Neidio i'r cynnwys

Erthyglau, Pregethau a Chaniadau/Yr Angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glan

Oddi ar Wicidestun
Mawl i'r Ysbryd Glan Erthyglau, Pregethau a Chaniadau

gan John John Roberts (Iolo Caernarfon)

Ysbryd bywyd


YR ANGHENRHEIDRWYDD AM YR YSBRYD GLAN I WRTHWEITHIO CYNNYDD LLYGREDIGAETH YR OES.

WEDI gweled y dysgwylid i mi wneyd ychydig o sylwadau agoriadol ar y mater uchod yn Nghymdeithasfa Abergele, Rhagfyr 1af, 1892, dechreuais feddwl rhywfaint yn ei gylch. Y syniad cyntaf a ymgynnygiodd i mi wrth wneuthur hynny oedd, ei fod yn hen—yn hen iawn. Pa sawl gwaith y bu o dan ystyriaeth o 1735 hyd yn awr! Bu tadau y Cyfundeb yn pregethu arno, ac nid yw ei blant ieuengaf wedi peidio gwneuthur hynny; ac onid yw y cwbl a ellir ei wybod yn ei gylch wedi cael ei draethu gan-waith drosodd? Meddyliwn drachefn ei fod yn wirionedd, ac yn wirionedd pwysig ac amserol, ac y buasai yn anhawdd ei eirio yn well nag y gwnaethid. Y mae yn hen, ond nid ydyw wedi heneiddio, yn yr ystyr o fyned yn antiquated; ac ni wna yn y byd hwn. Nid yw oedran mawr yn dwyn oddiamgylch henaint ymhob cylch. Yr oedd natur mor iraidd a thlws eleni ag oedd gan' mlynedd yn ol. Y mae yr angel mor ieuainc heddyw ag y bu erioed. Yn gyffelyb gyda golwg ar yr enaid, nid yw ynddo ei hun yn llesghau o dan ddylanwad blynyddoedd; nid ydyw ei brif anghenion yn agored i gyfnewidiad, ac nid ydyw ei beryglon penaf yn amrywio llawer o oes i oes. Y mae hyn yn wir am bob ysbryd, yn arbenig am yr Ysbryd Glân—y Person Dwyfol, annherfynol yn ei adnoddau, ag sydd yn achosi bywyd a phrydferthwch ymhawb ac ymhob man. Y mae Efe uwchlaw heneiddio; ac nis gall yr angen am dano leihau. Yr ydym yn byw yn nghanol cyfnewidiadau mawrion, ac yr ydym yn dystion o welliantau ymhob cyfeiriad. Fel y mae Gwyddoniaeth a Chelfyddyd wedi lliosogi manteision a chyfleusderau yn y ganrif hon! Prin y gallwn ddirnad pa fodd yr oedd ein tadau, yn eu hamddifadrwydd o fendithion diweddar gwareiddiad, yn gallu o gwbl gario amgylchiadau y byd ymlaen. Ond y mai rhai hen elfenau yn aros, ac y maent mor angenrheidiol i ni ag oeddynt iddynt hwy. Galluogir dynion i wneyd pethau yn yr oes hon a ystyriasid unwaith yn wyrthiau; ond nid ydynt eto wedi dysgu gweithio heb ymborth, na byw heb awyr. Yr un modd yn ysbrydol, tra y mae cynnydd golud, rhyddid, a dysgeidiaeth, wedi dwyn o gwmpas welliantau pwysig yn nhrefniadau ac amgylchiadau allanol Crefydd, y mae hi ei hun yn aros yr un—mor ddibynol ar Dduw ag erioed. Y mae yr hyn a nodwyd wedi llïosogi cyfleusderau a manteision credinwyr yn ddirfawr; ond y mae awyr ysbrydol mor hanfodol i ni ag oedd i saint unrhyw gyfnod yn hanes yr Eglwys. Yr ydym, yn y mwynhad o ddiwylliant uwch ac o gynlluniau perffeithiach, mor amddifad o allu i gynnyddu mewn sancteiddrwydd ein hunain ac i ddarostwng llygredigaeth ein hoes, yn annibynol ar ras a goleuni Dwyfol, ag oedd ein henafiaid boreuaf. Dichon, yr un pryd, nad oes yr un gwirionedd ag yr ydym, yn bregethwyr, blaenoriaid ac athrawon, yn fwy agored i'w anghofio na hwn—ein hangen beunyddiol am Ysbryd yr Arglwydd.

