Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I/Detholion
← O Elba i Waterloo | Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I |
→ |
XIII
DETHOLION
Dywedir mai'r cyffyr gorau yr unig gyffyr, yn wir—i weithio ymaith gamsyniadau'r claf, oni bydd yng ngraddau olaf ei glefyd, yw gwawd. Cariad at y gwir sydd yn fy nghymell i ollwng y gyfrinach hon allan, ac nid un bwriad i ddrygu masnach Mr. Hollaway, nac i ddifrïo ei belennau.
*
Cenedl uniaith yw'r Saeson yn anad un genedl yn Ewrop. Ni fynnant ac ni fedrant ddysgu un iaith ddieithr. Chwenychant bopeth sydd eiddo'r cenhedloedd eraill, ond eu rhagoriaethau moesol a meddyliol. Addefaf eu bod hwythau'n chwenychu gwybodaeth ymarferol; sef y wybodaeth honno sy'n dwyn aur yn ei llaw ddeau a beef yn ei llaw aswy. Yn awr, ai yn ei hanfoes a'i hanwybodaeth y dylem ddynwared cenedl arall? A ddylem ni ymgyrraedd at fod yn bobl uniaith am fod y Saeson felly? Y mae dau rinwedd yn perthyn i'r Saeson. Y maent yn lân, ac y maent ar amserau yn hael. Yn y pethau hyn mi a'ch cynghorwn i'w hefelychu. . .
. . . Wrth ddweud y Saeson, nid wyf yn dweud bod y Cymry yn well na hwynt, nac yn gystal a hwynt; canys pa fodd y gall dynwaredwyr fod yn well na'r rhai a ddynwaredant?.
ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 27, 1876.
Ond ni byddai raid i'r Telegraph arswydo cymaint rhag dylanwad yr eisteddfodau "cenedlaethol." Meddwl yr wyf i eu bod, yn y wedd sydd arnynt yn awr, yn gwneuthur mwy i fagu Saesnigaeth nag i goleddu'r iaith Gymraeg. Felly, yr achos paham yr wyf i'n anghymeradwyo'r eisteddfodau ydyw eu bod yn llawer rhy lân oddi wrth y "bai" arbennig a rydd y Telegraph yn eu herbyn. Gwnaethpwyd eisteddfod yn anfuddiol i'r Cymry pan aethpwyd i'w chyfaddasu i'r Saeson.
ALLAN O'R Faner, EBRILL 23, 1879.
Y mae un peth yr wyf innau'n dechrau 'laru arno, sef dolefain digllon y Saeson uwch ben y naw neu ddeg o arglwyddi tirol ac o oruchwylwyr anghyfiawn a saethwyd y flwyddyn hon yn Iwerddon, a hwythau, bobl waedlyd ac ysbeilgar, heb orffen llawenhau oblegid y miloedd o ddynion amgenach a saethwyd yn Asia ac yn Affrig. Addefodd Mr. Forster ei hun fod llai o ladd ac o ladrata yn Iwerddon y flwyddyn hon nag a fu ers blynyddoedd lawer; a phrofodd Mr. Parnell ac eraill mai yn y parthau hynny lle y mae dylanwad y Cynghrair Tirol fwyaf y mae lleiaf o drais. Y mae'n hysbys fod mwy o lofruddio ac o ladrata mewn un wythnos yn Llundain nag sydd mewn mis yn yr holl Iwerddon, ond gan fod llofruddion Llundain yn ddigon call i arbed lords ac agents, ac i fwrw eu llid yn gyfangwbl ar eu cydradd—megis eu mamau, eu brodyr, a'u cariadau—ni chedwir nemor o dwrf ynghylch eu gweithredoedd.
