Neidio i'r cynnwys

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Bully, Taffy, a Paddy

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I

Pynciau i Blant

I

BULLY, TAFFY, A PADDY

FONEDDIGION,

John Bully, Ywain Taffi (alias John Jones), a Daniel Paddy ydyw enwau llawn y tri phenteulu yr wyf ar fedr sôn amdanynt. Bygylu teuluoedd eraill ydyw gwaith pennaf y penteulu blaenaf; ac oblegid hynny y gelwir ef yn Bully; hynny ydyw, Bygylwr. Ond gwelodd Mr. Bully yn lled fuan mai gwaith costus oedd ceisio darostwng Taffi o dan ei draed trwy fygyliaeth; ac am hynny, penderfynodd gyrraedd ei amcan trwy ffordd ratach. Wedi deall ohono fod Ywain yn bur ddantfelys, dechreuodd ei borthi â chyflaeth; ac oherwydd hynny, fe'i gelwir yn Taffi hyd y dydd hwn. Bernir mai er mwyn cael eu gwala o gyflaeth y mae cynifer o blant ieuangaf Taffi yn cywain i fryn Everton. Beth bynnag am hynny, y mae yn sicr gennyf y pery Taffi, druan! yn gwbl ddiddig cyhyd ag y caffo dipyn o gyflaeth, pa beth bynnag arall a fyddo yn ôl.

Gŵyr pawb mai â chloron, neu aeron y ddaear, y bydd Mr. Bully yn bwydo ei was, Paddy; a chan fod cloron yn bethau pur anhreuliadwy, y mae'n rhaid i Paddy wrth Holman's Pad yn dra mynych ar ei gnawd. O achos hynny, medd dysgedigion, y gelwir ef yn Paddy.

Preswylia Mr. Bully mewn palas mawr a gwych, a'i enw Anglestay. Ar godiad tir, y tu hwnt i wal orllewinol parc Anglestay, fe saif preswylfod etifeddol Ywain Taffi. Nid yw'r tŷ, mwy na'r tir, yn helaeth; ac o'r braidd y gellir dweud ei fod yn hardd. Ond y mae'n hawddgar iawn yr olwg, serch hynny; pe amgen, ni ladratesid ef, mi a debygaf. Ni ellir ei weled o bell, gan faint y derw sydd o'i amgylch; cuddir ei furiau ymron i gyd gan eiddew, ac y mae'r rhannau moel ohonynt yn llwyd gan henaint.

Ni raid i ddyn ond cerdded rhagddo encyd tua machlud haul, ac yna rhwyfo tros lain o ddwfr, na chaiff ei hun yn Erin; sef, hen etifeddiaeth eang Daniel Paddy. Cymerwyd ei dreftadaeth yntau oddi arno gan yr Ahab gan Bully. Y mae ei dŷ yn awr yn furddyn, a'i dir fel diffaethwch. Ni chaiff ddiwyllio ei dir ar ei delerau ei hun, ac ni fynn ei ddiwyllio ar delerau ei ysbeilwyr. Dyn gwlatgar ac annibynnol ei ysbryd yw Paddy, a dweud y gwir amdano. Er codi a machlud o'r haul laweroedd o weithiau er pan ysbeiliwyd ef, ni pheidiodd eto â thystio mai ef yw union berchen Erin; naddo, er cael ei alw yn gynhyrfwr, yn wrthryfelwr, ac yn fradwr am wneud hynny. Nid un a ddychrynir gan eiriau Disraelaidd ydyw ef. Ni chred ef fod dinoethi lladrad yn waeth peth na lladrata. Ni chred chwaith fod rhediad amser yn troi eiddo lladrad yn eiddo cyfreithlon. Prin y gellir disgwyl, gan hynny, i greadur gwirion fel ef deimlo grym un o ddeng air deddf llywodraethwyr y byd hwn; sef yw hwnnw, "Nac unioner cam er mwyn cyfiawnder yn unig." Eddyf Mr. Bully ei hun ambell Sabath, am ryw achos neu'i gilydd, ac i ryw ddiben neu'i gilydd, ddarfod iddo, ers talm, wneuthur cam â Phaddy. Ond (ebe Paddy) os ydyw yn cyffesu, paham nad edifarha; os ydyw yn edifarhau, paham nad uniona'r cam a wnaeth? A ydyw ei Feibl yn cyfiawnhau ei ymddygiad tuag ataf? Nac ydyw, Paddy, nac ydyw; ond y mae Mr. Bully weithiau yn gweled yn dda esbonio ei Feibl yn ôl ei ewyllys ei hun.

