Neidio i'r cynnwys

Erthyglau, Pregethau a Chaniadau (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Erthyglau, Pregethau a Chaniadau (testun cyfansawdd)

gan John John Roberts (Iolo Caernarfon)

Cyfarchiad
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Erthyglau, Pregethau a Chaniadau


MYFYRION

ERTHYGLAU, PREGETHAU, A CHANIADAU,


GAN

Y PARCH. J. J. ROBERTS,

(IOLO CARNARVON,)
PORTHMADOG.



Caernarfon:
ARGRAPHWYD A CHYHOEDDWYD GAN
W. GWENLYN EVANS.
1901.



AT FY NGHYDWLADWYR.

I CHWI, Gymry tirion, o bob gradd a rhyw, ac o bob galwedigaeth a phlaid, y dymunaf gyflwyno hyn o gyfrol. Rhoddasoch yn barod groesaw i ddau lyfryn o fy ngwaith; a gobeithiaf nad wyf yn cymeryd yn rhy hyf arnoch wrth gynyg i chwi y trydydd. Ni pherthyn i mi ddywedyd nemawr ddim am dano. Gwelir ei fod o ran mater a thôn yn gwbl grefyddol. Er nad oes unrhyw berthynas neillduol rhwng ei wahanol ranau, efallai y canfyddir ynddynt fymryn o olyniad meddyliol. Cefais i beth budd wrth geisio ei feddwl, a gradd o flas droion wrth draddodi rhai darnau o hono; a hyderaf y bydd yn profi yn rhywfaint o adeiladaeth a hyfrydwch i chwithau.

Teimlaf yn dra rhwymedig i MR. GWENLYN EVANS am ymgymeryd â chyfrifoldeb ei gyhoeddiad.

Gan ddymuno daioni uchaf fy nghenedl a gogoniant fy Ngwaredwr, y gorphwys,

Yr eiddoch,

Yn bur,

J. J ROBERTS.

Porthmadog,
Medi, 1900.

Y CYNWYSIAD


MYFYRION.

NATUR ADDOLIAD.

Y MAE yn perthyn i addoliad ddwy ran: natur a ffurf, neu enaid a chorff. Penderfynir y gyntaf gan natur Duw; penderfynir yr olaf gan ewyllys Duw. Rhaid i addoliad o ran ei natur gyfateb i natur y Gwrthddrych y cyflwynir ef iddo. "Ysbryd yw Duw;" oblegid hyny rhaid i bawb a fynant ei addoli, wneuthur hyny mewn ysbryd a gwirionedd. Rhaid, o ganlyniad, fod addoliad o ran ei hanfod yr un peth ymhob oes a byd, canys y mae natur Duw o angenrheidrwydd yn anghyfnewidiol. Gan mai ar ewyllys yr Arglwydd y mae ffurf addoliad yn dibynu, yr oedd i raddau yn agored i gyfnewidiad, ac y mae yn parhau i oddef mesur o amrywiaeth. Aeth drwy y fath gyfnewidiadau ag oedd yn angenrheidiol mewn trefn i gyfarfod â dynolryw mewn amgylchiadau gwahanol—gwahanol o ran y mesur o ddadguddiad a feddent, y graddau o ryddid a fwynhäent, a llawer o bethau ereill. Sefydlid o bryd i bryd y cyfryw ordinhadau ag oeddynt yn fwyaf addas i ddwyn oddiamgylch sancteiddiad y creadur a gogoniant y Creawdwr. Y ffurf gyntaf oedd yr Oruchwyliaeth Batriarchaidd—goruchwyliaeth nodedig o syml a rhydd. Dilynwyd hono gan yr Oruchwyliaeth Seremonïol, yr hon oedd lawn mor nodedig ar gyfrif y lliosogrwydd o ebyrth ac offrymau, o ddefodau a swyddogion, a berthynai iddi. Cymerwyd lle hono gan yr Oruchwyliaeth Efengylaidd; a chan nad faint o wahaniaeth oedd rhwng y ddwy flaenorol, gwahaniaetha hno lawn cymaint oddiwrth bob un ohonynt. Tra yn cyf- ranogi yn helaeth o symledd a rhyddid y trefniant Patriarchaidd, y mae yn perthyn iddi hefyd ordinhadau ac addoldai a swyddogion; ac er bod yn y pethau olaf a nodwyd yn ymdebygu rhywfaint i Oruchwyliaeth Moses, y mae, ar yr un pryd, yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrthi. Er esiampl, yr oedd lle yn elfen bwysig yn nghrefydd yr Iuddewon; yn Jerusalem ac yn y Deml yr oedd yn rhaid iddynt hwy addoli. Ond caniateir i ni ddewis ein lleoedd; cyfarfyddwn à Duw ymhob man—yn y bwthyn yn gystal ag yn y cysegr; ac y mae ei bresennoldeb Ef yn troi y cwm yn deml. Nid ydyw lle, gan hyny, na dull, mwyach, cyhyd ag y bydd lle a dull yn weddus—yn gyson à "phrydferthwch sancteiddrwydd," yn meddu llawer o bwysigrwydd. Ac y mae cysylltu. bendithion yr Efengyl wrth unrhyw le neillduol, yn wadiad o awdurdod ddwyfol y Testament Newydd. Yr un pryd, o dan bob goruchwyliaeth a thrwy yr holl gyf- newidiadau a grybwyllwyd, yr oedd ac y mae addoliad ei hun yn gwbl yr un peth. Cyflwynai Enoch a Dafydd i Dduw yr un offrymau, o ran egwyddor ac ysbryd, ag a gyflwynai Martin Luther a William Williams, Pantycelyn. Gan nad faint o wahaniaeth sydd rhwng dull yr eglwys filwriaethus a dull yr eglwys orfoleddus, neu rhwng dull dynion a dull angelion o addoli, can belled ag y maent yn addoli, y maent yn gwneyd yr un gwaith yn hollol o ran ei natur. Y mae mawl y ddaear o ran ei hanfod yr un peth a mawl y nef.

Gan adael heibio y naill wedd ar y pwnc, yr holiad y carwn ei ofyn, ac y carwn, pe gallwn, ei ateb, ydyw—Pa beth yw addoliad ynddo ei hun—pa beth ydyw, nid yn unig ar wahân oddiwrth y ffurfiau allanol a chyfnewidiol a nodwyd, ond ar wahân hefyd oddiwrth ordinhadau mwy hanfodol a sefydlog, megys gweddio a chanu mawl, darllen y Beibl a phregethu yr Efengyl-pa beth ydyw yn ei natur? Yr atebiad goreu a fedraf roddi ar hyn o bryd ydyw, ei fod yn rhyw fath o gymdeithas uchel ac ysbrydol rhwng dyn a Duw. Calon y creadur ydyw y ffynnonell o ba un y tardd diolchgarwch a moliant; y Creawdwr ydyw y gwrthddrych yr ymgyfeiriant ato. Er mai cyflwyno i, yn hytrach na derbyn oddiwrth, yr Arglwydd, yr ydym wrth addoli, dylem ystyried fod yn angenrheidiol iddo Ef dderbyn yr hyn a gyflwynwn cyn y bydd yn addoliad; canys y mae Efe mor sicr o dderbyn pob peth sydd, ag ydyw o wrthod pob peth nad ydyw, yn addoliad. Yn awr, mewn trefn i ddal cymundeb â dyn neu â Duw, y mae dau beth yn angenrheidiol: Un ydyw adnabyddiaeth. Caniateir yn ddiau fod cymdeithasu, yn yr ystyr o garu, ymddiried, ac ymhyfrydu, yn annibynol ar adnabyddiaeth, yn annichonadwy. Y llall ydyw cyd-ddealltwriaeth neu gydnawsedd. Rhaid bod y ddau i ryw raddau o dan lywodraeth yr un egwyddorion, ac yn ym- gyrhaedd at yr un amcanion. "A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytun?" Gwelir yr angenrheidrwydd am yr elfen olaf wrth ystyried ein bod, tra yn gwybod llawer am wrthddrychau y greadigaeth, ar yr un pryd yn analluog i ddal cymdeithas â mynydd neu fôr. Yn debyg i fesur gyda golwg ar anifail, yr hwn sydd yn greadur uwch na mynydd. Er fod y meddiannydd yn adnabod ei ŷch, a bod yr ych yn adnabod ei feddiannydd, nid oes digon o gyd-ddealltwriaeth a chydymdeimlad rhyngddynt i gyn- nyrchu dim y byddai yn briodol ei alw yn gymundeb. Ac onid adwaenom ambell i ddyn, yr hwn, er nad ydym yn ei gasâu, sydd o ran tueddiadau ac arferion mor groes i ni, fel nad ydym yn hiraethu am weled ei wyneb yn un man? Yn unol â hyn, rhaid i ni, mewn trefn i allu addoli, fod yn adnabod yr Arglwydd, a bod yn alluog, i ryw raddau, i garu ac i gasâu y pethau y mae Efe yn eu caru ac yn eu casâu. A ydyw dyn felly? A ydyw yn gweled yr anweledig ac yn ymhyfrydu yn yr un pethau â Duw? Bu hyny yn wir am dano unwaith. Ar y cyntaf, adwaenai a charai ei Greawdwr, a daliai drwy hyny gymdeithas ddigyfrwng âg Ef. Ymddyddanent ac ymrodient ynghyd megys cyfeillion. Pan ddaeth dyn yn bechadur, dyrysodd y cyfan. Daeth y goleuni oedd ynddo yn dywyllwch, a throes ei gariad yn elyniaeth. Ymddirywiodd ei ufudd- dod i anufudd-dod, ac ymnewidiodd ei ffyddlondeb yn wrthryfel. Daeth cymundeb rhyngddynt, mewn canlyniad, yn annichonadwy. "Canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch ?" Byddai dysgwyl i ddyn annuwiol addoli yr Arglwydd yr un peth a dysgwyl i elyn Duw ei garu. Rhaid iddo, mewn trefn i allu gwneuthur hyny, brofi rywbeth tebyg i gynnwysiad yr addewid gan- lynol: "A'r dydd hwnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyll- wch." Gyda chlust enwaededig, clyw "lais y nef" yn nghanol "holl leisiau'r greadigaeth." Gyda llygaid wedi eu hagoryd gan yr Ysbryd Glân, gwel, nid moroedd a mynyddoedd, ond bydoedd newyddion a llawnion o fywyd a gogoniant. Cenfydd brydferthwch cariad a sancteidd- rwydd. Daw sylweddau mawrion tragwyddoldeb yn wrthddrychau gwirioneddol ger ei fron, a chaiff ei hun yn aml yn syllu ar Dduw ei hunan. Gan nad i ba gyfeiriad y try ei olygon-ai Creadigaeth ai Rhagluniaeth neu Iachawdwriaeth, gwel drwy y cyfan Greawdwr a Thad. Mewn geiriau eraill, rhaid i bechadur, mewn trefn i allu addoli, gael ei eni oddiuchod, a thrwy gael ei eni oddi- uchod, ei wneuthur yn gyfranog "o'r duwiol anian". hyny yw, anian ddwyfol. Fel y mae plentyn a enir o rieni naturiol yn cyfranogi o natur a bywyd ei rieni, y mae dyn a enir o'r Ysbryd, mewn rhyw ystyr ac i ryw raddau, yn cyfranogi o natur a bywyd y Jehofah ei hunan. Gwneir ef mewn ystyr arbenig yn "hiliogaeth Duw." Yna, yn ychwanegol at weled ac adnabod, y mae yn teimlo a gweithredu. Yn yr olwg ar sylweddau tra- gywyddol, y mae yn ofni ac yn llawenhau, yn edifarhau ac yn molianu. Wrth edrych ar yr Arglwydd, llenwir ei galon â chariad a syndod, â diolchgarwch a gorfoledd. Ymbletha ei deimladau am briodoliaethau yr Anfeidrol. A gallwn yn awr ddarlunio addoliad fel gwaith y dwyfol yn y creadur yn ymgodi at y Dwyfol yn y Creawdwr. Tra mai wrth weled a theimlo Duw y gall dyn addoli yn wirioneddol, addas, yr un pryd, ydyw ystyried mai nid yr un olwg a gaiff y credadyn bob amser arno. Bydd rhai priodoliaethau yn amlycach heddyw, a rhai eraill yfory. Ond bydd i bob priodoledd a wêl, ddeffro yn ei enaid alluoedd a theimladau cyfatebol iddi hi ei hun.

Bydd cysondeb rhwng ansawdd ei galon a natur y dad- guddiad a gaiff. Oblegid hyny y mae yn perthyn i addoliad, er ei fod o ran ei hanfod yn un, amrywiol agweddau; ac y mae yr Arglwydd drwy hyny yn canfod ynddo adlewyrchiad o egwyddorion ei gymeriad Ef ei hun. Dichon y byddai engraifft neu ddwy yn foddion i wneuthur hyn yn eglurach. Cawn ddwy wedd arbenig ar Dduw. Y naill ydyw ei fawredd, ei allu, hollwybodaeth, tragwyddoldeb, anfeidroldeb, cyfiawnder, sancteiddrwydd, digofaint, ofnadwyaeth; y llall ydyw ei ddaioni, cariad, graslonrwydd, trugarogrwydd, maddeugarwch, tosturi, amynedd, ffyddlondeb. Gwelir y ddwy drwy y geiriau canlynol: "Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel." Arddunedd hwyrach yw y gair sydd yn cyfleu y syniad mwyaf clir a chyflawn am y cyntaf. Y gair mwyaf priodol i osod allan yr olaf ydyw prydferthwch neu hawddgarwch.

I. Arddunedd Duw:-Amlygir hyn mewn gwahanol ffyrdd. Cawn ddadguddiad eglur ohono drwy y greadig- aeth. Oblegid y mae ynddi gynifer o fydoedd, a bydoedd mor fawrion; y mae hi yn gyfryw o ran ëangder ac amrywiaeth, mor gyfaddas i ateb ei dybenion, ac mor gyflawn o ddarpariadau ar gyfer y gwahanol rywogaethau o fywyd sydd ynddi, fel y gwesgir ni yn yr olwg arni i gredu fod mawredd, gallu, a doethineb ei Hawdwr yn anchwiliadwy. Gyda golwg ar gyfiawnder a sancteidd- rwydd, fel y maent yn briodoliaethau hanfodol yn ei natur, hwynt-hwy yw egwyddorion sylfaenol ei lywodraeth: wrthynt hwy y mae Efe ei hun yn byw, ac yn eu hol hwy y mae yn rheoli ei holl greaduriaid. Canfyddir i fesur bychan ddigofaint yr Anfeidrol drwy amgylchiadau fel y diluw a dinystr dinasoedd y gwastadedd; a phrofir ei ofnadwyaeth gan ddynion a chythreuliaid yn uffern. Mewn ymadroddion mor ardderchog y gosodir allan fawredd Duw yn y Bibl! Wele ychydig o esiamplau: "Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt; yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd. Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd â'i rychwant? Wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. Ti hefyd wyt Dduw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe. A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? Cyfuwch a'r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr. Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a'r Hen Ddihenydd a eisteddodd; ei wisg oedd cyn wynned a'r eira, a gwallt ei ben fel gwlan pur; ei orseddfa yn fflam dân, a'i olygon yn dân poeth. Afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron y farn a eis- teddodd, ac agorwyd y llyfrau."

Yr olwg yma o fawredd a sancteiddrwydd a gaiff dyn weithiau ar Dduw; a pha beth mewn canlyniad a wna ? Pa beth, o dan y cyfryw amgylchiadau, ydyw addoliad? Cynwysa o leiaf ddwy elfen. Ymostyngiad yw y naill; y llall yw mawrygiad. Y mae y Cristion yn cywilyddio o hono ei hun, ac ar yr un pryd, yn anrhydeddu yr Arglwydd. Mewn geiriau ereill, y mae yn addoli ac yn gogoneddu ei Greawdwr. Er fy mod hyd yma wedi defnyddio y gair addoliad, yn ei ystyr gyffredin a phen- agored, i olygu unrhyw a phob math o ddefosiwn, ym- ddengys mai ei arwyddocâd manwl a chywir yn y ddau Destament yw, ymgrymu; a chyfieithir ef felly yn 1 Chron. xvi. 29: Ymgrymwch i'r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd." Dan yr ym- syniad am hollalluogrwydd a chyfiawnder, am hollwybod- aeth a phurdeb Dwyfol, ac oddiar ymwybyddiaeth o ddrygioni ei weithredoedd a llygredigaeth ei galon ei hun, addoli yn y golygiad hwn y mae y credadyn. "Myfi a glywais â'm clustiau son am danat; ond yn awr fy llygad a'th welodd di. Am hyny y mae yn ffiaidd genyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.' Ond y mae ar unwaith yn edrych i fyny, ac o lwch a lludw edifeirwch yn gogoneddu y Jehofah; wrth yr hyn y golygir ei fod yn cydnabod ei fawrhydi, yn priodoli iddo bob gallu, doethineb, ac awdurdod y gall ddychymygu am danynt, ac yn cyfaddef ei fod yn anfeidrol fwy, galluocach, a gogoneddusach, nag y dichon iddo ef yn dragywydd feddwl na dychymygu. Fel y seraphiaid, y rhai, er eu bod yn seraphiaid, a ymguddiant yn eu hadenydd eu hunain yn mhresenoldeb yr Arglwydd, y mae yr addolwr yn yr un presenoldeb yn myned i lawr yn myned yn ddim yn ddim ond yn llygad i weled, yn galon i fawrhau ac yn llais i glodfori y Jehofah; ac y mae, ar yr un pryd, fel hwythau, yn llefain o eigion ei ddinodedd, "Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd." Y mae fel hyn, ar y naill law, yn ymostwng, yn ofni, yn llesmeirio; ac ar y llall, yn dyrchafu, yn mawrygu, yn gogoneddu. A thra nad ydyw yr elfenau hyn o ostyngeiddrwydd a pharched- igaeth yn absennol o unrhyw addoliad cymeradwy, credwn mai hwynt-hwy yw y prif elfenau yn addoliad y "Duw anfeidrol mewn gogoniant."

II. Prydferthwch Duw:-Canfyddwn adlewyrchiad o hawddgarwch yn gystal ag o arddunedd y Creawdwr ar, yn, a thrwy y greadigaeth. Gwelwn hyny nos a dydd, yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod. Cyfarfyddwn ymhob cyfeiriad âg esiamplau o deleidrwydd a thlysni- mewn symudiad, mewn ffurf, ac mewn lliw. Onid yw ysgogiad y brithyll yn yr afon, neu yr aderyn drwy y wybr, a ffurf y dderwen neu y mynydd, a lliw y blodeuyn neu y ffurfafen, yn nodedig o brydferth? Y mae y blagur yn îr ac yn dlws; ac y mae maes o wenith melynwyn wrth ymdoni o dan yr awel, yn gweinyddu hyfrydwch i ni. Tyr y wawr yn firain, a machluda yr haul yn ogoneddus. Ymddengys harddwch drwy ruddiau gwridog y wyryf, a thrwy wallt gwyn a modrwyog ei thaid. Ac onid yw anadl laith a llygredig dyn yn ymnewid yn fynych, yn y gauaf, ac yn ymffurfio ar ffenestr ei ystafell-wely yn drefn ac yn geinder digyffelyb? Dangosai y byd hwn gymaint o gysondeb a mireinder i bobl oleuedig a chwaethus fel y Groegiaid, fel mai Cosmos—prydferthwch-oedd yr enw a roddent hwy arno. Dichon nad ydyw mor flagurog a swynol yn awr ag ydoedd unwaith, a bod blodau a pheraroglau Paradwys yn rhagori ar bob rhyw o flodau a pheraroglau a geir yn bresenol; oblegid y mae y ddaear o achos dyn yn felldigedig, a drain ac ysgall yw ei chynnyrch naturiol. Ac os yw byd melldigedig, fel yr eiddom ni, yn arddangos cymaint o drefn a thlysni, mor hyfryd raid fod yr olwg ar y greadigaeth pan ddywedodd y Creawdwr yn fuan wedi ei gorphen, mai "Da iawn ydoedd." Os ydoedd hi wrth ei fodd, ac yn ddadguddiad o hono Ef ei hun, mor ddysglaer a phrydferth raid fod y Nef! Ac os ydyw y Nef i gyd yn brydferthwch ac yn oleuni tragywyddol, mor ogoneddus raid fod Duw ei hun!

Naturiol, er hyny, pa mor fawr bynag ydyw, yn hytrach na moesol, yw y gogoniant uchod; tra mai gogoniant moesol-hawddgarwch cymeriad a chalon yr Arglwydd- sydd yn gweinyddu mwyaf o hyfrydwch i ni. Pryd- ferthwch daioni a chariad, maddeugarwch a thrugaredd y Goruchaf, sydd yn fywyd ac yn nefoedd i bechadur. Dadguddir hwn yn helaeth drwy y greadigaeth; canys y mae yn llawn o drefniadau caredig. Dadguddir ef yn helaethach drwy ragluniaeth-drwy oddefgarwch, gwar- edigaethau, a darpariadau tosturiol. A dadguddir ef yn berffaith drwy yr efengyl. Caiff y sawl sydd yn adnabod Crist olwg gyflawn ar y prydferthwch Dwyfol: "Yr hwn yw delw y Duw anweledig." Y mae "efe yn ddysgleir- deb ei ogoniant ef ac yn wir lun ei berson ef." Caraswn roddi esiamplau o ogoniant cariad y Jehofah yn y tri chyfeiriad a nodwyd; ond elwn drwy hyny yn rhy taith i amcanion yr ysgrif bresenol. Rhaid ymfodd- loni ar ddyfynu rhai adnodau, drwy y rhai y mae yr hawddgarwch Dwyfol yn tywynu yn ddysglaer: "Canys yn y dydd blin y'm cuddia o fewn ei babell; yn nirgelfa ei babell y'm cuddia. A gŵr fydd megis yn ym- guddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl; megys afonydd dyfroedd mewn sychdir, megys cysgod craig fawr mewn tir sychedig. Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? Ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. Efe a ddychwel, efe a drugarhâ wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. Llygaid pob peth a ddysgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â'th ewyllys da. Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loew-win; o basgedigion breision, a gloew-win puredig. Efe a lwnc angeu mewn buddugoliaeth; a'r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddiar bob wyneb; ac efe a dyn ymaith warthrudd ei bobl oddiar yr holl ddaear."

Caiff y credadyn weithiau yr olwg hon arno; a pha beth a wna wrth syllu arni? Pa beth ydyw addoliad, pan y mae hawddgarwch y Jehofah yn tori ar enaid yr addolydd? Cynwysa o leiaf ddwy elfen:—

1. Naturiol ydyw casglu fod ansawdd calon dyn wrth edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, i raddau, yn gyffelyb i'r hyn ydyw wrth iddo edrych ar ryw brydferthwch arall. A gwyddom mai dylanwad tlysni yw deffro ynom anwyldeb ac ymhyfrydiad, a chynnyrchu ynom serchiadau a dymuniadau. Ac onid yr hyn a wna yr addolydd yn yr olwg ar hawddgarwch Duw ydyw, caru—yn gyntaf ac yn benaf, caru? Cyffröir hyd yr eithaf ei alluoedd i anwylo ac ymhyfrydu. Fel y mae yr haul wrth feirioli y ddaear, a chynhesu ac ireiddio ei gwraidd, yn dwyn allan o honi flodau a pheraroglau, felly y mae yr Arglwydd wrth gyfodi ar ac ymddadguddio i enaid pechadur, yn dadmer ei galon, yn toddi ymaith ohoni rew ac eira cenfigen, ac yn goleuo a gwresogi ei holl natur. Mewn canlyniad, bydd i serchogrwydd flaguro, ceir ffrwyth ar winwydd cariad, a dechreua y cymeriad wasgaru peraroglau. A rhaid fod peraroglau yn tarddu oddiar ddynoliaeth bur a chariadlawn, yn gymeradwy yn y Nef. Ymhellach, yn ol y graddau y dadguddir i ddyn yr hawddgarwch Dwyfol, yr ymgryfhâ ei gariad at yr Arglwydd, ac yn ol y graddau yr ymgryfhâ ei gariad at yr Arglwydd, y daw cariad yn frenin ar holl gynneddfau a theimladau ei natur. Heblaw hyny, nid ydyw cariad a gelyniaeth ond gwahanol agweddau ar yr un egwyddor; canys yr ydym wrth garu unrhyw berson, yn cael ein harwain i gasâu pob peth gwrthwynebol a niweidiol iddo. Y mae hyn yn wir gyda golwg ar ein cariad at Dduw; yr ydym wrth ei garu Ef yn cael ein llanw â chasineb at bob peth croes iddo. Felly y mae gelyniaeth—gelyniaeth at ddrygioni, yn hanfodol i addoliad. Wrth weled fod pechod wedi tynu dagrau o lygaid a gwaed o galon ei Waredwr, wyla yr addolydd ddagrau o o edifeirwch chwerwach na bustl, a phoethach na thân. Nis gallwn addoli yn annibynol ar gariad. Gan nad faint o yni a gweithgarwch fydd yn nghynneddfau a theimladau eraill yr enaid, os na bydd yr egwyddor hon yn treiddio yn fywyd ac yn ysbryd drwy y cwbl, bydd y cyfan yn ofer . 2. Yr elfen arall yn y wedd hon ar addoliad yw, ymgysegriad—nid ymgysegriad i waith, yn awr, yn gymaint ag ymgysegriad o ran meddwl a chalon i Dduw. Tardd hon oddiar yr elfen flaenorol,—ein cariad ato. Gwyddom ein bod, ar ol dechreu anwylo unrhyw berson dynol, ac yn ol mesur ein hanwyldeb o hono, yn cael ein harwain yn naturiol a dïarwybod i ni ein hunain i feddwl am dano, i ddymuno lles a dedwyddwch y cyfryw, i hiraethu am ei gymdeithas, ac i fyw iddo ac erddo. Y mae y dyn i gyd yn dilyn ei galon. Yn gyffelyb, wedi i bechadur, yn yr olwg ar raslonrwydd y Jehofah, ddechreu ei garu, y mae yn ol grym ei gariad ato yn meddwl am dano, "ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos." Daw mwynhau ei gymdeithas yn awyddfryd cryfaf ei galon, a'i ogoneddu yn nod uchaf ei fywyd. Teimla fod ei holl ffynnonau yn Nuw; ac oblegid hyny, Duw ydyw cartref meddyliau a theimladau ei natur; dychwelant oddiwrth bawb a phob peth, fel pererinion, ato; ac ynddo Ef y mae ei ysbryd yn byw, yn symud, ac yn bod. "Yr holl afonydd a redant i'r môr:" yr un modd, y mae dymuniadau ac amcanion yr addolwr yn ymgyfeirio byth at Dad ein Harglwydd Iesu Grist. Ac y mae hyn—myfyrio arno, hiraethu am gymundeb âg Ef, ac "edrych ar brydferthwch yr Arglwydd," yn addoliad. Yna, wedi i enaid ddyfod yn gysegredig i, ac yn glymedig wrth, Dduw, os bydd angen am ryw wasanaeth neu aberth, am arian neu ymdrechion—eisieu rhywun i wynebu ar galedi, gwarth, a pheryglon, gwaedda yr enaid hwnw, Wele fi! Wrth gael ei hun yn wrthddrych sylw a chymwynasgarwch anfeidrol, llenwir ei galon âg awydd angerddol i wasanaethu ei Greawdwr. Fel y bu Crist farw drosto ef, y mae yntau yn barod i farw dros Grist. Mor naturiol, gan hyny, ydyw addoliad Duw! Yn yr olwg ar brydferthwch ei gymeriad, y mae ei garu y peth mwyaf rhesymol a hyfryd mewn bod; wrth ei garu, daw myfyrio arno, chwennychu ei gymdeithas, a rhyfeddu at ei ddaioni, yn weithrediadau greddfol i ddyn; a thrwy y cwbl, daw ymdrechu ei ogon— eddu yn waith rhy hawdd a dymunol iddo allu peidio ei gyflawni.

III. Caiff yr addolydd un olwg arall ar Dduw—golwg arno, nid fel Un mawr a galluog, hollwybodol a chyfiawn, yn unig; nac fel Un graslawn a thrugarog, llawn o gariad a ffyddlondeb, yn unig; ond fel Un mawr, a da, galluog a graslawn, cyfiawn a thrugarog. Gwel fod nerth diderfyn a daioni diderfyn, gwybodaeth annherfynol a thosturi annherfynol, yn cydgyfarfod ynddo; a bod uniondeb a chymwynasgarwch, sancteiddrwydd a maddeugarwch anfeidrol, yn ymgofleidio ac yn ymgusanu yn ei natur. Dengys ei holl weithredoedd iddo mai braich cariad anfesurol ydyw ei hollalluogrwydd, ac mai llygad tosturi difesur ydyw ei hollwybodaeth. Cyfeirir at yr olwg gyflawn hon ar ei gymeriad mewn llïaws o fanau yn y Bibl. Cymerer dwy neu dair o esiamplau:—"Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel.

Efe sydd yn iachâu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. Y mae efe yn rhifo rhifedi y ser; geilw hwynt oll wrth eu henwau. Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel? Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? Efe sydd yn codi y tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu yr anghenus o'r domen; i'w osod gyda phen— defigion, ïe, gyda phendefigion ei bobl. Yr hwn a wna i'r anmhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen—fam plant. Canys fel hyn y dywed y Goruchel a'r Dyrchafedig, yr Hwn a breswylia dragywyddoldeb, ac y mae ei enw yn sanctaidd, Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf, a chyda'r cystuddiedig a'r isel o ysbryd, i fywhâu y rhai isel o ysbryd, ac i fywhâu calon y rhai cystuddiedig."

Pan fydd awyr enaid yr addolwr yn lled glir, caiff yr olwg hon ar gysondeb ac eangder y cymeriad Dwyfol. Gwel y Brenin yn ei degwch. A bydd i hollalluogrwydd a sancteiddrwydd perffaith, wrth gael eu cyd—dymheru â daioni a chymwynasgarwch anfesurol, golli eu hofnadwy— aeth iddo; a chedwir cariad a graslonrwydd diderfyn, drwy eu hundeb à mawredd a chyfiawnder annherfynol, yn arddunol a gogoneddus gerbron ei olygon. Cawsai Edward Jones, Maes-y-plwm, y datguddiad hwn pan gyfansoddai y penill canlynol:

"Clyw, f'enaid tlawd, mae genyt Dad
Sy'n gwel'd dy fwriad gwàn,
A Brawd yn eiriol yn y nef
Cyn codi'th lef i'r làn:
Crêd nad diystyr gan dy Dad
Yw gwrando gwaedd dymuniad gwiw,
Pe byddai d'enau yn rhy fud
I'w dd'wedyd gerbron Duw."


Myfyrier arno,—er fod genau yr enaid yn rhy fud i ddywedyd llawer ger bron Duw—y mawr, sanctaidd, ac ofnadwy, gall anturio at ei Dad, a theimlo yn hyderus y bydd iddo Ef, drwy y Brawd sydd yn eiriol yn y nef, ystyried ei gri. Ni raid mynegi mai yr un un yw y ddau—y Tad a Duw. Pa beth a wna yr addolydd, neu a wneir ynddo, pan y sylla ar yr Arglwydd yn y goleuni hwn? Diau y caiff pob tuedd ddaionus ynddo adnewyddiad ac adgyfnerthiad; purir ac ysbrydolir ei natur; a llenwir ei galon â gwynfydedigrwydd annrhaethadwy. Pa beth o dan y fath amgylchiadau ydyw addoliad? Cynwysa yn ddiau bob elfen—cariad, parch, diolchgarwch, mawl, &c.; ond credwn fod dwy egwyddor yn ymdreiddio dan a thrwy y cwbl, sef ymddiried a gobaith. Wrth ganfod fod nerth diderfyn a thosturi diderfyn wedi cymeryd ei blaid, naturiol yw i ddyn ymddiried ac ymdawelu. Yna y derfydd am ei holl ofnau ef, a throir ei bryder yn dangnefedd heddychol. Wrth weled fod daioni, doethineb, a golud anfeidrol rhyngddo â thrueni, mor hawdd iddo ydyw gobeithio a llawenychu! Os ydyw wrth edrych yn ol yn cael achos i ymofidio, y mae yn cael achos i orfoleddu wrth edrych ymlaen; a gwelir yn aml, o dan y fath amgylchiadau, ddagrau edifeirwch a dagrau llawenydd yn cydlifo hyd ei ruddiau. Os ydyw rhan flaenorol ei fywyd yn auaf tywyll a thymhestlog, y mae ei ddyfodol yn haf blodeuog a dysglaer. Credwn fod yr elfenau hyn o ymddiried a gobaith, yn bresenol ymhob addoliad cymeradwy; mai yn ol y graddau y bydd y dadguddiad a gaiff yr enaid o Dduw yn eglur a chyflawn, yr ymgryfhânt; ac mai yn ol y graddau yr ymgryfhânt hwy, y bywheir ac y gwresogir yr elfenau eraill.

Crybwyllais fod addoliad yn golygu cymdeithas rhwng dyn â Duw; ac felly y mae. Yn ol y graddau y mae yn adnabod yr Arglwydd, ac yn ymddiried ac yn gobeithio ynddo, galluogir yr addolwr i nesâu ato ac i lefaru wrtho. Cymer cymundeb le rhwng creadur a Chreawdwr.

Ar y naill law, y mae y credadyn, fel plentyn, yn adrodd ei helyntion—pryder a thangnefedd ei ysbryd, profedigaethau a chysuron, peryglon a gwaredigaethau ei oes; yn cydnabod cymwynasgarwch a ffyddlondeb ei Dad nefol, ac yn cyfaddef ei bechodau amrywiol a llïosog, yn adrodd wrtho hanes allanol a mewnol ei fywyd. A bydd yr ymarllwysiad hwn yn ymwared ac yn adfywiad dirfawr iddo. Bendith i enaid helbulus yw cael mynegu ei ofidiau wrth ddyn caredig a doeth, a derbyn cydymdeimlad y cyfryw yn ei brofedigaethau. Ond y mae cael rhyddid i sibrwd ei drallodion yn nghlust tosturi Dwyfol, yn fywyd o farwolaeth i greadur blinderog. Ar y llaw arall, bydd yr Arglwydd, fel Tad tyner yn gwrandaw—yn clywed pob gair ac ochenaid; a bydd Efe wrth wrandaw yn cael hwyrach gymaint o hyfrydwch ag a fydd yr addolwr wrth adrodd. Dichon fod Duw yn meddwl mwy o gyfaddefiadau, o ymbiliau, a mawl ei bobl, nag a feddyliant hwy eu hunain o honynt. Y mae hanes enaid—pa mor ddiogoniant bynag ydyw y cyfryw beth ynddo ei hun—wrth gael ei draethu yn edifeiriol a diolchgar, yn dyfod yn addoliad o Awdwr yr enaid. Mwy, wrth wrandaw y mae yr Arglwydd, yn awr ac yn y man, yn gweled yn dda lefaru. Wrth glywed ei blentyn yn cydnabod ysgelerder a llïosogrwydd ei bechodau, ac yn achwyn arno ei hun oblegid maint a grym ei lygredigaeth, y mae yn dyweyd ambell i adnod wrth ei ysbryd, fel y gall Duw ddyweyd adnod:—" Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt can wynned â'r eira; pe cochent fel porphor, byddant fel gwlan. Canys yr Hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef. A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a ddodaf o'ch mewn chwi; a thynaf y galon gareg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig. Myfi a roddaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifenaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl." Wrth ei glywed—wrth ddeall fod yr Arglwydd yn meddwl maddeu ei holl anwiredd ac iachâu ei holl lesgedd, rhoddir ei enaid ar dân, ar dân o ddiolchgarwch a mawl. Yna, yn lle ymostwng a mawrhau, neu garu ac ymgysegru, neu ymddiried a gobeithio yn ddystaw, y mae ei deimladau yn aml yn ei orchfygu, ac y mae yn clodfori yr Arglwydd â holl frwdfrydedd ei ysbryd ac â holl nerth ei lais. Ambell i waith y mae yn canu rhai o ganiadau Sïon, yna yn wylo dagrau melus iawn, a phryd arall y mae, oddiar olwg ar oludoedd yr Efengyl ac oddiar brofiad o lawenydd, yn gorfoleddu—yn neidio ac yn moli Duw. Ymdodda ei feddyliau a'i deimladau i un anthem o fawl; a pha offeryn ar y ddaear a ddichon arllwys allan beroriaeth mor bur a hyfryd, mor ysbrydol a nefol, â chalon dyn—ag enaid duwiolfrydig yn y mwynhâd o gymdeithas yr Arglwydd!

HEN HANES.

Wrth esgyn yn barhaus, o gam i gam,
Ar yrfa creadigaeth—gyrfa hir
A newydd iddo Ef ei hun, yr Ior
Wrth lunio dyn, gyrhaeddodd ben ei daith.
Gosododd ynddo binacl ar ei waith,
Ac ymlonyddodd yn yr olwg ar
Greadur tebyg iddo Ef ei hun—
Un oedd yn ddigon iddo Ef ei hun.

Gorffwysodd yng nghymdeithas enaid pur—
Yr enaid cyntaf fu erioed mewn cnawd,
Mewn gwynfyd dieithr; gwawriodd Sabbath teg
Y Duwdod myg ar ymddangosiad dyn.

Dynoliaeth ieuanc—gymaint gwell ac uwch
Ac ardderchocach, oedd nag yw yn awr!
Wrth iddi rodio yn frenhines fir,
Mewn gwisgoedd gwynion o sancteiddrwydd twymn,
Drwy holl brydferthion ir a ffrwythau per
Ein daear dirf ag oedd yn wynfa i gyd,
Disgynai gwawl ysbrydol ar ei llwybr.
Hyhi oedd coron creadigaeth lân;
Ei chalon eang oedd yn barth o'r nef;
A gwenau Duw oedd ar ei gwyneb hardd.
Nid oedd cymylau duon yn ei nen,
Na gauaf brochus yn ei blwyddyn fras,
Na bedd na dagrau yn ei byd di—ddrain;
A chyfarfyddai, lawer bore gwyn
A hwyr serenog, â cherubiaid cu.

A fyrred fu ei dydd o wynfyd pur!
Yn sydyn oerodd Anian drwyddi i gyd;
Ymledodd cwmwl dros y bydoedd oll;
Ac ymderfysgodd creadigaeth lor.
Gwenwynodd pechod fywyd dynolryw;
Trawsffurfiodd hwynt yn wrthryfelwyr dreng;
A throes y ddaear, oedd yn Eden lawn
O swynion nefol, yn ddiffaethwch prudd;
A gauaf ydyw Amser wedi hyn.
Ymdraidd ysbrydion duon cystudd, siom,
Gorthrymder llethol, newyn ysol, brad,
Ar hyd yr oesoedd drwy ein planed fach;
A llwythog ydyw ei hawelon byth
O ocheneidiau a griddfanau tôst.

Nid ydyw ei thrueni chwaith mor ddwfn.
A phe buasai dan lywodraeth dieifl;
Oblegid mai yr Arglwydd yw ei theyrn;
Ni threngodd gobaith yn ei chalon fall.

Er byrred yw ei dydd, y mae yn ddydd;
Nid yw ei nos, er dued yw yn aml,
Yn gaddug perffaith,—gwena lloer a ser
Eu cydymdeimlad i ysprydoedd trist,—
Am fod trugaredd yn teyrnasu byth.
Nid yw ei heira pur yn hollol oer;
Mae gradd o wres caruaidd yn ei rhew;
Chwyth llawer tymhestl erwin trosti, mae
Er hynny "galon gan y storom hyf,"
Oherwydd mae hi, er mor bell a gwyw,'n
Parhau yn dalaeth o lywodraeth lor.
Mae terfyn ar ddioddefaint poeth fy rhyw;
Nid yw ei malais yn ddieflig; mae
Gwaelodion—pell neu agos, ar ei thwyll;
Nis gwyr am lid anniffoddadwy chwaith;
Mae haen o gariad, neu o lwfrdra cudd,
Yn holl greulondeb a dialedd dyn,―
O achos fod Calfaria yn ei fyd.

Oherwydd fod yr Iesu yn ein cymoedd—
Yn Arglwydd ar galonau a mynyddoedd,
A bod ei ysbryd grasol yn parhau
I dreiddio drwy ein tryblith erch, gan hau
Goleuni bywiol, gwirioneddau nefol,
Ac egwyddorion llawn o rinwedd dwyfol,
Ymhob cenedlaeth o eneidiau meirwon,
Parhawn, er gwaethaf ein gelynion cryfion—
Daearol a chythreulig, fyth i drigo
Yng ngolwg temlau sanctaidd, ac i wrando
Ar wahoddiadau peraidd Iachawdwriaeth;
A phrofwn weithiau wynfyd buddugoliaeth.
Am fod ein gwlad yn llawn o Ysgrythyrau
Mwynhawn dangnefedd, rhyddid, mil o freintiau;
A llawn o obaith ydyw ein calonau.
O Sabboth sanctaidd, cawsom ni ddiwylliant;
O edifeirwch cyfyd ein gogoniant:
Yn ymyl Duw—ymgilia ein hanialwch,
Ac at y groes y daw angylion heddwch:
Drwy ffydd a phregeth tyfwn yn frenhinoedd,
Ac ar ein gliniau dringwn hyd y nefoedd.


RHESYMOLDEB ADDOLIAD.

NATURIOL fuasai dechreu yr erthygl hon gydag ymchwiliad i ac eglurhad ar natur addoliad. Ond gan fod cryn lawer wedi ei ysgrifenu yn barod ar y mater;[1] fod pobl grefyddol a goleuedig yn meddu gwybodaeth brofiadol ac athrawiaethol fwy neu lai helaeth am dano; ac y teflir yn anuniongyrchol ryw gymaint o oleuni arno yn y drafodaeth hon, ystyriaf fod hynny yn afreidiol. Gweddus, pa fodd bynag, ydyw crybwyll fod addoliad, yn ei ystyr fwyaf mewnol a chuddiedig, yn cymeryd amrywiol agweddau; a gwna hynny, mewn rhan, oblegid fod bywyd ysbrydol y saint yn cymeryd, yn ol yr amgylchiadau y cânt eu hunain ynddynt, wahanol agweddau. Arweinir hwy, yn eu hamryfal helyntion, i gyfaddef eu pechodau eu hunain, ac i gydnabod bendithion Duw. Edifarhânt a gorfoleddant. Y maent yn credu ac yn crynu, yn ofni ac yn gobeithio. Diolchant am hen drugareddau, ac erfyniant am drugareddau newyddion. Ffieiddiant eu hunain, a gogoneddant yr Arglwydd. A chynhwysir y gweithrediadau hyn i gyd mewn addoliad. Gwnant y cyfan, i fesur bychan iawn, feallai, bob dydd; ond gwnant rai o honynt i raddau helaethach ar rai adegau, a rhai ereill i raddau helaethach ar adegau ereill. Gweddïant fwy heddyw; molianant fwy yfory. Ymlwybrant weithiau, mewn ofn pryderus, drwy gymoedd dyfnion, culion, llawnion o dywyllwch di-sêr. Rhodiant brydiau ereill mewn eangder heulog, trwy brydferthion a pheraroglau, yng ngolwg gwlad well a byd di-nôs. Ac os yw profiadau saint y byd hwn yn amrywio cymaint a hyn, hawdd ydyw credu yr hyn a ddysgir i ni,—fod gwahaniaeth mawr rhyngddynt hwy à saint y byd tragwyddol. Caniateir mai ychydig mewn cymhariaeth o fawl sydd yn yr Eglwys filwriaethus; nid oes dim arall yn yr Eglwys orfoleddus. Y mae mwy o erfyn nag o ddiolch, a mwy o edifarhau nag o glodfori, yng ngwasanaeth y flaenaf. Y mae yr olaf wedi esgyn i sefyllfa mor ogoneddus, fel nad oes ynddi le i weddïo—i ddymuno am ddim o gwbl; ac nid ydyw mwyach yn feddianol ar allu i edifarhau. Wrth golli ei phechod, collodd ei ffydd; a gweled, yn hytrach na chredu, y mae erbyn hyn. Troes ei gobaith yn fwynhad yn yr olwg ar Bren y Bywyd. Gwesgir y duwiolion yma i ymdeimlo yn barhaus â diffygion a phechodau adgofion yn unig am y cyfryw bethau a feddant yn y Nef. A gwyddom y gall adgofion am lawer o hen gyfyngderau gynhyrchu rhyw fath o hyfrydwch yn y fuchedd bresenol; a naturiol ydyw casglu fod adgofion y cyfiawnion am helbulon daearol yn chwyddo iddynt wynfydedigrwydd paradwys Duw. Oblegid hynny, gan fod yr Eglwys weledig yn feunyddiol yng nghanol temtasiynau a pheryglon, ymbil yn benaf o lawer y mae hi; gan fod yr Eglwys anweledig mewn dedwyddwch perffaith, y mae hi yn moliannu yn ddibaid.

Dylid, yr un pryd, ystyried, er mor luosog ydyw rhwystrau y ddaear, ac er mor fawrion ydyw manteision y Nef, y gallai addoliad y gyntaf fod yn debycach i addoliad y ddiweddaf nag ydyw. A byddai felly o angenrheidrwydd pe byddai cymeriadau y credinwyr yn debycach nag ydynt i gymeriadau y gwaredigion. Pe byddai ein ffydd yn gryfach, byddai ein hofnau yn wannach. Pe derbyniem fwy o ras, profem fwy o dangnefedd. Pe byddem yn llawnach o gariad a sancteiddrwydd, byddem yn llawnach o ddiolchgarwch a mawl. Prinder, ac nid helaethrwydd, o grefydd, sydd yn ein gwasgu i ofni yn hytrach na gobeithio, ac yn ein cadw yn barhaus mewn sefyllfa o ddymuniad yn hytrach nag o fwynhâd. Pechadurusrwydd sydd yn gwneyd y byd yn anialwch i ni, ac yn toi ein ffurfafen â chymylau. A dengys holl rediad y Beibl fod yr Arglwydd yn disgwyl i ddynion, yn ychwanegol at weddïo arno, ei glodfori yn y fuchedd hon. Ac ni fu pobl erioed mewn amgylchiadau mwy manteisiol ac o dan fwy o rwymau i wneuthur hynny nag ydym ni, mewn gwlad ac oes fel hon. Yna, gan ei fod Ef yn galw am addoliad a gwasanaeth oddiwrthym rhaid fod eu cyflwyno iddo yn ddyledswydd arnom, oblegid nis gall Ef ofyn am yr hyn nad yw yn meddu hawl iddo, nac am ddim y byddai yn ddiraddiad arnom ninnau ei roddi. Rhaid hefyd fod ei foliannu drwy y cynneddfau a roddodd i ni, a thrwy y cynorthwyon all gyfrannu i ni, yn ddichonadwy i ni. Ymdrechu egluro hyn fydd fy amcan yn y sylwadau canlynol.

Y mae geiriau fel addoli a moliannu yn tybied dwy blaid—Creawdwr a chreaduriaid, neu Waredwr a gwaredigion, ac yn tybied ynddynt hefyd fesur o adnabyddiaeth o, a chariad at eu gilydd. A ydyw dynolryw yn lled gyffredinol yn adnabod Duw ac yn caru ei Fab? Gwyddom fod perthynas rhyngddynt; ond nid ydyw honno yn sicrhau, ymhob amgylchiad, fod cymundeb rhyngddynt. Prin y gall meddwl anianol weled y rhesymoldeb o addoli yr Arglwydd; ac ychydig iawn o duedd sydd mewn calon lygredig at waith mor ysbrydol. Cawn eu bod ymhob oes yn cydgenhedlu amheuon ac yn cydofyn—weithiau yn fwy ac weithiau yn llai croch-gwestiynau anhydyn, yngwyneb pob cymhelliad i wneuthur hynny. Gwnelent hynny gynt: Exod v. 2, Job xxi. 15, Mal. iii. 14, &c. A gwnant hynny yn awr.—Oddiar ba seiliau y gelwir ar ddynion i addoli y Jehofah? Paham y dylem ymgyflwyno yn yr hyn oll ag ydym, a allwn, ac a feddwn iddo? Pa fanteision y mae ei greaduriaid yn sicrhau iddynt eu hunain wrth wasanaethu eu Creawdwr? &c. Bu llawer o eneidiau yn ddigon rhyfygus i wadu ei hanfodiad yn hollol; a choledda miloedd yn bresenol y fath amheuaeth gyda golwg arno ag sydd yn gyfystyr â gwadiad ohonno fel Bod byw a phersonol, cyfiawn a thrugarog. Dichon mai addas fyddai mynegu yn y cysylltiad hwn nad ydyw y Beibl yn amcanu yn ffurfiol at brofi ei fodolaeth. Ei gyhoeddi, yn hytrach nag ymresymu yn ei gylch, fel y gwirionedd mwyaf ac, ar rai cyfrifon, amlycaf, y mae, o Genesis hyd y Datguddiad. Pa beth arall fuasai yn ddoeth ac yn ddichonadwy? Y mae Natur a Rhagluniaeth yn ei ddatguddio yn foddhaol i bob meddwl agored i argyhoeddiad. Ac nis gallai unrhyw nifer ychwanegol o resymau Ysgrythyrol foddloni dynion eithriadol—rhai ag y mae yn eu cyfansoddiad meddyliol a moesol ormod o rywbeth, neu rŷ fach o rywbeth; neu rai ynfyd, hunanol, ystyfnig; neu rai sydd, oddiar awydd am hynodrwydd neu hoffder o bechod, wedi penderfynu ei wadu. Cyfarfyddwn â rhai felly; ond eithriadau ydynt; ac nis gallwn eu dileu. Gyda golwg ar ddynion syml, meddiannol ar synwyrau ysbrydol, clywant hwy leferydd eu Creawdwr yn eu natur eu hunain, yn gystal ag yn y Beibl; ac addolant wrth ei glywed. Gwelant Ef yn ymddisgleirio drwy wrthrychau y greadigaeth ac yn marchog ar donnau rhagluniaeth, a molianant wrth ei weled.

Ymddatguddiodd yn gynnar trwy yr enw JEHOFAH, уr hwn a gyfieithir (Ex. iii. 14) yn "Ydwyf yr hwn ydwyf." Golyga yr enw, gan nad beth arall a olyga, Un yn bod, yn bod mewn gwirionedd; a Duw yn unig sydd yn bod yn yr ystyr uchaf. Ymddangos, mewn cymhariaeth iddo Ef, y mae pawb ereill. Byddai yn rhyfyg i angel alw ei hun yn Ydwyf, oblegid dyfod neu fyned y mae pob creadur. Cawn yn yr Arglwydd Fod hanfodol ac annibynol—un yn bod o honno ei Hun, ac yn bod o angenrheidrwydd. Nid yw yn ddyledus i neb na dim am dano ei Hun, nac yn ymorffwys ar neb na dim am ei barhad ei Hun. Y mae yn byw o hono ei Hun ac yn byw arno ei Hun. Yr oedd yn bod erioed, ac nis gall beidio bod yn oes oesoedd. Bodolai o flaen y greadigaeth, ac yr oedd yn ddigon iddo ei Hun yn unigedd tragwyddoldeb. A phe dychwelai y greadigaeth i ddiddymdra, nid effeithiai hynny o gwbl ar ei hanfodiad nac ar ei wynfydedigrwydd Ef. Dysgir ni hefyd mai Efe ydyw Creawdwr a Chynhaliwr pob byd a bôd. Efe ydyw ffynhonnell pob bywyd, a noddfa pob creadur. Ac nid ydyw yn hawdd deall pa fodd y gall y rhai a amheuant ei fodolaeth ac a wadant ei lywodraeth, fod yn ddifrifol; oblegid byddai eu tybiau, pe byddent yn wirioneddau, y gwirioneddau mwyaf arswydus a gyhoeddwyd yn nghlywedigaeth dynion erioed. Meddylier ein bod yn ei golli—yn colli ei gymdeithas a phob gwybodaeth am dano, mor dlodion a fyddem!—"Heb Dduw, heb ddim." Ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod. Yr ydym yn hanfodi ynddo a thrwyddo yn fwy gwirioneddol nag yn a thrwy yr awyr a anadlwn. A phwy hoffai, pe gallai, fodoli hebddo! Mor oer fyddai y presenol, ac mor dywyll fyddai y dyfodol! Efe yw "gobaith holl gyrrau y ddaear." A phe cyrhaeddai rhyw ddyn sicrwydd yn ei feddwl ei hun mai dychymyg ofer ydyw Ef, ac mai breuddwyd gwag ydyw ei Ragluniaeth, oni phetrusai fynegi hynny i ereill? Naturiol fyddai iddo gadw syniad mor ofnadwy, ac mor ddystrywiol i holl ragolygon ei gydgreaduriaid, o fewn ei enaid, nes y rhoddai ef ar dân. Onid ymwisgai, cyn dechreu pregethu y fath athrawiaeth, mewn sachlïan a lludw? Gweddeiddiach fyddai cyhoeddi y fath genadwri bruddaidd drwy ei hubain allan mewn ocheneidiau a gruddfanau, nag, fel y gwna rhai, mewn gorfoledd. Oblegid byddid wrth dynnu yr Anfeidrol oddiwrth swm bodolaeth, yn cynhyrchu gwagle aruthr. Mor ychydig a fyddai yn aros. ac mor druenus a fyddai cyflwr y gweddill! Byddai creadigaeth heb Greawdwr mewn sefyllfa waeth na byd heb haul. Mor hyfryd ydyw meddwl fod rheswm ac Ysgrythyr yn cyd-dysgu fod Duw yn bod! A chredu ei fod Ef yn bod ac yn llywodraethu amgylchiadau nefoedd a daear, ydyw sail ein holl obeithion; ac nis gallwn gredu hynny heb weled a theimlo y rhesymoldeb o addoli y Llywodraethwr.

Dyma Wrthrych addoliad—"Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear." Ac y mae yn wrthrych addoliad am fod holl seiliau addoliad yn cyd-gyfarfod ynddo. Y rheswm sylfaenol dros ei glodfori ydyw, yr hyn yw Efe ynddo ei Hun—mawrhydi anfeidrol ei natur, gogoniant anchwiliadwy ei hanfod. Ond y mae yn y golygiad hwn ymhell lawn oddiwrthym ni, ac yn ddieithr iawn i ni. "Ni welodd neb Dduw erioed," ac ni wêl neb byth mo honno yn yr ystyr hon. Trig mewn goleuni mor danbaid, fel nad ellir yn oes oesoedd agoshau ato. Yn ei gymeriad a thrwy ei briodoliaethau yn unig y gallwn ei adnabod; ac ymddatguddiant hwy i ni drwy ei weithredoedd a thrwy ei oruchwyliaethau, ac, yn arbennig, yn a thrwy y Beibl ac Iesu Grist. Gwelwn trwyddynt hwy fod ynddo fawredd a gallu anfeidrol, doethineb a golud diderfyn, cariad a sancteiddrwydd annherfynol. Cyfiawn a gweddus, o ganlyniad, ydyw i bawb ei fawrygu. Y mae yn gyfryw mewn ardderchogrwydd, fel nad all y creaduriaid mwyaf a goreu ddiraddio eu hunain wrth ymgrymu ger ei fron. Cynhyrcha ym mhawb sydd yn ei adnabod ostyngeiddrwydd a diolchgarwch. Llenwir hwy yn yr olwg ar ei ogoniant â syndod ac addoliad. Deffry pelydrau ei ddaioni ynddynt obaith a mawl. A ydyw dyn yn adnabod ei Greawdwr? A ydyw yn ddigon goleudig i weled ei hawliau arno, ac yn ddigon pur i deimlo ei rwymedigaethau iddo? A ydyw yn ddigon ysbrydol i dderbyn argraffiadau oddiwrth ei gymeriad? A ydyw yn feddiannol ar gynneddfau addas i ddal cymundeb âg Ef?

Nis gallwn ateb y gofyniadau hyn yn gwbl gadarnhaol, nac yn hollol nacäol. Er fod pechadur yn hunanol a dirywiedig, yn ddaearol a llygredig, arddengys ddymuniadau am rywun a rhywbeth uwch a gwell nag ef ei hun. Llywodraethir ef gan ddwy egwyddor: o dan ddylanwad y naill, y mae yn ceisio Duw; o dan ddylanwad y llall, gwelir ef yn gwrthryfela yn ei erbyn. Mor bell ag y mae yn ddynol, y mae yn ubain am dano; mor bell ag y mae yn ddrygionus, y mae yn ffoi oddiwrtho. Yn debyg i ddafad ar gyfeiliorn, yn ymbellhau oddiwrth ei chynhefin wrth chwilio am dano, y mae yntau, ar y naill law, yn cilio oddiwrth yr Arglwydd, ac, ar y llall, yn ymofyn gydag ymroddiad am dano. Un o ffeithiau amlycaf hanes dyn ydyw, ei fod yn dlawd. Chwennych, ac nid mwynhau, y mae. Y mae ymhob man ac ymhob sefyllfa, y tu allan i Grist, yn amddifad o rywbeth nas gŵyr yn iawn pa beth, ac yn hiraethu am rywun nas gŵyr yn iawn ei enw. Ymestyn am wrthrych neu sylwedd sydd yn encilio rhagddo, yn hytrach na gorffwys, y mae yn feunyddiol. Ymlwybra gyda chalon anesmwyth a llygaid pryderus trwy ddinasoedd a chyfandiroedd, gan holi yn floesg rai yn yr un cyflwr ysig ag ef ei hun: "A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid," ac ochain,—"O na wyddwn pa le y cawn ef!" Am Dduw y mae yn ymofyn. Ei amddifadrwydd o hono ef ydyw ei newyn mawr. Gall anghenion a dymuniadau ereill newid a diflanu; dilyna hwn ef trwy bob cyfnewidiad ac i bob byd. Er iddo fel hyn adael ei Greawdwr, nid ydyw erioed wedi gallu byw yn dawel hebddo. Y mae yn ymbalfalu yn reddfol am dano ymhob man. Ië, gymaint ydyw ei eisieu o hono fel y mae, yn hytrach na bod heb yr un, yn troi yn greawdwr ei hunan, ac yn galw duwiau afrifed i fod. Dysgir ni fod yn haws gweled duw yn Athen na gweled dyn, ac fod ei phreswylwyr er hynny yn addoli, ynghanol y cyfan, dduwiau anadnabyddus iddynt. Naturiol, gan hynny, oedd i Paul eu darlunio fel pobl dra chrefyddol. Yr oeddynt hwy yn cynrychioli yn hyn feibion Adda i gyd. Mynnwn fawrhau rhywun neu rywbeth. Nis gallwn fyw heb ryw fath o grefydd; a dichon fod rhyw fath o grefydd yn well na bod heb fath yn y byd. Onid ydyw hanes ysbrydol dynolryw yn profi rhesymoldeb addoliad? Gwesgir ni i feddwl mai ymwasgu at, ac ymgyflwyno i'r Arglwydd, ydyw y peth mwyaf rhesymol allant hwy wneuthur; oblegid trwy gymdeithasu âg Ef, a chyfranogi o Hono, y diwellir anghenion dyfnaf ac y boddlonir dymuniadau uchaf eu natur. Trwy hynny yn unig y gall eu hysbrydoedd gyrraedd gorffwystra a gwynfydedigrwydd.

Gallwn drafod y mater fel hyn: Gan fod y Creawdwr yn Fôd Personol, a bod dyn yn berson, rhaid fod rhyngddynt rywfaint o gydnawsedd—rhywfaint o allu i ymwrando â, ac i ymdeimlo oddiwrth eu gilydd. Fel y mae haul a lleuad, er yn gwahaniaethu yn ddirfawr oddiwrth eu gilydd, yn gallu, drwy y gyfatebiaeth sy rhyngddynt, ymlawenychu yn eu gilydd, gall yr Arglwydd a phechadur ymgyfathrachu mewn Cyfryngwr. Cynnwysa personoliaeth hefyd amryw gynneddfau ac egwyddorion dyrchafedig. Un o honynt ydyw rheswm, yr hwn sydd yn allu ac yn duedd i olrhain a chysoni—i olrhain ffrydiau o ymddangosiadau amrywiol i ffynhonell guddiedig, yn yr hon y mae y cyfan yn un. Ac er ei fod mewn sefyllfa ddirywiedig ymhob pechadur, gwelir ef yn chwilio yn barhaus am esboniad ar amgylchiadau dieithr, ac yn ceisio dilyn achosion ymlaen i effeithiau, ac effeithiau yn ol i achosion. Arweinia ddynolryw ymhob gwlad ac oes i ofyn, yn fwy neu lai hyglyw, Paham a Pha fodd, gyda golwg ar bethau, ac i grynhoi eu syniadau yn rhyw fath o gyfundraethau. Deffry hyd yn oed mewn paganiaid ryw fesur o chwilfrydedd, a phar iddynt ddamcanu yn eu ffordd eu hunain ynghylch bodolaeth a bywyd. Arddengys yr enaid fel hyn, yn nghanol tywyllwch dudew, rywfaint o gariad at oleuni. Os ydyw yn ddall, dall ydyw a hoffai weled yr haul. Wrth i ddyn gynyddu mewn gwareiddiad a diwylliad, daw ei ymchwiliadau yn fwy rheolaidd. Ymgryfhâ ei adenydd, ac y mae yn ehedeg ymhellach ac yn uwch. Ymofyna gyda mwy o aidd am Achos Cyntaf pobpeth. Ymweithia hwnnw yn un o angenrheidiau ei fywyd meddyliol; a daw chwilio am dano yn un o reddfau cryfaf ei ysbryd. Tybier ei fod yn ei gael, a bod yr Achos hwnnw yn profi ei Hun iddo yn Berson byw, cyfiawn a thrugarog, llawn o ddoethineb a nerth, anfeidrol mewn cariad, sancteiddrwydd a gogoniant; oni fyddai yn naturiol iddo ymgrymu ger ei fron, a chyflwyno iddo foliant ei galon? Onid y peth mwyaf rhesymol a hyfryd i enaid gweddol bur, fyddai addoli a gwasanaethu y cyfryw Fod?