*
Y mae rhai, gan faint eu hawydd i fod yn fwy Cristnogol na Christ, yn pregethu y dylem ni'r Cymry garu ein hysbeilwyr yn fwy na phe buasent yn genedl onest, a hynny heb ofyn ganddynt nac edifeirwch nac iawn. Yr ydym wedi bod cyhyd mewn caethiwed, ac wedi ymddygymod cystal â fo, fel na fynn y rhan fwyaf ohonom gredu eu bod mewn caethiwed. Y mae gwifrau ein cawell mor anweledig o feinion, a'r Saeson annwyl yn ein porthi mor ofalus â briwsion a dwfr, fel yr ydym yn tosturio wrth yr adar rhyddion, druain, sy'n chwilio'n ofer am damaid ar hyd y meysydd, ac am glwyd glyd yn y perthi di-ddail. Byddai mor anodd i argyhoeddi corff y Cymry fod y Sais yn feistr tost, anghyfiawn, ag a fyddai i argyhoeddi'r annuwiol mai meistr felly yw'r diafol.
*
Y mae'n amheus gennyf a faidd y Twrc ei hun honni ei fod mor fedrus â'r Sais ar y gwaith o orthrymu. Dial disymwth a dychrynllyd, y mae'n wir, ydyw dial y Twrc. Daw i lawr fel cawod o law taranau—yn fras iawn, ond anfynych y dêl; a phan ddelo, nid hir y pery. Yn ddefni parhaus y disgyn camwri'r Sais; a chamwri pa un o'r ddau ydyw'r mwyaf anoddefadwy, tybed? Y mae'r Cymry, oblegid hir gynefindod, wedi myned i edrych ar y defni hyn fel peth mor angenrheidiol a bendithiol â gwlith y nefoedd. . . Aethom mor wasaidd fel yr ydym yn cymryd plaid gorthrymwyr estronol yn erbyn perthnasau sydd tan yr un ddamnedigaeth â ninnau. O! ein tadau dewrion, pa fodd y'ch wynebwn ym myd yr ysbrydoedd?
*
Y mae rhagor rhwng Protestaniaid a Phrotestaniaid, ac y mae rhagor hefyd rhwng Pabyddion a Phabyddion. . . O'r braidd na ddywedwn fod Pabyddion Iwerddon yn llai cul nag Ymneilltuwyr Cymru; canys edrycher gynifer o Brotestaniaid a etholant i'w cynrychioli yn y senedd. Os bydd ymgeisydd seneddol yn wladgarwr, nid ymofynnant hwy, ac ni faliant chwaith, pa un ai Pabydd ai Protestaniad fyddo. Dywedant wrtho yn hytrach:
". . . Irish-born man,
If you're to Ireland true,
We heed not blood, nor creed, nor clan,
We've hands and hearts for you.
ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 22, 1880.
Pe baem yn fwy tyner wrth adar newynog, ac yn fwy llym wrth ormeswyr cyfoethog, byddem yn llawer tebycach i'r dyn Crist Iesu nag yr ydym.
*
Y mae'n rhyfedd fod yr holl adar hyn yn aros yma tros y flwyddyn, a ninnau mor ddiofal amdanynt. Paham, lwyd-y-gwrych, a chennyt tithau ddwy aden, na theithit i ganlyn yr haf o amgylch y ddaear? Os yw'n well gennyt aros yn dy unfan, paham nad ymsefydli mewn rhyw ddinas Fahometanaidd, lle y bydd dy fwyd a'th fywyd yn sicr? Fe allai fod yn rhy anodd gennyt ganu'n iach am byth i Gymru; os felly, ymwêl â hi yn nechrau haf, pan fyddo'i hwyneb yn las fel yr wybr, a phan ymddangoso'r rhos a'r gwyddfid a'r briallu megis cynifer o sêr wedi eu hau ar hyd-ddo. O! y mae Cymru yn dlos yn yr haf; ond gwyddost, aderyn, mai anodd yw byw ynddi ar hyd y flwyddyn. Sut y gellir disgwyl it ddotio ar yr eira gwyn, ac yntau'n claddu dy ymborth allan o'th olwg? Dos ymaith, gan hynny, ym mis Medi, a dychwel ym mis Mai Tyred yma megis aderyn dieithr o wlad bell, oblegid rhai o bell a berchir yng Nghymru, ac nid rhai o agos. Pe deuit yma yng nghymdeithas y cogau a'r gwenoliaid, ac adar pendefigaidd felly, fe gedwid digon o dwrf yn dy gylch. Rhaid it addef mai aderyn eithaf diaddurn a diawen ydwyt (na ddigia wrthyf am ddweud y caswir), ond er hynny, pe deuit yma yn ymwelydd blynyddol, caut groeso mawr. Gofynnid yn bryderus ym mis Mai, "A welsoch chwi lwyd-y-gwrych?" neu ynteu dywedid, Cyn sicred â'm bod yn sefyll ar y fan yma, dyna lais llwyr-y-gwrych "; a phan fyddit wedi cychwyn ar dy hynt i fro gynhesach, dywedai llawer un, "Wel! wel! dyna lwyd-y-gwrych wedi mynd."