Cymer y testyn yn ganiataol fod llygredigaeth yn cynnyddu yn yr oes hon: a ydyw hynny yn ffaith? Rhaid i mi, mewn trefn i allu ateb y gofyniad hwn, ofyn un arall—Pa beth a feddylir wrth lygredigaeth? Ei ystyr gyffredin ydyw annuwioldeb budr a gwrthun—pechodau cnawdol, anifeilaidd, a bwystfilaidd. A ydyw y rhai hyny yn llïosogi—yn llïosogi i ganlyn amlhad manteision a breintiau? Dysgir ni "y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf." Bydd i gamwedd ymgryfhau yn ddirfawr, bydd i bechod ymbersonoli mewn dynion o athrylith a dysg, a bydd i Satan ymgnawdoli mewn gwŷr o allu ac awdurdod. Ond prin y gall deongliad gofalus a chywir o dueddiadau ac arwyddion yr oes hon ein harwain i gredu fod hen ysgelerderau y ddaear yn adgyfodi ynddi. Meddylier am yr ysbrydiaeth ag oedd yn uno nerth, gelyniaeth, a chreulondeb—y trindod arswydus hyny, ac yn eu cymhell i orthrymu, i adeiladu carcharau, i gloddio daear-gelloedd, ac i ennyn rhyfeloedd ac erledigaethau—nid hono ydyw ysbrydoliaeth lywodraethol y ganrif hon. Er nad ydyw trais wedi darfod, er nad yw y milwr wedi diflanu, ac er fod yr ymladdwr, yn ngolwg llïaws o bobl yn Ewrop ac America, yn arwr, gwanhau, yn hytrach na chryfhau, y mae dylanwad hono. Mor bell erbyn hyn ydyw gwroldeb anianyddol oddiwrth fod yn unig neu yn brif rinwedd dyn! A ydyw hen lythineb y byd wedi ymadael o hono? Rhaid cydnabod nad ydyw, ac fod miloedd o bobl yn Nghymru yn dyoddef oddiwrth ei effeithiau; ond byddai dysgu ei fod, yn nghanol goleuni ymledol Gwyddoniaeth, yn cynnyddu yn ein plith, yn sarhad ar ein synwyr fel cenedl. Beth am ymyfed a meddwdod—a ydyw ein cydwladwyr yn dyfod o flwyddyn i flwyddyn yn fwy darostyngedig iddynt? Byddai gorfod credu hyny, ar ol ein holl ymdrechion yn eu herbyn, yn dynged alaethus. A ydyw yn ddichonadwy iddynt ymgryfhau i ganlyn llïosogiad ysgolion a cholegau? Addefaf eu bod yn dal eu ffordd yn fwy llwyddianus nag y gobeithiai eu gwrthwynebwyr boreuol: ond byddai meddwl eu bod, gydag ymledaeniad diwylliad ac yn erbyn holl ddylanwadau crefyddol ein hoes, yn ychwanegu cryfder, yn afresymol. Un o bechodau hynaf, grymusaf, a gwrthunaf y ddynoliaeth ydyw godineb: a ydym i ddeall fod y fath ddrygioni a hwn yn ymgryfhau yn ein mysg yn y dyddiau hyn? Mor bruddaidd ydyw y syniad am y fath beth! Cydnebydd pawb ein bod yn y golygiad hwn ymhell o fod y peth y carasem, ac oddiwrth yr hyn y buasai yn naturiol, wrth ystyried ein manteision, dysgwyl i ni fod: a ydym yn myned yn fwy trythyll ac anniwair? Edliwir yn fynych i ni fod bastardiaid yn llïosocach, yn ol nifer y boblogaeth, yn Nghymru nag yn Lloegr; ond nid ydyw hyny yn profi fod y Saeson yn wirioneddol burach na ni onid oes yn eu plith hwynt fwy o buteiniaid cyhoeddus nag yn ein plith ni? Gwareded yr Arglwydd ni rhag y trychineb o orfod credu fod anniweirdeb yn ymgryfhau yn ein mysg! Gwesgir fi, yr un pryd, i gydnabod fod drygioni, mewn rhai ffurfiau arno, yn cynnyddu yn bresennol. Nodweddir ein hoes gan ysgafnder a chellwair eithafol, a chan nwyfiant ac afiaeth peryglus. Gŵyr pawb fod yn naturiol i fywyd ieuanc chwareu, ac fod hynny, o fewn terfynau rhesymol, yn cynnyrchu llawer o fwynhad ac o ddadblygiad anianyddol. Barnaf, er hynny, ein bod yn chwareu gormod. Yr ydym yn cellwair yn fynych pan y dylem weddïo, ac yn chwerthin yn aml pryd y byddai yn fwy gweddus i ni wylo. Pa beth—yn ngwyneb cyfyngder masnachol a marweidd-dra crefyddol, ydym yn ei wneuthur—ai nid dawnsio? O na roddid i ieuenctyd ein gwlad ddoethineb wyn a mynod! Troant, drwy ymroddiad gormodol iddynt, gampau ag sydd ynddynt eu hunain yn ddiniwed ac iachus, yn niweidiol a diraddiol. Chwareu ei hun yn farch, ac nid yn llew nac yn arth, y mae yr ebol; ond y mae ambell i lanc yn chwareu ei hun yn anifail, os nad yn fwystfil. Priodol fyddai i fawrygwyr yr ymarferiadau corfforol hyn. ystyried, fod parch i Ddydd yr Arglwydd wedi dal, drwy holl ymladdfeydd a meddwdod ac anlladrwydd Cymru, i gynnyddu am gant a hanner o flynyddoedd—ac mai dirywiad yn sancteiddiad y Sabboth ydyw un o nodweddion oes y chwareuon hyn. Y ffaith ydyw, gan nad beth yw eu dylanwad o fewn terfynau cyfyng, eu bod, drwy feddiannu pobl fel y gwnant yn bresennol, yn parlysu teimladau crefyddol a phob pryder ynghylch tra—gwyddoldeb yn eu calonau. Onid yw ein llanciau yn chwareu Duw ymaith oddiwrth eu heneidiau!