Gallwn ddarlunio rheswm hefyd fel gallu i adnabod, olrhain, a charu gwirionedd. Dengys yn ei ddyryswch mwyaf fesur o ymofyniad am dano ac o barch iddo. Gresynnwn wrth feddwl fod trigolion y wlad hon, oes neu ddwy yn ol, yn adrodd ac yn gwrando y chwedlau mwyaf disail a llygredig gyda syndod a boddhâd. Ond dylem gadw mewn cof eu bod yn gwneyd hynny o herwydd eu bod, i raddau mwy neu lai, yn credu y cyfryw chwedlau, ac yn derbyn rhyw fath o gynaliaeth feddyliol o honynt. Wedi ymddirywio a cholli y danteithion brenhinol, porent laswellt—rhywbeth yn hytrach na bod heb ddim, fel Nebuchodonosor. Gweddus ydyw ystyried mai nid er mwyn gallu pasio arholiadau ac ennill gwobrwyon, y mae pobl yn darllen bob amser. Gwnant hynny yn aml, ac weithiau yn ddiarwybod iddynt eu hunain, er mwyn tawelu anesmwythder ac ateb gofyniadau dyfnaf eu hys brydoedd. Paham y treulia ambell i ddyn ei oes i efrydu hen iaith sydd wedi marw er ys canrifoedd? Am ei bod yn dal yn ei llaw drancedig rai gronynnau o wenith gwirionedd; am mai hi, erbyn hyn, ydyw yr unig beth sydd yn taflu goleuni ar nodweddion y genedl oedd yn ei siarad, ac ar briodoliaethau y duwiau a addolai. Diau fod llawer o athronwyr y byd yn gyfeiliornwyr; ond camsyniad mawr a fyddai tybied eu bod yn caru cyfeiliornad, ac mai am gelwydd yr ymchwiliant. Yn hytrach, yn eu holl olrheiniadau wrth holi creigiau y ddaear, neu ddarllen sêr y nefoedd, neu ymwthio i lawr i ddyfnderoedd eu natur eu hunain, am wirionedd yr ymofynant yn barhaus. Gwesgir ni fel hyn, ar bob llaw, i gredu fod yr awydd am wirionedd yn un o anghenion mawrion a hanfodol y ddynoliaeth. Ar gyfer hynny, cawn mai Duw y gwirionedd ydyw yr Arglwydd; fod y Gwaredwr yn wirionedd yn gystal ag yn ffordd ac yn fywyd; ac mai Ysbryd y gwirionedd ydyw yr Ysbryd Glân. Ymddengys felly fod rhywfaint o gydnawsedd rhyngddynt, a bod mesur o gymdeithas rhyngddynt yn beth dichonadwy. Gwelwn yn ymhyfrydiad y ddwyblaid mewn gwirionedd, lain o dir cyffredin ag y gall y ddwy, mewn lawn, gyd-gyfarfod arni i garu eu gilydd. Y mae dyn wedi cael ei lunio ar gyfer ei Greawdwr, fel y mae y blaned wedi cael ei chreu ar gyfer ei haul; ac y mae yn y cyfatebiaeth hwn ddefnydd cyd-ddealltwriaeth a chymundeb rhyngddynt. Onid allai yr ysbryd bach, daearol, wrth gael ei iachau drwy yr Efengyl, ymgodi at yr Ysbryd mawr, tragwyddol, mor naturiol ag yr ymlifa yr afonig at y môr? Caniateir hefyd mai yn yr olaf yn unig y boddlonir y blaenaf. Y mae yn y greadigaeth lawer o wirionedd; ond nis gall ddiwallu enaid—am ddau reswm: nid oes ynddi ddigon o hono—yfai dyn yn gynt neu hwyrach ei ffynhonnau hi yn sychion; ac nid ydyw hynny sydd ynddi o ansawdd ddigon ysbrydol. Mor hyfryd ydyw meddwl nad all, er ei fod weithiau yn ymdaith ymhell iawn, weled yn oes oesoedd derfyn ar Dduw. Er ei fod yn eryr mawreddog, caiff ynddo Ef ffurfafen ddigon eang a digon uchel i chwareu ynddi byth bythoedd.

Yn ychwanegol at reswm, y mae yn perthyn i natur foesol dyn allu arall y gydwybod. Swydd hwn ydyw gwahaniaethu rhwng drwg a da, a gwahardd y naill a chymhell y llall. Y mae yn ymofyniad mwy neu lai dyfal am gyfiawnder, ac yn dystiolaeth fwy neu lai eglur yn yr enaid am a thros Dduw. Amlyga ei hun i ysbryd pechadurus trwy ymdeimlad mwy neu lai poenus o euogrwydd; a chynhyrcha mewn calon rinweddol brofiad o dawelwch gobeithiol. Afreidiol ydyw crybwyll fod y gynneddf hon, fel pob un arall, yn amrywio yn fawr mewn gwahanol bersonau; ac y mae, i raddau, yn ddirywiedig ymhawb ar y ddaear. Mewn rhai y mae yn rymus a dylanwadol; mewn ereill y mae yn farwaidd a bloesg. Mewn dynion gweddol oleudig a phur, y mae yn brofiad o rwymedigaeth a dyledswydd, ac yn ymdeimlad o awdurdod egwyddorion moesol a thragwyddol. Mewn eneidiau tywyll a llygredig, ymddyrysa yn fynych; cyll i fesur helaeth ei hadnabyddiaeth o ddaioni a drygioni; a bu yn euog lawer gwaith, o dan y cyfryw amgylchiadau, o garcharu a lladd anwyliaid ei Chreawdwr. Parhâ er hynny, yn ei holl ddirywiad, yn reddf o ffyddlondeb i bopeth a ymddengys iddi hi yn iawn. A doeth fyddai i bob dyn ystyried fod ganddo lawer o allu i niweidio ei gydwybod, a rhywfaint o allu i gadw ei thynerwch yn fyw. Y ffordd i wanychu ei harglwyddiaeth ydyw, dirmygu ei phryderon a gwrthsefyll ei hawgrymiadau. A pho fwyaf o hynny a wnawn, gwaethaf oll, a phellaf yn y byd oddiwrth yr Arglwydd, yr awn. Y modd i gryfhau ei dylanwad ydyw ei hanrhydeddu—parchu ei gwaharddiadau ac ufuddhau i'w gorchymynion. Yn ol mesur ein hymroddiad gyda hynny, arweinir ni yn barhaus i fwy o oleuni; ymddengys cyfiawnder i ni o hyd yn fwy hawddgar; ymddyfnhâ ein cydymdeimlad â rhinwedd ymhob ffurf; a chawn ein hunain yn neshau i bresenoldeb Tad ein hysbrydoedd. Gweithir ni fel hyn, wrth i ni ymostwng i alluoedd uchaf ein natur, i gyfeiriad yr Anweledig; deffroir i fesur ein dymuniadau dyfnaf, ymdraidd tragwyddoldeb yn achlysurol trwy ein heneidiau, a chymhellir ni i addoli Awdwr ein bod.

Trwy ein meddiant o reswm a chydwybod, yn arbennig, yr ydym ni yn "hiliogaeth Duw." Derbyniasom ynddynt hwy rywfaint o'r hyn sydd yn anfeidrol ynddo Ef. Adlewyrchir ei briodoliaethau sanctaidd a gogoneddus i raddau bychain iawn, trwy ein cynneddfau hurt a dirywiedig ni. Y mae y gydwybod, er holl ddylanwad llygredigaeth, yn llefaru am dano; deil drwy yr oesoedd i lefain yn floesg yn niffaethwch y ddaear am ei bresenoldeb. Perthyna iddi hi, fel i Abïah mab Jeroboam, "beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel." Gall, fel hwnnw, fod yn glaf mewn miloedd o bobl; ond nis gall, fel hwnnw, farw yn yr un o honynt byth. Ar ol i alluoedd ereill yr enaid droi yn eilunaddolwyr, parhâ hi, yn debyg i Daniel, i agoryd ei ffenestri, ac i edrych i lawer cyfeiriad am yr Ior. Nis gall wrth fyned yn ddall a mud a byddar, beidio gruddfan oblegid drygioni, ac ubain am gyfiawnder. Y mae yn ei chwsg dyfnaf yn breuddwydio am Dduw. Cyfyd yn awr ac yn y man megis drwy ei hûn, i chwilio yn nos dymhestlog y galon am y pyrth clöedig, ac i geisio troi y bolltau yn eu holau er mwyn gollwng ei Hanwylyd i mewn. Caiff ei hun mewn miloedd o ddynion, mewn llawer gwlad ac oes, fel morfil ar y traeth, yn methu byw ac yn methu marw. Yn yr Arglwydd yn unig y mae môr digon ëang a dwfn, a digon pur a phêr, ar ei chyfer. Dengys ystyriaethau fel hyn ein bod ni ein hunain—y natur ddynol ynddi ei hun, yn llawn o ryw ymofyniadau am ein Creawdwr. Ein pechadurusrwydd yn unig sydd yn peri i ni ymbellhau oddiwrtho. Onid ydyw y gydwybod, yn ei dallineb mwyaf, yn ymbalfalu am dano, ac yn annog, wrth gael rhyw olwg arno, ei chyd-alluoedd i ymgrymu ger ei fron, ac i gyflwyno moliant a gwasanaeth iddo? Wrth gael ei goleuo a'i phuro, daw o hyd yn fwy o gydnawsedd â phrïodoliaethau, ac yn fwy o gydymdeimlad â gorchymynion y Jehofah. Wrth ymolchi yng ngwaed ac ymborthi ar gyfiawnder Crist, enilla nerth a dylanwad cynyddol. Cymhella yr holl enaid i ymweithio i fwy o agosrwydd at, ac i deimlad dyfnach o rwymedigaeth i Dduw; daw yn gynrychiolydd ffyddlawn iddo yn natur y credadyn; a chynorthwya i wneyd ei addoliad y peth mwyaf greddfol a gwynfydedig iddo mewn bod.

Elwn yn rhy faith wrth fanylu fel hyn ar holl alluoedd ein natur. Meddylier am ewyllys, calon, ac ysbryd dyn,—er eu bod, trwy ymlygru, wedi colli yr olwg ar eu gwir wrthrychau, parhant i deimlo eu hamddifadrwydd honynt, ac i anadlu dymuniadau wylofus am danynt. Daliant i ochain am ddaioni annherfynol, am brydferthwch anniflanol, ac am sylweddau tragwyddol. Cenedlant ddyhëadau diderfyn; ac wrth fethu cael gafael ar fendithion diderfyn, ceisiant ymborthi ar wrthrychau am serol—ar olud daearol, clod dynion, pleserau anianol. Ond nid ydynt wrth ymborthi arnynt hwy yn ymddigoni. Yn hytrach, ymddyfnhau ac ymeangu yn barhaus y mae tlodi a dymuniadau siomedig ein natur wrth gyfranogi o honynt hwy. Y mae dyn wrth gael, yn ymagor, gan fyned yn fwy o hyd, yn ol fel y bydd ei amgylchiadau yn gwellhau. Po uchaf yr esgyna ymwelydd ar dŵr neu fynydd, eangaf oll fydd y golygfeydd a ymagorant ger ei fron; felly hefyd, po fwyaf o gyfoeth ac o anrhydedd daearol a dderbyniwn ni, dyfnaf oll, os na feddwn rywbeth arall, fydd ein hawydd am ychwaneg. Nis gall unrhyw fasnach nac etifeddiaeth foddloni enaid. A chlywsom am un gŵr, ar ol gorchfygu y byd hwn, yn wylo am fydoedd ereill i'w darostwng. Eisieu dyn ddengys ei fawredd oreu. Gŵyr lawer; ond nid ydyw ei amgyffredion mor ëang ag ydyw ei ddymuniadau. Nid ydyw ei feddwl gymaint ag ydyw ei galon. Gwna bethau yn yr oes hon a fuasent yn ymddangos fel gwyrthiau oes yn ol; ond nid ydyw yn gwneyd pethau digon mawrion i beri iddo ymdawelu ynddynt. Nis gall gweithredoedd y Creawdwr foddloni creadur rhesymol; y Creawdwr ei Hun yn unig a ddichon wneuthur hynny. A dymuniadau am dano Ef, wedi ymddyrysu i raddau mwy neu lai ymhob dyn, ydyw dymuniadau uchaf enaid. Anghenion am yr Anfeidrol wedi ymwallgofi mewn miloedd o bobl, ydyw anghenion dyfnaf pechadur. Gellir ei gymharu i ëog ieuanc, yr hwn, ar ol cael ei fôd a chwareu am ennyd mewn afonig yn y wlad, sydd cyn pen hir yn anesmwytho, ac yn myned i chwilio am rywle yn yr afon lle y mae hi yn ddyfnach ac yn lletach; ac yna, wedi ymddifyru yno am ysbaid, sydd drachefn yn myned i edrych am rywle dyfnach a lletach ynddi, ac felly ymlaen o hyd. Gan ei fod yn cynyddu, nis gall orffwys nes cyrraedd y môr. Yn gyffelyb gyda golwg ar ddyn,—y mae pob etifeddiaeth yn rhy fechan, a phob anrhydedd yn annigonol. Yfai yn gynt neu hwyrach bob afon a llyn i fyny. Yn yr Arglwydd yn unig y diwellir ac y boddlonir ef. Y mae ynddo Ef gyflawnder perffaith, ac y mae y cyflawnder hwnnw (Col. i. 19, ii. 9, &c.) yng Nghrist; a gwahoddir drwy yr holl Feibl y pechaduriaid gwaethaf at y cyflawnder tragwyddol.

Ymddengys fel hyn, gan nad beth neu faint a gollasom, na chollasom ein holl gynysgaeth. Ymdrechais ddangos fod ynom eto rywfaint o allu i adnabod gwirionedd, cyfiawnder, a daioni, ac awydd mwy neu lai grymus am danynt; mai drwy gyfranogi ohonynt hwy yn unig y gallwn ni ddyfod yn sanctaidd a dedwydd; mai yn Nuw y ceir hwynt ynddo Ef yn unig y ceir hwynt yn yr helaethrwydd ac yn y purdeb angenrheidiol, oblegid gwahanol agweddau ar ei natur ac ar ei gymeriad Ef ydynt. Gwelir felly mai drwy gael ein dyrchafu i adnabyddiaeth o, i gymundeb à, ac i fwynhad o honno Ef, y gallwn ni gyrraedd y sefyllfa oreu ac uchaf sydd yn ddichonadwy i ni. Ac y mae Iesu Grist yn ffordd i hyn i gyd. Parhawn hefyd yn y meddiant o dueddiadau addolgar—deillion a llygredig, amddifaid iawn o fywyd a chariad, mae yn wir, erbyn hyn; ond y maent yn bod. Yr oedd dyn ar y cyntaf, fel pob creadur—fel yr aderyn i ehedeg yn yr awyr, ac fel y pysgodyn i nofio yn y môr—wedi cael ei gyfaddasu drwy synwyrau ac aelodau i fyw ar y ddaear, a thrwy gynneddfau ac egwyddorion ei natur foesol i adwaen ac addoli ei Greawdwr. Ac os ydyw wedi ymddirywio, ac ymddirywio yn ddirfawr, y mae yn ei galon yn bresenol, gan nad i ba ddyfnder y mae wedi disgyn, ofid yn mud-losgi oblegid yr hyn ydyw, a hiraeth yn ubain am yr hyn oedd ac a feddai. Y mae ynddo ymofyniadau bloesg am yr Annherfynol, a dyheadau myngus am y Dwyfol. Rhaid, gan hynny, fod ynddo ryw ddichonoldeb ardderchog. Gan ei fod yn dlawd—yn newynog a sychedig am Dduw, er nad yw feallai yn ei adnabod, ac yn chwilio mewn gwahanol ffyrdd ymhob gwlad ac oes am dano; a bod Duw yn gyfoethog, yn barod i drugarhau wrtho, yn ei wahodd yn barhaus ato, ac yn defnyddio mil a mwy o foddion i geisio ei ddenu ato, a fyddai yn rhyfedd iddynt gyfarfod eu gilydd? Pe gwnelent, oni fyddai cymundeb rhyngddynt, mewn Cyfryngwr, y peth mwyaf naturiol a hyfryd mewn bod? Nis gallaf ddychmygu am ddim mwy rhesymol ac uniawn nag i ddyn, wrth dderbyn bendithion tymhorol ac ysbrydol oddiwrth yr Arglwydd, ddiolch iddo am danynt, ei foliannu yn y mwynhad ohonynt, ac ymgyflwyno yn gyfangwbl mewn gwasanaeth iddo. Gwesgir fi i feddwl fod arno gymaint o angen am dano, fel y byddai bodolaeth hir, dragwyddol, hebddo, yn annioddefol—yn uffern iddo. Pe profai yr adyn rhyfedd feddyginiaeth yr Efengyl, deuai addoli ei Greawdwr y gwaith mwyaf greddfol a gwynfydedig, yn gystal a mwyaf rhesymol ac uniawn, y gall byth ymgymeryd âg ef. Mor hyfryd ydyw meddwl y gallant gyfarfod yn y byd hwn! Er mor bell oddiwrth eu gilydd ydynt er mor fawr ac uchel ydyw Un, ac er mor fychan ac isel ydyw y llall, gallant agoshau at eu gilydd a chymdeithasu mewn lawn. Gal yr Anfeidrol ddal cymundeb âg abwydyn dirywiedig yng Nghrist. "Duw ysbrydion pob cnawd," drwy ei Ysbryd ei Hun, a thrwy y cynneddfau a roddodd iddynt hwy, weithio ei ffordd at ysbrydoedd, ac i galonau ei greaduriaid, gan ddatguddio ei Hunan iddynt, nes eu llanw â gwynfydedigrwydd tragwyddol. Oblegid y mae ei ddaioni gymaint ag ydyw ei fod; y mae ei gariad mor fawr ag ydyw ei nerth.

EMYN O FAWL I DDUW.

Ti, ffynhonell bur fy mywyd,
Ydyw gwrthddrych mawr fy mryd;
Teilwng, Arglwydd, o fy ysbryd
A fy nghalon wyt i gyd;
Gelwaist o ddiddymdra engur
Ser a bydoedd hardd eu llun;
Ti yw anadl pob creadur;
Ti yw Haul y Nef ei hun.

Cynnal mae dy freichiau cryfion
Bob ffurfafen bell a bod;
Gweled mae dy lygaid gloewon
Bob abwydyn is y rhod;
Clywi, gyda mawl cerubiaid,
Ochain bloesg amddifaid gwyw;
Treiddi drwy ddyfnderoedd enaid
Halog yn oleuni byw.

Mae dy bresenoldeb grasol
Yn fy ymyl ym mhob man;
Safaf, er fy mhechod ysol,
For di-waelod, ar dy lan:
O nad allwn yfed bywyd
O rinweddau per dy Fod,
Ac anadlu drwy dy Ysbryd
Nerth i rodio er dy glod!

Ti, Creawdydd yr angylion,
Ydyw Tad fy enaid trist;
Troaf yn fy mrwnt archollion
Atat yn haeddiannau Crist;
Ti yw awyr fy nghysuron.
Yn anialwch cras y byd;
O nad allwn roddi 'nghalon,
Dlawd, afradlon, iti i gyd!


YR YSBRYD GLAN.

YMGYFLWYNA y mater hwn i sylw mewn pedair gwedd: Natur, Person, Cymeriad, a Gwaith yr Ysbryd Glân.

I. EI NATUR.

Ymddengys mai ystyr gyntaf y gair ysbryd oedd awel neu wynt. Oddiwrth hynny daeth i olygu unrhyw allu neu weithredydd anweledig, megis enaid, angel, &c. Yn gymaint a bod yr awyr yn rhywbeth mor gyffredinol, ac yn dylanwadu ar bob peth, yn hanfodol i bob bywyd daearol, ac nad ellid ei weled, meddai lawer o gymhwysder i fod yn enw ar yr Anfeidrol. Ysbryd yw Duw." Gosodir Ef allan drwyddo fel Bod deallol, a rhydd oddiwrth bob ffurf ar fater. Ond gan fod yr hanfod Ddwyfol i gyd yn ysbrydol, paham y gelwir y Trydydd Person ynddi yn Ysbryd? Am ei fod Ef mewn modd arbennig yn ysbryd—yn allu ac yn ddylanwad annherfynol. Trwyddo Ef yn neillduol yr amlygir nerth ac effeithioldeb y Duwdod. Fel y mae y Mab yn dadguddio y Tad, y mae yr Ysbryd Glân yn sylweddoli ei fwriadau, ac yn dwyn i ben ei amcanion Ef. Efe yw y gweithiwr Dwyfol. Efe yw y Gwynt bendigedig sydd yn trosglwyddo bywyd, grym, a dylanwad, i bawb ymhob man. Cawn fel hyn afael ar un gwirionedd pwysig o berthynas i natur y Trydydd Person yn ei enw, ysbryd ydyw: sylwedd pur, anweledig, di-gorff, di-rannau, o allu a dealltwriaeth di-derfyn.

Ffordd arall i gyrraedd rhyw syniad am natur yr Ysbryd Glân ydyw olrhain ei darddiad. Dysgeidiaeth y Beibl ar hyn ydyw, ei fod yn deilliaw oddiwrth y Tad (loan xv. 26). Deallid hyn o'r dechreuad; ond y mae chwilfrydedd yn elfen gref yn y meddwl dynol; ac arweiniai bobl yn foreu i ofyn cwestiynau gyda golwg ar y mater. Gofynent ai oddiwrth y Tad yn unig y deilliai Efe, neu a oedd yn deilliaw yn ogystal oddiwrth y Mab? Ac ar y gofyniad hwn—yr unig gwestiwn duwinyddol oedd ar y pryd mewn dadl—yr ymrannodd yr Eglwys. Daliai y naill blaid—yr Eglwys Ddwyreiniol—yn fanwl at eiriau yr Ysgrythyr; a dysgent mai oddiwrth y Tad yn unig y deiliai Efe. Golygai y blaid arall yr Eglwys Orllewinol—y rhaid fod yr Ysbryd Glân, gan ei fod yn cael ei alw yn Ysbryd Crist yn gystal ac yn Ysbryd Duw, ac yn cael ei anfon gan y Mab yn gystal a chan y Tad, yn deilliaw oddiwrth y Mab yn gystal ag oddiwrth y Tad. Yr olaf yw credo Cristionogion Cymru o bob enwad. Y mae Pabyddion a Phrotestaniaid yn cydolygu ar y mater hwn—fod yr Ysbryd Glân yn deilliaw oddiwrth y Mab yn gystal ag oddiwrth y Tad. Oblegid hyn y gelwir Ef yn Drydydd Person. Y Tad fel ffynhonell dragwyddol y cyfan yw y Cyntaf. Oddiwrtho Ef yn uniongyrchol y derbynia y Mab ei Dduwdod, ac oblegid hyny y gelwir Ef yn Ail Berson. Diau na feddylia neb fod cyntaf ac ail a thrydydd, yn y cysylltiad hwn, yn cyfeirio at amser; y mae y Drindod uwchlaw amser. Cyfeiriant yn unig at drefn gweithrediadau— mewnol, angenrheidiol, ac anamgyffredadwy—yr Hanfod Ddwyfol.

Deuwn drwy hyn i feddiant o wirionedd arall am natur yr Ysbryd Glân. Gan ei fod yn deilliaw—yn derbyn ei fod, ei fywyd, ei nerth, ei ddylanwad, yn uniongyrchol ac yn ddibaid—oddiwrth Dduw, y mae yn rhaid ei fod o ran ei natur yn Ddwyfol. Cadarnheir hyn trwy y Beibl. Gwelwn ynddo ei fod yn feddianol ar briodoliaethau Dwyfol, ac yn cyflawni gweithredoedd Dwyfol; gelwir Ef ynddo wrth enwau Dwyfol, a dysgir ni ynddo i gyflwyno iddo addoliad Dwyfol. Wrth ddal ei fod yn yr ystyr fanol ac uchel hon yn Ddwyfol, arweinir ni i wadu golygiad arall a fu yn cael mesur o dderbyniad o berthynas iddo, nid amgen mai creadur ydyw. Yn hytrach na bod yn greadur o unrhyw fawredd neu ogoniant, y mae yr Ysbryd Glân yn Greawdwr. Addefwn ei fod yn deilliaw oddiwrth, ac yn cael ei anfon gan y Personau Dwyfol ereill; ac y mae oblegid hyny, o ran ei ddull o hanfodi a chyda golwg ar ei waith, yn is na hwynt; ond byddai casglu oddiwrth hynny ei fod yn israddol iddynt o ran natur, yn gamsyniad. Cyfeiliornad fyddai tybied fod y bachgen sydd yn gwrandaw ar lais ei dad, neu y gwas sydd yn ufuddhau i orchymyn ei feistr, yn perthyn i rywogaeth is o greaduriaid na'r tad neu y meistr. Yn gyffelyb gyda golwg ar hyn, y mae yr Ysbryd Glân, er mai y Trydydd Person ydyw, ac er ei fod yn cael ei anfon gan y ddau ereill, nid yn unig yn uwch na phob creadur, ond y mae mor uchel a Duw—mor fawr ag ydyw y Tad, mor ogoneddus ag ydyw y Mab.

Defnyddir gyda golwg ar y Personau Dwyfol rai ymadroddion ag sydd yn dra annealladwy i ni. Addefwn eu bod y rhai goreu; ond gwesgir ni yr un pryd i gydnabod ein bod ymhell iawn o allu amgyffred eu cynnwys. Meddylier am genhedliad y Mab, a deilliad yr Ysbryd: pa beth a olygant? Geiriau daearol ydynt, rhai wedi cael eu benthyca oddiwrth amgylchiadau daearol i osod allan weithrediadau ysbrydol a dwyfol; ac nid ysbrydol a dwyfol yn unig, ond y rhai mwyaf ysbrydol a dwyfol—gweithrediadau mwyaf mewnol yr Hanfod Ddwyfol ei hun. Yr ydym yn eu defnyddio yn fynych gyda chymaint o ryddid ac o ddawn a phe byddem yn gwybod llawer, os nad y cwbl, am danynt; ond teimlwn, pan ofynir yn ffurfiol pa beth yn fanwl yw perthynas y Mab â'r Tad, neu berthynas yr Ysbryd Glân â'r Mab ac â'r Tad, eu bod yn ofyniadau anatebadwy. Y maent yn eigion o gwestiynau nad allwn ni ar hyn o bryd, ac nad allwn, y mae yn debyg, yn nhragwyddoldeb, gyrraedd eu gwaelodion. Yr ydym er hyny yn eu credu yn credu yr hyn nad ydym yn ei amgyffred; ac nid ydym yn diraddio ein hunain drwy hynny; oblegid credu, yn hytrach nag amgyffred, yr ydym gyda phob peth. Ychydig iawn—llai o lawer nag a dybiwn yn aml—ydym yn ei ddeall. Cyfyng yw ein dirnadaeth o honom ein hunain, chwaithach o Dduw. Leied, er esiampl, a wyddom am darddiad ein heneidiau! Ond ni thueddir ni i wadu eu bodolaeth, oblegid nad yw eu hanes yn hysbys i ni. Pa faint a ddeallwn am natur yr undeb sydd rhwng corff ac ysbryd yn ein cyfansoddiad? Ychydig iawn; ond yr ydym yn addef yr undeb, er ei fod yn anchwiliadwy i ni. Ac os nad allwn amgyffred ein hunain, nis gallwn yn sicr amgyffred y Drindod. Trwy gredu, yn hytrach na dirnad, yr ydym yn byw yn byw yn anianyddol ac yn foesol, yn dymhorol ac yn ysbrydol. Ac os credwn rywbeth am ei fod yn rhy fawr i ni ei ddeall, cenhedliad y Mab a deilliad yr Ysbryd Glan yn fwy.

Onid ydyw pob peth—y greadigaeth a phob creadur —yn deilliaw oddiwrth Dduw? Mewn golygiad mwy arwynebol a phenagored, y maent; ac oherwydd hynny, y maent yn yr ystyr hwnnw i gyd yn Ddwyfol. "Deilliaw oddiwrth y Tad" y mae yr Ysbryd Glân, ac y mae oblegid hynny yn Ddwyfol; ond y mae er hynny wahaniaeth, a gwahaniaeth annherfynol, rhyngddo Ef â byd neu haul. Mae y ddaear yn Ddwyfol oherwydd mai Duw ydyw ei Hawdwr: ond camsyniad fyddai tybied mai y Tad a wnaeth yr Ysbryd Glân, neu mai drwy y Mab y crewyd Ef. Y mae Efe uwchlaw creadigaeth; y mae o angenrheidrwydd natur yn Ddwyfol. Yr oedd Efe yn bod cyn bod amser; yr oedd Efe yn bob peth ag ydyw yn awr, o dragwyddoldeb. Cawn felly fod llawer o bethau yn deilliaw oddiwrth Dduw, ac fod y cyfryw yn Ddwyfol, ond nad ydyw y cyfan yn ogyfuwch. Gwelwn adlewyrchiad gwanaidd o hyn yn amgylchiadau dynion. Byddai yn eithaf priodol dyweyd fod y peiriant a lunia, neu y llyfr a gyfansodda un ohonynt, yn deilliaw oddiwrtho, ac fod y peiriant neu y llyfr oblegid hynny yn ddynol. Ond y mae y plentyn yn deilliaw oddiwrth ei rieni, ac y mae yntau mewn canlyniad yn ddynol. Gymaint er hynny o wahaniaeth sydd rhwng arwyddocâd y gair dynol pan gymhwysir ef at y naill, a phan gymhwysir ef at y llall! Ni byddai yn gyfreithlon ei ddefnyddio gyda llai o ystyr nag a fedd yn ei gysylltiad ag offeryn; ac nis gall drosglwyddo mwy o ystyr nag a wna yn ei gysylltiad â baban. Gwelir i fesur drwy y peiriant fedr a chwaeth, amcanion ac amgylchiadau ei awdwr. Ond y mae y plentyn yn derbyn rhywogaeth ei rïeni, y mae yn ddyn, ac yn ddyn mor wirioneddol ag ydyw ei dad. Yn gyffelyb gyda golwg ar y pwnc sydd o dan ystyriaeth, fe geir drwy y greadigaeth adlewyrchiad o allu, doethineb, a daioni y Creawdwr; ond y mae yr Ysbryd Glân yn cyfranogi o sylwedd a bywyd, o natur a phriodoliaethau y Duwdod ei hun. Deillia oddiwrth y Personau Dwyfol ereill yn y fath fodd arbennig ag sydd yn peri ei fod yn un ohonynt. Y mae yn Dduw mor wirioneddol ag ydyw y Tad neu y Mab. Bedyddir ni ynddo Ef yn gystal ag ynddynt hwy; a theilynga oddiwrthym addoliad mor bur a hwythau. Gan hynny, yn gymaint a bod Person mor ogoneddus wedi ymgymeryd ag achubiaeth pechaduriaid, gallwn, er mor rymus yw ein llygredigaeth, ac er mor lïosog yw ein temtasiynau, edrych ymlaen yn hyderus am fuddugoliaeth arnynt. Bu Un mawr farw drosom; y mae Un cymaint yn byw ynom.

II. PERSON YR YSBRYD GLAN.

Pa beth ydyw person?

Ymdrechodd llawer ateb y gofyniad hwn: ond ni lwyddodd neb hyd yma. Ni chaiff yr un darnodiad a roddwyd o hono dderbyniad cyffredinol. Yr un pryd, er nad allwn ei ddeffinio, gwyddom rywbeth am dano. Er nad allwn grynhoi holl ystyr y gair i gylch brawddeg, gallwn wahaniaethu rhwng person a pheth. Teimlwn yn gyffelyb gyda llawer o bethau—megis bywyd, prydferthwch, barddoniaeth, &c.: pwy a ddichon lunio deffiniad cwbl foddhaol o honynt? Gall dyn o gyrhaeddiadau cyffredin wahaniaethu yn ymarferol rhyngddynt a phethau gwrthgyferbyniol iddynt: marwolaeth, gwrthuni, rhyddiaeth. Yr un modd yr ydym, er yn analluog i hysbyddu holl gynhwysiad y term, yn adnabod rhai o elfenau personoliaeth. Crybwyllwn dair neu bedair. Medd person (1) hanfodiad gwahaniaethol oddiwrth bawb a phob peth. Rhaid gan hynny ei fod yn rhywbeth uwch na sefyllfa neu ansawdd, na chynneddf neu briodoledd. Ynddo ef yr ymwreiddiant hwy i gyd. Perthyna iddo (2) fwy neu lai o allu i olrhain a dirnad, ac, o ganlyniad, o wybodaeth a doethineb. Y mae nerthoedd anian yn gwbl amddifad o'r pethau hyn. Nodweddir ef (3) gan allu i ddewis a gwrthod, i gyfeirio ei hun, ac i benderfynu ei gymeriad ei hun; y mae mewn gair yn feddianol ar ewyllys. Nid oes gan lifeiriant na chorwynt ddim o hyn. Medda (4) ymwybyddiaeth. Dyma ei nod angen arbennig. Golyga hyn fwy nag adnabyddiaeth, na gallu i wahaniaethu rhwng gwrthrychau oddiallan iddo ef ei hun. Ceir rhywfaint o hwnnw mewn creaduriaid nad ydynt yn bersonau, megis anifeiliaid ac adar (Esaiah i. 3, Jeremiah viii. 7). Nid ydyw ymwybyddiaeth yn ddim llai na gallu mewn un i adnabod ei hun, i ddadansoddi ei deimladau, i brofi ei amcanion, ac i eistedd mewn barn ar ansawdd ei galon ac ysbryd ei feddwl ei hun. Nid oes unrhyw arwyddion o hynny mewn anifail.

Credwn fod yr Ysbryd Glân yn feddianol ar y pethau hyn—hanfodiad gwahaniaethol, gwybodaeth annherfynol, ewyllys anffaeledig, ac ymwybyddiaeth berffaith; ac os felly, rhaid ei fod yn Berson, ac yn Berson Dwyfol. Arweinir ni wrth gredu hyn i wadu golygiad arall a fu yn cael mesur o dderbyniad o berthynas iddo, sef mai gallu, neu ddylanwad, neu briodoledd Ddwyfol ydyw. Ac yr ydym yn derbyn y naill ac yn gwrthod y llall, oblegid fod y Beibl yn ein dysgu i wneuthur felly. Gwna hynny drwyddo; a gwna hynny gydag eglurdeb ag sydd i feddyliau agored i argyhoeddiad, yn anwrthwynebol. Cydnabyddwn fod y gair Ysbryd yn golygu weithiau yn yr Ysgrythyrau ddoniau, neu weithrediadau y Person; a defnyddir yn y cysylltiadau hynny ymadroddion gyda golwg arno ag ydynt yn anghyson â phersonoliaeth. Sonir, er esiampl, an: dano yn cael ei dywallt, ei ddiffodd; a gwnaeth cyfeiliornwyr ddefnydd mawr o eiriau fel hyn yn eu hymdrechion yn erbyn y gwirionedd. Credwn, yr un pryd, y gwel pob dyn diragfarn mai eithriadau yw y cyfryw ymadroddion, a bod rhediad cyffredinol y Beibl yn profi peth arall. Dengys drwyddo—drwy eiriau a brawddegau, drwy ffeithiau ac athrawiaethau—fod yr Ysbryd Glân yn Berson. Gesyd Ef allan fel dysgawdwr, arweinydd, sancteiddydd, a diddanydd credinwyr; ac ni ddichon unrhyw nerth, nac egwyddor, na dim ond person weinyddu y swyddau hyn. Cawn, ar y naill law, fod yn ddyledswydd arnom ei garu: ond nis gallwn garu gallu; gallwn ei werthfawrogi, ond nis gallwn ei addoli. Awgrymir, ar y llaw arall, fod yn bosibl i ni dristau yr Ysbryd Glân; ond nis gallwn dristau dylanwad, mwy nag y gallwn ddilladu dylanwad. Gall dynion hefyd bechu yn ei erbyn; ac o bob pechod, y pechod yn ei erbyn Ef ydyw yr un mwyaf arswydus. Gallesid maddeu i lofruddion y Gwaredwr; ond ofer ydyw i unrhyw un a becho yn erbyn yr Ysbryd Glân ddisgwyl maddeuant, nac yn y byd hwn nac yn yr hwn a ddaw. Rhaid gan hynny ei fod yn Berson; oblegid nis gall neb bechu yn erbyn ansawdd neu briodoledd. Ystyrier, yn ychwanegol at y syniadau blaenorol, yr adnodau canlynol: Ioan xiv. 16, 26; xv. 26; xvi. 7, 8, 13, 14; Act. v. 3, 4; x. 19, 20; xiii. 2, 4; Rhuf. viii. 26, 27; &c. Fel hyn, dysgir y gwirionedd am Berson yr Ysbryd Glân gyda chymaint o eglurdeb fel y byddem wrth wadu y pwnc yn gwadu y Beibl.

Cydnabyddir pwysigrwydd yr athrawiaeth hon fel erthygl yn nghredo yr Eglwys; ond y mae yn perthyn iddi bwysigrwydd ymarferol—y mae yn llawn o gynaliaeth a diddanwch. Buasai gwerth mawr ar yr Ysbryd Glân pe na buasai yn ddim mwy na gallu Dwyfol, neu ddylanwad anfeidrol. Buasai yn briodol i ni weddïo am dano pe na buasai yn y byd ysbrydol, yn ddim amgen nag ydyw y gwlith neu y gwlaw, yr awyr neu y gwynt, yn y byd naturiol. Meddylier am y pethau hynny, onid ydynt yn hanfodol i fywyd a thyfiant? Y mae y gwlith yn puro ac yn ireiddio miliynau o ddail a blodau ar foreu o haf. Mor fendithiol ar ol sychder maith ydyw cawod o wlaw tyner! Par i lysiau darddu ac i beraroglau ehedeg. Try hen fyd, llawn o lwch, yn baradwys newydd o dan ei heffeithiau. Ond tybier am eiliad fod y gwlith yn adnabod y ddalen wyw, ac yn caru y blodeuyn sychedig; neu fod y gwlaw yn deall grug y diffaethwch, ac yn cydymdeimlo â rhedynnen weddw yn y cwm pellennig; byddent felly ar unwaith yn bethau anghydmharol uwch a phwysicach yn ein golwg. Felly y mae yr Ysbryd Glân. Gallwn, yn gymaint a bod yr enwau hyn yn gysegredig ac yn ysbrydoledig, barhau i son am dano fel gwlith a gwlaw, cyhyd ag y cofiwn ei fod yn annrhaethol fwy na hwynt. Disgyna y gwlith Dwyfol hwn ar eneidiau sydd yn anialwch cras, yn ol doethineb berffaith. Y mae yn adnabod yr anialwch; ac y mae wrth ymweithio iddo yn gwenwyno ei seirff, ac yn ei droi yn baradwys iraidd. Disgyna y gwlaw graslawn hwn ar diriogaethau llosgedig calon pechadur yn wybodaeth ac yn gariad annherfynol. Diffydd eu fflamau, dyfrhâ eu crasdir, trosglwydda iddynt hâd gwirionedd a sancteiddrwydd, y rhai a dyfant o dan ei feithriniad i brydferthwch a gogoniant nefol.

Yn gyffelyb, y mae awyr a gwynt yn amhrisiadwy; nis gallwn fyw yn annibynnol arnynt. A phe na buasai y Person gogoneddus hwn yn ddim mwy nag awyr ysbrydol yn eglwysi ein gwlad, buasai yn briodol i ni ddiolch am dano; oblegid buasai yn amod bywyd ysbrydol ynddynt. Pe na buasai yn ddim mwy nag awel Ddwyfol, yn cludo nwyon iach tragwyddoldeb, ac yn eu gwasgaru drwy ddiffaethwch amser; neu chwa yn ehedeg dros erddi y Nef, ac yn cario ei pheraroglau i awyr drymaidd a drewedig y ddaear; neu wynt yn chwythu dros y Duwdod, ac yn cyfranogi wrth wneuthur hynny o rinweddau bywiocäol, ac yn trosglwyddo y rhai hynny i ddynion marwol y byd, fe fuasai yn briodol i ni ofyn am dano gyda dyfalwch. Y mae yn hynny i gyd, ac yn rhywbeth anghydmharol fwy. Os awyr ydyw, y mae yr awyr yn fywyd a phurdeb, yn ddoethineb a chariad annherfynol. Gall trwy hynny anadlu ar gymeriad sydd yn flodeuyn tyner a thlws, nes ei gyfnerthu ac ychwanegu at ei hawddgarwch. Gŵyr o ba gyfeiriad i chwythu ar enaid sydd fel brwynen ddinodd ar y mynydd, a chyfrannu wrth wneuthur hynny fywyd a grym iddo. Fel y mae yn adnabod ac yn cydymdeimlo â dyn sydd yn gorsen ysig ar anialwch digysgod y byd, ac fel y câr ymweithio iddo a thrwyddo yn nerth ac yn ogoniant! Efe yw sail ein gobaith am bob daioni—am lwyddiant crefydd, am sobrwydd ein meibion, am burdeb ein merched; a byddai tywalltiad helaeth o hono y fendith dymhorol fwyaf allai Cymru dderbyn yn y dyddiau hyn.

III. CYMERIAD YR YSBRYD GLAN.

Yn ymledu o dan, ac yn ymdreiddio trwy ei gymeriad gogoneddus, y mae mawredd a gallu diderfyn. Gan fod y pethau hyn yn briodoliaethau hanfodol yn ei natur, rhaid eu bod yn egwyddorion yn ei nodweddiad. Fel y mae anian dyn yn effeithio ar ei weithredoedd ac ar ei fuchedd, felly y mae sylwedd a bywyd yr Ysbryd Glân yn dylanwadu, yn ehangder annherfynol ac yn nerth anfeidrol, yn Ei gymeriad Ef. Ymgyfyd elfennau ereill oddiar ei bersonoliaeth,—megis gwybodaeth berffaith a doethineb anffaeledig. Medd adnabyddiaeth drwyadl o bob peth—o Dduw ac o ddyn (Rhuf. viii. 26, 27; 1 Cor. ii. 10—12); o ddaioni a golud y naill, ac o ddrygioni a thlodi y llall; ac y mae ganddo synwyr diderfyn i gymhwyso bendithion Dwyfol at anghenion dynol. Amlygir egwyddorion ereill trwy ei enw—Ysbryd Glân. Arweinir ni trwy y gair cyntaf at ei natur neu ei sylwedd ysbryd ydyw; a chyfeiria yr ail mewn rhan at ei waith—glanhau yw hwnnw, ac mewn rhan ato Ef ei hun. Rhaid fod yr Hwn sydd wrth ei swydd yn glanhau, yn anfeidrol lân ei Hun. Ymhellach, gan ei fod yn berffaith bur, y mae yn rhaid ei fod yn berffaith dda; ac y mae y ffaith ei fod yn sancteiddio, yn profi ei fod yn llawn o dosturi. Gwelir, gan hynny, fod y Trydydd Person, er y sonir mwy am y ddau ereill yn y cyfeiriad hwn, yn cyfranogi yn gystal â hwythau o gymwynasgarwch yr Hanfod Ddwyfol. Cawn, o ganlyniad, yn y cysylltiad hwn, dair o egwyddorion ei gymeriad gogoneddus: ysbrydolrwydd, sancteiddrwydd, a chariad (Rhuf. xv. 30; Phil. ii. 1). Pa beth nad allwn ei ddisgwyl oddiwrtho! Elfennau ereill yn ei nodweddiad ydynt ostyngeiddrwydd, amynedd, a phenderfyniad. Prin y buasem yn meddwl am ddefnyddio y fath ymadrodd â gostyngeiddrwydd Dwyfol, oni buasai fod yr Iesu wedi dyweyd ei fod EF yn ostyngedig o galon. Gallwn yng nghysgod y geiriau hyn fyned ymhellach, a dal fod yr Ysbryd Glân, pe buasai yn briodol cymharu ansawdd meddwl un Person Dwyfol ag eiddo Person Dwyfol arall, yn fwy gostyngedig na Christ. Oblegid nid ydyw Ef yn ymwasgu ar ystyriaethau dynion, nac yn galw eu sylw o gwbl ato ei Hun. Yn hytrach, lleshau pechaduriaid a gogoneddu y Gwaredwr ydyw ei amcan mawr Ef. Pan ymsymuda yng nghyflawnder ei nerth trwy genedl, nid am dano Ef yn unig, nac yn bennaf, y meddylia pobl. Wrth iddo agoryd eu llygaid a gwasgaru goleuni oddiamgylch iddynt, nid Efe, yn gymaint a Christ, a hwy eu hunain, a welant ac a deimlant. Yn lle cymdeith—asu ag Ef, fel Anwylyd eu heneidiau, ei anadlu wnant, fel awyr fywiocäol. Pwy a ddichon synied yn deilwng am y fath ostyngeiddrwydd! Nis gall yr un angel ddirnad yr hunanymwadiad grasol a ddengys Efe! Mor lwyr, drwy ei gariad annherfynol, y mae yn byw er mwyn ereill ! Meddylier hefyd am amynedd, amynedd ddiderfyn yr Ysbryd Glân. Dyma un o briodoliaethau mwyaf gogoneddus yr Hanfod Ddwyfol. Ac i bechadur—sydd trwy ei amddifadrwydd neu ei brinder o honi, yn cyhoeddi gwendid, dirywiad, a dyryswch meddyliol a moesol ei natur—y mae yn dra hyfryd myfyrio am dani. Creadur amser ydyw ef, ac y mae yn llawn o bryder a phrysurdeb. Preswylia Duw dragwyddoldeb, ac y mae yn dwyn ei oruchwyliaethau ymlaen gyda phwyll, effeithioldeb, ac urddas anfeidrol. Gwelir hynny mor amlwg yng ngwaith yr Ysbryd ag mewn unrhyw gyfeiriad. Er i ddynion, drwy eu pechodau ei dristau yn fynych oddiwrthynt, Efe a ddychwel atynt drachefn a thrachefn. Gyda chymaint o ddyfalwch a thynerwch y mae yn ymresymu â hwynt—yn ymdrechu eu hargyhoeddi, a dysgu eu heneidiau i gashau a chilio oddiwrth ddrygioni, ac i garu a gwasanaethu Crist! Medda ddigon o ffyddlondeb i ymryson am flynyddoedd â nwydau a gwyniau. Pa beth yng nghanol tywyllwch, ynfydrwydd, a phechod y galon ddynol, ydyw ei brofiad, neu hanes ei feddwl, wrth iddo geisio troi eu huffern yn nefoedd! Crybwyllwn un elfen arall yn ei gymeriad penderfyniad. Yng nghanol anwadalwch, llygredigaeth, a thwyll, a llid gelynion aneirif, ni ddiffygia ac ni flina Efe. Fel y mae yr awyr weithiau yn chwäon balmaidd, a phryd arall yn gorwyntoedd digon cryfion i ddiwreiddio cedrwydd; neu fel ar y diwrnod mwyaf hafaidd, y mae eigion anfesurol y tu ol i fân donnau y traeth; felly o dan holl ostyngeiddrwydd ac addfwynder yr Ysbryd Glân y mae nerth annherfynol. Gall osod ei wyneb fel callestr, yn gystal ag ymwisgo mewn tiriondeb. Gall lefaru mewn taranau a mellt, yn gystal a chanu cân beraidd cariad. A myn, drwy foddion llym neu dyner, ddwyn ei amcanion i ben. Gymaint o ddefnyddiau diddanwch i alarwyr Seion sydd yn ei gymeriad gogoneddus!

IV. GWAITH YR YSBRYD GLAN.

Dysgir ni (1) mai Efe yn uniongyrchol a ddygodd y greadigaeth i fod. Gorchwyl arbennig y Tad oedd dwyn i fod o ddim; ond yn a thrwy y Personau ereill yr oedd Ef yn gweithio. Mewn bwriad a chynllun y creai Efe. Yr Ysbryd drawsffurfiodd y bwriadau yn fydoedd ac yn heuliau, ac a droes y cynlluniau yn greaduriaid ac yn oruchwyliaethau. Y Cyntaf oedd yn meddwl ac yn ordeinio pob peth; y Trydydd oedd yn cyflawni ac yn addurno y cyfan (Job xxvi. 13, Salm xxxiii. 6). Yr Ysbryd Glan (2) ydyw y gweithredydd mawr mewn Rhagluniaeth a Hanesyddiaeth. Efe sydd yn cyfeirio ac yn effeithioli yr arfaethau tragwyddol, ac yn dwyn oddiamgylch yr amcanion Dwyfol ym mhob oes a gwlad. Trwyddo Ef yr adnewyddir bob blwyddyn fywyd a phrydferthwch anian (Salm civ. 30). Efe sydd yn cyfodi cenhedloedd ac yn darostwng teyrnasoedd. Efe sydd yn cyfrannu athrylith, yn deffro meddyliau, yn trefnu manteision, ac yn bendithio ymdrechion dynion dros wyneb y ddaear. Ymweithia yn ddylanwad pureiddiol trwy Hanesyddiaeth; ac effaith ei weithrediadau cyffredinol Ef ydyw moesoldeb dynolryw. Efe (3) a ddatguddiodd bob gwirionedd a feddant,—holl ffeithiau ac awgrymiadau y greadigaeth, holl dystiolaethau ac addysgiadau Rhagluniaeth, holl feddylddrychau greddfol ac angenrheidiol yr enaid; oddiwrtho Ef y deillia y cyfan. Efe a gynhyrfodd ac a gyfarwyddodd ddynion sanctaidd i drosglwyddo i ni gyfrinach meddwl a chalon Duw yn y Beibl. Oddiwrtho Ef y tardd pob goleuni mawr ar y gwirionedd, a phob cynorthwy arbennig i ddeall a derbyn y gwirionedd. Efe yw gwir athraw dyn. Efe (4) a luniodd ddynoliaeth y Gwaredwr; ac Efe oedd yr eneiniad difesur a dderbyniodd Ef at ei waith. Efe (5) sydd yn cymhwyso yr iachawdwriaeth; a medd ddigon o ddoethineb a dylanwad i sicrhau cyflawniad ei holl amcanion. Efe sydd yn argyhoeddi ac yn dysgu pechaduriaid i edifarhau a chredu. Trwyddo Ef yr unir hwy â Christ, yr ailenir ac y sancteiddir hwy. Megis mai Efe a ddygodd dryblith y greadigaeth i drefn, Efe hefyd sydd yn troi tryblith moesol y ddyniolaeth yn baradwys. Efe (6) yr un modd sydd yn achosi bywyd a chariad, doethineb a gweithgarwch yr Eglwys. Efe oedd gynt yn donio ac yn galw Proffwydi ac Apostolion; ac Efe sydd yn awr yn cymhwyso ac yn galw gweinidogion yr Efengyl. Mor ddiddym ydyw dyn hebddo! Y fath fendith i ni fel cenedl fyddai tywalltiad helaeth o hono arnom yn y dyddiau hyn! O na rwygit y nefoedd!

MAWL I'R YSBRYD GLAN.

O Ysbryd hollalluog! sanctaidd, cu,—
Mor lawn o gariad at bechadur du,—
Mor ostyngedig ar binaclau bod,—
Chwenychwn fyw a marw er dy glod!

Athrylith bur y Duwdod mawr ei hun,
Ac awyr beraidd haf y nefoedd gun,
Tydi yw anadl creadigaeth flydd,
A bywyd prydferth pob creadur sydd.

Darperaist gorff i Grewr bydoedd glân,
A nerthaist Ef mewn cyfyngderau tân:
Wyleiddiaf Dduw! ymguddio mae i gyd—
Datguddio Arall yw ei waith o hyd.

Oleuni sanctaidd, gwefr gwirionedd Duw,
Tywyna heddyw ar ddynoliaeth wyw!
Ogoniant byw yr Eglwys ymhob oes,
Cyfrana iddi rinwedd pur y Groes!

Ddiddanydd llariaidd pob pererin blin,
Trosglwydda fywyd i fy enaid crin,
A thro dy riddfan dieithr dan fy mron,
Yn fawl i Grist yn nos y ddaear hon!

Ymdraidd drwy yspryd fy nghenedlaeth fall,
A chywilyddia ei bydolrwydd dall!
Secinah cymanfaoedd Cymru fu,
O cadw Iesu byth ar flaen ein llu!


YR ANGHENRHEIDRWYDD AM YR YSBRYD GLAN I WRTHWEITHIO CYNNYDD LLYGREDIGAETH YR OES.

WEDI gweled y dysgwylid i mi wneyd ychydig o sylwadau agoriadol ar y mater uchod yn Nghymdeithasfa Abergele, Rhagfyr 1af, 1892, dechreuais feddwl rhywfaint yn ei gylch. Y syniad cyntaf a ymgynnygiodd i mi wrth wneuthur hynny oedd, ei fod yn hen—yn hen iawn. Pa sawl gwaith y bu o dan ystyriaeth o 1735 hyd yn awr! Bu tadau y Cyfundeb yn pregethu arno, ac nid yw ei blant ieuengaf wedi peidio gwneuthur hynny; ac onid yw y cwbl a ellir ei wybod yn ei gylch wedi cael ei draethu gan-waith drosodd? Meddyliwn drachefn ei fod yn wirionedd, ac yn wirionedd pwysig ac amserol, ac y buasai yn anhawdd ei eirio yn well nag y gwnaethid. Y mae yn hen, ond nid ydyw wedi heneiddio, yn yr ystyr o fyned yn antiquated; ac ni wna yn y byd hwn. Nid yw oedran mawr yn dwyn oddiamgylch henaint ymhob cylch. Yr oedd natur mor iraidd a thlws eleni ag oedd gan' mlynedd yn ol. Y mae yr angel mor ieuainc heddyw ag y bu erioed. Yn gyffelyb gyda golwg ar yr enaid, nid yw ynddo ei hun yn llesghau o dan ddylanwad blynyddoedd; nid ydyw ei brif anghenion yn agored i gyfnewidiad, ac nid ydyw ei beryglon penaf yn amrywio llawer o oes i oes. Y mae hyn yn wir am bob ysbryd, yn arbenig am yr Ysbryd Glân—y Person Dwyfol, annherfynol yn ei adnoddau, ag sydd yn achosi bywyd a phrydferthwch ymhawb ac ymhob man. Y mae Efe uwchlaw heneiddio; ac nis gall yr angen am dano leihau. Yr ydym yn byw yn nghanol cyfnewidiadau mawrion, ac yr ydym yn dystion o welliantau ymhob cyfeiriad. Fel y mae Gwyddoniaeth a Chelfyddyd wedi lliosogi manteision a chyfleusderau yn y ganrif hon! Prin y gallwn ddirnad pa fodd yr oedd ein tadau, yn eu hamddifadrwydd o fendithion diweddar gwareiddiad, yn gallu o gwbl gario amgylchiadau y byd ymlaen. Ond y mai rhai hen elfenau yn aros, ac y maent mor angenrheidiol i ni ag oeddynt iddynt hwy. Galluogir dynion i wneyd pethau yn yr oes hon a ystyriasid unwaith yn wyrthiau; ond nid ydynt eto wedi dysgu gweithio heb ymborth, na byw heb awyr. Yr un modd yn ysbrydol, tra y mae cynnydd golud, rhyddid, a dysgeidiaeth, wedi dwyn o gwmpas welliantau pwysig yn nhrefniadau ac amgylchiadau allanol Crefydd, y mae hi ei hun yn aros yr un—mor ddibynol ar Dduw ag erioed. Y mae yr hyn a nodwyd wedi llïosogi cyfleusderau a manteision credinwyr yn ddirfawr; ond y mae awyr ysbrydol mor hanfodol i ni ag oedd i saint unrhyw gyfnod yn hanes yr Eglwys. Yr ydym, yn y mwynhad o ddiwylliant uwch ac o gynlluniau perffeithiach, mor amddifad o allu i gynnyddu mewn sancteiddrwydd ein hunain ac i ddarostwng llygredigaeth ein hoes, yn annibynol ar ras a goleuni Dwyfol, ag oedd ein henafiaid boreuaf. Dichon, yr un pryd, nad oes yr un gwirionedd ag yr ydym, yn bregethwyr, blaenoriaid ac athrawon, yn fwy agored i'w anghofio na hwn—ein hangen beunyddiol am Ysbryd yr Arglwydd.

Cymer y testyn yn ganiataol fod llygredigaeth yn cynnyddu yn yr oes hon: a ydyw hynny yn ffaith? Rhaid i mi, mewn trefn i allu ateb y gofyniad hwn, ofyn un arall—Pa beth a feddylir wrth lygredigaeth? Ei ystyr gyffredin ydyw annuwioldeb budr a gwrthun—pechodau cnawdol, anifeilaidd, a bwystfilaidd. A ydyw y rhai hyny yn llïosogi—yn llïosogi i ganlyn amlhad manteision a breintiau? Dysgir ni "y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf." Bydd i gamwedd ymgryfhau yn ddirfawr, bydd i bechod ymbersonoli mewn dynion o athrylith a dysg, a bydd i Satan ymgnawdoli mewn gwŷr o allu ac awdurdod. Ond prin y gall deongliad gofalus a chywir o dueddiadau ac arwyddion yr oes hon ein harwain i gredu fod hen ysgelerderau y ddaear yn adgyfodi ynddi. Meddylier am yr ysbrydiaeth ag oedd yn uno nerth, gelyniaeth, a chreulondeb—y trindod arswydus hyny, ac yn eu cymhell i orthrymu, i adeiladu carcharau, i gloddio daear-gelloedd, ac i ennyn rhyfeloedd ac erledigaethau—nid hono ydyw ysbrydoliaeth lywodraethol y ganrif hon. Er nad ydyw trais wedi darfod, er nad yw y milwr wedi diflanu, ac er fod yr ymladdwr, yn ngolwg llïaws o bobl yn Ewrop ac America, yn arwr, gwanhau, yn hytrach na chryfhau, y mae dylanwad hono. Mor bell erbyn hyn ydyw gwroldeb anianyddol oddiwrth fod yn unig neu yn brif rinwedd dyn! A ydyw hen lythineb y byd wedi ymadael o hono? Rhaid cydnabod nad ydyw, ac fod miloedd o bobl yn Nghymru yn dyoddef oddiwrth ei effeithiau; ond byddai dysgu ei fod, yn nghanol goleuni ymledol Gwyddoniaeth, yn cynnyddu yn ein plith, yn sarhad ar ein synwyr fel cenedl. Beth am ymyfed a meddwdod—a ydyw ein cydwladwyr yn dyfod o flwyddyn i flwyddyn yn fwy darostyngedig iddynt? Byddai gorfod credu hyny, ar ol ein holl ymdrechion yn eu herbyn, yn dynged alaethus. A ydyw yn ddichonadwy iddynt ymgryfhau i ganlyn llïosogiad ysgolion a cholegau? Addefaf eu bod yn dal eu ffordd yn fwy llwyddianus nag y gobeithiai eu gwrthwynebwyr boreuol: ond byddai meddwl eu bod, gydag ymledaeniad diwylliad ac yn erbyn holl ddylanwadau crefyddol ein hoes, yn ychwanegu cryfder, yn afresymol. Un o bechodau hynaf, grymusaf, a gwrthunaf y ddynoliaeth ydyw godineb: a ydym i ddeall fod y fath ddrygioni a hwn yn ymgryfhau yn ein mysg yn y dyddiau hyn? Mor bruddaidd ydyw y syniad am y fath beth! Cydnebydd pawb ein bod yn y golygiad hwn ymhell o fod y peth y carasem, ac oddiwrth yr hyn y buasai yn naturiol, wrth ystyried ein manteision, dysgwyl i ni fod: a ydym yn myned yn fwy trythyll ac anniwair? Edliwir yn fynych i ni fod bastardiaid yn llïosocach, yn ol nifer y boblogaeth, yn Nghymru nag yn Lloegr; ond nid ydyw hyny yn profi fod y Saeson yn wirioneddol burach na ni onid oes yn eu plith hwynt fwy o buteiniaid cyhoeddus nag yn ein plith ni? Gwareded yr Arglwydd ni rhag y trychineb o orfod credu fod anniweirdeb yn ymgryfhau yn ein mysg! Gwesgir fi, yr un pryd, i gydnabod fod drygioni, mewn rhai ffurfiau arno, yn cynnyddu yn bresennol. Nodweddir ein hoes gan ysgafnder a chellwair eithafol, a chan nwyfiant ac afiaeth peryglus. Gŵyr pawb fod yn naturiol i fywyd ieuanc chwareu, ac fod hynny, o fewn terfynau rhesymol, yn cynnyrchu llawer o fwynhad ac o ddadblygiad anianyddol. Barnaf, er hynny, ein bod yn chwareu gormod. Yr ydym yn cellwair yn fynych pan y dylem weddïo, ac yn chwerthin yn aml pryd y byddai yn fwy gweddus i ni wylo. Pa beth—yn ngwyneb cyfyngder masnachol a marweidd-dra crefyddol, ydym yn ei wneuthur—ai nid dawnsio? O na roddid i ieuenctyd ein gwlad ddoethineb wyn a mynod! Troant, drwy ymroddiad gormodol iddynt, gampau ag sydd ynddynt eu hunain yn ddiniwed ac iachus, yn niweidiol a diraddiol. Chwareu ei hun yn farch, ac nid yn llew nac yn arth, y mae yr ebol; ond y mae ambell i lanc yn chwareu ei hun yn anifail, os nad yn fwystfil. Priodol fyddai i fawrygwyr yr ymarferiadau corfforol hyn. ystyried, fod parch i Ddydd yr Arglwydd wedi dal, drwy holl ymladdfeydd a meddwdod ac anlladrwydd Cymru, i gynnyddu am gant a hanner o flynyddoedd—ac mai dirywiad yn sancteiddiad y Sabboth ydyw un o nodweddion oes y chwareuon hyn. Y ffaith ydyw, gan nad beth yw eu dylanwad o fewn terfynau cyfyng, eu bod, drwy feddiannu pobl fel y gwnant yn bresennol, yn parlysu teimladau crefyddol a phob pryder ynghylch tra—gwyddoldeb yn eu calonau. Onid yw ein llanciau yn chwareu Duw ymaith oddiwrth eu heneidiau!

Oni ddichon llygredigaeth olygu rhywbeth arall—rhywbeth llai anianyddol a gwrthun—mwy anianol ac ysgeler, llai colledus ac aflan—mwy hunanol ac anuwiol, llai cnawdol a gwarthus—mwy peryglus a dieflig, na hyn? Cynnwysa, fel yr ymddengys i mi, dueddiadau ac amcanion drygionus, a phechodau fel twyll, balchder, cybydd-dod. A chredaf fod y rhai hyn yn cynnyddu, yn hytrach na lleihau, yn ein plith. Yr ydym yn sicr yn byw mewn "amseroedd enbyd." Anadlwn awyr wenwynig. Dichon na bu yr Anghrist erioed yn gweithio yn fwy egniol, ac mewn dull mwy deniadol, nag yn bresennol. Amgylchynir ni gan ysbrydion cyfrwys a galluog, y rhai a wenwynant fywyd cymdeithas. Y mae gau brophwydi lawer yn myned allan yn y dyddiau hyn; a meddant eisoes gynddrychiolwyr yn ysgolion ac eglwysi ein hoes. Nid oes hyd yn hyn yn ein mysg ni, fel y mae ymysg rhai cenhedloedd, wŷr o athrylith a dysg yn cyfansoddi llyfrau, yn y rhai y mae gwirioneddau byw a heresiau dinystriol yn cael eu cydblethu yn ofalus, ac yn cael eu gosod allan drwy syniadau mor ddyrchafedig a chymhariaethau mor brydferth, nes y mae pobl yn eu darllen gydag awch rhyfeddol; ond y mae coethder anianol a diwylliad annuwiol yn ymledu yn gyflym drwy gymoedd a phentrefydd ein gwlad. Nid ydym ni yn cynnyg yn fynych i bechaduriaid Fara y bywyd wedi cael ei drochi mewn gwenwyn melus; ond y mae "ysbryd y cyfeiliorni" yn ymdaith yn llechwraidd drwy ein broydd yn y blynyddoedd hyn. Ni feddwn eto wyddoniaeth ddigon hyf i gymeryd oddiar Dduw reolaeth ei greadigaeth, na beirniadaeth ddigon dysgedig i ddinystrio y Beibl; ond yr ydym yn dechreu tosturio wrth boblach ddiniwed ag ydynt yn dal i gredu rhai hen athrawiaethau cysegredig. Onid ydym yn byw mewn "amseroedd enbyd?" Priodol fyddai i ni, yn gyson â greddfau goreu Athroniaeth, yr hon sydd mor wrthwynebol i anghrediniaeth ystyfnig ag ydyw i hygoeledd gwancus, brofi ysbrydion ein hoes. Gadawer i ni wrth fwrw ymaith ragfarnau a golygiadau cyfyng ein tadau, barchu y gwirioneddau a ddysgent. Na chladder eu duwinyddiaeth cyn iddi farw.