Ond y mae'n ddiamau y byddai'n well gan y darllenydd glywed y tri phenteulu hyn yn ymddiddan â'i gilydd, na'm clywed i yn ymddiddan â hwynt. Er mwyn peri deall yr ymddiddan, dylwn yn gyntaf oll, pa fodd bynnag, fynegi ddarfod i Paddy, ryw ddiwrnod, yn ôl ei arfer, ddweud a gwneud pethau terfysglyd iawn. Go ddiog ydyw Paddy, rhaid addef; ond yr oedd yn hawdd iddo, a'i wely yn galed, a'i gylla yn wag, ddeffroi yn fore y diwrnod hwnnw; a chyn codi ohono, aeth i ystyried gymaint esmwythach oedd gwely moch Mr. Bully na'i wely ef; gymaint gwell oedd bwyd helgwn Mr. Bully na'i fwyd ef; a chymaint mwy cysurus oedd ystabl helfeirch Mr. Bully na'r twlc clai y llechai ef ynddo.

Dymunasai Paddy fod yn gi, pe gwybuasai fod modd perchenogi cynffon heb gynffonna. Dymunasai fod yn geffyl, oni buasai fod arno ofn i Mr. Bully farchogaeth arno; ie, dymunasai fod yn fochyn, oni buasai iddo glywed bod y great beefeater weithiau yn bwyta bacon. Ond penderfynu aros yn ddyn, a mynnu hawliau dyn, a wnaeth Paddy. Cerddodd yn eon at balas Mr. Bully, a chan sefyll o flaen ffenestr agored y ddawnsfa, ef a lefodd, gan ddywedyd:—

"Hai, flaidd gwlanog, rhowch heibio lamsach, a gwrandewch ar fy nghŵyn; canys mynnaf ei thraethu, cyfarthed eich cynffongwn, a rhythed eich clepgwn gymaint ag a fynnont. Twt, twt! ni waeth ich' na heb fyned i ddangos gwyn eich llygaid, ac i droi eu canhwyllau hwynt tua'r nef. Gŵyr y nef o'r gorau eich bod chwi yn euog o bethau gwaeth o lawer na galw rheibiwr yn flaidd, a rhagrithiwr yn flaidd gwlanog. Nid wyf mwyach yn erfyn arnoch fy llywodraethu yn decach; ond yr wyf am ofyn ichwi eich llywodraethu eich hunan, a gadael i minnau fy llywodraethu fy hunan, fel y mynnwyf fy hun. Nid wyf mwyach am erfyn arnoch leihau'r rhent gorfawr sydd ar yr hen gors ddiffaeth a osodasoch im; oblegid nid wyf yn barnu ei bod yn iawn i mi dalu dim rhent i chwi am ddernyn o'm hen etifeddiaeth, gan mai myfi a'i piau i gyd oll. Nid wyf chwaith am erfyn arnoch leihau'r lliaws trethi eraill—gofyn am eu dileu yr wyf i; canys paham, yn enw cyfiawnder, y dylwn i fy ngwasgu fy hun, yn y radd leiaf, er mwyn porthi eich moethau a'ch mympwyon annuwiol chwi? Dyma fy arwyddeiriau i:—Let everyone mind his own business. Caffed pob dyn ei eiddo ei hun. Erin i Paddy, a Gwalia i Taffy."

MR. BULLY: Oh! 'eavens, what language! Sedition, sedition, unmitigable sedition! Treason, the most barefaced treason! Do I dream? or must it be a fact that this himpudent clod-'opper has dared to hinsult the first gentleman in the huniverse. The hidea! Dal ar hyn, Paddy; oni buasai ei bod yn well gennyf lywodraethu ar rywun nag ar neb, ac oni buasai fod arnaf dy eisiau i dalu trethi im, buaswn yn dy gicio i fyd arall heb ddim chwaneg o siarad; buaswn, myn Jingo.