Oni ddichon llygredigaeth olygu rhywbeth arall—rhywbeth llai anianyddol a gwrthun—mwy anianol ac ysgeler, llai colledus ac aflan—mwy hunanol ac anuwiol, llai cnawdol a gwarthus—mwy peryglus a dieflig, na hyn? Cynnwysa, fel yr ymddengys i mi, dueddiadau ac amcanion drygionus, a phechodau fel twyll, balchder, cybydd-dod. A chredaf fod y rhai hyn yn cynnyddu, yn hytrach na lleihau, yn ein plith. Yr ydym yn sicr yn byw mewn "amseroedd enbyd." Anadlwn awyr wenwynig. Dichon na bu yr Anghrist erioed yn gweithio yn fwy egniol, ac mewn dull mwy deniadol, nag yn bresennol. Amgylchynir ni gan ysbrydion cyfrwys a galluog, y rhai a wenwynant fywyd cymdeithas. Y mae gau brophwydi lawer yn myned allan yn y dyddiau hyn; a meddant eisoes gynddrychiolwyr yn ysgolion ac eglwysi ein hoes. Nid oes hyd yn hyn yn ein mysg ni, fel y mae ymysg rhai cenhedloedd, wŷr o athrylith a dysg yn cyfansoddi llyfrau, yn y rhai y mae gwirioneddau byw a heresiau dinystriol yn cael eu cydblethu yn ofalus, ac yn cael eu gosod allan drwy syniadau mor ddyrchafedig a chymhariaethau mor brydferth, nes y mae pobl yn eu darllen gydag awch rhyfeddol; ond y mae coethder anianol a diwylliad annuwiol yn ymledu yn gyflym drwy gymoedd a phentrefydd ein gwlad. Nid ydym ni yn cynnyg yn fynych i bechaduriaid Fara y bywyd wedi cael ei drochi mewn gwenwyn melus; ond y mae "ysbryd y cyfeiliorni" yn ymdaith yn llechwraidd drwy ein broydd yn y blynyddoedd hyn. Ni feddwn eto wyddoniaeth ddigon hyf i gymeryd oddiar Dduw reolaeth ei greadigaeth, na beirniadaeth ddigon dysgedig i ddinystrio y Beibl; ond yr ydym yn dechreu tosturio wrth boblach ddiniwed ag ydynt yn dal i gredu rhai hen athrawiaethau cysegredig. Onid ydym yn byw mewn "amseroedd enbyd?" Priodol fyddai i ni, yn gyson â greddfau goreu Athroniaeth, yr hon sydd mor wrthwynebol i anghrediniaeth ystyfnig ag ydyw i hygoeledd gwancus, brofi ysbrydion ein hoes. Gadawer i ni wrth fwrw ymaith ragfarnau a golygiadau cyfyng ein tadau, barchu y gwirioneddau a ddysgent. Na chladder eu duwinyddiaeth cyn iddi farw.

Os ydyw y sylwadau blaenorol yn gywir, ni ddylid rhyfeddu llawer at y cynydd a wna hyfdra yn ein plith. Dichon na fu erioed yn ein gwlad fwy o wrthwynebiad i bob math o awdurdod nag sydd yn bresennol. Wrth i urddas ac iawnderau personol gael eu pregethu mor fynych yn nghlywedigaeth pobl, tyn llïaws o honynt y casgliad fod pob dyn yr un faint. Wrth gael eu bod i gyd yn gydbwys yn yr etholiad gwladol a chrefyddol, llithrant i gredu eu bod felly ymhob man. Y canlyniad o hyn ydyw, fod rhyddid yn ymddirywio yn aml i benrhyddid, a bod syniadau gwerinol yn ymweithio mewn byd ac eglwys yn nghyfeiriad aflywodraeth. Collwn bob gwylder a pharchedigaeth. Daw ynfydion yn anffaeledig. Dyrchafant eu cyrn, dywedant yn warsyth, a merwinant glustiau llednais y tir à llwon a rhegfeydd. Yn gyffelyb gyda golwg ar fydolrwydd yn ei wahanol ffurfiau; gwesgir fi i feddwl fod awydd am gyfoeth yn cryfhau yn ddirfawr yn ein plith. Yr ydym, gan nad beth am bechodau cnawdol, yn cynyddu mewn huanoldeb a balchder—mewn gwychder allanol a hunan-addoliad mewnol. Daw enill swyddau daearol a safleoedd cymdeithasol yn amcan uchaf bywyd. Yn ol grym y gwyniau hyn, y mae ein hymdrechion am eu gwrthrychau yn llïosogi ac yn angerddoli; ac yr ydym, yn gyfatebol i hyny, yn myned o hyd yn fwy agored i ddefnyddio moddion diraddiol wrth geisio cyrhaedd ein hamcanion. Edrychir ar dwyll manteisiol a chelwydd llwyddianus fel defodau cyfreithlawn. Ystyr ymadrodd prydferth fel ffyddlondeb i gyfeillion, erbyn hyn, ydyw ymwerthiad, ar draws gwirionedd a chyfiawnder, i wasanaeth plaid. Y mae gweniaeth ddeheuig yn myned o hyd yn fwy anrhydeddus. Daw athrod, o dan yr enw o feirniadaeth, yn un o ddyledswyddau cyffredin bywyd. Onid ydyw crefydd ei hun yn cael ei defnyddio i hyrwyddo dyrchafiad personol a buddianau teuluaidd? Dengys y Beibl mai yn y dyfodol y mae y diluw o lygredigaeth; ond y mae meibion Duw yn priodi merched dynion yn awr.