ALLAN O'R Faner, IONAWR 19, 1881.
Y mae'n ymddangos bod Mr. Darlington wedi arfer meddwl bod y Cymry mor ddiolchgar i'r Saeson am eu darostwng, ac am eu cadw o hyd mewn caethiwed, fel y mae ei ysbryd Seisnig yn ymgynhyrfu ynddo wrth weled bod eto "glymblaid fechan" heb allu ymgynefino â'r iau. Pe buasai Lloegr ers chwe chan mlynedd yn ddarostyngedig i Ffrainc, y mae Mr. Darlington yn rhoi ar ddeall y buasai Ffrancwr yn llefaru'n gall odiaeth pe buasai fo'n ymliw â chniw (clique) o Saeson anfoddog fel hyn: "Yn enw rheswm, pa beth sydd arnoch ei eisiau? Y mae gennych fwy na deg ar hugain o aelodau yn cynrychioli'ch tipyn gwlad yn y Tŷ Isaf ym Mharis, ac y mae'n rhydd iddynt draethu eu meddwl am bob rhyw beth sydd ar y ddaear, yn y môr, ac yn yr awyr, ond iddynt ei draethu yn iaith y Weriniaeth. Y mae amryw o gŵn Lloegr yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi: canys y mae un Sais yn helwas i'r Blaid Chwith, ac o'i flaen ef fe fu un arall yn segur- swyddwr ynddi; ac yr oeddym yn talu iddo ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn allan o'r trethi, yn unig er mwyn eich boddhau chwi. Ar bwys yr unrhyw drethi, yr ydym yn gallu bod yn ddigon caredig i sefydlu ysgolion Ffrengig ym mhob rhan o'ch gwlad, er mwyn dysgu'ch plant i lefaru, synio, ac i deimlo fel y Ffrancod. Y mae amryw o'ch cydwladwyr chwi eich hunain wedi ymuno â'n byddin; rhai yn eu meddwdod, rhai er mwyn cael arian i feddwi'n weddol gyson, a rhai er mwyn swyno merchetos â'u gwisg filwrol. Ac fe gollodd rhai o'r llanciau Seisnig hyn eu gwerthfawr waed wrth gydymladd â'r Ffrancod dros y Weriniaeth yn Siam, yn Toncin, ac ym Madagascar; fel, pa gamwri bynnag a wnaethpwyd i helaethu terfynau'r Weriniaeth, y mae'r Saeson oll mor gyfrifol amdano â'r Ffrancod."
***
Mewn gwirionedd, y mae hanesyddiaeth a daearyddiaeth, a phopeth, yn cyd-ddywedyd ei bod yn bryd inni bellach ymuno yn un bobl fel y bydd llygod yn ymgolli mewn cathod. Yr ydym yn barod iawn i gyfeillachu â chwi—ar ein telerau ein hunain.
