond wrth iddo ef neshau yn ostyngedig y mae hithau yn tyneru. Wrth iddo ddangos tuag ati fesur o barch, y mae, ar ol ymsuddo am flynyddoedd i ddystawrwydd sarug, yn dechreu siarad. Ac wrth deimlo ynddi ei hun, yn adnewyddol, fywyd ac anadl Duw, y mae yn siarad gydag effeithioldeb mawr. Medd lawer o ffeithiau difrifol i'w hadrodd wrtho; oblegyd y mae hi, er pob difaterwch a chysgadrwydd ymddangosiadol, yn gweled ac yn clywed holl gyflawniadau ei oes. Gŵyr am bob gweithred ddrygionus, pob gair gwamal, a phob syniad halogedig, y bu yn euog o honynt erioed. Dengys iddo gynifer o addewidion a dorodd, ac o Sabbothau a halogodd; fel y cymerodd enw ei Dduw yn ofer, y meddwodd, ac yr ymlygrodd, fel y gwrthododd y Ceidwad ac y dirmygodd ei waed! Wrth i'r Ysbryd Glân gydweithio â'r gydwybod, datguddir ger bron yr enaid ddrygioni, yn gystal ag ynfydrwydd, pechod, oblegyd dangosir ef iddo yn ngoleuni deddf a chymeriad Duw. Arweinir ef i ddyfnderoedd ei galon, a chenfydd ei bod yn anialwch; ac y mae yn dychryn yn yr olwg ar ei seirph. Dygir ef i waelodion ei natur; a gwêl eu bod yn llawnion o lygredd ac o ddefnyddiau trueni. Caiff ei hun, ynddo ei hun, yn y byd ysbrydol yn ngolwg mellt ac yn swn taranau tragwyddoldeb; a phrofa rywfaint o ing a chywilydd y damnedigion. Fel y cafodd Israel ei hun unwaith gyda môr y tu blaen iddi, gyda byddin y tu ol iddi, a mynydd uchel ar bob llaw iddi, fel nad allai symud cam, caiff yntau ei hun: tu ol y mae oes o bechu; ar y naill law, y mae cydwybod ddeffröedig; ar y llall, y mae Cyfiawnder dwyfol gyda chleddyf noeth yn ei law; ac y mae uffern ymlaen. Ofer yw ei annog i ddianc yn ol nac ymlaen, ar ddê nac ar aswy; os daw gwaredigaeth o rywle, oddi uchod y daw.

Rhywbeth fel hyn ydyw argyhoeddiad. Y mae o ran ei natur yr un peth yn mhawb; cyfeiria bob amser at rywbeth dyfnach na theimlad—at feddwl a barn; cynwysa gyfnewidiad calon ac ysbryd; ac arweinia i wellhad yn holl gymeriad a hanes pechadur. Ond y mae yn gwahaniaethu mewn ffurf a gradd, ac yn gwneyd hynny yn ol mesur y goleuni fydd yn tywynu ar yr enaid, yn ol y natur frwd neu oer, gyffrous neu dawel, fydd yn cael ei hargyhoeddi, ac yn ol pechadurusrwydd blaenorol y dyn. Y mae yn drobwynt arbenig yn hanes enaid: cyn ei brofi, y mae yn rhedeg yn ddibaid oddiwrth Dduw; rhed ar ol ei brofi yn ddibaid at Dduw. Trwy hyn—trwy gael ei ddwyn i weled ei berygl ac i deimlo ei angen, y gall pechadur ddiolch i a gwasanaethu yr Arglwydd ar ol ei achub. Nis gallai fwynhau y Nef heb hyn, oblegyd nid allai deimlo ynddi ei fod mewn lle gwell nag a haeddodd. Y mae diolchgarwch yn elfen arbenig yn ei gwynfyd hi. Oni châr y gwaredigion weithiau adael o ran eu meddyliau rwysg yr orseddfainc, ac ymweled âg ymylon y wlad, gan edrych dros ei chanllawiau aur, i nos ac ing y pydew diwaelod, i syllu ar ei gadwyni, i ryfeddu na fuasent hwy yn crogi wrthynt, ac i addoli wrth gael eu hunain yn rhyddion mewn gogoniant! Argyhoeddir ni oll, ac edifarhawn i gyd rywbryd ac yn rhywle; pobl felly sydd yn uffern—rhai argyhoeddedig ac edifeiriol bob un. Gallwn, gan hyny, brofi y pethau hyn yn rhy ddiweddar.