Nodweddir llawer o ddrygioni yr oes hon gan ryw fath o barchusrwydd. Nid ydyw yn diraddio nac yn dinystrio pobl yn ebrwydd. Nid yw cymdeithas anianol yn myned wrth ei gyflawni, yn ddirmygedig yn ei golwg ei hun. Gwna yr un haul i fwystfilod geirwon a rheibus encilio oddiwrth ein haneddau, ac i nadroedd prydferth a gwenwynig chwareu ar ein llwybrau. Ac ymddengys i mi fod hen bechodau budron ein cenedl yn diflanu yn raddol o dan ddylanwad addysg a diwylliad, a bod eu lleoedd yn cael eu meddianu gan rai mwy cymhenllyd ac ysgeler. Ni fyddai yn rhyfedd i ni ddyfod yn fuan, drwy ein manteision presennol, yn rhy wybodus i fod yn lwth, yn rhy gall i feddwi yn aml, ac yn rhy chwaethus i odinebu llawer; gallwn fod mor dwyllodrus, beilchion, a chybyddlyd, ag y mynwn. Dygir y dyn sydd yn troseddu drwy gyfrwng ei gorff yn ddiatreg i waradwydd a chosb; gall enaid, wedi cael ychydig o ymarferiad, wrthryfela yn hir cyn cael ei hun mewn blinderau. Y mae cnawd wrth ymhalogi yn egnïol, yn tori i lawr cyn myned yn hen: deil ysbryd i ymlygru yn dragwyddol. Pechai ein henafiaid lawer yn erbyn dynion a deddfau gwladol; ond y mae hyny wedi dyfod erbyn hyn yn beth peryglus a gwarthus. Yn erbyn y ddeddf foesol ac yn erbyn Duw, yn hytrach, y pechwn ni; ac yr ydym, yn y fuchedd bresennol, yn ddyogel ac anrhydeddus, Ymgiliwn oddiwrth bechodau (Rhuf. i.) paganaidd a diraddiol, ac ymroddwn i gyflawni drygau (2 Tim. iii. 1—5) llednais a Christionogol. Nid ydyw y rhai diweddaf yn tybied ymadawiad â'r Eglwys; oblegid gallwn, er bod yn euog o honynt, feddu "rhith duwioldeb:" golygant yn unig ymadawiad â Duw o fewn yr Eglwys. Ni chadwant bobl o gymundeb crefyddol—cauant hwynt allan o'r Nef. Nid ydynt yn eu gyru i garcharau a gwallgofdai—gyrant hwynt i uffern.

Pa beth a feddwn ar gyfer y sefyllfa hon ar bethau? Pa fodd y gallwn ddal a gwrthweithio llygredigaeth yn y gwahanol agweddau hyn? Diau fod yn natur dyn, yn arbenig mewn gwlad ac oes fel hon, rywfaint, er pobpeth, o ddaioni a goleuni—lawer o syniadau cywir, o dueddiadau rhinweddol, ac o ddymuniadau dyrchafedig. Ym—draidd gwirioneddau dwyfol drwy gof a meddwl, drwy ymadroddion a gweithredoedd, trigolion Cymru. Y fath sefydliad bendigedig yw y Sabboth! Gwasgara ordinhadau yr Efengyl yn ddibaid ddylanwadau grasol a phureiddiol drwy ein cenedl. Ymweithia miliynau o nwyon nefol drwy awyr y ddaear. Ni ddylem, o ganlyniad, ddigaloni. Dichon fod y byd ysbrydol yn nes atom nag yr ydym yn aml yn synied. Addefwn fodolaeth angelion; ond i raddau bychain y sylweddolwn eu bod yn rhodio yn ein mysg ac yn gweini arnom. Yr ydym yn ymarferol yn eu cau i fyny yn y Nef. Os rhydd Pabyddiaeth ormod, oni rydd Protestaniaeth rhy fychan o le iddynt? Ac yr ydym ni yn rhoddi llai o lawer o le iddynt nag a roddid gan ein henafiaid. Prin y lletywn ni angelion yn ein credo chwaithach yn ein tai. A fyddai yn afresymol i ni gredu ein bod yn cael ein cylchynu yn wastadol gan greaduriaid ysbrydol—doeth, caredig, a galluog; ac fod y cyfryw yn ein cynorthwyo yn ddistaw mewn mil o ffyrdd? Os na fyddai, ni ddylem anobeithio am wellhad y byd. Na fydded i ni ildio i genadon uffern hyd nes y deallwn fod preswylwyr y Nef wedi ein gadael. Gall y pethau hyn wneuthur llawer—llawer iawn ar un ammod—drwy un Ysbryd mawr a dwyfol. Gan nad faint o werth a berthyn iddynt, ymddibyna yn hollol ar ei bresenoldeb Ef.