Y mae rhyw ochr rywiog ac ysmala, oes, i ymhongarwch y Sais; ac am hynny, mi allaf gydymdeimlo nid ychydig â'r pysgod-longwr Seisnig hwnnw a lefodd wrth weled yr un a'r unrhyw wynt yn gyrru ei long ef yn ei hôl, a llong arall o Holand yn ei blaen: "Ah! God cares far more for them furriners than he does for his own countrymen."
***
Hwy [y Saeson] a allant hela brodorion Deheubarth Affrig i ogofeydd ac yna eu chwythu yn llarpiau â phylor ac â dynamid, ac yn union wedyn hwy a sychant eu genau ac a geryddant y Twrc am nad yw o'n difetha'r Armeniaid yn y dulliau diweddaraf a mwyaf gwyddonol. Hwy a gondemniiant Ffrainc a'r Eidal a Rwsia yn dduwiolaidd iawn am ysbeilio tiroedd pobl eraill yma a thraw fel pe na baent yn cofio mai trwy ladd a lladrata yr aethant hwy eu hunain yn genedl gref. Doe, hwy a fynnent fyned i ryfel yn erbyn Rwsia am fod y deyrnas honno â'i llygad ar ryw borthladd yn eithaf y Dwyrain; heddiw hwy a fynnant ymgynghreirio â Rwsia er mwyn rhannu Asia rhyngddynt.
***
Hwy a gymhellant opiwm a gwirodydd am bris uchel ar baganiaid er mwyn cael arian i ddanfon cenhadon a Beiblau iddynt yn weddol rad. Y maent yn gwareiddio ac yn Cristioneiddio paganiaid trwy ladd a llewygu'r rhan fwyaf ohonynt, a thrwy ddysgu pechodau newyddion i'r gweddill. Os oes gan genedl o'r fath yma ymdeimlad cryf o'r digrif, yna ni wn i ddim pa beth sy ddigrif.
***
DETHOLION O SYNNEDIGAETHAU MR. DARLINGTON: GWRTHATEB." ALLAN O'R Geninen, EBRILL, 1896.
Fe fyddai'r hyn sydd yn wladgarwch yn Scandinafia yn garn-fradwriaeth yng Nghymru, ac y mae'r pethau sy ddamnedig yn Nhir y Twrc yn bethau canmoladwy yn Nhir y Matabeliaid.
O "DDEUDDEG CŴYN MR. DARLINGTON." ALLAN O'R Geninen, HYDREF, 1896.
Y mae'n wir bod y môr, wrth ddygyfor, yn bwrw allan fwy na digon o dom a llaid; ond pe peidiai â dygyfor, ef a drôi yn ferllyn, ac a fagai hen gasnach gwyrdd sebonllyd, a phenbyliaid ysgoewan, a llygod duon llechwrus, a llyffaint defosiynol yr olwg. Yn wir, Syr, y mae ysbwrial y môr yn dda i rywbeth; ond pa beth, tybed, a ellir ei wneud ag epil dwfr merllyd? . . Buasai Iwerddon yn awr mor ddi-nod â Chymru, druan, onibai bod rhyw angel o wladgarwr yn disgyn ar amserau i gynhyrfu'r dwfr. Tystia Thierry, yr hanesydd Ffrangeg, fod Tywysogaeth Cymru, yn amser Llywelyn ap Iorwerth, yn fwy gwâr a menwydus—hynny ydyw, yn fwy intellectual, na phob cenedl arall yn Ewrop; ac yr wyf yn tybied y gallasai'r wlad fach honno, fel gwlad Canaan gynt, fod yn oleuni i'r cenhedloedd o hynny hyd yn awr, pe codasai ynddi chwaneg nag un Ywain Glyn Dŵr i bwtian y tân.
***
Ni ddichon dyn fod yn ffyddlon i'w genedl ei hun heb fod yn anffyddlon i'r genedl y byddo'n ddarostyngedig iddi. Bu pob Gideon yn wrthryfelwr; bu pob Ystephan yn heretic—yng ngolwg rhywrai. Ond tybed ei bod yn weddus i chwi a fu'n carcharu gwladgarwyr byw, daenu blodau ar feddau gwladgarwyr meirwon?