TAFFI (gan edrych yn gall): Atolwg, fy arglwydd, gorffwyswch tra ceryddwyf i ef. Er ei fod yn gefnder im, ac yn debyg im mewn llawer o bethau, eto, ni bu nemor o gydnabyddiaeth rhyngof ag ef er pan gyhoeddasoch ei fod yn greadur peryglus. Ni byddaf i yn rhyfygu barnu neb, na dim, drosof fy hun, ond byddaf yn aros yn amyneddus hyd oni wypwyf pa beth fydd eich barn ddi-feth a diduedd chwi. Y mae arnaf ddiolch mawr ich, f'arglwydd, am y wybodaeth gywir sydd gennyf am bobl a phethau. Cyn ich, yn rasol, fy rhyddhau oddi wrth fy etifeddiaeth, a'm gwneuthur yn un o'ch gweision, meddyliwn yn fy ngwiriondeb fy mod i, ar y cyfan, cystal â rhyw ddyn arall, a bod Paddy yn gystal dyn â chwithau. Ond fe'm hargyhoeddwyd gan eich honiadau dibetrus a di-baid mai chwychwi ydyw'r dyn gorau a mwyaf yn yr holl fyd. Ni byddaf byth yn blino ar ddweud wrth fy mhlant gymaint rhagorach ydych chwi na mi, a byddaf yn achub pob cyfleustra i dyngu mai myfi ydyw'r mwyaf loyal o'ch holl weision. (Wrth Paddy.) Gyda syndod a dig y'th glywais yn cablu urddas, ac yn diystyru llywodraeth. Gyda syndod, oherwydd beiddio ohonot amau awdurdod Mr. Bully i wneuthur â thi yn ôl ei ewyllys ei hun; gyda dig, am dy fod wrth geisio bwrw ymaith yr iau yn taflu math o gondemniad arnaf i am ei dwyn yn dawel. Pa les it wingo yn erbyn yr anocheladwy? Cred ddarfod creu'r byd i wasanaethu Mr. Bully, a darfod creu Mr. Bully i lywodraethu'r byd. Tafl y syniad am ymlywodraeth i blith y pethau Utopaidd. Paham y chwenychi dy lywodraethu dy hunan, a'n meistr caredig yn dweud wrthyt yr ymgymer ef â'r drafferth i'th lywodraethu? Bydd foddlon; canys fy mhrofiad i ydyw hyn: bod gwasanaethu yn haws gwaith nag arglwyddiaethu. Peth arall, Paddy, nid wyt ti yn proffesu yr un grefydd, nac yn ufuddhau i'r un pab â Mr. Bully. Yr wyf fy hun yn barnu y dylai dyn gael rhyddid crefyddol—os bydd ei grefydd yn lled debyg i'r un a broffesaf i; ond yr wyf, er hynny, yn barnu na fyddai yn ddiogel gadael i Babydd fod yn feistr arno ei hun. Ac yr wyf yn sicr fod y farn hon yn uniawn; oblegid o enau Mr. Bully y cefais hi.

MR. BULLY: Da was, Taffi. Lleferaist fel y dylai gwas lefaru; ac er mai garw o beth ydyw ei bod yn rhaid i feistr ganmol ei was am wneud ei ddylet— swydd, eto, gan fy mod yn foneddwr par excellence, mi a ystyriaf rywbryd a ellir rhoddi rhywbeth it fel gwobr am dy ffyddlondeb; ond pa un bynnag a gaf egwyl i ystyried hynny ai peidio, parhâ di i ganu Byw fyddo Bully" yr un fath ag arfer. "Virtue is its own reward." Amdanat ti, Paddy, ni wn pa beth a wnaf â thi. Yr wyt yn anwareiddiadwy. Mi a'th driniais yn arw ac yn deg, ond aneffeithiol fu pob triniaeth. Mi a'th faeddais, ac a'th garcherais, ac a oddefais it hanner newynu; lleddais dy hoffaf feibion, a llathruddais dy ferched; ond nid ymostyngaist ddim. Yna, gan arfer mwynder, mi a ddanfonais geidwaid fy helwriaeth i'th droi'n Brotestant, ond ni fynnit; rhoddais hobaid o gloron it i'w plannu pan nad oedd gennyt arian i brynu rhai; rhoddais un o'm hen glosau it i guddio dy heglau; mi a'th ddysgais (ar dy draul dy hun yn wir) i regu yn yr iaith Bylaeg; ac a geisiais dy ddysgu i iawn seinio y llythyren R, ond nid oes gennyt ddiolch im am nebun o'r pethau hyn. Yr wyf yn coelio, bellach, na'th foddlonir byth, oddieithr cael ohonot yn ôl diriogaeth Erin; ond gwybydd na chei mohoni byth —na chei, cyn sicred â'm bod yn Gristion. Rhoes y Nefoedd di yn fy llaw, ac yr wyf yn penderfynu dal gafael ynot—ydwyf upon my honour. Yr oeddit yn sôn am dy hawliau etifeddol; ond oni wyddost fod gennyf i hawliau mwy cysegredig na'r rhai hynny, sef hawliau goresgyniad? Er gwaethaf dy anniolchgarwch a'th haerllugrwydd, yr wyf yn tystiolaethu yn awr eto, y filfed waith, fy mod yn ewyllysio gwneuthur pob cyfiawnder â thi, ond it addef fy awdurdod. Nid oes gennyt achos i gwyno hyd yn oed yn awr. Y mae rhai o'th feibion yn llenwi swyddau anrhydeddus yn fy nhŷ ac ar fy ystâd. Y mae un ohonynt yn ben cogydd, un arall yn ben cerbydwr, dau ohonynt yn geidwaid nid anenwog ar fy helwriaeth, ac nid oes dim ond dy gyndynrwydd ynfyd yn dy atal dithau rhag ymgymhwyso i fod yn ben goruchwyliwr ar fy holl feddiannau. What would'st thou have? My stars, pe rhoddid i Taffi hanner y ffafrau a roddir i ti, âi'n wallgof gan lawenydd!