1. Gwelir yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân i wrthweithio cynnydd llygredigaeth, wrth ystyried mai Efe ydyw Ysbryd y gwirionedd yn y datguddiad ac yn yr eglurhad o hono. Trwyddo Ef y trosglwyddwyd y gwirionedd i ddynion, ac Efe sydd ymhob oes yn eu tywys i ddirnadaeth o hono. Felly yn arbenig gyda golwg ar hyn—Efe sydd yn dynoethi drygioni ac yn argyhoeddi y byd o bechod. Yn ei oleuni Ef y canfyddwn ni ysgelerder llygredigaeth. Gall rheswm anianol ddeall yr anianol. Gall hefyd synied am rai o ganlyniadau annuwioldeb—tylodi, gwarth, gwallgofrwydd, gwae; ond nis gall ei adnabod ef ei hun. Nis gall ei ddirnad yn ei arwyddocâd dyfnaf, ac yn ei wrthwynebiad eithaf i Dduw, mwy nag y gall dyn arogli drwy ei glustiau neu glywed drwy ei ffroenau; oblegid yn ysbrydol y bernir y cyfryw bethau. Ysbryd yn unig a ddichon weled a dangos ysbryd. Ysbryd yw diafol, ac ysbrydiaeth yw drygioni; ac mewn goleuni ysbrydol yn unig y gallwn ni eu hadnabod. Y mae y meddwl, yn ol cynnydd ei berchenog mewn llygredigaeth, yn ymdywyllu o hyd; ac un canlyniad o hynny ydyw, fod pechod yn myned yn barhaus yn fwy diniwed yn ei olwg. Dwg yr Ysbryd Glân oddiamgylch gyfnewidiad trwyadl yn natur dyn. Goleua ei feddwl yn y fath fodd nes yr ymddengys pethau iddo mewn lliwiau hollol newyddion. Cawn fod yr hwn sydd ysbrydol yn barnu, neu yn adnabod, pob peth. Daw yn ol ei gynnydd mewn ysbrydolrwydd i weled drygioni yn wastadol yn fwy ysgeler. Yn y cyfeiriad hwn y gorwedd yr eglurhad ar waith duwiolion yn dal i achwyn arnynt eu hunain. Wrth iddynt dyfu mewn purdeb, cryfha llygaid eu meddyliau; ac ymddengys eu pechadurusrwydd ag sydd mewn gwirionedd yn lleihau, iddynt drwy hynny, yn fynych, fel pe byddai yn cynnyddu. Ysbryd yr Arglwydd yn unig all oleuo enaid a dynoethi llygredigaeth yn effeithiol. Ac y mae yn ein gwlad rai pechodau a ddiflanant wrth deimlo eu bod yn cael eu hadnabod, fel y mae lladron yn dianc wrth ddeall eu bod yn cael eu gwylied. Prin y gall ysbrydion mewn cyrff daearol ganfod holl ddaioni na holl ddrygioni unrhyw weithred neu ymddygiad. Pe cawn fenthyg golygon saint perffeithiedig, dichon y gwelem rai arferion a ystyrir yn yr oes hon yn ddiniwed, yn bechodau arswydus. Nid ydym yn gobeithio cael hynny; ond gallwn brofi rhywbeth llawer mwy. Daw dynion, drwy breswyliad yr Ysbryd Glân ynddynt, i edrych ar ymweithiad eu heneidiau eu hunain ac ar ddygyfor cymdeithas oddiallan iddynt drwy lygaid Duw. Galluogir hwynt drwy hynny i ddeall drygioni a llygredigaeth i ryw fesur fel y mae Ef yn eu deall; a thrwy eu hadnabod yn yr ystyr ddofn hono yn unig y gallant eu gwrthwynebu gydag ymroddiad teilwng.