ALLAN O'R Faner, MAWRTH 15, 1882.
Pleidiaf bob cynigiad a gynigier i leihau cyflogau'r teulu brenhinol a'u lluosog weision di—les; i leihau traul y fyddin a'r llynges, y rhai a gedwir er mwyn gormes a gwag ogoniant; i leihau'r trethoedd a'r tollau anghymedrol sy'n llethu'r werin, ac i leihau'r holl segur—swyddau a grewyd ar gyfer gwenyn gormes.
ALLAN O'R Faner, MAI 3, 1882.
FONEDDIGION,
Gan fod Cristionogion, gan mwyaf, yn amser rhyfel yn llefaru nid yn unig fel ynfydion, ond hefyd fel anffyddwyr, bydd yn dda gan y gweddill sy'n hoffi gwirionedd a chyfiawnder gael tystiolaeth bod yr anffyddwyr yn llefaru'n bur Gristionogol. Byddai'n dda i ninnau fod yn fwy anffyddol mewn rhyw ystyr, canys pe baem felly, ni byddai mor hawdd gennym draflyncu'r celwyddau amlwg ac anghyson a ddywedir am y Mahdi a'i ddilynwyr gan ddyhirod sy'n ymelwa ar hygoeledd, balchder, a bwystfileiddrwydd diarhebol y werin Seisnig. Metha gan rai ddeall i ba beth y mae anffyddwyr dda, ond pe bai'r byd hebddynt hwy pwy a geid i gyhoeddi egwyddorion teyrnas nefoedd pan ryngo bodd i weinyddiaeth Plaid Heddwch, Cynildeb a Diwygiad yrru'r gorchymyn hwn i'r pencadlys: "Cyfoded yn awr y llanciau a chwaraeant ger ein bronnau ni"? Nid dysgawdwyr yr Ymneilltuwyr, bid sicr, canys nid i gondemnio rhyfeloedd anghyfiawn y galwyd hwy, ond i gondemnio rhyfeloedd Torïaid, megis Beaconsfield a Salisbury. Gwell gan lawer ohonynt hwy logellu eu tipyn Cristnogaeth na rhoi achos i neb eu cyhuddo o fod yn anffyddlon (yn disloyal, chwedl ein Presbyteriaid) i'r blaid wleidyddol a enillodd iddynt yr hawl ogoneddus i weddïo'n waelach na chlerigwyr wrth fedd corff marw.
***
[Ar ôl codi rhai paragraffau o'r cylchgronau Saesneg Truth a'r Cambridge Press, lle y mae anffyddwyr amlwg yn traethu eu barn yn ddi- floesgni ar y rhyfel yn yr Aifft a'r Swdân, diwedda Emrys ei lythyr â'r paragraff isod. —D.M.L.]
Ond yr wyf i'n gobeithio ymhellach y gallant [sef y Swdaniaid] nid yn unig ei chadw [sef Cartŵm], ond hefyd y cadwant allan ohoni y giwed Ewropeaidd sydd ymron i gyd yn ennill eu bywoliaeth trwy gadw diotai ac ufferndai, tan nawdd y galluoedd "Cristionogol "; ac felly yn llygru pobl foesolach a deallusach na hwy eu hunain. (Gyda Ilaw, paham na ddylai'r Cartwmiaid hefyd gael local option?) Ac os ydyw'r Proffwyd Arabaidd yn awyddus i lesáu cenhedloedd wedi eu melltithio â "gwareiddiad," hynny ydyw, rhai wedi eu dysgu i bechu mewn modd scientific a sanctimonious, yr wyf yn disgwyl y bydd iddo ddanfon i Gymru a Lloegr ychydig ugeiniau o genhadon i'n dysgu i fyw yn syml, yn sobr, ac yn onest. Dangosed i'r Saeson nad yw dal yn gaeth bersonau ddim cynddrwg yn y diwedd â dal yn gaeth genhedloedd; a dangosed i'r cadlywyddion a'r milwyr Gwyddelig beth mor chwithig yw eu gweled hwy, yn anad pawb, yn ymladd rhyfeloedd y Saeson—y byddai'n llai o ddrwg iddynt, o'r ddau, ymddifyrru mewn siglo Tŵr Llundain â dynamit nag ymogoneddu mewn anrheithio'r Swdân. Gwneled ef a'i ddilynwyr a wnelont, yr wyf i'n dymuno llwydd ar eu harfau hwy, ac ar arfau pawb y gorfyddo arnynt amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn gormeswyr, fel yr argyhoedder yr holl bobloedd, yn Gristionogion, yn Fohamediaid, ac yn baganiaid, a hynny cyn dydd y farn, fod Duw yn bod, a'i fod yn Dduw cyfiawn, am ei fod "yn gwneuthur cyfiawnder yn y ddaear."