Os ydyw y sylwadau blaenorol yn gywir, ni ddylid rhyfeddu llawer at y cynydd a wna hyfdra yn ein plith. Dichon na fu erioed yn ein gwlad fwy o wrthwynebiad i bob math o awdurdod nag sydd yn bresennol. Wrth i urddas ac iawnderau personol gael eu pregethu mor fynych yn nghlywedigaeth pobl, tyn llïaws o honynt y casgliad fod pob dyn yr un faint. Wrth gael eu bod i gyd yn gydbwys yn yr etholiad gwladol a chrefyddol, llithrant i gredu eu bod felly ymhob man. Y canlyniad o hyn ydyw, fod rhyddid yn ymddirywio yn aml i benrhyddid, a bod syniadau gwerinol yn ymweithio mewn byd ac eglwys yn nghyfeiriad aflywodraeth. Collwn bob gwylder a pharchedigaeth. Daw ynfydion yn anffaeledig. Dyrchafant eu cyrn, dywedant yn warsyth, a merwinant glustiau llednais y tir à llwon a rhegfeydd. Yn gyffelyb gyda golwg ar fydolrwydd yn ei wahanol ffurfiau; gwesgir fi i feddwl fod awydd am gyfoeth yn cryfhau yn ddirfawr yn ein plith. Yr ydym, gan nad beth am bechodau cnawdol, yn cynyddu mewn huanoldeb a balchder—mewn gwychder allanol a hunan-addoliad mewnol. Daw enill swyddau daearol a safleoedd cymdeithasol yn amcan uchaf bywyd. Yn ol grym y gwyniau hyn, y mae ein hymdrechion am eu gwrthrychau yn llïosogi ac yn angerddoli; ac yr ydym, yn gyfatebol i hyny, yn myned o hyd yn fwy agored i ddefnyddio moddion diraddiol wrth geisio cyrhaedd ein hamcanion. Edrychir ar dwyll manteisiol a chelwydd llwyddianus fel defodau cyfreithlawn. Ystyr ymadrodd prydferth fel ffyddlondeb i gyfeillion, erbyn hyn, ydyw ymwerthiad, ar draws gwirionedd a chyfiawnder, i wasanaeth plaid. Y mae gweniaeth ddeheuig yn myned o hyd yn fwy anrhydeddus. Daw athrod, o dan yr enw o feirniadaeth, yn un o ddyledswyddau cyffredin bywyd. Onid ydyw crefydd ei hun yn cael ei defnyddio i hyrwyddo dyrchafiad personol a buddianau teuluaidd? Dengys y Beibl mai yn y dyfodol y mae y diluw o lygredigaeth; ond y mae meibion Duw yn priodi merched dynion yn awr.

Nodweddir llawer o ddrygioni yr oes hon gan ryw fath o barchusrwydd. Nid ydyw yn diraddio nac yn dinystrio pobl yn ebrwydd. Nid yw cymdeithas anianol yn myned wrth ei gyflawni, yn ddirmygedig yn ei golwg ei hun. Gwna yr un haul i fwystfilod geirwon a rheibus encilio oddiwrth ein haneddau, ac i nadroedd prydferth a gwenwynig chwareu ar ein llwybrau. Ac ymddengys i mi fod hen bechodau budron ein cenedl yn diflanu yn raddol o dan ddylanwad addysg a diwylliad, a bod eu lleoedd yn cael eu meddianu gan rai mwy cymhenllyd ac ysgeler. Ni fyddai yn rhyfedd i ni ddyfod yn fuan, drwy ein manteision presennol, yn rhy wybodus i fod yn lwth, yn rhy gall i feddwi yn aml, ac yn rhy chwaethus i odinebu llawer; gallwn fod mor dwyllodrus, beilchion, a chybyddlyd, ag y mynwn. Dygir y dyn sydd yn troseddu drwy gyfrwng ei gorff yn ddiatreg i waradwydd a chosb; gall enaid, wedi cael ychydig o ymarferiad, wrthryfela yn hir cyn cael ei hun mewn blinderau. Y mae cnawd wrth ymhalogi yn egnïol, yn tori i lawr cyn myned yn hen: deil ysbryd i ymlygru yn dragwyddol. Pechai ein henafiaid lawer yn erbyn dynion a deddfau gwladol; ond y mae hyny wedi dyfod erbyn hyn yn beth peryglus a gwarthus. Yn erbyn y ddeddf foesol ac yn erbyn Duw, yn hytrach, y pechwn ni; ac yr ydym, yn y fuchedd bresennol, yn ddyogel ac anrhydeddus, Ymgiliwn oddiwrth bechodau (Rhuf. i.) paganaidd a diraddiol, ac ymroddwn i gyflawni drygau (2 Tim. iii. 1—5) llednais a Christionogol. Nid ydyw y rhai diweddaf yn tybied ymadawiad â'r Eglwys; oblegid gallwn, er bod yn euog o honynt, feddu "rhith duwioldeb:" golygant yn unig ymadawiad â Duw o fewn yr Eglwys. Ni chadwant bobl o gymundeb crefyddol—cauant hwynt allan o'r Nef. Nid ydynt yn eu gyru i garcharau a gwallgofdai—gyrant hwynt i uffern.

Pa beth a feddwn ar gyfer y sefyllfa hon ar bethau? Pa fodd y gallwn ddal a gwrthweithio llygredigaeth yn y gwahanol agweddau hyn? Diau fod yn natur dyn, yn arbenig mewn gwlad ac oes fel hon, rywfaint, er pobpeth, o ddaioni a goleuni—lawer o syniadau cywir, o dueddiadau rhinweddol, ac o ddymuniadau dyrchafedig. Ym—draidd gwirioneddau dwyfol drwy gof a meddwl, drwy ymadroddion a gweithredoedd, trigolion Cymru. Y fath sefydliad bendigedig yw y Sabboth! Gwasgara ordinhadau yr Efengyl yn ddibaid ddylanwadau grasol a phureiddiol drwy ein cenedl. Ymweithia miliynau o nwyon nefol drwy awyr y ddaear. Ni ddylem, o ganlyniad, ddigaloni. Dichon fod y byd ysbrydol yn nes atom nag yr ydym yn aml yn synied. Addefwn fodolaeth angelion; ond i raddau bychain y sylweddolwn eu bod yn rhodio yn ein mysg ac yn gweini arnom. Yr ydym yn ymarferol yn eu cau i fyny yn y Nef. Os rhydd Pabyddiaeth ormod, oni rydd Protestaniaeth rhy fychan o le iddynt? Ac yr ydym ni yn rhoddi llai o lawer o le iddynt nag a roddid gan ein henafiaid. Prin y lletywn ni angelion yn ein credo chwaithach yn ein tai. A fyddai yn afresymol i ni gredu ein bod yn cael ein cylchynu yn wastadol gan greaduriaid ysbrydol—doeth, caredig, a galluog; ac fod y cyfryw yn ein cynorthwyo yn ddistaw mewn mil o ffyrdd? Os na fyddai, ni ddylem anobeithio am wellhad y byd. Na fydded i ni ildio i genadon uffern hyd nes y deallwn fod preswylwyr y Nef wedi ein gadael. Gall y pethau hyn wneuthur llawer—llawer iawn ar un ammod—drwy un Ysbryd mawr a dwyfol. Gan nad faint o werth a berthyn iddynt, ymddibyna yn hollol ar ei bresenoldeb Ef.

1. Gwelir yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân i wrthweithio cynnydd llygredigaeth, wrth ystyried mai Efe ydyw Ysbryd y gwirionedd yn y datguddiad ac yn yr eglurhad o hono. Trwyddo Ef y trosglwyddwyd y gwirionedd i ddynion, ac Efe sydd ymhob oes yn eu tywys i ddirnadaeth o hono. Felly yn arbenig gyda golwg ar hyn—Efe sydd yn dynoethi drygioni ac yn argyhoeddi y byd o bechod. Yn ei oleuni Ef y canfyddwn ni ysgelerder llygredigaeth. Gall rheswm anianol ddeall yr anianol. Gall hefyd synied am rai o ganlyniadau annuwioldeb—tylodi, gwarth, gwallgofrwydd, gwae; ond nis gall ei adnabod ef ei hun. Nis gall ei ddirnad yn ei arwyddocâd dyfnaf, ac yn ei wrthwynebiad eithaf i Dduw, mwy nag y gall dyn arogli drwy ei glustiau neu glywed drwy ei ffroenau; oblegid yn ysbrydol y bernir y cyfryw bethau. Ysbryd yn unig a ddichon weled a dangos ysbryd. Ysbryd yw diafol, ac ysbrydiaeth yw drygioni; ac mewn goleuni ysbrydol yn unig y gallwn ni eu hadnabod. Y mae y meddwl, yn ol cynnydd ei berchenog mewn llygredigaeth, yn ymdywyllu o hyd; ac un canlyniad o hynny ydyw, fod pechod yn myned yn barhaus yn fwy diniwed yn ei olwg. Dwg yr Ysbryd Glân oddiamgylch gyfnewidiad trwyadl yn natur dyn. Goleua ei feddwl yn y fath fodd nes yr ymddengys pethau iddo mewn lliwiau hollol newyddion. Cawn fod yr hwn sydd ysbrydol yn barnu, neu yn adnabod, pob peth. Daw yn ol ei gynnydd mewn ysbrydolrwydd i weled drygioni yn wastadol yn fwy ysgeler. Yn y cyfeiriad hwn y gorwedd yr eglurhad ar waith duwiolion yn dal i achwyn arnynt eu hunain. Wrth iddynt dyfu mewn purdeb, cryfha llygaid eu meddyliau; ac ymddengys eu pechadurusrwydd ag sydd mewn gwirionedd yn lleihau, iddynt drwy hynny, yn fynych, fel pe byddai yn cynnyddu. Ysbryd yr Arglwydd yn unig all oleuo enaid a dynoethi llygredigaeth yn effeithiol. Ac y mae yn ein gwlad rai pechodau a ddiflanant wrth deimlo eu bod yn cael eu hadnabod, fel y mae lladron yn dianc wrth ddeall eu bod yn cael eu gwylied. Prin y gall ysbrydion mewn cyrff daearol ganfod holl ddaioni na holl ddrygioni unrhyw weithred neu ymddygiad. Pe cawn fenthyg golygon saint perffeithiedig, dichon y gwelem rai arferion a ystyrir yn yr oes hon yn ddiniwed, yn bechodau arswydus. Nid ydym yn gobeithio cael hynny; ond gallwn brofi rhywbeth llawer mwy. Daw dynion, drwy breswyliad yr Ysbryd Glân ynddynt, i edrych ar ymweithiad eu heneidiau eu hunain ac ar ddygyfor cymdeithas oddiallan iddynt drwy lygaid Duw. Galluogir hwynt drwy hynny i ddeall drygioni a llygredigaeth i ryw fesur fel y mae Ef yn eu deall; a thrwy eu hadnabod yn yr ystyr ddofn hono yn unig y gallant eu gwrthwynebu gydag ymroddiad teilwng.

2. Ymddengys yr anghenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân tuagat i ni allu attal cynnydd llygredigaeth, wrth i ni ystyried mai drwyddo Ef yn unig y dysgir ni i ffieiddio llygredigaeth. Ac nis gallwn, heb hynny, gymaint a cheisio na dymuno ei ddarostyngiad. Nis gallwn ymdrechu dinystrio yr hwn, neu yr hyn, sydd yn anwyl genym. Byddai gallu gwneuthur hyny yr un peth a gallu caru a chashau yr un gwrthrych ar unwaith ac yn yr un golygiad. Yr ydym wrth ei adnabod yn cael ein parotoi i gasau drygioni; ond y mae gwneuthur hynny yn drwyadl, ac ymhob ffurf arno, yn gofyn am adnewyddiad pellach. Deuwn i adnabyddiaeth o hono drwy gael ein goleuo; rhaid i ni mewn trefn i allu ei wrthwynebu yn effeithiol, gael i ryw raddau ein sancteiddio. A gwaith Ysbryd yr Arglwydd yn unig yw hyny. Ceidw tlodi ddynion rhag cyflawni pechodau drudion; a thuedda chwaeth naturiol hwynt i beidio ymdrybaeddu mewn rhai budron iawn. Par synwyr greddfol iddynt gilio oddiwrth rai peryglus i gysur a llwyddiant, a dinystriol i iechyd a bywyd; a chymhella dymuniad am glod hwynt i ymgadw oddiwrth rai gwarthus. Ac anadla cydwybod anianol, megys drwy ei chwsg, rai taranau difellt yn erbyn y cyfan. Ond y mae casau a gwrthwynebu drygioni yn ei natur ac yn ei holl agweddau, yn annichonadwy i greadur halogedig. Byddai dysgu y gall ewyllys lygredig ffieiddio llygredigaeth, yn groes i reswm ac Ysgrythyr. Byddai yr un peth ag i ddyn gasau ei gnawd ei hun. Trwy adnewyddiad yr Ysbryd Glân y gallwn ni brofi y digofaint iachus a sefydlog hwnw at bechod a wna ei ddarostwng yn un o amcanion penaf ein hoes.

Efe yn unig a ddichon ddeffro y gydwybod a phuro yr ewyllys drwyddynt; ac y mae wrth wneuthur hynny yn rhoddi cyfeiriad priodol i holl yni, ac yn marweiddio holl gnawdolrwydd a hunanoldeb ein natur. Arllwysa fywyd newydd i enaid hen; ac y mae drwy hynny yn cynnyrchu ynom y chwyldroad mwyaf y tu yma i greu ynom eneidiau newyddion. Gwna ddyn yn ddau—y naill yn gyfansoddedig o dywyllwch, halogrwydd, llid, gwae—y llall o oleuni, ffydd, cariad, sancteiddrwydd; ac y mae drwy borthi y diweddaf à Bara y bywyd yn ei alluogi i orchfygu y cyntaf yn gynt neu hwyrach. Trosglwydda egwyddorion dwyfol i galonau pechadurus; a thry drwy hynny rai o hen daleithiau uffern yn drefedigaethau nefol. Trwy gael fel hyn ein creu o newydd, daw tueddiadau llywodraethol a greddfau dyfnaf ein bod yn drwyadl groes i ddrygioni. Casawn ef, mewn canlyniad, â holl aidd, a gwrthwynebwn ef â holl rym, ein natur. Daw gogoneddu Duw drwy ddarostwng llygredigaeth, yn amcan uchaf ein bywyd. Gallai dynion grasol, yn gyson â hyn, wneyd llawer tuag at buro cymdeithas. Dylent wneuthur mwy na mwy yn Nghymru, lle y mae nifer y rhai sydd yn proffesu duwioldeb mor liosog. Gorchwyl hawdd fyddai iddynt drwy gydfyw a chydweithio allan egwyddorion Cristionogaeth, gywilyddio llïaws o lygredigaethau allan o honi.

3. Gwelir yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glân tuagat i ni allu darostwng drygioni, wrth ystyried mai Efe yn unig a ddichon arwain a chyfarwyddo yn anffaeledig, ac mai Efe yn unig all attal dirywiad ac annuwioldeb yn effeithiol. Medd graffder anfeidrol i ragweled temtasiynau a pheryglon dyfodol, ac agweddau newyddion ar gyfeiliornad a phechod, a doethineb berffaith (Esa. xi. 2) i ragdrefnu y moddion mwyaf addas i ddwyn oddi—amgylch ddinystr y cyfan. Y mae yn parotoi credinwyr yn ddiarwybod iddynt eu hunain ar gyfer gwaith ac amgylchiadau arbenig eu hoes. Effaith ei bresenoldeb Ef yw cynlluniau doeth a gweithgarwch llwyddianus. Gall Ef rwystro i dueddiadau pechadurus ymffurfio yn ymddygiadau pechadurus, a dysgu dynion i ladd aspiaid gwenwynig mewn wyau prydferth. Meddylier hefyd gymaint yw ein hangen am dano mewn cyfeiriad fel hyn:—Gwelir ymhob cenedlaeth lawer o alluoedd a symudiadau amddifaid o gymeriad pendant; nid ydynt ynddynt eu hunain yn hollol ddaionus nac yn hollol ddrygionus, ac ymddibyna eu gwerth ar y defnydd a wneir o honynt. Medd personau a chymdeithas yn feunyddiol adnoddau agored i ddyfod yn fendigedig neu yn felldigedig. Cawn esiampl arbenig o hyn yn nwyfiant ac ysbrydiaeth ieuenctyd gwlad; gallant ymddirywio yn bechodau ofnadwy, a gallant drwy ddysgyblaeth briodol ateb y dybenion ardderchocaf. Ac Ysbryd yr Arglwydd yn unig a ddichon buro ac achub y cyfryw nerthoedd. Gall ddysgu arweinwyr crefyddol i droi nwydau yn weision hyfforddus i reswm a chydwybod, i newid teimlad dynol yn eiddigedd sanctaidd, i agor o flaen brwdfrydedd lwybrau o ddefnyddioldeb anrhydeddus, ac i gyfarwyddo grym anianyddol ac yni deallol i ryfela yn fuddugol dros rinwedd a chrefydd. Byddai yn hawdd lliosogi esiamplau, megys talent a golud oes, ac Efe yn unig a ddichon feddiannu a chysegru y fath bethau i amcanion teilwng.

Gallwn gymeryd golwg eangach ar hyn—gwelir ysbrydiaeth ddyeithr weithiau yn meddiannu cenedl ac yn cynyrchu ynddi ymweithiad mawr, ac ni fydd yn hawdd mynegi am ysbaid o ba le y bydd yn dyfod, nac i ba le y bydd yn myned. Ysgoga hi o dan ei ddylanwad bron fel un gwr, a hynny am enyd yn ddiarwybod iddi ei hun, mewn rhyw un cyfeiriad. Ac y mae gallu deall yr ysbrydiaeth a chyfarwyddo y genedl, o dan y fath amgylchiadau, yn bwysig dros ben. Yr Ysbryd Glân yn unig a ddichon wneuthur hynny. Y mae, yn neillduol ar brydiau, yn ymdreiddio drwy yr Eglwys yn ddoethineb berffaith ac yn ddylanwad bendigedig. Galluoga hi i ddarllen arwyddion yr amseroedd, ac i weled nodweddion y dyfodol yn mreuddwydion y presenol. Rhydd iddi lygaid i adnabod ysbrydion cenedloedd, a chlustiau i glywed dyheadau dyfnaf cenedlaethau. Cyfarwydda hi i ddeall sibrydion bloesg cymdeithas a murmuron arddunol moroedd bywyd. Bendithia hi â synwyr i ddeongli lleisiau rhyfeddol Amser, ac awgrymiadau dyrchafedig awelon y Nef wrth iddynt ymsymud drwy goedwigoedd y ddaear. Meddylier yn ngoleuni y syniadau blaenorol am yr hyn a elwir yn Ddeffroad Cenedlaethol neu Gymru Fydd; credaf y buasai ymweliad newydd oddiwrth yr Ysbryd Glân yn arwain y Cyfundeb i ymdrechu yn fwy egnïol a doeth nag y gwnaeth hyd yma, i hyfforddi a chrefyddoli yr ymweithiad hwnw. Gallwn ofyn pa beth ydyw, ac at ba beth yr ymgyfeiria; ond nid ydyw yn hawdd ateb. Gan nad beth ydyw, a chan nad i ba le y mae yn myned, y mae yn rhaid i ni gydnabod ei hanfodiad; ac onid ydyw ei fodolaeth yn rheswm digonol dros i ni dalu sylw iddo? Gallwn fod yn sicr na bydd i waith ambell i ddyn, na fedd ddigon o feddwl i weled unrhyw ragoriaeth ynddo, na digon o galon i allu cydymdeimlo âg ef, na digon o yni i allu gobeithio ennill ei wobrwyon, yn chwerthin am ei ben, beri iddo ymgiliaw o fod. Ni hoffwn i hanesiaeth ailadrodd ei hun gyda golwg arno. Nid oes feallai achos i ryfeddu na buasai Methodistiaeth bur a llem blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf a hanner flaenaf hon, wedi canfod yn y cynulliadau chwibwrn a ymgyfarfyddent, weithiau mewn llysdy ac weithiau mewn tafarndy, annelwig ddefnydd yr Eisteddfod. Gweddus er hynny ydyw ym—ofidio oblegid na wnaeth—oblegid na welodd yn yr ymddeffroad anwadal, pensyfrdan, hanner llenyddol a hanner gwallgof hwnw, ag oedd ar unwaith yn sobr ac yn feddw, y bywyd sydd erbyn hyn wedi meddiannu y genedl. Canys y mae yr hen Sefydliad, mewn canlyniad, wedi ymledu ac ymgryfhau o dan ddirmyg a gwg y Cyfundeb. Pe buasai mwy o gyfathrach caruaidd wedi bod rhyngddynt, hwyrach y buasai pob un o honynt yn well heddyw—yr Eisteddfod yn fwy goleuedig a phur a Methodistiaeth yn fwy Cymreig a Chenedlaethol. A fydd a fu?

4. Gwelir angen yr Eglwys am yr Ysbryd Glân tuag at iddi allu darostwng llygredigaeth, wrth ystyried ei fod yn Ysbryd nerth. Hynny yn anad dim arall ydyw. Trosglwydda y gair yn gyntaf ac yn benaf y syniad o rym ac effeithioldeb. Nis gallwn fesur cryfder yr ysbryd lleiaf a gwanaf mewn bod. Trwy hynny o ysbryd sydd ynddo y gwna dyn ei holl bethau ardderchog. Llenwir ni yn fynych â syndod hyfryd yn yr olwg ar ysbrydiaeth anifeilaidd yn gwneyd ac yn dal, yn cyflawni ac yn goddef. Math o ysbrydoliaeth feddyliol ydyw athrylith, ac y mae ei chynnyrchion hi ymhlith trysorau gwerthfawrocaf ein rhyw. Ysbrydoliaeth calon sanctaidd sydd, drwy wyliadwriaethau caruaidd ac ymdrechion cuddiedig, drwy ym—wadiad tawel ac ymaberthiad dystaw, wedi goleuo a gogoneddu rhywfaint ar hanes y ddaear. Ac os gall ysbryd bach, mwy neu lai llygredig, ac yn gweithredu drwy gyfrwng cnawd afiach, gyflawni gorchestion prydferth ac arddunol, beth nad allai ysbryd mawr a phur ei gyflawni! Cawn i angel ladd mewn un noson bump a phedwar ugain a chant o filoedd o Assyriaid. Ac os gallodd creadur mor lawn o gariad ddinystrio cynnifer mewn amser mor fyr, y fath nifer o gymwynasau allasai weinyddu, ac o fendithion allasai gludo i breswylwyr helbulus ein byd! Ond pa beth ydyw dyn neu gerub mewn cymhariaeth i Ysbryd Duw! Nid ydyw enaid yn ddim mwy wrtho Ef na chwa grwydredig wrth awyr annherfynol. Nid ydyw seraph yn ddim mwy wrtho na chwmwl llwyd yn ymyl môr di-lan a di-waelodion. Gallant hwy wneyd rhywbeth, a llawer o fewn terfynau cyfyng; ond nid oes unrhyw waith, o fewn unrhyw gylch, nad all Efe ei gyflawni.

Medd yr Ysbryd Glân allu diderfyn i ddinystrio yn gystal ag i adeiladu. Gallai ddarostwng drygioni a gwarthruddo aflendid, drwy achub y bobl sydd yn ddarostyngedig iddynt. Byddai yn hawdd iddo, wrth ymweithio drwy gymdeithas, sobri meddwon a phuro godinebwyr gwlad mewn mis. Nis gallai balchder cenedl a thwyll oes oddef ei ddylanwad mwy nag y gallai barug ddal pelydrau yr haul. Trwyddo Ef y galwyd y bydoedd i fod; Efe a droes y tryblith boreuol yn baradwys; ei anadl Ef yw bywyd y ddaear. A thra yr ydym ni, ynom ein hunain, yn ddiddym iawn, gallwn drwy gael ein defnyddio ganddo Ef gyflawni rhyfeddodau. Gallai ddinystrio pechadurusrwydd, ymhellach, drwy sancteiddio dynion achubedig. Byddai i fesur helaethach o lawer o hono nag a fwynhawn yn bresenol, wasgaru drwom oleuni digon cryf a thanbaid, i gywilyddio ac i ddeifio bydolrwydd a hunanoldeb credinwyr i ffwrdd. Newynai genfigen yr Eglwys o fod. Cryfhai fywyd ysbrydol y genedl nes ei galluogi i fwrw annuwioldeb a llygredigaeth ymaith. O dan y fath amgylchiadau, gyda mwyafrif mawr trigolion ein gwlad yn dduwiol, ac yn cynnyddu yn gyflym mewn goleuni, cariad, a sancteiddrwydd, gwesgid y gweddill o honynt i fyw yn rhesymol a moesol. Gorfodid troseddwyr rhyfygus ac oferwyr halogedig i ymadael o gymdeithas wareiddiedig. Deuai pechodau gwarthus yn annyoddefol—yn annichonadwy o fewn ein gororau. Mor werthfawr fyddai ymweliad oddiwrth yr Eneiniad Dwyfol! Cariai rhieni drwy gynghorion, gweddïau ac esiamplau, ddylanwad achubol ar eu plant. Deuai yr Ysgol Sabbothol yn sefydliad mwy bendigedig nag y bu erioed. Dychwelai hen bregethu gogoneddus Cymru. Ymledai addysg ostyngedig a diwylliad grasol drwy y genedl. Cofiwn, os ydyw y gelyn yn dyfod i fewn fel afon, y gall Ysbryd yr Arglwydd ei ymlid ef ymaith (Esa. lix. 19). Ystyriwn, yn y meddiant o drefniadau rhagorol, fod yn rhaid i ni gael Ysbryd y peth byw yn yr olwynion (Ezec. i.). Pa fodd y gwrthweithiwn lygredig—aeth ein hoes? "Nid drwy lu, ac nid drwy nerth, ond drwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd." "O anadl, tyred oddiwrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw!" Gwel Ezec. xxxvii. 1-10. "Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; i'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol paradwys Duw."

YSBRYD BYWYD.

I.
Fel bu yn Anian gyffroadau mawrion,
Y rhai newidient hanes bydoedd gloewon,
Bu hefyd yn llywodraeth foesol Duw—
Mor lawn o nerth, doethineb, cariad byw,—
Drychineb ar drychineb—uthr, ofnadwy,
Rhai pell, boreuol, uchel. anchwiliadwy,
Rhai diweddarach—llawn mor anirnadwy.
Daeth pechod iddi—i greadigaeth sanctaidd,
A throes wynfaoedd yn ddiffaethwch ffiaidd.
Ymsuddodd myrddiwn o blanedau gwridog
I gaddug tew gerllaw eu Haul mawreddog,
Pan ymddiraddiodd engyl gwynfydedig,
Dan wên eu Crewr, yn gythreuliaid eiddig.
Dan effaith gwenwyn grymus llygredigaeth,
Ymdrawsylweddodd cariad yn elyniaeth,
A moliant pur yn gabledd ac yn alaeth,
Fel pe dirywiai cathlau per yr eos.
Yn ysgrechfeydd dallhuan yn y cyfnos.

Drygioni ymdywalltodd ar y ddaear,
A thaenodd felldith dros ei swynion hygar;
Ymdreiddiodd yn gynddaredd drwy ei phobloedd,
A hyrddiodd hi ymhell oddiwrth y nefoedd.
Efe achosodd orthrwm a thrallodion;
Efe a greodd uffern i ysbrydion;
A chyrff yr oesoedd yr i feddau dyfnion.
II.
Heblaw y diafol, mae Un arall yma—
Yn llygad i ddynoliaeth ar ei gyrfa,—
Yr Ysbryd ymsymudai ar y dyfroedd
Boreuol, gan dawelu eu tymhestloedd,

Yr Hwn newidiodd ofnadwyaeth tryblith
Yn Eden lawn o dlysni ac o fendith.
Efe yn ddyfal hauai hâd gwirionedd
A bywyd sanctaidd, cariad, a thangnefedd,
Yn nhywod Amser ac yn llaid cenhedloedd,
Yn nrain teyrnasoedd ac yn nhân rhyfeloedd.
Meithrinai flagur bendigedig rhinwedd
Yn nwyon uffern ac yn haint anwiredd,—
Yng ngwyll Paganiaeth ac yng ngwawl Athroniaeth,—
Yng nghroch gorwyntoedd deifiol erledigaeth,—
Ac ym mhydewau dyfnion llygredigaeth.
Cyfrannai rin i galon grin dynoliaeth,
A galwai ser i wybren brudd Hanesiaeth.

Yn raddol ymsiriolai corsydd bywyd;
Yr oesoedd deithient yng nghyfeiriad gwynfyd;
Cenhedloedd ddeuent yn gynhesach beunydd,
A gwledydd gydymnesent at eu gilydd.
Mae seirff a llewod yn ymgilio weithian,
A derfydd pob anialwch uthr yn fuan;
Daw dynion yn rhesymol ac ysprydol,
A daw y ddaear eilwaith yn wynfaol.

III.
Ymagor ar ein planed drallodedig,
O dan a thrwy ddylanwad bendigedig
Yr Ysbryd Glân, mae cyfnod gwynfydedig.
Caiff Duw mewn cwm a dinas ei foliannu,
A Seion gan bob llwyth ei hanrhydeddu;
Bydd ymherawdwyr iddi'n noddwyr cryfion,
A breninesau yn famaethod mwynion;
Hi sugna laeth cenhedloedd dirifedi,
A chyfoeth cyfandiroedd ddygir iddi.
Diwylliad gymer le anwariaeth greulon,
A Rheswm wna o wyniau weision tirion;
Brawdgarwch drwytha fywyd y cenhedloedd,
A phurdeb draidd drwy hanes y teyrnasoedd;
Y nefoedd wlawiant ar y byd gyfiawnder,
A chariad dardd o'r ddaear mewn cyflawnder.


Dan oruchwyliaeth bêr yr Ysbryd grasol,
Diddymir melldith pechod dyn yn hollol;
Adferir Anian i'w gogoniant gwreiddiol,—
Gostyngir ei mynyddoedd geirwon, llymion;
Ei chorsydd lleidiog wneir yn faesydd gwenith,
A rhosydd grugog fydd yn erddi bendith.
Ymgyll corwyntoedd mewn awelon balmaidd,
A daw y môr drachefn yn baradwysaidd;
Troir oerni Amser yn gynhesrwydd llachar,
A thlysni tirf ymdaena dros y ddaear.
Mor hawdd eu trin ag ychain gwâr fydd llewod;
Bydd eirth yn llariaidd megys lloi a mynod;
Arweinia bachgen yr o fleiddiaid graenus,
A phlant chwareuant â gwiberod nwyfus.

Caethiwed a helbulon dynol ryw
I gyd ymgollant yn niddanwch Duw;
Ni bydd cystuddiau, brad na newyn, gormes
Nac ofn rhyfeloedd, mwyach yn eu hanes;
Bwytânt o ffrwythau y gwinllanoedd blannant,
A thrigant yn y tai a adeiladant;
Cyfrifant eu blynyddoedd didymhestloedd
Fel derw, a'u hiliogaeth wrth y cannoedd.
Diddymir y gwahaniaeth anfesurol
Sydd weithian rhwng amserol a thragwyddol;
Y byd, yn ail i drefedigaeth nefol,
Drwy rinwedd Croes a bywyd anherfynol
Yr Iesu, drwy ei Ysbryd hollbresennol,
Mewn hedd a golud a dedwyddwch orffwys
Drachefn, dan wenau dwyfol, yn baradwys;
A thrwyddo eilwaith, dynion ac angylion.
A gydymrodiant megys hen gyfeillion.


Y DYN NATURIOL, MOESOL, AC YSBRYDOL.

I. YMDDENGYS mai un o ddeddfau mawrion a chyffredinol llywodraeth Duw ydyw, fod y llai perffaith yn blaenori y mwy perffaith: "Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol." Cawn esiamplau o honi—esiamplau o gynnydd ac ymddyrchafiad, ymhob cyfeiriad. Yr oedd defnydd yn blaenori bywyd yn y greadigaeth; ac ymddangosai ynddi ffurffau is o flaen ffurfiau uwch o fywyd. Yr un modd mewn Rhagluniaeth; y mae hanesiaeth ein byd yn dyfod o gyfnod i gyfnod yn ddysgleiriach, ddysgleiriach. Dilynir bar—bariaeth gan wareiddiad, a gorthrwm a thrueni gan ryddid a dedwyddwch. Y mae prif ddynion yr oes hon fel gwladweinwyr, athronwyr, beirdd, &c., wedi hanu o anwariaid. Onid yw pob goruchwyliaeth ar yr Eglwys yn rhagori—yn rhagori mewn dadguddiad ac ysbrydolrwydd ar yr un flaenorol? Yn gyffelyb gyda golwg ar ddyn, ymddengys yr anifail ynddo o flaen y person. Y mae yn cychwyn ar ei daith gyda chorff perffaith; yn raddol, os deuant byth, y daw ei gynneddfau deallol ac ysbrydol i weithredu yn berffaith. Rhaid ei fod yn flaenorol i bob addysg a deffroad, a chyn meddu unrhyw egwyddorion neu gymeriad moesol, yn feddianol ar ddynoliaeth. Mae yn hynach fel creadur nag ydyw fel sant. O dan bob cynnydd a dadblygiad, ac yn sail i bob ymddyrchafiad ac urddas, y mae ei natur—nid corff nac enaid, ond natur gynnwysedig o gorff ac enaid, ac unrhyw elfen arall a ddichon fod yn perthyn yn hanfodol i ni. Y gwreiddiol, o ganlyniad, yw y dyn naturiol; yr hyn ydyw efe yn flaenorol i, ac yn annibynol ar esiampl, addysg, a chrefydd; yr hyn y gwnaeth Duw ac y gwnaeth pechod ef.

Ymddengys fod y natur hon ag sydd yn eiddo i bob dyn, yn un neillduol ymhob dyn. Er mai yr un ddynoliaeth sydd gan ac yn mhawb, y mae hono yn amrywioi fesur mwy neu lai yn mhawb. Canfyddir neillduolion llïosog yn nghyrff dynion; ac y mae y rhai hynny yn gysgodau o neillduolion pwysig yn eu heneidiau. Cawn fod hyn yn wir am genedloedd; pe cydmharem y pedair cenedl a breswyliant yr Ynysoedd Prydeinig, y rhai ydynt i raddau helaeth yn byw yn yr un hinsawdd ac o dan yr un cyfreithiau, ac felly mewn amgylchiadau ag y buasai yn naturiol dysgwyl iddynt fod ar ddelw eu gilydd, gwelem fod pob un ohonynt yn meddu ac yn amlygu nodweddion arbenig a gwahaniaethol. Ac mor wir ac fod pob cenedl yn wahanol i bob un arall, y mae pob dyn ymhob cenedl yn wahanol i bob un arall ynddi. Dysgir ni na wnaeth Duw ddau flodeuyn, na dau haul, na dau ddim, yn hollol yr un fath; a thraidd yr un amrywiaeth drwy ddynolryw i gyd. Gwahaniaetha pob un o honynt mewn meddwl, teimlad, gallu, tuedd—mewn rhywbeth, oddiwrth bob un arall. Meddant ddigon o debygolrwydd i beri fod pob un o honynt yn ddyn, a digon o wahaniaeth i beri fod pob un o honynt yn ddyn neillduol. Gellir dywedyd am bob un a enir—ei fod yn ddyn newydd, ac am bob un a gleddir na bu erioed ac na bydd byth ei fath. Parhawn hefyd yn gyfryw rai; nis gallwn ddinystrio ein neillduolion hanfodol. Gallwn newid a gwella llawer arnom ein hunain, fel y gallwn gyfoethogi gweryd tylawd ein bro enedigol; yr un pryd, ar ol i ddiwylliad a gras wneyd eu goreu, erys gwahaniaeth amlwg rhwng dynoliaeth salw ac ardderchog. Nis gellir dileu hwnw yn y byd hwn o leiaf—mwy nag y gellir gwneyd llechweddau rhewllyd yr Alps mor ffrwythlawn a dyffrynoedd breision Italy. Cyfarfyddwn o herwydd hynny, yn fynych, â dyn annuwiol caredig a ffyddlawn, ac â chredadyn brwnt a diymddiried.

Tardd oddiar neillduolion ein natur rai canlyniadau lled bwysig. Crybwyllwn ddau:—(1) Fod pob dyn i raddau mwy neu lai yn anadnabyddus i bob dyn arall. Ymddengys mai yn ol mesur eu tebygolrwydd y gall dynolryw adnabod a deall eu gilydd; a chan eu bod i gyd yn gwahaniaethu rhyw gymaint oddiwrth eu gilydd, rhaid fod rhywfaint o bellder a dyeithrwch rhwng pob un a phob un arall o honynt. Pa fodd y gallwn ddirnad teimladau ac amcanion na buont erioed yn ein heneidiau! Y mae agendor, gul neu lydan, rhwng y ddau gyfaill cywiraf mewn bod. Nis gall y naill weled pob ogof oer a thywyll, na phob mynydd uchel a heulog, sy neu fu yn mhrofiad y llall. Gall amgylchiadau allanol dau gymydog fod yr un, a bod hanes eu heneidiau yn yr amgylchiadau hyny, oblegid y gwahaniaeth anianyddol a moesol sydd rhyngddynt, yn gwbl amddifad o debygolrwydd. Ymddengys fod pob un o honom i ryw raddau yn ddyn unig ar y ddaear, a bod ei lwybr drwy y byd yn un disathr: "Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun; a'r dyeithr ni bydd gyfranog o'i llawenydd." Rhaid, gan hyny, fod hanesyddiaeth gyflawn a pherffaith yn beth annichonadwy.

Canlyniad arall (2) sydd yn tarddu oddiar neillduolion ein natur yw, fod yr un temtasiynau yn meddu mwy o ddylanwad ar rai dynion nag ar eraill. Gwyddom ein bod yn fwy agored i syrthio i rai pechodau nag eraill. Cyflawnir yr un dyledswyddau gan rai gyda rhwyddineb, a chan eraill gydag anhawsder. Er fod drygioni, ar un golygiad, yr un peth ymhawb, y mae ar olygiad arall yn amrywio ymhob un, ac yn amrywio ymhob un yn ol nodweddion gwreiddiol cyfansoddiad y cyfryw un. Cymer ei agweddau neillduol oddiwrth neillduolion y natur y trig ynddi. Nid ydym yn gollwng dros gof fod yr amgylchiadau y dygir pobl i fyny ynddynt yn effeithio ar ffurf eu hannuwioldeb; ond y mae dylanwadau dyfnach a boreuach yn bod—eu tueddiadau cynhenid ac arbenig hwy eu hunain. Onid oes ymhob dyn ogwydd greddfol, nid yn unig at bechod, ond at rhyw bechod neillduol? Os felly, cyfreithlawn yw casglu fod yr un drwg, neu yr un rhinwedd, yn fwy o ddrwg neu o rinwedd mewn rhai nag eraill. Os yw, priodol fyddai ystyried hynny i raddau helaethach nag y gwneir yn bresenol yn ein llysoedd gwladol ac eglwysig. Credwn fod geirwiredd a sobrwydd yn bethau mor naturiol a hawdd i rai dynion, fel mai prin y maent yn rhinweddau ynddynt; tra y maent, oblegid eu bod mor anhawdd iddynt, yn rhinweddau mawrion mewn eraill. Rhaid fod byd o ddrygioni yn y cybydd a luniwyd yn greadur rhyddfrydig a haelionus. Os ydyw y marsiandwr Ilwyddiannus a chyfoethog mor ostyngedig a gweithiwr helbulus, y mae y cyntaf yn well nag yw yr olaf. Byddai amlygiad o greulondeb a dialedd mewn dyn ag oedd wrth natur yn dyner a charuaidd, yn dystiolaeth o ddirywiad a phechadurusrwydd mawr; a byddai arwyddion bychain o dosturi a chymwynasgarwch mewn rhywun a anwyd yn arth, yn brawf diammheuol o ras.

II. Defnyddir y gair moesol ar yr achlysur hwn mewn ystyr gyfyngach nag y gwneir weithiau, ac mewn ystyr ag sydd yn caniatau i ni ofyn, Ymha bethau y mae y dyn moesol yn gwahaniaethu oddiwrth y naturiol ac oddiwrth yr ysbrydol? Gallwn, cyn ymdrechu ateb, sylwi nad yw y gosodiad fod dyn yn greadur moesol yn cyfleu yn hollol yr un syniad, a bod dyn—rhywun neillduol yn ddyn moesol. Y gwirionedd a ddysgir drwy y cyntaf ydyw, fod y natur ddynol yn cynnwys neu yn meddu cynneddfau moesol: y ffaith a hysbysir drwy yr olaf yw, fod rhyw berson adnabyddus i ni yn byw dan lywodraeth egwyddorion moesol. Ond y mae rhagor yn y golygiad diweddaf rhwng moesol a moesol. Golygir wrtho weithiau ddyn yn cadw deddf ei wlad, ac yn ymddwyn yn gyson à rheolau y gymdeithas y perthyna iddi. Cyhyd ag y gwna hynny—ag yr ymddyga yn ol cyfreithiau y byd, bydd, gan nad pa mor fynych y trosedda gyfreithiau y Nef, yn ddyn moesol. Os yw yn dyfod i fyny â safon dynion, afreidiol yw ymofyn pa un a yw, ai nad yw, yn gymeradwy yn ngolwg Duw. Edrychir ar foesoldeb fel ymarweddiad didramgwydd, ac nid fel uniondeb calon; fel cydymffurfiad â gosodiadau daearol, ac nid fel ufudd-dod i orchymynion tragwyddol. Sylfaenir ymddiriedaeth a pharch ar yr allanol ac nid ar y mewnol. Gan nad beth ydyw ansawdd meddyliau, teimladau ac amcanion, unrhyw un, y mae, os yw ei weithredoedd yn gyfreithlawn a gweddaidd, uwchlaw beirniadaeth. Gall ei galon fod yn llawn o dwyll, cen figen, creulondeb, neu lygredigaeth; ond cyhyd ag na bo yn athrodwr neu orthrymwr, yn lleidr neu odinebwr, cyhoeddus, bydd yn gymeriad anrhydeddus. Os yw ei gorff yn ymagweddu yn briodol, nid yw o gwbl yn bwysig pa beth yw hanes ei enaid.

Adwaenom well dyn moesol na hwn; nid amgen, yr hwn sydd yn awyddus i wella ei hun yn fewnol ac yn allanol; yr hwn sydd yn ychwanegol at wylied ar ei ymddygiadau, yn diwyllio ei feddwl, yn amddiffyn unrhyw argraffiadau daionus a wneir ar ei enaid, ac yn ceisio troi tueddiadau goreu ei natur yn egwyddorion grymus ac yn ddeddfau sefydlog. Y mae drwy ffurfio arferion rhinweddol a gwneyd daioni, yn dysgwyl dyfod yn dda; ac y mae yn well nag y buasai heb yr ymdrechion hyn. Os nad yw ei galon yn baradwys, nid ydyw chwaith yn anialwch; os nad yw ei llewod wedi trengu, y maent yn ymguddio yn eu llochesau; ac y mae rhai llysiau iraidd, y rhai a gynyrchant flodau tlysion a ffrwythau peraidd, yn tyfu ynddi. Canfyddir yn natur y cyfryw ddyn moesol fesur o drefn. Y mae yr îs o dan reolaeth yr uwch, ac y mae y gwell yn teyrnasu ar y gwaeth ynddi. Cawn, er esiampl, fod y corff ynddi dan arglwyddiaeth yr enaid; y mae y person, o ganlyniad, yn rhydd oddiwrth ddiogi, glythineb, meddwdod, godineb. Medd y cyfryw ddyn hefyd ddigon o nerth a goleuni i ddwyn nwydau a theimladau yr enaid ei hun o dan lywodraeth deall a rheswm. Rhaid, gan hynny, ei fod uwchlaw y ffurfiau gwaethaf o lid a gwylltineb, o ryfyg a llwfrdra, a bod ei ysbryd yn mwynhau llawer o ryddid a thawelwch. Nid ydyw yn amddifad o gydwybodolrwydd ac anrhydedd; ac nid yw o herwydd hynny yn euog o dwyll a chelwydd, o anghyfiawnder a thrais gwaradwyddus. Perthyn iddo gymaint o serchawgrwydd a chymwynasgarwch, fel y mae yn ddieithr i genfigen, creulondeb, a dialedd, yn eu hagweddau mwyaf eithafol. Cawn fel hyn ei fod yn meddu mesur o lywodraeth arno ei hun, a bod gwahanol gynneddfau a theimladau ei natur yn cymedroli eu gilydd, ac yn cydymddangos mewn cydbwysedd gweddus yn ei fywyd. Nid yw yn bwhwman o begwn i begwn. Nid yw heddyw yn fynydd tanllyd, ac yfory yn ynys rewedig. Y mae hinsawdd ei enaid ar y cyfan yn dymherus a hyfryd. Ceir olyniad gweddol reolaidd o nos a dydd, ac o haf a gauaf, ynddo.

Ymddengys oddiwrth hyn mai y naturiol ydyw sylfaen y cymeriad, ac mai adeiladaeth ar y sylfaen hono yw y moesol. Y raw material yw y blaenaf; yr unrhyw ddefnydd wedi cael ei gaboli i ffurf brydferth yw yr olaf. Derbyniwn y cyntaf ar unwaith yn ein creadigaeth; y mae y diweddaf yn ganlyniad oes o feddwl, o deimlo, a gweithredu. Tyfiant—dadblygiad drwy feithriniad gofalus oddiar y naill yw y llall. Cynnyrch y creadur, o gan—lyniad, yw moesoldeb. Y gwr rhinweddol ei hun sydd, drwy gynorthwy gwahanol ddysgawdwyr a defnyddiad priodol o ddylanwadau allanol, yn ffurfio ei hun. Home-made article yw y dyn moesol. Efe ei hun sydd o ddefnyddiau naturiol yn gwneyd ei hun.

Rhaid, gan hynny, nad oes ynddo ddim uwch nag ef ei hun—dim (Ioan iii. 6) ysbrydol a dwyfol. Gan ei fod o ran ei nodweddiad yn tarddu oddiar y dynol, rhaid ei fod yn cyfranogi o ddiffygion a llygredigaeth y dynol. Caiff, er hynny, yn yr olwg ar unrhyw hawddgarwch a ddichon berthyn iddo, orfoledd ynddo ei hun. Gall wrth fwynhau perarogl ei gymeriad ddywedyd, "I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwnaethum ef."

Os ydyw y sylwadau blaenorol yn gywir, gwelir fod ein dyn moesol ni yn arwyddocâu yr un nodweddiad a dyn anianol y Testament Newydd. Saif yr olaf am air a ffurfiodd Aristotle i osod allan bleserau y meddwl yn gyferbyniol i bleserau y corff. Eneidiol fyddai y cyfieithiad mwyaf llythyrenol o hono. Ymlithrodd yn fuan i gyfleu y syniad o ddyn yn byw dan lywodraeth yr enaid mewn cyferbyniad i un yn byw dan lywodraeth y corff; a daeth yn raddol i olygu un goleuedig a rhinweddol y dyn goreu y gwyddai y Groegiaid am dano. A ydym ni yn adnabod ei amgenach? Gallwn sylwi mewn atebiad fod rhagoriaeth Cristionogaeth ar baganiaeth, ac ysbrydoliaeth ar athroniaeth, yn cael ei awgrymu drwy yr un gair hwn: yr ydym ni yn adnabod yr ysbrydol. Cyflwynir ger ein bron yn y Beibl gymeriad sydd, nid yn unig yn well, ond un sydd yn well o gymaint, fel y mae yr anianol—goreugwr paganiaeth yn ddyn drygionus yn ei ymyl—un sydd gymaint yn burach ac uwch, fel y mae y moesol—pendefig athroniaeth—yn ddynsawd dirmygus yn ei wyddfod. Try prydferthwch y dynol yn wrthuni yn llewyrch y dwyfol.

III. Y rhai ysbrydol ydyw un o enwau y Testament Newydd ar y credinwyr; a phrin y meddant o gwbl enw anrhydeddusach na hwn. Derbyniant ef oddiwrth eu natur oddiwrth eu natur eu hunain o dan adnewyddiad yr Ysbryd Glân; ac y mae yn awgrymu pob peth sydd yn bur a dyrchafedig. Rhaid eu bod yn cydnabod Duwdod y Gwaredwr cyn y gallasent fod yn Gristionogion. O herwydd eu bod o dan addysg yr Athraw ac yn dilyn yr Athraw, y gelwir hwy yn ddisgyblion. Dysgeidiaeth y titl o ffyddloniaid ydyw, eu bod yn credu yn yr anweledig, y tragwyddol, y Dwyfol, ac yn ymagweddu i raddau mwy neu lai yn ol eu cred. Meddant fel saint fesur o burdeb, ac amlygant rywfaint o ymgysegriad. Ond rhaid iddynt, mewn trefn i fod yn rhai ysbrydol, yn ychwanegol at gydsynio â dysgeidiaeth yr Ysgrythyrau am yr Arglwydd Iesu, fod mewn undeb âg Ef—fod Crist ynddynt hwy, a hwythau yn Nghrist. Y mae y rhai a deilyngant yr enw hwn yn gyfranogion o'r Ysbryd Glân," ac y maent yn byw, yn symud, ac yn bod o dan ei arweiniad. Cred eraill yn modolaeth sefyllfa ddyfodol; meddant hwy synwyrau i weled yr anweledig, i adnabod sylweddau tragwyddol, ac i ddal cymundeb â Duw ei hun. Profant, er eu bod yn y cnawd, raddau o ryddid oddiwrth nwydau cnawdol ac oddiwrth amcanion anianol; ac y maent, er eu bod ar y ddaear, yn byw uwchlaw y ddaear: "Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd."

Yr ysbrydol—y moesol—y naturiol: pa berthynas sydd rhwng y pethau hyn mewn dyn? Onid hyn—fod y cyntaf yn tarddu oddiar y ddau ddiweddaf? Os yw y moesol yn tyfu oddiar y naturiol, paham nad allwn ystyried mai dadblygiad pellach—mai ffrwyth addfetach ac uwch oddiar yr un gwreiddyn, yw yr ysbrydol? Ai nid bywyd cynenid y pren wedi troi yn afal pêr ydyw ef? Tuedd yr oes hon ydyw rhoddi atebion cadarnhaol i holiadau fel hyn—ydyw dal fod yr îs, neu y llai perffaith, yn cynnyrchu, yn gystal ag yn blaenori, yr uwch, neu y mwy perffaith; ac felly fod yr ysbrydol yn ymwreiddio yn ac yn tarddu oddiar yr anianol. Caiff dyn ei hun i ddechreu o dan ddylanwad ei gorff, yna dan arglwyddiaeth ei enaid, ac wedi hyny dan lywodraeth ei ysbryd. Y mae moesoldeb, o ganlyniad, yn fath o dir Beulah rhwng daearoldeb y naturiol a nefoldeb yr ysbrydol. Gwesgir ni gan athroniaeth ac Ysgrythyr i wrthod hyn. Gwyddom fod ymhob creadur rywfaint o le iddo ymagor a thyfu—fod gallu mewn mesen i ymddadblygu yn dderwen, ac mewn baban i gynyddu yn llanc. Nid yw yn debyg y gall mïeri neu frwyn weithio eu hunain yn balmwydd neu gedrwydd. A ddichon oenig ymnewid yn farch, neu blentyn yn gerub? Nid oes dim tebyg i hynny wedi cael hyd yn hyn ei brofi.

Daliwn yr un modd nad all y cnawdol, er ei fod yn blaenori y sanctaidd, byth gynnyrchu y sanctaidd. Ni ddichon yr anianol, trwy unrhyw ddadblygiad naturiol (Ioan iii. 3, a 1 Cor. xv. 50), ddyfod yn ysbrydol. Nid y daearol wedi ymolchi ac ymiro yw y nefol. A chredwn fod y dynion a ymdrechant, yn annibynol ar ddylanwad yr efengyl, weithio iddynt eu hunain gymeriadau perffaith, yn ceisio cyflawni yr annichonadwy. Byddai can hawdded iddynt newid eu rhywogaeth—llamu allan o un dosbarth o greaduriaid i mewn i ddosbarth arall o greaduriaid, a thraws-sylweddu llygredigaeth ac anianoldeb eu natur yn burdeb ac ysbrydolrwydd.

Ymegyr y pwnc hwn i lawer o gyfeiriadau. Ymfoddlonwn ar wneuthur tri neu bedwar o sylwadau byrion:—

1. Y mae y dyn ysbrydol yn un Ysgrythyr i wrthod hyn. Gwyddom fod ymhob creadur rywfaint o le iddo ymagor a thyfu—fod gallu mewn mesen i ymddadblygu yn dderwen, ac mewn baban i gynyddu yn llanc. Nid yw yn debyg y gall mïeri neu frwyn weithio eu hunain yn balmwydd neu gedrwydd. A ddichon oenig ymnewid yn farch, neu blentyn yn gerub? Nid oes dim tebyg i hynny wedi cael hyd yn hyn ei brofi.

Daliwn yr un modd nad all y cnawdol, er ei fod yn blaenori y sanctaidd, byth gynnyrchu y sanctaidd. Ni ddichon yr anianol, trwy unrhyw ddadblygiad naturiol (Ioan iii. 3, a 1 Cor. xv. 50), ddyfod yn ysbrydol. Nid y daearol wedi ymolchi ac ymiro yw y nefol. A chredwn fod y dynion a ymdrechant, yn annibynol ar ddylanwad yr efengyl, weithio iddynt eu hunain gymeriadau perffaith, yn ceisio cyflawni yr annichonadwy. Byddai can hawdded iddynt newid eu rhywogaeth—llamu allan o un dosbarth o greaduriaid i mewn i ddosbarth arall o greaduriaid, a thraws-sylweddu llygredigaeth ac anianoldeb eu natur yn burdeb ac ysbrydolrwydd.

Ymegyr y pwnc hwn i lawer o gyfeiriadau. Ymfoddlonwn ar wneuthur tri neu bedwar o sylwadau byrion:—

1. Y mae y dyn ysbrydol yn un goruwchnaturiol. Y mae felly o ran ei haniad ac o ran ei fywyd. Yn ol deddfau anian y dygwyd ef fel creadur i fod; a thrwy gyfranogi o gynnyrchion anian y mae yn parhau mewn bod.

Ond nid drwy (Ioan i. 13) unrhyw ymdrechion dynol, nac ymarferiad âg unrhyw foddion naturiol, y gwnaed ef yn sant. Derbyniodd fywyd tragwyddol drwy weithrediad neillduol yr Ysbryd Glân; a thrwy iddo gyfranogi o fendithion tragwyddol y mae y bywyd hwnw yn cynnyddu ac yn ymgryfhau ynddo. Gan nad pa mor ddaearol, neu anianol, neu gythreulig, ydyw o ran ei darddiad ac o ran ei gymeriad fel hen ddyn, y mae fel dyn newydd "oddi uchod;" ac y mae yn amlygu purdeb a chariad ei fyd gogoneddus ei hun yn nghanol llygredigaeth a gelyniaeth y byd hwn. Y mae bodolaeth y credadyn yn wyrth, ac yn gymaint o wyrth ag oedd creu Adda.

2. Y mae y dyn ysbrydol yn ddwyfol. Trwy ddyfod yn ddwyfol y gall pechadur ddyfod yn ysbrydol. Y mae yn dduwiol am ei fod yn ddwyfol. Golygir wrth ei alw yn ysbrydol fwy na bod ei ysbryd ef ei hun yn effro, ac yn dylanwadu ar egwyddorion ei enaid a gweithredoedd ei gorff. Y mae hynny yn wir; ond y mae yn wir am a thrwy fod Ysbryd anfeidrol yn preswylio yn ei galon, ac yn ymweithio drwy ei holl fywyd. Ni byddai unrhyw ormodiaeth mewn dysgu fod agos bob peth—y greadigaeth gyda'i hamrywiaeth diderfyn o greaduriaid a gwrthrychau—ar un golygiad, yn ddwyfol; oblegid y mae y cyfan yn waith Duw. Ond y mae y credadyn yn ddwyfol mewn ystyr uwch ac am reswm ardderchocach; nid oherwydd ei fod yn waith Duw, yn gymaint ag o achos ei fod wedi cael ei eni o Dduw, ac oblegid ei fod drwy gael ei eni o hono yn cyfranogi o Dduw, y mae ef yn ddwyfol. Bywyd ac egwyddorion y Jehofah yw bywyd ac egwyddorion y dyn hwn; a chynnydd mewn tebygolrwydd iddo Ef ydyw pob cynnydd teilwng o hono ei hun a wna efe.

3. Hawdd, ar ol y sylwadau blaenorol, ydyw chwanegu fod y dyn ysbrydol yn sanctaidd. Os ydynt hwy yn gywir, y mae hwn yn dilyn o angenrheidrwydd. Gan ei fod ef yn Nuw a Duw ynddo yntau (1 Ioan iv.), rhaid fod ei lygredigaeth, yn ol y mesur y mae y naill yn y llall, yn diflanu ymaith o hono. Cynnydda ei sancteiddrwydd yn ol y graddau y mae y bywyd dwyfol yn ymledu drwy ei enaid. Oblegid ei fod wedi cael ei eni o Dduw, a bod (1 Ioan iii. 9) ei had Ef yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu; ac y mae am yr un rheswm yn colli y gallu i bechu. Os ydyw yr ysbrydol yn ddwyfol, rhaid ei fod yn sanctaidd: os nad ydyw yn sanctaidd, nid ydyw yn ysbrydol—cythreulig ydyw. Cynnwysa ei sancteiddrwydd ddwy elfen: purdeb ac ymgysegriad. Y mae y dyn hwn, ar y naill law, yn bur—yn bur o fewn ac o faes, yn bur ei galon ac yn ddifrycheulyd ei ymarweddiad; a gwahaniaetha yn fawr yn hyn oddiwrth y moesol. Dichon fod llawer o debygolrwydd rhwng ymarweddiad allanol y ddau, a bod y naill mor ddifeïus yn ngwyneb deddf y wlad ag yw y llall. A thueddir llïaws o bobl i dybied eu bod cyhyd ag y cadwant hono, yn rhai anrhydeddus. Ond dylent ystyried nad all y gyfraith wladol fod yn y golygiad uchaf yn safon drwg a da, oblegid nis gall gymhell pob dyledswydd, na gwahardd pob drygioni.

Nid yw yn cymeradwyo meddyliau, nac yn condemnio amcanion. Gall dau ddyn, o ganlyniad, ag ydynt yn ei goleuni hi yn debyg, fod yn ngoleuni deddf uwch yn gwbl wahanol. Os felly, gall yr anianol fod o ran ei fuchedd allanol yn ymyl y sanctaidd, a bod o ran ei egwyddorion a bywyd cudd—iedig ei enaid, can belled oddiwrtho ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Y mae yr ysbrydol, ar y llaw arall, yn gysegredig: y mae yn gadael ei hun ac yn myned allan o hono ei hun, gan ymroddi i wasanaethu a gogoneddu ei Greawdwr; tra y mae y moesol o angenrheidrwydd yn byw i fesur helaeth iddo ef ei hun. Nid yw yr olaf yn adnabod neb uwch nag ef ei hun, ac y mae ei ym—drechion yn terfynu ynddo ef ei hun; ond y mae y blaenaf oddiar deimlo ei fod wedi derbyn y cwbl ag ydyw ac a fedd o a chan Dduw, yn ymgyflwyno yn yr hyn oll ag ydyw ac a all i Dduw.

4. Y mae y dyn ysbrydol, yn ol mesur ei ysbrydolrwydd, yn nefol. Golyga hyn, yn ychwanegol at hawl a graddau o gymhwysder i fyned iddi, fod y nef ei hun o ran ei hegwyddorion eisoes yn ei enaid; a phrin y gall cymhwysder i fyned iddi fod yn ddim llai na hi ei hun. Caiff y cred—adyn ei hun yn ol ei gynnydd ysbrydol o hyd mewn mwy o oleuni; daw ei ddirnadaeth yn gliriach ac eangach, ei ddymuniadau yn fwy dyrchafedig, ei fyfyrdodau yn fwy angylaidd. Amlygir drwy ei fywyd lawer o burdeb a phrydferthwch y "breswylfa lonydd." Gŵyr yn awr rywbeth am ei dedwyddwch; cydgyferfydd ffrydiau o ddyddanwch nefol a ffrydiau o dristwch y ddaear yn fynych yn ei brofiad. Nid yw ychwaith yn amddifad o ogoniant; oblegid y mae ei natur yn dyfod yn barhaus yn llawnach, lawnach o wirionedd a chariad, ac o bob egwyddor ag sydd yn gwneuthur dyn yn greadur ardderchog. Y mae awyrgylch ei enaid yn baradwysaidd. Nid oes yn ei hinsawdd ddefnyddiau tymhestloedd, ac nid oes ar ei ffurfafen gymylau tewion. Y mae ei awyr yn iachus ac yn llawn o beraroglau. Daw y cyfryw un wrth ddeall ei haniad goruchel yn well, o hyd yn fwy o bererin yn y byd hwn; a hiraetha weithiau am ymddattodiad oddiwrth gysylltiadau daearol ac am ryddid i fyned adref. . Y mae felly o ran ei haniad ac o ran ei fywyd. Yn ol deddfau anian y dygwyd ef fel creadur i fod; a thrwy gyfranogi o gynnyrchion anian y mae yn parhau mewn bod.

Ond nid drwy (Ioan i. 13) unrhyw ymdrechion dynol, nac ymarferiad âg unrhyw foddion naturiol, y gwnaed ef yn sant. Derbyniodd fywyd tragwyddol drwy weithrediad neillduol yr Ysbryd Glân; a thrwy iddo gyfranogi o fendithion tragwyddol y mae y bywyd hwnw yn cynnyddu ac yn ymgryfhau ynddo. Gan nad pa mor ddaearol, neu anianol, neu gythreulig, ydyw o ran ei darddiad ac o ran ei gymeriad fel hen ddyn, y mae fel dyn newydd "oddi uchod;" ac y mae yn amlygu purdeb a chariad ei fyd gogoneddus ei hun yn nghanol llygredigaeth a gelyniaeth y byd hwn. Y mae bodolaeth y credadyn yn wyrth, ac yn gymaint o wyrth ag oedd creu Adda.

2. Y mae y dyn ysbrydol yn ddwyfol. Trwy ddyfod yn ddwyfol y gall pechadur ddyfod yn ysbrydol. Y mae yn Q dduwiol am ei fod yn ddwyfol. Golygir wrth ei alw yn ysbrydol fwy na bod ei ysbryd ef ei hun yn effro, ac yn dylanwadu ar egwyddorion ei enaid a gweithredoedd ei gorff. Y mae hynny yn wir; ond y mae yn wir am a thrwy fod Ysbryd anfeidrol yn preswylio yn ei galon, ac yn ymweithio drwy ei holl fywyd. Ni byddai unrhyw ormodiaeth mewn dysgu fod agos bob peth—y greadigaeth gyda'i hamrywiaeth diderfyn o greaduriaid a gwrthrychau—ar un golygiad, yn ddwyfol; oblegid y mae y cyfan yn waith Duw. Ond y mae y credadyn yn ddwyfol mewn ystyr uwch ac am reswm ardderchocach; nid oherwydd ei fod yn waith Duw, yn gymaint ag o achos ei fod wedi cael ei eni o Dduw, ac oblegid ei fod drwy gael ei eni o hono yn cyfranogi o Dduw, y mae ef yn ddwyfol. Bywyd ac egwyddorion y Jehofah yw bywyd ac egwyddorion y dyn hwn; a chynnydd mewn tebygolrwydd iddo Ef ydyw pob cynnydd teilwng o hono ei hun a wna efe.