2. Ymddengys yr anghenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân tuagat i ni allu attal cynnydd llygredigaeth, wrth i ni ystyried mai drwyddo Ef yn unig y dysgir ni i ffieiddio llygredigaeth. Ac nis gallwn, heb hynny, gymaint a cheisio na dymuno ei ddarostyngiad. Nis gallwn ymdrechu dinystrio yr hwn, neu yr hyn, sydd yn anwyl genym. Byddai gallu gwneuthur hyny yr un peth a gallu caru a chashau yr un gwrthrych ar unwaith ac yn yr un golygiad. Yr ydym wrth ei adnabod yn cael ein parotoi i gasau drygioni; ond y mae gwneuthur hynny yn drwyadl, ac ymhob ffurf arno, yn gofyn am adnewyddiad pellach. Deuwn i adnabyddiaeth o hono drwy gael ein goleuo; rhaid i ni mewn trefn i allu ei wrthwynebu yn effeithiol, gael i ryw raddau ein sancteiddio. A gwaith Ysbryd yr Arglwydd yn unig yw hyny. Ceidw tlodi ddynion rhag cyflawni pechodau drudion; a thuedda chwaeth naturiol hwynt i beidio ymdrybaeddu mewn rhai budron iawn. Par synwyr greddfol iddynt gilio oddiwrth rai peryglus i gysur a llwyddiant, a dinystriol i iechyd a bywyd; a chymhella dymuniad am glod hwynt i ymgadw oddiwrth rai gwarthus. Ac anadla cydwybod anianol, megys drwy ei chwsg, rai taranau difellt yn erbyn y cyfan. Ond y mae casau a gwrthwynebu drygioni yn ei natur ac yn ei holl agweddau, yn annichonadwy i greadur halogedig. Byddai dysgu y gall ewyllys lygredig ffieiddio llygredigaeth, yn groes i reswm ac Ysgrythyr. Byddai yr un peth ag i ddyn gasau ei gnawd ei hun. Trwy adnewyddiad yr Ysbryd Glân y gallwn ni brofi y digofaint iachus a sefydlog hwnw at bechod a wna ei ddarostwng yn un o amcanion penaf ein hoes.

Efe yn unig a ddichon ddeffro y gydwybod a phuro yr ewyllys drwyddynt; ac y mae wrth wneuthur hynny yn rhoddi cyfeiriad priodol i holl yni, ac yn marweiddio holl gnawdolrwydd a hunanoldeb ein natur. Arllwysa fywyd newydd i enaid hen; ac y mae drwy hynny yn cynnyrchu ynom y chwyldroad mwyaf y tu yma i greu ynom eneidiau newyddion. Gwna ddyn yn ddau—y naill yn gyfansoddedig o dywyllwch, halogrwydd, llid, gwae—y llall o oleuni, ffydd, cariad, sancteiddrwydd; ac y mae drwy borthi y diweddaf à Bara y bywyd yn ei alluogi i orchfygu y cyntaf yn gynt neu hwyrach. Trosglwydda egwyddorion dwyfol i galonau pechadurus; a thry drwy hynny rai o hen daleithiau uffern yn drefedigaethau nefol. Trwy gael fel hyn ein creu o newydd, daw tueddiadau llywodraethol a greddfau dyfnaf ein bod yn drwyadl groes i ddrygioni. Casawn ef, mewn canlyniad, â holl aidd, a gwrthwynebwn ef â holl rym, ein natur. Daw gogoneddu Duw drwy ddarostwng llygredigaeth, yn amcan uchaf ein bywyd. Gallai dynion grasol, yn gyson â hyn, wneyd llawer tuag at buro cymdeithas. Dylent wneuthur mwy na mwy yn Nghymru, lle y mae nifer y rhai sydd yn proffesu duwioldeb mor liosog. Gorchwyl hawdd fyddai iddynt drwy gydfyw a chydweithio allan egwyddorion Cristionogaeth, gywilyddio llïaws o lygredigaethau allan o honi.

3. Gwelir yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân tuagat i ni allu darostwng drygioni, wrth ystyried mai Efe yn unig a ddichon arwain a chyfarwyddo yn anffaeledig, ac mai Efe yn unig all attal dirywiad ac annuwioldeb yn effeithiol. Medd graffder anfeidrol i ragweled temtasiynau a pheryglon dyfodol, ac agweddau newyddion ar gyfeiliornad a phechod, a doethineb berffaith (Esa. xi. 2) i ragdrefnu y moddion mwyaf addas i ddwyn oddi—amgylch ddinystr y cyfan. Y mae yn parotoi credinwyr yn ddiarwybod iddynt eu hunain ar gyfer gwaith ac amgylchiadau arbenig eu hoes. Effaith ei bresenoldeb Ef yw cynlluniau doeth a gweithgarwch llwyddianus. Gall Ef rwystro i dueddiadau pechadurus ymffurfio yn ymddygiadau pechadurus, a dysgu dynion i ladd aspiaid gwenwynig mewn wyau prydferth. Meddylier hefyd gymaint yw ein hangen am dano mewn cyfeiriad fel hyn:—Gwelir ymhob cenedlaeth lawer o alluoedd a symudiadau amddifaid o gymeriad pendant; nid ydynt ynddynt eu hunain yn hollol ddaionus nac yn hollol ddrygionus, ac ymddibyna eu gwerth ar y defnydd a wneir o honynt. Medd personau a chymdeithas yn feunyddiol adnoddau agored i ddyfod yn fendigedig neu yn felldigedig. Cawn esiampl arbenig o hyn yn nwyfiant ac ysbrydiaeth ieuenctyd gwlad; gallant ymddirywio yn bechodau ofnadwy, a gallant drwy ddysgyblaeth briodol ateb y dybenion ardderchocaf. Ac Ysbryd yr Arglwydd yn unig a ddichon buro ac achub y cyfryw nerthoedd. Gall ddysgu arweinwyr crefyddol i droi nwydau yn weision hyfforddus i reswm a chydwybod, i newid teimlad dynol yn eiddigedd sanctaidd, i agor o flaen brwdfrydedd lwybrau o ddefnyddioldeb anrhydeddus, ac i gyfarwyddo grym anianyddol ac yni deallol i ryfela yn fuddugol dros rinwedd a chrefydd. Byddai yn hawdd lliosogi esiamplau, megys talent a golud oes, ac Efe yn unig a ddichon feddiannu a chysegru y fath bethau i amcanion teilwng.