TAFFI: O! fy meistr annwyl, pa beth a ddywedaf, pa fodd y traethaf fy niolch am eich cyfeiriad caredig at eich poor Taffi? Atolwg, gwnewch â mi fel y gweloch yn orau, canys gwyddoch pa rai ydyw fy anghenion yn well nag y gwn fy hun. Ni wrthodaf ddyrchafiad, ond os bernwch y gwnâi ddyrchafiad niwed im, yr wyf yn eithaf boddlon i barhau yn wastrodyn am byth. Na ato Bob Acres i mi frygawthan ynghylch fy "hawliau" priod, a dirwasgu ffafrau allan ohonot yn ôl dull Paddy.

PADDY: Och fi, Taffi, y mae'n chwith gennyf dy weled mor wasaidd. Mor wahanol wyt yn awr i'r hyn oeddit cyn llarpio o Mr. Bully dy fab, Llywelyn! Oni buasai fy mod yn gwan—obeithio y bydd yn dda gennyt cyn hir gael cydymdrech â mi o blaid iawnder yn erbyn cryfder, buaswn yn poeri ar dy wyneb o wir ddirmyg. Ond annoeth fyddai im wneuthur â thi yn ôl dy haeddiant a minnau'n awyddus i'th gael yn gyfaill ac yn gydweithiwr. Pwy a ŵyr na chei di a'th deulu olau newydd, a blas newydd ar y llinellau hynny na faidd ond meibion gwŷr eu canu:—

Gwell ymladd hyd at waed na bod yn gaethion,
Gwell marw'n ddewr na byw'n wehilion."

BULLY: Beth! ai amcanu yr wyt i beri i'm gwesyn ffyddlon gan Taffi 'laru ar ei wasanaeth, a chydweiddi â thi am ymlywodraeth—y cynhyrfwr digywilydd?

PADDY: Ie, canys hunangar iawn fyddwn pe gwarafunwn i Taffi gael yr un iawnderau â minnau, gan ei fod yn yr un cyflwr.

BULLY: Ond y mae Taffi foddlon ar ei gyflwr.

PADDY: Ydyw, ysywaeth, a hynny am yr un rheswm yn union ag y mae gweision Belial yn foddlon ar eu cyflwr hwy. Ond yr wyf i'n dal nad oes gan ddyn ddim hawl i fod yn foddlon yng ngwasanaeth Mr. Belial, na Mr. Bully, 'chwaith.

BULLY: Ped adferid i chwi eich rhyddid a'ch tiriogaeth, nid oes un ohonoch a fedrai gadw ei dŷ, na thrin ei dir. Meistr gwael a wneir o was.

PADDY: Eich bai chwi ydyw ein bod yn weision. Amdanaf i, nid wyf yn disgwyl, a minnau wedi bod cyhyd yn was, fedru gwneud trefn ar bethau mewn un dydd. Ond nid ydyw ddim i chwi pa un ai buan ai araf y dysg y gwas waith meistr. Hyn a wn y byddai'n well gan fy nheulu, o'r ddau, gael eu llywodraethu'n wael gennyf i na chael eu llywodraethu'n dda gan estron. Heblaw hynny, y mae'r gair ar led nad ydych yn llywodraethu'ch teulu'ch hun yn rhy dda, ond a ydyw hynny, debygwch chwi, yn rhoi hawl gyfreithlon i Mr. Russikoff i gymryd y llywodraeth oddi arnoch, yn unig am ei fod yn ddigon hunanol i dybied y medr lywodraethu'n well na chwi?