3. Hawdd, ar ol y sylwadau blaenorol, ydyw chwanegu fod y dyn ysbrydol yn sanctaidd. Os ydynt hwy yn gywir, y mae hwn yn dilyn o angenrheidrwydd. Gan ei fod ef yn Nuw a Duw ynddo yntau (1 Ioan iv.), rhaid fod ei lygredigaeth, yn ol y mesur y mae y naill yn y llall, yn diflanu ymaith o hono. Cynnydda ei sancteiddrwydd yn ol y graddau y mae y bywyd dwyfol yn ymledu drwy ei enaid. Oblegid ei fod wedi cael ei eni o Dduw, a bod (1 Ioan iii. 9) ei had Ef yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu; ac y mae am yr un rheswm yn colli y gallu i bechu. Os ydyw yr ysbrydol yn ddwyfol, rhaid ei fod yn sanctaidd: os nad ydyw yn sanctaidd, nid ydyw yn ysbrydol—cythreulig ydyw. Cynnwysa ei sancteiddrwydd ddwy elfen: purdeb ac ymgysegriad. Y mae y dyn hwn, ar y naill law, yn bur—yn bur o fewn ac o faes, yn bur ei galon ac yn ddifrycheulyd ei ymarweddiad; a gwahaniaetha yn fawr yn hyn oddiwrth y moesol. Dichon fod llawer o debygolrwydd rhwng ymarweddiad allanol y ddau, a bod y naill mor ddifeïus yn ngwyneb deddf y wlad ag yw y llall. A thueddir llïaws o bobl i dybied eu bod cyhyd ag y cadwant hono, yn rhai anrhydeddus. Ond dylent ystyried nad all y gyfraith wladol fod yn y golygiad uchaf yn safon drwg a da, oblegid nis gall gymhell pob dyledswydd, na gwahardd pob drygioni.

Nid yw yn cymeradwyo meddyliau, nac yn condemnio amcanion. Gall dau ddyn, o ganlyniad, ag ydynt yn ei goleuni hi yn debyg, fod yn ngoleuni deddf uwch yn gwbl wahanol. Os felly, gall yr anianol fod o ran ei fuchedd allanol yn ymyl y sanctaidd, a bod o ran ei egwyddorion a bywyd cudd—iedig ei enaid, can belled oddiwrtho ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Y mae yr ysbrydol, ar y llaw arall, yn gysegredig: y mae yn gadael ei hun ac yn myned allan o hono ei hun, gan ymroddi i wasanaethu a gogoneddu ei Greawdwr; tra y mae y moesol o angenrheidrwydd yn byw i fesur helaeth iddo ef ei hun. Nid yw yr olaf yn adnabod neb uwch nag ef ei hun, ac y mae ei ym—drechion yn terfynu ynddo ef ei hun; ond y mae y blaenaf oddiar deimlo ei fod wedi derbyn y cwbl ag ydyw ac a fedd o a chan Dduw, yn ymgyflwyno yn yr hyn oll ag ydyw ac a all i Dduw.

4. Y mae y dyn ysbrydol, yn ol mesur ei ysbrydolrwydd, yn nefol. Golyga hyn, yn ychwanegol at hawl a graddau o gymhwysder i fyned iddi, fod y nef ei hun o ran ei hegwyddorion eisoes yn ei enaid; a phrin y gall cymhwysder i fyned iddi fod yn ddim llai na hi ei hun. Caiff y cred—adyn ei hun yn ol ei gynnydd ysbrydol o hyd mewn mwy o oleuni; daw ei ddirnadaeth yn gliriach ac eangach, ei ddymuniadau yn fwy dyrchafedig, ei fyfyrdodau yn fwy angylaidd. Amlygir drwy ei fywyd lawer o burdeb a phrydferthwch y "breswylfa lonydd." Gŵyr yn awr rywbeth am ei dedwyddwch; cydgyferfydd ffrydiau o ddyddanwch nefol a ffrydiau o dristwch y ddaear yn fynych yn ei brofiad. Nid yw ychwaith yn amddifad o ogoniant; oblegid y mae ei natur yn dyfod yn barhaus yn llawnach, lawnach o wirionedd a chariad, ac o bob egwyddor ag sydd yn gwneuthur dyn yn greadur ardderchog. Y mae awyrgylch ei enaid yn baradwysaidd. Nid oes yn ei hinsawdd ddefnyddiau tymhestloedd, ac nid oes ar ei ffurfafen gymylau tewion. Y mae ei awyr yn iachus ac yn llawn o beraroglau. Daw y cyfryw un wrth ddeall ei haniad goruchel yn well, o hyd yn fwy o bererin yn y byd hwn; a hiraetha weithiau am ymddattodiad oddiwrth gysylltiadau daearol ac am ryddid i fyned adref.

HWN AC ARALL.

Unoliaeth mewn amrywiaeth: mae pob peth
O fôr i fynydd ac o wig i wybr,
Yn un—yn llawer, ac yn newydd byth.
Mae dynol ryw, er eu dirywiad tost,
Mor wahanredol ag yw adar nef.—
Mae rhai yn galed fel clogwyni—rhai
Yn dyner—lariaidd megis blodau Mai;
Dinôd fel myrtwydd ydyw llawer mil—
Preswylia rhai yn nhemlau disglaer Clod;
Cawn rai yn feddwon yn barhaus ar win—
A rhai yn byw ar wermod drwy eu hoes;
Rhai drigant yn neuaddau Pleser—mae
Torfeydd ar riwiau serth trallodion byth.
Canfyddir gweithiwr tlawd yn syllu fry,
Fel lloer ar huan, ar bendefig balch;
Yn uchel yma chwardda nwyfiant—draw
Caiff tristwch ysol gongl i wylo'n hidl.
Mae rhai yn grinion fel ceubrennau cors,
A rhai yn dirfion fel planhigion gardd,
Ymlwybro oddiamgylch gwelir nychdod blin,
Gan bwyso ar rymuster llawn o serch;
Yn ymyl baban gwridog, mae ei daid
Yn gorffwys orig ar ei daith i'r Farn.

Rhai hagr—rhai prydferth—rhai ysprydion mad,
A rhai daearol fel mawnogydd gwlad;
Mae rai yn sanctaidd fel cerubiaid Nef,
A rhai yn halog fel pydewau tref.
Dyhirod llymrig ydyw rhai; ymdraidd
Drygioni megis gwenwyn hyd eu craidd:
Dydd natur llawer sydd yn nos dymhestlog,
A mellt wasgarant drwy ardaloedd heulog.
Trig brodyr bleiddiaid mewn palasau swynol;
Mae llewod moesol a gwiberod dynol,
Y rhai drwy rym athrylith gyfrwys—dduwiol


Ymwisgant yn drwsiadus mewn celwyddau—
Wrth ddwyn oddiar drueiniaid eu meddiannau;
Rhai ganant yn felodaidd gerddi cariad—
Wrth ddysgu i ereill ganu eu galarnad;
Ar ddelw engyl cawn gythreuliaid duon
Yn byw ar falais, ac yn hau melldithion,
A gwahangleifion diriaid yn gwasgaru
Yn awchus heintiau marwol wrth anadlu;
Y maent i gyd, drwy lid a llygredigaeth,
Yn frychau gwrthun ar y greadigaeth.


Cawn ddynoliaeth dan ei blodau
Mewn llaweroedd hyd ein bryniau,—
Rheswm ynddynt deifi oleuni
Gwelw i ogofeydd drygioni;
Ar sibrydion cydwybodau
Gwrandaw wnant fel ar adnodau;
Greddfau eu calonau tirion
Droant yn weithredoedd gwynion;
Mewn ewyllys ymgyfeiriant
At gyfiawnder a gogoniant.
Tlysion ydyw eu rhinweddau—
Tlws ac oer fel ia mynyddau.
Ymagorant fel rhosynau—
Ni wasgarant beraroglau.
Lluniant gymeriadau gloewon—
Heb gynorthwy Crewr angylion.
Gwinwydd yn niffaethwch pechod—
Drain yn ngerddi tirf y Drindod;
Yn awelon Amser tyfant;
Tragwyddoldeb—yno gwywant.

Mae ereill yn dringo mynyddau
Y ddaear yn llewyrch y Nef;
Ei hawyr yw anadl eu ffroenau,—
Ei Hysbryd yw cywair eu llef;—
Credinwyr—mor wrol—mor lariaidd,
Yn sugno eu bywyd o Dduw;
Moliannant Ef drwyddo yn beraidd,
A gweithiant o hyd dros eu rhyw.

Gweddiant mewn cymoedd cuddiedig
A:m lwyddiant gwirionedd a moes;
Ymladdant mewn trefydd gwenwynig
D:ros Grist ag ellyllon eu hoes;
Cryfhant mewn sancteiddrwydd a gobaith;
C:ynyddant mewn cariad a ffydd;
Esgynnant o gaddug a dylaith
I wynfa o fywyd a dydd.


NATUR EGLWYS.

[Crynodeb o sylwadau a wnaed ar y pwnc uchod yn Nghyfarfod yr Ordeinio yn Nghymdeithasfa Llanrwst, Mehefin 28ain, 1894.]

ARWEINIR dyn gan y fath eiriau a natur, sylwedd, a hanfod, i ororau pellenig a dyeithr. Ychydig iawn a wyddom am y sylweddau mwyaf cyffredin. Gwaith caled i mi a fyddai egluro natur rhedynen neu hanfod tywodyn. Ni feddwn eto, ar ol canrifoedd o feddwl, unrhyw esboniad boddhaol ar fywyd. Y mae gwŷr galluog a dysgedig wedi cyfarfod â rhwystrau wrth geisio olrhain tarddiad a chynnydd cymdeithas a llywodraeth. A phwy a ddichon grynhoi holl awgrymiadau y gair Eglwys i gylch brawddeg neu araeth! Gwesgid hi o bryd i bryd gan amgylchiadau, i gyhoeddi ei syniad am dani ei hun; ac y mae gwerth mawr ar lawer darluniad sydd genym o honi. Prin, er hynny, y mae dim a feddwn yn ddarnodiad perffaith o honi; ac nid oes genyf fi ddigon o ddoethineb nac o ryfyg i amcanu at y fath beth.

Carwn allu galw sylw at elfen neu ddwy yn ei chyfansoddiad. Bum yn ymholi ac yn ymbalfalu am ryw egwyddor digon ysbrydol a grymus i egluro ei natur, ac am ryw wirionedd digon bywiol ac eang i gynnwys ei holl unoliaeth diledryw, ac, ar yr un pryd, ei holl amrywiaeth pur—i gynnwys yr Eglwys ynddi ei hun, ac hefyd yr Eglwys Batriarchaidd, Iuddewig, Gristionogol, Brotestanaidd, Ymneillduol, Fethodistaidd. A thybiaf i mi gael cipolwg ar y cyfryw beth, a dyfod i gyffyrddiad ysgafn âg ef, yn yr ymadrodd canlynol: "Duw I yn ei chanol (Psalm xlvi. 5). At yr Eglwys y cyfeirir ynddo; a dyma un elfen yn ei chyfansoddiad Duw. Yr elfen arall ydyw dynion—mwy neu lai goleuedig a sanctaidd. Dyma ei hegwyddorion mwyaf hanfodol yr unig rai hanfodol—Duw a dynion. Gan nad beth arall a berthyn iddi, ni pherthyn iddi ddim mor anhebgorol angenrheidiol a hwynt. Nis gall hanfodi o gwbl hebddynt; a gall, gyda hwynt, fod a llwyddo heb bob peth arall. Fel y mae dyn yn gyfansoddedig o enaid a chorff, y mae yr Eglwys yn gyfansoddedig o Dduw a dynion; ac y mae presenoldeb y naill mor hanfodol iddi a phresenoldeb y llall. Ac os ydyw ei natur hi, fel eiddo pethau eraill, yn cael ei phenderfynu gan yr elfenau sydd yn ei chyfansoddi, gwelir ei bod hi o ran ei natur yn ddwyfol ac yn ddynol. Hyn oedd erioed ac a fydd byth—y Jehofah grasol a phechaduriaid sancteiddiedig, yn ymwasgu at eu gilydd, ac yn byw yn a thrwy eu gilydd. Bydd y dwyfol weithiau, a bydd y dynol brydiau ereill, yn amlycach ynddi; ond nis gallant ymwahanu heb iddi hi ymddileu. Yn undeb y ddau y mae yn cael ei bod; a thrwy gymundeb y ddau y mae yn ymëangu ac yn ymburo (2 Cor. vi. 16). Pe peidiai fod yn ddwyfol, ymgollai mewn daearoldeb llygredig; a phe peidiai fod yn ddynol, ymgollai mewn nefoldeb anweledig. Dyn ydyw ei chorff; Duw ydyw ei hysbryd. Y cyntaf ydyw ei thrai; y diweddaf ydyw ei llanw.

Dysgir yr un gwirionedd mewn llïaws o fanau yn y Beibl: Eph. ii. 19—22; iv. 16; Col. ii. 19, &c. Yn gyd—ddinasyddion â'r saint:" cawn yn yr ymadrodd hwn y syniad o ddinaswyr a llywodraethwyr, neu frenin a deiliaid. Ond yn yr achos yma, yn ychwanegol at y berthynas gyfamodol sydd yn bod ymhob teyrnas, mae gwaed y Llywodraethwr yn rhedeg yn ngwythienau y dinasyddion. Anadl y Brenin yw bywyd y deiliaid hyn. Yn lle eu bod hwy yn ei gynal Ef, Efe sydd yn eu cynal hwynt. Am hyny, "Llawenhaed Israel yn yr hwn a'u gwnaeth: gorfoledded meibion Sïon yn eu Brenin." Oblegid drwyddo ef y mae yr Eglwys "fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog." Preswylia y Jehofah fel bywyd ei fywyd, ac enaid ei enaid, ymhob un o wir aelodau y gymdeithas hon. Ae er ei fod weithiau yn fwy, ac weithiau yn llai amlwg ynddi, ni fyddai arnaf, hyd yn nod mewn amser marwaidd fel hwn, lawer o ofn ei galw hi, yn gystal a Rhuwun arall, yn Emmanuel—Duw gyda ni ac ynom ni. "Ac yn deulu Duw:" yn ol yr ymadrodd hwn, tad a phlant, a phlant a thad—plant drwy genedliad a meibion drwy fabwysiad yw yr Eglwys. Y Creawdwr ydyw y naill; credinwyr ydyw y lleill. A chan fod y fath berthynas rhyngddynt, ymawyddant am gymdeithas eu gilydd. Ymgryfha y plant drwy gyfranogi o rasusau y Tad; ac ymwthia y Tad i olwg y byd drwy ymweithio i natur a bywyd y plant. Wrth gyfranogi o hono Ef, ymdebygant hwy yn barhaus iddo, ac adlewyrchant ei gymeriad o hyd yn berffeithiach. Fel afonydd y mynyddoedd—plant y môr, a llanw y môr—tad yr afonydd, yn cydgyfarfod ac yn rhedeg i'w gilydd yn aberoedd Cymru, y mae Duw a duwiolion yn ymgyfarfod, gan ymdreiddio i adnabyddiaeth bellach o ac i gymundeb agosach â'u gilydd, yn yr Eglwys. Dylem, o ganlyniad, os nad allwn ddim ynom ein hunain, ystyried y gallwn bob peth yn a thrwy yr Hollalluog.

Gwelir mor ddwyfol ac mor ddynol yw yr Eglwys drwy y geiriau canlynol: "Yn yr Hwn (sef yr Arglwydd) y'ch cyd—adeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy yr Ysbryd." "O'r hwn (sef Crist) y mae yr holl gorff wedi ei gydymgynull a'i gydgysylltu, trwy bob cymmal cynnal—iaeth, yn ol y nerthol weithrediad yn mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad." Gosodant hi allan mewn dwy wedd—fel corff byw ac fel adeilad cynyddol; a chynnwysant rywfaint o gymysgedd ffugyrol. Nid ydyw hynny yn rhyfedd; oblegid, er fod yr Ysbryd Glân yn alluog i gyflawni pethau mawrion a gogoneddus, prin y gall Ef drosglwyddo prif feddyliau Duw yn ddïanaf drwy iaith ddynol. Gall llawer o honom ddeall hyn, a chydymdeimlo i ryw fesur âg Ef yn ei ymdrechion, o herwydd y mae gwisgo creaduriaid ysbrydol, pa mor fychain bynag fyddant, yn deilwng mewn dillad daearol, yn waith anhawdd iawn. Am hynny, mewn trefn i gyflwyno y syniad cywiraf am dani ag oedd yn ddichonadwy, Efe a ddysgodd fod yr Eglwys yn tyfu ac yn cael ei hadeiladu. Fel corff y mae yn cynyddu drwy gyfranogi o fywyd a nerth ei Phen; ac y mae, ar yr un pryd, yn cael ei chyfodi o gareg i gareg gan Adeiladydd dwyfol. Tŷf fel pren drwy anadlu iddi ei hun y nwyon nefol; ac y mae pob cangen wrth dyfu yn cyfranogi o gadernid y graig; ac y mae pob careg wrth gael ei gosod yn ei lle yn ymlenwi â bywyd ysbrydol (Daniel ii. 34, 35). Nid oes fawr o synwyr bach llenyddol y ddaear mewn son am "faen bywiol" a "meini bywiol" (1 Petr ii. 4, 5); ond y mae synwyr yr Hollwybodol yn y geiriau, ac yr wyf fi yn foddlawn ar hwnw. Dyma ydyw yr Eglwys—un Maen mawr, bywiol, yn trosglwyddo bywyd i lawer o feini bychain. Ymdraidd y Dwyfol drwy y dynol ynddi, a chyfranoga y dynol o adnoddau y Dwyfol. Cyferfydd clai llwyd y ddynoliaeth â marmor gwyn y Duwdod ynddi, ac ymweithiant i'w gilydd, ac ymffurfiant yn deml ysbrydol a gogoneddus. Y Jehofah ydyw saer y ddinas fendigedig—pechaduriaid ydyw ei defnyddiau; Efe ydyw yr Adeiladydd, hwythau yw yr adeilad. Diau fod y gwaith hyd yma ymhell o gyfateb i'r cynllun—fod gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys fel y mae yn bod ymhlith dynion, ac fel y mae yn bod yn meddwl ei Hawdwr. Daw yn raddol yn berffaith, oblegid y mae y Cynllunydd yn preswylio ynddi ac yn trosglwyddo ei fywyd yn barhaus iddi. Ni fydd brycheuyn na chrychni (Eph. v. 27) arni. "Pan adeilado yr Arglwydd Sïon, y gwelir Ef yn ei ogoniant." Trig yn bresenol mewn goleuni mor danbaid, fel nad ellir ei ganfod; ond bydd i belydrau hawddgaraf ei ogoniant ymddysgleirio byth bythoedd ynddi hi drwy hen feini duon a geirwon y ddaear.

Gan fod yr Eglwys yn ddwyfol ac yn ddynol, y mae hefyd yn nefol ac yn ddaearol—yn deyrnas ysbrydol ac yn sefydliad cyhoeddus. A rhaid iddi fod felly mewn trefn i ateb ei dybenion a chyrhaedd ei hamcanion. Oblegid, pe gweledig yn unig a fyddai, ymddangosiad gwag, twyllodrus —cwmwl diddwfr, siomedig i eneidiau sychedig, a fyddai. A phed yn yr anweledig yn unig y byddai, ni byddai o gwbl yn y byd hwn, ac nis gallai ddylanwadu arno. Rhaid iddi, ar y naill law, feddu enaid a bywyd, ac, ar y llall, feddu corff a hanfodiad cymdeithasol; ac y mae y naill mor bwysig ag ydyw y llall. Ymofidiwn o herwydd na byddai yn fwy ysbrydol nag ydyw; ond ni ddymunem iddi fyned mor nefol fel ag i beidio bod yn ddaearol. Nid ydyw yn bresennol yn agored i hynny. Yn hytrach nag ymddyrchafu ac ymgolli mewn nefoldeb pur, ei pherygl beunyddiol ydyw ymddaearoli ac ymgaledu i ffurfioldeb trancedig. Yr enbydrwydd y mae ynddo mewn oes ddysgedig fel hon ydyw, nid myned yn ormod o enaid, ond myned yn ormod o gorff; nid myned yn rhy angylaidd, ond ymollwng i gerdded ar ei thòr ac i fwyta pridd fel sarph. Yn ol y graddau y bydd yn cyfranogi o Dduw, y gall hi fod yn fendithiol a gogoneddus; ac ymwasgu ato Ef ydyw ei dyledswydd wastadol. Rhaid iddi adeiladu capelau o geryg y ddaear; ond rhaid iddi wneyd hyny mewn trefn i gyrhaedd amcanion dwyfol. Rhaid iddi dalu am danynt âg arian marchnadol; a phe gallai fod yn arianog heb fod yn ariangar, gallai hyny fod yn fanteisiol iddi; ond, os ydyw golud yn anwyl—yn werthfawrocach yn ei golwg na sancteiddrwydd, a chlod dynion yn bwysicach na chymeradwyaeth ei Harglwydd, y mae yn rhan o'r byd mor wirioneddol ag y mae masnach yn rhan o hono. Rhaid iddi sicrhau ei hun yn y meddiant o eiddo ac yn y mwynhad o freintiau cymdeithasol, drwy gyfreithiau daearol a threfniadau dynol; ond os ymollynga i ymddibynu am ei pharhad ac am ei chynnydd ar y pethau hynny, arddengys yn fuan esiampl arall o Dŵr Babel. Yr Oen ydyw ei goleuni hi.

Cawn awgrym am ei natur yn ei henw—Eglwys, yr hwn sydd yn ffurf Gymreig ar un o hen eiriau y Groegiaid, ac yn golygu yn llythyrenol—galw allan. Defnyddir ef mewn ystyr fwy a llai ëang. Gall gynnwys y saint yn y nef ac ar y ddaear, neu holl broffeswyr crefydd y byd, neu gyfundeb arbenig, neu gangen unigol. Ac os gofynir pa fodd y dichon y gair ymëangu ac ymgyfyngu fel hyn, gellir ateb mai oblegid fod yr elfenau mwyaf hanfodol i gyfansoddiad cyfundeb, yn angenrheidiol i gyfansoddi deadell neillduol. Rhaid cael Duw a rhaid cael dynion ymhob un o honynt—y ddau mewn undeb a chymundeb:

"Tragwyddol gariad ydyw Ef,
Wnaeth Dduw a ninnau'n un."

Caiff pob credadyn a dderbynir iddi, ei hun mewn sefyllfa ryfedd ac mewn cymdeithas ogoneddus: Heb. xii. 22—24. Traidd bywyd a sancteiddrwydd dwyfol drwy farwolaeth a llygredigaeth ddynol ynddi. Meddylier am orchestion bywyd llysieuol ac anifeilaidd—fel y mae yn cyfuno goleuni, gwres, awyr, dwfr, pridd, ac yn eu llunio yn gyrff iraidd a phrydferth! Fel y mae yn gogoneddu baw a nwyon drewedig, gan eu gwneyd yn flodau ac yn dderw, yn eryrod ac yn ychain! Felly hefyd y mae y bywyd ysbrydol sydd yn yr Eglwys yn tynu ato ei hun, gan drawssylweddu a phuro, y defnyddiau mwyaf cyffredin. Try feilchion trahaus yn weision gostyngedig, cybyddion geirwon yn bendefigion grasol, a hen feddwon budron y byd yn saint caruaidd. Impir ynddi lawer o ddrain y ddaear i mewn i winwydden y Nef. Daw llawer o rug y ddynoliaeth drwyddi yn gangenau o Bren y Bywyd!

Ymrana hanes ei henw i dri chyfnod: Paganaidd, Iuddewig, a Christionogol. Defnyddid y gair yn Athen i olygu galw allan a galw ynghyd y dinasyddion—gwŷr rhyddion a phendefigaidd y weriniaeth, i drafod a phenderfynu materion cyhoeddus. Ni oddefid i ddyeithriaid, na chaethweision, na drwgweithredwyr, i fod yn aelodau yn yr eglwys baganaidd hono. Ac awgrymir drwy hyn fod Eglwys Crist, er yn y, byd, i fod yn ysgaredig oddiwrth y byd, ac i gael ei gwneyd i fyny o bobl ryddion ac anrhydeddus, a meddiannol, drwy eu hundeb â Christ, ar allu a hawl (Matt. xviii. 15—20) i addysgu a disgyblu, i ddeddfu a llywodraethu. Gwelir fod ei henw yn tybied dwy blaid; un yn galw ac eraill yn cael eu galw: Duw ydyw y naill, pechaduriaid ydyw y lleill. Trwy gyfarfyddiad a chymdeithas y pleidiau hyn y mae yr Eglwys yn hanfodi ymhob oes. Cawn yr Arglwydd yn y cyfnod cyntaf yn ei hanes yn ymostwng i waered at ddynion; ymddyddanai, fel gŵr â chyfaill, â phatrïarch ar ol patrïarch; cyfarwyddai hwynt ar lwybrau dyrys bywyd, a daliai gymundeb â hwynt mewn mynydd a maenol. Gwna yr un peth, mewn dull uwch, o hyd. Trwyddi hi y mae dynolryw yn derbyn pob goleuni a daioni ysbrydol o hono Ef. Nid ydyw mor amlwg ynddi bob amser; ond nid ydyw byth yn ymadael o honi. Dywedir weithiau ei fod yn ymbellhau oddiwrthi, ac ar brydiau eraill ei fod yn agosâu ati; ac y mae hyny mewn rhyw ystyr yn wir; ond nis gall ei gadael mwy nag y gall yr haul adael ei ffurfafen. Y mae hwnw yn ymddysgleirio mwy ar rai adegau: a gwna y Jehofah hyny hefyd. Nid yw yr haul yn yr un pellder bob amser oddiwrth y ddaear; yn y gauaf y mae agosaf ati; a dichon fod yr Arglwydd yn nês mewn amseroedd oerion a thymhestlog at ei bobl nag yr ymddengys iddynt hwy. Gweithio yn araf a dystaw y mae ynddi a thrwyddi yn yr oes hon; ond nid ydyw oblegid hyny yn gweithio yn llai gwirioneddol; ac nis gall dynion ysbrydol gamgymeryd ei weithrediadau. Pe gwelem wlith ar fynydd fil o filldiroedd oddiwrth y môr, gwyddem mai o hono ef y byddent wedi cychwyn. Ac y mae y saint yn clywed llais, yn gweled gwedd, ac yn teimlo dylanwad, eu Tad yn yr Eglwys ac ar hanes y byd oddiallan iddi, yn yr amseroedd anianol a daearol hyn. "Duw sydd yn ei chanol." Efe ydyw ei môr; pechadur ydyw ei hanialwch. Y mae Sahara cras, llawn o ymlusgiaid gwenwynig ac o fwyst—filod rheibus y ddynoliaeth, a Môr Tawelog, diwaelodion, y Jehofah, yn cyfarfod eu gilydd ynddi hi.

Cawn hefyd mai ecclesia a ddefnyddir yn Nghyfieithiad y Deg a Thriugain am gynnulleidfa meibion Israel. Ceidw y gair, o ganlyniad, ei ystyr wreiddiol yn y cysylltiad hwnw, oblegid galwasai yr Arglwydd y genedl hono o fysg y gweddill o ddynolryw, ac, yn wir, o ddiddymdra, fel haul, i amlygu iddynt hwy ei gymeriad, ac i fod yn offerynol i ddwyn oddiamgylch eu hiachawdwriaeth. Dyna oedd yr Eglwys—cenedl â Duw yn frenin arni; hyny ydyw heddyw ac a fydd byth. Ni wêl synwyr anianol y gwirionedd hwn yn eglurach yn un man nag yn hanes yr Israeliaid; eanys yr oedd yr Arglwydd yn Greawdwr ac yn Gynnaliwr iddynt hwy mewn modd mwy arbenig nag u nrhyw bobl ar wyneb y ddaear. Buont yn byw am lawer o flynyddoedd yn llythyrenol ar wyrthiau, a threiddiai yr elfen oruwchnaturiol drwy eu holl hanes. Felly o hyd—ar Dduw y mae yr Eglwys yn ymborthi ymhob gwlad. Pa fodd yr ymdeithient hwy ar hyd yr anialwch cras drwy ganol llwythau gelyniaethus? Am fod colofn yr Arglwydd yn ymsymud yn ol ac ymlaen gyda hwynt. Dyna ydyw hi ymhob oes—pobl etholedig a cholofn ddwyfol. Edrycher arnynt yn ffoi o flaen byddin gref, rhwng mynyddoedd aruthr, i wyneb y môr, a gwelir Lluniwr yr eigion yn eu cyfarfod ar ei lân: adnabu y môr ei Greawdwr, ac ym—agorodd ar unwaith o flaen ei etholedigion! Rhag-gysgodai hyn lawer amgylchiad yn ei hanes hi. Yr un modd, y mae y Tabernacl yn arwyddlun o honi: gwneid ef i fyny, ar y naill law, o bethau cyffredin a geirwon, ac, ar y llall, o ddefnyddiau ardderchog a drudion: un llen ar ddeg o flew geifr—creaduriaid diharddwch a diberarogl, a cherubiaid o aur; crwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion—milod rhad a hurt, a thrugareddfa o aur coeth yn cael ei hystaenio â gwaed; crwyn daearfoch oddiallan, ac oddifewn y Shechinah gogoneddus. Onid oedd ef drwy y pethau hyn yn gysgod o gyfansoddiad—o lygredigaeth a sancteiddrwydd, tylodi a golud, gerwindeb a gogoniant—yr Eglwys? Cynnwysa bob amser wreng a boneddig, lleyg a llên, dynionach diddym a chewri llariaidd, poblach ddihanes ac enwogion grasol, hyrddod o ddynion a cherubiaid o ddynion, yr amrywiaeth mwyaf, a Chreawdwr y cyfan. Annuwiolion ailanedig ydyw ei deiliaid; y Gŵr a goronodd dynion â drain, ac a goronodd Duw â gogoniant, ydyw ei Brenin.

Yn y Testament Newydd y dysgir egluraf fod yr Eglwys yn ddwyfol ac yn ddynol. Gwelir ei bod yn gyfansoddedig o bobl wedi cael eu galw gan yr Arglwydd allan o'r byd, nid o'r ddaear, ato Ef ei hun, i gyfranogi o fendithion ei ras, i fyw egwyddorion ei Air, ac i gario ymlaen ei amcanion goruchel mewn rhagluniaeth ac iachawdwriaeth. Cawn eu bod yn "gyfranogion" "o'r galwedigaeth nefol," "o ras," "o'r duwiol anian," "o ddyoddefiadau," ac "o ddyddanwch" dwyfol, "o'r Ysbryd Glân," "o Grist," "o sancteiddrwydd," ac "o ogoniant" Duw. Ystyrier hefyd yn arbenig yr adnodau canlynol: Ioan xiv. 17, 20 a 23, xvii. 22 a 23; 2 Cor. v. 21; Gal. ii. 20, iv. 19; Ephes. i. 23, iv. 12, v. 30; Col. i. 24; 1 Ioan iv. 4, 7, 12, 15 a 16. Yr un peth a welwn fel hyn yn barhaus ynddi—ymgyfarfyddiad y dwyfol a'r dynol. Nid ydyw eu cymundeb mor agos a gwresog bob amser, mwy nag y mae yr haul yn tywynu bob nos yn yr un helaethrwydd ar y lleuad; ond nid ydyw ef wrth guddio ei wyneb oddiwrthi yn gollwng ei afael o honi: ceidw hi yn y nos dywyllaf rhag myned ar ddisberod. Felly y mae Haul y Cyfiawnder yn arllwys ei oleuni ar yr Eglwys, ac yn ymdreiddio yn wres bywiol drwyddi, i raddau mwy ar rai prydiau nag eraill; ond nid ydyw byth yn ei gadael. Clyw y saint mewn tywyllwch tymhestlog eu Gwaredwr yn sibrwd, "A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i." Crist ydyw bywyd yr Eglwys, a hithau ydyw ei gorff Ef. Trwy breswyliad enaid ynddo y mae corff dyn yn byw; a thrwy ei gorff y mae yr enaid yn gallu hanfodi a gweithio ar y ddaear. Yn gyffelyb, drwy breswyliad yr Iesu yn Sïon y galluogir hi i fod a gwneyd; ac onid yn ol mesur ei hanfodiad a'i grym hi y mae Ef yn byw ymhlith ac yn dylanwadu ar ddynion? Fel y mae ef yn ei chynnrychioli hi ger bron Duw, y mae hi yn ei gynnrychioli Ef ger bron pechaduriaid. Wrth ddyfod yn Waredwr iddi, daeth yn rhywbeth arall yn arwyddlun o honi; fel y mae Ef yn Dduw ac yn ddyn, y mae hithau yn ddwyfol ac yn ddynol. Gwahaniaethant yn ddifesur: Person Dwyfol wedi cymeryd i undeb âg Ef ei hun natur ddynol ydyw Ef; y mae hi yn gyfansoddedig o bersonau dynol wedi cyfranogi o natur a bywyd dwyfol: Duw yn nghyffelyb—iaeth cnawd pechadurus ydoedd Ef; Duw mewn cnawd mwy neu lai pechadurus ydyw hi. Ymdebygant hefyd: meddylier am dano ef yn cael ei eni o wraig, yn ffoi o flaen pechadur halogedig, yn cynnyddu mewn corffolaeth ac mewn ffafr gyda Duw a dynion, yn ymdreiddio i adnabyddiaeth gliriach o hono Ef ei hun ac o amcanion ei ymgnawdoliad, yn ymdaith drwy dylodi ac eiddigedd, yn gweddio ar hyd y mynyddoedd a greasai, yn eistedd yn dduwdod diffygiol wrth y ffynnon, yn chwysu y gwaed yn Gethsemane, ac yn dringo Calfaria i farw! Yn gyffelyb, cawn ei bod hithau wedi ffoi i lawer Aipht, wedi ymguddio mewn llawer ogof, wedi bod yn bwyta bara cystudd ac yn yfed dwfr blinder yn hir, wedi bod yn eistedd filwaith yn flin a sychedig wrth ffynnonau hespion yn anialwch cras y byd, wedi bod yn gweddio ar fynyddoedd ac mewn coedwigoedd, yn gystal ag mewn temlau a chapelau, wedi profi pangfeydd llawer Gethsemane a dringo llethrau geirwon llawer Calfaria; ac wedi—drwy y cwbl, gynnyddu mewn corffolaeth, ac mewn adnabyddiaeth o honi ei hun ac o amcanion ei bod; ac y mae yn ennill yn raddol fesur o ffafr dynion heb golli, mi hyderaf, ffafr Duw. Mor debyg yw iddo! Gwyn fyd na fyddai yn debycach!

Gan ei bod yn ddwyfol ac yn ddynol, y mae yr Eglwys hefyd yn berffaith ac yn anmherffaith. Cydnabyddir fod ymhlith ei chymunwyr, fel y mae yn sefydliad gweledig, bob amser fwy neu lai o annuwiolion. Nid oes neb" felly ynddi fel y mae yn deyrnas ysbrydol; oblegid gwneir hi i fyny o etholedigion achubedig yr Arglwydd. Nid ydyw ar bob cyfrif yn gwbl berffaith yn yr agwedd olaf: y mae yn anmherffaith yn yr un ystyr ag y mae y wawr neu faban iach, dïanaf, yn anmherffaith, oblegid nad yw y naill yn ddydd, ac nad yw y llall yn ddyn. Y mae yn anmherffaith hefyd yn y golygiad fod yn ei haelodau—yn y rhai goreu yn gystal ag yn y rhai gwaethaf o honynt—eto lawer o dywyllwch, daearoldeb, a llygredigaeth. Yr un pryd, fel mai Duw yr Eglwys ydyw Duw y duwiau, Eglwys Dduw hefyd, gan nad faint o ddiffygion a beiau a berthyn iddi, ydyw y gymdeithas oreu a phuraf ar wyneb y ddaear. Ynddi hi y mae y dynion goreu; ac y mae yr Arglwydd—ffynnonell pob perffeithrwydd—yn preswylio ynddi hi. Gan nad o ba safle yr edrychwn arni, gwelwn y ddwy wedd hyn arni. Wrth geisio ei dadansoddi o gyfeiriad y dynol, cyfarfyddwn ynddi âg elfenau o fywyd, nerth, purdeb, hunan—aberthiad, na pherthynant o gwbl i ddynoliaeth. Deuwn wrth ei hystyried o gyfeiriad y dwyfol ar draws gwythienau o wendid, meddalwch, ffolineb, bydolrwydd, hollol estronol i ddwyfoldeb. Golyger hi o bob tu, a chanfyddir fod tylodi a gwaradwydd dyn a golud a gogoniant Duw, yn cydgyfarfod ynddi. Y mae tywyllwch amser a goleuni tragwyddoldeb yn ymgymysgu yn ei hawyr. Clywir yn ei phyrth ubain chwerw y ddaear a pheroriaeth orfoleddus y Nef. Ynddi hi y mae Cariad annherfynol yn ymgeleddu dynoliaeth ysig a dall; a bydd tragwyddoldeb diddiwedd yn ymborthi ynddi ar y gwledd—oedd a ddarparodd tragwyddoldeb diddechreu.

"O! Salem bur, O! Sion wiw,
Fy nghartref i a chartref Duw."

Fel hyn, oddiwrth yr Arglwydd y cychwynodd yr Eglwys, ac o hono Ef yr hanodd. Ac yn ychwanegol at fod yn waith iddo yn effaith meddylgarwch a chariad anfeidrol, y mae yn ei gynnwys Ef ei hun. Yn nhragwyddoldeb, yr oedd yr Eglwys yn Nuw; mewn amser, y mae Duw yn yr Eglwys. Ac y mae hi yn deilwng o hono Ef. Yn wir, y mae pob peth a wnaeth—pob seren ac angel—yn deilwng o hono; ond y mae rhai o honynt yn cynnwys mwy o hono Ef ei hun nag eraill. Ac o bob peth a ddeilliodd oddiwrtho ac o hono, yr Eglwys sydd yn cynnwys mwyaf—mwyaf o feddwl a chalon, o fywyd a golud y Jehofah. Tardd hi o ddyfnderoedd is a gloewach ynddo na dim arall. Oddiwrtho Ef y cychwynodd holl wrthddrychau anian, ac Efe sydd yn eu cynnal; ond rhydd le mawr i ail achosion mewn creadigaeth a rhagluniaeth. Y mae wedi rhwymo â deddfau y bydoedd i gadw eu cylchoedd, a hwy a ufuddhant; ac y mae wedi ordeinio i holl greaduriaid y byd hwn lïosogi eu hunain, a gwnant hynny drwy yr oesoedd. Defnyddia offerynau yn yr Eglwys; ond y mae hi yn ymddibynu yn fwy digyfrwng arno, ac yn derbyn ei bywyd yn fwy uniongyrchol o hono, na dim arall. Ni fyddai yn ormod dywedyd ei bod, fel y mae y Mab yn cael ei genedlu yn ddiddechreu ac yn ddiddiwedd o'r Tad, ac fel y mae yr Ysbryd Glân yn deilliaw o'r Personau eraill o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,—ei bod yn llifo yn barhaus allan o fywyd unol y Tri. Y mae pob gwir aelod ynddi wedi cael ei eni o Greawdwr yn gystal ag o greadur; ac y mae pob un o honynt, o ganlyniad, yn ddwyfol ac yn ddynol. O herwydd hynny, y mae, er newid yn barhaus, yn aros yr un un o hyd. Fel y mae corff yr henafgwr yr un un yn hollol yn awr ag ydoedd pan oedd ei breswylydd yn faban, er fod ei ronynau cyfansoddawl wedi newid droion, y mae hithau: parha yr un un drwy yr oesoedd, er fod ei defnyddiau yn amrywio yn ddibaid. Gronynau ynddi hi oedd y patriarchiaid; ac wrth iddynt hwy syrthio ymaith, sugnai y bywyd dwyfol oedd ynddi rai newyddion i fewn iddi yn feunyddiol—offeiriaid, prophwydi, a llawer cenedlaeth o saint dienwau a dihanes. Gronynau ynddi hi oedd apostolion a merthyron; ac wrth iddynt hwy gael eu llosgi ymaith i ogoniant, yr oedd yr un bywyd yn ei hadgyfansoddi yn barhaus â Phrotestaniaid, Puritaniaid, Methodistiaid, &c. Nid ydyw wrth ymnewid yn wastadol, yn colli o gwbl ei hunaniaeth. Y mae yn hen iawn; ac y mae yn newydd am byth. Y mae yn berth sydd yn llosgi drwy y canrifoedd; ac nid ydyw wedi cael ei difa hyd heddyw: "Duw sydd yn ei chanol." Ac ar ol bod yn ei harwain drwy lawer nos, yn ei chysgodi mewn llawer tymhestl, ac yn eistedd wrth enau llawer ffwrn i wylied ei llosgfeydd, yn y fuchedd hon, cawn y bydd yn preswylio ynddi yn y fuchedd dragwyddol: "A'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt" (Dat. vii. 13-17).

Gan fod yr eglwys yn ddwyfol ac yn ddynol, y mae hefyd yn dragwyddol ac yn amserol. Onid ydyw ystyr ei henw yn edrych yn y cyfeiriadau hyn? Galw allan—dysgir ni fod y Jehofah wedi gwneyd rhywbeth cyn galw—wedi meddwl a charu. Fel arall y gwna dyn yn fynych—siarad cyn meddwl, ac yna meddwl mewn edifeirwch a chywilydd, gweithredu cyn ystyried, ac yna ystyried yn nghanol carneddau ei anrhydedd ei hun. Ond yr oedd yr Arglwydd wedi arfaethu o dragwyddoldeb bob peth a gyflawnodd ac a lefarodd mewn amser: Eph. i. 4-6. Yn unol â hyn, bodolai yr Eglwys, fel meddylddrych a bwriad, ynddo Ef erioed. O dragwyddoldeb, o ganlyniad, y daeth hi.

Ac y mae y pethau a ddeuant oddiyno yn meddu, gan mwyaf, fywyd, pwysigrwydd, a gogoniant. Gwyddom fod rhai gwaelion iawn—yr ysbrydoedd mwyaf dirywiedig, y gweithredoedd mwyaf ysgeler, &c.—yn myned yno. Medd y rhai a ddeuant oddiyno ryw ardderchogrwydd. Cymerer rhai esiamplau: meddylddrychau tragwyddol wedi magu cyrff, ydyw holl wrthrychau prydferth a mawreddig anian. O dragwyddoldeb yr hanodd gwirionedd, cyfiawnder, a chariad; a phwy a ddichon gwmpasu eu godidowgrwydd hwynt! Gwladychant i raddau ar y ddaear, a hwynt hwy sydd yn cyfrif am hynny o drefn a dedwyddwch sydd ynddi; a phed ymadawent o honi, hi a droai yn dalaeth uffernol. Perthyn i dragwyddoldeb y mae enaid; a phan ymddirywiodd ef, nid oedd o fewn cyffiniau y byd hwn waredwr addas ar ei gyfer. Tad tragwyddoldeb yn unig allasai ddwyn oddiamgylch ei iachawdwriaeth ef; ac Efe a ddaeth yn un o blant bach amser er mwyn gallu gwneyd y gwaith! Felly yn arbenig am yr Eglwys: yn y byd ysbrydol y mae ei chartref gwreiddiol, ac o hono ef y mae yn derbyn ei chynnaliaeth; ac ni ddaeth o hono erioed ddim gwell, ardderchocach, a mwy bendigedig na hi. Cynnwysa mewn gwirionedd yr esiamplau blaenorol, ac oblegid hynny y crybwyllwn hwynt. Er ei mwyn hi y cedwir y greadigaeth wrth ei gilydd. Pe na welai yr haul wrth gyfodi ryw foreu yr un addoldy i dywynu arno, na saint i'w cynhesu mewn bwthyn nac ogof, nid yw yn debyg y cyfodai byth mwy. Y mae yr eglwys yn deyrnas gyfansoddedig o eneidiau—goleuedig a gostyngedig, uniawn a grasol. Ynddi hi y mae cartref gwirionedd, cyfiawnder, a chariad; ac o honi hi yr ymdreiddiant drwy gymdeithas, trafnidiaeth, a gwleidyddiaeth; a phe collid hwynt o honynt hwy, ceid hwynt ynddi hi. Ynddi hi hefyd y mae yr Iesu yn preswylio ar y ddaear: Efe ydyw ei bywyd, ei phriod, ei brenin. Hi ydyw gwraig yr Oen; ac os ydyw yn ffyddlawn iddo, y mae yn dadguddio iddi ddirgelion bendigedig ei galon, ac yn ei gwisgo yn ei ogoniant ei hun. O dragwyddoldeb y daeth, a gwelir ei bod yn cynwys cyfoeth tragwyddoldeb. Nid ydyw yn ddim llai na Duw yn dyfod allan yn ei olud bywiol i gyfarfod tylodi pruddaidd dyn.

Y mae yr Eglwys, er ys miloedd o flynyddoedd bellach, yn preswylio mewn amser ac yn byw ar y ddaear; a naturiol fuasai ymofyn pa fodd y mae wedi, yn, ac i, ymagweddu yn y sefyllfa hon. Ymha ddull y mae debycaf o gyrhaedd ei hamcanion uchaf, a dylanwadu yn fwyaf bendithiol ar ddynion? Pa rai ydyw ei phrif rwystrau, a pha rai ydyw ei pheryglon penaf? Ond ni feddaf hamdden na gofod i wneyd dim mwy na sylwi, fod yn rhaid iddi, wedi dyfod yn ddeiliad amser a lle, gydymffurfio â deddfau amser a lle, a gwneyd hyny heb dori ei chymundeb â thragwyddoldeb. Gwesgir hi i gymhwyso ei hun ar gyfer hinsoddau ac amgylchiadau arbenig y gwledydd y caiff ei hunan ynddynt; ond ni ddylai byth anghofio o ba le y daeth, ac i ba le y mae yn myned. Doethineb ynddi ydyw ymostwng, o fewn ryw derfynau, i gyfreithiau y teyrnasoedd yr ymdraidd iddynt: doethineb uwch ynddi ydyw teimlo yn barhaus fod ei llwyddiant yn ymddibynu, yn gyntaf ac yn benaf, ar iddi ddal i anadlu awyr ac i ymborthi ar ffrwythau ei bro gynenid. Dysgwylir iddi oleuo a phuro amgylchiadau y byd; a bydd yn anhawdd iddi gyflawni hyny heb gymeryd rhywfaint o ran yn ei helyntion; ond dylai wrth wneuthur hyny fod yn ofalus, gan efelychu yr haul; tywyna ei oleuni ef ar bydewau a thraidd ei wres drwy gorsydd heb lychwino eu hunain: felly y rhaid iddi hithau wneyd ymweithio yn fywyd a sancteiddrwydd drwy gymdeithas a masnach heb gyfranogi o'u llygredigaeth, onidê daw yn gwbl ddiddylanwad. Dylai ymdrechu yn feunyddiol i ymgadw yn sefydliad ysbrydol; oblegid y mae wrth golli ei hysbrydolrwydd yn dyfod yn anianol; a phrin y gall ddyfod yn anianol heb ddyfod yn ddaearol; ac nis gall fyned yn ddaearol heb fyned yn gythreulig. Gall dderbyn hyfforddiant oddiwrth afonydd y byd: cymerant hwy ffurf a chyfeiriad oddiwrth arwynebedd y broydd y llifant drwyddynt, a galluogir hwy wrth wneyd hyny i ddyfrhau a thyneru llechweddau a glynoedd gwnaed hithau yn gyffelyb—ymgyfaddasu at yr amgylchiadau ac ar gyfer y sefyllfaoedd y mae ynddynt. Hynny yn wir ydyw ei hanes gwelir hi, fel afon fywiol, yn amgylchynu (gan wylied yn barhaus rhag cyfranogi o laid y byd, a cholli drwy hyny ei holl rinwedd) mynyddoedd duon o anhawsderau a chreigiau gwgus o beryglon, er mwyn gallu ireiddio a ffrwythloni anialwch cras dynol—iaeth. Ond cyferfydd yr Eglwys weithiau â rhwystrau a pheryglon mor fawrion fel nad all eu hysgoi. Ac mewn trefn i ymgymhwyso ar eu cyfer, ni ddylai byth anghofio fod yn perthyn iddi allu i symud mynyddoedd; a phan fydd yn ddigon cref i wneyd hyny, bydd hefyd yn ddigon doeth i wybod pa bryd, pa fodd, ac i ba le i'w symud. "Canys efe a fydd megys pren wedi ei blanu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddiwrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd îr, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho." Onid yw hyn yn ddarluniad cywir o honi hi yn ei sefyllfa oreu? Mewn cyfnodau dirywiedig y mae yn agored i ymddaearoli; gwelir hi yn pryderu, yn ffwdanu, ac yn cyflawni llïaws o bethau annheilwng o honi ei hun. Camgymeriad mawr yw hyny. Y peth goreu all hi wneyd, o dan bob amgylchiad, ydyw bod yn ffyddlawn iddi hi ei hun, a byw allan ei hegwyddorion ei hun; ymagor o hyd i dderbyn o'r dwyfol, a syrthio yn nhylodi amser yn ol ar adnoddau tragwyddoldeb. Nac ofned ei chalon; nid oes berygl iddi drengu. Perthyna tragwyddoldeb diddiwedd yn gystal a diddechreu iddi. Nid oes neb na dim mor hen a hi yn diflanu. Y mae pawb a phob peth sydd am farw, yn gwneyd hyny cyn cyrhaedd yr oedran hwn. Y mae hi wedi byw gormod i farw byth.

Caraswn fanylu ar neillduolion Protestaniaeth, Ymneillduaeth, a Methodistiaeth; ond rhaid ymattal ar hyn. Y mae yr ysgrif eisoes lawer yn rhy faith. Ond nis gallaf derfynu heb ofyn cwestiwn neu ddau, gan adael i eraill geisio eu hateb. Yr ydys wedi bod yn trafod un o wirioneddau mwyaf amlwg a bendigedig y Bibl—presennoldeb yr Arglwydd ymhlith ei bobl; ac ymwasga y gofyniad canlynol arnom, Paham na fuasai yr Eglwys wedi manteisio mwy arno, a phaham na wnai?

Nid yn ddiweddar y darganfyddwyd ef; dysgir ef gydag eglurdeb; cydnabyddir ef yn gyffredinol; deallir ef i fesur; a theimlir ef i raddau, bob amser: paham, gan hyny, na byddai hi drwy y derbyniad o ddadguddiad mor fywiol a grasol. yn fwy goleuedig a sanctaidd, ac yn llawnach o gariad a gobaith, o weithgarwch a hunanymwadiad, nag ydyw? Y mae yn wirionedd mor fawr a gogoneddus, fel y mae yn parhau, er mor gynnefin åg ef ydym, yn newydd a dyeithr i ni. Preswyliad Crist yn y saint, ac ynddynt hwy i gyd—y Person Dwyfol yn byw yn a thrwy bersonau dynol, y Creawdwr yn trigo yn y creadur: dyma y ffaith ryfeddaf tu yma i'r Ymgnawdoliad; ac y mae mor werth—fawr ag ydyw o ryfedd. Paham na byddai cymdeithas gyfansoddedig o bobl fel hyn, yn ëangach a phurach ei dylanwad, ac yn fwy llwyddiannus i ddarostwng cyfeiliornadau a llygredigaethau nag ydyw? Gwna dynion, er iddynt fod yn anianol, bethau ardderchog drwy ddoethineb ac athrylith; ond golyga hyn rywbeth mwy o lawer na hyny—mwy ar rai cyfrifon nag adnewyddiad ysbrydol, a mwy na gras. Nid ydyw yn cynnwys dim llai na bod Duw ei hun yn preswylio yn y credinwyr—fod y gallu a greodd y bydoedd yn cyfanneddu yn eu natur, fod y ddoethineb a feddyliodd yr iachawdwriaeth yn byw yn eu heneidiau, y cariad a arweiniodd Grist i Galfaria yn llosgi yn eu calonau! Meddwn, o ganlyniad, hawl i ofyn, paham na byddent yn llawnach o ostyngeiddrwydd a gwroldeb, o oleuni ac ymgysegriad nag ydynt? "Nyni o Dduw yr ydym:" dyma y broffes fwyaf yr honiad uchaf all creadur wneyd: a ydym ni o ran ein cymeriadau yn ddigon sanctaidd, ac o ran ein profiadau yn ddigon nefol, i gyfateb iddi? Os nad ydym, ni fyn y byd wrando ar ein honiadau; try ein proffes yn wawd.

MYNYDD SEION.

Mwyach nid yw rhu taranau
Sinai yn cynyrchu ofnau,—
Troant ar y llethrau sanctaidd
Yma yn alawon peraidd;
Ymnewidia mellt y Gyfraith
Yn enfysau tlysion gobaith;
Yn grynedig, o dymhestloedd,
Daethum i gyffiniau'r nefoedd.

Bryn Calfaria ei dywyllwch
Heddyw sy'n oleuni heddwch,
Dysg ei holl riddfannau duon
I mi ganu Salmau gwynion;
Drwy rinweddau dwyfol glwyfau
Dringaf Seion ar fy ngliniau;
Caf drwy goron ddrain blethedig
Goron bywyd gwynfydedig.

Ymflagura pob bendithion
Ar lechweddau heulog Seion,
Dydd o haf blodeuog, newydd,
Brofaf ar ei gopa beunydd;
Marw arno mae mhechodau,
Ac ymwella mae fy mriwiau;
Yfaf gariad o'i ffynhonau;
Tyfaf yn ei beraroglau.

Clywaf yma, mewn nefolion
Leoedd, gathlau gwaredigion;
Ymdywynnu ar fy ngwyneb
Mae goleuni tragwyddoldeb;
Mynydd gweddnewidiad dynion,—
Troant arno yn angylion,—
Mynydd eu hesgyniad hefyd—
I ogoniant ac i wynfyd.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dameg y Mab Afradlon
ar Wicipedia

Y MAB AFRADLAWN.

"Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.—Luc xv. 20.

GWNEIR y bennod hon i fyny o dair o ddamegion: un y Ddafad Grwydredig, un y Dryll Arian Colledig, ac un y Mab Afradlawn. Cyfarfyddwn ynddynt â llawer o amrywiaeth o bersonau ac amgylchiadau, o wrthddrychau a phethau; ond rhaid fod yn ymdreiddio drwyddynt hwy, yn gystal a thrwy holl oruchwyliaethau a gweithredoedd yr Arglwydd, ryw egwyddorion o unoliaeth. Dichon nad ydyw yr unoliaeth yma, mwy nag mewn cylchoedd ereill, mor amlwg ag ydyw yr amrywiaeth; ond y mae yn bod. Gwahaniaethant yn eu manylion; cytunant yn eu hanfodion. Ymweithia ysbryd bywyd a threfn drwy yr holl ranau, ac ymgyfeiriant i gyd drwy hynny at un amcan goruchel. Gwelir gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy flaenaf a'r olaf; ond nid oes unrhyw annghysondeb rhyngddynt. Ar ochr ddwyfol yr Efengyl y rhoddir arbenigrwydd yn y ddwy gyntaf; ar yr ochr ddynol iddi y gosodir arbenigrwydd yn y ddiweddaf. Yn ol y naill, Duw sydd yn gwneyd y cwbl; yn ol y llall, dyn sydd yn gwneyd y cwbl. Ac yn achubiaeth pob dyn mewn oedran, y mae y ddau yn cydweithio y mae Duw yn galw, a dyn yn ufuddhau. Felly, cyhyd ag y darllenwn y damegion hyn ar wahan, gwirioneddau hannerog a welwn ynddynt. Trwy wneyd hynny, cenfydd rhai ddiffygion yn Nameg y Mab Afradlawn—y gem llenyddol hwn. Daliant nad oes ynddi Gyfryngwr nac lawn, ac ymofynant am lawn yn y llo pasgedig; a chânt un wrth eu bodd ynddo. Nid wyf fi yn gweled unrhyw angen am y fath beth yma. Os ystyriwn y gwahanol ranau yn ngoleuni eu gilydd, cawn olwg gyflawn ar y gwirionedd; cydymddysglaeria gras Duw a dyledswydd dyn o flaen ein golygon. Dysgir yn rhan flaenaf y drydedd ddameg hon bedair ffaith fawr: ymadawiad dyn â Duw—ymadawiad dyn âg ef ei hun—dychweliad pechadur ato ef ei hun—dychweliad pechadur at Dduw. Y mae y ddwy gyntaf yn wir am bob dyn; ac y mae y pedair yn wir am bob credadyn.

I. YMADAWIAD DYN A DUW.

Dangosir hynyma drwy y gydmhariaeth o fab yn cefnu ar ei dad: A'r ieuangaf, &c. Yn eu hieuenctid y gwna y nifer lïosocaf o bobl y camgymeriadau mwyaf a wnant o gwbl; ac ymddyga miloedd o honynt mor ffol yn y blynyddoedd rhwng pymtheg a phump-ar-hugain oed, fel ag i niweidio eu hunain am weddill eu hoes. Gallwn dynu rhai addysgiadau oddiwrth yr amgylchiad hwn: (1) Prin y gall yr ieuanc feddu llawer o synwyr. Nid wyf drwy hyn yn awgrymu dim tramgwyddus: y mae ambell i fachgen yn gallach nag ambell i ddyn. Cymaint a feddyliaf yw hyn—nad yw y llanc ugain oed mor ddoeth ag y bydd, os gwna gyfiawnder âg ef ei hun, yn ddeugain oed. Un rheswm am hynny ydyw, fod yn yr ieuanc fwy o deimlad nag o reswm, a mwy o nwyd nag o farn. Ymddeffry teimlad ynom yn gynar, a chyrhaedda i rym mawr yn foreu; yn raddol yr ymegyr rheswm; ac nid yw pob meddwl yn ymddihuno i gyd yn y byd hwn. Y mae y llanc mor lawn o nwyd ag y bydd byth; yn araf y daw i feddiant o farn. Gwyddis hefyd nad ydyw dyn, fel rheol, byth yn ymddiried cymaint yn ei ddoethineb a phan y bydd brinaf o honi. Cofia llïaws o honom gyda galar am y cyfnod brwdfrydig a hyderus hwnw, pryd yr oeddym yn siarad yn anffaeledig, ac yn penderfynu cwestiynau ag yr ydym heddyw yn cilio yn ddychrynedig oddiwrthynt. Yn y cyfeiriad hwn y gorwedd un o brif beryglon ieuenctyd. Eu dyledswydd, o ganlyniad, ydyw arafu, ymgynghori â rhieni ac athrawon, a gwylied. (2) Ac ar ol ychydig ddyddiau, &c. Gwelwn yn y geiriau hyn un gwahaniaeth rhwng teimlad a rheswm: y mae y cyntaf bob amser ar frys, ac y mae y diweddaf bob amser yn bwyllog. Y mae chwant yn ddïeithriad ar dân; y mae meddwl yn ystyried cyn penderfynu materion pwysig. (3) A gasglodd y cwbl: nid oedd yn bwriadu dyfod yn ol byth, onide gadawsai rywbeth ar ei ol. Gwesgir llïaws o lanciau i adael eu cartrefi, ac ni ddychwela llawer o honynt iddynt drachefn; ond nid ydyw penderfynu wrth gychwyn na ddeuant iddynt mwyach, yn arwydd ddaionus na dymunol. (4) A gasglodd y cwbl yn nghyd: ystyr hyn yn bresennol fyddai—ei fod wedi troi ei feddiannau yn arian. Rhoddion yr Arglwydd i ni ydyw arian, ac y mae yn eu rhoddi i ni er mwyn i ni eu defnyddio. Y maent yn bethau hynod o hawdd eu gwario; ond y mae yn bwysig i ni eu treulio mewn dull teilwng o honom ni ein hunain, a chymeradwy yn ei olwg Ef. Gweddus ydyw i ni edrych yn eu gwyneb, a mynu eu gwerth am danynt. Ni ddylem ymadael â hwynt os na bydd rheswm a chydwybod yn cymeradwyo hynny. Ni feddai y llanc hwn gymaint o ddoethineb ag a feddai o gyfoeth; a pheth peryglus ydyw llawer o olud gyda phrinder o synwyr. Peryglus meddaf, oblegyd nis gallwn wario arian am oferedd heb wario rhywbeth arall, pwysicach. Pe taflai dyn gan' punt i'r môr, ni chollai, am a wn i, ddim ond can' punt. Pe treuliai y cyfryw swm ar wagedd, treuliai lawer ychwaneg: treuliai ei hun—ei burdeb, ei dynerwch, ei dangnefedd. Y mae y sawl sydd yn prynu llygredigaeth, yn cyneu tân yn ei galon, ac yn hau drain yn ei gydwybod ei hun. Nis gall neb gellwair â drygioni heb wenwyno ei hun, heb gryfhau yr anifail ynddo a thynu y diafol iddo, ei hun. (5) Ystyrier y 14eg adn.: Pa fodd y cododd newyn mawr drwy y wlad hono y fynyd yr aeth yr Afradlawn heb ddim? Nid ydyw yn gwestiwn caled. Ceir yn hanes dynolryw atebiad llawn iddo. Y mae y geiriau yn ddarluniad byw o honynt. Tra y daliai cyfoeth y llanc, yr oedd gan ereill lawer o bethau tai llawnion, drysau agored, a gwynebau siriol; mor fuan ag yr aeth ef yn dylawd, collasant y cyfan. Felly y mae y ddynoliaeth o hyd. Cyhyd ag y gall ein cyd-ddynion ddisgwyl rhywbeth oddiwrthym, meddant allu i gyfranu rywfaint i ni: wedi yr elo dyn yn dylawd, yn arbenig os aiff felly drwy ynfydrwydd a phechod, ni fydd ar neb eisiau ei weled.

Cawn yn y gwr ieuanc hwn ddarlun o drigolion y ddaear i gyd. Un o'r ffeithiau amlycaf a mwyaf cyffredinol yn hanes ein rhywogneth ydyw—ein hymadawiad â Duw: Canys nid oes dyn ni phecha." Gan nad faint o amrywiaeth a welir mewn cenedloedd ac oesoedd, ac wahaniaeth rhwng teuluoedd a phersonau, y mae dynol—ryw i gyd ar yr un tir yn y golygiad hwn, "oblegyd pawb a bechasant." Y mae hyn yn wir am y natur ddynol ac am bob person unigol: Es. liii. 6. Gellir sylwi hefyd fod ein hymadawiad â Duw yn un o'r ffeithiau boreuaf yn ein hanes—hanes y ddynoliaeth a hanes pob dyn neillduol. Mor bell yn ol ydyw Eden! Ac mor wanaidd ydyw adgofion pob un o honom am ei ddiniweidrwydd ef ei hun! Y mae pob dyn yn droseddwr o'r groth. Y mae yn bechadur mor fuan ag y mae yn greadur. Pan gaiff afael arno ei hun gyntaf, cael ei hun, fel y mae y sawl sydd yn cyfodi ac yn myned allan drwy ei hûn yn cael ei hun wrth ddeffro—yn prysuro oddiwrth ei gartref, yn ymbellhau oddiwrth Dduw y mae. Ni raid mynegi mai ymddyeithriad ac ymddirywiad moesol ydyw yr ymadawiad hwn. Mesur ein pechod ydyw mesur ein hymfudiad oddiwrth yr Arglwydd. Y mae dyfnder ein cwymp yn cyfateb i ddyfnder ein llygredigaeth. Pellder yn ansawdd yr enaid, ac nid mewn lle, ydyw y "wlad bell" hon. Y mae hi yn gyfansoddedig o dywyllwch, drygioni, daear—oldeb, hunanoldeb; nis gallwn o ganlyniad, fesur ei phellder mewn llatheni a milldiroedd. Yr ydym o ran lle yn yr agosrwydd mwyaf at ein Creawdwr, oblegyd yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod ynddo bob eiliad; a byddwn felly yn oesoesoedd. Er nad ydym ni yn ei weled Ef, y mae Efe, ar bob amrantiad, yn ein gweled ni. Cymer ein gwrthryfel yn ei erbyn oddiarnom y cymhwysderau i fanteisio ar yr amlygiadau a rydd Efe o hono ei hun; oblegyd drwy feddu goleuui ynom y gallwn werthfawrogi goleuni oddiallan i ni. Onid ydyw llygad mor bwysig a haul? Ac yr ydym wrth bechu yn ei erbyn Ef, yn pechu yn ein herbyn ein hunain—yn pechu ein synwyrau ysbrydol oddiwrthym. Oherwydd hynny, er iddo Ef fod yn haul yn ein ffurfafen foesol, gallwn ni fod yn greigiau dilygaid o dan ei belydron.