Yr eiddoch, &c.,
E
ALLAN O'R Faner, CHWEFROR 18, 1885.
Yn wir, y mae rhai o ddisgyblion mwyaf eithafol Rousseau yn haeru mai trafferth ofer yw dysgu unrhyw iaith; a gwaeth nag ofer, am fod iaith yn rhoi cyfleustra i ddynion i wag-siarad ac ymddadlau, i enllibio ac i absennu, i draethu celwydd a gwen— iaith, ac i dyngu a rhegi. Yr un ffunud fe all ambell Gymro, er mwyn cyfiawnhau ei anghysondeb ei hun, neu ynteu er mwyn difyrru pobl eraill, ddwyn rhyw ddadleuon yn erbyn arfer moddion i gadw iaith ei wlad yn fyw; er hynny, nid ydyw'r cyfryw ddadleuon yn mennu dim ar y Cymry sy'n ymwrando â greddfau a chydwybod y genedl. Cydwybod y genedl, meddaf; canys y mae'r undod a berthyn i genedl yn ei gwneud hithau, fel y person unigol, yn berchen cydwybod; ac y mae'r gydwybod genhedlig hon yn sisial wrth genedl y Cymry, fel wrth bob cenedl arall, nad oes ganddi ddim mwy o hawl i ddibrisio ei bywyd ei hun nag sydd gan berson i ddibrisio ei fywyd yntau.
***
Swm yr hyn a ddywedwyd ydyw bod y genedl, fel y teulu, yn gysegredig; a'i bod, fel y teulu, wedi ei hordeinio gan Dduw i ddysgu dyn. Fel y mae'r teulu wedi ei ordeinio i ddysgu dyn i garu ychydig yn lle un, sef efe ei hun, felly y mae'r genedl wedi ei hordeinio i ddysgu dyn i garu llawer yn lle ychydig; nad ydyw'r teulu a'r genedl amgen na dwy ris i'w gynorthwyo i esgyn oddi wrth hunangarwch at ddyngarwch, sef cariad cyffredinol; mail priod iaith ydyw prif nod cenedl, a'r etifeddiaeth werthfawrocaf a ymddiriedwyd iddi gan y tadau; ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, yn enwedig yr eiddo cenhedlig hwn, ei fod yn waeth na'r di-ffydd. Pe gwyddwn fod y dywediad yn rhy gryf gan rywun, mi allwn rywbryd eto ei gadarnhau â thystiolaethau rhai o brif ddiwinyddion ac athronyddion ac addysgwyr y byd. Chwi a wyddoch fod y fath beth yn bod â Moesoldeb Cymdeithasol; ac ymhob llyfr o fri sy'n ymdrin â hynny fe ddywedir bod dysgu'n dda ein hiaith ein hunain yn ddyletswydd foesol—ïe, yn ddyletswydd grefyddol, nad ydyw hi'n ail i un ddyletswydd arall.
ALLAN O'R Faner, CHWEFROR 27, 1895.