BULLY: Yn boeth y bo Mr. Russikoff! Y mae fy nyrnau yn ysu wrth glywed ei enw. Paham na buasai'r llwfryn yn derbyn fy her?

PADDY: Nid ydyw'r sylw yna'n ateb i'm gofyniad i.

BULLY: A wyddost ti beth, Paddy, y mae'n well gennyf di, er mai troednoeth wyt, na'r hen Russikoff yna. Mi rof it bâr o esgidiau, os medri ddychmygu rhyw gelwydd newydd amdano.

PADDY: Os ydyw'n dda gennych fi, cedwch eich esgidiau, a gadewch i mi fod yn feistr arnaf fy hun ac ar fy eiddo.

BULLY: Y mae gennyf ormod o gariad atat i'th ollwng yn rhydd, oes upon my honour.

PADDY: Gwarchod fi rhag y fath gariad. Rhy hunangar ydych, ac nid rhy ddyngar. Yr ydych yn proffesu bod yn garwr rhyddid, ond yn wirioneddol yr ydych y mwyaf gormesol o feibion dynion. Gwn ddarfod i chwi ryddhau rhai gweision oddi tan lywodraeth eu caethfeistri, ond y mae gennyf achos i feddwl wneuthur ohonoch hynny yn hytrach o genfigen at y meistri nag o gariad at y gweision. Yr ydych yn pleidio rhyddid ar bob ystâd oddieithr eich ystâd eich hun. Os bydd gwas rhyw feistr arall yn deisyfu bod yn ŵr rhydd, yr ydych yn galw ei ddeisyfiadau yn "ddyheadau naturiol a chyfiawn," ond gorflysiau ynfyd ac afiachus" y gelwch fy neisyfiadau i. Os cyfyd gwas gorthrymedig yn erbyn gorthrymwr pell, chwi a'i gelwch yn noble patriot, ond "bradwr atgas" y'm gelwir i am arfer hyd yn oed fy nhafod yn eich erbyn chwi. Os daw gwrthryfelwr o bell i'ch tiriogaeth, caiff ei noddi a'i foethi gennych; ond pa fodd, atolwg, y triniasoch fy meibion gwrthryfelgar i—Tone, Orr, Sheares, Russell, Fitzgerald, Emmet. O! Emmet, fy mab, fy mab! pa fodd y'th anghofiaf, Emmet? O'r holl feibion a fegais ac a gollais ni bu nebun mor gu gennyf â thydi. Ni bu erioed wrthryfelwr mwy aflwyddiannus na thydi, ond erys cylch o oleuni disgleiriach ar dy aflwyddiant di nag ar lwyddiant eraill. Ni bu i'r gorthrymedig erioed amddiffynnydd mwy dihunangar, mwy hawddgar, a mwy huawdl. Ond dy garcharu a'th grogi a wnaeth yr Herod hwn, a thorri dy ben ar ôl hynny. Fe'th fagwyd yn rhy dyner i orwedd mewn daeardy; yr oedd dy waed yn rhy bur i'w leipio gan y cŵn. Cywilydd oedd anurddo corff mor hardd; gresyn oedd torri ymaith fywyd mor ieuanc. Merthyr, ac nid bradwr, y'th elwir ymhobman oddieithr yn Anglestay. Am hynny, cwsg mewn heddwch, Emmet, fy mab.

BULLY: Os wyt yn methu â deall paham yr wyf yn llethu gwrthryfelgarwch yn fy nhiriogaeth fy hun, ac yn ei feithrin yn nhiriogaethau rhai eraill, myfyria ar y wireb hon:—" Circumstances alter cases." Exit.

TAFFY: Oio! Rhaid i mi geisio cofio'r rheswm yna. Dichon y bydd o mor gyfleus ac angenrheidiol i mi ag i Mr. Bully. Gwna hwnna'r tro yn gaead ar geg pob gwrthwynebwr. Ni fedraf gysoni fy holl ymddygiadau â'i gilydd, ond medraf gyfiawnhau pob un ohonynt yn wyneb y gwirionedd hwn—"Circumstances alter . . . Circum—. . ." Exit Taffi.

ALLAN O'R Faner, EBRILL 21, 1880.

Nodiadau

[golygu]