Gallwn gymeryd golwg eangach ar hyn—gwelir ysbrydiaeth ddyeithr weithiau yn meddiannu cenedl ac yn cynyrchu ynddi ymweithiad mawr, ac ni fydd yn hawdd mynegi am ysbaid o ba le y bydd yn dyfod, nac i ba le y bydd yn myned. Ysgoga hi o dan ei ddylanwad bron fel un gwr, a hynny am enyd yn ddiarwybod iddi ei hun, mewn rhyw un cyfeiriad. Ac y mae gallu deall yr ysbrydiaeth a chyfarwyddo y genedl, o dan y fath amgylchiadau, yn bwysig dros ben. Yr Ysbryd Glân yn unig a ddichon wneuthur hynny. Y mae, yn neillduol ar brydiau, yn ymdreiddio drwy yr Eglwys yn ddoethineb berffaith ac yn ddylanwad bendigedig. Galluoga hi i ddarllen arwyddion yr amseroedd, ac i weled nodweddion y dyfodol yn mreuddwydion y presenol. Rhydd iddi lygaid i adnabod ysbrydion cenedloedd, a chlustiau i glywed dyheadau dyfnaf cenedlaethau. Cyfarwydda hi i ddeall sibrydion bloesg cymdeithas a murmuron arddunol moroedd bywyd. Bendithia hi â synwyr i ddeongli lleisiau rhyfeddol Amser, ac awgrymiadau dyrchafedig awelon y Nef wrth iddynt ymsymud drwy goedwigoedd y ddaear. Meddylier yn ngoleuni y syniadau blaenorol am yr hyn a elwir yn Ddeffroad Cenedlaethol neu Gymru Fydd; credaf y buasai ymweliad newydd oddiwrth yr Ysbryd Glân yn arwain y Cyfundeb i ymdrechu yn fwy egnïol a doeth nag y gwnaeth hyd yma, i hyfforddi a chrefyddoli yr ymweithiad hwnw. Gallwn ofyn pa beth ydyw, ac at ba beth yr ymgyfeiria; ond nid ydyw yn hawdd ateb. Gan nad beth ydyw, a chan nad i ba le y mae yn myned, y mae yn rhaid i ni gydnabod ei hanfodiad; ac onid ydyw ei fodolaeth yn rheswm digonol dros i ni dalu sylw iddo? Gallwn fod yn sicr na bydd i waith ambell i ddyn, na fedd ddigon o feddwl i weled unrhyw ragoriaeth ynddo, na digon o galon i allu cydymdeimlo âg ef, na digon o yni i allu gobeithio ennill ei wobrwyon, yn chwerthin am ei ben, beri iddo ymgiliaw o fod. Ni hoffwn i hanesiaeth ailadrodd ei hun gyda golwg arno. Nid oes feallai achos i ryfeddu na buasai Methodistiaeth bur a llem blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf a hanner flaenaf hon, wedi canfod yn y cynulliadau chwibwrn a ymgyfarfyddent, weithiau mewn llysdy ac weithiau mewn tafarndy, annelwig ddefnydd yr Eisteddfod. Gweddus er hynny ydyw ym—ofidio oblegid na wnaeth—oblegid na welodd yn yr ymddeffroad anwadal, pensyfrdan, hanner llenyddol a hanner gwallgof hwnw, ag oedd ar unwaith yn sobr ac yn feddw, y bywyd sydd erbyn hyn wedi meddiannu y genedl. Canys y mae yr hen Sefydliad, mewn canlyniad, wedi ymledu ac ymgryfhau o dan ddirmyg a gwg y Cyfundeb. Pe buasai mwy o gyfathrach caruaidd wedi bod rhyngddynt, hwyrach y buasai pob un o honynt yn well heddyw—yr Eisteddfod yn fwy goleuedig a phur a Methodistiaeth yn fwy Cymreig a Chenedlaethol. A fydd a fu?