IV. DYCHWELIAD PECHADUR AT DDUW.

Y mae dyn wrth ddyfod ato ei hun, yn dyfod at ei Greawdwr. Arweinir ef megys drwyddo ef ei hun at y Gwaredwr. A hyfryd ydyw meddwl ei fod Ef yn parhau (Luc xv. 2) i dderbyn pechaduriaid. Gan nad o ba bellder y deuant, a pha mor dylawd, llygredig, a thruenus bynag, y gallant fod, cânt eu croesawu: Ioan vi. 37. Gan nad beth ydym, fuom, ac a wnaethom, derbyniwn ymwared, ymgeledd, bywyd, a gogoniant ynddo Ef: 1 Tim. i. 15. Gwelir oddiwrth y testyn fod yr Arglwydd yn dysgwyl afradloniaid yn eu holau. Gwna hyny am ddau reswm: yn gyntaf, oblegyd fod ar ddyn eisiau Duw, ac nad all fod byth yn ddedwydd na thawel hebddo, Ni ddysgir hynny mor amlwg yn y ddwy ddameg flaenorol ag y gwneir yn hon. Nid ydyw dafad yn gofalu, cyhyd ag y mwynha ryddid a phorfa, eiddo pwy ydyw. Ac ni waeth gan ddarn o arian fod yn golledig mwy nag yn gadwedig—yn y môr mwy nag yn y banc: y mae yn bwysig i'w berchenog. Yr un modd gyda golwg ar filoedd o bethau a gollir, yr hwn sydd yn colli, ac nid yr hyn a gollir, sydd yn teimlo, ac efe sydd yn llawenhau wrth gael yr eiddo. Ond y mae yn enaid pechadur ddyhead greddfol am ei Greawdwr, a rhywfaint o duedd i ddychwelyd ato. Ar y llaw arall, y mae ar Dduw eisiau dyn; ac y mae mewn Creadigaeth, Rhagluniaeth, ac Iachawdwriaeth, yn defnyddio moddion afrifed i geisio ei ddwyn yn ol. Ac wrth iddo ddyfod, caiff Ceidwad a chadwedig lawenychu ynghyd,—caiff y diweddaf fywyd tragwyddol, a chaiff y Cyntaf ogoniant tragwyddol.

Gwyddom hefyd fod yr Arglwydd yn gwahodd ac yn cymhell pechaduriaid gyda serchawgrwydd a thaerineb rhyfeddol, i ddychwelyd ato: Es. xlv. 22, lv. 1-3, Matt. xi. 28-30, &c. Yn gyson â hyn, dangosir Ef yma fel tad yn dysgwyl ac yn edrych am ei fab yn ol: "A phan oedd efe etto ym mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef." Dywedir fod cariad yn ddall; camsyniad mawr yw hynny. Er nad ydyw yn cyhoeddi colliadau a beiau ar benau yr heolydd, y mae yn eu gweled, ac nid oes neb na dim a ddichon geryddu am danynt fel efe. Ond y mae, mewn modd arbennig, yn graff i ganfod daioni a diniweidrwydd, tylodi a thrueni. Mor glir raid fod golygon Cariad anfeidrol! Mor bell y mae yn gweled! Wrth weled, tosturiodd y tad, "ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd." Canlyniad dychweliad yr Afradlawn oedd llawenydd o bobtu. Fel yr oedd y bugail ac yr oedd y wraig yn llawenychu oblegyd darganfod eu heiddo, ac fel yr oedd hynny yn gysgod o lawenydd uwch,—"felly y bydd llawenydd yn y nef" ac "y'ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao," y cawn yma dad yn llawenychu oherwydd dychweliad ei fab: 22-24. Yn swn edifeirwch y mab y llefarai y tad yr adnodau hyn: A ydyw yn briodol i ni, wrth i ddyhirod fel hwn geisio aelodaeth yn ein heglwysi, lawenychu? Nid ydym wedi arfer gwneyd. Yr ydym yn hytrach, a barnu wrth yr esiampl hon, wedi bod yn rhy sarug wrthynt, ac yn rhy amheus o honynt. Bywyd o lawenydd ydyw crefydd i fod; un o brudd-der i raddau helaeth ydyw wedi bod yng Nghymru. Y mae gan y byd ei ddifyrion; oni ddylai fod, ac onid oes, gan yr Eglwys rai hefyd? Cynnelir gwleddoedd, a phob math o rialtwch, ar briodasau, genedigaethau, a dyfodiad etifeddion daearol i oed; oni ddylai Crefydd ymwynfydu yn ei ffordd ei hun wrth i bechaduriaid edifarhau, cael eu haileni, a phrofi cymundeb â Duw? Cawn yn y ddameg hon, yn ychwanegol at fwynhad yr Eglwys ar y ddaear, gysgod o lawenydd tragwyddol y Nef. Mor gyflawn fydd ei gwynfyd! Eneidiau iach, hollol sanctaidd, a pherffaith ddedwydd ynddynt eu hunain, mewn amgylchiadau hollol ddymunol o ran cyfoeth, gwlad, awyr, golygfeydd, a chymdeithas mor naturiol iddynt, ar ol ofnau a dagrau y ddaear, fydd gor—foleddu a moliannu! Cânt yfed byth bythoedd o afon hyfrydwch Duw: Es. xxxv. 10. "A hwy a ddechreuasant fod yn llawen." Pa bryd y darfyddant? Pa bryd y terfyna y neithior, y derfydd y wledd, ac y bydd y canu drosodd! Pa bryd y derfydd tragwyddoldeb, ac y gedy Duw ei orseddfainc!

A ydym ni wedi dychwelyd at yr Arglwydd? Bwriada pawb wneyd. Gwyliwn aros yn rhy hir! Diangodd llawer bachgen mewn ystyr naturiol, oddi cartref, ac arosodd, er teimlo yn fynych awydd dychwelyd,—arosodd mor hir nes cael, pan y daeth, ei hen gartref yn furddyn, ei frodyr wedi ymwasgaru, a glaswellt hir yn tyfu ar fedd ei rïeni. Gochelwn ymdroi gormod! Y mae y cyfleusterau yn diflanu!

Nodiadau

[golygu]