Dyma ydyw sefyllfa pechaduriaid,―nyni oll a adawsom Dduw a droisom ni yn ol ato? Y mae lle i ofni na wnaethom i gyd; ac y mae y rhai sydd wedi dychwelyd yn petruso ateb yn gadarnhaol, oblegyd y maent yn ei golli mor aml. Un o brofedigaethau mwyaf y credadyn ydyw, ei fod yn methu ymgadw gyda'r Arglwydd—methu ei garu a methu byw iddo. Os felly, beth am yr annuwiol! Enaid wedi gadael ei Greawdwr—mor ddifrifol ydyw y syniad! Pa beth ydyw afon yn gadael ei ffynonell, ac yn ymgolli yn yr anialwch crás, fel nad yw yn cyrhaedd y môr byth, wrth ysbryd yn myned yn ddibaid ac yn ddi-ddiwedd ar encil dragwyddol, oddiwrth Dduw! Hosëa xiv.

II. YMADAWIAD DYN AG EF EI HUN.

Rhaid fod yr afradlawn hwn wedi gadael ei hun cyn y gallasai (adn. 17eg) ddyfod ato ei hun; ac y mae hynny yn ffaith am bob pechadur. Gadael ei hun—pa fodd y dichon creadur wneuthur y fath beth! Buasai Paul yn deall yr ymadrodd, oblegyd tystiolaetha fel hyn, "Yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â'r cnawd, cyfraith pechod:" rhaid, gan hynny, ei fod ef yn fath o ddau ddyn. Y mae pawb—annuwiolion a duwiolion, felly i raddau mwy neu lai. Y mae ymhob dyn rywbeth uwch ac is, a gwell a gwaeth, cynneddfau ardderchog ar y naill law, y rhai sydd yn cyfansoddi ei bersonoliaeth, yn gwneuthur creadur cyfrifol o hono, ac yn ei gysylltu â'r angel; ac, ar y llall, gwyniau ysgeler a nwydau llygredig, y rhai sydd yn ei ddarostwng ac yn ei ddiraddio at yr anifail. Ymddengys, yn unol â hyn, mai yr hyn a wna y sawl sydd yn gadael ei hun ydyw, gadael ei feddwl a dylyn ei gnawd—gwrthryfela yn erbyn egwyddorion uchaf a goreu ei natur, ac ymollwng o dan arglwyddiaeth ac i wasanaeth ei thueddiadau isaf a gwaethaf.

Dysgir yr un gwirionedd yn 1 Bren. viii. 47: "Os dychwelant at eu calon, &c." Rhaid i ddyn adael ei galon cyn y gall ddychwelyd ati. A gwyddom fod y galon yn rhywbeth mor bwysig, fel y mae yr hwn sydd yn ymadael â hi, yn ymadael mewn gwirionedd âg ef ei hun. Felly y mae yn anianyddol,—cynyrcha unrhyw ddyryswch ynddi hi ddyryswch drwy yr holl gyfansoddiad.

Nis gall y crëadur direswm sydd yn cael ei amddifadu o honi, barhau yn greadur—try yn fater difywyd. Yn gyffelyb mewn ystyr foesol, y mae y sawl sydd yn colli ei galon, yn colli ei hun yn yr ystyr uchaf yn colli ei enaid. Fel mai wrth iddi dderbyn llewyrch yr haul y mae y lleuad yn bod yn bod yn brydferth, ac yn bod yn 'ymarferol i ni, ac nad ydyw heb hynny yn ddim gwell na thalp o ddefnydd tywyll, marw, ac oer yn yr ëangder pell,—felly hefyd gyda golwg ar ddyn: o dan wenau ac yn nghymdeithas Duw yn unig y gall ef hanfodi mewn un—rhyw fri, ac ateb unrhyw ddybenion teilwng. Wrth iddo gefnu arno Ef, ymedy âg ef ei hun, ac ymlygra yn ol mesur ei ymbellhad oddiwrtho. Wrth bechu yn ei erbyn Ef, daw ei reswm yn dipyn o gallineb daearol ac o gyfrwystra pechadurus; syrth ei ewyllys i gaethiwed o dan arglwyddiaeth nwydau llygredig; try ei gydwybod yn fath o sarph ddall, fud, fyddar; ac ymddirywia ei holl natur.

Afreidiol ydyw mynegi nad yw dynolryw i gyd yn pechu yn yr un dull, nac i'r un graddau. Y mae rhai yn gybyddion, ac ereill yn afradloniaid; rhai yn feilchion, ac ereill yn halogedig. Medd llawer o honynt wybodaeth a dawn; ond nid ydynt yn adnabod ac yn caru yr Arglwydd. Enilla rhai o honynt anrhydedd y ddaear, a chariant ryw fath o ddylanwad daionus ar ei thrigolion; ond nid ydynt yn ymdeimlo â thragwyddoldeb, nac yn gweled y Nef. Erys llawer yn bechaduriaid rhesymol a charedig yn annuwiolion moesol a pharchus, ar hyd eu hoes. Ymlygra ereill yn aruthr, gadawant y rhesymol, y moesol, y dynol; a deuant yn ddaearol, yn gnawdol, yn anifeilaidd, yn gythreulig. Tra y mae y pellder oddiwrth feddwl ysbrydol a nefol at un anianol a bydol yn anfesuradwy, nid ydyw y gwahaniaeth rhwng y ddau ddosbarth rhag—grybwylledig, neu rhwng unrhyw annuwiolion, yn fawr iawn. Y maent i gyd ar yr un lithrigfa. Gall y sawl sydd yn amddifad o ffydd ddyfod yn unrhyw beth—yn fwystfil neu yn ddiafol. Nodweddir pob dyn pell oddiwrth Dduw ac oddiwrth ei enaid ei hun, gan ddifaterwch a dideimladrwydd. Yn y sefyllfa hon o anystyriaeth, y mae nos dywyll yn ymgau am dano; ac efe a syrth i gysgu ac i freuddwydio. Breuddwydia ei fod yn wybodus, yn oludog, yn anrhydeddus; ond breuddwydio y mae! Gallwn fwynhau yr olwg ar gwsg priodol—ar faban iach yn cysgu yn mynwes mam brydferth, neu ar gredadyn yn huno mewn tymhestloedd yn nghysgod yr Hollalluog. Ond beth a ddywedwn am enaid annuwiol yn cysgu! Mor arswydus i feddwl ysbrydol yw yr olwg arno! Dyma y ffaith am filoedd o bobl yn y deyrnas hon. Y mae cannoedd o ddynion yn myned o Gymru i uffern yn eu cwsg! Meddylier am y rhagrithiwr—nid ydyw yn gwneyd dim gwell na cherdded ar hyd haen o rew ar wyneb llyn diwaelodion! Y mae y dyn bydol, difeddwl a dideimlad, yn cysgu ar blanc yn y môr! Onid yw y sawl sydd yn feddw neu yn llygredig, yn cyweirio ei wely yn ffau y llew! Y mae y pechadur moesol, cyfoethog, mawr ei barch ac eang ei ddylanwad, yn huno mewn ty sydd ar dân! A ellir dychymygu am rywbeth mwy difrifol ac ofnadwy!

III. DYCHWELIAD PECHADUR ATO EF EI HUN.

Dysgir y mater hwn yn y geiriau canlynol, "A phan ddaeth atto ei hun." Gwel 1 Bren. viii. 46-53, &c. Yr ochr ddynol i achubiaeth pechadur a osodir allan drwy ymadroddion fel hyn; dangosir yr ochr ddwyfol iddi drwy y gair argyhoeddiad, ac ereill cyffelyb. Tra y gallwn, ac y dylem, wahaniaethu, ni ddylem byth ysgaru rhwng y pethau hyn, oblegid gwahanol elfenau yn yr un cyfnewidiad ydynt. Ymweithia y Dwyfol i fewn i a thrwy y dynol; ac y mae y dynol yn ymadnewyddu o dan effeithiau y Dwyfol. O dan ddylanwad yr Ysbryd Glân y gall pechadur edifarhau. Wrth weled ei fod wedi colli y ffordd, cymer ei arwain i rodfeydd y Brenin. Trwy gael ei ddwyn i ganfod ei berygl ac i deimlo ei eisiau, y gellir ei achub yn unol âg egwyddorion ei natur fel creadur moesol. Rhaid ei oleuo cyn y gall dderbyn maddeuant. Felly, er nad oes unrhyw haeddiant mewn argyhoeddiad ac edifeirwch, cymhwysant annuwiolion i dderbyn a gwerthfawrogi haeddiant y Gwaredwr. Gellir gwneyd tri sylw pellach ar hyn:—

1. Gwelwn mai o dan ddylanwad newyn y daeth yr Afradlawn ato ei hun; ond cofiai wrth ddyfod am y llawnder a adawsai: "Pa sawl gwas cyflog, &c.?" Yn ngoleuni ei adgofion am olud a gogoniant ei sefyllfa wreiddiol, y gwelai warth a thrueni ei gyflwr presennol. Wrth feddwl am raslonrwydd ei dad, ac am ddigonolrwydd ei gartref, ymwrolodd, er pelled oddiwrthynt ydoedd, i geisio myned yn ol; "Mi a godaf, &c." Yr un modd, y peth mwyaf priodol i bob crwydryn moesol ydyw ymofyn am yr hen lwybrau. Y peth doethaf all y dyn annuwiol, caled, llygredig, a ddygwyd i fyny mewn teulu crefyddol, wneuthur ydyw, dychwelyd—dychwelyd ato ei hun yn yr ystad oreu a phuraf, yn y cyfnod mwyaf diniwed, a fu arno erioed. Eled yn ol i foreu gwyn ei einioes, pryd yr oedd angylion yn ymddangos iddo yn ei freuddwydion, a phan yr oedd gwlith y nef heb sychu oddiar lwybrau ei fywyd. Galwed yn ol ddyledswydd deuluaidd ei hen gartref. Cofied am dano ei hun yn dringo ar lin ei dad, i ddyweyd adnodau wrtho, ac i wrando ar ei gynghorion, ac am dano ei hun yn plygu wrth ochr ei fam, i adrodd y gweddïau a ddysgasai iddo, ac i dderbyn ei bendithion. Ac odid fawr na bydd iddo wrth wneuthur hyny, gywilyddio, edifarhau, ac ymdrechu adfeddianu diniweidrwydd a gobeithion ei ieuenctid.

2. Y mae dyn wrth ddyfod ato ei hun, yn dyfod at ei reswm. Ac nis gall unrhyw bechadur wneyd dim yn well na dychwelyd at, ac aros gydag unrhyw weddillion o feddwl a synwyr a ddichon fod yn glynu yn ei natur. Galluogir ef drwy hyny i adnabod ei hun i ryw raddau. Ac wrth i oleuni gwelw ac anwadal ei enaid gael ei gryfhau gan lewyrchiadau dwyfol, y mae yn canfod ei hun fel y mae mewn gwirionedd. Gwel mor ddwfn ydyw ei dylodi, ac mor wrthun ydyw ei falchder, ae y mae yn cywilyddio,—mor ddisail ydyw ei gysuron, ac mor ddïwraidd ydyw ei obeithion, ac y mae yn dychryn. Gwel, mewn gair, ffolineb ei bechod; ac y mae yn bwysig dros ben i ni ddeall a theimlo fod drygioni yn ffolineb—y ffolineb mwyaf sydd yn bod. Tra y mae crefydd ynddi ei hun yn rhe—symol, ac yn gwneyd dyn, yn ol fel y mae yn enill dylanwad arno, yn fwy dynol a rhesymol yn barhaus; y mae pechod yn ynfydrwydd, ac y mae yn gwneyd dyn, yn ol fel y mae ei arglwyddiaeth arno yn cynnyddu, yn fwy ynfyd a diryw—iedig o hyd. Gweled hyn y mae pechadur wrth ddyfod ato ei hun, neu gael ei argyhoeddi,—gweled fod bywyd o segurdod ac o anlladrwydd, o falchder ac o gybydd—dod, yn wallgofrwydd yn gamddefnyddiad o amser ac o alluoedd mawrion, yn annghymhwyster ar gyfer tragwyddoldeb, ac yn arwain i warth a newyn annherfynol. Daw i deimlo fod y fath fywyd yn farwolaeth—yn farwolaeth ysbrydol, ac yn rhagredegydd i farwolaeth dragwyddol. Dysgir ef mewn canlyniad i edifarhau oblegyd ei bechod, ac i gashau a gadael ei ddrygioni. Toddir ei natur fel aur mewn tân, nes y bwria ymaith ei sorod, ac y derbynia yn naturiol iddi ei hun ddelw ei Chreawdwr.

3. Wrth i ddyn ddyfod ato ei hun, y mae yn dyfod at ei gydwybod ac nis gall ddyfod at gydymaith gwell. Nid ydyw yn ei dderbyn yn siriol, oblegyd ei fod wedi dirmygu cymaint ar ei gwaharddiadau; ond wrth iddo ef neshau yn ostyngedig y mae hithau yn tyneru. Wrth iddo ddangos tuag ati fesur o barch, y mae, ar ol ymsuddo am flynyddoedd i ddystawrwydd sarug, yn dechreu siarad. Ac wrth deimlo ynddi ei hun, yn adnewyddol, fywyd ac anadl Duw, y mae yn siarad gydag effeithioldeb mawr. Medd lawer o ffeithiau difrifol i'w hadrodd wrtho; oblegyd y mae hi, er pob difaterwch a chysgadrwydd ymddangosiadol, yn gweled ac yn clywed holl gyflawniadau ei oes. Gŵyr am bob gweithred ddrygionus, pob gair gwamal, a phob syniad halogedig, y bu yn euog o honynt erioed. Dengys iddo gynifer o addewidion a dorodd, ac o Sabbothau a halogodd; fel y cymerodd enw ei Dduw yn ofer, y meddwodd, ac yr ymlygrodd, fel y gwrthododd y Ceidwad ac y dirmygodd ei waed! Wrth i'r Ysbryd Glân gydweithio â'r gydwybod, datguddir ger bron yr enaid ddrygioni, yn gystal ag ynfydrwydd, pechod, oblegyd dangosir ef iddo yn ngoleuni deddf a chymeriad Duw. Arweinir ef i ddyfnderoedd ei galon, a chenfydd ei bod yn anialwch; ac y mae yn dychryn yn yr olwg ar ei seirph. Dygir ef i waelodion ei natur; a gwêl eu bod yn llawnion o lygredd ac o ddefnyddiau trueni. Caiff ei hun, ynddo ei hun, yn y byd ysbrydol yn ngolwg mellt ac yn swn taranau tragwyddoldeb; a phrofa rywfaint o ing a chywilydd y damnedigion. Fel y cafodd Israel ei hun unwaith gyda môr y tu blaen iddi, gyda byddin y tu ol iddi, a mynydd uchel ar bob llaw iddi, fel nad allai symud cam, caiff yntau ei hun: tu ol y mae oes o bechu; ar y naill law, y mae cydwybod ddeffröedig; ar y llall, y mae Cyfiawnder dwyfol gyda chleddyf noeth yn ei law; ac y mae uffern ymlaen. Ofer yw ei annog i ddianc yn ol nac ymlaen, ar ddê nac ar aswy; os daw gwaredigaeth o rywle, oddi uchod y daw.

Rhywbeth fel hyn ydyw argyhoeddiad. Y mae o ran ei natur yr un peth yn mhawb; cyfeiria bob amser at rywbeth dyfnach na theimlad—at feddwl a barn; cynwysa gyfnewidiad calon ac ysbryd; ac arweinia i wellhad yn holl gymeriad a hanes pechadur. Ond y mae yn gwahaniaethu mewn ffurf a gradd, ac yn gwneyd hynny yn ol mesur y goleuni fydd yn tywynu ar yr enaid, yn ol y natur frwd neu oer, gyffrous neu dawel, fydd yn cael ei hargyhoeddi, ac yn ol pechadurusrwydd blaenorol y dyn. Y mae yn drobwynt arbenig yn hanes enaid: cyn ei brofi, y mae yn rhedeg yn ddibaid oddiwrth Dduw; rhed ar ol ei brofi yn ddibaid at Dduw. Trwy hyn—trwy gael ei ddwyn i weled ei berygl ac i deimlo ei angen, y gall pechadur ddiolch i a gwasanaethu yr Arglwydd ar ol ei achub. Nis gallai fwynhau y Nef heb hyn, oblegyd nid allai deimlo ynddi ei fod mewn lle gwell nag a haeddodd. Y mae diolchgarwch yn elfen arbenig yn ei gwynfyd hi. Oni châr y gwaredigion weithiau adael o ran eu meddyliau rwysg yr orseddfainc, ac ymweled âg ymylon y wlad, gan edrych dros ei chanllawiau aur, i nos ac ing y pydew diwaelod, i syllu ar ei gadwyni, i ryfeddu na fuasent hwy yn crogi wrthynt, ac i addoli wrth gael eu hunain yn rhyddion mewn gogoniant! Argyhoeddir ni oll, ac edifarhawn i gyd rywbryd ac yn rhywle; pobl felly sydd yn uffern—rhai argyhoeddedig ac edifeiriol bob un. Gallwn, gan hyny, brofi y pethau hyn yn rhy ddiweddar.

IV. DYCHWELIAD PECHADUR AT DDUW.

Y mae dyn wrth ddyfod ato ei hun, yn dyfod at ei Greawdwr. Arweinir ef megys drwyddo ef ei hun at y Gwaredwr. A hyfryd ydyw meddwl ei fod Ef yn parhau (Luc xv. 2) i dderbyn pechaduriaid. Gan nad o ba bellder y deuant, a pha mor dylawd, llygredig, a thruenus bynag, y gallant fod, cânt eu croesawu: Ioan vi. 37. Gan nad beth ydym, fuom, ac a wnaethom, derbyniwn ymwared, ymgeledd, bywyd, a gogoniant ynddo Ef: 1 Tim. i. 15. Gwelir oddiwrth y testyn fod yr Arglwydd yn dysgwyl afradloniaid yn eu holau. Gwna hyny am ddau reswm: yn gyntaf, oblegyd fod ar ddyn eisiau Duw, ac nad all fod byth yn ddedwydd na thawel hebddo, Ni ddysgir hynny mor amlwg yn y ddwy ddameg flaenorol ag y gwneir yn hon. Nid ydyw dafad yn gofalu, cyhyd ag y mwynha ryddid a phorfa, eiddo pwy ydyw. Ac ni waeth gan ddarn o arian fod yn golledig mwy nag yn gadwedig—yn y môr mwy nag yn y banc: y mae yn bwysig i'w berchenog. Yr un modd gyda golwg ar filoedd o bethau a gollir, yr hwn sydd yn colli, ac nid yr hyn a gollir, sydd yn teimlo, ac efe sydd yn llawenhau wrth gael yr eiddo. Ond y mae yn enaid pechadur ddyhead greddfol am ei Greawdwr, a rhywfaint o duedd i ddychwelyd ato. Ar y llaw arall, y mae ar Dduw eisiau dyn; ac y mae mewn Creadigaeth, Rhagluniaeth, ac Iachawdwriaeth, yn defnyddio moddion afrifed i geisio ei ddwyn yn ol. Ac wrth iddo ddyfod, caiff Ceidwad a chadwedig lawenychu ynghyd,—caiff y diweddaf fywyd tragwyddol, a chaiff y Cyntaf ogoniant tragwyddol.

Gwyddom hefyd fod yr Arglwydd yn gwahodd ac yn cymhell pechaduriaid gyda serchawgrwydd a thaerineb rhyfeddol, i ddychwelyd ato: Es. xlv. 22, lv. 1-3, Matt. xi. 28-30, &c. Yn gyson â hyn, dangosir Ef yma fel tad yn dysgwyl ac yn edrych am ei fab yn ol: "A phan oedd efe etto ym mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef." Dywedir fod cariad yn ddall; camsyniad mawr yw hynny. Er nad ydyw yn cyhoeddi colliadau a beiau ar benau yr heolydd, y mae yn eu gweled, ac nid oes neb na dim a ddichon geryddu am danynt fel efe. Ond y mae, mewn modd arbennig, yn graff i ganfod daioni a diniweidrwydd, tylodi a thrueni. Mor glir raid fod golygon Cariad anfeidrol! Mor bell y mae yn gweled! Wrth weled, tosturiodd y tad, "ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd." Canlyniad dychweliad yr Afradlawn oedd llawenydd o bobtu. Fel yr oedd y bugail ac yr oedd y wraig yn llawenychu oblegyd darganfod eu heiddo, ac fel yr oedd hynny yn gysgod o lawenydd uwch,—"felly y bydd llawenydd yn y nef" ac "y'ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao," y cawn yma dad yn llawenychu oherwydd dychweliad ei fab: 22-24. Yn swn edifeirwch y mab y llefarai y tad yr adnodau hyn: A ydyw yn briodol i ni, wrth i ddyhirod fel hwn geisio aelodaeth yn ein heglwysi, lawenychu? Nid ydym wedi arfer gwneyd. Yr ydym yn hytrach, a barnu wrth yr esiampl hon, wedi bod yn rhy sarug wrthynt, ac yn rhy amheus o honynt. Bywyd o lawenydd ydyw crefydd i fod; un o brudd-der i raddau helaeth ydyw wedi bod yng Nghymru. Y mae gan y byd ei ddifyrion; oni ddylai fod, ac onid oes, gan yr Eglwys rai hefyd? Cynnelir gwleddoedd, a phob math o rialtwch, ar briodasau, genedigaethau, a dyfodiad etifeddion daearol i oed; oni ddylai Crefydd ymwynfydu yn ei ffordd ei hun wrth i bechaduriaid edifarhau, cael eu haileni, a phrofi cymundeb â Duw? Cawn yn y ddameg hon, yn ychwanegol at fwynhad yr Eglwys ar y ddaear, gysgod o lawenydd tragwyddol y Nef. Mor gyflawn fydd ei gwynfyd! Eneidiau iach, hollol sanctaidd, a pherffaith ddedwydd ynddynt eu hunain, mewn amgylchiadau hollol ddymunol o ran cyfoeth, gwlad, awyr, golygfeydd, a chymdeithas mor naturiol iddynt, ar ol ofnau a dagrau y ddaear, fydd gor—foleddu a moliannu! Cânt yfed byth bythoedd o afon hyfrydwch Duw: Es. xxxv. 10. "A hwy a ddechreuasant fod yn llawen." Pa bryd y darfyddant? Pa bryd y terfyna y neithior, y derfydd y wledd, ac y bydd y canu drosodd! Pa bryd y derfydd tragwyddoldeb, ac y gedy Duw ei orseddfainc!

A ydym ni wedi dychwelyd at yr Arglwydd? Bwriada pawb wneyd. Gwyliwn aros yn rhy hir! Diangodd llawer bachgen mewn ystyr naturiol, oddi cartref, ac arosodd, er teimlo yn fynych awydd dychwelyd,—arosodd mor hir nes cael, pan y daeth, ei hen gartref yn furddyn, ei frodyr wedi ymwasgaru, a glaswellt hir yn tyfu ar fedd ei rïeni. Gochelwn ymdroi gormod! Y mae y cyfleusterau yn diflanu!

ADFERIAD.

Wrth inni gefnu ar rodfeydd ein Tad,
Gadawsom ffynnon bywyd a mwynhad;
O hedd Garisim, ac o Eden well,
Dros lawer Ebal, i ddiffaethwch pell,
Melldigaid, nad alwasai Duw i fod,
Gwibiasom mewn gwallgofrwydd balch, dan rôd
Ddi-loer, ddi-haul; crwydrasom oll i lawr—
O byrth y Nef hyd finion uffern fawr;
Yn annuwiolion duon mewn tymhestloedd,
Ymgreiniem mewn anobaith am ganrifoedd.

Wrth adael ein Creawdwr, ciliai gwrid,
A nerth a rhinwedd, ein dynoliaeth brid;
Wrth ymddiraddio, ymddirywiem fyth,—
Ai eryr rheswm yn ddallhuan lyth;
Cydwybod ynnom droai'n wiber ddall;
Preswyliai dreigiau yn ein calon fall;
Gwenwynodd pechod ysbryd, chwant a serch,
A gwnaeth o honynt eirth a gwylliaid erch;
Yn nheml yr Ior—yr enaid garai gymaint,
Teyrnasai Satan yn ei holl ddigofaint.

Yn nos ein hanes ymddangosai sêr
Yn raddol, gan wasgaru llewyrch têr;
Ar auaf gwarth a gwae ein tryblith pell,
Ymdorrodd haf yr addewidion gwell;
Ymrodiai Duw mewn cnawd drwy laid ein byd,
Ac ymgynhesodd bywyd. Mae o hyd
Yn tywys pechaduriaid ysig, ffol,
Er gwaethaf llid drygioni, yn eu hol—
Yn ol drwy foroedd, fflamau, dieifl, a dioddef,—
O bob anialwch, yn ddiogel adref.


Derbyniwn wrth ddychwelyd at ein Duw,
Ein hunain mewn gogoniant newydd, byw,
Daw annuwiolion halog dan y Groes.
Yn frodyr i gerubiaid pur mewn moes;
O Haul Cyfiawnder ymdywynna dydd.
Y Nef i nos gyffrous eneidiau prudd;
Ymgilia bleiddiaid llygredigaeth; cân
Eosau gwynfyd mewn calonnau glân;
Anadlwn beraroglau Pren y Bywyd
Yn nglynnoedd oerion Amser drwy yr Ysbryd.


GRAS EIN HARGLWYDD IESU GRIST.

"Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef."—2 COR. viii. 9.

CAWSAI Cristionogion Judea oddeutu yr amser yr ysgrifennid yr Epistol hwn, eu darostwng drwy erlidiau, rhyfeloedd, newyn, &c., i gyfyngderau mawrion. A gelwid ar saint y gwledydd cylchynol, fel y gwelir oddiwrth lïaws o gyfeiriadau yn y Testament Newydd, i wneuthur casgliadau tuagat gyflenwi eu hangenion a lliniaru eu helbulon. Ymddengys felly nad yw gwaith rhai pregethwyr, a llawer o flaenoriaid, yn annog credinwyr i gyfranu arian at achosion crefyddol a dyngarol, ddim yn gymaint o newydd—beth anianol, a chroes i ysbryd yr Efengyl, ag y mae rhywrai yn ei ystyried, oblegyd cawn Apostol yn gwneyd hynny yn y pennodau hyn. Rhydd ddwy (viii., ix.) bennod—dwy allan o dair-ar-ddeg, i drafod y pwnc, a gwna hynny yn helaeth ac yn fanwl. Gesyd ef allan yn ei natur ac yn ei ddylanwad, yn ei gymhelliadau ac yn ei amcanion. Dengys ei fod yn ddyledswydd ac yn fraint, yn rhwymedigaeth ac yn fendith. A gallai darlleniad ystyriol o'r pennodau hyn ddylanwadu yn iachusol ar lawer o aelodau eglwysig y dyddiau presennol. Un o neillduolion yr ymdriniaeth ydyw, yr enw a roddir ynddi ar gyfraniadau arianol neu haelioni crefyddol: fel gras y sonir yn barhaus am y peth. A gwneir hynny am reswm digonol—am ei fod yn tarddu oddiar ras, yn profi gras, ac yn meithrin gras. Cymhellir y Corinthiaid yn nechreu y bennod hon i efelychu saint Macedonia, y rhai a wnaethant, a hynny "mewn mawr brofiad cystudd," a "dwfn dlodi," gasgliadau rhagorol. Dysgir hwy hefyd fod hynny yn angenrheidiol tuagat berffeithiad eu cymeriadau Cristionogol hwynt. A dang—osir, ymhellach, y byddent wrth arfer haelioni yn dylyn, i ryw raddau, esiampl ddigyffelyb y Gwaredwr ei hun: oddiar ras y gweithredai Ef, "Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, &c."

Gwedi i mi fel hyn egluro cysylltiad ac amcan gwreiddiol yr adnod hon, goddefir i mi ei defnyddio, bellach, i amcanion cyffredinol yr Efengyl. Cynhwysa grynodeb tra chyflawn o honi; cawn ynddi bedwar gwirionedd pwysig (1) Sefyllfa wreiddiol ein Hiachawdwr—" ac yntau yn gyfoethog;" (2) Ei ymddarostyngiad—"iddo ef *** fyned er eich mwyn chwi yn dlawd;" (3) Cymhelliad ei ymddarostyngiad—" Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist;" (4) Amcan ei ymddarostyngiad "fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef."

I. SEFYLLFA WREIDDIOL EIN GWAREDWR.

Dysgir ni ei fod yn bod cyn iddo ymddangos ar y ddaear. Yma, o ran dim a ddeallwn ni, y mae dynion yn dechreu bod. Ychydig iawn, y mae yn wir, a wyddom ni am darddiad eneidiau; ond gwyddom na fedd yr un o honom ymwybyddiaeth o, nac adgofion am, sefyllfa flaenorol i hon. Mor wahanol oedd yr Arglwydd Iesu! Tystiolaethai Ef am dano ei hun—"Cyn bod Abraham, yr wyf fi." A gallasai ddywedyd ei fod yn bod o flaen Adda, ac o flaen pechod.—" Ac y mae efe cyn pob peth,"—"y mae," nid yr oedd; oblegyd ni pherthyn iddo Ef orphenol na dyfodol. Y mae yn bod cyn awyr ac amser, cyn angylion a cherubiaid—"cyn pob peth." "Yn y dechreuad yr oedd y Gair": defnyddir "yr oedd," ac nid mae na deuai, yn y cysylltiad hwn, er mwyn dangos nad oedd y dechreuad yn ddechreuad iddo nac arno Ef. Wrth i fater gael ei greu, ac wrth iddo ymffurfio yn heuliau ac yn fydoedd, yr ydoedd Ef yn bresennol. Yr oedd, wrth i adar ganu ac i flodau berarogli gyntaf, yn arolygu y cyfan. Cawn, yn wir, mai Efe "yw y dechreuad." Yr oedd, ac y mae yn hanfodi o angenrheidrwydd; y mae yn byw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb. Yn ychwanegol at fod erioed, yr oedd yn bod "gyda Duw:" nid ynddo fel gallu neu ddylanwad, ond gydag Ef fel Person gwahaniaethol oddiwrtho, a chyfartal iddo. Efe ydoedd ac ydyw "delw y Duw anweledig;" a daliai y cymundeb mwyaf gwynfydedig âg Ef. Dysgir ni yn gyson à hyn, ei fod Ef "yn ffurf Duw," a chyfranogai drwy hynny o holl briodoliaethau ac o holl urddas y Duwdod. Pa fodd y gall iaith fach, dylawd, y ddaear, ddarlunio yr Hwn oedd "yn ddisgleirdeb gogoniant" y Jehofah, "ac yn wir lun ei Berson Ef!" I goroni y cyfan, cawn fod y Gair yn Dduw—mai "Duw oedd y Gair." A chan ei fod yn yr ystyr fanylaf ac uchaf yn ddwyfol, rhaid fod ei sefyllfa wreiddiol yn gyfryw ag y buasai yn annichonadwy iddo Ef, heb son am angel na dyn, feddwl am un well ac uwch.

Meddylier yn awr am dri gair a ddefnyddir yn y Bibl: duwdod, (Col. ii. 9), dwyfoldeb (Rhuf. i. 20), a duwioldeb, ac am yr olaf yn mlaenaf. Nid ydym wedi arfer siarad am Iesu Grist fel un duwiol; ond ni byddai yn anaddas golygu ei fod ar y ddaear yn dduwiol. Gan nad pa un ai cariad, parch, ufudd—dod, tebyg i eiddo plentyn at ei dad, mewn creadur at ei Greawdwr, ai mesur mwy neu lai o debygolrwydd i Dduw, a olygir wrth dduwioldeb, yr oedd ein Harglwydd ar hyd ei oes yn y byd hwn, yn byw ei ystyr i berffeithrwydd. Ond ni fuasai neb ag oedd yn ei adnabod cyn ei ymgnawdoliad, yn meddwl son am dano fel un duwiol—tebyg i Dduw, oblegyd yr oedd yn Dduw; nac ufudd i Dduw, oblegyd yr oedd yn ogyfuwch â Duw. Y dyrchafiad mwyaf y mae dyn yn agored iddo, ydyw cael ei wneyd yn dduwiol: yr oedd yn rhaid i Grist ymddarostwng yn anfeidrol cyn y gallasai o gwbl ddyfod yn dduwiol. Canfyddai dynion, wrth iddo fyw yn eu mysg, ei fod yn feddianol ar ddwyfoldeb. Amlygai iddynt briodoliaethau dwyfol. Gwelent ynddo ddyn, tebyg iawn iddynt hwy eu hunain, yn cyflawni gwyrthiau,—tröai y dwfr yn win a chyfodai feirwon ger bron eu llygaid. Yr oedd yr angylion ag oeddynt yn ei adnabod yn nhragwyddoldeb, wedi gweled mwy na dwyfoldeb ynddo,—yr oeddynt hwy wedi bod yn addoli ei dduwdod am filoedd o flynyddoedd. Cyfranogai erioed o fywyd a sylwedd, ac, o ganlyniad, o wynfyd a gogoniant, yr Hanfod Ddwyfol; a chawn Ef ar y ddaear yn gweddïo am danynt yn ol: Ioan xvii. 5.

Mor briodol, gan hynny, ydyw mynegiad yr adnod hon am dano yn ei sefyllfa wreiddiol," Ac yntau yn gyfoethog"! Meddai gyfoeth y Duwdod. Y mae dau fath o olud yn bod—mewnol ac allanol. Medd rhai dynion yr olaf heb y cyntaf: pe na buasent yn werth aur neu dir, ni fuasent yn werth dim. Medd rhai ereill y blaenaf heb y diweddaf; y mae eu cyfoeth i gyd yn gynnwysedig o athrylith, sancteiddrwydd, neu gariad; ac felly y mae yn bod ynddynt hwy eu hunain. Gyda golwg ar y mwyafrif o bobl, meddant rywfaint o bob un; ac y mae rhywrai nad oes dim ynddynt na dim ganddynt.

Yr oedd yr Arglwydd Iesu er ys miloedd o flynyddoedd cyn ei ym—gnawdoliad, yn meddu golud diderfyn y tu allan iddo Ef ei hun. Cynnaliai fydoedd afrifed à gair ei nerth; ac yr oedd miliynau o greaduriaid o bob math, maint, a llun, yn disgwyl wrtho, ac yn eiddo iddo. Ond buasai yn ei sefyllfa fwyaf gwreiddiol a hanfodol, yn llawer hwy heb ddim oddi—allan iddo ei hun. Nid oedd na haul na thywodyn yn ymddibynu arno, na cherub nac abwydyn yn ufuddhau iddo. Yr oedd tragwyddoldeb yn anfeidroldeb mud; ei unig breswylydd oedd y Duwdod yn Drindod o Bersonau. Er hynny, ni bu Iesu Grist erioed heb gyfoeth annherfynol ynddo Ef ei hun. Cynhwysai ei natur adnoddau anhysbyddadwy. Meddai alluoedd diderfyn i feddwl a charu, i greu a chynnal, i gyfranu a llywodraethu. Yn ei amser ei hun, rhoes ei alluoedd ar waith, a chanlyniad hynny oedd creadigaeth lawn o fywyd a threfn, o brydferthwch a dedwyddwch. "Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth" (Ioan i. 5); ni chyfarfu â dim ag oedd yn ormod iddo allu ei gyflawni; ac nid oes mewn unrhyw fyd ddim ag sydd yn rhy fach iddo sylwi arno. Gwelwn hefyd fod yr Hwn oedd yn ddigon mawr i fod yn achos ac yn awdwr y greadigaeth, yn ddigon mawr i fod yn amcan ac yn wrthrych iddi (Col. i. 16): "erddo ef." A hyfryd ydyw meddwl nad aeth ei olud mewnol yr un gronyn yn llai wrth iddo alw ei holl olud allanol i fod. Yn y sefyllfa hon—yn y meddiant o gyfoeth annherfynol, ac yn y mwynhad o wynfyd annhraethadwy a gogoniant anfeidrol, yr oedd yr Arglwydd Iesu cyn ei ymgnawdoliad: y fath hunanymwadiad oedd yn angenrheidiol i gefnu arni!

II. YMDDAROSTYNGIAD Y GWAREDWR.

1. Y ffaith nesaf am dano ydyw, iddo Ef ag oedd "yn gyfoethog," ddyfod er ein mwyn ni yn "dlawd." Golyga hyn, yn gyntaf, wahaniaeth yn ei sefyllfa—cyfnewidiad yn ei amgylchiadau; ac ni fu erioed, ac ni fydd byth, gyfnewidiad mor fawr a hwnnw yn ystad neb. Symudodd o un byd i fyd arall; gadawodd y mwyaf a goreu, ac ymbabellodd yn yr un gwaethaf a thruenusaf. Yr oedd yn frenin yn y cyntaf; ni feddai le i roddi ei ben i lawr yn y diweddaf. Daeth yr uchaf yn isaf―y gogoneddusaf o bawb, y "diystyraf o'r gwyr." Ymddarostyngodd yr Hwn oedd erioed yn fendigedig nes dyfod yn "wr gofidus a chynnefin â dolur." Newidiodd beroriaeth y Nef am gabledd y ddaear, ac addoliad angylion am wawd pechaduriaid: "Yr hwn yn lle y llawenydd a osodwyd iddo, a ddïoddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd." Yr ydym wrth edrych i fyny yn canfod tyrfaoedd o ser prydferth; gallwn o ran ein meddwl esgyn uwchlaw iddynt oll—at ddinas Duw, y Jerusalem nefol. Gwelwn yn hono orseddfeinciau dirif yn ymgodi—un res uwchlaw un arall, a phob un yn ddysgleiriach na'r haul.

Yn ymddyrchafu uwchlaw iddynt oll, y mae gorsedd y Jehofah: ar hono yr eisteddai Crist, ac oddiar hono y cychwynodd. Meddai, o ganlyniad, ffordd faith i ddisgyn yn y Nef. Pasiai orseddfainc ar ol gorseddfainc; deuai i lawr heibio i radd ar ol gradd o seraphiaid. Cyrhaeddodd hyd y ddaear, ac yr oedd hi drwy ei gwrthryfel ystyfnig yn mhell iawn oddiwrth y Nef y pryd hwnnw; nid ydyw yn ein profiad ni mor bell oddiwrthi yn bresennol. Rhaid fod ein Harglwydd ar ei daith ryfeddol rhwng y ddwy, wedi pasio llawer o heuliau; ac nid ydynt hwy yn gymydogion agos. Gwelodd fydoedd mwy ac ardderchocach na hwn; ond nid am y mwyaf nac am yr ardderchocaf, ond am un tylawd a llygredig, yr edrychai. Am blaned grwydredig yr ymchwiliai. Nid oedd ar fydoedd annirywiedig eisiau Iachawdwr; a phe troisai i un o honynt, ni chawsai elyn i Dduw yn yr un o honynt. I'r ddaear y daeth, oblegyd ynddi hi yr oedd pechod. Yma yr oedd angen am Waredwr, ac yma yr oedd Croes ar ei gyfer. Onid gweddus ydyw i ni ymddiried yn yr Hwn a adawodd wynfyd perffaith a gogoniant nefol er ein mwyn ni?

2. Cynhwysai ymgnawdoliad Crist ychwaneg na hyn. Yr oedd yn rhaid i ryw gyfnewidiad gymeryd lle ynddo Ef ei hun cyn y gallasai ei amgylchiadau newid. Gall dyn fyned o gyfoeth i dylodi, ac o dylodi i gyfoeth, heb newid ei rywogaeth; ond nis gallai Duw, fel Duw, fyned i brinder a chyfyngder. Cyn y gallasai ein Harglwydd brofi newyn ac ing, yr oedd yn rhaid iddo Ef ei hun ddyfod yn rhywbeth na buasai erioed. Ymddarostyngodd o ran natur yn gystal ag o ran sefyllfa. Dysgir hyn yn eglur yn Phil. ii. 5-8. Gwelir yn y geiriau fod Duw wedi dyfod yn ddyn, ac wedi dyfod yn was, fod y gwas wedi dyoeddef hyd angeu, a bod yr angeu hwnnw y math mwyaf poenus a gwaradwyddus y gallasai gelyniaeth ei hun ei ddychymygu. Gwelir felly fod yr Arglwydd Iesu yn disgyn yn deilwng o hono ei hun; dangosai fawredd wrth ymostwng. I Dduw yn unig yr oedd camrau mor freision a'r rhai hyn yn ddichonadwy. Meddianai sefyllfa mor uchel, fel yr oedd myned yn uwch—yn annichonadwy; disgynodd gymaint, fel yr oedd yn annichonadwy myned yn is.

Daeth Ef ag oedd erioed yn Dduw yn ddyn—yn ddyn mewn gwirionedd yn gystal ag mewn ymddangosiad. Yr oedd yn feddianol ar—ac eithrio personoliaeth—bob elfen hanfodol i ddynoliaeth. Ffurfiwyd Ef yn mru, a maethwyd Ef o sylwedd y wyryf. Ganwyd Ef o honi fel ryw faban arall. Cynnyddai o ran ei gorff, ac ymagorai o ran ei enaid, fel plentyn arall: Luc ii. 40 a 50. Cyfranogai o holl wendidau dibechod ein natur: newynai ac ymborthai, blinai a chysgai, fel dynion ereill. Daeth Tad tragwyddoldeb yn ddarostyngedig i ddeddfau amser. Cafodd yr Hollalluog ei hun yn wan, a gorweddai rhyw bethau y tuallan i gylch gwybodaeth yr Hollwybodol ei hunan. Teimlodd y Creawdwr oddiwrth derfynau a diffygion, ac oddiwrth angenion a thrallodion, y creadur. Hwn oedd yr ymddarostyngiad mawr, a sail pob ymddarostyngiad arall. Dyma yr amgylchiad rhyfeddaf a gymerodd le erioed, ac a gymer le byth. Y mae pob rhyfeddod yn myned yn gyffredin yn ymyl hon. Buasai credu hyn, oni buasai fod ei wadu yn bechod, yn rhyfyg.

Meddylddrych anmherffaith iawn a feddwn ni am yr hyn sydd yn fawr ynddo ei hun—am fawredd annherfynol. Am y cydmhariaethol y gŵyr dyn rywfaint; gweled y mae ef fod gwrthrych yn fawr neu yn bell mewn cydmhariaeth i wrthrychau ereill. Y mae yr Iwerddon wrth i ni yma ei chydmharu ag ynys Môn, yn myned yn fawr a phell; ond ymddengys wrth i ni ei chydmharu ag America, yn fechan ac yn agos. Eithr y mae y gwahaniaeth rhwng Duw a dyn—rhwng bod yn Arglwydd y gogoniant a bod yn ffoadur daearol, yn fawr ynddo ei hun—mor fawr fel nad ellir ychwanegu ato. Nis gellir meddwl am un mwy. Pe gwnelid pob pellder terfynol yn un, byddai hwnnw gymaint yn llai nag ef ag a fyddai y pellder lleiaf y gellir dychymygu am dano. Cafwyd Creawdwr nefoedd a daear yn huno ar liniau gwraig! Troes bara y byd hwn yn gynhaliaeth i Gynhaliwr y greadigaeth! Bu Duw mewn cnawd yn tyfu ac yn cael ei demtio! Clywwyd yr Hwn a fuasai yn siarad heuliau i fod, yn sibrwd yn wannaidd—" os yw bossibl!" Cymerwyd yr Hollalluog yn garcharor gan ei greaduriaid ei hun! Gwelwyd yr Hwn a gynhaliai y bydoedd yn blino dan bwys ei Groes! Wele ddyfnder o ymddarostyngiad ag y byddai yn ofer i un cerub ymdrechu ei fesur! Gobeithiaf ein bod ni yn gallu rhyfeddu a charu ac addoli wrth feddwl am dano.

3. A allwn ni fyned yn mhellach na hyn? A ydym i feddwl fod Mab Duw wrth ddyfod yn rhywbeth na buasai erioed, wedi peidio bod yr hyn oedd o dragwyddoldeb? A ddarfu iddo wrth ymgymeryd â dynoliaeth, golli ei Dduwdod? Gwyddom iddo adael y Nef, a phob dedwyddwch ac urddas a berthynai iddi, gan ddisgyn hyd y ddaear, a threulio ei oes mewn tylodi eithriadol arni. A raid i ni gredu ei fod yn y cyfamser yn amddifad o hono ei hun fel Duw? Felly deallir adnod y testyn, yn gystal a Phil. ii. 5-8, gan laweroedd. Dysgant ei fod, gan nad beth am gariad a sancteiddrwydd anfeidrol, wedi ymddyosg o hollwybodaeth, hollalluawgrwydd, hollbresennoldeb—o bob priodoledd naturiol. Rhoddodd heibio ei ymwybyddiaeth ddwyfol, ac ymddyeithriodd iddo Ef ei hun. Daeth yn dylawd, nid yn unig o feddiannau a gogoniant allanol, ond yn dylawd o adnoddau mewnol—yn dylawd o hono Ef ei hun. Prin yr ymddengys i mi fod hynny yn angenrheidiol, nac yn ddichonadwy. Gan nad pa un, ni feddaf fi yn bresennol hamdden i geisio trafod y dirgelwch mawr hwn.

Efallai y byddai yn weddus mynegi i Grist fyned yn y cyfeiriad a nodwyd, mor bell ag yr oedd modd. Ymataliodd am lawer o flynyddoedd rhag defnyddio ei briodoliaethau dwyfol, a chuddiai ei Dduwdod oddiwrth bawb bron ar hyd ei oes. Daeth yn ddyn gwirioneddol, ac yn ddyn syml a thylawd. Ni fu o gwbl yn berchenog unrhyw gyfoeth daearol; ni phrofodd fwynderau cymdeithas; ni fu ganddo erioed gartref ei hun. Gwrthododd deyrnasoedd y byd, a theithiai ar hyd llwybr dreiniog ei hunan. Disgynodd o wynfyd y Nef "i barthau isaf y ddaear; " ac yr oedd yn dylotach arni nag adar yr awyr ac na llwynogod y mynyddoedd. Newidiodd fynwes ei Dad am fwthyn yn Nazareth, a gorsedd Duw am breseb yr anifail. Gymaint yn rhagorach ydyw y sefyllfa isaf yn y Nef nag ydyw yr uchaf ar y ddaear! Meddylier am yr uchaf yma ac am yr uchaf yno, a chydnabyddir fod y gwahaniaeth rhyngddynt yn annrhaethol fwy. Pa faint yw y pellder rhwng eigion y byd a deheulaw y Mawredd yn y goruwchleoedd! Rhaid mesur hwn mewn trefn i fesur ymddarostyngiad ein Harglwydd. Y'fath gyfnewidiad iddo Ef ag oedd wedi byw erioed yn ëangder gogoneddus y Nef, oedd byw yn amgylchiadau bychain a chyffredin Nazareth! Mor wahanol i foliant cerubiaid oedd athrod dynionach llygredig! Mor brin yr oedd yn cael ei adnabod! O mor brin yr oedd yn cael ei garu! Ar ol deng mlynedd ar hugain o ddinodedd dystaw, treuliodd weddill ei oes yn wrthrych amheuaeth, eiddigedd, a llid, ei genedl; ymlwybrai drwy ddyfnderoedd tywyll o beryglon a gwaradwyddiadau. Gwelodd agendor ar ol agendor o ddirmyg yn ymagor o'i flaen. Galwyd arno i lawer gan ddyfnder ar ol dyfnder o ing. Fel y bradychwyd ac y daliwyd, y gadawwyd ac y gwadwyd Ef! Meddylier am dano yn cael ei holi, ei brofi, ei gondemnio—

"Ei brofi gan wael bryfyn,
A barnu Duw ger bron dyn!"

Mor annynol y cafodd ei sarhau, ei fflangellu—ei drywanu! Derbyniodd yr Hwn a wisgai y goron ddysgleiriaf yn y gogoniant, driniaeth y troseddwr mwyaf dinod ac ysgeler. Gwelwyd Ef yn chwysu y gwaed, ac yn hoeliedig rhwng dau leidr ar bren melldigedig. Yfodd win digofaint Duw; dyoddefodd uffern ei hunan; ymostyngodd o dan lywodraeth angeu. Mor bell oddiwrth orseddfainc y Mawredd oedd bedd newydd Joseph o Arimathea!

"Yn mhlith holl ryfeddodau'r nef,
Hwn yw y mwyaf un,
Gwel'd yr anfeidrol Ddwyfol Fod
Yn gwisgo natur dyn."


III. Y CYMHELLIAD I YMDDAROSTYNGIAD Y GWAREDWR.

Pa beth oedd hwnnw? Gwyddom mai nid oherwydd yr un rhesymau ag yr ymgymer dynion â theithiau, y gadawodd Mab Duw fynwes ei Dad. Cefnant hwy ar fro eu genedigaeth oddiar awydd i wella eu hunain mewn rhyw wedd neu arall i gryfhau eu hiechyd, ychwanegu eu cyfoeth, ëangu eu gwybodaeth, ymofyn dedwyddwch, neu enill anrhydedd. Ond yr oedd hyn gwella ei hun, yn annichonadwy i unrhyw un o breswylwyr y Nef. Ac yr oedd pob cyfnewidiad i Berson Dwyfol yn rhwym o fod yn gyfnewidiad er gwaeth, ac nid er gwell. Gofynai pob cam a roddai ein Harglwydd am hunanymwadiad; yr oedd pob symudiad iddo Ef yn symudiad i lawr, ac nid i fyny.

Naturiol, o ganlyniad, ydyw gofyn, oddiar ba egwyddor y gweithredai. Rhaid ei bod yn un rymus iawn. Gan iddo gael ei dueddu, ar y naill law, i adael gwynfyd a gogoniant y Nef, ac i ymgymeryd, ar y llall, â gwaith mawr a dyeithr, llawn o anhawsderau a pheryglon, cyforiog o waradwydd a gwae, rhaid ei fod o dan arglwyddiaeth y cymhelliad cryfaf a phuraf mewn bod. Nid oedd creu a chynal bydoedd, a diwallu a llywodraethu miliynau o greaduriaid, yn ddim mewn cydmhariaeth i iachawdwriaeth pechaduriaid. Pa beth oedd yn dylanwadu arno? Pa beth allasai beri iddo ddewis tylodi o flaen golud, ing o flaen dedwyddwch, a gwarth o flaen gogoniant? Gras yw atebiad yr adnod hon: "Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist." Cynhwysa hyn ddaioni, cymwynasgarwch, trugaredd annherfynol. Oddiar gariad y gweithredai y Tad wrth roddi y Mab, ac oddiar yr un egwyddor y gweithredai y Mab wrth roddi ei hun: Ioan iii. 16, 1 Ioan iii. 16, &c. Deuai y Diweddaf mor wirfoddol ag yr anfonid Ef gan y Cyntaf. Cariad hunan=gynhyrfiol Duw achosodd y cyfan. Effaith, ac nid achos, ei gariad Ef at ddynolryw oedd marwolaeth y Groes. Nid dyoddefiadau y Gwaredwr gynhyrchodd dosturi yn y galon ddwyfol at bechaduriaid; y tosturi dwyfol yn hytrach gynhyrchodd ddyoddefiadau y Gwaredwr. Amlygiad o gymwynasgarwch tragwyddol ac anfeidrol oedd. bywyd a marwolaeth Crist.

Cariad y Personau Dwyfol—y Duwdod, yw yr eglurhad ar ymddarostyngiad ein Harglwydd. A chan nad faint o warth ac ing oedd yn gynnwysedig yn ei ddarostyngiad, y mae cariad yn eglurhad digonol arno.

Hi yw yr egwyddor gryfaf yn y Nef ac ar y ddaear. Trwyddi hi y galluogir dynion i wneyd y pethau mwyaf a goreu a wnant; ac oddiarni hi tarddodd gweithredoedd penaf a gogoneddusaf y Drindod bendigedig. Meddylier am ei gorchestion ar y ddaear.—Gwelir hi yn fynych yn disgyblu pobl i ddewis tylodi o flaen golud, a dirmyg o flaen anrhydedd. Y mae hunanymwadiad yn beth dichonadwy a naturiol iddi hi. Try bechaduriaid lledryw ac anwadal yn greigiau byw o ffyddlondeb; a gwna ddynionach hunanol yn wroniaid llawnion o hunanaberthiad. Nid oes unrhyw egwyddor mor groes i ysbryd daearol a masnachol, ac mor anesboniadwy i reswm oer, a chariad. Nid oes unrhyw allu yn tori iddo ei hun lwybrau mor newyddion a beiddgar ag ef. Nis gall bydolrwydd a chyfrwystra olrhain rhodfeydd na dirnad ymddygiadau y fath fywyd goruchel. Ymddengys ei weithrediadau uchaf i feddwl anianol a chalon hunanol, yn annaturiol ac yn afresymol mor annaturiol ag yr ymddangosai y ffaith fod y ddaear yn troi o amgylch yr haul i bobl yr oesoedd gynt, mor ddyeithrol bron a phe byddai afonydd y byd, yn lle rhedeg i lawr i'r môr, yn rhedeg i fyny i'r mynyddoedd.

Wrth ystyried fod yr holl allu hwn—y cariad oedd yn ddigon grymus i gymhell y Tad i anfon ei Fab, ac i dueddu y Mab i ddyfod, i'r byd, yn gystal a holl haeddiant marwolaeth y Groes, yn parhau i gyd o blaid ein cadwedig—aeth, gwelir fod genym bob sail i ymddiried a gobeithio a diolch. Gall cariad dyn—creadur bach, a mwy neu lai hunanol a llygredig, gyflawni rhyfeddodau prydferth. Ac os ydyw hyny yn ddichonadwy iddo ef, gymaint yn ychwaneg allai cariad creadur mawr a sanctaidd fel angel ei wneyd! Ac os gall cariad creadur o gwbl gynhyrchu pethau teilwng, pa peth nad allai cariad Duw—Duw anfeidrol mewn mawredd, cyfoeth, a doethineb, ei achosi! "Duw, cariad yw." Tueddu rhieni i amddiffyn eu plant y mae cariad cyfyng dynion; ond yr oedd yn yr Arglwydd ddigon o gariad i achub ei elynion, ac i daraw ei Fab ei hun er mwyn eu hachub hwynt. Cariad awgrymodd i Grist y syniad am adael y Nef, a chan gariad yr arweiniwyd Ef drwy ddyfnderoedd tywyll o dylodi a gwarth, o ing a marwolaeth: Ioan xv. 13. Ac wrth ystyried fod cariad dwyfol wrth wraidd yr iachawdwriaeth, y mae llawer o'i hanhawsderau yn diflanu. Gwyddom fod yn perthyn iddi ddirgelwch a rhyfeddod—dirgelwch nas gall meddwl dyn nac angel byth ei ddirnad i gyd, a rhyfeddod sydd yn coroni goruchwyliaethau Un ag y mae ei weithredoedd i gyd yn wyrthiau; y mae yr Efengyl, yr un pryd, yn naturiol, oblegyd yr ydym yn gallu ei holrhain i achos digonol. Yng ngoleuni cariad a thosturi annherfynol, y mae ymddarostyngiad y Gwaredwr mor naturiol a machludiad yr haul; ac y mae ei daith flinderog yn brydferthach nag un enfys a welwyd ar y ddaear erioed. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag attom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom."

IV. AMCAN YMDDAROSTYNGIAD Y GWAREDWR.

Gwedi egluro mai oddiar gariad yr ymgnawdolodd Mab Duw, priodol ydyw ymofyn pwy oedd gwrthrych ei gariad. Tueddwyd ef i ddibrisio ei hun gan y meddyliau o ddaioni a chymwynasgarwch: pa beth oedd nôd a dyben ei ymdarostyngiad? Gallwn ateb ei fod wrth ddyfod yn ddyn, a byw a marw ar y ddaear, yn ymgyrhaedd at ddau amcan: (1) gwneuthur ewyllys a gogoneddu Duw (Ioan xvii. 4, Heb. x. 7, &c.), ac (2) achub pechaduriaid; a chyrhaeddai y cyntaf drwy y diweddaf. Er mai at ddefaid cyfrgolledig ty Israel y daeth i ddechreu, eglurai yn raddol fod ganddo ddefaid ereill; a chawn Ef cyn y diwedd yn gosod Iuddewon a Chenedloedd ar yr un tir, ac yn cyfarwyddo ei ddisgyblion i bregethu yr Efengyl i bob creadur: Luc xix. 10, a Marc xvi. 15. I achub pechaduriaid—"i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid" o bob llwyth ac iaith, yr ymgnawdolodd Mab Duw. I adfer dynoliaeth, ac nid cenedl, yr ymddangosodd Efe.

Wrth iddo ddwyn oddiamgylch yr amcanion goruchel hyn, ymddengys i ni mewn amrywiol gymeriadau. Cymer ei waith lawer o wahanol ffurfiau. Y mae yr Efengyl mor ëang fel y mae yn rhaid i ni ei hystyried o luaws o gyfeiriadau cyn y gallwn gyrraedd syniad clir am dani, fel y mae yn rhaid i ni, mewn trefn i weled mynydd mawr i gyd, edrych arno o wahanol safleoedd. Y mae cyfatebiaeth berffaith rhwng yr Iachawdwriaeth a choliedigaeth pechadur. Os ydyw yr olaf yn cynnwys marwolaeth, tywyllwch, euogrwydd, llygredigaeth, tylodi, trueni,—cynnwysa y gyntaf ar gyfer hynny—fywyd, goleuni, cyfiawnder, sancteiddrwydd, golud, gwynfyd. Gwelir hynny wrth ystyried adnodau fel y rhai canlynol: Matt. xx. 28; Ioan x. 10 a 28; Rhuf. v. 6 a 8; 2 Cor. v. 21; Gal. iii. 13, 14; iv. 4, 5; Titus ii. 14; Heb. ii. 14; vii. 25; ix. 14; 1 Petr iii. 18; 1 Ioan iii. 5—8, &c. Dangosant fod Crist wedi sylweddoli ei enw o Waredwr i berffeithrwydd.

Yn yr adnod hon, edrychir ar bechaduriaid fel rhai tylodion, ac ar ymddarostyngiad ein Harglwydd fel moddion i ddiwallu eu hangenion: "Fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef." Pa fath gyfoeth a olygir yma? Oddiwrth yr Arglwydd, a thrwy Grist, y derbyniwn ni bob daioni a thrugaredd; ond at fendithion ysbrydol a thragwyddol yn ddiau y cyfeirir yn arbenig yn y cysylltiad hwn. Rhaid cydnabod mai nid at y rhai hynny yr ymgyrhaedda dyn anianol yn gyntaf ac yn benaf. Ewyllys neillduol Duw ydyw cyfranu i ni y golud sydd ynddo Ef; ac yr ydym ninnau yn chwennych o flaen pob peth feddiannu y golud sydd oddiallan iddo. Y mae Ef yn cymhell arnom fywyd, gras, sancteiddrwydd; ac yr ydym ninnau yn dyheu am dai a thiroedd, am aur a gemau.

Ac yn y cyfeiriad hwn y gorwedd un o brif anhawsderau presennol yr Efengyl. Oblegyd y mae dynolryw wrth ymdaflu gydag ymroddiad mawr i helyntion daearol, yn ymddyeithrio i ddyhëadau dyfnaf eu heneidiau. Ni chlywant ubain dystaw eu calonau, ac ni theimlant losgfeydd mudion eu cydwybodau, yn merw cyffrous y byd. Nis gallant, o ganlyniad, weled na phrofi eu hangen am Grist. Nid ydynt ar dir i allu canfod gogoniant ei Berson na gwerthfawrogi ei Aberth. Ac y mae hyn yn wir am lawer iawn o bobl yn yr oes hon. Mor alarus yw y ffaith! Mor bruddaidd ydyw meddwl fod y Gwaredwr bendigedig yng ngolwg miloedd o Gymry heddyw, fel gwerth yn nwylaw ffyliaid! Wrth ei esgeuluso Ef, gwnant, yn ychwanegol at ei sarhau Ef a digio Duw, y camwri mwyaf â hwy eu hunain. Collant, er mwyn trysorau y ddaear, holl drysorau y Nef. Cadwant eu hunain mewn tylodi ysbrydol, a gweithiant eu hunain i newyn tragwyddol. Trengant ar lan môr o fywyd. Felly y mae yn rhaid i holl wrthod—wyr yr Iesu wneuthur; oblegyd ynddo Ef, ac ynddo Ef yn unig, y mae digon o adnoddau i lanw anghenion ac i foddloni dymuniadau annherfynol ysbryd dyn.

Er mai drwy y Cyfryngwr y derbyniwn ni fendithion. tymhorol a rhagluniaethol, nid yw eu dyfodiad hwy atom yn ymddibynu ar ei ymgnawdoliad Ef nac ar ein ffydd ninnau: tarddant oddiar drugaredd gyffredinol yr Arglwydd. Ond am ddoniau yr Iachawdwriaeth—maddeuant, sancteiddrwydd, cariad, gobaith, &c., Iawn Crist yw achos, ac unig achos, y rhai hyn. Cyfoethogir ni yn yr ystyr yma drwy ei dlodi Ef; trwy warth ac ing ac angeu y groes, y derbyniwn ni fywyd a gwynfyd a gogoniant tragwyddol. I hyn yr ymddarostyngodd Mab Duw. Trwy yngnawd—oli, a byw yn ein byd, anrhydeddodd y natur ddynol, a mawrhaodd y Gyfraith ddwyfol; ac ennillodd wrth farw dros bechaduriaid olud anfeidrol o haeddiant newydd ar eu cyfer. Mwy—agorodd ar Galfaria ffordd i gyfoeth gwreiddiol y Jehofah redeg atynt a rhedeg iddynt yn oes-oesoedd. Daeth ynys fach, dylawd, dynoliaeth, a chyfan—dir mawr, bras, y Duwdod, ynddo Ef yn un, a thrwyddo Ef y mae bywyd y cyfandir yn llifo drwy yr oesoedd i dywod yr ynys, ac oblegyd hynny y mae coed y Nef yn tyfu ar y ddaear.