4. Gwelir angen yr Eglwys am yr Ysbryd Glân tuag at iddi allu darostwng llygredigaeth, wrth ystyried ei fod yn Ysbryd nerth. Hynny yn anad dim arall ydyw. Trosglwydda y gair yn gyntaf ac yn benaf y syniad o rym ac effeithioldeb. Nis gallwn fesur cryfder yr ysbryd lleiaf a gwanaf mewn bod. Trwy hynny o ysbryd sydd ynddo y gwna dyn ei holl bethau ardderchog. Llenwir ni yn fynych â syndod hyfryd yn yr olwg ar ysbrydiaeth anifeilaidd yn gwneyd ac yn dal, yn cyflawni ac yn goddef. Math o ysbrydoliaeth feddyliol ydyw athrylith, ac y mae ei chynnyrchion hi ymhlith trysorau gwerthfawrocaf ein rhyw. Ysbrydoliaeth calon sanctaidd sydd, drwy wyliadwriaethau caruaidd ac ymdrechion cuddiedig, drwy ym—wadiad tawel ac ymaberthiad dystaw, wedi goleuo a gogoneddu rhywfaint ar hanes y ddaear. Ac os gall ysbryd bach, mwy neu lai llygredig, ac yn gweithredu drwy gyfrwng cnawd afiach, gyflawni gorchestion prydferth ac arddunol, beth nad allai ysbryd mawr a phur ei gyflawni! Cawn i angel ladd mewn un noson bump a phedwar ugain a chant o filoedd o Assyriaid. Ac os gallodd creadur mor lawn o gariad ddinystrio cynnifer mewn amser mor fyr, y fath nifer o gymwynasau allasai weinyddu, ac o fendithion allasai gludo i breswylwyr helbulus ein byd! Ond pa beth ydyw dyn neu gerub mewn cymhariaeth i Ysbryd Duw! Nid ydyw enaid yn ddim mwy wrtho Ef na chwa grwydredig wrth awyr annherfynol. Nid ydyw seraph yn ddim mwy wrtho na chwmwl llwyd yn ymyl môr di-lan a di-waelodion. Gallant hwy wneyd rhywbeth, a llawer o fewn terfynau cyfyng; ond nid oes unrhyw waith, o fewn unrhyw gylch, nad all Efe ei gyflawni.

Medd yr Ysbryd Glân allu diderfyn i ddinystrio yn gystal ag i adeiladu. Gallai ddarostwng drygioni a gwarthruddo aflendid, drwy achub y bobl sydd yn ddarostyngedig iddynt. Byddai yn hawdd iddo, wrth ymweithio drwy gymdeithas, sobri meddwon a phuro godinebwyr gwlad mewn mis. Nis gallai balchder cenedl a thwyll oes oddef ei ddylanwad mwy nag y gallai barug ddal pelydrau yr haul. Trwyddo Ef y galwyd y bydoedd i fod; Efe a droes y tryblith boreuol yn baradwys; ei anadl Ef yw bywyd y ddaear. A thra yr ydym ni, ynom ein hunain, yn ddiddym iawn, gallwn drwy gael ein defnyddio ganddo Ef gyflawni rhyfeddodau. Gallai ddinystrio pechadurusrwydd, ymhellach, drwy sancteiddio dynion achubedig. Byddai i fesur helaethach o lawer o hono nag a fwynhawn yn bresenol, wasgaru drwom oleuni digon cryf a thanbaid, i gywilyddio ac i ddeifio bydolrwydd a hunanoldeb credinwyr i ffwrdd. Newynai genfigen yr Eglwys o fod. Cryfhai fywyd ysbrydol y genedl nes ei galluogi i fwrw annuwioldeb a llygredigaeth ymaith. O dan y fath amgylchiadau, gyda mwyafrif mawr trigolion ein gwlad yn dduwiol, ac yn cynnyddu yn gyflym mewn goleuni, cariad, a sancteiddrwydd, gwesgid y gweddill o honynt i fyw yn rhesymol a moesol. Gorfodid troseddwyr rhyfygus ac oferwyr halogedig i ymadael o gymdeithas wareiddiedig. Deuai pechodau gwarthus yn annyoddefol—yn annichonadwy o fewn ein gororau. Mor werthfawr fyddai ymweliad oddiwrth yr Eneiniad Dwyfol! Cariai rhieni drwy gynghorion, gweddïau ac esiamplau, ddylanwad achubol ar eu plant. Deuai yr Ysgol Sabbothol yn sefydliad mwy bendigedig nag y bu erioed. Dychwelai hen bregethu gogoneddus Cymru. Ymledai addysg ostyngedig a diwylliad grasol drwy y genedl. Cofiwn, os ydyw y gelyn yn dyfod i fewn fel afon, y gall Ysbryd yr Arglwydd ei ymlid ef ymaith (Esa. lix. 19). Ystyriwn, yn y meddiant o drefniadau rhagorol, fod yn rhaid i ni gael Ysbryd y peth byw yn yr olwynion (Ezec. i.). Pa fodd y gwrthweithiwn lygredig—aeth ein hoes? "Nid drwy lu, ac nid drwy nerth, ond drwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd." "O anadl, tyred oddiwrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw!" Gwel Ezec. xxxvii. 1-10. "Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; i'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol paradwys Duw."

Nodiadau

[golygu]