Yn awr, drwy yr hyn ydyw ac a wnaeth Crist, y mae adnoddau y Jehofah yn aros byth ynddo. Derbyniodd roddion i ddynion, a chaiff pawb a gredant ynddo eu diwallu yn dragywydd, "Oblegyd rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef." Y mae y cyflawnder hwn yn sylweddol a gwirioneddol, ac nid yn ymddangosiadol a seithug, ynddo Ef. Nid enfys yn hudo drwy liwiau prydferth, bechaduriaid hurt i anialwch gwâg, erchyll, ydyw y Gwaredwr; yn hytrach Haul mawr ydyw, yn ymgadw yn barhaus yn entrych y ffurfafen, ac yn cyfranu bywyd, a nerth, a phob bendith, i bawb a edrychant i fyny tuagato, "Oblegyd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol." Preswylia y cyflawnder hwn ynddo yn wastadol, ac yn wastadol ar gyfer pechaduriaid edifeiriol a chrediniol. Pe daethai cyfoeth y Nef am dro, yn awr ac yn y man, i fyd mor fychan a hwn, gallasai brofi yn dra bendithiol iddo, fel y mae ymweliad yr haf yn profi i Gymru. Gymaint a wna efe mewn ychydig o wythnosau! Daw ymlaen, gan alw allan flodau y dyffryn, gan esgyn yn uwch a deffro rhedyn y llechweddau, a dringo yn raddol i ben y Wyddfa, a pheri i rug ei chymoedd wrido yn ei wyneb. Diolchwn am dano; ond ymwelydd ydyw. Gâd cyn hir fynydd a dôl o dan eira, ac yna ymofidiwn am na byddai yn haf o hyd. Felly hefyd, y mae yn weddus i drigolion y ddaear ddiolch am rywfaint o ras a dylanwad ysbrydol—am amlygiadau achlysurol o Dduw. Y bendithion penaf a ddichon cenedl dderbyn ydyw—diwygiadau crefyddol. Dylem er hynny gofio mai nid ymwelydd â ni ydyw Iesu Grist. Y mae yn trigo ynom a chyda ni yn feunyddiol—nos a dydd, haf a gauaf, ymhob gwlad ac oes a phobl sydd yn gwybod am dano. Oblegyd hynny, y mae y bendithion mwyaf gogoneddus yn barhaus yn ymyl pawb o honom. Pe credem ynddo, deuai yr hyn oedd yn ffaith am y Colossiaid yn wir am danom ni: "Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ae awdurdod." Mewn canlyniad i dylodi ac angeu Crist, y mae "anchwiliadwy olud" o fywyd, o ras, ac o bob dawn, yn aros ynddo, fel y dwfr yn y môr, yn ddidrai ac yn ddigyfnewid, yn oesoesoedd ar ein cyfer. A fynwn ni, drwy ei wrthod Ef, newynu yn ymyl y fath gyflawnder?

Disgynodd Mab Duw i ymwaghau—esgynodd i gyflawni pob peth. A chafwyd, wrth iddo Ef ymwaghau, ddigon i lanw hyd yn nod y gwagder a greodd pechod ei hunan. Ac ymddengys hynny yn hollol resymol. Os daeth Un oedd o dragwyddoldeb yn gyfoethog, yn ddedwydd, ac yn ogoneddus, mor anghenog, ac i warth ac ing na bu erioed eu cyffelyb, cyfiawn ydyw dyrchafu creaduriaid ag oeddynt wrth natur yn dylodion a thruenus, i gyfoeth a gwynfyd a bri tragwyddol. Wedi i Frenin y Nef ddyfod yn was y ddaear, gweddus ydyw i weision pechod ddysgwyl am orseddfeinciau angylion. Y mae darostyngiad Duw yn cyfiawnhau dyrchafiad dyn.

EMYN O FAWL I GRIST.

Iesu, Mab y Duw tragwyddol—
Mor dragwyddol ag yw Ef,—
Haul ei Hanfod annherfynol,—
Gwir ogoniant pur y Nef;
O na chawn
Rin a dawn
I dy foli di yn iawn!

Yn y plygain gwynfydedig
Dreuliaist gydag Ef ei hun,
Gwelaist gwmwl prudd, gwenwynig,
Pechod a thrueni dyn;
Ac i lawr
Hyd y llawr
Daethost drwy dy gariad mawr.

Faint oedd hyd dy daith ryfeddol,—
Faint adewaist ar dy ol,—
Sut y deuaist Di yn ddynol,—
Sut yr hoffaist adyn ffol!
Duw mewn cnawd
Imi'n Frawd,
Dyma obaith f'enaid tlawd!

Trengaist Di, y Bywyd Dwyfol,
Dros euogion ar y pren:
Yn dy haeddiant annherfynol
Mi edrychaf tua'r nen:
Gwynfyd byw
Dynol ryw
Dardd i gyd o Groes fy Nuw.


Gyda chof am Ardd dy ingoedd,
Ac archollion Calfari,
Carwn dreulio fy mlynyddoedd
I dy wasanaethu Di,
Fel y cawn,
Ryw brydnawn,
Nefoedd berffaith drwy dy lawn.

Tyred, Arglwydd, i fy nghalon;
Bydd yn Frenin ar fy mryd;
Dyro dy gymdeithas dirion
Yn niffaethwch oer y byd;
Mae dy wedd,
A dy hedd,
Yn gorchfygu ofn y bedd.


EI WAITH EF.

Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weith—redoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt." EPHESIAID ii. 10.

Dysgir ni yn yr *fed adnod fod pechadur yn cael ei achub drwy ddau beth: "trwy ras***, trwy ffydd." Y mae Duw drwy y cyntaf yn cyfranu, a dyn drwy y diweddaf yn derbyn, bywyd. Diau fod llawer ffordd i fod yn golledig: hon ydyw yr unig un i fod yn gadwedig. Ond, er mwyn lluddias pechaduriaid i gamsynied ar fater o gymaint o bwys, dengys yr Apostol y gwirionedd mewn goleuni arall—mewn dwy wedd nacaol: (1) "A hyny nid o honoch eich hunain." Gan nad pwy ydym, nis gallwn dderbyn ymwared hyd nes y deuwn i undeb â rhywun gwell na ni ein hunain. Nis gallwn, gan nad beth ydym, achub

ein hunain. Tardd llawer o rinweddau oddiar y ddynoliaeth ei hun pan fo ar ei goreu; ond nis gall ddwyn dim gwell. Tyf rhedyn gwylltion o'r ddaear megys o honynt eu hunain; rhaid i ni hau gwenith cyn y mwynhawn ei ffrwyth. Yn gyffelyb, ymflagura moesoldeb prydferth drwy ofal o'r natur ddynol; ond y mae sancteiddrwydd yn gynyrch had newydd, dwyfol: "Rhodd Duw ydyw." (2) "Nid o weithredoedd "; cyfarfod ein hymdrechion ni y mae bendithion Rhagluniaeth y rhan fynychaf; ond y mae ffynhonnell y rhai hynny y tu ol i ymdrechion, Y mae ymroddiad y Cristion yn hyrwyddo ei gynnydd mewn gras; ond nid ydyw ei achubiaeth yn cyfodi mewn un modd oddiar ei ddiwydrwydd ef ei hun. Nid ydyw yn effaith ei gyflawniadau; ond y mae yn achosi ynddo weithgarwch newydd. Er nad ydyw ei iachawdwriaeth o weithredoedd, y mae i weithredoedd—da. Golyga yr Apostol fod y ffrwyth yn tarddu oddiar y pren, yn hytrach na bod y pren yn ganlyniad y ffrwyth. "Fel nad ymffrostiai neb": byddai unrhyw fost yn y cyfeiriad hwn yn ddinystr tragwyddol i ddynion; ac ataliai oddiwrthynt y deyrnged o ogoniant ag y mae yr Arglwydd yn deilyngu mor gyfiawn. Heblaw hynny, byddai y peth ynddo ei hun yn annichonadwy; yn hytrach na bod y saint yn gwneyd eu hunain, cael eu gwneyd y maent, "Canys ei waith ef ydym"—gwaith Duw. Golyga hyn rywbeth gwahanol iawn i ymadrodd cyffelyb yn Ioan (vi. 29): "Hyn yw gwaith Duw." Yr hyn a wnant hwy iddo Ef yw y diweddaf; yr hyn a wna Efe i, ar, ac yn, y credinwyr ydyw y cyntaf. At hwnnw y carwn ennill eich sylw. Meddylier am fawredd, pwysigrwydd, anhawsderau, a rhyfeddodau y peth; a hyderaf y cawn drwy hynny olwg ar ei natur.

1. Gallasai yr Arglwydd yn ddiau, ar y cychwyn, wneyd un o dri pheth â phechadur: ei ddamnio, ei ollwng it ddiddymdra yn ei ol, neu ei arbed. Dewisodd yr olaf—yr anhawddaf, er ar yr un pryd, y gogoneddusaf o lawer. Yr oedd ei achub yn anhawdd, oblegyd fod hynny, yn sefyllfa wreiddiol pethau, yn anghyfreithlawn. Yr oedd yn groes i'r ddeddf uchaf mewn bod. Yr oedd yn wrthwynebol i bob trefn'a llywodraeth. Arfer pob teyrnas sydd yn meddwl ymgynnal wrth ei gilydd, ydyw cosbi troseddwyr. Am ddrygioni a gyflawna mewn chwarter awr, gorfodir llawer adyn i ddyoddef am chwarter canrif. Onid ydyw yr Arglwydd, yn gystal a dynion, yn ymweled â throseddau ysgeler â marwolaeth—naturiol yn y naill achos, ysbrydol a thragwyddol yn y llall? Yr oedd cyfiawnder—y rhwystr mwyaf mewn bod, yn y dechreuad, yn erbyn achubiaeth pechadur. Yr oedd hynny unwaith yn rhywbeth mor anhawdd a dyeithr, fel na buasai unrhyw greadur byth yn dychymygu am dano. Prin y buasai neb, ymlaen llaw, yn gobeithio i Dduw gyflawni peth mor ryfedd a hynny. Synwn yn aml na byddai dynion ag sydd mor weiniaid a dibynol, mor barod i roddi ac mor agored i dderbyn tramgwydd, yn amlygu mwy o faddeugarwch nag a wnant. Pwy fuasai yn dysgwyl i Dduw mawr a sanctaidd, mor annibynol a gogoneddus, dosturio wrth neb! Nid oedd yn ei oruchwyliaethau blaenorol ddim a roddai sail i obeithio am hynny. Gan nad faint o gariad oedd yn ei galon, nid oedd wedi trugarhau wrth neb erioed. Cawsai pob creadur a bechasai o flaen dyn, ei ddamnio. Ond, ynglŷn ag ef, cymerodd y peth mwyaf annisgwyliadwy le: yng Nghrist Iesu, maddeuodd y Jehofah—am y tro cyntaf erioed, iddo ef. Dygodd y Gwaredwr gyfiawnder tragwyddol i mewn, a gwahoddir pawb i dderbyn maddeuant ynddo Ef. Ein tuedd naturiol ni ydyw ymgilio oddiwrth yr Arglwydd; ac yr ydym wrth ymbellhau oddiwrtho yn ymddirywio yn barhaus—yn myned o hyd yn fwy annhebyg iddo. Ond, er cymaint o wahaniaeth sydd rhyngddo Ef, sydd mor sanctaidd, a ni sydd mor halogedig, gallwn ymgofleidio yn yr lawn. Gwneir y pell yn agos, a gwneir yr aflanaf yn wynnach nag eira, drwy waed y Groes. Medd rinwedd digonol (Es. xliv. 22) i ddileu gorphenol du, llygredig pechadur. Cais llawer wella y dyfodol; nid oes neb yn gobeithio gallu golchi y mynedol. Gwna yr Efengyl hynny. Nid ydyw natur yn diddymu creithiau bywyd; ond y mae gras yn gwneyd:

"Gwaed y Groes a gŵyd y graith,
Na welir mo'ni eilwaith."


2. Y mae y gwaith hwn yn fawr a rhyfeddol, oherwydd ei fod yn newid pechadur oddifewn yn gystal ag oddiallan. Heblaw gwella ei amgylchiadau, y mee yn gwella ei egwyddorion. Yn ychwanegol at ei symud o dywyllwch a marwolaeth, y mae yn ei symud i oleuni a bywyd. Cynnwysa gyfiawnhad ei berson, a sancteiddiad ei ysbryd. Gwna ddynion "yn gyfranogion o'r duwiol anian." Gair da, yn arwyddocau peth byw a grymus iawn, yw anian. Gall ereill ddefnyddio greddf neu duedd lywodraethol y galon; gwell genyf fi hwn. Golyga gymaint, fel, os gellir cyfnewid anian pechadur, y gellir gwneyd unrhyw a phob peth iddo ac o hono. Pe medrem drosglwyddo greddfau oen i genaw llew, oni ddelai ef drwy ryw drawsymfudiad cyfriniol, yn raddol yn greadur llariaidd?

Profai yn y trawssylweddiad anesboniadwy hwn, bethau rhyfedd—awydd weithiau, o dan ddylanwad ei hen dueddiadau, i larpio ŵyn bach y wlad, a chymhelliad bryd arall, o dan effaith ei dueddiadau newyddion, i ymneillduo i eigion y goedwig, i alaru oblegyd ei wyniau ysgeler. Meddylier am dano, y fath greadur dyeithr—dyeithr iddo ei hun ac i ereill, fyddai yn peidio bod yr hyn oedd, ac yn myned yn rhywbeth arall! A chyffelyb ydyw y credadyn. Oni chaiff ef, drwy y bywyd newydd sydd ynddo, ei hun yn aml yn ddau? Gydag enaid rhanedig, y mae yn rhedeg i wahanol gyfeiriadau; gwna ddrygioni weithiau " â'r ddwy law yn egnïol;" bryd arall ymofidia a chywilyddia oherwydd ei bechadurusrwydd; ac wedi hyn ymestyna yn awchus am rinweddau dwyfol. Nid ydyw yn deall ei hun, nac yn gwybod yn sicr i ba le y mae yn myned. Gŵyr nad ydyw yr hyn oedd; ond ni ddatguddiwyd iddo eto pa beth a fydd. Caiff ei hun yn greadur rhyfedd, llawn o gymysgedd. Cyll yn raddol syniadau ac amcanion greddfol ei galon; ymgilia hen ymadroddion ac arferion ei oes; gâd ei hunan gwreiddiol ar ol. Yn araf hefyd, daw yn brofiadol o obeithion a dymuniadau estronol; y mae yn ymnewid ac yn ymburo yn ei holl gymeriad; a phetrusa weithiau ai efe ei hun ydyw. (Gwel Ezec. xxxvi. 25-27, Heb. viii. 10, &c.) Gofyna yn achlysurol:

"B'le daeth hiraeth im' am bethau
Oeddwn yn gasau o'r blaen?"


A rhaid credu mai—

"Dymuniadau
Ynt a ddaeth o fynwes Duw."


Cyfnewidiad mawr ydyw hwn—mor fawr a phe rhoddid greddfau eryr, neu eos, yn ymlusgiad y llwch. Pe gwnelid hynny, oni phrofai ef, er iddo gael ei genhedlu a chael ei fagu yn y pridd, cyn pen hir, chwennychiad dyeithr i ehedeg, neu i ganu; ac oni ddelai yn raddol adenydd i ehedeg a llais i ganu, yn ol ei awydd i wneyd hynny? Y mae y duwiol yn debyg iddo: drwy gyfranogi o ras ac egwyddorion ysbrydol, y mae y ddaear ar yr hon y ganed ef yn myned yn fyd estronol iddo, ac y mae yn edrych yn mhell uwchlaw y sêr (2 Cor. v. 1-8) am ei gartref. Trwy ei undeb â Christ, yr hwn, yn ychwanegol at lywodraethu drosto ar y ddaear ac eiriol ar ei ran yn y Nef, sydd yn preswylio ynddo, gan ddatguddio ei hun a chyfranu ei fywyd iddo,—drwy hyn daw ef yn ysbrydol ac yn nefol. Y mae yn diosg (Ephes. iv. 22-24) ei hen natur, ac yn gwisgo dynoliaeth newydd. Efe, hyd y gwn i, ydyw yr unig greadur sydd yn newid ei anian. Y mae y neidr yn newid ei chroen, y carw yn newid ei gyrn, a llwynog y gogledd pell yn newid ei liw; ond ni newidiant hwy eu greddfau. Parhant drwy y cyfan yr un creaduriaid. Ond gwneir y Cristion "yn greadur newydd." Cyfnewidir ei anian, ei ysbryd, ei egwyddorion, ei dueddiadau—ei holl enaid; a chynhyrcha hynny gyfnewidiad cyfatebol yn ei ymarweddiad allanol. Am ei fod yn gwella oddifewn, y mae yn gwella oddiallan. Aiff ei fuchedd yn lanach, oblegyd fod ei galon yn myned yn burach. Daw yn raddol wrth ei fodd ei hun, ac wrth fodd Duw!

"Golchi f'enaid yn yr afon,
Gwneyd yr euog brwnt yn lân,
Llanw 'nghalon oer, ddigariad,
O dy nefol hyfryd dân;
A chael rhan o bob rhinweddau
Ag sydd ynot Ti dy hun;
Ddoe yn aflan,—wedi 'nychwel,
Heddyw'n berffaith ar dy lun."


3. Gan mai troi pechaduriaid yn saint, yn hytrach na dwyn creaduriaid i fod, a olygir wrth y gwaith hwn, cynnwysa o angenrheidrwydd, wneuthur yr hen yn newydd. A chaniateir fod hynny yn orchwyl mawr, anhawdd—anhawddach na gwneyd peth newydd—newydd hollol. Teimlwn hynny gyda laws o bethau cyffredin: änt, wrth gael eu defnyddio yn fynych i sefyllfa mor ddrwg fel nad ellir eu hadfer; rhaid pwrcasu rhai ereill. A gwirionedd amlwg am ddynoliaeth ddirywiedig a llygredig ydyw, nad ellir ei hachub drwy foddion naturiol; nis gall addysg ei bywhau, ac ni ddichon diwylliad ei sancteiddio; rhaid ei chreu o newydd. A dyna ydyw y gwaith hwn—sydd mor ysbrydol ac mor ryfeddol. Y mae y llong ardderchog yn myned—wrth gael ei gyru yn hir o flaen corwyntoedd, a chael ei churo yn aml yn erbyn y creigiau, mor fregus fel y teimla ei pherchenog yn yr olwg arni, y byddai adeiladu un arall yn llawer doethach na cheisio ei gwella hi. A dichon y buasai, ar ryw gyfrif, yn hawddach ac yn rhatach i Dduw ollwng y troseddwr du yn ol i ddi-ddymdra, a galw creadur glân ac urddasol i fod yn ei le, na diwygio pechadur; ond fel arall y gwnaeth. Penderfynodd droi y gwrthryfelwr hyf a halogedig yn blentyn sanctaidd, caruaidd a phrydferth, iddo ei hun: 1 Petr i. 23. Gwna yr hen ddyn yn newydd—wrth y cynllun uchaf mewn bod: Ephes. iv. 22-24. Gwaith mawr a gogoneddus ydyw hwn. Rhywbeth pur anhawdd fyddai gwneuthur hen dŷ yn newydd; myned, y mae yn debyg, er i ni ymdrechu ymgadw at gynllun y gwreiddiol, yn dŷ arall a wnai o dan ein dwylaw. Ond gwna yr Arglwydd hynny, adnewyddu hen feddwl tywyll, anianol, gan ei lanw â bywyd pur a goleuni cynhes,—troi hen galon galed, ddreiniog, lawn o derfysgoedd poethion, yn barad—wys dawel a phrydferth; gwneuthur hen ysbryd pwdr a chrin yn ysbryd newydd ieuanc, llawn o ireidd-dra dwyfol ac o ffrwythlondeb nefol: Ezec. xi. 19, 20. Gwneir yr enaid yn newydd yn gwbl newydd o ran profiad, dymun—iad, amcan; ac eto bydd yr un un—yr un un o ran sylwedd a nodweddion. Ac yr ydym i gyd yn hoffi hynny. Nid eisiau enaid arall—mwy na llai na hwn, sydd ar neb o honom ein hawydd penaf yn hytrach ydyw—am gael hwn yn lân ac yn dawel. A dyna foreu hyfryd a digymylau a fydd hwnnw, pan y caiff yr enaid ei hun yn iach ac yn ieuanc! Ynom, ac nid oddiallan i ni, y mae llawer o'n cymylau. Pe byddai ein calonnau yn burach, byddai ein ffurfafenau yn ddysgleiriach. Deuant yn raddol drwy y gwaith hwn yn hollol bur; a deuwn ninnau, mewn canlyniad, i fyd o wynfyd a gogoniant perffaith.

Prin y mae anian o gwbl yn cyflwyno i ni unrhyw engraph, i egluro natur y gwaith hwn. Nid ydyw hi yn newid yr hen geubren deifiedig, ag y bu llawer lleidr yn ymguddio yn ei geudod, ac y bu cenedlaethau o adar ysglyfaethus yn gorphwys ar ei gangenau crinion ar eu teithiau melldigedig drwy y byd,—yn goeden fyw, iraidd, dyfadwy. Gwna gras rywbeth cymaint a hynny. Try hen bren pwdr ein natur foesol, lle y bu meddyliau llofruddiog yn ymlochesu, ac y bu torfeydd o adar gwenwynig a budron yn nythu yn ei frigau duon, yn un o brenau cyfiawnder, ac yn un o gedrwydd Duw. Gwna hen bentewynion braenllyd pechod yn gangenau prydferth o Bren y Bywyd ei hun, y rhai a dyfant, a ffrwythant, ac a beraroglant yn oesoesoedd. Byddant mor ogoneddus a choedydd cynenid y Nef ei hun. Dysgir cymaint a hyn yn eglur: "Gan hyny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd." Dichon y par geiriau fel hyn i rai saint bruddhau; teimlant nad ydyw yr hen bethau wedi myned heibio yn hollol, ac nad ydyw pob peth wedi cael ei wneyd o newydd; ac ofnant, mewn canlyniad, nad ydynt hwy o gwbl yn greaduriaid newyddion. Dylem, yr un pryd, ystyried i gyd, fod y geiriau hyn yn rhai pur ëang—"neb "—pwy bynag, unrhyw bechadur, gan nad pa mor ddu; ac os nad ydyw yr hen bethau wedi myned, y mae yn debyg eu bod yn myned heibio,—i rywle: gŵyr Duw, os na wyddom ni, i ba le yr änt; a phriodol ydyw i ni wylied rhag iddynt ddyfod yn ol. Yn arbennig, cofiwn mai yn raddol ac yn ddystaw iawn mewn lluaws o amgylchiadau, y dygir y gwaith hwn ymlaen. Nid oes, ar ryw olygiad, neb yn gweithio mor araf ac mor ddystaw a Duw; ac nid oes neb chwaith yn gweithio mor sicr ag ef. Pe gwnelid y gwaith a gyflawnir mewn ambell enaid mewn ugain mlynedd—mewn ugain niwrnod, nis gallai adnabod ei hun, gan mor wahanol iddo ei hun a fyddai. Y tebygolrwydd cryf ydyw fod y bobl bryderus hynny a geisiant yn barhaus garu a chredu yn Iesu Grist, i gyd mewn gwirionedd ynddo Ef, ac felly, yn ychwanegol at wella rywfaint oddiallan, eu bod yn wir, o fewn ac o faes, yn greaduriaid newyddion. Ac y mae deall hynny yn nefoedd ar y ddaear.

4. Teifl un ymadrodd yn yr adnod hon oleuni tanbaid ar fawredd y gwaith hwn—"wedi ein creu," &c. Y mae yn gyfystyr â chreadigaeth. Nis gall creadur, o ganlyniad, gan nad pwy a fydd, mewn amser hir mwy na byr, na thrwy unrhyw foddion—addysg, esiampl, rhyddid, cyfoeth, o gwbl ei gyflawni. Camp arbennig y Jehofah ydyw. Dywedir weithiau fod dynion yn creu; ond mewn ystyr benagored iawn y defnyddir y gair ar y cyfryw achlysuron. Gallwn ni ad-drefnu hen ddefnyddiau, a gallwn droi ein syniadau yn weithredoedd newyddion; ond nis gallwn alw dim i fod o ddim. Gweled, yn hytrach, ydyw braint a bri dyn. A dylem ddiolch am ambell i enaid sydd yn gweled—yn gweled yn gliriach ac yn bellach nag ereill, ac yn darganfod gwledydd newyddion, a bröydd mor hyfryd nes yr ydym, wrth iddo eu dangos ini, yn chwenych myned i fyw iddynt. Gweledigaethau, yn hytrach na chreadigaethau, yw peth goreu pechadur. Duw yn unig a ddichon greu; a gwna hynny yn yr ystyr uchaf yn awr. Fel yr anadlodd yn y dechreuad anadl einioes i Adda, y mae yn anadlu yn bresenol i eneidiau meirwon a llygredig, ysbrydoliaeth sydd yn eu gwneyd yn fyw ac yn gryfion, yn sanctaidd ac yn brydferth. Goddefir i mi fynegi fod llawer hyd yn nod rhwng yr angel, a bod yn greawdwr. Medr ddinystrio: 2 Bren. xix. 35; gall gynnorthwyo: Heb. i. 14; a diau ei fod wedi helpu llawer dynyn i gario ei faich i ben y rhiw, a llawer cenedl wan i enill ei hiawnderau oddiar un gref a chreulawn; ond nis gall alw dim i fod o ddim. Y mae lluaws o honoch chwi yn ddigon glân i weled angylion, yn eich cwsg neu yn effro; a phan welwch un nesaf, erfyniwch arno greu i chwi rywbeth bach—rhosyn i berarogli ar eich mynwes, neu eos i ganu wrth eich tŷ; a bydd y creadur sanctaidd yn debyg o ymadael yn syn ac yn athrist. Gwell i ni gyfyngu y gwaith o greu i Dduw: medd Ef adnoddau annherfynol ar ei gyfer; gall droi enaid sydd yn anialwch lawn o seirph—yn baradwys lawn o gerubiaid. Cawn drwy y ddaear a bydoedd y ffurfafen syniad am ei allu fel Creawdwr; gwnaeth bethau mor fychain fel mai Efe ei hun yn unig sydd yn eu hadnabod yn iawn; a gwnaeth bethau mor fawrion fel nad ydyw dyn, er chwilio ei oreu, wedi gweled eto ben draw arnynt. Ond y mae y greadigaeth newydd hon yn llawer mwy ardderchog nag ydyw yr hen. Cynhwysa yr un ysbrydol hon fwy o feddwl a chalon, o ddaioni a chyfoeth—o Dduw ei hun, nag sydd yn yr un gyntaf. Er fod yr Arglwydd wrth ddwyn anian i fod yn ymrwymo i ofalu am dani, i wylied ei llwch, ac i borthi ei habwydion, deiliaid teyrnas gras ydyw gwrthrychau arbennig ei gariad. Ceidw mewn modd neillduol ei lygaid trugarog yn ddibaid ac yn ddiddiwedd arnynt hwy. Nid oedd creu o gwbl yn anturiaeth i Dduw; byddai i mi, pe gallwn. Pe gallwn i osod ryw blaned fach i fyny yn rywle, byddai arnaf ofn myned i fyw iddi. Y peth tebycaf i anturiaeth yn ei oruchwyliaethau Ef ydyw, achub rhai pechaduriaid—tywyll, anwadal, llygredig.Yn ychwanegol at ei ofal cyffredinol am bob peth, ymgeidw yn agos iawn atynt hwy, oblegyd y maent bellach yn bobl ac yn blant iddo. Gwedi taenellu gwaed ei Fab arnynt, a throsglwyddo ei anian iddynt, y mae yn gwylied drostynt, Sul, gwyl, a gwaith, ac yn cerdded gyda hwynt i ffair a marchnad, ac i làn a chapel. Mwy, y mae yn myned i breswylio ynddynt, ac y mae yn tyfu ynddynt: Gal. ii. 20, iv. 19, &c,; ac nis gall neb eu dwyn oddiarno. Bydd yr haul ryw ddiwrnod yn diffoddi ac yn diflanu; ond ni chyfrgollir y saint byth. Cyll Sadwrn rywbryd ei modrwyau dysglaer; ond bydd y gemau bywiol hyn yn ddyogel ac yn dysgleirio yn oesoesoedd: Mal. iii. 17.

5. Yn ychwanegol at y cyfan a ddywedwyd, y mae un rhyfeddod arall ag y rhaid ei chrybwyll: dygir y gwaith hwn ymlaen yn yr enaid drwyddo ef ei hun—drwy gydsyniad ac, i ryw raddau, drwy gydweithrediad y dyn ei hun, oblegyd y mae yn berson. Nis gellir ei orfodi i gymeryd ei achub, oblegyd y mae yn feddianol ar reswm, ewyllys, &c.; ac nis gellir arfer trais ar y galluoedd hyn heb eu dinystrio. Nis gellir ei symud ef o farwolaeth i fywyd, fel y symudir maen o faes i fur, heb ddyfod i unrhyw gyd-ddealldwriaeth ag ef, oblegyd y mae yn greadur rhydd annibynol—annibynol, er mor ddibynnol ydyw. Oherwydd hynny, mewn dull a thrwy foddion moesol-ymresymu, gwahodd, rhybuddio, &c., y mae yr Arglwydd yn ymwneyd ag ef yn mhob oes. Caniateir fod personoliaeth yn gaer ryfeddol; nid yw y Creawdwr yn tori ei chloiau; curo wrth ei drws y mae Ef: drwy gydsyniad ac ar wahoddiad y preswylydd yr eiff i mewn iddi. Pa fodd y gellir dwyn hynny oddiamgylch? Gwaith mawr ydyw mawr iawn ydyw argyhoeddi a gweithio pechadur i erfyn am drugaredd, oblegyd y mae mor dywyll a balch, mor galed ac ystyfnig. Ysbryd Duw yn unig a ddichon wneuthur hynny. Gall Ef symud anhawsderau mawrion y galon, a gwneyd hynny yn unol ag urddas dyn. Gwna y gwrthryfelwr cryfaf yn ewyllysgar yn nydd ei nerth. Gall weithio ynddo (Phil. ii. 12, 13) ewyllysio a gweithredu, ac felly dysgir yr adyn i weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun, drwy ofn a dychryn. Trwy hynny y mae yn tynnu o natur ddaearol, afrywiog, lygredig, pechaduriaid, y beroriaeth fwyaf hyfryd. Amlyga wrth wneuthur hynny allu, cariad, ac amynedd annherfynol, oblegyd, tra y bu Crist farw dros bawb ar unwaith, y mae Ef yn achub ac yn sancteiddio pob enaid ar ei ben ei hun. Cyrhaedda yr Ysbryd Glân yr amcanion goruchel hyn. mewn llawer dull a thrwy lawer o foddion—weithiau yn araf iawn ac weithiau yn gyflym iawn—drwy dynerwch mawr a gwahoddiadau grasol—drwy lymder dwys a cheryddon blinion—trwy oleuni tawel, cynhes—drwy dywyllwch unig, oer—drwy awelon bywiol a hyfryd—drwy dymhestloedd o daranau a mellt—yn ol nodweddion ac amgylchiadau pob pechadur. Dangosir yn y cymhwysiad o'r iachawdwriaeth at eneidiau, ras a doethineb diderfyn. Hwn, fel yr ymddengys i mi, ydyw y gwaith mwyaf a chywreiniaf y mae Duw yn ei wneyd yn awr. Onid yw goleuo meddwl yn orchwyl uwch na goleuo haul? Mae enill ewyllys draws yn rhywbeth mwy dyrchafedig na dysgu y lleuad i siglo cryd y môr. Medd yr Arglwydd ddigon o allu ar ei gyfer; ac y mae yn ei gyflawni heb gyfyngu o gwbl ar ryddid ac anrhydedd y natur ddynol.

Dysgir hynny yn brydferth gan Bantycelyn:

"Anweledig! 'r wy'n Dy garu,
Rhyfedd ydyw nerth Dy ras,
Dynu f'enaid i mor hyfryd
O'i bleserau pena' i maes; T
i wne'st fwy mewn un munydyn
Nag a wnaethai'r byd o'r bron—
Enill it' eisteddfa dawel
Yn y galon gareg hon."


Carwn, yn mhellach, wneuthur dau neu dri o nodiadau ar amcanion y gwaith hwn. Un goruchel iawn ydyw. Daw y credinwyr drwyddo yn berffaith sanctaidd; llenwir hwy â gwynfyd tragwyddol; a chludir hwy i fyd glân a gogoneddus yn y man. Oherwydd hynny ni fyddai yn drais ar y geiriau gyfieithu rhan flaenaf yr adnod fel hyn: Canys ei farddoniaeth ef ydym. Trwy y saint y gosodir meddyliau Duw allan yn yr arddull fwyaf mirain ac ardderchog. Ond nid er mwyn eu cymhwyso ar gyfer y Nef y dygir y gwaith, yn ol y testyn, ymlaen. Yr hyn a ddywedir ynddo ydyw, ein bod wedi ein creu *** i weithredoedd da"—mewn trefn i ni allu cyflawni gorchwylion buddiol—ar y ddaear, i ddechreu, yn ddiau. Cynnwysa hyn o leiaf bedwar o bethau:—

(1) Annogir ni i gyflawni gweithredoedd da, oblegyd yr ydym drwy hynny yn troi teimladau crefyddol yn egwyddorion grymus, a thueddiadau daionus yn arferion llywodraethol,—am ein bod drwy hynny, mewn gair, yn cadarnhau ein hunain mewn daioni, ac yn gwneuthur ein hunain yn ddynion da. (2) Y mae y saint wrth gyflawni gweithredoedd da, yn cydweithio â Duw yn achubiaeth ac yn sancteiddiad eu cyd-ddynion. Onid ydyw eu hymdrechion grasol hwy yn arbed ei wyrthiau Ef? (3) Yr ydym wrth gyflawni gweithredoedd da, yn ychwanegu at ein cysuron ein hunain—"fel y rhodiem ni ynddynt "—fel y cydrodiem â hwynt megys cymdeithion hyfryd—fel y bydd yr adgofion am danynt yn ein dylyn ac yn ein dyddanu, wrth i ni fyned i lawr ar hyd goriwaered einioes (4) Bydd ein safle yn y Nef yn ymddibynu, i raddau, ar nifer a maint a gwerth y gweithredoedd da a gyflawnwn: Dan. xii. 3; 1 Cor. xv. 41, &c.

YR EFENGYL.

Iachawdwriaeth dynolryw,
Prif ryfeddod Trindod yw;
Byw yn wastad mae y Tri—
Byw eu goreu, ynddi hi:
Ynddi daw y Nef o hyd
I anialwch gras ein byd;
Gwasanaetha engyl merth
Drwyddi ar droseddwyr certh.

Gwisg bechadur tlawd a syn
Mewn cyfiawnder perffaith wyn;
Diffodd holl losgfeydd ei fron
Wna ffynhonnau melus hon;
Drwy ei gwirioneddau iach
Tyfu wna ei enaid bach—
Tyfu mewn sancteiddrwydd byw,—
Tyfu yn mhrydferthwch Duw.

Gylch y Gwaed y du ei liw;
Gras wellha ei olaf friw;
Llewyrch Haul tragwyddol sydd
Ar ei lwybrau nos a dydd;
Teimla yn ei galon drist
Bresennoldeb hyfryd Crist;
Dringa drwyddo riwiau serth,
Drwyddo gwna orchestion merth.

Ynddi caiff credadyn blin
Fôr o fywyd ac o rin,—
Mor o gariad cynnes, byw,—
Mor o gyfoeth pennaf Duw ;
Dros ei bryniau heirddion chwyth
Balmaidd chwaon nefol byth,—
Cludant obaith gwynfyd pur
I ysbrydoedd llawn o gur.


AWN RHAGOM AT BERFFEITHRWYDD.

"Byddwch chwi gan hyny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith."—MATTHEW v. 48

GELLIR darllen yr adnod hon ychydig yn wahanol—fel mynegiad: Chwi a fyddwch gan hyny yn berffaith, &c.' Cynhwysa y darlleniad hwn hefyd annogaeth, oblegyd y mae wrth ddangos y ffordd i ni gyrraedd amcan a choron bywyd, ar unwaith yn ein cymhell i rodio ar hyd-ddi. Y nod ydyw perffeithrwydd. Cyfeiria yr ymadrodd, "gan hyny," i ryw raddau, efallai, at ddysgeidiaeth a thôn y bennod i gyd, ond yn fwyaf arbennig at y bedwaredd adnod a deugain: drwy garu ein gelynion, bendithio ein melldithwyr, &c., ni a ddeuwn "yn berffaith, fel y mae ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith. Canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn." Ymddengys, yn mhellach, nad oes unrhyw le canol rhwng perffeithrwydd a gwarth—rhwng copa a godreu y mynydd. Y mae yn rhaid i ni fod yn berffaith neu fod yn ddim—yn ddim amgenach na phublicanod drygionus a phaganiaid halog—edig: 46, 47. Gweddus ydyw i ni fel Protestaniaid gofio, nad oes yr un safle ddyogel, na chyflwr anrhydeddus, rhwng nef ac uffern. Rhaid ein bod wrth fodd Duw neu wrth fodd y diafol.

Nis gall y safon fydd gan unrhyw ddyn, boed uchel neu isel, lai na dylanwadu arno. Y mae yn bwysig iddi fod yn ddigon uchel, ac efallai y byddai yn well iddi fod, ymhob cylch, yn rhy uchel nag yn rhy isel. Teimlir fod yr adnod hon yn gosod un uchel iawn—mor uchel a Duw: "Fel y mae eich Tad nefol yn berffaith." Oherwydd hynny y mae llawer yn dychryn rhagddi, ac yn cilio oddiwrthi, gan ofyn pa beth a allwn ni, ag ydym mor dywyll a llygredig, wneyd tuagat fod yn berffaith. A thueddir rhai i ohirio yr ymdrech i fyw y geiriau, hyd nes y cânt eu hunain mewn gwlad lle na bydd eu byw yn gofyn o gwbl am ymdrech. Oblegyd hynny, carwn allu dangos eu rhesymoldeb a chymodi meddyliau credinwyr â hwynt. I. Gellir sylwi fod annogaeth Crist yn y testyn yn gyson â dysgeidiaeth gyffredinol y Bibl, ac â holl oruchwyliaethau y Brenin Mawr. Am berffeithrwydd y mae Efe yn ymofyn yn barhaus, ac y mae yn gofyn am dano oddiwrth bawb ymhob man.

(1) Felly y gwnai mewn Creadigaeth. Galwai i fod fydoedd a ser perffaith, a gosododd y cyfan yn y fath gydberthynas garuaidd a hyfryd, fel y maent yn troi dan ganu o hynny hyd yn awr. Lluniai greaduriaid perffaith—rhai syml a chyffredin i ddechreu, y mae yn wir, per—ffaith er hynny ar gyfer yr amgylchiadau yr oeddynt hwy ynddynt. Dygai o ddydd i ddydd rai mwy ac ardderchocach i fod—nid oherwydd ei fod Ef yn dysgu creu yn well, ond oherwydd fod y greadigaeth yn dyfod yn addas i dderbyn rhai uwch. Ac yn y diwedd, galwodd i fod greadur mor fawr ac urddasol, fel yr oedd Ef ei hun yn gallu ymfoddloni ac ymhyfrydu ynddo.

(2) Felly y gwna drwy amser i gyd yn ei Ragluniaeth. Ar ol y trychineb mawr boreuol, drwy yr hwn y gwnaed hanes dyn mor wahanol i arfaeth Duw, ni adawwyd y ddaear o dan reolaeth y diafol. Yn hytrach, y mae Ysbryd yr Arglwydd yn ymweithio yn barhaus drwy ei thryblith, gan ei dwyn yn raddol i drefn. Ynddo a thrwyddo Ef y mae gwirioneddau bywiol ac egwyddorion uniawn, gyda dylanwadau grymus a galluoedd pureiddiol, yn ymdreiddio yn ddystaw drwy oesoedd a chenedloedd. Trwy ei weith—rediadau Ef, hyrwyddir buddugoliaethau daioni, a gyrir ffurf ar ol ffurf o ddrygioni i ddinystr. Troir cynghorion pob Ahitophel, un ar ol y llall, yn ffolineb. Gorfodir byddin ar ol byddin o gyfeiliornadau ac o ysgelerderau, i farchogaeth i eigion ryw fôr dystrywiol. O fesur ychydig ac ychydig, ymgryfha y goleuni ac ymddiflana y tywyllwch. Cawn fod yr anialwch yn cilio, a bod y llewod a'r seirff yn pellhau. Y mae paradwys yn dychwelyd yn araf dêg yn ei hol. Rhaid i wyneb y ddaear ddyfod, yn gynt neu hwyrach, yn debyg i wyneb y nefoedd: Esaiah xi.

(3) Nis gall yr Iachawdwriaeth feddu dyben is. Ar ol i ddyn ymddirywio, ei adfer ef ydyw prif amcan ei Greawdwr. Goddefai lawer o ddrygioni ar hyd y canrifoedd; dygai ymlaen yr un pryd, drwy bob goruchwyliaeth o ras, berffeithiad ei bobl. Dysgai yr Hen Destament y syniad o berffeithrwydd: Gen. xvii. 1; 2 Sam. xxii. 21-27; Salm xv. 2, xxxvii. 37, lxxxiv. 11, cxix. 1; Diar. xi. 5 a 20; Esaiah xxxviii. 3, &c. Gofynai y trefniant Iuddewig am dano; yr oedd yn rhaid i bob offeiriad fod yn ddïanaf, ac i bob aberth fod yn berffeithgwbl; a chynhyrchid ef mewn oesoedd boreuol drwy ddatguddiad prin a "defodau cnawdol." Cafodd yr Arglwydd yn Enoch a Noah, yn Job a Dafydd, a llawer ereill, ddynion wrth fodd ei galon. Galarai saint yr Hen Oruchwyliaeth oherwydd eu pechadurusrwydd, a phroffesent berffeithrwydd ar unwaith. Gwel Ex. xxx. 32-38; Levit. xix. 2, xxi. 16-24, xxii. 17-26; Jos. xxiv. 14; Job xxvii. 5; xxxi. 6; Salm vii. 8, xxvi., &c. Yn gyson â hyn, er ei bod yn cydymddwyn â gwendidau ac yn goddef pechodau, nis gall yr Efengyl ddysgu na gofyn am ddim llai na pherffeithrwydd. Os cynhyrchid mewn goleuni gwanaidd, gyda threfniadau cysgodol, drwy "waed teirw a geifr," gymeriadau ardderchog, mwy o lawer y gellir dysgwyl hynny o dan amgylchiadau hollol ddymunol, gyda threfniadau cwbl fanteisiol, gyda Bibl cyflawn a thrwy waed Crist. Gwedi cael yn y Gwaredwr Ddyn perffaith, dygir ei ymgnawdoliad ymlaen yn yr eglwys drwy y canrifoedd hyn mewn saint perffaith, y rhai a wisgant am danynt yr Arglwydd Iesu Grist. Dysgir hyn drwy y Testament Newydd (1 Cor. ii. 6; 2 Cor. xiii. 11; Eph. v. 1; Phil. iii. 15; Col. i. 28; Heb. v. 14); a thrwy y gras a ddatguddir ynddo gall pechaduriaid crediniol ddyfod yn hollol wrth fodd eu Tad nefol. Ymwrolwn, gan hynny, i ymdrechu cyrraedd y sefyllfa oreu sydd yn ddichonadwy i ni. A gweddus ydyw i ni ystyried, nas gall yr Arglwydd ymhyfrydu ynom hyd nes y deuwn, fel Efe ei hunan, yn berffaith—gydag un gwahaniaeth, mai tyfiant graddol ydyw perffeithrwydd ynom ni, tra y mae ynddo Ef yn briodoledd hanfodol a thragwyddol.

(4) Dichon, er hynny, mai y cymhelliad cryfaf i beri i ni ymdrechu byw yr adnod hon ydyw, cofio pwy llefarodd hi. Iesu Grist, yr hwn a adwaenai ddyn yn well, ac a wyddai fwy am wendidau, temtasiynau, ac anhawsderau pechadur, na phawb ereill ynghyd, a wnaeth hynny. Efe ag oedd yn llawnach o dynerwch a chydymdeimlad na neb arall, a orchymynodd i ni fod yn berffaith. Rhaid, gan hynny, fod yr hyn a ddysgai Ef yn rhesymol. Oblegyd, yn ychwanegol at drigo mewn goleuni, yr oedd Ef ei hun yn oleuni pur—mor bur fel na charwn i ei alw yn feddyliwr nac yn athrylith. Ac eto goddefir i mi ddywedyd ei fod yn meddwl—yn meddwl yn fwy byw a dwfn, ac, ar yr un pryd, yn fwy cyson a chywir, nag y gwnaeth neb erioed. Ni fu neb yn meddwl mor newydd ac mor wreiddiol ag ef, na neb erioed ychwaith pellach o feddwl yn wyllt, neu yn freuddwydiol, neu yn rhamantus nag Ef. Y mae ei holl ddysgeidiaeth Ef yn parhau yn amserol ac yn ymarferol, yn ddoeth ac yn ddichonadwy. Nis gallai Ef anadlu dychymygion barddonol, na gosod i fyny safonau annghyrhaeddadwy. Felly, er na fedrwn ni yn bresennol ddeall pa fodd y gallwn gyrraedd perffeithrwydd, credwn fod hynny yn bossibl, oblegyd fod Iesu Grist yn ein hannog i hynny, ac oblegyd y gall Ef ein cynnorthwyo i fod yn bob peth y mae yn ein cymhell i fod. Trwy dderbyn o hono Ef fywyd a goleuni, nerth a gras, gallwn ddyfod yn fuan yn berffaith mewn uniondeb a gwasanaeth, a dyfod yn raddol yn berffaith mewn gwynfyd a gogoniant, yn hollol wrth ein bodd ni ein hunain ac wrth ei fodd Ef am byth.

II. Tuagat weled rhesymoldeb yr adnod hon, buddiol fyddai i ni, yn mhellach, gofio mai annogaeth i dduwiolion, ac nid i annuwiolion, ydyw. A golyga hynny wahaniaeth mawr. Gan eu bod yn gyfranogion o Grist, y mae y saint mewn cyflwr dyogel ac mewn meddiant o egwyddorion uniawn, ac oblegyd hynny gallant, drwy y moddion ordeiniedig, gyrraedd sefyllfa uwch a rhagorach. Dysgir yn eglur eu bod—

(1) Yn gyfiawn. Nid ydyw y gyfraith yn eu gofyn, ac nis gall eu condemnio byth. Y maent yn ddeiliaid hollol anrhydeddus o lywodraeth y Jehofah. Ni feddylir wrth hyn eu bod yn ddibechod, oblegyd dengys y Bibl drwyddo fod drygioni ynddynt. Ymollyngant hefyd i gyflawni pechodau, ac edifarhant yn chwerw oherwydd eu llygredigaethau. Y maent yn byw yn barhaus ar faddeuant, ac mewn anghen beunyddiol am fwy o sancteiddrwydd. Yr un pryd, er eu bod yn dywyll a daearol, a bod ynddynt lawer o ddiffygion, nid oes yr un gradd o euogrwydd yn gorwedd ar eu personau, ac nis gall damnedigaeth eu goddiweddyd byth (Rhuf. viii. 1). Tramgwyddant yr Arglwydd fel Tad yn fynych; ond y maent yn yr lawn yn dragwyddol gymeradwy yn ei olwg fel Barnwr. Deuant i'r cyflwr hwn ar unwaith, ac arosant ynddo am byth. Meddant gyfiawnder nad allant ei golli, a chyfiawnder nad allant gynnyddu ynddo. Nid ydyw yr angel yn gyfiawnach yn yr ystyr hon nag ydyw y credadyn; y mae efe, yn wir, mor gyfiawn a Duw ei hun: 2 Cor. v. 21. Mwynha, o ganlyniad, bob rhyddid a braint, a gall obeithio am arweiniad ac amddiffyniad ei Frenin. Oddiar y safle uchel a pharchus hon yr annogir ef i geisio myned yn uwch, ac i ymestyn at berffeithrwydd. Gan ei fod yn anrhydeddus oddiallan, ymdreched fod yn sanctaidd oddi-fewn. Yn gymaint a bod ganddo y fath gymeriad, gall agor trafodaeth â holl lywodraeth y Jehofah, cyfranogi o bob dylanwad da, a chymdeithasu â phob creadur dyrchafedig ynddi; ac oni byddai yn naturiol dysgwyl i ddyn meddiannol ar y manteision hyn, a chyda thueddiadau grasol ynddo, gynnyddu ymhob rhinwedd, ac ymdebygu yn fwy o hyd i Dad ei ysbryd? Y mae y ffordd yn agored iddo at Dduw, ac nis gallwn feddwl am ddim mwy rhesymol nag iddo drwy ei gymundeb ag Ef—ffynhonnell pob goleuni a bywyd, fyned rhagddo ymhob daioni, ac ymgodi yn barhaus tuagat berffeithrwydd. Y mae hynny yn ddyledswydd feunyddiol arno. Gan ei fod yn gymeradwy yng ngolwg y Nef, ceisied fod yn gymeradwy yng ngolwg y ddaear. Caiff bob cynnorthwy at hynny: Rhuf. viii. 31, 32.

(2) Dysgir yr un mor eglur fod y saint yn fyw: Ephes. ii. 4, 5; Col. ii. 13; ac ni fyddai yn rhyfedd i fywyd iach dyfu a chryfhau. Eu dyledswydd hwy, o ganlyniad, ydyw ymgeleddu, porthi, ac amddiffyn, yn hytrach na galw bywyd i fod. Gallant wneyd y peth cyntaf; ni ddisgwylir iddynt gyflawni yr olaf. Duw a ddichon greu llysieuyn—gallwn ni ei feithrin, ac felly yn yr achos hwn. Dangosir lle gras dwyfol a dyledswydd ddynol yn glir yn 2 Petr i.; dyma y naill: 3, 4; dyma y llall: 5-7. Rhydd yr Efengyl drwyddi le i Greawdwr a chreadur, i ffydd a gweithredoedd. Nis gallwn ni lunio heidden; gallwn, o dan fendith ei Chrewr, luosogi un ar ol ei chael. Efe ydyw ffynhonnell bywyd mesen; gallwn ni ei chynnorthwyo i ddyfod yn dderwen. Yn debyg gyda chrefydd, yr Arglwydd sydd yn ei phlanu yn yr enaid, ac Efe sydd yn achosi ei chynnydd; ond gall dyn, fel y medr ddyrysu neu rwyddhau dadblygiad llysieuyn, arafu neu hyrwyddo tyfiant ac ymledaeniad gras a sancteiddrwydd yn ei galon. Cynhwysa bywyd rwymedigaeth i dyfu; a dyledswydd arbennig enaid goleuedig a phur ydyw ymgyrraedd am fwy o oleuni ac o burdeb. Dylai y credadyn ymestyn yn barhaus at berffeithrwydd; ac er nad all ei oddiweddyd yn fuan, ni ddylai byth roddi yr ymdrech i fyny.

Gallwn ddysgu rywfaint am y ffordd i lwyddo yn hyn oddiwrth ddull bywyd arall, y llysieuol, o ymddadblygu a ffrwytho. I bren y mae dau beth yn angenrheidiol: rhaid fod ei wraidd yn y pridd, a bod ei gangennau yn yr awyr. Dyna i gyd. Nid ydyw yn ymgynhyrfu nac yn ymboeni, gan ymdrechu ymnewid ar unwaith o blanhigyn i goeden,—cymaint a wna yw sugno yn gyson a dystaw rinweddau y ddaear a bendithion y nefoedd iddo ei hun, a thyfu. O'r ddau, y nwyon ydyw y pwysicaf iddo; ychydig iawn a gaiff oddi-isod; gwelir llawer pren yn blaguro heb ond y nesaf peth i ddim o bridd o gwmpas ei wraidd, rhaid cael awyr briodol a digon o honi. Yn gyffelyb mewn ystyr ysbrydol, ar y ddaear y mae yn ddichonadwy achub a phuro pechaduriaid; ond drwy i'r Nef ddisgyn iddynt ac ymffurfio ynddynt, y gwneir hynny. Rhaid i ni feddu hanfodiad a chysylltiadau bydol, a goreu po fwyaf cysurus a fyddant; ond nid ydynt yn bwysig iawn; am hynny na fydded i ni ymofidio mwy na mwy, os nad ydynt yn hyfryd neu yn fanteisiol dros ben. Y mae y pethau mwyaf genym—y mae yr Ysbryd Glân a Christ a Duw genym bob amser; a thrwy ymwasgu atynt hwy a chyfranogi o honynt, deuwn yn iach ac yn gryfion. Trwy aros yn y Gwaredwr, fel y gangen yn y winwydden (Ioan xv. 1-10), y gallwn ni ddwyn ffrwyth cymeradwy. Trwy ymroddi i fyfyrdodau sanctaidd ac ymarferiadau crefyddol, nyni a sugnwn i ni ein hunain fywyd dwyfol a nerth ysbrydol, gorchfygwn chwantau a hudoliaethau, ac ymgodwn i uchelderau gwynfydedig yn nghymdeithas ein Tad. Bydded i ni yn aml adael pydewau lleidiog masnach a gwaith, a phleser daearol, ac esgyn i lethrau mynydd Sïon. Y fath newid awyr bendigedig a gawn drwy hynny! Anadlwn yno awelon y Nef a pheraroglau Paradwys, a chyrhaeddwn bob perffeithrwydd sydd yn ddichonadwy i greadur.

Oddiwrth y sylwadau blaenorol, gwelir fod rhyw fathau a rhyw raddau o berffeithrwydd, yn barod, yn eiddo i bob credadyn. Nid ydyw yn ddibechod, canys "Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain." Er hynny, y mae ganddo gyfiawnder perffaith, ac y mae ynddo fywyd ag sydd, er yn wanaidd, yn berffaith o ran ei natur. Yn gyson â hyn, ac yn ychwanegol at hyn, medd bethau ereill (3) egwyddor, ewyllys, dymuniad, ac amcan perffaith. Ymgyfeiria tueddiadau dyfnaf y duwiol, er ei fod yn ei dywyllwch yn ymddyrysu weithiau drwy gyfeil. iornadau a hudoliaethau, at yr hyn sydd yn iawn a phur, ac ymgyrhaeddant am ffydd gryfach ac am sancteiddrwydd uwch. Er fod ynddo lu o wendidau a diffygion, y mae ei ewyllys ar y cyfan yng nghyfraith yr Arglwydd, ac y mae yn fwy awyddus am allu rhyngu bodd ac ymdebygu i Grist nag am ddim arall. Dysgir hyn yn eglur drwy brofiad a hanes Paul: Rhuf. vii., Phil. iii. I-15, &c. Gwelir y sant, ar brydiau, yn bwhwman rhwng purdeb a llygredigaeth, yn rhedeg ar ol llawer ynfydrwydd, ac yn cwympo i lawer pechod; ond nid ydyw yn ymhyfrydu ynddynt. Yn hytrach, y mae yn eu cashau ac yn ymladd yn eu herbyn; ac mewn trefn i gynnyddu a chryfhau, a buddugoliaethu arnynt, y mae yn chwennych didwyll laeth y gair. Ar ol cael ei guro yn nhrigfa y dreigiau, ymlusga tua ffynhonnau yr iachawdwriaeth, i yfed o honynt, ac i ymdrochi ynddynt. Ar ol cael ei faeddu gan ysbeilwyr creulawn, ymlwybra o dan gleisiau ac archollion tua chynteddau yr Arglwydd; a chlywir ef cyn hir yn ei foliannu. Cawn ef yn ymofyn am wirionedd a chyfiawnder, ac yn gwneyd hynny er mwyn gwau o honynt gymeriad ardderchocach iddo ef ei hun. Par ei reddfau pur iddo geisio byw ei argyhoeddiadau, a gweithio ei gred yn fuchedd; a gwna hynny oddiar y cymhelliad uchaf—oddiar awydd i wasanaethu Crist yn well. Oddiar gariad ato Ef y mae o hyd yn ymdrechu troi adnodau yn ymddygiadau sanctaidd, ac egwyddorion dwyfol yn weithredoedd bendigedig; ac os nad ydyw bob amser yn llwyddo, ni ddylem ryfeddu llawer, oblegyd nid ydyw hynny o gwbl yn beth hawdd. Gorchwyl cywrain a chaled ydyw gwisgo mewn geiriau, neu ddarluniau, unrhyw syniadau yn briodol; a gŵyr pawb mai peth anhawdd iawn ydyw darparu corff teilwng i unrhyw ysbryd glân. Ceisia y credadyn gyflawni gwaith llawer anhawddach—troi bywyd nefol yn hanesiaeth ddaearol, a gras o Dduw yn ogoniant i Dduw. Ac os ydyw yn aml yn methu, y mae y dymuniad am allu gwneyd yn berffaith, ac y mae yn cynnyddu ac yn cryfhau; a chaiff yn raddol ei sylweddoli yn hollol. Nid ydyw y dyn sydd yn awyddus i fyned yn gyfoethog, yn ymdrechu bathu aur ac arian, na galw tai neu longau ar amrantiad i fod, na chreu mynyddoedd na dyffrynoedd newyddion. Ac ofer ydyw i ninnau, bechaduriaid, ag ydym yn feddiannol, drwy yr Efengyl, ar egwyddorion sanctaidd, ddisgwyl gallu dinystrio tywyllwch, llid, a llygredigaeth ein natur, ac ymffurfio yn oleuni, yn gariad, ac yn burdeb, mewn diwrnod na blwyddyn. Fel y mae y marsiandwr yn arfer diwydrwydd a doethineb, yn anturio yn ofalus, yn gweithredu yn ol rhesymeg amgylchiadau ei oes, ac yn manteisio ar lawnder a phrinder gwahanol wledydd, rhaid i blant yr Arglwydd ddefnyddio yn briodol y cyfleusterau sydd yn eu gafael, cyn y gallant wneuthur cyfiawnder â thueddiadau grasol a greddfau ysbrydol eu calonnau. Os bydd iddynt wylied yn ddyfal a gweddio yn daer, darllen llawer ar yr Ysgrythyrau a myfyrio yn ddwys ynddynt, a dylyn yn ffyddiog ac yn ffyddlawn ordinhadau yr Efengyl, bydd i'r moddion hyn ag sydd mor lawn o fywyd a goleuni, o gariad a sancteiddrwydd, drosglwyddo i'w heneidiau eu cynhwysiad bendigedig eu hunain, a dwyn oddiamgylch drwy hynny ryw drawssylweddiad gogon—eddus ynddynt. Deuant yn raddol drwy hynny yn berffaith o fewn ac yn berffaith o faes—wrth eu bodd eu hunain ac wrth fodd Duw; a chânt eu hunain cyn hir mewn byd perffaith. 1 Ioan iii. 6 a 9; Heb. xii. 22 -24, &c.

III. Daw rhesymoldeb yr adnod hon yn eglurach wrth i ni ystyried fod y Testament Newydd yn son am dri math o berffeithrwydd: perffeithrwydd natur neu gyfansoddiad, perffeithrwydd tyfiant neu ddadblygiad, a pherffeithrwydd mewn gwaith, neu gymhwyster mewn creadur i ateb dyben ei fod. Gwelwn y cyntaf mewn oen neu ebol bach, yr ail mewn march porthiannus, pedair neu bump oed; a'r trydydd mewn march wedi cael ei ddysgyblu yn briodol nes y mae yn cludo ei farchog yn ol ei ewyllys, ac yn tynu ei lwyth yn llwyddiannus i ben yr allt. Ceir tri gair gwahanol am y tri math hyn. Defnyddir (1) y gair am y rhywogaeth flaenaf yn lled fynych yn nghyfieithiad y Deg-a-thriugain; ond tair gwaith y cyfarfyddwn ef yn y Testament Newydd—yn Act. iii. 16; 1 Thess. v. 23, ac yn yr adnod ganlynol: "Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan." Dyma y gair—cyfan, ac eglurir ei ystyr yn niwedd yr adnod—"heb ddiffygion mewn dim." Felly, wrth ddysgu fod unrhyw greadur yn gyfan, meddylir ei fod o ran ei gorff yn lluniaidd, heb ry fychan na gormod o aelodau, fod holl organau ei natur ynddo, a bod pob un yn gwneyd ei gwaith. Yr un arwyddocad sydd iddo pan gymhwysir ef at enaid neu gymeriad; daw y duwiol i feddiant o'r perffeithrwydd hwn ar unwaith—wrth ddyfod yn dduwiol. Y mae o'r dechreuad yn greadur ysbrydol mor gymhesur, fel nad ellir ychwanegu ato na thynu oddi wrtho, Nis gellir ei wella yn y golygiad hwn. Saif y perffeithrwydd hwn yn gyferbyniol i anaf; ac y mae baban yn feddianol arno; o drugaredd, eithriad fawr mewn gwlad yw plentyn anafus. Yn gyffelyb gyda golwg ar blant Duw, y maent i gyd yn rhai dianaf. Gall y credadyn fod yn ieuanc iawn, yn fychan iawn, ac yn wan iawn; ond nis gall fod yn afluniaidd ac anmherffaith. Y mae wedi cael ei eni drachefn, oddiuchod, o Dduw, ac wedi cael ei adgenhedlu i obaith bywiol; a rhaid ei fod yn gyfan, ac yn rhydd oddiwrth bob diffyg. Dygir yr enaid i'r sefyllfa hon ar unwaith, ac erys ynddi am byth. Fel mai nid yn raddol y genir pechadur, nid yn araf chwaith yr ailenir y duwiol; bydd pob un o honynt wedi cael ei eni yr eiliad y cymer hynny le, mor wirioneddol ag y bydd yn mhen mil o flynyddoedd ar ol hynny. Cynhwysa y baban ysbrydol holl aelodau y dyn ysbrydol; medd o'r cychwyn bob gras, dawn, egwyddor, &c., a fydd yn y sant yn y Nef: 2 Petr i. 3, 4; 1 Ioan iv. 7, &c. Felly, ni olygir wrth ein hannog i ymgyrhaedd am berffeithrwydd, ddim mwy na chymhell plentyn i geisio dyfod yn ddyn; a phrin y gellir meddwl am unrhyw beth mwy rhesymol a naturiol na hynny. Onid oes ynddo duedd reddfol i ymagor a thyfu? Nis gall orchymyn ei hun ar amrantiad yn ddyn,—gall ymarfer â moddion a ddygant hynny oddiamgylch yn raddol. Gweddus ydyw i bob Cristion gofio y gall feithrin ei fywyd newydd, ac y gall hefyd ei wenwyno. Er nad all ladd ei hun, gall gadw ei hun yn wan yn hir. Os myn iddo ei hun awyr iach, ymgeledd briodol, ac ymborth addas, o ordinhadau yr Efengyl, gan wrthsefyll drwy ras bob peth a ddichon ei niweidio, bydd yn sicr o ymagor o dan wenau ei Dad i ogoniant perffaith ac i wynfyd tragwyddol.

O! am nerth i dreulio'm dyddiau
Yng nghynteddoedd ty fy Nhad;
Byw yng nghanol y goleuni,
T'w'llwch obry dan fy nhraed;
Byw heb fachlud haul un amser,
Byw heb gwmwl, byw heb boen,
Byw ar gariad anorchfygol,
Pur, y croeshoeliedig Oen.

(2) Oddiar y safle fanteisiol hon, gallwn gyrraedd un ragorach; cynnorthwya un math o berffeithrwydd ni i ennill un uwch; i hynny y cymhellir ni gan y Gwaredwr yn yr adnod hon. Cyfarfyddwn y gair am yr ail rywogaeth o berffeithrwydd yn aml mewn athroniaeth foreuol a hen lenyddiaeth eglwysig; cyfeiria yn y cysylltiad cyntaf at athrawon mewn cyferbyniad i ddysgyblion, ac yn y diweddaf at aelodau cyflawn mewn cyferbyniad i rai ar brawf. Ac un o brif ddyledswyddau y saint ydyw ymgymhwyso drwy yr Efengyl i fod yn athrawon; nid oes un rheswm dros iddynt barhau mewn anghen am gael eu dysgu, "beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw." Dylent wrth ymarfer â llaeth" ddyfod yn alluog i gymeryd "bwyd cryf," a thrwy hynny yn alluog i gyf—lawni gweithredoedd teilwng—er lles eu rhyw ac er gogoniant eu Harglwydd. Defnyddir y gair yn fynych yn y Testament Newydd; 1 Cor. ii. 6; Eph. iv. 13; Phil. iii. 12 a 15; Col. i. 28, &c. Ystyr "rhai perffaith" weithiau ynddo ef yw dynion ysbrydol, sanctaidd, ëang eu dirnadaeth ac uchel eu profiad, mewn cyferbyniad i rai anianol, gweiniaid, tywyll, cnawdol; ac annogaeth i ni ymestyn am y sefyllfa gyntaf ydyw y testyn. Cawn feddwl Crist yn y geiriau canlynol, "Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon; ac i ffydd tuagat Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau, ac ar—ddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol." (Gwel Heb. v. 12—14, a vi. 1, 2.) Golyga brydiau ereill "dadau" yn gyferbyniol i "wŷr ieuaingc a "rhai bychain" (1 loan ii. 12-14). Cymhellir ni i ymestyn am fwy o ddoethineb a chadernid. Nid oes un rheswm dros i blant Duw, er iddynt fod yn rhai ieuainc, fod yn blentynaidd, yn ddaearol, ac yn fydol, yn amddifad o amynedd, ac yn brin o burdeb. Dyma y rhai perffaith—rhai cynnefin "â gair cyfiawnder," "rhai o herwydd cynnefindra y mae ganddynt synwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da." Prif syniad y gair yn ddïau ydyw—aeddfedrwydd; perffeithrwydd dyn wedi cyrraedd i oed a maint, i nerth a harddwch, yw yr ail. Tybia y blaenaf fod pob gras ac egwyddor sanctaidd a fydd yn y credadyn yn y Nef, ynddo yn eu had o'r dechreuad; golyga y llall fod ei rinweddau wedi ymagor, a chyrraedd mesur helaeth o rymusder a dylanwad—fod y baban wedi dyfod yn ddyn. Fel y cyfryw dylai amlygu nodweddion gwr: (1) ffydd gref a dianwadal, fywiog a thawel; (2) mesur gweddus o ddoethineb a barn; (3) sancteiddrwydd yn cynhyrchu uniondeb, parch i wirionedd, ffyddlondeb, eiddigedd yn erbyn pob math o ddrygioni; (4) cariad yn marweiddio yn ei galon genfigen, llid, a malais, ac yn meithrin ynddi amynedd a gostyngeiddrwydd, ac yn tori allan mewn addfwynder a chymwynasgarwch, mewn ymgysegriad a hunanymwadiad; (5) nerth—gallu i gyflawni gweithredoedd rhagorol dros ac i gario dylanwad bendithiol ar ei gyd-ddynion,—cadernid i ymgynnal o dan gyfrifoldeb, i ddal ymosodiadau, ac i wrthsefyll temtasiynau,—gwroldeb i ymladd â gelynion ei enaid, ac i orchfygu y cyfan drwy Dduw; (6) ysbrydolrwydd meddwl, cymundeb â Christ, llawenydd yn yr Ysbryd Glân, profiad o dangnefedd Duw, a mwynhad o obaith gogoniant y Nef. Byddai cynnydd yn y pethau hyn yn gynnydd mewn perffeithrwydd. Mor werthfawr fyddai dynion meddianol ar y fath gymeriad! Byddent mewn gwirionedd yn oleuni y byd ac yn halen y ddaear. Pe lluosogent yn gyflym, caem ein hunain yn ebrwydd yng nghanol sancteiddrwydd y Mil Blynyddoedd. "Byddwch chwi gan hyny yn berffaith." Gorchwyl caled yw hyn; ond y mae yn ddichonadwy; ac y mae yn ol mesur ein ffydd, yn hawdd. Bydd i ni gynnyddu ymhob rhinwedd yn ol ein gallu i dderbyn o Grist. Bydded i ni, o ganlyniad, ymroddi i wyliadwriaeth ac ymdrech, "Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist: fel na byddom mwyach yn blantos yn bwhwman, ac yn ein cylch—arwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo."

(3) Cyrhaedda y saint un math arall o berffeithrwydd: drwy iddynt fel plant Duw dderbyn ymgeledd ac ymarferiad priodol, deuant yn feibion Duw, a thrwy iddynt fel y cyfryw wneuthur defnydd addas o ordinhadau yr Efengyl, deuant yn weithwyr i a thros Dduw, ac yn gyd-weithwyr ag Ef yn iachawdwriaeth eu cyd—ddynion. Un waith y cyfarfyddwn y gair am y trydydd math yn y Testament Newydd: 2 Tim. iii. 17; a chyrhaeddwn y perffeithrwydd hwn drwy yr Ysgrythyr. Trwyddi hi, yn wir, y dygir y plentyn ysbrydol i fod yr ailenir ef (1 Petr i. 23), a thrwyddi hi y mae yn cynnyddu yn ddyn ysbrydol (1 Tim. iv. 15), a thrwyddi hi y cymhwysir ef yn mhellach i ateb dyben ei greadigaeth ac amcan ei achubiaeth. Dysgir ni fod pob Ysgrythyr yn ysbrydoledig gan Dduw, ac felly yn "fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi (yn feddyliol ac yn ymarferol), i geryddu (i gywiro a chyfarwyddo), i hyfforddi mewn cyfiawnder; fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio (wedi ei gyflawn ddarparu, neu ei ddysgyblu yn hollol, thoroughly furnished, or well equipped for) i bob gweithred dda," yn hytrach i bob gwaith da. Y mae y Bibl, "trwy y ffydd sydd yng Nghrist Iesu," yn abl i wneuthur pechadur "yn ddoeth," nid yn wybodus yn unig, ond yn ddoeth, ac felly i newid a gwella ei enaid, i ddwyn ymlaen ynddo ddysgyblaeth rasol ac ysbrydol, ac felly i'w wneuthur "yn ddoeth i iachawdwriaeth." Yn ychwanegol at fod yn rheol anffaeledig o ffydd a buchedd, y mae yr Ysgrythyrau yn trosglwyddo i bob calon grediniol oleuni achubol a dylanwad pureiddiol. O fod yn eiriau allanol, daw eu hadnodau yn fywyd mewnol ac yn rym nefol, yn gariad cynhes ac yn addoliad byw; ac ymffurfiant yn raddol yn ymarweddiad prydferth ac yn waith rhinweddol. Dyma risiau yr esgyniad gogoneddus hwn: athrawiaethau a gwirioneddau dwyfol i ddechreu, yna egwyddorion grasol a theimladau crefyddol, ac wedi hynny ymddygiadau sanctaidd a gweithredoedd bendithiol. Y sefyllfa olaf hon a olygir wrth y trydydd perffeithrwydd a ddatguddir yn y Testament Newydd. Nid ydyw y credadyn yn faban dianaf mwyach, nac yn ddyn iach, cryf, lluniaidd, cyflawn o oedran a synwyr yn unig; y mae erbyn hyn yn weithiwr perffaith—yn sylweddoli dysgwyliadau ei ymgeleddwyr, ac yn llanw ei holl gylchoedd. Nid oes ynddo bellach nemawr o ewyllys nac o allu i wneuthur drwg; nis gall feddwi na thwyllo, na dial nac athrodi, nac ymlygru llawer gyda chnawd na byd. Ond amlyga duedd a gallu rhyfeddol i wneuthur daioni—daioni o bob rhyw a math, pob rhywogaeth o waith da ac o weithredoedd prydferth; amlyga fwy o lawer o hyn nag a fuasai yn gyfreithlawni ni ddysgwyl oddiwrth ei gynneddfau naturiol, nac oddiwrth ei ddygiad i fyny, nac oddiwrth ei amgylchiadau, na dim. Ac y mae yn treulio ei flynyddoedd yn y mwynhad o gymeradwyaeth ei gydwybod ei hun, o barch dynion rhinweddol, ac o wenau ei Dad.

At hyn, drwy ymgyflwyniad beunyddiol i Air ac ordinhadau Duw, y gweddai i ni ymestyn. Dylem o hyd ymgyrhaedd am ffydd fwy dïanwadal, am gariad cryfach, profiad uwch, a gwasanaeth mwy effeithiol. Calonogir ni yn ein hymdrech am danynt gan eiriau fel y rhai can—lynol: "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn, canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef" (Phil. xii. 13), oblegyd i weithio allan, ac nid i lunio iachawdwriaeth i ni ein hunain yr annogir ni ynddynt. Gorchwyl digalon iawn fuasai ceisio gwau cyfiawnder i ni ein hunain, a golchi ein heneidiau sydd yn halogedig drwyddynt. Cymaint sydd yn eisiau ydyw, estyn ein dwylaw fel y nofiedydd i nofio yn môr, neu chwareu ein hadenydd fel eryrod yn awyr yr iachawdwriaeth. Gan fod Duw yn gweithio ynom, bydded i ni weithio allan; gallwn drwy ei ras Ef gyflawni ein dyledswyddau ein hunain, a derbyniwn drwy hyny fendithion newyddion. Rhaid i ni gredu y ddwy adnod; pe gweithredem ar y flaenaf yn unig, enillem foesoldeb, parch ein cyd-ddynion, a safle weddol anrhydeddus ar y ddaear; ond ni chyfranogem o sancteiddrwydd; nid ymddiriedai angylion ynom, ac ni chyrhaeddem y Nef o gwbl. Trwy i Dduw weithio ynom, y gallwn ni weithio allan; a dïau fod y gosodiad cyferbyniol yn wir—mai drwy i ni weithio allan yr hyn sydd ynom, y gallwn ni dderbyn mwy i mewn. Pe gweithredem ar yr adnod olaf yn unig, troem ras ein Harglwydd i drythyllwch, a sugnem farwolaeth i ni ein hunain o ffynnon bywyd ei hun. Trwy gredu y ddwy y gallwn fyw a chyflawni gwasanaeth teilwng dros bechaduriaid ac er gogoniant eu Hiachawdwr. A hyfryd fyddai gwrandaw tua therfyn y daith, ar ddynion ac angylion yn cyd-dystiolaethu ein bod wedi ymdrechu ymdrech dêg, a chlywed Duw yn cyhoeddi uwch ein penau, "Da, was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd."

Byddwch chwi, gan hynny, yn berffaith—fel dynion; rhywbeth mawr a fyddai cyrraedd y sefyllfa oreu, fwyaf effeithiol, a mwyaf anrhydeddus a bendigedig, sydd yn agored i ddynion; ond annogir ni i ymestyn am safle uwch—"fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith." Ac ystyr hyn, yn ol fy meddwl i, ydyw, Bydded pob un o honom yn gystal dyn ag ydyw Duw o Dduw. Carai y duwiol fod felly; ac nid yw yn awyddus i fod yn ddim mwy. Hoffai llawer pechadur fod yn hollalluog ac yn hollwybodol, ac ni rwgnachai fod yn hollbresennol; ond nid ydyw y credadyn yn chwennych hynny. Teimla ef yn aml mai cyfrifoldeb mawr yw bod yn ddyn chwaithach yn Dduw. Dymuna ymdebygu iddo ymhob peth y gall creadur ymdebygu i'w Greawdwr; awydd cryfaf ei galon ydyw rhodio yn ol ei ewyllys a gogoneddu Crist. Nid ydyw yn ymofidio oherwydd nad yw yn alluog i oleuo sêr ac i greu mynyddoedd; chwennychai allu ymlenwi o oleuni a bywyd, o gariad a sancteiddrwydd, ac, yn y diwedd, o wynfyd a gogoniant.

DYMUNIAD.

Ar ol yr einioes ddu,
Er temtasiynau lu,
A bleiddiaid ar bob tu,
O Iesu byw!
A gaf fi esgyn—drwy
Haeddiannau maith dy glwy',
O faglau Satan mwy,
I fynwes Duw!

Mewn rhwyllog dŷ o glai,
Yn crynu am fy mai,
A methu pechu llai,
Fy ysbryd sydd,
Ar riwiau serth a chras,
Dan wg a gwawd fy nghas,—
Mewn newyn am dy ras,
A mwy o ffydd.

Goleua nos fy mryd,
Tawela för fy myd,
Meddianna fi o hyd,
Drwy dy Ysbryd Glân,—
Fel bo fy mywyd brau
I gyd wrth dy fwynhau,
I Ti'n ogoniant clau
O waith a chân.

O! boed fy llwybr yn wyn,
Drwy rinwedd Croes y Bryn,
Oddiyma drwy y glyn—
Hyd atat Ti,
Fel, wedi byd a bedd,
Caf syllu ar dy wedd,
Ac yfed o dy hedd,—
Fy ngwynfyd i.


BYWYD FY YSPRYD I.

"Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy yspryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi."—ESAIAH XXXviii. 16.

YN rhan flaenaf y bennod hon (1-8), mynegir hanes clafychiad ac adferiad gwyrthiol Hezeciah, a chawn fanylion ychwanegol am yr amgylchiadau hyn yn 2 Bren. xx. 1-11. Ysgrifenodd y brenin ar ol gwella, hanes ei enaid, a phrofiadau a gweddïau ei galon, yn ei gystudd, fel y gallent fod o wasanaeth iddo ar ol hynny. Cynhwysir hwy yn 9—14. Y mae yr adnodau dylynol (15-20) yn ymffurfio yn salm o ddiolchgarwch a mawl. Cofnodir ynddynt syniadau a bwriadau ac addewidion ei ysbryd dan effaith yr adgofion am ei glefyd, ac yn y mwynhad o waredigaeth mor ryfeddol. Y mae y testyn ar hyd y bennod hon yn ddrwg, ac adnod doredig iawn yw yr 16eg; ond gwnaeth y cyfieithydd ei waith arni yn bur foddhaol. Cyfeiria at y 15eg: "Canys dywedodd wrthyf, ac efe a'i gwna,"—addawodd a chyflawnodd. A thrwy hyn—drwy y trugareddau a gyfrana yr Arglwydd, ar y naill law, a thrwy ymrodiad "araf "—gwyliadwrus a dichlynaidd, eu derbynwyr, ar y llall, y mae dynion, mewn ystyr naturiol, yn byw ac yn ymadfywio o bob clefyd a chystudd. Yn gyffelyb, drwy y bendithion a drosglwydda Duw o hono ei hun i eneidiau drwy eu ffydd hwynt, y derbyniwn hefyd y bywyd uchaf oll—bywyd ysbrydol a thragwyddol. yn yr holl bethau hyn," neu ynddynt hwy yn unig neu yn hollol," y mae bywyd fy yspryd." Cyfrana Yspryd bywyd" (Dat. xi. 11) fywyd ysbryd i bechaduriaid; ond nid ydyw daioni dwyfol yn dileu yr angen am ofal ac ym—drech ddynol.

"Bywyd fy yspryd i"—ymddysgleiria yr ymadrodd hwn, o ganol mesur o aneglurdeb, i olwg pawb mewn prydferthwch digyffelyb. O holl ymadroddion grasol a newyddion—byth newyddion yr Ysgrythyrau, ni cheir odid yr un mwy goludog a bendigedig na hwn. Deil gydmhariaeth â "goleuni y bywyd" yn Ioan. A phe cawsid un cyffelyb iddo mewn unrhyw lyfr dynol, buasai llenorion anianol y byd yn son yn ddiddiwedd am dano. Y mae yn esiampl arbenig o gyfoeth ac o allu y Bibl i ymagor ac ymddyrchafu, i ganlyn cynnydd a dyrchafiad pob cenedl a chyfnod. Gwel pob dyn rywbeth yn yr ymadrodd hwn: ni wêl yr un dyn y cwbl sydd ynddo. Canfyddai gwladwr eyffredin ryw ardderchowgrwydd yn un o ddar—luniau Turner; ond canfyddai arlunydd, gyda llygaid diwylliedig, lawer iawn mwy ynddo. Felly hwnyma, y mae o ran ei ystyr yn ymëangu ac yn ymddyfnhau yn barhaus, yn ol fel y mae llygaid y ddynoliaeth yn ymloewi ac yn ymgryfhau i edrych i fewn iddo. Boddlonai ddyhëadau uchaf oes seml, anllythyrenog, Hezeciah; gwel saint cryfion a choeth yr oes ddysgedig ac athronyddol hon fwy na digon ynddo; a chaiff ysbrydoedd dyrchafedig y Mil Blynyddoedd ddyfroedd nofiadwy ynddo.

I. "Bywyd fy yspryd i": dyma un o fendithion mawrion yr Efengyl i bechaduriaid—bywyd; a hi yn unig sydd yn cynnyg y fath nwydd gwerthfawr am arian neu am ddim. Gwahodd trigolion y ddaear i dderbyn bywyd y mae ymhob oes a thrwy bob iaith. Geilw ar ddynion byw i gyfranogi o fywyd: onid yw ei holl wrandawwyr hi yn fyw? Pa briodoldeb sydd yn hynny? Y mae yn ymddygiad hollol resymol, oblegyd y mae mewn dyn awydd am barhad, ac am feddu mwy o bob bywyd sydd ynddo; ac y mae yn nyfnder enaid llawer un ddymuniad am fywyd ag y mae yn gwbl amddifad o hono. Y mae y ddau gyntaf yn naturiol; ond yn mha ystyr y mae un bywyd yn awyddus am fywyd arall, neu y gall un creadur chwennych bod neu fyned yn greadur arall? Awgrymir rhywbeth tebyg i hynny yn y Bibl: Rhuf. viii. 19-23: onid ydyw y greadigaeth—mynyddoedd a dyffrynoedd, yn hiraethu am gyflwr uwch ac am sefyllfa ragorach? Os ydynt, gwnant hynny yn ddystaw iawn. Duw yn unig sydd yn deall ubain coedwigoedd a chyfandiroedd. Os ydyw mwsog a throellgoryn yn ymofidio am na buasent yn blodeuo ac yn perarogli, nid ydyw dyn yn clywed eu hocheneidiau. Y mae ef ei hun yn anesmwyth ac yn boenus—yn blino yn barhaus arno ei hun Nid ydyw grug a rhedyn yn ymddangos mewn unrhyw ing oblegyd na buasent yn balmwydd neu yn ffynnidwydd. Y mae pechadur yn ymgnoi ac yn ymlosgi yn aml am na buasai yn rhywbeth mwy ardderchog nag ydyw. I bob golwg, y mae eithin yn hollol foddlawn ar y natur a roddodd eu Creawdwr iddynt; ac nid ydyw mïeri yn ymddigio oherwydd na buasent yn dderw neu yn gedrwydd. Gwnawn ni lawer o rywbeth tebyg i hynny; gan nad ydym yn hyn neu arall yn gyfoethog neu yn enwog, ni fynwn fod yn ddim. Creadur dyrus, llawn o anghysonderau, ydyw dyn; gydag uchelgais gref a dyhëadau dyfnion, y mae ynddo dueddiadau grymus i ymddirywio. Gyda chwantau gwylltion sydd yn ei dynu i gyfeiriad yr anifail, y mae ynddo awydd angerddol i fod yn gerub. Duw yn unig sydd yn alluog i ddeall ac i ddiwallu pechadur. Efe a ddichon ddarllen ei anghenion dyeithr, a deongli ei ddymuniadau poethion. Ac y mae, oddiar gyfoeth ei drugaredd, yn ei wahodd yn barhaus yn yr Efengyl i dderbyn bywyd newydd, iach, a wna o hono greadur sanctaidd, dedwydd, a gogoneddus.

Gwyddom rywbeth am wahanol rywogaethau o fywyd. Mewn un pegwn, cawn y bywyd llysieuol. Y mae hwn, er yn lanach a phrydferthach na ni, yn mhell islaw i ni. I raddau bychain iawn y gallwn gyfranogi o hono ef. Gall ein cyrff dderbyn cynnaliaeth o hono, a gall ein heneidiau. dderbyn hyfrydwch oddiwrtho; ond nid ydyw yn perthyn i ni. Nis gallwn drwy unrhyw foddion droi yn llysiau. Yn y pegwn cyferbyniol, y mae y bywyd dwyfol, Y mae hwn gymaint uwchlaw i ni, fel nas gellir drwy unrhyw ymgeledd ein gwneyd yn gyfranogion o hono—o fywyd arbennig y Jehofah. Nis gallwn, o ganlyniad, byth dyfu yn dduwiau. Gall dyn feddu tri math o fywyd—yn ei gorff, yn ei enaid, ac yn ei ysbryd: bywyd anianyddol—yr un un ag sydd yn yr ych ac yn y march; bywyd anianol, a bywyd ysbrydol. (1) Medd pob dyn sydd ar y ddaear y cyntaf; ac nis gall, gan nad faint o bechadur ydyw, golli hwn, tra bydd anadl ynddo. Trwy hwn y mae yn bod, yn symud, ac yn gweithio; ac, er nad yw wrtho ei hun yn ddigon i ni, y mae gwerth mawr arno. Gwyn ei fyd y gwr sydd yn meddu mesur helaeth o hono! Ymdraidd yn ysbrydiaeth hyfryd drwy ei natur i gyd. Ymffurfia yn wallt ar ei ben, yn loewder yn ei lygaid, yn wrid ar ei ruddiau, yn nerth yn ei ewynau, ac yn nwyfiant drwy ei holl gyfansoddiad. Er hynny, os nad oes genym un arall, y mae trychineb wedi cymeryd lle yn ein hanes,—rhaid ein bod wedi colli un arall, pwysicach. Er mai nid un bywyd a roddodd Duw i ddyn, y mae colli un yn amgylchiad difrifol. Tybia ddau beth: dyfodiad i fewn yn gystal a mynediad allan. Wrth iddo ef fyned allan o greadur, ymweithia llygredigaeth ar unwaith i fewn iddo. Y mae enciliad bywyd yn ddechreuad dirywiad a dadgyfansoddiad. O dan yr amodau hyn o amddifadrwydd o fywyd glân ac o arglwyddiaeth drygioni, y cais pechadur ymlwybro drwy y byd. Felly, os nad oes ynom ni fywyd rhagorach nag sydd yn y march, rhaid fod ynom elfenau mwy ysgeler nag sydd ynddo ef. Os nad oes ynom fywyd ardderchocach nag sydd yn yr oen, prin y gall yr un o honom fod mor ddiniwed ag oen. Nis gall dyn ymddirywio hyd at fod yn anifail, ac aros yn anifail; rhaid iddo fod yn rhywbeth uwch neu yn rhywbeth is nag anifail. Onid ydyw yr anifail a anwyd yn ddyn yn fwystfil? Onid ydyw y bwystfil a fu yn ddyn—yn ddiafi? Gweddus ydyw i ni ystyried hyn, ac ymddifrifoli wrth ben y mater. Ymddengys i mi mai y defnydd goreu allwn ni wneyd o fywyd anianyddol ydyw, ei dreulio i ymofyn am gwell.

(2) Medd pechadur rhyw fath o fywyd yn ei enaid. Er nad ydyw ef yn alluog i weled ac adnabod sylweddau ysbrydol a dwyfol, y mae yn deall ac yn barnu gyda llawer o gywirdeb bethau amserol a bydol. Er iddo fod yn Nabal gyda golwg ar y Nef, gall fod yn Solomon gyda golwg ar y ddaear. Y mae ynddo fwy neu lai o allu i ddewis a gwrthod, i garu a chashau. Y mae ei natur yn gyforiog o deimladau byw, o wyniau cryfion, ac o nwydau angerddol, y rhai a ymweithiant yn achlysurol drwy ei aelodau i bob ffurf o lygredigaeth a gwaradwydd. Cynhyrchant ynddo weithiau dymhestloedd a gythryblant ei gyfansoddiad hyd ei waelodion. Ymffurfiant ar brydiau yn dân yn ei enaid, yr hwn a ysa ei nerth, a lysg ei serchiadau, ac a ddeifia ei ogoniant i ffwrdd. Profant hefyd yn fynych yn gynnorthwyon gwerthfawr, a chyflawnant lawer o orchestion cymeradwy. A rhyw fath o fywyd ydyw hyn i gyd. A ddylai dyn feddu rhyw un rhagorach, neu a ydyw hwn yn ddigonol iddo? A! os na fedd un uwch a gwell na hwn, rhaid ei fod wedi colli un uwch a gwell. Y mae y bywyd anianol hwn yn y diafol, ac y mae ynddo ef mewn helaethrwydd mawr; ac oblegyd ei fod yn llawnach nag ereill o hono, y mae gymaint yn fwy ei drueni nag ereill. Ie, y mae y bywyd llygredig, gwenwynedig, hwn, yn rhyw fath o fywyd tragwyddol. Pery yr enaid drwyddo mewn bod, ac yn llawn o yni, am byth. A ydyw y meddiant o hono, ynddo ac arno ei hun, yn un dymunol? A fydd meddu cof i ddwyn ar gof yn ddibaid i ni y cyfleusterau fyddwn wedi gamddefnyddio,—rheswm i ddangos i ni y bydd ein colledigaeth yn anadferadwy,—ewyllys halogedig yn ymroddi i bechu yn oes oesoedd, a chydwybod wedi troi yn sarff, i ddial arnom byth byth—oedd, yn fantais i ni yn nhragwyddoldeb? A! byddai y meddiant o honynt yn sicrhau ein trueni. Oni ddelai bodolaeth o dan y fath amgylchiadau, yn faich annyodd—efol? Nis gallaf ddychymygu am ddim mwy ofnadwy na chreadur o ddyn wedi blino arno ei hun, ac yn methu cael ymwared o hono ei hun,—er ymguro yn erbyn pob craig boeth, yn methu diddymu ei hun! Os na chawn ni amgenach bywyd na hwn, byddai yn well i ni golli hwn hefyd. Yn niffyg un rhagorach na hwn, y fendith fwyaf allem ni dderbyn, fyddai disgyn y mynyd hwn i ddiddymdra!

II. Math arall o fywyd ydyw yr un ysbrydol. Medd dynolryw i gyd y ddau ddiweddaf; rhai o honynt yn unig sydd yn meddu hwn, ac nid yw yn eiddo i neb o honynt wrth naturiaeth. Naturiol yw y ddau hynny; ac nis gall y naturiol, gan nad faint a ddysgir ac a goethir arno, byth ddyfod yn ysbrydol: Ioan iii. 3-7. Y mae mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag sy rhwng planhigyn a choeden, a mwy nag sy rhwng draenen a derwen. Gwahaniaethant yn eu hanfod ac yn eu hansoddau. Y mae cymaint o bellder rhwng bywyd ysbrydol ac un anianyddol ag sy rhwng rhedynen a march, neu rhwng ëog ac eryr. Rhagora gymaint ar yr anianol ag y gwna y nefol ar y daearol, neu yr angel ar y pechadur. Efe ydyw yr unig un ag y mae yn werth gan y Bibl ei alw yn fywyd (1 Ioan v. 12). Beth a wyddom am dano? Carwn, mewn trefn i feithrin ynom fwy o awydd am dano, egluro ychydig arno. Pa faint a wyddom am fywyd mewn ystyr gyffredinol? Y mae yn debyg mai yr hyn a dynai sylw gyntaf ynddo ef, fel pethau ereill, oedd rhyw deithi neu gynneddfau perthynol iddo. Wrth i ddynion weled y rhai hynny, deffroid eu chwilfrydedd, ac arweinid hwy (yn unol â gweithrediad naturiol y meddwl, drwy yr hyn y mae athroniaeth yn dechreu yn fynych mewn rhyfeddod) wrth syllu ar dyfiant, cyfnewidioldeb, prydferthwch, bywyd,—i wneuthur ymofyniadau pellach yn ei gylch. Gofynent pa fodd y dechreuodd, neu o ba le y tarddodd; a gofynai ambell un pa beth ydyw. Ond gan nad faint o ystyriaeth a gafodd y pwnc hwn mewn amserau a aethant heibio, ni dderbyniodd erioed gymaint ag yn yr oes hon. Bywyd—yddiaeth ydyw un o wyddorau penaf y ganrif hon. Wele dri o faterion: tarddiad, natur, a nodweddion bywyd—ysbrydol yn gystal a naturiol; ond materion ydynt, yn arbennig un o honynt, ag y mae yn bur anhawdd traethu llawer o wirionedd sicr arnynt. Ymdrechaf daflu allan rai awgrymiadau cywir yn eu cylch.

1 Tarddiad bywyd ysbrydol.—Tueddir meddwl dyn i ryw raddau ymhob oes a gwlad, i ymdrechu olrhain dech—reuad ac achosion pethau, ac y mae ei ymdrech erbyn hyn wedi ei choroni â mesur helaeth o lwyddiant. Y mae wedi darganfod ffynhonnell llawer afon—yn nghors a dagrau brwyn y cwm. Y mae wedi bwrw ar ymddang—osiadau dyeithrol a ddychrynent ein henafiaid, lewyrch mor gryf fel yr ymddangosant i ni yn hollol naturiol. Nis gall hen farddoniaeth anian ddal golygon tanbaid Gwydd—oniaeth. Nid oes mwyach ysbryd yn y mynydd, na Thylwyth Teg yn y dyffryn. Yr un pryd, er ei holl fuddug—oliaethau, nid ydyw y meddwl dynol, er ceisio ei oreu yn hir, wedi gallu hyd yma esbonio tarddiad a chychwyniad bywyd. Nid ydyw, yn ei nerth ei hun, wedi llwyddo i daflu nemawr o oleuni ar y mater hwn. Deallwn i gyd mai o fywyd yn unig y gall bywyd hanu, ac nis gwyr athronwyr lawer chwaneg yn y cyfeiriad hwn. Cyflwynasant hwy, o bryd i bryd, nifer luosog o dybiau i sylw y byd o berthynas i hyn; ond ychydig o honynt a dderbynir heddyw fel gwirioneddau diamheuol. Cyferfydd y gwyddonwyr hynny ag ydynt yn gwrthod, neu yn ddyeithr i, ddysgeidiaeth y Bibl ar y pwnc, ag anhawsterau mawrion; cânt eu hunain yn aml mewn tywyllwch; gwrthwynebant eu gilydd a gwthddywedant eu hunain yn fynych, yn yr oes hon. Iddynt hwy, y mae y cwestiwn o berthynas i ddechreuad bywyd, yn bygwth profi yn un anatebadwy.

Ar y llaw arall, y mae yr ymofyniad hwn i bawb a dderbyniant yn grediniol ddatguddiad yr Ysgrythyrau, yn un cydmhariaethol hawdd. Y datguddiad hwnnw ydyw, fod y bywyd uchaf oll—y Bywyd Dwyfol, yn ddiddechreuad, ac mai Duw ydyw achos a ffynhonnell pob rhyw a math arall o fywyd yn y nefoedd ac ar y ddaear, "Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd." Fel mai Efe a ddygodd y greadigaeth i fod, Efe hefyd a anadlodd yn ei ffroenau hi anadl einioes, ac a ddygodd drwy hynny bob creadur a llysieuyn i fod. A chyda golwg ar fywyd ysbrydol, o hono Ef mewn modd arbennig y deilliodd hwn. O hono Ef y tarddodd pob bywyd; ond tarddodd hwn o ddyfnderoedd pellach ac is ynddo nag unrhyw un arall; oblegyd hynny y mae yn rhagori ar bob un arall. Blagur ei nerth yw y bywyd llysieuol, ac anadl ei ddoethineb yw y bywyd anifeilaidd; ond y mae yr ysbrydol yn anadl ei galon, yn oleuni ei feddwl, yn wres ei gariad, yn brydferthwch ei sancteiddrwydd. Dyma fywyd goreu y Nef; ymlifa ini o Dduw ei hun. Erbyn hyn, y mae y bywyd hwn, nid yn eigion pell yr hanfod ddwyfol, ond yn yr agosrwydd mwyaf atom—yn Iesu Grist. Ystyrier yr ysgrythyrau canlynol: Ioan i. 4, iii. 16 a 36, vi. 40, 47, 48, 51, 54, 57, x. 10, xvii. 3; Gal. ii. 20; Col. i. 19, ii. 9, &c. Awgrymant luaws o gwestiynau, ac ni byddai yn hawdd egluro pa fodd yn fanwl y mae bywyd yr Iesu yn dyfod yn fywyd i ni; ond y mae y ffaith ei fod yn amlwg. Y mae y dynion sydd yn credu ynddo, yn cyfranogi o hono—o fywyd yn gystal ag o gyfiawnder y Gwaredwr. Sugnant bron yn ddïar—wybod iddynt eu hunain, oleuni a chariad, nerth a thangnefedd, allan o hono. Ymegyr eu heneidiau wrth ymddiried ynddo a chymdeithasu ag Ef, i sancteiddrwydd a phrydferthwch rhyfeddol. Tyfant yn feunyddiol mewn tebygolrwydd ac ymgysegriad iddo, a thyfant yn y diwedd i wynfyd a gogoniant tragwyddol: "A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i."

2. Natur bywyd ysbrydol.—Gan nad faint o rwystrau sydd ar ein ffordd i olrhain tarddiad bywyd, cyfarfyddwn rai lluosocach a mwy wrth geisio egluro ei natur. Ni lwyddodd neb erioed i wneuthur hynny, ac nis gall dyn anturio ar orchwyl caletach, Y mae bywyd fel yr enaid—y peth mwyaf adnabyddus i ni, a mwyaf dyeithr i ni—agosaf atom, a phellaf oddiwrthym. Ei natur ef yw cyssegr sancteiddiolaf anian; ac hyd yn hyn ni threidd—iodd yr un offeiriad i fewn iddo. Gallwn yr un pryd, er mor anwybodus raid fod pawb o honom yn ei gylch, synied rywfaint am dano.

"Bywyd fy yspryd i"—pa beth ydyw? Gan nad beth yw, rhaid ei fod yn symud ymaith yr hyn a achosodd farwolaeth yr enaid ar y cyntaf. Yn gynt neu hwyrach, y mae yn rhwym o ddileu pechod, ac felly y mae o angen—rheidrwydd yn tybied maddeuant. cyfiawnhad, mabwysiad. Yn mhellach, gan mai oddimewn, mewn modd arbennig, y mae eisteddle bywyd, ac mai at gyfnewidiadau yn nghyf—lwr allanol pechadur y cyfeirir yn y geiriau diweddaf, rhaid ei fod yn cynnwys rhywbeth ychwanegol. Goddefir i mi hwyrach ei alw yn egwyddor newydd, sanctaidd, lywodraethol, yr hon sydd yn bywhau yr ysbryd, yn cyf—eirio gweithgarwch y galon, yn cynhyrchu teimladau pur ac amcanion dyrchafedig, ac yn achosi ymarweddiad difrycheulyd a chymeradwy. Gallwn, er lleied a wyddom am dano, daflu rywfaint o oleuni arno drwy eiriau fel y rhai canlynol:—

(1) Y mae o ran ei natur yn ysbrydol ac yn sanctaidd. Gan ei fod yn fywyd, rhaid ei fod yn bur—y mae pob gwir fywyd felly; a chan mai bywyd ar gyfer ysbryd ydyw hwn, rhaid ei fod yn sanctaidd, yn gystal ag yn ysbrydol, o ran ei ansawdd. Cyferfydd, o ganlyniad, ag eisiau mwyaf a phenaf pechadur, oblegyd y mae wrth ymweithio i mewn iddo, yn diwallu anghenion ac yn boddloni dymuniadau dyfnaf, ac yn meddyginiaethu galluoedd ardderchocaf, ei natur. Ymddengys fod gwahanol rywogaethau o bysgod yn byw ac yn ymgadw mewn gwahanol ddyfnderau yn y môr. Yn gyffelyb, y mae ynom ninnau lawer o rywogaethau o gynneddfau, o anghenion, a dymuniadau rhai uwch a rhai îs. Y mae rhai o honynt mor agos i wyneb ein heneidiau, fel y mae gwrthrychau ac amgylchiadau daearol—dyddiau heulog neu farchnadoedd bywiog, yn eu digoni; rhai ereill is ag y mae llenyddiaeth neu glod dynion yn eu diwallu; rhai ereill is fyth ag y mae caredigrwydd a chymdeithas yn eu boddloni. I lawr yn nyfnderoedd ein bod, y mae galluoedd ac anghenion a dymuniadau mor fawrion, fel nad all dim a berthyn i ddaear ac amser weinyddu unrhyw ymgeledd na hyfrydwch iddynt. Y maent mewn llawer enaid yn ysig a gorthrymedig, ac yn rhy weiniaid a bloesg i allu cymaint ag ocheneidio a griddfan yn ddigon uchel i glust—iau anianol a chnawdol eu clywed. Trosglwydda y bywyd ysbrydol a sanctaidd hwn iachawdwriaeth iddynt i gyd; lleinw yr enaid â thangnefedd a gobaith, a pharotoa ef ar gyfer gwynfyd a gogoniant perffaith.

(2) Oherwydd ei fod yn ysbrydol ac yn sanctaidd, y mae y bywyd hwn hefyd yn ddwyfol—yn ddwyfol yn ei natur oblegyd ei fod yn ddwyfol yn ei darddiad. Duw ydyw ei ffynhonnell. Oddiwrtho Ef y daeth bydoedd a sêr; daw hwn o hono. Gwaith ei fysedd Ef yw moroedd a mynyddoedd; ond nid ydyw yn creu bywyd. Cyfranu hwnnw o hono ei hun y mae, a hwn ydyw y goreu a gyf—ranodd erioed. Ceidw un uwch iddo Ef ei hun; hwn ydyw yr ardderchocaf a ddichon creadur dderbyn. Dysgir drwy y Testament Newydd fod y credinwyr, mewn modd arbennig, yn hiliogaeth Duw, a bod egwyddorion ei gymeriad Ef yn blanedig yn eu calonnau hwy: 2 Petr i. 3—4; 1 Ioan iii. 9, iv. 4 a 9, v. 1 a 18. Yn hynny y mae ein gobaith—drwy gyfranogi o ras ac anian y Jehofah y gall pechadur ddyfod yn drwyadl ddynol, yn gwbl wynfyd—edig, ac yn hollol ogoneddus.

(3) Gan fod y bywyd hwn yn ddwyfol, yn gystal ag yn ysbrydol a sanctaidd, rhaid ei fod hefyd yn dragwyddol a nefol. Y mae yn ddiball yn ei rym ac yn ddiderfyn yn ei barhad. Nis gall ei etifeddion heneiddio, na gwanhau, na blino, yn oesoesoedd: Es. xxxv. 10, xl. 31; Rhuf. viii. 33-39. O'r Nef yr hanodd, ac ymgyfeiria yn feunyddiol at y Nef. Nid ydyw mor rymus a phrydferth yn bresennol ag y bydd yn y dyfodol, oblegyd y mae mewn amgylchiadau mor anfanteisiol. Nid ydyw ei ddalen mor werdd yn y byd hwn ag ydyw yn ei fyd ei hun, ac nid ydyw ei ffrwyth yma mor beraidd ag ydyw yno, oblegyd bywyd nefol o dan amodau daearol ydyw yn mhawb a welsom ni erioed. Ond wedi cyrraedd ei fro gynhenid, dengys yn amlwg ei fod o'r un natur a Phren y Bywyd ei hun. Gymaint ydyw ein braint! Deuwn drwy ffydd yn gyfranogion o rinweddau y Jehofah, y rhai a alluogant bechaduriaid i fyw ar y ddaear i ryw raddau fel y mae yr angylion yn byw yn y Nef. Dysgant gredinwyr ag sydd yn awr mor wylaidd a chrynedig, i deimlo gartref yn mhlith cerubiaid paradwys. Ymdreiddiant drwy hen chwiorydd ag sydd yn bresennol mor ofnus a hurt fel yr ymddyrysent ymhob dinas yn y byd, yn hunanfeddiant gwynfydedig gerbron gorseddfainc Duw. Y fath ragolygon dysglaer a ymagorant o flaen y saint! Gydag eneidiau llawnion o fywyd sanctaidd, ac amgylchiadau perffaith fanteisiol a hyfryd, a thragwyddoldeb dinos a didymhestl, pa beth mewn dedwyddwch a gogoniant (1 Ioan iii. 2) a fyddant!

III. Nodweddion bywyd.—Ymddengys cynneddfau yr un ysbrydol drwy eiddo y naturiol. Crybwyllaf bedair neu bump o honynt. (1) Gwelir bywyd glân o bob rhyw a math, ac ymhob man, yn amcanu parhau a chryfhau ei hun. Y mae pob creadur syml a phur yn caru byw, ac yn ymdrechu byw. Cawn ef yn manteisio yn feunyddiol ar yr amgylchiadau y bydd ynddynt, gan geisio tynu cynnaliaeth iddo ei hun o bob peth, a throi pob peth addas yn rhanau o hono ei hun. Leied o greaduriaid direswm sydd yn blino ar eu heinioes, ac yn cyflawni hunanladdiad! Bywyd wedi ymddirywio yn wallgofrwydd ac yn gynddaredd drwy bechod, yn unig sydd yn gwneuthur hynny. Meddylier am lysieuyn, gyda chymaint o ymroddiad y mae drwy yfed o wlith y wawr, drwy anadlu iddo ei hun nwyon yr awyr, a goleuni a gwres yr haul, a thrwy yru ei wraidd i lawr i'r ddaear, a sugno ei brasder iddo ei hun, yn ymdrechu cadarnhau ei hun! Yr un peth a wna yr anifail wrth bori y glaswellt—try ef yn waed a chnawd, yn ewynau ac esgyrn, ynddo ef ei hun. Yr un modd y gwna y bywyd ysbrydol. Y mae y dyn sydd yn ei feddu, oddiar brofi dymuniadau newyddion, yn amlygu ymdrechion newyddion i'w diwallu. Gwelir ef yn dylyn moddion gras, yn darllen y Bibl, yn gweddïo, ac yn myfyrio, ac yn gwneyd pob peth llesol iddo ei hun, sydd yn ddichonadwy iddo. A gwna y cwbl, nid yn unig nac yn benaf, oddiar ufudd—dod i unrhyw orchymyn nac annogaeth allanol, ond oddiar reddf fewnol y gryfaf mewn bod—oddiar awydd i gynnal a chyfnerthu ei fywyd ei hun.

(2) Un arall o nodau bywyd ydyw, tuedd i amddiffyn ei hun a gwrthsefyll ymosodiadau arno ei hun. Gellid cyfeirio at esiamplau afrifed o hyn. Cawn fod bywyd mewn bwystfilod a physgod, ehediaid ac ymlusgiaid, yn ymwisgo mewn lliwiau mor debyg i bob peth sydd yn ei amgylchynu, fel mai drwy anhawster mawr y gall unrhyw ymosodydd eu gwahaniaethu. Mewn ereill, ymffurfia yn synwyr cryf i ganfod, ac felly i ochelyd, enbydrwydd; mewn ereill, yn gyflymder i ddianc oddiwrtho, ac mewn ereill yn arfogaeth i ymladd ac i orchfygu eu gorthrym—wyr. Gwelir hyn i raddau helaethach mewn dyn, ac mewn graddau uwch fyth yn y Cristion. Mor graff i rag—weled, ac mor fedrus i ysgoi peryglon, yw bywyd ysbrydol! Y mae gras yn arogli llygredigaeth o bell. Aiff pysgodyn marw gyda'r llif—ymrwyfa un byw yn ei erbyn. Felly am y bywyd hwn, ymdraidd drwy eneidiau yn oleuni i adnabod diafliaid yn ngwisgoedd angylion, yn sancteidd—rwydd i gashau pob rhith drygioni, yn gadernid i wrth—sefyll hudoliaethau, yn nerth i orchfygu temtasiynau, ac yn wroldeb o Dduw i ddarostwng ei holl elynion. Ephes. vi. 10—18.

(3) Nodwedd arall berthynol i fywyd ydyw, ymdrech i fwrw ymaith bob peth croes a niweidiol iddo ef ei hun. Gwelir ef ymhob man, yn ol ei ryw ac yn ol ei rym, yn diarddel pob peth gwrthwynebol iddo ei hun. Medd elimination yn gystal ag assimilation. Cawn esiamplau o hyn yn nail crinion a ffrwythau llygredig y coed; syrth llawer o honynt yn nhymhestloedd yr Hydref, a syrth y gweddill o honynt o flaen bywyd newydd y gwanwyn. Gwyddom i gyd fod adar yn bwrw eu plyf, ac anifeiliaid yn bwrw eu hen flew drwy yr ysbrydoliaeth sydd ynddynt. Cladd dyn byw ei berthynas anwylaf wedi iddo farw. Onid ydym ni yn bwrw ymaith ein cyrff ein hunain? Perthyna hyn hefyd i fywyd ysbrydol, ac y mae yn un o arwyddion amlycaf y bywyd hwnnw. Mor fuan ag y daw pechadur yn feddianol arno, arddengys duedd a gallu i ymlanhau oddiwrth eiriau budron ac arferion drygionus, oddiwrth feddyliau annuwiol a dychymygion halogedig, ac i esgymuno ymaith bob peth anghymeradwy yng ngolwg Duw. Ac y mae ei fuchedd yn gwellhau oblegyd fod ei galon yn gwellhau. Yn wahanol i neidr yn y coed, yr hon, er bwrw ei chroen, sydd yn cadw ei cholyn, gan barhau yn neidr, y mae y credadyn yn ymddyosg oddiwrth ei ymarweddiad drygionus am fod tueddiadau drygionus ei ysbryd yn gwanhau.

(4) Cynhwysa y nodweddion blaenorol fod bywyd yn lan, yn bur, ac yn syml. Dengys y neillduolion hyn, gan nad yn mha le y trig, a pha beth bynag fydd ei amgylchiadau,—ai ffos, ai môr, ai mynydd—ai enwog ai dinod, a fydd. Gwelir hyn mewn modd arbennig yn y bywyd ysbrydol: y mae yn burdeb dwyfol yn llaid y byd, ac yn ogoniant nefol yn mwthynod y ddaear. Mor obeithiol a thawel, mor lariaidd ac annibynol, mor ostyngedig a gwrol, ydyw! Yn gyson â hyn i gyd, y mae bywyd yn tyfu, a hynny am ysbaid yw y peth goreu a all wneyd. Dysgwylir am waith neu gynnyrch oddiwrtho; ond braint a bri penaf pob creadur am enyd yw ymagor ae ymgryfhau. Gwna bywyd naturiol hynny am dymhor; ond gwelir pob rhyw a math o hono ef, yn gynt neu hwyrach, yn sefyll, yn ymddirywio, ac yn troi yn ol. Ymnewidia yr oen chwareus yn fuan yn ddafad drymaidd a rhyddiaethol. Nid yw y bywyd ysbrydol yn agored i wanychu na chrino byth. Deil i dyfu a chryfhau, i ymlenwi o ddedwyddwch, ac i amlygu gogoniant cynnyddol, yn oes-oesoedd. Heblaw hyn oll, y mae bywyd yn brydferth. Felly y mae mewn dail a blodau, mewn adar, pysg, anifeiliaid, &c. Mor brudd a thylawd a fyddai y ddaear heb ei swynion! Os ydyw y naturiol felly, cydnabyddir fod urddas a hawddgarwch yr un ysbrydol yn llawer purach a rhagorach. Ac os ydyw ef yn dlws ac arddunol yng ngauaf ystormus y ddaear, gymaint mwy gogoneddus ydyw yn ei fro ei hun—yn nhragwyddol haf y Nef!

(5) Gellir crynhoi nodweddion ereill bywyd fel hyn y mae ynddo duedd a grym i gynhyrchu. Cawn ffrwyth ar y coed, plu ar y paun, llaeth gan y fuwch, gwaith a gwasanaeth oddiwrth farch a dyn. Yn gyson â hyn, traws-sylwedda bethau cyffredin yn bethau ardderchog—pridd, awyr, lleithder, gwres, yn gedrwydd, yn eryrod, yn ychain pasgedig. Yn gyffelyb, y mae y bywyd ysbrydol yn traws-ffurfio pechaduriaid yn frodyr i angylion. Try annuwiolion yn gymeriadau dilychwin. Gwna hen feddwyn yn ffynhonnell dylanwad pureiddiol. Galluoga hen droseddwr i gyflawni gweithredoedd anmhrisiadwy, ac i adael ar ei ol esiamplau bendigedig. Tardd perarogl oddiar fywyd. Meddylier am arogl maes ar foreu yn nechreu haf, neu arogl perllan lawn o flodau neu o aeron, mor hyfryd ydyw! Gymaint yn fwy hyfryd ydyw persawrion bywyd ysbrydol! Gwasgara ef beraroglau y Nef drwy anialwch y ddaear. Medd pob bywyd naturiol duedd a gallu i luosogi ei ryw ei hun. Y mae yn yr afal had yn gystal a phereidd-dra. Yr un modd, er nad all sant genhedlu saint, y mae o hyd yn ymgymhwyso i fod yn offeryn i ddwyn yr amcan dyrchafedig o amlhad duwiolion i ben: Gal. iv. 19. Hynny yw dymuniad cryfaf ei galon, a sylweddolir ei ddymuniad yn aml. Bywyd ysbrydol—pwy a ddichon fynegi ei werth! Onid oes llawer o bethau yn rhy dda i ni allu traethu eu gwerth? Y mae gras felly mewn modd arbennig. Pa faint oedd gwerth Moses yn y cawell, neu Grist yn y preseb! Pa faint yw gwerth nefoedd neu werth Duw! Hynny ydyw gwerth bywyd ysbrydol. Nis gall ei berchen flino arno ei hun yn dragywydd.

(6) Nodweddir y bywyd hwn gan awydd i fyned yn ei ol. Duw ydyw ei ffynhonnell. Oddiwrtho Ef, fel y mae yr afonydd yn tarddu o'r môr, y cychwynodd holl ffrydiau bywyd allan. Cawn fod y dyfroedd yn dychwelyd yn gynt neu hwyrach i'r eigion. Y mae hynny yn un o nodweddion amlycaf dwfr. Ofer ydyw gosod unrhyw atalfeydd ar ei ffordd. Pe troid dyferyn o hono yn agerdd, ac y gyrid ef yn y cyflwr hwnnw i ymdaith am ennyd drwy y ffurfafen, neu pe carcherid ef am oes neu ganrif yng nghalon mynydd o rew, gwelid ef, mor fuan ag y deuai yn ddwfr yn ei ol, yn cyfeirio ei gamrau tua'r dyfnder y daeth allan o hono. Dïau nad yw yr Arglwydd yn dysgwyl pob rhywogaeth o fywyd a gychwynodd oddi-wrtho, yn ei ol. Ac y mae ar ambell i greadur—ofn ei wynebu. Ond y mae y bywyd ysbrydol yn gyfryw ag y myn fyned yn ei ol—nid i gael ei lyncu i fyny ynddo Ef, fel y llyncir yr afon yn y môr, ond i fwynhau Duw am byth. Mor fuan ag yr ailenir pechadur, paid y ddaear a bod yn gartref iddo; daw yn ymdeithydd yn ei fro ei hun. Gan nad faint o dangnefedd a ddyry crefydd, rhydd hefyd ar y ddaear lawer o ryw fath o anesmwythder. Llenwir calon ei pherchenog â dymuniadau am wlad well a byd rhagorach. Unwaith, buasai fferm dda neu fasnach lwyddianus bron yn ei ddigoni; ond y Nef yn unig a ddichon ei foddloni mwyach.

GLYN CYSGOD ANGAU.

I.
GLYN CYSGOD ANGAU! Glyn y glynoedd ydyw,—pwy ddewisodd
Ei fath erioed yn destun cerdd neu anthem—ac a lwyddodd !
Tir anghof pell a dieithr: pwy a ŵyr ei ddaearyddiaeth,
A phwy a ddichon ganu byd di—wres, di—wawl marwolaeth!
Pwy ddeall holl hanesiacth erch llywodraeth dywyll Angau!—
Ni ddwg y ser dystiolaeth, ac aflafar yw y creigiau:
Ymgau am dano mae distawrwydd dwfn, arswydlawn, llethol,
Cyffelyb i ddistawrwydd uthr diddymdra annherfynol!

Mewn hyd a lled ymagor mac yn anferth: i ddynoliaeth
Ei ëangderau anchwiliadwy sydd yn ofnadwyaeth.
Islaw dyfnderoedd oerion, lleithion—llawn o fraw ac artaith,
Y mae dyfnderoedd pellach, ocrach—llawnach o anobaith.
O dan geunentydd unig, prudd, a llawn o wae a galaeth,
Mac ogofeydd dihaul, brawychus—llawnach o farwolaeth.
Mor lydan ac mor erchyll yw, fel gwely byd llosgedig!
Mewn bwthyn bregus crynaf heddyw ar ei fin gweledig:
Mor bell a dieithr imi yw yr ymyl arall iddo!
Ail yw i gwm rhwng dau gyfandir; Och! y mae yn ffurfio.
Agendor uthr rhwng bydoedd. Amser yma sydd a dynion
Anwadal; tragwyddoldeb sy tu arall—ac ysbrydion.
Y ddaear gyfnewidiol yw fy myd, lle mae llawenydd
A galar dwys, a drwg a da, yn ymgymysgu beunydd.
Mae popeth draw yn berffaith —dyn yn angel neu yn ddiafol,—
Y fro i gyd yn nefoedd, neu yn uffern annherfynol.

Ei I llaith, pruddhaol, sydd yn gaddug annhreiddiadwy:
Gwasgara dros y ddaear dawch gwenwynig ac ofnadwy;
Ymled dros wawr hyfrydwch pur yn gwmwl tew o afar,
A dydd o obaith heulog dry yn nos o ing a galar.
Ei enw dyn o lygaid myrddiwn ffrwd o ddagrau poethion;
A gorwedd mae ei syniad, megis hunllef drom, ar galon
Dynoliaeth drwy yr oesoedd. Hofran mae cysgodion gwgus
Ei gysgod ef uwch ben marwolion, gan eu gwneyd yn ofnus;
Tywyllant imi holl wybrenau disglaer Amser; cuddiant
Brydferthion ir ein byd; awelon balmaidd bywyd oerant.
Uchelgais glân, fel angel derch, barlysant fyth yn wyfyn;
Adenydd gobaith leithant, gan ci wneuthur yn aderyn
Dacarol; tröant ein profiadau pêr yn ocheneidiau;
Pruddhant ein koll freuddwydion têr; cymylant ein gweddïau!

Fath deyrn ofnadwy ydyw Angau! Caiff ufudd-dod hollol.
Dynoliaeth beunydd ger ei fron a gryn; cenedlaeth nerthol

Ar ol cenedlaeth firain rêd i ymddarostwng iddo;
Ac nid oes un gwrthryfel byth yn ymgyfodi dano.
Yr arwyr gwrdd greasant ar y ddaear chwyldröadau,
Y tywysogion glew yr oedd eu geiriau yn daranau,
Breninoedd balch ysgydwent wrth ymsymud gyfandiroedd—
Gwŷr bu cu henwau gynt yn gwasgar dychryn drwy genedloedd:
Pa le y maent yn awr—cu bri, cu bost, eu hofnadwyaeth?
Ciliasant ymaith megis mellt, neu wibser dilywodraeth!
Mor ddiddym dan gysgodion gorsedd ddu Marwolaeth ydynt;
Eu llwch ymgymysg yn y Glyn à llwch hen gaethion iddynt!

Y llynclyn erch! er gwaethaf tawch ac ingoedd ei ororau,
Myn f'enaid geisio'i ganu—A! ei ubain drwy riddfanau
Yn hytrach,gan ymdrechu felly baratoi encídiau
Daearol ac anianol at dramwyo ei ddyfnderau.


II
GLYN CYSGOD ANGAU! Beth yw ei athroniaeth—
Beth am ei achos yw y wir athrawiaeth?
Beth ydyw prif egwyddor ei fodolaeth?
Pa fodd y deffry beunydd mewn dynoliaeth
Fath ddychrynfeydd llesmeiriol? Pa le mae
Yr affwys uthr ag sydd mor lawn o wae,—
Tu allan ai tu fewn i mi? Ai rhyw
Ddiffaethwch athrist ar ein daear wyw,
Ai syniad erch yn nghalon dynolryw,
Ai amser ynte tragwyddoldeb, yw?
Pwy ledodd ei ororau anchwiliadwy,—
A gloddiodd fath anoddyfn uthr, ofnadwy,—
Dewychodd nos ddi—sér ei ogofeydd, —
A lanwodd ag euogrwydd a phangfeydd
Ei gymoedd engur? Duw—y Duw tosturiol!
Allasai Ef greu'r fath anialwch marwol!
Cyd—dystio mewn cynghanedd mae pob nef
A byd mai Awdwr gwynfyd ydyw Ef.
Nid oedd y fath feddylddrych yn ei arfaeth,
Na thawch mor oer drwy gylch ei greadigaeth.
Pan alwai mewn daioni gyfandiroedd
A moroedd, ser a bydoedd wrth y miloedd,
I fod a threfn, o ganol nos diddymdra,
Nid ymddangosai hwn yn mysg y dyrfa;
Ac yn ngoleuni creadigaeth newydd,
Buasai yn wrthuni erchyll—cilfydd
I bechod yn y Nef.
A, cywilyddiwch,
Ymholion ofer, ymaith! adnabyddwch
Eich hunain; canys tardd eich holl dywyllwch,
Yn gystal ag euogrwydd dwfn dynoliaeth,
Oddiar yr unrhyw achos à marwolaeth.


Drygioni greodd lynclyn Cysgod Angau—
Pangfeydd ei nos, holl arswyd ei ddyfnderau—
Y cyfan yw: buasai daear sanctaidd
I gyd yn wynfa, lawn o fywyd iraidd.
Yr affwys brudd ag sydd yn fyd o ddylaith,
Fu, fel bu uffern erch, yn newydd unwaith.
Gwrthryfel engyl, mewn goleuni dwyfol,
A gloddiodd aig trueni annherfynol:"
Glyn Cysgod Angau gafodd ei fodolaeth
Yn ysgelerder pechod y ddynoliaeth.
Gan rym daeargryn, fel yr un foreuol
Ysgarodd Asia, yn Behring auafol,
Oddiwrth Amerig, neu yr un agorodd,
Rhwng Affrig swrth ac Ewrob, adwy unodd
Y Môr Canolog, sydd yn fyd o hanesyddiaeth,
Ag aig yr Atlas fu yn dal y nefoedd helaeth,
Yr ymagorodd annwn erch marwolaeth.
Daeargryn foesol rwygodd nef a daear,
Ag oeddynt unwaith yn daleithiau llachar
O un lywodraeth, heb un Glyn arswydus,
Nac un Iorddonen lydan, ddofn, gynhyrfus,
Yn ysgar rhyngddynt,—ffurfient un cyfandir,
Fel cydgyferfydd Gogledd a Deheudir
Amerig yn nghynhesrwydd y Cyhydedd,—
Cyfandir llawn o fywyd a thangnefedd,
O'dan belydron Haul y byd ysbrydol,—
Oddiwrth eu gilydd bellder annherfynol!

Ein dacar ddaethai, heb ei hanwireddau,
Yn llawnach o oleuni ac o flodau—
O beraroglau, tlysni, a llawenydd
Anniflanadwy, wrth ei thramwy beunydd.
O radd i radd troasai'n Beulah dirion,
Ddi—nos, ddi—auaf, lle y cawsai dynion
Ymborthi byth ar acron per a macthlon,
Yn swn peroriaeth adar ac angylion.
Buasai'r ffordd oddiyma i dragwyddoldeb
I gyd yn oleu: amser a meidroldeb
A ddaethent yn sancteiddiach, mwy ysbrydol,
Mwy disglaer yn barhaus, a mwy proffwydol
Am fywyd perffaith mewn dedwyddwch nefol.
Ymlaen llithrasai cenedlaethau serchus
O un olygfa dlos, cymdeithas felus,
A phrofiad hyfryd, i rai mwy arddunol,
Mwy pur, angylaidd rhai mwy perlesmeiriol,
Yn ddiarwybod idd y byd tragwyddol—
Yn araf—esmwyth i ogoniant dwyfol.

Pe na phrofasai dyn o Bren Gwybodaeth,
Nid adwaenasai bechod na marwolaeth;

Ar ffrwythau peraidd Pren y Bywyd cawsai
Ymborthi nes o fywyd ymlanwasai.
Yn lle heneiddio wrth heneiddio, daethai
Yn gryfach ac ieuengach fyth; teimlasai
Ei fod yn myned yn greadur newydd,
Anfarwol, llawn o nwyfiant a llawenydd.
Dan dywyniadau gwyneb teg ei Arglwydd.
Tröasai diniweidrwydd yn sancteiddrwydd,
A naturioldeb ynddo yn berffeithrwydd.
Ei gorff drwy drawssylweddiad graddol, hyfryd,
A ddaethai, fel ei enaid, oll yn ysbryd.
Ei enaid gynyddasai mewn doethineb,
Mewn cariad, gobaith, gwynfyd, a dwyfoldeb;
A chael ei hun, wrth hedeg yn feunyddiol
Drwy eangderau prydferth. annherfynol.
Tragywyddoldeb, heb ddiffygio bythoedd,
Buasai ef yn gerub yn y nefoedd!

A! mor wahanol ydyw oes dynoliaeth
Lygredig! Fel y mae mewn daear ddiffacth,
Yn ubain fyth ar lan lorddonen dywyll,
Wrth feddwl croesi drwy ei thonau erchyll!
Rhwng dyn y dyn sancteiddiaf sydd—a gwynfyd,
Ymled agendor lydan, ddofn, ddychrynllyd:
Ei ffydd wrth edrych dros ei herch ymylon.
Yn aml ddirywia'n arswyd yn ei galon:
Ymdraidd ei chaddug drwy ei ddyddiau heulog,
A thrŷ hwynt iddo yn nosweithiau gwlawog.
I blith angylion ei brofiadau nefol,
Ymwthia'r cof am angeu megis diafol.
Rhydd surion ddail marwolaeth radd o flas
Anhyfryd ar ddanteithion goreu gras.


III.
Hyd ymylon Glyn Marwolaeth, bro adwythig, athrist, lom,
Lle cyferfydd bydoedd, crwydraf heddyw gyda chalon drom.
Dagrau heilltion hen genedloedd, gydag ofnau oesoedd maith,
Ydynt wedi ymdewychu yma'n gaddug oer a llaith.
Ocheneidiau trancedigion, galarnadau tost y byw,
Moliant ffydd wrth droi yn olwg, ubain chwerw rhagrith gwyw,
Griddfan dwfn anobaith, gyda diolchgarwch purdeb gwyn,
Sydd yn ymddwyshau yn furmur dieithr drwy y bröydd hyn.

Dynolryw oddiwrth amgylchoedd Dyffryn Marw geisiant ffoi;
Treuliant hoedl a moddion allan wrth amcanu ei ysgoi:
Cânt eu hunain drwy yr oesoedd, wrth ymdrechu ymbellhau,
Tuag ato, fel afonydd at yr eigion, yn neshau.
Ato ef ynghwsg ac effro ymgyfeiria taid ac ŵyr;
Gwreng a bonedd gwrddant megis brodyr yn ei gaddug llwyr;

Gwir athronwyr claer eu hurddau, ac anwariaid llwm, di—nôd,
Gorthrymedig a gorthrymwr yfai chwys a gwaed ei fod,
Saint lluddedig ac erlidwyr, gweision ac arglwyddi derch,
Gydymlwybrant haf a gauaf tuag at ei affwys erch.

A, drueiniaid! Wrth ymdrechu ymddyrchafu yn barhaus,
Llithrant byth yn wysg eu cefnau hyd lechweddau'r Glyn trofaus.
Disgyn wnant wrth esgyn bryniau golud iddo yn ddilawch,[2]
Ac wrth ddringo tyrau disglaer clod, ymsuddant yn ei dawch;
Llanc a lysg ei hun drwy lafur, megis canwyll glaer, i ffwrdd,
Wel ei frawd, ar aden mellten, yn yr affwys yn ei gwrdd.
Gwr dan bwysau canrif iddo'n llithro'n dawel yma gaf,
Fel yr huan yn machludo mewn gogoniant yn yr haf:
Tymhestl o gynlluniau hyfion wedi troi'n fethiantau prudd,
Gluda arall heb ei reswm idd ei nos yn nawn ei ddydd.
Bugail wrth areilio defaid gwar yn chwäon per y nef,
Gwympa dros y graig fwaog i bangfeydd ei annwn ef:
Caiff y morwr yn yr eigion, cigion dyfnach,—sudda drwy
Holl dymhestloedd geirwon Amser i dymhestloedd llawer mwy.

Bum yn tybied— yn gobeithio fod y glanau erchyll hyn,
Yn fwy tywyll ac arswydlawn na cheunentydd pell y Glyn—
Fod fy syniad i am dano ef yn waeth nag ef ei hun;
Os nad ydyw, mor ofnadwy ydyw nos marwolaeth dyn!
Annuwiolion yn gwallgofi yma sydd gan ddychrynfeydd;
Acw maent yn ymddirdynu rhwng cywilydd a phangfeydd!
Hen oferwyr poeth eu safnau, wedi colli gwledd a gwin,
A chybyddion heb cu harian, gydymrwygant ar ei fin;
Twyllwyr mewn cynddaredd gablant Dduw am iddo Ef eu creu;
Carai beilchion wrth ddarganfod gwarth eu noethder ymddileu;
Myn cymdeithas ysgwyd ymaith, megis sarff wenwynig, un;
Arall blin, drwy lygredigaeth, ar ei cinioes, ladd ei hun:
Cyd—dywalltant eu heneidiau allan mewn griddfanau tost,
Wrth fyfyrio ar y bywyd fu mor hir yn sail eu bost!
Wrth i amser gefnu arnynt, ac i ddaear ymbellhau,
Profant ing rhy ddwfn i eiriau allu byth ei eglurhau!

Ereill, llawnion o dangnefedd Duw, a gânt ei finion ef,
Er mor erchyll ynt i lawer, yn gyffiniau pur y Nef.
Gwenant ar ei ofnadwyaeth; molant ynddo Geidwad dyn;
Canant alarnadau i Angeu wrth ei orsedd ef ei hun!
Po bereiddiaf eu clodforedd, chwerwaf oll yw cri y byw,
A pho wynaf yw eu gwisgoedd, duaf yw rhai dynolryw;
Canys awyr bur o ardal gilia gydag enaid un;
Nos y ddaear sydd yn drymach wedi marw ambell ddyn.

Felly tua Glyn Marwolaeth, er eu hamrywiaethau maith—
Mewn cymeriad, chwaeth, a phrofiad; mewn sefyllfa, oed, a gwaith,

Drwy yr oesoedd, dros y ddaear, yn ddibaid ac yn ddigoll,
Fel y tynfaen at y gogledd, mae cyfeiriad dynion oll.
Deuant iddo o ddaeargelloedd, ac oddiar orseddau drud,—
Rhai o ddydd palasau marmor, rhai o nos carcharau mud.
Meddyg dry oddiwrth orweddle gwr yn marw—i farw'i hun;
Angeu selia wefus cenad Iesu yn ei bulpud cun.
Trenga tad mewn eira ganol nos, mewn cwm pellenig, cudd;
Pelydr tanbaid ladd ei blentyn yn y ddinas ganol dydd.
Gyr cymdeithas mewn dialedd melus un i niwl y Glyn;
Hebrwng arall yn ei dagrau heilltion at ei ymyl fyn.
Cristion pur a disglaer, megis seren, ddisgyn iddo ef—
Digon disglaer i oleuo'i gaddug hyd ymylau'r Nef;
Godinebwr sudda ynddo megis cwmwl llawn o fellt,
Gan drymhau ei nos ofnadwy—gan gyffroi ei ochrau cellt!
Yma ocheneidiau natur am anwyliaid teg eu pryd,
Galar gras am gymeriadau greent nef yn llaid y byd,
Griddfan irad annuwiolion wrth neshau i wyddfod Duw,
Moliant saint wrth droi yn engyl, gyd ddisgynant ar fy nghlyw.


IV.
A! wedi bod yn edrych arno oddiar
Fynyddoedd heulog iechyd wedi bod
Yn ceisio dangos achos uthr ei fod,
Ar ol ymlwybro ennyd fèr yn nhawch
A murmur ei ymylon erch—yn awr
Ymsuddaf—yn, neu allan odd y corff,
Nis gwn pa un yn hollol—yn y Glyn—
Glyn Cysgod Angau! Dyma ef ei hun;
A mwy arswydlawn nag y dichon iaith
Fynegi byth, na dyn ddychymyg, yw.
Pa beth, fy awen, weithian elli di!
Golomen lwfr, mor hurt ac egwan wyt!
Heb Dduw o fewn yr oror hon—heb ddim!
Yn llawn o niwl gwenwynig yma, mwg
Drewedig yw ei awyr acw i gyd.
O draw erglywaf gymoedd uthr a llawn
O wae, yn galw drwy riddfanau ar
Fynwentydd tywyll, llawn o ddynion sydd,
Gan ddagrau poethion edifeirwch hwyr
A chwys anobaith, yn barhaus yn wlyb;
Y rhai, wrth ateb, ar ddyfnderoedd mwy
Ofnadwy alwant. Mellt dieithrol drwy
Ei gaddug gyniweiriant ambell waith,"
Gan ddangos, am amrantiad, olygfeydd
Gynyrchent lesmair mewn calonau dur.
Ymddatod mae dynoliaeth ar bob llaw;
Ac ysbryd ar ol ysbryd åd, drwy boen,
Y babell yn yr hon dechreuodd fod.

Mor ddïeithr ydyw profiad enaid sydd
Yn cael ei hun yn noeth — mwy chwerw yw!
Oblegid cân, wrth gefnu ar ei gorff,
Am byth, yn iach i obaith! Acw ffoi
Mae haid annuwiol, lawn o ddychrynfeydd,
I waered hyd lithrigfa serth o flaen
Angylion llid yr lor, i fyd o ing.
Drygioni calon welaf draw yn troi
Yn haen o barddu ar wynebau llu;
Ac ereill dynant, wrth wynebu ar
Drueni llwyr y byd ysbrydol, wallt
Eu penau ymaith mewn cynddaredd mud;
A miloedd sydd wrth gael eu cnoi gan bryf
Anfarwol, am ddifodiad yn dyheu!

Trwy gaddug tewach, oerach, ac yn swn
Griddfanau dyfnach, iddo ef yn is—
Drwy ffosydd hadl o wenwyn ac o fustl,
A dyryslwyni llawn o bryfaid mall,
Gan basio llawer ywen brudd, ac ar
Bob cangen iddynt nyth aderyn corff;
A chypreswydden, ac ysbrydion hen
Bechodau'n crawcian drwy gigfranod erch
O honynt ar y trancedigion byth,
Ac is disgynaf. Dan glogwyni—rhai
O frwmstan tanllyd, rhai o fythol rew,—
Yn awr, lle clywaf gydwybodau fyrdd,
Ar ol ymollwng dan waradwydd tost
I syrthni mud am fwy na haner oes,
Yn ymddeffroi—yn ymddeffroi yn eirth,
A rhuant yn arswydus.—caf fy hun;
Lle gwelat, mewn rhyw wawl anwadal, hen
Adnodau gras, ddirmygwyd, wedi troi
Yn seirff ofnadwy, yn ymblethu am
Aelodau llu o druenusion sydd
Yn ofni marw ac yn methu byw.

Mewn mwy o syndod aruthr nag o ofn,
Yn is o hyd disgynaf yn y Glyn;
Ac ymgrynhoi, wrth imi ddisgyn, mae
Ei holl riddfanau yn myddarol drwst
Yr afon erch sydd yn ei waelod ef.
Fath swn dieithrol. dwfn, a phruddaidd yw !
Cyfuna nodau edifeirwch, Illid,
Anobaith, ing, mewn un—un daran groch
A bythbarhaol. Cri Marwolaeth wir:
Ai iaith trueni tragwyddoldeb mawr,
Ai llais digofaint Hollalluog yw !
Och, dacw hi! Fath weilgi engur yw!

Gan bechod mae yn ddu; mor lydan fe
Na welaf drosti; dofn fel uffern yw;
Ymgwyd ei thonau fel mynyddau'r byd;
A thry ar brydiau i gyd yn för o dan
Berwedig, du-goch! Ynddi llawer mil
O ddynion welaf yn nghrafangau dieifl
A gormod imi ydyw syllu ar
Fath ofnadwyaeth!
Gan ymgilio draw,
A rhoddi, dan ryw graig fwäog, saib
I natur sydd ar fin llesmerio, caf
Fy hun yn mro marwolaeth yn cryfhau
Yn raddol; gan ymlwybro yn fy mlaen,
Ymhell oddiwrth yr afon, ac yn nghwrth
Ei llif, yn awr drwy gymoedd dyfnion, llawn
O bob amrywiaeth o drueni sydd,--
Drachefn, i fyny hyd fynyddoedd brith
O ogofeydd, lle mae drygioni fu
Yn fel, yn troi yn wermod ac yn wae!
Ymsymud yn ofalus yna wnaf
Hyd grugiau anferth, rhyddion-myrdd uwchlaw,
Ac ymddangosant ar ymollwng bob
Amrantiad arnaf; myrdd islaw, y rhai
Wrth lithro arnynt, droisant lawer mil
O ddynion yn gythreuliaid! Mae fy llwybr
Drwy hafnau culion ambell waith-mor gul
Fel mae yn rhaid ymwthio drwyddynt hwy;
Mor ddwfn-islaw sylfaeni eitha'r byd;
Mor oer a phell-anfeidrol bell oddiwrth
Bob haul a nef, ond digon agos oll
I lid Jehofa ddisgyn beunydd ar
Eu teithwyr gwir, yn ddafnau byw o dân!
Wrth fyned rhagof, teimlaf fod y Glyn
Yn ymdirioni; daw gan ymwastâu
O hyd yn llai ofnadwy; mae ei dawch
Yn ymdeneuo; gwelaf lewyrch ser
Pellenig weithiau. Dyfod fyth yn llai
Echryslawn mae ei seiniau; nodau ing
Yn raddol gollir yn ngoslefau gras,
A murmur trist a dry yn foliant pêr.
Yn ddiarwybod wele fi ar fin
Yr afon eilwaith: ai yr un yw hi!.
Mor fechan ydyw! Gan gulhau bob cam,
Afonig yma ydyw; acw mae
Yn ffrwd dryloew. Ar fy nê', ymlêd
Gwastadedd ëang, llawn o dlysni tirf,
Fel Dyffryn Maelor yn ngoleuni'r lloer.
Sawl mil ymdeithiant drwyddo yn barhaus-
O lawer gwlad i un ddi-fedd, ddi-nos!


Y cyfan, er amrywiaeth oedran, iaith.
Galluoedd, hanes, drwy eu cariad pur,
Yn un am byth yn Iesu!
Gwelaf rai
Yn disgyn yn grynedig iddo dros
Fynyddoedd duon Amser: ymgryfhant.
Wrth weled fod eu Harglwydd wedi troi
Yr affwys erchyll yn Baradwys bêr.
Wrth yred gwin ei chwaon balmaidd ef,
Ag sydd mor lawn o fywyd perffaith Crist,
Cadernid dwyfol draidd drwy fod y llesg.
A daw yr otnog yn wroldeb pur.
Y Glyn fan yma sydd ar fin y Nef;
Ac wrth anadlu ynddo cyll y saint
Eu beichiau—cnawd, ahechyd, blinder, poen;
A deuant yn ysbrydion grymus, myg.
Trueiniaid ofnent Angeu trwy eu hoes,
Gant ynddo gerub—cerub llawn o serch!
Wrth farw, yfant anfarwoldeb oll
A chollant henaint yn ieuenctid Duw!
O honynt, fel ellyllon nos o flaen
Y wawr, ymgilia pechod, ofn, a gwae;
Ac ymddisgleirio fel angylion maent.
Ar rinion tragwyddoldeb llawn o hedd,
Daw saint cuddiedig yn seraffiaid têr.
Hed carcharorion mewn eangder, fel
Eryrod nefol, beunydd uwch fy mhen;
A rhyddid dwyfol ger eu bron ymlèd.
Gwynebau fuont, gan wylofain hallt,
Yn hir yn fudron ar y ddaear, sydd
Yn ymddisgleirio fel gwynebpryd Crist.
Cardotwyr truain ac ysgubion byd,
Ymrodiant gan foliannu drwy y ffrwd,
Yn mreichiau engyl, i orseddau'r Nef.
Plant dirmygedig gorthrwm yma sydd
Yn dechreu teimlo pwys gogoniant Duw;
Ac anfeidroldeb, llawn o fywyd pur
A gwynfyd perffaith, ger eu bron ymled.

Glyn Cysgod Angeu weithian, am ryw hyd,
Adawaf, gan fyfyrio ar y ffaith—
Y bydd i bawb, yn ol a fyddant hwy!


MANYLRWYDD Y FARN.

Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg "—PREGETHWR Xii. 14.

DYSGIR ni yn yr adnod flaenorol mai "swm y cwbl a glybuwyd"—a glybuwyd yn y llyfr hwn—" yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchymynion." A chawn yn yr adnod hon annogaeth i gyflawni "holl ddyled dyn" yn y ffaith y bydd i holl weithrediadau, yn gystal a phersonau, dynion gael eu dwyn i farn. Derbynia "pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff;" oblegid bernir ef "yn ol yr hyn a wnaeth.' Bydd i ymddygiadau dynolryw yn y byd ddylanwadu ar eu cyflwr yn y farn; bydd eu hanes tragwyddol yn ganlyniad naturiol ac angenrheidiol eu hanes daearol. Ac yn gymaint ag y byddwn ni yn cael ein barnu yn ol ein cyflawniadau, rhaid y bydd y cyflawniadau hynny mewn rhyw wedd arnynt—o ran yr haeddiant neu y drwg-haeddiant—o ran yr ysbrydion o honynt—yn bresennol yn y farn. Dysgir hynny yn bendant yn yr adnod hon. Gwel hefyd 2 Cor. v. 10; 1 Tim. v. 24 a 25.

Ceir ynddi ddau ddosbarthiad ar weithrediadau dynion; y mae y naill, yr hwn sydd yn arwynebol a dibwys, yn eu rhanu i rai cyhoeddus a dirgel. Cawn y cyntaf yn yr ymadrodd "pob gweithred," yn yr hwn y cynhwysir, heblaw gweithredoedd, bob rhan o ymarweddiad dyn ag sydd yn wybyddus yn y byd hwn. Y llall ydyw pob peth dirgel," yr hwn, yn ychwanegol at feddyliau a dymuniadau, a gymer i fewn y gweithredoedd hynny a gyflawnir mewn unigedd a thywyllwch. Cawn hefyd ddosbarthiad arall, yn ol eu natur foesol, ar weithrediadau dynion: Y maent yn dda neu yn ddrwg; y mae ysgogiadau dystaw yr ewyllys, yn gystal a'r cyflawniadau mwyaf trystfawr, yn meddu cymeriad, pur neu lygredig. A chan y bydd yr holl weithrediadau hyn, ai drwg ai da, ai hysbys ai anhysbys ydynt yn awr, yn y farn, gwelir mai priodol i ni fyddai bod mor rinweddol, a chyflawni cymaint o ddaioni ag sydd yn ddichonadwy i ni, ar y naill law; ac, ar y llall, ymdrechu hyd y mae ynom i gilio oddiwrth ddrygioni, ac i ddiddymu pechod ynom ein hunain, ac ymhob man arall y deuwn i gyfarfyddiad ag ef. Goddefwch i mi wasgu hyn yn mhellach at eich hystyriaethau:—

I. BYDD HOLL DDAIONI Y DDAEAR YN Y FARN.

1. Bydd holl weithredoedd daionus y ddaear yn y farn.—Mewn trefn i weithredu yn dda—yn drwyadl dda, rhaid meddwl a theimlo yn dda: oblegid meddyliau a theimladau wedi cymeryd ffurf ddaearol ydyw gweithredoedd. Ymddengys felly fod gweithredoedd, yn gystal a dynion, yn gyfansoddedig o ddwy ran—y weledig a'r anweledig, nen gorff ac enaid. Ac mewn trefn i ennill cymerad—wyaeth Duw a dyn, rhaid iddynt feddu corff hardd ac enaid sanctaidd. Y cyntaf—corff hardd, yn unig sydd yn angenrheidiol i sicrhau llawer o anrhydedd y ddaear; oblegyd ar olygiad, neu wynebpryd, gweithredoedd, yn gystal a phersonau, ac nid ar eu calonnau, yr edrych dyn. A gall gweithred feddu ymddangosiad allanol dymunol, tra y bydd yr ysbryd mewnol a roddodd fod iddi yn halogedig. Gall hunanoldeb, er mor ddirmygus ydyw yng ngolwg Duw, ymddangos yn hawddgar i ni: efallai y bydd iddo borthi y newynog, a dilladu y noeth; a chyf—lawni llawer o weithredoedd a feddant ddigon o ardderch—owgrwydd allanol, i beri i newyddiaduron y wlad barhau am wythnosau i alw sylw y byd atynt, ac i beri i'r byd ei hunan, yng nghanol ei rodres a'i brysurdeb, sefyll i edrych arnynt. Ond bydd ar weithredoedd a gyflawnir oddiar gymhelliadau isel o'r fath, gywilydd cyfodi eu penau yn nhragwyddoldeb. Oddieithr fod ein cyflawniadau yn tarddu oddiar amcanion anrhydeddus, gan nad faint a glodforir arnynt ar y ddaear, hwy a gollant eu cymeriad ac a ddeuant yn anmharchus cyn cyrraedd y farn.

Yn gyferbyniol i hyn, gall gweithred, er mai corff salw ac afluniaidd fydd ganddi, feddu enaid ardderchog. Ef—allai mai ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol—ymdrech i ddysgu plant ac ieuenctyd i ddarllen ac i ddeall Gair yr Arglwydd ydyw y ffurf allanol sydd ar y weithred; dichon, er hynny, mai cariad anniffoddadwy at Waredwr y byd ydyw bywyd mewnol y weithred hono; ac y mae y bywyd hwnnw, fel bywyd Duw ei hun, yn dragwyddol. Hwyrach mai swm bychan o arian yn cael ei roddi yng nghasgliad y Feibl-Gymdeithas, neu y Gymdeithas Genadol, ydyw corff gweithred arall: pa beth ydyw ei henaid? Un o feddyliau mwyaf Duw wedi ymgartrefu yng nghalon dyn—dim byd llai na dymuniad angerddol am achubiaeth yr hil ddynol! A bydd yr Arglwydd yn rhwym o amddiffyn ysbryd mor ardderchog a hwn. Bydd hwn yn werth ei ddangos yn y farn. Ac onid yw y syniad y bydd ein holl weithredoedd daionus, pa mor ddinôd bynag y gallant ymddangos ar y ddaear, ar gael yn y dydd diweddaf, ac y bydd i'r Barnwr wrth oleuni llachar y dydd hwnnw, wneuthur arddangosiad gogoneddus o honynt i breswylwyr y bydoedd i gyd, onid yw hyn—y syniad y bydd pob daioni gwirioneddol a gyflawnwn yn bod am byth, ac y bydd yn ychwanegiad at ddaioni cyffredinol llywodraeth Duw yn gymhelliad grymus i ni gyflawni gweithredoedd da? Y mae hyn yn dra chalonogol i frodyr a chwiorydd gweiniaid, canys bydd y gronynau lleiaf o ffyddlondeb mewn coffadwriaeth yn oesoesoedd. Bydd yr araeth fach, ddïathrylith, ar Ddirwest, y cynghor ar y ffordd, y rhybudd yn y chwarel, a phob peth cyffelyb, yn y farn. Bydd i ddefnynau o lafur a hunanymwadiad a ddisgynant ar anialwch cras Amser, ac a annghofir yma yn fuan, gydymgrynhoi i ffurfio un môr mawr o ddaioni. Dylem ystyried nad ydyw gwerth unrhyw waith moesol yn dibynu ar ei faint neu ar ei ffurf, ond yn hytrach ar y cymhelliad fydd yn gorwedd o dano, neu ar yr amcan fydd mewn golwg wrth ei gyflawni. Anhawdd meddwl am gymwynas lai na rhoddi dyferyn o ddwfr oer i ddyn ar ei daith; ond pe gwnaem hynny mewn ysbryd priodol, byddai y weithred mewn bod yn dragywydd—ni byddai digon o dân yng nghreadigaeth Duw i ddileu y gwpanaid o ddwfr oer. "Ac mi a glywais lef o'r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrif—ena, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt."

Yn ychwanegol at ein gweithredoedd eu hunain, bydd eu holl ganlyniadau yn wybyddus yn y farn. Nis gallwn wrth oleuni amser ddilyn achosion i'w heffeithiau pellaf, mwy nag y gallwn ar bob adeg olrhain effeithiau i'w hachosion cyntaf. Un rheswm am hyny ydyw, fod rhai amgylchiadau bychain iawn, yn arwain i rai mawrion a phwysig iawn. Pe disgynai creadur dëallol, dyeithr i ddeddfau y byd hwn, yn un o gymoedd mynyddig Cymru, a phe craffai yno ar y niwl yn ymgeulo i leithder, ar y lleithder yn ymweithio yn ddefnynau, ac ar y defnynau yn cydgyfarfod i gyfansoddi ffrwd, gwaith anhawdd iddo, er sylwi fel hyn, fyddai ffurfio syniad am y ffrwd hono yn myned yn afonig, ac am yr afonig yn myned yn afon; a gorchwyl anhawddach iddo fyddai ymgodi i ddirnadaeth am yr afon hono yn dylanwadu ar gymeriad y wlad, yn rhoddi cyfeiriad i weithgarwch ei thrigolion, yn cynhyrchu masnach, yn galw dinasoedd i fod, ac yn effeithio yn y diwedd ar hanes y ddaear i gyd. Cyflawna dynion rai gweithredoedd ag sydd o ran eu heffeithiau yn ymdebygu i hyn. Bydd i'w canlyniadau ymestyn ymlaen, gan amlhau a chasglu nerth, nes taflu bywyd newydd i galon cymdeithas yn gyffredinol. Bydd i'w dylanwad ymchwyddo ac ymddyfnhau i ganlyn yr oesoedd; ac efallai y gwelir yn y diwedd y bydd, nid yn unig wedi creu chwyldroadau ar y ddaear, ond y bydd hefyd wedi newid gwyneb tragwyddoldeb ei hunan. Un o'r cyfryw weithredoedd ydyw gweddi—gwaith credadyn yn ymostwng mewn rhyw gongl anghysbell gerbron yr Arglwydd, i ofyn iddo achub un o'i gymydogion annuwiol. Hyn yn unig ydyw y weithred ynddi ei hun: pa beth yw ei chanlyniadau? Byddai y rhai canlynol yn hollol naturiol yn gyntaf oll atebir y weddi—achubir y dyn; bydd y dyn hwnnw yn foddion i achub deg ereill, bydd y deg yn foddion i achub cant, y cant yn foddion i achub mil, ac felly ymlaen. Ant rhagddynt o oes i oes, gan luosogi ac ymgryfhau; ac efallai y gwelir yn nhragwyddoldeb y bydd un weddi wedi dylanwadu ar nef ac uffern. Ac os nad ydyw hyn yn wybyddus ar y ddaear, nid ydyw hyny yn bwysig iawn, oblegyd datguddir y cyfan yn y farn. Meddylier hyn—mor fendigedig i gredadyn fydd cyfarfod gerbron yr Orseddfainc Wen â chynulleidfa o eneidiau ag y bydd ei weddiau a'i esiamplau ef wedi bod yn elfenau yn eu hachubiaeth! Onid ydyw y syniad fod yn ddichonadwy i'r fath fri a mwynhad syrthio i ran dyn marwol, yn deffro ynom ymroddiad byw a grymus!

2. Bydd holl ddirgelion daionus y ddaear yn y farn.—Y mae dymuniadau dynion, fel rheol, lawer yn eangach nag ydyw eu galluoedd; ac oddiar hyn—oddiar y ffaith fod gallu dyn i ddymuno yn fwy nag ydyw ei allu i gyflawni—y tardd llawer iawn o ddirgelion drwg a da y byd. Gwelir yn hyn hefyd un gwahaniaeth rhwng Duw a phlant Duw y mae ewyllys a gallu y Creawdwr yn gymesur, y naill fel y llall yn anfeidrol: pan ewyllysiodd Efe ddwyn bydoedd i fod, ymddangosasant yn ol ei ewyllys. Deuai hyn i'r golwg hefyd yn mywyd ein Gwaredwr: pan ewyllysiai Efe iachau dyn claf, neu fywhau dyn marw, cymerai hyny le yn ol ei ewyllys. Gyda golwg ar ddyn y dyn mwyaf a goreu mewn bod, y mae yn wahanol; er ymddwyn o hono ar y meddyliau mwyaf dyrchafedig a sanctaidd, y mae yn cael ei hun yn aml yn amddifad o nerth i'w troi yn weithredoedd. Gall ddymuno dymuniadau o'r math mwyaf arddunol a gogoneddus; ond dymuniadau, neu ysbrydion, ydynt; a pha fodd y gwisgir hwy â chnawd ac esgyrn! Gan na feddant gyrff, gorfodir hwy i ddychwelyd i'w byd eu hunain; oblegyd nid ydyw dynolryw, yn eu sefyllfa bresennol, yn alluog i gymdeithasu ag ysbrydion noeth, nac i deimlo yn ddedwydd yn eu presennoldeb. Bu mynwes aml i Gristion yn fagwrfa i lawer cynllun gwych i leshau ei gyd-ddynion; ond ni feddai allu na moddion i roddi ei gynllun mewn gweithrediad; yr hwn, oherwydd hynny, a nychodd ac a drengodd yn ei blisgyn ei hun. Dylem ystyried, er hynny, mai nid gwaith ofer ydyw meddwl yn gywir a theimlo yn dyner. Dïau fod llawer blodeuyn yn ymagor bob blwyddyn yn y ceunant dwfn, ac yn gwasgar ei beraroglau, gan fyw a marw yno, heb i lygaid dyn o gwbl ei weled; ond y mae yr haul yn edrych ac yn gwenu arno bob dydd o'r tymhor. Yn gyffelyb gyda golwg ar feddyliau ac amcanion, dymuniadau ac ocheneidiau y credadyn, nid yw ei gyd-ddynion yn eu gweled, nac yn gwybod fawr iawn am danynt; ond y mae Duw yn eu gweled. Ydyw! Y mae Efe yn canfod syniadau ac amcanion yn ymgodymu ag anhawsterau, ac yn ymdrechu dyfod yn weithredoedd. Y mae yn deall iaith teimladau a griddfanau a ymlusgant yn llesg hyd ddyfnderoedd yr enaid. Ac amddiffynir y cyfan gyda'r gofal hwnnw a ddichon yr Anfeidrol gymeryd o bethau. Nid aiff un meddylddrych sanctaidd na deisyfiad ardderchog byth ar goll. Bydd y cwbl yn y farn. Ac efallai fod meddwl yn dda, yn niffyg gallu i gyflawni yn wych, a gweithredu yn dda, yn gydwerth yng ngolwg Duw; dichon fod dymuniadau anrhydeddus a gweithredoedd anrhydeddus, yn ymadroddion cyfystyr yn iaith tragwyddoldeb. Dylai dyn gyflawni cymaint ag a fydd yn ddichonadwy iddo; ond wedi gwneuthur hynny, bydd ei alluoedd i feddwl a dymuno yn aros yn ddileihad; a bydd gwerth ar amcanion a dymuniadau ei galon. Datguddio y dirgelion hyn fydd rhan fawr o waith y farn. A bydd dynion erbyn hynny, yn gystal a Duw, yn ddigon ysbrydol i barchu cymhelliadau dyrchafedig, ac i werthfawrogi teimladau sanctaidd. Gellir gweled gweithredoedd, pa mor fychain bynag fyddont, ar y ddaear; ond pwy ddyn erioed a welodd ddyfnderoedd calon dyn arall? Meddianodd llawer Cristion ei enaid drwy amynedd o dan yr erledigaethau chwerwaf; dyoddefodd waradwydd a dirmyg heb ymddigio nac ymollwng; maddeuodd gamwri a chreulondeb ag oedd mor ddu a nos ac mor anniwall ag angeu. Ond ni chyhoeddwyd hynny yn newyddiaduron y byd. Gwneir hynny yn hyglyw" yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion." Caiff ambell sant fywgraffiad; ond nid ydyw y cofiant yn berffaith, oblegyd ychydig iawn a wyddai yr awdwr am weithrediadau mwyaf mewnol y gwrthrych. Ni fu erioed yn edrych ar ei galon yn wylo dagrau o waed oherwydd ei phechod. Ni welodd iselderau ei natur, yn y rhai yr arferai gwroldeb ac ofn, gobaith ac anobaith, ymgodymu am yr orseddfainc. Ni lwyddodd i ddarlunio yr ymladdfa rhwng y dyn newydd a'r hen, pan fyddai nwydau llygredig a gwyniau drygionus wedi ymgyffroi, ac yn cydymdrechu i ddiffoddi bywyd ysbrydol yr enaid. A dïau na welodd ef yn ennill y fuddugoliaeth, ac yn ymlid y diafol i uffern yn ol. Yn nhragwyddoldeb y dadlenir golygfeydd fel hyn. Bydd y cofiant yn berffaith yn y farn. Yna, gan fod y pethau hyn yn werthfawr, ac i gael eu datguddio, bydded i ni, os nad allwn gyflawni gweith—redoedd nerthol, ymdrechu meddwl yn gywir a dymuno yn bur; oblegyd os anfonwn at Dduw lawer o erfyniadau uniawn a dyrchafedig, ni a gawn drwy ein Harglwydd Iesu Grist oleuni yn nglyn cysgod angau, a hyder yn nydd y farn.

II. BYDD HOLL DDRYGIONI Y DDAEAR YN Y FARN.

1. Bydd holl weithredoedd drygionus y ddaear yn y farn:—Caniateir yn ddïau nad ydyw dyn, gan nad faint ydyw ei lygredigaeth, yn pechu yn uniongyrchol oddiar gariad at bechod ynddo ei hun; y mae yn troseddu deddf ei Greawdwr yn hytrach oblegyd ei bod yn gorwedd rhyngddo a gwrthrychau ei serch. Fel rheol, canlyniad, ac nid amcan, gweithredoedd dyn ydyw pechod. Yn gyson â hyn, er y clywir dynion weithiau yn ymffrostio mewn gweithredoedd drygionus, anfynych y clywir hwy yn ymogoneddu mewn drygioni digymysg. Carent allu dilyn tueddiadau pechadurus eu natur heb i neb eu gweled; ond nid ydynt bob amser yn llwyddo. Gwyddom fod y tueddiadau hyn, mewn miloedd o amgylchiadau, yn ymgryfhau cymaint nes ymffurfio yn weithredoedd ysgeler ac ofnadwy. Gwelir chwaeth at ddifyrion isel a chyfeddach, yn esgor ar afradlondeb a meddwdod.

anystyriaeth a rhyfyg y galon yn dysgu siarad; a rhydd rhegfeydd y dyn brawf adnewyddol ar amynedd Duw. O dan ddylanwad temtasiwn, trawsffurffr nwydau a medd—yliau halogedig yr enaid yn weithredoedd. O gael eu hir goledd, y mae y teimladau o genfigen a gelyniaeth yn casglu nerth, gan ddyfod yn aflywodraethus, ac gwaethaf arswyd gwaradwydd a chosb, ymddangosant ger bron y byd o dan y ffurf o lofruddiaeth. Ceir fel hyn fod rhyw bechodau "yn amlwg o'r blaen, yn rhagflaenu i farn." Cymerir sylw o weithredoedd fel hyn gan fren—inoedd y ddaear; a gwysir hwy hefyd i wyddfod Brenin tragwyddoldeb. Yr un pryd, er ofni a chredu nad ydyw y barnau a'r cosbau a oddiweddant bechodau rhyfygus yn y sefyllfa bresenol, namyn rhagredegwyr i bethau mwy ofnadwy mewn sefyllfa ddyfodol, prin iawn yr ydym yn gallu sylweddoli y ffaith y datguddir mewn byd arall ddrygioni y ddaear i olygon pawb! Yno gwelir pechod yn esgor ar farwolaeth. Yno canfyddir y tymhor o falchder yn terfynu mewn cywilydd tragwyddol, a'r olygfa o halogrwydd yn arwain i olygfa o drueni; clywir y dyfnder o bechod yn galw ar ddyfnder o ing; ni bydd y gyfrol o gabledd namyn rhagymadrodd i gyfrolau o anobaith; atebir rhegfeydd y ddaear gan dragwyddoldeb o riddfanau!

Gwyddom hefyd fod yn anhawdd i ddyn ymddwyn yn bechadurus heb ddylanwadu yn niweidiol ar ereill. Nid ydyw effeithiau ei ymddygiadau drygionus yn terfynu gydag ef ei hun. Llygrant awyr foesol ardal. Profant yn rhwystrau i ledaeniad crefydd mewn gwlad. Digalonant bererinion lluddedig ar elltydd geirwon rhinwedd. Y mae y sawl sydd, drwy ymadroddion neu weithredoedd, yn cymhell ieuenctyd i ymroddi i bleserau llygredig, yn gyfranog yn eu troseddau hwynt. Onid ydyw y rhai a guddiant faglau ar lwybrau bywyd, yn gyfrifol am y tramgwyddiadau a gymerant le? Dylid cosbi yr hwn a esyd hudoliaethau o flaen eneidiau anwadal, am eu dinystr hwynt. Delir dyn ymhob cylch yn atebol, i raddau mwy neu lai, am ganlyniadau ei weithredoedd, yn gystal ag am y gweithredoedd eu hunain. Os felly, mor fawr ydyw cyfrifoldeb, ac mor ddifrifol ydyw sefyllfa, miloedd o uchelwyr y deyrnas hon! Deuant drwy ymyfed, a lluaws o arferion diraddiol a halogedig ereill, yn athrawon i ieuenctyd eu hoes mewn drygioni. Pwy a ddichon fesur eu hannuwioldeb! Naturiol ydyw ofni y bydd effeithiau eu hesiamplau gwenwynig yn ddiderfyn mewn ëangder ac amrywiaeth. Ant ymlaen o oes i oes, gan amlhau a chasglu nerth; cânt adgyfodiad ymhob cenedlaeth; a Duw yn unig a ŵyr gymaint o alanastra gyflawnir gan ambell i bechadur dylanwadol! Bydd pob gweithred ddrygionus, a phob canlyniad pruddaidd a dardd oddiarni, yn y farn! Cosbir dysgawdwyr cyfrwys drygioni, a'u disgyblion ehud, yn ol eu haeddiant. "Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a'r Hen Ddihenydd a eisteddodd ei wisg oedd cyn wynned a'r eira, a gwallt ei ben fel gwlan pur; ei orseddfa yn fflam dân, a'i olwynion yn dân poeth. Afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau." Mor werthfawr yng ngwyneb hyn ydyw yr ymadroddion canlynol! "Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn. Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth."

2. Bydd holl ddirgelion drygionus y ddaear yn y farn:—Y mae dau ddosbarth o honynt. Un ydyw gweithredoedd dirgelaidd. Carai dyn, fel yr awgrymwyd eisoes, allu cuddio ei ddrygioni; ac y mae, i fesur mawr, yn llwyddo. Cyflawnir miloedd o bechodau nad oes neb ond y troseddwyr eu hunain yn gwybod am danynt: drwy yr effeithiau yn unig y daw y gweddill o ddynolryw yn hysbys o honynt. Cafwyd y llofruddiedig: yn y farn y cyhoeddir enw y llofrudd. Ac y mae llawer dyn yn gallu perswadio ei hun i feddwl, os na bydd dyn arall yn gweled, na bydd neb yn gweled, a bod y trosedd yn diflanu; ac y gall, mewn canlyniad, roddi ei fwriadau ysgeler mewn gweithrediad. Ar yr ystyriaeth hon y mae drwgweithredwyr yn gwneuthur cymaint o ddefnydd o dywyllwch; disgwyliant am y nos yn fwy nag y gwna y gwylwyr am y boreu,—am y rheswm eu bod yn tybied y gallant o dan ei hamddiffyniad hi gyflawni pob drygioni yn ddigosb. Afreidiol ydyw crybwyll wrthych chwi fod hyn yn gamsyniad. Rhaid i nos y ddaear drosglwyddo ei chyfrinion i ddydd y farn. Rhaid i dragwyddoldeb fedi y cynauaf a hauir gan amser. Os na bydd dyn yn gweled pechod, neu yn clywed cabledd dynolryw, dichon fod rhywun neu rywbeth yn gwneuthur y ddau. Hwyrach fod ein drygioni yn gadael argraff ar elfenau anian ac ar wrthrychau y greadigaeth: onid oes awgrymiadau felly yn y Bibl?" Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a'r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef." Y mae y gareg i lefain o'r mur, a'r trawst i'w hateb o'r gwaith coed, gan gondemnio rhyw bobl. Os na welir y gweithredoedd drygionus gan greaduriaid rhesymol, efallai y gwelir hwy gan yr haul; a phwy ŵyr na bydd yr haul wedi dysgu siarad erbyn dydd y farn! Os na chlyw dyn holl regfeydd ei gyd-ddynion, dichon fod y lleuad neu y ser yn clywed y cwbl; ac efallai y gelwir arnynt hwy ryw ddiwrnod i adrodd hanes dynolryw. Byddai ganddynt bethau aruthr ac ofnadwy i'w mynegi am danynt. Ond, gan nad beth am dybiau o'r fath, y mae genym un sicrwydd y mae Duw yn canfod ac yn clywed pawb a phobpeth. Ni thywylla tywyllwch rhagddo Ef; goleua y nos iddo Ef megys dydd; un ffunud yw goleuni a thywyllwch iddo Ef. Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn, ac efe a wêl ei holl gamrau ef. Nid oes dywyllwch na chysgod angeu, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio."

Ac yn gymaint a bod ei "lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion," Efe a rydd "i bob un yn ol ei ffyrdd, ac yn ol ffrwyth ei weithredoedd." Efe a ddwg y cyfan i farn. Q Yn mhellach, nid drwy eiriau na gweithredoedd, gwybyddus nac anwybyddus, yn unig y cyflawnir pechodau ar y ddaear. Y mae dynion yn pechu wrth ewyllysio a bwriadu. Meithrinir yn eu calonnau ddymuniadau a dychmygion na feiddiodd y tafod erioed eu ffurfio yn eiriau. Coleddant yn eu heneidiau ddrychiolaethau ac ysbrydion rhy anfad i gael eu siarad. Lluniwyd, o drugaredd, fwy o ddrygau nag a gyflawnwyd. Bwriadwyd miloedd o ysgelerderau na chaed un fraich ddigon grymus i'w cario allan. Tynwyd cynlluniau o droseddau na feddai y galon ddynol feiddgarwch digonol i'w cwblhau. Gwyddom, yr un pryd, er na thrawsffurfiwyd holl fedd—yliau ac amcanion drygionus dynion yn weithredoedd, na chollwyd hwy. Gwedi iddynt unwaith gael bod, y maent yn dragwyddol; ac ni byddant yn guddiedig byth. Dynoethir hwy rhyw ddiwrnod gerbron pawb. Bydd yr anwiredd a luniwyd, er na thraethwyd ef, yn amlwg; a bydd y lladrad a fwriadwyd, er na chwblhawyd ef, yn weledig. Gwelir gweithredoedd drygionus wedi eu cyn—llunio ac heb eu cyflawni, ac amcanion o greulondeb wedi eu cenedlu ac heb eu geni. Canfyddir cenfigen wedi ymegnïo hyd angeu i ddinystrio cymeriad anrhydeddus; a gelyniaeth wedi pwrcasu cyllell, ond heb nerth i drywanu. Yn y farn y cymer hyny le. Cyhoeddir y cyfan yno i glywedigaeth y gynulleidfa fwyaf a ymgasglodd at ei gilydd erioed. Mor arswydus ydyw y syniad, y bydd i bechodau dirgelaf ac amcanion dyfnaf calonnau dynion gael eu datguddio i olygon pawb! Pa le y mae y dyn a fedd ewynau ysbrydol digon cryfion i allu dal y fath beth! Onid ein doethineb benaf ni, yng ngwyneb hyn, fyddai gwylied ar ein heneidiau, gan eu dysgu i ysgogi mewn ufudd—dod i orchymynion yr Arglwydd? Yn gymaint ag y bydd holl ddaioni a holl ddrygioni y ddaear yn y farn, pa ryw fath ddynion a ddylem ni fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb!

Ystyrier geiriau y Bibl: "Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol." "Canys os pan oeddym yn elynion, y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y'n hachubir trwy ei fywyd ef." Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrandaw fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd." "Pa fodd y dïangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" "Ac mi a welais orsedd—faingc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddiwrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt. Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll ger bron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifenu yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ol eu gweithredoedd. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw yr ail farwol—aeth. A phwy bynag ni chafwyd wedi ei ysgrifenu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân."

AR OL HYN.

MOR gyfnewidiol—gymysgedig yw
Y blaned fach breswylia dynolryw!
Ymwibio drwyddi mewn cerbydau cudd
Mae haf a gauaf, gyda nos a dydd:
Hi ydyw cartref môr a mynydd ban;
Traidd gwres ac oerni drwyddi yn mhob man:
Cyflwyna grug a grawnwin iddi glod,
A chwery wyn a llewod is ei rhôd:
Mwynha ei bywyd heulwen dêr a gwlith,
A thry o dan dymhestloedd erch yn rhith.
O ganol myrddiwn o brydferthion per,
Canfyddwn erchyllderau dan y ser;
Mae mel a wermod, gwae a gwynfyd coeth,
Doethineb lariaidd a gwallgofrwydd poeth,
Gelyniaeth ddreng a chariad sanctaidd, byth
Yn gymydogion ar ein daear lyth.
Ei chreaduriaid—byw a mirain, sydd
Yn byw i farw mewn tywyllwch prudd:
Mor lawn o swynion bywyd yw ein byd!—
Marwolaeth yw y brenin arno i gyd:
Un fynwent ddofn yw Amser ar ei hyd.


Fel hyn y mae ein planed ddirywiedig:
Ai hyn fydd hanes ein dynoliaeth ysig
Preswyliwn dan gysgodion engur tryblith:
A gawn ni rywdro Eden lawn o fendith?
Ai suddo wnawn, yn ol rhai ofnau duon,
I newyn tostach, dychrynfeydd newyddion,
Tymhestloedd cryfach, diluw o drallodion,
Archollion dyfnach, siomiant diwaelodion,
Cywilydd poethach, hiraeth diobeithion,
Mewn nos ddisér, ddiforeu, dan ffurfafen
Yn gwlawio ingoedd marwol yn ddïorphen,—
Ai hyn a fydd ein tynged dan lywodraeth
Y Duw a waedodd er ein hiachawdwriaeth!

Dywedir fod mewn rhai ysbrydoedd mawrion,
Ar hyd yr oesoedd, ddisgwyliadau cryfion
Am well dyfodol—llawnach o wirionedd,
Cyforiog o fendithion a thangnefedd,


O blant a rhïaint gostyngedig, gwrol,
A byw o gariad a goleuni dwyfol.
Breuddwydiwn am wybrenau digymylau,
Am gwmni engyl, ac am wlad ddifeddau,—
Gwrandawn ar reddfau yn prophwydo weithiau
Am ddaear newydd, gyflawn o rinweddau,
Lle caiff dynoliaeth flin, ddeifiedig, orphwys
Drachefn dan wên ei Harglwydd mewn paradwys.

Ai rhith ai sylwedd ydyw fy mreuddwydion,
Ymdeimlaf fod, er ei phechodau hyfion,
Drwy adgyfodiad Duw trancedig, chwaon
Fy oes yn cludo balm i friwiau dynion.
Ymdraidd persawrion goreu tragwyddoldeb
Drwy gorsydd Amser. Onid yw marwoldeb
Tymhestlog, prudd, yn ymiachau yn raddol
I burdeb tyner a diwylliad grasol?
Pryderon poethion, mudion, ysol, bywyd,—
Ai nid ynt dan ddylanwad llariaidd ysbryd
Yr Iesu, er ein holl ryfeloedd ynfyd.
Yn ymliniaru i dangnefedd hyfryd?

Trwy wrthod un Gwaredwr eneiniedig,
Goludog o rinweddau bendigedig,
Cyrhaeddwn rywbryd fro heb drai a llanw
O wawl a chaddug, lle mae pawb yn marw—
Yn marw byth, gan fyw, er marw, bythol
Mewn ingoedd ar lidiawgrwydd annherfynol,—
Dan wybr ddihaul, mewn nos gyffrous, dragwyddol,
Lle collir pob gwahaniaeth cul, presennol,
Sy rhwng pechadur euog a diafol.

Trwy ffydd mewn. Un a greodd heuliau gloewon,
Ac wedi hynny lwyddodd drwy ei gariad,
I drengu rhwng dyhirod dros elynion,
Esgynwn o anialwch pechod irad,
I Ganaan dawel—gwlad o haf ysbrydol,
O burdeb perffaith, ac o freintiau nefol,
O fewn yr hon mae pawb uwchlaw marwolaeth,
A brad a chystudd, yn mwynhau bodolaeth
Ddiddiwedd, wedi myrddiwn o bryderon,
Mewn gwynfyd a gogoniant fel angylion.

Orphwysfa hyfryd! ynddi dynolryw,
Wrth yfed bywyd o ffynhonnau Duw,
A gollant eu gwendidau megis rhithion,
Anghofiant eu helbulon fel breuddwydion,

Barhant yn ieuainc, ac yn hardd a grymus,
Am dragwyddoldeb fel cerubiaid nwyfus.
Caersalem sanctaidd! Trwy ei pheraroglau
Ymrodiant gan fawrhau ei rhyfeddodau
Cynnyddol, am ganrifoedd megis dyddiau,—
Gan hedeg weithiau, fel eryrod gwynion,
Drwy froydd o wynfydau byth—newyddion,
A dychwel o bob goror i ryfeddu
Y Person ymgnawdolodd er eu prynu.


TYSTIOLAETHAU Y WASG.

Crynhoir yma ychydig, allan o lawer, o ddatganiadau gwahanol Gyfnodolion ar lyfrau blaenorol Awdwr y llyfr hwn.

"ORIAU YN NGWLAD HUD A LLEDRITH."

"Mae teitl llyfr Mr. Roberts mor ddieithr fel mai prin y gallai dyn ddyfalu beth i'w ddysgwyl oddiwrtho; ond erbyn ci agor, fe geir mai detholion o'i gyfansoddiadau barddonol a gynhwysa. Y maent yn dra gwerthfawr, a diameu y rhoddant i lawer foddhad dyrchafedig a phur. Ni fydd yn rhyfedd os teimla y darllenydd fod y pethau a gyflwynir i'w sylw fel 'lledrithion,' mor bell o fod yn gysgodion diflanedig fel y maent yn ei alluogi i gynnal cymundeb agosach â'r pethau mwyaf y gall dyn feddwl am danynt neu deimlo yn eu cylch. Ni fyddai ond ofer dyfynnu lle mae yr oll mor dda. Dernyn yn cynnwys llawer o feddwl coeth, cyrhaeddgar, ac awenyddol, ydyw Prydferthwch ac Arddunedd.' Tal ei ddarllen a'i astudio."—O'r Traethodydd am Ionawr, 1892.

"Nid ychydig yn ddiau yw nifer y rhai a groesawant gyfrol o farddoniaeth y bardd rhagorol Iolo Caernarfon. Fe ŵyr pob Cymro llengar erbyn hyn nad oes berygl cael cyfrol o farddoniaeth wael o'i law ef. Ac nis gall fod syniad Cymry llengar, beth bynag am eraill, yn myn'd yn is, na'u hawydd yn myn'd yn llai, am farddoniaeth dda, er gwaethaf prysurdeb masnachol a gwyddonol yr oes, ac er gwaethaf ei gorlawnder o rigymau salw a diflas. Bydd yn dda gan lawer gael cyfle i adnabod yr Awdwr mewn caniadau byrion, a cheir hyny yn y gyfrol dan sylw. Yn gyntaf, ceir pedwar caniad rhagorol i fynyddoedd Cymru, y rhai a ddang—osant yn amlwg fod yr awdwr yn hoff neillduol o hen fynyddoedd ei wlad. A pha ryfedd ei fod yn hoff o honynt? Yn y gân ar Ddychweliad yr Afradlon ceir llawer o rym a llawer o dynerwch meddwl a theimlad. Yn ei nodiad yn nechreu y llyfr, dywed Mr. Roberts nas gŵyr yn iawn paham yr aeth ati i'w gyhoeddi. Gall fod yn dawel y bydd mwy o duedd mewn pobl i ddiolch iddo am wneyd nag i ofyn y paham hwnw."—ALAVON, yn y Goleuad am Fai 28ain, 1891.

"Teitl tarawiadol. Nid oedd yr angenrheidrwydd lleiaf am i'r bardd gwir awenyddol o Borthmadog ymesgusodi gymaint wrth anerch y darllenydd. Yr un pryd, mae ambell i autobiographical touch yn bur flasus. Yr oedd yn bedair ar hugain oed cyn dechreu prydyddu. Mae'n fwy na thebyg mai mantais yn hytrach na rhwystr i awen Iolo ydoedd y diweddarwch hwn—dyma, o leiaf, fuasem ni yn gasglu wrth gymharu yr Oriau hyn â'r swp anferth o 'farddoniaeth sydd yn cael ei wthio ar y byd, ac yn gwneyd darllen llawer ohono, nid yn unig yn flinder i'r cnawd, eithr, hefyd, yn nesaf peth i anmhosibl. Ychwanegiad gwerthfawr at lenyddiaeth y Cymry."—Golygydd yr Herald Cymraeg.

"Llyfryn swllt yw hwn, o waith y bardd athrylithgar ac adnabyddus Iolo Caernarfon. Y mae yma dros ugain o ddarnau hir a byr rhai yn gryfion, rhai yn dlysion, a rhai y naill a'r llall. Ond y prif gyfansoddiad yn gystal o ran ei thestyn a'i nodweddion, yn gystal ag o ran ei hyd, yw 'Josua,' yr arwrgerdd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1878, am yr hon yr ennillodd y wobr o bum' gini ar hugain a bathodyn aur. Y mae yr awdwr bellach wedi ennill amryw wobrwyon pwysig yn rhai o'r prif Eisteddfodau. Y mae yn fardd, yn gystal ag yn bregethwr, o fri. Y mae yn fardd coronog. Ac ni wna y llyfryn hwn dynu dim i lawr, ond cadarnhau a chwanegu y bri a gyfiawn ennillodd. Y mae y cyfansoddiadau hyn yn amlwg o'r un waed a'r awen wir.' Gwiria y llyfr ci deitl i gario y darllenydd i Wlad Hud a Lledrith.' Dywedodd un o ddynion mwyaf Cymru a fu farw yn ddiweddar, mewn llythyr at gyfaill, ar ol bod yn gwrando yr awdwr yn pregethu yn rhywle, ei fod wedi bod yn treulio awr ddedwydd yn Ngwynfa drych—feddyliau' gyda Iolo Caernarfon. Tebyg fod yr awr hono wedi ei threulio yn nghymydogaeth y wlad lle y treulir yr oriau hyn. Tebyg fod y Wynfa' hono a'r wlad' hon yn ffinio ar eu gilydd. Neu gallai mai yr un wlad o fwyniant pur, draw, draw ymhell,' ydynt."—Y Parch. G. PARRY, D.D., yn y Drysorfa am Ionawr, 1892.

"YR YMSONAU."

"Dyma lyfr newydd, newydd yn mhob ystyr, yn cynwys meddyliau newyddion, byw, ac mewn arddull o'r eiddo ei hun. Mae yn un o'r llyfrau barddonol goreu a ddaeth allan o'r wasg Gymreig. Dywed yr awdwr yn ei ragymadrodd mai yn ddiweddar y dechreuodd y Cymry ganu yn y dull hwn—y bardd yn ymgomio rhyngddo âg ef ei hun, neu ei awen. Yn sicr nid oes neb wedi cyrhaedd meistrolaeth 1wyrach ar y dull hwn nag awdwr yr Ymsonau hyn. Ni cheir yma ddim yn ystrydebol, nac yn arwynebol, ond yr oll yn dwyn delw myfyrdod dwfn, gwybodaeth eang, a gwelediad clir o'r pell a'r cyfriniol. Bu amryw o'r myfyrdraethan a'r pryddestau a geir yma yn fuddugol yn rhai o'r prif Eisteddfodau. Y darn meithaf ydyw pryddest ar "Ardderchog lu'r Merthyri," gwobrwyedig yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, yn 1890. Mae hwn yn gyfansoddiad coeth, ac yn gyfanwaith godidog. . . . Cawsom fwynhad neillduol wrth ddarllen myfyrdraeth "Y disgybl fardd ar Gadair Idris," sylfaenedig ar yr hen draddodiad rhyfedd y byddai i bwy bynag a dreuliai noson ar Gadair Idris gael ei hun erbyn y boreu naill ai yn wallgof, yn farw, neu yn fardd. Mewn Ymsonau fel ag sydd yma, ceir yn naturiol lawer o'r prudd a'r dwys, ond gofala y bardd fod pelydrau haul gobaith a daioni dyfodol yn tywynu trwy bob cwmwl, ac yn gwasgaru pob caddug. Tybiwn y clywir trwy yr holl lyfr acen argyhoeddiad fod Duw yn y nefoedd, ac am hyny y bydd daioni ar yr orsedd, fel na raid i ddyn anobeithio. H. C. W."—Allan o'r Greal am Mehefin, 1895.

"Cydnebydd pawb na fu erioed gyfnod mor ffrwythlawn ar farddoniaeth Gymreig a'r un presennol. Y mae beirdd yn cyfodi ar hyd y wlad fel egin y gwanwyn, ac er mai egin hefyd ydynt y mwyafrif o honynt, eto proffwydant haf toreithiog yn y dyfodol. Nid eginyn ydyw awdwr yr Ymsonau' uchod,—ond brenhinbren sydd wedi para yn ei gryfder gerbron y wlad, fel bardd, am chwarter canrif ac uchod. Fel bardd meddylgar, fe faddeua y beirdd i ni am ddatgan ein barn yn groew mai efe ydyw y mwyaf a fedd Cymru heddyw.—a hyny o gryn dipyn. Un peth ydyw canu cân anghyson, ond yn llawn o Hlodau.' y lloer,' y 'don,' 'ewyn y lli,' aden arian,' &c., peth arall ydyw canu cân gyson (Sustained thought) yn nyfnder pwnc a thrwy galon gwirionedd, nes eich bod yn teimlo eich calon yn cael ei gwresogi trwy fod eich pen yn cael ei oleuo. Yr olaf ydyw Iolo Caernarfon. Cyfuna ef yr athronydd dwfn—dreiddiol, y duwinydd nef-eneiniedig, a'r awenydd per. A pha gyfuniad gwell? Gwneir y llyfr uchod i fyny o farddoniaeth ymsonol, yn y mesur rhydd, gwobrwyedig yn ein Prif Eisteddfodau, gan mwyaf. Ystyriwn y Fyfyrdraith ar y "Disgybl Fardd ar Gadair Idris" yn un o'r darnau goreu yn yr iaith Gymraeg. Dymunwn awgrymu i Bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol y priodoldeb o gynyg gwobr anrhydeddus am gyfieithiad i'r Saesneg o'r darn gorchestol hwn, modd y caffo y Sais ryw syniad am gyfoeth di-ail Barddoniaeth Cymru Wen. Felly hefyd am yr Arwrgerdd "Ardderchog Lu y Merthyri," a Phryddest "Yr Anturiaethwr." Y mae y rhai hyn eto, fel y dywed un beirniad am y gyntaf, yn fwnglawdd dihyspydd o aur-ronynau. . . Yr ydym yn dyfynu ar antur. Ond i ba beth yr ymhelaethwn? Dyma lyfr a fydd byw cyhyd ag y pery yr iaith Gymraeg. Ni ddylai yr un Cymro fod hebddo; ac o'i bwrcasu—ei astudio; oblegid nid barddoniaeth ysgafn, arwynebol, mohono, ond barddoniaeth y dyfnder. Ei bris yw swllt.—JOHN T. JOB." O'r Goleuad am Gorphenaf 10fed, 1895.

"Y mae y llyfr hwn wedi aros ar ein bwrdd am hir amser heb ei adolygu, oblegid ein bod yn disgwyl egwyl i wneyd rhywbeth tebyg i gyfiawnder âg ef. Gwneir y llyfr i fyny o bryddestau buddugol mewn gwahanol eisteddfodau, ac o nifer o ganeuon byrach. Teimlwn wrth ei ddarllen ein bod yn cael syniad mwy teilwng gyda golwg ar natur barddoniaeth. Mewn llawer o'r hyn a gyhoeddir yn Nghymru y dyddiau hyn dan yr enw barddoniaeth, ac yr honir ei fod yn gynyrch awen, yr hyn a geir yw dychymygion gwylltion ac annaturiol, ffugrau cymysglyd, a thywyllni iaith, nes peri i ddyn dybio fod barddoniaeth wedi rhoddi llythyr ysgar i synwyr. A'r pwnc mawr fynychaf yw y glec a'r odl, yr hyn sydd yn cyfrif am boblogrwydd eithriadol yr awdl ymysg y rhai a alwant eu hunain yn feirdd. Ond wrth ddarllen yr Ymsonau, cawn ein hunain yn nghanol meddyliau ardderchog; yr ydym yn teimlo mai y meddwl sydd yn farddonol, ac nid y wisg â pha un ci dilledir; yn wir, wrth fyned yn y blaen, yr ydym yn myned yn gwbl anghofus o'r wisg, oblegid fod arucheledd y syniadau yn llyncu ein bryd. Y mae y meddyliau sydd yn yr Ymsonau oll yn bur a dyrchafedig, ac y maent yn gwresogi'r galon yn gystal a chyffroi y dychymyg. Hawdd gweled fod yr awdwr yn ddyn o ddifrif; nid tegan chwareu iddo yw barddoni, ac nid ei bwynt yw goglais y ffansi; na, y mae amcan i'w gân. Un o'r amcanion hyny, fel y dywed ei bryddest i'r Disgybl-Fardd ar Gadair Idris, yw rhoddi llais i gyfrinion natur. Ond, fel pob gwir fardd, nid digon ganddo gyfieithu ymadroddion anian i iaith ddealledig gan y cyffredin, ac egluro eu hystyr a'u cynwys; teimla fod natur yn awgrymu mwy nag y mae yn ddweyd, ac awydda am fedr i ganfod ac esbonio ei hamnaid. Gydag amcan mor arddunol, nid rhyfedd ddarfod i'r bardd ganu mor ysbrydol a byw. Un o brif elfenau awen Iolo ydyw nerth. Y mae yn ehedeg yn uchel ac ymhell. Nid gwenynen ydyw yn hedfan o flodeuyn i flodeuyn, gan sugno melusder o bob un, ond eto yn cadw o fewn terfynau gardd, ac o hyd yn aros yn ngholwg y cwch; yn hytrach y mae yn gyffelyb i cryr, yn meddu esgyll cryfion, yn medru teithio i'r pellafoedd ac ymddyrchafu i'r uchelder; ac y mae yntau wedi derbyn rhoddion i ddynion. Ni nodweddir ei gyfansoddiadau yn gymaint gan dynerwch, er y ceir ynddynt gyffyrddiadau tyner weithiau; a braidd na ddywedem ei fod yn rhy amddifad o'r elfen chwareus, ond nis gwyddom am un bardd Cymreig, na byw na marw, i'w gystadlu ag ef mewn nerth meddwl. Nid yw mor llawn o asbri a Cheiriog; nid yw mor dyner ag Islwyn, ac nid yw ei adenydd yn wlybion gan with trwm. glyn cysgod angau. fel y bardd anfarwol hwnw; ond braidd na ddywedem ei fod yn rhagori ar y ddau mewn grym. Nis gellir darllen llinell heb deimlo ein bod yn dyfod i gyffyrddiad ag awen gref a galluog. Nodweddir ef hefyd gan gyfoeth meddwl. Nid oes arno brinder meddylddrychau; braidd nad ydyw yn afradus arnynt, gwthia gymaint o syniad i ambell linell fel nad gormod dweyd fod ei llawnder yn ei gwneyd yn glogyrnog. Čeir ganddo mewn ychydig dudalenau ddigon o gynyrch meddylio! i wneyd ffortun bardd cyffredin. Oblegid hyny ni cheir yn ei gerddi yr un arwydd o orchest; ni chyfleir i ni y syniad o gwbl ei fod ar ei oreu ac mewn perygl o ddihysbyddu ei hun, yn hytrach dwg allan o'i drysorau bethau newydd a hen mor ddidrafferth nes peri i ni deimlo fod golud diddiwedd yn ystôr ganddo. Ni chymerem lawer am ddweyd nad yw ar ei oreu yn y caniadau sydd ger ein bron, sarhad ar y cyhoedd yw gwaith unrhyw un yn cyflwyno iddo ddim ond ei oreuon, ond y mae gan Iolo yn amlwg o'r tucefn gyfoeth o'r cyffelyb oreuon. Gallwn ychwanegu fod eglurder yn nodwedd amlwg ynddo. Y mae rhai yn hoffi tywyllni a niwl; eu hyfrydwaith yw ymguddio mewn cwmwl fel nas gellir eu canfod. Dyma y bobl sydd yn addoli Robert Browning. Gwyddom ei fod yn drosedd dweyd gair yn ei erbyn ef. Ond nid oes gan neb hawl i syfrdanu dynion a syniadaeth aneglur. Pan fyddo yr aneglurder yn cyfodi oblegid eangder a dyfnder y gwirionedd sydd yn cael ei gyflwyno, pob peth yn dda; croesawn gyfansoddiadau felly â breichiau agored, ond pan fyddo y tywyllni yn cael ei greu o bwrpas er mwyn bod yn ymguddle, yr ydym ni, yn gyffelyb i'r rhan fwyaf o'r byd, am adael yr awdwr yno wrtho ei hun hyd nes y gwel yn dda amlygu ei hun. Modd bynag, nid oes dim tywyllwch o gwmpas barddoniaeth Iolo, y mae ei feddyliau yn fynych yn fawrion ac yn aruchel, ond y maent yn wastad yn loew. Braidd na ddywedem fod ei syniadau yn gyffelyb i'r ser, y rhai, er eu bod yn uchel ac ymhell, sydd yn berffaith glir oblegid disgleirder eu llewyrch."—Y Parch J. MORGAN JONES, yn y Lladmerydd am Ebrill, 1896.


Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel yr Erthygl gyntaf.
  2. Yn ddiamddiffyn.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.